Ysbrydoledig Strategaeth ar gyfer Llyfrgelloedd Sir Benfro

Page 1

Ysbrydoledig

Strategaeth ar gyfer Llyfrgelloedd Sir Benfro 2015 - 2020

"Mae llyfrgell yn well nag unrhyw beth arall y gall cymuned ei wneud er lles ei phobl. Mae'n ffynnon na fetha byth yn yr anialwch." Andrew Carnegie


rhagair

cynnwys

Rhagair .............................................................................. 02

Mae'r strategaeth hon yn amlinellu ein gweledigaeth a'n cyfeiriad strategol o ran Llyfrgelloedd Sir Benfro – y blaenoriaethau y byddwn yn canolbwyntio arnynt a'r canlyniadau yr ydym yn gobeithio'u cyflawni ar gyfer ein dinasyddion. Mae'n ymdrin â'r pum mlynedd o 2015 i 2020 y disgwyliwn i fod y cyfnod mwyaf heriol yn hanes ein gwasanaethau. Grymoedd allanol, yn fwyaf nodedig caledi a'r newid technolegol, yw'r dylanwadau allweddol sy'n galw am newid ac addasu'r gwasanaeth. Mae hyn yn debygol o barhau'n wir am rai blynyddoedd. Ac eto hyd yn oed yn y cyfnod heriol hwn, ceir cyfleoedd. Yn ystod oes y strategaeth hon, ein nod yw gorffen yr hyn y dechreuom trwy ddarparu Llyfrgell Sir gyfoes i ddinasyddion Sir Benfro y gall pob un ohonom fod yn falch ohoni.

Ein Cenhadaeth ................................................................ 04 Ein Gweledigaeth .............................................................. 04 Cyd-destun ...................................................................... 05 Rhai Rhifau ...................................................................... 06 Yr Her

.............................................................................. 07

Sut y byddwn yn ymateb i'r heriau hyn ............................ 08 Y Llyfrgelloedd Gorau ...................................................... 09 Ein Blaenoriaethau ............................................................ 18 Mesur ein Llwyddiant

Mae llyfrgelloedd yn wasanaeth cynhwysol – un y gall pob un ohonom ei ddefnyddio ac elwa ohono. Er y bydd hyn yn fythol wir, byddwn yn canolbwyntio ein hadnoddau yn ystod oes y strategaeth hon ar gymunedau, grwpiau ac unigolion y mae angen ein gwasanaethau arnynt fwyaf. Mae llyfrgelloedd yn adnodd grymus ar gyfer newid a gwella bywydau pobl, a'r strategaeth hon yw ein map i ddangos sut y byddwn yn sicrhau y cyflwynir eu potensial mawr. Y Cyng. Elwyn Morse Aelod o'r Cabinet Diwylliant, Chwaraeon a Hamdden

2

3

...................................................... 21


cyd-destun Statud – Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 yw'r gyfraith sy'n ei gwneud yn ddyletswydd statudol i ddarparu "gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithlon". Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus – Caiff ein perfformiad ei fonitro gan Lywodraeth Cymru yn erbyn nifer o safonau. Yn 2013/14, gwnaethom ddyblu ein perfformiad yn erbyn y safonau hyn a dywedodd Llywodraeth Cymru: "Ym marn yr aseswyr, rhagwelir gwelliant parhaus yn y dyfodol oherwydd bod cyfeiriad y daith i'w weld yn briodol, a mabwysiadwyd mecanweithiau cadarn i fonitro cynnydd a sicrhau cynnydd pellach." Strategaethau Cenedlaethol a Sirol - Ysgrifennwyd y ddogfen yng nghyd-destun dwy strategaeth ehangach:

ein Cenhadaeth

• Cynllun Integredig Sengl Sir Benfro – sy'n disgrifio'r materion sy'n bwysig i Sir Benfro, megis gwella safon byw, iechyd pobl ac economi'r sir

Rydym yn bod i: wneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl; lleihau anfantais; ysbrydoli dysgu gydol oes, a chreu cymunedau cryfach ac iachach. Byddwn yn gwneud hyn trwy: ddarparu gwasanaethau rhagorol cyson; targedu ein gweithgareddau at bobl a chymunedau lle y mae'r angen mwyaf, a gweithio ar y cyd i gyflawni mwy nag y gallem ar ein pennau ein hunain.

ein gweledigaeth:

• Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli – Strategaeth Llyfrgelloedd Cymru. Mae'r strategaeth hon yn blaenoriaethu arloesedd, cydweithio a moderneiddio adeiladau llyfrgelloedd. Cydweithredu – Mae hanes da gan Lyfrgelloedd Cyhoeddus o gydweithredu yng Nghymru. Er enghraifft, rydym yn cydweithio i gael y gwerth mwyaf o'n grym prynu ar y cyd, gan ein galluogi i gael llyfrau ac adnoddau eraill am lai o gost nag y byddwn petawn yn eu prynu ar ein pennau ein hunain. Dros oes y strategaeth hon byddwn yn cynyddu ein gweithgareddau cydweithredu er mwyn sicrhau bod llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau prin ac yn cyflawni rhagoriaeth ar hyd a lled y wlad.

