Cynllun Gwella 2014/15

Page 1

Cynllun G w e l l a 2014-2015

www.pembrokeshire.gov.uk



Cynnwys 1. Cyflwyniad ................................................................... 06 2. Ein hegwyddorion ........................................................ 10 3. Themâu trawsbynciol .................................................. 12 4. Datblygu ein Hamcanion Gwella .................................. 14 5. Plant ............................................................................ 18 6. Yr Economi .................................................................. 23 7. Yr Amgylchedd ............................................................ 28 8. Iechyd .......................................................................... 32 9. Diogelu ........................................................................ 36 10. Diogelwch .................................................................... 38 11. Ein Cynllun Ariannol Tymor Canolig ............................ 40 12. Cyflwyno adroddiadau ................................................ 43 Geirfa .................................................................................. 44

3


gwella

CYNLLUN

2014/2015

Ble i gael rhagor o wybodaeth a datganiad cydymffurfio

I gael copi o’r ddogfen hon mewn print bras, Braille, tâp sain neu iaith arall, cysylltwch â Jackie Meskimmon ar 01437 776613. Mae crynodeb o’r ddogfen hon ar gael ar ein gwefan neu drwy’r manylion cysylltu isod. Mae’r cynllun hwn a’i grynodeb yn cyflawni ein dyletswydd dan adran 15 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 i gyhoeddi hysbysrwydd gwella.

Mae gwybodaeth fanylach ar gael yn adran Cynllunio Gwelliant ein gwefan. Gallwch hefyd ddilyn ein perfformiad diweddar trwy edrych ar adroddiadau rheoli perfformiad cyfun sy’n mynd ger bron ein Cabinet neu’r fersiynau manylach sy’n mynd ger bron ein Pwyllgorau Arolygu ac Archwilio bob chwarter. Rydym bob amser yn awyddus i glywed eich barn. Os oes gennych unrhyw ymateb i’r adolygiad hwn neu os hoffech ysbrydoli datblygu Amcanion Gwella’r dyfodol, cofiwch gysylltu â ni trwy ddefnyddio’r manylion isod:

Dan Shaw, Rheolwr Cynllunio Corfforaethol Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1TP Ffôn: 01437 775857 polisi@sir-benfro.gov.uk www.sir-benfro.gov.uk

4


Rhagair

Mae’n dda gennyf gyflwyno Cynllun Gwella Cyngor Sir Penfro ar gyfer 2014/15.

Y Cynllun hwn yw ein prif ddogfen at y dyfodol ac mae’n cyflwyno ein hamcanion ar gyfer y flwyddyn a ddaw. Mae’n rhoi cyfle i ni egluro ein dealltwriaeth o’r materion sy’n bwysig i chi a rhannu sut ydym yn bwriadu rhoi sylw iddynt.

Bu’r flwyddyn aeth heibio’n un bwysig i’r Cyngor. Mewn blynyddoedd blaenorol, rwyf wedi cyfeirio at y pryderon a fynegwyd ynghylch ein trefniadau diogelu a’n gwasanaethau addysg. Yn ystod y flwyddyn aeth heibio, rydym wedi dechrau gweld gwir dystiolaeth ein bod yn rhoi sylw i’r pryderon hyn yn llwyddiannus.

Ym mis Tachwedd 2013, cynhaliodd arolygwyr o Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru – Estyn – ymweliad arolygu â’r Awdurdod, wedi’i drefnu o flaen llaw. Edrychodd y tîm arolygu’n fanwl ar y gwaith a wnaethom i wella ein trefniadau diogelu ac archwilio mewnol a’n hagwedd at reoli perfformiad. Roeddwn yn falch dros ben o gael ymateb ffurfiol yr arolygwyr, oedd yn cadarnhau ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol ar draws yr holl feysydd a archwiliwyd.

Yn yr un modd, cydnabuwyd ein cynnydd diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru (WAO) – y corff gyda gofal am gynnal archwiliadau corfforaethol o awdurdodau lleol yng Nghymru. Yn ystod y flwyddyn aeth heibio, mae WAO wedi canmol agwedd y Cyngor at gynllunio corfforaethol ac mae wedi cydnabod y cynnydd a wnaed gennym wrth oruchwylio ac archwilio gwasanaethau allweddol y Cyngor yn effeithiol. Rydym eto i gael asesiad blynyddol WAO o berfformiad gwasanaethau eleni, ond rwy’n hyderus y bydd hyn hefyd yn derbyn bod mwyafrif adrannau’r Cyngor wedi gwneud yn dda y llynedd.

Mae cydnabyddiaeth allanol o’n gwelliant i’w chroesawu’n fawr ac yn haeddiannol iawn yn fy marn i. Mae Uwch-swyddogion, staff rheng flaen ac Aelodau Etholedig o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol wedi gweithio’n galed i gyflawni cymaint o gynnydd.

Wrth gwrs, fe wyddom y bydd angen yr un faint o ymroddiad yn y flwyddyn a ddaw. Mae Mesurau Arbennig yn dal yn berthnasol i wasanaethau addysg yr Awdurdod, ac mae angen i ni roi rhagor o gefnogaeth a her i’n hysgolion wella cyrhaeddiad ein plant a phobl ifanc.

Dim llai anodd yw’r ffaith mai’r flwyddyn a ddaw fydd yr un â’r her ariannol fwyaf ynddi yn hanes y Cyngor. Mae Adran 11 y Cynllun hwn yn egluro’r sefyllfa’n fanylach. Yn gryno, byddwn yn ceisio lleihau rhyw £12.9 miliwn ar ein gwariant yn ystod blwyddyn ariannol 2014/15 (rydym eisoes yn bwriadu gwneud arbedion ychwanegol o £7.1 miliwn yn ystod 2015/16, a rhagwelwn y gallai’r ffigur hwn gynyddu ymhellach pan fydd Llywodraeth Cymru’n adolygu ei grant i’r Awdurdod yn ystod haf 2014).

Mae’n amlwg y bydd yn anodd cyflenwi gwasanaethau a sicrhau gwelliant parhaol dan yr amgylchiadau hyn. Fodd bynnag, rydym wedi gwneud dechrau rhagorol wrth bennu cyllideb am y flwyddyn a ddaw sy’n gwarchod y gwasanaethau hynny sy’n cael eu gwerthfawrogi gan bobl drwy’r Sir gyfan ac, yn arbennig, y rhai y mae pobl ddiamddiffyn yn ein cymunedau’n dibynnu arnynt. Ni fydd modd cael arbedion ychwanegol heb beri rhywfaint o effaith ar ein cwsmeriaid, ond rwy’n fodlon bod y Cyngor mewn lle da i leihau gwariant heb droi at ‘gamau braw’ ac mewn ffordd sy’n lleihau unrhyw effeithiau negyddol all fod. Y Cynghorydd Jamie Adams, Arweinydd

5


1. Cyflwyniad

6


1.1. Diben y Cynllun hwn yw disgrifio beth fyddwn yn ei wneud i gyflawni ein dyletswydd i sicrhau gwelliant parhaol1. Mae’n cyflwyno’r meysydd gwelliant y byddwn yn canolbwyntio arnynt yn ystod y flwyddyn a ddaw ac yn egluro ein sail resymegol dros wneud hynny. 1.2. Ysgrifennwyd y Cynllun gyda thrigolion, busnesau ac ymwelwyr â’r Sir mewn golwg. Bydd pob un o’r rhanddeiliaid hyn yn defnyddio ein gwasanaethau ac mae ganddynt ddiddordeb yn ein hagwedd at gyflawni gwelliant parhaol. 1.3. Y Cynllun yw mynegiant cyhoeddus ein hagwedd at reoli perfformiad. Mae ein fframwaith rheoli perfformiad yn disgrifio’r cylch blynyddol a ddilynwn wrth gynllunio, arolygu ac adolygu popeth a wnawn. 1.4. Â siarad yn gyffredinol, mae pedwar cam yn ein fframwaith. Rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth bob blwyddyn canolbwyntiwn ar nodi amcanion at wella. Yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill byddwn yn terfynu ein hamcanion ac yn amlinellu ein cynlluniau cyflawni yn ystod y flwyddyn a ddaw. Byddwn yn arolygu perfformiad drwy gydol y flwyddyn ac yn ceisio nodi beth yw effaith cyflenwi ein gwasanaethau ar y gymuned. Yn olaf, yn ystod mis Medi a mis Hydref dechreuwn adolygu ein cynnydd fel ein bod mewn sefyllfa i fireinio ein hamcanion ar gyfer y flwyddyn ddilynol.

Mae Adran 2 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn rhoi dyletswydd gyffredinol ar holl awdurdodau lleol yng Nghymru i “drefnu sicrhau gwelliant parhaol wrth arfer [eu] swyddogaethau”. 1

7


1.5. Trefnwyd Cynllun eleni, fel y llynedd, o gwmpas chwe chanlyniad allweddol Cynllun Cyfun Unigol Sir Benfro. Cynllun partneriaeth yw hwn sy’n adlewyrchu nodau gwasanaeth cyhoeddus cyfan Sir Benfro. Chwe chanlyniad allweddol dynodedig y Cynllun Cyfun Unigol yw: • Plant a Theuluoedd: Bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn cael cyfle i gyflawni eu posibiliadau dysgu a byw bywydau iach a hapus • Yr Economi: Bod gan Sir Benfro economi cystadleuol, cynhyrchiol a chynaliadwy • Yr Amgylchedd: Bod pobl Sir Benfro’n mwynhau amgylchedd deniadol, cynaliadwy ac amrywiol • Iechyd: Bod pobl Sir Benfro’n iachach • Diogelu: Bod plant ac oedolion yn cael eu diogelu • Diogelwch: Bod cymunedau Sir Benfro’n teimlo’n ddiogel 1.6

Rydym yn bwriadu adolygu’r Cynllun Cyfun Unigol yn ystod 2014/15. Deilliodd y penodau ar Blant ac Iechyd o gynlluniau partneriaeth cynharach a gyhoeddwyd yn 2012. Rydym yn bwriadu adnewyddu’r adrannau hyn i adlewyrchu cyfleoedd newydd i ateb ein dyheadau cyfunol ar gyfer y Sir a’i phobl.

1.7

Yn ogystal â nodi ein cyfraniad at gyflawni’r canlyniadau allweddol hyn, mae’r Cynllun hwn yn disgrifio: • • • • •

ein hegwyddorion fel sefydliad; ein hagwedd at gynaliadwyedd, cydraddoldeb, tlodi a’r Gymraeg; ein Hamcanion Gwella ar gyfer 2014/15; crynodeb o’n Cynllun Ariannol Tymor Canolig; a sut fyddwn yn hysbysu ac yn adolygu ein cynnydd yn y dyfodol.

8


Sut mae ein cynlluniau’n cyd-fynd â’i gilydd 1.8

Mae’r Cynllun Gwella hwn yn rhan o hierarchaeth o gynlluniau, pob un ohonynt yn chwarae rhan sylweddol yn nhrefniadau cyflenwi ein gwasanaethau. Mae’n arfer da gallu tynnu ‘llinyn euraid’ rhwng y cynlluniau a nodi sut fydd aelodau unigol o’r staff, timau, adrannau gwasanaeth ac asiantaethau cyfan yn gweithio tuag at ganlyniadau allweddol y Cynllun Cyfun Unigol.

