Cyngor Sir Penfro
Plant ac Ysgolion Derbyniadau i ysgolion yn Sir Benfro
Gwybodaeth i Rieni
2017-2018 Gwasanaeth Derbyniadau i Ysgolion www.sir-benfro.gov.uk/addysg
Doc Penfro
Aberdaugleddau
Hwlffordd
Crymych
Y.G. Doc Penfro Ysgol Gymunedol Pennar Ysgol Gatholig Santes Fair
Y.G. Hakin Y.G. Rh. Hubberston Ysgol Plant Iau Aberdaugleddau Ysgol Babanod a Meithrin y Meads Ysgol Gatholig St Ffransis Ysgol Aberdaugleddau
Y.G. Fenton Y.G. Mount Airey Y.G. Prendergast Ysgol Glan Cleddau Ysgol G.Rh. Hwlffordd Ysgol Gatholig Mary Immaculate Y.G. Rh. St Marc Ysgol Arbennig Portfield Ysgol Tasker Milward Ysgol Syr Thomas Picton
Ysgol y Frenni Ysgol y Preseli
Penfro Y.G. Gelli Aur Golden Grove Y.G. Monkton Priory Ysgol Penfro
Dinbych Y Pysgod Ysgol Eglwys yng Nghymru G.Rh. Dinbych y Pysgod Ysgol Hafan y Môr Ysgol Gatholig St Teilo’s Ysgol Greenhill
Tyddewi Ysgol Bro Dewi Ysgol Gyfun Dewi Sant
Abergwaun Ysgol Catholig yr enw Sanctaidd Ysgol Glannau Gwaun Ysgol Bro Gwaun
Neyland Ysgol Gymunedol Neyland Canolfan Dysgu Sir Penfro
Rhagair
Neges gan y
Cyfarwyddwr Dros Blant ac Ysgolion 1 Medi 2016 Annwyl Riant neu Warcheidwad Bwriad y llyfryn hwn yw eich cynorthwyo i wneud penderfyniadau pwysig ynglŷn â pha ysgol y gall eich plentyn fynychu. Er mwyn hwyluso eich penderfyniad, rydym yn argymell eich bod yn ymweld ag ysgolion lleol, yn darllen prosbectws yr ysgol ac yn edrych ar wefan Fy Ysgol Leol; mylocalschool.wales.gov.uk Er bod y rhan fwyaf o geisiadau’n llwyddiannus, nid yw’n bosib i bob cais lwyddo. Pwrpas y llyfryn hwn yw esbonio’r broses o wneud cais, a’r broses o apelio os nad ydych yn llwyddo i gael eich dewis cyntaf. Dylech nodi nad yw’r ffaith bod plentyn yn cael ei dderbyn i ysgol yn awgrymu bod cludiant i’r ysgol honno ac oddi yno yn cael ei ddarparu. I wish your child every success in the future.
-1-
Dymunaf bob llwyddiant i’ch plentyn yn y dyfodol. Cyhoeddir y llyfryn hwn yn flynyddol ac mae’n gywir adeg ei gyhoeddi. Mae’r llyfryn hwn yn disodli fersiynau blaenorol. Kate-Evan Hughes Cyfarwyddwr Plant ac Ysgolion Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1TP Ffôn (01437) 764551 Gwefan: www.sir-benfro.gov.uk/addysg
Ceisiadau Ar-lein Ar adeg cyhoeddi'r llyfryn hwn, mae'r Awdurdod Leol yn ystyried cyflwyno proses ceisiadau ar-lein a bwriedir gweithredu hwn cyn diwedd y flwyddyn academaidd 2017-18. Cynghorir rieni i gadw llygaid ar wefan y Cyngor Sir am unrhyw ddiweddariad.
Mae rhagor o gopïau o’r llyfryn hwn ar gael gan Ganolfan Gyswllt y Cyngor Sir: Rhif ffon: 01437 764551 Ar-lein: www.sir-benfro.gov.uk/addysg neu unrhyw Ganolfan Gwasanaethau Cwsmer y Cyngor neu unrhyw ysgol.
I gael copi o’r cyhoeddiad hwn mewn Braille, print mwy, ar dâp sain neu mewn iaith arall ffoniwch Gyngor Sir Penfro ar (01437) 776613. -2-
Rhagair Tudalen Map yn dangos lleoliad ysgolion Sir Benfro .................................... y tu mewn i’r clawr blaen Neges gan y Cyfarwyddwr Dros Blant ac Ysgolion ................................................................ 01 Siarter Lleol - Gwasanaeth Derbyn i Ysgolion ........................................................................ 05 Cyfleoedd Cyfartal a Diogelu Data ........................................................................................ 07
RHAN 1 - Dewis ysgol a gwneud cais am dderbyniad i) ii) iii) iv) v) vi) vii) viii) ix) x) xi) xii) xiii) xiv)
Pryd gall fy mhlentyn ddechrau’r ysgol? .................................................................... 08 Sut galla i gael lle mewn ysgol i’m plentyn tair oed? ................................................ 09 Sut mae dewis ysgol i’m plentyn? ............................................................................ 10 Sut mae gwneud cais am le i'm plentyn yn y Dosbarth Derbyn? ................................ 11 Pryd dylwn i wneud cais am le yn yr ysgol o’m dewis? ............................................ 13 A fydd fy mhlentyn yn gymwys i gael cludiant ysgol? ................................................ 14 A oes gan ysgolion derfyn ar nifer y disgyblion y gellir eu derbyn? ............................ 14 Sut y mae llefydd ysgol yn cael eu dyrannu? ............................................................ 14 Sut y caf i wybod am ganlyniad fy nghais am le mewn ysgol? .................................. 17 Os byddaf i’n colli’r dyddiad olaf cyhoeddedig ar gyfer derbyniadau, sut rhoddir sylw i’m cais? .... 17 Alla i wneud cais am ysgol y tu allan i Sir Benfro? ................................................................ 18 Beth yw Clystyrau Ysgolion? ...................................................................................... 18 Beth os ydw i’n dymuno addysg dan ddylanwad yr Eglwys i’m plant? ...................... 19 Sut y mae penderfynu ar gategori iaith yr ysgol? ...................................................... 19
RHAN 2 - Polisïau a’r gyfraith sy’n effeithio ar dderbyniadau i) Yn ôl y gyfraith, pa oed sydd yn rhaid i’m plentyn fod i fynychu’r ysgol? .................... 21 ii) Gall fy mhlentyn gael ei addysgu mewn grwp blwyddyn gwahanol? ........................ 21 iii) Sut mae’r Cyngor Sir yn diwallu fy newis fel rhiant? ................................................ 21 iv) A oes terfyn ar faint dosbarthiadau mewn ysgolion? .................................................. 22 v) Pam mae angen i chi wybod am gyfrifoldeb rhiant dros fy mhlentyn? ........................ 22 vi) Enw cyfreithiol/hysbys plentyn .................................................................................. 23 vii) Pa ddarpariaeth sydd gennych am blant pobl sydd yn Lluoedd Arfog y DU? .............. 23 viii) Pa ddarparieth sydd am deuluoedd Sipsiwn a Theithwyr? ........................................ 24 ix) Beth yw hawliau plant o dramor? .............................................................................. 24 x) Beth yw fy hawl i apelio? .......................................................................................... 24 xi) A fydd prydau ysgol ar gael i’m plentyn? .................................................................. 25 xii) Sut galla i gael gwybod am hawl i brydau ysgol am ddim? ........................................ 27 xiii) A fydd fy mhlentyn yn gwisgo gwisg ysgol? .............................................................. 27 xiv) Pa gymorth ariannol y gallwn fod yn gymwys i’w gael?.............................................. 28 xv) Pa arholiadau cyhoeddus fydd fy mhlentyn eu sefyll? ................................................ 28 xvi) Beth os oes gan fy mhlentyn Anghenion dysgu Ychwanegol?...................................... 29 xvii) Pa drefniadau amddiffyn plant sydd ar waith? .......................................................... 31 xviii)Pa gostau y mae’n bosibl y bydd rhaid i mi eu talu? .................................................. 31 -3-
RHAN 3 - Trosglwyddo rhwng ysgolion i) ii) iii) iv)
Beth yw’r weithdrefn os ydw i am symud fy mhlentyn i ysgol arall? .......................... 32 Sut y gallaf ychwanegu enw fy mhlentyn at y Rhestr Aros? ........................................ 33 Sut wyf yn mynd ati i drefnu trosglwyddo fy mhlentyn i ysgol iau? ............................ 33 Sut y mae trefnu i’m plentyn drosglwyddo i ysgol uwchradd? .................................. 33
RHAN 4 - Cludiant ysgol i) Cyflwyniad .............................................................................................................. 35 ii) Pellterau cerdded ...................................................................................................... 35 iii) Ysgol addas .............................................................................................................. 36 iv) Rhieni’n dewis ysgol wahanol .................................................................................. 36 v) Natur y ddarpariaeth gludiant .................................................................................... 36 vi) Llwybrau cerdded diogel .......................................................................................... 36 vii) Ysgolion cyfrwng Cymraeg ........................................................................................ 37 viii) Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ............................................................................ 37 ix) Cludiant i ddysgwyr 16+ oed .................................................................................... 37 x) Disgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig ............................................................ 38 xi) Cludiant ar sail feddygol ............................................................................................ 39 xii) Teithio rhatach .......................................................................................................... 39 xiii) Ysgolion mewn awdurdodau cyfagos ........................................................................ 40 xiv) Newid cyfeiriad ........................................................................................................ 40 xv) Disgyblion o dan oedran ysgol gorfodol .................................................................... 40 xvi) Codau Ymarfer .......................................................................................................... 40 xvii) Pasiau bws .............................................................................................................. 43 xviii) Mannau codi ............................................................................................................ 43 xix) Ymddygiad ar fysiau ysgol ........................................................................................ 43 xx) Difrod ...................................................................................................................... 44 xxi) Cyfrifoldeb rhieni mewn perthynas â chludiant ........................................................ 44 xxii) Amgylchiadau ariannol .............................................................................................. 45 xxiii) Apeliadau cludiant .................................................................................................... 45 xxiv) Adolygu llwybrau cludiant ........................................................................................ 45 xxv) Tywydd garw ............................................................................................................ 45
RHAN 5 - Dyddiadau tymhorau a gwyliau ysgol 2017-18 ........ 46 Atodiadau Atodiad 1 - Egluro’r derminoleg ...................................................................................... 47 Atodiad 2 - Trefniadau derbyn a meini prawf gordanysgrifio ar gyfer ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir .............................................................................. 48 Atodiad 3 - Categoriau Iaith ............................................................................................ 60 Atodiad 4 - Rhestr o ysgolion yn Sir Benfro ...................................................................... 64 -4-
Siarter Lleol Gwasanaeth Derbyn i Ysgolion Ym mis Ionawr 2016 roedd 70 ysgol yn Sir Benfro yn gwasanaethu 9685 disgybl oedran cynradd llawn-amser a 1088 rhan-amser, a 6943 disgybl oedran uwchradd. Cyngor Sir Penfro yw’r awdurdod derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir yn Sir Benfro ac mae'r Uned Derbyn a Chynllunio Lleoedd yn ymdrin â’r holl geisiadau am le i ysgolion a’r trosglwyddiadau, ac eithrio i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir. Yr Awdurdod Derbyn ar gyfer ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yw corff llywodraethu'r ysgol dan sylw. Gallwch ddisgwyl: derbyn cyngor dibynadwy a diduedd ynglŷn ag ysgolion a mynegi dewis y bydd eich cais am le mewn ysgol yn cael ei drin yn deg ac yn effeithlon y cynigir lle ichi mewn da bryd (yn amodol ar dderbyn eich cais mewn pryd) lle yn yr ysgol o’ch dewis oni bai bod mwy o geisiadau na’r nifer derbyn yn caniatau mynediad. Os bydd hyn yn digwydd, bydd yr holl geisiadau yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf gordanysgrifio derbyn gwybodaeth am agweddau allweddol ar bolisïau'r Cyngor Sir ynglŷn â derbyniadau a chludiant ysgol cael gwybod sut i dderbyn prosbectws ysgol a sut i drefnu ymweliad ag ysgol a gwybodaeth berthnasol arall am ysgolion yn Sir Benfro gwybodaeth ynglŷn â'r hawl i apelio os na roddir lle i chi yn yr ysgol o’ch dewis gweithdrefn gwyno agored, teg ac effeithiol os nad ydych yn fodlon ar y gwasanaethau a dderbyniwch
-5-
Os yw eich plentyn wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol ac nad ydych wedi cael lle yn yr ysgol o’ch dewis mae gennych hawl i apelio i banel apêl annibynnol. Mae gan unrhyw riant (ac eithrio un y mae ei blentyn wedi’i wahardd yn barhaol o ddwy ysgol) y gwrthodir lle i’w blentyn mewn ysgol, neu berson ifanc y gwrthodir lle iddo mewn chweched dosbarth ysgol, hawl statudol i apelio i banel apêl annibynnol (nid yw’r hawl hon i apelio’n ymestyn i geisiadau am addysg feithrin). Bydd gan rieni neu bobl ifanc hawl i apelio hefyd os cynigiwyd lle i blentyn neu berson ifanc ac y tynnwyd y cynnig hwnnw’n ôl. Mae'n rhaid i chi gyflwyno eich apêl yn ysgrifenedig. Bydd manylion ynglŷn â sut i apelio yn y llythyr sy’n eich hysbysu am y penderfyniad ac mae’r manylion yn y llyfryn hwn hefyd. Os ydych yn anfodlon â’r gwasanaeth a ddarperir gallwch wneud cwyn swyddogol. Mae gan y Cyngor Sir weithdrefn Gwyno, Canmol a Chyflwyno Sylwadau sydd ar gael ar gais.
NODER: Mae’r wybodaeth yn y llyfryn hwn yn berthnasol ac yn gywir ar adeg ei gyhoeddi. Adolygir y llyfryn hwn yn flynyddol ac mae’n disodli’r holl fersiynau eraill. Efallai y bydd rhaid addasu polisi, rheoleiddio, darpariaeth neu adnoddau ar gyfer, neu yn ystod, y flwyddyn academaidd 2017/18.
-6-
Cyfleoedd Cyfartal a Diogelu Data Nid yw polisïau ac arferion y Cyngor Sir ynglŷn â derbyn a throsglwyddo disgyblion a darparu cludiant ysgol yn gwahaniaethol. Maent yn cydymffurfio a’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae gwybodaeth am addysgu Cymraeg a Saesneg yn ysgolion Sir Benfro yn Atodiad 3 (tudalen 60) or llyfryn hwn. Os ydych o’r farn eich bod wedi cael eich trin yn annheg o safbwynt cyfle cyfartal mewn perthynas â derbyn i ysgol neu gludiant ysgol cysylltwch â’r canlynol: Huw Jones, Swyddog Proffesiynol – Derbyn a Chynllunio Llefydd Cyfarwyddiaeth Plant ac Ysgolion, Neuadd y Sir, Hwlffordd. Sir Benfro SA61 1TP Ffôn: 01437 764551 E-bost: admissions@pembrokeshire.gov.uk
Diogelu Data Bydd yr wybodaeth a nodir ar y ffurflen gais yn cael ei chadw gan y Cyngor yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998 a bydd yr wybodaeth ar y ffurflen yn cael ei defnyddio ar gyfer gweinyddu’r broses dderbyn neu drosglwyddiadau o fewn Cludiant, Refeniw, Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwasanaeth Iechyd Ysgolion (yn cynnwys Iechyd Plant a Nyrsys Ysgolion) er mwyn cadarnhau cofnodion ac at ddibenion monitro ystadegol yn unig mewn adrannau eraill o’r cyngor.
