Gwasanaeth Casglu Gwastraff o’r Ardd

Page 1

Gormod o wastraff o’r ardd? Gallwn ni ddod i’w mo’yn!

Gwasanaeth Casglu Gwastraff o’r Ardd Torion gwrychoedd, coed a phrysglwyni Torion a chribion porfa Gwreiddiau a dail Planhigion, blodau a chwyn


Oes ’da chi ormod o

Wastraff o’r ardd

Gwastraff o’r ardd mewn bagiau du

i’w gompostio?

Cofiwch beidio â dodi gwastraff o’r ardd yn eich bag du

Mae Cyngor Sir Penfro yn newid y modd y mae gwastraff o’r ardd yn cael ei gasglu.

Nid yw gwastraff o’r ardd yn cael ei ystyried yn wastraff y cartref ac felly nid yw Cyngor Sir Penfro yn gorfod dod i’w mo’yn oni bai bod rhywun wedi gofyn iddo wneud hynny. Mae gan yr Awdurdod yr hawl i godi tâl am y gwasanaeth hwn.

Rhwng mis Mawrth a Thachwedd rydym nawr yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff o’r ardd, bob pythefnos, gan ddefnyddio biniau ar olwynion. Gwasanaeth tanysgrifio yn unig yw hwn ac mae ei bris i’w weld ar wefan y Cyngor yn www.pembrokeshire.gov.uk, trwy ffonio’r Ganolfan Gyswllt ar 01437 764551 neu gallwch fynd draw i’r Ganolfan Gwasanaeth i Gwsmeriaid yn eich ardal chi. Fel arall, gallwch fynd â’ch gwastraff o’r ardd i unrhyw un o’r chwe Chanolfan Mwynder Dinesig ac Ailgylchu Sir Benfro er mwyn ei waredu’n rhad ac am ddim. Nid ydym yn caniatáu ichi ddodi gwastraff o’r ardd yn y sachau du sydd gyda chi ar gyfer sbwriel. Yn lle cludo’r gwastraff o’r ardd i safle tirlenwi bydd e’n cael eu cludo bant i’w wneud yn gompost. Mae hynny’n rhatach a hefyd yn gwneud llai o niwed i’r amgylchedd. Gwasanaeth am bris bargen yw hwn, ac mae e’n cynorthwyo i gadw’ch gardd yn daclus, mae’n rhwydd i’w ddefnyddio ac mae’n eich helpu i wneud eich rhan dros yr amgylchedd.

Felly os ydych chi’n credu y gallai’r gwasanaeth hwn fod o fantais ichi, dyma ragor o wybodaeth ichi.

Pan fydd gwastraff gwyrdd a gwastraff o’r ardd yn cael ei waredu mewn safleoedd tirlenwi bydd e’n pydru ac yn cynhyrchu carbon deuocsid a methan, sef dau nwy tŷ gwydr cryf. Mae ei gladdu mewn safleoedd tirlenwi yn fater drud a dianghenraid pan mae gyda ni ddewisiadau eraill ar gael. Er enghraifft: 1) Defnyddiwch fin compost cartref - gallwn ni roi un ohonynt ichi am ddim os hoffech gael un. Am ragor o fanylion cofiwch ffonio 01437 764551 2) Ewch â’ch gwastraff o’r ardd i’ch Canolfan Mwynder Dinesig ac Ailgylchu agosaf lle gallwch chi ei waredu am ddim. Byddwch hefyd yn sicrhau y caiff ei droi yn gompost. 3) Beth am gofrestru er mwyn ymuno â’n Gwasanaeth Casglu Gwastraff o'r Ardd gyda biniau ar olwynion.

Dyma fanteision defnyddio ein gwasanaeth casglu Gwastraff o'r Ardd • Bydd eich gwastraff o’r ardd yn cael ei droi yn gompost, yn lle cael ei gludo i safle tirlenwi • Bellach ni fydd rhaid ichi fynd i’ch man gwerthu agosaf i brynu rhagor o sachau gwyrdd • Ni fyddwch mwyach yn mynd yn brin o sachau gwyrdd • Bydd yn helpu i gadw’ch gardd yn daclus • Mae’n hwylus a rhwydd i’w ddefnyddio


Pam ydym ni’n newid y system bresennol? Nid yw’ch treth y cyngor yn talu costau casglu gwastraff o’r ardd a dyna pam na ddylech chi ddodi gwastraff fel yna yn eich bagiau du ar gyfer sbwriel. Oherwydd hyn, mae Cyngor Sir Penfro wedi bod yn gwerthu sachau gwyrdd, ar gyfer gwastraff o’r ardd, i unrhyw drigolyn sy’n dymuno inni ddod i mo’yn eu gwastraff o’r ardd. Buom yn dod i mo’yn y rhain ynghyd â’r bagiau du cyn eu cludo i safle tirlenwi. Mae claddu gwastraff o’r ardd mewn safle tirlenwi yn fater drud sy’n gwneud niwed i’r amgylchedd am ei fod yn pydru ac yn cynhyrchu methan, sef nwy tŷ gwydr sydd 21 gwaith yn gryfach na Charbon Deuocsid. Bydd y system newydd hon yn sicrhau, os yw hynny’n ymarferol, bod yr holl ddefnyddiau a gesglir yn cael eu trin mewn modd sy’n gydnaws â’r amgylchedd.

