CYNLLUN GWELLA 2015/16
w w w. p e m b r o k e s h i r e . g o v. u k
CY NLLU N GW E LL A 2 0 1 5 /1 6 Ble i gael rhagor o wybodaeth a datganiad cydymffurfio Mae’r cynllun hwn yn cyflawni ein dyletswyddau dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 i gynhyrchu Cynllun Gwella.
I gael copi o’r ddogfen hon mewn print bras, Braille, tâp sain neu iaith arall, cysylltwch â Jackie Meskimmon ar 01437 776613. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:
Dan Shaw Rheolwr Cynllunio Corfforaethol Cyngor Sir Penfro Neuadd y Sir Hwlffordd Sir Benfro SA61 1TP
Ffôn: 01437 775857
polisi@sir-benfro.gov.uk www.pembrokeshire.gov.uk
2
CYNNWYS 1. 2. 3. 4. 5. 6. 7. 8. 9. 10. 11. 12.
Cyflwyniad
Ein hegwyddorion
05
08
Datblygu ein Hamcanion Gwella
11
Yr Economi
21
Iechyd
28
Plant
Yr Amgylchedd Diogelu
15
25
32
Diogelwch
34
Ein Cynllun Ariannol Tymor Canolig
42
Themâu trawsbynciol
Cyflwyno’r adroddiadau
Geirfa
3
36
45
46
RHAGAIR Mae’n dda gennyf gyflwyno Cynllun Gwella Cyngor Sir Penfro ar gyfer 2015/16.
Y Cynllun hwn yw ein prif ddogfen at y dyfodol ac mae’n cyflwyno ein hamcanion ar gyfer y flwyddyn a ddaw. Mae’n rhoi cyfle i ni egluro ein dealltwriaeth o’r materion sy’n bwysig i chi a rhannu sut ydym yn bwriadu rhoi sylw iddynt.
Yn ystod y flwyddyn aeth heibio, mae’r Cyngor wedi profi nifer o newidiadau arwyddocaol. Er bod y newidiadau hyn wedi ennyn cryn dipyn o ddadlau a thrafod ymhlith Cynghorwyr, mae’n dda gennyf ddweud bod ein Swyddogion wedi parhau i ddarparu gwasanaethau o safon uchel a gwell canlyniadau i bobl a lleoedd yn Sir Benfro.
At ei gilydd, roeddwn yn fodlon gyda’n perfformiad llynedd. Gwnaethom gynnydd rhagorol mewn cysylltiad â chyflawni ein Hamcanion Gwella i adolygu Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Oedolion a lleihau faint o wastraff sy’n cael ei anfon i dirlenwi. Gwnaethom gynnydd da hefyd tuag at wella cyrhaeddiad addysgol i blant a phobl ifanc, er ein bod yn cydnabod bod llawer mwy i ni ei wneud yn y maes hwn.
Llwyddwyd i sicrhau’r cynnydd hwn ar adeg o bwysau ariannol cynyddol. Yn ystod y flwyddyn aeth heibio, sicrhawyd arbedion yn y gyllideb o £12.9 miliwn. Cyflawnwyd hyn ar y cyfan trwy foderneiddio ein hagwedd at gyflenwi gwasanaethau a thrwy wella effeithlonrwydd ein gwasanaethau cymorth. Roedd hi’n anochel y byddai rhai o’r newidiadau a wnaethom yn effeithio ar ddefnyddwyr ein gwasanaethau. Fodd bynnag, rwy’n falch dweud ein bod hyd yn hyn wedi gallu lliniaru rhai o’r effeithiau mwyaf sylweddol.
Bydd y flwyddyn a ddaw yr un mor heriol o safbwynt ariannol. Mae angen i ni arbed £12.3 miliwn yn rhagor i sicrhau ein bod yn cadw o fewn ein cyllideb eleni. Rydym eisoes wedi clustnodi llawer o’r arbedion y bydd yn rhaid i ni eu gwneud. Bydd aelodau etholedig yn ystyried a ddylem weithredu’r newidiadau hyn ai peidio, neu a oes angen i ni ystyried opsiynau eraill dros y misoedd a ddaw.
Yn ddiweddar, cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus gyda chymunedau ledled Sir Benfro. At ei gilydd, roedd y trafodaethau a gafwyd ymhob un o’r sesiynau yn gadarnhaol ac adeiladol. Bydd y wybodaeth a gasglwyd o’r ymarfer hwn yn helpu i lywio blaenoriaethau i’r dyfodol a phenderfyniadau ynghylch cyllidebau. Ond yn fwy na hynny, mae’r cyfarfodydd hyn yn nodi dechrau ein hymdrechion i adfer ymddiriedaeth yn yr Awdurdod ac yn ein Cynghorwyr lleol. Edrychaf ymlaen at barhau gyda’r trafodaethau hyn yn y flwyddyn a ddaw. Y Cynghorydd Jamie Adams, Arweinydd
4
1 . C Y F LW Y N I A D 1.1.
1.1 1.2.
1.2 1.3.
1.3 1.4.
1.4
Diben y Cynllun hwn yw disgrifio beth fyddwn yn ei wneud i gyflawni ein dyletswydd i sicrhau gwelliant parhaol1. Mae’n cyflwyno’r meysydd gwelliant y byddwn yn canolbwyntio arnynt yn ystod y flwyddyn a ddaw ac yn egluro ein sail resymegol dros wneud hynny.
Ysgrifennwyd y Cynllun gyda thrigolion, busnesau ac ymwelwyr â’r Sir mewn golwg. Bydd pob un o’r rhanddeiliaid hyn yn defnyddio ein gwasanaethau ac mae ganddynt ddiddordeb yn ein hagwedd at gyflawni gwelliant parhaol.
Y Cynllun yw mynegiant cyhoeddus ein hagwedd at reoli perfformiad. Mae ein fframwaith rheoli perfformiad yn disgrifio’r cylch blynyddol a ddilynwn wrth gynllunio, arolygu ac adolygu popeth a wnawn.
 siarad yn gyffredinol, mae pedwar cam yn ein fframwaith. Rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth bob blwyddyn canolbwyntiwn ar nodi amcanion at wella. Yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill byddwn yn terfynu ein hamcanion ac yn amlinellu ein cynlluniau cyflawni yn ystod y flwyddyn a ddaw. Byddwn yn monitro perfformiad drwy gydol y flwyddyn ac yn ceisio nodi beth yw effaith cyflenwi ein gwasanaethau ar y gymuned. Yn olaf, yn ystod mis Medi a mis Hydref dechreuwn adolygu ein cynnydd fel ein bod mewn sefyllfa i fireinio ein hamcanion ar gyfer y flwyddyn ddilynol.
Mae Adran 2 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn rhoi dyletswydd gyffredinol ar holl awdurdodau lleol yng Nghymru i “drefnu sicrhau gwelliant parhaol wrth arfer [eu] swyddogaethau”.
1
5
1.5.
1.5
Trefnwyd Cynllun eleni, fel y llynedd, o gwmpas chwe chanlyniad allweddol Cynllun Integredig Sengl Sir Benfro. Cynllun partneriaeth yw hwn sy’n adlewyrchu nodau gwasanaeth cyhoeddus cyfan Sir Benfro. Chwe chanlyniad allweddol dynodedig y Cynllun Integredig Sengl yw: • Plant a Theuluoedd: Bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn cael cyfle i gyflawni eu posibiliadau dysgu a byw bywydau iach a hapus • Yr Economi: Bod gan Sir Benfro economi cystadleuol, cynhyrchiol a chynaliadwy • Yr Amgylchedd: Bod pobl Sir Benfro’n mwynhau amgylchedd deniadol, cynaliadwy ac amrywiol • Iechyd: Bod pobl Sir Benfro’n iachach • Diogelu: Bod plant ac oedolion yn cael eu diogelu • Diogelwch: Bod cymunedau Sir Benfro’n teimlo’n ddiogel
1.6. 1.6
Rydym wedi gohirio ein bwriad i addasu’r Cynllun Integredig Sengl gan fod Llywodraeth Cymru wedi tywys deddfwriaeth trwy’r Cynulliad Cenedlaethol i addasu’n sylweddol sut ydym yn datblygu cynllunio hirdymor gyda’n partneriaid yn y sector cyhoeddus . Mae hyn yn cysylltu gyda chynhyrchu cynllun newydd i’n cylchoedd etholiadol a rhagwelwn y bydd cynllun newydd yn ei le o Ebrill 2018. Rydym ar hyn o bryd yn adnewyddu aelodaeth ein Bwrdd Gwasanaeth Lleol ac mae’n bosibl y bydd partneriaeth newydd, ehangach yn dewis adolygu’r Cynllun Integredig Sengl yn ystod 2015/16.
1.7.
Yn ogystal â nodi ein cyfraniad at gyflawni’r canlyniadau allweddol hyn, mae’r Cynllun hwn yn disgrifio:
1.7
• • • • •
2 3
ein hegwyddorion fel sefydliad, ein hagwedd at gynaliadwyedd, cydraddoldeb, tlodi a’r Gymraeg, ein Hamcanion Gwella ar gyfer 2015/16, crynodeb o’n Cynllun Ariannol Tymor Canolig, a sut fyddwn yn hysbysu ac yn adolygu ein cynnydd yn y dyfodol.
Mesur Cenedlaethau’r Dyfodol yw’r ddeddfwriaeth hon. Partneriaethau o gyrff sy’n gyfrifol am baratoi Cynlluniau Cyfannol Lleol ymhob ardal awdurdod lleol yw’r Byrddau Gwasanaeth Lleol.
6
SUT MAE EIN CYNLLUNIAU’N CYD-FYND Â’I GILYDD 1.8.
1.8
Mae’r Cynllun Gwella hwn yn rhan o hierarchaeth o gynlluniau, pob un ohonynt yn chwarae rhan sylweddol yn nhrefniadau cyflenwi ein gwasanaethau. Mae’n arfer da gallu tynnu ‘llinyn euraid’ rhwng y cynlluniau a nodi sut fydd aelodau unigol o’r staff, timau, adrannau gwasanaeth a mudiadau partner yn gweithio tuag at ganlyniadau allweddol y Cynllun Integredig Sengl.
Y C yn l l u n C yf u n U n i go l Y Cynllun Hwn
Y C yn l l u n G w e l l a Cynllunia Gwella Gwasanaethau Cynllunia Timau Gwerthusiadau Perfformiad
1.9
1.9. Yn ystod 2015/16, byddwn yn dal i ddatblygu ein fframwaith perfformiad corfforaethol. Ar ddechrau’r flwyddyn, dechreuodd Swyddfa Archwilio Cymru (WAO) yn cynnal Asesiad Corfforaethol o’r Awdurdod a fydd yn profi os ydym yn cydymffurfio â gofynion i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus. Byddwn yn ymgysylltu’n gadarnhaol gydag unrhyw argymhellion y gall y WAO eu gwneud ynghylch sut y gallem wella. Byddwn hefyd yn cynyddu cyfran y cyflogeion sy’n cwblhau arfarniadau perfformiad ac yn gwella sut ydym yn monitro a chofnodi canlyniadau gwerthusiadau. Ymhellach, bydd ein hymrwymiad i gynyddu ymgysylltiad â’r cyhoedd yn llywio’n well ein blaenoriaethau a chynlluniau i’r dyfodol.
7
EIN HEGWYDDORION 2.1.
2.1
Ers dechreuad Cyngor Sir Penfro yn 1996, rydym wedi gweithio i gyflawni gwasanaethau yn ôl tair egwyddor drawsbynciol. Rydym ar hyn o bryd yn y broses o adolygu’r egwyddorion hyn. Yn ddiweddar, lansiwyd proses ymgynghori yn dwyn y teitl Mae Cyngor Sir Penfro yn Newid a bydd yr adborth hwn a’r ymgysylltiad parhaus gyda thrigolion a chymunedau lleol yn llywio datblygiad gweledigaeth newydd i’r Awdurdod. Mae cyfres newydd o egwyddorion ac o bosibl geirfa wahanol yn debygol o fod yn sail i’n Cynlluniau Gwella yn y dyfodol – er enghraifft, dywedwyd wrthym yn ddiweddar bod rhai trigolion yn gwrthwynebu’r term ‘cwsmer’ ac y byddai’n well ganddynt gael eu galw’n rhywbeth gwahanol. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i gadw at yr egwyddorion canlynol:
CANOLBWYNTIO AR Y CWSMER GWERTH AM YR ARIAN UN TÎM
2.2
2.2.
Mae trin cwsmeriaid (y bobl sy’n elwa o’n gwasanaethau) yn gwrtais ac yn deg yn egwyddor sydd wedi’n gwasanaethu’n dda. Rydym yn cymryd sylw o’r elfennau sylfaenol ac yn eu monitro: materion fel pa mor gyflym y caiff galwadau ffôn a llythyrau eu hateb, yn ogystal â sut gaiff cwynion eu trin a pha wersi y gellid eu dysgu.
2.3.
