Gwybodaeth Ysgolion i Rieni 2014-15

Page 1

Cyngor Sir Penfro

Gwasanaethau Addysg Derbyniadau i ysgolion yn Sir Benfro

Gwybodaeth i Rieni

2014-2015 Gwasanaeth Derbyniadau i Ysgolion www.pembrokeshire.gov.uk/education


Doc Penfro

Aberdaugleddau

Hwlffordd

Crymych

Y.G. Doc Penfro Ysgol Gymunedol Pennar Ysgol Gatholig Santes Fair

Y.G. Hakin Ysgol Plant Iau Aberdaugleddau Ysgol Babanod a Meithrin y Meads Y.G.Rh. Hubberston Ysgol Gatholig St Ffransis Ysgol Aberdaugleddau

Y.G. Fenton Y.G. Mount Airey Y.G. Prendergast Ysgol Glan Cleddau Ysgol G.Rh. Hwlffordd Ysgol Gatholig Mary Immaculate Y.G. Rh. St Marc Ysgol Arbennig Portfield Ysgol Tasker-Milward Ysgol Syr Thomas Picton

Ysgol Preseli Ysgol y Frenni

Penfro Y.G. Gelli Aur Golden Grove

Y.G. Monkton Priory Ysgol Penfro

Dinbych Y Pysgod Ysgol Babanod GRh Dinbych y Pysgod Ysgol Iau Gymunedol Dinbych y Pysgod Ysgol Gatholig St Teilo’s Ysgol Greenhill

Tyddewi Ysgol Bro Dewi Ysgol Gyfun Dewi Sant

Abergwaun Ysgol Catholig yr enw Sanctaidd Ysgol Bro Gwaun Ysgol Glannau Gwaun

Neyland Ysgol Gymunedol Neyland Gwasanaeth Atgyfeirio Disgyblion


Rhagair Neges gan y Cyfarwyddwr Dros Blant ac Ysgolion

Medi 1af, 2013

Annwyl Riant neu Warcheidwad Bwriad y llyfryn hwn yw eich cynorthwyo i wneud penderfyniadau pwysig ynglŷn ag ysgol i’ch plentyn. Cyn i chi ddweud i ba ysgol y byddai orau gennych i’ch plentyn fynd, mae angen i chi ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd yn y llyfryn hwn a bod yn ymwybodol o’r hyn y gallwch ei wneud a sut i fwrw ati. Hefyd, efallai y byddwch am ymweld ag ysgolion lleol a darllen eu prosbectws ysgol cyn penderfynu pa ysgol y byddai orau gennych i’ch plentyn ei mynychu. Rydym yn ceisio gwneud yn siŵr bod disgyblion yn cael mynd i’r ysgol a ddewiswyd gan eu rhieni, ac mae’r mwyafrif yn llwyddiannus. Fodd bynnag, nid yw hyn yn bosibl bob amser ac mae’r llyfryn hwn yn egluro eich hawliau a’ch cyfrifoldebau. Dylech nodi nad yw’r ffaith bod plentyn yn cael ei dderbyn i ysgol yn awgrymu bod cludiant i’r ysgol honno ac oddi yno yn cael ei ddarparu. Dylech gyfeirio at y wybodaeth berthnasol yn ein polisi cludiant. -1-


Pan fydd eich plentyn wedi dechrau’r ysgol gobeithiaf y byddwch yn rhoi pob cymorth i’ch plentyn gydol ei yrfa yn yr ysgol. Mae’r Cyngor Sir yn awyddus i weld rhieni yn cymryd rhan ymarferol ym maes dysgu eu plentyn. Bydd ysgol eich plentyn yn gallu dweud wrthych sut y gallwch gynorthwyo eich plentyn gartref. Mae profiad yn dangos bod y plant sy’n llwyddo orau yn yr ysgol yn elwa ar gefnogaeth a dealltwriaeth dda gan eu rhieni. Cyhoeddir y llyfryn hwn yn flynyddol ac mae’n gywir adeg ei gyhoeddi. Byddwn yn croesawu eich awgrymiadau ar sut i’w wella. Llenwch y ffurflen adborth sydd ar gael ar ein gwefan at y diben hwn. Dymunaf bob llwyddiant i’ch plentyn yn y dyfodol.

Jake Morgan Cyfarwyddwr Dros Blant ac Ysgolion Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1TP Ffôn (01437) 764551 Ffacs (01437) 775838 Gwefan: www.pembrokeshire.gov.uk/education

Mae mwy o gopïau o’r llyfryn hwn ar gael gan Ganolfan Gyswllt y Cyngor Sir: 01437 764551.

I gael copi o’r cyhoeddiad hwn mewn Braille, print mwy,ar dâp sain neu mewn iaith arall ffoniwch Gyngor Sir Penfro ar (01437) 776613.

-2-


Mynegai Tudalen Map yn dangos lleoliad ysgolion Sir Benfro ...................................... y tu mewn i’r clawr blaen Neges gan y Cyfarwyddwr Dros Blant ac Ysgolion ................................................................ 01 Siarter Lleol - Gwasanaeth Derbyn i Ysgolion ........................................................................ 05 Cyfleoedd Cyfartal ................................................................................................................ 07

RHAN 1 - Dewis ysgol a gwneud cais am dderbyniad i) ii) iii) iv) v) vi) vii) viii) ix) x) xi) xii) xiii) xiv)

Pryd gall fy mhlentyn ddechrau’r ysgol? .................................................................... 08 Sut galla i gael lle mewn ysgol i’m plentyn 3 oed? .................................................... 09 Sut mae dewis ysgol i’m plentyn? ............................................................................ 10 Sut mae gwneud cais am le i’m plentyn? .................................................................. 11 Pryd dylwn i wneud cais am le yn yr ysgol o’m dewis? .............................................. 13 A fydd fy mhlentyn yn gymwys i gael cludiant ysgol? ................................................ 14 A oes gan ysgolion derfyn ar nifer y disgyblion y gellir eu derbyn? ............................ 14 Sut mae llefydd ysgol yn cael eu dyrannu? ................................................................ 14 Sut caf i wybod am ganlyniad fy nghais am le mewn ysgol? ...................................... 17 Os byddaf i’n colli’r dyddiad olaf cyhoeddedig ar gyfer derbyniadau, sut rhoddir sylw i’m cais? ...... 17 Alla i wneud cais am ysgol y tu allan i Sir Benfro? .................................................... 18 Beth yw Teuluoedd o Ysgolion? ................................................................................ 18 Beth os ydw i’n dymuno addysg dan ddylanwad yr Eglwys i’m plant? ...................... 19 Sut mae penderfynu ar gategori iaith ysgol? .............................................................. 19

RHAN 2 - Polisïau a’r gyfraith sy’n effeithio ar dderbyniadau i) ii) iii) iv) v) vi) vii) viii) ix) x) xi) xii) xiii) xiv) xv) xvi)

Yn ôl y gyfraith, pa oed sydd yn rhaid i’m plentyn fod i fynychu’r ysgol? .................... 24 Sut mae’r Cyngor Sir yn diwallu fy newis fel rhiant? ................................................ 24 A oes terfyn ar faint dosbarthiadau mewn ysgolion? .................................................. 25 Pam fod angen i chi wybod am gyfrifoldeb rhiant dros fy mhlentyn? .......................... 25 Enw cyfreithiol/hysbys plentyn .................................................................................. 26 Pa ddarpariaeth sydd gennych am blant pobl sydd yn Lluoedd Arfog y DU? .............. 26 Beth yw hawliau plant o dramor? .............................................................................. 27 Beth yw fy hawl i apelio? .......................................................................................... 27 A fydd prydau ysgol ar gael i’m plentyn? .................................................................. 28 Sut galla i gael gwybod am hawl i brydau ysgol am ddim? ........................................ 30 A fydd fy mhlentyn yn gwisgo gwisg ysgol? .............................................................. 30 Pa gymorth ariannol fedraf hawlio? .......................................................................... 31 Pa arholiadau cyhoeddus fydd fy mhlentyn yn eistedd? .............................................. 31 Polisi ar Addysg Anghenion Arbennig.......................................................................... 31 Pa drefniadau amddiffyn plant sydd mewn grym? .................................................... 33 Pa gostau fydd rhaid i mi dalu? ................................................................................ 34 -3-


RHAN 3 - Trosglwyddo rhwng ysgolion i) ii)

Beth yw’r weithdrefn os ydw i am symud fy mhlentyn i ysgol arall? .......................... 35 Sut mae trefnu i’m plentyn drosglwyddo i ysgol uwchradd? ...................................... 35

RHAN 4 - Cludiant ysgol i) Cyflwyniad .............................................................................................................. 37 ii) Pellterau cerdded ...................................................................................................... 37 iii) Ysgol addas .............................................................................................................. 38 iv) Rhieni’n dewis ysgol wahanol .................................................................................. 38 v) Natur y ddarpariaeth gludiant .................................................................................... 38 vi) Llwybrau cerdded diogel .......................................................................................... 38 vii) Ysgolion cyfrwng Cymraeg ........................................................................................ 39 viii) Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ............................................................................ 39 vix) Cludiant i ddysgwyr 16+ oed .................................................................................... 39 x) Disgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig .............................................................. 40 xi) Cludiant ar sail feddygol ............................................................................................ 41 xii) Teithio rhatach .......................................................................................................... 41 xiii) Ysgolion mewn awdurdodau cyfagos ........................................................................ 42 xiv) Newid cyfeiriad ........................................................................................................ 42 xv) Disgyblion o dan oedran ysgol gorfodol .................................................................... 42 xvi) Codau Ymarfer .......................................................................................................... 42 xvii) Pasiau bws .............................................................................................................. 43 xviii) Mannau codi ............................................................................................................ 43 xix) Ymddygiad ar fysiau ysgol ........................................................................................ 43 xx) Difrod ........................................................................................................................ 44 xxi) Cyfrifoldeb rhieni mewn perthynas â chludiant ........................................................ 44 xxii) Amgylchiadau ariannol .............................................................................................. 44 xxiii) Apeliadau cludiant .................................................................................................... 45 xxiv) Adolygu llwybrau cludiant ........................................................................................ 45 xxv) Tywydd gwael .......................................................................................................... 45

RHAN 5 - Dyddiadau tymhorau a gwyliau ysgol 2014-15 ........ 46 Atodiadau Atodiad 1 - Egluro’r derminoleg ...................................................................................... 47 Atodiad 2 - Trefniadau Mynediad a meini prawf gordanysgrifio ar gyfer ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ................................................................................ 48 Atodiad 3 - Cod Ymddygiad i ddisgyblion ar gyfer cludiant o’r cartref i’r ysgol/coleg ........ 58 -4-


Siarter Lleol Gwasanaeth Derbyn i Ysgolion Ym mis Ionawr 2013 roedd 70 ysgol yn Sir Benfro yn gwasanaethu 9298 disgybl oedran cynradd llawn amser a 1039 o rai rhan-amser, a 7704 disgybl oedran uwchradd. Cyngor Sir Penfro yw’r awdurdod derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir yn Sir Benfro ac mae'r Uned Derbyn a Chynllunio Lleoedd yn delio â’r holl dderbyniadau i ysgolion a’r trosglwyddiadau, ac eithrio i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir. Yr Awdurdod Derbyn ar gyfer ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yw corff llywodraethu yr ysgol dan sylw. Gallwch ddisgwyl: ● derbyn cyngor dibynadwy a diduedd ynglŷn ag ysgolion a mynegi dewis ● y bydd eich cais am le mewn ysgol yn cael ei drin yn deg ac yn effeithlon ● y cynigir lle ichi mewn da bryd (yn amodol ar dderbyn eich cais mewn pryd) ● lle yn yr ysgol o’ch dewis oni bai bod mwy o geisiadau na’r nifer derbyn yn caniatau mynediad. Os bydd hyn yn digwydd, bydd yr holl geisiadau yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf gordanysgrifio ● derbyn gwybodaeth am agweddau allweddol ar bolisïau'r Cyngor Sir ynglŷn â derbyniadau a chludiant ysgol ● cael gwybod sut i dderbyn prosbectws ysgol a sut i drefnu ymweliad ag ysgol a gwybodaeth berthnasol arall am ysgolion yn Sir Benfro ● gwybodaeth ynglŷn â'r hawl i apelio os na roddir lle i chi yn yr ysgol o’ch dewis ● gweithdrefn gwyno agored, teg ac effeithiol os nad ydych yn fodlon ar y gwasanaethau a dderbyniwch -5-


Os yw eich plentyn wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol ac nad ydych wedi cael lle yn yr ysgol o’ch dewis mae gennych hawl i apelio i banel apeliadau annibynnol. Mae'n rhaid i chi gyflwyno eich apêl yn ysgrifenedig. Bydd manylion ynglŷn â sut i apelio yn y llythyr sy’n eich hysbysu am y penderfyniad ac mae’r manylion yn y llyfryn hwn hefyd. Os ydych yn anfodlon ar y gwasanaeth a ddarperir gallwch wneud cwyn swyddogol. Mae gan y Cyngor Sir weithdrefn Gwyno, Canmol a Chyflwyno Sylwadau sydd ar gael ar gais.

SYLWER: Mae’r wybodaeth yn y llyfryn yma yn berthnasol ac yn gywir ar adeg ei gyhoeddi. Efallai y bydd rhaid addasu polisi, rheoleiddio, darpariaeth neu adnoddau ar gyfer, neu yn ystod, y flwyddyn academaidd 2014/15. -6-


Cyfleoedd Cyfartal Nid yw polisïau ac arferion y Cyngor Sir ynglŷn â derbyn a throsglwyddo disgyblion a darparu cludiant ysgol yn gwahaniaethol. Maent yn cydymffurfio a’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae gwybodaeth am addysgu Cymraeg a Saesneg yn ysgolion Sir Benfro ar dudalennau 20-23 y llyfryn hwn. Pan fydd eich plentyn yn dechrau’r ysgol gofynnir ichi roi gwybodaeth am ei gefndir ethnig. Gallwch ddewis peidio ag ateb y cwestiynau hyn. Caiff unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych ei thrin yn hollol gyfrinachol ac fe’i defnyddir yn unig er mwyn sicrhau bod gwasanaeth da a theg yn cael ei gynnig i holl aelodau’r gymuned. Mae Cyngor Sir Penfro wedi cytuno ar Strategaeth Fynediad ar gyfer 2013-2016 er mwyn parhau i wella hygyrchedd ysgolion i ddisgyblion anabl. Cyhoeddir hon ar wefan y cyngor sef www.pembrokeshire.gov.uk. Mae’r Cyngor Sir yn darparu cymorth a chanllawiau i ysgolion ar faterion yn ymwneud â hygyrchedd ac, yn arbennig, o ran eu cyfrifoldeb i baratoi Cynllun Mynediad i’r Ysgol. Os ydych o’r farn eich bod wedi cael eich trin yn annheg o safbwynt cyfle cyfartal mewn perthynas â derbyn i ysgol neu gludiant ysgol cysylltwch â’r canlynol: Huw Jones, Swyddog Broffesiynol – Adran Plant ac Ysgolion Ffôn: 01437 775502 E-bost: Huw.jones@pembrokeshire.gov.uk Adran Plant ac Ysgolion, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1TP Mae Cyngor Sir Penfro wedi’i gofrestru o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

-7-


Rhan 1 - Dewis a gwneud cais i)

Pryd gall fy mhlentyn ddechrau’r Ysgol?

Yn Sir Benfro gall plant gael eu derbyn i ysgol gynradd ar ddechrau’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair, pedair neu pump oed. Sylwer fod addysg gorfodol yn dechrau pan fydd y plentyn yn cyrraedd pump oed. Dyddiad pen-blwydd eich plentyn sy’n penderfynu pryd y gall ddechrau’r ysgol, ni waeth beth yw dyddiad dechrau’r tymor. Mae’r tabl isod yn dangos pryd y gall eich plentyn gael ei dderbyn i ysgol. Pen-blwydd y plentyn 1 Ebrill - 31 Awst 2014 1 Medi - 31 Rhag 2014 1 Ion - 31 Mawrth 2015 1 Ebrill - 31 Awst 2015

Tymor Derbyn Hydref 2014 Gwanwyn 2015 Haf 2015 Hydref 2015

Mae’r rhan fwyaf o ardaloedd Sir Benfro yn cael eu gwasanaethu gan ysgolion cynradd sy’n darparu ar gyfer disgyblion o 3+ i 11 oed a gall plant fynychu yn llawn amser pan fyddant yn bedair oed, neu’n rhan-amser yn dair oed yn yr ysgolion hynny sy’n gallu derbyn rhai tair oed. Pan fydd trefniadau’n bodoli rhwng ysgolion a darparwyr preifat, gall disgyblion ddechrau yn yr Ysgol ar ddechrau’r ail neu trydydd tymor yn dilyn penblwydd y plentyn yn dair oed. Dylech gysylltu a’r ysgol er mwyn cael gwybodaeth am ei trefniadau penodol. Mae disgyblion yn cael eu derbyn i ddosbarthiadau derbyn ar ôl cyrraedd pedair oed ac maent yn cael eu hannog yn gryf i fynychu’n llawn amser er mwyn elwa’n llawn o addysg a phrofiadau’r Cyfnod Sylfaen. Gwelir ystod oedran pob ysgol yn y rhestr ysgolion sydd yn mynd gyda’r llyfryn hwn.

