Student parent and maternity benefits cymraeg

Page 1

Budd-daliadau Rhieni a Mamolaeth i Fyfyrwyr Budd-daliadau Mamolaeth Mae'r rheolau ynghylch budd-daliadau'n eang ac yn gymhleth. Yn y daflen hon, rydym wedi ceisio symleiddio'r wybodaeth berthnasol a chanolbwyntio ar y sefyllfaoedd mwyaf cyffredin. Os teimlwch fod eich sefyllfa'n fwy cymhleth, neu nad yw'r wybodaeth yn y daflen hon yn berthnasol i chi, cysylltwch ag Arian@BywydCampws i siarad ag ymgynghorydd. “Wythnos Gymhwyso" - At ddibenion y daflen hon, ac o ran Budd-daliadau Mamolaeth yn gyffredinol, mae'r term 'wythnos gymhwyso' yn cyfeirio at y 15 fed wythnos cyn wythnos eich dyddiad rhoi geni disgwyliedig. h.y. 25ain wythnos y beichiogrwydd. Tâl Mamolaeth Statudol (SMP) - www.gov.uk/maternity-pay-leave/overview I'ch helpu i gymryd amser o'r gwaith cyn ac ar ôl genedigaeth eich baban, mae'n bosib y byddwch yn gallu derbyn Tâl Mamolaeth Statudol neu Dâl Tadolaeth Statudol. Taliad wythnosol gan eich cyflogwr yw hwn. Mae'r swm a delir i chi yn dibynnu ar eich enillion blaenorol neu ar y lleiafswm statudol, p'un bynnag yw'r isaf. I gymhwyso am Dâl Mamolaeth Statudol mae'n rhaid:  Eich bod wedi'ch cyflogi gan yr un cyflogwr yn barhaol am o leiaf 26 wythnos cyn eich wythnos gymhwyso.  Eich bod wedi ennill, ar gyfartaledd, dros £112 yr wythnos yn y ddeufis hyd at y diwrnod talu olaf cyn diwedd eich wythnos gymhwyso.  I chi ddarparu ffurflen MATB1 i'ch cyflogwr, yn dystiolaeth eich bod yn feichiog, erbyn diwedd eich wythnos gymhwyso. Tâl Tadolaeth Statudol (SPP) - www.gov.uk/employers-paternity-pay-leave I fod yn gymwys i dderbyn Tâl Tadolaeth Statudol, rhaid i chi fodloni'r meini prawf uchod, a rhaid i'r canlynol fod yn berthnasol hefyd:  Rhaid mai chi yw tad biolegol neu dad mabwysiadu'r plentyn neu'ch bod yn ŵr, yn bartner, neu'n bartner sifil i'r fam (neu'r sawl sy'n mabwysiadu'r plentyn), neu mae'n rhaid eich bod yn gyfrifol neu'n disgwyl bod yn gyfrifol am fagu'r plentyn.  Rhaid eich bod yn parhau i weithio i'r cyflogwr hwnnw yn ddi-dor hyd at ddyddiad geni'r plentyn neu'r dyddiad mae'n cael ei osod i'w fabwysiadu.  Mae'n bosib hefyd y byddwch yn gallu gwneud cais am Absenoldeb a Thâl Tadolaeth Ychwanegol a fydd yn caniatáu i chi drosglwyddo rhywfaint o Dâl Mamolaeth Statudol i Dâl Tadolaeth Statudol. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Direct Gov (gweler y ddolen uchod). Lwfans Mamolaeth - www.gov.uk/maternity-allowance/overview Os ydych yn feichiog, neu os oes gennych faban newydd, ond nid ydych yn gymwys i dderbyn Tâl Mamolaeth Statudol gan eich cyflogwr, mae'n bosibl y byddwch yn gallu hawlio Lwfans Mamolaeth trwy'r Ganolfan Byd Gwaith. Mae'n bosibl y byddwch yn gymwys dan yr amgylchiadau canlynol:  Rydych wedi bod yn gweithio a/neu yn hunangyflogedig am o leiaf 26 wythnos yn ystod eich 'cyfnod prawf' (66 wythnos hyd at, ac yn cynnwys, yr wythnos cyn yr wythnos rydych yn disgwyl i'r baban gael ei eni). Mae rhannau o wythnos yn cyfrif fel wythnosau llawn.