Ein nod yw darparu cyfleoedd syml a rhwydd i gwsmeriaid gael gafael ar ein gwasanaethau. Wrth i dechnoleg gwybodaeth ddatblygu, rydym wedi gallu ymestyn y sianelau sydd ar gael i gwsmeriaid gysylltu â ni. Er enghraifft, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i gwsmeriaid gael gwasanaethau a gwybodaeth drwy’r rhyngrwyd. Rydym wedi lansio cyfleuster Fy Nghyfrif ar ein
2.3
8
gwefan ac rydym yn gweithio at gynyddu’r ystod o wasanaethau a gynigiwn drwy’r we.
2.4
2.4.
Roeddem yn un o’r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i fod â chanolfan gyswllt cwsmeriaid unswydd. Rydym yn perfformio’n dda am ateb y ffôn mewn cymhariaeth â nifer o awdurdodau eraill . Er bod mwyafrif llethol ein cwsmeriaid yn dal i ddefnyddio’r sianel hon yn hytrach na chyswllt wyneb yn wyneb, rydym wedi cadw amrywiaeth o gyfleusterau fel bod cwsmeriaid yn gallu cael gwasanaethau dros y cownter.
2.5.
Bu cael gwerth da am arian yn bwysig i ni erioed. Am flynyddoedd lawer, rydym wedi pennu’r Dreth Gyngor isaf o unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru. Ein Treth Gyngor Band ‘D’ ar gyfer 2015/16 fydd £801.04, sydd tua £300 islaw y tâl Band D nodweddiadol i gynghorau eraill Cymru. 4.5% oedd y cynnydd yn y Dreth Cyngor Band D rhwng 2014/15 a 2015/16, cynnydd uchel mewn cymhariaeth â’r rhai a osodwyd gennym yn y gorffennol. Rhagwelwn y bydd yn rhaid i ni osod cynnydd tebyg yn y ddwy flynedd ariannol nesaf. Mae ychydig o’r adborth cynnar o’n digwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned yn awgrymu na fyddai trigolion yn gwrthwynebu talu mwy o Dreth
2.5
Cyngor am well gwasanaethau lleol. Byddwn yn ystyried goblygiadau’r adborth hwn yn y flwyddyn a ddaw.
2.6
2.6.
Mae’r pwysau ariannol y byddwn yn ei wynebu dros y ddwy flynedd nesaf yn ddigynsail yn hanes y Cyngor. Mae Adran 11 yn egluro sut mae’r blaenoriaethau a nodwyd yn y Cynllun hwn wedi ysbrydoli ein penderfyniadau cyllidebu. Bydd angen i ni arbed oddeutu £12.3 miliwn yn ystod blwyddyn ariannol 2015/16. Rydym yn amcangyfrif y bydd angen i ni hefyd arbed £24.4 miliwn pellach rhwng 2016/17 a 2017/18.
2.7.
Nid yw cael gwerth bob amser yn golygu cyfyngu ar ein gwariant. Mae adegau pan fydd buddsoddi mewn gwasanaethau’n helpu i ni arbed arian yn y tymor hwy. Trwy ddadansoddi effeithiau cyfnod hwy ein gwariant, rydym yn gallu gwella cynaliadwyedd y gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn anelu at leihau nifer yr adeiladau y defnyddiwn a gwneud defnydd mwy effeithlon o’r gofod sydd ar gael yn yr adeiladau y defnyddiwn.
2.7
Rydym yn casglu data meincnodi i gymharu ein perfformiad gydag ystod o awdurdodau lleol eraill. Ar gyfartaledd, atebwn y ffôn yn ein canolfan gyswllt mewn 19 eiliad. Y cyfartaledd i’r awdurdodau eraill yn ein grŵp meincnodi yw 35 eiliad. 4
9
2.8
2.8.
Ein hegwyddor derfynol yw gweithio fel un tîm er lles pawb yn Sir Benfro. Mae awdurdodau lleol yn sefydliadau mawr a chymhleth, ond rydym bob amser wedi ceisio lleihau rhaniadau mewnol er lles ein cwsmeriaid.
2.9.
Er enghraifft, caiff llywodraethu ein gwasanaethau ei drefnu fel ei fod yn torri ar draws ffiniau adrannol. Mae hyn yn galluogi Cynghorwyr Etholedig i edrych y tu hwnt i faterion plwyfol a chadw safbwynt strategol eang.
2.9
2.10. Mae gweithio gyda’n partneriaid (ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector) yn rhan gynyddol bwysig o’n gwaith. Disgwyliwn y byddwn yn cynyddu cydweithio ar lefel Sir Benfro a lefel rhanbarthol dros y 12 mis nesaf.
2.10
2.11. Yn ogystal â’n hegwyddorion, mae ein gwaith yn adlewyrchu pwysigrwydd nifer o themâu trawsbynciol. Mae Adran 10 yn disgrifio sut byddwn yn ymgorffori’r egwyddorion canlynol yn ein gwaith: datblygu cynaliadwy, cydraddoldeb ac amrywiaeth, peirianwaith i drechu tlodi a chymorth i’r Gymraeg. Rydym wedi rhoi mwy o bwyslais ar y gwaith hwn trwy osod Amcan Gwelliant ar gyfer 2015/16 sy’n canolbwyntio ar ein gwaith i oresgyn tlodi.
2.11
10
D A T B LY G U E I N H A M C A N I O N G W E L L A 3.1.
3.1
3.2.
3.2
3.3.
3.3
SUT FUOM YN YMGYNGHORI AR EIN HAMCANION GWELLA
Un o ofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yw ein bod yn cyhoeddi rhestr o Amcanion Gwella bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau statudol i gynorthwyo i ni gyflawni hyn. Rydym wedi defnyddio’r fframwaith hwn i nodi Amcanion Gwella sy’n uchelgeisiol, ond hefyd yn gyraeddadwy. Mae’r canllawiau’n disgrifio sut dylid manylu Amcanion Gwella. Er enghraifft, mae’n cyfeirio at yr angen i gydbwyso blaenoriaethau cenedlaethol a lleol, i sylwi ar ganlyniadau adroddiadau arolwg, i ymgorffori’r angen am arbediadau ac i fanteisio ar gyfleoedd sy’n deillio o ddatblygu technolegau newydd.
3.4
3.4.
Manteisiwyd ar amrywiaeth o gyfleoedd i ennyn diddordeb yn nrafft ein Hamcanion Gwella a chael sylwadau arnynt. Roedd y rhain yn cynnwys annog sylw’r wasg a defnyddio rhestri postio. Buom yn ymgynghori’n uniongyrchol â thrigolion trwy ein gwefan a chyflwyno holiadur i’n Panel Dinasyddion i ategu’r gwaith hwn. Amserwyd ein gweithgarwch ymgynghori i gyd-fynd gyda gwaith ymgynghori a gynhaliwyd ynghylch cynigion ein cyllideb ar gyfer 2015/16.
3.5.
Ceisiwyd barn ar ddeuddeg o Amcanion Gwella arfaethedig. Roedd rhestr yr Amcanion arfaethedig yn cwmpasu’r meysydd canlynol:
3.5
I 2015/16, rydym wedi parhau gyda’r agwedd a fabwysiadwyd gennym mewn blynyddoedd blaenorol sef mabwysiadu llai o amcanion gwella sy’n canolbwyntio ein hymdrechion yn fwy effeithiol. Roedd y pum amcan a bennwyd gennym yn 2014/15 yn adlewyrchu blaenoriaethau tymor hwy’r Cyngor. Mae pedwar o’r pum Amcan a bennwyd gennym i’r flwyddyn hon yn adeiladu ar restr y llynedd. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi penderfynu dewis Amcan Gwella trawsbynciol i’r flwyddyn sydd i ddod i ganolbwyntio ar y gwaith o drechu tlodi.
• • • • • • • • • •
Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion Amddiffyn yr Arfordir Adfywio Economaidd Arbedion Effeithiolrwydd Tai Gwella Mynediad i Wasanaethau’r Cyngor Gwella Ysgolion Trechu Tlodi Canol Trefi Hyfforddiant a Recriwtio i Bobl Ifanc yn Sir Benfro • Plant Diamddiffyn • Rheoli Gwastraff
11
3.6.
3.6
Cynorthwyodd yr ymateb a gawsom yn ystod ein hymgynghori inni gulhau’r rhestr hon. Cafodd y cwestiynau a ddefnyddiwyd gennym gyda’r Panel Dinasyddion eu defnyddio hefyd wrth ymgynghori â’r cyhoedd ar y we. Cyfunwyd canlyniadau’r ymarferion hyn a dadansoddwyd y canlyniadau5. Rhoddodd grwpiau gwahanol o ymatebwyr bwysau ychydig yn wahanol ar feysydd gwahanol. Dyma’r pum maes oedd yn ymddangos yn gyson fel y rhai pwysig i ymatebwr yr ymgynghoriad:
• Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion 3.7.
3.7
• Plant Diamddiffyn
• Adfywio Economaidd
• Trechu Tlodi
• Gwella Ysgolion
 siarad yn gyffredinol, roedd y canlyniadau hyn yn adlewyrchu ein barn ein hunain ynghylch blaenoriaethau priodol i’r Cyngor. O ganlyniad, rydym wedi nodi’r casgliad canlynol o Amcanion Gwella ar gyfer 2015/16. AMCAN GWELLA 1:
Gwella ysGolion Byddwn yn herio a chefnogi ein hysgolion yn gyson i wella canlyniadau dysgu a chynorthwyo plant a phobl ifanc i gyrraedd eu llawn allu, yn enwedig yng Nghyfnod Allweddol 4 (TGAU). AMCAN GWELLA 2:
Plant DiamDDiffyn Byddwn yn meithrin gallu ysgolion a gwasanaethau fel bod plant a phobl ifanc diamddiffyn yn gallu bod yn ddiogel gartref ac yn yr ysgol a chyrraedd eu llawn allu. 5
Mae canlyniadau manwl ein hymgynghoriad ar gael ar gais
12
AMCAN GWELLA 3:
aDfywio eConomaiDD a Chanol trefi Byddwn yn galluogi, hwyluso a chyflawni cynlluniau sy’n cyfrannu at economi cystadleuol, cynhyrchiol a chynaliadwy. AMCAN GWELLA 4:
aD-Drefnu Gwasanaethau Gofal CymDeithasol oeDolion
Byddwn yn parhau i newid sut ydym yn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion i wella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd. AMCAN GWELLA 5:
treChu tloDi Yn unol â blaenoriaeth genedlaethol Cymru, byddwn yn dilyn agwedd gydgysylltiedig ar draws holl adrannau ac ar draws Sir Benfro gyfan i gynorthwyo i rwystro tlodi, cynorthwyo pobl i gael gwaith a lliniaru effeithiau tlodi. 3.8.
3.8
Mae esboniad mwy manwl o pam y dewiswyd yr Amcanion hyn yn adrannau perthnasol y ddogfen hon.
13
3.9.
3.9
Wrth nodi ein Hamcanion Gwella, mae’n bwysig i ni allu creu cysylltiadau cryf gyda Chynllun Integredig Sengl Sir Benfro. Rydym wedi nodi Amcanion sy’n cyfrannu at dri, ac yn rhannol at un arall, o’r canlyniadau allweddol a ddisgrifiwyd yn y Cynllun Integredig Sengl. Mae’r Amcan trechu tlodi yn berthnasol i bob un o’r chwe chanlyniad allweddol. Caiff y berthynas rhwng yr Amcanion a’r canlyniadau allweddol hyn eu dangos isod:
CanlyniaD allweDDol
amCan Gwella
Gwella Ysgolion: Byddwn yn herio a chefnogi ein hysgolion yn gyson i wella canlyniadau dysgu a chynorthwyo plant a phobl ifanc i gyrraedd eu llawn allu, yn enwedig yng Nghyfnod Allweddol 4 (TGAU).
Plant: Bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn cael cyfle i gyflawni eu posibiliadau dysgu Plant Diamddiffyn: Byddwn yn meithrin gallu ysgolion a gwasanaethau fel bod plant a phobl ifanc diamddiffyn yn gallu bod yn ddiogel gartref ac yn a byw bywydau iach a hapus yr ysgol a chyrraedd eu llawn allu.
Yr Economi: Bod gan Sir Benfro economi cystadleuol, cynhyrchiol a chynaliadwy
Adfywio a Chanol Trefi: Byddwn yn galluogi, hwyluso a chyflawni cynlluniau sy’n cyfrannu at economi cystadleuol, cynhyrchiol a chynaliadwy.
Diogelu: Bod plant ac oedolion yn cael eu diogelu.
Dim Amcan Gwella (fodd bynnag, mae’r Amcan Gwella sy’n ymwneud â phlant diamddiffyn yn cefnogi hyn yn rhannol).
Pob Canlyniad Allweddol
lodi: Yn unol â blaenoriaeth genedlaethol Cymru, byddwn yn dilyn agwedd gydgysylltiedig ar draws holl adrannau ac ar draws Sir Benfro gyfan i gynorthwyo i rwystro tlodi, cynorthwyo pobl i gael gwaith a lliniaru effeithiau tlodi.
Yr Amgylchedd: Bod pobl Sir Benfro’n mwynhau amgylchedd deniadol, Dim Amcan Gwella cynaliadwy ac amrywiol Ad-drefnu Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Oedolion: Byddwn yn Iechyd: : Bod pobl parhau i newid sut ydym yn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol Sir Benfro’n iachach. oedolion i wella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd. Diogelwch: Bod cymunedau Sir Benfro’n teimlo’n ddiogel.
