Graduation making the most out of uni top tips booklet cymraeg

Page 1

Manteisio i'r eithaf ar y Brifysgol/Graddio Cymorth ac Awgrymiadau


Manteisio i'r eithaf ar y Brifysgol 1. Ydych chi erioed wedi ystyried blwyddyn dramor neu flwyddyn mewn diwydiant fel rhan o'ch gradd? Yn ogystal â bod yn ffordd wych o wella'ch sgiliau a'ch profiad, mae'n edrych yn dda ar CV hefyd - a gallwch dderbyn cyllid gan gyllid myfyrwyr o hyd! 2. Mae profiad o amgylchedd gweithio yn ofyniad allweddol ar gyfer cyflogwyr - felly beth am gofrestru am Wythnos o Waith (WoW) Abertawe neu Rwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN) - dau gynllun sy'n cael eu cynnig gan y Swyddfa Gyrfaoedd. Efallai y cewch gyfle i ymuno â ni ym Arian@BywydCampws hyd yn oed! 3. Ydych chi wedi ystyried swydd ran-amser? Gall ychydig o oriau'r wythnos roi hwb go iawn i'ch cyllideb, mae'n edrych yn dda ar CV a gall fod yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd hefyd. 4. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd rhan mewn clybiau neu gymdeithasau. Mae'n wir bod rhywbeth at ddant pawb, a bydd cyflogwyr am weld pa weithgareddau allgyrsiol rydych chi wedi ymwneud â nhw. 5. Lluniwch gyllideb a chadwch ati - mae'n swnio'n syml, ond mae'n llawer mwy anodd ei wneud. Os ydych chi'n llwyddo i wneud hyn, bydd gennych lawer mwy o arian i'w wario ar y pethau rydych yn eu mwynhau.


Awgrymiadau da i Fyfyrwyr sy'n Graddio 1. Ydych chi'n meddwl am astudio cwrs ôl-raddedig? Gwnewch eich ymchwil i ffynonellau cyllid. Mae cyllid ar gael, ond eich cyfrifoldeb chi yw dod o hyd iddo a gwneud cais amdano. Sicrhau cyllid ar gyfer astudio ôl-raddedig yw'ch prosiect ymchwil cyntaf i'w gwblhau - cyn i chi ddechrau hyd yn oed! 2. Oes cyfweliad gennych? Buddsoddwch mewn dillad sy'n gweddu i lefel ffurfioldeb y sector rydych yn gobeithio gweithio ynddo, ond sydd hefyd yn gwneud i chi deimlo'n dda. 3. "Dilynwch eich llwybr eich hun. Gwnewch e bob dydd. Gwnewch e heb ymddiheuro. Peidiwch â gwrando ar leisiau beirniadol. Rydych chi'n gwybod beth maen nhw'n mynd i'w ddweud, mae'n debyg. Peidiwch â rhoi sylw i ofn methu. Mae'n llawer mwy gwerthfawr na llwyddiant. Mae'ch dyfodol yn eich dwylo chi, ewch amdani a mwynhewch. Ac ni waeth beth mae pobl yn ei ddweud, peidiwch byth â rhoi'r gorau i ddilyn eich llwybr eich hun." - Asher Roth 4. Yn chwilio am swydd? Byddwch yn rhagweithiol ymunwch ag asiantaethau recriwtio a lanlwythwch eich CV i wefannau swyddi. Cofiwch - efallai na


fyddwch yn cael swydd eich breuddwydion ar unwaith, felly cadwch eich disgwyliadau'n realistig! 5. Rhwydweithio, rhwydweithio, rhwydweithio! Mae'r

hen gyngor - nid yr hyn rydych yn ei wybod sy'n bwysig ond y bobl rydych yn eu hadnabod - yn wir heddiw. Byddwch yn rhagweithiol ac ewch ati i ddod i adnabod y bobl iawn. Mae safleoedd cyfryngau cymdeithasol hefyd yn ffordd wych o gysylltu â phobl ddylanwadol.


Dolenni defnyddiol Blwyddyn mewn Diwydiant/dramor www.swansea.ac.uk/international/opportunities/ www.swansea.ac.uk/erasmus/ Profiad Gwaith a Chymorth https://myuni.swan.ac.uk/employability/ https://myuni.swan.ac.uk/myuni-careers-and-employability/ Cyllidebu http://masofinancialcapabilitymodules.weebly.com www.budgetsimple.com www.savvywoman.co.uk www.moneysavingexpert.com www.moneyadviceservice.org.uk Chwilio am Swyddi ac Asiantaethau Recriwtio www.grb.uk.com/ www.jobsite.co.uk/ www.reed.co.uk www.monster.co.uk/ www.jobserve.com/ www.careerbuilder.co.uk www.freshminds.co.uk/ www.inspiringinterns.com/ www.hollandandtisdall.com/ Cyllid i Ôl-raddedigion www.swansea.ac.uk/postgraduate/scholarships/ www.prospects.ac.uk/postgraduate-study/funding-postgraduate-study www.gov.uk/postgraduate-loan Rhwydweithio www.linkedin.com

Cysylltu Arian@BywydCampws Money.CampusLife@swansea.ac.uk 01792 602979 www.swansea.ac.uk/money-advice/


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.