Y C yn llun C yfun U n i g o l Y Cynllun Hwn

Y C yn llun Gwella Cynlluniau Gwella Gwasanaethau C yn llun i a u Ti m a u Gwerthusiadau Perfformiad

1.9

Yn ystod 2014/15 byddwn yn dal i ddatblygu ein fframwaith perfformiad. Yn ddiweddar rydym wedi diwygio ein trefnau pwyso a mesur perfformiad i wella’r gyfatebiaeth rhwng y gorchwylion y mae swyddogion unigol yn atebol amdanynt a blaenoriaethau’r Cyngor at ei gilydd. Byddwn yn cloriannu effeithiolrwydd y trefniadau newydd hyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

9


2. Ein Hegwyddorion 2.1. Ers dechreuad Cyngor Sir Penfro yn 1996, rydym wedi gweithio yn ôl tair egwyddor drawsbynciol.

C A NOLB WY NTI O A R Y C WSM E R GWE RTH A M Y R A RI A N U N TÎM 2.2. Mae trin cwsmeriaid yn gwrtais ac yn deg yn egwyddor sydd wedi’n gwasanaethu’n dda. Rydym yn cymryd sylw o’r elfennau ac yn eu harolygu: materion fel pa mor gyflym y caiff galwadau ffôn a llythyrau eu hateb, yn ogystal â sut gaiff cwynion eu trin a pha wersi y gellid eu dysgu. 2.3. Ein nod yw gweinyddu cyfleoedd syml a rhwydd i gwsmeriaid gael gafael ar ein gwasanaethau. Wrth i dechnoleg gwybodaeth ddatblygu, rydym wedi gallu ymestyn y sianelau sydd ar gael i gwsmeriaid gysylltu â ni. Er enghraifft, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i gwsmeriaid gael gwasanaethau a gwybodaeth drwy’r rhyngrwyd. Yn ddiweddar ail lansiwyd ein gwefan a’i gwneud yn haws ei defnyddio, yn enwedig i’r rhai sy’n cael mynediad drwy ddyfeisiau symudol.

10


2.4. Hwn oedd un o’r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i fod â chanolfan gyswllt cwsmeriaid unswydd ac, er bod mwyafrif llethol ein cwsmeriaid yn dal i ddefnyddio’r sianel hon yn hytrach na chyswllt wyneb yn wyneb, rydym wedi cadw amrywiaeth o gyfleusterau fel bod cwsmeriaid yn gallu cael gwasanaethau dros y cownter. Yn ystod y flwyddyn a ddaw byddwn yn ehangu’r gwasanaethau hynny sydd ar gael yn ein cyfleusterau wyneb yn wyneb – e.e. trwy roi hysbysrwydd ymwelwyr yn ein llyfrgelloedd. 2.5. Bu cael gwerth da am yr arian yn bwysig i ni erioed. Am flynyddoedd lawer rydym wedi pennu’r Dreth Gyngor isaf o unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru. Ein Treth Gyngor Band ‘D’ ar gyfer 2014/15 fydd £766.55, sy’n fwy na £250 islaw cyfartaledd Cymru. 2.6. Mae’r pwysau ariannol y byddwn yn ei wynebu dros y ddwy flynedd nesaf yn ddigynsail yn hanes y Cyngor. Mae Adran 11 yn egluro sut mae’r blaenoriaethau a nodwyd yn y Cynllun hwn wedi ysbrydoli ein penderfyniadau cyllidebu. Bydd angen i ni arbed oddeutu £20 miliwn yn ystod y ddwy flynedd nesaf. 2.7. Nid yw cael gwerth bob amser yn golygu cyfyngu ar ein gwariant. Mae adegau pan fydd buddsoddi mewn gwasanaethau’n helpu i ni arbed arian yn y tymor hwy. Er enghraifft, yn ystod y 10 mlynedd nesaf rydym yn bwriadu buddsoddi o gwmpas £150 miliwn yn ein hadeiladau ysgol. Bydd hyn yn arwain at adeiladu cyfleusterau mwy effeithlon a bydd yn helpu i ni wella canlyniadau ein dysgwyr. Trwy ddadansoddi effeithiau cyfnod hwy ein gwariant, rydym yn gallu gwella cynaliadwyedd y gwasanaethau a ddarparwn. 2.8. Ein hegwyddor derfynol yw gweithio fel un tîm er lles pawb yn Sir Benfro. Mae awdurdodau lleol yn sefydliadau mawr a chymhleth, ond rydym bob amser wedi ceisio lleihau rhaniadau mewnol er lles ein cwsmeriaid. 2.9. Er enghraifft, caiff llywodraethu ein gwasanaethau ei drefnu fel ei fod yn torri ar draws ffiniau adrannol. Mae hyn yn galluogi Cynghorwyr etholedig edrych y tu hwnt i faterion plwyfol a chadw safbwynt strategol eang. 2.10. Yn ogystal â’n hegwyddorion, mae ein gwaith yn adlewyrchu pwysigrwydd nifer o themâu trawsbynciol. Mae Adran 3 yn disgrifio sut fyddwn yn ymgorffori’r egwyddorion canlynol yn ein gwaith: datblygu cynaliadwy, cydraddoldeb ac amrywiaeth, peirianwaith i drechu tlodi a chymorth i’r Gymraeg.

11


3. Themâu trawsbynciol 3.1. Mae datblygu cynaliadwy, yr agenda cydraddoldeb, ein gwaith ar drechu tlodi a hyrwyddo’r Gymraeg yn torri ar draws yr holl waith a wnawn. 3.2. Rydym yn ceisio hyrwyddo datblygu cynaliadwy, ble bynnag y bo modd, trwy gefnogi prosiectau sy’n rhoi sylw i faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae hyn yn helpu sicrhau nad yw’r penderfyniadau a wnawn heddiw’n cael effaith annheg ar genedlaethau a ddaw. Fel cynghorau eraill ar hyd a lled Cymru, mae gennym hanes da o wella ein harferion yn y maes hwn. Mae llawer o’r Amcanion sy’n cael eu disgrifio yn y cynllun hwn yn dangos ein hymrwymiad i gynaliadwyedd. 3.3

Yn ystod 2014/15, mae Llywodraeth Cymru’n debygol o gyhoeddi Mesur Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd y Mesur yn sefydlu gofyniad bod cyrff cyhoeddus yn ffurfioli sut maent yn ymgorffori ystyriaethau tymor hwy yn eu cynlluniau strategol.

3.4

Yn ystod y flwyddyn a ddaw, byddwn yn lleihau 3% ychwanegol yn faint o ynni a ddefnyddiwn (buom yn lleihau’r ynni a ddefnyddiwn yn gyson dros nifer o flynyddoedd). Byddwn yn cyflawni hyn trwy fabwysiadu technolegau mwy ynni-effeithlon a thrwy reoli ein hadeiladau’n fwy effeithiol.

3.5

Rydym wedi gweld cynnydd amlwg mewn cynigion datblygiadau ynni adnewyddadwy yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Yn ystod 2014/15, byddwn yn cyflwyno Canllawiau Cynllunio Atodol ar dyrbinau gwynt a chynlluniau ynni adnewyddadwy ffotofoltaidd. Bydd hyn yn rhoi mwy o bendantrwydd i ddatblygwyr a chymunedau ynghylch y mathau o gynigion fydd yn dderbyniol o ran cynllunio. Rydym hefyd yn rhagweld cynnydd ar gynllun gwres a phŵer cyfunedig mwy yn South Hook. Fe all y cynnig hwn leihau ôl troed carbon y Sir gyfan.

3.6

Rydym yn ymrwymo i wella ein hagwedd at yr agenda cydraddoldeb. Yn ystod y flwyddyn a ddaw, rydym yn bwriadu diwygio ein hofferyn asesu effaith cyfannol, a ddefnyddiwn i sgrinio penderfyniadau ar bolisi a newidiadau gwasanaeth. Yn ddiweddar rydym wedi derbyn Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn; bydd hyn yn ehangu rhychwant

12


y materion y bydd angen i ni eu hystyried wrth wneud newidiadau. Hefyd bydd angen i ni ystyried sut fydd safonau newydd y Gymraeg sy’n cael eu cynnig gan Gomisiynydd y Gymraeg yn cael eu hymgorffori yn yr offeryn. 3.7

Fel holl gyrff cyhoeddus, rydym yn ymrwymo i sicrhau nad yw ein cwsmeriaid yn dioddef camwahaniaethu. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn cyflwyno ein cynlluniau ar gyfer sicrhau bod y gwasanaethau sydd arnynt eu hangen ar gael i’n cwsmeriaid.

3.8

Byddwn yn dal i symud ymlaen gydag amrywiaeth o arweiniadau sy’n meithrin cysylltiadau da rhwng gwahanol gymunedau; un o’r tair dyletswydd sydd arnom dan Ddeddf Cydraddoldeb. Er enghraifft, byddwn yn gweithio gyda gwasanaeth hysbysu trydydd-parti newydd sy’n cael ei ddarparu gan Gymorth i Ddioddefwyr er mwyn lleihau troseddau casineb.

3.9

Mae ein camau i drechu tlodi’n torri ar draws y sefydliad cyfan ac yn cael ei hybu gan ein Cynllun Cyfun Unigol. Rydym wedi penodi Hyrwyddwyr gwrthdlodi i arwain y gwaith hwn yn y Cabinet a’r Tîm Rheoli Corfforaethol.

3.10 Yn ystod 2014/15, byddwn yn datblygu cynllun gweithredu gwrthdlodi. Bydd y cynllun yn ceisio creu cymunedau ffyniannus, iachach ac sy’n dysgu; helpu pobl gael gwaith; a lliniaru effaith tlodi. Yn unol â blaenoriaethau cenedlaethol, y ddau faes y byddwn yn canolbwyntio sylw arbennig arnynt fydd lleihau nifer y bobl ifanc sydd heb fod mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth a gostwng mynychder pwysau geni isel. 3.11 Byddwn hefyd yn datblygu agwedd wahanol at sut fyddwn yn hyrwyddo’r Gymraeg yn ystod y flwyddyn a ddaw. Rydym yn ymrwymo i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru ar gynigion safonau ymddygiad newydd cysylltiedig â’r Gymraeg. Bydd y Safonau yn disodli trefn bresennol cynlluniau iaith Gymraeg yn raddol. 3.12 Tua diwedd y flwyddyn, byddwn yn cael gwybod pa un o Safonau arfaethedig y Gymraeg fydd yn berthnasol i’r Cyngor. Bryd hynny, byddwn yn datblygu cynllun gweithredu newydd i helpu i ni reoli gweithredu’r Safonau. Bydd Grŵp Datblygu Safonau’r Gymraeg, wedi’i ffurfio o gynrychiolwyr pob rhan o’r Cyngor, yn goruchwylio’r gwaith hwn. 3.13 Bydd rhai o’r Safonau arfaethedig, o’u cymeradwyo, yn creu heriau i’r Cyngor. Mewn rhai achosion, bydd eu gweithredu’n gofyn gwneud buddsoddiad ychwanegol. Bydd angen i’n cynllun gweithredu roi sylw i rai o’r anawsterau ymarferol hyn. 3.14 Yn ystod rhan gyntaf 2014/15, byddwn yn ymateb i Ymchwiliad Safonau’r Gymraeg, gan ddweud wrth Gomisiynydd y Gymraeg pa un o’r Safonau arfaethedig a ystyriwn sy’n rhesymol a chymesur. Byddwn yn ystyried demograffeg, y galw a chostau fel rhan o’r asesiad hwn.