-7-
Rhan 1 - Dewis a gwneud cais i) Pryd gall fy mhlentyn ddechrau’r Ysgol Yn Sir Benfro gall plant gael eu derbyn yn rhan amser i ysgol gynradd ar ddechrau’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed, ac yn llawn-amser ar ddechrau’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair neu’n bump oed. Sylwer fod addysg orfodol yn dechrau pan fydd y plentyn yn cyrraedd pump oed. Dyddiad pen-blwydd eich plentyn sy’n penderfynu pryd y gall ddechrau’r ysgol, ni waeth beth yw dyddiad dechrau’r tymor. Mae’r tabl isod yn dangos pryd y gall eich plentyn gael ei dderbyn i ysgol. Gellir dod o hyd i amserlen o ran Dyddiadau Cau a Hysbysiadau yn adran 1v (tudalen 13). Gall rhieni ddewis i ohirio dyddiad dechrau eu plentyn ar unrhyw adeg hyd nes bod y plentyn wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol, am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Swyddog Derbyn. Pen-blwydd y plentyn rhwng 1 Ebrill - 31 Awst 1 Medi - 31 Rhagfyr 1 Ionawr - 31 Mawrth
Tymor derbyn Meithrin Hydref Gwanwyn Haf
Mae’r rhan fwyaf o ardaloedd Sir Benfro yn cael eu gwasanaethu gan ysgolion cynradd sy’n darparu ar gyfer disgyblion o 3+ i 11 oed a gall plant fynychu yn llawn-amser pan fyddant yn bedair oed, neu’n rhan-amser yn dair oed yn yr ysgolion hynny sy’n gallu derbyn rhai tair oed. Pan fydd trefniadau’n bodoli rhwng ysgolion a darparwyr blynyddoedd cynnar preifat, gall disgyblion ddechrau yn yr ysgol ar ddechrau’r ail neu trydydd tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn dair oed. Dylech gysylltu â’r Swyddog Derbyn er mwyn cael gwybodaeth am drefniadau penodol ysgol unigol. Nid yw’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i blentyn ddechrau addysg lawn-amser hyd nes dechrau’r tymor ysgol yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn bump oed. Fodd bynnag, darperir lleoliad llawn-amser ar ôl pedair oed ac fe’u hanogir i fynychu’n llawn-amser er mwyn elwa’n llawn ar addysg a phrofiadau’r Cyfnod Sylfaen. Dangosir ystod oed pobl ysgol ar restr yr ysgolion yn Atodiad 4 (Tudalennau 64) y llyfryn hwn. -8-
ii) Sut y gallaf gael lle mewn ysgol i’m plentyn tair oed? Mae hawl gan bob plentyn tair oed yng Nghymru i gael lle addysgol rhan-amser am ddim am o leiaf ddeg awr yr wythnos. Fel arfer, bydd hwnnw ar gael yn eich ysgol ddalgylch; er nad yw byw yn nhalgylch ysgol yn gwarantu mynediad iddi, mae'n ffactor holl bwysig gan ei fod yn rhoi blaenoriaeth uwch na'r sawl sydd yn byw tu allan. Ceir wybodaeth ar wefan Cyngor Sir Penfro www.pembrokeshire.gov.uk/addysg. Os nad yw eich ysgol leol yn derbyn plant tair oed gallwch gael lle rhan-amser am ddim mewn canolfan a gymeradwywyd gan Bartneriaeth Datblygiad y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn y sector nas cynhelir, e.e. cylch chwarae /meithrinfa breifat. Dim ond un lle sydd ar gael ar gyfer pob plentyn. Gofynnir i chi ddarparu copi o dystysgrif geni llawn eich plentyn (a'r weithred newid enw os yn briodol) - bydd hon yn cael ei gwirio o ran enw cyfreithiol y plentyn, dyddiad geni, cyfrifoldeb rhiant, bydd y swyddfa dderbyn yn nodi ar y cofnodion fod y dystysgrif wedi cael ei gweld a bydd unrhyw gopïau yn cael eu dinistrio. Gellir cael rhagor o wybodaeth am lefydd y blynyddoedd cynnar yn y sector nas cynhelir gan y canlynol: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) Sir Benfro Turret 0G, Neuadd y Sir, Hwlffordd SA61 1TP Ffôn: 01437 770014 E-bost: fis@pembrokeshire.gov.uk Gwefan: www.pembsfamilyinfo.co.uk Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) yn wasanaeth diduedd, am ddim sy’n cynnig gwybodaeth fanwl ynglŷn â’r ddarpariaeth gofal plant cofrestredig yn Sir Benfro yn ogystal â gwybodaeth gyffredinol am amrywiaeth mawr o wasanaethau ar gyfer plant 0 - 19 oed a’u teuluoedd yn y sir. Mae rhaglen Dechrau’n Deg yn cynnig gwasanaethau ehangach i deuluoedd sy’n byw yn yr ardaloedd penodedig a chanddynt blentyn rhwng 0 a 4 blwydd oed. Ceir pedair elfen graidd: • Gofal Plant o safon uchel am ddim am hyd at 2.5 awr y dydd ar gyfer plant cymwys rhwng 2 -3 oed, mewn meithrinfa gofrestredig Dechrau’n Deg • Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd ehangach • Sgiliau rhianta • Datblygiad iaith cynnar -9-
Gofal Plant: Cynigir lle mewn meithrinfa gofrestredig Dechrau’n Deg o’r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn ddwy oed am 12.5 awr yr wythnos dros bum diwrnod am gyfnod hyd at 39 wythnos y flwyddyn. Iechyd: Mae lles eich plentyn yn dod yn gyntaf; bydd y tîm iechyd yn cynnig cymorth a chefnogaeth ychwanegol trwy gydol y cyfnod mamolaeth a phedair blynedd gyntaf bywyd eich plentyn. Rhianta: Mae Dechrau’n Deg yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau rhianta lle gall rhieni dderbyn cyngor a sgiliau, cyfnewid syniadau a rhannu profiadau trwy ein grwpiau strwythuredig a grwpiau anffurfiol megis Mam a’i Phlentyn a dosbarthiadau Tylino Babi. Datblygiad Iaith Cynnar: Cefnogir Datblygiad Iaith Cynnar trwy nifer o weithgareddau yn cynnwys chwarae, crefftau, canu a storiâu mewn grŵp neu yn eich cartref. Cysylltwch â Swyddog Gwybodaeth Dechrau’n Deg i weld a ydych yn gymwys ar gyfer Prosiect Dechrau’n Deg ar 01437 770004. iii) Sut mae dewis ysgol i’m plentyn? Mae pob ysgol yn Sir Benfro yn gwasanaethu ardal wedi’i diffinio, a elwir yn ddalgylch. Yr eithriad i hwn yw Ysgol y Preseli. Gan mai hon yw’r ysgol uwchradd ddwyieithog ddynodedig y Sir, mae’n gwasanaethu’r holl ddisgyblion sydd yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn ysgolion cynradd y Sir gweler y rhestr ysgolion (gweler Atodiad 3 (tudalen 60) ar gyfer categori iaith). Mae manylion yr ardal y mae pob ysgol yn ei gwasanaethu ar gael yn yr ysgol, neu ar wefan y Cyngor Sir. Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol ddalgylch sy’n gwasanaethu eu hardal, ond efallai y byddwch chi’n dewis ffafrio ysgol wahanol. Cyn gwneud hynny, dylech ddarllen y dudalen Clwstwr Ysgolion (tudalen18) a Chludiant Ysgol (tudalen 37) o’r llyfryn hwn, sy’n ystyried y goblygiadau addysgol a chludiant pan fydd eich plentyn yn mynychu ysgol o’ch dewis. - 10 -
Mae rhestr o ysgolion yn Atodiad 4 (Tudalennau 64) y llyfryn hwn ac mae hefyd ar gael ar wefan y Cyngor Sir. Mae hon yn dangos yr wybodaeth ganlynol (am y flwyddyn ysgol flaenorol): Ystod oedran bob ysgol Nifer y disgyblion ar y gofrestr Cynhwysedd yr ysgol a’r nifer derbyn o ganlyniad Nifer y ceisiadau ysgrifenedig am lefydd yn yr ysgol Nifer yr apelau, a’r nifer a oedd yn llwyddiannus Categori iaith yr ysgol Os ydych yn ystyried symud i ogledd ddwyrain Sir Benfro, mae angen i chi fod yn ymwybodol mai Cymraeg yw prif gyfrwng bywyd a gwaith ysgolion yr ardal honno. Cynghorir chi i gysylltu â’r ysgol rydych chi’n ei hystyried er mwyn cael copi o’i phrosbectws a threfnu gyda’r pennaeth perthnasol i ymweld â’r ysgol cyn gwneud eich penderfyniad. Hefyd, gallwch gael gwybodaeth annibynnol am berfformiad ysgol trwy fynd i wefan ESTYN er mwyn gweld canfyddiadau ei hadroddiad arolygu diweddaraf. ESTYN yw swyddfa Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru - www.estyn.gov.uk. Gallwch hefyd fynd i wefan Fy Ysgol Leol mylocalschool.wales.gov.uk iv) Sut mae gwneud cais am le i'm plentyn yn y Dosbarth Derbyn? P’un a ydych am i’ch plentyn fynychu eich ysgol ddalgylch neu ysgol wahanol mae’n rhaid i chi gyflwyno cais ysgrifenedig i’r Swyddog Derbyn, gallwch nodi eich hoff ddewis o 1, 2 neu 3 ysgolion. Gallwch ddefnyddio’r ffurflen gais (RE1) sydd ar gael o nifer o adeiladau’r Cyngor Sir, yn cynnwys eich ysgol ddewisol; fel arall gallwch ei lawrlwytho oddi ar wefan y Cyngor neu o'r system ar-lein. Rhaid dychwelyd ceisiadau am lefydd mewn ysgolion cymunedol neu wirfoddol a reolir at y Swyddog Derbyn erbyn y dyddiad cau a nodir yn adran 1v) (tudalen 13). - 11 -
Dylid dychwelyd ceisiadau am dderbyniad i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru neu ysgolion Catholig trwy law bennaeth yr ysgol berthnasol erbyn y dyddiad cau a nodir yn Atodiad 2 (tudalen 48). Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid gwneud pob cais am dderbyniad trwy lenwi ffurflen gais (ar-lein neu gopi papur). Nodwch nad yw’n ddigonol i ddweud wrth bennaeth eich ysgol ddewisol eich bod am sicrhau lle ac er bod modd i chi ddychwelyd y ffurflen i’r ysgol honno, ni fydd y Pennaeth yn gallu gwneud penderfyniad ar gynnig lle. Gellir gofyn i chi ddarparu prawf o’ch cyfeiriad, e.e. ar ffurf biliaucyfleustodau diweddar, wrth wneud cais am le mewn ysgol. Hefyd, os ydych yn gwneud eich cais cyntaf am le mewn ysgol a gynhelir yn Sir Benfro, mae’n RHAID i chi ddangos copi o dystysgrif geni’r plentyn, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny wrth ymgeisio am le yn y dosbarth meithrin. Gallwch ddewis ffafrio mwy nag un ysgol. Bydd yr holl ymgeiswyr yn cael eu derbyn i ysgol oni bai bod niferoedd yn fwy na’r Nifer Derbyn. Bydd yr Awdurdod yn dyrannu llefydd yn unol â’r meini prawf gordanysgrifio sydd i’w gweld yn adran 1viii (tudalen 15). Gallwch fynegi eich bod yn ffafrio addysg trwy gyfrwng y Gymraeg neu ysgol Eglwysig. Os caiff eich plentyn ei dderbyn i addysg meithrin mewn ysgol, rhaid i chi ail-ymgeisio am le derbyn. Mae'r flwyddyn Derbyn yn dechrau Tymor yr Hydref y flwyddyn academaidd y mae plentyn yn cyrraedd 5 oed. Os oes mwy o geisiadau nag sydd o lefydd llawnamser ar gael, bydd y meini prawf gordanysgrifio a eglurir yn adran 1viii (tudalen 15) yn berthnasol. Ar ôl cael cytundeb bod lle llawn-amser ar gael a’ch bod yn dymuno gohirio mynediad i’r ysgol, mae’n rhaid cyflwyno hyn yn ysgrifenedig i’r swyddfa dderbyn, dim ond yn ystod blwyddyn academaidd y gellir gohirio lle, fel arall rhaid cyflwyno cais o’r newydd. Efallai y caiff lle i'w dynnu'n ol os nad yw plentyn wedi dechrau yn yr ysgol o fewn pedair wythnos o'r dyddiad a gytunir. Gellir tynnu lle mewn ysgol yn ôl os yw rhiant yn rhoi gwybodaeth anghywir neu dwyllodrus wrth wneud cais am le. Gall fod angen i chi ddarparu prawf o’ch cyfeiriad mewn cysylltiad â’ch cais am le mewn ysgol. - 12 -
v) Pryd dylwn i wneud cais am le yn yr ysgol o’m dewis?
Amserlen Cais Derbyniadau Ysgolion Cymunedol a Gwirfoddol a Reolir Darpariaeth
Lle Meithrin (Ffurflen NP1) Dosbarth Derbyn (Ffurflen RE1) Trosglwydd Babanod i Iau (Ffurflen IJTR1) (lle bo'n berthnasol)
Trosglwydd o i Addysg Uwchradd (Ffurflen SST1)
Plant a Aned Rhwng
Dyddiad Cychwyn Ysgol
1 Medi 2014 i 31 Awst 2015
Ionawr Ebrill neu Medi 2018
1 Medi 2012 i 31 Awst 2013 1 Medi 2009 i 31 Awst 2010 1 Medi 2005 i 31 Awst 2006
Gwybodaeth Allan i Rieni
Dyddiad Cau Ceisiadau 28 Ebrill 2017
Tymor yr Hydref Medi 2017
Tymor yr Hydref Medi 2016
31 Ionawr 2017
Tymor yr Hydref Medi 2017
Tymor yr Hydref Medi 2016
16 Rhagfyr 2016
Tymor yr Hydref Medi 2017
Tymor yr Hydref Medi 2016
16 Rhagfyr 2016
Dyddiad Hysbysu
Dyddiad Cau Apeliadau
Erbyn Dim hawl diwedd apelio am Gorffennaf derbyniadau 2017 Meithrin 16 Ebrill 2017 O fewn 1 Mawrth 10 diwrnod 2017 gwaith o’r dyddiad hysbysu
1 Mawrth 2017
Gellir gwneud cais am lefydd mewn dosbarthiadau meithrin ar unrhyw adeg. Dylir gwneud ceisiadau am lefydd mewn dosbarthiadau derbyn yn unol a'r amserlen; bydd pob cais a'u derbynnir erbyn y dyddiad cau yn cael eu hystyried gyda'u gilydd ac nid oes unrhyw driniaeth ffafriol yn cael ei rhoi i geisiadau cynnar. Bydd ceisiadau syn’ dod i law ar ôl y dyddiad cau yn cael eu prosesu fel ceisiadau hwyr ac ni byddant yn cael eu hystyried hyd nes bydd y rhai a dderbyniwyd cyn y dyddiad cau wedi cael eu dyrannu a gall leihau eich siawns o gael lle yn eich ysgol dewisol. Er mwyn osgoi siom a gwneud y mwyaf o siawns o gael lle yn yr ysgol o’ch dewis, sicrhewch eich bod yn cyflwyno'ch cais erbyn y dyddiad cau a nodir. - 13 -
vi) A fydd fy mhlentyn yn gymwys i gael cludiant ysgol? Nid o reidrwydd. Nid yw derbyn plentyn i ysgol yn golygu bod cludiant am ddim yn cael ei ddarparu. Mae darparu cludiant yn fater ar wahân. Nid yw’r Cyngor Sir yn darparu cludiant i ddisgyblion i ysgolion ac eithrio eu hysgol ddalgylch neu eu hysgol agosaf, a hynny dim ond i ddisgyblion cymwys. Rhaid i chi gofio mai chi fydd yn gyfrifol am drefniadau a chostau cludiant os caiff eich plentyn ei dderbyn i ysgol nad hon yw’r ysgol ddalgylch neu’r ysgol agosaf. Mae Rhan 4 (tudalen 35) y llyfryn hwn yn egluro ein Polisi Cludiant yn llawn. vii) A oes gan ysgolion derfyn ar nifer y disgyblion y gellir eu derbyn? Oes. Mae gan bob ysgol uchafswm ac ar sail hwnnw cyfrifir y Nifer Derbyn. Rhaid i bob ysgol dderbyn disgyblion hyd at eu nifer derbyn cyhoeddedig. Bydd y Nifer Derbyn yn adlewyrchu uchafswm nifer pob grŵp blwyddyn yn yr ysgol a dyrennir lle i’ch plentyn mewn ysgol oni bai ei bod hi’n llawn. Os bydd nifer y ceisiadau'r un peth neu’n llai na’r Nifer Derbyn, bydd yr holl ymgeiswyr yn cael eu derbyn. Os bydd nifer y ceisiadau yn fwy na’r Nifer Derbyn, bydd yr holl geisiadau’n cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf gordanysgrifio, gyda llefydd yn cael eu cynnig yn unol â hynny. viii) Sut mae llefydd mewn ysgolion yn cael eu dyrannu? Cyngor Sir Penfro yw’r Awdurdod Derbyn ar gyfer yr holl ysgolion cymunedol a gwirfoddol a reolir yn Sir Benfro. Mae polisi derbyn a meini prawf gordanysgrifio'r Cyngor a welir isod yn berthnasol i’r holl ysgolion cymunedol a gwirfoddol a reolir yn Sir Benfro. Bydd plant yn cael eu derbyn i’r ysgol a ddewiswyd pan fo darpariaeth a lle yn caniatáu. Os oes mwy o geisiadau am fynediad i ysgolion cymunedol a gwirfoddol a reolir na’r llefydd sydd ar gael, bydd y Cyngor Sir yn defnyddio’r meini prawf gordanysgrifio canlynol (wedi’u gweithredu yn ôl eu trefn) i flaenoriaethu ceisiadau rhieni sydd wedi dewis yr ysgol: - 14 -
Meini Prawf Gordanysgrifio ar gyfer Ysgolion Cymunedol a Gwirfoddol a Reolir yn Nhrefn Blaenoriaeth 1. Cyn ddisgyblion a disgyblion presennol sy’n derbyn gofal gan awdurdodau yng Nghymru a Lloegr yn unol ag A.22 Deddf Plant 1989. 2. Disgyblion sy’n byw o fewn y dalgylch y bwriadwyd i’r ysgol ei wasanaethu; 3. Disgyblion sy’n mynychu ysgolion bwydo (h.y. ysgolion babanod sy’n bwydo ysgolion iau neu ysgol gynradd yn yr un “teulu” ag ysgol uwchradd - gweler adran 1xii (tudalen 18) a’r rhestr ysgolion (tudalen 64); 4. Brodyr a chwiorydd (disgyblion sydd â brodyr neu chwiorydd hŷn, hanner brodyr neu chwiorydd, llys frodyr neu chwiorydd, neu frodyr neu chwiorydd mabwysiadol neu faeth) sy’n byw ar yr un aelwyd ar adeg eu derbyn; ac sydd o oedran ysgol statudol. 5. Disgyblion lle bo tystiolaeth eithriadol feddygol neu gymdeithasol sy’n cyfiawnhau mynediad i ysgol arbennig (e.e. llythyr gan weithiwr iechyd proffesiynol. Pan fydd mwy o geisiadau na lleoedd ar gael, bydd blaenoriaeth yn cael ei roi, o dan bob categori gordanysgrifio, i frodyr a chwiorydd genedigaeth luosog (e.e. efeilliaid neu dripledi). Os yw’r plentyn olaf i’w dderbyn hyd at y Nifer Derbyn yn un o enedigaeth luosog, yna bydd yr Awdurdod Derbyn yn derbyn y brodyr/chwiorydd eraill yn ogystal. Yn achos ymgeiswyr cyfartal, cynigir y llefydd i’r disgyblion sy’n byw agosaf at yr ysgol, wedi’i fesur yn ôl y pellter cerdded byrraf o’r gât ysgol agosaf sydd ar gael hyd at y man lle mae annedd breifat y disgybl yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus. - 15 -
Mae’r Cyngor Sir yn defnyddio System Wybodaeth Ddaearyddol (GIS) i gyfrifo pellterau o’r cartref i’r ysgol mewn milltiroedd. Bydd y llwybr teithio byrraf yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio data’r Arolwg Ordnans (AO) o’r man lle mae cartref yr ymgeisydd yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus hyd at y man lle mae mynedfa agosaf yr ysgol yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus. Pennir cyfesurynnau cyfeiriad cartref ymgeisydd trwy ddefnyddio data’r AO a Rhestr Eiddo. Os bydd unrhyw ddadleuon yn codi ynghylch pellterau, bydd swyddog yn mesur y pellter gan ddefnyddio cerbyd sydd ag odomedr wedi’i raddnodi. Mae’n bwysig bod pob cais yn cael ei dderbyn erbyn y dyddiadau a bennwyd fel y gellir eu hystyried gyda’i gilydd ac fel y caiff y meini prawf gordanysgrifio eu gweithredu’n deg a chyfiawn ym mhob achos. Golyga hynny hefyd y gellir ymdrin yn brydlon ag unrhyw apelauac y gellir gwneud y penderfyniad mewn da bryd cyn y dyddiad y disgwylir i’r plentyn ddechrau’r ysgol. Ni roddir blaenoriaeth i geisiadau cynnar - bydd yr holl geisiadau a dderbynnir erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig yn cael eu hystyried gyda’i gilydd. At ddibenion derbyn i ysgolion a chludiant ysgol, ystyrir bod disgyblion yn byw yng nghyfeiriad y rhiant yr oeddent yn byw gydag ef/hi yn y flwyddyn flaenorol. Os bydd y disgybl wedi byw gyda mwy nag un rhiant neu rywun â chyfrifoldeb rhiant, a heb symud yn barhaol i un o’r ddau gyfeiriad, yna bydd y cyfeiriad lle bu’r disgybl yn byw am y nifer mwyaf o ddiwrnodau ysgol yn cael ei ystyried fel y cyfeiriad cartref. Os na fydd y Cyngor Sir yn gallu cynnig lle i blentyn yn yr ysgol o’i ddewis yn ystod y cylch derbyn arferol o ganlyniad i ordanysgrifio, bydd ei enw yn cael ei ychwanegu at y rhestr aros tan 30 Medi yn y flwyddyn ysgol y ceisir amdano. Wedi hynny, disgwylir i rieni i wneud cais newydd ar gyfer mynediad. Bydd y flaenoriaeth ar gyfer unrhyw lefydd a fydd yn dod ar gael yn cael ei rhoi yn unol â’r meini prawf gordanysgrifio uchod ac nid yn ôl dyddiad cyflwyno’r cais gwreiddiol am le. Gweler Atodiad 2 (tudalen 48) am feini prawf gordanysgrifio ar gyfer ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir. - 16 -
ix) Sut caf i wybod am ganlyniad fy nghais am le mewn ysgol? Cewch lythyr gan Swyddog Derbyn y Cyngor Sir a fydd yn rhoi canlyniad unrhyw gais am dderbyniad ar y dyddiad cynnig cyffredin, gweler tudalen 13 o’r Amserlen Dderbyn. Os caiff cais ei dderbyn, byddwn yn tybio eich bod yn derbyn y lle sy’n cael ei gynnig oni bai eich bod yn cysylltu â ni yn ysgrifenedig yn nodi i’r gwrthwyneb. Os digwydd i’ch cais gael ei wrthod, bydd y llythyr a dderbyniwch sy’n amlinellu’r rhesymau dros y penderfyniad yn cynnwys profforma i’w dychwelyd i’r swyddfa dderbyn, gwybodaeth fod enw eich plentyn wedi’i ychwanegu at y rhestr aros a gwybodaeth am eich hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad, gweler ‘Beth yw fy hawliau apelio?’ Adran x, Rhan 2 (tudalen 24). Sylwer nad oes hawl apelio yn achosion ceisiadau am addysg meithrin (oedran an-statudol). x) Os byddaf yn methu’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais, sut y rhoddir sylw i’m cais? Bydd ceisiadau hwyr am lefydd h.y. ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau a nodir ar dudalen 13, yn cael eu hystyried ar ôl yr holl geisiadau a dderbyniwyd mewn pryd (oni bai bod rhesymau eithriadol pam fo’r cais yn hwyr, y mae’n rhaid eu hegluro adeg gwneud y cais). Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried ar sail y dyddiad a dderbyniwyd a'r meini prawf gordanysgrifio, gan ystyried nifer y disgyblion presennol, y llefydd sydd wedi’u dyrannu a’r darpar ddisgyblion pan wneir y cais. Bydd hyn yn golygu os yw’r ysgol a ddewiswyd gennych wedi derbyn gormod o geisiadau, hyd yn oed os ydych yn gwneud cais er mwyn i’ch plentyn fynychu’r ysgol ddalgylch, y gallech fod yn llai tebygol o gael lle wedi’i ddyrannu os yw eich cais yn hwyr.
