Adolygiad Gwelliannau - 2015 - 2016

Page 1

Cyngor Sir Penfro

Adolygiad Gwelliant 2015-2016

w w w. s i r - b e n f ro . go v. u k


Am gopi o’r ddogfen hon mewn print bras, Braille, ar dâp sain neu mewn iaith arall, cysyllter â Jackie Meskimmon ar 01437 776613. Mae crynodeb o’r ddogfen hon ar gael ar ein gwefan neu trwy’r manylion cyswllt isod. Mae’r cynllun hwn a’i grynodeb yn cyflawni ein dyletswydd o dan adran 15 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 i gyhoeddi gwybodaeth am welliant. Ceir gwybodaeth fanylach yn adran Cynllunio Gwelliant ein gwefan. Gallwch hefyd dracio ein perfformiad diweddar trwy edrych ar adroddiadau rheoli perfformiad integredig gaiff eu dosbarthu i’r Cabinet ac i’n Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu bob chwarter. Rydym bob amser yn awyddus i glywed eich barn. Os oes gennych unrhyw adborth ar yr adolygiad hwn neu os hoffech hysbysu datblygiad Amcanion Gwella ar gyfer y dyfodol, cofiwch gysylltu â ni trwy ddefnyddio’r manylion a nodir isod: Dan Shaw Rheolwr Cynllunio Corfforaethol Cyngor Sir Penfro Neuadd y Sir Hwlffordd Sir Benfro SA61 1TP Ffôn: 01437 775857 polisi@sir-benfro.gov.uk www.sir-benfro.gov.uk

2


1

CYFLWYNIAD ....................................................................................................................... 5

2

TROSOLWG.......................................................................................................................... 6

3

CYSYLLTU AMCANION CYNNYDD I’R NODAU LLES CENEDLAETHOL ...................................... 8

4

SIR BENFRO FFYNIANNUS .................................................................................................. 10 AMCAN GWELLA CANOL TREFI AC ADFYWIO .......................................................................................... 10 Cynnydd ar elfen tîm tref yr Amcan ........................................................................................ 11 Cynnydd ar elfen prosiect strategol yr Amcan ........................................................................ 14 Twristiaeth .............................................................................................................................. 16 AMCAN GWELLA YSGOLION ............................................................................................................... 18 Sgiliau a phrosiectau addysg eraill ......................................................................................... 25

5

SIR BENFRO HYDWYTH ...................................................................................................... 27

6

SIR BENFRO IACHACH ........................................................................................................ 30 AMCAN AD-DREFNU’R GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL OEDOLION ............................................... 30 AMCAN PLANT AGORED I NIWED ........................................................................................................ 34 Diogelu .................................................................................................................................... 37 Gweithgareddau eraill sy’n cefnogi iechyd ............................................................................. 39

7

SIR BENFRO MWY CYFARTAL ............................................................................................. 41 AMCAN GWELLA TRECHU TLODI ......................................................................................................... 41

8

SIR BENFRO CYDLYNUS ...................................................................................................... 47 Cymunedau ............................................................................................................................. 47 Tai ............................................................................................................................................ 47 Diogelwch ................................................................................................................................ 50 Trafnidiaeth ............................................................................................................................. 52

9

SIR BENFRO Â DIWYLLIANT EGNÏOL A CHYMRAEG SY’N FFYNNU ........................................ 54

10 A SIR BENFRO SY’N GYFRIFOL YN FYD-EANG....................................................................... 58 11 CYLLID ............................................................................................................................... 60 GEIRFA ...................................................................................................................................... 64 CYFEIRIADAU GWE LLAWN AR GYFER DOGFENNAU CYSYLLTIEDIG ............................................. 66

3


Mae’n bleser gennyf gyflwyno Adolygiad Gwelliant Cyngor Sir Penfro am y flwyddyn 2015-16. Yr Adolygiad Gwelliant yw ein hunanasesiad o’r cynnydd a wnaethpwyd yn erbyn y nodau a’r camau gweithredu a osodom ar ein cyfer ein hunain ar ddechrau’r flwyddyn ariannol. Yn allweddol, mae’n ein helpu i ddynodi ble sydd angen inni ganolbwyntio ein gwaith yn y dyfodol. Mae’r Adolygiad yn cyfannu asesiadau perfformiad eraill, fel y rhai a gynhyrchir gan Swyddfa Archwilio Cymru a rheoleiddwyr eraill. Yng nghyd-destun yr heriau ariannol sylweddol wynebodd y Cyngor yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â’r heriau llywodraethu a etifeddwyd, rwy’n hynod o falch i Sir Benfro, yn seiliedig ar ddata a gasglwyd gan Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru, gael ei gosod yn ail orau o 22 awdurdod lleol Cymru o ran darparu gwasanaethau lleol. Gwelliant ar ein safle gorau blaenorol o bedwerydd, a’n safle fel ‘y cyngor sydd wedi gwella fwyaf’ yn 2014/15. Yn ystod y flwyddyn fe dderbyniom ein hadroddiad Asesiad Corfforaethol gan Swyddfa Archwilio Cymru. Cwblhawyd llawer o’r gwaith maes ar gyfer hwn ddechrau 2015/16 ac mae hyn wedi ein galluogi i fynd i’r afael eisoes ag amrywiol faterion cyn cyhoeddi’r adroddiad. Rydym wedi derbyn ei brif ganfyddiad, sef “Hyd yma, nid yw’r Cyngor yn gallu cynnig sicrwydd digonol bod ei drefniadau’n abl o drosglwyddo ei flaenoriaethau a deilliannau gwell ar gyfer dinasyddion”. Mae fy Nghabinet yn monitro cynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu sydd wedi ei roi yn ei le i ymateb i’r argymhelliad yma. Er i’r Asesiad Corfforaethol amlygu’r heriau yr ydym yn eu hwynebu, nododd Swyddfa Archwilio Cymru “Er gwaetha’r pwysau ariannol cynyddol, bu gwelliant ym meysydd blaenoriaeth y Cyngor, yn cynnwys rheoli gwastraff, iechyd yr amgylchedd, diogelu, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg”. Mae sefyllfa ariannol y Cyngor yn parhau i fod yn heriol iawn. Tra bod ein gwariant net am y flwyddyn yn unol â’r hyn a gynlluniwyd nid oedd yr arbedion a wnaethpwyd i gyd yn y meysydd y cynlluniwyd ar eu cyfer yn wreiddiol, er enghraifft, mewn gofal cymdeithasol oedolion ble mae arbedion yn cymryd yn hirach i’w sicrhau. Rwy’n falch o’r cynnydd a wnaethom yn ystod y flwyddyn i gynllunio ffyrdd newydd o weithio fydd yn lleddfu’r effaith gaiff cwtogi’r gyllideb ar bobl leol. Mae ein cynlluniau ariannol pum mlynedd yn adlewyrchu’r cyngor a gomisiynwyd gan ymgynghorwyr arbenigol. Penodwyd Prif Weithredwr newydd ym mis Gorffennaf 2015. Mae hyn wedi cadarnhau newid yn niwylliant y sefydliad. Mae fy Nghabinet yn parhau i ymgysylltu â phobl leol a rhanddeiliaid eraill ac mae ymgynghoriadau cyhoeddus “Mae Eich Cyngor yn Newid” yn esiampl ymarferol o hyn. Hoffwn Estyn gwahoddiad i’n trigolion, ein cwsmeriaid a’n partneriaid i barhau i ymgysylltu â ni er mwyn troi ein gweledigaeth newydd: Gweithio gyda’n gilydd i wella bywyd yn Sir Benfro yn realiti.

4


1

Cyflwyniad

1.1

Mae’r cynllun hwn yn adrodd yn ôl os ydym wedi cyflawni’r camau gweithredu a osodom i’n hunain yn ogystal â’r effaith gafodd y camau gweithredu hyn ar Sir Benfro.

1.2

Mae’r cynllun wedi ei adeiladu o amgylch y saith nod a geir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Fe benderfynom wneud hyn i gydnabod pwysigrwydd y Ddeddf wrth inni gynllunio ac adrodd ar welliannau. Un o’r newidiadau pwysicaf a geir yn sgil y Ddeddf newydd yw ffocws ar feddwl yn y tymor hir a rhoi pwyslais ar atal.

1.3

Rydym wedi ceisio gwerthuso pa mor llwyddiannus fuon ni wrth gyflawni nodau tymor hwy, atal neu osgoi problemau i’r dyfodol, sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu hysbysu gan farn pobl leol a rhanddeiliaid a dynodi sut yr ydym wedi rhoi ystyriaeth briodol i flaenoriaethau sefydliadau eraill yn y modd y byddwn yn trosglwyddo gwasanaethau.

1.4

Mae Adran 2 yn disgrifio’r pum Amcan Gwella yng Nghynllun Gwelliant 2015/16. Mae Adran 3 yn dangos sut y mae’r Amcanion Gwella yn cysylltu â phob un o’r saith nod Llesiant cenedlaethol, a gyflwynwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae Adrannau 4 i 10 wedi eu strwythuro o amgylch y saith nod yma.

1.5

Mae Adran 5 yn adrodd ar y ddau Amcan Gwella a’r camau gweithredu sy’n cyd-fynd orau â Sir Benfro Ffyniannus. Mae’r rhain yn cynnwys Amcan Gwella Canol Trefi ac Adfywio a thwristiaeth a’r Amcan Gwella Ysgolion, sgiliau a phrosiectau addysg eraill.

1.6

Mae Adran 6 yn adrodd ar gamau gweithredu sy’n cyd-fynd orau gyda Sir Benfro Gadarn. Mae’r rhain yn cynnwys gwastraff, bioamrywiaeth a llifogydd.

1.7

Mae Adran 7 yn adrodd ar ein Hamcan i ad-drefnu Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Oedolion, ein Hamcan Plant Agored i Niwed a chamau gweithredu eraill fel Diogelu, sy’n cyfrannu at Sir Benfro Iachach.

1.8

Mae Adran 8 yn adrodd ar ein Hamcan Gwella trechu tlodi a chamau gweithredu eraill sy’n cyfrannu at Sir Benfro sy’n fwy Cyfartal.

1.9

Mae Adran 9 yn adrodd ar gamau gweithredu sy’n cyfrannu at Sir Benfro Gydlynol. Mae’r rhain yn cynnwys Cymunedau, Tai, Diogelwch a Thrafnidiaeth.

1.10

Mae Adran 10 yn adrodd ar gamau gweithredu sy’n cyfrannu at Sir Benfro sydd â diwylliant bywiog ble mae’r Gymraeg yn ffynnu.

1.11

Mae Adran 11 yn adrodd ar gamau gweithredu sy’n cyfrannu at Sir Benfro sy’n derbyn cyfrifoldeb byd-eang. Mae’r rhain yn cynnwys newid hinsawdd a materion megis ffoaduriaid.

1.12

Mae Adran 12 yn adrodd ar Gyllid. Mae’r wybodaeth yma wedi ei godi o’n Datganiad Cyfrifon. 5


2

Trosolwg

2.1

Cafodd Cynllun Gwelliant 2015/16 ei strwythuro o amgylch chwe thema’r Cynllun Integredig Sengl. O Wanwyn 2017, caiff y cynllun hwn ei ddisodli gan Gynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro.

2.2

Roedd Cynllun Gwelliant 2015/16 yn cynnwys pum prif flaenoriaeth, a elwir yn Amcanion Gwella. Rhestrir y rhain isod. Rhestrwyd nifer o dasgau i gyd-fynd â phob Amcan Gwella sy’n allweddol ar gyfer eu trosglwyddo. Yn ogystal, rhestrwyd nifer o gamau gweithredu eraill oedd yn berthnasol i thema gyffredinol y Cynllun Integredig Sengl. AMCAN GWELLA 1:

GWELLA YSGOLION Byddwn yn herio a chefnogi ein hysgolion i wella deilliannau dysgu’n gyson ac i helpu plant a phobl ifainc i gyflawni eu llawn botensial, yn enwedig yng Nghyfnod Allweddol 4 (TGAU). AMCAN GWELLA 2:

PLANT AGORED I NIWED Byddwn yn ehangu capasiti ysgolion a gwasanaethau i alluogi plant a phobl ifainc agored i niwed i fod yn ddiogel gartref ac yn yr ysgol a chyflawni eu potensial. AMCAN GWELLA 3:

CANOL TREFI AC ADFYWIO Byddwn yn galluogi, hwyluso a throsglwyddo cynlluniau sy’n cyfrannu at economi cystadleuol, cynhyrchiol a chynaliadwy. AMCAN GWELLA 4:

AD-DREFNU GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL OEDOLION Byddwn yn parhau i newid y modd y byddwn yn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion er mwyn gwella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd. AMCAN GWELLA 5:

TRECHU TLODI Yn unol â blaenoriaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, byddwn yn mabwysiadu ffordd o weithio cydlynol ar draws Sir Benfro gyfan sy’n cwmpasu pob adran, er mwyn helpu i atal tlodi, helpu pobl i mewn i waith a lliniaru effeithiau tlodi.

6


2.3

Rhestrir pob cam gweithredu yr oeddem yn bwriadu ei gymryd o dan bob Amcan Gwella, o dan bob adran Amcan Gwella. Rydym wedi cynnwys sylwadau ar nifer o gamau gweithredu eraill yr oeddem yn bwriadu eu trosglwyddo ym mhob un o’r adrannau er mwyn cwmpasu’r ystod eang iawn o wasanaethau a dyletswyddau y mae’r Cyngor yn eu trosglwyddo.

2.4

Rydym wedi adrodd ar ystod o ddangosyddion perfformiad er mwyn arddangos sut yr ydym yn sicrhau cynnydd. Mae rhai o’r rhain yn ddangosyddion cenedlaethol diffiniedig y gellir eu cymharu ar draws pob un o’r 22 Cyngor Cymreig, mae’r lleill yn ddangosyddion perfformiad lleol a ddatblygwyd mewn ymateb i heriau penodol a geir yn Sir Benfro.

2.5

Caiff y dangosyddion perfformiad cenedlaethol eu coladu yn adroddiad blynyddol yr Uned Ddata Llywodraeth Leol, y cyfeirir ato yn y Rhagair. Mae manylion pellach am yr adroddiad yma, a farnodd bod Cyngor Sir Penfro’r ail Gyngor yng Nghymru â’r perfformiad uchaf, ar gael ar wefan Uned Ddata Llywodraeth Leol www.unedddatacymru.gov.uk

7


3

Cysylltu Amcanion Cynnydd i’r nodau lles cenedlaethol

8


3.1

Daeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i rym yn ystod 2015/16. Dyma un o’r darnau pwysicaf o ddeddfwriaeth i’r Cynulliad Cenedlaethol ei roi yn ei le ar gyfer sut y bydd sefydliadau cyhoeddus yn cynllunio gwasanaethau. Mae pwyslais y Ddeddf ar gynllunio ar gyfer y dyfodol ac mae’n cyflwyno saith nod llesiant cenedlaethol. Mae’r Ddeddf yn cyfannu ffyrdd newydd o weithio ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.

3.2

Mae saith nod cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cyd-gysylltu â’i gilydd; ond, rydym wedi cynnwys camau gweithredu o dan y nodau ble gellir dadlau y maent yn cydweddu orau er mwyn trefnu’r adroddiad hwn. Bydd y mwyafrif o gamau gweithredu’n cyfrannu at fwy nag un nod.

3.3

Rydym wedi drafftio penodau ar wahân ar gyfer pob un o’r nodau. Mae penawdau’r penodau’n rhestru’r prif feysydd sydd wedi eu cynnwys ym mhob pennod. Mae’r dangosyddion perfformiad cenedlaethol y mae gofyn inni adrodd arnynt, ynghyd ag unrhyw ddangosyddion perfformiad perthnasol, wedi eu cynnwys ar ddiwedd pob pennod.

3.4

Byddwn yn datblygu cyfres o amcanion llesiant sy’n benodol i Sir Benfro ac sy’n cyd-gysylltu â’r saith nod llesiant cenedlaethol dros y misoedd nesa. Caiff y rhain eu cynnwys mewn Cynllun Corfforaethol newydd a gytunir gan y Cyngor ym mis Mawrth 2017.

3.5

Yn ogystal, bydd y Cynllun Corfforaethol yn cynnwys Amcanion Gwella gan y bydd y ddeddfwriaeth sy’n gofyn inni gynhyrchu’r rhain yn dal mewn grym.

9


4 Sir Benfro Ffyniannus

4.1

Fe osodom ddau Amcan Gwella yn 2015/16 sy’n berthnasol i Sir Benfro ffyniannus. Roedd y rhain ar gyfer adfywio a chanol trefi a gwella ysgolion. Mae’r ddau yma’n amcanion tymor hirach fydd yn gofyn am gyllid ac amser i’w cyflawni’n llawn ac rydym yn gwerthuso os buom yn llwyddiannus trwy edrych ar beth yw’r tueddiadau tymor hwy, ac os ydym yn parhau i sicrhau cynnydd, yn hytrach na seilio ein barn ar ganlyniadau un flwyddyn yn unig.

4.2

O ran cyd-destun, mae graddfeydd cymharol isel o ddiweithdra a thlodi yn Sir Benfro. Ond, mae’r gyfran o bobl sy’n gweithio, ond sydd ar gyflog isel, yn uwch nag mewn awdurdodau eraill. Mae incwm crynswth canolrifol cartrefi ar gyfer 2015 yn £464.80, sydd ychydig yn is na’r cyfartaledd Cymreig. Tra bo’r economi lleol yn galw am ystod eang o sgiliau, rydym yn tueddu i weld mwy o swyddi mewn galwedigaethau sgiliau is nag mewn ardaloedd mwy llewyrchus o Gymru. ’Dyw lleoliad cymharol Sir Benfro wedi newid fawr ddim dros y flwyddyn ddiwethaf.

Amcan Gwella canol trefi ac Adfywio 4.3

Fe wnaethom bennu Amcan Gwella ar gyfer y pwnc yma oherwydd pryderon a fynegwyd gan aelodau o’r cyhoedd ynghylch golwg a bywiogrwydd trefi Sir Benfro. Mae gweithio trwy dimau canol tref a phartneriaid eraill yn rhan allweddol o’n strategaeth. Ein llathen fesur llwyddiant cyffredinol oedd cynnal neu leihau’r lefel o safleoedd adwerthu gweigion.

4.4

Allwn ni ond dylanwadu ar fywiogrwydd trefi, gan fod ffactorau macro-economaidd ehangach yn fwy tebygol o effeithio ar berfformiad cymharol. Mae pwysau economaidd, fel newidiadau mewn arferion siopa’n parhau i roi pwysau ar ganol trefi. Rhwng 2015 a 2016 cynyddodd y gyfran o wario manwerthu ar-lein tua 15% ar draws y DU, tra cwympodd y cyfanswm a wariwyd mewn siopau tua 3.5%1.

4.5

2015/16 oedd y drydedd flwyddyn inni bennu amcan ar gyfer gwella canol trefi. Rydym wedi asesu ein cynnydd (tra’n rhannu arfer dda) trwy gynadleddau timau trefi blynyddol. Rydym yn bwriadu comisiynu gwerthusiad ffurfiol o’n gwaith yn y maes hwn yn yr Hydref a bydd hyn yn hysbysu’r modd y byddwn yn mynd i’r afael â’r gwaith yma yn y dyfodol. Awgrymodd asesiadau o flynyddoedd blaenorol bod ein hadnoddau ar gyfer canol trefi wedi eu gwasgaru’n rhy denau. Rydym eisoes wedi gwneud newidiadau i’n harddull ac roedd gwaith 2015/16 yn canolbwyntio mwy ar y dref Sirol, Hwlffordd, ac wedi ei yrru’n fwy strategol, er enghraifft trwy ddatblygu uwchgynllun.

1

http://www.retailresearch.org/onlineretailing.php 10


4.6

Fe wnaethom gefnogi nifer o brosiectau, gyfrannodd at fywiogrwydd pob tref. Parhaodd y cynllun paentio poblogaidd a chyhoeddir adroddiad terfynol ar ei effaith erbyn mis Mawrth 2017. Gosodwyd arwyddion mynedfa ym mhob un o’r chwe phrif dref ac mae gwasanaeth WiFi cyhoeddus am ddim yn cael ei osod yng nghanol deg o Drefi a chyrchfannau twristiaeth ar hyd a lled Sir Benfro. Caiff y buddsoddiad yma o £160,000 ei gwblhau erbyn hydref 2017. Rydym wedi trafod costau cynnal a chadw’r cynlluniau hyn i’r dyfodol gyda’r Cynghorau Tref perthnasol. Rydym wedi ymrwymo i dalu costau trwyddedau a’r gwaith cynnal a chadw dros gyfnod peilot o dair blynedd cyn i fusnesau / Cynghorau Tref ymgymryd â’r costau rhedeg. Mae’r deg Cyngor Tref / Cymuned wedi arwyddo cytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer ymrwymiadau tymor hir.

Cynnydd ar elfen tîm tref yr Amcan Abergwaun ac Wdig 4.7

Mae Adolygiadau Gwelliant blaenorol wedi amlygu mai Abergwaun ac Wdig yw’n tîm tref mwyaf llwyddiannus a derbyniodd £50,000 o gyllid Partneriaeth Canol y Dref Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-16. Mae gan y Tîm gynllun datblygu grymus fel ffocws i’w weithgarwch. Mae cofnodion cyfarfodydd y tîm, ynghyd â’r cynllun datblygu a rhestr o brosiectau a gwblhawyd, ar gael ar y wefan.

4.8

Yn ystod y flwyddyn, datblygodd y Tîm Tref nifer o brosiectau marchnata’n cynnwys logo tref newydd, gwefan wedi ei diweddaru, ap Bae Abergwaun newydd, mapiau o’r dref, taflen taith gerdded Dylan Thomas a llyfryn ‘ble i fwyta’.

4.9

Mae’r Tîm wedi gweithredu fel canolbwynt ar gyfer nifer o wahanol grwpiau / prosiectau sy’n anelu i adfywio Abergwaun ac Wdig a’r ardal gyfagos. Er enghraifft, mae gŵyl AberJazz yn tyfu gan ddenu cerddorion rhyngwladol o fri. Mae prosiect ‘Adfywio Gogledd Sir Benfro’ yn anelu i gynyddu’r economi ymwelwyr ar draws Gogledd Sir Benfro. Mae Trawsnewid Bro Gwaun wedi bod yn weithgar hefyd gan drefnu Digwyddiad Lleihau Carbon Trefi Trawsnewid a Chynhadledd Adfywio Trefi Trawsnewid, yn ogystal â sefydlu Grŵp Twristiaeth Gynaliadwy Gogledd Sir Benfro.

4.10

Mae’r Cyngor yn ymgymryd â nifer o brosiectau yn Abergwaun ac Wdig, fel ailddatblygu’r hen ysgol iau a dolen gyswllt ‘Chimneys’. Mae’r rhain wedi symud ymlaen erbyn hyn, er nad yw’r gwaith caib a rhaw wedi dechrau eto. Ceir manylion pellach yn yr isadran trafnidiaeth.

4.11

Mae ceisiadau rheoliadau cynllunio ac adeiladu yn tystio bod y cyfuniad o’r arddull tîm tref a buddsoddiad y Cyngor wedi sbarduno buddsoddiad newydd o’r sector preifat. Mae’r prif brosiect trawsnewid – sef ailddatblygu’r porthladd a chreu marina – yn mynd trwy’r broses cydsynio ar hyn o bryd.

11


Doc Penfro 4.12

Ail-lansiwyd y Tîm Tref dri mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol a chynhaliodd gystadleuaeth ar gyfer plant ysgol i ddylunio logo newydd. Mae’r tîm yn canolbwyntio ar wella’r amgylchedd, cynyddu nifer yr ymwelwyr a chreu gwell argraff o’r dref. Mae wedi annog ac ysgogi pobl yn y dref i ymuno yn y gwaith.

4.13

Mae’r Tîm Tref wedi gweithio i drosglwyddo nifer o ddigwyddiadau. Ym mis Medi, cymerodd 90 o bobl ran yn “Bungee off the Bridge” gan neidio oddi ar Bont Cleddau gan godi £21,500 ar gyfer elusennau lleol. Cynhaliodd y Tîm Tref Wyliau Cwrw llwyddiannus ym mis Mawrth 2015 a mis Chwefror 2016. Yn ogystal, gweithiodd y Tîm Tref ar ddigwyddiad sinema unnos ar 21 Mai 2015, a gynhaliwyd yn Neuadd y Farchnad. Daeth mwy na 200 o selogion Star Wars i’r digwyddiad ac ehangodd y noson ar enwogrwydd y dref fel cartref i’r unig brop maint llawn o long ofod y Millennium Falcon a grëwyd erioed. Cyfrannodd y Tîm Tref at y Ffair Nadolig a’r orymdaith llusernau. Roedd prosiectau amgylcheddol lleol yn cynnwys gosod arwyddbyst yng nghanol y Dref a biniau ysbwriel a baw cŵn newydd.

4.14

Rhoddodd y Cyngor estyniad o ddeuddeg mis i’r Cytundeb Darparu ar gyfer y prif brosiect trawsnewid, sef marina Martello Quays. Mae buddsoddiad sector preifat arall yn arddangos arwyddion gwelliant cynnar.

Tîm Tref Penfro 4.15

Mae Tîm Tref Penfro wedi dynodi cynlluniau tymor byr, canolig a hir a gefnogir gyda chyllid gan y Cyngor Tref.

4.16

Mae’r grŵp wedi trosglwyddo nifer o brosiectau gwelliannau amgylcheddol yn cynnwys y cynllun paentio, paentio dodrefn stryd, plannu llwyni, bylbiau a basgedi crog. Bu derbyn cyllid gan gronfa canol y dref yn gatalydd ar gyfer derbyn ymrwymiad ariannol gan Gyngor Tref Penfro. Mae mannau cyhoeddus wedi eu cyfoethogi, er enghraifft adeiladu ardal Barbeciw ar y Comin. Ail-lansiwyd y trywydd tref a gosodwyd placiau newydd gyda gwybodaeth wedi ei ddiweddaru arnynt. Mae’r llwybr tair milltir o hyd wedi ei farcio gyda 30 o blaciau efydd, crwn wedi eu rhifo a osodwyd yn y palmant mewn amrywiol fannau ar y ffordd.