Dim Amcan Gwella
3.10. Mae gweddill y Cynllun yn disgrifio pob Amcan Gwella’n fanylach ac yn egluro beth arall a wnawn i gyfrannu at y canlyniadau allweddol a nodwyd yn y Cynllun Integredig Sengl.
3.10
14
PLANT amCan Gwella
1: Gwella ysGolion
Byddwn yn herio a chefnogi ein hysgolion yn gyson i wella canlyniadau dysgu a chynorthwyo plant a phobl ifanc i gyrraedd eu llawn allu, yn enwedig yng Nghyfnod Allweddol 4 (TGAU).
2: Plant DiamDDiffyn neu aGoreD i niweD amCan Gwella
Byddwn yn meithrin gallu ysgolion a gwasanaethau fel bod plant a phobl ifanc diamddiffyn yn gallu bod yn ddiogel gartref ac yn yr ysgol a chyrraedd eu llawn allu.
4.1
4.1.
Mae ein gwasanaethau ar gyfer plant, teuluoedd ac ysgolion yn cyfrif am ryw hanner ein gwariant llawn bob blwyddyn. Er ein bod yn darparu llawer o wasanaethau ein hunain, gwnawn gryn dipyn o waith mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill. Mae cyrhaeddiad a phresenoldeb yn faterion hollbwysig i’r Sir gyfan, ond mae’r heriau hyn yn fwy enbyd fyth i blant a theuluoedd lle mae’r incwm yn isel. Rydym wedi dewis dau Amcan eleni oherwydd ein bod eisiau i holl blant a phobl ifanc Sir Benfro gyflawni’r canlyniadau gorau oll a allant.
4.2.
O ganlyniad i’r gwelliannau a wnaethom mewn blynyddoedd blaenorol, nid yw ein Gwasanaeth Addysg bellach mewn Mesurau Arbennig. Rydym yn benderfynol o gynnal y gwelliant ym mherfformiad y gwasanaeth ac i gefnogi eich ysgolion i wella cyrhaeddiad. Rydym wedi gwneud cynnydd ond yn cydnabod bod mwy i’w wella eto. Mae canlyniadau’r arholiadau a safwyd yn 2014 yn dangos bod plant iau wedi llwyddo i sicrhau peth gwelliant. Fodd bynnag, mae’n amlwg hefyd bod angen gwella canlyniadau TGAU lawer ymhellach. Mae llawer gormod o amrywiadau yn parhau rhwng y canlyniadau a gyflawnwyd gan ein hysgolion ni ac ysgolion tebyg yng Nghymru.
4.3.
Mae’r ymgynghori a wnaethom yn dangos bod cefnogaeth gref i’n Hamcanion gwella ysgolion a phlant diamddiffyn.
4.2
4.3
15
4.4.
4.4
Rydym wedi pennu pump o gamau gweithredu i ni ein hunain dan yr Amcan Gwella Ysgolion. Mae’r camau gweithredu hyn yn ddatblygiad o’r rhai a osodwyd gennym yn 2014/15 ac yn canolbwyntio’n fwy penodol ar wella safonau mewn ysgolion, yn hytrach na sicrhau gwelliannau yn strwythur yr adran Addysg.
Benfro gyflawni’r canlyniadau gorau posibl a bod ymhlith y perfformwyr uchaf yng Nghymru. 4.6.
4.6
• Cynyddu gallu ysgolion i wella eu hunain, yn enwedig i godi safon gyffredinol yr arweinyddiaeth a’r addysgu yn yr ystafell ddosbarth. • Canolbwyntio ar gyflawniad disgyblion sydd â’r hawl i gael Prydau Ysgol am Ddim (eFSM), gyda’r nod o wella eu cyrhaeddiad ar gyfradd gyflymach na disgyblion nad ydynt â’r hawl i gael Prydau Ysgol am Ddim. • Gweithio gydag ysgolion i gyflawni ymyriadau penodol fydd yn parhau i wella cyfraddau presenoldeb disgyblion. • Symud ymlaen gyda’n cynlluniau i wella amgylcheddau dysgu fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. • Rhoi ein rhaglen o ad-drefnu ysgolion ar waith er mwyn gwella canlyniadau i ddysgwyr. 4.5.
4.5
Effaith cyflawni’r Amcan hwn fydd y bydd canlyniadau i blant a phobl ifanc o Sir Benfro’n gwella ac y byddant yn fwy parod i wneud cyfraniad cadarnhaol at gymdeithas. Rydym eisiau i blant a phobl ifanc yn Sir
16
Byddwn yn mesur effaith ein cynnydd dan yr Amcan hwn trwy fonitro nifer o ddangosyddion perfformiad. Un o’n mesurau llwyddiant allweddol fydd canran y myfyrwyr sy’n cyrraedd y trothwy lefel 2, gan gynnwys Cymraeg / Saesneg a Mathemateg yng Nghyfnod Allweddol 4. Caiff y dangosydd hwn ei ddefnyddio’n aml i gymharu cyrhaeddiad yn genedlaethol. Nid yw perfformiad yn y maes hwn wedi gwella mor gyflym ag yr oeddem yn ei ddymuno, ac mae perfformiad wedi gostwng islaw cyfartaledd Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Er bod ein perfformiad wedi gwella rhyw ychydig yn arholiadau Mehefin 2014, gwaethygu gwnaeth ein sefyllfa gymharol gydag awdurdodau eraill Cymru. Byddwn yn gweithio’n agos gyda’n hysgolion; rydym eisiau sefydlu gwelliant cyson ar gyfer y dangosydd hwn trwy gefnogi a herio ein hysgolion yn fwy effeithiol.
lefel 2 Ca4 yn Cynnwys saesneG/CymraeG & mathemateG
mesurau llwyDDiant
Dangosyddion Cyfnod Sylfaen, sy’n dadansoddi canlyniadau disgyblion Blynyddoedd 1 a 2 LLC= Iaith Llythrennedd a Chyfathrebu MD= Datblygiad Mathemategol FPI= Dangosydd Cyfnod Sylfaen
tarGeD 2015/16
Dangosyddion pynciau craidd Cyfnod Allweddol 2, sy’n dadansoddi canlyniadau disgyblion Blwyddyn 6
Dangosyddion pynciau craidd Cyfnod Allweddol 3, sy’n dadansoddi canlyniadau disgyblion Blwyddyn 9
Monitro lefel 1 Cyfnod Allweddol 4 sef faint o ddisgyblion blwyddyn 11 sy’n cyflawni 5 TGAU
Lefel 2 Cyfnod Allweddol 4 gan gynnwys Cymraeg / Saesneg a Mathemateg Monitro cyfraddau presenoldeb mewn Ysgolion Cynradd ac Uwchradd Canran y bwlch rhwng cyrhaeddiad pobl ifanc sydd â hawl i brydau ysgol am ddim a’r rhai sydd heb hawl yng Nghyfnod Allweddol 4 Canran y rhai 16 oed sydd heb fod mewn addysg neu gyflogaeth (NEET)
17
LLC 91.8% MD 92.6% FPI 90.0% 89% 82% 97%
63.6%
Cynradd = 96% Uwchradd = 95%
Cyfnod Sylfaen 16 CA2 14 CA3 27 CA4 27
2.8%
4.7. Bydd ein hail Amcan gwella dan y thema hon yn sicrhau bod holl blant a phobl ifanc, gan gynnwys plant diamddiffyn, yn cyflawni gwell canlyniadau. Rydym wedi pennu pump o gamau gweithredu i ni ein hunain dan yr Amcan Gwella hwn.
4.8. Gobeithiwn mai effaith hyn fydd bod plant Sir Benfro’n fwy diogel ac y bydd plant diamddiffyn yn fwy parod i fyw bywydau iach, hapus a chynhyrchiol.
4.7
4.8
4.9. Byddwn yn mesur effaith ein cynnydd dan yr Amcan hwn trwy fonitro nifer o ddangosyddion allweddol. Mae rhagor o fanylion isod:
4.9
• Sicrhau bod staff o gefndiroedd proffesiynol gwahanol yn cydweithio i sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael cymorth cynnar, i rwystro materion rhag gwaethygu ac i leihau’r angen i weithredu yn ôl y gyfraith. • Cynnal gallu gweithredol i sicrhau effeithiolrwydd gwasanaethau amddiffyn plant. • Cynorthwyo ysgolion i ddiwallu anghenion disgyblion diamddiffyn trwy wneud pethau y gwyddom eu bod yn cael effaith, a galw ysgolion i gyfrif am eu heffeithiolrwydd. • Cyfannu gwasanaethau ar gyfer plant gydag anabledd ar draws Gwasanaethau Addysg a Phlant, i gyflawni gwasanaeth gwell a chymorth gwell wrth i blant dyfu’n oedolion ifanc. • Datblygu ymhellach wasanaeth sy’n gallu diwallu holl anghenion ein plant dan ofal mwyaf diamddiffyn.
18
mesurau llwyDDiant
Cyfradd swyddi Gweithwyr Cymdeithasol gwag
tarGeD 2015/16
Cyfradd swyddi Rheolwyr Gwaith Cymdeithasol gwag
a) Canran y datganiadau terfynol o anghenion addysgol arbennig (AAA) a ddyroddir o fewn 26 o wythnosau, gan gynnwys eithriadau b) ac eithrio eithriadau Cyfradd gwaharddiadau fesul 1,000 o ddisgyblion 5 oed a hŷn am a) 5 diwrnod neu lai b) 6 diwrnod neu fwy Canran y disgyblion dan ofal awdurdod lleol, mewn unrhyw ysgol a gynhelir gan ALl, sy'n 15 oed ar y 31 Awst blaenorol ac sy'n gadael addysg orfodol, hyfforddiant neu ddysgu seiliedig ar waith heb fod ganddynt gymhwyster allanol a gymeradwywyd Cyfartaledd y sgôr pwyntiau mewn cysylltiad â chymwysterau allanol plant 16 oed dan ofal mewn unrhyw sefyllfa dysgu a gynhelir gan awdurdod lleol
Canran y plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth a chanddynt brofiad o symud ysgol unwaith neu ragor, yn ystod cyfnod neu gyfnodau o dderbyn gofal, ac nad oedd y symud hwnnw oherwydd trefniadau trosiannol, yn y 12 mis hyd at 31 Mawrth
Canran y plant dan ofal ar 31 Mawrth sydd wedi cael tri lleoliad neu fwy yn ystod y flwyddyn
Canran y bobl ifanc 19 oed a oedd yn derbyn gofal yn flaenorol a) mae’r awdurdod mewn cysylltiad â hwy b) y gwyddys eu bod mewn llety addas, nad yw’n llety argyfwng c) y gwyddys eu bod yn ymgymryd ag addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth
Canran yr asesiadau cychwynnol ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn lle mae tystiolaeth bod Gweithiwr Cymdeithasol wedi gweld y plentyn
Canran yr ymweliadau statudol â phlant dan ofal oedd fod i ddigwydd yn ystod y flwyddyn a’u cynhaliwyd yn unol â’r rheoliadau
5%
10% 85%
91.7% 60 1 0% 280 10% 9% 100% 100% 73% 90%
100%
4.10. Mae amrywiaeth o gamau eraill y byddwn yn eu cymryd yn ystod 2015/16 a fydd, er nad ydynt yn uniongyrchol berthnasol i’r ddau Amcan Gwella hyn, yn cyfrannu at y canlyniad cysylltiedig yn y Cynllun Integredig Sengl: bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael cyfle i gyflawni eu posibiliadau dysgu a byw bywydau iach a hapus.
4.10
4.11. Byddwn yn llunio cynlluniau ynghylch y modd y bydd y Gwasanaeth Cerdd yn parhau i gael ei gyflenwi yn dilyn ad-drefniant addysg uwchradd yn y Sir. Byddwn hefyd yn cymryd camau i sicrhau bod defnyddwyr y gwasanaeth yn talu cyfran uwch o gost darparu’r gwasanaeth.
4.11
19
4.12. Llynedd, buom yn adolygu ein Gwasanaethau Ieuenctid gan adlinio ein hadnoddau i ganolbwyntio ar gyflenwi gwasanaeth cynhwysfawr yn hytrach na pharhau i ddarparu gwasanaeth mewn adeiladau penodol. Yn ystod y flwyddyn i ddod, byddwn yn datblygu cynnig Gwaith Cymdeithasol Cymunedol deniadol i fudiadau a sefydliadau sy’n cyflenwi gweithgareddau a chyfleoedd o fewn cymunedau lleol.
O ganlyniad, disgwyliwn i nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant i aros ar lefelau isel. Byddwn hefyd yn gweithredu proses cytundeb lefel gwasanaeth ar gyfer ariannu a rheoli perfformiad dosbarthiadau chwech.
4.12
4.13
Bu Estyn yn arolygu ein gwasanaeth Dysgu Sir Benfro yn Nhachwedd 2014. Roedd yr arolygiad yn gadarnhaol a barnwyd bod y gwasanaeth yn dda. Fodd bynnag, tynnwyd ein sylw at rai meysydd sydd angen eu gwella. Yn dilyn yr arolygiad, rydym wedi datblygu cynllun gweithredu sy’n ein hymrwymo i sefydlu Bwrdd Craffu a Strategaeth Rhwydwaith Dysgu Sir Benfro. Byddwn hefyd yn gwella sgiliau sylfaenol.