-8-


ii) Sut galla i gael lle mewn ysgol i’m plentyn tair oed? Mae hawl gan bob plentyn tair oed yng Nghymru i gael lle addysgol rhan-amser am ddim am o leiaf ddeg awr yr wythnos. Fel arfer, bydd hwnnw ar gael yn eich ysgol ddalgylch, ond os nad yw eich ysgol leol yn derbyn plant tair oed gallwch gael lle rhan-amser am ddim mewn canolfan a gymeradwywyd gan Bartneriaeth Datblygiad y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn y sector nas cynhelir, e.e. meithrinfa preifat. Dim ond un lle sydd ar gael ar gyfer pob plentyn. Bydd angen i chi ddarparu llungopi o dystysgrif geni eich plentyn pan fyddwch yn gwneud cais am le rhan-amser mewn ysgol. Gellir cael rhagor o wybodaeth am lefydd y blynyddoedd cynnar yn y sector nas cynhelir gan y canlynol: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) Sir Benfro Y Ganolfan Dechrau’n Deg, Cross Park, Pennar, Doc Penfro SA72 6SW Ffôn: 01437 775700 E-bost: fis@pembrokeshire.gov.uk Wê: www.pembsfamilyinfo.co.uk Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) yn wasanaeth diduedd, am ddim sy’n cynnig gwybodaeth fanwl ynglŷn â’r ddarpariaeth gofal plant gofrestredig yn Sir Benfro yn ogystal â gwybodaeth gyffredinol am amrywiaeth mawr o wasanaethau ar gyfer plant 0 - 19 oed a’u teuluoedd yn y sir. Menter gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau’n Deg sydd â’r nod o roi cychwyn gwell i blant 0-3 oed. Ardal darged Dechrau’n Deg yn Sir Benfro yw Penfro, Doc Penfro a Aberdaugleddau, yn seiliedig ar ddalgylchoedd yr ysgolion canlynol: ● ● ● ● ●

Ysgol GS Doc Penfro Ysgol GS Pennar Ysgol GS Gelli Aur / Golden Grove (lleoliad dwyieithog) Ysgol GS Monkton Priory Ysgol Babanod Y Meads -9-


Nod y prosiect yw cynorthwyo plant a theuluoedd trwy ddarparu: ● ymwelwyr iechyd ychwanegol - bydd hyn yn galluogi ymwelwyr iechyd i leihau eu baich achosion yn yr ardal a darparu amrywiaeth ehangach o gefnogaeth; ● rhaglen sgiliau rhianta un i un neu mewn grŵp; ● rhaglen sgiliau sylfaenol megis iaith a chwarae a gynigir mewn gwahanol leoliadau; ● Swyddog Gwybodaeth i gynnig gwybodaeth i rieni am y prosiect; ● mae gofal plant ar gael trwy grwpiau chwarae sy’n cynnig gofal plant am ddim i blant sy’n byw yn yr ardal Dechrau’n Deg; bydd hyn ar gael am 2½ awr y dydd, hyd at bum niwrnod yr wythnos, 42 wythnos y flwyddyn. Bydd gofal plant am ddim ar gael i rieni sy’n gweithio trwy eu meithrinfa ddydd neu warchodwyr plant. Hefyd mae modd i chi gael eich cyfeirio at warchodwyr plant gan ymwelydd iechyd. Yn ystod 2012-2015 mae Llywodraeth Cymru yn cynnig dyblu nifer y plant yn Sir Benfro sy’n gallu elwa o’r Rhaglen Dechrau’n Deg. Yn ogystal ag ymestyn i ardal Aberdaugleddau, fydd y darpariaeth yn ymestyn i ardaloedd targedig yn Hwlffordd yn ystod 2014-15. iii) Sut mae dewis ysgol i’m plentyn? Mae pob ysgol yn Sir Benfro yn gwasanaethu ardal wedi’i diffinio, a elwir yn ddalgylch. Yr eithriad i hwn yw Ysgol y Preseli. Gan mai hon yw’r ysgol uwchradd ddwyieithog dynodedig am y Sir, mae’n gwasanethu’r holl ddisgyblion sydd yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn ysgolion gynradd y Sir (gweler Tud 20-23). Mae manylion yr ardal y mae pob ysgol yn ei gwasanaethu ar gael yn yr ysgol, neu ar wefan y Cyngor Sir. Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol ddalgylch sy’n gwasanaethu eu hardal, ond efallai y byddwch chi’n dewis ffafrio ysgol wahanol. Cyn gwneud hynny, dylech ddarllen yr adrannau Teuluoedd o Ysgolion (Tud 18) a Chludiant Ysgol (Tud 37) yn y llyfryn hwn, sy’n ystyried y goblygiadau addysgol a chludiant pan fydd eich plentyn yn mynychu ysgol o’ch dewis. - 10 -


Mae rhestr o ysgolion yn y llyfryn hwn ac mae hefyd ar gael ar wefan y Cyngor Sir. Mae hon yn dangos: ● ● ● ● ● ●

Ystod oedran pob ysgol Nifer y disgyblion ar y gofrestr Cynhwysedd pob ysgol a’r nifer derbyn Nifer o geisiadau ysgrifenedig a dderbyniwyd am bob ysgol Nifer o apelau, a’r nifer oedd yn llwyddiannus Categori iaith pob ysgol

Os ydych yn ystyried symud i ogledd ddwyrain Sir Benfro, mae angen i chi fod yn ymwybodol mai Cymraeg yw prif gyfrwng bywyd a gwaith ysgolion yr ardal honno. Cynghorir chi i gysylltu â’r ysgol rydych chi’n ei hystyried er mwyn cael copi o’i phrosbectws a threfnu gyda’r pennaeth i ymweld â’r ysgol cyn gwneud eich penderfyniad. Hefyd, gallwch gael gwybodaeth annibynnol am berfformiad ysgol trwy fynd i wefan ESTYN er mwyn gweld canfyddiadau ei hadroddiad arolygu diweddaraf. ESTYN yw swyddfa Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru - www.estyn.gov.uk. iv) Sut mae gwneud cais am le i’m plentyn? P’un a ydych am i’ch plentyn fynychu eich ysgol ddalgylch neu ysgol wahanol dylech wneud cais ysgrifenedig i’r Swyddog Derbyniadau. Gallwch ddefnyddio’r ffurflen gais am dderbyniad AD1 sydd ar gael o nifer o adeiladau’r Cyngor Sir, yn cynnwys eich ysgol dewisol; yn ogystal, fedrwch ei lawrlwytho o wefan y Cyngor. Rhaid dychwelyd ceisiadau am lefydd mewn ysgolion cymunedol neu wirfoddol a reolir i’r ysgol briodol neu at y Swyddog Derbyniadau erbyn y dyddiad cau a nodir yn adran 1v) isod. - 11 -


Dylid dychwelyd ceisiadau am dderbyniad i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru neu ysgolion Gatholig at bennaeth yr ysgol dan sylw erbyn y dyddiad cau a nodir yn Atodiad 2. Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid gwneud pob cais am dderbyniad trwy lenwi ffurflen gais. Nodwch fod dweud wrth bennaeth eich ysgol dewisol yn annigonol i sicrhau lle, ac er fedrwch ddychwelyd y ffurflen i’r ysgol honno, ni fydd y Pennaeth yn gallu gwneud penderfyniad ar gynnig lle. Fodd bynnag os ydych am rhoi cais am le yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir gan yr Eglwys yng Nghymru neu ysgol Gatholig, yna fydd modd i’r Pennaeth gwneud y penderfyniad hwn. Gellir ofyn i chi ddarparu prawf o’ch cyfeiriad, e.e. ar ffurf biliau cyfleustodau diweddar, wrth wneud cais am le mewn ysgol. Hefyd, os ydych yn gwneud eich cais cyntaf am le mewn ysgol a gynhelir yn Sir Benfro, bydd angen i chi ddangos copi o dystysgrif geni’r plentyn. Gallwch ddewis ffafrio mwy nag un ysgol. Bydd yr Awdurdod yn dyrannu llefydd yn unol â’r meini prawf gordanysgrifio sydd i’w weld yn adran 1viii. Gallwch fynegi eich bod yn ffafrio addysg trwy gyfrwng y Gymraeg neu ysgol Eglwysig. Os caiff eich plentyn ei dderbyn i addysg ran-amser mewn ysgol, rhaid i chi ail-ymgeisio am le yn yr ysgol pan fydd eich plentyn yn barod i newid i addysg lawn amser. Os oes mwy o geisiadau nag sydd o lefydd llawn amser ar gael, bydd y meini prawf gordanysgrifio a eglurir yn adran 1viii yn berthnasol. Gellir tynnu lle mewn ysgol yn ôl os yw rhiant yn rhoi gwybodaeth anghywir neu dwyllodrus wrth wneud cais am dderbyniad. Gall fod angen i chi ddarparu prawf o’ch cyfeiriad mewn cysylltiad â’ch cais am le mewn ysgol.

- 12 -


v) Pryd dylwn i wneud cais am le yn yr ysgol o’m dewis? Derbyn i Addysg Ran-amser ym mis Ionawr, Ebrill a Medi 2015 Dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni dewis Hysbysu am ganlyniadau ceisiadau

30 Ebrill 2014 Erbyn diwedd mis Gorffennaf 2014

Nid oes hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau sy’n ymwneud â derbyn i’r meithrin

Derbyn i Addysg Llawn Amser ym mis Ionawr, Ebrill a 2015 Dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni dewis Hysbysu am ganlyniadau ceisiadau

30 Ebrill 2014 Erbyn diwedd mis Gorffennaf 2014

Dyddiad cau ar gyfer derbyn apelau statudol

Cyn pen 10 diwrnod gwaith wedi hysbysu

Mae’r hawl i apelio yn berthnasol i lefydd ar gyfer disgyblion oedran ysgol statudol yn unig

Trosglwyddo i Ysgol Uwchradd ym mis Medi 2014 Dosbarthu gwybodaeth drosglwyddo i rieni

Cyn diwedd Tymor yr Hydref 2013

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni dewis

31 Ionawr 2014

Hysbysu am ganlyniadau ceisiadau

Erbyn 31 Mawrth 2014

Dyddiad cau ar gyfer derbyn apelau statudol

Cyn pen 10 diwrnod gwaith wedi hysbysu

Gellir gwneud cais am lefydd mewn dosbarthiadau meithrin a derbyn unrhyw bryd hyd at y dyddiadau cau a nodir. Er mwyn lleddfu’r baich gweinyddol o ymdrin â cheisiadau, dylech ystyried gwneud eich cais ar y cyfle cynharaf a pheidio ag aros tan fod y dyddiad cau yn agos. Nid oes unrhyw driniaeth ffafriol yn cael ei rhoi i geisiadau cynnar. - 13 -


vi) A fydd fy mhlentyn yn gymwys i gael cludiant ysgol? Nid o reidrwydd. Nid yw derbyn plentyn i ysgol yn golygu bod cludiant am ddim yn cael ei ddarparu. Mae darparu cludiant yn fater ar wahân. Nid yw’r Cyngor Sir yn darparu cludiant i ddisgyblion i ysgolion ac eithrio eu hysgol ddalgylch neu eu hysgol agosaf, a hynny dim ond i ddisgyblion cymwys. Rhaid i chi gofio mai chi fydd yn gyfrifol am drefniadau a chostau cludiant os caiff eich plentyn ei dderbyn i ysgol nad yw’n ysgol ddalgylch neu’n ysgol agosaf. Mae Rhan 4 y llyfryn hwn yn egluro ein Polisi Cludiant yn llawn.

vii) A oes gan ysgolion derfyn ar nifer y disgyblion y gellir eu derbyn? Oes. Mae gan bob ysgol uchafswm ac ar sail hwnnw cyfrifir y Nifer Derbyn cyhoeddedig. Rhaid i bob ysgol dderbyn disgyblion hyd at eu nifer derbyn cyhoeddedig. Bydd y nifer derbyn yn adlewyrchu uchafswm yr ysgol ar gyfer pob grŵp blwyddyn a dyrennir lle i’ch plentyn mewn ysgol oni bai ei bod hi’n llawn. Os bydd nifer y ceisiadau yr un peth neu’n llai na’r Nifer Derbyn, bydd yr holl ymgeiswyr yn cael eu derbyn. Os fydd nifer y ceisiadau yn fwy na’r Nifer Derbyn, bydd yr holl geisiadau yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf gordanysgrifio, gyda llefydd yn cael eu cynnig yn unol a hynny. viii) Sut mae llefydd mewn ysgolion yn cael eu dyrannu? Cyngor Sir Penfro yw’r Awdurdod Derbyn ar gyfer yr holl ysgolion cymunedol a gwirfoddol a reolir yn Sir Benfro. Mae polisi derbyn a meini prawf gordanysgrifio'r Cyngor a welir isod yn berthnasol i’r holl ysgolion cymunedol a gwirfoddol a reolir yn Sir Benfro. - 14 -


Bydd plant yn cael eu derbyn i’r ysgol a ddewiswyd pan fo darpariaeth a lle yn caniatáu. Os oes mwy o geisiadau am fynediad i ysgolion cymunedol a gwirfoddol a reolir na’r llefydd sydd ar gael, bydd y Cyngor Sir yn defnyddio’r meini prawf gordanysgrifio canlynol (wedi’u gweithredu yn ôl eu trefn) i flaenoriaethu ceisiadau rhieni sydd wedi dewis yr ysgol:

Meini Prawf Gordanysgrifio ar gyfer Ysgolion Cymunedol a Gwirfoddol a Reolir yn Nhrefn Blaenoriaeth 1. Cyn ddisgyblion a disgyblion presennol sy’n derbyn gofal gan awdurdodau yng Nghymru a Lloegr yn unol ag A.22 Deddf Plant 1989. 2. Disgyblion sy’n byw o fewn y dalgylch y bwriadwyd i’r ysgol ei wasanaethu; 3. Disgyblion sy’n mynychu ysgolion bwydo (h.y. ysgolion babanod sy’n bwydo ysgolion iau neu ysgol gynradd yn yr un “teulu” ag ysgol uwchradd - gweler adran 1il a’r rhestr ysgolion sydd wedi’i mewnosod); 4. Siblingiaid (disgyblion sydd â brodyr neu chwiorydd hŷn neu hanner brodyr neu chwiorydd neu blant sy’n byw ar yr un aelwyd) yn mynychu’r ysgol a ddewiswyd ar adeg eu derbyn; 5. Disgyblion lle bo tystiolaeth eithriadol meddygol neu cymdeithasol, sydd yn cyfiawnhau mynediad i ysgol arbennig (e.e. llythr oddiwrth gweithiwr iechyd broffesiynol. Pan fydd mwy o geisiadau na lleoedd ar gael, bydd blaenoriaeth yn cael ei roi, o dan bob categori gordanysgrifio, i frodyr a chwiorydd genedigaeth luosog (e.e. efeilliaid neu dripledi). Os yw’r plentyn olaf i’w dderbyn hyd at y Nifer Derbyn yn un o enedigaeth luosog, yna bydd yr Awdurdod Derbyn yn derbyn y brodyr/chwiorydd eraill yn ogystal. Yn achos ymgeiswyr cyfartal, cynigir y llefydd i’r disgyblion sy’n byw agosaf at yr ysgol, wedi’i fesur yn ôl y pellter cerdded byrraf o’r gât ysgol agosaf sydd ar gael hyd at y man lle mae annedd breifat y disgybl yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus. - 15 -


Mae’r Cyngor Sir yn defnyddio System Wybodaeth Ddaearyddol (GIS) i gyfrifo pellterau o’r cartref i’r ysgol mewn milltiroedd. Bydd y llwybr teithio byrraf yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio data’r Arolwg Ordnans (AO) o’r man lle mae cartref yr ymgeisydd yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus hyd at y man lle mae mynedfa agosaf yr ysgol yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus. Pennir cyfesurynnau cyfeiriad cartref ymgeisydd trwy ddefnyddio data’r AO a Rhestr Eiddo. Os bydd unrhyw ddadleuon yn codi ynghylch pellterau, bydd swyddog yn mesur y pellter gan ddefnyddio cerbyd sydd ag odomedr wedi’i raddnodi. Mae’n bwysig bod pob cais yn cael ei dderbyn erbyn y dyddiadau a bennwyd fel y gellir eu hystyried gyda’i gilydd ac fel y caiff y meini prawf gordanysgrifio eu gweithredu’n deg a chyfiawn ym mhob achos. Golyga hynny hefyd y gellir ymdrin yn brydlon ag unrhyw apelau ac y gellir gwneud y penderfyniad mewn da bryd cyn y dyddiad y disgwylir i’r plentyn ddechrau’r ysgol. Ni roddir blaenoriaeth i geisiadau cynnar bydd yr holl geisiadau a dderbynnir erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig yn cael eu hystyried gyda’i gilydd. At ddibenion derbyn i ysgolion a chludiant ysgol, ystyrir bod disgyblion yn byw yng nghyfeiriad y rhiant yr oeddent yn byw gydag ef/hi yn y flwyddyn flaenorol. Os bydd y disgybl wedi byw gyda mwy nag un rhiant neu rywun â chyfrifoldeb rhiant, a heb symud yn barhaol i un o’r ddau gyfeiriad, yna bydd y cyfeiriad lle bu’r disgybl yn byw am y nifer mwyaf o ddiwrnodau ysgol yn cael ei ystyried fel y cyfeiriad cartref. Os na fydd y Cyngor Sir yn gallu cynnig lle i blentyn yn yr ysgol o’u dewis yn ystod y cylch derbyn arferol o ganlyniad i ordanysgrifio, rhoddir ei enw ar restr aros tan 31 Awst cyn dechrau’r flwyddyn academaidd berthnasol. Bydd y flaenoriaeth ar gyfer unrhyw lefydd a fydd yn dod ar gael yn cael ei rhoi yn unol â’r meini prawf gordanysgrifio uchod ac nid yn ôl dyddiad cyflwyno’r cais gwreiddiol am le. Gweler Atodiad 2 am feini prawf gordanysgrifio ar gyfer ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir. - 16 -


ix) Sut caf i wybod am ganlyniad fy nghais am le mewn ysgol? Cewch lythyr gan Swyddog Derbyniadau’r Cyngor Sir a fydd yn rhoi canlyniad unrhyw gais am dderbyniad. Os caiff cais ei dderbyn, bydd angen i chi gadarnhau a fyddwch yn derbyn y lle a gynigiwyd neu beidio. Os digwydd i’ch cais gael ei wrthod, bydd y llythyr a dderbyniwch yn amlinellu’r rhesymau dros y penderfyniad a’ch hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad, os yw’n gymwys. x) Os byddaf i’n colli’r dyddiad olaf cyhoeddedig ar gyfer derbyniadau, sut rhoddir sylw i’m cais? Bydd ceisiadau hwyr am lefydd h.y. ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau, yn cael eu hystyried ar ôl yr holl geisiadau a dderbyniwyd mewn pryd (oni bai bod rhesymau eithriadol pam fo’r cais yn hwyr, y mae’n rhaid eu hegluro adeg gwneud y cais). Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried ar sail y meini prawf gordanysgrifio, gan ystyried nifer y disgyblion presennol/darpar ddisgyblion pan wneir y cais. Bydd hyn yn golygu os yw’r ysgol a ddewiswyd gennych wedi derbyn gormod o geisiadau, hyd yn oed os ydych yn gwneud cais er mwyn i’ch plentyn fynychu’r ysgol ddalgylch, y gallech fod yn llai tebygol o gael lle wedi’i ddyrannu os yw eich cais yn hwyr. Os ydych yn ailfeddwl am eich dewis o ysgol ar ôl cyflwyno’ch cais gwreiddiol rhaid i chi hysbysu’r Swyddog Derbyniadau yn ysgrifenedig. Os gwneir y penderfyniad hwn ar ôl y dyddiad cau cyhoeddedig, yna caiff eich cais am eich dewis newydd ei ystyried yn gais hwyr hyd yn oed os cafodd eich cais gwreiddiol ei dderbyn mewn pryd.