4.17

Mae’r Tîm Tref yn edrych ar nifer o brosiectau ar gyfer y dyfodol. Mae’r Tîm yn gobeithio ehangu ar waith Cymdeithas Hanes Lleol Penfro a Chil-maen (Monkton) i godi cerflun o Harri’r VII (a aned yng Nghastell Penfro) a datblygu hyn fel thema ar gyfer marchnata tref Penfro. Y llynedd, cynhaliodd y Gymdeithas ddigwyddiad i ddadorchuddio miniatur o’r cerflun ac mae’r Tîm a Chyngor y Dref wedi cytuno i roi arian cyfatebol i dalu am gost y cerflun terfynol. Mae blaenoriaethau eraill yn cynnwys parc chwarae / sglefrfyrddio, golygfan ar Bont y Felin, a gwelliannau i Bwll y Castell ac ardal Cei’r De. Mae’r grŵp hefyd yn gweithio gyda Arriva Trains Wales i wella’r orsaf drenau a gyda Chyngor Sir Penfro ar wella ansawdd aer.

4.18

Mae’r Stryd Fawr yn parhau i elwa o welliannau a ariennir gan Grantiau Ewropeaidd ac mae’r Castell yn ehangu’r rhaglen o ddigwyddiadau a gynhelir yno.

12


Tîm Tref Hwlffordd 4.19

Mae’r Tîm Tref wedi bod yn gyfrwng i gynyddu gweithio partneriaeth rhwng y Cynghorau Tref a Sir. Mae’n fwriad gan y Tîm Tref i weithio ar greu Uwchgynllun ar gyfer y dref Sirol. Mae’r Uwchgynllun wedi tynnu ar ddigwyddiadau ‘Y Map Mawr’ prosiect Cydlifiad (gweler isod am fwy o fanylion). Mae’n cynnwys pedair thema allweddol sy’n adeiladu ar gryfderau’r dref (fel yr afon a’r adeiladau hanesyddol) yn ogystal â phedwar prosiect allweddol, fel ail-ddefnyddio adeiladau gwag, gwella ardaloedd cyhoeddus a gwella’r modd y mae gwahanol rannau o’r dref yn cysylltu â’i gilydd.

4.20

Mae’r Tîm Tref wedi ymgymryd â nifer o brosiectau cyfoethogi amgylcheddol yn cynnwys glanhau’r afon, plannu a’r cynllun paentio. Maent hefyd wedi helpu i drosglwyddo nifer o ddigwyddiadau llwyddiannus dros ben fel y ras rafftiau, Haverfoodfest, Helfa Wyau Pasg, Gŵyl y Nadolig a llawr sglefrio dros dro ar benwythnos Calan Gaeaf.

4.21

Fe wnaethom ni a Chyngor y Celfyddydau gefnogi parhad prosiect Cydlifiad trwy gydol y flwyddyn. Rhoddodd Y Map Mawr gyfle i bobl Hwlffordd ymuno mewn gweithdai i lunio map arbrofol o ardal glan yr afon yn y dre ac i rannu eu syniadau, eu gobeithion a’u dyheadau ar gyfer y dref. Ceir manylion pellach am hyn, a phrosiectau diwylliannol eraill, fel y cynlluniau ar gyfer Llyfrgell newydd, yn yr adran Diwylliant.

Aberdaugleddau 4.22

Mae Cyngor Tref Aberdaugleddau, trwy un o’i is-bwyllgorau, wedi ymgymryd â rôl y tîm tref yn ystod 2015/16. Roedd ei drafodaethau’n ymwneud yn bennaf â materion amgylcheddol lleol, fel golwg adeiladau gweigion a thaflu sbwriel.

4.23

Yn ystod 2015/16 gwnaethpwyd gwaith ar ddatrys dyfodol 70a - 80a Charles Street (adeilad Motorworld) sy’n wag ac yn ddolur llygad cynyddol. Ym mis Ebrill 2016, pasiodd y Cabinet argymhelliad i ddymchwel yr adeilad. Ariennir cost y gwaith yma trwy Gronfa Fenthyciadau Canol y Dref ac, wedi ei glirio, trosglwyddir y safle i gymdeithas tai i’w ail-ddatblygu’n eiddo preswyl newydd.

4.24

Mae Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau wedi parhau i ddatblygu ei Uwchgynllun ar gyfer Doc Aberdaugleddau, sy’n anelu i adfywio ardal gyfan Doc Aberdaugleddau gan gynnwys Marina Aberdaugleddau a Dociau Pysgota Aberdaugleddau. Y mae disgwyl y gallai adfywio’r dociau greu oddeutu 600 o swyddi, yn ogystal â chreu cyfleoedd newydd ar gyfer y diwydiant pysgota lleol. Derbyniodd y datblygiad ganiatâd cynllunio amlinellol ym mis Chwefror 2015. Penodwyd ymgynghorydd datblygu ym mis Ebrill 2016.

Dinbych-y-pysgod 4.25

Gweithiodd y Tîm Tref gyda Chyngor Tref Dinbych-y-pysgod i osod rheilins newydd uwchlaw Clogwyn y Gogledd ar y Norton a pharhau i weithio ar welliannau i Erddi’r Batri. Parhaodd y Tîm Tref i gefnogi digwyddiadau, fel Gŵyl Gelfyddydau Dinbych-y-pysgod, yn ogystal â chyfrannu at ddathliadau’r Nadolig.

13


4.26

Hwylusodd y Tîm Tref waith cadwraeth ar Furiau’r Dref trwy dalu i gynnal arolwg ystlumod o amgylch y Pum Bwa (caewyd rhan o’r rhain dros dro ym mis Chwefror 2016 oherwydd pryderon am gyflwr peth o’r gwaith maen).

Cynnydd ar elfen prosiect strategol yr Amcan 4.27

Rydym wedi hyrwyddo buddiannau statws Ardaloedd Menter. Ym mis Chwefror 2015, ehangodd Llywodraeth Cymru ddaearyddiaeth yr Ardal i gynnwys rhannau o Hwlffordd a gogledd y Sir, yn ogystal ag ymestyn oes y cynllun am 3 blynedd arall. Mae’r Ardal Fenter a Llywodraeth Cymru wedi ariannu strategaeth economaidd ar gyfer y Sir er mwyn llywio gwaith y Bwrdd a’r Cyngor Sir. Mae disgwyl i’r strategaeth hon gael ei hystyried gan y Cabinet yn yr Hydref.

4.28

Rydym wedi cydweithio gyda Dinas-Ranbarth Bae Abertawe. Mae’r prosiect wedi datblygu dros y flwyddyn ac mae ganddo’r potensial i wella seilwaith digidol yn sylweddol, gwella pyrth ffyrdd a rheilffyrdd i Iwerddon a helpu i gyfeirio buddsoddiadau mewn gwasanaethau iechyd. Ym mis Gorffennaf 2016, cymeradwyodd y Cabinet gyfraniad o £50,000 i gynorthwyo gyda datblygiad Cynnig Bargen Dinas manwl ar gyfer Dinas-Ranbarth Bae Abertawe i’w gyflwyno i’r Canghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol cyn cyhoeddiad disgwyliedig yn Natganiad Cyllideb Hydref 2016.

4.29

Fe wnaethom sicrhau cynnydd ar ddatblygiad prosiect parc busnesau bwyd ar gyfer y Sir. Rydym wedi dynodi’r angen am eiddo / adeiladau safon bwyd yn Sir Benfro ac y byddai lleoli busnesau mewn clwstwr yn caniatáu iddynt rannu gwasanaethau cymorth, fel storfeydd ble y rheolir y tymheredd, gwasanaethau dosbarthu, cefnogaeth i fusnesau ac ystafell arddangos a rennir. Rydym wedi mynd ati’n weithredol i geisio ariannu ar gyfer y datblygiad (er enghraifft gan yr Ardal Fenter, neu trwy ariannu o Ewrop). Rydym yn rhagweld y bydd cost terfynol y prosiect tua £4m a bod ganddo’r potensial i greu 56 o swyddi’n ystod cyfnod cyntaf y gwaith.

4.30

Mae’r prif adeilad yng Nghanolfan Arloesedd y Bont wedi ei osod yn llwyr. Mae deiliadaeth yr uned dwf gyfagos yn parhau i fod ymhell o dan ein targed, yn dilyn diddymiad gwirfoddol grŵp Torquing Technology ym mis Tachwedd 2015. Mae Canolfan Arloesedd y Bont yn lletya Fab Lab Sir Benfro a sefydlwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r Elusen annibynnol yma’n cynnig labordy mynediad agored sydd â’r offer saernïo digidol diweddaraf, ble gall pobl ddylunio, adeiladu neu greu bron unrhyw beth y gallwch feddwl amdano gan ddefnyddio technegau modern dylunio a gwneuthuro digidol. Rydym wedi cynorthwyo’r mudiad trwy ddarparu lle ar ei gyfer, ynghyd â chronfa fechan o gyfalaf cychwynnol.

Asesiad Mae’r graff isod yn dangos y newid yn y nifer o adeiladau adwerthu gweigion yng nghanol ein trefi. Mae’r Cynlluniau Datblygu Lleol yn diffinio ardal ddaearyddol canol y dref at ddibenion cynllunio. Dengys hyn bod nifer yr adeiladau gweigion wedi cynyddu yn y tymor hir yn ein trefi mwyaf: mae gan Ddinbych-y-pysgod, Doc Penfro, Hwlffordd ac Aberdaugleddau i gyd raddfeydd adeiladau gweigion sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae graddfeydd adeiladu adwerthu gweigion wedi disgyn ers 2013 ym Mhenfro a Dinbych-y-pysgod (ble mae graddfeydd adeiladau adwerthu gweigion wedi haneru ers 2013) ond nid yw’n eglur i ba raddau y cyfrannodd gweithgareddau’r Tîm Tref at y cwymp yma. 14


Bydd y gwerthusiad annibynnol arfaethedig yn edrych ar gynaliadwyedd yr agwedd timau trefi yn y tymor hir. Mae Timau Trefi angen arian i’w cydlynu a bydd pwysau parhaol ar y gyllideb yn ei gwneud hi’n anos inni flaenoriaethu’r gwaith yma. Yn ogystal, daw ariannu allanol, sydd wedi cynnal tîm tref Abergwaun ac Wdig, i ben yn Hydref 2016. Fe esblygodd ein hagwedd tuag at adfywio trefi yn 2015/16 ac mae bellach yn fwy strategol ac yn fwy cydweithrediadol. Er enghraifft, yn Aberdaugleddau, mae Awdurdod y Porthladd, trwy Uwchgynllun Doc Aberdaugleddau, yn gyrru prosiectau sydd â chryn botensial ar gyfer ail-ddatblygu. Yn Hwlffordd, mae’r broses Uwchgynllun yn diffinio gweledigaeth yn ogystal â darparu egni ac ymdeimlad o hyder y gellir gwyrdroi’r dirywiad diweddar a welwyd yn y dref. Mae nifer o fuddsoddiadau cyfalaf wedi eu cynllunio ar gyfer y dref sydd â’r potensial i fod yn drobwynt, ond bydd rhoi unrhyw Uwchgynlluniau ar waith yn gofyn am amser, adnoddau ac ewyllys gref i lwyddo. Mae Uwchgynlluniau’n cael eu hystyried ar gyfer y pum tref arall sydd â Thîm Tref. Ym Mhenfro, mae’r gwaith a wnaeth y Tîm Tref dros y blynyddoedd diwethaf wedi arwain at welliannau gwirioneddol yn 2015/16. Mae’r Tîm wedi helpu i sicrhau bod ffocws marchnata Penfro ar ei gefndir Tuduraidd. Bu ein cynnydd ar sicrhau prosiectau datblygiad economaidd sy’n fwy strategol yn llwyddiannus, ar y cyfan. Trwy’r Ardal Fenter, a Dinas-Ranbarth Bae Abertawe, mae gennym gyfle i gyfrannu ar lefel llawer mwy strategol at ddatblygiad economi’r rhanbarth ac i wneud y gorau o gryfderau’r economi lleol yn y sector ynni. Caiff y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd effaith sylweddol ar sut y bydd Sir Benfro’n cael mynediad at ariannu adfywio allanol yn y tymor canolig.

15


Twristiaeth 4.31

Fe wnaethom symud nifer o brosiectau yn eu blaen i gefnogi diwydiant twristiaeth Sir Benfro. Er mwyn gwella cefnogaeth strategol ar gyfer y sector gyfan, fe gomisiynom ymgynghorwyr i weithio gyda phartneriaid allweddol yn y sector i ddatblygu modelau trosglwyddo amgen ar gyfer Partneriaeth Cyrchfan Sir Benfro (fel sefydliad cydfuddiannol â llawer mwy o reolaeth dros y gwaith o’i redeg o ddydd-i-ddydd, ar wahân i’r diwydiant ei hun). Erbyn diwedd y flwyddyn cynhyrchodd yr ymgynghorwyr gynllun busnes sy’n arddangos sut y gallai sefydliad newydd weithio. Dros yr haf fe wnaethom ystyried hyn ochr-yn-ochr â’r potensial i gynnwys Twristiaeth dan adain Ymddiriedolaeth Diwylliant a Hamdden ehangach (gweler yr adran Diwylliant am fanylion).

4.32

Fe weithiom gyda Dŵr Cymru i ddatblygu ‘Parc Dŵr Cymreig o Bwys’ yng nghronfa Llys-y-frân. Cyflwynwyd cynlluniau amlinellol ar gyfer y datblygiad - sy’n cynnwys ardal chwarae ryngweithiol; canolfan gweithgareddau chwaraeon dŵr a chanolfan beicio; a gwell cyfleusterau pysgota a cherdded - i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Economi. Mae’r datblygiad gwerth £4 miliwn yn dibynnu ar weld Dŵr Cymru yn sicrhau ariannu Ewropeaidd ychwanegol.

4.33

Darparodd y Cyngor gyllid benthyciadau i Gomisiynwyr Harbwr Saundersfoot i gynorthwyo gyda chreu safle ar gyfer canolfan arfordirol / prosiect rhagoriaeth o bwys mawr a ariennir gan Ewrop. Cwblhawyd cam cyntaf y prosiect yn haf 2015.

Mesurau Llwyddiant PL9 Yr amser cyfartalog a gymerir (dyddiau) o gofrestru cais cynllunio i gyhoeddi penderfyniad (ac eithrio cytundebau adran 106 o 11/12). PIA030 Cyfanswm canran y gwariant gyda chyflenwyr a leolir yn Sir Benfro am y flwyddyn.

PA12 Canran graddfa deiliadaeth unedau diwydiannol sy’n berchen i’r Cyngor (yn seiliedig ar m2)

14/15 Gwir

14/15 Cymru

15/16 Targed

15/16 Gwir

15/16 Cymru

CP

ChRT

63.5

-

62

75.5

-

-

Roedd yr 20% o wahaniaeth rhwng y gwir ffigwr a’r targed o ganlyniad i’r Adran glirio nifer sylweddol o geisiadau oedd wedi cronni. Fe wnaeth nifer fechan o geisiadau hen iawn ystumio’r cyfartaledd ac, wrth leihau’r pentwr ceisiadau wrth gefn, penderfynodd yr Adran ar 80% o’r ceisiadau mewn 56 diwrnod. 56.4

-

55

55.1

-

-

Mae rhaid i’r Cyngor sicrhau bod ei weithgareddau caffael yn gyfreithlon ac yn cynnig gwerth am arian. Fodd bynnag, mae’n bwysig inni fesur pa lefel o’n gwariant sy’n mynd i fusnesau yn Sir Benfro, er nad oes gennym reolaeth uniongyrchol dros y dangosydd hwn. 89.8

-

90

89.5

-

-

Roedd 16,031 m2, allan o gyfanswm o 17,915 m2, yn cael ei ddefnyddio gan ddeiliad ar 31 Rhagfyr 2015. Mae canran yr unedau sydd â deiliaid yng ngogledd y sir wedi aros yr un fath ar 91.5%, cynyddodd deiliadaeth ar draws y canolbarth o 94.2% i 95.9% ac, yn y de, gostyngodd deiliadaeth o 87.2% i 85.7%.

16


Mesurau Llwyddiant RG24 Canran yr arwynebedd llawr a osodwyd (sy’n berchen i Gyngor Sir Penfro) yng Nghanolfan Arloesedd y Bont (CAB)

RG31 Canran y siopau (dosbarth A) sy’n wag yn: Abergwaun Hwlffordd Aberdaugleddau Arberth Penfro Doc Penfro Dinbych-y-pysgod

RG33 Canran y grant Menter Treftadaeth Treflun (THI) a wariwyd yn Hwlffordd

RG38 Ariannu adfywio a sicrhawyd

14/15 Gwir

14/15 Cymru

15/16 Targed

15/16 Gwir

15/16 Cymru

CP

ChRT

95

-

95

88

-

-

Rydym yn dal i sicrhau bod mwy o ofod y gellir ei osod ar gael i’w brydlesu (1,561m2 o’i gymharu â 1,031m2 yn y flwyddyn flaenorol). Mae 1,381m2 â deiliad ar hyn o bryd. Ni chyflawnwyd y targed oherwydd 1) cafodd y brydles ei dirymu ar ddwy swyddfa 2) fe wnaeth un cwmni ddiddymu ei hun, olygodd y cafodd un swyddfa ei rhyddhau. Mae nifer o geisiadau yn yr arfaeth ddylai helpu i wella perfformiad yn ystod 2016/17.

9.0 9.0 16  17.0 17.0 18  21.0 21.0 18  2.0 2.0 2  6.0 6.0 7  15.0 15.0 19  5.0 5.0 3  Mae nifer y siopau gweigion wedi gwaethygu yn Abergwaun, Hwlffordd, Penfro a Doc Penfro. Mae newidiadau yn ymddygiad defnyddwyr (gwerthiant ar-lein) ac amodau adwerthu heriol ar lefel macro yn creu amodau anodd yn lleol sy’n arwain at weld siopau gweigion. 0

-

8

3.1

-

-

Gwnaethpwyd dau daliad grant yn ystod 2015/16, sef cyfanswm o £82 o filoedd. Arweiniodd trafferthion cynllunio, sydd wedi eu datrys bellach, at oedi cyn cychwyn ar un prosiect. Erbyn hyn mae ariannu grant o £1 miliwn wedi ei glustnodi ar gyfer 11 prosiect arfaethedig, felly dylai hyn sicrhau cynnydd yng nghyfanswm y grant a werir yn 2016/17. £1.3M

-

0.5M

£1.55M

-

-

Sicrhawyd yr ariannu yma o: 1) Cynhwysiant Gweithredol £51,289; 2) Gweithffyrdd+ £1,393,900M; 3) Digwyddiadau Mawr £30,000; 4) Croeso Cymru £16,000; 5) Cyllid Tîm Tref £60,000. RG40 Niferoedd a gefnogwyd ar brosiectau sgiliau a chyflogaeth

RG41 Nifer o osodiadau WiFi yng nghanol trefi

-

-

1396

1239

-

-

-

Mae hyn yn is na’r targed ond gellir ei egluro oherwydd gostyngiad mewn llif cwsmeriaid a threfniadau ail-gomisiynu. Roedd nifer o achosion wrth gefn o gwsmeriaid Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn aros am asesiadau gallu i weithio ac ailasesiadau gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), oedd yn gyfrifol am y lleihad mewn atgyfeiriadau a dderbyniwyd. -

-

3

0

-

-

-

Seiliwyd y targed ar gael WiFi yng nghanol x3 tref – sef Hwlffordd, Abergwaun a Phenfro. Gwnaethpwyd penderfyniad yn ystod y flwyddyn i osod WiFi yng nghanol x10 o drefi, fel “dêl pecyn”, sy’n golygu na gyflawnwyd y targed ar gyfer 15/16. Rydym bellach wedi dod i gytundeb gyda Chynghorau Tref ble y bydd Cyngor Sir Penfro yn darparu cyllid cyfalaf a’r Cynghorau Tref yn darparu’r ffrwd refeniw. Mae trefi ychwanegol i’r uchod yn cynnwys Aberdaugleddau; Doc Penfro; Dinbych-ypysgod; Tyddewi; Trefdraeth; Arberth a Saundersfoot. 17


Amcan Gwella Ysgolion 4.34

Fe wnaethom bennu Amcan Gwella ar gyfer y maes hwn gan nad yw cyrhaeddiad ar lefel TGAU yn ein hysgolion, yn gyffredinol, yn cymharu’n dda â meysydd eraill. 2015/16 oedd y drydedd flwyddyn inni bennu Amcan ar gyfer cyrhaeddiad ysgolion.

4.35

Fe osodom bum cam gweithredu allweddol ar gyfer ein hunain ar gyfer yr amcan yma a bydd y camau gweithredu hyn i gyd yn effeithio ar berfformiad i’r dyfodol, yn hytrach na’r ffigurau yr adroddir arnynt yn yr Adolygiad hwn. Y camau gweithredu oedd: cynyddu safon gyffredinol arweinyddiaeth ac addysg yn yr ystafell ddosbarth, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd; mynd i’r afael â’r bwlch rhwng disgyblion sydd â hawl i Brydau Ysgol am Ddim a rhai sydd ddim, gwella lefelau presenoldeb; symud ein rhaglen adeiladu / adnewyddu Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ei blaen; a rhoi ein rhaglen ad-drefnu ysgolion ar waith.

4.36

Mae ein hadroddiad ar fynd i’r afael â’r bwlch rhwng disgyblion sydd â hawl i Brydau Ysgol am Ddim a rhai sydd ddim, wedi ei osod yn adran Gyfartal yr Adolygiad hwn.

4.37

Mae camau gweithredu sy’n torri ar draws pob maes o’n heffeithlonrwydd ar gyfer Addysg yn cynnwys atgyfnerthu arweinyddiaeth y gwasanaeth trwy benodi Cyfarwyddwr parhaol ar gyfer Plant ac Ysgolion. Rydym yn dal i archwilio opsiynau ar gyfer capasiti arweinyddiaeth strategol ychwanegol. Rydym yn y broses o gytuno ar Weledigaeth Addysg newydd sydd â phum amcan sy’n canolbwyntio ar anghenion a dyheadau dysgwyr. Nod y Weledigaeth yw ei bod yn cefnogi newid cynaliadwy fel bod perfformiad Sir Benfro nid dim ond ar lefel gyffredin, ond yn rhagorol trwy Gymru.

4.38

Er mwyn cynyddu cyrhaeddiad mewn ysgolion uwchradd, mewn cydweithrediad ag ERW, fe ddatblygom Strategaeth o’r enw Mae Pob Gwers yn Cyfrif, Mae Pob Disgybl yn Cyfrif. Caiff y Cynllun ei fonitro’n fisol. Cafodd y Cynllun a’i Ddiweddariad Monitro eu hystyried gan ein Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Plant a Theuluoedd. Yn ogystal, rydym wedi comisiynu gwerthusiad o effaith y Cynllun, yn cynnwys os bydd y camau gweithredu a drosglwyddwyd yn parhau i gael effaith yn y tymor hirach.

4.39

Mae esiamplau o’r camau gweithredu penodol a gymerwyd i gynyddu cyrhaeddiad yn cynnwys: mae hyrwyddo hyfforddiant i staff, yn cynnwys hyfforddiant arweinyddiaeth (Rhaglen Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Ganol) wedi ei gwblhau ar gyfer staff enwebedig yn ysgolion Tasker Milward a Syr Thomas Picton; gofyn i bob Pennaeth Ysgol ddarparu diweddariad misol ar gyfer disgyblion sy’n derbyn ymyrraeth wedi ei dargedu; pecyn adolygu a gwella ar gyfer TGAU, dynodi a datblygu bylchau penodol mewn sgiliau er mwy gwella canlyniadau; comisiynu athrawon Mathemateg ychwanegol ar gyfer Ysgol Tasker Milward; a hwyluso cysylltiadau parhaus rhwng Ysgol Bro Gwaun a Greenhill a’r ysgol yn y Cotswolds.

4.40

Bu effaith y camau gweithredu hyn yn gadarnhaol. Trwy gydol y flwyddyn, rydym wedi gweld gwelliannau yn nyfnder y wybodaeth lefel disgyblion a arddangoswyd gan rai ysgolion, ond mae pryderon yn dal i fodoli ynghylch y deilliannau y mae rhai ysgolion yn eu hystyried yn dderbyniol a chysondeb y prosesau a ddefnyddir i dracio disgyblion. Mae hyder cynyddol bod Penaethiaid a Chadeiryddion Cyrff Llywodraethol yn gallu trafod yn fanwl berfformiad disgyblion ac ymyriadau sy’n cael eu derbyn a bod ysgolion yn rhoi 18


strategaethau wedi eu targedu ar waith er mwyn gwella deilliannau. Mae Aelodau Etholedig yn chwarae rhan lawn gyda’r gwaith o herio a chefnogi ysgolion ac mae capasiti ychwanegol o fewn y Gyfarwyddiaeth er mwyn mynd i’r afael â newid strategol a chynaliadwy. 4.41

Mae oedi rhwng sicrhau gwelliannau a gweld cyrhaeddiad yn cynyddu. Tra cynyddodd y prif fesur ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 (canlyniadau TGAU), Level 2 + yn cynnwys Cymraeg / Saesneg a Mathemateg, ychydig rhwng 2014 a 2015 fe wnaeth ein safle cymharol, o’i gymharu ag awdurdodau eraill, ostwng. Fe wnaeth ein safle cymharol ar gyfer nifer o fesurau eraill Cyfnod Allweddol 4 syrthio, yn cynnwys y mesurau sgôr pwyntiau cyfartalog ehangach yn ogystal â’r sgôr pwyntiau cyfartalog ehangach wedi’i chapio.

4.42

Mae canlyniadau dros dro ar gyfer canlyniadau TGAU mis Mehefin 2016 yn dangos rhai meysydd gwelliant da iawn. Llwyddodd pump o ysgolion i gynyddu eu dangosydd Lefel 2 cynwysedig o leiaf bump y cant. Ar y cyfan, rydym yn rhagweld y bydd ein dangosydd Lefel 2 cynwysedig oddeutu 59%, sef tua’r cyfartaledd canolog ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru. Ceir adroddiad ffurfiol ar y canlyniadau hyn yn Adolygiad Gwelliant y flwyddyn nesaf.

4.43

Mae gwahaniaethau amlwg iawn mewn lefelau cyrhaeddiad ar draws cymunedau Sir Benfro. Mae’r map canlynol yn dangos y canran o ddisgyblion yn 2013, 2014 a 2015 enillodd Lefel 2+, yn cynnwys Cymraeg / Saesneg a Mathemateg (mae’r blynyddoedd wedi eu cyfuno er mwyn creu ffigurau sy’n fwy dibynadwy).