13


4. Datblygu ein Hamcanion Gwella

4.1. Un o ofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yw ein bod yn cyhoeddi rhestr o Amcanion Gwella bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau statudol i gynorthwyo i ni gyflawni hyn. Rydym wedi defnyddio’r fframwaith hwn i nodi Amcanion Gwella sy’n uchelgeisiol, ond hefyd yn gyraeddadwy. 4.2. Mae’r canllawiau’n disgrifio sut ddylid manylu Amcanion Gwella. Er enghraifft, mae’n cyfeirio at yr angen i gydbwyso blaenoriaethau cenedlaethol a lleol, i sylwi ar ganlyniadau adroddiadau arolwg, i ymgorffori’r angen am arbediadau ac i fanteisio ar gyfleoedd sy’n deillio o ddatblygu technolegau newydd. 4.3

Newidiodd ein hagwedd at nodi Amcanion Gwella yn 2013/14 iddynt gael cwmpas mwy cyfyng a chanolbwyntio ein hymdrechion gwella’n fwy effeithiol. Roedd y pum amcan a bennwyd gennym yn 2013/14 yn adlewyrchu blaenoriaethau tymor hwy’r Cyngor ac, o ganlyniad, rydym wedi dewis cadw pedwar ohonynt. Ehangwyd ychydig ar gwmpas ein pumed Amcan, ond mae cyswllt amlwg yn dal i fod rhyngddo â fframwaith y llynedd.

14


Sut fuom yn ymgynghori ar ein Hamcanion Gwella 4.4

Manteisiwyd ar amrywiaeth o gyfleoedd i ennyn diddordeb yn nrafft ein Hamcanion Gwella a chael sylwadau arnynt. Roedd y rhain yn cynnwys annog sylw’r wasg a defnyddio rhestri postio. Buom yn ymgynghori’n uniongyrchol â grwpiau cyswllt, cyrff a mudiadau gwirfoddol a chynghorau tref a chymuned. Rydym hefyd wedi ymgynghori â’n Panel Dinasyddion. Y dull mwyaf poblogaidd o ymwneud â’n cwsmeriaid oedd drwy ein gwefan.

4.5

Ceisiwyd barn ar ddeg o Amcanion Gwella arfaethedig. Roedd rhestr yr amcanion arfaethedig yn cwmpasu meysydd fel: • Gwella gofal cymdeithasol oedolion • Trechu tlodi • Gwella cyrhaeddiad yn yr ysgol • Cynhwysiad ysgolion /plant agored i niwed • Gwella sut fyddwn yn cynllunio lleoedd mewn ysgolion • Gwastraff ac ailgylchu • Canol trefi • Mewnosod newidiadau diogelu • Trosedd a Diogelwch Cymunedol • Arbed arian trwy ddefnyddio technolegau newydd i gyflenwi gwasanaethau

4.6

Cynorthwyodd yr ymateb a gawsom yn ystod ein hymgynghori inni gulhau’r rhestr hon. Cafodd y cwestiynau a ddefnyddiwyd gennym gyda’r Panel Dinasyddion eu defnyddio hefyd wrth ymgynghori â’r cyhoedd ar y we. Cyfunwyd canlyniadau’r ymarferion hyn a dadansoddwyd y canlyniadau2. Y chwe maes a ystyriai ymatebwyr i’r ymgynghori fel y rhai pwysicaf oedd: • Canol trefi • Trosedd a diogelwch cymunedol • Gwella cyrhaeddiad yn yr ysgol • Gwastraff ac ailgylchu • Gwella gofal cymdeithasol oedolion • Cynhwysiad ysgolion / plant agored i niwed

4.7

 siarad yn gyffredinol, roedd y canlyniadau hyn yn adlewyrchu ein barn ein hunain ynghylch blaenoriaethau priodol i’r Cyngor. O ganlyniad, rydym wedi nodi’r casgliad canlynol o Amcanion Gwella ar gyfer 2014/15.

Mae canlyniadau manwl ein hymgynghori ar gael ar ein gwefan www.sir-benfro.gov.uk/dweudeichdweud

2

15


IO1: Gwella Ysgolion

• Byddwn yn herio a chefnogi ein hysgolion i wella canlyniadau dysgu a chynorthwyo plant a phobl ifanc gyrraedd eu llawn allu.

IO2: Plant Diamddiffyn

• Byddwn yn meithrin gallu ysgolion a gwasanaethau fel bod plant a phobl ifanc diamddiffyn yn gallu bod yn ddiogel gartref ac yn yr ysgol a chyrraedd eu llawn allu.

IO3: Gwella Canol Trefi

• Byddwn yn galluogi, hwyluso a chyflawni cynlluniau i wella hyfywedd a bwrlwm canol ein trefi.

IO4: Rheoli Gwastraff

• Byddwn yn dal i gynyddu cyfran y gwastraff sy’n cael ei ailgylchu er mwyn lleihau faint o wastraff sy’n cael ei anfon i dirlenwi.

IO5: Ad-drefnu Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Oedolion

• Byddwn yn ad-drefnu darpariaeth ein gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion i wella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd. 4.8

Mae esboniad mwy manwl o pam y dewiswyd yr Amcanion hyn yn adrannau perthnasol y ddogfen hon. Fodd bynnag, mae dau fater sy’n haeddu ystyriaeth bellach yma.

4.9

Yn gyntaf, nododd ymatebwyr i’n hymgynghori fod trosedd a diogelwch cymunedol yn faterion sy’n eu pryderu. Nid yw hon yn ffenomen newydd, a daw i’r amlwg yn rheolaidd wrth ymgynghori â’r cyhoedd yn Sir Benfro. Fodd bynnag, dengys y data mai ychydig o drosedd sydd yn Sir Benfro o’i gymharu ag ardaloedd eraill ac, o ganlyniad, dewiswyd peidio â chanolbwyntio ar ddiogelwch cymunedol fel blaenoriaeth eleni.

16


4.10 Yn ail, wrth nodi ein Hamcanion Gwella, byddwn bob amser yn ceisio adlewyrchu’r cyngor a gawn gan ein harolygwyr a rheolyddion. Ar sail ymateb ddiweddaraf Estyn, yn cydnabod cynnydd arbennig mewn cysylltiad â’n trefniadau diogelu, penderfynwyd ehangu ein hymdrechion yn y maes hwn i holl wasanaethau ar gyfer plant diamddiffyn. 4.11 Wrth nodi ein Hamcanion Gwella, mae’n bwysig i ni allu creu cysylltiadau cryf gyda Chynllun Cyfun Unigol Sir Benfro. Gyda dau eithriad, ac am y rhesymau a ddisgrifiwyd eisoes, rydym wedi nodi Amcan i gyfrannu at bob un o’r canlyniadau allweddol a ddisgrifiwyd yn y Cynllun Cyfun Unigol. Caiff y berthynas rhwng yr Amcanion a’r canlyniadau allweddol hyn dangos isod: Canlyniad Allweddol

Plant: CBod plant, pobl

ifanc a theuluoedd yn cael cyfle i gyflawni eu posibiliadau dysgu a byw bywydau iach a hapus.

Yr Economi: Bod gan

Sir Benfro economi cystadleuol, cynhyrchiol a chynaliadwy.

Yr Amgylchedd: Bod

pobl Sir Benfro’n mwynhau amgylchedd deniadol, cynaliadwy ac amrywiol.

Iechyd: Bod pobl

Sir Benfro’n iachach.

Amcan Gwella

Gwella Ysgolion: byddwn yn herio a chefnogi ein hysgolion i wella canlyniadau dysgu a chynorthwyo plant a phobl ifanc gyrraedd eu llawn allu.

Plant Diamddiffyn: byddwn yn meithrin gallu ysgolion a gwasanaethau fel bod plant a phobl ifanc diamddiffyn yn gallu bod yn ddiogel gartref ac yn yr ysgol a chyrraedd eu llawn allu. Gwella canol trefi: Byddwn yn galluogi, hwyluso a chyflawni cynlluniau i wella hyfywedd a bwrlwm canol ein trefi. Rheoli gwastraff: Byddwn yn dal i gynyddu cyfran y gwastraff sy’n cael ei ailgylchu er mwyn lleihau faint o wastraff sy’n cael ei anfon i dirlenwi. Ad-drefnu Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Oedolion: Byddwn yn ad-drefnu darpariaeth ein gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion i wella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd.

Diogelu: Bod plant ac

Dim Amcan Gwella

Diogelwch: Bod cymunedau

Dim Amcan Gwella

oedolion yn cael eu diogelu.

Sir Benfro’n teimlo’n ddiogel.

4.12 Mae gweddill y ddogfen hon yn disgrifio pob Amcan Gwella’n fanylach ac yn egluro beth arall a wnawn i gyfrannu at y canlyniadau allweddol a nodwyd yn y Cynllun Cyfun Unigol.

17


5. Plant AMCAN GWELLA 1

Gwella Ysgolion

Byddwn yn herio a chefnogi ein hysgolion i wella canlyniadau dysgu a chynorthwyo plant a phobl ifanc gyrraedd eu llawn allu.

AMCAN GWELLA 2

Plant Diamddiffyn

Byddwn yn meithrin gallu ysgolion a gwasanaethau fel bod plant a phobl ifanc diamddiffyn yn gallu bod yn ddiogel gartref ac yn yr ysgol a chyrraedd eu llawn allu.

5.1

Mae ein gwasanaethau ar gyfer plant, teuluoedd ac ysgolion yn cyfrif am ryw hanner ein gwariant llawn bob blwyddyn. Er ein bod yn darparu llawer o wasanaethau ein hunain, gwnawn gryn dipyn o waith mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill. Mae cyrhaeddiad a phresenoldeb yn faterion hollbwysig i’r Sir gyfan, ond mae’r heriau hyn yn fwy enbyd fyth i blant a theuluoedd lle mae’r incwm yn isel. Rydym wedi dewis dau amcan eleni oherwydd ein bod eisiau i holl blant a phobl ifanc Sir Benfro gyflawni’r canlyniadau gorau oll a allant.

5.2

Ar hyn o bryd mae Mesurau Arbennig yn berthnasol i’n Gwasanaeth Addysg; rydym yn benderfynol o wella perfformiad y gwasanaeth a chynorthwyo gwelliant cyson yn ein hysgolion. Roedd y llythyr arolygu diwethaf a gawsom oddi wrth Estyn yn canmol yr Awdurdod am weithredu “yn gyflym ac yn bendant” gan nodi mai canlyniad hyn oedd bod “newid a gwelliant yn digwydd yn gyflym”. Fodd bynnag, rydym yn boenus o ymwybodol y bydd rhai canlyniadau i blant yn gorfod gwella hefyd.