- 17 -


xi) Alla i wneud cais am ysgol y tu allan i Sir Benfro? Gallwch, ond yn yr achos hwn, dylech wneud cais i’r Cyngor sy’n cynnal yr ysgol o’ch dewis. Mae pob Cyngor Sir yn cynhyrchu llyfryn gwybodaeth i rieni ac yn cynnwys meini prawf a chanllawiau ar gyfer gwneud cais. Os ydych am wneud cais am le mewn ysgol yn un o’n hardaloedd Cyngor Sir cyfagos, dyma sut y dylid gwneud cais: Sir Gaerfyrddin Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Caerfyrddin Adran Addysg a Phlant, Adeilad 2, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin SA31 3HB Ffôn: 01267 246500

Ceredigion Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cymunedol Cyngor Sir Ceredigion Adran Addysg a Gwasanaeth Cymunedol Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth SY23 3UE Ffôn: 01970 617911

xii) Beth yw teuluoedd o ysgolion? Mae ysgolion yn Sir Benfro yn gweithredu ar sail 'teulu o ysgolion' ac mae cydweithredu agos rhyngddynt. Mae pob teulu yn cynnwys ysgol uwchradd a'r ysgolion cynradd sy’n bartneriaid neu sy'n ei bwydo. Nod model y teuluoedd o ysgolion yw cryfhau’r cysylltiadau rhwng ysgolion mewn ffordd sy’n sicrhau cynnydd, parhad a chynhaliaeth i ddisgyblion wrth iddynt symud trwy wahanol gyfnodau eu haddysg. Mae plant fel arfer yn trosglwyddo i’r ysgol gyswllt yn y teulu o ysgolion, ond bydd disgyblion nad ydynt yn mynychu eu hysgol gynradd ddalgylch yn cael cynnig lle yn yr ysgol uwchradd ddynodedig sy’n gwasanaethu eu cyfeiriad cartref. Mae rhai ysgolion cynradd yn 'bwydo' mwy nag un ysgol uwchradd oherwydd bod eu dalgylchoedd yn gorgyffwrdd.

- 18 -


xiii) Beth os ydw i’n dymuno addysg dan ddylanwad yr Eglwys i’m plant? Mae gwybodaeth gyffredinol am ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir (yr Eglwys yng Nghymru ac ysgolion Catholig) ar gael gan y Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol priodol. Dyma’r cyfeiriadau a’r manylion cyswllt: Yr Eglwys yng Nghymru Y Parch. Bryan Witt Cyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth Y Ficerdy, Heol y Bont, Sanclêr, Caerfyrddin SA33 4EE Ffôn: 01994 230266

Yr Eglwys Gatholig Mr Bernard Stuart Cyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth Y Swyddfa Lysol 27 Heol y Cwfaint Abertawe SA1 2BX Ffôn: 01792 652757 Ffacs: 01792 458641 e-bost: education@menevia.org

Corff llywodraethu’r ysgol dan sylw fydd yn ymdrin â derbyn disgyblion i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir. Dylid gwneud ceisiadau am lefydd mewn unrhyw un o’r ysgolion hyn yn uniongyrchol i’r ysgol. Mae gan yr ysgolion hyn eu meini prawf gordanysgrifio eu hunain, a cheir manylion y rhain yn Atodiad 2. xiv) Sut mae penderfynu ar gategori iaith yr ysgol? Mae’r Cyngor Sir yn credu’n gryf mewn gwerth addysgol caffael dwy iaith. Nod y polisi dwyieithog hwn yw addysgu disgyblion fel eu bod yn gwbl ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg wrth adael yr ysgol gynradd, fel eu bod yn gallu cymryd rhan yn llawn yn y gymuned ddwyieithog y maent yn rhan ohoni. Mae addysg Cyfrwng Cymraeg ar gael yn Sir Benfro, naill ai mewn ysgolion cymunedol yn yr ardaloedd traddodiadol Cymraeg eu hiaith yng Ngogledd Sir Benfro, neu mewn ysgolion neu unedau cyfrwng Cymraeg dynodedig yng Nghanolbarth a De’r Sir. Mae gan bob ysgol gategori iaith sy’n diffinio i ba raddau y mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu haddysgu yn Ysgolion Sir Benfro. - 19 -


Ysgol Drosiannol

TR

Dwy Ffrwd

DS

Cyfrwng Cymraeg

WM

CA2 – defnyddir y ddwy iaith ond gyda mwy o bwyslais ar Gymraeg– 50% -70%

Cyfnod Sylfaen – meysydd dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf.

Mae Cymraeg yn brif gyfrwng neu Saesneg yn brif gyfrwng yn bodoli gyda’i gilydd yn yr ysgolion hyn

Cyfnod Sylfaen – trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyfnod Allwedd 2 (CA2) – o leiaf 70% o’r addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cwricwlwm

Cymraeg yw iaith gwaith pob dydd yr ysgol. Blaenoriaeth fawr i greu ethos Cymraeg. Mae’r ysgol yn cyfathrebu gyda rhieni yn y ddwy iaith.

Defnyddir Cymraeg a Saesneg yng ngwaith pob dydd yr ysgol. Penderfynir yr iaith gyfathrebu ar sail natur y ddarpariaeth gwricwlaidd. Mae’r ysgol yn cyfathrebu gyda rhieni yn y ddwy iaith

Cymraeg yw iaith cyfathrebu gyda disgyblion ac iaith gwaith yr ysgol o ddydd i ddydd. Mae’r ysgol yn cyfathrebu gyda rhieni yn y ddwy iaith.

Iaith yr Ysgol

Addysgu’r Gymraeg a’r Saesneg yn ysgolion Cynradd Sir Benfro

Efallai y bydd rhai disgyblion, yn enwedig o gartrefi Cymraeg eu hiaith, yn gallu mynd ymlaen i ddarpariaeth uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd pob disgybl wedi cyrraedd yr un safon yn Saesneg â disgyblion mewn ysgolion lle mae Saesneg yn brif gyfrwng.

Ar gyfer disgyblion yn y ffrwd Gymraeg – disgwyliadau arferol fel ar gyfer Categori 1. Ar gyfer disgyblion yn y ffrwd Saesneg – disgwyliadau arferol fel ar gyfer Categori 5.

Bydd disgyblion, beth bynnag yw iaith eu cartref, yn gallu mynd ymlaen i ddarpariaeth uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg ac erbyn diwedd CA2 byddant wedi cyrraedd yr un safon yn Saesneg â disgyblion mewn ysgolion lle mae Saesneg yn brif gyfrwng.

Canlyniadau


Cyfnod Sylfaen – mae pob disgybl yn cael profiad o’r meysydd dysgu trwy gyfrwng Saesneg. CA2 – Addysgir y Gymraeg yn ail iaith. Mae llai nag 20% o’r addysgu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Cyfnod Sylfaen - mae disgyblion yn cael profiad o’r meysydd dysgu yn y ddwy iaith ond gyda mwy o bwyslais ar Saesneg. CA2 - addysgu yn y ddwy iaith ond gyda mwy o bwyslais ar Saesneg. Cymraeg yn gyfrwng addysgu neu ddysgu - rhwng 20% a 50% o’r cwricwlwm cynradd yn gyffredinol

Cyfnod Sylfaen: 3-7 oed Cyfnod Allweddol 2: 7-11 oed

Ysgol Cyfrwng Saesneg

EM

Cyfrwng Saesneg gyda defnydd sylweddol o Gymraeg

EW

Cwricwlwm

Saesneg yw iaith gwaith pob dydd yr ysgol – rhywfaint o gyfathrebu yn Gymraeg gyda disgyblion er mwyn gwella eu gallu i ddefnyddio Cymraeg pob dydd. Mae’r ysgol yn cyfathrebu gyda rhieni un ai yn Saesneg neu yn y ddwy iaith.

Penderfynir iaith neu ieithoedd pob dydd yr ysgol gan gynnwys ieithyddol yr ysgol. Defnyddir y ddwy iaith i gyfathrebu gyda disgyblion a gweinyddu’r ysgol. Blaenoriaeth fawr i greu ethos Cymraeg. Mae’r ysgol yn cyfathrebu gyda rhieni yn y ddwy iaith.

Iaith yr Ysgol

Disgwylir fel arfer y bydd disgyblion yn trosglwyddo i ddarpariaeth uwchradd trwy gyfrwng Saesneg ac y byddant yn parhai i ddysgu yn bennaf trwy gyfrwng Saesneg, ac yn dysgu’r Gymraeg fel ail iaith.

Disgwylir fel arfer y bydd disgyblion yn mynd ymlaen i ddarpariaeth uwchradd trwy gyfrwng Saesneg, ond y bydd eu sgiliau’n well yn y Gymraeg yn ail iaith. Rhai disgyblion yn gallu dilyn nifer gyfyngedig o bynciau trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg

Canlyniadau


CH

CB

BB

AB

Dwyieithog

Cyfrwng Cymraeg

EW

Mae 4 o israniadau i’r categori hwn yn ôl y pynciau a addysgir trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ac a oes darpariaeth gyfochrog yn Saesneg. 2A Addysgir o leiaf 80% o’r pynciau (heblaw Saesneg a Chymraeg) trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn unig i bob disgybl. Addysgir un neu ddau o bynciau i rai disgyblion yn Saesneg neu’r ddwy iaith. 2B Addysgir o leiaf 80% o’r pynciau (heblaw Saesneg a Chymraeg) trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ond addysgir hwy hefyd trwy gyfrwng Saesneg. 2C Addysgir 50-79% o’r pynciau (heblaw Saesneg a Chymraeg) trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ond addysgir hwy hefyd trwy gyfrwng Saesneg. 2CH Addysgir pob pwnc (heblaw Saesneg a Chymraeg) i bob disgybl yn y ddwy iaith.

Addysgir pob pwnc heblaw Saesneg trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg i bob disgybl. Gall rhai ysgolion gyflwyno terminoleg Saesneg mewn un neu ddau o bynciau

Cwricwlwm

Penderfynir iaith neu ieithoedd pob dydd yr ysgol trwy ei chyd-destun ieithyddol. Defnyddir y ddwy iaith i gyfathrebu gyda disgyblion a gweinyddu’r ysgol. Rhoddir blaenoriaeth fawr i greu ethos Cymraeg. Mae’r ysgol yn cyfathrebu gyda rhieni yn y ddwy iaith.

Cymraeg yw iaith cyfathrebu gyda disgyblion a gwaith pob dydd yr ysgol. Mae’r ysgol yn cyfathrebu gyda rhieni yn y ddwy iaith

Iaith yr Ysgol

Ar gyfer disgyblion yn 2A, 2B a 2C sy’n dilyn y nifer fwyaf o gyrsiau trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, byddai’r asesu yn CA3 ac CA4 trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn y pynciau hynny ac y byddent yn gallu symud ymlaen i ddarpariaeth ôl-16 trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg mewn pynciau a ddewisir. Ar gyfer disgyblion yn 2CH bydddai’r asesu yn CA3 ac CA4 trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ym mhob pwnc heblaw Saesneg ac y byddent yn gallu symud ymlaen i ddarpariaeth ôl-16 trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg mewn pynciau a ddewisir.

Bydd yr asesu yn Cyfnod Allweddol 3 (CA3) CA3 ac Cyfnod Allweddol 4 (CA4) trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ym mhob pwn heblaw Saesneg neu ieithoedd eraill. Bydd disgyblion yn gallu mynd ymlaen i ddarpariaeth ôl -16 Cyfrwng Cymraeg

Canlyniadau

Addysgu Cymraeg a Saesneg mewn Ysgolion Uwchradd Sir Benfro


Addysgir disgyblion yn bennaf trwy gyfrwng Saesneg. Gellid addysgu Cymraeg a addysgir yn ail iaith hyd at CA4 (gallai gynnwys Cymraeg yn iaith gyntaf) trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg neu drwy ddefnyddio’r ddwy iaith

Addysgir yn y ddwy iaith gan addysgu 20-49% o’r pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai pop pwnc yn cael ei ddysgu fel arfer hefyd trwy gyfrwng Saesneg

Cyfnod Allweddol 3: 11-14 oed Cyfnod Allweddol 4: 14-16 oed

Ysgol cyfrwng Saesneg

EM

Cyfrwng Saesneg gyda defnydd sylweddol o Gymraeg

EW

Cwricwlwm

Saesneg yw iaith bob dydd yr ysgol, ond mae rhywfaint o gyfathrebu yn Gymraeg gyda’r disgyblion, gyda’r nod o wella eu gallu i ddefnyddio Cymraeg pob dydd. Mae’r ysgol yn cyfathrebu gyda rhieni un ai yn y ddwy iaith neu yn Saesneg.

Penderfynir iaith neu ieithoedd pob dydd yr ysgol trwy ei chyd-destun ieithyddol. Defnyddir y ddwy iaith i gyfathrebu gyda disgyblion a gweinyddu’r ysgol. Rhoddir blaenoriaeth fawr i greu ethos Cymraeg. Mae’r ysgol yn cyfathrebu gyda rhieni un ai yn y ddwy iaith neu yn Saesneg

Iaith yr Ysgol

Gellid asesu unrhyw ddisgyblion sy’n cymryd dewisiadau cyfrwng Cymraeg trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn y pynciau hynny ar bob lefel a byddent yn gallu symud ymlaen i astudio ôl-16 trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn y pynciau hynny. Byddai’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cael eu hasesu yn Saesneg ac yn symud ymlaen i astudio ôl-16 trwy gyfrwng Saesneg

Gellid asesu disgyblion sy’n cymryd dewisiadau cyfrwng Cymraeg trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn y pynciau hynny ar bob lefel a byddent yn gallu symud ymlaen i astudio ôl-16 trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn y pynciau hynny.

Canlyniadau


Rhan 2 - Polisïau a’r gyfraith i) Yn ôl y gyfraith, pa oed sydd yn rhaid i’m plentyn fod i fynychu’r ysgol? Rhaid i rieni plant rhwng 5 a 16 oed sicrhau bod eu plant yn derbyn addysg llawn amser addas. Mae plentyn yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol ar ddechrau tymor yn dilyn ei b/phenblwydd yn 5 oed. I’r gwrthwyneb, rhaid i bobl ifanc aros yn addysg llawn amser tan eu bod wedi cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol; y dyddiad gadael ysgol yw’r dydd Gwener olaf yn Mehefin yn y flwyddyn ysgol mae’r plentyn yn cyrraedd 16 oed. ii) Sut mae’r Cyngor Sir yn diwallu fy newis fel rhiant? Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i’r Cyngor Sir wneud trefniadau i rieni fynegi ym mha ysgol y maent am i’w plentyn gael ei addysg, a darparu cyfle i roi rhesymau dros eu dewis cyn cynnig unrhyw lefydd. Rhaid i’r Awdurdod Derbyn ddiwallu eich dewis os yw hynny’n bosib, ond gall rhai ffactorau atal hyn, yn cynnwys: ● defnyddio adnoddau ac adeiladau’n effeithlon ● darparu addysg yn effeithlon

● cyfyngiadau statudol ar faint dosbarthiadau Mae gan bob ysgol Nifer Derbyn, sy’n cael ei ddefnyddio fel canllaw wrth benderfynu a yw unrhyw grŵp blwyddyn mewn ysgol yn llawn neu a oes llefydd ar gael. Os oes mwy o geisiadau nag o lefydd, yna bydd y meini prawf gordanysgrifio yn adran 1viii yn berthnasol. Mae Nifer Derbyn pob ysgol i’w weld yn y rhestr ysgolion yn y llyfryn hwn.