Beth allaf ei ddodi yn y bin? ✔ ✔ ✔ ✔ ✔

Torion gwrychoedd, coed a phrysglwyni Gwreiddiau Torion a chribion porfa Dail Planhigion, blodau a chwyn

NI chewch ddodi’r pethau hyn yn y bin:

✘ ✘ ✘ ✘ ✘ ✘

Bagiau, potiau a threis plastig Brics, sger, cerrig a phridd Ffensys, siediau a physt Gwastraff bwyd yn cynnwys pilion Gwellt gwely, gwasarn a thom anifeiliaid Bonion a changhennau coed sy’n fwy na 4 modfedd (10cm) ar eu traws

Ni ddylech byth bythoedd ddodi Canclwm Siapan nac unrhyw chwyn ymledol eraill yn y biniau. Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i gael gwared â’r chwyn yma, mae croeso ichi ffonio’r Ganolfan Gyswllt ar 01437 764551.

Pam mae tâl yn cael ei godi am y gwasanaeth hwn? Nid yw’n ddyletswydd statudol ar y Cyngor gasglu gwastraff o’r ardd am ddim, ac felly gall e adennill y costau y bydd e’n eu talu yn sgil casglu’r gwastraff. Bydd pawb sy’n tanysgrifio i’r gwasanaeth hwn yn talu amdano ac felly fe godir tâl tanysgrifio blynyddol ar bawb sy’n ei ddefnyddio. Mae’r tâl yn talu costau llogi’r bin ar olwynion yn ogystal â’r casgliadau bob pythefnos a gewch.


Am faint mae fy nhanysgrifiad yn para? Bydd y tanysgrifiadau ar fynd dros gyfnod o 12 mis o Fawrth 1af. Rhaid talu’r ffi lawn pryd bynnag yn y flwyddyn yr ydych am danysgrifio neu hyd yn oed os taw dim ond ychydig gasgliadau sydd eu hangen arnoch.

Pa mor aml fydd rhywun yn dod i mo’yn y bin? Bydd eich gwastraff o’r ardd yn cael ei gasglu bob pythefnos o ddechrau mis Mawrth. Caiff eich bin ei ddanfon o fewn 14 diwrnod inni dderbyn eich taliad rhwng mis Mawrth a Hydref. Fe rown wybod ichi pryd mae’ch diwrnod casglu, yn ogystal â rhoi cyfarwyddiadau ichi ynghylch defnyddio’ch gwasanaeth newydd, pan fyddwn ni’n danfon eich bin. Efallai na fydd hynny’n digwydd ar yr un diwrnod ag y bydd eich sbwriel neu’ch nwyddau ailgylchu’n cael eu casglu.

Bin 240 litr ar Olwynion ar gyfer y Cartref 740 mm

Yn y bin mae lle i’r hyn sy’n cyfateb i oddeutu pum sach sbwriel arferol. Peidiwch â gorlenwi eich bin. Os bydd y gwastraff o’r ardd yn cael ei gywasgu ormod yn y bin bydd rhaid inni ei ysgwyd ar y lifft a gall hyn wneud difrod i’r bin.

580 mm

1100 mm

Faint o wastraff o’r ardd allaf i ei ddodi yn y bin?

Dim ond y pethau ar y rhestr y dylech eu dodi yn eich bin. Os ydych yn ansicr, peidiwch â’i ddodi yn y bin a ffoniwch y Ganolfan Gyswllt ar 01437 764551 er mwyn cael gair o gyngor.

A gaf i ddefnyddio’r bin sydd gyda fi fy hun? Na chewch. Fe wyddom bod biniau eraill o safon dda ar gael ond mae microsglodyn arbennig wedi cael ei ddodi yn ein biniau ni. Mae hwnnw’n ein galluogi i nodi ein biniau ni a phwy sydd wedi talu am y gwasanaeth. Os bydd rhywun arall wedi cymryd eich bin chi a cheisio ei ddefnyddio, bydd y microsglodyn yn eu rhwystro rhag gwneud hynny ac ni fyddai’r lori’n ei godi. Mae’r microsglodyn yn nodi eich rhif adnabod yn unig, ac nid oes ynddo unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi na’ch teulu chwaith.


A oes unrhyw brisiau mantais ar gael? Na, nid oes unrhyw brisiau mantais ar gael am y gwasanaeth hwn.

