Cynllun Gwella

Page 1


#6-++3'5%++!

+% ) '!%+ 0(!'.0 . 56".$!%2( ! $!2'!-)!$ #6$6,&&30&). Mae’r cynllun hwn yn cyflawni ein dyletswyddau dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 i gynhyrchu Cynllun Gwella. I gael copi o’r ddogfen hon mewn print bras, fel Braille, ar dâp sain neu mewn iaith arall, cysylltwch â: Jackie Meskimmon ar 01437 776613. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Dan Shaw, Rheolwr Cynllunio Corfforaethol, Cyngor Sir Penfro Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1TP Ffôn: 01437 775856 policy@sir-benfro.gov.ukk

555 /%,"0.*%1()0% '.4 3*

6--561 Rhagair ........................................................ 03 1. Cyflwyniad .............................................. 04 2. Ein hegwyddorion.................................... 06 3. Cynaliadwyedd a chydraddoldeb .......... 08 4. Datblygu ein Hamcanion Gwella ............ 10 5. Plant ........................................................ 14 6. Yr Economi ............................................ 17 7. Yr Amgylchedd ...................................... 20 8. Iechyd .................................................... 22 9. Diogelwch .............................................. 26 11. Cyflwyno adroddiadau ............................ 29 12. Geirfa ...................................................... 30


(!'!)0 Rwy’n falch o gyflwyno Cynllun Gwella Cyngor Sir Penfro ar gyfer 2013/14. Y Cynllun hwn yw ein prif ddogfen sy’n edrych i’r dyfodol ac mae’n cyflwyno ein hamcanion am y flwyddyn a ddaw. Mae’n rhoi cyfle i ni fynegi ein dealltwriaeth o’r materion sy’n bwysig i chi a rhannu sut y bwriadwn roi sylw iddynt. Bu’r flwyddyn aeth heibio, un gyntaf y Cyngor newydd hwn, yn un anodd. Rydym wedi gweithio’n galed i roi sylw i’r pryderon a fynegwyd ynghylch ein trefniadau diogelu a gwasanaethau addysg. Rydym wedi cydnabod ein mannau gwan, wedi penodi aelodau allweddol o’r staff, wedi ymwneud yn weithredol â’n hysgolion ac wedi targedu ein hadnoddau’n fwy effeithiol. Mae’n dda gennyf ddweud bod yr ymdrechion hyn bellach wedi dechrau cael effaith gadarnhaol ac, ar ben hynny, bod hyn yn dechrau cael ei gydnabod gan y rhai sy’n ein rheoleiddio. Mae’n amlwg fod gennym fwy i’w wneud, ond rwy’n hyderus y byddwn yn dal i wneud cynnydd yn ystod 2013/14. Ni fu’n rhwydd cyflawni hyn o flaen cefnlen o bwysau ariannol cynyddol. Er ein bod yn dal i reoli’n cyllideb yn effeithiol, ac eto

eleni wedi pennu’r Dreth Gyngor isaf yng Nghymru, mae’n amlwg y bydd y pwysau hwn yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd a ddaw. Yn ddiweddar cyhoeddwyd cynllun ariannol tymor canolig gennym yn dangos ein bwriad i arbed £8.6m dros dair blynedd. Yn ddiamau bydd hyn yn golygu y byddwn yn wynebu rhai dewisiadau anodd, ac amhoblogaidd ambell waith, yn ystod y misoedd a ddaw. Wedi dweud hynny, bydd y gofynion i arbed arian hefyd yn rhoi cyfleoedd i ni. Fe all weithiau fod yn anodd derbyn newid a blaenoriaethu’r gwasanaethau a werthfawrogwn fwyaf. Efallai’n wir y bydd y dewisiadau a wnawn yn ystod y ddwy flynedd neu dair nesaf yn dechrau ailddiffinio swyddogaeth y Cyngor o ran darparu gwasanaethau yn Sir Benfro. Bob amser bydd gwasanaethau hanfodol sy’n cael eu darparu gan y Cyngor hwn y bydd yn ymdrechu i’w gwarchod – gwasanaethau cymdeithasol, amddiffyn plant a gwasanaethau addysg, er enghraifft. Fodd bynnag, fe all fod gwasanaethau eraill lle gall fod yn fuddiol mewn gwirionedd edrych yn wahanol ar eu darparu – efallai trwy rannu rhai cyfrifoldebau gyda chymunedau lleol neu drwy gyflenwi cyfran uwch o’n gwasanaethau ar y cyd ag asiantaethau eraill. Ar waethaf gorfod canolbwyntio ar gyllid yn ystod 2013/14, byddwn yn ceisio datblygu cyfleoedd cyffrous o ran ein gwasanaeth gwella ysgolion, diogelu, adfywio canol trefi, rheoli gwastraff ac adolygu ein gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion. Byddwn hefyd yn dal i ddatblygu ein cynlluniau i weithredu un o’r rhaglenni adeiladu ysgolion mwyaf uchelgeisiol yng Nghymru. Er ei bod yn anochel y bydd yr hinsawdd ariannol yn peri canlyniadau mewn rhai meysydd, mae’n hollbwysig ein bod yn parhau ein hymrwymiad i ddod â’r canlyniadau gorau oll i Sir Benfro a’i thrigolion. Y Cynghorydd Jamie Adams, Arweinydd


6&+56-)!$ 1.1 Diben y cynllun hwn yw disgrifio beth fyddwn yn ei wneud i gyflawni ein dyletswydd i sicrhau gwelliant parhaol . Mae’n cyflwyno’r meysydd gwella y byddwn yn canolbwyntio arnynt yn ystod y flwyddyn a ddaw ac mae’n egluro ein sail resymegol ar gyfer gwneud hynny. 1.2 Ysgrifennwyd y Cynllun gyda thrigolion, busnesau ac ymwelwyr â’r Sir mewn golwg. Bydd pob un o’r rhanddeiliaid hyn yn defnyddio’n gwasanaethau ac mae ganddynt ddiddordeb yn ein hagwedd at gyflawni gwelliant parhaol. 1.3 Y Cynllun yw mynegiant cyhoeddus ein hagwedd at reoli perfformiad. Ein fframwaith rheoli perfformiad sy’n disgrifio’r cylch blynyddol a ddilynwn wrth gynllunio, arolygu ac adolygu popeth a wnawn. 1.4 Â siarad yn gyffredinol, mae pedwar cam yn ein fframwaith. Rhwng Rhagfyr a Mawrth bob blwyddyn canolbwyntiwn ar nodi amcanion at wella. Yn ystod Mawrth ac Ebrill byddwn yn

1Mae

Adran 2 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn rhoi dyletswydd gyffredinol ar holl awdurdodau lleol Cymru i “drefnu sicrhau gwelliant parhaol wrth arfer [eu] swyddogaethau”.

terfynu ein hamcanion ac yn cyflwyno ein cynlluniau ar gyfer cyflawni yn ystod y flwyddyn a ddaw. Byddwn yn cadw golwg ar berfformiad drwy gydol y flwyddyn ac yn ceisio gweld pa effaith gafodd cyflenwi’n gwasanaethau ar y gymuned. Yn olaf, yn ystod Medi a Hydref dechreuwn adolygu ein cynnydd fel ein bod mewn sefyllfa i goethi ein hamcanion ar gyfer y flwyddyn ddilynol.


1.5 Trefnwyd y Cynlluniau Gwella a gyhoeddwyd gennym o’r blaen o gwmpas yr wyth thema a nodwyd yng Nghynllun Cymunedol Sir Benfro 2010 - 2025. Trefnwyd Cynllun eleni o gwmpas y chwe chanlyniad allweddol sydd yng Nghynllun Cyfun Unigol newydd Sir Benfro, sydd wedi disodli’r Cynllun Cymunedol blaenorol fel y ddogfen gynllunio strategol bwysicaf ar gyfer y Sir. Y chwe chanlyniad allweddol a nodwyd yn y Cynllun Cyfun Unigol yw: • Plant: bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn cael cyfle i gyflawni eu gallu addysgol a byw bywydau iach a hapus • Yr Economi: bod economi Sir Benfro’n gystadleuol, cynhyrchiol a chynaliadwy • Yr Amgylchedd: bod pobl Sir Benfro’n mwynhau amgylchedd deniadol, cynaliadwy ac amrywiol • Iechyd: bod pobl Sir Benfro’n iachach • Diogelu: bod plant ac oedolion yn cael eu diogelu • Diogelwch: bod cymunedau Sir Benfro’n ` teimlo’n ddiogel

SUT MAE EIN CYNLLUNIAU’N MYND I’W GILYDD 1.7 Mae’r Cynllun Gwella hwn yn rhan o hierarchaeth o gynlluniau, pob un ohonynt yn chwarae rhan sylweddol yn nhrefniadau cyflenwi’n gwasanaethau. Mae’n arfer da gallu tynnu ‘llinyn euraid’ rhwng y cynlluniau a nodi sut fydd aelodau unigol o’r staff, timau, adrannau gwasanaeth ac asiantaethau cyfan yn gweithio tuag at ganlyniadau allweddol y Cynllun Cyfun Unigol2.

1.6 Yn ogystal â nodi ein cyfraniad at gyflawni’r canlyniadau allweddol hyn, mae’r Cynllun hwn yn disgrifio: • • • •

ein hegwyddorion fel sefydliad, ein hagwedd at gynaliadwyedd a chydraddoldeb; ein Hamcanion Gwella ar gyfer 2013/14; a sut fyddwn yn hysbysu ac yn adolygu ein cynnydd yn y dyfodol.

2

Er nad yw’n cael lle blaenllaw yn y diagram, rydym hefyd yn ymroddi i gyflawni Cynllun Gweithredu Estyn yn ystod 2013/14. Mae ein Cynllun Gweithredu Estyn yn disgrifio’r camau a gymrwn i ymateb i’r argymhellion a gyhoeddwyd gan yr arolygwyr ym mis Rhagfyr 2012. Caiff y camau hyn eu trafod yn ein Cynlluniau Gwella Gwasanaethau.


)-'+% -2%'0!2% $

+!-

)- %'56$$.0).2.1 Ers dechreuad Cyngor Sir Penfro yn 1996, rydym wedi gweithio yn ôl tair egwyddor drawsbynciol.