- 24 -


Gall rhieni fynegi dewis ar gyfer addysg eu plant pan fyddan nhw’n: ● 3 oed - dosbarthiadau / unedau blynyddoedd cynnar ynghlwm wrth ysgolion babanod neu gynradd (lle bo'r rhain ar gael). Mae plant tair oed yn mynychu’n rhan-amser yn unig ● 4- 5 oed - Ysgolion babanod neu adrannau babanod ysgolion cynradd ● 7 oed - Ysgolion iau ● 11 oed - Addysg uwchradd iii) A oes terfyn ar faint dosbarthiadau mewn ysgolion? Oes. Ar wahân i rai eithriadau cyfyngedig iawn, dywed y gyfraith na chaiff unrhyw ddosbarth babanod gynnwys mwy na 30 o ddisgyblion sy’n cael eu dysgu gan un athro neu athrawes. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd wedi pennu targed na ddylai unrhyw ddosbarth iau fod yn fwy na 30 o ddisgyblion. iv) Pam fod angen i chi wybod am gyfrifoldeb rhiant dros fy mhlentyn? Mae'n rhaid i ysgolion wybod pwy sydd â ‘chyfrifoldeb rhiant’ ar gyfer pob plentyn. Y rheswm am hyn yw er mwyn sicrhau bod awdurdod priodol yn cael ei roi pan fo angen caniatâd rhieni ar yr ysgol. Bydd yn gwneud yn siŵr hefyd bod unigolion sydd â chyfrifoldeb rhiant nad ydynt yn byw gyda’r plentyn yn gallu derbyn adroddiadau ysgol a chael cyfle i gymryd rhan yn addysg y plentyn, gan fod ganddynt hawl i gael yr wybodaeth hon oni bai bod gorchymyn llys penodol sy’n atal hynny. ● Mae gan famau gyfrifoldeb rhiant bob amser ● Mae gan dadau gyfrifoldeb rhiant am blentyn hefyd os oeddent yn briod â'r fam adeg geni'r plentyn, (ac mae hyn yn parhau wedi unrhyw ysgariad / gwahaniad / ailbriodi) hyd yn oed os yw'r plentyn yn byw ar wahân iddyn nhw. ● Nid oes gan dadau dibriod gyfrifoldeb rhiant yn awtomatig, ond gallant ei gael trwy briodi’r fam neu drwy gofrestru neu ailgofrestru eu henw ar y dystysgrif geni neu drwy’r llysoedd. ● Gall llys-rieni, perthnasau ac unigolion eraill gael cyfrifoldeb cyfreithiol rhiant ond nid ydynt yn ei gael yn awtomatig. Dylech gael gair gyda chyfreithiwr neu Cyngor ar Bopeth os oes angen i chi gael cyfrifoldeb rhiant. - 25 -


Gofynnir i chi gydweithio â staff yr ysgol a’r Swyddog Derbyniadau drwy roi manylion yr unigolion sydd â chyfrifoldeb rhiant dros ddisgybl i’r ysgol. Dylid hysbysu'r ysgol ynglŷn ag unrhyw newidiadau yn y trefniadau am gyfrifoldeb rhiant neu ofal am eich plentyn o ddydd i ddydd. Mae unrhyw gyfeiriad at rieni yn y llyfryn hwn yn cynnwys pawb sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol rhiant dros ddisgyblion. Os oes gan fwy nag un person gyfrifoldeb rhiant dros blentyn, gofynnir i’r unigolyn sy’n llenwi’r cais am le mewn ysgol drafod a chytuno’r cais gyda’r rhai eraill sydd â chyfrifoldeb rhiant, lle wyddys ble maent. Os na wyddys ble mae’r unigolion eraill sydd â chyfrifoldeb rhiant, dylid datgan hynny yn ysgrifenedig. v) Enw cyfreithiol / hysbys plentyn Enw cyfreithiol eich plentyn yw’r hyn sydd ar ei dystysgrif / ei thystysgrif geni. Cofiwch sicrhau mai’r enw hwn a roddir ar bob ffurflen gais am dderbyn a throsglwyddo. Os yw eich plentyn yn cael ei adnabod wrth enw arall, yna dylid cynnwys yr enw hwnnw hefyd ar y ffurflenni perthnasol. Mae gweithdrefnau penodol i’w dilyn ar gyfer newid enw cyfreithiol plentyn, ac mae modd gwneud hyn trwy Weithred Newid Enw neu Ddatganiad Statudol. Mynnwch gyngor cyfreithiol cyn ystyried hyn a gofalwch fod ysgol eich plentyn yn ymwybodol o unrhyw newidiadau wedi hynny i enw cyfreithiol y plentyn trwy ddarparu copi o’r dogfennau perthnasol. vi) Pa ddarpariaeth y byddwch yn ei gwneud ar gyfer personél Lluoedd Arfog y DU? Mae teuluoedd personél Lluoedd Arfog y DU a gweision eraill y Goron yn gorfod symud yn aml o fewn y DU a thramor, yn aml yn gymharol fyr rybudd. O ganlyniad, ystyrir ceisiadau am leoedd ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol sydd i ddod os cânt eu cyflwyno ynghyd â llythyr swyddogol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn neu’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn datgan dyddiad dychwelyd. Yna dyrennir lleoedd ysgol ymlaen llaw os bydd yr ymgeisydd yn bodloni’r meini prawf pan fydd yn symud i’w leoliad newydd. Derbynnir hefyd gyfeiriad post uned gan bersonél y lluoedd arfog os na fydd cyfeiriad cartref newydd ar gael. - 26 -


vii) Beth yw hawliau plant o dramor? Mae gan blant o dramor sy’n preswylio’n gyfreithlon yn y DU, boed hynny gyda’u rhieni neu hebddynt, yr un hawliau i addysg â phlant sy’n Ddinasyddion Prydeinig. O ganlyniad, bydd y Cyngor Sir yn trin ceisiadau o’r fath am gael eu derbyn i ysgolion yn yr un modd. Fodd bynnag, mae’n rhaid darparu pasbort yr ymgeisydd i ddangos tystiolaeth o Ddinasyddiaeth Brydeinig neu Breswyliad Cyfreithiol yn y DU ac er bod copi o’r ‘Cliriad Mynediad’ perthnasol yn dderbyniol fel arfer, mae’r Cyngor Sir yn cadw’r hawl i ofyn am weld yr un gwreiddiol. viii) Beth yw fy hawl i apelio? Os na ddyrannir lle i’ch plentyn yn yr ysgol o’ch dewis, yna cynigir lle mewn ysgol arall. Rhaid i chi benderfynu a ydych am dderbyn y lle arall neu apelio i Banel Apêl annibynnol. Fodd bynnag, dim ond pan fydd eich plentyn wedi cyrraedd oedran ysgol statudol y gellir cyflwyno apêl. Rhaid i apelau gael eu cyflwyno yn ysgrifenedig, gan amlinellu’r rhesymau dros wneud hynny, a’u hanfon at y Cyfarwyddwr dros Plant ac Ysgolion. Plant cyn pen 14 diwrnod (10 diwrnod gwaith) wedi i chi gael eich hysbysu na fu eich cais am le mewn ysgol yn llwyddiannus. Bydd apelau yn cael gwrandawiad ac yn cael eu hystyried gan y Panel Apelau cyn pen 30 diwrnod ysgol wedi’r dyddiad cau penodol ar gyfer derbyn apelau, neu cyn pen 30 diwrnod ysgol o dderbyn yr apêl yn ysgrifenedig os gwneir yr apêl y tu allan i’r broses dderbyn sydd wedi ei hamserlennu. Ceir gwrandawiad ar apelau a dderbynnir yn ystod gwyliau haf yr ysgol o fewn 30 diwrnod gwaith. Bydd gennych yr hawl i gyflwyno eich achos i'r Panel yn bersonol. Gall y Panel ganiatáu i chi ddod â ffrind gyda chi neu gael eich cynrychioli; hefyd, caniateir i blant roi tystiolaeth os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae penderfyniad y Panel Apêl yn gorfodi’r Cyngor Sir. Lleol a chyrff llywodraethu ysgolion i ufuddhau. Noder mai dim ond ar gyfer disgyblion sydd wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol y gellir cyflwyno apelau derbyn. Os gwrthodir lle i chi mewn ysgol wirfoddol a gynorthwyir, bydd yr ysgol dan sylw yn dweud wrthych beth yw ei gweithdrefn apelio. - 27 -


ix) A fydd prydau ysgol ar gael i fy mhlentyn? Bydd, darperir prydau ysgol gan Dîm Arlwyo Cyngor Sir Penfro. Mae’r bwydlenni wedi’u dadansoddi o ran maeth ac maent yn cydymffurfio â strategaeth Blas am Oes Llywodraeth Cymru i sicrhau y darperir un rhan o dair o ofynion maeth ag egni dyddiol plentyn. Anogir plant i roi cynnig ar fwydydd newydd ac i fwynhau eu pryd mewn awyrgylch hapus a chymdeithasol. Yn aml, mae eistedd gyda ffrindiau yn helpu bwytawyr ffwslyd i fwyta bwyd na fyddant yn ei fwyta gartref ac mae’n helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a fydd yn hanfodol yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae’r gwasanaeth yn gweithio gyda chyflenwyr i sicrhau bod pob cynhwysyn yn bodloni’r safon uchaf ac nad oes ynddo ychwanegion niweidiol. Daw llawer iawn o’r cynnyrch bwyd o’r ardal leol. Mae gan Prydau Ysgolion Cynradd eu masgot eu hunain, Lenni’r Genhinen. Mae gan Lennie wefan sy’n cynnwys yr holl wybodaeth y mae ei hangen ar unrhyw riant neu blentyn am brydau ysgol. Gallwch ei gweld ymawww.lunchwithlennie.co.uk Ceir dwy fwydlen y flwyddyn sy’n cael eu harddangos yn arwyddion Lenni’r Genhinen yn yr ysgol. Rhoddir llyfryn bwydlen i bob plentyn fynd adref ag ef i’w drafod â’i rieni. Mae’r bwydlenni hefyd ar gael i’w gweld ar ein gwefan www.lunchwithlennie.co.uk Gellir darparu ar gyfer pob gofyniad deietegol arbennig, e.e. llysieuwyr, y rhai a chanddynt ddiabetes, seliag, anoddefiad llaeth neu gnau ar gais ysgrifenedig gan feddyg neu Dietegydd. Gellir lawrlwytho ffurflen a chael rhagor o wybodaeth am ofynion deietegol arbennig o dan yr adran i rieni ar y wefan prydau ysgol www.lunchwithlennie.co.uk Gellir gweld cost bresennol pryd ysgol ar y wefan neu gofynnwch yn yr ysgol. Gellir talu’r ysgol bob tymor, bob pythefnos neu’n wythnosol, - 28 -


ymlaen llaw trwy siec (yn daladwy i “Cyngor Sir Penfro”) neu drwy arian parod. Mae amlenni talu ar gael oddi wrth ysgol eich plentyn. Mae pecynnau cinio ar gael i bob plentyn ar gyfer tripiau ysgol; mae ffurflenni ar gael yn yr ysgol neu ar y wefan. Mae’r Cyngor Sir yn darparu llaeth am ddim i ddisgyblion o dan 7 oed. Mae rhagor o wybodaeth ar gael oddi wrth ysgol eich plentyn. Mae ysgolion uwchradd yn darparu Gwasanaeth Ffreutur Arian Parod. Caiff y bwyd ei goginio’n ffres ar y safle, caiff byrbrydau ysgafn eu gwerthu amser egwyl ac mae byrbrydau iach ar gael mewn peiriannau gwerthu trwy’r dydd. Mae gan ein hysgolion uwchradd bolisi gwerthu iach. Mae system archebu ymlaen llaw ar gael mewn rhai ysgolion uwchradd sydd yn galluogi disgyblion i archebu eu cinio yn ystod yr egwyl ac yna ei gasglu yn y lôn giwio cyflym yn ystod yr awr ginio. Mae un o’n hysgolion uwchradd yn gweithredu system arlwyo heb arian lle rhoddir cerdyn talu i blant a bydd rhieni yn rhoi arian arno. I gael rhagor o wybodaeth am brydau ysgolion uwchradd, edrychwch ar adran y Parth Bwyd ar www.pembrokeshireyouthzone.co.uk Os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol ynghylch bwydlenni yn ysgol eich plentyn neu gwestiynau cyffredinol am wasanaeth prydau bwyd yr ysgol, cysylltwch â’r Adran Arlwyo ar 01437 775912

- 29 -


x) Sut galla i gael gwybod am hawl i Brydau Ysgol am Ddim? Fel rhieni neu gwarcheidwaid, bydd eich plentyn yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim os ydych yn derbyn: ● Cymhorthdal Incwm ● Lwfans Ceiswyr Gwaith - ar sail Incwm yn unig ● Elfen Gwarant Credyd Pensiwn y Wladwriaeth ● Credydau Treth Plant, gydag Incwm Aelwyd sydd dan £16,190 y flwyddyn (noder nad yw Credyd Treth Gwaith yn gymwys hyd yn oed os yw’n cael ei dderbyn ar ben y budd-daliadau hyn) ● Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm yn Unig ● Cefnogaeth o dan ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 Os byddwch yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, anogir chi i lenwi ffurflen gais sydd ar gael yn ysgol eich plentyn, yng Nghanolfannau Gwasanaeth Cwsmeriaid y Cyngor Sir neu y gellir ei lawrlwytho o wefan y Cyngor. Gallwn eich sicrhau bod staff ysgolion a swyddogion y Cyngor Sir ar gael i’ch cynorthwyo i lenwi ffurflenni cais. xi) A fydd fy mhlentyn yn gwisgo gwisg ysgol? Mae llawer o ddisgyblion ysgolion cynradd a disgyblion pob ysgol uwchradd yn Sir Benfro yn gwisgo gwisg ysgol. Bydd ysgol eich plentyn yn rhoi manylion i chi yn rhan o’i phrosbectws. Gallai grantiau Gwisg Ysgol tuag at gost gwisg ysgol uwchradd fod ar gael os yw rhieni yn cael prydau ysgol am ddim i’w plant neu’n cael budd-daliadau penodol eraill. Nid yw gwisg ysgol yn orfodol mewn ysgolion cynradd, ac nid oes grantiau am ddillad ar gael i ddisgyblion o oedran ysgol gynradd. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y grantiau sydd ar gael a ffurflenni cais trwy ffonio 01437 764551, neu drwy ysgrifennu i’r Gwasanaethau Refeniw, Neuadd y Sir, Hwlffordd SA61 1TP. - 30 -


xii) Pa gymorth ariannol y gallwn fod yn gymwys i’w gael? Os yw eich plentyn yn aros yn yr ysgol ar ôl yr oedran gadael statudol, gallai fod yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg Llywodraeth Cymru. Mae’r budd-dal yn ddibynnol ar brawf modd a bydd arnoch angen darparu manylion am eich incwm. Mae ffurflenni cais ar gael gan ysgol uwchradd eich plentyn neu ar wefan Lwfans Cynhaliaeth Addysg Cymru www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk Ceir gwybodaeth am gael cymorth ariannol ar gyfer dillad ysgol uwchradd a phrydau ysgol ym mharagraffau (x) a (xi) o’r adran hon. xiii) Pa arholiadau cyhoeddus y bydd fy mhlentyn yn eu sefyll? Mae pob arholiad cyhoeddus a drefnir ar gyfer eich plentyn yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a chânt eu cymeradwyo gan y Gronfa Ddata Cymwysterau Cymeradwy yng Nghymru. Yr ysgol sy’n penderfynu cofrestru eich plentyn ar gyfer arholiadau cyhoeddus. Mae’n rhaid talu ffi am bob arholiad ac mae’r ysgol yn talu’r gost hon pan gaiff eich plentyn ei gofrestru am y tro cyntaf. Os yw eich plentyn yn colli arholiad heb reswm meddygol dilys, yna chi fydd yn gyfrifol am dalu’r ffi. Yn yr un modd, gallech fod yn gyfrifol am dalu’r ffi am ailsefyll arholiadau. Fodd bynnag, bydd yr ysgol yn gallu darparu rhagor o fanylion i chi am y materion hyn. Bydd pob ysgol yn rhoi manylion eu canlyniadau arholiadau cyhoeddus i chi os gofynnwch amdanynt. Yn ogystal â’r uchod, yn rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i wella safonau llythrennedd a rhifedd, bydd yn ofynnol i bob dysgwr ym mlynyddoedd 2 i 9 (7-14 oed) gael ei asesu’n flynyddol trwy ddefnyddio profion darllen a mathemateg cenedlaethol. Bydd y rhain yn dechrau yn 2013.

- 31 -


xiv) Beth os oes gan fy mhlentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol? Bydd pob ysgol yn anelu tuag at fodloni anghenion disgyblion a chanddynt amrywiaeth eang o anghenion dysgu. Gallai plant a chanddynt anghenion dysgu ychwanegol gynnwys plant a chanddynt anawsterau dysgu neu anghenion addysgol arbennig, plant sy’n derbyn gofal, gofalwyr ifanc, plant o gefndir lleiafrifol ethnig a chanddynt y Gymraeg neu’r Saesneg fel iaith ychwanegol, plant mewn angen a phlant a chanddynt anableddau corfforol. Lle bynnag y bo’n bosibl, caiff plant a chanddynt anghenion dysgu ychwanegol eu haddysgu yn yr ysgol leol, ochr yn ochr â’u cyfoedion lle gallant elwa o amrywiaeth eang o ddulliau cymorth o fewn agwedd ysgol gyfan tuag at gynhwysiant. Mae ysgolion yn cydweithio’n agos a’u Llywodraethwr sydd a cyfrifoldeb dros anghenion ychwanegol. Mae’n bwysig adnabod ac asesu plant a chanddynt anghenion dysgu ychwanegol yn gynnar yn eu cyfnod ysgol. I rai, bydd hyn wedi’i wneud cyn iddynt gael eu derbyn i’r ysgol. Mewn ysgolion, mae gan athrawon dosbarth rôl bwysig o ran helpu i nodi anghenion dysgu ychwanegol eu disgyblion a chaiff hyn ei wneud yn aml trwy ddefnyddio arbenigedd staff yr ysgol. Bydd cefnogaeth aml-asiantaeth yn cael ei benderfynu gan natur anghenion y plentyn unigol. Mae athrawon arbenigol a seicolegwyr addysg yn gweithio gydag ysgolion i gynorthwyo’r broses o nodi a bodloni anghenion dysgu ychwanegol plant na ellir bodloni eu hanghenion yn yr ysgol yn unig. Mae’r plant hyn ar gam ym mhroses ymateb graddedig yr ysgol a elwir yn Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy. Rhyngddynt, mae gan yr athrawon a’r seicolegwyr wybodaeth a phrofiad ynghylch seicoleg addysg, anawsterau dysgu penodol a chyffredinol, anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu a rheoli ymddygiad. Mae athrawon arbenigol a staff cymorth a chanddynt gymwysterau ym meysydd nam gweledol, clywedol, corfforol, ASA (Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig) ac amlsynnwyr hefyd ar gael i weithio mewn ysgolion. - 32 -


Mae gan bob ysgol arian ychwanegol yn ei chyllideb i helpu i fodloni anghenion y rhan fwyaf o ddisgyblion a chanddynt anghenion addysgol arbennig, ac mae gan bob ysgol Gydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig neu Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol a all ddarparu cyngor a chymorth i staff a phlant mewn ysgolion a chysylltu ag asiantau allanol. Ar gyfer y nifer fach iawn o ddisgyblion a chanddynt anghenion addysgol difrifol a chymhleth, ystyrir gwneud datganiad o anghenion addysgol arbennig. Caiff llawer o’r disgyblion hyn eu haddysgu mewn ysgolion prif ffrwd ond maent yn cael cymorth ychwanegol neu cânt eu haddysgu mewn unedau anghenion cymhleth yn rhai o’n hysgolion lle darperir lefel o ffocws uwch o gymorth. Mae rhai plant a chanddynt ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig yn mynd i Ysgol Arbennig Portfield, ac yn yr achosion mwyaf difrifol, mae’n bosibl y byddent yn cael eu haddysgu mewn darpariaeth arbenigol y tu allan i Sir Benfro, dan nawdd y Cyngor Sir. Os ydych yn pryderu y gallai eich plentyn fod ag anghenion addysgol arbennig, dylech yn gyntaf siarad ag athro’r dosbarth, y pennaeth neu Gydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig neu Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol. Mae cyfathrebu rhwng yr ysgol a rhieni yn hanfodol ar bob cam. Gallwch hefyd gysylltu â swyddogion anghenion addysgol ychwanegol a chynhwysiant y Cyngor Sir a all ddarparu gwybodaeth i rieni plant oed ysgol a phlant oed cyn-ysgol. Gellir cysylltu â nhw trwy ffonio 01437 764551. xv) Pa drefniadau amddiffyn plant sydd ar waith Gofal a lles disgyblion yw un o’r prif bryderon i bob ysgol a cheir Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan y mae’n rhaid i staff ysgol eu dilyn er mwyn diogelu a hyrwyddo lles plant. Mae gan bob ysgol athro penodol a chanddo gyfrifoldeb am ddelio â materion - 33 -


amddiffyn plant ac am ddelio ag achosion unigol o amheuaeth o gam-drin. Os ceir amheuaeth o gam-drin, mae’r ysgol yn gorfod cyfeirio’r mater at y Tîm Asesu Gofal Plant o fewn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn iddo gynnal ymchwiliad. Er mwyn amddiffyn a diogelu plentyn, bydd weithiau yn hanfodol i gysylltu â’r Tîm Asesu Gofal Plant heb roi gwybod i’r rhieni. Mae gan yr ysgol ddyletswydd statudol i weithredu er lles y plentyn. Mae hwn yn faes gwaith sensitif ac mae cymorth rhieni yn bwysig pan fo ysgolion yn gweithredu i ddiogelu plant. Gallwch fod yn dawel eich meddwl bod staff ysgolion yn gweithio gan ganolbwyntio ar les eich plentyn. xvi) Pa gostau y mae’n bosibl y bydd rhaid i mi eu talu? Yn ystod cyfnod eich plentyn yn yr ysgol, mae’r rhan fwyaf o’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnig gan yr ysgol yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, ceir achlysuron lle gofynnir i chi wneud cyfraniad tuag at y costau. Gellir cael gwybodaeth am bolisi ysgol ynghylch codi tâl a pheidio â chodi tâl ar gyfer gweithgareddau ysgol gan Bennaeth yr ysgol o dan sylw.