 Roeddech yn ennill £30 yr wythnos ar gyfartaledd yn ystod unrhyw gyfnod o 13 wythnos yn ystod eich cyfnod prawf. Cyfrifiannell Hawl Mamolaeth Os ydych yn ansicr ynghylch eich hawliau, gallwch ddefnyddio'r gyfrifiannell hawl mamolaeth i gael syniad gwell o'r hyn y gallwch ei dderbyn https://www.gov.uk/pay-leave-for-parents Incwm Myfyrwyr yn ystod Mamolaeth Mae gan fyfyrwyr y GIG sy'n gohirio eu hastudiaethau oherwydd mamolaeth hawl i dderbyn taliadau bwrsariaeth am 12 mis ychwanegol. Caiff myfyrwyr israddedig sy'n derbyn Benthyciadau a Grantiau i Fyfyrwyr geisio am gyllid dewisol gan eu darparwr cyllid hefyd i helpu i dalu costau byw yn ystod cyfnod o ohirio astudiaethau o ganlyniad i absenoldeb mamolaeth. Siaradwch ag ymgynghorydd Arian@BywydCampws neu darllenwch ein llyfryn "Ceisio am Gyllid Dewisol ar sail Rhesymau Personol Cymhellol" am ragor o wybodaeth ynghylch sut i wneud hyn. Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn - www.gov.uk/sure-start-maternity-grant/overview Mae Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn yn daliad untro o £300 i'ch helpu i brynu pethau ar gyfer eich plentyn cyntaf (neu os ydych yn disgwyl gefeilliaid neu dripledi etc). Y bwriad yw helpu teuluoedd ar incwm isel, a rhaid eich bod yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, Credyd Treth Gwaith gydag elfen anabledd yn rhan o'r dyfarniad, neu'n derbyn uchafswm yr elfen deulu o Gredydau Treth Plant. Mae hyn yn golygu na fydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gymwys tan ar ôl yr enedigaeth a than ar ôl iddynt dderbyn eu hysbysiad Credyd Treth Plant. Cewch wneud cais trwy lenwi ffurflen SF100 gan y Ganolfan Byd Gwaith, ac mae'n RHAID i chi gyflwyno'r cais erbyn 3 mis ar ôl yr enedigaeth fan bellaf. Talebau Cychwyn Iach - www.healthystart.nhs.uk/ Mae'r cynllun Cychwyn Iach yn darparu ychwanegion fitamin yn rhad ac am ddim a/neu dalebau wythnosol y gallwch eu defnyddio tuag at gostau llaeth a llysiau a ffrwythau plaen, boed yn ffres neu wedi'u rhewi, neu laeth fformiwla i fabanod. Efallai y byddwch yn gymwys am gymorth Cychwyn Iach os ydych yn feichiog ers o leiaf deg wythnos, â phlentyn dan 4 oed, ac yn derbyn Credyd Treth Plant, gydag incwm teuluol o £15,860 y flwyddyn neu'n llai. Mae hyn yn golygu y caiff myfyrwyr sy'n disgwyl eu plentyn cyntaf, neu sydd heb blentyn o dan 4 oed, geisio am y grant hwn ar ôl i'r baban gael ei eni. Cyllid Myfyrwyr i Rieni Ar ôl i'ch plentyn gael ei eni, ac ar ôl i chi ailgydio yn eich astudiaethau, cewch wneud cais am grantiau atodol. Mae'r holl grantiau atodol yn destun prawf modd, felly nid oes sicrwydd y byddwch yn eu derbyn oherwydd bod hyn yn dibynnu ar incwm eich aelwyd. Cewch gyflwyno cais i'ch darparwr cyllid am Lwfans Dysgu i Rieni, Lwfans Dibynyddion (y GIG yn unig), a Grant Gofal Plant. Ni thelir y Grant Gofal Plant ond ar gyfer gofalwyr plant cofrestredig, ac uchafswm y grant yw 85% o'ch costau. Nid oes rhaid ad-dalu Grantiau Atodol, ac fe'u telir yn ychwanegol at unrhyw fenthyciadau myfyrwyr fydd gennych. Myfyrwyr sy'n Rhieni a Budd-daliadau Ni chaiff y rhan fwyaf o fyfyrwyr amser llawn hawlio budd-daliadau sy'n seiliedig ar incwm, ond efallai y cewch hawlio os ydych yn rhiant sengl, os oes gennych bartner sydd hefyd yn fyfyriwr (ac mae un neu'r ddau ohonoch yn gyfrifol am blentyn) neu os oes gennych anabledd. Os oes gennych bartner nad yw'n fyfyriwr ac mae'n gymwys am unrhyw fudd-daliadau sy'n seiliedig ar incwm, gall eich partner hawlio ar ran y ddau ohonoch. Budd-daliadau Plant - www.gov.uk/child-benefit/overview