4.14. Byddwn yn parhau i roi cynllun gweithredu’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid ar waith. Mae’r gwaith hwn yn adlewyrchu blaenoriaethau cenedlaethol a lleol i fynd i’r afael ag ymddieithrio o addysg.
4.14
20
YR ECONOMI amCan Gwella 3:
aDfywio a Chanol trefi
Byddwn yn galluogi, hwyluso a chyflawni cynlluniau sy’n cyfrannu at economi cystadleuol, cynhyrchiol a chynaliadwy.
5.1
5.1.
Mae economi Sir Benfro’n adlewyrchu ei daearyddiaeth ymylol, ei chymdeithas sy’n wledig yn bennaf, ei dwysedd poblogaeth isel a’i phroffil demograffig sy’n heneiddio; mae cyflogau a safon sgiliau’n tueddu i fod yn is nag mewn mannau eraill, ac i bob pwrpas yn adlewyrchu’r ddibyniaeth barhaus ar dwristiaeth ac amaethyddiaeth fel y prif sectorau cyflogaeth. Cafodd economi Sir Benfro gymorth datblygiadau yn y sector ynni yn ystod y degawd aeth heibio. Er gwaetha’r ffaith bod purfa Murco wedi cau, ychydig iawn o ostyngiad mewn diweithdra a welwyd llynedd. Mae’r broses o adfer o’r dirwasgiad yn profi i fod yn araf, ac mae ansicrwydd yn dal ynghylch gobeithion economi Sir Benfro.
5.2
5.2.
Mae’r Amcan a ddewiswyd gennym eleni yn ddatblygiad o’r un a osodwyd gennym yn 2013/14 a 2014/15 ynghylch ein dymuniad i wella canol ein trefi. Rydym wedi canolbwyntio ar ganol trefi yn ystod y ddwy flynedd diwethaf oherwydd bod Sir Benfro’n sir wledig lle mae nifer o drefi allweddol yn chwarae rhan hollbwysig fel canolfannau gwasanaeth a chyrchfannau ymwelwyr. Roeddem bob amser wedi rhagweld y byddai hon yn rhaglen waith tymor canolig i hir ac mae cynnydd yn profi i fod ychydig yn anwastad. Rydym wedi penderfynu ehangu’r Amcan i’r flwyddyn sydd i ddod i egluro sut mae ein gwaith i wella canol trefi yn perthyn i fframwaith ehangach o adfywiad economaidd.
5.3
5.3.
Roedd adfywiad economaidd yn ddewis poblogaidd ar gyfer Amcan Gwella yn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym, gyda chanol trefi lawer yn is yn y rhestr. Roedd rhai o’r sylwadau a dderbyniwyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd mudiadau yn cydweithio i wella canol trefi.
5.4.
Rydym wedi pennu saith o gamau gweithredu i ni ein hunain dan yr Amcan hwn:
5.4
• Hyrwyddo manteision statws Rhanbarth Menter a hwyluso datblygiad a buddsoddiad trwy ein heiddo a’n swyddogaethau adfywio a chynllunio. • Gweithio gyda Bwrdd Dinas Rhanbarth Bae Abertawe i alluogi gwelliannau yn y seilwaith a chefnogi prosiectau yn sectorau allweddol twristiaeth ac ynni.
21
• Parhau i gefnogi Timau Trefi a gwelliannau canol trefi trwy gael mynediad at gyllid, cyflawni prosiectau a hwyluso buddsoddiad gan drydydd parti. • Cyflawni ystod o brosiectau cyflogaeth a sgiliau i leihau diweithdra a lefelau anweithgarwch economaidd. • Cynyddu meddiannaeth (a chyflogaeth) cwmnïau sy’n seiliedig ar wybodaeth a thechnoleg yng Nghanolfan Arloesedd y Bont. • Arwain a chefnogi ystod o geisiadau am Gyllid Ewropeaidd i wella cystadleurwydd economaidd. • Sefydlu Labordy Fabrication yng Nghanolfan Arloesedd y Bont, gan gyflwyno rhaglenni addysgiadol cysylltiedig ac annog yr economi arloesi.
5.5
5.5.
Effaith cyflawni’r Amcan Gwella hwn fydd gwella ein cystadleurwydd economaidd, cefnogi arallgyfeirio, cynyddu cyflogaeth a chadw mwy o wariant adwerthu o fewn yr economi lleol. Byddwn yn defnyddio asedau fel Canolfan Arloesedd y Bont i gefnogi’r gwaith o greu mwy o gyfleoedd cyflogaeth. Bydd mwy o gyfleoedd hefyd ar gyfer hyfforddiant sgiliau gan greu cronfa fwy o weithwyr medrus i ddarpar gyflogwyr.
5.6
Byddwn yn mesur ein cynnydd mewn cysylltiad â’r Amcan hwn trwy fonitro nifer o ddangosyddion perfformiad.
5.6.
mesurau llwyDDiant
tarGeD 2015/16
Canran yr arwynebedd llawr wedi’i osod yng Nghanolfan Arloesedd y Bont (eiddo Cyngor Sir Penfro): Canran y siopau gwag (dosbarth A): a) Abergwaun; b) Hwlffordd; c) Aberdaugleddau; d) Arberth; e) Penfro; f) Doc Penfro; g) Dinbych-y-Pysgod
95%
a) 9% b) 17% c) 21% d) 2% e) 6% f) 15% g) 5%
Canran y grant Menter Treftadaeth Treflun a wariwyd yn Hwlffordd
8%
Canran meddiannaeth unedau diwydiannol dan berchenogaeth Cyngor Sir Penfro
90%
Nifer a gefnogwyd ar brosiectau cyflogaeth a sgiliau Gosod Wifi yng nghanol trefi
22
1396 3 canol tref
5.7.
5.7
Yn ogystal â’r mesurau llwyddiant a ddisgrifiwyd uchod, byddwn hefyd yn dal i adolygu ein heffaith ar berfformiad canol trefi trwy ein Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Rydym wedi ymrwymo i gynhyrchu adroddiad monitro blynyddol yn ogystal â chynnal cynhadledd flynyddol i ddod â’r timau tref ynghyd er mwyn rhannu’r arferion gorau.
5.8
5.8.
Mae amrywiaeth o gamau eraill y byddwn yn eu cymryd yn ystod 2015/16 a fydd, er nad ydynt yn uniongyrchol berthnasol i’r Amcan Gwella hwn, yn cyfrannu at y canlyniad allweddol cysylltiedig a nodwyd yn y Cynllun Integredig Sengl: bod gan Sir Benfro economi cystadleuol, cynhyrchiol a chynaliadwy.
5.9.
Byddwn yn hwyluso datblygiad uwchgynllun i Hwlffordd fel bod yr holl randdeiliaid (fel Cyngor y Dref a’r Siambr Fasnach) yn gallu cyflwyno gweledigaeth glir o sut y gallai Hwlffordd edrych ar ôl ei hadfywio. Bydd hyn yn rhoi gwell sicrwydd i ddarpar fuddsoddwyr o’r hyn y mae rhanddeiliaid am ei gyflawni. Byddai modd defnyddio’r dull hwn hefyd mewn trefi eraill, yn ogystal â safleoedd y bydd angen eu hadfywio fel Baracs Cawdor, Breudaeth a fydd yn wag ar ôl 2018 yn dilyn ymadawiad y Fyddin.
5.9
5.10. Rydym yn bwriadu adleoli Llyfrgell y Sir i leoliad mwy addas. Byddwn yn defnyddio’r cyfle a ddarperir gan y buddsoddiad cyfalaf hwn i gynyddu mynd a dod yng nghalon y dref.
5.10
5.11. Mae twristiaeth yn parhau i fod yn gyflogwr o bwys yn Sir Benfro. Byddwn yn adolygu sut i wneud y gorau o’n buddsoddiad yn y sector hwn, a byddwn yn comisiynu ymgynghorwyr i adolygu strwythurau llywodraethu amgen i Bartneriaeth Cyrchfannau Sir Benfro, ein strwythur twristiaeth lleol. Byddwn hefyd yn gweithio gyda Dŵr Cymru i lunio astudiaeth dichonoldeb i’r posibiliad o sefydlu cyfleuster hamdden cenedlaethol yn seiliedig ar ddŵr yng nghronfa Llys-y-Fran.
5.11
.
5.12
23
Byddwn yn dal i hyrwyddo, marchnata a gwared safleoedd datblygu allweddol er mwyn hwyluso datblygiad economaidd yn y Sir. Mae cynnydd mewn perthynas â hyn yn ddibynnol ar nifer o ffactorau allanol gan gynnwys cryfder y farchnad eiddo yn Sir Benfro. Mae rhai safleoedd, fel y cyn ysgol gynradd yn Abergwaun, yn flaenoriaeth.
5.13. Byddwn hefyd yn gwneud gwelliannau yn ein gwasanaethu cynllunio a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi lleol. Byddwn yn gwella’r cyflymder a gymerwn i bennu ceisiadau cynllunio trwy fabwysiadu prosesau mewnol mwy effeithlon ac effeithiol, a byddwn yn gwella ymatebolrwydd ac ansawdd ein cyngor cyn-ymgeisio. Byddwn hefyd yn cyhoeddi Canllawiau Cynllunio Atodol diwygiedig ar rwymedigaethau cynllunio. Bydd y gweithredoedd hyn yn cynyddu sicrwydd a lleihau costau i ddatblygwyr.
fel Cynllun Adfywio Gwledig Canol Sir Benfro (2015), yr astudiaeth ‘Ffyrdd Newydd o Weithio’ (2015) ac Astudiaeth Dichonoldeb y Parc Busnes Bwyd (2014/15). Bydd cefnogaeth i’r sector pysgodfeydd yn parhau trwy ein gwaith fel ysgrifenyddiaeth i’r Grŵp Gweithredu Pysgodfeydd Lleol (FLAG).
5.13
5
5.16
5.14. Byddwn yn parhau i weithio a lobïo i wella seilwaith ffyrdd, trên a chyfathrebu’r sir, trwy weithio gyda Llywodraeth Cymru (trwy Ddinas Rhanbarth Bae Abertawe) i hyrwyddo gwelliannau i gefnffyrdd Rhwydwaith Traws Ewropeaidd TEN-T a thrwy weithio gyda BT a darparwyr rhwydwaith eraill i gefnogi’r gwaith o gyflwyno Band Eang Cyflym Iawn a gosod wi-fi yng nghanol trefi ac ardaloedd twristiaeth.
5.14
5.15. Yn nhermau’r economi wledig, byddwn yn gweithio gyda Grŵp Gweithredu Lleol Sir Benfro (LAG) i gefnogi cyfres o brosiectau adfywio gwledig a ariennir gan Lywodraeth Cymru a chyllid Ewropeaidd. Bydd y prosiectau hyn yn cael eu llywio gan astudiaethau diweddar
5.15
24
Byddwn yn dechrau ar waith paratoi strategaeth adfywio economaidd i’r Sir. Bydd is-grŵp o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economaidd yn arwain y gwaith. Bydd y strategaeth yn darparu cyd-destun i gynhyrchu eich rhaglen waith i’r dyfodol.
YR AMGYLCHEDD 6.1
6.1.
Fel ym mhobman, mae amgylchedd Sir Benfro’n wynebu heriau sylweddol. Un o’r mwyaf allweddol o’r rhain yw y bydd yn rhaid i ni addasu sut ydym yn cyflawni gwasanaethau yn sgil y perygl bod ein hinsawdd yn dod yn llai rhagweladwy ac yn fwy eithafol. Tra bo llawer o’r ffactorau sy’n debygol o gyfrannu at newid yn yr hinsawdd y tu hwnt i’n rheolaeth uniongyrchol, mae modd mynd i’r afael â rhai ffactorau perygl yn lleol; yn enwedig y rhai sy’n berthnasol i sut ydym yn rheoli’r gwastraff a gynhyrchwn.
6.2
6.2.
Fel y nodwyd ynghynt, gwnaethpwyd penderfyniad i beidio gosod Amcan Gwella dan y canlyniad allweddol hwn i’r flwyddyn hon. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn perthynas â chynyddu ailgylchu a lleihau faint o wastraff sy’n cael ei anfon i dirlenwi. Rydym hefyd wedi gostwng costau ein Gwasanaeth Rheoli Gwastraff. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar wella ein perfformiad yn y maes hwn, ond ni chredwn fod angen nodi hynny fel Amcan Gwella i’r flwyddyn sydd i ddod.
6.3
6.3.
Roedd rheoli gwastraff yn un o’r blaenoriaethau isaf yn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym. Roedd rhai o’r sylwadau a dderbyniwyd (yn enwedig o’n Panel Dinasyddion) yn dangos bod trigolion yn gwerthfawrogi gwasanaethau amgylcheddol lleol safonol. Awgrymodd rhai ymatebwyr hefyd y dylem edrych ar losgi fel dull o drin gwastraff gweddilliol.
6.4
6.4.
Mae yna ystod eang o weithredoedd y byddwn yn eu cymryd yn ystod 2015/16 a fydd yn cyfrannu at y canlyniad allweddol cysylltiedig yn y Cynllun Integredig Sengl: bod pobl Sir Benfro’n mwynhau amgylchedd deniadol, cynaliadwy ac amrywiol.