- 17 -
Os ydych yn ailfeddwl am eich dewis o ysgol ar ôl cyflwyno’ch cais gwreiddiol rhaid i chi hysbysu’r Swyddog Derbyn yn ysgrifenedig. Os gwneir y penderfyniad hwn ar ôl y dyddiad cau cyhoeddedig, yna caiff eich cais am eich dewis newydd ei ystyried yn gais hwyr hyd yn oed os cafodd eich cais gwreiddiol ei dderbyn mewn pryd. xi) Alla i wneud cais am ysgol y tu allan i Sir Benfro? Gallwch, ond yn yr achos hwn, dylech wneud cais i’r Cyngor sy’n cynnal yr ysgol o’ch dewis. Mae pob Cyngor Sir yn cynhyrchu llyfryn gwybodaeth i rieni sy’n cynnwys meini prawf a chanllawiau ar gyfer gwneud cais. Os ydych am wneud cais am le mewn ysgol yn un o’n hardaloedd Cyngor Sir cyfagos, dyma sut y dylid gwneud cais: Sir Gaerfyrddin
Ceredigion
Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Caerfyrddin Adran Addysg a Phlant, Adeilad 2, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin SA31 3HB Ffôn: 01367 246500
xii)
Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cymunedol Cyngor Sir Ceredigion Adran Addysg a Gwasanaeth Cymunedol Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth SY23 3UE Ffôn: 01970 617911
Beth yw Clystyrau Ysgolion?
Mae ysgolion yn Sir Benfro yn gweithredu ar sail 'clwstwr ysgolion' ac mae cydweithredu agos rhyngddynt. Mae pob clwstwr yn cynnwys ysgol uwchradd a'r ysgolion cynradd sy’n bartneriaid neu sy'n ei bwydo. Nod model y clwstwr ysgolion yw cryfhau’r cysylltiadau rhwng ysgolion mewn ffordd sy’n sicrhau cynnydd, parhad a chynhaliaeth i ddisgyblion wrth iddynt symud trwy wahanol gyfnodau eu haddysg. Mae plant fel arfer yn trosglwyddo i’r ysgol gyswllt yn y clwstwr ysgolion. - 18 -
Mae rhai ysgolion cynradd yn 'bwydo' mwy nag un ysgol uwchradd oherwydd bod eu dalgylchoedd yn gorgyffwrdd. xiii) Beth os ydw i’n dymuno addysg dan ddylanwad yr Eglwys i’m plant? Mae gwybodaeth gyffredinol am ysgolion yr Eglwys yng Nghymru ac ysgolion Catholig ar gael gan y Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol briodol. Dyma’r cyfeiriadau a’r manylion cyswllt: Yr Eglwys yng Nghymru Y Parch. Bryan Witt Cyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth Y Ficerdy, Llanddarog, Caerfyrddin SA32 8PA Ffôn: 01267 275268
Yr Eglwys Gatholig Mr Patrick Mansfield Cyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth Y Swyddfa Lysol 27 Heol y Cwfaint Abertawe SA1 2BX Ffôn: 01792 652757 Ffacs: 01792 458641 e-bost: education@menevia.org
Corff llywodraethu’r ysgol dan sylw fydd yn ymdrin â derbyn disgyblion i ysgolion eglwys gwirfoddol a gynorthwyir. Dylid gwneud ceisiadau am lefydd mewn unrhyw un o’r ysgolion hyn yn uniongyrchol i’r ysgol. Mae gan yr ysgolion hyn eu meini prawf gordanysgrifio eu hunain, a cheir manylion y rhain yn Atodiad 2 (tudalen 48).
xiv) Sut y mae penderfynu ar gategori iaith yr ysgol? Mae’r Cyngor Sir yn credu’n gryf mewn gwerth addysgol caffael dwy iaith. Nod y polisi dwyieithog hwn yw addysgu disgyblion fel eu bod yn gwbl ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg wrth adael yr ysgol gynradd, fel eu bod yn gallu cymryd rhan yn llawn yn y gymuned ddwyieithog y maent yn rhan ohoni. - 19 -
Mae addysg Cyfrwng Cymraeg ar gael yn Sir Benfro, naill ai mewn ysgolion cymunedol yn yr ardaloedd traddodiadol Cymraeg eu hiaith yng Ngogledd Sir Benfro, neu mewn ysgolion neu unedau cyfrwng Cymraeg dynodedig yng Nghanolbarth a De’r Sir. Mae'r categorïau ieithyddol yn Atodiad 3 (tudalen 60) yn diffinio i ba raddau y mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu haddysgu yn Ysgolion Sir Benfro.
- 20 -
Rhan 2 - Polisïau a’r gyfraith i) Yn ôl y gyfraith, pa oed sydd yn rhaid i’m plentyn fod i fynychu’r ysgol? Rhaid i rieni plant rhwng 5 a 16 oed sicrhau bod eu plant yn derbyn addysg llawn-amser addas. Mae plentyn yn cyrraedd oedran ysgol statudol ar ddechrau tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn 5 oed. I’r gwrthwyneb, rhaid i bobl ifanc aros yn addysg llawn-amser tan eu bod wedi cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol; y dyddiad gadael ysgol yw’r dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol mae’r plentyn yn cyrraedd 16 oed. ii) Gall fy mhlentyn gael ei addysgu mewn grwp blwyddyn gwahanol? Mae gan yr Awdurdol Leol Canllaw i Arfer Dda ar Addysgu Pobl Ifanc Tu Allan i'w Grwp Blwyddyn gronolegol. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r gweithdrefnau y mae'n rhaid eu dilyn wrth ystyried cais i ddal yn ol neu symud ymlaen berson ifanc mewn addysg. Rhaid i rieni gysylltu a'u ysgol er mwyn trafod y pwnc iii) Sut mae’r Cyngor Sir yn diwallu fy newis fel rhiant? Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i’r Cyngor Sir wneud trefniadau i rieni fynegi ym mha ysgol y maent am i’w plentyn gael ei addysg, a darparu cyfle i roi rhesymau dros eu dewis cyn cynnig unrhyw lefydd. Rhaid i’r Awdurdod Derbyn ddiwallu eich dewis os yw hynny’n bosib, ond gall rhai ffactorau atal hyn. Mae’r rhain yn cynnwys: ddefnyddio adnoddau ac adeiladau’n effeithlon darparu addysg yn effeithlon cyfyngiadau statudol ar faint y dosbarthiadau Mae gan bob ysgol Nifer Derbyn, sy’n cael ei ddefnyddio fel canllaw wrth benderfynu a yw unrhyw grŵp blwyddyn mewn ysgol yn llawn neu a oes llefydd ar gael. Os oes mwy o geisiadau nag o lefydd, yna bydd y meini prawf gordanysgrifio yn adran 1viii (tudalen 15) yn berthnasol. Mae Nifer Derbyn pob ysgol i’w weld yn y rhestr ysgolion yn y llyfryn hwn. - 21 -
Gall rhieni fynegi dewis ar gyfer addysg eu plant pan fyddan nhw’n: 3 oed - dosbarthiadau meithirn / unedau blynyddoedd cynnar ynghlwm wrth ysgolion babanod neu gynradd (lle bo'r rhain ar gael). Mae plant tair oed yn mynychu’n rhan-amser yn unig 4- 5 oed - Ysgolion babanod neu adrannau babanod ysgolion cynradd 7 oed - Ysgolion iau
11 oed - Addysg uwchradd iv) A oes terfyn ar faint y dosbarthiadau mewn ysgolion? Oes. Ar wahân i rai eithriadau cyfyngedig iawn, dywed y gyfraith na chaiff unrhyw ddosbarth babanod gynnwys mwy na 30 o ddisgyblion sy’n cael eu dysgu gan un athro neu athrawes. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi pennu targed na ddylai unrhyw ddosbarth iau fod yn fwy na 30 o ddisgyblion. v) Pam mae angen i chi wybod am gyfrifoldeb rhiant dros fy mhlentyn? Mae'n rhaid i’r Awdurdod wybod pwy sydd â ‘chyfrifoldeb rhiant’ ar gyfer pob plentyn ac mae’n rhaid i’r unigolyn sy’n llofnodi’r datganiad ar y ffurflen gadarnhau ei statws. Y rheswm am hyn yw er mwyn sicrhau bod awdurdod priodol yn cael ei roi pan fo angen caniatâd rhieni ar yr ysgol. Bydd yn gwneud yn siŵr hefyd bod unigolion sydd â chyfrifoldeb rhiant nad ydynt yn byw gyda’r plentyn yn gallu derbyn adroddiadau ysgol a chael cyfle i gymryd rhan yn addysg y plentyn, gan fod ganddynt hawl i gael yr wybodaeth hon oni bai bod gorchymyn llys penodol sy’n atal hynny. Pan fo mwy nag un person â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn, rhaid i’r unigolyn sy’n llenwi’r ffurflen gais am le mewn ysgol ddilyn pob cam rhesymol i drafod a chytuno ar y ffurflen gyda’r rhieni sy’n rhannu’r cyfrifoldeb rhiant, os ydynt yn gwybod lle maent yn byw. Os nad yw’r unigolyn yn gwybod, dylid nodi hyn yn ysgrifenedig. Gellir dynnu'r lle yn ol yn gyfreithlon os yw'r wybodaeth a roddir yn dwyllodrus neu'n gamarweiniol, gan gynnwys anghydfodau cyfrifoldeb rhiant. - 22 -
Pwy sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn? Mae gan famau gyfrifoldeb rhiant bob amser (oni bai bod gorchymyn llys yn nodi nad ei chyfrifoldeb hi yw’r plentyn mwyach) e.e. mewn achosion o fabwysiadu. Mae gan dadau a oedd yn briod i’r fam cyn 2003 gyfrifoldeb rhiant. Mae gan dadau gyfrifoldeb rhiant hefyd dros blentyn os cafodd y plentyn ei eni ar ôl 2003 a’i enw ef sydd ar dystysgrif geni’r plentyn. Gall tadau dibriod, llys-rieni, perthnasau ac unigolion eraill gael cyfrifoldeb rhiant ond nid ydynt yn ei gael yn awtomatig. Gofynnir i rieni gydweithio â’r Swyddog Derbyn drwy ddarparu manylion i’r ysgol am yr unigolion sydd â chyfrifoldeb rhiant dros ddisgybl i’r ysgol. Dylid hysbysu'r ysgol ynglŷn ag unrhyw newidiadau yn y trefniadau am gyfrifoldeb rhiant neu ofal am eich plentyn o ddydd i ddydd. Mae unrhyw gyfeiriad at rieni yn y llyfryn hwn yn cynnwys pawb sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol rhiant. Gallai’r Cyngor Sir ofyn am dystiolaeth o ran cyfrifoldeb rhiant a/neu dystysgrif geni'r plentyn, os yw’n ystyried bod hyn yn angenrheidiol. vi) Enw cyfreithiol / hysbys plentyn Enw cyfreithiol eich plentyn yw’r hyn a nodir ar ei dystysgrif geni. Cofiwch sicrhau mai’r enw hwn a roddir ar bob ffurflen gais am dderbyn a throsglwyddo. Os yw eich plentyn yn cael ei adnabod wrth enw arall, yna dylid cynnwys yr enw hwnnw hefyd ar y ffurflenni perthnasol. Mae gweithdrefnau penodol i’w dilyn ar gyfer newid enw cyfreithiol plentyn, ac mae modd gwneud hyn trwy Weithred Newid Enw neu Ddatganiad Statudol. Mynnwch gyngor cyfreithiol cyn ystyried hyn a gofalwch fod ysgol eich plentyn yn ymwybodol o unrhyw newidiadau wedi hynny i enw cyfreithiol y plentyn trwy ddarparu copi o’r dogfennau perthnasol. vii) Pa ddarpariaeth y byddwch yn ei gwneud ar gyfer personél Lluoedd Arfog y DU? Mae teuluoedd personél Lluoedd Arfog y DU a gweision eraill y Goron yn gorfod symud yn aml o fewn y DU a thramor, yn aml yn gymharol fyr rybudd. O ganlyniad, ystyrir ceisiadau am leoedd ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol sydd i ddod os cânt eu cyflwyno ynghyd â llythyr swyddogol gan y - 23 -
Weinyddiaeth Amddiffyn neu’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn datgan dyddiad dychwelyd. Yna dyrennir lleoedd ysgol ymlaen llaw os bydd yr ymgeisydd yn bodloni’r meini prawf pan fydd yn symud i’w leoliad newydd. Derbynnir hefyd gyfeiriad post uned gan bersonél y lluoedd arfog os na fydd cyfeiriad cartref newydd ar gael. viii) Pa ddarparieth sydd am deuluoedd Sipsiwn a Theithwyr? Caiff ceisiadau sy'n ymwneud a phlant Sipsiwn a Theithwyr i ysgol yn Sir Benfro, boed yn byw yn barhaol neu dros dro yn yr ardal, eu trin mor gyflym a phosib er mwyn dyrannu'r ysgol priodol agosaf. ix) Beth yw hawliau plant o dramor? Mae gan blant o dramor boed hynny gyda’u rhieni neu hebddynt, yr un hawliau i addysg â phlant sy’n Ddinasyddion Prydeinig. O ganlyniad, bydd y Cyngor Sir yn trin ceisiadau o’r fath am gael eu derbyn i ysgolion yn yr un modd. Bydd yr Awdurdol Leol yn sicrhau na fydd oedi afresymol wrth sicrhau mynediad ysgol i ddisgyblion sy'n ceisio lloches neu ffoaduriaid. Bydd arferion derbyn yn gyfesur a'r rhai sydd yn berthnasol i bob disgybl arall. x) Beth yw fy hawl i apelio? Os na ddyrannir lle i’ch plentyn yn yr ysgol o’ch dewis, efallai fydd lle mewn ysgol arall yn cael ei gynnig. Rhaid i chi benderfynu a ydych am dderbyn y lle arall neu apelio i Banel Apêl annibynnol. Fodd bynnag, nid oes hawl apelio ar gyfer ceisiadau meithrin. Rhaid i apelau ar gyfer ceisiadau am le Derbyn ac uwch gael eu cyflwyno yn ysgrifenedig, gan amlinellu’r rhesymau dros wneud hynny, a’u hanfon at y Cyfarwyddwr Plant ac Ysgolion. Plant cyn pen 14 diwrnod (10 diwrnod gwaith) wedi i chi gael eich hysbysu na fu eich cais am le mewn ysgol yn llwyddiannus. Bydd apelau yn cael gwrandawiad ac yn cael eu hystyried gan y Panel Apelau Annibynnol cyn pen 30 diwrnod ysgol wedi’r dyddiad cau penodol ar gyfer derbyn apelau, neu cyn pen 30 diwrnod ysgol o dderbyn yr apêl yn ysgrifenedig osgwneir yr apêl y tu allan i’r broses dderbyn sydd wedi ei hamserlennu. Ceir gwrandawiad ar apelau a dderbynnir yn ystod gwyliau haf yr ysgol o fewn 30 diwrnod gwaith. - 24 -
Bydd gennych yr hawl i gyflwyno eich achos i'r Panel yn bersonol. Gall y Panel ganiatáu i chi ddod â ffrind gyda chi neu gael eich cynrychioli; hefyd, caniateir i blant roi tystiolaeth os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae penderfyniad y Panel Apêl yn gorfodi’r Cyngor Sir Lleol a chyrff llywodraethu ysgolion i ufuddhau. Os gwrthodir lle i chi mewn ysgol wirfoddol a gynorthwyir, bydd yr ysgol dan sylw yn dweud wrthych beth yw ei gweithdrefn apelio. xi)
A fydd prydau ysgol ar gael i’m plentyn?