Pan fydd eich plentyn wedi geni, dylech wneud cais am Fudd-daliadau Plant. Os ydych chi neu'ch partner yn ennill dros £50,000 mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu tâl treth. Hyd yn oed os yw'ch incwm yn rhy uchel, dylech wneud cais serch hynny i sicrhau eich bod yn derbyn eich Cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Dylech wneud cais o fewn 3 mis i'r enedigaeth i sicrhau eich bod yn derbyn popeth mae gennych hawl iddo. Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith - www.gov.uk/child-tax-credit Mae'n bosibl y bydd gennych hawl i dderbyn Credyd Treth Plant os oes gennych chi (neu gan eich partner) o leiaf un plentyn sy'n dibynnu arnoch, os yw'ch incwm yn is na lefel benodol, ac os ydych yn bodloni'r meini prawf preswyl a bennwyd gan y ddeddfwriaeth. Mae'n bosibl y byddwch yn gymwys i dderbyn Credyd Treth Gwaith os ydych chi (neu'ch partner) yn gyfrifol am blentyn, a'ch bod yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos, bod eich incwm o dan lefel benodol, a'ch bod yn bodloni'r meini prawf preswylio a bennwyd gan y ddeddfwriaeth. Budd-dal Tai - www.gov.uk/housing-benefit/overview Os ydych yn byw mewn llety wedi'i rentu, ar hyn o bryd, mae'n bosibl y cewch wneud cais am Fudd-dal Tai. Os ydych yn rhiant sengl neu'n bâr ac mae'r ddau ohonoch yn fyfyrwyr amser llawn, fe'ch cynghorir i wneud cais am Fudd-dal Tai. Mae'n destun prawf modd, felly nid oes sicrwydd y byddwch yn ei dderbyn, ond mae canran uchel o fyfyrwyr yn derbyn rhywfaint o gymorth. Cymhorthdal Incwm a Lwfans Ceisio Gwaith Mae myfyrwyr sy'n rhieni sengl â phlentyn dan 5 oed yn gallu gwneud cais am Gymhorthdal Incwm yn ystod gwyliau'r haf. Mae'n bosib y bydd rhieni sengl, neu un rhiant sydd mewn perthynas â myfyriwr arall ac mae o leiaf un plentyn yn dibynnu arnynt, yn gallu hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yn ystod gwyliau'r haf os ydynt ar gael i weithio. Siaradwch â thîm Arian@BywydCampws am ragor o wybodaeth. Treth y Cyngor - www.gov.uk/council-tax Nid oes rhaid i fyfyrwyr amser llawn dalu Treth y Cyngor. Os ydych yn rhiant sengl sy'n byw gyda'ch plentyn neu'ch plant, byddwch yn derbyn gostyngiad 100%. Fodd bynnag, os ydych yn byw mewn aelwyd sy'n cynnwys un oedolyn sy'n atebol am dalu treth y cyngor, byddwch yn derbyn gostyngiad o 25% yn unig ar eich treth y cyngor. Myfyrwyr Rhan-amser Gall myfyrwyr rhan-amser wneud cais am fudd-daliadau sy'n seiliedig ar incwm os ydynt yn ennill incwm isel ac yn bodloni amodau penodol. Cronfa Cyfle Prifysgol Abertawe https://myuni.swan.ac.uk/money-campuslife/apply,for,practical,financial,assistance/ Mae Tîm Arian@BywydCampws yn gweinyddu Cronfa Cyfle Prifysgol Abertawe ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Mae'r gronfa ddewisol hon yn destun prawf modd, a'r bwriad yw helpu myfyrwyr sy'n wynebu anawsterau ariannol neu gostau annisgwyl trwy gynnig grant nad oes rhaid ei ad-dalu. Mae ar gael i holl fyfyrwyr y DU a'r UE (ond nid i fyfyrwyr rhyngwladol) sydd wedi derbyn yr holl gyllid statudol mae ganddynt hawl iddo. Nid yw bod yn gymwys i wneud cais yn gwarantu dyfarniad. Cyngor call arall i rieni newydd Pecyn Bounty - Gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn eich pecyn gan yr ysbyty neu gan eich bydwraig. Ymunwch â Chlybiau Babanod - Mae gan lawer o siopau ac archfarchnadoedd glybiau babanod sy'n darparu pethau am ddim a thalebau disgownt - ymunwch â chynifer ohonynt â phosib. Cymharwch brisiau'r pethau hanfodol - Mae archfarchnadoedd yn gwerthu nwyddau ar eu labeli eu hunain sy'n aml yn rhatach na'r brandiau mawr. "Y cewynnau gorau yn ein profiad ni oedd rhai Aldi; roedden nhw'n chwarter pris cewynnau brandiau mawr hefyd" Rob o Arian@Bywyd Campws


Mae babis yn gostus, ond does dim i chi brynu popeth newydd sbon - edrychwch ar eBay a Gumtree, neu gofynnwch i ffrindiau pan fyddwch yn chwilio am eitemau mwy sylweddol megis pram neu grud. Dillad Babi - Maen nhw'n tyfu allan ohonynt mor gyflym, fydd dim angen i chi wario ffortiwn; edrychwch ar y rheiliau sêl neu chwiliwch yn yr archfarchnadoedd am ddillad deniadol i fabanod heb dalu crocbris. Eisiau 57 o awgrymiadau ychwanegol am arbed arian gyda babis a phlant bach? Ewch i www.moneysavingexpert.com/family/baby-checklist Am ragor o wybodaeth, ymunwch ag Arian@BywydCampws ar MyUni: https://myuni.swan.ac.uk/money-campuslife/ CYFRINACHEDD: Mae tîm Arian@BywydCampws yn trin yr holl wybodaeth rydych yn ei rhoi iddynt yn hollol gyfrinachol. Ar yr adegau hynny pan fydd angen i ni ymgynghori â staff mewn adrannau eraill, ni fyddwn yn gwneud hynny heb gael eich caniatâd ymlaen llaw. *Roedd yr wybodaeth hon yn gywir ym mis Medi 2016.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.