I fod y gwasanaeth llyfrgell gorau yng Nghymru

4

5


rhai rhifau:

Rhwng mis Ebrill 2013 a mis Mawrth 2014 cafwyd: • 537,287 o ymweliadau â'n llyfrgelloedd (cyfwerth â phob dyn, menyw a phlentyn yn Sir Benfro yn ymweld mwy na phedair gwaith y flwyddyn) • 482,727 o fenthyciadau llyfrau ac adnoddau eraill • 69,559 o bobl yn defnyddio ein cyfrifiaduron â mynediad am ddim at y rhyngrwyd • 12,398 o bobl yn defnyddio ein gwasanaeth Wifi am ddim Gofynnom i'n cwsmeriaid beth oedd eu barn ar ein llyfrgelloedd, ac roedd: • 99.5% o oedolion • 99% o blant • 98% o bobl yn eu harddegau yn fodlon neu'n fodlon iawn â'n gwasanaeth

"Rydw i'n dwlu ar y llyfrgell. Mae'n fy helpu gyda fy ngwaith cartref a phopeth arall. Mae'n wych." Defnyddiwr Llyfrgell Abergwaun yn ei arddegau

"Mae'r staff bob tro yn helpu ac yn gyfeillgar" Defnyddiwr Llyfrgell Hwlffordd

yr her Caledi - Oherwydd graddau helaeth y pwysau ariannol ar y cyngor, mae'n rhaid lleihau cost darparu gwasanaethau llyfrgelloedd, a byddwn yn gwneud hyn. Yn yr un modd, ein her yw dod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o: gynnal safonau proffesiynol y gwasanaeth; perfformio'n dda yn erbyn mesurau perfformiad cenedlaethol; cyflawni yn erbyn blaenoriaethau trawstoriadol allweddol megis trechu tlodi a gwella iechyd a lles ein dinasyddion, a sicrhau bod ein ffocws ar wasanaeth cwsmeriaid ardderchog yn parhau wrth wraidd yr hyn a wnawn. Technoleg a Thueddiadau Defnyddwyr - Mae sut y mae pobl yn defnyddio'r cynnig craidd – darllen – yn newid. Yn yr un modd ag y mae lawrlwythiadau sain i bob pwrpas wedi cymryd lle'r CD, mae nifer cynyddol o ddarllenwyr yn ystyried e-lyfrau (wedi'u lawrlwytho i ddyfeisiau llaw y defnyddwyr) yn cymryd lle dilys llyfrau 'go iawn'. Dywedodd Ofcom yn 2013 fod tua 750,000 o bobl wedi'u hallgáu'n ddigidol yng Nghymru heddiw – tua 25% o'r boblogaeth. Mae mynediad am ddim at y rhyngrwyd yn ein llyfrgelloedd yn gwbl hanfodol i'r unigolion hyn. Fodd bynnag, 900,000 oedd y ffigur hwn yn y flwyddyn flaenorol. Bydd y ffigur ryw ddydd yn llai na 50,000. Beth fydd yn digwydd i lyfrgelloedd wedyn? Heddiw mae llawer mwy o bobl yn defnyddio peiriannau pori neu eiriaduron ar-lein i gael atebion i'w cwestiynau yn hytrach na mynd i'r llyfrgell leol i ofyn am wybodaeth gan lyfrgellwyr. A fydd angen gwasanaeth ymholi'r llyfrgell yn y dyfodol?

6

7


sut y byddwn yn ymateb i'r heriau hyn: Pan rydym yn ystyried yr heriau hyn, mae'n hawdd digalonni a phoeni am y dyfodol; dyfodol lle na fydd angen llyfrgelloedd. Ac eto nid oes yn rhaid i hyn fod yn wir. Mae ystyried llyfrgelloedd yn storfeydd llyfrau a chyfrifiaduron yn unig yn eu tanbrisio; hanner y stori yn unig yw hyn. Yn wir, nid yw'r rheini sy'n dadlau bod llyfrgelloedd yn dod yn ddiddefnydd yn gwybod yr hyn y gall llyfrgelloedd cyhoeddus da eu darparu yn yr unfed ganrif ar hugain.

y llyfrgelloedd gorau: Pa nodweddion cyffredin sydd gan y llyfrgelloedd gorau?

Mae llyfrgelloedd yn hollbwysig i'r gymdeithas a byddant yn parhau i fod yn hollbwysig cyhyd ag y mae'r gymdeithas ei hun yn parhau.