6.5.
Byddwn yn monitro perfformiad ariannol ac amgylcheddol cytundeb gwaredu gwastraff newydd yr ydym wedi’i drefnu. Bydd hyn yn golygu bod gwastraff sachau du yn cael ei gludo ar y môr o Ddoc Penfro i Sweden; yno, caiff ei waredu mewn cyfleuster ‘ynni o wastraff’. Yn ogystal â bod yn gost effeithiol, mae manteision amgylcheddol sylweddol i’r broses gan ei bod yn dargyfeirio gwastraff o dirlenwi ac yn echdynnu mwy o ddeunydd a ailgylchir. Byddwn hefyd yn archwilio potensial cynhyrchu incwm ychwanegol trwy drefnu cytundebau ffurfiol gydag awdurdodau eraill i drin eu gwastraff trwy’r un broses.
6.5
25
6.6.
6.6
6.7. 6.7
Byddwn yn llunio’r trefniadau gorau posibl o ran trefnu llwybrau casglu gwastraff yn dilyn cyflwyno casgliadau gwastraff sachau du bob pythefnos er mwyn gwella effeithlonrwydd. Bydd hyn yn ein galluogi i wneud arbedion pellach. Byddwn yn ymgynghori ar dynnu’n ôl sachau du yn rhad ac am ddim; rydym yn ymwybodol nad yw llawer o gwsmeriaid yn hapus gydag ansawdd y rhai a ddarperir ar hyn o bryd. Byddwn hefyd yn gwella adfer costau mewn perthynas â’n gwasanaethau gwastraff masnachol, yn enwedig wrth gasglu deunyddiau y gellid eu hailgylchu. Rydym ar hyn o bryd yn ymgynghori ar weithredu trefniadau agor diwygiedig i safleoedd amwynder dinesig.
6.8
6.9.
6.9
Mae pwysau ariannol yn golygu bod angen i ni edrych ar ffyrdd newydd o arbed arian ar wasanaethau amgylcheddol lleol. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau fel glanhau strydoedd, torri gwair, gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar y priffyrdd (fel glanhau arwyddion ffordd) a darparu toiledau cyhoeddus. Byddwn yn ymgynghori gyda chynghorau tref a chymunedol a rhanddeiliaid eraill i archwilio os oes modd rhannu costau darparu’r math yma o wasanaethau rhwng nifer o fudiadau. Rydym yn cydnabod nad yw hyn yn
26
debygol o wella golwg yr amgylchedd, fodd bynnag, bydd yr arbedion hyn yn ein galluogi i gynnal neu wella gwasanaethau mewn meysydd eraill. Dangosodd stormydd difrifol llynedd bod angen i ni liniaru yn erbyn effeithiau’r tywydd gynyddol stormus yr ydym yn debygol o’i brofi yn y dyfodol. Byddwn yn annog cymunedau i ddatblygu eu cynlluniau cymunedol brys a datblygu ymarfer cynllunio brys i gynorthwyo gyda hyn. Byddwn yn cefnogi gweithrediad Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli’r Risg o Lifogydd ac Erydiad Arfordirol yng Nghymru Llywodraeth Cymru Mae llawer o’r gwaith hwn yn waith hir dymor, fel y cynllun addasu Niwgwl. Bwriadwn hefyd gynhyrchu cynllun rheoli risg llifogydd i Sir Benfro. Mae cynlluniau ar raddfa lai yn cynnwys datblygu cynlluniau lliniaru llifogydd yn Little Haven a Newport Parrog. Rydym hefyd yn anelu at gwblhau gwaith amddiffyn morglawdd Amroth.
6.10. Byddwn yn dal i ddatblygu ac adeiladu llwybrau ar gyfer cerdded a beicio. Bydd y rhain yn cynorthwyo inni gyflawni ein dyletswydd i ddarparu rhwydwaith o lwybrau ar gyfer teithio llesol dan Fesur Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. Erbyn Medi eleni, byddwn wedi gorffen mapio cyfleusterau cerdded a beicio sy’n bodoli yn yr ardaloedd a ddynodwyd dan y ddeddfwriaeth hon. Byddwn yn gwella sut mae cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus fel gorsafoedd trên Doc Penfro ac Abergwaun yn cysylltu gyda gweddill y rhwydwaith drafnidiaeth.
6.10
6.11. Byddwn yn parhau i weithredu ystod o gynlluniau gwella ffyrdd yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Mae’r rhain yn cynnwys Ffordd Liniaru Maidenwells sy’n rhan o gynllun ehangach i wella mynediad i safleoedd cyflogaeth strategol ar y Cleddau. Byddai angen gwelliannau ffyrdd ar ddatblygiad tai cymunedol arfaethedig yn Ffordd Glasfryn Lane yn Nhyddewi, yn amodol ar gyllid. Byddwn hefyd yn anelu at gwblhau gwelliannau Ffordd Bulford a ddechreuwyd gennym yn 2014/15.
6.11
27
IECHYD amCan Gwella 4:
aD-Drefnu Gwasanaethau Gofal CymDeithasol oeDolion
Byddwn yn ad-drefnu darpariaeth ein gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion er mwyn gwella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd.
7.1
7.1.
Tra bod iechyd llawer o bobl hŷn yn dda, bydd nifer cynyddol angen cymorth gofal cymdeithasol. Mae ansawdd bywydau’r bobl hyn yn dibynnu ar ofal cymdeithasol oedolion o ansawdd da.
7.2
7.2.
Fel nifer o awdurdodau lleol eraill, mae angen i ni wneud arbedion o fewn ein cyllideb gofal oedolion. Rydym yn gwneud cynnydd. Ar ddechrau’r degawd hwn, roedd ein gwariant net ar ofal cymdeithasol oedolion yn cynyddu 10% o’r naill flwyddyn i’r llall. Mewn cyferbyniad, rydym yn rhagweld y bydd ein gwariant net yn 2014/15 1.6% yn is na’n gwariant yn 2013/14. Mae’r gyllideb yr ydym wedi’i gosod i 2015/16 yn heriol ond yn gyraeddadwy; rydym yn bwriadu gwario tua £100k yn llai yn nhermau net na’r hyn a wariwyd gennym yn 2013/14.
7.3
7.3.
Mae’r cyflawniadau hyn wedi bod yn bosibl yn unig oherwydd ein bod wedi dechrau newid ein model o gyflenwi gwasanaethau. Bydd angen i ni barhau gyda’r gwaith hwn yn 2015/16 ac rydym yn hyderus y byddwn wedi cyflawni mwyafrif y newidiadau strwythurol y mae’n rhaid i ni eu gwneud i’r gwasanaeth erbyn diwedd y flwyddyn hon.
7.4.
Roedd rhyw dri chwarter yr ymatebwyr i’n hymgynghori’n cytuno y dylai gofal cymdeithasol oedolion fod yn Amcan Gwella. Roedd tua hanner y sylwadau a gawsom yn awgrymu y dylem naill ai wella’r gwasanaethau a ddarparwn neu sicrhau y cânt eu darparu i gyfran uwch o bobl. Barn tua thraean yr atebwyr oedd bod safon y gwasanaeth a ddarparwyd fwy neu lai’n gywir. Roedd rhai o’r sylwadau mwy cyffredinol a gawsom yn ymwneud â’r gwasanaeth iechyd, gan gynnwys sylwadau ar ddarparu gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro yn y dyfodol.
7.4
28
7.5.
7.5
Rydym wedi pennu pedwar o gamau gweithredu i ni ein hunain dan yr Amcan hwn i 2015/16.
7.7.
7.7
• Gwella ansawdd gwasanaethau trwy roi’r Fframwaith Sicrhau Ansawdd ar waith. • Sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu targedu at ymyrryd ac atal cynnar e.e. darparu gwybodaeth o ansawdd da i gwsmeriaid a gweithio gyda chymunedau lleol yn y trydydd sector i feithrin gallu. • Parhau o adolygu ein holl gontractau cyfredol gyda’r sectorau annibynnol, cymunedol a gwirfoddol i sicrhau eu bod yn berthnasol yn strategol ac yn darparu gwerth am arian. • Parhau i dargedu gwasanaethau ail-alluogi i sicrhau bod pobl yn gallu bod mor annibynnol â phosibl. 7.6.
7.6
Effaith cyflawni’r Amcan Gwella hwn fydd bod cyfran uwch o’r cwsmeriaid hynny sy’n derbyn cymorth byw mewn mannau sy’n briodol i’r gofal sydd arnynt ei angen, gan wella ansawdd eu bywydau drwy hynny. Bydd mwy o bobl yn cael cymorth yn eu cymunedau ac yn gallu helpu eu hunain. Bydd costau llawn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion yn dod yn fwy cynaliadwy.
29
Byddwn yn mesur ein cynnydd mewn cysylltiad â’r Amcan hwn trwy fonitro nifer o ddangosyddion perfformiad. Un o’r mwyaf arwyddocaol o’r mesurau hyn yw faint o arian a wariwn ar ofal cymdeithasol oedolion. Dengys y graff isod beth fyddai’r gwariant net ar ofal cymdeithasol pe byddai tuedd y cynnydd mewn gwariant a welwyd rhwng 2009/10 a 2013/14 wedi parhau.
Gwariant Gofal CymDeithasol oeDolion (£ miliwn)
mesurau llwyDDiant
tarGeD 2015/16
Sicrhau arbedion sy’n cyfateb i 4.5% o gyllideb net 2015/16 Canran y gostyngiad mewn oriau gofal cartref cynlluniedig cwsmeriaid sydd wedi gorffen cyfnod o ail-alluogi
Canran y cleientiaid llawn oed sy’n cael eu cefnogi yn y gymuned yn ystod y flwyddyn
Cyfradd y bobl 65 oed neu hŷn sy’n cael cymorth yr awdurdod mewn cartrefi gofal
Cyfradd yr oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o boblogaeth 75 oed neu hŷn (gweithio partneriaeth gyda GIG)
Y bobl hynny a holwyd sy’n cytuno bod ansawdd eu bywyd wedi gwella gan fod y gwasanaeth y maent wedi’i dderbyn wedi gwella pethau ar eu cyfer
Dim gorwariant ar gyllideb 2015/16 47% 90% 16 y 1000 0.5 y 1000 90%
7.8
7.8.
Mae amrywiaeth o gamau eraill y byddwn yn eu cymryd yn ystod 2015/16 a fydd, er nad ydynt yn uniongyrchol berthnasol i’r Amcan Gwella, yn cyfrannu at y canlyniad allweddol cysylltiedig a nodwyd yn y Cynllun Integredig Sengl: bod pobl Sir Benfro’n iachach.
7.9.
Byddwn yn adolygu rhai o’r gwasanaethau gofal cymdeithasol a ddarparwn yn uniongyrchol i gwsmeriaid ar hyn o bryd fel gofal dydd, gofal preswyl a gwasanaethau cyflogaeth dan gymorth. Yn yr holl achosion hyn, rydym eisiau sicrhau bod y modelau cywir yn eu lle gennym i gefnogi anghenion pobl i’r dyfodol. Rydym eisiau sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn hyrwyddo annibyniaeth, yn helpu i rwystro anghenion rhag dwysáu ac yn gwneud y defnydd gorau posibl o adnoddau.
7.9
30
a chyflwynwyd newidiadau sylweddol yn y dulliau gweithredu cyn y flwyddyn hon. Bydd gennym fwy o incwm i fuddsoddi yng ngwasanaethau tai’r cyngor.
7.10. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r sector gwirfoddol i feithrin gallu cymunedol yn dilyn arfarnu’r prosiect gofal canolraddol. Rydym yn bwriadu datblygu swyddogaeth broceriaeth ar gyfer ymyrraeth gynnar a chymorth ataliol. Bydd y gwaith hwn yn ein helpu i gyflenwi ein dyletswyddau o ran hyrwyddo ymyrraeth gynnar a chamau ataliol mewn partneriaeth gyda’r trydydd sector.
7.10
7.13. Byddwn yn cryfhau ein gwasanaeth rheoli tenantiaeth i ddarparu gwasanaeth mwy ymatebol. Byddwn yn gwella sut ydym yn delio gydag eiddo sy’n anodd ei osod (eiddo gwag). Er enghraifft, byddwn yn targedu ein buddsoddiad i wneud eiddo yn fwy deniadol i gwsmeriaid. Byddwn hefyd yn dechrau gwaith mwy tymor hir i gytuno ar flaenoriaethau o ran buddsoddi yn ein stoc dai ein hunain.
7.13
7.11. Mae Gwasanaethau Hamdden yn cyfrannu’n sylweddol at wella iechyd a lles. Byddwn yn cwblhau’r prosiect o adnewyddu Canolfan Hamdden Dinbych y Pysgod gan gynnwys y gampfa fwy a’r ystafell gymunedol newydd erbyn Medi 2015. Byddwn hefyd yn gorffen y wal ddringo newydd yn Hwlffordd ym Mai 2015. Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu strwythur mwy cynhwysol ar gyfer codi ffioedd i helpu cynyddu incwm er mwyn cynnal lefel bresennol y gwasanaeth yng nghyd-destun toriadau yn y gyllideb.