19


Map yn dangos canran y disgyblion enillodd bump TGAU neu fwy (neu gymhwyster cymharol) yn cynnwys Saesneg a Mathemateg dros y tair blynedd ddiwethaf

Allwedd

4.44

Mae lefel tlodi mewn cymuned, yn ogystal ag amgylchiadau personol disgyblion, yn dylanwadu ar gyrhaeddiad. Pan ystyrir lefelau tlodi, mae gan rai o’n cymunedau mwy difreintiedig, megis Llanion a Chil-maen (Monkton), lefelau cyrhaeddiad sydd yr un fath neu’n well na Sir Benfro yn ei chyfanrwydd. Fodd bynnag, hyd yn oed pan ystyrir lefelau amddifadedd, mae’r lefelau cyrhaeddiad mewn rhannau o Aberdaugleddau’n dal i fod yn is na lefelau cyffredinol Sir Benfro. Mae gan rai ardaloedd sydd â niferoedd isel o ddisgyblion sydd â hawl i dderbyn prydau ysgol am ddim lefelau cyrhaeddiad sy’n is na’r disgwyl.

4.45

Mae’r lefelau cyrhaeddiad ar gyfer disgyblion mewn grwpiau oedran iau yn tueddu i fod yn well na chyrhaeddiad ar lefel TGAU. Fe gododd y canran o ddisgyblion 7 oed sy’n cyrraedd y dangosydd Cyfnod Sylfaen ac fe wnaethom gynnal ein safle cymharol, o’i gymharu ag awdurdodau eraill. ’Doedd canran y disgyblion 11 oed a gyflawnodd y dangosydd pynciau craidd yng Nghyfnod Allweddol 2 heb newid fawr ddim ers y flwyddyn flaenorol, er bod ein perfformiad o’i gymharu ag awdurdodau eraill wedi gostwng ychydig. Fodd bynnag, mae’r canlyniadau cychwynnol ar gyfer asesiadau Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2, a gymerwyd ym mis Mehefin 2016, yn cyfeirio at ddirywiad mewn perfformiad ac rydym yn ceisio eglurhad am y sefyllfa yma. 20


4.46

Fe wnaeth ein camau gweithredu i wella presenoldeb gynnwys cwblhau adolygiadau presenoldeb ym mhob ysgol uwchradd, a darparu adborth ysgrifenedig i bob ysgol ar gryfderau a meysydd i’w datblygu. Byddwn yn ailadrodd y broses yma yn ystod tymor yr Hydref 2016, a byddwn yn adolygu ysgolion yn dymhorol os credir bod hynny’n angenrheidiol. Amlygodd yr adolygiadau hyn gryfderau y gellid eu rhannu yn ogystal â rhai meysydd i’w datblygu. Nawr mae swyddogion presenoldeb yn cynhyrchu adroddiadau ar gyfer pob ysgol ar draws Sir Benfro sydd â lefel absenoldeb sy’n uwch na 7%, ynghyd ag unrhyw gamau gweithredu dilynol.

4.47

Rydym wedi newid sut y byddwn yn dilyn i fyny ar ddisgyblion sy’n cyrraedd yn hwyr a dynodwyd nad oedd ein harfer blaenorol o leoli Swyddog Cymorth Disgyblion yn y dderbynfa i ffonio rhieni disgyblion sy’n cyrraedd yn hwyr yn ddefnydd effeithlon o adnoddau. Rydym wedi adolygu sut y llwyddodd awdurdodau eraill i wella lefelau presenoldeb er mwyn gweld pa arfer gorau y gallwn ddysgu oddi wrtho. Rydym wedi cysylltu gydag ysgolion mewn awdurdodau cyfagos a lwyddodd i gynyddu lefelau presenoldeb ac, yn dilyn gwerthusiad o lwyddiant Abertawe yn y maes hwn, penderfynwyd sicrhau defnydd mwy trylwyr o broses ERW a byddwn yn paratoi ysgolion a thimau presenoldeb ar gyfer y ffordd newydd yma o weithio dros y chwe mis nesaf.

4.48

Rydym wedi adolygu ein polisi ar gyfer cyhoeddi Hysbysiadau Cosb ar gyfer absenoldeb. Ni dderbyniom unrhyw geisiadau gan ysgolion i gyhoeddi’r rhain yn ystod y cyfnod adrodd perthnasol ar gyfer yr Adolygiad hwn (Medi 2014 i haf 2015). Fodd bynnag, mae Hysbysiadau Cosb yn cael eu cyhoeddi bellach ac mae eu heffeithlonrwydd yn cael ei fonitro. O’r 23 o Hysbysiadau a gyhoeddwyd, mae presenoldeb y disgybl wedi gwella yn 19 o’r achosion hyn yn dilyn cyhoeddi’r Hysbysiad.

4.49

Mae’r gwaith yr ydym wedi ei wneud yn gymharol lwyddiannus wrth godi lefelau presenoldeb mewn ysgolion cynradd. Mae lefelau presenoldeb yn cynyddu ac mae’r cynnydd yma yn unol â’r lefel ar gyfer Ysgolion Cynradd trwy Gymru yn gyffredinol. Mae lefelau presenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn profi i fod yn fwy problemus; mae lefelau presenoldeb, o’u cymharu ag awdurdodau Cymreig eraill, wedi gostwng hefyd. Mae presenoldeb yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer 2016/17 ac i’r dyfodol.

Blwyddyn adrodd

2011/12

2012/13

2013/14

2014/15

2015/16

Cynradd Sir Benfro

93.25

93.93

93.48

94.87

95.01

Cynradd Cymru

93.30

93.85

93.68

94.78

94.95

Uwchradd Sir Benfro

91.33

92.62

92.18

93.37

93.20

Uwchradd Cymru

91.36

92.14

92.63

93.61

93.86

4.50

Amcangyfrif 2016/17 95.10

93.3

Mae lefel presenoldeb disgyblion sydd â hawl i dderbyn prydau ysgol am ddim (eFSM) yn is na’r rhai sydd ddim. Mewn ysgolion cynradd, mae presenoldeb disgyblion eFSM yn Sir Benfro wedi bod yn gyson gyda, neu ychydig yn uwch, na’r lefel disgyblion eFSM ar draws Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Yn y cyfnod uwchradd ni welwyd tueddiad o welliant dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn 2014/15 fe gyrhaeddom sefyllfa ble roedd presenoldeb disgyblion eFSM 1.7 pwynt canran yn is na’u cymheiriaid yn genedlaethol. 21


4.51

Fe wnaethom barhau i symud ymlaen gyda’n rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac i weithredu rhaglen o ad-drefnu ysgolion. Mae ein cynnydd ar y rhaglen yma wedi ei asesu’n annibynnol trwy Adolygiad Gateway, Swyddfa Masnach y Llywodraeth. Daeth yr adolygiad, a gynhaliwyd tua diwedd y flwyddyn ym mis Chwefror 2016, i’r casgliad bod Cyfnod Un y Rhaglen wedi symud ymlaen yn dda a bod y prosiectau hyn i gyd (er enghraifft yn Ninbych-y-pysgod yn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg, ac yn Johnston ac Aberllydan) yn debygol o fod yn llwyddiannus.

4.52

Mae prosiectau Cyfnod Dau yn mynd rhagddynt a chyfeiriodd yr Adolygiad Gateway at gyflymder rhoi cynlluniau amgen yn eu lle ar gyfer addysgu Uwchradd Cyfrwng Cymraeg yn Hwlffordd ac yn ogystal ar gyfer Campws Dysgu Penfro. Arwyddwyd y cytundeb ar gyfer Campws Dysgu Penfro ym mis Mai 2016 a disgwylir i’r ysgol newydd agor ym mis Medi 2018 (bydd gwaith dymchwel ar y safle presennol yn parhau tan fis Mai 2019). Bu sicrhau cynnydd ar addysgu Uwchradd Cyfrwng Saesneg yn Hwlffordd yn anos. Er mwyn datblygu datrysiad, cytunodd y Cyngor ym mis Gorffennaf i awdurdodi’r Cyfarwyddwr dros Blant ac Ysgolion i lunio cynigion ar gyfer darpariaeth ysgol uwchradd yn Hwlffordd, Aberdaugleddau, Penfro, Dinbych-y-pysgod a Chrymych, ac y dylid cofio ystyried cydblethu’r ddarpariaeth yma gyda chynlluniau arfaethedig sy’n bodoli eisoes ar gyfer Abergwaun a Thyddewi.

4.53

Bydd Adolygiadau Gateway pellach yn darparu gwerthusiad annibynnol o’n cynnydd ac yn ein helpu i reoli’r risgiau ariannol ac adeiladu sy’n gysylltiedig â’r prosiect hwn.

Mesur Llwyddiant EDU002i Canran yr holl ddisgyblion (yn cynnwys rhai sydd yng ngofal yr ALl) mewn unrhyw ysgol a gynhelir gan yr awdurdod lleol, oedd yn 15 oed ar y 31 Awst blaenorol, sy’n gadael addysg orfodol, hyfforddiant neu ddysgu seiliedig ar waith heb gymhwyster allanol a gymeradwywyd EDU003 Canran y disgyblion a aseswyd ar ddiwedd CA2, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, sy’n cyflawni’r Dangosydd Pynciau Craidd, fel y penderfynir gan Asesiad Athro / Athrawes

EDU004 Canran y disgyblion a aseswyd ar ddiwedd CA3, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, sy’n cyflawni’r Dangosydd Pynciau Craidd, fel y penderfynir gan Asesiad Athro / Athrawes

14/15 Gwir

14/15 Cymru

15/16 Targed

15/16 Gwir

15/16 Cymru

CP

ChRT

0.1

0.4

0.0

0.1

0.2

C

Un plentyn (allan o 1,286 o blant) adawodd addysg orfodol, hyfforddiant neu ddysgu seiliedig ar waith heb gymhwyster allanol a gymeradwywyd. Mae mesurau tracio mwy grymus wedi eu rhoi ar waith mewn ysgolion i ddynodi dysgwyr agored i niwed a gweithredu ymyriadau angenrheidiol, ble fo’n briodol.

88.7

86.4

89.0

88.6

88.1

C

Mae strategaethau gwella CA2 yr awdurdod lleol wedi eu hadolygu. Mae rhaglenni cymorth ar y gweill ar gyfer ysgolion y dynodwyd sydd angen sicrhau gwelliannau ym mhob un o’r meysydd pynciau craidd. Caiff yr arfer effeithiol a gyflwynwyd yn 2014, o gymharu canlyniadau profion cenedlaethol gydag asesiadau athrawon a thargedau disgyblion, ei ehangu eleni i sicrhau y caiff pob disgybl ei herio’n briodol a’i gefnogi i gyflawni ei lawn botensial. 81.1

81.2

82.0

84.5

84.1

C

Rhagorwyd ar y targed. Mae strategaethau diwygiedig yr awdurdod lleol yn parhau i gael eu monitro a’u tracio. Caiff Ymgynghorwyr Her a thîm Arweinyddion Dysgu ERW (Ein Rhanbarth ar Waith) eu hanfon allan i adrannau penodol ar draws yr awdurdod lleol. 22


Mesur Llwyddiant EDU006ii Canran y disgyblion a aseswyd, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, sy’n cael Asesiad Athro / Athrawes yn Gymraeg (iaith gyntaf) ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 EDU011 Cyfartaledd y sgôr pwyntiau ar gyfer disgyblion oedd yn 15 oed ar y 31 Awst blaenorol, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol

14/15 Gwir

14/15 Cymru

15/16 Targed

15/16 Gwir

15/16 Cymru

CP

ChRT

15.5

17.2

15.7

14.1

17.8

C

Mae perfformiad wedi dirywio dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Un rheswm am hyn yw’r nifer o ddisgyblion a symudodd o leoliadau cyfrwng Cymraeg i rai cyfrwng Saesneg, unai o fewn neu’r tu allan i’r awdurdod lleol. 554

530.4

560

545

539

C

Mae’n anodd pennu targed ar gyfer y mesur hwn oherwydd yr amrywiaeth o gymwysterau (gan gynnwys rhai galwedigaethol) sydd ar gael. Mae ffocws ar lythrennedd a rhifedd ar draws pob adran, a herio parhaus gan staff yr awdurdod lleol, yn dechrau gwella ansawdd yr addysgu ar draws pob pwnc. Mae arfer dda mewn addysgu’n cael ei rannu ar draws pob adran. EDU015 a) Canran y 39.5 64.5 85 100 68.1 U datganiadau anghenion 85.7 95.6 91.7 100 94.5 U addysgol arbennig (AAA) Yn ystod 2015 bu gwelliant sylweddol mewn perfformiad i gwblhau’r terfynol a gyhoeddir o fewn 26 broses asesu statudol o fewn yr amser cydymffurfio. Gellir priodoli’r wythnos, yn cynnwys eithriadau gwelliant mewn perfformiad i werthusiad o brosesau a chyfrifoldebau b) ac eithrio eithriadau swydd sydd wedi eu gweithredu’n llwyddiannus. EDU016a Canran presenoldeb 94.9 94.8 96 95.0 95.0 C disgyblion mewn ysgolion cynradd Mae Swyddogion Cymorth Disgyblion yn parhau i ganolbwyntio ar a herio ysgolion ble mae’r cod “C” (amgylchiadau awdurdodedig eraill) yn cael ei ddefnyddio i gofnodi absenoldeb disgybl. EDU016b Canran presenoldeb 93.4 93.6 95 93.2 93.9 I disgyblion mewn ysgolion uwchradd Ni chyflawnwyd y targed ac roedd y ffigur yn is na chanlyniad y flwyddyn flaenorol. Bydd Swyddogion Cymorth Disgyblion yn herio ysgolion uwchradd ac yn edrych yn ofalus ar y defnydd o godau absenoldeb yn ystod 2016. Mae gwyliau teuluol anawdurdodedig wedi cynyddu eleni. EDU017 Canran y disgyblion 53.2 55.5 63.6 54.2 58.3 I 15 oed ar y 31 Awst blaenorol a gyflawnodd y trothwy Lefel Canlyniad siomedig. Mae adolygiad o strategaethau gan swyddogion 2. yr ALl wedi arwain at gyflwyno monitro ac ymyriadau misol wedi eu targedu. Mae angen i bob ysgol wella er mwyn sicrhau bod Sir Benfro’n perfformio ar lefel gyfartalog Cymru. Un o Amcanion Gwella Cyngor Sir Penfro ar gyfer 2016/17 yw gwella ysgolion, yn enwedig yng Nghyfnod Allweddol 4. LP20 Canran y bobl ifanc 16 3.3 2.8 3.8 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant Mae’r ffigwr NEETs wedi cwympo dros y 2 flynedd ddiwethaf, yn rhannol (NEET) oherwydd gostyngiad mewn ariannu ôl-16 a’r diffyg hyfforddeiaethau sydd ar gael yn y sir. Byddwn yn arwain ar ddatblygu prosiect, a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd, fydd yn targedu’r bobl ifanc hynny sydd wedi gadael addysg orfodol, sydd heb benderfynu ar gyfle dysgu ôl-16 a/neu sydd ddim â’r sgiliau ar ddawn i sicrhau cyflogaeth.

  

23


Mesur Llwyddiant LP21 Graddfeydd eithrio fesul 1,000 o ddisgyblion ar gyfer pob disgybl a) 5 diwrnod neu lai b) dros 5 diwrnod

SE10 Dangosydd Cyfnod Sylfaen sy’n dadansoddi deilliannau disgyblion ym mlynyddoedd 1 a 2 ar gyfer a) Iaith, llythrennedd a chyfathrebu b) Datblygiad mathemategol c) Dangosydd Cyfnod Sylfaen

SE11 Monitro Lefel 1 Cyfnod Allweddol 4 – canran y disgyblion sy’n ennill 5 TGAU

SE14 Bwlch pwyntiau canran rhwng cyrhaeddiad ar gyfer disgyblion sydd â hawl i dderbyn prydau ysgol am ddim (eFSM) a disgyblion sydd ddim, yn y Cyfnod Sylfaen; CA2; CA3 a CA4 (Trothwy Lefel 2 yn cynnwys Cymraeg / Saesneg a Mathemateg) YTH002 Canran yr ymyriadau gan weithwyr ieuenctid mewn ysgolion arweiniodd at ddeilliannau achrededig yn 16 oed

14/15 Gwir

14/15 Cymru

34.1 1.1

26.7 1.6

15/16 Targed 60 1.0 Gweler y sylwadau

15/16 Gwir

15/16 Cymru

CP

ChRT

43.8 0.7

-

 

-

Mae diffiniad y mesur hwn wedi ei ddiwygio’n ystod 2015/16 i’w gysoni â’r modd y bydd Llywodraeth Cymru’n cofnodi ac adrodd ar ddata eithrio. Nid oes modd bellach i gymharu’r targedau a bennwyd y llynedd, er bod gwir ddata hanesyddol wedi ei ail-weithio er mwyn ein galluogi i gymharu rhwng blynyddoedd. Mae mwy o waith i’w wneud ar sut y bydd ysgolion Sir Benfro a’r awdurdod lleol yn gweithio ar y cyd i leihau eithriadau o ysgolion i ffigur sy’n debycach i’r hyn a welir yn genedlaethol. 89.4 86.6 91.8 91.1 88.0 U  91.6 88.7 92.6 91.7 89.7 U  88.7 85.2 90.0 89.2 86.8 U  Canlyniadau sy’n well na ffigurau cyfartalog Cymru. Mae ymyriadau’n parhau i sicrhau deilliannau cadarnhaol. Mae rhaglen “Symud Ymlaen gyda’n Gilydd” wedi bod yn effeithiol wrth wella darpariaeth a deilliannau disgyblion mewn ysgolion a dargedwyd. Bydd y rhaglen hon yn parhau eleni gyda charfan arall o ysgolion a dargedir. Bydd athrawon enwebedig yn mynychu cyfres o gyrsiau a arweinir gan yr awdurdod lleol ac yna caiff eu gweithgarwch gwella ei fonitro a’i sicrhau o ran ansawdd. Rhennir arfer gorau gyda phob ysgol. 94.8

94.0

97

95.4

94.4

C

Canlyniad siomedig. Mae adolygiad o strategaethau gan swyddogion yr awdurdod lleol wedi arwain at fonitro ac ymyriadau misol wedi eu targedu. 18 16 16 10 15  15 18 14 14 16  32 24 27 21 22  33 34 27 35 33  Mae perfformiad wedi gwella ar bob lefel ar wahân i CA4, sy’n siomedig. O ganlyniad i’r ffigur CA4, cynhaliodd swyddogion yr awdurdod lleol adolygiad ar fyrder gan sicrhau ymyriadau â ffocws ar Fathemateg a Saesneg yn CA4. 81

-

80.5

90.0

-

-

Mae’r ffaith bod ysgolion yn fwy effeithlon wrth ddynodi pobl ifanc i fynd ar y rhaglen ynghyd â’r defnydd o’r offeryn VAP (vulnerable application process) yn galluogi ymyriadau pwrpasol ac mae wedi arwain at sicrhau canlyniad oedd yn well na’r targed.

24


Asesiad Fe wnaeth cyrhaeddiad ysgolion ar lefel TGAU wella ychydig mewn termau absoliwt ar gyfer arholiadau Mehefin 2015, ond roeddent yn is o’u cymharu ag awdurdodau eraill. Mae canlyniadau cychwynnol ar gyfer asesiadau Mehefin 2016 (ac sy’n cynnig adlewyrchiad mwy crwn o’r gwaith a wnaethpwyd dros y flwyddyn) yn dynodi bod canlyniadau TGAU Sir Benfro bellach yn agos i’r rhif cyfartalog ar gyfer Cymru gyfan. Tra bo’r canlyniad hwn yn arddangos cynnydd da, unwaith i lefelau amddifadedd cymharol Sir Benfro gael eu hystyried, mae’n parhau i fod yn is na’r lefel y gallem ei disgwyl. Rydym yn gwbl ymroddedig i barhau i wella cyrhaeddiad i’r dyfodol. Mae’r cynnydd mewn cyrhaeddiad TGAU ar gyfer mis Mehefin 2016 yn arddangos bod y ffocws ychwanegol a roddwyd i’r maes hwn yn ystod 2015/16 wedi arwain at ddeilliannau gwell. Byddwn yn parhau i fonitro cynnydd ysgolion cynradd ble fo canlyniadau diweddar yn awgrymu efallai nad yw gwelliannau blaenorol mewn cyrhaeddiad wedi eu gwreiddio mor gadarn â’r gobaith mewn rhai ysgolion. Mae cynnydd gyda gwella lefelau presenoldeb hefyd yn profi i fod yn cymryd mwy o amser na’r gobaith, ond mae lefelau presenoldeb yn araf wella. Mae asesiadau annibynnol o’n rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn dangos bod y mwyafrif o brosiectau’n cael eu trosglwyddo’n effeithlon. Byddwn yn parhau i weithio trwy ein hopsiynau ar gyfer addysg cyfrwng Saesneg yn ardal Hwlffordd ac addysg ôl-16 yn gyffredinol yn ystod 2016/17. Sgiliau a phrosiectau addysg eraill 4.54

Rydym wedi ymgymryd â nifer o brosiectau eraill sy’n gysylltiedig ag addysg sy’n cyfrannu at ffyniant Sir Benfro.

4.55

Yn ystod y flwyddyn fe wnaethom ddatblygu prosiectau i wella sgiliau’r bobl hynny sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur. Y Cyngor sy’n arwain ar y prosiect Cynnydd, sy’n ymdrechu i weithio gyda phobl sydd mewn mwyaf o berygl o ymddieithrio oddi wrth addysg a hyfforddiant. Bydd y prosiect £19m yma (y mae £13m ohono’n ariannu’r UE) yn teilwra cefnogaeth i weddu i anghenion a dyheadau pob person ifanc. Ein dealltwriaeth ni yw, gan fod Cynnydd yn brosiect a gymeradwywyd gan yr UE, y bydd Llywodraeth Cymru’n talu’r dyraniad ariannu. Bydd prosiect Cam Nesa, sydd hefyd wedi ei ariannu gan Ewrop ond sydd ddim yn weithredol eto, yn gwella cyfleoedd bywyd pobl ifainc sydd eisoes ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).

4.56

Mae’r Cyngor yn rhedeg Norman Industries, rhaglen gyflogaeth dan gymorth, a ail-lansiwyd ym mis Gorffennaf 2015 fel menter gymdeithasol. Derbyniodd ymateb cadarnhaol a chynnydd mewn archebion. Disgwylir i’r ffocws parhaus ar farchnata, gwerthiant a chostau cynhyrchu sicrhau cynnydd o 60% mewn gwerthiant.

25


4.57

4.58

Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethom gwblhau’r gwaith paratoi ar gyfer y prosiect Gweithffyrdd+, prosiect o bwys a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd sy’n gweithio gyda phobl economaidd segur a di-waith hirdymor i’w helpu i oresgyn rhwystrau i gael mynediad i gyflogaeth a gwirfoddoli. Dechreuodd y prosiect ym mis Medi 2016 ac mae’n weithredol ar draws Sir Benfro, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae Gweithffyrdd+ yn gweithio gyda chyfranogwyr i ddysgu am eu profiadau, eu sefyllfa bresennol a’r hyn y maent am ei gyflawni cyn mynd ati i lunio cynllun gweithredu ar gyfer y cyfranogwr. Mae’r gefnogaeth y gellir ei hwyluso’n cynnwys cymwysterau a hyfforddiant cysylltiedig â gwaith, cael mynediad i gyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau gwaith.

Rydym wedi ad-drefnu rheoli’r Gwasanaeth Cerdd i arbed costau. Fe wnaethom barhau i ddatblygu ein gwasanaethau Gwaith Ieuenctid Cymunedol ac fe gynhaliom drafodaethau cychwynnol gyda mudiadau gwaith ieuenctid sector cymunedol a gwirfoddol ar fframwaith ffurfiol ar gyfer cydweithio. Er mwyn gwella llywodraethu ein Gwasanaeth Dysgu Oedolion, rydym wedi sefydlu Bwrdd Strategol Rhwydwaith Dysgu Sir Benfro. Mae aelodaeth y Bwrdd yn cynnwys darparwyr addysg uwch ac addysg bellach, ac uwch-aelodau staff o ddarparwyr trydedd sector a’r sector gymunedol.

26


5

Sir Benfro Hydwyth 5.1

Mae amgylchedd rhagorol Sir Benfro’n sail i nifer o’n diwydiannau allweddol, fel twristiaeth ac amaethyddiaeth. Mae gan ystod eang o sefydliadau gyfrifoldeb am amddiffyn a chyfoethogi ein hamgylchedd, ond, mae gennym nifer o ddyletswyddau penodol ar gyfer meysydd fel rheoli gwastraff, cynllunio defnydd tir, bioamrywiaeth a chadwraeth, yn ogystal â rôl wrth atal llifogydd.

5.2

Wnaethon ni ddim pennu Amcan Gwella ar gyfer yr amgylchedd y llynedd. Y rheswm am hyn oedd ein bod yn ystyried bod meysydd eraill o fusnes y Cyngor yn peri heriau pwysicach. Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i amddiffyn a chyfoethogi amgylchedd Sir Benfro ac rydym yn gwbl ymwybodol o faint a graddfa’r heriau amgylcheddol i’r dyfodol.

5.3

Fe gymerom nifer o gamau gweithredu’n ymwneud â rheoli gwastraff. Rydym wedi sicrhau cynnydd da gyda’r maes hwn ac wedi lleihau costau gwaredu gwastraff, ein defnydd o safleoedd tirlenwi, ac rydym yn parhau i fod ag un o’r lefelau ailgylchu uchaf yng Nghymru.

5.4

Fe wnaethom fonitro ein cytundeb gwastraff newydd er mwyn sicrhau bod arbedion effeithlonrwydd a chynhyrchu incwm ar y trywydd cywir i fwrw’r targed. Mae hwn yn gytundeb ar y cyd gyda Cheredigion ac anfonir y gwastraff a gesglir ar long i Sweden, ble caiff ei ddefnyddio mewn cyfleusterau cynhyrchu ynni o wastraff. Hwyliodd y llwyth llong cyntaf o wastraff o Ddoc Penfro ym mis Awst 2015. Mae cyfanswm y gwastraff sy’n mynd trwy’r cytundeb yn uwch na’r rhagolygon gwreiddiol ac mae gwariant yn parhau i fod ar y trywydd cywir. Mae trafodaethau gyda thrydydd partïon wedi mynd rhagddynt yn dda, gyda nifer o awdurdodau a chwmnïau eraill bellach yn gwaredu rhywfaint o’u gwastraff trwy’r cytundeb. Mae hyn wedi ein galluogi i gasglu breindal.