Cymunedau Cryfach – Y llyfrgell fel: ystafell fyw y gymuned

Fodd bynnag, yr unig ffordd y bydd hyn yn digwydd yw os y bydd llyfrgelloedd yn addasu ac yn newid. Mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn wasanaeth hollgynhwysol – un sydd ar gael i bawb. Er bod hyn yn dal i fod yn bwysig, mae'r llyfrgelloedd cyhoeddus gorau yn defnyddio dull gweithredu wedi'i dargedu'n fwy o ran darparu gwasanaethau trwy ganolbwyntio'u hadnoddau llai ar:

Mae'r llyfrgelloedd gorau yn llawer mwy na swm eu llyfrau, cyfrifiaduron ac adnoddau eraill. Maent yn 'ystafell fyw y gymuned'; rhywle sy'n croesawu pobl waeth bynnag eu cefndir, oedran, hil, crefydd neu ffactorau eraill, ac yn eu tynnu at ei gilydd i archwilio, rhyngweithio a dychmygu. Pa gyfleusterau eraill sydd ar gael yn ein trefi a'n dinasoedd a all honni'r un peth mewn gwirionedd?

 Greu cymunedau cryfach ac iachach  Cefnogi canlyniadau economaidd  Hyrwyddo Cyfiawnder Cymdeithasol a helpu i greu amodau ar gyfer symudedd cymdeithasol  Darparu ffordd allan o dlodi

Gydag amser mae'r gymdeithas yn dod i ddeall technoleg yn fwy; rydym yn dod o hyd i ragor o ffyrdd o osgoi gorfod mynd yn gorfforol i'r siopau (siopa ar-lein), i'r brifysgol (dysgu o bell), i weld ffrindiau (Facebook) ac ie, hyd yn oed i lyfrgelloedd (e-lyfrau). Wrth i ni fyw'r bywydau cynyddol rith hyn, byddwn yn gweld bod rhywbeth sylfaenol sy'n eisiau ohonynt.

Yn y cyfnodau heriol hyn, mae'r llyfrgelloedd cyhoeddus gorau yn cydnabod er bod eu gwasanaethau yn rhywbeth y mae rhai pobl eu 'heisiau' – yn weithgaredd hamdden gwerthfawr – mae llawer o bobl eraill eu 'hangen'. Maent yn cyflwyno gwasanaethau wedi'u targedu i ddiwallu'r anghenion hynny ac mae ganddynt dystiolaeth i ddangos eu heffaith ar y cymunedau lle mae'r angen mwyaf.

Rydym yn fodau dynol ac mae bodau dynol yn greaduriaid cymdeithasol – mae angen iddynt gymdeithasu â bodau dynol eraill.

"Yn ogystal â rhwyddineb cael llyfrau, mae yna'r agwedd gymdeithasol. Yr unig adeg rydym yn gweld rhai pobl yw ar 'ddiwrnod llyfrgelloedd'" Defnyddiwr Llyfrgell Symudol

ae'n rhaid i'r dull yma, ac fe fydd, y dull byddwn yn ei ddefnyddio.

"Mae'r llyfrgell yn rhan allweddol o fywyd yn Aberdaugleddau"

Mewn byd cynyddol rith, bydd yr angen am leoedd diogel, niwtral yng nghanol ein cymunedau sy'n dod â phobl at ei gilydd: i ddathlu digwyddiadau; i rannu eu profiadau; i

Defnyddiwr Llyfrgell Aberdaugleddau

8

9


ddysgu rhagor am y byd; neu i deimlo'n llai ynysig yn gymdeithasol, yn dod yn fwyfwy pwysig. Mae llyfrgelloedd yn fan lle mae gwahanol bobl a gwahanol syniadau yn cwrdd, a lle ceir trafod a thrafodaeth.

"Efallai bod pobl yn mynd i'r llyfrgell i chwilio am wybodaeth yn bennaf, ond maent yn dod o hyd i'w gilydd yno." Putnam, 2003 Mae rhieni newydd yn cwrdd â'i gilydd yn ystod amser rhigymau i fabanod; mae oedolion yn dod i 'sgwrsio a gweu' ac i ddigwyddiadau cymunedol eraill, ac yn gwneud ffrindiau newydd; mae myfyrwyr yn cwrdd i astudio, mae darllenwyr yn trafod digwyddiadau cyfoes dros y papurau newydd... Mae gweithgareddau sy'n gwella cydlyniant cymunedol yn digwydd trwy'r amser mewn llyfrgelloedd. I fanteisio i'r eithaf ar y cysylltiadau hyn, mae'r llyfrgelloedd gorau yn ffurfio partneriaethau â sefydliadau a gwasanaethau eraill trwy gyd-leoli neu trwy waith mwy integredig er mwyn cyfeirio mwy o bobl atynt a'u gwneud yn ganolbwynt eu cymunedau. Y llyfrgell 'fel lle' yw ein Pwynt Gwerthu Unigryw ac mae heriau caledi, newid technolegol ac unrhyw beth arall a all ddigwydd yn y dyfodol, yn gwneud y Pwynt Gwerthu hwnnw yn gryfach fyth.