#!-.+"56-2). !0 6 #51,%0 '5%02( !, 60 !0)!3- 2)^, 2.2 Mae trin cwsmeriaid yn gwrtais ac yn deg yn egwyddor sydd wedi’n gwasanaethu’n dda. Rydym yn cymryd sylw o’r elfennau ac yn eu harolygu; materion fel pa mor gyflym y caiff galwadau ffôn a llythyrau eu hateb, yn ogystal â sut gaiff cwynion eu trin a pha wersi y gellid eu dysgu. 2.3 Ein nod yw gweinyddu cyfleoedd syml a rhwydd i gwsmeriaid gael gafael ar ein gwasanaethau. Fel y datblygodd technoleg gwybodaeth, bu modd i ni ehangu’r sianelau y gall cwsmeriaid eu defnyddio i gysylltu â ni. Er enghraifft, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i gwsmeriaid gael gwasanaethau a gwybodaeth drwy’r rhyngrwyd.

Byddwn yn datblygu mwy ar waith yn y maes hwn yn ystod y flwyddyn a ddaw. 2.4 Roeddem yn un o’r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i fod â chanolfan gyswllt cwsmeriaid unswydd ac, er bod mwyafrif llethol ein cwsmeriaid yn dal i ddefnyddio’r sianel hon yn hytrach na chyswllt wyneb yn wyneb, rydym wedi cadw amrywiaeth o gyfleusterau fel bod cwsmeriaid yn gallu cael gwasanaethau dros y cownter. 2.5 Fel holl gyrff cyhoeddus rydym yn ymrwymo i sicrhau nad yw’n cwsmeriaid yn dioddef camwahaniaethu. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn cyflwyno ein cynlluniau ar gyfer sicrhau bod y gwasanaethau sydd arnynt eu hangen ar gael yn gyfartal i’n cwsmeriaid. 2.6 Mae llawer o’n gwasanaethau’n rhoi cefnogaeth uniongyrchol i gwsmeriaid a allai fod ar gyrion cymdeithas fel arall. Er enghraifft, caiff cyfran sylweddol o’n gwariant ar ofal cymdeithasol oedolion ei glustnodi ar gyfer cynorthwyo pobl sy’n byw gydag anabledd neu salwch hirdymor cyfyngol. Ar ben hynny, caiff ymhell dros hanner ein cyllideb lawn ei gwario ar wasanaethau sy’n cynorthwyo plant a phobl ifanc gyrraedd eu llawn allu.


2.7 Bu cael gwerth da am yr arian yn bwysig i ni erioed. Ers llawer blwyddyn rydym wedi pennu’r Dreth Gyngor isaf o unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru. Ein Treth Gyngor Band ‘D’ yn ystod 2013/14 yw £741.17, sydd tua £250 yn llai na chyfartaledd Cymru. 2.8 Tra nad ydym yn rhydd o’r pwysau ar wariant cyhoeddus, mae’r ffaith ein bod bob amser wedi rhoi blaenoriaeth i werth am yr arian wedi golygu bod maint yr arbedion y mae angen i ni eu gwneud yn ystod 2013/14 yn llai na llawer o awdurdodau lleol eraill. Yn ystod y flwyddyn a ddaw rydym yn bwriadu arbed tua 0.5% o’n cyllideb lawn. Y gofyniad arbed ar awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru yn ystod 2013/14 yw tua 2.5% ar gyfartaledd. 2.9 Nid yw cael gwerth am yr arian bob amser yn golygu cyfyngu ar ein gwariant. Mae adegau pan fydd buddsoddi mewn gwasanaethau’n helpu i ni gyflawni arbedion yn y tymor hwy. Er enghraifft, bydd ein buddsoddiad arfaethedig mewn adeiladau ysgolion dan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn arwain at adeiladu cyfleusterau mwy effeithlon (trwy gostau ynni is). Trwy ddadansoddi effeithiau cyfnod hwy ein gwariant, rydym yn gallu gwella cynaliadwyedd y gwasanaethau a ddarparwn.

2.10 Ein hegwyddor derfynol yw gweithio fel un tîm er lles pawb yn Sir Benfro. Mae awdurdodau lleol yn sefydliadau mawr a chymhleth, ond rydym bob amser wedi ceisio lleihau rhaniadau mewnol er lles ein cwsmeriaid. 2.11 Er enghraifft, trefnwyd bod ein gwasanaethau’n cael eu llywodraethu fel ag i dorri ar draws ffiniau adrannol. Mae hyn yn golygu bod Cynghorwyr etholedig yn gallu edrych y tu hwnt i faterion plwyfol a chadw safbwynt strategol eang.


6-!+)!$56%$$ ! #(6$0!$$.+$%" 3.1 Mae cynaliadwyedd a chydraddoldeb fel ei gilydd yn themâu trawsbynciol pwysig sy’n cynorthwyo diffinio sut ydym eisiau gwella. Mae modd gweld elfennau o’r ddwy agenda yn llawer o’r gwaith a wnawn, ac mae’r ddwy’n rhan o’r asesiadau effaith a wnawn mewn cysylltiad â pholisïau newydd a phenderfyniadau o bwys. 3.2 Ceisiwn hyrwyddo datblygu cynaliadwy, ble bynnag y bo modd, trwy gefnogi prosiectau sy’n rhoi sylw i ystyriaethau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar yr un pryd. Mae hyn yn helpu sicrhau nad yw’r penderfyniadau a wnawn heddiw’n cael effeithiau annheg ar genedlaethau a ddaw. Fel cynghorau eraill ar hyd a lled Cymru, mae gennym hanes da o wella ein harferion yn y maes hwn. 3.3 Mae llawer o’r Amcanion sy’n cael eu disgrifio yn y Cynllun hwn yn dangos ein hymrwymiad i gynaliadwyedd. Er enghraifft, rydym yn ymrwymo i reoli ein gwastraff fel ein bod yn osgoi bod yn faich ar genedlaethau a ddaw trwy gostau gormodol a chanlyniadau amgylcheddol.

3.4 Yn ystod y flwyddyn a ddaw byddwn yn gweithredu nifer o brosiectau fydd yn cynorthwyo lleihau ein hôl troed carbon. Byddwn yn dal i leihau 3% y flwyddyn ar yr ynni a ddefnyddiwn (mewn adeiladau cyhoeddus annomestig). Byddwn yn cael cymaint o’n trydan ag y gallwn o ffynonellau trydan glân neu adnewyddadwy. Bydd holl adeiladau newydd a gomisiynwn yn cyrraedd safonau amgylcheddol uchel ac yn cael eu dylunio gyda dulliau sy’n ystyried barn rhanddeiliaid. 3.5 Byddwn yn dal i gynnal y rhaglen gwobrau ysgolion cynaliadwy yn ystod 2013/14 ac yn annog ysgolion i gyrraedd safonau bythol uwch y cynllun. Bydd y gwaith hwn yn cynorthwyo ysgolion ymdoddi datblygu cynaliadwy ymhob agwedd ar fywyd ysgol. Bydd llawer o’r gwaith a wnawn i ddatblygu’r economi lleol hefyd yn cynnal egwyddorion datblygu cynaliadwy – mae cyflogaeth uchel yn sail i ffyniant a bywiogrwydd cymunedau lleol.


3.6 Er mwyn plannu mwy ar welliant, rydym wedi sefydlu ‘Tîm Gwyrdd’ dan gadeiryddiaeth uwch-reolwr i ddatblygu a lledaenu arferion da o fewn yr Awdurdod. Un o’r heriau y byddwn yn ei hwynebu yn y flwyddyn a ddaw fydd paratoi ar gyfer dyfodiad dyletswydd newydd ar awdurdodau lleol yng Nghymru i fewnosod datblygu cynaliadwy fel eu hegwyddor drefnu ganolog. 3.7 Mae llawer o’r gwaith a wnawn i hyrwyddo datblygu cynaliadwy hefyd yn cynnal yr agenda cydraddoldeb. Caiff ein hamcanion cydraddoldeb eu disgrifio yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Bydd cyflawni’r amcanion hyn yn helpu i ni ateb ein dyletswyddau i sicrhau nad yw’r grwpiau a nodwyd yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn dioddef anffafriaeth, eu bod yn cael mynediad cyfartal at wasanaethau a’u bod yn byw mewn cymunedau lle caiff cysylltiadau da eu hyrwyddo. 3.8 Mae’r amcanion yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn tynnu sylw at feysydd lle mae angen i ni ganolbwyntio’n sylw. Er enghraifft, mae cyfran gymharol uchel o boblogaeth Sir Benfro’n oedrannus. O ganlyniad, mae cyfran o bobl uwchlaw’r cyfartaledd yn byw gydag anabledd neu’n gofalu am rywun gydag anabledd yn Sir Benfro. Yn ystod 2013/14, mewn partneriaeth â’r Bwrdd Iechyd Lleol, byddwn yn gwella rhychwant y gwasanaethau a gynigiwn i ofalwyr, gan ddileu rhai o’r rhwystrau sy’n wynebu gofalwyr wrth iddynt geisio cael gwasanaethau neu gyflogaeth.

3.9 Yn ystod 2012/13, cynyddodd Llywodraeth Cymru ein gallu i roi sylw i faterion cydlynu cymunedol trwy dalu am benodi Swyddog Cydlynu Cymunedol (adnodd a rannwn gyda Chyngor Sir Gâr). Yn ystod 2013/14, byddwn yn cyflawni cynllun gweithredu sy’n rhoi sylw i’r materion perthnasol ac yn meithrin cysylltiadau da rhwng cymunedau (gan gynnwys cymunedau diddordeb) yn Sir Benfro. 3.10 Un arall o’r gorchwylion allweddol y byddwn yn canolbwyntio arnynt yn ystod y flwyddyn a ddaw fydd gwella ein sylfaen dystiolaeth mewn cysylltiad â materion cydraddoldeb. Byddwn yn gwneud y gwaith hwn yng ngoleuni’r wybodaeth fanwl sydd bellach yn cael ei chyhoeddi o Gyfrifiad 2011, ac yn sicrhau bod ein dadansoddiad yn cael ei ddeall yn eang drwy’r sefydliad i gyd. 3.11 Byddwn yn arolygu ac yn hysbysu ein cynnydd mewn cysylltiad â’n hamcanion cydraddoldeb trwy ein Grŵp Llywio Cydraddoldeb Corfforaethol. Byddwn yn paratoi diweddariad ar y gwaith hwn fel rhan o’n Hadolygiad Gwelliannau, y byddwn yn ei gyhoeddi ym mis Tachwedd.