Bydd, darperir prydau ysgol gan Dîm Arlwyo Cyngor Sir Penfro. Mae’r bwydlenni wedi’u dadansoddi o ran maeth yn unol â Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth)(Cymru) 2013 i sicrhau y darperir un rhan o dair o ofynion maeth ag egni dyddiol plentyn. Anogir plant i roi cynnig ar fwydydd newydd ac i fwynhau eu pryd mewn awyrgylch hapus a chymdeithasol. Yn aml, mae eistedd gyda ffrindiau yn helpu bwytawyr ffyslyd i fwyta bwyd na fyddant yn ei fwyta gartref ac mae’n helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a fydd yn hanfodol yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae’r gwasanaeth yn gweithio gyda chyflenwyr i sicrhau bod pob cynhwysyn yn bodloni’r safon uchaf ac nad oes ynddo ychwanegion niweidiol. Daw llawer iawn o’r cynnyrch bwyd o’r ardal leol. Mae gan Brydau Ysgolion Cynradd eu masgot eu hunain, Lenni’rGenhinen. Mae gan Lennie wefan sy’n cynnwys yr holl wybodaeth y mae ei hangen ar unrhyw riant neu blentyn am brydau ysgol. Gallwch ei gweld yma www.lunchwithlennie.co.uk Ceir dwy fwydlen y flwyddyn sy’n cael eu harddangos yn arwyddion Lenni’r Genhinen yn yr ysgol. Rhoddir taflenni bwydlen i bob plentyn fynd adref ag ef i’w drafod â’i rieni. Mae’r bwydlenni hefyd ar gael i’w gweld ar ein gwefan www.lunchwithlennie.co.uk Gellir darparu ar gyfer pob gofyniad dietegol arbennig, e.e. llysieuwyr, y rhai a chanddynt ddiabetes, seliag, anoddefiad llaeth neu gnau ar gais ysgrifenedig gan feddyg neu Ddietegydd. Gellir lawrlwytho ffurflen a chael rhagor o wybodaeth am ofynion dietegol arbennig o dan yr adran i rieni ar y wefan prydau ysgol www.lunchwithlennie.co.uk - 25 -
Gellir gweld cost bresennol pryd ysgol ar y wefan neu gofynnwch yn yr ysgol. Gellir talu’r ysgol bob tymor, bob pythefnos neu’n wythnosol, ymlaen llaw trwy siec (yn daladwy i “Cyngor Sir Penfro”) neu drwy arian parod. Mae amlenni talu ar gael oddi wrth ysgol eich plentyn. Mae rhai o’n hysgolion cynradd yn gweithredu system lle na ddefnyddir arian parod, ac mae modd i rieni dalu ar-lein a / neu ddebyd uniongyrchol. Disgwylir i’r system yma weithredu ym mhob Ysgol yn y pen draw. Mae pecynnau cinio ar gael i bob plentyn ar gyfer tripiau ysgol; mae ffurflenni ar gael yn yr ysgol neu ar y wefan. Mae’r Cyngor Sir yn darparu llaeth am ddim i ddisgyblion o dan 7 oed. Mae rhagor o wybodaeth ar gael oddi wrth ysgol eich plentyn. Mae ysgolion uwchradd yn darparu Gwasanaeth Ffreutur Arian Parod. Caiff y bwyd ei goginio’n ffres ar y safle, caiff byrbrydau ysgafn eu gwerthu amser egwyl ac mae byrbrydau iach ar gael mewn peiriannau gwerthu trwy’r dydd. Mae gan ein hysgolion uwchradd bolisi gwerthu iach. Mae system archebu ymlaen llaw ar gael mewn rhai ysgolion uwchradd sydd yn galluogi disgyblion i archebu eu cinio yn ystod yr egwyl ac yna ei gasglu yn y lôn giwio cyflym yn ystod yr awr ginio. Eisioes mae pump o'n ysgolion uwchradd yn gweithredu system dalu heb arian sy'n defnyddio adnabyddiaeth bys biometrig. Mae'r system hwn yn galluogi plant dalu am eu prydau bwyd trwy defnyddio eu bys. Rydym angen caniatad o leiaf un rhiant cyn prosesu ol bys y disgybl (dim ond llinyn byr o rifau wedi'u hamgryptio y bydd y system yn ei chadw ac ni fydd yn storio delwedd o'r ol bys). Os nad ydych am rhoi eich caniatad, bydd eich plentyn yn derbyn cerdyn heb arian. Mae modd i rieni rhoi credyd ar cyfrif eich plentyn ar-lein neu dros y ffon. Yn ogystal, mae disgyblion yn medru ychwanegu credyd drwy lwytho arian parod yn y llwythwyr darnau arian sydd wedi'u lleoli yn eu ysgol. Bydd ffurflenni wybodaeth a chaniatad yn cael eu anfon at bob rhiant cyn i'ch plentyn ddechrau yn yr ysgol uwchradd. Os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol ynghylch bwydlenni yn ysgol eich plentyn neu gwestiynau cyffredinol am wasanaeth prydau bwyd yr ysgol, cysylltwch â’r Adran Arlwyo ar 01437 775943. - 26 -
xii) Sut y gallaf gael gwybod am hawl i Brydau Ysgol am Ddim? Fel rhieni neu warcheidwaid, bydd eich plentyn yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim os ydych yn derbyn: Cymhorthdal Incwm Lwfans Ceiswyr Gwaith - ar sail Incwm yn unig Elfen Gwarant Credyd Pensiwn y Wladwriaeth Credydau Treth Plant, gydag Incwm Aelwyd sydd dan £16,190 y flwyddyn (noder nad yw Credyd Treth Gwaith yn gymwys hyd yn oed os yw’n cael ei dderbyn ar ben y budd-daliadau hyn) Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm yn Unig Cefnogaeth o dan ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 Os ydych o’r farn fod eich plentyn yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, anogir chi i lenwi ffurflen gais sydd ar gael yn ysgol eich plentyn, yng Nghanolfannau Gwasanaeth Cwsmeriaid y Cyngor Sir neu y gellir ei lawrlwytho o wefan y Cyngor. Gallwn eich sicrhau bod staff ysgolion a swyddogion y Cyngor Sir ar gael i’ch cynorthwyo i lenwi ffurflenni cais. xiii) A fydd fy mhlentyn yn gwisgo gwisg ysgol? Mae llawer o ddisgyblion ysgolion cynradd a disgyblion pob ysgol uwchradd yn Sir Benfro yn gwisgo gwisg ysgol. Bydd ysgol eich plentyn yn rhoi manylion i chi yn rhan o’i phrosbectws. Gall Grant Dillad Cynulliad Cymru fod ar gael tuag at gost dillad ysgol uwchradd a gwisg ysgol ar gyfer disgyblion sy'n dechrau Blwyddyn 7 pan fod eu rhieni yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Gall disgyblion sy'n dechrau ym Mlwyddyn 7 nad ydynt yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim a disgyblion rhwng Blynyddoedd 8-11 fod yn gymwys i gael Grant Gwisg Ysgol Dewisol os ydynt yn bodloni meini prawf penodol. Nid yw gwisg ysgol yn orfodol yn yr ysgol gynradd, ac nid oes unrhyw grantiau dillad ar gael i ddisgyblion o oedran ysgol gynradd. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y grantiau sydd ar gael a ffurflenni cais trwy ffonio 01437 764551, neu drwy ysgrifennu i’r Gwasanaethau Refeniw, Neuadd y Sir, Hwlffordd SA61 1TP. - 27 -
xiv) Pa gymorth ariannol y gallwn fod yn gymwys i’w gael? Os yw eich plentyn yn aros yn yr ysgol ar ôl yr oedran gadael statudol, gallai fod yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg Llywodraeth Cymru. Mae’r budd-dal yn ddibynnol ar brawf modd a bydd arnoch angen darparu manylion am eich incwm. Mae ffurflenni cais ar gael gan ysgol uwchradd eich plentyn neu ar wefan Lwfans Cynhaliaeth Addysg Cymru www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk Ceir gwybodaeth am gael cymorth ariannol ar gyfer dillad ysgol uwchradd a phrydau ysgol yn adran xii a xiii (tudalen 27) o’r adran hon. xv) Pa arholiadau cyhoeddus y bydd fy mhlentyn yn eu sefyll? Mae pob arholiad cyhoeddus a drefnir ar gyfer eich plentyn yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a chânt eu cymeradwyo gan y Gymwysterau Cymru, sef y rheoleiddiwr cymwysterau nad ydynt yn raddau a'r system gwymwysterau yng Nghymru. Cyhoeddir y cymhwysterau a gymeradwyir ar wefan Cymwysterau Cymru (www.qiw.wales). Yr ysgol sy’n penderfynu cofrestru eich plentyn ar gyfer arholiadau cyhoeddus. Mae’n rhaid talu ffi am bob arholiad ac mae’r ysgol yn talu’r gost hon pan gaiff eich plentyn ei gofrestru am y tro cyntaf. Os yw eich plentyn yn colli arholiad heb reswm meddygol dilys, yna chi fydd yn gyfrifol am dalu’r ffi. Yn yr un modd, gallech fod yn gyfrifol am dalu’r ffi am ailsefyll arholiadau. Fodd bynnag, bydd yr ysgol yn gallu darparu rhagor o fanylion i chi am y materion hyn. Bydd pob ysgol yn rhoi manylion eu canlyniadau arholiadau cyhoeddus i chi os gofynnwch amdanynt. Yn ogystal â’r uchod, yn rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i wella safonau llythrennedd a rhifedd, bydd yn ofynnol i bob dysgwr ym mlynyddoedd 2 i 9 (7-14 oed) gael ei asesu’n flynyddol trwy ddefnyddio profion darllen a rhifedd cenedlaethol. - 28 -
xvi) Beth os oes gan fy mhlentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol? Dylai pob plentyn a person ifanc gael mynediad i addysg briodol o ansawdd uchel, a fydd yn eu hysbrydoli i gymryd rhan mewn dysgu gydol oes. I’r mwyafrif o blant bydd lleoliad prif ffrwd yn bodloni eu hanghenion addysgol arbennig (Cod Ymarfer AAA Cymru 1:2). Cydnabyddir ar gyfer lleiafrif bach o blant a phobl ifanc ag anghenion difrifol a chymhleth, bydd angen nodi trefniadau darpariaeth arall. Yng Nghyngor Sir Penfro ceir continwwm o ddarpariaeth arbenigol. Mae Ysgol Arbennig Portfield yn darparu cymorth arbenigol i blant ag ystod o anawsterau cymhleth yn ogystal â gwasanaeth allgymorth ar gyfer plant a phobl ifanc mewn lleoliad prif ffrwd. Yn ogystal mae Canolfannau Adnoddau Dysgu, sy’n gysylltiedig ag ysgolion prif ffrwd yn cael adnoddau i fodloni gofynion plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol sylweddol. Mae’r gwasanaeth cymorth canolog yn gweithio’n agos gydag ysgolion yn nodi a bodloni anghenion dysgu ychwanegol plant a phobl ifanc. Mae seicolegwyr addysg yn cydweithio gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd/ gofalwyr ac amrywiaeth o weithwyr proffesiynol yn ymgynghori, yn asesu, yn rhoi cyngor, cyflawni gwaith therapiwtig a gwaith prosiect ac ymchwil bwysig yn cefnogi ysgolion i nodi, asesu a darparu ar gyfer ystod eang o ddysgwyr gan gynnwys anghenion gweledol, clyw, corfforol a meddygol gymhleth, cyflyrau ar y sbectrwm awtistig, anawsterau lleferydd ac iaith, anawsterau dysgu cymhleth ac anawsterau dysgu penodol. Mae’r gwasanaeth yn cyflogi athrawon arbenigol ac amrywiaeth o staff cymorth. Mae’r gwasanaeth hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y broses gynnar o nodi ac asesu plant ag anghenion ychwanegol, yn cynnwys y rheini lle mae Saesneg yn iaith ychwanegol. Mae tim o athrawon cymorth arbenigol ar gyfer ymddygiad yn gweithio’n agos gyda Chanolfan Dysgu Sir Benfro, i ddarparu ymyrraeth a chymorth arbenigol a darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anawsterau ymddygiad, emosiynol a chymdeithasol. Mae’r gwasanaeth yn cefnogi ysgolion i ddarparu gwasanaethau cynghori ac ymgynghori i staff ysgol ar - 29 -
amrywiaeth o strategaethau ymddygiad yn ogystal â darparu hyfforddiant unigol ac ysgol gyfan ar reoli ymddygiad disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae Canolfan Dysgu Sir Benfro yn gweithio’n agos gyda’r tîm allgymorth i hyrwyddo cyfnodau ymyrraeth byr ar gyfer plant a phobl ifanc ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol. Mae datblygu gallu ysgolion prif ffrwd i gynnwys dysgwyr ag anghenion ychwanegol yn llwyddiannus yn agwedd bwysig ar y gwaith sy’n cael ei gyflawni mewn ysgolion gan y timau arbenigol. Ceir cyfleoedd am gymorth arbenigol wedi’i dargedu trwy gyfrwng y cyfarfodydd y clwstwr y Tîm o Amgylch y Rhiant Disgybl a thrwy raglen hyfforddi flynyddol y gwasanaeth Cynhwysiant ar gyfer ysgolion. Mae ysgolion yn chwarae rhan bwysig yn cynnig darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol. Mae’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn gweithio’n agos gyda’r Pennaeth, yr uwch dîm rheoli, athrawon a chynorthwywyr addysgu i sicrhau cydlyniad y ddarpariaeth o ddydd i ddydd yn yr ysgol. Yn ogystal, bydd llywodraethwr penodol ar gyfer ADY a fydd yn gyfrifol am roi gwybod i’r corff llywodraethu am yr holl agweddau ar ADY yn yr ysgolion er mwyn sicrhau bod ADY yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi’n dda. Mae gan bob ysgol arian ychwanegol yn ei chyllideb i helpu i fodloni anghenion disgyblion ag anghenion ychwanegol. Ar gyfer lleiafrif bach o blant ag anghenion difrifol a chymhleth caiff datganiad o anghenion addysgol arbennig ei ystyried. Os ydych yn poeni bod gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol dylech siarad â’r athro dosbarth yn y lle cyntaf neu’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol neu'r Pennaeth. Os hoffech gyngor cyffredinol neu ganllawiau am angen ychwanegol eich plentyn dylech gysylltu â’r Gwasanaeth Partneriaeth Rheini trwy ffonio 01437 7763554.
- 30 -
xvii) Pa drefniadau amddiffyn plant sydd ar waith Mae gofal a lles disgyblion yn fater o bwysigrwydd mawr i ysgolion. Mae holl staff yr ysgolion yn dilyn Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan er mwyn diogelu a hyrwyddo lles plant. Mae gan bob ysgol bolisi amddiffyn plant ac aelod dynodedig o staff hyn sy’n gyfrifol am faterion amddiffyn plant ac am reoli honiadau unigol am gam-drin. Mae gan yr ysgol ddyletswydd statudol i weithredu er lles gorau'r plentyn ac felly mae'n ofynnol i wneud atgyfeiriad os oes pryderon am les plentyn neu os oes honiad o gam-drin. Er mwyn diogelu plentyn bydd angen weithiau i gysylltu a'r Tim Gofal Plant Asesu o fewn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol heb roi gwybod i'r rhieni. Mae hwn yn faes gwaith sensitif ac mae cymorth rhieni yn bwysig pan fo ysgolion yn gweithredu i ddiogelu plant. Gallwch fod yn dawel eich meddwl bod staff ysgolion yn gweithio gan ganolbwyntio ar les eich plentyn. Mae ysgolion Sir Benfro yn gweithredu Polisi Atal Eithafiaeth a Radicaleiddio sydd a'r bwriad o ddarpru fframwaith ar gyfer delio a materion yn ymwneud a bregusrwydd, radicaleiddio ac amlygiad i safbwyntiau eithafol. xviii) Pa gostau y mae’n bosibl y bydd rhaid i mi eu talu? Yn ystod cyfnod eich plentyn yn yr ysgol, mae’r rhan fwyaf o’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnig gan yr ysgol yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, ceir achlysuron lle gofynnir i chi wneud cyfraniad tuag at y costau. Gellir cael gwybodaeth am bolisi ysgol ynghylch codi tâl a pheidio â chodi tâl ar gyfer gweithgareddau ysgol gan Bennaeth yr ysgol o dan sylw.