7.11
7.12. Mae tai o safon yn gyfrannwr allweddol at ganlyniadau iechyd da. Yn ystod 2015/16, byddwn yn gwneud nifer o welliannau i’n gwasanaethau tai. Mae gan adran dai’r Cyngor ei system gyllid ei hunan
7.14. Byddwn hefyd yn ymgymryd ag ystod eang o gamau gweithredu i gefnogi tai yn fwy cyffredinol. Er enghraifft, byddwn yn gwella’r modd y darparwn addasiadau yng nghartrefi cwsmeriaid. Bydd gweithredu fel hyn yn ein galluogi i gyflymu’r broses o sicrhau bod addasiadau yn digwydd. Mae angen i’n perfformiad yn y maes hwn wella’n sylweddol.
7.14
7.12
31
DIOGELU 8.1
8.1.
Er nad ydym wedi pennu Amcan Gwella ar gyfer y maes hwn yn y ddwy flynedd diwethaf, rydym wedi parhau i ymgorffori’r polisïau a’r arferion a sefydlwyd gennym. Ymhellach, mae amrywiaeth o gamau eraill y byddwn yn eu cymryd yn ystod 2015/16 fydd yn cyfrannu at y canlyniad allweddol a nodwyd yn y Cynllun Integredig Sengl: bod plant ac oedolion yn cael eu diogelu.
8.2
8.2.
Ni ymgynghorwyd gennym ar Amcan Gwella diogelu penodol eleni. Fodd bynnag, roedd yr holl ymatebwyr yn nodi’n gyson bod y mater o blant diamddiffyn yn flaenoriaeth uchel. Mewn gwirionedd, mae cysylltiad rhwng plant diamddiffyn a diogelu.
8.3
8.3.
Byddwn yn gwella ansawdd a chysondeb ein cynlluniau gofal fel eu bod yn gliriach ynghylch y canlyniadau yr ydym eisiau’u cyflawni i blant o fewn y system gofal. Byddwn yn gwneud hyn trwy fabwysiadu arfer sy’n gyson gyda’r dull Arwyddion Diogelwch. Bydd ein Tîm Sicrhau Ansawdd yn sefydlu trefniadau monitro i adrodd ar gydymffurfiaeth.
8.4
8.4.
Llynedd, mabwysiadwyd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn gennym (UNCRC). Bydd y fframwaith hwn yn ein cynorthwyo gyda diogelu gan y bydd yn annog pawb sy’n gweithio i ni neu gyda ni i wrando ar lais y plentyn. Byddwn yn parhau i ddatblygu model sy’n seiliedig ar hawliau trwy roi Strategaeth Cyfranogiad a Hawliau Pobl Ifanc Sir Benfro ar waith. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad blynyddol yn nodi’r hyn ydym wedi’i gyflawni.
8.5.
Mae arfer diogelu da yn ddibynnol ar gael gweithlu medrus. Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol eraill i gyflenwi rhaglen datblygu gweithlu rhanbarthol a chydlynol. Byddwn hefyd yn defnyddio’r bas data cymhwyster gwaith cymdeithasol a’n polisi o Addysg Broffesiynol Barhaus i flaenoriaethu hyfforddiant a datblygiad i weithwyr cymdeithasol. Bydd hyn yn cymryd gofynion ail-gofrestru’r Cyngor Gofal i ystyriaeth. Byddwn yn comisiynu a chyflenwi ystod o hyfforddiant yn unol gyda’r cynllun Arwyddion Diogelwch ac yn sicrhau bod hyfforddiant cysylltiol yn adlewyrchu’r dull Arwyddion Diogelwch.
8.5
32
8.6.
8.6
Mae ein gwaith diogelu yn ymwneud â’r holl bobl sy’n agored i niwed: oedolion yn ogystal â phlant. Mae trefniadau diogelu Oedolion yn Sir Benfro yn seiliedig ar Bolisi a Gweithdrefnau Interim Cymru ar gyfer Amddiffyn Oedolion Hawdd eu Niweidio. Rydym ar hyn o bryd yn adolygu ein gweithdrefnau mewnol i gydymffurfio gyda Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) Rydym yn y broses o ddatblygu Fframwaith Diogelu Oedolion a fydd yn cryfhau ein harferion diogelu. Bydd fframwaith sicrhau ansawdd yn cefnogi hyn ac yn darparu erfyn y gallwn ei ddefnyddio i ymgysylltu gyda darparwyr a rhanddeiliaid eraill er mwyn amlygu meysydd ar gyfer gwella.
33
D I O G E LW C H 9.1
9.1.
Sir Benfro yw un o’r mannau mwyaf diogel i fyw yn y Deyrnas Unedig, gydag ychydig iawn o drosedd ac anhrefn mewn cymhariaeth ag ardaloedd eraill. Ar waethaf bod ychydig o droseddau cofnodedig, mae ofn trosedd yn dal i beri cryn bryder i rai trigolion. Mae gweithgaredd i hyrwyddo diogelwch cymunedol yn dibynnu’n drwm ar weithio ar y cyd. Yr Heddlu sy’n darparu mwyafrif y gwasanaethau perthnasol.
9.2
9.2.
Ni chawsom unrhyw awgrymiadau wrth ymgynghori yn nodi y dylid cynnwys diogelwch cymunedol fel Amcan Gwella. Gwyddom o ymgynghoriadau eraill bod rhai cymunedau bod rhai cymunedau cydraddoldeb yn pryderu am droseddau casineb. Byddwn yn parhau i weithio gyda Chymorth i Ddioddefwyr i wella’r broses o gofnodi troseddau casineb yn Sir Benfro.
9.3
9.3.
Er nad ydym wedi pennu Amcan Gwella ar gyfer y maes hwn, mae amrywiaeth o gamau eraill y byddwn yn eu cymryd yn ystod 2015/16 fydd yn cyfrannu at y canlyniad allweddol a nodwyd yn y Cynllun Integredig Sengl: bod cymunedau Sir Benfro’n teimlo’n ddiogel.
9.4
Byddwn yn dal i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae Deddf Trosedd a Phlismona newydd 2014 yn rhoi pwerau newydd i ni gan gynnwys Hysbysiadau Amddiffyn Cymunedol, Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus a Gorchmynion Cau. Byddwn yn datblygu proses a gweithdrefnau i sicrhau’r ffordd orau o roi’r rhain ar waith a byddwn yn parhau i weithio â phartneriaid gan gynnwys Cymdeithasau Tai i’w cefnogi hwy i wneud yr un peth. Er enghraifft, byddwn yn ailstrwythuro ein Tîm Rheoli Tenantiaeth a bydd hynny’n cryfhau’r ffocws ar reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol yn rhagweithiol a sicrhau bod achosion yn cael eu cofnodi’n briodol; byddwn hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â’r Heddlu i adolygu effeithiolrwydd y Gorchymyn Gwasgaru yng Nghei Brunel. Byddwn yn datblygu system gorfforaethol i ymateb i geisiadau Sbardun Cymunedol a byddwn yn gweithio â phartneriaid lleol sydd am wneud yr un peth.
9.4.
34
9.5.
9.5
9.6.
9.6
9.7
9.7.
Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Heddlu ar Brosiect Cleddau, sy’n anelu at leihau cyfraddau aildroseddu, yn enwedig ymhlith bobl sy’n troseddu’n rheolaidd. Byddwn hefyd yn gweithio gyda Chwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru a Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Cymru i helpu lleihau’r risg o bobl yn aildroseddu. Byddwn yn gwella ansawdd yr ymarfer yn ein Tîm Cyfiawnder Ieuenctid a byddwn yn rhoi sylw i addysg, hyfforddiant a chyfleoedd a chanlyniadau cyflogaeth.
gyson gyda’r rhai a geir yng ngweddill Cymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu model gweithredol cynaliadwy i Siop Un Alwad Cam-drin Domestig Sir Benfro, sef canolfan newydd yn Hwlffordd.
Byddwn yn cwblhau ac yn arfarnu ein prosiect Ardal Weithredu Leol ynghylch Alcohol y mae’r Swyddfa Gartref yn ei gefnogi. Byddwn yn anelu at roi unrhyw argymhellion sy’n codi o’r arfarniad hwn ar waith gyda’r cyrff sy’n bartneriaid i ni. Mewn partneriaeth gyda Heddlu Dyfed Powys, byddwn yn adolygu’r Gorchymyn Man Cyhoeddus Dynodedig sydd ar waith yn Ninbych-y-Pysgod.
9.8
9.8.
Byddwn yn datblygu strategaeth i amddiffyn cwsmeriaid diamddiffyn rhag cynlluniau twyllo. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith a gwblhawyd gennym eisoes i wneud pobl (yn enwedig pobl hŷn) yn ymwybodol o gynlluniau twyllo o bob math. Byddwn hefyd yn darparu cyngor a chymorth i fusnesau lleol mewn perthynas â masnachu ar y we.
9.9
Byddwn yn dal i gefnogi fframwaith diogelwch ar ffyrdd Cymru ac yn gweithredu cynlluniau llwybrau mwy diogel er mwyn lleihau perygl gwrthdrawiadau ar ein ffyrdd. Caiff hyn ei gyflawni trwy ddal i gwyno rhaglenni addysg a hyfforddiant, yn ogystal â thrwy weithredu cynlluniau penodol diogelwch ar y ffyrdd. Byddwn yn parhau i arfarnu effeithiolrwydd Llwybrau Diogel mewn Cymunedau i fonitro eu heffaith.
9.9.
Byddwn yn parhau i weithio i leihau trais yn y cartref. Bydd ein gwaith yn cysylltu gyda blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn y Mesur Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) i: rwystro digwyddiadau ac amddiffyn a chefnogi dioddefwyr; cryfhau’r arweinyddiaeth strategol i’r mater hwn a darparu gwasanaethau sy’n
35
THEMÂU TRAWSBYNCIOL 10.1
10.1
Mae datblygu cynaliadwy, yr agenda cydraddoldeb, ein gwaith ar drechu tlodi a hyrwyddo’r Gymraeg yn torri ar draws yr holl waith a wnawn gyda’r tair ardal waith yn dibynnu ar ymrwymiad effeithiol gyda’r cyhoedd. Eleni, rydym wedi gosod Amcan Gwella i fframio ein gwaith ar drechu tlodi.
10.2. Rydym yn ceisio hyrwyddo datblygu cynaliadwy, ble bynnag y bo modd, trwy gefnogi prosiectau sy’n rhoi sylw i faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae hyn yn helpu sicrhau nad yw’r penderfyniadau a wnawn heddiw’n cael effaith annheg ar genedlaethau a ddaw. Fel cynghorau eraill ar hyd a lled Cymru, mae gennym hanes da o wella ein harferion yn y maes hwn. Mae llawer o’r Amcanion sy’n cael eu disgrifio yn y cynllun hwn yn dangos ein hymrwymiad i gynaliadwyedd.
10.2
10.3. Derbyniodd Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) Gydsyniad Brenhinol yn Ebrill 2015. Bydd hyn yn dylanwadu’n gryf ar ein hagwedd at gynaliadwyedd a’r amcanion tymor hir yr ydym wedi’u gosod ar gyfer ffyniant, gwytnwch, iechyd, cydraddoldeb a diwylliant, gan gynnwys y Gymraeg. Rydym yn bwriadu ymestyn aelodaeth ein Bwrdd Gwasanaeth Lleol fel paratoad at ei wneud yn Fwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus. Byddwn yn datblygu mecanweithiau gyda’n partneriaid i gynllunio’n fwy effeithiol.
10.3
10.4. Yn ystod y flwyddyn a ddaw, byddwn yn parhau i leihau 3% ychwanegol yn faint o ynni a ddefnyddiwn. Mae gennym enw da am leihau’r ynni a ddefnyddiwn. Byddwn yn parhau i gyflawni hyn trwy fabwysiadu technolegau mwy ynni-effeithlon a thrwy reoli ein hadeiladau’n fwy effeithiol. Rydym wedi datblygu ‘rhestr hi’ o brosiectau ac rydym wedi blaenoriaethu’r prosiectau hynny gyda’r gyfradd adennill orau. Rydym wedi cryfhau ein hagwedd at weithio partneriaeth yn y maes hwn ac yn y flwyddyn nesaf, byddwn yn gweithio trwy’r Bwrdd Gwasanaeth Lleol i leihau gollyngiadau carbon o wasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol ac i gefnogi rhwydwaith ynni cymunedol.
10.4
10.5
10.5. Rydym wedi gweld cynnydd amlwg mewn cynigion datblygiadau ynni adnewyddadwy yn ystod y tair blynedd flynedd diwethaf. Yn ystod 2015/16, byddwn yn cyflwyno Canllawiau Cynllunio Atodol ar gynlluniau ynni adnewyddadwy . Bydd hyn yn rhoi mwy o bendantrwydd i ddatblygwyr a chymunedau ynghylch y mathau o gynigion fydd yn dderbyniol o ran cynllunio. Mae’r cynllun gwres a phŵer cyfunedig mwy yn South Hook (linked to liquefied natural gas installation) wedi’i ohirio oherwydd amodau’r farchnad. Nid ydym yn rhagweld unrhyw
36
gynnydd sylweddol gyda’r cynllun hwn yn y tymor byr. Fodd bynnag, rydym yn obeithiol y byddwn yn gwneud cynnydd ar sicrhau datblygwr i dir yn Blackbridge a Waterston ac y gallai’r cytundeb datblygu ddaw yn sgil hynny gynnwys cynllun ynni adnewyddadwy.
gael i’n cwsmeriaid. Diweddarwyd ein hamcanion cydraddoldeb yn Chwefror 2015 a byddwn yn datblygu cynllun gweithredu newydd i gefnogi’r gwaith hwn i’r flwyddyn sydd i ddod. Byddwn hefyd yn manteisio ar y cyfle i adrodd nôl ar gynnydd ar gydraddoldebau yn ystod 2014/15 o fewn ein Hadolygiad Gwella ehangach.