!2"+6'3 %)- !,#!-).- 5%++! 4.1 Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn gofyn ein bod yn cyhoeddi rhestr o Amcanion Gwella bob blwyddyn. Cynhyrchodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol i helpu i ni gyflawni hyn. Rydym wedi defnyddio’r fframwaith hwn i nodi Amcanion Gwella sy’n uchelgeisiol, ond hefyd yn gyraeddadwy. 4.2 Mae’r canllawiau’n disgrifio sut ddylid addasu Amcanion Gwella’n fwy manwl. Er enghraifft, mae’n cyfeirio at yr angen i gydbwyso blaenoriaethau cenedlaethol a lleol, sylwi ar ganlyniadau adroddiadau arolwg, mewnosod yr angen am arbediadau a manteisio ar gyfleoedd sy’n deillio o ddatblygu technolegau newydd. 4.3 Mae’r Amcanion Gwella a ddewiswyd gennym ar gyfer 2013/14 yn adlewyrchu’r cyngor hwn. Er enghraifft, er bod trosedd a diogelwch cymunedol yn flaenoriaeth uchel dros Gymru gyfan, mae’n llai o broblem yn Sir Benfro. Mae dau o’n Hamcanion Gwella’n ymateb uniongyrchol i adroddiadau arolwg. Mae’r agenda arbediadau’n sail i Amcan Gwella ein gwasanaethau oedolion. Mae ein Hamcan gwastraff yn adlewyrchu’r cyfleoedd a roddodd datblygiadau technolegol i ni reoli gwastraff yn fwy cynaliadwy.

32 6 "3., 6- 6,'6-'(.0) !0 %)- !,#!-).- 5%++! 4.4 Buom yn manteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd i ennyn diddordeb yn ein Hamcanion Gwella. Roedd y rhain yn cynnwys ennyn sylw’r wasg a defnyddio rhestri postio. Buom hefyd yn ymgynghori’n uniongyrchol â grwpiau cyswllt, cyrff a mudiadau gwirfoddol a chynghorau tref a chymuned. Y dull mwyaf poblogaidd o ymwneud â’n cwsmeriaid oedd trwy ein gwefan. 4.5 Buom yn gofyn am farn ar naw o Amcanion Gwella arfaethedig. Roedd rhestr yr Amcanion arfaethedig yn cwmpasu meysydd fel: • • • • • • • • •

gwella ysgolion a chynhwysiad; canol trefi; gofal cymdeithasol oedolion; diogelu; gwastraff ac ailgylchu; trosedd a diogelwch cymunedol; arweinyddiaeth a rheolaeth; cynllunio lleoedd mewn ysgolion; a newid corfforaethol a gwleidyddol.


4.6 Trwy’r ymateb a gawsom wrth ymgynghori, ochr yn ochr â datblygiadau yn ein syniadau ar flaenoriaethau allweddol y Cyngor, helpwyd i ni leihau’r rhestr hon. 4.7 Er enghraifft, roeddem wedi ystyried pennu Amcanion Gwella cysylltiedig â rheolaeth ac arweinyddiaeth a newid corfforaethol a gwleidyddol. Roedd y camau gweithredu a ystyriwyd gennym yn y meysydd hyn yn cynnwys gweithredu gwelliannau i’n trefniadau goruchwylio ac archwilio, creu agwedd ddiwygiedig at gynllunio corfforaethol a datblygu fframwaith hunangloriannu diwygiedig. Er ein bod wedi dewis peidio â chynnwys y rhain fel Amcanion Gwella ar gyfer 2013/14, byddwn yn dal i geisio symud ymlaen yn y meysydd hyn. Yn wir, bydd ein Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a’n Pwyllgor Archwilio dan gadeiryddiaeth annibynnol yn cadw golwg ar nifer o gamau gweithredu cysylltiedig. 4.8 O ganlyniad i’n hymgynghori rydym hefyd wedi dewis cyd-doddi’r Amcan arfaethedig ar gynllunio lleoedd mewn ysgolion gydag Amcan ehangach cysylltiedig â gwella ysgolion. Ysbrydolwyd y penderfyniad hwn trwy’r ffaith ei bod yn annhebygol y byddwn yn dechrau gweld effaith am ddwy neu dair blynedd arall, er ein bod yn bwriadu gwneud cynnydd mewn cysylltiad â Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ystod 2013/14. 4.9 Am resymau gwahanol, rydym hefyd wedi penderfynu peidio â datblygu Amcan Gwella cysylltiedig â diogelwch cymunedol. Er bod rhai ymatebwyr i’n ymgynghori wedi awgrymu bod trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn faterion oedd yn eu pryderu, dengys y dystiolaeth bod Sir Benfro’n dal yn un o’r mannau mwyaf diogel i fyw yn y DU.

4.10 Mae’r Amcanion a ddewiswyd gennym eleni’n adlewyrchu’r hyn a ddysgwyd gennym yn ystod y blynyddoedd aeth heibio a’r cyngor a gawsom gan y rhai sy’n ein rheoleiddio. Rydym wedi dewis amrediad culach o Amcanion fel ag i ganolbwyntio ein hymdrechion gwella’n fwy effeithiol. Ein hamcanion gwella ar gyfer 2013/14 yw:

). •

). •

). •

). •

). •

5%++! 61'.+).Byddwn yn gwella canlyniadau dysgu i helpu plant a phobl ifanc gyrraedd eu llawn allu

5%++! 61'.+).Byddwn yn galluogi, yn hwyluso ac yn cyflawni cynlluniau i wella hyfywedd a bwrlwm canol ein trefi

(%.+) '5!120!&& Byddwn yn dal i gynyddu cyfran y gwastraff sy’n cael ei ailgylchu er mwyn lleihau faint o wastraff sy’n cael ei anfon i dirlenwi

$.+6'3 '5!1!-!%2(!3 '.&!+ #6,$%)2(!1.+ .%$.+).Byddwn yn ad-drefnu darpariaeth ein gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion er mwyn gwella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd

).'%+3 Byddwn yn cryfhau ein trefniadau diogelu mewn ysgolion er mwyn sicrhau nad uw plant a phobl ifanc mewn perygl


4.11 Wrth nodi ein Hamcanion Gwella mae'n bwysig ein bod yn gallu llunio cysylltiadau cryf gyda Chynllun Cyfun Unigol Sir Benfro. Gydag un eithriad, ac am y rhesymau a ddisgrifiwyd eisoes, rydym wedi nodi Amcan i gyfrannu at bob un o'r canlyniadau allweddol a ddisgrifiwyd yn y Cynllun Cyfun Unigol. Caiff y berthynas rhwng yr Amcanion a'r canlyniadau allweddol hyn ei dangos isod:

!-+6-)!$ !++5%$$.+

,#!- 5%++!

Plant: bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn cael cyfle i gyflawni eu gallu addysgol a byw bywydau iach a hapus

Gwella ysgolion: byddwn yn gwella canlyniadau dysgu i helpu plant a phobl ifanc gyrraedd eu llawn allu

Yr Economi: bod economi Sir Benfro’n gystadleuol, cynhyrchiol a chynaliadwy

Gwella canol trefi: byddwn yn galluogi, yn hwyluso ac yn cyflawni cynlluniau i wella hyfywedd a bwrlwm canol ein trefi

Yr Amgylchedd: bod pobl Sir Benfro’n mwynhau amgylchedd deniadol, cynaliadwy ac amrywiol

Rheoli gwastraff: byddwn yn dal i gynyddu cyfran y gwastraff sy'n cael ei ailgylchu er mwyn lleihau faint o wastraff sy'n cael ei anfon i dirlenwi

Iechyd: bod pobl Sir Benfro’n iachach

Adolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion: byddwn yn ad-drefnu darpariaeth ein gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion i wella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd

Diogelu: bod plant ac oedolion yn cael eu diogelu

Diogelu: byddwn yn cryfhau ein trefniadau diogelu mewn ysgolion er mwyn sicrhau nad yw plant a phobl ifanc mewn perygl

Diogelwch: bod cymunedau Sir Benfro’n teimlo’n ddiogel

Dim Amcan Gwella


4.12 Rydym hefyd wedi newid pwyslais ein Hamcanion Gwella ar gyfer 2013/14. Mae ein Hamcanion eleni'n fwy penodol, gan nodi mesurau llwyddiant mwy eglur a chanolbwynt ar ganlyniadau. I eglurhau'r pwynt hwn rydym wedi cynnwys cymhariaeth uniongyrchol gyda'r Amcanion cyfatebol o restr y llynedd isod. Canran y rhai 16-18 oed heb fod mewn addysg neu gyflogaeth.

,#!- 5%++!

/

,#!- 6&!2%".+

/

Gwella ysgolion: byddwn yn gwella canlyniadau dysgu i helpu plant a phobl ifanc gyrraedd eu llawn allu

Byddwn yn dal i ddatblygu'r gwasanaethau addysg o safon a ddarparwn

Gwella canol trefi: byddwn yn galluogi, yn hwyluso ac yn cyflawni cynlluniau i wella hyfywedd a bwrlwm canol ein trefi

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i wella economi Sir Benfro

Rheoli gwastraff: byddwn yn dal i gynyddu cyfran y gwastraff sy'n cael ei ailgylchu er mwyn lleihau faint o wastraff sy'n cael ei anfon i dirlenwi

Byddwn yn lleihau ein hôl troed carbon ac yn gweithredu’n fwy cynaliadwy

Adolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion: byddwn yn ad-drefnu darpariaeth ein gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion i wella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd Diogelu: byddwn yn cryfhau ein trefniadau diogelu mewn ysgolion er mwyn sicrhau nad yw plant a phobl ifanc mewn perygl

Byddwn yn gweithredu i gefnogi ffyniant annibynnol a byw’n iach

Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod Sir Benfro’n aros yn lle diogel

4.13 Mae gweddill y ddogfen hon yn disgrifio pob Amcan Gwella’n fwy manwl ac yn egluro beth arall a wnawn i gyfrannu at y canlyniadau allweddol a nodwyd yn y Cynllun Cyfun Unigol.