Cymunedau iachach Mae'r llyfrgelloedd cyhoeddus gorau yn glir am eu cyfraniad o ran creu cymunedau iachach, a gallant arddangos effaith eu gweithgareddau. Mae llyfrgelloedd Cymru ar flaen y gad yn hyn o beth, oherwydd yma y ganed Presgripsiwn Llyfrau Cymru1. Profwyd bod y cynnig craidd – darllen – yn effeithio'n llesol ar iechyd. Er enghraifft, darganfu gwaith ymchwil gan Mindlab International ym Mhrifysgol Sussex mai darllen yw'r ffordd orau o ymlacio, a gall chwe munud yn unig y diwrnod fod yn ddigon i leihau lefelau pwysau o fwy na dau draean (68%).

llyfrgelloedd yn canolbwyntio ar ddarparu gwybodaeth o safon am iechyd mewn amgylchedd mwy cyfleus a llai clinigol nag ysbyty neu feddygfa. Er enghraifft, mae gan Ofal Cymunedol Canser MacMillan bresenoldeb corfforol yn Llyfrgelloedd Cyhoeddus Torfaen, lle mae'n rhoi cyngor a chefnogaeth i bobl y mae canser wedi effeithio arnynt. Trwy weithio gyda llyfrgelloedd, mae'r elusen wedi gallu cysylltu â phobl nad oeddent wedi gallu eu cyrraedd fel arall. Megis dechrau yn unig mae hyn o ran potensial llyfrgelloedd cyhoeddus i gyfrannu at yr agenda atal a lleihau'r baich ar Ofal Sylfaenol. Gall llyfrgelloedd sicrhau bod ystod eang o adnoddau iechyd o safon ar gael ar ffurf ffisegol a digidol. Gallant helpu pobl i reoli eu hiechyd eu hunain a'u hysbrydoli i wneud dewisiadau bywyd iach. Wrth ystyried enghraifft MacMillan, dychmygwch rym cyfleuster sy'n canolbwyntio ar bob agwedd ar Iechyd a Lles, nid ar ganser yn unig. Gall Iechyd Cyhoeddus Cymru, Elusennau Iechyd, Gwasanaethau Hamdden a llawer o sefydliadau eraill ddefnyddio ardal neilltuedig yn ein llyfrgelloedd i gyflwyno gweithgareddau allgymorth, gan eu galluogi i gyrraedd cynulleidfaoedd mawr (gan gynnwys y rheini sy'n anodd eu cyrraedd sy'n osgoi ysbytai a meddygfeydd) â'u negeseuon am iechyd a'u dulliau cefnogi. Yn sgil lansiad y Ganolfan Iechyd yn llyfrgell Doc Penfro, rydym wedi gwneud hyn yn realiti yn Sir Benfro ac rydym ar flaen y gad o ran manteisio i'r eithaf ar botensial llyfrgelloedd cyhoeddus i gyflawni canlyniadau iechyd positif i gymunedau.

"Rydw i'n byw yng nghefn gwlad ac yn dioddef o syndrom blinder cronig, ac mae cael y llyfrgell wedi gwneud mwy i wella fy iechyd na'r meddygon nad oes triniaeth ganddynt i mi. Rydw i'n defnyddio llyfrau/ cds i helpu fy niffyg cwsg a chyfeirlyfrau i ymchwilio i fy salwch ac i astudio pynciau eraill i ddod o hyd i fath arall o yrfa a gwaith wrth i mi wella." Defnyddiwr Llyfrgell Symudol

Fodd bynnag, gall llyfrgelloedd gynnig llawer mwy i'r agenda iechyd na'r gwasanaeth darllen craidd. Mae rhai llyfrgelloedd wedi ffurfio partneriaeth ag elusennau iechyd y trydydd sector i greu ardaloedd neilltuedig yn eu

1

Mae Presgripsiwn Llyfrau Cymru yn gynllun lle mae ymarferwyr meddygol yn rhagnodi llyfrau hunangymorth therapi ymddygiad gwybyddol o safon i gleifion sy'n dioddef o broblemau seicolegol ysgafn i gymedrol. Mae cleifion yn casglu'r llyfrau o lyfrgelloedd cyhoeddus. Mae corff enfawr o dystiolaeth wedi dangos effeithiau llesol y cynllun.