- 34 -


Rhan 3 - Trosglwyddo rhwng ysgolion i) Beth yw’r weithdrefn os ydw i am symud fy mhlentyn i ysgol arall? Mae’r Cyngor yn barod i ystyried ceisiadau am drosglwyddo rhwng ysgolion ar adegau ar wahân i amserau derbyn arferol. Fodd bynnag, os ydych yn ceisio trosglwyddo eich plentyn, rhaid ichi drafod hyn yn gyntaf gyda phennaeth presennol eich plentyn neu bennaeth y flwyddyn mewn ysgol uwchradd. Dylech hefyd gysylltu â phennaeth yr ysgol y dymunwch i’ch plentyn fynd iddi. Gan nad yw trosglwyddo yn ystod y tymor yn cael ei annog, trosglwyddir fel arfer ar ddechrau tymor yn unig, ac eithrio pan fo’r sefyllfa’n codi am fod y teulu wedi newid cyfeiriad. Rhaid llenwi’r ffurflen gais am drosglwyddo, ffurflen TR1, ym mhob achos, ac mae hon ar gael ar wefan y Cyngor Sir neu ar gais. Os ydych yn gwneud cais am drosglwyddo oherwydd eich bod yn pryderu ynglŷn â chynnydd eich plentyn neu oherwydd bod unrhyw broblemau yn ysgol eich plentyn, fel cam cyntaf dylech drafod y mater gyda phennaeth yr ysgol bresennol. Mae newid ysgolion yn gallu bod yn brofiad anodd i ddisgyblion a gall darfu ar drefniadaeth dosbarthiadau. Dylid gwneud hyn pan fydd popeth arall wedi methu, ac ni ddylid ei ystyried hyd nes y rhoddwyd sylw priodol i’r holl ffyrdd posibl eraill o ddatrys problemau. Mae’n arferol i Swyddog Cymorth Disgyblion drafod cais am drosglwyddo gyda rhieni. Mae llyfryn o’r enw “Newid Ysgolion - Canllaw i Rieni” yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol am y broses drosglwyddo ac unrhyw oblygiadau posibl. Mae ar gael ar gais gan y Swyddog Derbyniadau neu yn ysgol eich plentyn, neu gellir ei lawrlwytho o wefan y Cyngor. ii) Sut mae trefnu i’m plentyn drosglwyddo i ysgol uwchradd? Mae ysgolion uwchradd Sir Benfro yn cynnig addysg gyfun i ddisgyblion o bob gallu rhwng 11 a 18 oed. Mae trosglwyddo o addysg gynradd i addysg uwchradd yn digwydd fel arfer ym mis Medi yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn un ar ddeg oed. Gall Pennaeth ysgol gynradd - 35 -


eich plentyn roi gwybodaeth i chi ynglŷn â’r ysgol uwchradd y dylai eich plentyn ei mynychu fel arfer. Mae manteision addysgol i fynychu’r ysgol sy’n gysylltiedig ag ysgol gynradd y plentyn fel rhan o’r “teulu o ysgolion” (adran 1xii). Byddwn yn anfon pecyn trosglwyddo i’r ysgol uwchradd atoch trwy ysgol gynradd eich plentyn tua diwedd tymor yr Hydref cyn y disgwylir i’ch plentyn symud i ysgol uwchradd. Gofynnir i chi fynegi eich dewis o ysgol uwchradd erbyn diwedd y mis Ionawr canlynol. Bydd y rhain yn cael eu hystyried ym mis Chwefror/Mawrth a chewch eich hysbysu am y canlyniad ddiwedd mis Mawrth. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol yr ystyrir trosglwyddo disgyblion i addysg uwchradd cyn eu pen-blwydd yn un ar ddeg neu roi caniatâd iddynt aros yn yr ysgol gynradd wedi 11 oed, a hynny ar argymhelliad Seicolegydd Addysg y Cyngor Sir. Mae’r dyddiadau cau a’r gweithdrefnau arferol ar gyfer trosglwyddo i ysgol uwchradd hefyd yn berthnasol yn achos ceisiadau am drosglwyddo’n gynnar i ysgol uwchradd. Os oes mwy o geisiadau am lefydd na’r llefydd sydd ar gael bydd y meini prawf gordanysgrifio yn adran 1viii) yn berthnasol. Ni ddylech ragdybio y bydd mynychu unrhyw ddiwrnod neu noson agored ar gyfer darpar ddisgyblion uwchradd yn golygu y caiff y plentyn ei dderbyn i’r ysgol neu y caiff cludiant ei ddarparu. Ysgol y Preseli yng Nghrymych yw’r ysgol uwchradd ddwyieithog dynodedig ar gyfer Sir Benfro. O ganlyniad, mae’r ysgol yn unigryw gan ei bod yn gwasanaethu disgyblion tu hwnt i’r talgylch daearyddol uniongyrchol, yn cynnwys y plant hynny sydd yn mynychu Ysgol Gymraeg Glan Cleddau yn Hwlffordd a’r Unedau Iaith yn ne’r Sir. Mae’r ddarpariaeth yma yn ymestyn at ddisgyblion eraill sydd yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn ysgolion Sir Benfro. O ganlyniad, dynodir pob Ysgol gynradd yn Sir Benfro sydd yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg fel ysgol sydd yn “bwydo” Ysgol y Preseli. - 36 -


Rhan 4- Cludiant Ysgol Noder: Mae’r wybodaeth hon yn gywir adeg ei chyhoeddi ond gall newid o ganlyniad i newidiadau yn y gyfraith neu bolisi’r Cyngor Sir.

i)

Cyflwyniad

Mae dyletswydd statudol ar Gyngor Sir Penfro (fel yr Awdurdod Lleol) i ddarparu cludiant am ddim i ddisgyblion oedran ysgol gorfodol i’w hysgol fwyaf addas agosaf a gynhelir os ydynt yn byw yn bellach na’r pellter cerdded statudol. Caiff cludiant am ddim ei ddarparu yn unol â Mesur Teithio gan Ddysgwyr Cymru - Canllawiau Gweithredol a pholisi cludiant ysgolion Cyngor Sir Penfro fel yr amlinellir isod. Mae’r trefniadau hyn yn berthnasol i ddysgwyr sy’n byw yn Sir Benfro neu sy’n cael eu hystyried yn gyfrifoldeb Cyngor Sir Penfro. ii) Pellterau cerdded Bydd yr Awdurdod yn darparu cludiant: 1. os yw plentyn oedran ysgol gorfodol sy’n derbyn addysg gynradd yn byw mwy na dwy filltir * o’r ysgol addas agosaf. 2. os yw plentyn oedran ysgol gorfodol sy’n derbyn addysg uwchradd yn byw mwy na thair milltir* o’r ysgol addas agosaf. * Caiff y pellter byrraf sydd ar gael ei fesur o’r man lle mae’r annedd breifat yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus, hyd at y fan lle mae mynedfa agosaf yr ysgol yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus. Ceidw’r Cyngor yr hawl i enwi, fel ysgol addas, un wahanol i’r ysgol ddalgylch. - 37 -


iii) Ysgol addas Darperir cludiant i’r ysgol ddalgylch a ddynodwyd gan y Cyngor Sir i wasanaethu cyfeiriad cartref y disgybl, neu i’r ysgol addas agosaf a bennir gan y Cyngor Sir. iv) Rhieni’n dewis ysgol wahanol Ni fydd yr Awdurdod yn darparu cludiant nac yn gwneud unrhyw gyfraniad at gostau cludiant ar gyfer disgyblion sy’n cael eu derbyn mewn ysgol o ganlyniad i ddewis y rhieni, os nad honno yw’r ysgol agosaf na’r ysgol ddalgylch. Dan yr amgylchiadau hyn y rhieni sy’n gyfrifol am wneud eu trefniadau cludiant eu hunain ac am holl gostau’r cludiant. Cynghorir chi i ystyried y goblygiadau cludiant cyn mynegi eich dewis mewn perthynas â lle mewn ysgol. v) Natur y ddarpariaeth gludiant Os y Cyngor Sir sy’n gyfrifol am drefniadau cludiant, ym mhob achos bydd y Cyngor Sir yn penderfynu ar y math mwyaf priodol o gludiant i’w ddarparu neu a ddylai ddarparu lwfans milltiroedd. vi) Llwybrau cerdded diogel Bydd y Cyngor Sir yn darparu cludiant os yw o’r farn na all disgybl gerdded y ffordd agosaf sydd ar gael yn rhesymol o ddiogel yng nghwmni oedolyn os oes angen, ac os yw’r ffordd arall yn fwy na’r pellter statudol ar gyfer cerdded i’r ysgol. Wrth bwyso a mesur diogelwch llwybr teithio sydd ar gael, rhoddir ystyriaeth i’r perygl posibl y gallai traffig ei achosi, cyflwr y briffordd a’r dirwedd ac a oes gwasanaeth bws am dâl ar gael. Bydd pob achos yn cael ei ystyried yn ôl ei haeddiant ei hun.

- 38 -


vii)

Ysgolion cyfrwng Cymraeg

Bydd y Cyngor Sir yn darparu cludiant i addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg. Caiff cludiant ei ddarparu o fannau codi dynodedig yn unig ar gyfer disgyblion sy’n bodloni’r meini prawf pellter statudol. O ystyried natur y llwybrau teithio hyn a’r pellterau dan sylw, cyfrifoldeb y rhieni fydd sicrhau bod y disgyblion yn dod i’r mannau codi dynodedig. Bydd y disgyblion hynny sy’n mynd i Ysgol Glan Cleddau ac i Unedau Cymraeg yn Ne Sir Benfro sy’n byw o fewn yr ardal y mae’r ysgolion hynny wedi’u dynodi i’w gwasanaethu, ac ysgolion yng ngogledd y sir, yn cael eu cludo i Ysgol y Preseli o fannau dynodedig os ydynt yn bodloni’r meini prawf pellter. Yn achos disgyblion o’r ardal a ddynodwyd i’w gwasanaethu gan Ysgol y Preseli (ar hyn o bryd yr ysgol uwchradd ddwyieithog ddynodedig) nad yw eu rhieni yn dymuno iddynt dderbyn addysg ddwyieithog, darperir cludiant i’r ysgol uwchradd arall agosaf yn unig; mae’r ddarpariaeth mewn perthynas â’r mannau codi dynodedig yr un mor berthnasol yn yr achos hwn. viii)

Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir

Mae’r trefniadau arferol ar gyfer dalgylchoedd yn berthnasol. Dim ond i’r ysgol wirfoddol a gynorthwyir agosaf o fewn wyth milltir o gartref y disgybl y bydd y Cyngor Sir yn darparu cludiant gyda chonsesiwn, os yw’r disgybl yn byw y tu allan i’r pellter cerdded statudol ac os yw’n mynd i’r ysgol ar sail ffydd a bod tystiolaeth o hynny mewn llythyr ategol gan offeiriad/ficer lleol y plentyn. ix)

Cludiant i ddysgwyr 16+ oed

Bydd y Cyngor Sir yn darparu cludiant fel y gwêl yn ddoeth, ar ôl oedran ysgol gorfodol os yw dysgwr o Sir Benfro yn byw yn bellach na thair milltir o’r ysgol neu’r coleg agosaf lle mae rhaglen astudio addas ar gael. Rhaid i’r dysgwr fod yn astudio yn llawn amser a’i fod o dan 19 oed ar 1 Medi yn y flwyddyn academaidd pryd y dilynir y cwrs. Darperir cludiant i’r ysgol uwchradd ddalgylch a ddynodwyd gan y Cyngor Sir - 39 -


wasanaethu cyfeiriad cartref y dysgwr, neu i’r ysgol/coleg agosaf. Caiff addysg gyffredinol (h.y. Safon Uwch/UG neu TGAU) ei darparu fel arfer yn yr ysgol ddalgylch ac ni ddarperir cludiant fel rheol ar gyfer mynychu y tu allan i’r dalgylch ar gyfer y rhaglenni astudio hyn. Mae ysgolion yn cynnig amrywiaeth eang o bynciau i bobl ifanc 16+ oed ac fel arfer, byddai disgwyl i ddysgwyr sy’n dymuno dilyn addysg gyffredinol ddewis o’r amrywiaeth sydd ar gael. Nid yw’r Awdurdod, fel arfer, yn darparu cludiant ar sail dewisiadau pynciau unigol. Mae gan y Cyngor Sir yr hawl i godi tâl am gludiant dewisol ar gerbydau dan cytundeb, a chant wneud hynny yn unol a’r polisi cludiant. x)

Disgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig

Bydd y Cyngor Sir yn darparu cludiant i ddisgyblion â datganiad yn unol â’r meini prawf hyn: ● Nid yw’r disgybl, oherwydd ei anabledd, yn gallu defnyddio’r cludiant ysgol arferol a ddarperir i ddisgyblion oedran ysgol gorfodol sy’n derbyn addysg gynradd sy’n byw dros 2 filltir o ysgol gynradd y dalgylch ac nid yw’n gallu defnyddio unrhyw fath arall o gludiant megis car y teulu neu gerbyd Motability. ● Nid yw’r disgybl, oherwydd ei anabledd, yn gallu defnyddio’r cludiant ysgol arferol a ddarperir i ddisgyblion oedran ysgol gorfodol sy’n derbyn addysg uwchradd sy’n byw dros dair milltir o ysgol uwchradd y dalgylch ac nid yw’n gallu defnyddio unrhyw fath arall o gludiant megis car y teulu neu gerbyd Motability. ● Mae’r disgybl yn byw o fewn 2 filltir o ysgol gynradd y dalgylch neu o fewn tair milltir o ysgol uwchradd y dalgylch ond nid yw’n gallu cerdded i’r ysgol ac nid yw’n gallu defnyddio unrhyw fath arall o gludiant megis car y teulu neu gerbyd Motability. ● Mae’r Panel Cynhwysiant yn argymell y dylid lleoli disgybl mewn ysgol nad yw’n ysgol ddalgylch a bod y meini prawf uchod yn cael eu bodloni. ● Rhaid i gyngor meddygol gan Ymgynghorydd Meddygol y disgybl gadarnhau’r angen. Ni dderbynnir cyngor unrhyw weithiwr proffesiynol meddygol arall. - 40 -


Ni ddarperir cludiant i ddisgyblion ag anghenion arbennig dan yr amgylchiadau canlynol:

● ● ● ●

os yw’r rhieni yn dewis ysgol y tu allan i’r dalgylch i fynd i arholiadau y tu allan i’r trefniadau cludiant arferol i fynd i glybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol i fynd i wersi nofio oni bai fod y plentyn yn defnyddio cadair olwyn ac nid oes modd arall iddo fynd i wersi nofio, os felly gallai’r Gwasanaethau Addysg dalu’r rhiant am gludo’r plentyn.