+!-2 5.1 Mae ein gwasanaethau i blant a theuluoedd yn cyfrif am fymryn dros 40% o’n gwariant llawn bob blwyddyn. Er ein bod yn darparu llawer o wasanaethau ein hunain, gwnawn gryn dipyn o waith yn y maes hwn gydag asiantaethau eraill. Mae cyrhaeddiad a phresenoldeb yn faterion hollbwysig i’r Sir gyfan, ond mae’r heriau hyn yn fwy hyd enbyd fyth i blant a theuluoedd ar incwm isel. 5.2 Dewiswyd yr amcan hwn gennym oherwydd ein bod eisiau i blant a phobl ifanc Sir Benfro gyflawni’r canlyniadau gorau oll a allant a bod ymhlith y rhai sy’n gwneud orau yng Nghymru. Tynnodd adroddiad arolwg diwethaf Estyn ar ein gwasanaethau addysg sylw at yr angen i wneud gwelliannau ymhob maes; mae’r Amcan Gwella hwn yn ategu’r camau gweithredu a gytunwyd mewn ymateb i argymhellion Estyn.

Amcan Gwella 1 - byddwn yn gwella canlyniadau dysgu i helpu plant a phobl ifanc gyrraedd eu llawn allu

5.3 Dangosodd yr ymgynghori a wnaethom ar ein Hamcanion Gwella arfaethedig bod gwella ysgolion a chynhwysiad, yn ogystal â chynllunio lleoedd mewn ysgolion, yn bwysig i drigolion lleol. Dywedodd 95% o ymatebwyr i’n hymgynghori eu bod yn meddwl bod angen rhoi sylw i wella ysgolion a chynhwysiad. Fodd bynnag, dim ond 50% o ymatebwyr oedd yn cytuno y dylai cynllunio lleoedd mewn ysgolion fod yn flaenoriaeth. Mewn ymateb i hyn, ac am y rhesymau a gyflwynwyd yn adran 4 y Cynllun hwn, rydym wedi cyfuno’r ddau Amcan Gwella arfaethedig hyn.


5.4 Rydym wedi pennu chwech o gamau gweithredu i ni ein hunain dan yr amcan hwn: • Gweithio gydag ysgolion i ddadansoddi data a chyflawni ymyriadau a dargedwyd a fydd yn cynyddu cyfraddau presenoldeb. • Gweithio gydag ysgolion a Choleg Sir Benfro i ddarparu cwricwlwm sy’n diwallu anghenion holl ddysgwyr. • Gwella defnyddio data a rheoli perfformiad er mwyn galluogi cymorth a her amserol, ar sail tystiolaeth i ysgolion. • Gweithredu gwasanaeth gwella ysgolion ar y cyd â Chyngor Sir Gâr, fydd yn darparu gallu ychwanegol i gefnogi a herio ysgolion. • Cynyddu’r gallu sydd gan ysgolion i wella eu hunain. • Gwneud cynnydd gyda’n cynlluniau i wella amgylcheddau dysgu fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

51% i 56% yn Sir Benfro rhwng 2009/10 a 2011/12. Ein huchelgais yw cynnal y gyfradd hon o gynnydd, ac rydym wedi pennu targed o 59% ar gyfer 2013/14. Lefel 2 CA4 yn cynnwys Saesneg/Cymraeg + Mathemateg 60%

55%

50%

45%

40%

35% 2007/08

2008/09

2009/10

2010/11 Sir Benfro

5.5 Yn ogystal â’r camau gweithredu a ddisgrifiwyd uchod, byddwn yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau i gryfhau arweiniad y gwasanaeth addysg. Bydd y rhain yn cynnwys denu tîm rheoli hollol newydd ar gyfer y gwasanaeth erbyn mis Mai 2013. 5.6 Effaith cyflawni’r amcan hwn fydd y byddai’r rhai sy’n gadael ysgolion Sir Benfro’n cyrraedd eu llawn allu ac yn fwy parod i wneud cyfraniad cadarnhaol at gymdeithas. 5.7 Byddwn yn mesur effaith ein cynnydd dan yr Amcan hwn trwy gadw golwg ar nifer o ddangosyddion allweddol. Un o’n mesurau llwyddiant allweddol fydd canran y myfyrwyr sy’n cyflawni’r trothwy lefel 2, gan gynnwys Cymraeg / Saesneg a Mathemateg yng Nghyfnod Allweddol 4. Caiff y dangosydd hwn ei ddefnyddio’n aml i gymharu cyrhaeddiad ledled y wlad. Cynyddodd cyrhaeddiad yng Nghyfnod Allweddol 4 o

2011/12 Cymru

2012/13

2013/14


%130!3 ++56$$)!-2 Dangosyddion cyfnod sylfaen, sy’n dadansoddi canlyniadau disgyblion Blynyddoedd 1 a 2 LLC = Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu MD = Datblygiad Mathemategol FPI = Dangosydd Cyfnod Sylfaen

!0'%$

/

LLC=87% MD=90% FPI=84%

Dangosyddion pynciau craidd Cyfnod Allweddol 2, sy’n dadansoddi canlyniadau disgyblion Blwyddyn 6

86%

Dangosyddion pynciau craidd Cyfnod Allweddol 3, sy’n dadansoddi canlyniadau disgyblion Blwyddyn 6

80%

Cyfnod Allweddol 4 lefel 1 mesur faint o ddisgyblion Blwyddyn 11 sy’n cyflawni 5 TGAU

94%

Cyfnod Allweddol 4 lefel 2 gan gynnwys Cymraeg / Saesneg a Mathemateg

59%

Cadw golwg ar gyfraddau presenoldeb mewn ysgolion cynradd ac uwchradd

95%; 94%

Canran y rhai 16-18 oed sydd heb fod mewn addysg neu gyflogaeth (NEET)

3.5

5.8 Mae amrywiaeth o gamau eraill y byddwn yn eu cymryd yn ystod 2013/14 a fydd, er nad ydynt yn uniongyrchol berthnasol i’r Amcan Gwella hwn, yn cyfrannu tuag at y Canlyniad Allweddol cysylltiedig a nodwyd yn y Cynllun Cyfun Unigol: bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn cael cyfle i gyflawni eu gallu addysgol a byw bywydau iach a hapus.

5.9

Er enghraifft, byddwn yn mynd ar drywydd amrywiaeth o gamau gweithredu er mwyn gwella ein gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol neu sydd angen cymorth ychwanegol. Byddwn yn datblygu un llwybr cyfeirio cydgysylltiedig ar gyfer gwasanaethau cynhwysiad a ffyniant a byddwn hefyd yn ymestyn ein gwasanaeth cynghori personol.

5.10 Er mwyn cyflawni gwell gwasanaeth i bobl ifanc gydag anghenion mwy sylweddol, byddwn yn gwella effeithiolrwydd ein gwasanaeth seicoleg addysg, ac yn ad-drefnu cyfleusterau addysgol arbenigol ar gyfer pobl ifanc sydd ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol. 5.11 Byddwn yn datblygu ac yn gweithredu strategaeth i nodi ac ateb y galw am addysg Gymraeg. Er ein bod yn diwallu ffafriaeth pobl ifanc a’u teuluoedd am addysg Gymraeg, bydd y gwaith hwn yn rhoi hyder i ni fod galw cudd yn cael ei ateb hefyd. 5.12 Rydym hefyd yn ceisio gwella cyrhaeddiad y cyrsiau addysg cymunedol sy’n cael eu darparu gan Sir Benfro’n Dysgu, a chynnal cyfraddau uchel o gwblhau cyrsiau.


0 #.-.,) 6.1

Amcan Gwella 2 - byddwn yn galluogi, yn hwyluso ac yn cyflawni cynlluniau i wella hyfywedd a bwrlwm canol ein trefi

Mae economi Sir Benfro’n adlewyrchu ei daearyddiaeth ymylol; mae cyflogau a safonau sgiliau’n tueddu i fod yn is nag mewn mannau eraill. Mae datblygiadau yn y sector ynni wedi cynorthwyo economi Sir Benfro fod yn fwy llwyddiannus yn ystod y degawd aeth heibio. Fodd bynnag, oherwydd ansicrwydd byd-eang parhaus, mae cyfradd twf yn Sir Benfro (ynghyd â gweddill y DU) yn debygol o fod yn arafach yn y dyfodol na’r hyn oedd yn ystod llawer o’r 10 mlynedd diwethaf.

6.2

Dewiswyd yr amcan hwn gennym oherwydd bod Sir Benfro’n sir wledig lle mae canol trefi’n chwarae rhan hollbwysig fel canolfannau gwasanaeth a chyrchfannau ymwelwyr. Mae tystiolaeth bod cyfuniad o’r dirwasgiad, ymddygiad newidiol defnyddwyr a mwy o gystadleuaeth leol wedi cael effaith negyddol ar ganol ein trefi.

6.3

Cytunai wyth o bob deg o ymatebwyr i’n ymgynghori y dylai gwella canol trefi fod yn Amcan Gwella. Cawsom nifer cymharol fawr o sylwadau manwl ynghylch y maes hwn. Roedd llawer o’r rhai a roddodd sylwadau’n cydnabod y gystadleuaeth

sy’n wynebu canol trefi oherwydd datblygiadau siopa allan o’r dref yn ogystal â threfi eraill a’r rhyngrwyd. Tynnodd amryw ymatebwyr sylw at bwysigrwydd cydweithio â busnesau lleol gan nodi cyfraniad canol trefi at y diwydiant ymwelwyr. 6.4

Rydym wedi pennu pedwar o gamau gweithredu i ni ein hunain dan yr amcan hwn: • Creu cyd-destun cynllunio sy’n cydbwyso polisïau adwerthu gyda defnyddiau sy’n cynorthwyo bwrlwm. • Cael cyllid allanol i gefnogi a chyflwyno gwelliannau adeileddol i ganol trefi. • Hyrwyddo a chyflawni rhaglen dwy flynedd o’n arweiniadau brandio i wella proffil canol ein trefi. • Gweithio gyda datblygwyr i sicrhau bod cynlluniau sector preifat yn cyfrannu at ac yn ategu canol ein trefi.