5.5

Fe wnaethom y gorau o’n llwybrau casglu gwastraff yn dilyn cyflwyno casgliadau bob pythefnos ac mae hyn wedi arwain at arbedion pellach ar gyfer casglu sbwriel. Penderfynwyd peidio â darparu sachau sbwriel duon ar gyfer gwastraff gweddilliol er mwyn arbed arian. Fe wnaethom arbedion hefyd trwy sicrhau bod eiddo annomestig yn talu am wastraff busnes yn hytrach na defnyddio gwasanaethau gwastraff domestig. Mae hyn wedi sicrhau derbyn £40,000 o incwm ychwanegol trwy gytundebau gwastraff masnachol newydd.

5.6

Er mwyn cwtogi costau, caewyd ein Safleoedd Amwynder Dinesig am ddeuddydd yr wythnos dros y gaeaf ynghyd â chyflwyno trefniadau gweithio newydd a safoni oriau gweithio. Gwnaethpwyd y newidiadau hyn yn dilyn ymarfer ymgynghori gyda chwsmeriaid y gwasanaeth ac arweiniodd canlyniadau’r ymgynghoriad hwn at ddiwygio ein cynlluniau gwreiddiol.

27


5.7

Rydym wedi cyd-drafod gyda Chynghorau Tref a Chymuned ynghylch darparu gwasanaethau amgylcheddol lleol mewn cymunedau, fel plannu blodau a phlanhigion ac ardaloedd chwarae. Mae naw o Gynghorau Tref a Chymuned wedi cytuno i dalu am gyflenwi’r planhigion (rydym wedi parhau i gynnal a dyfrio planhigion i’w plannu allan y byddwn ni’n eu cyflenwi) ac mae dau o Gynghorau Tref a Chymuned wedi penderfynu ymgymryd â’r gwaith plannu blodau eu hunain. Mae rhaglenni archwilio parciau cymunedol wedi eu creu ac mae’r rhain yn helpu gyda gweithrediad ardaloedd chwarae. Mae ceisiadau ariannu cymunedol wedi eu derbyn, eu dyfarnu ac mae’r cymunedau llwyddiannus wedi eu hysbysu.

5.8

Mae gwasanaethau amgylcheddol lleol eraill ble rydym wedi edrych ar gynnwys Cynghorau Tref a Chymuned yn y gwaith o’u darparu yn cynnwys toiledau cyhoeddus. Bellach mae gan Gynghorau Tref gytundebau uniongyrchol gyda Danfo UK Limited, sef contractwr y Cyngor sy’n glanhau a chynnal toiledau. Ni fu gostyngiad mewn safonau ers i’r trefniadau newydd ar gyfer toiledau cyhoeddus ddod i rym. Cawsom ein hanrhydeddu gan Wobrau Toiledau’r Flwyddyn am fod yr awdurdod lleol gorau yn y DU am ddarparu toiledau cyhoeddus. Enillodd dros hanner o’n 73 o doiledau wobr aur neu blatinwm. Yn ogystal, dyfarnwyd y wobr contractwr allanol gorau yng Nghymru i Danfo UK Limited am y gwaith y maent yn ei wneud gyda ni.

5.9

Un o’n blaenoriaethau tymor hirach yw lleihau’r perygl o lifogydd. Mae rhagolygon risg newid hinsawdd yn pwysleisio’n gyson bod difrifoldeb ac amlder llifogydd yn debyg o gynyddu yn y dyfodol. Rydym wedi parhau i gyfranogi yn Adolygiad Llifogydd Arfordirol Cymru, sef yr ymateb cenedlaethol i wella cydnerthedd Cymru yn wyneb llifogydd arfordirol.

5.10

Cwblhawyd gwaith amddiffyn rhag llifogydd yn Amroth ac rydym wedi datblygu neu gwblhau gwaith dylunio ar gyfer cynlluniau yn Yr Aber Bach (Llifogydd) ac yn Nhrefdraeth / Parrog (Llanwol). Rydym wedi cychwyn gweithio ar Gynllun Ymaddasu Niwgwl a chynhaliwyd ymgynghoriad ar hwn ym mis Mai 2016. Mae hwn yn brosiect hirdymor i fynd i’r afael â’r tebygolrwydd y daw dŵr dros yr amddiffynfa arfordirol bresennol, sef arglawdd cerrig mân, nifer o weithiau’r flwyddyn ymhen ugain mlynedd. Mae’r cynllun gweithredu’n nodi chwe cham gweithredu, yn cynnwys gwerthuso opsiynau sy’n ymwneud â newid llwybr y briffordd bresennol yn ogystal ag ymrwymiad i sicrhau ymgysylltu parhaus â’r gymuned.

5.11

Mae gan Gynghorau Tref a Chymuned ran bwysig i’w chwarae wrth wneud ein cymunedau’n fwy cydnerth i wrthsefyll argyfyngau sifil posibl, er enghraifft trwy ddatblygu eu cynlluniau argyfwng cymunedol eu hunain. Cynhaliwyd ymarferion peilot llwyddiannus yn Saundersfoot a Phenfro’n ystod y flwyddyn a bellach, yn dilyn eu dilysu, mae hwn yn barod i’w ddefnyddio fel pecyn ymarferol gan gymunedau eraill.

5.12

Fe gyhoeddom ddiweddariad o’r adroddiad Cyflwr Bywyd Gwyllt yn Sir Benfro ym mis Ebrill 2016. Canolbwyntiodd hwn ar gyflwr presennol pedwar ar ddeg o rywogaethau a naw o gynefinoedd a’r tueddiad tebygol ar gyfer eu cyflwr dros y pum mlynedd diwethaf yn Sir Benfro. Canfu’r adroddiad, tra cafwyd rhai llwyddiannau a thra bo rhai nodweddion yn gwella erbyn hyn, bod y mwyafrif o nodweddion a aseswyd mewn cyflwr gwael neu gymedrol a bod y tueddiad cyffredinol yn dal i ddirywio. Ar nodyn mwy cadarnhaol, mae’r nodweddion a aseswyd fel rhai sydd mewn cyflwr da neu sydd â thueddiad o wella i gyd wedi bod yn destun ymdrech gadwraeth gyson. Daw’r adroddiad i’r casgliad, os yw Sir 28


Benfro i chwarae ei rhan wrth gyflawni ymrwymiadau rhyngwladol y DU ar atal colli bioamrywiaeth a gwrthdroi’r dirywiad yma, bydd angen sicrhau hyd yn oed fwy o ymrwymiad parhaus i, a mwy o fuddsoddiad mewn, rhaglenni monitro a phrosiectau cadwraeth hir dymor.

Mesur Llwyddiant STS006 Canran yr achosion o dipio anghyfreithlon y derbyniwyd adroddiadau amdanynt a gliriwyd o fewn 5 diwrnod gwaith WMT004b Canran y gwastraff trefol a anfonwyd i dirlenwi

14/15 Gwir

14/15 Cymru

15/16 Targed

15/16 Gwir

15/16 Cymru

CP

ChRT

97.1

93.1

96

96.2

95.3

C

Gostyngiad bychan mewn perfformiad o un flwyddyn i’r llall, ond dal i fod ychydig yn well na’r targed. 15.4

29.4

20

14.9

18.1

C

Ailgyfeiriwyd mwy o wastraff rhag ei anfon i dirlenwi na’r disgwyl o ganlyniad i gyflwyno’r cytundeb Troi Gwastraff yn Ynni (EfW). WMT011 Canran y gwastraff trefol a dderbyniwyd yn yr holl safleoedd amwynder gwastraff o gartrefi gaiff ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio WMT009b Canran y gwastraff trefol a gesglir gan awdurdodau lleol a’i baratoi ar gyfer ei ailddefnyddio a / neu ei ailgylchu, yn cynnwys biowastraff a wahanwyd ymlaen llaw gaiff ei gompostio neu ei drin mewn modd biolegol arall. STS005b Canran y priffyrdd a’r tir perthnasol a archwiliwyd sydd â safon glanweithdra uchel neu dderbyniol

70.2

-

72

70.2

-

-

60.2

U

Cynnal perfformiad o un flwyddyn i’r llall. 65.4

56.2

65

64.9

Gostyngiad bychan mewn perfformiad. Mae cyfanswm y gwastraff sachau duon y byddwn yn ei gasglu bob blwyddyn wedi cynyddu ar raddfa uwch na chyfanswm y gwastraff a ailgylchir.

98.9

96.9

96

98.5

96.5

U

Dirywiad bychan mewn perfformiad o un flwyddyn i’r llall, ond yn dal i fod yn well na’r targed.

Asesiad Rydym yn dal i berfformio’n dda o ran ailgylchu a lleihau gwastraff. Gwnaethom gynnydd sylweddol gyda’r agenda hon yn 2014/15 a chynnal y perfformiad yma’n ystod 2015/16; fe wnaeth rhai dangosyddion wella ychydig, tra dirywiodd rhai rhyw fymryn. Mae’r gwaith yr ydym yn ei wneud gyda Chynghorau Tref, sy’n aml yn canolbwyntio ar faterion amgylcheddol lleol, yn enghraifft o’r newidiadau ehangach mewn trosglwyddo gwasanaethau yr ydym yn eu cynllunio ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau eraill mewn modd llawer mwy cydweithrediadol er mwyn canfod datrysiadau cytûn i broblemau cyffredin. Mae ein hadroddiad ‘Cyflwr Bywyd Gwyllt’ wedi monitro tueddiadau yn iechyd ein cynefinoedd a’n rhywogaethau allweddol. Er bod yr adroddiad yn pwysleisio bod gwytnwch y rhain yn destun pryder ac na allwn eu cymryd yn ganiataol canfu hefyd, ble rydym wedi cymryd camau gweithredu, y bu hyn yn effeithlon. 29


6

Sir Benfro Iachach

6.1

Fe osodom ddau Amcan Gwella sy’n eistedd orau o dan y nod iechyd. Mae un ar gyfer addrefnu gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion, ble roeddem am wella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd gwasanaethau, a’r ail yw ein Hamcan Gwella ar blant agored i niwed.

6.2

Mae llawer o’r wybodaeth sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol yn yr adran hon wedi ei grynhoi o Adroddiad Blynyddol statudol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r adroddiad llawn yn cynnwys mwy o fanylion am sut y mae ein gwasanaethau gofal cymdeithasol yn esblygu fel y gallant wynebu’r heriau yr ydym yn debyg o’u hwynebu yn y dyfodol.

6.3

Mae iechyd yn agenda llawer ehangach na gofal cymdeithasol, caiff diogelu a hyrwyddo ymarfer corff, a bron bob un o’r camau gweithredu yr ydym wedi adrodd arnynt yn y cynllun cyflawn hwn, effaith ar iechyd a lles.

Amcan Ad-drefnu’r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Oedolion 6.4

Fe ddewisom yr amcan yma gan ein bod am newid pwyslais gofal cymdeithasol i fod ar atal, ail-alluogi a chymorth yn y gymuned. Roedd y gwaith a wnaethom yn 2015/16 yn barhad o waith y blynyddoedd blaenorol. Fe wnaeth paratoi i roi Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar waith greu sail ar gyfer y gwaith yma ac mae ein Hamcan Gwella yn gyson â’i nodau. Fe wnaeth rhoi hyn ar waith alw am adolygu polisïau a gweithdrefnau, hyfforddi staff ac ail-ddylunio ffurflenni a systemau electronig. Fe osodom bedwar cam gweithredu o dan yr amcan yma.

6.5

Y cam gweithredu cyntaf inni ei osod oedd gwella ansawdd y gwasanaeth trwy weithredu’r fframwaith sicrhau ansawdd. Mae hyn yn cael ei sefydlogi ac mae Grŵp Monitro Sicrwydd amlddisgyblaethol yn ei le bellach. Bydd hwn yn rhannu a chydgasglu gwybodaeth gan ddarparwyr, yn ogystal â thrafod ymateb comisiynydd priodol. Bydd y grwpiau’n cryfhau’r rhyng-gysylltiad rhwng comisiynu, diogelu, asiantaethau partner ac AGGCC. Mae Protocol Pryderon cynyddol wedi ei adolygu a’i gytuno gan asiantaethau partner.

6.6

Yr ail gam gweithredu oedd sicrhau bod adnoddau eraill yn cael eu targedu at atal ac ymyrryd yn fuan, fel darparu gwybodaeth o safon dda i gwsmeriaid a chynyddu capasiti mewn cymunedau. Datblygwyd ein model ar gyfer gwasanaethau ataliol trwy weithio ar y cyd gydag ystod o bartneriaid, fel y Bwrdd Iechyd a sefydliadau trydedd sector. Mae’r model yn cefnogi datblygiad sbectrwm o wasanaethau sy’n amrywio o wybodaeth a chyngor trwy’r model PIVOT o wasanaethau a leolir yn y gymuned, i ymyriadau wedi eu targedu sy’n fwy dwys, fel ail-alluogi. Mae’r model PIVOT (Pembrokeshire Intermediate Voluntary Organisations Team) wedi bod yn llwyddiant neilltuol ac wedi cryfhau cysylltiadau rhwng Cynghorau Tref a Chymuned, sefydliadau trydedd sector a grwpiau cymunedol. 30


6.7

Ein trydydd cam gweithredu oedd adolygu ein cytundebau presennol gyda’r sectorau gwirfoddol a chymunedol annibynnol. Mae’r gwaith yma wedi cynnwys adolygiad o becynnau gofal cartref, cytundebau cyngor a gwybodaeth (yn enwedig sut maent yn cyd-fynd â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant), ac adolygu lleoliadau preswyl costus. Mae gwaith ein canolfan gomisiynu’n ganolog i’r gwaith yma. O ran gofal cartref, mae ein rhaglen o adolygiadau’n symud yn ei blaen. Mae paneli cymeradwyo mewn Gofal i Oedolion yn sicrhau bod yr holl anghenion a asesir yn cyflawni’r meini prawf cymhwysedd a bod ailalluogi’n cael ei fwyafu cyn cytuno ar ofal cartref. Rydym wedi cwblhau’r gwaith o fapio’r holl gytundebau lefel gwasanaeth cyfredol gyda’r drydedd sector a chaiff gwybodaeth, cyngor a chymorth eu cynnwys fel rhan o’r gwasanaeth a ddarperir mewn cytundebau newydd a bydd yn elfen allweddol o’r gwasanaeth Gofalwyr newydd. Mae Gweithwyr Cymdeithasol yn adolygu anghenion cleientiaid mewn lleoliadau Byw â Chymorth. Gyda lleoliadau preswyl costus, mae’r gwaith yn mynd rhagddo ac mae arbedion yn cael eu gwneud trwy adolygu pecynnau gofal er mwyn sicrhau bod maint y pecyn gofal a gynigir yn briodol, yn dilyn cyfarfodydd a drefnir gyda darparwyr i drafod gweithredu unrhyw newidiadau.

6.8

Gwelir effaith y newidiadau hyn yn rhai o’n dangosyddion perfformiad. Mae nifer y bobl hŷn sy’n cael eu cynnal mewn cartrefi gofal wedi gostwng yn unol â’n polisi i gynorthwyo mwy o bobl i fyw gartref. Bu gostyngiad sylweddol yn y nifer o oriau gofal cartref yn dilyn ail-alluogi a gostyngiad cysylltiedig yn y nifer o gwsmeriaid sy’n derbyn cymorth tymor hir parhaus.

6.9

Ein pedwerydd cam gweithredu oedd parhau i ddatblygu gwasanaethau ail-alluogi wedi eu targedu er mwyn sicrhau y galluogir pobl i fwyafu eu hannibyniaeth. Erbyn hyn caiff pob atgyfeiriad ail-alluogi ei gyfeirio trwy ein hadran broceriaeth. Crëwyd swydd weithredol newydd i gydlynu rhwng yr adran a’r contractwr ar faterion yn ymwneud â rheoli gofal. Mae’r gwelliant yma mewn cyfathrebu a’r llwybr ail-alluogi cwbl eglur wedi gwella llif y gwaith, lleihau oedi a chynorthwyo gyda throsglwyddiadau prydlon ar gyfer y bobl hynny sydd angen gofal hirdymor pellach. Mae hyn hefyd wedi rhyddhau amser gwaith cymdeithasol fyddai, fel arall, yn ymwneud â chyfathrebu’n uniongyrchol gyda’r darparwr.

6.10

Ein mesur llwyddiant allweddol ar gyfer y camau gweithredu hyn yw cynnal gwariant ar ofal cymdeithasol oedolion o fewn y gyllideb. Tra bo ein gwariant net wedi cynyddu, ar gyfartaledd, o lai na 1% o un flwyddyn i’r llall rhwng 2013/14 a 2015/16, roedd gwariant alldro 2015/16 ar gyfer gofal cymdeithasol oedolion £0.191m yn uwch na’r amcangyfrif diwygiedig (a £1m yn uwch na’r gyllideb wreiddiol). Un o’r rhesymau pam fod ein gwariant ychydig yn uwch yw oherwydd ei bod yn cymryd yn hirach i sicrhau’r arbedion arfaethedig. O’r £1.91m o arbedion y gwnaethom eu cynllunio, llwyddwyd i sicrhau £0.81m o arbedion o fewn y flwyddyn. Mae arbedion arfaethedig na gafodd eu sicrhau yn 2015/16 wedi eu treiglo ymlaen i’r flwyddyn ariannol hon. Mae’r Cyngor yn dal i archwilio a chraffu ar ddata er mwyn dylanwadu ar newid strategol sy’n hybu a mwyafu annibyniaeth ac sy’n cefnogi pobl hŷn i fyw yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain.

6.11

Mae ystod o gamau gweithredu eraill yr ydym yn eu darparu’n uniongyrchol i gwsmeriaid gofal oedolion ar hyn o bryd, fel gofal dydd, gofal preswyl a gwasanaethau cyflogaeth dan gymorth. Mae’r gwelliannau a gynlluniwyd ar draws y rhain i gyd yn anelu i hybu annibyniaeth, helpu i atal anghenion rhag gwaethygu a gwneud y defnydd gorau posibl o adnoddau. 31


6.12

Rydym wedi sicrhau rhywfaint o gynnydd ar gyfleoedd dyddiol, er bod rhagor o waith ar ôl i’w wneud. Mae fforwm Cyfleoedd Dyddiol yn ei lle bellach ac rydym yn datblygu proses darparwyr cymeradwy ar gyfer cyfleoedd dyddiol. Cychwynnwyd ar ymgynghoriad ar opsiynau posibl ar gyfer Canolfan Gweithgarwch Cymdeithasol Dinbych-y-pysgod. Yn dilyn derbyn adborth, penderfynom gynnal ymgynghoriadau pellach, ehangach cyn dod i benderfyniad ar ddyfodol y Ganolfan.

6.13

Fe wnaethom barhau i weithio gyda’r sector gwirfoddol i gynyddu capasiti cymunedol. Defnyddiwyd ariannu allanol, sef y Gronfa Gofal Canolraddol, i wneud y gwaith yma. Yn ystod 2015 - 2016 defnyddiwyd yr ariannu yma i gefnogi ystod o brosiectau (yn cynnwys y prosiect PIVOT) er mwyn: cynyddu gwytnwch cymunedol a chapasiti ar gyfer byw’n annibynnol; galluogi annibyniaeth yn y gymuned ar gyfer pobl a anfonir adref o’r ysbyty; ac ail-alluogi.

6.14

Gwerthuswyd deilliannau’r prosiectau a derbyniwyd llawer o dystlythyrau gan gwsmeriaid oedd yn fodlon iawn gyda’r gefnogaeth a ddarparwyd. “Rwy’n fodlon iawn gyda’r gwasanaeth a dderbyniais a nawr rwy’n gallu mynd allan fel yr oeddwn cyn fy anaf, gan gynnwys mynd ar y bws i ymweld â’r teulu” “Teimlaf i’w phrofiad o gael ei rhyddhau o’r ysbyty fod llawer yn well y tro yma na’r tro diwethaf” 32


6.15

Rydym hefyd wedi buddsoddi mewn gwelliannau yn un o’n cartrefi preswyl, sef Hillside, sydd wedi darparu mwy o welyau cam i fyny / cam i lawr er mwyn cynorthwyo gyda rhyddhau pobl o’r ysbyty, gwelyau gofal seibiant a gwasanaeth dydd newydd.

6.16

Cynhaliwyd hunanasesiad o’r gwasanaeth Anableddau Dysgu er mwyn paratoi ar gyfer archwiliad cenedlaethol o wasanaethau gofal a chymorth ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu. Nododd paragraff agoriadol crynodeb yr adroddiad “Mae’r Awdurdod yn cydnabod bod angen gwelliant cyffredinol yn y gofal a’r asesu y mae’n eu cynnig ar gyfer pobl ag anableddau dysgu”.

6.17

Mewn ymateb i’r argymhellion fe ddatblygom gynllun gweithredu manwl a chadarn a gytunwyd gydag AGGCC. Bydd y camau gweithredu hyn yn sicrhau’r newidiadau angenrheidiol yn narpariaeth y gwasanaethau anableddau dysgu ac, mae gwelliant yn amlwg eisoes. Mae’r cynllun hwn yn cael ei fonitro’n fanwl gan AGGCC ac mae cefnogaeth ac ymroddiad uwch-reolwyr ac Aelodau’r Awdurdod yn sicrhau y cedwir at yr amserlen. Bydd AGGCC yn cynnal archwiliad dilynol cyn mis Mawrth 2017.

Asesiad Rydym yn parhau i sicrhau cynnydd ar ein Hamcan Gwella i ad-drefnu gofal cymdeithasol oedolion. Mae’r camau gweithredu yr ydym wedi eu cymryd yn parhau i bwysleisio atal, darparu gwasanaethau yn y gymuned yn hytrach na mewn lleoliadau preswyl, gweithio gyda’r sector iechyd a darparu gwasanaethau ail-alluogi arbenigol i leihau anghenion ar gyfer pobl yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty. Fodd bynnag, mae’n cymryd hirach na’r disgwyl i wneud y newidiadau hyn ac, o ganlyniad, mae pwysau cyllidebol bellach ar y gwasanaeth gofal cymdeithasol oedolion. Fe amlygodd yr archwiliad o’n gwasanaeth Anableddau Dysgu bod angen inni wneud gwelliannau yn y maes hwn.

Mesur Llwyddiant SCA001 Cyfradd yr oedi wrth drosglwyddo gofal (DToC) am resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o’r boblogaeth sy’n 75 oed neu drosodd

SCA002a Cyfradd y bobl hŷn (65 oed neu drosodd) sy’n derbyn cymorth yn y gymuned fesul 1,000 o’r boblogaeth sy’n 65 oed neu drosodd ar 31 Mawrth

14/15 Gwir

14/15 Cymru

15/16 Targed

15/16 Gwir

15/16 Cymru

CP

ChRT

0.16

4.8

0.5

1.43

4.9

U

Bu cynnydd yn y nifer o DToC, o ganlyniad i heriau wrth sicrhau pecynnau gofal cartref a chymhlethdod yr achosion. Fodd bynnag, mae gweithio effeithlon ar y cyd wedi cynorthwyo i gyflawni canlyniad sydd yn y chwartel uchaf ac sy’n well na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru. 65.8

67.3

60

54.3

Data annibynadwy

-

Mae’r dangosydd yma’n mesur pecynnau gofal oedd yn eu lle ar ddiwrnod olaf y cyfnod. Nid yw’n ystyried yr amrywiol ffyrdd eraill y byddwn yn cynorthwyo pobl hŷn yn y gymuned. Bydd maint y boblogaeth a’r gwaith / gwasanaethau atal / ymyrraeth gynnar yn effeithio ar y canlyniad ac mae hyn yn parhau i fod yn un o’n blaenoriaethau allweddol.

33


Mesur Llwyddiant SCA002b Cyfradd y bobl hŷn (65 oed neu drosodd) y mae’r awdurdod yn eu cynorthwyo mewn cartrefi gofal fesul 1,000 o’r boblogaeth sy’n 65 oed neu drosodd ar 31 Mawrth SCA007 Canran y cleientiaid â chynllun gofal ar 31 Mawrth y dylai eu cynlluniau gofal fod wedi eu hadolygu ac a adolygwyd yn ystod y flwyddyn SCA018a Canran y gofalwyr oedolion gafodd gynnig asesiad neu adolygiad o’u hanghenion personol hwy yn ystod y flwyddyn SCA020 Canran y cleientiaid sy’n oedolion a gynorthwyir yn y gymuned yn ystod y flwyddyn

AC015 Canran y gostyngiad yn oriau gofal cartref arfaethedig cwsmeriaid sydd wedi cwblhau cyfnod o ailalluogi’n ystod y flwyddyn AC025 Y rheini a holwyd sy’n cytuno bod eu hansawdd bywyd wedi gwella oherwydd bod y gwasanaeth a dderbyniwyd wedi gwneud pethau’n well iddynt AC027 Sicrhau arbedion sydd gyfwerth â 4.5% o gyllideb net 2015/16

14/15 Gwir

14/15 Cymru

15/16 Targed

15/16 Gwir

15/16 Cymru

CP

ChRT

15.3

18.8

16

15.3

18.0

U

Rydym yn parhau i sicrhau cynnydd da a lleihau’r nifer o becynnau cartrefi gofal. Mae’r canlyniad hwn o fewn chwartel uchaf Cymru sef 16.25 ar gyfer 2014/15. 90.4

80.0

86

91.6

83.0

U

Mae rhaglen wedi ei thargedu o adolygiadau wedi arwain at ganlyniad da sydd hefyd ychydig yn well na pherfformiad y llynedd. 100

88.3

100

100

91.4

U

Mae gweithgarwch a gynlluniwyd i ymgysylltu â gofalwyr wedi cyfrannu at y perfformiad da yma. 91.3

85.2

90

86.7

-

-

Mae’r perfformiad yma’n adlewyrchu opsiynau gofal canolraddol, yn cynnwys ail-alluogi, sydd ar gael i ddefnyddwyr y gwasanaeth i gefnogi eu hannibyniaeth. Mae gweithio ar y cyd parhaus yn sicrhau bod pobl yn derbyn y cymorth cywir. Mae hwn yn adlewyrchiad o’r llwybr ail-alluogi sy’n cynnwys atgyfeiriadau uniongyrchol o iechyd. 57

-

57

77.7

-

-

Mae’r perfformiad da’n parhau, wedi ei gefnogi gan weithio ar y cyd a’r llwybr ail-alluogi integredig. 96

-

93

97

-

-

Cyfrifwyd y canlyniad o arolwg blynyddol yr ymatebodd 400 o ddefnyddwyr iddo. -

-

4.5

Gweler y sylwadau

-

-

-

Gorwariwyd £0.191m (0.43%) ar gyllideb gwariant net diwygiedig, £44.241m, 2015/16 y Gwasanaethau Oedolion.