- 31 -
Rhan 3 - Trosglwyddo rhwng ysgolion i) Beth yw’r weithdrefn os ydw i am symud fy mhlentyn i ysgol arall? Mae’r Cyngor yn barod i ystyried ceisiadau am drosglwyddo rhwng ysgolion ar adegau ar wahân i amserau derbyn arferol. Fodd bynnag, os ydych yn ceisio trosglwyddo eich plentyn, rhaid ichi drafod hyn yn gyntaf gyda phennaeth presennol eich plentyn neu bennaeth y flwyddyn mewn ysgol uwchradd. Dylech hefyd gysylltu â phennaeth yr ysgol y dymunwch i’ch plentyn fynd iddi. Gan nad yw trosglwyddo yn ystod y tymor yn cael ei annog, trosglwyddir fel arfer ar ddechrau tymor yn unig, ac eithrio pan fo’r sefyllfa’n codi am fod y teulu wedi newid cyfeiriad. Rhaid llenwi’r ffurflen gais am drosglwyddo, ffurflen TR1, ym mhob achos, ac mae hon ar gael ar wefan y Cyngor Sir neu ar gais. Fel arfer ni fydd ceisiadau trosglwyddo yn cael eu hystyried mwy nag 1 tymor cyn y trosglwyddiad. Mae newid ysgolion yn gallu bod yn brofiad anodd i ddisgyblion a gall darfu ar drefniadaeth dosbarthiadau. Dylid gwneud hyn pan fydd popeth arall wedi methu, ac ni ddylid ei ystyried hyd nes y rhoddwyd sylw priodol i’r holl ffyrdd posibl eraill o ddatrys problemau. Os ydych yn gwneud cais am drosglwyddo oherwydd eich bod yn pryderu ynglŷn â chynnydd eich plentyn neu oherwydd bod unrhyw broblemau yn ysgol eich plentyn, fel cam cyntaf dylech drafod y mater gyda phennaeth yr ysgol bresennol. Mae’n arferol i Swyddog Cymorth Disgyblion drafod cais am drosglwyddo â rhieni. Mae llyfryn o’r enw “Newid Ysgolion - Canllaw i Rieni” yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol am y broses drosglwyddo ac unrhyw oblygiadau posibl. Mae ar gael ar gais gan y Swyddog Derbyn neu yn ysgol eich plentyn, neu gellir ei lawrlwytho o wefan y Cyngor. Pan fydd trosglwyddiad ysgol wedi cael ei gytuno a’r rieni wedi’u hysbysu drwy lythyr, byddwn yn cymryd yn ganiataol y byddant yn derbyn y lle i'w plentyn yn yr ysgol a ffafrir ac nad ydynt am gadw lle yn yr ysgol bresennol. Os yw’r amgylchiadau yn newid a bod angen lle mewn ysgol wahanol, neu'r ysgol flaenorol, rhaid gwneud cais newydd. Dylai rieni nodi y gall y lle sydd yn yr ysgol mae eu plentyn yn gadael, eisoes gael eu dyrannu i rywun arall. - 32 -
ii) Sut y gallaf ychwanegu enw fy mhlentyn at y Rhestr Aros? Unwaith y bydd y broses ddyrannu wedi ei chwblhau a bod eich dewis ysgol wedi ei wrthod (gweler Rhan 2 x Hawliau Apêl tudalen 24) bydd enw eich plentyn yn cael ei ychwanegu yn awtomatig at y rhestr aros tan ddiwedd y flwyddyn ysgol academaidd y maent wedi gwneud cais. Wedi hynny, dylid disgwyl i'r rhieni wneud cais newydd yn ystod tymor yr haf i gael eu derbyn i mewn i'r flwyddyn academaidd ganlynol. Bydd y flaenoriaeth ar gyfer unrhyw leoedd sydd ar gael yn cael ei roi yn ôl y meini prawf gordanysgrifio ac nid yn ôl y dyddiad y cyflwynwyd y cais am le yn wreiddiol. iii) Sut wyf yn mynd ati i drefnu trosglwyddo fy mhlentyn i ysgol iau? Dim ond dwy ysgol fabanod yn Sir Benfro sy’n gofyn am geisiadau gan ddisgyblion i drosglwyddo i’r ysgol iau (Ysgol Mount Airey School ac Ysgol Meads Infant and Nursery School. Mae trosglwyddo o addysg fabanod i addysg iau fel arfer yn digwydd y mis Medi yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn saith oed; nid oes trosglwyddiad awtomatig ac yn ol y gyfraith, rhaid i rieni ymgeisio am am le. Gall Pennaeth ysgol gynradd eich plentyn roi gwybodaeth i chi am yr ysgol iau y dylai eich plentyn fynychu fel arfer, ond gallech ddewis ymgeisio i unrhyw ysgol o’ch dewis ar gyfer eich plentyn. Byddwn yn anfon pecyn trosglwyddo i ysgol iau at ysgol gynradd eich plentyn yn ystod tymor yr hydref cyn i’ch plentyn fynd i’r ysgol iau, dylid dychwelyd ceisiadau erbyn diwedd mis Ionawr yna bydd y rhain yn cael eu hystyried a byddwch yn cael gwybod am y canlyniadau ar y dyddiad cynnig cyffredin, gweler tudalen 13 ar gyfer yr Amserlen Dderbyn. iv) Sut mae trefnu i’m plentyn drosglwyddo i ysgol uwchradd? Mae ysgolion uwchradd Sir Benfro yn cynnig addysg gyfun i ddisgyblion o bob gallu rhwng 11 a 18 oed. Mae trosglwyddo o addysg gynradd i addysg uwchradd yn digwydd fel arfer ym mis Medi yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn un ar ddeg oed. Gall Pennaeth ysgol gynradd eich plentyn roi gwybodaeth i chi ynglŷn â’r ysgol uwchradd y dylai eich plentyn ei - 33 -
mynychu fel arfer. Mae manteision addysgol i fynychu’r ysgol sy’n gysylltiedig ag ysgol gynradd y plentyn fel rhan o’r “clwstwr o ysgolion” gweler adran 1xii (tudalen 18). Byddwn yn anfon pecyn trosglwyddo i’r ysgol uwchradd atoch trwy ysgol gynradd eich plentyn yn ystod tymor yr Hydref cyn y disgwylir i’ch plentyn symud i ysgol uwchradd. Gofynnir i chi fynegi eich dewis o ysgol uwchradd erbyn diwedd tymor yr Hydref . Bydd y rhain yn cael eu hystyried a chewch eich hysbysu am y canlyniad ar y dyddiad cynnig cyffredin, gweler tudalen 13 am yr Amserlen Dderbyn. Os oes mwy o geisiadau am lefydd na’r llefydd sydd ar gael bydd y meini prawf gordanysgrifio yn adran 1viii (tudalen 15) yn berthnasol. Ni ddylech ragdybio y bydd mynychu unrhyw ddiwrnod neu noson agored ar gyfer darpar ddisgyblion uwchradd yn golygu y caiff y plentyn ei dderbyn i’r ysgol neu y caiff cludiant ei ddarparu. Ysgol y Preseli yng Nghrymach yw’r ysgol uwchradd ddwyieithogdynodedig ar gyfer Sir Benfro. O ganlyniad, mae’r ysgol yn unigryw gan ei bod yn gwasanaethu disgyblion tu hwnt i’r dalgylch daearyddol uniongyrchol, yn cynnwys y plant hynny sydd yn mynychu Ysgol Gymraeg Glan Cleddau yn Hwlffordd a’r Unedau Iaith yn ne’r Sir. Mae’r ddarpariaeth yma yn ymestyn at ddisgyblion eraill sydd yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn ysgolion Sir Benfro. O ganlyniad, dynodir pob Ysgol gynradd yn Sir Benfro sydd yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg fel ysgol sydd yn “bwydo” Ysgol y Preseli.
- 34 -
Rhan 4 - Cludiant Ysgol Noder: Mae’r wybodaeth hon yn gywir adeg ei chyhoeddi ond gall newid o ganlyniad i newidiadau yn y gyfraith neu bolisi’r Cyngor Sir.
i)
Cyflwyniad
Mae dyletswydd statudol ar Gyngor Sir Penfro (fel yr Awdurdod Lleol) i ddarparu cludiant am ddim i ddisgyblion oedran ysgol gorfodol i’w hysgol fwyaf addas agosaf a gynhelir os ydynt yn byw yn bellach na’r pellter cerdded statudol. Caiff cludiant am ddim ei ddarparu yn unol â Mesur Teithio gan Ddysgwyr Cymru - Canllawiau Gweithredol a pholisi cludiant ysgolion Cyngor Sir Penfro fel yr amlinellir isod. Mae’r trefniadau hyn yn berthnasol i ddysgwyr sy’n byw yn Sir Benfro neu sy’n cael eu hystyried yn gyfrifoldeb Cyngor Sir Penfro. ii) Pellterau cerdded Bydd yr Awdurdod yn darparu cludiant: 1. os yw plentyn oedran ysgol gorfodol sy’n derbyn addysg gynradd yn byw mwy na dwy filltir * o’r ysgol addas agosaf. 2. os yw plentyn oedran ysgol gorfodol sy’n derbyn addysg uwchradd yn byw mwy na thair milltir* o’r ysgol addas agosaf. * Caiff y pellter byrraf sydd ar gael ei fesur o’r man lle mae’r annedd breifat yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus, hyd at y fan lle mae mynedfa agosaf yr ysgol yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus. Ceidw’r Cyngor yr hawl i enwi, fel ysgol addas, un wahanol i’r ysgol ddalgylch.
- 35 -
iii) Ysgol addas Darperir cludiant i’r ysgol ddalgylch a ddynodwyd gan y Cyngor Sir i wasanaethu cyfeiriad cartref y disgybl, neu i’r ysgol addas agosaf a bennir gan y Cyngor Sir. iv) Rhieni’n dewis ysgol wahanol Ni fydd yr Awdurdod yn darparu cludiant nac yn gwneud unrhyw gyfraniad at gostau cludiant ar gyfer disgyblion sy’n cael eu derbyn mewn ysgol o ganlyniad i ddewis y rhieni, os nad honno yw’r ysgol agosaf na’r ysgol ddalgylch. Dan yr amgylchiadau hyn y rhieni sy’n gyfrifol am wneud eu trefniadau cludiant eu hunain ac am holl gostau’r cludiant. Cynghorir chi i ystyried y goblygiadau cludiant cyn mynegi eich dewis mewn perthynas â lle mewn ysgol. v) Natur y ddarpariaeth gludiant Os y Cyngor Sir sy’n gyfrifol am drefniadau cludiant, ym mhob achos bydd y Cyngor Sir yn penderfynu ar y math mwyaf priodol o gludiant i’w ddarparu neu a ddylai ddarparu lwfans milltiroedd. vi) Llwybrau cerdded diogel Bydd y Cyngor Sir yn darparu cludiant os yw o’r farn na all disgybl gerdded y ffordd agosaf sydd ar gael yn rhesymol o ddiogel yng nghwmni oedolyn os oes angen, ac os yw’r ffordd arall yn fwy na’r pellter statudol ar gyfer cerdded i’r ysgol. Wrth bwyso a mesur diogelwch llwybr teithio sydd ar gael, rhoddir ystyriaeth i’r perygl posibl y gallai traffig ei achosi, cyflwr y briffordd a’r dirwedd ac a oes gwasanaeth bws am dâl ar gael. Bydd pob achos yn cael ei ystyried yn ôl ei haeddiant ei hun.
- 36 -
vii)
Ysgolion cyfrwng Cymraeg
Bydd y Cyngor Sir yn darparu cludiant i addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg. Caiff cludiant ei ddarparu o fannau codi dynodedig yn unig ar gyfer disgyblion sy’n bodloni’r meini prawf pellter statudol. O ystyried natur y llwybrau teithio hyn a’r pellterau dan sylw, cyfrifoldeb y rhieni fydd sicrhau bod y disgyblion yn dod i’r mannau codi dynodedig. Bydd y disgyblion hynny sy’n mynd i Ysgol Glan Cleddau ac i Unedau Cymraeg yn Ne Sir Benfro sy’n byw o fewn yr ardal y mae’r ysgolion hynny wedi’u dynodi i’w gwasanaethu, ac ysgolion yng ngogledd y sir, yn cael eu cludo i Ysgol y Preseli o fannau dynodedig os ydynt yn bodloni’r meini prawf pellter. Yn achos disgyblion o’r ardal a ddynodwyd i’w gwasanaethu gan Ysgol y Preseli (ar hyn o bryd yr ysgol uwchradd ddwyieithog ddynodedig) nad yw eu rhieni yn dymuno iddynt dderbyn addysg ddwyieithog, darperir cludiant i’r ysgol uwchradd arall agosaf yn unig; mae’r ddarpariaeth mewn perthynas â’r mannau codi dynodedig yr un mor berthnasol yn yr achos hwn. viii)
Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir
Mae’r trefniadau arferol ar gyfer dalgylchoedd yn berthnasol. Dim ond i’r ysgol wirfoddol a gynorthwyir agosaf o fewn wyth milltir o gartref y disgybl y bydd y Cyngor Sir yn darparu cludiant gyda chonsesiwn, os yw’r disgybl yn byw y tu allan i’r pellter cerdded statudol ac os yw’n mynd i’r ysgol ar sail ffydd a bod tystiolaeth o hynny mewn llythyr ategol gan offeiriad/ficer lleol y plentyn. ix)
Cludiant i ddysgwyr 16+ oed
Bydd y Cyngor Sir yn darparu cludiant fel y gwêl yn ddoeth, ar ôl oedran ysgol gorfodol os yw dysgwr o Sir Benfro yn byw yn bellach na thair milltir o’r ysgol neu’r coleg agosaf lle mae rhaglen astudio addas ar gael. Rhaid i’r dysgwr fod yn astudio yn llawn amser a’i fod o dan 19 oed ar 1 Medi yn y flwyddyn academaidd pryd y dilynir y cwrs. Darperir cludiant i’r ysgol uwchradd ddalgylch a ddynodwyd gan y Cyngor Sir wasanaethu cyfeiriad - 37 -
cartref y dysgwr, neu i’r ysgol/coleg agosaf. Caiff addysg gyffredinol (h.y. Safon Uwch/UG neu TGAU) ei darparu fel arfer yn yr ysgol ddalgylch ac ni ddarperir cludiant fel rheol ar gyfer mynychu y tu allan i’r dalgylch ar gyfer y rhaglenni astudio hyn. Mae ysgolion yn cynnig amrywiaeth eang o bynciau i bobl ifanc 16+ oed ac fel arfer, byddai disgwyl i ddysgwyr sy’n dymuno dilyn addysg gyffredinol ddewis o’r amrywiaeth sydd ar gael. Nid yw’r Awdurdod, fel arfer, yn darparu cludiant ar sail dewisiadau pynciau unigol. Mae gan y Cyngor Sir yr hawl i godi tâl am gludiant dewisol ar gerbydau dan cytundeb, a chant wneud hynny yn unol a’r polisi cludiant. x)
Disgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig
Bydd y Cyngor Sir yn darparu cludiant i ddisgyblion â datganiad yn unol â’r meini prawf hyn: Nid yw’r disgybl, oherwydd ei anabledd, yn gallu defnyddio’r cludiant ysgol arferol a ddarperir i ddisgyblion oedran ysgol gorfodol sy’n derbyn addysg gynradd sy’n byw dros 2 filltir o ysgol gynradd y dalgylch ac nid yw’n gallu defnyddio unrhyw fath arall o gludiant megis car y teulu neu gerbyd Motability. Nid yw’r disgybl, oherwydd ei anabledd, yn gallu defnyddio’r cludiant ysgol arferol a ddarperir i ddisgyblion oedran ysgol gorfodol sy’n derbyn addysg uwchradd sy’n byw dros dair milltir o ysgol uwchradd y dalgylch ac nid yw’n gallu defnyddio unrhyw fath arall o gludiant megis car y teulu neu gerbyd Motability. Mae’r disgybl yn byw o fewn 2 filltir o ysgol gynradd y dalgylch neu o fewn tair milltir o ysgol uwchradd y dalgylch ond nid yw’n gallu cerdded i’r ysgol ac nid yw’n gallu defnyddio unrhyw fath arall o gludiant megis car y teulu neu gerbyd Motability. Mae’r Panel Cynhwysiant yn argymell y dylid lleoli disgybl mewn ysgol nad yw’n ysgol ddalgylch a bod y meini prawf uchod yn cael eu bodloni. Rhaid i gyngor meddygol gan Ymgynghorydd Meddygol y disgybl gadarnhau’r angen. Ni dderbynnir cyngor unrhyw weithiwr proffesiynol meddygol arall. - 38 -
Ni ddarperir cludiant i ddisgyblion ag anghenion arbennig dan yr amgylchiadau canlynol:
os yw’r rhieni yn dewis ysgol y tu allan i’r dalgylch i fynd i arholiadau y tu allan i’r trefniadau cludiant arferol i fynd i glybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol i fynd i wersi nofio oni bai fod y plentyn yn defnyddio cadair olwyn ac nid oes modd arall iddo fynd i wersi nofio, os felly gallai’r Gwasanaethau Addysg dalu’r rhiant am gludo’r plentyn.
Gallai’r Cyngor Sir ddarparu cynorthwyydd ar gyfer disgyblion â datganiadau o Anghenion Addysgol Arbennig sy’n gymwys i gael cludiant o dan y meini prawf diffiniedig. Darperir cynorthwywyr ar ôl i swyddogion perthnasol ystyried beth yw anghenion unigol y disgybl neu’r grŵp o ddisgyblion dan sylw a’r math o gludiant sydd ar gael a bydd hynny yn ôl yr hyn y gwêl yn ddoeth gan y Cyfarwyddwr dros Plant ac Ysgolion. xi)
Cludiant ar sail feddygol
Bydd y Cyngor Sir yn ystyried darparu cludiant tymor byr ar gyfer disgyblion os oes angen cludiant ar blentyn am resymau meddygol fel y gwêl yn ddoeth gan y Cyfarwyddwr dros Plant ac Ysgolion. Dylid gwneud cais trwy anfon llythyr at y Rheolwr AAA i’r cyfeiriad islaw ynghyd â thystiolaeth ategol gan ymgynghorydd meddygol y dysgwr. Ni dderbynnir cyngor unrhyw weithiwr proffesiynol meddygol aral. Y Rheolwr AAA, Cyngor Sir Penfro, y Gwasanaeth Addysg, Neuadd y Sir, Hwlffordd SA61 1TP xii)
Teithio rhatach
Gellir caniatáu i ddisgyblion nad ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim gael llefydd teithio rhatach ar gerbydau contract, ar ôl gwneud cais ysgrifenedig i’r Cyfarwyddwr dros Plant ac Ysgolion, os oes seddau dros ben ar gael. Bydd y llefydd teithio rhatach hyn yn rhai dros dro ac yn brin - 39 -
a gellir eu tynnu’n ôl unrhyw adeg fel y gwêl y Cyngor Sir yn dda e.e. pan na fydd seddau ar gael. Gallai hyn ddigwydd ar fyr rybudd ac wedi hynny, y rhieni fydd yn gyfrifol am gludiant. Rhaid i’r Cyngor Sir benderfynu ar nifer y disgyblion cymwys y mae angen cludiant arnynt er mwyn gweld a oes llefydd dros ben ar gael ar gerbydau contract neu beidio. Felly, ni chaiff tocynnau teithio rhatach eu dosbarthu nes bod y flwyddyn ysgol wedi cychwyn ers rhai wythnosau. Mae gan y Cyngor Sir hawl i godi tâl am seddau teithio rhatach ar gerbydau contract a gall wneud hynny yn unol â’i bolisi cludiant. xiii)
Ysgolion mewn Awdurdodau Lleol cyfagos
Bydd y Cyngor Sir yn darparu cludiant yn unol â’r gyfraith a’i polisi mewn perthynas â disgyblion sy’n mynychu ysgolion mewn Awdurdodau Lleol cyfagos. xiv)
Newid cyfeiriad
Gall y Cyngor Sir ddarparu cludiant i ddisgyblion, ar ôl iddynt newid cyfeiriad yn ystod blwyddyn olaf arholiadau TGAU neu Safon Uwch, er mwyn sicrhau dilyniant yn eu haddysg. Rhaid gwneud cais i’r Cyfarwyddwr dros Plant ac Ysgolion. Ni fydd darpariaeth o’r fath yn parhau ym Mlynyddoedd 12 ac 13 os yw disgyblion wedi symud yn ystod blwyddyn 11. xv)
Disgyblion o dan oedran ysgol gorfodol
Nid oes gan y Cyngor Sir unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol dros ddarparu cludiant ar gyfer disgyblion o dan oedran ysgol gorfodol ac nid yw’n gwneud hynny fel arfer. xvi)
Codau Ymarfer
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi llunio Codau Teithio ar gyfer pawb sy’n ymwneud â chludiant ysgol ac mae’r rhain yn rhoi cyngor a chanllawiau ynglŷn â sut y gellir cwblhau’r daith i’r ysgol ac yn ôl yn ddiogel. - 40 -
- 41 -
- 42 -
xvii)
Pasiau bws
Rhoddir pas bws i’r disgyblion hynny o oedran ysgol uwchradd sydd â’r hawl i gael cludiant, ar yr amod eu bod yn llenwi ‘Ffurflen Gais am Bas Bws Cludiant Ysgol’. Rhaid iddynt fynd â’u pas bws gyda nhw bob dydd a rhaid iddynt fod ar gael i’w harchwilio gan Swyddogion y Cyngor Sir neu weithwyr y contractwyr. Gellir gwrthod gadael i ddisgyblion sydd heb bas bws deithio ar y bws. Codir tâl am bas bws newydd. Mae ffurflen gais am bas bws ar gael ar gais neu gellir ei lawrlwytho o wefan y Cyngor; mae fersiwn ar-lein ar gael hefyd i’w llenwi a’i chyflwyno’n electronig. Dylid llenwi ceisiadau yn llawn, gan gynnwys llofnod gan yr ysgol (ac eithrio ar-lein ac ar gyfer y derbyniad cyntaf i ysgol uwchradd), a’u hanfon at y Cyfarwyddwr dros Plant ac Ysgolion. Yn achos disgyblion ysgol gynradd, mae’n rhaid gwneud cais am bas bws yn yr un modd ag ar gyfer disgyblion uwchradd yn y paragraff uchod; fodd bynnag, ni ddosberthir pasiau bws unigol. Yn hytrach rhoddir rhestr o enwau disgyblion i’r cwmni bws yn nodi pwy sydd â’r hawl i gludiant am ddim ar bob llwybr bws. xviii)
Mannau codi
Oherwydd natur wledig y Sir nid oes modd trefnu bob amser bod llwybrau’r cerbydau yn agos at gartrefi’r holl ddisgyblion sy’n teithio. Felly, gall fod rhaid i rieni wneud eu trefniadau eu hunain i’w plant deithio i’r man codi agosaf ac yn ôl. Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y pellter hwn mor fyr â phosibl. Cyfrifoldeb y rhieni fydd sicrhau bod y disgyblion yn cael eu hebrwng yn ddiogel i’r cerbyd ac oddi arno. xix)
Ymddygiad ar fysiau ysgol
Efallai y bydd disgyblion y mae eu hymddygiad yn annerbyniol neu heb fod yn cydymffurfio â’r Cod Ymddygiad yn ystod y daith i’r ysgol ac yn ôl yn cael y trefniadau teithio wedi’u tynnu’n ôl a bydd y cyfrifoldeb am gludiant i’r ysgol ac yn ôl wedyn yn nwylo’r rhieni. Defnyddir camerâu - 43 -
Teledu Cylch Cyfyng ar rai cerbydau er mwyn monitro ymddygiad. Y gyrrwr fydd yn gyfrifol am oruchwylio’r disgyblion ar y cerbyd yn ystod y daith i’r ysgol ac yn ôl. Bydd y gyrrwr yn hysbysu’r Cyngor Sir am unrhyw achosion o ymddygiad gwael a gall trefniadau teithio gael eu diddymu. Ni chaniateir ysmygu ar gerbydau sydd dan gontract i’r Cyngor Sir. xx)
Difrod
Bydd y Cyngor Sir neu’r Contractwyr yn gwneud cais am iawndal gan rieni lle bu eu plant hwy yn gyfrifol am ddifrod bwriadol.