6.5

Effaith cyflawni’r Amcan Gwella hwn fydd cadw mwy o wariant adwerthu yn yr economi lleol, cynhyrchu mwy o gyfleoedd cyflogaeth a chanol trefi’n dod yn fwy bywiog.

6.6

Byddwn yn mesur ein cynnydd mewn cysylltiad â’r amcan hwn trwy gadw golwg ar nifer o ddangosyddion allweddol. Y blaenaf o’r rhain fydd cyfradd siopau gwag yng nghanol ein trefi ym mis Medi bob blwyddyn. Caiff y cyfraddau gwacter yn ein trefi allweddol fel yr oedd pethau ym mis Medi 2012 eu dangos isod. 2012 Cyfradd Wacter 30%

6.7

Yn ogystal â’r mesurau llwyddiant a ddisgrifiwyd uchod, byddwn hefyd yn datblygu ein defnydd o offer meincnodi perfformiad canol trefi yn ystod y flwyddyn. Bydd hyn yn galluogi i ni gymharu sut mae canol ein trefi’n gwneud gyferbyn â threfi o faint tebyg yng Nghymru a Lloegr. Byddwn yn hysbysu ein canfyddiadau ac yn cloriannu ein cynnydd yn Adolygiad Gwelliannau’r flwyddyn nesaf. Bydd yr adolygiad hefyd yn tynnu ar astudiaethau achos sy’n dangos y gwelliannau a wnaed gennym i ganol ein trefi a’r effaith a gafodd hyn.

6.8

Mae amrywiaeth o gamau eraill y byddwn yn eu cymryd yn ystod 2013/14 a fydd, er nad ydynt yn uniongyrchol berthnasol i’r Amcan Gwella hwn, yn cyfrannu at y Canlyniad Allweddol cysylltiedig a nodwyd yn y Cynllun Cyfun Unigol: bod economi Sir Benfro’n gystadleuol, cynhyrchiol a chynaliadwy.

6.9

Er enghraifft, byddwn yn dal i edrych ar gyfleoedd i gefnogi adfywiad yn fwy cyffredinol. Nid yw ein canolbwynt ar ganol trefi’n disodli’r angen i adfywio cylchoedd eraill; mae’n ei ategu.

25%

20%

15%

10%

5%

0% Abergwaun

Hwllffordd

Aberdaugleddau

Arberth

Penfro Doc

%130!3 ++56$$)!-2 Datblygu cynllun gweithredu ar gyfer 6 tref fwyaf Sir Benfro Cadw golwg ar siopau gwag ynghanol trefi

Penfro

Dinbych-y-pysgod

!0'%$

/

Gorffennwyd pob un o’r 6 Bod y gyfradd gwacter yn aros yn sefydlog neu’n gwella


6.10 Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector preifat a Llywodraeth Cymru i gael y cyfle eithaf y mae dynodiad fel Ardal Fenter yn ei roi i gylchoedd cyflogaeth a busnesau o gwmpas dyfrffordd Cleddau a Maes Awyr Hwlffordd. Rhagwelwn mai’r prif gyfleoedd fydd gwell lwfansau cyfalaf a rhyddhad treth fusnes a fydd, yn ei dro, yn dod â thwf mewn swyddi tra medrus. Byddwn yn mesur llwyddiant trwy nifer y busnesau sy’n denu rhyddhad trethi. 6.11 Er bod maint ein rhaglen gyfalaf yn lleihau, rhagwelwn y byddwn yn dal i fod â rhaglen gyfalaf sylweddol. Trwy reoli’r rhaglen yn effeithiol, byddwn yn sicrhau bod buddiannau i’r economi lleol yn cael eu gwireddu mewn cysylltiad â gwaith adeiladu. Byddwn yn mesur llwyddiant trwy weithredu cymalau mantais gymunedol. 6.12 Mae’r sector twristiaeth yn gyflogwr sylweddol yn Sir Benfro. Ynghyd â’n partneriaid, rydym wedi mabwysiadu cynllun rheoli cyrchfannau ymwelwyr cynhwysfawr i gynyddu’r budd a ddaw inni o’r diwydiant. Yn ystod 2013/14 byddwn yn gweithredu’r camau a ddisgrifiwyd yn y cynllun, fel ailganolbwyntio ein hymdrech farchnata ar gyfryngau digidol a datblygu calendr digwyddiadau ar-lein ar gyfer y Sir gyfan. 6.13 Mae Sir Benfro wedi elwa ar gylch presennol cyllid Ewropeaidd. Bydd y cylch hwn yn dirwyn i ben o 2014 ymlaen, ond bydd Sir Benfro’n gymwys ar gyfer cylch nesaf y cronfeydd strwythurol a buddsoddi. Byddwn yn gwneud gwaith paratoadol gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn gwneud y gorau o’r cyfleoedd a ddaw yn sgil y cymorth ariannol hwn o 2014 i 2020.


0 ,'6+#(%$$

Amcan Gwella 3 - byddwn yn dal i gynyddu cyfran y gwastraff sy'n cael ei ailgylchu er mwyn lleihau faint o wastraff sy'n cael ei anfon i dirlenwi

7.1 Fel pob ardal arall, mae amgylchedd Sir Benfro’n wynebu heriau sylweddol. Un o’r mwyaf argyfyngus o’r rhain yw’r perygl bod ein hinsawdd yn dod yn llai rhagweladwy ac yn fwy eithafol. Tra bo llawer o’r ffactorau sy’n debygol o gyfrannu at newid yn yr hinsawdd y tu hwnt i’n rheolaeth uniongyrchol, gallwn fynd i’r afael â rhai o’r ffactorau’n lleol; yn enwedig y rhai sy’n berthnasol i sut ydym yn rheoli’r gwastraff a gynhyrchwn.

7.4 Nifer cymharol fychan o ymatebwyr i’n hymgynghori oedd yn cytuno y dylai gwastraff ac ailgylchu fod yn flaenoriaeth. Roedd llawer o’r rhai a roddodd sylwadau’n cytuno â phwyslais y camau gweithredu y bwriadwn eu cymryd, fel tynnu sylw at y gwasanaethau ailgylchu a ddarparwn ac annog pobl i ailgylchu amrywiaeth mwy o ddeunyddiau. Gwnaeth rhai ymatebwyr y sylw y dylid gwneud mwy o ddefnydd o gyfleusterau ynni o wastraff.

7.2 Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targedau anodd ar leihau gwastraff sy’n rhaid eu cyrraedd er mwyn osgoi dirwyon sylweddol. Er bod canran y gwastraff a ailddefnyddiwn neu a ailgylchwn wedi cynyddu’n sylweddol (yn y saith mlynedd diwethaf cynyddodd cyfran y gwastraff a ailgylchwn bum gwaith), mae her aruthrol yn y targedau sydd angen i ni eu cyrraedd yn y blynyddoedd a ddaw.

7.5 Ni thynnodd ymatebwyr i’n hymgynghori sylw at faterion amgylcheddol ehangach fel datblygu cynaliadwy neu newid yn yr hinsawdd, er bod y materion hyn yn cael sylw helaeth yng Nghynllun Cyfun Unigol Sir Benfro.

7.3 Dewiswyd yr Amcan hwn gennym oherwydd na fydd hawl tirlenwi gyda gwastraff yn yr hirdymor oherwydd bod gwastraff o dirlenwi’n rhyddhau nwyon tŷ gwydr niweidiol. Mae targedau Llywodraeth Cymru’n dod yn anoddach ac mae angen i ni ganolbwyntio ar y maes hwn er mwyn sicrhau bod targedau’n cael eu cyrraedd.

7.6 Rydym wedi pennu tri o gamau gweithredu i ni ein hunain dan yr amcan hwn: • Gwella cyfranogiad y cyhoedd mewn ymgyrchoedd ailgylchu trwy weithgareddau denu’r cyhoedd. ` • Ystyried cyflwyno casgliadau sachau du (gwastraff gweddilliol) bob pythefnos i annog cwsmeriaid i ailgylchu cyfran uwch o’u gwastraff. • Cyflwyno cynlluniau ailgylchu ffrydiau deunydd ychwanegol fel matresi neu garpedi.


7.9

7.7 Effaith cyflawni’r Amcan Gwella hwn fydd anfon cyfran lai o wastraff i dirlenwi, gan ostwng effeithiau negyddol ar yr amgylchedd drwy hynny 7.8 Byddwn yn mesur ein cynnydd mewn cysylltiad â’r amcan hwn trwy gadw golwg ar nifer o ddangosyddion allweddol. Mae un o’r rhain yn arbennig o bwysig, sef cyfanswm y gwastraff pydradwy sy’n cael ei anfon i dirlenwi. Dyma’r mesur a fyddai’n cael ei ddefnyddio i gyfrif y dirwyon arnom pe byddem yn methu cyrraedd ein targedau.

Yn ogystal â’r mesurau llwyddiant a ddisgrifiwyd uchod a byddwn hefyd yn cloriannu effaith amrywiaeth o ddigwyddiadau penodol ac ymweliadau ag ysgolion yn ystod y flwyddyn i hyrwyddo ailgylchu. Byddwn yn rhoi ymateb ar yr achlysuron hyn a’u heffaith pan fyddwn yn hysbysu ein cynnydd yn Adolygiad Gwelliannau’r flwyddyn nesaf. Ar ben hynny, byddwn yn cael ymateb ein cwsmeriaid ynghylch y pethau sy’n rhwystro ailgylchu.

7.10 Mae amrywiaeth o gamau eraill y byddwn yn eu cymryd yn ystod 2013/14 a fydd, er nad ydynt yn uniongyrchol berthnasol i’r Amcan Gwella hwn, yn cyfrannu at y Canlyniad Allweddol cysylltiedig a nodwyd yn y Cynllun Cyfun Unigol: bod pobl Sir Benfro’n mwynhau amgylchedd deniadol, cynaliadwy ac amrywiol.

Tunelli o wastraff pydradwy sy'n cael ei anfon i dirlenwi 40000 35000

7.11 Yn gyffredinol mae Sir Benfro’n lân a thaclus iawn ond, fel pob ardal arall, mae gwibdaflu sbwriel yn dal yn broblem pan fydd yn digwydd. Byddwn yn datblygu strategaeth gwibdaflu sbwriel fydd yn cryfhau ein trefniadau gorfodi.