18


5.3

Mae’r ymgynghori a wnaethom yn dangos bod cefnogaeth gref i’n Hamcanion gwella ysgolion a phlant diamddiffyn.

5.4

Rydym wedi pennu pump o gamau gweithredu i ni ein hunain dan yr Amcan Gwella Ysgolion. • Gweithio gydag ysgolion i gyflawni ymyriadau penodol fydd yn cynyddu cyfraddau presenoldeb. • Defnyddio data a rheoli perfformiad yn well er mwyn gallu cefnogi a herio ysgolion yn amserol ac ar sail tystiolaeth. • Gwella canlyniadau i blant trwy gynyddu gallu ysgolion i wella eu hunain. • Symud ymlaen gyda’n cynlluniau i wella amgylcheddau dysgu fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. • Datblygu rhaglen o ad-drefnu ysgolion er mwyn gwella canlyniadau i ddysgwyr.

5.5

Effaith cyflawni’r amcan hwn fydd y bydd canlyniadau i blant a phobl ifanc Sir Benfro’n gwella ac y byddant yn fwy parod i wneud cyfraniad cadarnhaol at gymdeithas.

5.6

Byddwn yn mesur effaith ein cynnydd dan yr Amcan hwn trwy gadw golwg ar nifer o ddangosyddion perfformiad. Un o’n mesurau llwyddiant allweddol fydd canran y myfyrwyr sy’n cyrraedd y trothwy lefel 2, gan gynnwys Cymraeg / Saesneg a Mathemateg yng Nghyfnod Allweddol 4. Caiff y dangosydd hwn ei ddefnyddio’n aml i gymharu cyrhaeddiad yn genedlaethol. Bu perfformiad yn y maes hwn yn anghyson ers cryn amser, gyda pherfformiad yn gostwng islaw cyfartaledd Cymru yn 2013. Byddwn yn gweithio’n agos gyda’n hysgolion, yn enwedig ysgolion lle gostyngodd cyrhaeddiad y llynedd, i roi sylw i hyn. Rydym eisiau sefydlu gwelliant cyson ar gyfer y dangosydd hwn trwy gefnogi a herio ein hysgolion.

19


Lefel 2 CA4 yn cynnwys Saesneg / Cymraeg & Mathemateg 65%

60%

55%

50%

45%

40% Mehefin 2008

Mehefin 2009

Mehefin 2010

Mehefin 2011 Sir Benfro

Mehefin 2012

Mehefin 2013

Mehefin 2014

Cymru

Mesurau llwyddiant

Dangosyddion Cyfnod Sylfaen, sy’n dadansoddi canlyniadau disgyblion Blynyddoedd 1 a 2: LLC = Iaith Llythrennedd a Chyfathrebu MD = Datblygiad Mathemategol FPI = Dangosydd Cyfnod Sylfaen

Dangosyddion pynciau craidd Cyfnod Allweddol 2, sy’n dadansoddi canlyniadau disgyblion Blwyddyn 6

Dangosyddion pynciau craidd Cyfnod Allweddol 3, sy’n dadansoddi canlyniadau disgyblion Blwyddyn 9

Arolygu lefel 1 Cyfnod Allweddol 4 sef faint o ddisgyblion blwyddyn 11 sy’n cyflawni 5 TGAU

Lefel 2 Cyfnod Allweddol 4 gan gynnwys Cymraeg / Saesneg a Mathemateg

Targed 2014/15 LLC = 91% MD = 91% FPI = 90% 88% 83% 99%

63 %

Cadw golwg ar gyfraddau presenoldeb mewn ysgolion cynradd ac uwchradd

Cynradd = 96% Uwchradd = 95%

Canran y rhai 16 oed sydd heb fod mewn addysg neu gyflogaeth (NEET)

2.8%

Canran y myfyrwyr sy’n mynychu llai nag 80% o’r amser

20

4%


5.7

Bydd ein hail Amcan gwella dan y thema hon yn sicrhau bod holl blant a phobl ifanc, gan gynnwys plant diamddiffyn, yn cyflawni gwell canlyniadau. Rydym wedi pennu chwech o gamau gweithredu i ni ein hunain dan yr Amcan Gwella hwn. • Gweithio gydag ysgolion i feithrin gallu i ddiwallu anghenion disgyblion diamddiffyn trwy her a chefnogaeth effeithiol. • Cadw golwg effeithiol ar gynnydd, gan sicrhau bod ymyriadau’n gost-effeithiol ac ar sail tystiolaeth. • Cyfannu gwasanaethau ar gyfer plant gydag anabledd yn effeithiol ar draws Gwasanaethau Addysg a Phlant. • Mesur effeithiolrwydd cyngor a chymorth diogelu cyfannol i ysgolion a sicrhau goruchwylio effeithiol wrth reoli honiadau yn erbyn gweithwyr proffesiynol. • Datblygu gwasanaeth amlddisgyblaethol i ddiwallu anghenion ein plant dan ofal mwyaf diamddiffyn. • Mewnosod patrwm ymyriad cynnar ein tîm o gwmpas y teulu.

5.8

21

Gobeithiwn mai effaith hyn fydd bod plant Sir Benfro’n fwy diogel ac y bydd plant diamddiffyn yn fwy parod i fyw bywydau iach, hapus a cynhyrchiol.


5.9

Byddwn yn mesur effaith ein cynnydd dan yr Amcan hwn trwy gadw golwg ar nifer o ddangosyddion allweddol. Mae rhagor o fanylion isod.

Mesurau llwyddiant

Canran y plant dan ofal ar 31 Mawrth sydd wedi cael tri lleoliad neu fwy yn ystod y flwyddyn

Adroddiad Blynyddol Swyddog Penodedig yr Awdurdod Lleol ar honiadau yn erbyn gweithwyr proffesiynol

Canran y plant dan sylw mewn ymchwiliad(au) yn erbyn gweithwyr proffesiynol lle cynhaliwyd cyfarfod strategaeth: (a) a gafodd gynnig eiriolaeth (b) a gafodd ac a fanteisiodd ar y cynnig o eiriolaeth

Canran y llythyrau canlyniad a gyhoeddwyd o fewn yr amser a bennwyd (i unigolion y gwnaed honiad yn eu herbyn) ar ôl cynnal y cyfarfod strategaeth terfynol

Canran y datganiadau terfynol o angen addysg arbennig a gyhoeddwyd o fewn 26 wythnos, gan gynnwys eithriadau

Canran y datganiadau terfynol o angen addysg arbennig a gyhoeddwyd o fewn 26 wythnos, ac eithrio eithriadau

Canran y bwlch rhwng cyrhaeddiad myfyrwyr sydd â hawl i ginio ysgol am ddim a’r rhai heb hawl ar gyfnodau allweddol 2,3 a 4

5.10 Mae amrywiaeth o gamau eraill y byddwn yn eu cymryd yn ystod 2014/15 a fydd, er nad ydynt yn uniongyrchol berthnasol i’r ddau Amcan Gwella hyn, yn cyfrannu at y canlyniad cysylltiedig yn y Cynllun Cyfun Unigol: bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael cyfle i gyflawni eu posibiliadau dysgu a byw bywydau iach a hapus. 5.11 Byddwn yn cyflwyno rhaglen ddysgu haf i blant mewn ardaloedd Rhoi Cymunedau’n Gyntaf er mwyn helpu lleihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant mewn cylchoedd difreintiedig a gweddill Sir Benfro. Bydd y rhaglen yn tynnu ar sgiliau pobl sy’n gweithio i’n Hadran Addysg yn ogystal â’r rhai sy’n gweithio mewn llyfrgelloedd.

22

Targed 2014/15 10%

Adroddiad wedi’i gyhoeddi 100% 30% 100% 80% 80% Cyfnod Sylfaen - 12% CA2 - 14% CA3 - 27% CA4 - 27%


5.12 Byddwn yn dal i ddatblygu ac ehangu cwmpas Rhaglen Dechrau’n Deg trwy greu darpariaeth newydd ar gyfer gwasanaethau yn Aberdaugleddau. Byddwn hefyd yn gorffen y gwaith rhagarweiniol sydd ei angen i ddarparu mwy o wasanaethau ym Mhont Fadlen yn 2015/16. Er mwyn ysbrydoli sut fydd y gwasanaethau newydd hyn yn gweithio, byddwn yn comisiynu ymchwil i gloriannu effaith Rhaglen bresennol Dechrau’n Deg, seiliedig yn Noc Penfro. 5.13 Byddwn yn ad-drefnu ein gwasanaeth dysgu yn y gymuned er mwyn ystyried gostyngiadau ariannol. Byddwn yn dal i roi hyfforddiant sgiliau ac ymgysylltu. Byddwn yn gwella sut ydym yn ymwneud â chwsmeriaid er mwyn cynnal safonau a chael y canlyniadau gorau oll. 5.14 Byddwn yn meithrin gallu ein hysgolion prif ffrwd er mwyn sicrhau bod cymorth arbenigol ar gael i staff trwy ledaenu rhaglen hyfforddi Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd Tîm o Gwmpas y Disgybl, Rhiant ac Ysgolion (TAPPAS) sydd newydd ei sefydlu yn hwyluso cymorthfeydd galw heibio ar gyfer ysgolion a rhieni. 5.15 Byddwn yn sefydlu rhaglen sicrhau ansawdd yn holl ysgolion y Sir er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cyflawni’r canlyniadau gorau oll.

23


6. Yr Economi AMCAN GWELLA 3

Gwella canol trefi

Byddwn yn galluogi, hwyluso a chyflawni cynlluniau i wella hyfywedd a bwrlwm canol ein trefi

6.1. Mae economi Sir Benfro’n adlewyrchu ei daearyddiaeth ymylol, gyda chyflogau a safon sgiliau’n tueddu i fod yn is nag mewn mannau eraill. Cafodd economi Sir Benfro gymorth datblygiadau yn y sector ynni yn ystod y degawd aeth heibio. Mae ansicrwydd yn dal ynghylch gobeithion economi Sir Benfro, fel ynghylch economi’r DU gyfan. Fodd bynnag, mae amryw ffactorau, fel ychydig o ostyngiad mewn diweithdra ac ychydig o gynnydd mewn cyflogau, yn creu darlun mwy cadarnhaol nag mewn blynyddoedd blaenorol. 6.2. Dewiswyd yr Amcan hwn y llynedd oherwydd bod Sir Benfro’n sir wledig lle mae canol trefi’n chwarae rhan hollbwysig fel canolfannau gwasanaeth a chyrchfannau ymwelwyr. Rydym wedi dechrau ar raglen waith i wella canol chwe phrif dref Sir Benfro. Mae ein Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Economi’n cadw golwg ar gynnydd ein cynllun gweithredu trosfwaol. Roeddem bob amser wedi rhagweld y byddai hon yn rhaglen waith tymor canolig i hir ac, o ganlyniad, rydym wedi penderfynu cadw hyn fel Amcan ar gyfer 2014/15.