10.6. Rydym yn ymrwymo i wella ein hagwedd at yr agenda cydraddoldeb. Yn ystod y flwyddyn a ddaw, rydym yn bwriadu datblygu ymhellach ein hagwedd at ymgysylltiad ac adeiladu ar y gwaith a ddechreuwyd gennym yn 2014/15 i sefydlu fforwm cyhoeddus Lleisiau Sir Benfro dros Gydraddoldeb. Byddwn yn datblygu ein hagwedd at asesu effaith ymhellach ac yn ystyried y gwersi a ddysgwyd o sgrinio penderfyniadau yn gysylltiedig â chyllideb 2015/16. Bydd angen i ni hefyd ystyried sut bydd cydymffurfio gyda safonau newydd y Gymraeg yn cael ei ymgorffori yn yr offeryn. Cytunwyd ar y safonau newydd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar ddiwedd Mawrth 2015.
10.6
10.7. Fel holl gyrff cyhoeddus, rydym yn ymrwymo i sicrhau nad yw ein cwsmeriaid yn dioddef camwahaniaethu. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn cyflwyno ein cynlluniau ar gyfer sicrhau bod y gwasanaethau sydd arnynt eu hangen ar
10.8
Byddwn hefyd yn datblygu agwedd newydd at sut fyddwn yn hyrwyddo’r Gymraeg yn ystod y flwyddyn a ddaw. Rydym yn ymrwymo i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru ar gynigion safonau ymddygiad newydd cysylltiedig â’r Gymraeg. Bydd y Safonau yn disodli trefn bresennol cynlluniau iaith Gymraeg yn raddol.
10.9
Llynedd, fe ddechreuon ni wella ar sut rydym yn ymwneud â phreswylwyr lleol. Byddwn yn parhau â’r sgwrs a ddechreuom gyda’r digwyddiadau Mae eich Cyngor yn Newid yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Rydym wedi ymrwymo i annog cymaint o bobl â phosibl i weithio’n agos gyda’r Awdurdod.
10.9
10.7
Roeddem wedi gobeithio cyflwyno’r canllawiau hyn yn ystod 2014/15, fodd bynnag, bu’n rhaid ei ohirio yn sgil pwysau gwaith arall a llai o adnoddau o ran staff. 6
37
10.9. Mae ein camau i drechu tlodi’n torri ar draws y sefydliad cyfan ac yn cael ei hybu gan ein Cynllun Integredig Sengl. Rydym wedi penodi Hyrwyddwyr gwrthdlodi i arwain y gwaith hwn yn y Cabinet a’r Tîm Rheoli Corfforaethol. Er mwyn rhoi mwy o hwb i’r gwaith hwn, rydym wedi gosod Amcan Gwella i’r maes hwn ar gyfer 2015/16.
10.10
10.12
maP yn DanGos amDDifaDeDD Cymharol ynG nGhymuneDau sir Benfro
amCan Gwella 5:
treChu tloDi
Yn unol â blaenoriaeth genedlaethol Cymru, byddwn yn dilyn agwedd gydgysylltiedig ar draws holl adrannau ac ar draws Sir Benfro gyfan i gynorthwyo i rwystro tlodi, cynorthwyo pobl i gael gwaith a lliniaru effeithiau tlodi.
10.11
Mae’r map canlynol yn dangos cyfran ein hardaloedd lleol sydd o fewn y 10%, 20% a 30% isaf o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Tra bod cydran ddaearyddol i dlodi yn Sir Benfro, mae yna bobl ar incwm isel yn holl gymunedau Sir Benfro. Mae rhai o’r dulliau a fabwysiadwyd gennym yn targedu’n ddaearyddol, tra bod eraill yn thematig.
Allwedd
10% mwyaf difreintiedig 10-20% mwyaf difreintiedig 20-30% mwyaf difreintiedig 30-50% mwyaf difreintiedig Llai difreintiedig na’r cyfartaledd
Mae’r incwm cyfartalog yn Sir Benfro yn dueddol o fod yn is na’r rhai yng ngweddill Cymru. Amcangyfrifwn fod gan tua 36% o aelwydydd incwm sydd islaw 60% o’r lefel incwm ganolrif i Brydain Fawr. Mae’r incwm ganolrif yn Sir Benfro wedi gostwng bron i 5% ers 2007, gostyngiad llawer mwy na’r ffigur cyfatebol o 3.5% i Gymru gyfan. Mae pocedi o Sir Benfro hefyd yn dioddef o gryn amddifadedd.
38
10.13
10.14
Mae’r ymgynghori a wnaethom yn dangos bod cefnogaeth gref i’n Hamcan Gwella arfaethedig i drechu tlodi ymhlith Aelodau Etholedig. Rydym wedi pennu naw o gamau gweithredu dan yr Amcan Gwella hwn: • Ymestyn darpariaeth ‘Dechrau’n Deg’ i Neyland, gan roi dechrau da mewn bywyd i fwy o blant. • Cynnal adolygiad o brosiectau Teuluoedd yn Gyntaf i sicrhau bod y canlyniadau gorau yn cael eu cyflawni i fynd i’r afael â Thlodi Plant. • Gyda chefnogaeth y Grant Amddifadedd Disgyblion, parhau i ddarparu cyfleoedd dysgu anffurfiol, yn rhad ac am ddim i ymgysylltu ag oedolion a phlant mewn ardaloedd a dargedwyd trwy Sbardun Dysgu Sir Benfro a Sgiliau Hanfodol mewn partneriaeth ag ysgolion. • Parhau gyda’n rhaglen buddsoddi mewn eiddo’r cyngor sydd â thenantiaid ynddynt gyda’r nod o sicrhau gwell effeithlonrwydd ynni trwy osod boeleri newydd, ffenestri dwbl ac inswleiddio eiddo i atal tlodi tanwydd a chefnogi byw’n iach. • Gweithio mewn partneriaeth â Chanolfannau Byd Gwaith a Cyngor ar Bopeth i gyflenwi sgiliau TGCh a Llythrennedd Gwybodaeth Sylfaenol Sylfaenol i gwsmeriaid sy’n cael eu
•
•
•
•
39
hatgyfeirio gan Ganolfannau Gwaith, gan gynnwys cwsmeriaid mewn diweithdra hirdymor a’r sawl sydd fwyaf angen cymorth TGCh. Cydleoli gyda Chanolfannau Byd Gwaith i ddarparu gwasanaeth mwy modern, gweladwy, cyfleus sy’n seiliedig ar atebion mewn meysydd allweddol fel tai, swyddi, budd-daliadau a chyngor gofal cymdeithasol i’n cwsmeriaid mwyaf anghenus. Mewn partneriaeth ag ysgolion a chyda chymorth y Grant Amddifadedd Disgyblion, byddwn yn ymestyn y ‘rhaglen dysgu haf’ i ysgol yn Hwlffordd (o fewn yr ardal Cymunedau’n Gyntaf), gan helpu i fynd i’r afael â’r bwlch cyrhaeddiad sy’n tyfu yn ystod gwyliau’r haf. Sicrhau bod cyfleoedd hyfforddi a recriwtio yn cael eu creu i bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant (NEETS) trwy eu gweu i ofynion cytundebau Cyngor Sir Penfro trwy gymalau budd i’r gymuned. Trwy ein gwasanaethau cefnogi pobl, byddwn yn galluogi cyrff sy’n bartneriaid i ddarparu cymorth i gwsmeriaid y gwelwyd bod angen cymorth arnynt i wella eu gallu i reoli arian
10.15
10.16
Bydd effaith y gwaith hwn yn cymryd peth amser i dreiddio drwodd i weithgareddau cymdeithasol ac economaidd ehangach, ond fe’u lluniwyd i leihau lefelau anghydraddoldeb ar draws y Sir. Bydd cerrig milltir datblygiadol plant sy’n byw mewn ardaloedd y mae rhaglen Dechrau’n Deg yn eu gwasanaethu yn gydradd â phlant sy’n byw yng ngweddill y Sir pan fyddant yn bum mlwydd oed. Yn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf, ni fydd plant â’r anghenion cefnogi addysgol mwyaf yn syrthio nôl yn ystod gwyliau’r haf. Bydd pobl ifanc o bob cefndir yn cael yr un cyfle i gaffael hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth. Byddwn hefyd yn helpu pobi i sicrhau bod eu harian yn mynd ymhellach, trwy wneud tai Cyngor yn fwy effeithlon o ran tanwydd. Byddwn yn mesur ein cynnydd dan yr Amcan hwn trwy fonitro nifer o ddangosyddion perfformiad sy’n gysylltiedig â’r tri nod allweddol o rwystro tlodi, cynorthwyo pobl i gael gwaith a lliniaru effeithiau tlodi. Mae rhai o’r mesurau hyn yn berthnasol i ardaloedd penodol, ac eraill yn gymwys ar draws y Sir gyfan. Rydym wedi rhannu’r mesurau yn dri chategori:
1. RhwystRo tlodi
Yn ardaloedd Dechrau’n Deg:
mesurau llwyDDiant
tarGeD 2015/16
Canran y plant cymwys sy’n defnyddio’r lleoedd 90% gofal plant o ansawdd da sydd am ddim (2-3 oed)
Canran y plant a fydd yn cyrraedd y lefel ddisgwyliedig i ddatblygiad iaith, mathemateg a datblygiad cymdeithasol yn y Cyfnod Sylfaen
Canran y plant sy’n cyrraedd eu cerrig milltir datblygiadol yn 3 blwydd oed
90% 90%
Yn ardaloedd Sbardun:
mesurau llwyDDiant
tarGeD 2015/16
Nifer y dysgwyr sy’n dilyn cyrsiau Sbardun
400
Nifer y cymwysterau a gyflawnir trwy gyrsiau Sbardun
100
Yn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf:
mesurau llwyDDiant
tarGeD 2015/16
Nifer y plant a fydd yn elwa ar raglen haf benodol o weithgareddau dysgu pwrpasol gan ddefnyddio llyfrgelloedd ac adnoddau gwasanaethau diwylliannol eraill.
40
30
2. CynoRthwyo pobl i gael gwaith mesurau llwyDDiant
tarGeD 2015/16
Nifer y cynlluniau hyfforddi a ddarperir i bobl ifanc 16 – 18 oed
5
Nifer y lleoliadau gwaith/profiad a ddilynir gan bobl ifanc
25
Nifer y prentisiaethau a ddilynir gan bobl ifanc
Nifer yr atgyfeiriadau o ganlyniad i sesiynau TGCh a gynhelir gan Ganolfan Byd Gwaith / Cyngor ar Bopeth (JC+ CAB) mewn llyfrgelloedd
5
200
Canran yr atgyfeiriadau JC+ yn mynychu clybiau gwaith mewn llyfrgelloedd sy’n cyflawni o leiaf 60% 1 o’r 3 gofyniad gorfodol* i fod yn gymwys i dderbyn Credyd Cynhwysol
Canran yr atgyfeiriadau JC+ yn mynychu clybiau gwaith mewn llyfrgelloedd sy’n teimlo eu bod 60% mewn sefyllfa well i chwilio am waith
3. lliniaRu effeithiau tlodi mesurau llwyDDiant
tarGeD 2015/16
Gradd effeithlonrwydd ynni cyffredinol ein stoc tai
Canran cwsmeriaid gwasanaeth cefnogi pobl sy’n cael eu hasesu i fod angen cefnogaeth i reoli eu harian a fydd yn arddangos eu bod yn gallu rheoli eu harian yn annibynnol yn well, o ganlyniad i’r gefnogaeth a ddarperir Nifer y dyddiau ar gyfartaledd i brosesu ceisiadau budd-dal tai newydd
Nifer y dyddiau ar gyfartaledd i brosesu newidiadau mewn amgylchiadau i geisiadau budd-dal tai sydd eisoes mewn grym
73 50%
22 9
41
10.17
Yn ystod 2015/16, byddwn yn datblygu cynllun gweithredu gwrthdlodi. Bydd y cynllun yn ceisio creu cymunedau ffyniannus, iachach ac sy’n dysgu; helpu pobl gael gwaith a lliniaru effaith tlodi. Yn unol â blaenoriaethau cenedlaethol, y meysydd y byddwn yn canolbwyntio sylw arbennig arnynt fydd lleihau nifer y bobl ifanc sydd heb fod mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth, hyrwyddo iechyd a lles a chynyddu cyrhaeddiad.