Gallai’r Cyngor Sir ddarparu cynorthwyydd ar gyfer disgyblion â datganiadau o Anghenion Addysgol Arbennig sy’n gymwys i gael cludiant o dan y meini prawf diffiniedig. Darperir cynorthwywyr ar ôl i swyddogion perthnasol ystyried beth yw anghenion unigol y disgybl neu’r grŵp o ddisgyblion dan sylw a’r math o gludiant sydd ar gael a bydd hynny yn ôl yr hyn y gwêl yn ddoeth gan y Cyfarwyddwr dros Plant ac Ysgolion. xi)

Cludiant ar sail feddygol

Bydd y Cyngor Sir yn ystyried darparu cludiant tymor byr ar gyfer disgyblion os oes angen cludiant ar blentyn am resymau meddygol fel y gwêl yn ddoeth gan y Cyfarwyddwr dros Plant ac Ysgolion. Dylid gwneud cais trwy anfon llythyr at y Rheolwr AAA i’r cyfeiriad islaw ynghyd â thystiolaeth ategol gan ymgynghorydd meddygol y dysgwr. Ni dderbynnir cyngor unrhyw weithiwr proffesiynol meddygol aral. Y Rheolwr AAA, Cyngor Sir Penfro, y Gwasanaeth Addysg, Neuadd y Sir, Hwlffordd SA61 1TP xii)

Teithio rhatach

Gellir caniatáu i ddisgyblion nad ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim gael llefydd teithio rhatach ar gerbydau contract, ar ôl gwneud cais ysgrifenedig i’r Cyfarwyddwr dros Plant ac Ysgolion, os oes seddau dros ben ar gael. Bydd y llefydd teithio rhatach hyn yn rhai dros - 41 -


dro ac yn brin a gellir eu tynnu’n ôl unrhyw adeg fel y gwêl y Cyngor Sir yn dda e.e. pan na fydd seddau ar gael. Gallai hyn ddigwydd ar fyr rybudd ac wedi hynny, y rhieni fydd yn gyfrifol am gludiant. Rhaid i’r Cyngor Sir benderfynu ar nifer y disgyblion cymwys y mae angen cludiant arnynt er mwyn gweld a oes llefydd dros ben ar gael ar gerbydau contract neu beidio. Felly, ni chaiff tocynnau teithio rhatach eu dosbarthu nes bod y flwyddyn ysgol wedi cychwyn ers rhai wythnosau. Mae gan y Cyngor Sir hawl i godi tâl am seddau teithio rhatach ar gerbydau contract a gall wneud hynny yn unol â’i bolisi cludiant. xiii)

Ysgolion mewn Awdurdodau Lleol cyfagos

Bydd y Cyngor Sir yn darparu cludiant yn unol â’r gyfraith a’i polisi mewn perthynas â disgyblion sy’n mynychu ysgolion mewn Awdurdodau Lleol cyfagos. xiv)

Newid cyfeiriad

Gall y Cyngor Sir ddarparu cludiant i ddisgyblion, ar ôl iddynt newid cyfeiriad yn ystod blwyddyn olaf arholiadau TGAU neu Safon Uwch, er mwyn sicrhau dilyniant yn eu haddysg. Rhaid gwneud cais i’r Cyfarwyddwr dros Plant ac Ysgolion. Ni fydd darpariaeth o’r fath yn parhau ym Mlynyddoedd 12 ac 13 os yw disgyblion wedi symud yn ystod blwyddyn 11. xv)

Disgyblion o dan oedran ysgol gorfodol

Nid oes gan y Cyngor Sir unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol dros ddarparu cludiant ar gyfer disgyblion o dan oedran ysgol gorfodol ac nid yw’n gwneud hynny fel arfer. xvi)

Codau Ymarfer

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi llunio Codau Teithio ar gyfer pawb sy’n ymwneud â chludiant ysgol ac mae’r rhain yn rhoi cyngor a chanllawiau ynglŷn â sut y gellir cwblhau’r daith i’r ysgol ac yn ôl yn ddiogel. Cyhoeddir y rhain yn Atodiad 3. - 42 -


xvii)

Pasiau bws

Rhoddir pas bws i’r disgyblion hynny o oedran ysgol uwchradd sydd â’r hawl i gael cludiant, ar yr amod eu bod yn llenwi ‘Ffurflen Gais am Bas Bws Cludiant Ysgol’. Rhaid iddynt fynd â’u pas bws gyda nhw bob dydd a rhaid iddynt fod ar gael i’w harchwilio gan Swyddogion y Cyngor Sir neu weithwyr y contractwyr. Gellir gwrthod gadael i ddisgyblion sydd heb bas bws deithio ar y bws. Codir tâl am bas bws newydd. Mae ffurflen gais am bas bws ar gael ar gais neu gellir ei lawrlwytho o wefan y Cyngor; mae fersiwn ar-lein ar gael hefyd i’w llenwi a’i chyflwyno’n electronig. Dylid llenwi ceisiadau yn llawn, gan gynnwys llofnod gan yr ysgol (ac eithrio ar-lein ac ar gyfer y derbyniad cyntaf i ysgol uwchradd), a’u hanfon at y Cyfarwyddwr dros Plant ac Ysgolion. Yn achos disgyblion ysgol gynradd, mae’n rhaid gwneud cais am bas bws yn yr un modd ag ar gyfer disgyblion uwchradd yn y paragraff uchod; fodd bynnag, ni ddosberthir pasiau bws unigol. Yn hytrach rhoddir rhestr o enwau disgyblion i’r cwmni bws yn nodi pwy sydd â’r hawl i gludiant am ddim ar bob llwybr bws. xviii)

Mannau codi

Oherwydd natur wledig y Sir nid oes modd trefnu bob amser bod llwybrau’r cerbydau yn agos at gartrefi’r holl ddisgyblion sy’n teithio. Felly, gall fod rhaid i rieni wneud eu trefniadau eu hunain i’w plant deithio i’r man codi agosaf ac yn ôl. Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y pellter hwn mor fyr â phosibl. Cyfrifoldeb y rhieni fydd sicrhau bod y disgyblion yn cael eu hebrwng yn ddiogel i’r cerbyd ac oddi arno. xix)

Ymddygiad ar fysiau ysgol

Efallai y bydd disgyblion y mae eu hymddygiad yn annerbyniol neu heb fod yn cydymffurfio â’r Cod Ymddygiad yn ystod y daith i’r ysgol ac yn ôl yn cael y trefniadau teithio wedi’u tynnu’n ôl a bydd y cyfrifoldeb am gludiant i’r ysgol ac yn ôl wedyn yn nwylo’r rhieni. Defnyddir camerâu - 43 -


Teledu Cylch Cyfyng ar rai cerbydau er mwyn monitro ymddygiad. Y gyrrwr fydd yn gyfrifol am oruchwylio’r disgyblion ar y cerbyd yn ystod y daith i’r ysgol ac yn ôl. Bydd y gyrrwr yn hysbysu’r Cyngor Sir am unrhyw achosion o ymddygiad gwael a gall trefniadau teithio gael eu diddymu. Ni chaniateir ysmygu ar gerbydau sydd dan gontract i’r Cyngor Sir. xx)

Difrod

Bydd y Cyngor Sir neu’r Contractwyr yn gwneud cais am iawndal gan rieni lle bu eu plant hwy yn gyfrifol am ddifrod bwriadol. xxi)

Cyfrifoldeb rhieni mewn perthynas â chludiant

Rhieni sy’n gyfrifol am: ● sicrhau bod eu plentyn yn cael ei gludo i’r ysgol ac yn ôl, os nad yw’n gymwys i gael cludiant ● gwneud cais i’r Cyfarwyddwr dros Plant ac Ysgolion am gludiant os yw eu plentyn yn gymwys ● sicrhau bod eu plentyn yn barod ac yn aros am y bws ar yr amser ac yn y man priodol. Cyfrifoldeb y rhieni yw diogelwch y plentyn cyn mynd ar y bws ac ar ôl dod oddi arno. Cyfrifoldeb y rhieni yw gwneud trefniadau i’w plentyn fynd i gwrdd â’r cludiant a ddarperir ac am sicrhau bod eu plentyn yn cael ei hebrwng i’r cerbyd ac oddi yno os oes angen ● sicrhau bod ymddygiad eu plentyn, pan fo’n defnyddio cludiant ysgol, yn gymdeithasol dderbyniol ac yn cydymffurfio â’r Codau Teithio cymeradwy ● sicrhau bod eu plentyn yn cael ei gludo i’r ysgol ac yn ôl os yw’r cludiant wedi’i dynnu’n ôl oherwydd ymddygiad gwael ● hysbysu’r Cyngor Sir yn ysgrifenedig pan nad oes angen cludiant ysgol mwyach. xxii)

Amgylchiadau ariannol

Nid yw amgylchiadau ariannol y rhieni yn dylanwadu ar ddarparu cludiant. - 44 -


xxiii)

Apeliadau Cludiant

Os digwydd anghydfod sy’n ymwneud â gweithredu a dehongli polisi cludiant o’r cartref i’r ysgol, dylid cyflwyno apêl i’r Cyfarwyddwr dros Plant ac Ysgolion. xxiv)

Adolygu llwybrau cludiant

Bydd yr Awdurdod yn adolygu’r llwybrau a’r cludiant a ddarperir yn rheolaidd er mwyn eu gwneud yn fwy effeithlon. Gellir gweithredu newidiadau i’r llwybrau yn ystod blwyddyn academaidd. xxv)

Tywydd garw

Os bydd y tywydd yn arw, neu os bydd amgylchiadau eraill nas rhagwelwyd yn codi, gellir gwneud newidiadau dros dro i’r cludiant a ddarperir. O dan rai amgylchiadau efallai na fydd yn bosibl gweithredu llwybr o gwbl neu wasanaethu rhan o’r llwybr yn unig. Os na fydd llwybr ysgol/coleg yn gweithredu yn y bore, oherwydd tywydd garw, ond eich bod yn dewis mynd â’ch plentyn (plant) i’r ysgol eich hun, yna bydd angen i chi wneud trefniadau i gasglu eich plentyn (plant) ar ddiwedd y diwrnod ysgol.

- 45 -


Rhan 5 - Tymhorau a gwyliau 5. Dyddiadau tymhorau a gwyliau ysgol - 2014-15 Hanner-Tymor Tymor Hydref 2014

Dechrau Dydd Mawrth 2 Medi 2014

Gwanwyn Dydd Llun 2015 5 Ion 2015 Haf 2015

Dydd Mawrth 14 April 2015

Diwrnodau Athrawon dan gyfarwyddydd:

Nifer dyddiau ysgol

Dechrau

Diwedd

Diwedd

Dydd Llun 27 Hyd 2014

Dydd Gwener 31 Hyd 2014

Dydd Gwener 19 Rhagfyr 2014 74

Dydd Llun Dydd Gwener 16 Chwef 2015 20 Chwef 2015 Dydd Llun 25 Mai 2015

Dydd Gwener 29 Mai 2015

Dydd Gwener 27 Mawrth 2015 55 Dydd Llun 20 Gorff 2015

64

Dydd Llun 1 Medi 2014 & Dydd Llun 13 Ebrill 2015

2 Cyfanswm

195

NODIAD i) Bydd dydd Llun 1 Medi 2014 a dydd Llun 13 Ebrill Ionawr 2015 yn ddiwrnodau dynodedig hyfforddi staff pan fydd yr holl ysgolion a gynhelir yn Sir Benfro ar gau. Cynhelir tri diwrnod hyfforddi staff arall pan fydd ysgolion ar gau yn ôl yr hyn y gwêl pob ysgol unigol yn ddoeth. O bryd i’w gilydd gellir cytuno ar ddiwrnodau ychwanegol pan fydd ysgolion ar gau at ddibenion penodol. Bydd yr ysgol yn rhoi gwybod i chi am y rhain. ii) Bydd pob ysgol ar gau ddydd Llun 4 Mai 2015 ar gyfer Gŵyl Banc Calan Mai. iii) Mae Gwener y Groglith a Llun y Pasg ar 3 Ebrill a 6 Ebrill 2015 yn ôl eu trefn. Gall y calendr hwn newid yn sgil unrhyw ofynion gwasanaeth neu bolisi’r llywodraeth. Er bod newidiadau o’r fath yn anarferol, dylech nodi nad yw Cyngor Sir Penfro yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golledion a achosir mewn perthynas â threfniadau gwyliau diwygiedig yn dilyn newidiadau o’r fath. - 46 -


Atodiad 1

Egluro’r derminoleg

Blwyddyn Academaidd Blwyddyn Ysgol sy’n cychwyn ar Fedi 1af ac yn gorffen ar yr 31ain Awst canlynol. Nifer Derbyn Uchafswm nifer y disgyblion sydd i’w derbyn i’r ysgol mewn grŵp blwyddyn arbennig. Dalgylch Yr ardal ddaearyddol y bwriadwyd i’r ysgol ei gwasanaethu, sydd yn achos Ysgol y Preseli, Sir Benfro yn ei chyfanrwydd, fel yr ysgol uwchradd ddwyieithog penodedig. Ysgol Gyfun Ysgolion sy’n darparu ar gyfer disgyblion o bob gallu rhwng 11 ac 18 oed. Mae Cyngor Sir Penfro yn cynnal 8 ysgol gyfun. Oedran Ysgol Gorfodol Yn ôl y gyfraith, mae disgyblion rhwng 5 ac 16 oed yn gorfod derbyn addysg lawn amser sy’n briodol i’w hoedran, eu gallu a’u tueddfryd. Cyngor Sir Dyma’r corff llywodraeth leol sy’n gyfrifol am drefnu a chynnal gwasanaethau addysg. Cyngor Sir Penfro sy’n gyfrifol am hyn yn Sir Benfro. Mae’r Cyngor Sir yn cyflawni amrywiaeth o swyddogaethau statudol. Cwricwlwm Yr holl weithgareddau a chyfleoedd ar gyfer dysgu a ddarperir gan ysgol. Ysgol a Gynhelir Ysgol a ariennir ac a gynhelir gan Gyngor Sir Penfro (sef yr Awdurdod Addysg Lleol). Ysgol nas Cynhelir neu Ysgol Annibynnol Ysgol nad yw’n cael ei hariannu na’i chynnal gan Gyngor Sir. Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir (yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig) Ysgol a gynhelir a sefydlwyd gan gorff gwirfoddol (fel arfer yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig). Mae ysgolion a gynorthwyir yn rheoli eu derbyniadau eu hunain a’u maes llafur Addysg Grefyddol ac yn cyflogi eu gweithwyr eu hunain. Ysgol Wirfoddol a Reolir Mae hon yn ysgol a gynhelir lle mae Addysg Grefyddol yn cael ei darparu yn unol â maes llafur cytunedig yr Awdurdod. Gellir cynnig rhywfaint o hyfforddiant enwadol.

- 47 -


Atodiad 2

Trefniadau derbyn a mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael ar gyfer ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir

Ysgol GG St Mark, Hwlffordd Cyfrifoldeb y Corff Llywodraethol yw derbyn plant i’r ysgol, a dylid gwneud ceisiadau yn ysgrifenedig i’r Pennaeth. Y Nifer Derbyn ar gyfer yr ysgol yw 24, a lle nad yw nifer y ceisiadau’n uwch na’r nifer hon, yna derbynnir pob ymgeisydd. Pe bai mwy na’r nifer uchod o geisiadau’n cael eu derbyn ar gyfer grŵp blwyddyn unigol, bydd disgyblion yn cael eu derbyn ar sail y meini prawf gordanysgrifio canlynol, wedi’u cymhwyso mewn trefn blaenoriaeth: 1. 2. 3. 4.

Plant sy’n Derbyn Gofal Chwiorydd a brodyr plant sydd eisoes yn yr ysgol. Plant sy’n byw yng nghymuned Pont Fadlen. Plant aelodau mewn gair a gweithred yr Eglwys yng Nghymru (dylai’r cais gael ei ategu gan ddatganiad Offeiriad y Plwyf). 5. Plant rhieni o enwadau eraill sy’n dymuno i’w plentyn gael addysg ysgol eglwysig (dylai’r cais gael ei ategu gan ddatganiad eu Harweinydd Ffydd). 6. Plant rhieni sy’n arddel crefyddau eraill, sy’n dymuno i’w plentyn gael addysg ysgol yr Eglwys Anglicanaidd. 7. Plant rhieni sy’n dymuno i’w plentyn fynychu Ysgol St Mark. Yn achos ymgeiswyr cyfartal, cynigir y llefydd i’r disgyblion sy’n byw agosaf at yr ysgol, wedi’i fesur yn ôl y pellter cerdded byrraf o’r gât ysgol agosaf sydd ar gael hyd at y man lle mae annedd preifat y disgybl yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus. Mae gan rieni y mae eu cais am le i’w plant yn aflwyddiannus yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â’u derbyn. Dylai’r apêl hon fod yn ysgrifenedig a dylid ei hanfon at y Pennaeth. Caiff yr apêl ei chlywed gan Banel Apêl annibynnol, a sefydlwyd gan yr Esgobaeth, y bydd ei benderfyniad yn rhwymol ar bob parti. Gweler yr adran o’r enw “Beth yw fy hawl i apelio”? i gael mwy o wybodaeth. Mae Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir St Marks yn gweithredu rhestr aros ar gyfer rhieni pan na fydd yn gallu cynnig lle yn ystod y cylch derbyn arferol oherwydd gordanysgrifio. Mae’r telerau a gymhwysir i restrau aros yr un fath â thelerau’r Cyngor Sir, fel a ddisgrifir yn yr adran o’r enw “Sut mae llefydd ysgol yn cael eu dyrannu?” Bydd ceisiadau am lefydd a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau cyhoeddedig, yn cael eu hystyried gan yr ysgol ar ôl yr holl geisiadau hynny a dderbyniwyd mewn pryd. Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried ar sail y meini prawf gordanysgrifio uchod, a chan ystyried nifer y disgyblion presennol/darpar ddisgyblion. Mae’r hawl i apelio yn gymwys i geisiadau hwyr hefyd. - 48 -


Ysgol Bro Dewi, Tyddewi Cyfrifoldeb y Corff Llywodraethol yw derbyn plant i’r ysgol, a dylid gwneud ceisiadau i’r Pennaeth. Y Nifer Derbyn ar gyfer yr ysgol yw 21, a lle nad yw nifer y ceisiadau’n uwch na’r nifer hon, yna derbynnir pob ymgeisydd. Pe bai mwy na’r nifer uchod o geisiadau’n cael eu derbyn ar gyfer grŵp blwyddyn unigol, bydd disgyblion yn cael eu derbyn ar sail y meini prawf gordanysgrifio canlynol, wedi’u cymhwyso mewn trefn blaenoriaeth: 1. Plant sy’n Derbyn Gofal 2. Plant sy’n byw yn nalgylch yr ysgol. 3. Plant sydd â brodyr a chwiorydd sydd eisoes yn yr ysgol ar yr adeg derbyn. (I gynnwys hanner brodyr a chwiorydd sy’n byw ar yr un aelwyd) 4. Plant rhieni o enwadau Cristnogol sy’n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol y mae eu rhieni’n dymuno’n benodol i’w plentyn gael addysg ysgol eglwysig. (Gyda llythyr ategol gan eu hoffeiriad neu weinidog.) Yn achos ymgeiswyr cyfartal, cynigir y llefydd i’r disgyblion sy’n byw agosaf at yr ysgol, wedi’i fesur yn ôl y pellter cerdded byrraf o’r gât ysgol agosaf sydd ar gael hyd at y man lle mae annedd preifat y disgybl yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus. Mae gan rieni y mae eu cais am le i’w plant yn aflwyddiannus yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â’u derbyn. Dylai’r apêl hon fod yn ysgrifenedig a dylid ei hanfon at y Pennaeth. Caiff yr apêl ei chlywed gan Banel Apêl annibynnol, y bydd ei benderfyniad yn rhwymol ar bob parti. Gweler yr adran o’r enw “Beth yw fy hawl i apelio”? i gael mwy o wybodaeth. Mae Ysgol Bro Dewi yn gweithredu rhestr aros ar gyfer rhieni pan na fydd yn gallu cynnig lle yn ystod y cylch derbyn arferol oherwydd gordanysgrifio. Mae’r telerau a gymhwysir i restrau aros yr un fath â thelerau’r Cyngor Sir, fel a ddisgrifir yn yr adran o’r enw “Sut mae llefydd ysgol yn cael eu dyrannu?” Bydd ceisiadau am lefydd a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau cyhoeddedig, yn cael eu hystyried gan yr ysgol ar ôl yr holl geisiadau hynny a dderbyniwyd mewn pryd. Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried ar sail y meini prawf gordanysgrifio uchod, a chan ystyried nifer y disgyblion presennol/darpar ddisgyblion. Mae’r hawl i apelio yn gymwys i geisiadau hwyr hefyd.