Amcan Plant Agored i Niwed 6.18

Fe bennom yr amcan yma er mwyn cadarnhau gwelliannau a wnaethpwyd dros y blynyddoedd diwethaf ar wella gwasanaethau plant ac integreiddio rhannau o’n gwasanaeth addysg a’r gwasanaeth cymdeithasol plant. Rydym am sicrhau y bydd pob plentyn a pherson ifanc, yn cynnwys pobl ifainc agored i niwed, yn sicrhau deilliannau gwell. Fe osodom bum cam gweithredu i’n hunain o dan yr Amcan yma. Mae’r pum cam gweithredu yma’n canolbwyntio ar faterion gofal cymdeithasol plant. 34


6.19

Y cam gweithredu cyntaf oedd gwella ein capasiti ar gyfer gwaith ataliol a sicrhau bod staff o ystod o wahanol gefndiroedd yn gweithio gyda’i gilydd i wneud hyn. Adolygwyd y modd y mae ein gwasanaeth Tîm o Amgylch y Teulu (TAF) yn gweithio a sut y caiff ei ariannu. Mae’r TAF yn parhau i ddod â phartneriaid ynghyd i gynnig cynlluniau cefnogaeth wedi eu teilwra’n arbennig ar gyfer teuluoedd ac yn 2015/16 derbyniodd 30% yn fwy o atgyfeiriadau nag yn 2014/15. At hynny, mae Rheolwr y Tîm wedi cefnogi prosiectau a gomisiynwyd gan Teuluoedd yn Gyntaf i weithredu Fframwaith Asesu’r Teulu ar y Cyd (sy’n sicrhau y bydd pob asiantaeth a’r teulu’n cytuno sut y byddant yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni deilliannau cytûn) ac i ehangu cysyniad TAF yn Sir Benfro. Cyfrannodd effaith y gwaith yma at ostyngiad yn y nifer o blant a theuluoedd y mae eu trafferthion wedi cynyddu i lefel ble maent yn blant mewn angen, neu angen amddiffyn plant.

6.20

Yr ail gam gweithredu oedd cynnal capasiti gweithrediadol ar gyfer y gwasanaethau amddiffyn plant trwy leihau’r nifer o swyddi gweigion fel ein bod yn llai dibynnol ar weithwyr asiantaeth. Mae monitro capasiti’n rhan o gyfarfodydd wythnosol y Rheolwyr Timau. Caiff y broses recriwtio i swyddi gweigion ei gweithredu cyn gyflymed â phosibl. Arweiniodd hyn at gymhareb isel o staff asiantaeth i staff parhaol a chaiff materion capasiti eu monitro ar lefel corfforaethol. Trwy’r Rhaglen Partneriaeth Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol rydym wedi parhau i hyrwyddo gyrfaoedd mewn gofal cymdeithasol a chynnal digwyddiadau sy’n cyflwyno pobl sydd â diddordeb gweithio yn y sector i ddarpar-gyflogwyr. Rydym hefyd wedi datblygu sgiliau ymhlith y gweithlu Addysg sy’n angenrheidiol i ddarparu gwasanaethau ar gyfer plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Cwblhawyd dadansoddiad o anghenion dysgu, sefydlwyd isafswm safonau hyfforddiant, a chyflwynwyd cyrsiau pwrpasol. Dros y tair blynedd diwethaf cynhaliwyd 33 o ddigwyddiadau hyfforddi a chymerodd 1,346 o bobl ran ynddynt, a nododd 97% ohonynt fod yr ansawdd yn dda neu’n rhagorol.

6.21

Mae’r trydydd cam gweithredu’n ymwneud â sut y bydd ysgolion yn helpu disgyblion agored i niwed. Rydym wedi dadansoddi data sy’n berthnasol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a defnyddio hyn i ddarparu cefnogaeth wedi ei deilwra’n arbennig ynghyd â chefnogaeth a ddarperir gan yr Ymgynghorwyr Her. Adolygwyd targedau disgyblion unigol, yn enwedig y rheini ble mae achos inni bryderu. Yn ogystal, rydym wedi ailstrwythuro’r Tîm Allgymorth Ymddygiad sy’n darparu cymorth i ysgolion. Mae cytundeb lefel gwasanaeth wedi ei baratoi sy’n amlinellu’r amodau y disgwylir i ysgolion lynu atynt ar gyfer defnyddio’r ariannu ychwanegol a chaiff defnydd yr arian yma ei fonitro mewn cyfarfod amlasiantaeth blynyddol.

6.22

Tra bo’r berthynas rhwng y gwaith yma a’r nifer o eithriadau’n gymhleth, rydym yn falch bod y nifer o eithriadau, mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, wedi disgyn. Yn ogystal, mae’r pwyslais a roddom ar atal ac ymyrraeth gynnar yn arwain at ostyngiad yn y nifer o blant sydd â dynodiad ‘Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy’ (yr ail o dair haen o gefnogaeth ar gyfer plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol) o dros 2,000 yn 2014 i 1,409.

6.23

Derbyniodd Ysgol Arbennig Portfield, sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion sydd ag anghenion cymhleth, gydnabyddiaeth gan ESTYN am gynnig arfer gorau. Nododd yr adroddiad “Mae’r ystod o opsiynau cynhwysiant wedi cyfoethogi profiadau dysgu’r disgyblion yn sylweddol a’u helpu i ddatblygu ystod llawer ehangach o ddiddordebau unigol”. Fe wnaethom hefyd adolygu peilot y Ganolfan Adnoddau Dysgu, sy’n cynnig gwasanaeth arbenigol ar gyfer 12 35


disgybl yn Ysgol Bro Gwaun, ac rydym wedi cytuno i sefydlu hon yn barhaol o fis Medi 2016. Bellach, mae gennym 13 o Ganolfannau Awtistiaeth neu Adnoddau Dysgu wedi eu lleoli mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws Sir Benfro. 6.24

Ein pedwerydd cam gweithredu oedd integreiddio gwasanaethau ar gyfer plant ag anabledd ar draws y Gwasanaethau Plant ac Addysg, er mwyn darparu gwasanaeth gwell a mwy o gymorth wrth i blant dyfu’n oedolion ifainc. Mae hyn wedi ei gyflawni a bellach mae Plant ag Anableddau’n dod o dan y Gwasanaeth Cynhwysiant. Fel rhan o’r gwaith yma fe wnaethom dynnu amrywiol weithgareddau’n fewnol i greu Gwasanaeth Cymorth Cynhwysiant, gyda thua 120 o blant yn derbyn gwasanaeth gwaith cymdeithasol a 32 o blant yn gwneud defnydd o’r gwasanaeth gweithgareddau. Mae’r gwasanaeth yn blaenoriaethu darparu cymorth cynnar a man cyswllt ar gyfer rhieni sy’n pryderu bod gan eu plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol. Lansiwyd Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn ogystal â phlant anabl. Mae hwn yn darparu ystod eang o wybodaeth ar gyfer teuluoedd a chaiff ei waith ei gefnogi gan weithwyr cymorth cynhwysiant. Yn ystod y flwyddyn cychwynnwyd ar adolygiad o’n gwasanaeth seibiant gwyliau byr yn Holly House. Rhagwelir cwblhau’r adolygiad yma’n ystod blwyddyn ariannol 2016/17.

6.25

Mater cysylltiedig yw gwella ein perfformiad wrth gyhoeddi Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig. Cyhoeddwyd yr holl ddatganiadau hyn o fewn y targed o chwe mis. Rydym bellach yn canolbwyntio ar symleiddio’r broses adolygiadau blynyddol ac rydym wedi gweithio gydag ysgolion i wella ansawdd a chysondeb y wybodaeth a gyflenwir ganddynt, fel bod yr adolygiadau’n rhedeg yn llyfnach.

6.26

Ein pumed cam gweithredu oedd datblygu gwasanaeth all ateb holl anghenion ein plant mwyaf agored i niwed, fel rhai sy’n derbyn gofal. Er mwyn cyflawni hyn, fe sefydlom Wasanaeth Seicoleg Plant sy’n Derbyn Gofal. Yn ogystal, adolygwyd y Gwasanaethau Eiriolaeth ac mae gwasanaeth â mwy o ffocws wedi ei ail-gomisiynu. Rhoddwyd ffocws craffach ar addysg Plant sy’n Derbyn Gofal a chyflwynir adroddiadau i’r Bwrdd Rhianta Corfforaethol. Adlewyrchwyd y camau hyn mewn gwelliannau mewn perfformiad ac mae’r canran o blant sy’n derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd wedi profi un neu fwy o achosion o symud ysgol yn ystod cyfnod, neu gyfnodau o dderbyn gofal, oedd ddim o ganlyniad i drefniadau pontio, yn y 12 mis i 31 Mawrth 2016, yn llawer gwell (14.67% yn 2014/15 i 8.23% yn 2015/16).

6.27

Rydym wedi defnyddio ystod amrywiol o fesurau llwyddiant i bennu pa mor llwyddiannus fuon ni wrth ddiogelu plant agored i niwed. Ceir rhywfaint o orgyffwrdd gyda mesurau ar gyfer diogelu, a nodir y rhain yn y tabl isod.

6.28

Un o’r prif ddeilliannau yr oeddem am ei gyflawni trwy’r Amcan Gwella yma oedd rhoi mwy o bwyslais ar atal ac ar leihau’r lefelau angen a thrwy hynny leihau’r nifer o bobl ifainc sydd angen cael mynediad i wasanaethau cymdeithasol statudol. Mae’r nifer o blant sy’n derbyn gofal wedi aros ar, neu oddeutu, 125 am y tair blynedd ddiwethaf ac yn is na ffigurau 2012. Mae’r nifer o achosion amddiffyn plant agored wedi cwympo o 64 ym mis Mawrth 2015 i 59 ym mis Mawrth 2016. Roedd nifer y plant mewn angen (y plant hynny sy’n derbyn y lefel lleiaf dwys o wasanaethau statudol) ar 31 Mawrth 2015 yn 287 a chwympodd hyn i 219 ar 31 Mawrth 2016. 36


Asesiad Rydym wedi sicrhau cynnydd da gyda’n Hamcan Gwella ar gyfer plant agored i niwed. Rydym wedi ail-ffocysu gwasanaethau cymdeithasol plant a gwasanaethau ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, ar atal ac ymyrraeth gynnar. Mae hyn yn golygu bod llai o blant angen lefelau sylweddol o gefnogaeth. Mae ein perfformiad yn erbyn dangosyddion gofal cymdeithasol plant yn dda, gyda llawer o ddangosyddion yn y chwartel uchaf ar gyfer Cymru ac rydym hefyd wedi gwella ein perfformiad yn erbyn dangosyddion sy’n berthnasol i anghenion dysgu ychwanegol, fel cyflymder cyhoeddi datganiadau anghenion addysgol arbennig. Diogelu 6.29

Fe wnaethom barhau i sefydlu’r polisïau a’r arfer yr ydym wedi eu creu ar gyfer diogelu. Er nad yw hyn bellach yn Amcan Gwella, mae diogelu’n parhau i fod yn un o’n blaenoriaethau ac mae’r maes gwaith hwn yn rhan o bortffolio un o’n Haelodau Cabinet. Mae ein gwaith i hybu a chefnogi diogelu’n torri ar draws grwpiau oedran ac yn cynnwys plant ac oedolion agored i niwed.

6.30

Rydym wedi parhau â’n gwaith i weithredu’r model “Signs of Safety” mewn gwasanaethau plant ac oedolion. Mae adborth cadarnhaol gan staff, teuluoedd ac Arolygwyr wedi cadarnhau ein penderfyniad i fabwysiadu’r model yma. Y nod yw lleihau risg a pherygl trwy ddynodi meysydd sydd angen newid, tra’n canolbwyntio ar gryfderau, adnoddau a rhwydweithiau’r teulu. Mae rhwyddineb ac eglurder clywed a dogfennu llais y plentyn bellach yn cael effaith pwerus ym mhob sefyllfa ond yn enwedig mewn cynadleddau amddiffyn plant, ble mae’n helpu i ganolbwyntio ein sylw ar y meysydd risg allweddol.

6.31

Er mwyn sefydlu proses gref ar gyfer sicrhau y clywir llais plant a phobl ifainc, yn ddiweddar datblygwyd a gweithredwyd Safonau Ymarfer ar gyfer ymarferwyr sy’n amlinellu pwysigrwydd cynnwys llais y plentyn yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau. Fe fabwysiadom Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ym mis Mawrth 2014 ac mae gan bob plentyn yr hawl i ddweud ei ddweud a chael gwrandawiad pan fo penderfyniadau’n cael eu gwneud amdanynt.

6.32

Er mwyn hybu dealltwriaeth am y gwasanaethau eiriolaeth sydd ar gael, rydym wedi datblygu Llyfryn Eiriolaeth dwyieithog gaiff ei rannu gyda staff a’r Bwrdd Rhianta Corfforaethol ym mis Mehefin. Mae paratoadau ar y gweill hefyd ar gyfer dosbarthu’r arolwg ansoddol i bob plentyn rhwng 7-17 oed sydd â chynllun gofal a chymorth (a’u rhieni / person sy’n gyfrifol amdanynt) ym mis Medi. Mae pobl ifainc yn dal i gael eu cynnwys yn y broses o recriwtio staff, er enghraifft cymerodd pedwar person ifanc ran yn y cyfweliadau dethol ar gyfer y Pennaeth Gwasanaethau Plant y llynedd.

6.33

Cyflwynodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 fyrddau diogelu rhanbarthol. Mae Bwrdd Diogelu Plant Lleol Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, CYSUR, bellach yn ei ail flwyddyn, ac mae’n cyflawni swyddogaethau’r Bwrdd Diogelu Plant ar draws y rhanbarth hwn. Yn ystod y flwyddyn fe wnaethom gwblhau’r gwaith oedd ei angen i’r Bwrdd Diogelu Oedolion Rhanbarthol ddod yn weithredol ym mis Ebrill 2016. 37


Rydym yn lletya’r ddau Fwrdd, a chyflogi’r staff sy’n eu cynnal. Caiff gwaith y grŵp rhanbarthol ei gyfannu gan grŵp gweithredol lleol. Dyma’r bartneriaeth amlasiantaeth allweddol ar gyfer gyrru’r agenda diogelu plant yn Sir Benfro ac mae’r grŵp wedi ymgysylltu â phobl ifainc trwy’r Bwrdd Diogelu Plant Lleol Iau yn ogystal â threfnu cynhadledd amlasiantaeth ym mis Medi 2015. 6.34

6.35

Roedd un o’r ffrydiau gwaith allweddol a drosglwyddwyd gan CYSUR eleni yn ymwneud â Cham-fanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE). Amlinellodd Strategaeth Ranbarthol i Atal Cam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant y meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwaith amlasiantaeth, oedd yn cynnwys recordio a rhannu gwybodaeth a chynyddu ymwybyddiaeth am CSE ymysg staff rheng flaen. Cynhaliwyd Cynhadledd Atal CSE ym mis Mawrth, roddodd gyfle i sefydliadau glywed am a thrafod y cyd-destunau rhanbarthol a chenedlaethol. Roedd yn amlwg o werthusiad y gynhadledd bod ymwybyddiaeth, gwybodaeth a hyder cyfranogwyr o weithio gyda CSE wedi eu cynyddu, a nododd un o’r cyfranogwyr: “Diwrnod llawn gwybodaeth, trefniadau da a siaradwyr ysbrydoledig”.

Mae ein gwaith diogelu’n dibynnu ar gael gweithlu medrus. Rydym yn gweithio trwy Raglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol (sy’n gweithredu trwy ranbarth Dyfed-Powys) er mwyn cwblhau’r gwaith yma. Darperir ystod eang o gyrsiau hyfforddi a datblygu i’r gweithlu gofal cymdeithasol, yn cynnwys y sectorau gwirfoddol ac annibynnol. Yn 2015-16 hyfforddwyd 4,442 aelod o staff, cynnydd o 5% ar y flwyddyn flaenorol, oedd yn cynnwys 2,473 o’r sectorau gwirfoddol ac annibynnol. Mae’r hyfforddiant yma wedi cwmpasu cymorth ar gyfer aelodau sydd newydd gymhwyso yn ogystal â hyfforddiant ôl-raddedig ar gyfer uwch-weithwyr cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol profiadol. Ar wahân i hyfforddiant, mae meysydd allweddol ar gyfer Rhaglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn cynnwys mentrau recriwtio ac, ynghyd â chydweithwyr o Gyrfa Cymru a Chanolfan Byd Gwaith, fe drefnom Ddiwrnodau Gwybodaeth Gyrfaoedd mewn ysgolion, a Ffair Swyddi a Gwybodaeth Gyrfaoedd Gofal Cymdeithasol.

Mesur Llwyddiant EDU002ii Canran y disgyblion sy’n blant yng ngofal yr awdurdod lleol, sydd mewn unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol, sy’n 15 oed ar y 31 Awst blaenorol sy’n gadael addysg orfodol, hyfforddiant neu ddysgu seiliedig ar waith heb gymhwyster allanol a gymeradwywyd SCC001a Canran y lleoliadau cyntaf ar gyfer plant mewn gofal yn ystod y flwyddyn a gychwynnodd gyda chynllun gofal yn ei le

14/15 Gwir

14/15 Cymru

15/16 Targed

15/16 Gwir

15/16 Cymru

CP

ChRT

0.0

1.2

0.0

0.0

0.5

U

Sicrhaodd tracio a monitro trylwyr na adawodd yr un disgybl oedd yng ngofal yr awdurdod lleol addysg orfodol, hyfforddiant neu ddysgu seiliedig ar waith heb gymhwyster allanol a gymeradwywyd.

100

-

100

100

-

-

Cynhaliwyd lefel y perfformiad o un flwyddyn i’r llall ar 100%.

38


Mesur Llwyddiant SCC002 Canran y plant mewn gofal ar 31 Mawrth sydd wedi profi symud ysgol unwaith neu fwy yn ystod cyfnod, neu gyfnodau, o fod mewn gofal, nad oedd y symud ysgol hwnnw oherwydd trefniadau pontio, yn y 12 mis hyd at 31 Mawrth. SCC004 Canran y plant mewn gofal ar 31 Mawrth sydd wedi cael tri neu fwy o leoliadau’n ystod y flwyddyn SCC033d Canran y bobl ifainc oedd yn arfer bod mewn gofal y mae’r awdurdod mewn cysylltiad â nhw pan yn 19 oed SCC033e Canran y bobl ifainc oedd yn arfer bod mewn gofal y mae’r awdurdod mewn cysylltiad â nhw, y gwyddom eu bod mewn llety addas, sydd ddim yn llety brys, pan yn 19 oed SCC033f Canran y bobl ifainc oedd yn arfer bod mewn gofal y mae’r awdurdod mewn cysylltiad â nhw, ac y gwyddom eu bod mewn addysg, hyfforddiant neu waith pan yn 19 oed SCC037 Y sgôr ar gyfartaledd, o’r pwyntiau cymwysterau allanol ar gyfer plant mewn gofal sy’n 16 oed, mewn unrhyw leoliad dysgu sy’n cael ei gynnal gan yr awdurdod lleol SCC041a Canran y plant cymwys perthnasol, a phlant a fu’n berthnasol, sydd â Chynllun Llwybr yn ôl yr angen

14/15 Gwir

14/15 Cymru

15/16 Targed

15/16 Gwir

15/16 Cymru

CP

ChRT

14.7

13.5

10

8.2

11.9

U

C

U

Gwelliant mewn perfformiad a’r targed wedi ei guro.

11.4

9.0

9.0

8.7

9.8

Gwelliant mewn perfformiad, targed wedi ei gyflawni. 100

93.3

100

100

93.2

Cynhaliwyd lefel y perfformiad o un flwyddyn i’r llall ar 100%. 93.3

93.1

100

94.4

93.5

C

Gwelliant mewn perfformiad. Un o’r 18 person ifanc sydd ddim mewn llety addas, sydd ddim yn llety brys.

60

59.5

73

44.4

60.7

I

Gall y niferoedd bychain a ddefnyddir i gyfrifo’r mesur hwn (8 ÷ 18) arwain at newid canran mawr o un flwyddyn i’r llall. Nid oes modd cael nifer o bobl ifainc oedd yn arfer bod mewn gofal i ymwneud ag addysg, hyfforddiant neu waith oherwydd nifer o resymau, yn cynnwys problemau iechyd (x2) a bod yn rhiant llawn amser (x2). 226

276

280

504

269

U

Gwelliant sylweddol mewn perfformiad, er y gall y niferoedd bychain a ddefnyddir i gyfrifo’r mesur hwn arwain at newid canran mawr o un flwyddyn i’r llall. 99

91.2

100

100

93.5

U

Gwelliant mewn perfformiad a’r targed wedi ei gyflawni.

Gweithgareddau eraill sy’n cefnogi iechyd 6.33

Mae canolfannau hamdden a chyfleusterau eraill yr ydym yn eu darparu, sy’n galluogi pobl i fod yn actif, parhau i ddysgu a chadw mewn cysylltiad â phobl eraill, i gyd yn cael effaith positif ar iechyd a lles corfforol a meddyliol. Cwblhawyd y gwaith o adnewyddu Canolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod, sydd bellach â chyfleusterau campfa ychwanegol, ers Ebrill 39


2016. Yn ogystal, uwchraddiwyd y stiwdio ddawns, y neuadd chwaraeon a chyfleusterau newid ger y pwll. Rhedodd amserlen y prosiect dros amser a chynyddodd y costau o ganlyniad i nifer o ffactorau a chyflwynwyd adroddiad manwl yn egluro’r rhain i’r Cabinet ym mis Mawrth 2016. Cwblhawyd y wal ddringo newydd yng Nghanolfan Hamdden Hwlffordd, a arianwyd yn rhannol gan Gynllun Grantiau’r Cyfamod Cymunedol. Ar y wal 12 metr o uchder ceir llwybrau sy’n amrywio o’r rhwydd i’r cymhleth iawn, sy’n cynnig her i ddringwyr o bob gallu. Yn ogystal, cyflwynwyd strwythur tâl cynhwysol ar gyfer ein gwasanaethau hamdden a chyhoeddwyd cerdyn Pasbort Hamdden ar gyfer pobl sy’n derbyn budd-daliadau. 6.34

Ni oedd un o’r awdurdodau lleol cyntaf ym Mhrydain i beilota traethau di-fwg. Trafodwyd y mater gan y Cabinet a’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu cyn cyflwyno’r cyfyngiad gwirfoddol ar draeth Yr Aber Bach ym mis Mawrth 2016, ynghyd â chyfyngiadau ar ysmygu mewn ardaloedd chwarae. Y rheswm yr oeddem am wneud hyn oedd er mwyn dad-normaleiddio ysmygu fel y gellir lleihau’r nifer o bobl ifainc sy’n dechrau ysmygu. Byddwn yn gwerthuso llwyddiant y peilot ac yn cyflwyno adroddiad i Gabinet yr Awdurdod unwaith i’r cyfnod treialu ddod i ben.

6.35

Caiff Tai effaith llesol sylweddol ar iechyd. Mae gwybodaeth am hyn wedi ei gynnwys yn yr adran Cydlyniant.

Mesur Llwyddiant LCS002b Nifer yr ymweliadau â chanolfannau hamdden a chwaraeon yr awdurdod lleol yn ystod y flwyddyn ble bydd yr ymwelydd yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol fesul 1,000 o’r boblogaeth

LSPI7 Nofio i ysgolion: Canran y plant sy’n cyflawni prawf nofio’r Cwricwlwm Cenedlaethol ym mlwyddyn 6

LSPI9 Sgôr hyrwyddwyr net (NPS). Cyfrifir y sgôr gan ddefnyddio atebion cwsmeriaid i gwestiwn syml sef “fyddech chi’n argymell y gwasanaeth yma i ffrind?”. Sgorio o 0-10 (10 = yn debygol iawn). Mae cwsmeriaid sy’n hyrwyddwyr yn rhoi 9 a 10, pobl niwtral yn rhoi 7 ac 8 a difriwyr yn rhoi 6 neu lai. Cyfrifir yr NPS trwy dynnu canran y difriwyr allan o ganran yr hyrwyddwyr.

14/15 Gwir

14/15 Cymru

15/16 Targed

15/16 Gwir

15/16 Cymru

CP

ChRT

10,125

8,662

10,180

9,804

8,409

U

Mae ffactorau wnaeth achosi lleihad mewn ymweliadau yn cynnwys gwaith adeiladu yn Ninbych-y-pysgod a gostyngiad yn y nifer o ddefnyddwyr sy’n “talu a chwarae” (ar y dydd) er gwaetha’r cynnydd mewn defnydd gan aelodau. Gyda chwblhad arfaethedig y prosiect adnewyddu yng Nghanolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod ac effaith blwyddyn lawn o’r wal ddringo yng Nghanolfan Hamdden Hwlffordd, disgwylir y dylai nifer yr ymweliadau wella’n ystod 2016/17. 86.3

-

90

89

-

-

Gwelliant ar y flwyddyn flaenorol. Mae ein perfformiad yn gydradd gyntaf trwy Gymru. Sylwer: Mae’r canlyniad yn cyfeirio at brofion a gynhaliwyd ym misoedd Mehefin / Gorffennaf 2015. Y raddfa basio, ar gyfartaledd, ar gyfer Cymru oedd 75%. 51

-

51

49

-

-

Derbyniwyd 1,537 o ymatebion gan gwsmeriaid (cynnydd o 180 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol). Mae adnewyddu Canolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod (wnaeth or-redeg) a chodi tâl am barcio ceir yn St Thomas’ Green, Hwlffordd, wedi cael effaith niweidiol ar ganlyniad 15/16. Mae’r adborth Sgôr Hyrwyddwyr Net yn dal i ddarparu sylwadau ac adborth cwsmeriaid dyddiol inni. Mae hyn yn caniatáu inni ymateb ar unwaith i bryderon, achwynion a chanmoliaeth ein cwsmeriaid.

40


7

Sir Benfro Mwy Cyfartal

7.1

Mae’r nod cenedlaethol ar gyfer Cymru sy’n fwy cyfartal yn anelu i greu cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial, waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau. Mae’r nod yma’n sail i’r rhan helaeth o’r gwaith yr ydym yn ei wneud a’r amcanion yr ydym wedi eu pennu.

7.2

Tra mai cymharol ychydig o’n cymunedau sydd â lefelau uchel o dlodi (fel y mesurir gan y Mynegrif Amddifadedd Lluosog ar gyfer Cymru), mae gan bob un o’n trefi mwy o faint ardaloedd ble mae cyfran cymharol uchel o bobl ar incwm isel ac y gellir eu hystyried yn gymunedau difreintiedig. Caiff hyn, yn ei dro, effaith pellgyrhaeddol ar gyfleoedd bywyd pobl sy’n byw yn y cymunedau hyn. Mae llawer o’n gwasanaethau’n gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r agenda Trechu Tlodi a phenderfynwyd gosod hwn fel Amcan Gwella er mwyn cydlynu’r gwaith yma’n well. Mae tlodi gwledig, tra’n anos i’w fesur, i’w weld yn amlwg hefyd yn rhai o’n cymunedau llai o faint.