10

11


'Prifysgolion y stryd fawr' – hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol

Cefnogi'r economi Mae cyfleusterau deniadol, diwylliannol sydd wedi'u lleoli yn y gymuned, megis llyfrgelloedd, yn elfennau pwysig o strategaethau adfywio trefi a chymdogaethau. Mae'r llyfrgelloedd gorau yn denu niferoedd mawr o bobl, ac mae hyn yn ei dro yn creu cyfleoedd economaidd i fusnesau lleol. Gallant fod yn ganolbwynt allweddol wrth adfywio cymdogaethau a chanol trefi. Dangosodd gwaith ymchwil annibynnol i effaith economaidd Llyfrgelloedd Cyhoeddus yng Nghymru a wnaed yn 2013: • Fod y gwerth ariannol y rhoddodd defnyddwyr ar eu defnydd o lyfrgelloedd ryw 7.5 gwaith yn fwy na chost eu darparu. Hynny yw, maent yn darparu gwerth rhagorol am arian. Mae gwaith ymchwil Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru yn cefnogi hyn, gan honni mai'r gost gyfartalog y person/y dydd i gynnal llyfrgelloedd yw 5c. • Gwariant cyfartalog defnyddwyr llyfrgelloedd yn rhan o'u hymweliad â'r llyfrgell (e.e. mewn siopau a chaffis lleol) yw £8.07 y defnyddiwr/yr ymweliad. Yn Sir Benfro mae hyn yn cyfateb i tua £4.33 miliwn o wariant yn yr economi leol gan ddefnyddwyr llyfrgelloedd yn ystod eu hymweliadau. • Os nad oedd llyfrgelloedd yn bodoli, byddai'n rhaid i ddefnyddwyr wario £160 y flwyddyn ar brynu gwasanaethau y maent yn eu cael am ddim, (dros £300 y flwyddyn i 19% o ddefnyddwyr). O ganlyniad i'r ffaith fod incwm gwario cartrefi yn dynn neu ddim yn bod o gwbl mewn llawer o gartrefi, petai yna ddim llyfrgelloedd cyhoeddus ni fyddai dewis gan y bobl sydd angen y gwasanaethau hyn fwyaf ond gwneud hebddynt; gan ddioddef yr anfanteision niferus yn sgil hyn.

Ar adeg pan fo cost addysg wedi dod yn rhwystr gwirioneddol i lawer o bobl, mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn darparu gwybodaeth a chyfleoedd addysgol am ddim i bawb, ni waeth beth yw eu statws economaidd-gymdeithasol. Maent yn rhoi mynediad i bopeth a gyhoeddwyd erioed i bob pwrpas, ac maent yn darparu mynediad am ddim at y rhyngrwyd a'r byd o wybodaeth sydd ganddi. Mae'r llyfrgelloedd gorau yn mynd yn bellach na hyn, gan ffurfio partneriaethau â darparwyr dysgu a rhoi mynediad i hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol a datblygiad mewn ystod o feysydd, mewn amgylcheddau llyfrgell a all fod yn llai brawychus na dychwelyd i'r ystafell ddosbarth. Mae cost mynediad at bapurau ymchwil academaidd yn eich atal os ydych yn un o'r nifer mawr o bobl na allant fforddio astudio yn y brifysgol neu sefydliad addysgol arall. Mae Llyfrgelloedd yn y DU, gan gynnwys Llyfrgelloedd Sir Benfro, yn darparu mynediad am ddim at y rhyngrwyd i dros 10 miliwn o bapurau academaidd arweiniol y byd ar-lein trwy'r cynllun Access to Research. Mae hyn yn cynnwys ystod eang o ddisgyblaethau o dechnoleg, gwyddorau, meddygaeth a rhagor. A'r cyfan am ddim.

"Rydw i'n cael cefnogaeth amhrisiadwy yn y llyfrgell hon ar gyfer y gwaith ymchwil hanesyddol rydw i'n ei wneud." Defnyddiwr Llyfrgell Abergwaun Trwy gynlluniau megis y rhain y mae'r llyfrgelloedd cyhoeddus gorau yn hyrwyddo Cyfiawnder Cymdeithasol ac yn darparu llwybrau tuag at symudedd cymdeithasol cynyddol i bawb.

• Am bob £1 a gaiff ei gwario ar y gwasanaeth llyfrgelloedd, cynhyrchir 57c yn y cadwyni cyflenwi lleol.

12

13


Ffordd allan o dlodi Mae'r llyfrgelloedd gorau yn cynnig ffordd allan o dlodi. Efallai bod hyn yn dipyn o honiad ond ceir tystiolaeth i'w brofi:

Δ Defnyddwyr llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru Daw 40% o ddefnyddwyr llyfrgelloedd yng Nghymru o ardaloedd difreintiedig. Mae'r ffigur hwn yn uwch na gweddill y DU ac yn uwch nag unrhyw barth arall (e.e. amgueddfeydd, archifau, celfyddydau) yn y Sector Diwylliannol. Darganfu gwaith ymchwil gan Child a Goulding yng Nghanolbarth Lloegr fod rhagor o bobl yn defnyddio llyfrgelloedd yn ystod dirwasgiadau, yn enwedig i chwilio am waith, cyngor a hyfforddiant.