- 49 -


Ysgol GG St Oswald, Jeffreyston Cyfrifoldeb y Corff Llywodraethol yw derbyn plant i’r ysgol, a dylid gwneud ceisiadau i’r Pennaeth. Y Nifer Derbyn ar gyfer yr ysgol yw 17, a lle nad yw nifer y ceisiadau’n uwch na’r nifer hon, yna derbynnir pob ymgeisydd. Pe bai mwy na’r nifer uchod o geisiadau’n cael eu derbyn ar gyfer grŵp blwyddyn unigol, bydd disgyblion yn cael eu derbyn ar sail y meini prawf gordanysgrifio canlynol, wedi’u cymhwyso mewn trefn blaenoriaeth: a) Plant sy’n derbyn gofal sy’n gymunwyr y ffydd Anglicanaidd b) Plant sy’n derbyn gofal c) Plant sydd â brodyr neu chwiorydd yn yr ysgol ar y dyddiad derbyn arfaethedig ch) Plant sy’n byw yn nalgylch yr ysgol d) Plant o deuluoedd sy'n byw y tu allan i'r dalgylch sy'n gymunwyr rheolaidd mewn Eglwys Anglicanaidd yn y dalgylch dd) Plant sy’n byw y tu allan i’r dalgylch fel a ddiffinnir yn 2 uchod, sy’n gymunwyr rheolaidd mewn Eglwys Anglicanaidd e) Plant o deuluoedd o enwadau Cristnogol eraill sy'n byw y tu allan i'r dalgylch y mae eu rhieni yn dymuno iddynt gael addysg mewn ysgol Eglwys Anglicanaidd f) Plant o deuluoedd sy’n byw y tu allan i’r dalgylch fel a ddiffinnir yn 2 uchod, nad ydynt yn addolwyr Cristnogol gweithgar ond y mae eu rhieni’n dymuno iddynt gael addysg mewn ysgol Eglwys Anglicanaidd. Yn achos ymgeiswyr cyfartal, cynigir y llefydd i’r disgyblion sy’n byw agosaf at yr ysgol, wedi’i fesur yn ôl y pellter cerdded byrraf o’r gât ysgol agosaf sydd ar gael hyd at y man lle mae annedd preifat y disgybl yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus. Mae gan rieni y mae eu cais am le i’w plant yn aflwyddiannus yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â’u derbyn. Dylai’r apêl hon fod yn ysgrifenedig a dylid ei hanfon at y Pennaeth. Caiff yr apêl ei chlywed gan Banel Apêl annibynnol, y bydd ei benderfyniad yn rhwymol ar bob parti. Gweler yr adran o’r enw “Beth yw fy hawl i apelio”? i gael mwy o wybodaeth. Mae Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir St Oswald yn gweithredu rhestr aros ar gyfer rhieni pan na fydd yn gallu cynnig lle yn ystod y cylch derbyn arferol oherwydd gordanysgrifio. Mae’r telerau a gymhwysir i restrau aros yr un fath â thelerau’r Cyngor Sir, fel a ddisgrifir yn yr adran o’r enw “Sut mae llefydd ysgol yn cael eu dyrannu?” Bydd ceisiadau am lefydd a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau cyhoeddedig, yn cael eu hystyried gan yr ysgol ar ôl yr holl geisiadau hynny a dderbyniwyd mewn pryd. Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried ar sail y meini prawf gordanysgrifio uchod, a chan ystyried nifer y disgyblion presennol/darpar ddisgyblion. Mae’r hawl i apelio yn gymwys i geisiadau hwyr hefyd. - 50 -


Ysgol WG St Aidan’s, Cas-wis Yr Awdurdod Derbyniadau ar gyfer yr ysgol hon yw’r Corff Llywodraethol. Adolygir y polisi derbyniadau bob blwyddyn. Mae ein polisi derbyn wedi ei ddatblygu er mwyn sicrhau system gyson a theg ar gyfer derbyn disgyblion i’n hysgol, yn enwedig os yw’n debygol y bydd nifer y lleoedd wedi ei chyfyngu oherwydd cyrraedd y rhif derbyn o 21. Mae Ysgol WG St Aidan’s yn ysgol yr Eglwys yng Nghymru sydd yn y bôn yn gwasanaethu’r gymuned ym mhlwyfi Llanhuadain, Walton East, Clarbeston Road, Slebech a Chas-wis ac mae’r polisi derbyniadau yn adlewyrchu hyn yn ei restr â blaenoriaeth o feini prawf. Os bydd mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael, rhoddir blaenoriaeth i dderbyn disgyblion yn y drefn ganlynol: 1. Unrhyw blant sydd wedi eu nodi ar Gofrestr y Plant sy’n Derbyn Gofal 2. Plant o blwyfi Llanhuadain, Walton East, Clarbeston Road, Slebech a Chas-wis. 3. Chwiorydd a brodyr plant sy’n mynd i’r ysgol adeg y derbyn, yn cynnwys hanner chwiorydd a brodyr. 4. Plant rhieni Anglicanaidd sy’n dymuno i’w plant gael addysg Anglicanaidd.* 5. Plant rhieni o enwadau Cristnogol eraill sy’n dymuno i’w plant gael addysg Anglicanaidd.* 6. Os bydd rhai yn gyfartal o ran y meini prawf, cynigir lleoedd i’r disgyblion sy’n byw agosaf at yr ysgol, wedi eu mesur yn ôl y pellter byrraf o’r giât agosaf sydd ar gael gan yr ysgol i fan lle mae annedd breifat y disgybl yn cwrdd â’r heol gyhoeddus. *Mae’n rhaid i flaenoriaethau 4 a 5 fod wedi eu cefnogi gyda llythyr gan ficer/offeiriad/gweinidog. Yr oed arferol ar gyfer derbyn i ysgol yn Sir Benfro, mewn ysgol fel St Aidan’s heb ddarpariaeth feithrin, yw dechrau’r tymor sy’n dilyn pen-blwydd y plentyn yn bedair oed. I ddibenion derbyn i’r ysgol, dyddiadau dechrau’r tymhorau yw’r 1 Ionawr, y 1 Ebrill a’r 1 Medi. Nid oes rhaid, fodd bynnag, i addysg orfodol ddechrau tan y tymor sy’n dilyn pen-blwydd y plentyn yn bump oed. Wrth eu derbyn i’r ysgol mae’r plant yn cael eu cofnodi yn y Gofrestr Dderbyn. Mae eu manylion, ynghyd ag unrhyw wybodaeth y mae’r rhieni yn ei rhoi, yn cael eu cynnwys mewn cofnodion cyfrifiadur sy’n rhwym wrth reoliadau diogelu data. Os gwrthodir mynediad, yna mae gan rieni’r hawl i wneud un apêl i gorff annibynnol y byddai’r Corff Llywodraethol yn ei sefydlu. (Sylwer – bydd y corff hwn yn annibynnol o’r ysgol a’r Corff Llywodraethol a bydd ei benderfyniad yn orfodol i bawb.) Mae’n gwneud yr apêl yn ysgrifenedig i’r Pennaeth. Bydd yr Awdurdod Derbyniadau yn parchu’r egwyddor gyffredinol bod rhaid addysgu disgyblion yn unol â dymuniadau eu rhieni, oni bai y byddai derbyn y plentyn hwnnw yn peryglu’r ddarpariaeth o addysg effeithlon. Dylid gwneud ceisiadau am le yn Ysgol WG St Aidan’s yn ysgrifenedig i’r Pennaeth. Mae ffurflen gais ar gael gan yr ysgol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw’r 30 Ebrill cyn y flwyddyn galendr y mae angen lle yn yr ysgol ynddi. . - 51 -


Ysgol Gatholig yr Enw Sanctaidd, Abergwaun Mae’r Enw Sanctaidd yn Ysgol Gynradd Gatholig yn Esgobaeth Mynyw. Awdurdod Addysg Lleol Sir Benfro sy’n ei chynnal. Mae’r Corff Llywodraethol yn gyfrifol am benderfynu ynglŷn â’r polisi sy’n berthnasol i dderbyn disgyblion i’r ysgol. Mae wedi ei gyfarwyddo ar gyfer y cyfrifoldeb hwn gan: a) gofynion y gyfraith. b) cyngor Ymddiriedolwyr yr Esgobaeth ynglŷn â natur a diben ei gyfrifoldebau a chyflawni ei Weithred Ymddiriedolaeth ac Offeryn Llywodraethu. c) ei gyfrifoldeb tuag at yr ysgol a’r gymuned Gatholig y mae’n ei gwasanaethu. ch) cymeriad Catholig yr ysgol a’i Datganiad Cenhadaeth. Mae ethos yr ysgol hon yn Gatholig. Sefydlwyd yr ysgol gan yr Eglwys Gatholig i ddarparu addysg i blant teuluoedd Catholig. Gofynnwn I bob rhiant sy’n gwneud cais am le yma gefnogi a pharchu’r ethos hwn, ei bwysigrwydd i gymuned yr ysgol a’r addysg y mae hi’n ei darparu. Nid yw hyn yn effeithio ar hawl rhieni nad ydynt o’r un ffydd â’r ysgol hon i wneud cais a chael eu hystyried am le yma. Nifer Derbyn yr Ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol sy’n dechrau ym mis Medi 2014 yw 18. Os bydd nifer yr ymgeiswyr yn fwy na’r nifer derbyn, bydd y llywodraethwyr yn rhoi blaenoriaeth i geisiadau yn unol â’r meini prawf sydd wedi eu rhestru ar yr amod y rhoddir gwybod i’r llywodraethwyr am y cais hwnnw cyn gwneud penderfyniadau ynghylch derbyniadau. Bydd rhaid gwneud ceisiadau am le yn yr ysgol ar Ffurflen Gais Derbyn i’r Ysgol a’i dychwelyd i’r ysgol erbyn y 30 Ebrill fan bellaf yn y flwyddyn cyn derbyn. Mae’r Corff Llywodraethol wedi dirprwyo cyfrifoldeb am benderfynu ynghylch derbyniadau i’w Bwyllgor Derbyniadau, a fydd yn ystyried pob cais yr un pryd ac wedi’r dyddiad cau ar gyfer derbyniadau, wedi eu gwneud yn unol â’r meini prawf sydd wedi eu rhestru. Os bydd cais am dderbyn wedi ei wrthod gan y Corff Llywodraethol, gall rhieni wneud apêl i Banel Apeliadau. Mae’n rhaid anfon yr apêl hon yn ysgrifenedig at glerc y Llywodraethwyr yn yr ysgol o fewn 14 o ddyddiau (10 diwrnod gwaith) wedi’r gwrthodiad. Mae’n rhaid i rieni roi rhesymau dros apelio yn ysgrifenedig a bydd rhaid i’r Llywodraethwyr dderbyn penderfyniad y panel apeliadau. Meini prawf ar gyfer mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael Os bydd nifer y ceisiadau yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, bydd y Corff Llywodraethol yn gweithredu’r meini prawf ‘mwy o geisiadau na’r nifer sydd ar gael’ canlynol yn nhrefn y flaenoriaeth. 1. Pob plentyn Catholig sydd wedi ei fedyddio ac yn byw yn nalgylch yr ysgol. 2. Pob plentyn sydd wedi ei fedyddio yn yr Eglwys Uniongred ac sy’n byw yn nalgylch yr ysgol. 3. Ymgeiswyr gyda chwiorydd neu frodyr ar y gofrestr yn y flwyddyn dderbyn sydd wedi eu bedyddio’n Gatholigion. 4. Ymgeiswyr gyda chwiorydd neu frodyr ar y gofrestr yn y flwyddyn dderbyn nad ydynt yn Gatholigion. 5. Disgyblion Catholig o’r tu allan i’r dalgylch. 6. Plant o enwadau Cristnogol eraill. 7. Plant y mae eu rhieni yn dymuno addysg Gatholig - 52 -


Mae gan bob ysgol ddyletswydd i dderbyn plant gyda Datganiad o Anghenion Addysgol pan yw’r ysgol wedi ei henwi yn y datganiad. Ym mhob dosbarthiad uchod rhoddir blaenoriaeth i Blant sy’n Derbyn Gofal. Os bydd mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael o ran nifer y ceisiadau sydd wedi eu gwneud o dan unrhyw ddosbarthiad uchod, yna bydd y Pwyllgor Derbyniadau yn cynnig lleoedd yn gyntaf i blant sy’n byw agosaf at yr ysgol, yn ôl y daith gerdded fyrraf ar heolydd cyhoeddus o ddrws blaen y plentyn i brif fynedfa’r ysgol.

Ysgol Gatholig y Santes Fair, Doc Penfro Cyfrifoldeb y Corff Llywodraethol yw derbyn plant i’r ysgol, a dylid gwneud ceisiadau i’r Pennaeth. Y Nifer Derbyn ar gyfer yr ysgol yw 16, a lle nad yw nifer y ceisiadau’n uwch na’r nifer hon, yna derbynnir pob ymgeisydd. Pe bai mwy na’r nifer uchod o geisiadau’n cael eu derbyn ar gyfer grŵp blwyddyn unigol, bydd disgyblion yn cael eu derbyn ar sail y meini prawf gordanysgrifio canlynol, wedi’u cymhwyso mewn trefn blaenoriaeth: 1. Plant Catholig sy’n derbyn gofal 2. Plant Catholig, wedi eu bedyddio, i rieni sy’n blwyfolion y Santes Fair, Doc Penfro, a St. Joseph’s, Penfro 3. Plant Catholig, wedi eu bedyddio, i rieni sy’n blwyfolion plwyfi sy’n ffinio ar y rhai sydd wedi eu rhestru uchod neu sydd wedi symud i’r ardal 4. Plant sy’n derbyn gofal nad ydynt yn Gatholigion 5. Plant nad ydynt yn Gatholigion sydd â brodyr neu chwiorydd eisoes yn yr ysgol 6. Cristnogion o enwadau eraill 7. Eraill sy’n dymuno i’w plant gael addysg Gatholig Yn achos ymgeiswyr cyfartal, cynigir y llefydd i’r disgyblion sy’n byw agosaf at yr ysgol, wedi’i fesur yn ôl y pellter cerdded byrraf o’r gât ysgol agosaf sydd ar gael hyd at y man lle mae annedd preifat y disgybl yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus. Mae gan rieni y mae eu cais am le i’w plant yn aflwyddiannus yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â’u derbyn. Dylai’r apêl hon fod yn ysgrifenedig a dylid ei hanfon at Gadeirydd y Pwyllgor Apêl yn yr ysgol. Caiff yr apêl ei chlywed gan Banel Apêl annibynnol, a sefydlwyd gan Swyddfa’r Esgobaeth, y bydd ei benderfyniad yn rhwymol ar bob parti. Gweler yr adran o’r enw “Beth yw fy hawl i apelio”? i gael mwy o wybodaeth. Mae Ysgol Gatholig y Santes Fair yn gweithredu rhestr aros ar gyfer rhieni pan na fydd yn gallu cynnig lle yn ystod y cylch derbyn arferol oherwydd gordanysgrifio. Mae’r telerau a gymhwysir i restrau aros yr un fath â thelerau’r Cyngor Sir, fel a ddisgrifir yn yr adran o’r enw “Sut mae llefydd ysgol yn cael eu dyrannu?” - 53 -


Bydd ceisiadau am lefydd a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau cyhoeddedig, yn cael eu hystyried gan yr ysgol ar ôl yr holl geisiadau hynny a dderbyniwyd mewn pryd. Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried ar sail y meini prawf gordanysgrifio uchod, a chan ystyried nifer y disgyblion presennol/darpar ddisgyblion. Mae’r hawl i apelio yn gymwys i geisiadau hwyr hefyd. Ym mhob achos, mae’n rhaid i’r Llywodraethwyr fod yn fodlon mai awyrgylch crefyddol a moesol yr ysgol yn anad dim sy’n bwysig i’r rhai sy’n gwneud y cais ac na fydd derbyn rhagor o blant yn amharu ar ddefnyddio adnoddau’n effeithlon.