Ar hyn o bryd mae gyda fi gasgliad â chymorth ar gyfer fy sbwriel ac ailgylchu. A allaf i gael cymorth os byddaf yn tanysgrifio i’r cynllun gwastraff gwyrdd? Gallwch, cyhyd â bod hynny’n fater ymarferol, fe drefnwn ni bethau gyda chi er mwyn inni ddod i mo’yn o’ch eiddo, y bin ar olwynion â’r gwastraff o’r ardd ynddo.

Beth sy’n digwydd os byddaf yn symud tŷ? Allaf i fynd â’r bin gyda mi? Os byddwch chi’n symud oddi mewn i Sir Benfro byddwch cystal â ffonio’r Ganolfan Gyswllt ar 01437 764551 ddeg diwrnod gwaith cyn y dyddiad yr ydych i fod i symud arno er mwyn inni allu sicrhau y bydd eich bin yn cael ei wagio pan ydych chi wedi symud i’ch eiddo newydd. Os byddwch chi’n symud y tu fas i’r Sir, yna eiddo Cyngor Sir Penfro o hyd yw’r bin. Cofiwch ffonio’r Ganolfan Gyswllt er mwyn i drefniadau gael eu gwneud ar gyfer dod i’w mo’yn.

Os na fydd y bin yn cael ei gasglu, beth ddylwn i ei wneud? Os na fydd eich bin yn cael ei gasglu, oherwydd amgylchiadau annisgwyl, byddwn yn ceisio dod yn ôl i gasglu’ch bin ymhen 24 awr. Byddwch cystal â ffonio’r Ganolfan Gyswllt ar 01437 764551 neu anfon e-bost at wastemanagement@pembrokeshire.gov.uk.

Beth sy’n digwydd os dodaf y pethau anghywir yn y bin? Dim ond y pethau yr ydym wedi eu rhestru ar dudalen 3, y dylech eu dodi yn y bin. Os bydd ein gweithwyr yn gweld bod ynddo bethau heblaw am y pethau yr ydym yn eu caniatau, yna ni fyddwn yn casglu’r bin hwnnw hyd nes byddwch chi wedi cael gwared â’r pethau nad ydym yn eu caniatau. Yn ôl y ddeddfwriaeth bresennol, mae’r holl ddefnyddiau y gellir eu compostio yn gorfod bodloni rheoliadau llym. Bydd y defnyddiau hynny nad ydynt yn bodloni’r gofynion, yn halogi’r llwyth ac yn difetha popeth ynddo. Wedyn wrth gwrs bydd e’n dda-i-ddim ar gyfer compostio.


Beth os bydd y bin yn cael ei ddifrodi? Os digwydd i’ch bin gael ei ddifrodi gan ein gweithwyr casglu cofiwch roi gwybod inni trwy ffonio’r Ganolfan Gyswllt ar 01437 764551 ac fe drefnwn ichi gael bin newydd. Os ydych chi wedi difrodi’r bin cofiwch ein ffonio ni; sylwer, fodd bynnag, y bydd gofyn ichi dalu am un newydd o bosibl.

Beth os bydd y bin yn mynd ar goll? Dylech ffonio’r Ganolfan Gyswllt ar unwaith ar 01437 764551 er mwyn rhoi gwybod am hynny. Sylwer: os na ellir dod o hyd i’r bin efallai y bydd rhaid ichi dalu am un newydd.

Hoffech chi gofrestru? Os yw’r gwasanaeth hwn yn berffaith ar eich cyfer chi cofiwch ffonio Canolfan Gyswllt Cyngor Sir Penfro ar 01437 764551 lle gallwch chi dalu trwy ddefnyddio cerdyn dros y ffôn. Fel arall gallwch chi fynd draw i’r Ganolfan Gwasanaeth i Gwsmeriaid yn eich ardal chi a thalu gydag arian parod neu gerdyn neu gallwch fewngofnodi yn www.pembrokeshire.gov.uk/wasteandrecycling. Unwaith y bydd eich cais wedi’i brosesu, byddwn yn danfon eich bin atoch o fewn 14 diwrnod, ynghyd â nodyn a fydd yn cynnwys eich dyddiad dechrau.

Eich data personol a sut y byddwn yn eu defnyddio Bydd y data personol y byddwch chi’n eu rhoi, yn cael eu cadw gan Gyngor Sir Penfro oddi mewn i delerau Deddf Gwarchod Data 1998. Fe’u defnyddir er mwyn gweinyddu’r cynllun casglu gwastraff ac fe allent gael eu rhannu ag adrannau eraill y Cyngor sy’n ymdrin â gwasanaethau cysylltiedig. Dim ond os oes rhaid gwneud hynny yn ôl y gyfraith, y byddant yn cael eu rhannu y tu fas i’r sefydliad. Er mwyn cael gwybodaeth am eich hawliau i gyrchu eich gwybodaeth byddwch cystal â ffonio 01437 764551 a gofyn am Gwarchod Data neu anfon e-bost at: DataProtection@pembrokeshire.gov.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.