Mae'r llyfrgelloedd gorau yn gwneud mwy na hyn: maent yn targedu'r plant sydd â'r angen mwyaf ac yn cyflwyno ymyraethau a all newid bywydau. Maent yn canolbwyntio ar blant a all gerdded heibio llyfrgell benodol bob dydd o'u bywyd heb ei hystyried yn wasanaeth iddynt. Roedd cynllun peilot y Rhaglen Ddysgu Haf a gynhaliwyd yn llyfrgell Doc Penfro yn 2014, yn gynllun o'r fath. Nod y prosiect hwn oedd lleihau'r bwlch cyrhaeddiad sy'n lledaenu yn ystod gwyliau'r haf rhwng plant difreintiedig a'u cymheiriaid mwy ffodus, a chafodd arian i gyflwyno cyfleoedd dysgu wedi'u targedu i blant mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf. Mae'n rhaid i'r gwasanaeth adeiladu ar y dechrau addawol hwn.

"Rydw i'n credu bod llyfrgelloedd yn gyfleuster pwysig iawn i bob oedran. Rydw i'n sicr, fel plentyn o gefndir tlawd, bod argaeledd llyfrau a rhywle i fynd i ddysgu ohonynt wedi effeithio ar fy mywyd cyfan." Defnyddiwr Llyfrgell Dinbych-y-pysgod

Δ Rhoi ail gyfle i oedolion – Llythrennedd Oedolion

Ar gyfer y grŵp mawr hwn o ddefnyddwyr, mae angen gwasanaethau llyfrgelloedd yn hytrach na'u heisiau. Δ Pwysigrwydd darllen er pleser Dangosodd astudiaethau hydredol gan y Sefydliad Addysg fod darllen er pleser yn rhoi plant ar y blaen yn yr ystafell ddosbarth. Mae plant (10 i 16 oed) sy'n darllen llyfrau a phapurau newydd ac sy'n mynd i'r llyfrgell yn rheolaidd yn perfformio'n well mewn profion ysgol (gan gynnwys rhifedd yn ogystal â llythrennedd) ac yn symud ymlaen i arwain bywydau mwy llwyddiannus a symudol yn gymdeithasol.

Yn anffodus ni fydd pob plentyn yn cyflawni ei botensial yn yr ysgol. Mae rhai plant yn gadael yr ysgol â sgiliau llythrennedd gwael, ac mae'r rhain yn rhy aml yn blant i rieni nad oeddent wedi cyflawni yn yr ysgol. Cred yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol a Llywodraeth Cymru fod mynd i'r afael â'r mater hwn yn allweddol i dorri tlodi rhwng cenedlaethau. Mae hyn oherwydd dywed y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd bod: angen llythrennedd darllen i weithredu'n dda fel oedolyn, yn enwedig os yw pobl am symud i'r farchnad lafur a chymryd rhan ehangach yn y gymdeithas. Ac eto mae gan 28% o oedolion yng Nghymru sgiliau llythrennedd gwael, felly mae'r her hon yn sylweddol.

Gwelwyd bod darllen er pleser bedair gwaith yn bwysicach i ddatblygiad gwybyddol plentyn nag addysg ei rieni. Hwn yw'r dangosydd pwysicaf o ran llwyddiant y plentyn yn y dyfodol. Mae llyfrgelloedd yn gwneud cymaint i hyrwyddo ac annog plant a phobl ifanc i ddarllen. Er enghraifft, pan fo rhieni/gofalwyr yn dod â'u plant i amserau rhigymau i fabanod, amserau stori a digwyddiadau eraill yn y llyfrgell, maent yn agor byd o ddarganfod i'w plant. Wrth wneud hyn, maent yn creu'r amodau i godi diddordeb eu plant mewn darllen am oes – un o'r rhoddion gorau y gall rhiant/gofalwr eu rhoi.

"Mae'r staff yn wych, mae eich Amser Rhigymau wedi datblygu ein hŵyr gymaint mewn blwyddyn" Defnyddiwr Llyfrgell Dinbych-y-pysgod

14

15


Rydym yn gwybod: • Bod dynion sy'n gwella'u llythrennedd yn llawer llai tebygol o hawlio budd-daliadau'r wladwriaeth • Bod y tebygolrwydd y bydd person yn berchen ar ei dŷ ei hun yn cynyddu o 40% i 78% yn sgil cynnydd cymedrol mewn lefelau llythrennedd • Bod pobl anllythrennog yn ennill 30% i 42% yn llai na'u cymheiriaid llythrennog • Bod gan 48% o garcharorion sgiliau llythrennedd islaw lefel 1 (a ddisgwylir gan blentyn 11 oed) a bod 67% o droseddwyr yn ddi-waith pan gawsant eu carcharu • Bod proffil nodweddiadol cenedl lythrennog yn un lle mae pobl yn fwy tebygol o bleidleisio; yn ysmygu ac yfed yn llai; a chanddynt iechyd meddwl gwell, sgiliau 2 gwell a gweithlu mwy hyblyg (Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol) Mae'r llyfrgelloedd cyhoeddus gorau yn cyflwyno rhaglenni sgiliau sylfaenol ac yn marchnata'r cyfleoedd hyn yn weithredol i'w cynulleidfaoedd targed.