7.3

Roedd y camau gweithredu a bennwyd yng nghyd-destun newidiadau sylweddol i’r system budd-daliadau. Dechreuwyd cyflwyno’r Credyd Cynhwysol yn Sir Benfro ym mis Tachwedd 2015, ac fe gydlynom y defnydd o grant bychan i hwyluso trosglwyddo cynhwysiant digidol ac ariannol, rheoli budd-dal tai a chymorth cyllidebu personol. Er bod nifer yr hawlwyr yn gymharol fychan, a bod yr amserlen ar gyfer cyflwyno’r Credyd Cynhwysol wedi ei hymestyn, rydym yn rhagweld y bydd effaith cyflwyniad parhaus y Credyd Cynhwysol yn sylweddol.

Amcan Gwella Trechu Tlodi 7.4

Cynhyrchwyd fersiwn drafft o’r strategaeth trechu tlodi yn 2014 gyda’r bwriad o gynhyrchu cynllun terfynol yn ystod 2015/16. Trwy gydol 2015/16, cafodd y ddogfen ei hystyried a’i mireinio gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Yn ogystal, cyfarfu ein Llysgenhadon Trechu Tlodi gyda’r Dirprwy Gyfarwyddwr o Lywodraeth Cymru ac achub ar y cyfle i rannu arfer dda. Fodd bynnag, mae’r gwaith o gynhyrchu cynllun terfynol yn dal i fynd rhagddo ac mae’n bosibl y gellid ei weithredu’n awr fel rhan o gynlluniau corfforaethol neu bartneriaeth eraill.

7.5

Roedd ein dau gam gweithredu cyntaf yn ymwneud â datblygu’r modd y mae grantiau trechu tlodi Llywodraeth Cymru’n gweithio. Fe wnaethom ymestyn Dechrau’n Deg (sy’n rhoi dechrau da mewn bywyd i blant) i Neyland. Adolygwyd ariannu Teuluoedd yn Gyntaf (rhaglen sy’n helpu plant, pobl ifainc a theuluoedd sydd yn dlawd, neu sydd mewn perygl o ddioddef tlodi, i gyflawni eu potensial) fel bod y prosiectau a gefnogir trwy’r gronfa’n fwy addas ar gyfer mynd i’r afael â thlodi plant. Rydym ar ddeall bod ffocws y rhaglen Dechrau’n Deg i newid a chynhelir adolygiad pellach a’i weithredu erbyn mis Hydref 2017. 41


7.6

7.7

Roedd tri cham gweithredu’n ymwneud â chyrhaeddiad addysgol. Y pennaf o’r rhain yw cau’r bwlch mewn cyrhaeddiad rhwng disgyblion sydd â hawl i dderbyn prydau ysgol am ddim, a rhai sydd ddim. Fe wnaethom hefyd bennu camau gweithredu ar gyfer defnyddio Grant Amddifadedd Disgyblion i ddarparu cyfleoedd dysgu anffurfiol ar gyfer teuluoedd trwy Sbardun yn ogystal ag ehangu rhaglen ddysgu’r haf i Hwlffordd.

Er mwyn mynd i’r afael â thanberfformiad disgyblon sydd â hawl i dderbyn Prydau Ysgol am Ddim yng Nghyfnod Allweddol 4, cwblhawyd dadansoddiad o ddefnydd y Grant Amddifadedd Disgyblion ar gyfer ymyriadau wedi eu targedu yng Nghyfnod Allweddol 4 ar draws pob ysgol uwchradd, a dynodwyd arfer dda ar lefel cynradd i’w rannu gydag ysgolion uwchradd. Cyflwynwyd yr adroddiad yma i’n Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Plant a Theuluoedd ym mis Ebrill 2016. Nododd yr adroddiad, pe bae mwy o ysgolion yn defnyddio mapio darpariaeth fanwl i ddadansoddi effaith ymyriadau, yna mae’n debyg y byddai’r Grant yn fwy effeithlon. Gan fod y grant yn cael ei ddyrannu i ysgolion, cyrff llywodraethu’r ysgolion hynny sydd â’r cyfrifoldeb pennaf am sicrhau y gwerthusir y defnydd o’r arian. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i hybu arfer gorau ymysg cyrff llywodraethwyr ac rydym wedi bod yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Sutton i ddatblygu pecyn cymorth.

7.8

Fe gynhaliom ddadansoddiad o Awdurdodau Lleol ar draws Cymru i ddynodi awdurdodau lleol neu ysgolion sydd wedi arddangos gwelliannau cyflym ym mherfformiad eu disgyblion sydd â hawl i dderbyn Prydau Ysgol am Ddim, er mwyn rhannu arfer gorau. Fe gytunom hefyd i ddatblygu’r egwyddorion ar gyfer strategaeth i fynd i’r afael â thanberfformiad disgyblion sydd â hawl i dderbyn Prydau Ysgol am Ddim yng Nghyfnod Allweddol 3.

7.9

Yn seiliedig ar ganlyniadau arholiadau / asesiadau a gymerwyd yn haf 2015, fe wnaeth y bwlch cyrhaeddiad Prydau Ysgol am Ddim wella ar gyfer plant oedran Cyfnod Allweddol 2, ond fe waethygodd ar gyfer plant Cyfnod Allweddol 4. Mae’r cynnydd yn y bwlch yng Nghyfnod Allweddol 4 yn siomedig, yn enwedig gan fod canlyniadau rhagarweiniol ar gyfer arholiadau Mehefin 2016 yn awgrymu nad yw’r bwlch hwn yn cau.

7.10

CA2 (Dangosydd Pynciau Craidd). Y bwlch ar gyfer Sir Benfro ym Mehefin 2015 yw 14.1 pwynt canran. Mae’r bwlch hwn wedi cau bob blwyddyn am y pedair blynedd diwethaf ac mae’n llai na’r ffigur cyfatebol ar gyfer Cymru.

CA4. Mae’r bwlch yn 34.5 pwynt canran. Mae’r bwlch wedi cynyddu ers canlyniadau arholiadau Mehefin 2013. Mae ffigur Sir Benfro ym Mehefin 2015 1.9 pwynt canran yn fwy na’r ffigur cyfatebol ar gyfer Cymru.

Trosglwyddwyd ein dau gam gweithredu addysg eraill. Trosglwyddodd Sbardun gyfleoedd dysgu teuluol ar draws chwe ysgol a bu’r estyniad i’r rhaglen dysgu dros yr haf yn llwyddiant. Er inni syrthio ychydig yn fyr o gyflawni ein targed o gael 30 o blant i fynychu (27 plentyn gofrestrodd), roedd hyn llawer yn uwch na’r 10 plentyn fynychodd y flwyddyn flaenorol. Galluogodd hyn ymyrraeth wedi ei dargedu llawer ehangach i fynd i’r afael â’r bwlch cyrhaeddiad ymhlith plant sy’n byw mewn tlodi yn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf Doc Penfro a Hwlffordd.

42


7.11

Pennwyd dau gam gweithredu ar gyfer gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Byd Gwaith ac asiantaethau eraill. Y cyntaf o’r rhain oedd gweithio mewn partneriaeth i drosglwyddo sesiynau sgiliau technoleg gwybodaeth sylfaenol mewn llyfrgelloedd ar gyfer cwsmeriaid a atgyfeiriwyd o Ganolfannau Gwaith, gan gynnwys pobl sy’n ddi-waith ers cyfnod maith. Bu’r prosiect yn llawer mwy llwyddiannus na’r disgwyl. Mynychodd oddeutu 2,500 o geiswyr gwaith y sesiynau sgiliau mewn clybiau swyddi yn ein llyfrgelloedd, oedd yn delio â phynciau fel sut i ysgrifennu CV, agor cyfeiriad e-bost a defnyddio’r gwe-adnodd paru swyddi cenedlaethol. Roedd deilliannau’r sesiynau hyfforddi hyn yn gadarnhaol. Roedd cyfran uchel (86%) o’r rhai fynychodd yn teimlo eu bod wedi eu paratoi’n well i ddelio â chwilio am swydd o ganlyniad i’r sesiynau. Mae’r prosiect yn pwysleisio rôl cwbl allweddol mynediad am ddim i’r rhyngrwyd mewn llyfrgelloedd.

7.12

Yn ystod y flwyddyn fe weithiom yn agos gyda Chanolfan Byd Gwaith i brofi lleoliadau posibl ar gyfer cyfleuster ar y cyd ar gyfer budd-daliadau a chyngor. Ym mis Gorffennaf 2016 cytunodd y Cabinet, mewn egwyddor, i gyd-leoli gyda Chanolfan Byd Gwaith yn Adain y Gogledd, yn dilyn cwblhau gwaith dichonoldeb, cynllunio a chostio manwl. Rydym bellach yn gweithio trwy’r rhain mewn cryn fanylder gyda Chanolfan Byd Gwaith. Rydym yn ystyried bod gan y prosiect botensial i gynnig gwasanaeth gwell i gwsmeriaid yn ogystal â bod yn fwy effeithlon a gwneud gwell defnydd o swyddfeydd.

7.13

Fel sefydliad sydd â pheth o’r grym gwario mwyaf yn Sir Benfro, mae gennym rôl i’w chwarae wrth ddarparu cyfleoedd hyfforddi a recriwtio ar gyfer pobl ifainc sydd ddim mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant (NEETS), trwy eu cynnwys yn ein hanghenion cytundeb trwy gymalau budd cymunedol. Penodwyd Swyddog Budd i’r Gymuned (CBO) llawn amser ym Mehefin 2015, ar gytundeb 12 mis i ddechrau. Yn yr wyth mis cyntaf rydym wedi cyflawni ystod o ddeilliannau’n cynnwys helpu dros 100 o bobl ddi-waith a chefnogi dros 100 o brentisiaethau, a chefnogi dros 900 o gymwysterau. Mae gwerth ariannol cytundebau a’r buddiannau y maent yn eu sicrhau’n rhedeg i ddegau o filiynau o bunnoedd ac mae buddiannau cymunedol yn cael eu mesur ar draws ystod o gontractau, fel trafnidiaeth ar gyfer addysg; gofal cartref ac ail-alluogi; rhedeg a chynnal a chadw toiledau cyhoeddus; yn ogystal â chytundebau gwastraff ac atgyweirio tai.

7.14

Fe wnaethom hefyd ymgymryd â chamau gweithredu’n ymwneud â threchu tlodi trwy wella agweddau ar dai. O ran ein stoc ein hunain, fe wnaethom barhau i fuddsoddi mewn gwell mesurau arbed ynni, yn cynnwys boeleri newydd a gwydr dwbl. Mae rhedeg rhaglenni treigl yn parhau yn unol â’n cynllun busnes; mae fframwaith ffenestri newydd i fynd allan ar dendr y flwyddyn nesaf ac mae’r tendr ar gyfer gwresogi i’w ymestyn am flwyddyn arall o fis Mai. Rydym hefyd yn cydlynu gwasanaethau cymorth tai arbenigol sy’n galluogi pobl agored i niwed i fyw yn y gymuned. Y llynedd, cytunwyd ar raglenni i helpu’r rheini sy’n derbyn cymorth Cefnogi Pobl i reoli eu harian yn annibynnol.

7.15

Roedd ein cynllun gwelliant ar gyfer 2015/16 yn cynnwys ystod o fesurau ar gyfer trechu tlodi. Dosbarthwyd y rhain i dri chategori: atal tlodi; helpu pobl i ddychwelyd i’r gwaith a lleddfu effeithiau tlodi. Ceir manylion pellach yn y tabl isod. Fe gyflawnwyd bron bob un o’r targedau a bennwyd.

43


7.16

7.17

Mae dangosyddion sy’n sefyll allan ble y gwnaethom berfformio’n arbennig o dda’n cynnwys y nifer o atgyfeiriadau o Ganolfannau Byd Gwaith a’r sesiynau TGCh a gynhaliwyd gan Cyngor Ar Bopeth yn y llyfrgelloedd (ble roedd ein perfformiad dros chwe gwaith yn uwch na’n targed gwreiddiol) a dangosyddion yn ymwneud â budd-dal tai.

Fe wnaeth cyflymder prosesu hawliadau budd-dal tai wella o 27 diwrnod yn 2014/15 i 21 diwrnod yn 2015/16. Golygodd y gwelliant yma ein bod, mewn termau cymharol, wedi symud o’r chwartel isaf i fod yn uwch na’r cyfartaledd o’i gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr. Fe wnaethom hefyd wella pa mor gyflym y byddwn yn prosesu manylion newid amgylchiadau, o 7 diwrnod i 5 diwrnod. Cyflawnwyd y gwelliant hwn, er gwaethaf gostyngiad mewn adnoddau, trwy ddefnyddio meddalwedd newydd sy’n ymdrin â hawliadau a dderbyniwyd, yn awtomatig. Effaith hyn yw na fydd raid i hawlwyr llwyddiannus aros cyhyd am eu budd-daliadau.

Asesiad Rydym wedi sicrhau cynnydd wrth weithredu’r mwyafrif o gamau gweithredu sy’n ceisio trechu tlodi. Y prif faes sydd angen inni ganolbwyntio arno yw cyrhaeddiad addysgol pobl ifainc sydd â hawl i dderbyn prydau ysgol am ddim, yn enwedig yng Nghyfnod Allweddol 4. Mae’r weledigaeth ddrafft ar gyfer Addysg a Dysgu’n cynnwys amcan y bydd pob disgybl yn ymgysylltu a chyfranogi ac yn gallu cyflawni eu potensial, waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau. Mae angen inni hefyd ystyried y modd gorau ar gyfer cydlynu camau gweithredu sy’n ymwneud â threchu tlodi. Mae’r cynlluniau a’r strwythurau partneriaeth y byddwn yn eu datblygu er mwyn trosglwyddo’r cynllun lles mewn sefyllfa dda i drosglwyddo ar waith trechu tlodi.7.16 Indicators that stand out where we performed particularly well include the number of referrals from Job Centre Plus and Citizen Advice Bureau run ICT sessions at the libraries (where our performance was over six times higher than our original target) and indicators relating to housing benefit.

Mesur Llwyddiant CC010 Defnydd o leoedd gofal plant o safon gan blant cymwys (2-3 oed) mewn ardaloedd Dechrau’n Deg CC011 Canran y plant fydd yn cyflawni’r lefel disgwyliedig yn y Cyfnod Sylfaen mewn: 1) Iaith / llythrennedd / cyfathrebu; 2) Datblygiad mathemategol; 3) Datblygiad cymdeithasol personol mewn ardaloedd Dechrau’n Deg CC012 Canran y plant sy’n cyrraedd eu cerrig milltir datblygiadol yn 3 mlwydd oed yn Dechrau’n Deg

14/15 Gwir

14/15 Cymru

15/16 Targed

15/16 Gwir

15/16 Cymru

CP

ChRT

-

-

90

96.4

-

-

-

Defnyddiwyd 271 o leoedd ar gyfer gofal plant am ddim. -

-

90

89.3

-

-

-

Cyrhaeddodd 75 allan o 84 o blant y lefel disgwyliedig yn y Cyfnod Sylfaen.

-

-

90

84.1

-

-

-

Cyrhaeddodd 253 allan o 301 o blant eu cerrig milltir datblygiadol.

44


Mesur Llwyddiant ED01 Nifer y dysgwyr wedi eu cofrestru ar gyrsiau Sbardun ED02 Nifer y cymwysterau a gyflawnwyd trwy gyrsiau

Sbardun IC53 Nifer y plant fydd yn elwa o raglen wedi ei thargedu o weithgareddau dysgu wedi eu teilwra’n arbennig dros yr haf, sy’n defnyddio adnoddau’r gwasanaethau diwylliannol / llyfrgelloedd mewn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf PMPC020 Nifer yr hyfforddeiaethau a ddarparwyd i bobl ifanc 16-18 oed PMPC021 Nifer y prentisiaethau a gymerwyd gan bobl ifainc

PMPC022 Nifer y lleoliadau profiad gwaith a gymerwyd gan bobl ifanc IC50 Nifer yr atgyfeiriadau gan Ganolfan Byd Gwaith a sesiynau TGCh a redwyd gan CAB yn y llyfrgelloedd

IC51 Canran yr atgyfeiriadau Canolfan Byd Gwaith fynychodd glybiau swyddi mewn llyfrgelloedd gyflawnodd o leiaf 1 o’r 3 gofyniad gorfodol i allu hawlio Credyd Cynhwysol

14/15 Gwir

14/15 Cymru

15/16 Targed

15/16 Gwir

15/16 Cymru

CP

ChRT

-

-

400

516

-

-

-

100

101

-

-

-

30

27

-

-

-

Targed wedi ei churo. -

-

Targed wedi ei churo. -

-

Clustnodwyd lleoedd ar gyfer 32 o blant mewn dwy ysgol (Ysgol Gynradd Fenton yn Hwlffordd ac Ysgol Gymunedol Doc Penfro), ond wnaeth 5 o’r plant ddim mynychu, sy’n golygu y gwnaethom fethu’r targed.

-

-

5

8

-

-

-

Mae cysylltiadau gyda chontractwyr wedi gwella, wnaeth ein galluogi i sicrhau canlyniad sy’n well na’r targed. -

-

5

22

-

-

-

Curwyd y targed o ganlyniad i gyflogi Swyddog Budd i’r Gymuned (CBO) sydd wedi gwella cysylltiadau gyda chontractwyr ac adrannau’r awdurdod lleol. Gwnaethpwyd gwelliannau hefyd i’r modd y caiff data a chyflogau eu monitro / cofnodi. -

-

25

26

-

-

-

200

1,533

-

-

-

Gwell na’r targed. -

-

Noder bod y data’n dangos nifer yr ymweliadau â llyfrgelloedd a bod hynny’n cynnwys ymweliadau lluosog gan yr un person. Mae’r perfformiad yma’n cynrychioli llwyddiant ysgubol, sy’n arddangos yr effaith cadarnhaol y gall llyfrgelloedd cyhoeddus ei gael ar fywydau pobl. Gan fod oddeutu traean o boblogaeth Cymru wedi eu heithrio’n ddigidol, a gan fod cyfraddau uwch na’r cyfartaledd o bobl sy’n chwilio am swydd yn disgyn i’r dosbarth hwn, mae’r mynediad am ddim i’r Rhyngrwyd a ddarperir mewn llyfrgelloedd yn adnodd grymus sy’n cael ei ddefnyddio, trwy weithio partneriaeth, i helpu rhai sy’n chwilio am swydd i ddychwelyd i’r gwaith. -

-

60

93

-

-

-

Roedd 628 o bobl wedi cyflawni o leiaf 1 o’r 3 gofyniad gorfodol ac, mewn nifer o achosion, wedi cyflawni 2 neu 3 gofyniad. Mae hyn yn arddangos effaith cadarnhaol y sesiynau sy’n cael eu cynnal yn ein llyfrgelloedd cyhoeddus.

45


Mesur Llwyddiant IC52 Canran yr atgyfeiriadau Canolfan Byd Gwaith sy’n mynychu clybiau swyddi mewn llyfrgelloedd sy’n teimlo’n fwy parod i ddelio gyda chwilio am waith MBMEE1 Sgôr effeithlonrwydd ynni cyffredinol ein stoc tai RS04 Nifer y dyddiau, ar gyfartaledd, a gymerir i brosesu hawliadau budd-daliadau tai newydd RS05 Nifer y dyddiau, ar gyfartaledd, a gymerir i brosesu newid mewn amgylchiadau i hawliadau budd-daliadau tai cyfredol AC030 Canran y bobl sy’n derbyn gwasanaethau a ariennir trwy Cefnogi Pobl, yr asesir eu bod angen cymorth i reoli eu harian, fydd yn arddangos dawn gynyddol i reoli eu harian yn annibynnol o ganlyniad i’r gefnogaeth a ddarperir

14/15 Gwir

14/15 Cymru

15/16 Targed

15/16 Gwir

15/16 Cymru

CP

ChRT

-

-

60

87

-

-

-

O’r rheini a gwblhaodd ffurflen werthuso, roedd 87% yn cytuno neu’n cytuno’n gryf eu bod yn teimlo’n fwy parod i chwilio am swydd. Mae hyn yn sylweddol uwch na’r targed o 60%, ac mae’n amlygu pwysigrwydd a gwerth y clybiau swyddi mewn llyfrgelloedd. -

-

73

73

-

-

-

Cyflawnwyd y targed trwy fuddsoddiad cyfalaf i wella ein stoc tai trwy raglen o wella systemau gwres canolog a gosod gwydr dwbl. -

-

22

20.7

-

-

-

9

5

-

-

-

50

56

-

-

-

Gwell na’r targed. -

-

Gwell na’r targed. -

-

Mae hwn yn ganlyniad da sy’n well na’r targed. Mae hyn yn adlewyrchu’r deilliannau da a gyflawnir ar gyfer y bobl yr ydym yn darparu cefnogaeth ar eu cyfer.

7.18

Fe wnaethom ymgymryd â nifer o gamau gweithredu i wella sut y byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cydraddoldeb. Fe sefydlom grŵp amlasiantaeth Lleisiau Sir Benfro dros Gydraddoldeb, a’i nod yw sicrhau llais cryfach a mwy cydlynol ar gyfer cymunedau cyfartaledd Sir Benfro. Mae aelodaeth yn agored i grwpiau neu bobl sy’n cynrychioli buddiannau pobl sy’n rhannu un neu fwy o’r nodweddion gwarchodedig a restrir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

7.19

Fe weithiom gydag awdurdodau lleol eraill yn y rhanbarth i ddatblygu holiadur i hysbysu datblygiad Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd. Bydd yr arolwg yn cwmpasu materion hil, rhyw, oed, crefydd a chredo, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, ailbennu rhyw a statws partneriaeth. Mae’r gwaith o ddatblygu’r cynllun cydraddoldeb strategol newydd yn mynd rhagddo.

7.20

Mae gan Sir Benfro nifer cymharol fawr o bobl o gefndir lleiafrifol ethnig Sipsiwn / Teithwyr. Yn ystod y flwyddyn fe wnaethom weithio ar asesiad o anghenion llety Sipsiwn / Teithwyr, sy’n un o ofynion Deddf Tai (Cymru) 2014. Defnyddir y ddogfen hon i hysbysu’r Cynllun Datblygu Lleol ac mae’n darogan twf arafach mewn angen am leiniau ychwanegol na awgrymwyd o’r blaen. 46


8

Sir Benfro Cydlynus

Cymunedau 8.1

Mae llawer o’r gwaith yr ydym yn ei wneud ar draws y nodau Llesiant cenedlaethol yn dibynnu ar weithio gyda chymunedau. Mae enghreifftiau’n cynnwys timau tref ar gyfer adfywio, mudiadau cymunedol sy’n darparu sefydliadau dysgu a hyfforddi, gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned ar faterion amgylcheddol lleol, a sefydlu llyfrgelloedd cymunedol. Yn ogystal, mae craidd o waith a wnaethom ar gyfer atgyfnerthu ein perthynas â chymunedau a gwella cyfathrebu.

8.2

Fe gynhaliom gyfres o ymgynghoriadau pellgyrhaeddol gyda’r gymuned yn dilyn ymlaen o’r digwyddiadau “Mae Eich Cyngor yn Newid” cychwynnol a gynhaliwyd ym mis Chwefror a Mawrth 2015. Fe wnaeth hyn gynnwys cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â gweithwyr ym mis Mai a Mehefin 2015, sesiynau penodol yn ymwneud â Gwasanaethau Llyfrgell y Dyfodol a Chanolfannau Dysgu Oedolion a Chymunedau ym Mehefin, Gorffennaf a Medi ac ail rownd o wyth digwyddiad cyhoeddus ym mis Hydref 2015. Diben yr ymgynghoriadau oedd casglu barn pobl a rhanddeiliaid lleol ar ystod o faterion, yn cynnwys diwylliant a llywodraethu ein sefydliad, ein cynigion ar gyfer arbedion a chyfeiriad y sefydliad i’r dyfodol. Er na chafwyd niferoedd cystal yn mynychu’r digwyddiadau ym mis Hydref â rhai’r Gwanwyn, fe gawsant yr un derbyniad gwresog. Cynhyrchwyd dogfen adborth ac roedd honno ar gael ar ein gwefan. Dyma un enghraifft o’r sylwadau a dderbyniwyd: “Da iawn, daliwch ati! Diwylliant newydd yn dod i’r amlwg yn araf bach.”

8.3

Er mwyn atgyfnerthu trefniadau trafod gyda Chynghorau Tref a Chymuned, enwebwyd swyddogion cyswllt o’r Cyngor Sir i weithio’n strategol gyda’r Cynghorau Tref. Bydd y prosiect peilot yma’n rhedeg trwy gydol 2016/17. Fe wnaethom ymgynghori hefyd ar ddatblygu Siartr gyda Chynghorau Tref a Chymuned i wella cyfathrebu rhyngom ni a’r sector.

Tai 8.4

Mae tai yn cael effaith sylweddol ar lawer o’r nodau Llesiant cenedlaethol, yn cynnwys iechyd, ond mae ganddo gyfraniad penodol i’w wneud wrth helpu cymunedau i fod yn fywiog, yn hunangynhaliol a chydlynol. Mae tai fforddiadwy’n fater o bwys ers amser maith yn Sir Benfro.

8.5

Rydym yn parhau i flaenoriaethu tai fforddiadwy fel rhan o’n gwasanaethau Tai a Chynllunio a sicrhawyd 140 o unedau llety newydd yn ystod y flwyddyn. O’r rhain, datblygwyd bron i 30 heb ddefnyddio grantiau cyfalaf. Ym mis Mawrth 2016 penderfynodd y Cyngor godi premiwm y Dreth Gyngor ar ail gartrefi o fis Ebrill 2017 fel modd o fynd i’r afael â’r angen am dai. Defnyddir o leiaf 50% o unrhyw arian a gesglir ar gyfer darparu tai fforddiadwy a 47


defnyddir y gweddill i gefnogi gwasanaethau lleol. Mae tai fforddiadwy’n un o’n blaenoriaethau hirsefydlog. Yn ystod y tair blynedd diwethaf, a thrwy weithio gyda phartneriaid, rydym wedi trosglwyddo 125 o gartrefi’r flwyddyn, ar gyfartaledd. 8.6

8.7

Rydym yn sicrhau cynnydd gydag atgyfnerthu ein gwasanaeth rheoli tenantiaeth, er y bu rhywfaint o oedi gyda’r gwaith yma gan inni flaenoriaethu gweithredu’r ddeddfwriaeth digartrefedd newydd. Rydym wedi dechrau cynllunio sut y gallwn ddarparu gwasanaeth sy’n fwy ymatebol, er enghraifft trwy gael mwy o “ardaloedd” rheoli tenantiaeth a ariennir trwy’r codiad mewn rhent a ffioedd gwasanaeth, a wnaethpwyd er mwyn cydymffurfio â Llywodraeth Cymru. Bydd gwaith cynllunio pellach yn parhau tan 2016/17.