xxi)
Cyfrifoldeb rhieni mewn perthynas â chludiant
Rhieni sy’n gyfrifol am: sicrhau bod eu plentyn yn cael ei gludo i’r ysgol ac yn ôl, os nad yw’n gymwys i gael cludiant gwneud cais i’r Cyfarwyddwr dros Plant ac Ysgolion am gludiant os yw eu plentyn yn gymwys sicrhau bod eu plentyn yn barod ac yn aros am y bws ar yr amser ac yn y man priodol. Cyfrifoldeb y rhieni yw diogelwch y plentyn cyn mynd ar y bws ac ar ôl dod oddi arno. Cyfrifoldeb y rhieni yw gwneud trefniadau i’w plentyn fynd i gwrdd â’r cludiant a ddarperir ac am sicrhau bod eu plentyn yn cael ei hebrwng i’r cerbyd ac oddi yno os oes angen sicrhau bod ymddygiad eu plentyn, pan fo’n defnyddio cludiant ysgol, yn gymdeithasol dderbyniol ac yn cydymffurfio â’r Codau Teithio cymeradwy sicrhau bod eu plentyn yn cael ei gludo i’r ysgol ac yn ôl os yw’r cludiant wedi’i dynnu’n ôl oherwydd ymddygiad gwael hysbysu’r Cyngor Sir yn ysgrifenedig pan nad oes angen cludiant ysgol mwyach.
- 44 -
xxii)
Amgylchiadau ariannol
Nid yw amgylchiadau ariannol y rhieni yn dylanwadu ar ddarparu cludiant. xxiii)
Apeliadau Cludiant
Os digwydd anghydfod sy’n ymwneud â gweithredu a dehongli polisi cludiant o’r cartref i’r ysgol, dylid cyflwyno apêl i’r Cyfarwyddwr dros Plant ac Ysgolion. xxiv)
Adolygu llwybrau cludiant
Bydd yr Awdurdod yn adolygu’r llwybrau a’r cludiant a ddarperir yn rheolaidd er mwyn eu gwneud yn fwy effeithlon. Gellir gweithredu newidiadau i’r llwybrau yn ystod blwyddyn academaidd. xxv)
Tywydd garw
Os bydd y tywydd yn arw, neu os bydd amgylchiadau eraill nas rhagwelwyd yn codi, gellir gwneud newidiadau dros dro i’r cludiant a ddarperir. O dan rai amgylchiadau efallai na fydd yn bosibl gweithredu llwybr o gwbl neu wasanaethu rhan o’r llwybr yn unig. Os na fydd llwybr ysgol/coleg yn gweithredu yn y bore, oherwydd tywydd garw, ond eich bod yn dewis mynd â’ch plentyn (plant) i’r ysgol eich hun, yna bydd angen i chi wneud trefniadau i gasglu eich plentyn (plant) ar ddiwedd y diwrnod ysgol.
- 45 -
Rhan 5 - Tymhorau a gwyliau 5. Dyddiadau tymhorau a gwyliau ysgol - 2017-18 Hanner-Tymor Tymor Hydref 2017
Dechrau Dydd Mawrth 5 Medi 2017
Dechrau
Diwedd
Dydd Llun 30 Hyd 2017
Dydd Gwener 3 Tach 2017
Diwedd Dydd Gwener 22 Rhag 2017
Nifer dyddiau ysgol
74
Gwanwyn Dydd Llun 2018 8 Ion 2018
Dydd Llun Dydd Gwener Dydd Gwener 19 Chwef 2018 23 Chwef 2018 29 Mawrth 2018
54
Haf 2018
Dydd Llun Dydd Gwener Dydd Mawrth 28 Mai 2018 1 Mehefin 2018 24 Gorff 2018
65
Dydd Mawrth 17 Ebrill 2018
Diwrnodau Athrawon dan gyfarwyddydd: Dydd Llun 4 Medi 2017 a Dydd Llun 16 Ebrill 2018
2 Cyfanswm 195
NODIAD i) Bydd Dydd Llun 4 Medi 2017 a Dydd Llun 16 Ebrill 2018 yn ddiwrnodau dynodedig hyfforddi staff pan fydd yr holl ysgolion a gynhelir yn Sir Benfro ar gau. Cynhelir tri ddiwrnod hyfforddi staff ychwanegol pan fydd ysgolion ar gau yn ôl yr hyn y gwêl pob ysgol unigol yn ddoeth. O bryd i’w gilydd gellir cytuno ar ddiwrnodau ychwanegol pan fydd ysgolion ar gau at ddibenion penodol. Bydd yr ysgol yn rhoi gwybod i chi am y rhain. ii) Bydd pob ysgol ar gau ddydd ddydd Llun 7 Mai 2018 ar gyfer Gŵyl Banc Calan Mai. iii) Mae dydd Gwener y Groglith a dydd Llun y Pasg ar 30 Mawrth a 2 Ebrill 2018 yn ôl eu trefn. Gall y calendr hwn newid yn sgil unrhyw ofynion gwasanaeth neu bolisi’rllywodraeth. Er bod newidiadau o’r fath yn anarferol, dylech nodi nad yw Cyngor Sir Penfro yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golledion a achosirmewn perthynas â threfniadau gwyliau diwygiedig yn dilyn newidiadau o’r fath. - 46 -
Atodiad 1
Egluro’r derminoleg
Blwyddyn Academaidd Blwyddyn Ysgol sy’n cychwyn ar Fedi 1af ac yn gorffen ar yr 31ain Awst canlynol. Nifer Derbyn Uchafswm nifer y disgyblion sydd i’w derbyn i’r ysgol mewn grŵp blwyddyn arbennig. Dalgylch Yr ardal ddaearyddol y bwriadwyd i’r ysgol ei gwasanaethu, sydd yn achos Ysgol y Preseli, Sir Benfro yn ei chyfanrwydd, fel yr ysgol uwchradd ddwyieithog penodedig. Ysgol Gyfun Ysgolion sy’n darparu ar gyfer disgyblion o bob gallu rhwng 11 ac 18 oed. Mae Cyngor Sir Penfro yn cynnal 8 ysgol gyfun. Oedran Ysgol Gorfodol Yn ôl y gyfraith, mae disgyblion rhwng 5 ac 16 oed yn gorfod derbyn addysg lawn amser sy’n briodol i’w hoedran, eu gallu a’u tueddfryd. Cyngor Sir Dyma’r corff llywodraeth leol sy’n gyfrifol am drefnu a chynnal gwasanaethau addysg. Cyngor Sir Penfro sy’n gyfrifol am hyn yn Sir Benfro. Mae’r Cyngor Sir yn cyflawni amrywiaeth o swyddogaethau statudol. Cwricwlwm Yr holl weithgareddau a chyfleoedd ar gyfer dysgu a ddarperir gan ysgol. Ysgol a Gynhelir Ysgol a ariennir ac a gynhelir gan Gyngor Sir Penfro (sef yr Awdurdod Addysg Lleol). Ysgol nas Cynhelir neu Ysgol Annibynnol Ysgol nad yw’n cael ei hariannu na’i chynnal gan Gyngor Sir. Meithrin Llefydd ysgol ar gyfer plant o’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed hyd nes iddynt ddod i oedran ysgol ar gyfer y dosbarth Derbyn. Dosbarth Derbyn Bydd lle'r plentyn yn yr ysgol yn dechrau yn ystod tymor yr hydref ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 4 oed. Brodyr a chwiorydd Siblingiaid (disgyblion sydd â brodyr neu chwiorydd hŷn, hanner brodyr neu chwiorydd, llys frodyr neu chwiorydd, neu brodyr neu chwiorydd mabwysiadol neu faeth ac yn byw ar yr un aelwyd ar adeg eu derbyn. Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir (yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig) Ysgol a gynhelir a sefydlwyd gan gorff gwirfoddol (fel arfer yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig). Mae ysgolion a gynorthwyir yn rheoli eu derbyniadau eu hunain a’u maes llafur Addysg Grefyddol ac yn cyflogi eu gweithwyr eu hunain. Ysgol Wirfoddol a Reolir Mae hon yn ysgol a gynhelir lle mae Addysg Grefyddol yn cael ei darparu yn unol â maes llafur cytunedig yr Awdurdod. Gellir cynnig rhywfaint o hyfforddiant enwadol. - 47 -
Atodiad 2
Trefniadau derbyn a meini prawf gordanysgrifio ar gyfer ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir
Ysgol GG St Mark, Hwlffordd Cyfrifoldeb y Corff Llywodraethol yw derbyn plant i’r ysgol, a dylid gwneud ceisiadau yn ysgrifenedig i’r Pennaeth. Y Nifer Derbyn ar gyfer yr ysgol yw 20, a lle nad yw nifer y ceisiadau’n uwch na’r nifer hon, yna derbynnir pob ymgeisydd. Pe bai mwy na’r nifer uchod o geisiadau’n cael eu derbyn ar gyfer grŵp blwyddyn unigol, bydd disgyblion yn cael eu derbyn ar sail y meini prawf gordanysgrifio canlynol, wedi’u cymhwyso mewn trefn blaenoriaeth: 1. 2. 3. 4.
Plant sy’n Derbyn Gofal Chwiorydd a brodyr plant sydd eisoes yn yr ysgol. Plant sy’n byw yng nghymuned Pont Fadlen. Plant aelodau mewn gair a gweithred yr Eglwys yng Nghymru (dylai’r cais gael ei ategu gan ddatganiad Offeiriad y Plwyf). 5. Plant rhieni o enwadau eraill sy’n dymuno i’w plentyn gael addysg ysgol eglwysig (dylai’r cais gael ei ategu gan ddatganiad eu Harweinydd Ffydd). 6. Plant rhieni sy’n arddel crefyddau eraill, sy’n dymuno i’w plentyn gael addysg ysgol yr Eglwys Anglicanaidd. 7. Plant rhieni sy’n dymuno i’w plentyn fynychu Ysgol St Mark. Yn achos ymgeiswyr cyfartal, cynigir y llefydd i’r disgyblion sy’n byw agosaf at yr ysgol, wedi’i fesur yn ôl y pellter cerdded byrraf o’r gât ysgol agosaf sydd ar gael hyd at y man lle mae annedd preifat y disgybl yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus. Mae gan rieni y mae eu cais am le i’w plant yn aflwyddiannus yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â’u derbyn. Dylai’r apêl hon fod yn ysgrifenedig a dylid ei hanfon at y Pennaeth. Caiff yr apêl ei chlywed gan Banel Apêl annibynnol, a sefydlwyd gan yr Esgobaeth, y bydd ei benderfyniad yn rhwymol ar bob parti. Gweler yr adran o’r enw “Beth yw fy hawl i apelio”? i gael mwy o wybodaeth. Mae Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir St Marks yn gweithredu rhestr aros ar gyfer rhieni pan na fydd yn gallu cynnig lle yn ystod y cylch derbyn arferol oherwydd gordanysgrifio. Mae’r telerau a gymhwysir i restrau aros yr un fath â thelerau’r Cyngor Sir, fel a ddisgrifir yn yr adran o’r enw “Sut mae llefydd ysgol yn cael eu dyrannu?” Bydd ceisiadau am lefydd a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau cyhoeddedig, yn cael eu hystyried gan yr ysgol ar ôl yr holl geisiadau hynny a dderbyniwyd mewn pryd. Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried ar sail y meini prawf gordanysgrifio uchod, a chan ystyried nifer y disgyblion.
- 48 -
Ysgol Bro Dewi, Tyddewi Cyfrifoldeb y Corff Llywodraethol yw derbyn plant i’r ysgol, a dylid gwneud ceisiadau i’r Pennaeth. Y Nifer Derbyn ar gyfer yr ysgol yw 17, a lle nad yw nifer y ceisiadau’n uwch na’r nifer hon, yna derbynnir pob ymgeisydd. Pe bai mwy na’r nifer uchod o geisiadau’n cael eu derbyn ar gyfer grŵp blwyddyn unigol, bydd disgyblion yn cael eu derbyn ar sail y meini prawf gordanysgrifio canlynol, wedi’u cymhwyso mewn trefn blaenoriaeth: 1. Plant sy’n Derbyn Gofal 2. Plant sy’n byw yn nalgylch yr ysgol. 3. Plant sydd â brodyr a chwiorydd sydd eisoes yn yr ysgol ar yr adeg derbyn. (I gynnwys hanner brodyr a chwiorydd sy’n byw ar yr un aelwyd) 4. Plant rhieni o enwadau Cristnogol sy’n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol y mae eu rhieni’n dymuno’n benodol i’w plentyn gael addysg ysgol eglwysig. (Gyda llythyr ategol gan eu hoffeiriad neu weinidog.) Yn achos ymgeiswyr cyfartal, cynigir y llefydd i’r disgyblion sy’n byw agosaf at yr ysgol, wedi’i fesur yn ôl y pellter cerdded byrraf o’r gât ysgol agosaf sydd ar gael hyd at y man lle mae annedd preifat y disgybl yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus. Mae gan rieni y mae eu cais am le i’w plant yn aflwyddiannus yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â’u derbyn. Dylai’r apêl hon fod yn ysgrifenedig a dylid ei hanfon at y Pennaeth. Caiff yr apêl ei chlywed gan Banel Apêl annibynnol, y bydd ei benderfyniad yn rhwymol ar bob parti. Gweler yr adran o’r enw “Beth yw fy hawl i apelio”? i gael mwy o wybodaeth. Mae Ysgol Bro Dewi yn gweithredu rhestr aros ar gyfer rhieni pan na fydd yn gallu cynnig lle yn ystod y cylch derbyn arferol oherwydd gordanysgrifio. Mae’r telerau a gymhwysir i restrau aros yr un fath â thelerau’r Cyngor Sir, fel a ddisgrifir yn yr adran o’r enw “Sut mae llefydd ysgol yn cael eu dyrannu?” Bydd ceisiadau am lefydd a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau cyhoeddedig, yn cael eu hystyried gan yr ysgol ar ôl yr holl geisiadau hynny a dderbyniwyd mewn pryd. Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried ar sail y meini prawf gordanysgrifio uchod, a chan ystyried nifer y disgyblion presennol/darpar ddisgyblion. Mae’r hawl i apelio yn gymwys i geisiadau hwyr hefyd.