30000 25000 20000 15000 10000 5000 0 2006/07

2007/08

2008/09

Targed

2009/10

2010/11

2011/12

2012/13

2013/14

2014/15

2015/16

Gwir (amcangyfrif yn 2012/13) dunelli o Wastraff Trefol Pydradwy

%130!3 ++56$$)!-2

!0'%

Tunelli o wastraff pydradwy sy’n cael ei anfon i dirlenwi

18,667

Cynnydd yng nghanran y gwastraff sy’n cael ei ailgylchu

55%

Lleihad yng nghanran y gwastraff sy’n cael ei anfon i dirlenwi

43%

Cyfradd cyfranogi mewn ailgylchu

70%

/

7.12 O ganlyniad i newidiadau yn y ddeddfwriaeth, mae gennym ran flaenllaw erbyn hyn mewn rheoli perygl llifogydd a byddwn yn datblygu strategaethau perygl llifogydd yn ystod y flwyddyn. Bydd y rhain yn ddefnyddiol trwy gynorthwyo rheoli’r cynnydd disgwyliedig mewn llifogydd (o afonydd a dŵr arwyneb fel ei gilydd) fydd yn deillio o gynnydd disgwyliedig yn amlder glaw trwm. 7.13 Byddwn yn cymryd camau i hyrwyddo teithio cynaliadwy ac egnïol. Bydd y rhain yn cynnwys gwelliannau i safleoedd bysiau ar hyd llwybrau arbennig, yn ogystal â datblygu llwybrau beicio. Ochr yn ochr â’r buddsoddiad hwn, byddwn hefyd yn gwneud adolygiad sylfaenol o’r cymorth a gynigiwn i gludiant cyhoeddus a chymunedol. Byddwn yn ymgynghori’n eang ar y materion hyn yn ystod 2013/14.


%#(6$ 8.1 Mae disgwyliad einioes yn Sir Benfro’n gwella ac mae’n agos at gyfartaledd Cymru. Fodd bynnag, mae gwahaniaeth mewn disgwyliad einioes rhwng ardaloedd difreintiedig ac ardaloedd eraill yn Sir Benfro (yn enwedig nifer y blynyddoedd y gall rhywun ddisgwyl byw’n iach). Mae’r cynnydd hwn mewn disgwyliad einioes yn creu mwy o alw am wasanaethau gofal cymdeithasol.

Amcan Gwella 4 - byddwn yn ad-drefnu darpariaeth ein gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion i wella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd 8.2 Mae’r Amcan Gwella a nodwyd gennym ar gyfer y maes hwn yn canolbwyntio ar sut fyddwn yn sicrhau bod costau darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion o safon yn aros yn fforddiadwy. Dewiswyd yr Amcan hwn gennym oherwydd bod gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion o safon yn hanfodol i ansawdd bywyd ein cwsmeriaid. Mae nifer y bobl hŷn sy’n byw yn Sir Benfro’n cynyddu’n gyflym. Bydd angen addasu patrymau presennol cyflenwi gwasanaethau er mwyn ateb y cynnydd hwn mewn galw. Fel llawer o awdurdodau lleol,

aethom uwchlaw ein cyllideb gofal cymdeithasol oedolion yn ystod 2012/13. 8.3 Cytunodd fymryn dros dri chwarter yr ymatebwyr i’n hymgynghori y dylai gofal cymdeithasol oedolion fod yn Amcan Gwella. Awgrymodd y sylwadau a gawsom fod trigolion yn derbyn bod gwasanaethau ar gyfer oedolion diamddiffyn yr un mor bwysig â rhai plant. Dywedodd pobl eraill bod y twf yn y boblogaeth oedrannus yn tanlinellu’r angen i weithredu. 8.4 Tynnodd rhai o’r sylwadau cyffredinol a gawsom ar Amcanion Gwella sylw at feysydd eraill sy’n effeithio ar iechyd. Roedd y rhain yn cynnwys yr effaith andwyol y gall newidiadau mewn budd-daliadau ei gael ar iechyd meddwl, sicrhau ansawdd yn y sector rhentu preifat a’r rhan y gall gwasanaethau ataliol llai amlwg ei chwarae wrth leihau unigedd ymysg pobl hŷn. Rydym hefyd wedi derbyn amrywiaeth o sylwadau cysylltiedig â’r newidiadau arfaethedig i wasanaethau iechyd lleol.


8.5 Rydym wedi pennu wyth o gamau gweithredu i ni ein hunain dan yr amcan hwn: • Adolygu cymhwyster ac effeithiolrwydd rheoli a llywodraethu gofal cymdeithasol oedolion a phartneriaethau’r Byrddau Iechyd Lleol a chytuno ar gynigion i wella trefniadau o’r fath. • Cyfuno cynlluniau comisiynu presennol mewn un ddogfen drosfwaol sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd ac yn cynnwys cost y gwasanaeth at ei gilydd. • Cytuno ar brotocolau eglur i sicrhau bod asesiadau gofal cymdeithasol yn gynaliadwy, yn gadarn, yn deg ac yn cynnig gwerth gorau i ddarparwyr a chleientiaid. • Cynnal adolygiadau gwerth am yr arian ar holl becynnau gofal drud (dros £500) yn y gwasanaethau cartref ac anabledd dysgu. • Datblygu patrymau gofal amgen i sicrhau bod holl gleientiaid yn cael cefnogaeth effeithiol trwy drefniadau gwasanaeth sy’n fforddiadwy ac yn briodol. • Gweithredu targedau adnoddau ar gyfer holl weithgareddau comisiynu allweddol o fewn y gwasanaeth: o Oedrannus (Preswyl / Cartref) o Dysgu / Anabledd o Iechyd Meddwl o Anabledd Corfforol • Adolygu trefniadau Amddiffyn Oedolion a sicrhau ein bod yn cydymffurfio ag arferion gorau. • Darparu gwasanaeth ailalluogi a luniwyd i gefnogi cwsmeriaid pan fyddant ei angen fwyaf gyda golwg ar eu gwneud mor annibynnol ag y bo modd yn dilyn eu triniaeth. 8.6 Effaith cyflawni’r Amcan Gwella hwn fydd bod mwy o bobl hŷn yn byw mewn mannu sy’n briodol i faint y gofal sydd arnynt ei

angen, gan wella ansawdd eu bywydau drwy hynny. Bydd costau llawn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion yn cael ei reoli’n fwy effeithiol. Bydd cwsmeriaid hefyd yn elwa ar becynnau ailalluogi a luniwyd i helpu iddynt gael eu hannibyniaeth yn llwyr neu’n rhannol. 8.7 Byddwn yn mesur ein cynnydd gyda’r Amcan hwn trwy gadw golwg ar nifer o ddangosyddion allweddol. Un o’r mwyaf arwyddocaol o’r mesurau hyn yw faint o arian a wariwn ar ofal cymdeithasol oedolion. Dengys y graff isod yr arbedion a ragwelwn os yw’r camau a gymrwn yn llwyddiannus.

Gwariant ar Ofal Cymdeithasol Oedolion (£ miloedd) £55,000 £50,000 £45,000 £40,000 £35,000 £30,000

£25,000 £20,000

actual or anticipated spend

ƌǁLJĚĚ Ž͛ƌ ĂƌďĞĚŝĂĚ ĚŝƐŐǁLJůŝĞĚŝŐ ŽƐ LJǁ͛ƌ ƉƌŽƐŝĞĐƚ LJŶ ůůǁLJĚĚŽ


%130!3 ++56$$)!-2 Cyfyngu ar y cynnydd yn nhwf cyllideb gwasanaethau oedolion (mae cyllideb 13/14 6.7% uwchlaw 12/13 diwygiedig)

!0'%$

Dim gorwario ar gyllideb 13/14

Canran y gostyngiad yn yr oriau gofal cartref a drefnwyd ar gyfer cwsmeriaid sydd wedi gorffen cyfnod o ailalluogi

40%

Canran y cwsmeriaid sydd wedi gorffen cwrs o ailalluogi heb fod angen gofal cartref hirdymor pellach

37%

Cyfradd oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o boblogaeth 75 oed neu hŷn (gweithio ar y cyd â GIG)

1.0%

Cyfradd y bobl hŷn (65 oed neu hŷn) a gefnogwyd yn y gymuned fesul 1,000 o boblogaeth 65 oed neu hŷn ar 31 Mawrth

70

Achosion drud a adolygwyd Holiadur blynyddol y gwasanaethau gofal yn profi a yw cwsmeriaid yn cytuno bod eu cynlluniau gofal yn diwallu eu hanghenion

/

25%

85% yn cytuno

8.8

Mae amrywiaeth o gamau eraill y byddwn yn eu cymryd yn ystod 2013/14 a fydd, er nad ydynt yn uniongyrchol berthnasol i’r Amcan Gwella hwn, yn cyfrannu tuag at y Canlyniad Allweddol cysylltiedig a nodwyd yn y Cynllun Cyfun Unigol: bod pobl Sir Benfro’n iachach.

8.9

Byddwn yn dal i ddatblygu camau gweithredu i hwyluso cadw pobl yn heini ac egnïol. Byddwn yn datblygu prosiectau teithio egnïol ac yn datblygu Scolton Manor fel man i bobl ymarfer yn yr awyr agored. Byddwn yn ymestyn Rhaglen Campau’r Ddraig, sy’n helpu pobl ifanc ddatblygu ystwythder, cydbwysedd a chydgysylltu, i’r Sir gyfan ac yn rhagbrofi “canolfannau iach” mewn llyfrgelloedd.

8.10 Yn ystod 2013/14, bydd ein gwasanaethau hamdden yn rhoi pwyslais ychwanegol ar hyrwyddo nofio, yn ogystal â chwaraeon llai poblogaidd fel rhwyfo a dringo. Ymhob achos, byddwn yn gweithio gyda chlybiau lleol i greu mwy o ddiddordeb yn gymunedol. Byddwn hefyd yn gwella ein systemau cadw lle ar-lein ar gyfer canolfannau hamdden. Byddwn yn mesur ein gwelliant trwy ffigurau defnydd a mesurau ansawdd cwsmeriaid.