Rydym wedi cyflwyno ystod o welliannau i sut y cyflawnir addasiadau i dai, ac arweiniodd hyn at welliant o 47 diwrnod ym mha mor gyflym y caiff addasiadau eu prosesu. Mae enghreifftiau o welliannau’n cynnwys: gweithredu’r polisi addasiadau newydd, newid sut byddwn yn gweithio gyda chontractwyr, a mwy o gymorth i gwsmeriaid gyda’r broses ymgeisio.

Mesur Llwyddiant PLA006b Nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd yn ystod y flwyddyn fel canran o’r holl unedau tai ychwanegol a ddarparwyd yn ystod y flwyddyn

PSR004 Canran yr anheddau sector preifat sydd wedi bod yn wag am fwy na 6 mis ar 1 Ebrill ac a feddiannwyd eto yn ystod y flwyddyn o ganlyniad i weithredu uniongyrchol gan yr awdurdod lleol VOIDS2 Cost gyfartalog gwaith ar eiddo gwag

14/15 Gwir

14/15 Cymru

15/16 Targed

15/16 Gwir

15/16 Cymru

CP

ChRT

31

41

30

52

36

U

Mae’r nifer o gartrefi fforddiadwy ychwanegol wedi cynyddu o 80 i 158, o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Yn ogystal, mae’r nifer o gartrefi newydd a gwblhawyd wedi cynyddu o 254 i 301. Y cyfartaledd ar gyfer Cymru am 2015/16 yw 36%. Mae gallu’r Gwasanaeth i ddylanwadu ar y perfformiad yma’n gyfyngedig. Mae’r niferoedd cymharol isel yn golygu y gall y newid o flwyddyn i flwyddyn fod yn fawr. 2.42

11.8

2.0

1.8

11.1

I

Cafodd 28 o anheddau eu meddiannu eto yn ystod y flwyddyn, o’i gymharu â 30 yn y flwyddyn flaenorol. Daeth yn amlwg bod y defnydd cyffredinol o gynllun “Troi Tai’n Gartrefi” Llywodraeth Cymru wedi arafu’n lleol. £3,603

-

£3,250

£3,559

-

-

Bu cynnydd o 11% yn y nifer o eiddo gwag a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn (497) o’i gymharu â 445 yn y flwyddyn flaenorol. Defnyddiwyd yr holl gontractwyr fframwaith er mwyn atal creu pentwr o eiddo gwag ac amserau cwblhau hir. O ganlyniad, gwelwyd cynnydd ychwanegol mewn costau gan inni ddefnyddio contractwyr mwy costus.

48


Mesur Llwyddiant VOIDS3 Nifer yr eiddo gwag sy’n digwydd fel canran o gyfanswm y stoc

VOIDS4 Canran yr eiddo gwag gaiff eu gwrthod tair gwaith neu fwy

PSR002 Y nifer o ddiwrnodau calendr, ar gyfartaledd, a gymerwyd i drosglwyddo Grant Cyfleusterau i’r Anabl (DFG)

PSR8 Canran yr ymgeiswyr a holwyd a nododd fod y Gwasanaeth Addasiadau ar gyfer yr Anabl yn dda neu’n rhagorol

14/15 Gwir

14/15 Cymru

15/16 Targed

15/16 Gwir

15/16 Cymru

CP

ChRT

8.7

-

6

9.9

-

-

Rydym wedi dechrau cynnal cyfweliadau ymadael gyda thenantiaid sy’n gadael a, ble y gellir lliniaru problem, caiff hyn ei basio ymlaen yn syth i’r tîm cynnal a chadw adeiladau i osgoi dwyn tenantiaeth i ben. Er mwyn cynnal tenantiaethau, rydym wedi dechrau cynnal ymweliadau â thenantiaid newydd. O ran gorchmynion troi allan, os yw hyn yn debyg o ddigwydd, yna rhoddir trefniadau’n eu lle i atal hyn rhag digwydd trwy wneud atgyfeiriadau at asiantaethau cymorth mewnol ac allanol. 9.2

-

8

10.4

-

-

Mae’r newidiadau i fudd-daliadau ddaeth i rym yn Ebrill 2013 yn dal i effeithio ar ein perfformiad eiddo gwag oherwydd y gostyngiad mewn galw am dai mwy o faint. Mae dadansoddiadau manylach o wrthodiadau’n ôl math o dŷ, lleoliad a rheswm wedi eu rhoi yn eu lle. Gosodwyd mwy o ffotograffau ar y wefan a ddefnyddir gan ddarpar-denantiaid i ymgeisio am gartrefi, er mwyn galluogi’r cwsmer i wneud dewis mwy deallus cyn cynnig am dŷ. Caiff tai sy’n cael eu gwrthod yn aml eu hadolygu i weld os oes gwaith y gellir ei wneud arnynt yn gynharach er mwyn sicrhau gosodiad llwyddiannus. 361

231

290

314

241

I

Pennwyd y targed ar sail newidiadau i bolisi a gwelliannau i’r broses yr oedd disgwyl iddynt effeithio ar DFGs a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn. Daeth y polisi diwygiedig, y caiff addasiadau eu trosglwyddo oddi tano, i rym ar 1/2/15 a chafodd effaith sylweddol ar wella perfformiad tuag at y targed yn 15/16. Bu oedi wrth gyflwyno asiantaeth fewnol i drosglwyddo addasiadau tra ein bod yn disgwyl cyngor cyfreithiol am y trefniadau caffael; derbyniwyd hyn yn ddiweddar a dylai’r broses caffael gychwyn yn fuan. Dylai’r agwedd asiantaeth wella’r amser a gymerir i drosglwyddo addasiadau, unwaith iddi gael ei chymeradwyo. Mae’r gefnogaeth a roddwyd i gwsmeriaid gyda’r broses ymgeisio a’r cwtogiad yn yr amser a roddir i gwsmeriaid ddychwelyd gwaith papur i gyd yn cyfrannu at y canlyniad gwell, ddylai barhau yn 16/17. 90

-

90

92

-

-

Fe wnaeth y canlyniad yn well na’r targed a osodwyd. Mae hyn yn debyg o fod yn adlewyrchiad o ymdrechion parhaus y tîm i wella perfformiad, er nad oes unrhyw ffactorau penodol y gellir rhoi bys arnynt sy’n dylanwadu ar y canlyniad.

49


Diogelwch 8.8

Fe wnaethom barhau i ddatblygu ystod o gamau gweithredu i wella diogelwch yn Sir Benfro. Mae Sir Benfro’n le diogel (er bod arolygon yn dangos yn gyson bod pobl leol yn dal i bryderu am lefelau troseddu) ac mae lefelau troseddu cyffredinol wedi disgyn o un flwyddyn i’r llall.

8.9

Rydym yn cefnogi Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Benfro, sef ‘Sir Benfro Ddiogelach’. Mae’r bartneriaeth yn dwyn asiantaethau statudol ynghyd i drafod materion troseddu a diogelwch. Datblygwyd cylch gorchwyl newydd ar gyfer y bartneriaeth ac, yn ogystal â darparu rôl gydlynol ar gyfer ystod o weithgarwch diogelwch, mae’r grŵp yn dal i fod yn ffocws ar gyfer y modd y byddwn yn cyfrannu at agenda gwrth-derfysgaeth PREVENT.

8.10

Fe wnaethom barhau i ddatblygu teledu cylch cyfyng (CCTV) yn Sir Benfro. Comisiynwyd adroddiad gan Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu i’r defnydd o CCTV ar draws ardal Dyfed-Powys a gyhoeddwyd ddechrau’r flwyddyn. Awgrymodd hyn y gellid defnyddio darpariaeth ac arfer gweithio Sir Benfro fel model. Rydym yn parhau i weithio gydag ystod o sefydliadau, gan gynnwys Cynghorau Tref, i ddarparu gwasanaeth CCTV mewn lleoliadau allweddol ar draws y Sir.

8.11

Un o’n blaenoriaethau hirsefydlog yw lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r nifer o achosion a gofnodir bob mis wedi cwympo’n raddol dros y pum mlynedd diwethaf i tua hanner ffigurau 2011. Fodd bynnag, mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dal i gyfrif am tua hanner yr holl achosion a gofnodwyd.

8.12

Yn ystod y flwyddyn fe wnaethom weithredu elfen Sbardun Cymunedol, Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2014. Mae hyn yn galluogi dioddefwyr i alw asiantaethau statudol, gan gynnwys y Cyngor, i gyfrif am y ffordd y byddant yn delio gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gellir defnyddio’r sbardun pan fo’r trothwy wedi ei gyrraedd, er enghraifft os cafwyd nifer o achosion o fewn cyfnod penodol. Rydym hefyd yn comisiynu gwasanaethau trwy Gwalia, sy’n cynnig gwasanaeth cefnogi i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Sir Benfro. Mae’r gefnogaeth yma’n ymestyn i grwpiau datrys problemau a chynadleddau achosion a phrosesau cyfryngu.

8.13

Mae Cam-drin Domestig yn parhau i fod yn flaenoriaeth bwysig inni. Rydym yn parhau i gynyddu ymwybyddiaeth am faterion Cam-drin Domestig, a’r gwasanaethau sydd ar gael, trwy amrywiol ddigwyddiadau a gynhelir yn ystod y flwyddyn yn cynnwys y Sioe Sir a Diwrnod y Rhuban Gwyn (ymgyrch i annog dynion a bechgyn i chwarae rhan weithredol wrth ddangos ymrwymiad i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched).

8.14

Mae’r Siop Un Stop yn Hwlffordd yn parhau i fynd o nerth i nerth, ac mae’n gallu cynnig sesiynau galw heibio mewn cydweithrediad â sefydliadau cam-drin domestig arbenigol. Yn ogystal â rheoli’r gwasanaeth Cynghorydd Trais Domestig Annibynnol, mae’r sefydliadau hyn yn darparu rhaglenni i gefnogi pobl sydd mewn, neu sydd newydd adael, perthnasau camdriniol yn ogystal â Gwasanaeth Cwnsela.

50


8.15

Rydym hefyd yn parhau i chwarae rhan mewn ystod o weithgareddau hyfforddi, er enghraifft gyda’r Heddlu a’r Ynadon. Y llynedd fe ddatblygom becyn hyfforddi ar gyfer ein staff ein hunain yn ogystal â chynghori swyddogion eraill o fewn y Cyngor ar sut y gellir integreiddio ymwybyddiaeth am gam-drin domestig mewn hyfforddiant arall.

8.16

Mae gan ein timau amddiffyn y cyhoedd rôl i’w chwarae wrth hyrwyddo Sir Benfro ddiogel. Fe gynhaliom un o’r tri phrosiect peilot Ardaloedd Gweithredu Lleol ynghylch Alcohol (LAAA) yng Nghymru. Cwblhawyd y prosiect yma ym mis Mai 2015 a chyhoeddwyd adroddiad gwerthuso terfynol. Sicrhawyd nifer o lwyddiannau o ganlyniad i’r prosiect hwn, a’r prif rai oedd gwell cynllunio gweithredu, safoni’r cynllun ‘Bihafiwch neu Cewch eich Banio’ ar draws Sir Benfro, rhannu gwybodaeth ac ehangu’r cynllun Gweinidogion Stryd i drefi eraill yn dilyn ei lwyddiant yn Hwlffordd.

8.17

Mae enghreifftiau eraill o waith yn cynnwys diogelu defnyddwyr, ble y gweithiom i addysgu a hysbysu pobl am sgiâms. Fe rybuddiom drigolion am sgiâms yr ydym wedi clywed amdanynt yn digwydd yn y Sir (fel loteri ffug), erlyn masnachwyr twyllodrus sy’n targedu pobl agored i niwed o dan reoliadau defnyddwyr. Er enghraifft, mae ein Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yn amlygu’r gwaith yr ydym yn ei wneud yn y maes yma.

8.18

Fe wnaethom barhau i wella diogelwch ar y ffyrdd trwy roi cynlluniau diogelwch ffyrdd ar waith a pharhau i hybu cyrsiau hyfforddiant ac ymwybyddiaeth defnyddwyr ffyrdd. Cwblhawyd cynlluniau diogelwch ffyrdd ffisegol (diolch i ariannu Llwybrau Diogel mewn Cymunedau) yn Wdig, Aberdaugleddau a Doc Penfro. Fe wnaethom hefyd gwblhau llwybrau i’w defnyddio ar y cyd ar hyd Thornton Road, Aberdaugleddau; Bird Cage Walk i Bush Street yn Noc Penfro a ger Ysgol y Santes Fair, Doc Penfro.

8.19

Fe wnaeth addysg, hyfforddiant a phrosiectau cyhoeddusrwydd Diogelwch Ffyrdd gynnwys rhaglen gyrwyr ifanc Blwyddyn 12, Pass Plus Cymru (ar gyfer pobl sydd newydd basio eu prawf gyrru) yn ogystal â Drive For Life, sy’n gwrs gloywi ar gyfer gyrwyr hŷn. Rydym wedi cefnogi cyrsiau hyfforddiant beiciau modur penodol, fel Dragon Rider a Ridersafe. Rydym yn parhau i hybu mentrau diogelwch ffyrdd mewn ysgolion, fel Hyfforddiant Seiclo’r Safonau Cenedlaethol a Kerbcraft.

8.20

Mae’n well mesur llwyddiant mentrau diogelwch ffyrdd gan ddefnyddio tueddiadau tymor hirach, gan fod ffigurau’n amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Mae ffigurau’n dangos gwelliant graddol o’r cyfartaledd ar gyfer 2004-2008, er bod y cyfanswm ar gyfer 2015/16 yn uwch na ffigur 2014/15.

Mesur Llwyddiant

14/15 Gwir

14/15 Cymru

15/16 Targed

15/16 Gwir

15/16 Cymru

CP

ChRT

HC1a Cyfanswm y bobl a 60 69 66 laddwyd / anafwyd yn ddifrifol (KSI) mewn gwrthdrawiadau Nid yw gwrthdrawiadau’n wyddor fanwl a gwelir brigau a phantiau traffig ffyrdd mewn ffigurau o flwyddyn i flwyddyn. Ein targed tymor hir ar gyfer 2020 yw 58. PPN009 Canran y busnesau 96.2 94.2 96.5 95.6 94.2 C bwyd sy’n ‘cydymffurfio’n gyffredinol’ gyda safonau Methwyd y targed o’r mymryn lleiaf. Roedd 2,105 allan o 2,201 o hylendid bwyd fusnesau bwyd yn ‘cydymffurfio’n gyffredinol’ gyda safonau hylendid bwyd.

51


Mesur Llwyddiant SCY003a Canran y plant a phobl ifainc, a atgyfeiriwyd at y Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau gan y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid am asesiad camddefnyddio sylweddau, sy’n cychwyn yr asesiad o fewn 5 diwrnod gwaith i’r dyddiad atgyfeirio SCY003b Canran y plant a’r bobl ifainc a ddynodwyd trwy’r asesiad camddefnyddio sylweddau fel eu bod angen triniaeth, sy’n derbyn gwasanaeth haen 2, 3 neu 4 o fewn 10 diwrnod gwaith i’r asesiad hwnnw DA1 Nifer o ddigwyddiadau domestig fesul 1,000 o’r boblogaeth ASB1 Nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol fesul 1,000 o’r boblogaeth

14/15 Gwir

14/15 Cymru

15/16 Targed

15/16 Gwir

15/16 Cymru

CP

ChRT

94.1

-

100

44.4

88.0

-

Sylwer y gall y niferoedd bychain a ddefnyddir i gyfrifo’r mesur hwn (4 ÷ 9) arwain at newidiadau mawr iawn yn y canlyniadau a adroddir rhwng chwarteri. Gwrthododd un person ifanc ymwneud â’r gwasanaeth; trosglwyddwyd un at y gwasanaeth prawf; symudodd un o’r sir a methodd ddau berson y targed o ganlyniad i fethiant i atgyfeirio at y tîm camddefnyddio sylweddau – mae gweithdrefnau newydd wedi eu rhoi ar waith i leihau’r achosion yma yn y dyfodol. 100

-

100

88.9

97.0

-

Sylwer y gall y niferoedd bychain a ddefnyddir i gyfrifo’r mesur hwn (8 ÷ 9) arwain at newidiadau mawr iawn yn y canlyniadau a adroddir rhwng chwarteri. Gwrthododd un person ifanc ymwneud â’r gwasanaeth olygodd nad oedd modd cyflawni’r targed 100%. 8.0

-

8.4

9.1

-

-

Mae digwyddiadau domestig ar gynnydd. Cesglir data ar gyfer y mesur hwn gan Heddlu Dyfed-Powys. 41

-

43.1

33.1

-

-

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol ar lefel is na’r hyn a brofwyd dros y 3 blynedd diwethaf. Cesglir data ar gyfer y mesur hwn gan Heddlu Dyfed-Powys.

Trafnidiaeth 8.21

Mae lleoliad daearyddol a natur wledig Sir Benfro’n golygu bod trafnidiaeth a chyfathrebu’n faterion pwysig. Fe wnaethom barhau i weithio ar ystod o brosiectau i wella cyfathrebu a thrafnidiaeth i, o ac o fewn y Sir.

8.22

Byddwn yn parhau i ddatblygu ac adeiladu llwybrau ar gyfer cerdded a beicio. Bydd y rhain yn ein helpu i gyflawni ein dyletswydd i ddarparu rhwydwaith o lwybrau ar gyfer teithio llesol, yn unol â Bil Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. Erbyn Medi 2016 byddwn wedi cwblhau’r gwaith o fapio cyfleusterau cerdded a beicio sy’n bodoli eisoes yn yr ardaloedd a ddynodwyd dan y ddeddfwriaeth yma. Rydym yn parhau i ddatblygu rhwydwaith o lwybrau i’w defnyddio ar y cyd, a nodir y manylion yn yr adran Diogelwch Ffyrdd flaenorol. Yn ogystal â’r buddiannau diogelwch a thrafnidiaeth, bydd y llwybrau yma hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol i iechyd trwy ei gwneud yn rhwyddach i bobl gynnwys ymarfer corff yn eu hamserlen ddyddiol.

8.23

Yng Ngorffennaf 2015 agorwyd cynllun gwella Bulford Road, oedd werth £8 miliwn, gan Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Mae’r cynllun hwn yn gwella mynediad i rai o safleoedd diwydiannol pwysicaf Sir Benfro ac fe’i arianwyd gan 52


Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru, ynghyd ag arian cyfatebol gan Gyngor Sir Penfro. 8.24

Byddwn yn parhau i weithredu ystod o gynlluniau gwella ffyrdd dros y flwyddyn nesaf. Mae’r rhain yn cynnwys Ffordd Osgoi Maidenwells sy’n rhan o gynllun ehangach i wella mynediad i safleoedd cyflogaeth strategol yn ardal Aberdaugleddau. Yn ystod 2015/16 fe wnaethom ymgysylltu â’r gymuned a pherchnogion tir. Cynhaliwyd ymchwiliad cyhoeddus lleol fel rhan o’r broses Prynu Gorfodol a Gorchmynion Ffyrdd Ymyl. Mae hyn wedi ei gwblhau bellach ac rydym yn rhagweld y bydd gwaith adeiladu’n dechrau ar y Ffordd Osgoi ddiwedd Hydref 2016, a’i gwblhau erbyn Mehefin 2017.

8.25

Dechreuwyd y gwaith o ledu Ffordd Glasfryn yn Nhyddewi ym mis Ionawr 2016. Bydd hyn yn gwella llif traffig yn yr ardal a bydd hefyd yn datrys unrhyw bryderon traffig posibl sy’n ymwneud â datblygiad tai cymunedol arfaethedig ar Lôn Glasfryn. Fe wnaethom hefyd gwblhau gwaith ar gylchfannau Thomas Parry Way yn Hwlffordd, fydd yn gwella mynediad i unrhyw ddatblygiadau pellach ar Slade Lane.

8.26

Fe wnaethom barhau i symud ymlaen gyda chynllun gwelliant Dolen Gyswllt ‘Chimneys’. Mae’r cynllun hwn yn rhan allweddol o’r jig-so ar gyfer cynlluniau adfywio ehangach Abergwaun. Yn ystod y flwyddyn fe wnaethom egluro sut gaiff y cynllun ei ddatblygu a sicrhau ariannu i ddylunio’r cynllun. Yn ystod y flwyddyn byddwn hefyd yn cadarnhau cais pellach i gwblhau adeiladu’r ffordd.

8.27

Rydym yn parhau i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol. Rydym wedi datblygu cynnig i amnewid nifer o’r gwasanaethau bws gwledig presennol gyda chyfuniad o wasanaethau Bwcabus llwybrau ‘penodedig’ a gwasanaethau ‘ar alw’. Mae gwasanaethau ‘ar alw’, sy’n gofyn i’r teithwyr archebu lle ymlaen llaw, yn caniatáu i wasanaethau gael eu teilwra i ateb anghenion defnyddwyr a byddant yn darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer yr ardaloedd hynny sydd â gwasanaethau diwrnod marchnad prin ar hyn o bryd a rhai sydd heb wasanaeth bws o gwbl. Rydym yn aros i glywed os ydym wedi derbyn y cyllid ar gyfer hyn.

8.28

Rydym wedi gwella sut mae cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus, fel gorsafoedd trenau Doc Penfro ac Abergwaun, yn cysylltu gyda gweddill y rhwydwaith trafnidiaeth. Cwblhawyd estyniad i’r maes parcio ac estyniad i adeilad yr orsaf yng Ngorsaf Abergwaun ac Wdig, ynghyd ag arhosfan bysiau a chyfleusterau parcio ceir yn Noc Penfro. Mae cynllun llwybr troed Hwlffordd i Crundale bron â’i gwblhau.

8.29

Cynyddodd nifer y teithwyr ar fysiau arfordirol Sir Benfro bron i 2,250 y llynedd, er gwaethaf rhai toriadau’n y gwasanaeth o ganlyniad i bwysau ar y gyllideb. Mae hyn yn rhannol o ganlyniad i arosfannau ychwanegol ar wasanaeth 403 Y Gwibiwr Celtaidd, sy’n gwasanaethu Penrhyn Tyddewi, ac o ganlyniad i boblogrwydd cynyddol bysiau’r arfordir. Mae’r gwasanaeth yn darparu ar gyfer ystod eang o ddefnyddwyr. Mewn arolwg o deithwyr y llynedd, dywedodd y mwyafrif o bobl (34%) eu bod yn defnyddio bws yr arfordir er mwyn mynd i gerdded, tra dywedodd 15% o bobl eu bod yn eu defnyddio i fynd i’r traeth, a 12% i fynd ar daith olygfaol.

53


Mesur Llwyddiant THS007 Canran yr oedolion, sy’n 60 oed neu drosodd, sy’n meddu ar gerdyn bws rhatach

THS012a Canran prif ffyrdd (dosbarth A) sydd mewn cyflwr cyffredinol wael THS012b Canran ffyrdd (dosbarth B) sydd mewn cyflwr cyffredinol gwael THS012c Canran ffyrdd bychain (dosbarth C) sydd mewn cyflwr cyffredinol gwael THS012 Canran prif ffyrdd (dosbarth A), ffyrdd (dosbarth B) a ffyrdd bychain (dosbarth C) sydd mewn cyflwr cyffredinol gwael

9

14/15 Gwir

14/15 Cymru

15/16 Targed

15/16 Gwir

15/16 Cymru

CP

ChRT

75.4

85.8

75

73.3

85.6

I

Gellid disgwyl i berfformiad Sir Benfro, o’i gymharu â’r cyfartaledd ar gyfer Cymru (86%), fod yn is na’r cyfartaledd – ble mae’r garfan o Awdurdodau’n cynnwys awdurdodau trefol mawr. 4.9

4.1

4.5

4.6

3.7

I

5.0

5.0

5.0

4.0

4.3

C

10.8

17.2

11.0

7.5

15.9

9.1

11.9

10

6.6

11.2

 

C C

Gwelliannau ar gyfer pob math o ffyrdd, yn enwedig ar gyfer ffyrdd bychain dosbarth C (sy’n cwmpasu 70% o’n ffyrdd). Mae buddsoddiad yn seiliedig ar arolygon cyflwr a hierarchaeth ffyrdd wedi arwain at welliant parhaus.

Sir Benfro â diwylliant egnïol a Chymraeg sy’n f fynnu

54


9.1

Mae llyfrgelloedd a’r celfyddydau’n gwneud cyfraniad sylweddol i les pobl. Mae’r nodau cenedlaethol yn cydnabod hyn ac mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn nodi lles diwylliannol fel un o elfennau allweddol datblygiad cynaliadwy. Mae Diwylliant a’r Gymraeg yn cyfrannu hefyd at nodau cenedlaethol eraill. Mae’r cysylltiad rhwng diwylliant, iaith ac iechyd yn hysbys, ond gall prosiectau diwylliannol gyfrannu hefyd at feysydd eraill fel adfywio, ac o ganlyniad, at ffyniant.

9.2

Fe symudom ymlaen gyda’r gwaith o adleoli’r Llyfrgell Sirol i ganol tref Hwlffordd. Yn dilyn adroddiad Cabinet Ionawr 2015, penderfynwyd ym mis Ebrill i leoli’r adeilad newydd yn adeilad marchnad Riverside. Bydd y cyfleuster newydd yn cynnig ystod llawer ehangach o wasanaethau na’r Llyfrgell Sirol bresennol, fel Canolfan Groeso gwbl integredig, ac ardal Canolfan Fyw (gyda mynediad i wybodaeth ariannol ac iechyd) yn ogystal â chaffi ac oriel gelf o safon genedlaethol. Mae cydleoli’r gwasanaethau cyflenwol hyn o dan yr unto, ac ar un llawr, yn cynnig cyfleoedd i ehangu’r gwasanaeth llyfrgell a darparu ystod ehangach o wasanaethau i ddefnyddwyr. Bu hyn yn bosibl oherwydd ein partneriaeth gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru, a ddarparodd bron i £300,000 tuag at gost y prosiect. Dirprwyodd y pwyllgor cynllunio yr awdurdod i gymeradwyo datblygiad y cyfleuster yn dilyn diwedd y cyfnod ymgynghori ym Medi 2016.