Δ Creu cymdeithas Digidol yn Gyntaf a helpu pobl i mewn i'r farchnad swyddi

Mae'r llyfrgelloedd cyhoeddus gorau yn rhoi cyfleoedd i bawb, yn arbennig i'r grwpiau hynny sydd â'r risg fwyaf o allgáu digidol, i ddod yn rhan o'r oes wybodaeth.

Mae 25% o bobl yng Nghymru wedi'u hallgáu'n ddigidol. Mae'r unigolion hyn yn dioddef o anfanteision amryfal o ran cyfleoedd bywyd, mynediad at wasanaethau, disgwyliadau o ran cyflogaeth ac amgylchiadau ariannol. Wrth i dechnoleg ddod yn fwyfwy canolog i fywyd Cymru ac economi Cymru (wrth i ni ddod yn gymdeithas 'digidol yn gyntaf'), bydd disgwyl i'r anfantais hon gynyddu.

Mae'r llyfrgelloedd gorau yn gwneud mwy na darparu mynediad am ddim at y rhyngrwyd a Wifi; er mai'r rhain yw'r sylfaeni hollbwysig y gellir adeiladu ymyrraeth bellach arnynt. Maent hefyd yn gweithio gyda phartneriaid megis Cymunedau 2.0 a'r Ganolfan Byd Gwaith i gyflwyno hyfforddiant a chefnogaeth i bobl fynd ar-lein a'u helpu i wneud y defnydd gorau o adnoddau i chwilio am waith ac ar gyfer anghenion eraill.

Gwneir y rhan fwyaf o chwilio a cheisio am swyddi ar-lein bellach, e.e. trwy wefan Paru Swyddi Ar-lein. Bydd llai a llai o gyflogwyr yn ystyried recriwtio staff nad oes ganddynt sgiliau llythrennedd digidol ac yn ystod oes y strategaeth hon, bydd yn dod yn ofyniad i hawlwyr budd-daliadau ddefnyddio'r rhyngrwyd i gael mynediad at eu cyfrifon budd-daliadau a'u gwasanaethu.

Mae'r llyfrgelloedd gorau hefyd yn cydnabod ein bod mewn cyfnod o newid, gyda'r defnyddwyr traddodiadol sy'n dal i ddymuno llyfrau 'go iawn' heb ddiddordeb mewn e-adnoddau, a'r rheini sy'n newid sianeli i gyfryngau electronig. Nid oes yn rhaid i newid i e-lyfrau, e-gylchgronau a chynnwys ar-lein arall fod yn gam i ffwrdd o lyfrgelloedd, ond mae angen gweithio i sicrhau bod y llyfrgell ddigidol mor hwylus â'r cynnig diriaethol.

“...Roedd angen help arnaf i ymchwilio i lunio fy CV. Ar sut i'w ysgrifennu yn y lle cyntaf gan ddefnyddio'r templed ar y cyfrifiadur, a'r cynllun, y geiriad a'r gwirio. Cefais yr holl help yr oedd ei angen arnaf gan y llyfrgellydd na fyddwn i wedi gallu ei wneud hebddo. Ers hynny rydw i wedi llwyddo i gael y swydd roeddwn ei heisiau."

Bydd oes hir eto i lyfrau go iawn – bydd person 40 oed sy'n dwlu ar lyfr go iawn, ymhen 50 mlynedd, yn berson 90 oed sy'n defnyddio ein gwasanaeth cartref ac yn dal i ddwlu ar lyfr go iawn. Fodd bynnag mae'r trywydd hirdymor hwn tuag at gael popeth yn ddigidol wedi'i bennu bellach a bydd y llyfrgelloedd gorau yn cynllunio ar gyfer y newid hwn, fel y mae'n rhaid i ni ei wneud.

Defnyddiwr Llyfrgell Abergwaun Mae'r gwaith ymchwil diweddaraf i'r dyfodol a wnaed ar ran Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (2014) yn awgrymu y bydd lleiafrif sylweddol o bobl yn y dyfodol agos (yn y 10 mlynedd nesaf) – y rheini ar incwm isel a'r di-waith, pobl dros 65 oed a phobl anabl – yn parhau naill ai heb eu cysylltu â'r rhyngrwyd o gwbl neu'n mynd ar-lein yn anaml ac â diffyg sgiliau llythrennedd digidol.

"Does dim byd gwell nag eistedd i lawr gyda llyfr cyffrous. Dydy 'sgrin' ddim yn cynnig yr un profiad."