24


6.3. Gwella Canol Trefi oedd y dewis mwyaf poblogaidd o Amcan Gwella yn yr ymgynghori a wnaethom. Cawsom nifer cymharol fawr o sylwadau manwl ynghylch y maes hwn. Roedd y sylwadau hyn yn cwmpasu llawer ac yn cynnwys awgrymiadau fel ehangu dewis y cynnig adwerthu, gwella parcio a lleihau nifer y siopau elusen. Nododd rhai pobl faint yr her sy’n ein hwynebu wrth geisio gwella canol ein trefi, gan sôn am gystadleuaeth o ganolfannau eraill ac adwerthu ar-lein. 6.4

Rydym wedi pennu deg o gamau gweithredu i ni ein hunain dan yr Amcan hwn:

• Cynorthwyo cyflawni’r chwe chynllun gweithredu ‘tîm tref’ gyda chanolbwynt ar brosiectau marchnata, amgylcheddol ac economaidd. • Cefnogi datblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer trefi haen 2. Bydd hyn yn cael ei gyflawni ar y cyd â PLANED, menter gymdeithasol leol. • Dechrau cyflawni rhaglen Menter Treftadaeth Trefwedd yn Hwlffordd. • Sicrhau cyllid allanol ar gyfer cyflawni amrywiaeth o brosiectau a rhaglenni i adfywio’r chwe phrif dref. • Cwblhau prosiectau adfywio adeileddol gyda chyllid yr UE ym Mhenfro a Doc Penfro. • Penodi datblygwyr dethol ar gyfer safle Ysgol Abergwaun. • Gweithredu Cynllun Gostwng Ardrethi newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer eiddo adwerthu. • Cefnogi’r cais Cyfnod 2 i raglen ‘Syniadau: Pobl: Lleoedd’ Cyngor Celfyddydau Cymru / Y Loteri Genedlaethol ar gyfer Hwlffordd. • Gweithio gyda datblygwyr i ddwyn ymlaen cynlluniau adwerthu a hamdden yn Aberdaugleddau a Hwlffordd. • Cefnogi datblygu marchnadoedd canol trefi.

6.5

Effaith cyflawni’r Amcan Gwella hwn fydd cadw mwy o wariant adwerthu o fewn yr economi lleol, cynhyrchu mwy o gyfleoedd cyflogaeth a chanol trefi’n dod yn fwy bywiog.

6.6

Byddwn yn mesur ein cynnydd mewn cysylltiad â’r Amcan hwn trwy gadw golwg ar nifer o ddangosyddion perfformiad. Y blaenaf o’r rhain fydd cyfradd siopau gwag yng nghanol ein trefi3.

Cynhwyswyd gwybodaeth am siopau gwag ynghanol trefi yn ystod 2012 yng Nghynllun Gwella'r Llynedd. Nid yw’r data yng Nghynllun eleni’n cymharu. Cyfrifwyd hwy ar yr ardal a ddiffiniwyd fel canol y dref yng Nghynllun Datblygu Lleol 2013. Cyfrifwyd data ar gyfer 2012 a blynyddoedd blaenorol ar yr ardal a ddiffiniwyd fel canol y dref yng Nghydgynllun Datblygu Unedol 2006. Yn gyffredinol, mae’r ardaloedd sy’n cael eu diffinio bellach fel canol trefi’n llai 3

25


2013 Cyfradd Wacter 30%

25%

20%

15%

10%

5%

0% Abergwaun

Hwlffordd

Aberdaugleddau

Arberth

Penfro

Penfro Doc

Mesurau llwyddiant

Dinbych-y-pysgod

Targed 2014/15

Cadw golwg ar siopau gwag ynghanol trefi

Nifer y cynlluniau datblygu trefol haen 2 a orffennwyd (gan PLANED)

Cyfradd gwacter yn aros yn sefydlog neu’n gwella 4

Canran y grant Menter Treftadaeth Trefwedd a wariwyd yn Hwlffordd yn ystod 2014/15 (blwyddyn 1 y rhaglen) Cyllid adfywio a sicrhawyd

£1 miliwn

Manteisio ar ryddhad ardrethi busnesau adwerthu

6.7

8%

Mesur faint sy’n manteisio4

Yn ogystal â’r mesurau llwyddiant a ddisgrifiwyd uchod, byddwn hefyd yn dal i fireinio ein hagwedd at feincnodi perfformiad canol trefi. Mae ein Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Economi wedi ffurfio corff o wybodaeth arbenigol ar wella canol trefi ac mae wedi ymrwymo i gynhyrchu adroddiad arolygu blynyddol ar berfformiad canol trefi, fydd yn cael ei drafod yn chwarter cyntaf 2014/15. I gefnogi hyn byddwn yn trefnu cynhadledd a gweithdai canol trefi (gyda siaradwyr gwadd ac arbenigwyr adwerthu) i hwyluso meincnodi ac arloesi. 2014/15 yw blwyddyn gyntaf cynllun rhyddhad ardrethi busnesau adwerthu. Yn hytrach na phennu targed, byddwn yn cadw golwg ar faint sy’n manteisio er mwyn sefydlu’r man cychwyn ar gyfer gallu nodi targedau ar gyfer y dyfodol.

4

26


6.8

Mae amrywiaeth o gamau eraill y byddwn yn eu cymryd yn ystod 2013/14 a fydd, er nad ydynt yn uniongyrchol berthnasol i’r Amcan Gwella hwn, yn cyfrannu at y canlyniad allweddol cysylltiedig a nodwyd yn y Cynllun Cyfun Unigol: bod gan Sir Benfro economi cystadleuol, cynhyrchiol a chynaliadwy.

6.9

Byddwn yn cefnogi lledaenu cymalau mantais gymunedol. Byddwn yn gwneud hyn trwy: ffurfioli defnyddio cymalau o’r fath; datblygu peirianwaith i nodi prosiectau addas; a chynyddu nifer y contractau lle defnyddiwyd cymalau manteision cymunedol.

6.10 Byddwn yn cefnogi a hwyluso datblygu Canolfan Ragoriaeth Aber Cleddau fel cyfleuster hyfforddi unswydd ar gyfer y sector ynni. Cysyniad dan arweiniad busnes yn cael ei hyrwyddo trwy Fwrdd Ardal Fenter Aber Cleddau yw hwn. Rhagwelwn y bydd y cyfleuster yn cael ei leoli i ddechrau yng Nghanolfan Arloesi’r Bont. 6.11 Byddwn yn dal i hyrwyddo, marchnata a gwared safleoedd datblygu allweddol er mwyn hwyluso datblygiad economaidd yn y Sir. Enghreifftiau o adeiladau gwag sydd yn ein meddiant yw Ysgol Iau Abergwaun, Ysgol Arberth, Cei Deheuol Penfro a’r Archifdy yng Nghastell Hwlffordd.

27


7. Yr Amgylchedd AMCAN GWELLA 4

Rheoli gwastraff

Byddwn yn dal i gynyddu cyfran y gwastraff sy’n cael ei ailgylchu er mwyn lleihau faint o wastraff sy’n cael ei anfon i dirlenwi.

7.1. Fel ym mhobman, mae amgylchedd Sir Benfro’n wynebu heriau sylweddol. Un o’r mwyaf allweddol o’r rhain yw’r perygl bod ein hinsawdd yn dod yn llai rhagweladwy ac yn fwy eithafol. Tra bo llawer o’r ffactorau sy’n debygol o gyfrannu at newid yn yr hinsawdd y tu hwnt i’n rheolaeth uniongyrchol, mae modd mynd i’r afael â rhai ffactorau perygl yn lleol; yn enwedig y rhai sy’n berthnasol i sut ydym yn rheoli’r gwastraff a gynhyrchwn. 7.2. Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targedau anodd ar leihau gwastraff sy’n rhaid eu cyrraedd er mwyn osgoi dirwyon sylweddol. Er bod canran y gwastraff a ailddefnyddiwn neu a ailgylchwn wedi cynyddu’n sylweddol – erbyn hyn rydym yn ailgylchu neu’n ailddefnyddio dros 60% o wastraff cartref, cynnydd o fwy na 75% yn ystod y chwe blynedd diwethaf – mae’r targedau sydd angen i ni eu cyrraedd yn y blynyddoedd a ddaw yn aros yn rhai anodd.

28


7.3. Dewiswyd yr Amcan hwn oherwydd na fydd hawl tirlenwi gwastraff yn yr hirdymor. Mae gwastraff tirlenwi’n rhyddhau nwyon tŷ gwydr niweidiol. Mae targedau Llywodraeth Cymru’n dod yn anoddach; mae angen i ni ddal i ganolbwyntio ar y maes hwn i sicrhau cyrraedd y targedau. 7.4. Gwnaeth ymatebwyr i’n hymgynghori nifer o sylwadau mewn cysylltiad â’r Amcan hwn, y rhan fwyaf ohonynt yn ymwneud â chyflwyno casglu sachau du bob pythefnos yn ddiweddar. Roedd yr un nifer o bobl yn cefnogi’r polisi hwn ag yn ei wrthwynebu. Dywedodd rhai pobl y dylem ystyried atebion eraill ar gyfer cadw gwastraff. Barn pobl eraill oedd y dylem ehangu’r mathau o ddeunyddiau a ailgylchwn, yn ogystal â gwella’r hysbysrwydd a roddwn i beth ellir ei ailgylchu. 7.5. Ni thynnodd ymatebwyr i’n hymgynghori sylw at faterion amgylcheddol ehangach fel datblygu cynaliadwy neu newid yn yr hinsawdd, er bod y materion hyn yn cael sylw helaeth yng Nghynllun Cyfun Unigol Sir Benfro. 7.6. Rydym wedi pennu pedwar o gamau gweithredu i ni ein hunain dan yr Amcan hwn: • Cadw golwg ar effaith casglu sachau du bob pythefnos i nodi blaenoriaethau ar gyfer canolbwyntio ymdrechion i annog cwsmeriaid i ailgylchu cyfran uwch o’u gwastraff. • Targedu gwaith cynghorwyr ailgylchu yn dilyn cyflwyno casgliadau sachau du bob pythefnos i annog newid ymddygiad yn y rhai sy’n ailgylchwyr gwael ar hyn o bryd. • Cadw golwg ar effaith cyflwyno ailgylchu ar gyfer ffrydiau deunydd ychwanegol i ategu cyflwyno casglu bob pythefnos. • Datblygu fframwaith caffael ar gyfer ffyrdd eraill o wared gwastraff gweddilliol, ar gael i awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.

29


7.7

Effaith cyflawni’r Amcan Gwella hwn fydd lleihau faint o wastraff sy’n cael ei anfon i dirlenwi, gan ostwng effeithiau negyddol ar yr amgylchedd drwy hynny a gwneud cyfraniad at ostwng costau.

7.8

Byddwn yn mesur ein cynnydd mewn cysylltiad â’r Amcan hwn trwy gadw golwg ar nifer o ddangosyddion allweddol. Mae un o’r rhain yn arbennig o bwysig; cyfanswm gwastraff pydradwy sy’n cael ei anfon i dirlenwi. Dyma’r mesur fyddai’n cael ei ddefnyddio i gyfrifo’r dirwyon arnom pe byddem yn methu cyrraedd ein targedau.