Ysgol Gatholig Sant Teilo, Dinbych-y-pysgod Cyfrifoldeb y Corff Llywodraethol yw derbyn plant i’r ysgol, a dylid gwneud ceisiadau i’r Pennaeth. Y Nifer Derbyn ar gyfer yr ysgol yw 15, a lle nad yw nifer y ceisiadau’n uwch na’r nifer hon, yna derbynnir pob ymgeisydd. Pe bai mwy na’r nifer uchod o geisiadau’n cael eu derbyn ar gyfer grŵp blwyddyn unigol, bydd disgyblion yn cael eu derbyn ar sail y meini prawf gordanysgrifio canlynol, wedi’u cymhwyso mewn trefn blaenoriaeth: 1. Plant wedi’u bedyddio’n Gatholigion ‘Sy’n Derbyn Gofal’, yng ngofal yr awdurdod lleol, yn y plwyfi y mae’r ysgol yn eu gwasanaethu. 2. Plant sy’n Derbyn Gofal sydd yng ngofal awdurdod lleol (plant mewn gofal) neu y mae’n darparu llety iddynt (e.e. plant gyda rhieni maeth). 3. Plant wedi’u bedyddio’n Gatholigion y mae eu teuluoedd yn byw ym Mhlwyf Holyrood a Theilo Sant. 4. Plant eraill wedi’u bedyddio’n Gatholigion. Bydd angen Cadarnhad o Fedyddio. 5. Plant wedi’u bedyddio’n Gatholigion gyda brawd neu chwaer yn yr ysgol yr amser y maen debygol y derbynnir hwy. 6. Plant o Enwadau Cristnogol eraill. 7. Plant nad ydynt yn Gatholigion sydd â brawd neu chwaer yn yr ysgol adeg y derbyn. 8. Plant o grefyddau eraill y mae eu rhieni yn dymuno addysg Gatholig. 9. Plant nad ydynt yn Gatholigion y mae eu rhieni yn dymuno addysg Gatholig ar gyfer eu plentyn. 10. Plant y mae’r AALl wedi gofyn yn benodol am le iddynt yn yr ysgol. Yn achos ymgeiswyr cyfartal, cynigir y llefydd i’r disgyblion sy’n byw agosaf at yr ysgol. Bydd y pellter yn cael ei fesur o ddrws ffrynt mynediad y dderbynfa i ddrws ffrynt tŷ neu fflat yr ymgeisydd. Yn achos plentyn y mae ei rieni yn rhannu cyfrifoldeb ar y cyd, y rhiant sydd â’r cyfrifoldeb pennaf yn ystod yr wythnos ysgol ac y mae ei breswylfan yn agosach at yr ysgol fydd y ffactor penderfynu wedyn. Bydd rhaid darparu llythyr gan y rhieni i gadarnhau’r ffaith honno. Mae gan rieni y mae eu cais am le i’w plant yn aflwyddiannus yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â’u derbyn. Dylai’r apêl hon fod yn ysgrifenedig a dylid ei hanfon at y Pennaeth. Caiff yr apêl ei chlywed gan Banel Apêl annibynnol, y bydd ei benderfyniad yn rhwymol ar bob parti. Gweler yr adran o’r enw “Beth yw fy hawl i apelio”? i gael mwy o wybodaeth. - 54 -


Ysgol Gatholig Mary Immaculate, Hwlffordd Cyfrifoldeb y Corff Llywodraethol yw derbyn plant i’r ysgol, a dylid gwneud ceisiadau i’r Pennaeth. Y Nifer Derbyn ar gyfer yr ysgol yw 29, a lle nad yw nifer y ceisiadau’n uwch na’r nifer hon, yna derbynnir pob ymgeisydd. Pe bai mwy na’r nifer uchod o geisiadau’n cael eu derbyn ar gyfer grŵp blwyddyn unigol, bydd disgyblion yn cael eu derbyn ar sail y meini prawf gordanysgrifio a rhestrir islaw. Ymhob pob categori, bydd plant mewn gofal yn derbyn blaenoriaeth: 1. Plant sydd wedi eu bedyddio’n Gatholigion sy’n derbyn gofal o fewn y sir. Ni roddir blaenoriaeth i geisiadau yn y categori hwn oni bai y cyflwynir tystysgrif Bedydd. 2. Plant sydd wedi eu bedyddio’n Gatholigion y mae eu rhieni yn blwyfolion eglwysi Dewi Sant a Phadrig Sant Hwlffordd, ac eglwys y Beichiogi Dihalog, Arberth. Ni roddir blaenoriaeth i geisiadau yn y categori hwn oni bai y cyflwynir tystysgrif Bedydd. 3. Plant sydd wedi eu bedyddio’n Gatholigion y mae eu rhieni yn blwyfolion plwyfi cyfagos i’r rhai a restrir uchod neu sydd wedi symud i’r ardal. Ni roddir blaenoriaeth i geisiadau yn y categori hwn oni bai y cyflwynir tystysgrif Bedydd. 4. Plant y mae eu rhieni yn aelodau gweithgar a gweithredol o Eglwysi Ynghyd yng Nghymru (Cytûn) ac yn byw yn yr ardaloedd y cyfeirir atynt yng nghategori 2. Ni roddir blaenoriaeth i geisiadau yn y categori hwn oni bai y cyflwynir llythyr ategol gan y gweinidog presennol yn cadarnhau Bedydd neu ddatganiad ategol o gysylltiad neu gyfeiriad wedi’i lofnodi gan y gweinidog neu gynrychiolydd yr eglwys yn cadarnhau aelodaeth o’r eglwys. 5. Plant sydd ag angen meddygol neu gymdeithasol. Bydd angen llythyr gan feddyg neu weithiwr proffesiynol iechyd yn rhoi tystiolaeth ategol i gyd-fynd â’r cais. Rhaid i’r dystiolaeth ategol hon nodi’r rhesymau penodol pam mai Ysgol Mary Immaculate yw’r ysgol fwyaf addas a’r anawsterau a achosir pe bai’n rhaid i’r plentyn fynychu ysgol arall. Ni roddir blaenoriaeth oni bai bod tystiolaeth ategol. 6. Plant nad ydynt wedi’u bedyddio sydd â brodyr neu chwiorydd yn yr ysgol. Yn achos ymgeiswyr cyfartal a bod angen torri’r ddadl mewn unrhyw un o’r categorïau uchod, bydd y llywodraethwyr yn derbyn yr ymgeiswyr hynny sy’n byw agosaf at yr ysgol. Yn achos plentyn y mae ei rieni yn rhannu cyfrifoldeb ar y cyd, y rhiant sydd â’r cyfrifoldeb pennaf yn ystod yr wythnos ysgol ac y mae ei breswylfan yn agosach at yr ysgol fydd y ffactor penderfynu. Bydd y llywodraethwyr yn defnyddio’r llwybr cerdded byrraf a gyfrifir gan ddefnyddio data llwybrau unigol yr Arolwg Ordnans o ddrws ffrynt yr ysgol i ddrws ffrynt tŷ neu fflat yr ymgeisydd. Lle bydd angen, bydd y llywodraethwyr yn gofyn am gymorth gan yr awdurdod lleol i benderfynu pa un yw’r llwybr byrraf. Mae gan rieni y mae eu cais am le i’w plant yn aflwyddiannus yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â’u derbyn. Dylai’r apêl hon fod yn ysgrifenedig a dylid ei hanfon at y Pennaeth. Caiff yr apêl ei chlywed gan Banel Apêl annibynnol, a sefydlwyd gan Swyddfa’r Esgobaeth, y bydd ei benderfyniad yn rhwymol ar bob parti. Gweler yr adran o’r enw “Beth yw fy hawl i apelio”? i gael mwy o wybodaeth. - 55 -


Mae Ysgol Gatholig Mair Ddihalog yn gweithredu rhestr aros ar gyfer rhieni pan na fydd yn gallu cynnig lle yn ystod y cylch derbyn arferol oherwydd gordanysgrifio. Mae’r telerau a gymhwysir i restrau aros yr un fath â thelerau’r Cyngor Sir, fel a ddisgrifir yn yr adran o’r enw “Sut mae llefydd ysgol yn cael eu dyrannu?” Bydd ceisiadau am lefydd a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau cyhoeddedig, yn cael eu hystyried gan yr ysgol ar ôl yr holl geisiadau hynny a dderbyniwyd mewn pryd. Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried ar sail y meini prawf gordanysgrifio uchod, a chan ystyried nifer y disgyblion presennol/darpar ddisgyblion. Mae’r hawl i apelio yn gymwys i geisiadau hwyr hefyd. Mae’r fersiwn lawn o’r trefniadau derbyn ar gael gan yr ysgol.

Ysgol Gatholig Sant Francis, Aberdaugleddau 1. Mae St Francis yn Ysgol Gynradd Gatholig yn Esgobaeth Mynyw. Awdurdod Lleol Sir Benfro sy’n ei chynnal. 2. Mae’r Corff Llywodraethol yn gyfrifol am benderfynu ynglŷn â’r polisi sy’n berthnasol i dderbyn disgyblion i’r ysgol. Mae wedi ei gyfarwyddo ar gyfer y cyfrifoldeb hwn gan: a) gofynion y gyfraith. b) cyngor Ymddiriedolwyr yr Esgobaeth ynglŷn â natur a diben ei gyfrifoldebau a chyflawni ei Weithred Ymddiriedolaeth ac Offeryn Llywodraethu. c) ei gyfrifoldeb tuag at yr ysgol a’r gymuned Gatholig y mae’n ei gwasanaethu. ch) cymeriad Catholig yr ysgol a’i Datganiad Cenhadaeth. Mae ethos yr ysgol hon yn Gatholig. Sefydlwyd yr ysgol gan yr Eglwys Gatholig i ddarparu addysg i blant teuluoedd Catholig. Gofynnwn I bob rhiant sy’n gwneud cais am le yma gefnogi a pharchu’r ethos hwn, ei bwysigrwydd i gymuned yr ysgol a’r addysg y mae hi’n ei darparu. Nid yw hyn yn effeithio ar hawl rhieni nad ydynt o’r un ffydd â’r ysgol hon i wneud cais a chael eu hystyried am le yma. Nifer Derbyn yr Ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol sy’n dechrau ym mis Medi 2014 yw 27. Os bydd nifer y ceisiadau yn fwy na’r nifer derbyn, bydd y llywodraethwyr yn rhoi blaenoriaeth i geisiadau yn unol â’r meini prawf sydd wedi eu rhestru ar yr amod y rhoddir gwybod i’r llywodraethwyr am y cais hwnnw cyn gwneud penderfyniadau ynghylch derbyniadau. Os bydd mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael o fewn dosbarthiad, bydd y llywodraethwyr yn rhoi blaenoriaeth i blant sy’n byw agosaf at yr ysgol, wedi ei benderfynu yn ôl y pellter byrraf. 3. Mae’r ysgol yn gwasanaethu, yn y lle cyntaf, plant sydd wedi’u bedyddio’n Gatholigion, sy’n byw ym mhlwyf Sant Francis o Asisi yn Aberdaugleddau. 4. Mae’n rhaid gwneud ceisiadau am le yn yr ysgol ar y ffurflen dderbyniadau a’i dychwelyd i’r ysgol erbyn y 30 Ebrill 2014 fan bellaf. 5. Mae’r Corff Llywodraethol wedi dirprwyo cyfrifoldeb dros benderfynu ynghylch derbyniadau i’w Bwyllgor Derbyniadau, a fydd yn ystyried pob cais yr un pryd ac wedi’r dyddiad cau ar gyfer derbyniadau, wedi’u gwneud yn unol â’r meini prawf sydd wedi eu rhestru dros y dudalen. - 56 -


6. Bydd disgyblion a dderbynnir i’r ysgol yn mynd i’r Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2014. 7. Os bydd cais am dderbyn wedi ei wrthod gan y Corff Llywodraethol, gall rhieni wneud apêl i Banel Apeliadau Annibynnol. Mae’n rhaid anfon yr apêl hon yn ysgrifenedig at glerc y Llywodraethwyr yn yr ysgol o fewn 14 o ddyddiau (10 diwrnod gwaith) wedi’r gwrthodiad. Meini Prawf Derbyniadau Os bydd nifer y ceisiadau yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, bydd y Corff Llywodraethol yn gweithredu’r meini prawf ‘mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael’ canlynol yn nhrefn y flaenoriaeth: 1. Plant wedi’u bedyddio’n Gatholigion ‘Sy’n Derbyn Gofal’, yng ngofal yr awdurdod lleol, yn y plwyfi y mae’r ysgol yn eu gwasanaethu.. 2. Plant wedi’u bedyddio’n Gatholigion yn y plwyfi y mae’r ysgol yn eu gwasanaethu. 3. Plant eraill sydd wedi’u bedyddio’n Gatholigion. 4. Plant sy’n Derbyn Gofal sydd yng ngofal yr awdurdod lleol (plant mewn gofal) neu y mae’n darparu llety iddynt (e.e. plant gyda rhieni maeth). 5. Plant sydd â brawd neu chwaer yn yr ysgol amser y derbyn. 6. Plant o enwadau Cristnogol eraill. 7. Plant o grefyddau eraill y mae eu rhieni yn dymuno addysg Gatholig 8. Plant nad ydynt yn Gatholigion y mae eu rhieni yn dymuno addysg Gatholig ar gyfer eu plentyn. 9. Plant y mae’r Cyngor Sir wedi gofyn yn benodol am le iddynt yn yr ysgol. • Unrhyw amser y bydd mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael, o ran nifer y ceisiadau sydd wedi eu gwneud o dan unrhyw ddosbarthiad uchod, bydd y Pwyllgor Derbyniadau yn cynnig lleoedd yn gyntaf i’r plant sy’n byw agosaf at yr ysgol yn ôl y daith gerdded fyrraf ar heolydd cyhoeddus. Bydd rhaid i bob ymgeisydd Cristnogol ddangos tystysgrif bedydd. • Mae’n rhaid i rieni roi rhesymau dros apelio yn ysgrifenedig a bydd rhaid i’r Llywodraethwyr dderbyn penderfyniad y Panel Apeliadau. • Os yw’r ysgol wedi ei henwi mewn Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, mae gan y Corff Llywodraethol ddyletswydd i dderbyn y plentyn i’r ysgol. • Fel y mae’r gyfraith yn mynnu, ni fydd y Corff Llywodraethol yn derbyn mwy na 30 o ddisgyblion i’r un dosbarth Derbyn neu Gyfnod Sylfaen.

- 57 -


Atodiad 3

Cod Teithio a Chod Ymddygiad wrth Deithio ar Fysiau Llywodraeth Cymru

Mae eich diogelwch yn bwysig iawn. Rhaid i chi ymddwyn yn gyfrifol ac yn ddiogel wrth deithio i’r ysgol neu’r coleg ac oddi yno, p’un ai ydych chi’n defnyddio bws, trên, tacsi neu’n beicio neu’n cerdded neu’n defnyddio unrhyw ddull arall. Os byddwch chi’n defnyddio’r bws i fynd i’r ysgol neu’r coleg, mae’n rhaid i chi ddilyn y rheolau yn y Cod Ymddygiad wrth Deithio ar Fysiau Ysgol. Os nad ydych yn dilyn y Cod hwn, er eich diogelwch eich hun, gall awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau gymryd camau yn eich erbyn. Gall hyn olygu tynnu eich hawl i gael cludiant i’r ysgol oddi arnoch, a hyd yn oed eich gwahardd o’r ysgol.

> Parchwch bobl eraill bob amser, gan gynnwys disgyblion eraill, y gyrwyr a’r cyhoedd. > Parchwch y cerbydau a’r eiddo sydd ynddynt bob amser. > Byddwch yn gwrtais bob amser. > Peidiwch byth â thaflu sbwriel ar hyd y lle. > Rhaid i chi ufuddhau i’r gyfraith bob amser.

> Rhaid i chi ymddwyn yn dda bob amser wrth deithio. > Rhaid i chi ddilyn cyfarwyddyd y gyrrwr bob amser wrth deithio. > Peidiwch â thynnu sylw’r gyrrwr. > Croeswch y ffordd yn ddiogel ac mewn modd synhwyrol bob amser. > Defnyddiwch lwybr diogel wrth deithio bob amser.

- 58 -

> Bod yn ddiogel wrth deithio. > Cael eich trin yn deg a chyda pharch. > Dweud wrth rywun os yw rhywun neu os oes rhywbeth yn achosi problemau i chi. > Peidio â chael eich bwlio neu eich poeni.


> Pan fyddwch yn aros wrth safle bws, ˆ eich bod yn aros gwnewch yn siwr mewn lle synhwyrol oddi ar y ffordd.

> Peidiwch byth â bwyta nac yfed ar y bws. > Peidiwch byth â thaflu dim i mewn i’r bws nac oddi ar y bws.

> Trefnwch gyda’ch rhieni beth i’w wneud os na fydd y bws yn cyrraedd neu os byddwch yn colli’r bws.

> Peidiwch byth ag achosi difrod na fandaleiddio unrhyw ran o’r bws.

> Pan ddaw’r bws, arhoswch iddo stopio. Peidiwch byth â gwthio neu ruthro at y drws.

> Peidiwch byth ag agor y drysau neu’r allanfeydd ar y bws ac eithrio mewn argyfwng.

> Dangoswch eich pàs (os rhoddwyd un i chi) pan fyddwch yn mynd ar y bws.

> Dilynwch gyfarwyddiadau’r gyrrwr neu’r cynorthwyydd teithwyr bob amser.

> Ar fws ysgol, arhoswch yn eich sedd nes i chi gyrraedd pen y daith. > Ar fws cyhoeddus, dewch o hyd i sedd wag os oes un ar gael.

> Os digwydd damwain, arhoswch ar y bws nes i chi gael cyfarwyddiadau i adael. Os nad yw’n ddiogel i aros ar y bws, yna defnyddiwch yr allanfa fwyaf diogel i fynd oddi arno.

> Peidiwch byth â chreu rhwystr yn yr eil gyda’ch bag neu eiddo arall.

> Peidiwch byth â cheisio mynd ar y bws neu oddi arno hyd nes y bydd wedi stopio.

> Gwisgwch y gwregys diogelwch bob amser os oes un ar gael.

> Ewch oddi ar y bws yn drefnus ac yn synhwyrol, gan fynd â’ch holl eiddo gyda chi.

> Rhaid i chi beidio â thynnu sylw’r gyrrwr pan fydd yn gyrru.

> Peidiwch byth â chroesi’r ffordd o flaen y bws na chwaith yn agos at gefn y bws.

- 59 -


Nodiadau

- 60 -



Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.