9.3

Un o ganlyniadau anorfod y penderfyniad hwn oedd cau’r farchnad. Fe wnaethom ymdrin â hyn mewn modd sensitif gan weithio gyda’r masnachwyr i ganfod lleoliadau amgen addas ar eu cyfer. Rydym yn ystyried y ceir budd datblygiad economaidd net gan ein bod yn rhagweld y gallai’r ganolfan gynhyrchu’n agos i £1 miliwn o wariant yn yr economi lleol a chreu rhwng wyth a 15 o swyddi ychwanegol. Mae’r Llyfrgell Sirol newydd yn un o’r prosiectau yn Uwchgynllun Hwlffordd. Gobeithir dechrau ar y gwaith yn ystod hydref 2016 gyda dyddiad agor tua 12 mis yn ddiweddarach.

9.4

Derbyniodd ein Harchif Statws Achrededig swyddogol yn ystod y flwyddyn. Mae’r cynllun Achredu Gwasanaethau Archifo’n cynnig gwobr cydnabyddiaeth allanol a chymeradwyaeth swyddogol i wasanaethau archifo. Mae hyn yn dilyn y sêl cymeradwyaeth swyddogol a ddyfarnwyd i Archifdy Sir Benfro yn gynharach eleni fel storfa adnau o dan y Ddeddf Cofnodion Cyhoeddus.

9.5

Cymerwyd camau i sicrhau dyfodol Maenor Scolton. Mae’n gartref i Wasanaeth Amgueddfa’r Sir, parc gwledig Baner Werdd ac arddangosfa o gerfluniau, yn ogystal â chanolfan wenyna a chyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith ar gyfer oedolion ag anableddau trwy gynlluniau Gwaith yn yr arfaeth a Norman Industries. Rydym wedi datblygu cynllun busnes ar gyfer y safle er mwyn parhau i leihau’r cymhorthdal y mae ei angen, gyda’r nod y bydd yn adennill ei gostau o fewn pedair blynedd. Er mwyn gwneud 55


hyn, bydd angen inni ddatrys rhai materion yn ymwneud â pherchenogaeth ac, ym mis Chwefror 2016, cytunodd y Cabinet, mewn egwyddor, i brynu’r adeilad. Mae trafodaethau gyda pherchennog Maenor Scolton (Cronfa Deddf Eglwys Cymru), a’r gwaith o ddatrys materion cyfreithiol, yn mynd rhagddynt. 9.6

9.7

Fe wnaethom hefyd ddechrau archwilio opsiynau ar gyfer Canolfan Treftadaeth. Sefydlwyd grŵp rhanddeiliaid ac mae’n archwilio’r potensial ar gyfer cyfleuster fyddai’n cynnig profiad treftadaeth o’r radd flaenaf i dwristiaid, efallai gan ddefnyddio atyniadau mewn rhannau eraill o’r DU, fel Canolfannau Yorvik neu’r Canterbury Tales, fel model. Bydd y grŵp rhanddeiliaid yn adrodd yn ôl i’r Cabinet trwy 2016/17.

Mae Prosiect Cydlifiad yn brosiect celfyddydau ac adfywio tair blynedd o hyd a gefnogir gan Gyngor y Celfyddydau a’r Cyngor Sir. Cychwynnodd y prosiect yn 2014 a chynhaliwyd dau ddigwyddiad y llynedd. Cynhaliwyd ‘Gweithdy a Diwrnod Agored Model Mawr’ dilynol yn haf 2016. Roedd prosiectau eraill a gomisiynwyd trwy Cydlifiad yn cynnwys Diemwnt Du wnaeth “harneisio grym sonig yr afon i greu trac rêf gyda cherddorion lleol” a ffilm ‘Porthmon Sir Benfro’ sy’n cyfeirio at yr arfer hynafol o gerdded da byw i farchnadoedd ar hyd llwybrau hanesyddol. Bwriedir cynnal comisiwn celfyddyd gyhoeddus ar gyfer 2016/17.

Mesur Llwyddiant LCL001b Nifer yr ymweliadau â Llyfrgelloedd Cyhoeddus yn ystod y flwyddyn, fesul 1,000 o’r boblogaeth

14/15 Gwir

14/15 Cymru

15/16 Targed

15/16 Gwir

15/16 Cymru

CP

ChRT

4,985

5,526

4,490

4,168

5,374

I

Mae perfformiad wedi ei fwrw’n galed gan effaith toriadau ariannu arweiniodd at ostyngiad sylweddol yn oriau agor llyfrgelloedd; cwtogiad o ddau draean o’r gwasanaeth llyfrgell deithiol; toriadau i’r gronfa lyfrau a thoriadau eraill i’r gwasanaeth. Yn ogystal, bu’n rhaid cyfrifo rhith-ymweliadau yn ystod 15-16 gan ddefnyddio cymhariaeth rhwng Ebrill 14 ac Ebrill 15, a chymhwyso’r newid canran (gostyngiad) ar draws y rhith-ymweliadau ar gyfer 14-15 i ddarparu ffigurau eleni. Mae hyn oherwydd problem barhaus gyda’r system hunanweini a ddarperir yn fewnol, ddylid ei datrys yn ystod 2016/17.

9.8

Trwy gydol 2015/16 ymgymerwyd ag ystod o gamau gweithredu i gyflwyno Safonau newydd Y Gymraeg. Ar ddiwedd Mawrth 2015 cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg amserlen ar gyfer gwaith yn ystod 2015/16, arweiniodd at weld nifer o’r safonau newydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2016.

9.9

Yn ystod y flwyddyn fe gynlluniom ar gyfer rhoi’r newidiadau hyn ar waith, er enghraifft, trwy drefnu hyfforddiant staff, newid polisïau a dogfennau contractau, darparu ar gyfer mwy o gyfieithu ar y pryd a throsi ystod ehangach o ddogfennau, er enghraifft agendâu a chofnodion pwyllgorau.

56


9.10

Effaith y newidiadau hyn yw cynnydd sylweddol yn yr ystod a’r mathau o drafodion y gall cwsmeriaid eu gwneud gyda’r Cyngor trwy gyfrwng y Gymraeg. Un enghraifft ymarferol yw gallu defnyddio’r Gymraeg mewn derbynfeydd. Byddwn yn parhau i roi’r newidiadau hyn ar waith trwy gydol 2016/17. Mae gan y newidiadau hyn oblygiadau ariannol. Amcangyfrifwyd y gallai cost eu gweithredu fod cyn uched â £1m. Fodd bynnag, bydd rhaid dynodi ffyrdd o gyflawni’r safonau heb gostau mor sylweddol, a dim ond £300,000 o bwysau sydd wedi ei gynnwys yn y gyllideb ar gyfer 201617.

9.11

Yn ogystal, fe wnaethom gyflwyno sylwadau ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Ddiwygiadau Drafft i Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20 – Cynllunio a’r Gymraeg. Bydd y ddogfen hon yn ffurfio sut y bydd ein polisïau cynllunio’n cefnogi bywiogrwydd y Gymraeg mewn cymunedau.

57


10 A Sir Benfro sy’n gyfrifol yn Fydeang 10.1

Rydym yn parhau i wella ein defnydd effeithlon o ynni a lleihau’r lefel o Garbon Deuocsid yr ydym yn ei allyrru wrth ddefnyddio ynni. Rydym yn amnewid goleuadau mewn nifer o gyfleusterau i Ddeuodau Allyrru Golau (LED) sy’n llawer mwy effeithlon. Cwblhawyd gwelliannau i Faes Parcio Aml-lawr Dinbych-y-pysgod, pyllau nofio a neuaddau hamdden a chwaraeon, yn ogystal â llyfrgelloedd a Maenor Scolton. Rydym yn parhau i wella inswleiddio mewn cyfleusterau a gwella effeithlonrwydd peirianwaith, er enghraifft gosod gyriant amrywio cyflymder ar bympiau ym mhwll nofio Canolfan Hamdden Hwlffordd. Yn ogystal, gosodwyd boeleri biomas newydd yn y Ganolfan.

10.2

Rydym yn dal i chwilio am ffyrdd cost-effeithiol i gynhyrchu ynni a gosodwyd celloedd ffotofoltäig ar brosiect tai gwarchod. Mae’r system medi dŵr glaw yng Ngweithdy Cerbydau Thornton yn gwneud yn well na’r disgwyl gan leihau effaith amgylcheddol y gwaith.

10.3

Parhawyd i redeg y cynllun Gwobrau Ysgolion Cynaliadwy. Mae hyn yn cydnabod dealltwriaeth a gwaith disgyblion ar gynaladwyedd. Mae’r wobr yn cwmpasu saith pwnc: ynni, trafnidiaeth, dinasyddiaeth gymunedol, bioamrywiaeth, dŵr, gwastraff, iechyd a dinasyddiaeth fyd-eang. Fe’i rhennir yn dri cham, Efydd, Arian ac Aur. Symudodd deg ysgol ymlaen i lefel cyrhaeddiad uwch yn ystod y flwyddyn.

10.4

Mae’r rhyfel yn Syria wedi arwain at weld niferoedd mawr iawn o ffoaduriaid yn cael eu halltudio, a bellach mae gan y DU gynllun ar gyfer derbyn ac ail-gartrefu ffoaduriaid. Ym mis Chwefror 2016, sefydlodd y Cabinet grŵp amlasiantaeth i ddatblygu cynllun gweithredu manwl yn cynnwys oblygiadau ariannol ar gyfer y Sir. Cytunodd adroddiad dilynol i’r Cabinet ein cyfranogaeth yn y Cynllun a, dros oes y Cynllun, byddwn yn croesawu 10 - 12 teulu i’r ardal.

58


Mesur Llwyddiant OAEV61b Nifer yr ysgolion sy’n symud ymlaen i lefel cyrhaeddiad newydd: efydd, arian, aur neu fesen

CAM037 Canran y newid yn sgôr cyfartalog Tystysgrifau Ynni i’w Harddangos (DES) yn adeiladau cyhoeddus yr Awdurdod Lleol dros 1,000m2

14/15 Gwir

14/15 Cymru

15/16 Targed

15/16 Gwir

15/16 Cymru

CP

ChRT

10

-

10

9

-

-

Symudodd naw ysgol ymlaen i lefel cyrhaeddiad newydd yn ystod 2015/16. Roedd tair ysgol yn barod i symud ymlaen i lefel cyrhaeddiad newydd ar ddechrau tymor yr haf 2016 (ac felly heb eu cynnwys yng ngwir ffigur 15/16), sy’n egluro pam y methwyd y targed o fymryn eleni. -

-

2.0

5.8

3.0

-

U

Mae buddsoddiad mewn prosiectau arbed ynni ac ymgyrch arbed ynni ymysg staff (mewn ymateb i ymrwymiadau amgylcheddol a thoriadau sylweddol yn y gyllideb) wedi gweld lleihad sylweddol yn y defnydd o ynni yn yr adeiladau dan sylw. Mae esiamplau o brosiectau o bwys yn cynnwys gosod goleuadau LED mewn neuaddau hamdden a chwaraeon a phyllau nofio, gosod gyriant amrywio cyflymder ar bympiau pyllau nofio, gosod goleuadau LED mewn llyfrgelloedd ac ym Maenor Scolton, gosod inswleiddio ar bibau a falfiau mewn ystafelloedd peiriannau, uwchraddio prosesau rheoli gwresogi, parhau â menter llysgenhadon ynni’r Gwasanaethau Diwylliannol (sy’n copïo’r cynllun llysgenhadon ynni Hamdden llwyddiannus), paneli solar PV, gorchuddion pyllau newydd, boeleri biomas newydd yng Nghanolfan Hamdden Hwlffordd. Nid oes data Cymru gyfan ar gael gan i’r mesur yma gael ei gyflwyno’n ystod 2015/16.

59


11 Cyllid

11.1

Fe gymeradwyodd Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol y Cyngor ein Datganiad Cyfrifon 2015-16 ar 27 Gorffennaf 2016. Roeddem yn rhan o brosiect peilot (gydag un awdurdod arall) i gau ein cyfrifon ddeufis yn gynharach na’r blynyddoedd blaenorol. Ceir manylion y cyfrifon ar ein gwefan yn yr adran sy’n rhestru manylion adroddiadau Pwyllgorau. Cymeradwyo’r DC

11.2

Lluniwyd cyllideb 2015-16 yn erbyn cefndir o bwysau ariannol sylweddol. Roedd angen inni ganfod £12.3 miliwn o doriadau / arbedion effeithlonrwydd yn ystod y flwyddyn honno, yn dilyn £12.9m yn 2014-15 (er bod targed toriadau / arbedion effeithlonrwydd 2016-17 hyd yn oed yn uwch ar £16.3 miliwn). Mae ein targed toriadau / arbedion effeithlonrwydd ar gyfer 2016-17 yn uwch o ganlyniad i nifer o ffactorau’n cynnwys colli Cyllid Allanol Cyfun, galw ychwanegol am wasanaethau o ganlyniad i newid demograffig, a thâl a phrisiau’n cynyddu mwy na chwyddiant.

11.3

Mae ein Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn amlinellu maint yr her ariannol yr ydym yn ei wynebu. CATC 2016-17 i 2019-20 Mae’r Cynllun mewn dwy ran. Mae’r rhan gyntaf yn dynodi’r her ariannol. Ym mis Mawrth 2016, y bwlch ariannu rhagamcanol dros gyfnod y CATC (yn y sefyllfa waethaf posibl) oedd £52.5m. Mae ail ran y Cynllun yn delio gydag ateb yr her ariannol. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad lefel uchel o’r potensial i ddeg cyfle ar gyfer rhaglenni trawsnewid drosglwyddo gwasanaethau gwell ar gyfer cwsmeriaid a sicrhau toriadau / arbedion effeithlonrwydd i’r dyfodol o 2016-17 ac ymlaen i 2019-20.

11.4

Mae’r tablau canlynol yn daprau trosolwg o’n gwariant yn ystod 2015-16. Mae’r wybodaeth yn seiliedig ar ein Datganiad Cyfrifon. Yn y tablau, yr amcangyfrif gwreiddiol yw’r gyllideb a gymeradwywyd gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol (1 Ebrill 2015 - 31 Mawrth 2016). Pennir yr amcangyfrif diwygiedig ym mis Hydref, a phennir y gwir wariant unwaith i’r flwyddyn ariannol ddod i ben.

11.5

Treth Gyngor a Gwariant Refeniw. Unwaith eto, pennodd y Cyngor y dreth gyngor isaf (elfen Cyngor Sir) yng Nghymru ar gyfer 2015-16, sy’n cyfateb a thâl Band D o £801.04, cynnydd o 4.5% ar y flwyddyn flaenorol. Mae Tabl A yn crynhoi sut y gwariwyd eich arian, wedi ei ariannu gan Gyllid Allanol Cyfun (AEF); grant cynnal refeniw a chyfran yr incwm a neilltuwyd gan Lywodraeth Cymru o’r gronfa ardrethi annomestig, ac arian a gesglir gan dalwyr y dreth gyngor, o ffioedd a thaliadau a grantiau penodol. Nodir sefyllfa 2014-15 er cymhariaeth.

60


£000's 88,326 13,529 43,164 1,223 8,822

Gwariant Net Gwreiddiol 2015-16 £000's 86,745 13,343 43,389 1,254 8,397

7,547

6,905

6,923

6,680

2,497 11,820 7,230

2,030 11,161 7,511

2,063 11,423 7,305

2,047 10,931 7,212

4,656

4,140

3,877

5,365*

253

210

215

216

185,646 7,019 (525) 10,613 202,753

184,966 7,037 (609) 11,346* 202,740

Gwir Wariant 2014-15 Gwasanaethau Addysg Gofal Cymdeithasol – Plant Gofal Cymdeithasol – Oedolion Cronfa Gyffredinol Tai Cyfrif Refeniw Tai (wedi ei warchod) Gwasanaethau Priffyrdd a Chludiant Diwylliant a Gwasanaethau Cysylltiedig Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu Gwasanaethau Amgylcheddol Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor Gwasanaethau Canolog, Corfforaethol a Democrataidd Gwasanaethau Llysoedd Rheoli Swyddi Gwag / Arbedion Unigol yn y Flwyddyn Cost Net y Gwasanaethau Ardollau Incwm Buddsoddi Net Costau Ariannu Cyfalaf Cyfanswm y Gwariant Net

Gwariant Gwir Net Wariant Net Diwygiedig 2015-16 2015-16 £000's £000's 86,749 86,227 13,364 13,069 44,241 44,431 1,101 1,024 8,385 7,764

(1,200) 189,067 6,949 (486) 11,684 207,214

183,885 7,019 (488) 12,371 202,787

* Yn cynnwys neilltuo i’r Cronfeydd wrth Gefn

11.6

Buddsoddi cyfalaf yw’r arian a werir ar adeiladu a gwella adeiladau, seilwaith ac asedau eraill. Mae polisi buddsoddi cyfalaf y Cyngor yn seiliedig ar ddarparu cyfleusterau busnes a chyfleusterau eraill o safon uchel, ynghyd ag ad-drefnu a gwella ei seilwaith a’i stoc o adeiladau.

11.7

Mae gwariant ac ariannu rhaglen buddsoddi cyfalaf 2015/16 wedi ei grynhoi isod, a nodir sefyllfa 2014/15 er cymhariaeth. Daeth cyfanswm y buddsoddiad cyfalaf i £33.3m, o’i gymharu â rhaglen amcangyfrifedig o £41.7m. Ble bu oedi ar gynllun, mae’r prosiectau a’r ddarpariaeth ariannu cysylltiedig wedi eu cario drosodd.

61


Gwariant Addysg (yn cynnwys Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif) Gofal Cymdeithasol Priffyrdd a Chludiant Tai – Cyfrif Refeniw Tai Tai – Cronfa Gyffredinol Diwylliant a Gwasanaethau Cysylltiedig Cynllunio a Datblygu Amgylcheddol Gwasanaethau Corfforaethol Arian Cyfatebol ar gyfer Prosiectau Cyfanswm y Gwariant Ariannu Grantiau Cyfalaf a Chyfraniadau Derbyniadau Cyfalaf a Chronfa Cyfalaf Cronfeydd wrth Gefn sydd wedi eu Clustnodi Benthyca

2014/15 Gwir Wariant

2015-16 Gwir Wariant

£000's

£000's

2016-17 Amcangyfrif Gwreiddiol £000's

6,448

11,156

56,563

196 13,377 6,006 2,752

304 8,257 7,625 1,338

50 9,214 10,512 1,345

1,073

1,464

1,190

1,114 2,065 1,570

1,443 1,021 645

34,601

33,253

6,008 2,560 950 1,000 89,392

19,816 5,370

19,594 9,011

49,333 29,184

2,186

2,940

2,875

7,229

1,708

8,000

Gwnaethpwyd newidiadau sylweddol i’r Cyfrif Refeniw Tai yn 2015-16 gyda diddymu’r system gymhorthdal (negyddol) a chyflwyniad system hunangyllidol, arweiniodd at gymryd dyled ychwanegol o £80.7m gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus ar ddechrau’r flwyddyn. Fodd bynnag, mae balans gweithio’r Cyfrif Refeniw Tai wedi aros yr un fath ar £752,000. Mae ariannu’r gwasanaeth tai cyngor wedi ei ‘neilltuo’, gyda chwsmeriaid yn ariannu cost y gwasanaeth trwy’r rhent a delir. Fel rhan o’r newidiadau a wnaethpwyd i’r modd y mae’r Cyfrif Refeniw Tai yn gweithio, mae angen inni gynyddu rhenti i lefelau rhent targed Llywodraeth Cymru. Cynyddwyd rhenti 2.7% (chwyddiant ac 1.5%) a £1.50 yr wythnos ar gyfer 2015-16, cyn belled a bo lefelau rhenti’n is na’r rhent targed.

62


Nodir crynodeb o gostau rhedeg ac incwm blynyddol tai cyngor ar gyfer 2015-16 isod:

2015-16 Cyfrif Refeniw Tai Incwm Rhenti – Anheddau Arall Cyfanswm yr Incwm Gwariant Rheoli, Cynnal a Chadw Cymhorthdal Negyddol Costau Ariannu Cyfalaf Arall Cyfanswm Costau

2014-15 Gwir Alldro £000's

Amcangyfrif Gwreiddiol £000's

Amcangyfrif Diwygiedig £000's

(19,002) (1,110) (20,112)

(19,835) (1,252) (21,087)

(19,835) (1,157) (20,992)

(19,825) (1,225) (21,050)

13,824

14,391

14,896 (3) 6,054 103 21,050

12,978 6,546 340 248 20,112

6,830 433 21,087

6,167 434 20,992

Gwir Alldro £000's

63


Geirfa

Ail-alluogi

Pecyn o wasanaethau ar gyfer pobl sydd angen cefnogaeth i fyw’n annibynnol yn eu cartref eu hunain. Mae’r gwasanaethau hyn yn annog a chefnogi pobl i wneud cymaint â phosibl drostynt eu hunain, gan wneud tasgau gyda nhw yn hytrach na drostyn nhw.

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)

Sefydliad statudol sy’n rheoleiddio trosglwyddo gwasanaethau cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Biowastraff a wahanwyd ymlaen llaw

Gwastraff all bydru ac a gesglir ar wahân i wastraff cyffredin o gartrefi. Enghraifft o hyn yw ein gwasanaeth newydd sy’n casglu gwastraff bwyd wedi ei goginio, sy’n cael ei gyflwyno ar draws y Sir.

CA2

Cyfnod Allweddol 2, y flwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd. Mae’r disgyblion unai’n 10 neu’n 11 mlwydd oed.

CA3

Cyfnod Allweddol 3. Blwyddyn 9, blwyddyn ganol yr ysgol uwchradd. Mae’r disgyblion unai’n 13 neu’n 14 mlwydd oed.

Cymwysterau sgôr pwyntiau cyfartalog

Mesur o ganlyniadau disgyblion mewn arholiadau TGAU neu gymwysterau seiliedig ar waith.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Cynllun pedair blynedd a gynhyrchwyd gennym sy’n dangos sut y byddwn yn cyflawni ein dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Cynllun Gwelliant

Mae hwn yn dangos sut yr ydym yn bwriadu gwella ein gwasanaethau. Mae’n gynllun statudol sy’n ofynnol o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

Dangosydd pynciau craidd

Y canran sy’n cyflawni’r lefel disgwyliedig yn y Gymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth yng Nghyfnodau Allweddol 1-3, ac o leiaf TGAU Gradd C yng Nghyfnod Allweddol 4.

Eithriadau Anghenion Addysgol Arbennig

Mae’r diffiniad ar gyfer y dangosydd perfformiad yma’n cydnabod y ceir amodau neilltuol ble na fo’r amserlen arferol o 26 wythnos ar gyfer cyhoeddi datganiad yn gymwys. Rhestrir y rhain yn Rheoliadau Llywodraeth Cymru ac maent yn cynnwys ffactorau fel yr angen i geisio cyngor pellach gan arbenigwyr.

64


Estyn

Arolygiaeth ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Ei ddiben yw arolygu ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Gofal cartref

Trosglwyddo ystod amrywiol o wasanaethau gofal personol a chefnogaeth i unigolion yn eu cartrefi eu hunain.

Grant Cyfleusterau i’r Anabl

Grant sydd ar gael i addasu cartref person sy’n byw gydag anabledd. Un enghraifft o’r gwaith sydd wedi ei ariannu yw gosod cawodydd ymolchi mynediad gwastad.

Gwastraff gweddilliol

Gwastraff na ellir ei ailddefnyddio, ei gompostio na’i ailgylchu, e.e. gwastraff plastig o safon isel fel ‘cling-film’.

Gwastraff trefol

Gwastraff a gesglir yn uniongyrchol o gartrefi, trwy safleoedd amwynder dinesig, o finiau ysbwriel neu trwy lanhau’r strydoedd.

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009

Mae’r grym i ddeddfu ar gyfer cynllunio cymunedol a gwella llywodraeth leol yng Nghymru wedi ei ddatganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Mesur yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio deddfwriaeth a luniwyd gan Lywodraeth y Cynulliad.

Oedi wrth drosglwyddo gofal

Weithiau fe elwir hyn yn ‘flocio gwelyau’. Gall hyn ddigwydd pan fo person wedi bod yn yr ysbyty ond nad yw bellach angen gwasanaethau meddygol, ond eu bod angen gwasanaethau ychwanegol yn eu lle cyn y gallant fynd adref. Yn aml iawn ein cyfrifoldeb ni fydd sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn eu lle.

Plant sy’n derbyn gofal

Plant y mae’r Cyngor wedi eu cymryd i’w ofal. Gosodir plant sy’n derbyn gofal naill ai gyda gofalwyr maeth neu rieni sy’n mabwysiadu. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn parhau i fod â chyfrifoldeb cyfreithiol am eu lles (ni yw eu ‘rhieni corfforaethol’).

PWLB

Mae’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (Public Works Loan Board) yn Asiantaeth Weithredol i Drysorlys ei Mawrhydi. Swyddogaeth y PWLB yw benthyca arian o’r Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol i awdurdodau lleol, a chasglu’r addaliadau.

Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif

Mae hon yn rhaglen allweddol, hirdymor ar gyfer buddsoddi cyfalaf er mwyn adeiladu ac adnewyddu adeiladau ysgol trwy Gymru.

Tai fforddiadwy

Unrhyw dai (e.e. i’w rhentu, i’w prynu, neu i’w rhentu / prynu’n rhannol) sydd ar gael am bris sy’n is na lefel arferol y farchnad.

Y Cyfnod Sylfaen

Y cwricwlwm statudol ar gyfer pob plentyn 3 i 7 mlwydd oed yng Nghymru.

65


Cyfeiriadau gwe llawn ar gyfer dogfennau cysylltiedig Mae Pob Gwers yn Cyfrif, Mae Pob Disgybl yn Cyfrif

http://mgenglish.pembrokeshire.gov.uk/Published/C00000283/M00 003386/AI00024413/Item6KS4attachment.pdf?LLL=0

Adroddiad Monitro Mae Pob Gwers yn Cyfrif, http://mgenglish.pembrokeshire.gov.uk/Published/C00000283/M00 Mae Pob Disgybl yn 003514/AI00025574/Item6iiKS4actionplanupdate090616.pdf?LLL=0 Cyfrif Datganiad Cyfrifon

http://vmmoderngov1:8070/mgAi.aspx?ID=26157&LLL=0

Adroddiad blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

http://vmmoderngov1:8070/Published/C00000281/M00003741/AI0 0026620/$DirectorofSocialServicesAnnualReport.docxA.ps.pdf?LLL= 0

66


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.