Tunelli o wastraff pydradwy sy'n cael ei anfon i dirlenwi 40000

35000

30000

25000

20000

15000

10000

5000

0 2006/07

2007/08

2008/09 Targed

2009/10

2010/11

2011/12

2012/13

2013/14

2014/15

2015/16

Gwir (amcangyfrif yn 2013/14) dunelli o Wastraff Trefoi Pydradwy

Mesurau llwyddiant

Tunelli o wastraff pydradwy sy’n cael ei anfon i dirlenwi

Canran y gwastraff trefol a gasglwyd sy’n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio Canran y gwastraff trefol sy’n cael ei anfon i dirlenwi Cyfradd gyfranogi mewn ailgylchu

Canran y cwsmeriaid sy’n dweud du bod yn fodlon ar wasanaeth ailgylchu’r Cyngor

30

Targed 2014/15 17,837 60% 40% 72% 70%


7.9

Mae amrywiaeth o gamau eraill y byddwn yn eu cymryd yn ystod 2014/15 a fydd, er nad ydynt yn uniongyrchol berthnasol i’r Amcan Gwella hwn, yn cyfrannu at y canlyniad allweddol cysylltiedig yn y Cynllun Cyfun Unigol: bod pobl Sir Benfro’n mwynhau amgylchedd deniadol, cynaliadwy ac amrywiol.

7.10 Er mwyn rhoi sylw i broblemau sy’n deillio o ymledu chwyn ymosodol fel Clymog Japan, byddwn yn gwella’r wybodaeth ar ein gwefan ynghylch sut y deliwn â’r chwyn hyn, ynghyd â darparu sianelau ychwanegol i gwsmeriaid hysbysu presenoldeb Clymog. 7.11 Achosodd stormydd mis Ionawr 2014 lifogydd a difrodwyd amddiffynfeydd arfordirol ar draws Sir Benfro. Yn ystod 2014/15, byddwn yn mabwysiadu a chymhwyso strategaeth ar reoli perygl llifogydd lleol i ategu adolygiad Llywodraeth Cymru o stormydd y gaeaf ar yr arfordir. Rydym eisoes wedi casglu toreth o wybodaeth berthnasol i ysbrydoli’r gwaith hwn (cofnodion a data llifogydd hanesyddol o’r gorsafoedd carthion a phwmpio a weithredwn). Bydd y strategaeth o gymorth inni gynllunio ar gyfer llifogydd y dyfodol. 7.12 Byddwn yn dal i ddatblygu ac adeiladu llwybrau ar gyfer cerdded a beicio. Bydd y rhain yn cynorthwyo inni gyflawni ein dyletswydd i ddarparu rhwydwaith o lwybrau ar gyfer teithio llesol dan Fesur Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. Fe all y gwaith hwn leihau defnyddio ceir ac allyrru nwyon tŷ gwydr cysylltiedig â chludiant, yn ogystal â gwella iechyd pobl.

31


8. Iechyd AMCAN GWELLA 5

Ad-drefnu Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Oedolion Byddwn yn ad-drefnu darpariaeth ein gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion er mwyn gwella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd.

8.1

Mae disgwyliad einioes yn gwella yn Sir Benfro ac mae’n agos at gyfartaledd Cymru. Fodd bynnag, mae gwahaniaeth mewn disgwyliad einioes rhwng y cylchoedd difreintiedig ac eraill yn Sir Benfro (yn enwedig nifer y blynyddoedd y gall rhywun ddisgwyl byw yn iach). Oherwydd y cynnydd mewn disgwyliad einioes, mae mwy o alw am wasanaethau gofal cymdeithasol.

8.2

Mae’r Amcan Gwella a nodwyd gennym ar gyfer y maes hwn yn canolbwyntio ar sut fyddwn yn sicrhau bod cost darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion o safon yn aros yn fforddiadwy. Mae’r Amcan yn barhad o’r gwaith a ddechreuwyd gennym y llynedd. Rydym yn dewis yr Amcan hwn oherwydd bod gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion o safon yn hanfodol i ansawdd bywyd ein cwsmeriaid. Mae nifer y bobl hŷn sy’n byw yn Sir Benfro’n cynyddu’n gyflym. Bydd angen i batrymau presennol cyflenwi gwasanaethau addasu er mwyn ateb y cynnydd hwn mewn galw. Rydym yn gwneud cynnydd; nid ydym yn rhagweld y byddwn yn gorwario ein cyllideb gofal oedolion yn 2013/14.

32


8.3

Roedd rhyw dri chwarter yr ymatebwyr i’n hymgynghori’n cytuno y dylai gofal cymdeithasol oedolion fod yn Amcan Gwella. Roedd tua hanner y sylwadau a gawsom yn awgrymu y dylem naill ai wella’r gwasanaethau a ddarparwn neu sicrhau y cânt eu darparu i gyfran uwch o bobl. Barn tua thraean yr atebwyr oedd bod safon y gwasanaeth a ddarparwyd fwy neu lai’n gywir. Roedd rhai o’r sylwadau mwy cyffredinol a gawsom yn ymwneud â’r gwasanaeth iechyd, gan gynnwys sylwadau ar ddarparu gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro yn y dyfodol.

8.4

Rydym wedi pennu saith o gamau gweithredu i ni ein hunain dan yr Amcan hwn: • Mewnosod y strwythur rheoli newydd yn y gwasanaeth gweithredol gofal oedolion gan sicrhau ei fod yn canoli ar bobl ac yn gwneud y defnydd gorau o sgiliau’r staff wrth gael arbediadau ariannol. • Datblygu’r canolbwynt comisiynu ar y cyd fydd yn adlewyrchu ein blaenoriaethau ac yn cyflawni ansawdd a gwerth am yr arian. • Adolygu ein holl gontractau cyfredol gyda’r sectorau annibynnol, cymunedol a gwirfoddol i sicrhau eu bod yn berthnasol yn strategol. • Gwneud i adolygiad o gyfleoedd gofal dydd i sicrhau fod gennym y patrymau cymorth cywir yn bodoli. • Ailgynnig contractau gofal cartref i gynnwys y gwasanaeth ailalluogi mewnol. • Datblygu cynigion ar ein Polisi Codi Tâl Tecach. • Datblygu cynigion ar ein darpariaeth breswyl fewnol.

8.5

Effaith cyflawni’r Amcan Gwella hwn fydd bod cyfran uwch o’r cwsmeriaid hynny sy’n derbyn cymorth byw mewn mannau sy’n briodol i’r gofal sydd arnynt ei angen, gan wella ansawdd eu bywydau drwy hynny. Bydd mwy o bobl yn cael cymorth yn eu cymunedau ac yn gallu helpu eu hunain. Bydd costau llawn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion yn dod yn fwy cynaliadwy.

8.6

Byddwn yn mesur ein cynnydd mewn cysylltiad â’r Amcan hwn trwy gadw golwg ar nifer o ddangosyddion perfformiad. Un o’r mwyaf arwyddocaol o’r mesurau hyn yw faint o arian a wariwn ar ofal cymdeithasol oedolion. Dengys y graff isod yr arbedion a ragwelwyd gennym os yw’r camau a gymrwn yn llwyddiannus.

33


Gwariant ar Ofal Cymdeithasol Oedolion (£ miloedd) £55,000

£50,000

£45,000

£40,000

£35,000

£30,000

£25,000

£20,000

Gwir wariant neu a ragwelir

ƌǁLJĚĚ Ž͛ƌ ĂƌďĞĚŝĂĚ ĚŝƐŐǁLJůŝĞĚŝŐ ŽƐ LJǁ͛ƌ ƉƌŽƐŝĞĐƚ LJŶ ůůǁLJĚĚŽ

Mesurau llwyddiant

Targed 2014/15

Arbed arian ac aros o fewn y gyllideb

Canran y gostyngiad mewn oriau gofal cartref cynlluniedig cwsmeriaid sydd wedi gorffen cyfnod o ailalluogi

Canran y cleientiaid llawn oed sy’n cael eu cefnogi yn y gymuned yn ystod y flwyddyn

Cyfradd y bobl 65 oed neu hŷn sy’n cael cymorth yr awdurdod mewn cartrefi gofal

Cyfradd yr oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o boblogaeth 75 oed neu hŷn (gweithio ar y cyd â GIG)

Mae’r bobl hynny a holiwyd yn yr arolwg barn yn cytuno bod ansawdd eu bywyd wedi gwella drwyddo draw, gan fod y gwasanaeth y maent wedi’i dderbyn wedi gwella pethau ar eu cyfer

8.7

Dim gorwariant ar gyllideb 2014/15 45% 90% 16 y mil 0.5 y mil 94%

Mae amrywiaeth o gamau eraill y byddwn yn eu cymryd yn ystod 2014/15 a fydd, er nad ydynt yn uniongyrchol berthnasol i’r Amcan Gwella, yn cyfrannu at y canlyniad allweddol cysylltiedig a nodwyd yn y Cynllun Cyfun Unigol: bod pobl Sir Benfro’n iachach.

34


8.8

Byddwn yn gweithio’n fwy cydweithredol ac mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill gan gynnwys iechyd, y sectorau gwirfoddol ac annibynnol, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr. Byddwn yn mynd ar drywydd y cyfle hwn er mwyn defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru’n effeithiol ar gyfer Gofal Canolraddol. Bydd y gronfa hon yn helpu i ni ddatblygu ein gwasanaethau adsefydlu a galluogi, adeiladu ar arferion da, sicrhau gwerth am yr arian ac adlewyrchu arweiniadau seiliedig ar dystiolaeth i roi’r annibyniaeth fwyaf i bobl.

8.9

Er mwyn annog pobl i fod yn fwy egnïol, byddwn yn ailwampio Canolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod ac yn ymestyn blaen yr adeilad er mwyn creu campfa fwy ac ystafell gymunedol newydd. Mae’r prosiect i’w orffen erbyn mis Mawrth 2015. Byddwn hefyd yn gorffen ailddatblygu safle Pwll Neyland i ddarparu cyfleusterau newid ar gyfer y lleiniau chwaraeon cyfagos.

8.10 Byddwn yn datblygu canolbwynt iach yn Llyfrgell Doc Penfro trwy dynnu casgliad o lyfrau a deunyddiau eraill ynghyd ar iechyd a ffyniant. Bydd y gwasanaeth hwn yn ychwanegiad at ein cynllun llyfrau ar bresgripsiwn presennol, sy’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth â nifer o feddygfeydd. 8.11 Mae tai o safon yn gyfrannwr allweddol at ganlyniadau iechyd da. Yn ystod 2014/15, byddwn yn gwneud paratoadau ar gyfer cyflwyno’r Mesur Tai. Byddwn hefyd yn gwneud gwell defnydd o’n hostel pobl ddigartref, nad yw’n cael ei defnyddio’n ddigonol ar hyn o bryd. Yn ogystal, byddwn yn gwneud rhagor o waith i ailosod eiddo gwag yn gyflymach. 8.12 Bydd ein Gwasanaethau Tai a Chyllid a Budd-daliadau’n gweithredu rhai o’r camau a gymrwn i fynd i’r afael â thlodi (llawer ohonynt yn cael eu nodi yn Adran 3 y Cynllun hwn). Byddwn yn datblygu protocol ar droi pobl allan o’n heiddo. Byddwn hefyd yn gweithredu cynllun newydd Budd-dal Treth y Cyngor yn ystod y flwyddyn, gyda’r bwriad o’i gyflwyno ar 1af Ebrill 2015.