8.11 Mae bwyta’n iach yn gydran allweddol o iechyd y cyhoedd. Yn ystod 2013/14, byddwn yn dal i gyrraedd safonau Blas am Oes yn ein hysgolion cynradd ac uwchradd. Mewn ymateb i faterion diweddar cysylltiedig â halogi cynhyrchion cig, byddwn yn adolygu ein trefnau tendro i gynnwys gofynion gallu olrhain cynhyrchion cig a mapio cadwyni cyflenwi. Byddwn yn gwybod a fuom yn llwyddiannus trwy gadw golwg ar safonau maeth Blas am Oes a thrwy brofi bwyd am gig ceffyl a halogyddion eraill. 8.12 Mae tai’n bwysig iawn i iechyd a bydd newidiadau yn y rheolau budd-dal yn ystod 2013/14 yn rhoi pwysau ychwanegol ar ein gwasanaethau. Byddwn yn gwella’r prosesau a ddefnyddiwn i ailosod cartrefi a lleihau’r amser y byddant yn wag. Byddwn yn cadw golwg ar gyfnodau gwag i weld pa mor llwyddiannus a fuom. 8.13 Darparwn wasanaethau cymorth tai arbenigol i bobl sy’n ei chael yn anodd byw’n annibynnol. Ar sail y gwaith mapio anghenion a wnaethom eisoes, byddwn yn datblygu cymorth ychwanegol ar gyfer pobl ifanc a’u teuluoedd. 8.14 Fel gyda holl awdurdodau lleol Cymru, mae cyfran y bobl sy’n byw mewn llety’n cael ei ddarparu trwy’r sector rhentu preifat yn Sir Benfro wedi cynyddu yn ystod y degawd aeth heibio. Byddwn yn datblygu cysylltiadau sy’n bodoli gyda landlordiaid preifat i edrych ar sut allai’r sector chwarae rhan wrth i ni gyflawni ein dyletswyddau’n ymarferol mewn cysylltiad â digartrefedd. Byddwn hefyd yn newid ein hagwedd at atal digartrefedd trwy ymwneud â chwsmeriaid a thrwy ragbrofi gwasanaeth diwygiedig.

8.15 Byddwn yn dal i gael y nifer mwyaf a allwn o dai fforddiadwy yn Sir Benfro. Wrth i grantiau cyfalaf leihau, byddwn yn fwyfwy dibynnol ar gyflenwi tai fforddiadwy drwy gytundebau Adran 106. Byddwn yn cadw golwg agos ar ymarferoldeb cytundebau o’r fath er mwyn sicrhau bod datblygwyr yn gwneud cyfraniad rhesymol at nifer y tai fforddiadwy at ei gilydd.


).'%+3 Amcan Gwella 5 - byddwn yn cryfhau ein trefniadau diogelu mewn ysgolion er mwyn sicrhau nad yw plant a phobl ifanc mewn perygl 9.1 Rydym wedi cael ein harchwilio a’n herio’n sylweddol ar ein trefniadau diogelu ers haf 2011. Nododd adroddiadau arolwg a gyhoeddwyd bryd hynny gan Estyn ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ddiffygion eglur mewn arferion a safonau. O ganlyniad, gweithredwyd amrywiaeth o welliannau gennym dan oruchwyliaeth Bwrdd Gweinidogol Sir Benfro. Mae adroddiadau diweddar y Bwrdd yn cydnabod y cynnydd a wnaed gennym. Fodd bynnag, rydym yn derbyn bod angen i ni ddal i ganolbwyntio ar y maes hwn er mwyn sicrhau bod y gwelliant yn dod yn rhan o’n gweithrediad. 9.2 Dewisodd yr Amcan hwn gennym oherwydd ein bod yn ymrwymo i sicrhau fod plant a phobl ifanc dan ein gofal yn ddiogel ac oherwydd ein bod wedi derbyn adroddiadau beirniadol gan arolygiaethau cenedlaethol. 9.3 Cytunai cyfran uchel iawn o ymatebwyr i’n hymgynghori y dylai diogelu fod yn flaenoriaeth uchel (roedd yn gydradd uchaf). Cyfeiriai’r sylwadau manwl a gawsom at yr adroddiadau arolwg beirniadol. Nododd eraill gyswllt rhwng diogelu, gwell cyrhaeddiad addysgol a llywodraethu corfforaethol yn fwy cyffredinol.

9.4 Rydym wedi pennu saith o gamau gweithredu i ni ein hunain dan yr amcan hwn: • Adolygu sut ydym yn rhoi cyngor i ysgolion a sefydlu tîm newydd yn dwyn ynghyd holl fedrusrwydd diogelu’n un gwasanaeth. • Gwneud archwiliad trefnus o ddiogelu ymhob ysgol. • Creu un man cyswllt lle gall ysgolion gael cyngor ar ddiogelu a chyfeirio, fel bod ysgolion yn gallu trin honiadau’n briodol. • Datblygu gwasanaeth eiriolaeth a chyfranogiad er mwyn sicrhau bod llais y plentyn yn cael ei glywed.. • Gwella cysondeb ac eglurder gwybodaeth sydd yn ein ffeiliau personél er mwyn sicrhau, pan gaiff honiad ei wneud yn erbyn unigolyn, bod crynodeb o’r honiad, canlyniad ymchwilio iddo ac unrhyw ddilyniant angenrheidiol gyda chyrff proffesiynol yn cael ei ddogfennu’n gyson. • Gweithredu Fframwaith Sicrhau Ansawdd rhwng awdurdodau ar gyfer diogelu. • Sicrhau bod personél allweddol sy’n gyfrifol am ddenu staff mewn ysgolion yn dilyn y cwrs hyfforddiant Denu Mwy Diogel. 9.5 Effaith cyflawni’r Amcan hwn fydd bod plant yn ysgolion Sir Benfro’n fwy diogel. Yn ogystal, byddwn yn fwy effeithiol wrth reoli gwybodaeth berthnasol i unigolion sydd wedi cael honiad yn eu herbyn.


9.6 Byddwn yn asesu ein cynnydd ar yr Amcan Gwella hwn trwy gadw golwg ar amrywiaeth o fesurau. Yn wahanol i’n Hamcanion Gwella eraill, nid oes unrhyw fesur meintiol unigol y mae modd ei ddefnyddio fel dangosydd pennawd i ddilyn cynnydd.

%130!3 ++56$$)!-2

!0'%$

Canran yr ysgolion sy’n cwblhau’r archwiliad Ysgolion Mwy Diogel gyda meysydd sydd angen eu gwella

100%

Gwell sicrwydd yn cael ei hysbysu trwy’r Fframwaith Sicrhau Ansawdd Diogelu ym Myd Addysg

-3

Nifer y personél addysg sy’n mynychu’r cwrs hyfforddiant denu mwy diogel Canran y plant perthnasol sy’n rhan o ymchwiliad(au) cam-drin proffesiynol: • a gafodd gynnig eiriolaeth • a gafodd gynnig eiriolaeth ac a fanteisiodd ar y cynnig

100

100% 30%

9.7 Mae amrywiaeth o gamau eraill y byddwn yn eu cymryd yn ystod 2013/14 a fydd, er nad ydynt yn uniongyrchol berthnasol i’r Amcan Gwella hwn, yn cyfrannu at y Canlyniad Allweddol cysylltiedig a nodwyd yn y Cynllun Cyfun Unigol: bod plant ac oedolion yn cael eu diogelu. 9.8 Byddwn yn sicrhau bod gweithlu’r gwasanaethau plant yn gallu ateb y galw’n ddiogel trwy weithredu cynllun denu a chadw gweithwyr cymdeithasol. Bydd hyn yn rhoi sylw i broblemau denu staff hirsefydlog sydd wedi arwain at ddibynnu gormod ar staff asiantaethau gwaith cymdeithasol cymharol ddrud.

9.9

/

Byddwn yn gwella ansawdd a chysondeb ein trefniadau asesu, cynllunio gofal ac adolygu. Er bod amseroldeb asesiadau ac adolygiadau plant dan ofal a chynlluniau amddiffyn plant yn dda, mae angen i ni wella cysondeb yn ogystal â chryfhau adolygiadau plant anghenus (y grŵp mwyaf o blant y mae dyletswydd statudol arnom i ddarparu gwasanaethau ar eu cyfer). Mynd i’r afael â’n materion denu staff gofal cymdeithasol yw un ffordd y byddwn yn rhoi sylw i hyn. Byddwn yn cadw golwg ar ein cynnydd trwy hysbysu canlyniadau archwiliad ffeiliau i’r Pwyllgor Craffu a Throsolygu Plant a Theuluoedd.

9.10 Er mwyn cryfhau ein gwaith i atal anghenion teuluoedd rhag cyrraedd sefyllfa pan fo angen gwasanaethau statudol, byddwn yn gweithredu prosiectau Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd a Thîm o Amgylch y Teulu. Bydd hyn yn golygu bod llai o deuluoedd yn cyrraedd argyfwng. Oherwydd bod cyfran uwch o deuluoedd dan straen yn byw mewn cylchoedd difreintiedig, mae hefyd yn ffordd ymarferol o liniaru effaith tlodi plant. Byddwn yn defnyddio’r peirianwaith presennol ar y cyd â chyllido’r timau hyn i gynhyrchu’r data perfformiad gofynnol i fesur ein llwyddiant. 9.11 Er mwyn diogelu oedolion diamddiffyn yn well, byddwn yn sicrhau ein bod yn gwella cymhwyster ein sefydliad i wneud a rheoli cyfeirebau ac ymchwiliadau amddiffyn oedolion. Trwy wneud y newidiadau sydd eu hangen, byddwn yn helpu darparwyr gyflenwi gwell gwasanaeth. Byddwn hefyd yn lleihau’r perygl y bydd cam-drin yn digwydd. Byddwn yn cadw golwg ar y gweithrediadau hyn trwy weld faint o bobl sydd wedi cael hyfforddiant mewn agweddau ar amddiffyn oedolion, yn ogystal â thrwy ddadansoddi gwybodaeth arolygu contractau. 3

Nid yw’n ddilys pennu targed meintiol ar gyfer y math hwn o fesur.