EIN CYNLLUN ARIANNOL TYMOR CANOLIG 11.1. Mae’r Cynllun hwn yn nodi’r meysydd gwasanaeth hynny lle byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion gwella yn ystod y flwyddyn a ddaw. Rydym bob amser wedi ceisio cael gwelliant cynyddol ar draws ein holl wasanaethau, ond rhaid gweld yr ymrwymiad hwn yng nghyd-destun ein cyllideb ostyngol at ei gilydd.
11.1
11.2. Ym Mehefin 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai awdurdodau lleol Cymru’n derbyn setliadau grant llai hyd Mawrth 2018. O ganlyniad i’r gostyngiad hwn, ac effaith pwysau cyflogau, prisiau a demograffeg, rydym wedi adolygu ein targed arbedion i £50 miliwn, i’w gyflawni rhwng 2013/14 a 2017/18. Er mwyn mantoli ein cyllideb a dal i gyflenwi gwasanaethau lleol o safon, bydd angen i ni arbed arian neu greu incwm o ryw £12.3 miliwn yn ystod 2015/16.
11.2
11.3. Ni fydd modd cyflawni’r arbedion hyn heb gael rhywfaint o effaith ar wasanaethau rheng flaen. Ein huchelgais yw cyflawni mwyafrif yr arbedion gofynnol trwy ganolbwyntio ar gomisiynu a chaffael mwy effeithiol, trwy reoli swyddi gwag yn fwy effeithiol a thrwy leihau costau gweithredol. Isod mae dadansoddiad lefel uchel o ble’r ydym yn bwriadu lleihau ein gwariant net yn 2015/16, ynghyd â’n cyllideb gwariant net ar gyfer 2015/16.
11.3
GostynGiaDau Cost /arBeDion £000s Gwasanaethau Addysg 2,176 Gofal Cymdeithasol – Plant 960 Gofal Cymdeithasol – Oedolion 1,970 Cronfa Gyffredinol Tai 59 Gwasanaethau Priffyrdd a Chludiant 765 Diwylliant a Gwasanaethau Cysylltiedig 795 Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu 321 Gwasanaethau Amgylcheddol 881 Gwasanaethau Canolog, Corfforaethol a Democrataidd Eraill 944 Rheoli Swyddi Gwag ac Arbedion Untro yn y Flwyddyn 1,200 Is-gyfanswm Gostyngiadau Cost/Arbedion 2015-16 10,071 2,200 Treth y Cyngor – Incwm Ychwanegol 12,271 Cyfanswm Gostyngiadau Cost /Arbedion 2015-16
42
11.4. Cyfanswm Gostyngiadau Cost /Arbedion 2015-16
11.4
2014-15 Gwriant net Gwreiddiol £000’s
88,641 14,100 42,482 1,487 8,814 7,695 2,310 12,016 7,536 4,337 198 (1,000) 188,616 6,952 (400) 12,069 207,237
CrynoDeB Gwasanaethau Addysg Gofal Cymdeithasol – Plant Gofal Cymdeithasol –Oedolion Cronfa Gyffredinol Tai Cyfrif Refeniw Tai (Wedi’i neilltuo) Gwasanaethau Priffyrdd a Chludiant Diwylliant a Gwasanaethau Cysylltiedig Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu Gwasanaethau Amgylcheddol Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor Gwasanaethau Canolog, Corfforaethol a Democrataidd Eraill Gwasanaethau Llys Rheoli Swyddi Gwag ac Arbedion Untro yn y Flwyddyn CYFANSWM CYLLIDEBAU GWASANAETHAU Ardollau Incwm Net o Fuddsoddiad Costau Codi Cyfalaf GOFYNIAD CYLLIDEB Y CYNGOR
2015-16 estimate net expenditure £000’s
86,745 13,343 43,389 1,254 – 8,397 6,905 2,030 11,161 7,511 4,140 210 (1,200) 183,885 7,019 (488) 12,371 202,787
11.5. Rydym wedi ceisio blaenoriaethu gwariant ar y gwasanaethau hynny a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni’r Amcanion a ddisgrifiwyd yn y Cynllun hwn. Fel canran, mae’r Gyfarwyddiaeth Plant ac Ysgolion (gan gynnwys ysgolion) yn cyfrif am 49.4% o wariant net y Cyngor at ei gilydd. O fewn hyn, mae’r Gyllideb Ysgolion Unigol wedi cynyddu 0.6% ar ôl caniatáu addasiadau a grantiau penodol. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith ein bod wedi nodi dau Amcan Gwella i’w cyflawni gan y Gyfarwyddiaeth. Fodd bynnag, mae cyfanswm cyllideb y Gyfarwyddiaeth 2.6% yn is na chylldeb llynedd ac yn adlewyrchu £3.1m o arbedion sydd wedi’u cynllunio.
11.5
43
11.6. Maes mwyaf arwyddocaol ond un ein cyllideb fel canran o wariant yw ein Cyfarwyddiaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion. Mae’r Gyfarwyddiaeth yn cyfrif am 21.4% o’n gwariant net at ei gilydd. Mae’r gyllideb ar gyfer 2015/16 yn ymgorffori arbedion o £1.97m. Mae chwyddiant a phwysau demograffig yn golygu bod cyllideb 2015/16 £0.9m yn uwch na’r un a osodwyd gennym llynedd. tyngiad o 2.6%. Eto, mae hyn yn adlewyrchu’r Amcan Gwella a nodwyd yn y Cynllun hwn i adolygu ein gwasanaethau Gofal Oedolion. Yn yr achos hwn, lluniwyd ein Hamcan Gwella i gynorthwyo inni leihau gwariant, gyda golwg ar sicrhau bod y gwasanaethau a ddarparwn yn gost-effeithiol a chynaliadwy yn yr hirdymor.
cysylltiedig yn cyfrif am 4.4% o’n gwariant net at ei gilydd. Yn ystod 2015/16, rydym yn bwriadu cyflawni arbediad net o £1.1 miliwn yn y maes hwn.
11.6
11.7. Mae ein dau Amcan Gwella terfynol yn berthnasol i adfywio a threchu tlodi. Er nad yw’r meysydd hyn yn osgoi arbedion yn llwyr, mae’r gwasanaethau hyn wedi’u gwarchod yn fwy na gwasanaethau eraill er mwyn sicrhau bod y gwelliannau a nodwyd yn digwydd yn ystod y flwyddyn a ddaw.
11.7
11.8
Mae gwariant net Cludiant, Tai a’r Amgylchedd yn cyfrif am 10.3% o wariant y Cyngor at ei gilydd. Rydym yn bwriadu cyflawni arbediad clir o £1.7 miliwn yn y maes hwn yn ystod 2015/16. Mae cynllunio, diwylliant a gwariant ar wasanaethau
44
11.9. Yn ogystal â’r arbedion a ddisgrifiwyd uchod, rydym yn ymrwymo i arbed £2.1 miliwn o ffynonellau eraill yn ystod y flwyddyn a ddaw. Mae rhagor o wybodaeth am yr arbedion hyn, a dadansoddiad mwy manwl o’r arbedion penodol i wasanaeth a grybwyllwyd uchod, ar gael ar ein gwefan www.sir-benfro.gov.uk
11.9
C Y F LW Y N O A D R O D D I A D A U 12.1. Nid yw cynllunio gwelliant yn dod i ben gyda gweithredu. Fel y nodwyd yn y cyflwyniad i’r Cynllun hwn, mae’n broses gylchol o adolygu a diwygio ein cynlluniau’n gyson yng ngoleuni’r amgylchiadau newidiol y gweithiwn danynt.
12.1
12.2. Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn cyhoeddi ein Hadolygiad Gwelliannau. Bydd y ddogfen hon yn disgrifio, yn fras, a gyflawnwyd yr Amcanion a bennwyd i ni ein hunain am 2014/15 neu beidio. Bydd yn cynnwys tystiolaeth bwysig fel ystadegau perfformiad ac adroddiadau gwaith ar gwblhau prosiectau. Mae’n gyfle i ni asesu ein perfformiad ein hunain a rhannu’r cloriannu hwnnw gyda’n cwsmeriaid a rheolyddion. Bydd y ddogfen hon hefyd yn rhoi adroddiad eto ar ein hamcanion cydraddoldeb ar gyfer y flwyddyn honno.
12.2
12.3. Mae’r Adolygiad Gwelliannau hefyd yn cynorthwyo inni gynllunio ein gweithgaredd at y dyfodol. Mae’n helpu i ni sefydlu a ydym yn delio â’r materion cywir neu beidio ac a ydym yn mynd o gwmpas hyn yn y ffordd iawn.
12.3 12.4
12.4. Yn olaf, bydd y drefn adolygu’n rhoi cyfle arall i ni feddwl am y sylwadau a gawsom oddi wrth unigolion a grwpiau cymunedol. Rydym bob amser yn barod i dderbyn sylwadau ar ein hamcanion; rydym wedi cynnwys ein manylion cysylltu ar dudalen gyntaf y cynllun hwn.
12.5
12.5. Byddwn yn cyhoeddi’r Adolygiad cysylltiedig â’r Cynllun hwn erbyn diwedd Hydref 2015. Fodd bynnag, bydd Uwch-swyddogion a Chynghorwyr yn arolygu’r camau gweithredu a mesurau perfformiad yn y cynllun hwn bob chwarter. Er enghraifft, bydd ein Pwyllgorau Arolygu ac Archwilio yn adolygu’r meysydd sy’n berthnasol iddynt. Caiff dyddiadau cyfarfodydd, agendâu a holl bapurau perthnasol eu cyhoeddi ar ein gwefan.
45
G E I R FA Cyfartaledd y sgôr pwyntiau mewn cysylltiad â chymwysterau allanol
Mesur o ganlyniadau disgyblion mewn cysylltiad â TGAU neu gymwysterau seiliedig ar waith.
Tâl Band ‘D’ y Dreth Gyngor
Caiff taliadau’r Dreth Gyngor eu rhannu’n fandiau gwahanol yn ddibynnol ar werth y tŷ. Mae Band D yn cynrychioli’r cyfartaledd cenedlaethol ac fe’i defnyddir wrth wneud cymariaethau rhwng cynghorau.
Cymalau budd cymunedol
Cymalau cytundebol yw’r rhain sy’n sicrhau bod amrywiaeth o amrywiaeth o amodau economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol yn rhan o gyflawni contractau. Un enghraifft fyddai gofyn am ddarparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant fel rhan o gontract adeiladu.
Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Cynllun Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn adeiladau ysgolion.
Dangosydd pynciau craidd
Oedi wrth drosglwyddo gofal
Gofal cartref Ardal Fenter Estyn
Y ganran sy’n cyflawni’r safon ddisgwyliedig yn Saesneg neu’r Gymraeg (iaith gyntaf), Mathemateg a Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 1-3 a TGAU Gradd C o leiaf yng Nghyfnod Allweddol 4.
Blocio gwelyau yw’r enw ar hyn weithiau. Gall ddigwydd pan fo rhywun wedi bod yn yr ysbyty a heb fod mwyach angen gwasanaethau meddygol, ond bod angen gwasanaethau ychwanegol yn eu lle cyn iddynt allu mynd adref. Ein cyfrifoldeb ni’n aml yw sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn eu lle. Gofal sy’n cael ei ddarparu i bobl yn eu cartrefi eu hunain, fel cynorthwyo gydag ymolchi, gwisgo neu anghenion personol eraill.
Rhaglen datblygu economaidd Llywodraeth Cymru sy’n hybu twf trwy roi cymhellion i fusnesau mewn ardal benodol.
Arolygiaeth ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Diben Estyn yw edrych ar ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
46
Rhaglen Dechrau’n Deg Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 Bwrdd Gwasanaeth Lleol Plant sy’n derbyn gofal Ailalluogi
Cyflogaeth dan gymorth Datblygu Cynaliadwy
Rhaglen Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru yw Dechrau’n Deg wedi’i thargedu at deuluoedd gyda phlant dan 4 oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
Datganolwyd pŵer i ddeddfu ar gynllunio cymunedol a gwella lleol yng Nghymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mesur yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio deddfwriaeth a luniwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Partneriaethau o sefydliadau yw Byrddau Gwasanaeth Lleol sy’n gyfrifol am baratoi Cynllun Integredig Sengl i ardal pob awdurdod lleol.
Plant y mae’r Cyngor wedi cymryd i’w ofal. Caiff plant sy’n derbyn gofal eu lleoli naill ai gyda gofalwyr maeth neu rieni mabwysiadol. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn cadw cyfrifoldeb cyfreithiol am eu lles.
Pecyn o wasanaethau ar gyfer pobl sydd angen cymorth i fyw yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r gwasanaethau hyn yn annog a chefnogi pobl i wneud cymaint ag y gallant drostynt eu hunain, gan wneud tasgau gyda nhw yn hytrach nag iddynt.
Mae gwasanaethau Cyflogaeth dan Gymorth yn helpu pobl ag anableddau i sicrhau a chadw gwaith cyflogedig.
Dogfen sy’n rhoi cyhoeddusrwydd i ymrwymiad sefydliad i wneud penderfyniadau sy’n ystyried materion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol hirdymor.
Confensiwn y Cenhedloedd Dywed y Confensiwn bod gan bob plentyn hawl i blentyndod, addysg, iechyd, Unedig ar Hawliau’r Plentyn triniaeth deg a bod â llais.
47