- 49 -
Ysgol GG St Oswald, Jeffreyston Cyfrifoldeb y Corff Llywodraethol yw derbyn plant i’r ysgol, a dylid gwneud ceisiadau i’r Pennaeth. Y Nifer Derbyn ar gyfer yr ysgol yw 17, a lle nad yw nifer y ceisiadau’n uwch na’r nifer hon, yna derbynnir pob ymgeisydd. Pe bai mwy na’r nifer uchod o geisiadau’n cael eu derbyn ar gyfer grŵp blwyddyn unigol, bydd disgyblion yn cael eu derbyn ar sail y meini prawf gordanysgrifio canlynol, wedi’u cymhwyso mewn trefn blaenoriaeth: a) Plant sy’n derbyn gofal sy’n gymunwyr y ffydd Anglicanaidd b) Plant sy’n derbyn gofal c) Plant sydd â brodyr neu chwiorydd yn yr ysgol ar y dyddiad derbyn arfaethedig ch) Plant sy’n byw yn nalgylch yr ysgol d) Plant o deuluoedd sy'n byw y tu allan i'r dalgylch sy'n gymunwyr rheolaidd mewn Eglwys Anglicanaidd yn y dalgylch dd) Plant sy’n byw y tu allan i’r dalgylch fel a ddiffinnir yn 2 uchod, sy’n gymunwyr rheolaidd mewn Eglwys Anglicanaidd e) Plant o deuluoedd o enwadau Cristnogol eraill sy'n byw y tu allan i'r dalgylch y mae eu rhieni yn dymuno iddynt gael addysg mewn ysgol Eglwys Anglicanaidd f) Plant o deuluoedd sy’n byw y tu allan i’r dalgylch fel a ddiffinnir yn 2 uchod, nad ydynt yn addolwyr Cristnogol gweithgar ond y mae eu rhieni’n dymuno iddynt gael addysg mewn ysgol Eglwys Anglicanaidd. Yn achos ymgeiswyr cyfartal, cynigir y llefydd i’r disgyblion sy’n byw agosaf at yr ysgol, wedi’i fesur yn ôl y pellter cerdded byrraf o’r gât ysgol agosaf sydd ar gael hyd at y man lle mae annedd preifat y disgybl yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus. Mae gan rieni y mae eu cais am le i’w plant yn aflwyddiannus yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â’u derbyn. Dylai’r apêl hon fod yn ysgrifenedig a dylid ei hanfon at y Pennaeth. Caiff yr apêl ei chlywed gan Banel Apêl annibynnol, y bydd ei benderfyniad yn rhwymol ar bob parti. Gweler yr adran o’r enw “Beth yw fy hawl i apelio”? i gael mwy o wybodaeth. Mae Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir St Oswald yn gweithredu rhestr aros ar gyfer rhieni pan na fydd yn gallu cynnig lle yn ystod y cylch derbyn arferol oherwydd gordanysgrifio. Mae’r telerau a gymhwysir i restrau aros yr un fath â thelerau’r Cyngor Sir, fel a ddisgrifir yn yr adran o’r enw “Sut mae llefydd ysgol yn cael eu dyrannu?” Bydd ceisiadau am lefydd a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau cyhoeddedig, yn cael eu hystyried gan yr ysgol ar ôl yr holl geisiadau hynny a dderbyniwyd mewn pryd. Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried ar sail y meini prawf gordanysgrifio uchod, a chan ystyried nifer y disgyblion presennol/darpar ddisgyblion. Mae’r hawl i apelio yn gymwys i geisiadau hwyr hefyd.
- 50 -
Ysgol WG St Aidan’s, Cas-wis Yr Awdurdod Derbyniadau ar gyfer yr ysgol hon yw’r Corff Llywodraethol. Adolygir y polisi derbyniadau bob blwyddyn. Mae ein polisi derbyn wedi ei ddatblygu er mwyn sicrhau system gyson a theg ar gyfer derbyn disgyblion i’n hysgol, yn enwedig os yw’n debygol y bydd nifer y lleoedd wedi ei chyfyngu oherwydd cyrraedd y rhif derbyn o 17. Mae Ysgol WG St Aidan’s yn ysgol yr Eglwys yng Nghymru sydd yn y bôn yn gwasanaethu’r gymuned ym mhlwyfi Llanhuadain, Walton East, Clarbeston Road, Slebech a Chas-wis ac mae’r polisi derbyniadau yn adlewyrchu hyn yn ei restr â blaenoriaeth o feini prawf. Os bydd mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael, rhoddir blaenoriaeth i dderbyn disgyblion yn y drefn ganlynol: 1. Unrhyw blant sydd wedi eu nodi ar Gofrestr y Plant sy’n Derbyn Gofal 2. Plant o blwyfi Llanhuadain, Walton East, Clarbeston Road, Slebech a Chas-wis. 3. Chwiorydd a brodyr plant sy’n mynd i’r ysgol adeg y derbyn, yn cynnwys hanner chwiorydd a brodyr. 4. Plant rhieni Anglicanaidd sy’n dymuno i’w plant gael addysg Anglicanaidd.* 5. Plant rhieni o enwadau Cristnogol eraill sy’n dymuno i’w plant gael addysg Anglicanaidd.* 6. Os bydd rhai yn gyfartal o ran y meini prawf, cynigir lleoedd i’r disgyblion sy’n byw agosaf at yr ysgol, wedi eu mesur yn ôl y pellter byrraf o’r giât agosaf sydd ar gael gan yr ysgol i fan lle mae annedd breifat y disgybl yn cwrdd â’r heol gyhoeddus. *Mae’n rhaid i flaenoriaethau 4 a 5 fod wedi eu cefnogi gyda llythyr gan ficer/offeiriad/gweinidog. Yr oed arferol ar gyfer derbyn i ysgol yn Sir Benfro, mewn ysgol fel St Aidan’s heb ddarpariaeth feithrin, yw dechrau’r tymor sy’n dilyn pen-blwydd y plentyn yn bedair oed. I ddibenion derbyn i’r ysgol, dyddiadau dechrau’r tymhorau yw’r 1 Ionawr, y 1 Ebrill a’r 1 Medi. Nid oes rhaid, fodd bynnag, i addysg orfodol ddechrau tan y tymor sy’n dilyn pen-blwydd y plentyn yn bump oed. Wrth eu derbyn i’r ysgol mae’r plant yn cael eu cofnodi yn y Gofrestr Dderbyn. Mae eu manylion, ynghyd ag unrhyw wybodaeth y mae’r rhieni yn ei rhoi, yn cael eu cynnwys mewn cofnodion cyfrifiadur sy’n rhwym wrth reoliadau diogelu data. Os gwrthodir mynediad, yna mae gan rieni’r hawl i wneud un apêl i gorff annibynnol y byddai’r Corff Llywodraethol yn ei sefydlu. (Sylwer – bydd y corff hwn yn annibynnol o’r ysgol a’r Corff Llywodraethol a bydd ei benderfyniad yn orfodol i bawb.) Mae’n gwneud yr apêl yn ysgrifenedig i’r Pennaeth. Bydd yr Awdurdod Derbyniadau yn parchu’r egwyddor gyffredinol bod rhaid addysgu disgyblion yn unol â dymuniadau eu rhieni, oni bai y byddai derbyn y plentyn hwnnw yn peryglu’r ddarpariaeth o addysg effeithlon. Dylid gwneud ceisiadau am le yn Ysgol WG St Aidan’s yn ysgrifenedig i’r Pennaeth. Mae ffurflen gais ar gael gan yr ysgol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw’r 30 Ebrill cyn y flwyddyn galendr y mae angen lle yn yr ysgol ynddi. - 51 -
Ysgol Gatholig yr Enw Sanctaidd, Abergwaun Mae’r Enw Sanctaidd yn Ysgol Gynradd Gatholig yn Esgobaeth Mynyw. Awdurdod Addysg Lleol Sir Benfro sy’n ei chynnal. Mae’r Corff Llywodraethol yn gyfrifol am benderfynu ynglŷn â’r polisi sy’n berthnasol i dderbyn disgyblion i’r ysgol. Mae wedi ei gyfarwyddo ar gyfer y cyfrifoldeb hwn gan: a) gofynion y gyfraith. b) cyngor Ymddiriedolwyr yr Esgobaeth ynglŷn â natur a diben ei gyfrifoldebau a chyflawni ei Weithred Ymddiriedolaeth ac Offeryn Llywodraethu. c) ei gyfrifoldeb tuag at yr ysgol a’r gymuned Gatholig y mae’n ei gwasanaethu. ch) cymeriad Catholig yr ysgol a’i Datganiad Cenhadaeth. Mae ethos yr ysgol hon yn Gatholig. Sefydlwyd yr ysgol gan yr Eglwys Gatholig i ddarparu addysg i blant teuluoedd Catholig. Gofynnwn I bob rhiant sy’n gwneud cais am le yma gefnogi a pharchu’r ethos hwn, ei bwysigrwydd i gymuned yr ysgol a’r addysg y mae hi’n ei darparu. Nid yw hyn yn effeithio ar hawl rhieni nad ydynt o’r un ffydd â’r ysgol hon i wneud cais a chael eu hystyried am le yma. Nifer Derbyn yr Ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol sy’n dechrau ym mis Medi 2017 yw 18. Os bydd nifer yr ymgeiswyr yn fwy na’r nifer derbyn, bydd y llywodraethwyr yn rhoi blaenoriaeth i geisiadau yn unol â’r meini prawf sydd wedi eu rhestru ar yr amod y rhoddir gwybod i’r llywodraethwyr am y cais hwnnw cyn gwneud penderfyniadau ynghylch derbyniadau. Bydd rhaid gwneud ceisiadau am le yn yr ysgol ar Ffurflen Gais Derbyn i’r Ysgol a’i dychwelyd i’r ysgol erbyn y 30 Ebrill fan bellaf yn y flwyddyn cyn derbyn. Mae’r Corff Llywodraethol wedi dirprwyo cyfrifoldeb am benderfynu ynghylch derbyniadau i’w Bwyllgor Derbyniadau, a fydd yn ystyried pob cais yr un pryd ac wedi’r dyddiad cau ar gyfer derbyniadau, wedi eu gwneud yn unol â’r meini prawf sydd wedi eu rhestru. Os bydd cais am dderbyn wedi ei wrthod gan y Corff Llywodraethol, gall rhieni wneud apêl i Banel Apeliadau. Mae’n rhaid anfon yr apêl hon yn ysgrifenedig at glerc y Llywodraethwyr yn yr ysgol o fewn 14 o ddyddiau (10 diwrnod gwaith) wedi’r gwrthodiad. Mae’n rhaid i rieni roi rhesymau dros apelio yn ysgrifenedig a bydd rhaid i’r Llywodraethwyr dderbyn penderfyniad y panel apeliadau. Meini prawf ar gyfer mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael Os bydd nifer y ceisiadau yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, bydd y Corff Llywodraethol yn gweithredu’r meini prawf ‘mwy o geisiadau na’r nifer sydd ar gael’ canlynol yn nhrefn y flaenoriaeth. 1. Pob plentyn Catholig sydd wedi ei fedyddio ac yn byw yn nalgylch yr ysgol. 2. Pob plentyn sydd wedi ei fedyddio yn yr Eglwys Uniongred ac sy’n byw yn nalgylch yr ysgol. 3. Ymgeiswyr gyda chwiorydd neu frodyr ar y gofrestr yn y flwyddyn dderbyn sydd wedi eu bedyddio’n Gatholigion. 4. Ymgeiswyr gyda chwiorydd neu frodyr ar y gofrestr yn y flwyddyn dderbyn nad ydynt yn Gatholigion. 5. Disgyblion Catholig o’r tu allan i’r dalgylch. 6. Plant o enwadau Cristnogol eraill. 7. Plant y mae eu rhieni yn dymuno addysg Gatholig - 52 -
Mae gan bob ysgol ddyletswydd i dderbyn plant gyda Datganiad o Anghenion Addysgol pan yw’r ysgol wedi ei henwi yn y datganiad. Ym mhob dosbarthiad uchod rhoddir blaenoriaeth i Blant sy’n Derbyn Gofal. Os bydd mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael o ran nifer y ceisiadau sydd wedi eu gwneud o dan unrhyw ddosbarthiad uchod, yna bydd y Pwyllgor Derbyniadau yn cynnig lleoedd yn gyntaf i blant sy’n byw agosaf at yr ysgol, yn ôl y daith gerdded fyrraf ar heolydd cyhoeddus o ddrws blaen y plentyn i brif fynedfa’r ysgol.
- 53 -
Ysgol Gatholig y Santes Fair, Doc Penfro Cyfrifoldeb y Corff Llywodraethol yw derbyn plant i’r ysgol, a dylid gwneud ceisiadau i’r Pennaeth. Y Nifer Derbyn ar gyfer yr ysgol yw 16, a lle nad yw nifer y ceisiadau’n uwch na’r nifer hon, yna derbynnir pob ymgeisydd. Pe bai mwy na’r nifer uchod o geisiadau’n cael eu derbyn ar gyfer grŵp blwyddyn unigol, bydd disgyblion yn cael eu derbyn ar sail y meini prawf gordanysgrifio canlynol, wedi’u cymhwyso mewn trefn blaenoriaeth: 1. Plant Catholig sy’n derbyn gofal 2. Plant Catholig, wedi eu bedyddio, i rieni sy’n blwyfolion y Santes Fair, Doc Penfro, a St. Joseph’s, Penfro 3. Plant Catholig, wedi eu bedyddio, i rieni sy’n blwyfolion plwyfi sy’n ffinio ar y rhai sydd wedi eu rhestru uchod neu sydd wedi symud i’r ardal 4. Plant sy’n derbyn gofal nad ydynt yn Gatholigion 5. Plant nad ydynt yn Gatholigion sydd â brodyr neu chwiorydd eisoes yn yr ysgol 6. Cristnogion o enwadau eraill 7. Eraill sy’n dymuno i’w plant gael addysg Gatholig Yn achos ymgeiswyr cyfartal, cynigir y llefydd i’r disgyblion sy’n byw agosaf at yr ysgol, wedi’i fesur yn ôl y pellter cerdded byrraf o’r gât ysgol agosaf sydd ar gael hyd at y man lle mae annedd preifat y disgybl yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus. Mae gan rieni y mae eu cais am le i’w plant yn aflwyddiannus yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â’u derbyn. Dylai’r apêl hon fod yn ysgrifenedig a dylid ei hanfon at Gadeirydd y Pwyllgor Apêl yn yr ysgol. Caiff yr apêl ei chlywed gan Banel Apêl annibynnol, a sefydlwyd gan Swyddfa’r Esgobaeth, y bydd ei benderfyniad yn rhwymol ar bob parti. Gweler yr adran o’r enw “Beth yw fy hawl i apelio”? i gael mwy o wybodaeth. Mae Ysgol Gatholig y Santes Fair yn gweithredu rhestr aros ar gyfer rhieni pan na fydd yn gallu cynnig lle yn ystod y cylch derbyn arferol oherwydd gordanysgrifio. Mae’r telerau a gymhwysir i restrau aros yr un fath â thelerau’r Cyngor Sir, fel a ddisgrifir yn yr adran o’r enw “Sut mae llefydd ysgol yn cael eu dyrannu?” Bydd ceisiadau am lefydd a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau cyhoeddedig, yn cael eu hystyried gan yr ysgol ar ôl yr holl geisiadau hynny a dderbyniwyd mewn pryd. Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried ar sail y meini prawf gordanysgrifio uchod, a chan ystyried nifer y disgyblion presennol/darpar ddisgyblion. Mae’r hawl i apelio yn gymwys i geisiadau hwyr hefyd. Ym mhob achos, mae’n rhaid i’r Llywodraethwyr fod yn fodlon mai awyrgylch crefyddol a moesol yr ysgol yn anad dim sy’n bwysig i’r rhai sy’n gwneud y cais ac na fydd derbyn rhagor o blant yn amharu ar ddefnyddio adnoddau’n effeithlon.
- 54 -
Ysgol Gatholig Sant Teilo, Dinbych-y-pysgod Cyfrifoldeb y Corff Llywodraethol yw derbyn plant i’r ysgol, a dylid gwneud ceisiadau i’r Pennaeth. Y Nifer Derbyn ar gyfer yr ysgol yw 14, a lle nad yw nifer y ceisiadau’n uwch na’r nifer hon, yna derbynnir pob ymgeisydd. Pe bai mwy na’r nifer uchod o geisiadau’n cael eu derbyn ar gyfer grŵp blwyddyn unigol, bydd disgyblion yn cael eu derbyn ar sail y meini prawf gordanysgrifio canlynol, wedi’u cymhwyso mewn trefn blaenoriaeth: 1. Plant wedi’u bedyddio’n Gatholigion ‘Sy’n Derbyn Gofal’, yng ngofal yr awdurdod lleol, yn y plwyfi y mae’r ysgol yn eu gwasanaethu. 2. Plant sy’n Derbyn Gofal sydd yng ngofal awdurdod lleol (plant mewn gofal) neu y mae’n darparu llety iddynt (e.e. plant gyda rhieni maeth). 3. Plant wedi’u bedyddio’n Gatholigion y mae eu teuluoedd yn byw ym Mhlwyf Holyrood a Theilo Sant. 4. Plant eraill wedi’u bedyddio’n Gatholigion. Bydd angen Cadarnhad o Fedyddio. 5. Plant wedi’u bedyddio’n Gatholigion gyda brawd neu chwaer yn yr ysgol yr amser y maen debygol y derbynnir hwy. 6. Plant o Enwadau Cristnogol eraill. 7. Plant nad ydynt yn Gatholigion sydd â brawd neu chwaer yn yr ysgol adeg y derbyn. 8. Plant o grefyddau eraill y mae eu rhieni yn dymuno addysg Gatholig. 9. Plant nad ydynt yn Gatholigion y mae eu rhieni yn dymuno addysg Gatholig ar gyfer eu plentyn. 10. Plant y mae’r AALl wedi gofyn yn benodol am le iddynt yn yr ysgol. Yn achos ymgeiswyr cyfartal, cynigir y llefydd i’r disgyblion sy’n byw agosaf at yr ysgol. Bydd y pellter yn cael ei fesur o ddrws ffrynt mynediad y dderbynfa i ddrws ffrynt tŷ neu fflat yr ymgeisydd. Yn achos plentyn y mae ei rieni yn rhannu cyfrifoldeb ar y cyd, y rhiant sydd â’r cyfrifoldeb pennaf yn ystod yr wythnos ysgol ac y mae ei breswylfan yn agosach at yr ysgol fydd y ffactor penderfynu wedyn. Bydd rhaid darparu llythyr gan y rhieni i gadarnhau’r ffaith honno. Mae gan rieni y mae eu cais am le i’w plant yn aflwyddiannus yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â’u derbyn. Dylai’r apêl hon fod yn ysgrifenedig a dylid ei hanfon at y Pennaeth. Caiff yr apêl ei chlywed gan Banel Apêl annibynnol, y bydd ei benderfyniad yn rhwymol ar bob parti. Gweler yr adran o’r enw “Beth yw fy hawl i apelio”? i gael mwy o wybodaeth.