35


9. Diogelu

9.1

Fel y nodwyd yn flaenorol, ein penderfyniad oedd peidio â phennu Amcan Gwella ar gyfer y maes hwn eleni. Rydym wedi gwneud cryn gynnydd mewn cysylltiad â’n trefniadau diogelu yn ystod y flwyddyn aeth heibio ac, felly, wedi penderfynu ehangu ein hymdrechion gwella i wasanaethau ar gyfer plant diamddiffyn. Nid yw hynny’n dweud nad yw diogelu’n bwysig; byddwn yn dal i fewnosod y polisïau ac arferion a sefydlwyd gennym.

9.2

Cyfran gymharol fach o ymatebwyr i’n hymgynghori oedd yn cefnogi cynnwys diogelu fel Amcan Gwella. Fe gawsom sylwadau’n nodi meysydd diogelu penodol y meddyliai atebwyr y dylem roi sylw iddynt. Roedd y rhain yn cynnwys goruchwylio rheoli honiadau yn erbyn gweithwyr proffesiynol yn ogystal â gwella sut fyddwn yn gwrando ar bobl ifanc.

36


9.3

Er nad ydym wedi pennu Amcan Gwella ar gyfer y maes hwn, mae amrywiaeth o gamau eraill y byddwn yn eu cymryd yn ystod 2014/15 fydd yn cyfrannu at y canlyniad allweddol a nodwyd yn y Cynllun Cyfun Unigol: bod plant ac oedolion yn cael eu diogelu.

9.4

Mewn partneriaeth a Sir Gâr, Ceredigion a Phowys, byddwn yn creu Bwrdd Rhanbarthol Diogelu Plant effeithiol. Bydd hwn yn bodoli o 1af Mai 2014 ymlaen. Mae creu’r Bwrdd Rhanbarthol yn un o ofynion y Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol, sy’n cael ei archwilio ar hyn o bryd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Fodd bynnag, fel holl awdurdodau eraill Cymru, rydym wedi cytuno i weithredu trefniadau newydd cyn i’r ddeddfwriaeth ddod i rym.

9.5

Byddwn yn gwella ein trefnau Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad ein Hadran Gwasanaethau Plant, gan wneud y broses hon yn fwy agored a didwyll.

9.6

Un o’r ffyrdd y byddwn yn goruchwylio gwasanaethau’n effeithiol yw trwy weithredu Strategaeth Cyfranogiad a Hawliau Pobl Ifanc, a fabwysiadwyd gennym ym mis Chwefror 2014. Mae gweithredu’r Strategaeth yn ymrwymo Sir Benfro i gadw at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC).

9.7

Byddwn yn datblygu Arweiniad Arferion Da Diogelu Adnoddau Dynol mewn Cyflogaeth Cymru Gyfan. Dyma un o’r camau y cytunwyd eu gweithredu yn dilyn ymweliad arolygu diwethaf Estyn â’r Cyngor, er mwyn lledaenu rhai o’r arferion da a fabwysiadwyd gennym i awdurdodau lleol eraill Cymru.

9.8

Byddwn yn rhoi sylw i fater denu a dal gafael ar weithwyr cymdeithasol sydd, yn hanesyddol, wedi arwain at ddibynnu gormod ar staff asiantaeth. Byddwn yn dal i ddatblygu ein hagwedd at hyfforddi gweithwyr cymdeithasol a gweithredu proses i nodi a chofrestru gweithwyr cymdeithasol i ddilyn rhaglenni Ymarferydd Profiadol ac Uwch-ymarferydd y Cyngor Gofal. Byddwn hefyd yn gwella cysondeb cynefino’r gweithlu gofal cymdeithasol.

37


10. Diogelwch

10.1 Sir Benfro yw un o’r mannau mwyaf diogel i fyw yn y Deyrnas Unedig, gydag ychydig iawn o drosedd ac anhrefn mewn cymhariaeth ag ardaloedd eraill. Ar waethaf bod ychydig o droseddau cofnodedig, mae ofn trosedd yn dal i beri cryn bryder i rai trigolion. 10.2 Mae gweithgaredd i hyrwyddo diogelwch cymunedol yn dibynnu’n drwm ar weithio ar y cyd. Yr Heddlu, yn hytrach na ni ein hunain, sy’n darparu mwyafrif y gwasanaethau perthnasol. Dylanwadwyd ar sut mae sefydliadau’n cydweithio i ddelio â diogelwch cymunedol trwy greu Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd. 10.3 Cadarnhaodd canlyniadau ein hymgynghori bod diogelwch cymunedol yn fater pwysig i drigolion lleol. Gwnaeth llai o bobl sylwadau penodol ar hyn fel Amcan Gwella posibl. Ein penderfyniad oedd peidio â phennu Amcan Gwella ar gyfer y maes hwn. Seiliwyd y penderfyniad hwn ar ein gwybodaeth mai ychydig iawn o droseddau cofnodedig sydd yn Sir Benfro. 10.4 Er nad ydym wedi pennu Amcan Gwella ar gyfer y maes hwn, mae amrywiaeth o gamau eraill y byddwn yn eu cymryd yn ystod 2014/15 fydd yn cyfrannu at y canlyniad allweddol a nodwyd yn y Cynllun Cyfun Unigol: bod cymunedau Sir Benfro’n teimlo’n ddiogel.

38


10.5 Er enghraifft, byddwn yn dal i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y cyfle cyntaf. Byddwn yn darparu gwasanaethau atal ar gyfer pobl ifanc i gynorthwyo lleihau’r niferoedd sy’n cael eu hunain yn nhrefn cyfiawnder troseddol. Byddwn yn dod â’n Tîm Troseddau Ieuenctid a’n Gwasanaeth Ieuenctid yn nes at ei gilydd a thargedu ein hadnoddau ar y rhai mwyaf anghenus. Bydd ein pwyslais presennol ar atal yn cael ei atgyfnerthu trwy ehangu cwmpas ein gwaith ar roi cymorth i bobl ifanc nad ydynt yn dilyn addysg na hyfforddiant, nac mewn cyflogaeth. 10.6 Arweiniad arall y byddwn yn mynd ar ei drywydd i leihau troseddu fydd gweithredu trefn frysbennu ar gyfer y rhai sy’n dod i drefn cyfiawnder troseddol am y tro cyntaf. Bydd dewis llawer ehangach o ymyriadau ar gael i asiantaethau, yn ogystal â dewis dwyn cyhuddiadau troseddol. 10.7 Er mwyn rhoi sylw i ymddygiad pobl sy’n troseddu’n rheolaidd, byddwn yn gweithio trwy fframwaith amlasiantaethol i sicrhau bod ymyriadau’n gydgysylltiedig. Byddwn hefyd yn mynd ar drywydd ffyrdd eraill o leihau cyfraddau aildroseddu, fel gweithio gyda phartneriaid ar draws ardal yr Heddlu ar brosiect cyfiawnder adferol rhanbarthol. 10.8 Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau cyfagos i gyflwyno gwasanaethau camddefnyddio sylweddau mwy cydnerth. Byddwn yn gweithio gydag ysgolion ar gyflwyno addysg berthnasol. Hwn yw’r unig awdurdod lleol yng Nghymru i’w ddewis fel ardal weithredu leol ar alcohol; cydnabyddiaeth o’n hanes o weithio gyda’r diwydiant trwyddedu ac eraill i ysgafnhau baich niwed alcohol cysylltiedig ag iechyd. Byddwn yn cael cymorth a gwybodaeth arbenigol ychwanegol o’r Swyddfa Gartref, yr Adran Iechyd, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu ein gwaith yn y maes hwn. 10.9 Byddwn yn dal i gefnogi fframwaith diogelwch ar ffyrdd Cymru ac yn gweithredu cynlluniau llwybrau mwy diogel er mwyn lleihau perygl gwrthdrawiadau ar ein ffyrdd. Caiff hyn ei gyflawni trwy ddal i gyflwyno rhaglenni addysg a hyfforddiant, yn ogystal â thrwy weithredu cynlluniau penodol diogelwch ar y ffyrdd.

39


11. Ein Cynllun Ariannol Tymor Canolig

11.1 Mae’r Cynllun hwn yn nodi’r meysydd gwasanaeth hynny lle byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion gwella yn ystod y flwyddyn a ddaw. Rydym bob amser wedi ceisio cael gwelliant cynyddol ar draws ein holl wasanaethau, ond rhaid gweld yr ymrwymiad hwn yng nghyd-destun ein cyllideb ostyngol at ei gilydd. 11.2 Cyn haf 2013, roeddem wedi rhagweld gorfod arbed tua £7 miliwn yn ystod y cyfnod 1af Ebrill 2014 i 31ain Mawrth 2016. Fodd bynnag, ym mis Mehefin y llynedd cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai awdurdodau lleol Cymru’n derbyn setliadau grant llai yn y dyfodol. O ganlyniad i’r gostyngiad hwn, ac effaith pwysau cyflogau, prisiau a demograffeg, rydym wedi adolygu ein targed arbedion i £20 miliwn, i’w gyflawni yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Er mwyn mantoli ein cyllideb a dal i gyflenwi gwasanaethau lleol o safon, bydd angen i ni arbed arian neu greu incwm o ryw £12.9 miliwn yn ystod 2014/15. 11.3 Ni fydd modd cyflawni’r arbedion hyn heb gael rhywfaint o effaith ar wasanaethau rheng flaen. Ein huchelgais yw cyflawni mwyafrif yr arbedion gofynnol trwy ganolbwyntio ar gomisiynu a chaffael mwy effeithiol, trwy reoli swyddi gwag yn fwy effeithiol a thrwy leihau costau gweithredol. Isod mae dadansoddiad lefel uchel o ble’r ydym yn bwriadu lleihau ein gwariant yn 2014/15, ynghyd â’n cyllideb gwariant clir ar gyfer 2014/15.