).'%+5#(

Nid ydym wedi pennu Amcan Gwella ar gyfer hyn

10.1 Sir Benfro yw un o’r mannau mwyaf diogel i fyw yng Nghymru a Lloegr, gydag ychydig iawn o drosedd ac anhrefn mewn cymhariaeth ag ardaloedd eraill. Ar waethaf y diffyg trosedd mewn gwirionedd, mae ofn trosedd yn dal i beri cryn bryder i rai trigolion. 10.2 Mae gweithgaredd i hyrwyddo diogelwch cymunedol yn dibynnu’n drwm ar weithio ar y cyd a’r heddlu sy’n darparu swmp y gwasanaethau perthnasol, yn hytrach na ni ein hunain. Dylanwadwyd ar sut mae sefydliadau’n cydweithio i ddelio â diogelwch cymunedol trwy ethol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a all, yn y man, ailgomisiynu sut gaiff gwasanaethau i gynnal yr agenda trosedd a diogelwch cymunedol eu darparu. 10.3 Ar ôl ymgynghori, ein penderfyniad oedd peidio â phennu Amcan Gwella ar gyfer y maes hwn. Roedd hyn yn bennaf oherwydd cymharol ychydig o drosedd sydd yn Sir Benfro. 10.4 Dangosodd canlyniadau ein hymgynghori bod llai o bobl yn cytuno y dylai trosedd a diogelwch cymunedol fod yn flaenoriaeth (dyma’r isaf ond dau). Dywedodd amryw ymatebwyr bod y drefn bresennol fel petai’n gweithio’n dda neu ei bod yn flaenoriaeth is na meysydd eraill. Tynnodd dau ymatebydd sylw at effaith cwtogi gwariant ar wasanaeth yr heddlu ei hun, rhywbeth sydd y tu hwnt i’n rheolaeth. 10.5 Er nad ydym wedi pennu Amcan Gwella ar gyfer y maes hwn, mae amrywiaeth o gamau eraill y byddwn yn eu cymryd yn

ystod 2013/14 a fydd yn cyfrannu at y Canlyniad Allweddol a nodwyd yn y Cynllun Cyfun Unigol: bod cymunedau Sir Benfro’n teimlo’n ddiogel. 10.6 Er enghraifft, byddwn yn dal i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y cyfle cyntaf ac yn darparu gwasanaethau atal ar gyfer pobl ifanc er mwyn helpu lleihau’r nifer sy’n mynd i drefn cyfiawnder troseddol. Byddwn yn dwyn y gwaith hwn ymlaen ar y cyd ag asiantaethau eraill cyfiawnder troseddol. 10.7 Er mwyn rhoi sylw i ymddygiad pobl sy’n troseddu’n rheolaidd, byddwn yn gweithio trwy fframwaith amlasiantaethol i sicrhau cydgysylltu ymyriadau. Byddwn yn asesu effeithiolrwydd y dull hwn trwy gadw golwg ar aildroseddu ymhlith troseddwyr o fewn Prosiect Cleddau. 10.8 Byddwn yn parhau gyda’r dull llunio cynlluniau gweithredu i roi sylw i ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu treisiol cysylltiedig ag yfed gormod o alcohol a fabwysiadwyd gennym yn Ninbych-y-pysgod, Saundersfoot a Hwlffordd. Byddwn yn mesur effaith hyn trwy fesur cyfraddau troseddu treisiol. 10.9 Mae nifer o gyfleusterau petrocemegol o bwysigrwydd cenedlaethol yn Sir Benfro. Yn ystod 2013/14, byddwn yn gweithio ar y cyd ag asiantaethau eraill i wella ein parodrwydd ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau mawr cysylltiedig.


6&+56-. !$0.$$)!$!3 11.1 Nid yw cynllunio gwelliant yn gorffen gyda gweithredu. Fel y nodwyd yn y cyflwyniad i’r Cynllun hwn, mae’n broses gylchol pryd y byddwn gyson yn adolygu ac yn edrych eto ar ein cynlluniau yng ngoleuni’r amgylchiadau y byddwn yn gweithio danynt. 11.2 Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn cyhoeddi ein Hadolygiad Gwelliannau. Yn fras, bydd y ddogfen hon yn disgrifio a ydym wedi cyflawni’r Amcanion a bennwyd i ni ein hunain ar gyfer 2012/13 neu beidio. Bydd yn cynnwys tystiolaeth bwysig fel ystadegau perfformiad ac adroddiadau gwaith ar gwblhau prosiectau. Mae’n gyfle i ni asesu sut wnaethom a rhannu’r cloriannu hwnnw gyda’n cwsmeriaid a’r rhai sy’n ein rheoleiddio. 11.3 Mae’r Adolygiad Gwelliannau hefyd yn cynorthwyo cynllunio ein gweithgaredd at y dyfodol. Mae’n helpu i ni benderfynu a ydym yn mynd i’r afael â’r materion cywir neu beidio ac a ydym yn mynd ati yn y ffordd iawn.

11.4 Yn olaf, bydd y drefn adolygu’n rhoi cyfle arall i ni feddwl am y sylwadau a gawsom gan unigolion a grwpiau cymunedol. Rydym bob amser yn barod i dderbyn sylwadau ar ein hamcanion; rydym wedi cynnwys ein manylion cysylltu ar dudalen 1 y Cynllun hwn. 11.5 Ni fyddwn yn cyhoeddi’r Adolygiad cysylltiedig â’r Cynllun hwn cyn mis Tachwedd 2014. Fodd bynnag, bydd Uwch-swyddogion a Chynghorwyr yn cadw golwg bob chwarter ar y camau gweithredu a mesurau perfformiad yn y cynllun hwn. Er enghraifft, bydd ein Pwyllgorau Arolygu ac Archwilio’n adolygu’r meysydd sy’n berthnasol iddynt. Caiff dyddiadau cyfarfodydd, agendâu a’r holl bapurau perthnasol eu cyhoeddi ar ein gwefan.


%)0&! Tai fforddiadwy

Unrhyw dai (e.e. ar rent, i’w prynu, neu fel rhent rhannol, prynu rhannol) sydd ar gael am lai na phrisiau’r farchnad.

Gwastraff pydradwy

Gwastraff yw hwn sy’n dadelfennu ac yn pydru, fel gwastraff bwyd.

Ôl troed carbon

Amcangyfrif o gyfanswm carbon deuocsid sy’n cael ei gynhyrchu gan unigolyn, sefydliad, digwyddiad neu gynnyrch.

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrife

Prosiect Cleddau

Dangosydd pynciau craidd

Mae AGGCC yn annog gwella gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae hefyd yn archwilio darparwyr gofal cyhoeddus a phreifat ac awdurdodau lleol.

Oedi wrth drosglwyddo gofal

Gofal cartref

Gofal sy’n cael ei ddarparu i bobl yn eu cartrefi eu hunain, fel cynorthwyo gydag ymolchi, gwisgo neu anghenion personol eraill.

Ardal Fenter

Dynodiad datblygiad economaidd Llywodraeth y DU sy’n hybu twf trwy roi cymhellion i fusnesau mewn ardal benodol.

Estyn

Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Diben Estyn yw edrych ar ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Trefniadau ffederasiwn

Trefniant rhwng darparwyr addysg i gynyddu rhychwant y cymwysterau sydd ar gael i bobl ifanc. Yn Sir Benfro mae’r prosiect hwn yn gofyn bod ysgolion lleol a Choleg Sir Benfro’n cydgysylltu darpariaeth rhai cyrsiau.

Cynllun Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn adeiladau ysgol. Cleddau Sir Benfro yw prosiect Cyfun Rheoli Troseddwyr, sy’n bartneriaeth o’r Heddlu, Profiannaeth, y Tîm Troseddau Ieuenctid, yr Awdurdod Lleol a llawer o asiantaethau eraill sy’n cynnig cynhaliaeth a chefnogaeth i’r cleientiaid aros allan o drwbl. Y ganran sy’n cyflawni’r safon ddisgwyliedig yn y Gymraeg (iaith gyntaf) neu’r Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 1-3 ac o leiaf TGAU Gradd Cyng Nghyfnod Allweddol 4.

Blocio gwelyau yw’r enw ar hyn weithiau. Gall ddigwydd pan fo pobl wedi bod yn yr ysbyty a heb fod angen gwasanaethau meddygol mwyach, ond sydd angen bod gwasanaethau ychwanegol yn bodoli cyn iddynt allu mynd adref. Ein cyfrifoldeb ni’n aml yw sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn bodoli.


Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009

Datganolwyd grym i ddeddfu ar gynllunio cymunedol a gwella lleol yng Nghymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mesur yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio deddfwriaeth a luniwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Plant dan ofal

Plant y mae’r Cyngor wedi cymryd i’w gofal. Caiff plant dan ofal eu gosod naill ai gyda gofalwyr maeth neu rieni sy’n eu mabwysiadu. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn cadw cyfrifoldeb cyfreithiol dros eu lles (fel eu ‘rhieni corfforaethol’).

Gwastraff trefol

Cam-drin proffesiynol

Nodweddion gwarchodedig

Gwastraff sy’n cael ei gasglu’n uniongyrchol o gartrefi, trwy safleoedd amwynder dinesig, o finiau sbwriel neu drwy lanhau strydoedd. Digwyddiadau pan fydd rhywun yn ein cyflogaeth neu’n gweithredu ar ein rhan yn cymryd mantais o’u sefyllfa i gam-drin neu niweidio plant neu oedolion diamddiffyn. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu grwpiau amrywiol. Y rhain yw: Oed; Hil; Anabledd; Crefydd a Chred; Newid Rhyw; Rhyw; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Cyfeiriadedd Rhywiol; a Beichiogrwydd a Mamolaeth.

Ailalluogit

Pecyn gwasanaethau ar gyfer pobl sydd angen cymorth i fyw yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r gwasanaethau hyn yn annog a chefnogi pobl i wneud cymaint ag a allant drostynt eu hunain, gan wneud gorchwylion gyda hwy yn hytrach nag iddynt.

Datblygiad Cynaliadwy

Dogfen sy’n rhoi cyhoeddusrwydd i ymroddiad sefydliad i wneud penderfyniadau sy’n ystyried materion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol hirdymor.

Cytundebau S106

Cytundebau ariannol yw’r rhain sy’n rhwymo’n gyfreithiol rhwng awdurdod cynllunio lleol a datblygwr i wneud cyfraniad at isadeiledd lleol neu i wneud iawn am effeithiau allanol datblygiad.



Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.