"Oherwydd bod derbyniad yn wael yn lleol, mae'r llyfrgell yn hollbwysig wrth gynnal cysylltedd â'r rhyngrwyd" Defnyddiwr Llyfrgell Trefdraeth

2

16

Defnyddiwr Llyfrgell Penfro

National Literacy Trust, 2008

17


ein blaenoriaethau Mae ein blaenoriaethau yn deillio o'n dadansoddiad o'r hyn y mae'r llyfrgelloedd gorau yn ei gynnig. Rydym yn anelu at fod yn eu plith – i fod y gwasanaeth llyfrgell cyhoeddus gorau yng Nghymru. Byddwn yn cyflawni hyn trwy gyflawni tair blaenoriaeth gyffredinol: Blaenoriaeth 1: Creu Cymunedau Cryfach ac Iachach Blaenoriaeth 2: Lleihau Tlodi Blaenoriaeth 3: Cyflawni Rhagoriaeth yn Effeithlon

Blaenoriaeth 1: Creu Cymunedau Cryfach ac Iachach

Blaenoriaeth 2: Lleihau Tlodi

Canlyniadau: • Gwella llythrennedd a hyder oedolion, helpu pobl i gyflawni eu potensial • Lleihau allgáu digidol, mynd i'r afael â rhwystrau canfyddol, ffisegol, cost ac eraill at gysylltu â thechnoleg newydd

Canlyniadau: • Cyfrannu at yr agenda atal, lleihau'r baich ar ofal sylfaenol trwy gefnogi ac ysbrydoli pobl i fyw bywydau iachach

• Codi diddordeb plant mewn darllen, rhoi dechrau teg iddynt mewn bywyd

• Gwneud llyfrgelloedd yn 'ystafell fyw y gymuned', eu gwneud yn ganolbwynt i weithgareddau'r gymuned yn eu cymunedau • Lleihau neilltuaeth gymdeithasol, darparu cyfleoedd i bobl gwrdd ag eraill a darparu gwasanaethau i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas

18

19


mesur ein Llwyddiant Byddwn yn mesur ein llwyddiant o dan bob blaenoriaeth trwy:

Blaenoriaeth 3: Cyflawni Rhagoriaeth yn Effeithlon

Greu Cymunedau Cryfach ac Iachach 1. Cyflawni perfformiad yn y chwartel uchaf yng Nghymru o ran: a) % yr oedolion sy'n datgan eu bod wedi dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol am iechyd a lles yn y llyfrgell b) % yr oedolion sydd o'r farn fod y llyfrgell yn lle dymunol, diogel a chynhwysol

Canlyniadau: • Cynyddu cyfranogiad – ffisegol a digidol, i fanteisio i'r eithaf ar lyfrgelloedd ar gyfer cynifer o bobl â phosibl • Gwella'n barhaus yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, dangos tystiolaeth o'n gallu i ddarparu gwasanaeth llyfrgelloedd cynhwysfawr ac effeithlon • Datblygu'r gweithlu, sicrhau bod gan ein staff y sgiliau a'r hyder i ddarparu gwasanaethau rhagorol • Cynyddu effeithlonrwydd, defnyddio llai i ddarparu gwasanaethau rhagorol

20

Lleihau Tlodi 2. 4. Cyflawni perfformiad yn y chwartel uchaf yng Nghymru o ran y dangosyddion canlynol: a) % yr oedolion sy'n credu bod defnyddio'r llyfrgell wedi eu helpu i ddatblygu sgiliau newydd b) % y plant sy'n credu bod y llyfrgell yn eu helpu i ddysgu a darganfod pethau newydd c) Canran yr oedolion a chanran y plant sy'n credu bod y llyfrgell wedi gwneud gwahaniaeth yn eu bywydau.

Cyflawni Rhagoriaeth yn Effeithlon 1. Cyflawni perfformiad yn y chwartel uchaf yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2. Cyflawni perfformiad yn y chwartel uchaf yn erbyn Dangosydd Perfformiad Cenedlaethol (nifer yr ymweliadau â llyfrgelloedd)

21


Er mwyn cael ei chydnabod yn llyfrgell orau Cymru, targed y strategaeth hon yw cyflawni perfformiad yn y chwartel uchaf yng Nghymru mewn 5 o leiaf o'r 7 dangosydd perfformiad uchod mewn unrhyw flwyddyn.

"Nid oes tarddle i ddemocratiaeth tebyg ar y ddaear i'r Llyfrgell Gyhoeddus Am Ddim, y weriniaeth hon o lythrennau, lle nad yw safle, swydd na chyfoeth yn gwneud gwahaniaeth" Andrew Carnegie

Am gopi o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille, ar d창p sain neu mewn iaith arall, ffoniwch ni ar 01437 776613. Oni nodir yn wahanol o dan y llun, cedwir hawlfraint pob llun gan: Llywodraeth Cymru/ Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli

22


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.