40


Lleihau Costau

Newidiadau Gwasanaeth Uniongyrchol

Newidiadau Gwasanaeth a Gweithredol a wnaed eisoes yn ystod 2013/14 Effeithlonrwydd / Gostyngiadau Cost

£m

4.6

2.3

3.5

1.0

Rheoli Swyddi Gwag

11.4

Treth y Cyngor – Incwm Ychwanegol

Cyfanswm Gostyngiadau Cost – 2014/15

1.5

£12.9

Cyllideb Gwariant Net 2014/15 2013/14 Gwariant Clir Addasdig £000’s 88,426

14,049

CRYNODEB Gwasanaethau Addysg

Gofal Cymdeithasol – Plant

2014/15 Amcangyfrif o’r Gwariant Clir £000’s 88,641

14,100

43,613

Gofal Cymdeithasol – Gwasanaethau Oedolion

42,482

10,449

Gwasanaethau Priffyrdd a Chludiant

8,814

1,697

Gwasanaethau Tai

1,487

8,540

Diwylliant a Gwasanaethau Cysylltiedig

13,199

Gwasanaethau Amgylcheddol

12,016

2,835

Gwasanaethau Canolog, Corfforaethol a Democrataidd Eraill

4,337

-

Rheoli Swyddi Gwag

3,116

6,990 179

193,093

Cynllunio

Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor Gwasanaethau Llys

7,695

2,310

7,536 198

(1,000)

CYFANSWM CYLLIDEBAU GWASANAETHAU

188,616

(792)

Incwm Clir o Fuddsoddiad

(400)

211,845

GOFYNIAD CYLLIDEB Y CYNGOR

7,029

12,515

Ardollau

Costau Codi Cyfalaf

41

6,952

12,069

207,237


11.4 Rydym wedi ceisio blaenoriaethu gwariant ar y gwasanaethau hynny a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni’r Amcanion a ddisgrifiwyd yn y Cynllun hwn. Er enghraifft, rydym wedi ceisio gwarchod gwariant ar ein hysgolion ac yn ein Cyfarwyddiaeth Plant ac Ysgolion. Fel canran, mae’r Gyfarwyddiaeth (gan gynnwys ysgolion) yn cyfrif am 49.6% o wariant clir y Cyngor at ei gilydd. Yn y flwyddyn a ddaw, bydd y Gyfarwyddiaeth yn darparu gwasanaethau o fewn cyllideb glir a gynyddwyd ychydig ar y cyfan, ar ôl caniatáu cynnydd ar gyfer cyflogau a phrisiau, ac ar ôl lleihau costau. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith ein bod wedi nodi dau Amcan Gwella i’w cyflawni gan y Gyfarwyddiaeth, cysylltiedig â gwella ysgolion a phlant diamddiffyn. 11.5 Maes mwyaf arwyddocaol ond un ein cyllideb fel canran o wariant yw ein Cyfarwyddiaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion. Mae’r Gyfarwyddiaeth yn cyfrif am 20.5% o’n gwariant at ei gilydd. Yn ystod 2014/15, ar ôl caniatáu am gynnydd mewn cyflogau a phrisiau a phwysau demograffig, ac ar ôl lleihau costau, bydd arbediad clir o £1.1 miliwn yn cael ei gyflawni, sef gostyngiad o 2.6%. Eto, mae hyn yn adlewyrchu’r Amcan Gwella a nodwyd yn y Cynllun hwn i adolygu ein gwasanaethau Gofal Oedolion. Yn yr achos hwn, lluniwyd ein Hamcan Gwella i gynorthwyo inni leihau gwariant, gyda golwg ar sicrhau bod y gwasanaethau a ddarparwn yn gost-effeithiol a chynaliadwy yn yr hirdymor. 11.6 Mae ein dau Amcan Gwella terfynol yn berthnasol i reoli gwastraff a gwella canol trefi. Rhoddwyd blaenoriaeth i’r meysydd hyn hefyd yn ein cyllideb; ni fyddwn yn ceisio gwneud arbedion ar ben y rhai fydd yn cael eu cyflawni drwy’r gwelliannau a nodwyd yn ystod y flwyddyn a ddaw. Fodd bynnag, bydd angen arbed arian yn rhywle arall yng nghyllidebau ein Cyfarwyddiaethau Cludiant, Tai a’r Amgylchedd a Datblygu. 11.7 Mae gwariant clir Cludiant, Tai a’r Amgylchedd yn cyfrif am 10.8% o wariant y Cyngor at ei gilydd. Ar ôl caniatáu cynnydd mewn cyflogau a phrisiau, ac ar ôl lleihau costau, rydym yn bwriadu cyflawni arbediad clir o £3.0 miliwn yn y maes hwn yn ystod 2014/15; gostyngiad o 11.9%. Mae cynllunio, diwylliant a gwariant ar wasanaethau cysylltiedig yn cyfrif am 4.8% o’n gwariant clir at ei gilydd. Yn ystod 2014/15, ar ôl caniatáu cynnydd mewn cyflogau a phrisiau, ac ar ôl lleihau costau, rydym yn bwriadu cyflawni arbediad clir o £1.7 miliwn yn y maes hwn; gostyngiad o 14.2%. 11.8 Yn ogystal â’r arbediadau a ddisgrifiwyd uchod, rydym yn ymrwymo i arbed £1.1 miliwn o ffynonellau eraill yn ystod y flwyddyn a ddaw. Mae rhagor o wybodaeth am yr arbedion hyn, a dadansoddiad mwy manwl o’r arbedion penodol i wasanaeth a grybwyllwyd uchod, ar gael ar ein gwefan www.sir-benfro.gov.uk.

42


12. Cyflwyno adroddiadau 12.1 Nid yw cynllunio gwelliant yn dod i ben gyda gweithredu. Fel y nodwyd yn y cyflwyniad i’r Cynllun hwn, mae’n broses gylchol o adolygu a diwygio ein cynlluniau’n gyson yng ngoleuni’r amgylchiadau newidiol y gweithiwn danynt. 12.2 Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn cyhoeddi ein Hadolygiad Gwelliannau. Bydd y ddogfen hon yn disgrifio, yn fras, a gyflawnwyd yr Amcanion a bennwyd i ni ein hunain am 2014/15 neu beidio. Bydd yn cynnwys tystiolaeth bwysig fel ystadegau perfformiad ac adroddiadau gwaith ar gwblhau prosiectau. Mae’n gyfle i ni asesu ein perfformiad ein hunain a rhannu’r cloriannu hwnnw gyda’n cwsmeriaid a rheolyddion. Bydd y ddogfen hon hefyd yn rhoi adroddiad eto ar ein hamcanion cydraddoldeb ar gyfer y flwyddyn honno. 12.3 Mae’r Adolygiad Gwelliannau hefyd yn cynorthwyo inni gynllunio ein gweithgaredd at y dyfodol. Mae’n helpu i ni sefydlu a ydym yn delio â’r materion cywir neu beidio ac a ydym yn mynd o gwmpas hyn yn y ffordd iawn. 12.4 Yn olaf, bydd y drefn adolygu’n rhoi cyfle arall i ni feddwl am y sylwadau a gawsom oddi wrth unigolion a grwpiau cymunedol. Rydym bob amser yn barod i dderbyn sylwadau ar ein hamcanion; rydym wedi cynnwys ein manylion cysylltu ar dudalen gyntaf y cynllun hwn. 12.5 Ni fyddwn yn cyhoeddi’r Adolygiad cysylltiedig â’r Cynllun hwn tan fis Tachwedd 2015. Fodd bynnag, bydd Uwch-swyddogion a Chynghorwyr yn arolygu’r camau gweithredu a mesurau perfformiad yn y cynllun hwn bob chwarter. Er enghraifft, bydd ein Pwyllgorau Arolygu ac Archwilio yn adolygu’r meysydd sy’n berthnasol iddynt. Caiff dyddiadau cyfarfodydd, agendâu a holl bapurau perthnasol eu cyhoeddi ar ein gwefan.

43


Geirfa Gwastraff pydradwy Ôl troed carbon Cymalau budd cymunedol Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Dangosydd pynciau craidd

Oedi wrth drosglwyddo gofal

Gofal cartref Ardal Fenter Estyn Rhaglen Dechrau’n Deg Swyddog Penodedig Awdurdod Lleol

Gwastraff yw hwn sy’n dadelfennu ac yn pydru, fel gwastraff bwyd.

Amcangyfrif o gyfanswm y carbon deuocsid sy’n cael ei gynhyrchu gan unigolyn, sefydliad, digwyddiad neu gynnyrch.

Cymalau cytundebol yw’r rhain sy’n gweld bod amrywiaeth o amodau economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol yn rhan o gyflawni contractau. Un enghraifft fyddai gofyn am ddarparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant fel rhan o gontract.

Cynllun Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn adeiladau ysgolion.

Y ganran sy’n cyflawni’r safon ddisgwyliedig yn y Gymraeg neu’r Saesneg (iaith gyntaf), Mathemateg a Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 1-3 a TGAU Gradd C o leiaf yng Nghyfnod Allweddol 4.

Blocio gwelyau yw’r enw ar hyn weithiau. Gall ddigwydd pan fo pobl wedi bod yn yr ysbyty a heb fod mwyach angen gwasanaethau meddygol, ond bod angen gwasanaethau ychwanegol yn bodoli cyn iddynt allu mynd adref. Ein cyfrifoldeb ni’n aml yw sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn bodoli.

Gofal sy’n cael ei ddarparu i bobl yn eu cartrefi eu hunain, fel cynorthwyo gydag ymolchi, gwisgo neu anghenion personol eraill.

Rhaglen datblygu economaidd Llywodraeth Cymru sy’n hybu twf trwy roi cymhellion i fusnesau mewn ardal benodol.

Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Diben Estyn yw edrych ar ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhaglen Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru yw Dechrau’n Deg wedi’i dargedu ar deuluoedd gyda phlant dan 4 oed yn rhai o gylchoedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Dyma’r unigolyn sy’n gyswllt ar gyfer honiadau o gam-drin yn erbyn gweithwyr proffesiynol.

44


Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009

Plant dan ofal

Gwastraff trefol Cam-drin proffesiynol

Nodweddion gwarchodedig

Ailalluogi

Datblygu Cynaliadwy Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

Datganolwyd pŵer i ddeddfu ar gynllunio cymunedol a gwella lleol yng Nghymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mesur yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio deddfwriaeth a luniwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Plant y mae’r Cyngor wedi cymryd i’w ofal. Caiff plant dan ofal eu lleoli naill ai gyda gofalwyr maeth neu rieni mabwysiadol. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn cadw cyfrifoldeb cyfreithiol am eu lles (fel eu ‘rhieni corfforaethol’).

Gwastraff sy’n cael ei gasglu’n uniongyrchol o gartrefi, trwy safleoedd amwynder dinesig, o finiau sbwriel neu drwy lanhau strydoedd.

Digwyddiadau pan fydd rhywun yn ein cyflogaeth neu’n gweithredu ar ein rhan yn cymryd mantais o’u sefyllfa i gam-drin neu niweidio plant neu oedolion diamddiffyn.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi amddiffyniad i grwpiau amrywiol. Y rhain yw: Oed; Hil; Anabledd; Crefydd a Chred; Newid Rhyw; y Rhywiau; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Cyfeiriadedd Rhywiol; a Beichiogrwydd a Mamolaeth.

Pecyn o wasanaethau ar gyfer pobl sydd angen cymorth i fyw yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r gwasanaethau hyn yn annog a chefnogi pobl i wneud cymaint ag a allant drostynt eu hunain, gan wneud gorchwylion gyda nhw yn hytrach nag iddynt.

Dogfen sy’n rhoi cyhoeddusrwydd i ymrwymiad sefydliad i wneud penderfyniadau sy’n ystyried materion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol hirdymor. Dywed y Confensiwn bod gan bob plentyn hawl i blentyndod, addysg, iechyd, triniaeth deg a bod â llais.

45


www.pembrokeshire.gov.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.