- 55 -
Ysgol Gatholig Mary Immaculate, Hwlffordd Cyfrifoldeb y Corff Llywodraethol yw derbyn plant i’r ysgol, a dylid gwneud ceisiadau i’r Pennaeth. Y Nifer Derbyn ar gyfer yr ysgol yw 29, a lle nad yw nifer y ceisiadau’n uwch na’r nifer hon, ynaderbynnir pob ymgeisydd. Pe bai mwy na’r nifer uchod o geisiadau’n cael eu derbyn ar gyfer grŵp blwyddyn unigol, bydd disgyblion yn cael eu derbyn ar sail y meini prawf gordanysgrifio a rhestrir islaw. Ymhob pob categori, bydd Plant sy’n Derbyn Gofal yn cael blaenoriaeth. Bydd angen Cadarnhad Bedydd (tystysgrif bedydd) gan y plwyf ar gyfer categorïau 1-5. 1. Plant sydd wedi eu bedyddio’n Gatholigion sy’n derbyn gofal o fewn y sir. Ni roddir blaenoriaeth i geisiadau yn y categori hwn oni bai y cyflwynir tystysgrif Bedydd. 2. Plant sydd wedi eu bedyddio’n Gatholigion y mae eu rhieni yn blwyfolion eglwysi Dewi Sant a Phadrig Sant Hwlffordd, ac eglwys y Beichiogi Dihalog, Arberth. Ni roddir blaenoriaeth i geisiadau yn y categori hwn oni bai y cyflwynir tystysgrif Bedydd. 3. Plant sydd wedi eu bedyddio’n Gatholigion y mae eu rhieni yn blwyfolion plwyfi cyfagos i’r rhai a restrir uchod neu sydd wedi symud i’r ardal. Ni roddir blaenoriaeth i geisiadau yn y categori hwn oni bai y cyflwynir tystysgrif Bedydd. 4. Plant y mae eu rhieni yn aelodau gweithgar a gweithredol o Eglwysi Ynghyd yng Nghymru (Cytûn) ac yn byw yn yr ardaloedd y cyfeirir atynt yng nghategori 2. Ni roddir blaenoriaeth i geisiadau yn y categori hwn oni bai y cyflwynir llythyr ategol gan y gweinidog presennol yn cadarnhau Bedydd neu ddatganiad ategol o gysylltiad neu gyfeiriad wedi’i lofnodi gan y gweinidog neu gynrychiolydd yr eglwys yn cadarnhau aelodaeth o’r eglwys. 5. Plant sydd ag angen meddygol neu gymdeithasol. Bydd angen llythyr gan feddyg neu weithiwr proffesiynol iechyd yn rhoi tystiolaeth ategol i gyd-fynd â’r cais. Rhaid i’r dystiolaeth ategol hon nodi’r rhesymau penodol pam mai Ysgol Mary Immaculate yw’r ysgol fwyaf addas a’r anawsterau a achosir pe bai’n rhaid i’r plentyn fynychu ysgol arall. Ni roddir blaenoriaeth oni bai bod tystiolaeth ategol. 6. Plant nad ydynt wedi’u bedyddio sydd â brodyr neu chwiorydd yn yr ysgol. Yn achos ymgeiswyr cyfartal a bod angen torri’r ddadl mewn unrhyw un o’r categorïau uchod, bydd y llywodraethwyr yn derbyn yr ymgeiswyr hynny sy’n byw agosaf at yr ysgol. Yn achos plentyn y mae ei rieni yn rhannu cyfrifoldeb ar y cyd, y rhiant sydd â’r cyfrifoldeb pennaf yn ystod yr wythnos ysgol ac y mae ei breswylfan yn agosach at yr ysgol fydd y ffactor penderfynu. Bydd y llywodraethwyr yn defnyddio’r llwybr cerdded byrraf a gyfrifir gan ddefnyddio data llwybrau unigol yr Arolwg Ordnans o ddrws ffrynt yr ysgol i ddrws ffrynt tŷ neu fflat yr ymgeisydd. Lle bydd angen, bydd y llywodraethwyr yn gofyn am gymorth gan yr awdurdod lleol i benderfynu pa un yw’r llwybr byrraf. Mae gan rieni y mae eu cais am le i’w plant yn aflwyddiannus yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â’u derbyn. Dylai’r apêl hon fod yn ysgrifenedig a dylid ei hanfon at y Pennaeth. Caiff yr apêl ei chlywed gan Banel Apêl annibynnol, a sefydlwyd gan Swyddfa’r Esgobaeth, y bydd ei benderfyniad yn rhwymol ar bob parti. Gweler yr adran o’r enw “Beth yw fy hawl i apelio”? i gael mwy o wybodaeth. - 56 -
Mae Ysgol Gatholig Mair Ddihalog yn gweithredu rhestr aros ar gyfer rhieni pan na fydd yn gallu cynnig lle yn ystod y cylch derbyn arferol oherwydd gordanysgrifio. Mae’r telerau a gymhwysir i restrau aros yr un fath â thelerau’r Cyngor Sir, fel a ddisgrifir yn yr adran o’r enw “Sut mae llefydd ysgol yn cael eu dyrannu?” Bydd ceisiadau am lefydd a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau cyhoeddedig, yn cael eu hystyried gan yr ysgol ar ôl yr holl geisiadau hynny a dderbyniwyd mewn pryd. Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried ar sail y meini prawf gordanysgrifio uchod, a chan ystyried nifer y disgyblion presennol/darpar ddisgyblion. Mae’r hawl i apelio yn gymwys i geisiadau hwyr hefyd. Mae’r fersiwn lawn o’r trefniadau derbyn ar gael gan yr ysgol.
- 57 -
Ysgol Gatholig Sant Francis, Aberdaugleddau 1. Mae St Francis yn Ysgol Gynradd Gatholig yn Esgobaeth Mynyw. Awdurdod Lleol Sir Benfro sy’n ei chynnal. 2. Mae’r Corff Llywodraethol yn gyfrifol am benderfynu ynglŷn â’r polisi sy’n berthnasol i dderbyn disgyblion i’r ysgol. Mae wedi ei gyfarwyddo ar gyfer y cyfrifoldeb hwn gan: a) gofynion y gyfraith. b) cyngor Ymddiriedolwyr yr Esgobaeth ynglŷn â natur a diben ei gyfrifoldebau a chyflawni ei Weithred Ymddiriedolaeth ac Offeryn Llywodraethu. c) ei gyfrifoldeb tuag at yr ysgol a’r gymuned Gatholig y mae’n ei gwasanaethu. ch) cymeriad Catholig yr ysgol a’i Datganiad Cenhadaeth. Mae ethos yr ysgol hon yn Gatholig. Sefydlwyd yr ysgol gan yr Eglwys Gatholig i ddarparu addysg i blant teuluoedd Catholig. Gofynnwn I bob rhiant sy’n gwneud cais am le yma gefnogi a pharchu’r ethos hwn, ei bwysigrwydd i gymuned yr ysgol a’r addysg y mae hi’n ei darparu. Nid yw hyn yn effeithio ar hawl rhieni nad ydynt o’r un ffydd â’r ysgol hon i wneud cais a chael eu hystyried am le yma. Nifer Derbyn yr Ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol sy’n dechrau ym mis Medi 2017 yw 19. Os bydd nifer y ceisiadau yn fwy na’r nifer derbyn, bydd y llywodraethwyr yn rhoi blaenoriaeth i geisiadau yn unol â’r meini prawf sydd wedi eu rhestru ar yr amod y rhoddir gwybod i’r llywodraethwyr am y cais hwnnw cyn gwneud penderfyniadau ynghylch derbyniadau. Os bydd mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael o fewn dosbarthiad, bydd y llywodraethwyr yn rhoi blaenoriaeth i blant sy’n byw agosaf at yr ysgol, wedi ei benderfynu yn ôl y pellter byrraf. 3. Mae’r ysgol yn gwasanaethu, yn y lle cyntaf, plant sydd wedi’u bedyddio’n Gatholigion, sy’n byw ym mhlwyf Sant Francis o Asisi yn Aberdaugleddau. 4. Mae’n rhaid gwneud ceisiadau am le yn yr ysgol ar y ffurflen dderbyniadau a’i dychwelyd i’r ysgol erbyn y 30 Ebrill 2017 fan bellaf. 5. Mae’r Corff Llywodraethol wedi dirprwyo cyfrifoldeb dros benderfynu ynghylch derbyniadau i’w Bwyllgor Derbyniadau, a fydd yn ystyried pob cais yr un pryd ac wedi’r dyddiad cau ar gyfer derbyniadau, wedi’u gwneud yn unol â’r meini prawf sydd wedi eu rhestru dros y dudalen. 6. Bydd disgyblion a dderbynnir i’r ysgol yn mynd i’r Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2017. 7. Os bydd cais am dderbyn wedi ei wrthod gan y Corff Llywodraethol, gall rhieni wneud apêl i Banel Apeliadau Annibynnol. Mae’n rhaid anfon yr apêl hon yn ysgrifenedig at glerc y Llywodraethwyr yn yr ysgol o fewn 14 o ddyddiau (10 diwrnod gwaith) wedi’r gwrthodiad. Meini Prawf Derbyniadau Os bydd nifer y ceisiadau yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, bydd y Corff Llywodraethol yn gweithredu’r meini prawf ‘mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael’ canlynol yn nhrefn y flaenoriaeth: 1. Plant wedi’u bedyddio’n Gatholigion ‘Sy’n Derbyn Gofal’, yng ngofal yr awdurdod lleol, yn y plwyfi y mae’r ysgol yn eu gwasanaethu. - 58 -
2. Plant wedi’u bedyddio’n Gatholigion yn y plwyfi y mae’r ysgol yn eu gwasanaethu. 3. Plant eraill sydd wedi’u bedyddio’n Gatholigion. 4. Plant sy’n Derbyn Gofal sydd yng ngofal yr awdurdod lleol (plant mewn gofal) neu y mae’n darparu llety iddynt (e.e. plant gyda rhieni maeth). 5. Plant sydd â brawd neu chwaer yn yr ysgol amser y derbyn. 6. Plant o enwadau Cristnogol eraill. 7. Plant o grefyddau eraill y mae eu rhieni yn dymuno addysg Gatholig 8. Plant nad ydynt yn Gatholigion y mae eu rhieni yn dymuno addysg Gatholig ar gyfer eu plentyn. 9. Plant y mae’r Cyngor Sir wedi gofyn yn benodol am le iddynt yn yr ysgol. • Unrhyw amser y bydd mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael, o ran nifer y ceisiadau sydd wedi eu gwneud o dan unrhyw ddosbarthiad uchod, bydd y Pwyllgor Derbyniadau yn cynnig lleoedd yn gyntaf i’r plant sy’n byw agosaf at yr ysgol yn ôl y daith gerdded fyrraf ar heolydd cyhoeddus. Bydd rhaid i bob ymgeisydd Cristnogol ddangos tystysgrif bedydd. • Mae’n rhaid i rieni roi rhesymau dros apelio yn ysgrifenedig a bydd rhaid i’r Llywodraethwyr dderbyn penderfyniad y Panel Apeliadau. • Os yw’r ysgol wedi ei henwi mewn Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, mae gan y Corff Llywodraethol ddyletswydd i dderbyn y plentyn i’r ysgol. • Fel y mae’r gyfraith yn mynnu, ni fydd y Corff Llywodraethol yn derbyn mwy na 30 o ddisgyblion i’r un dosbarth Derbyn neu Gyfnod Sylfaen.
- 59 -
Ysgol Drosiannol
TR
Dwy Ffrwd
DS
Cyfrwng Cymraeg
WM
CA2 – defnyddir y ddwy iaith ond gyda mwy o bwyslais ar Gymraeg– 50% -70%
Cyfnod Sylfaen – meysydd dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf.
Mae Cymraeg yn brif gyfrwng neu Saesneg yn brif gyfrwng yn bodoli gyda’i gilydd yn yr ysgolion hyn
Cyfnod Sylfaen – trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyfnod Allwedd 2 (CA2) – o leiaf 70% o’r addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cwricwlwm
Cymraeg yw iaith gwaith pob dydd yr ysgol. Blaenoriaeth fawr i greu ethos Cymraeg. Mae’r ysgol yn cyfathrebu gyda rhieni yn y ddwy iaith.
Defnyddir Cymraeg a Saesneg yng ngwaith pob dydd yr ysgol. Penderfynir yr iaith gyfathrebu ar sail natur y ddarpariaeth gwricwlaidd. Mae’r ysgol yn cyfathrebu gyda rhieni yn y ddwy iaith
Cymraeg yw iaith cyfathrebu gyda disgyblion ac iaith gwaith yr ysgol o ddydd i ddydd. Mae’r ysgol yn cyfathrebu gyda rhieni yn y ddwy iaith.
Iaith yr Ysgol
Addysgu’r Gymraeg a’r Saesneg yn ysgolion Cynradd Sir Benfro
Atodiad 3
Efallai y bydd rhai disgyblion, yn enwedig o gartrefi Cymraeg eu hiaith, yn gallu mynd ymlaen i ddarpariaeth uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd pob disgybl wedi cyrraedd yr un safon yn Saesneg â disgyblion mewn ysgolion lle mae Saesneg yn brif gyfrwng.
Ar gyfer disgyblion yn y ffrwd Gymraeg – disgwyliadau arferol fel ar gyfer Categori 1. Ar gyfer disgyblion yn y ffrwd Saesneg – disgwyliadau arferol fel ar gyfer Categori 5.
Bydd disgyblion, beth bynnag yw iaith eu cartref, yn gallu mynd ymlaen i ddarpariaeth uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg ac erbyn diwedd CA2 byddant wedi cyrraedd yr un safon yn Saesneg â disgyblion mewn ysgolion lle mae Saesneg yn brif gyfrwng.
Canlyniadau
Cyfnod Sylfaen – mae pob disgybl yn cael profiad o’r meysydd dysgu trwy gyfrwng Saesneg. CA2 – Addysgir y Gymraeg yn ail iaith. Mae llai nag 20% o’r addysgu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
Cyfnod Sylfaen - mae disgyblion yn cael profiad o’r meysydd dysgu yn y ddwy iaith ond gyda mwy o bwyslais ar Saesneg. CA2 - addysgu yn y ddwy iaith ond gyda mwy o bwyslais ar Saesneg. Cymraeg yn gyfrwng addysgu neu ddysgu - rhwng 20% a 50% o’r cwricwlwm cynradd yn gyffredinol
Cyfnod Sylfaen: 3-7 oed Cyfnod Allweddol 2: 7-11 oed
Ysgol Cyfrwng Saesneg
EM
Cyfrwng Saesneg gyda defnydd sylweddol o Gymraeg
EW
Cwricwlwm
Saesneg yw iaith gwaith pob dydd yr ysgol – rhywfaint o gyfathrebu yn Gymraeg gyda disgyblion er mwyn gwella eu gallu i ddefnyddio Cymraeg pob dydd. Mae’r ysgol yn cyfathrebu gyda rhieni un ai yn Saesneg neu yn y ddwy iaith.
Penderfynir iaith neu ieithoedd pob dydd yr ysgol gan gynnwys ieithyddol yr ysgol. Defnyddir y ddwy iaith i gyfathrebu gyda disgyblion a gweinyddu’r ysgol. Blaenoriaeth fawr i greu ethos Cymraeg. Mae’r ysgol yn cyfathrebu gyda rhieni yn y ddwy iaith.
Iaith yr Ysgol
Disgwylir fel arfer y bydd disgyblion yn trosglwyddo i ddarpariaeth uwchradd trwy gyfrwng Saesneg ac y byddant yn parhai i ddysgu yn bennaf trwy gyfrwng Saesneg, ac yn dysgu’r Gymraeg fel ail iaith.
Disgwylir fel arfer y bydd disgyblion yn mynd ymlaen i ddarpariaeth uwchradd trwy gyfrwng Saesneg, ond y bydd eu sgiliau’n well yn y Gymraeg yn ail iaith. Rhai disgyblion yn gallu dilyn nifer gyfyngedig o bynciau trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg
Canlyniadau
CH
CB
BB
AB
Dwyieithog
Cyfrwng Cymraeg
EW
Mae 4 o israniadau i’r categori hwn yn ôl y pynciau a addysgir trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ac a oes darpariaeth gyfochrog yn Saesneg. 2A Addysgir o leiaf 80% o’r pynciau (heblaw Saesneg a Chymraeg) trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn unig i bob disgybl. Addysgir un neu ddau o bynciau i rai disgyblion yn Saesneg neu’r ddwy iaith. 2B Addysgir o leiaf 80% o’r pynciau (heblaw Saesneg a Chymraeg) trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ond addysgir hwy hefyd trwy gyfrwng Saesneg. 2C Addysgir 50-79% o’r pynciau (heblaw Saesneg a Chymraeg) trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ond addysgir hwy hefyd trwy gyfrwng Saesneg. 2CH Addysgir pob pwnc (heblaw Saesneg a Chymraeg) i bob disgybl yn y ddwy iaith.
Addysgir pob pwnc heblaw Saesneg trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg i bob disgybl. Gall rhai ysgolion gyflwyno terminoleg Saesneg mewn un neu ddau o bynciau
Cwricwlwm
Penderfynir iaith neu ieithoedd pob dydd yr ysgol trwy ei chyd-destun ieithyddol. Defnyddir y ddwy iaith i gyfathrebu gyda disgyblion a gweinyddu’r ysgol. Rhoddir blaenoriaeth fawr i greu ethos Cymraeg. Mae’r ysgol yn cyfathrebu gyda rhieni yn y ddwy iaith.
Cymraeg yw iaith cyfathrebu gyda disgyblion a gwaith pob dydd yr ysgol. Mae’r ysgol yn cyfathrebu gyda rhieni yn y ddwy iaith
Iaith yr Ysgol
Ar gyfer disgyblion yn 2A, 2B a 2C sy’n dilyn y nifer fwyaf o gyrsiau trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, byddai’r asesu yn CA3 ac CA4 trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn y pynciau hynny ac y byddent yn gallu symud ymlaen i ddarpariaeth ôl-16 trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg mewn pynciau a ddewisir. Ar gyfer disgyblion yn 2CH bydddai’r asesu yn CA3 ac CA4 trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ym mhob pwnc heblaw Saesneg ac y byddent yn gallu symud ymlaen i ddarpariaeth ôl-16 trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg mewn pynciau a ddewisir.
Bydd yr asesu yn Cyfnod Allweddol 3 (CA3) CA3 ac Cyfnod Allweddol 4 (CA4) trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ym mhob pwn heblaw Saesneg neu ieithoedd eraill. Bydd disgyblion yn gallu mynd ymlaen i ddarpariaeth ôl -16 Cyfrwng Cymraeg
Canlyniadau
Addysgu Cymraeg a Saesneg mewn Ysgolion Uwchradd Sir Benfro
Addysgir disgyblion yn bennaf trwy gyfrwng Saesneg. Gellid addysgu Cymraeg a addysgir yn ail iaith hyd at CA4 (gallai gynnwys Cymraeg yn iaith gyntaf) trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg neu drwy ddefnyddio’r ddwy iaith
Addysgir yn y ddwy iaith gan addysgu 20-49% o’r pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai pop pwnc yn cael ei ddysgu fel arfer hefyd trwy gyfrwng Saesneg
Cyfnod Allweddol 3: 11-14 oed Cyfnod Allweddol 4: 14-16 oed
Ysgol cyfrwng Saesneg
EM
Cyfrwng Saesneg gyda defnydd sylweddol o Gymraeg
EW
Cwricwlwm
Saesneg yw iaith bob dydd yr ysgol, ond mae rhywfaint o gyfathrebu yn Gymraeg gyda’r disgyblion, gyda’r nod o wella eu gallu i ddefnyddio Cymraeg pob dydd. Mae’r ysgol yn cyfathrebu gyda rhieni un ai yn y ddwy iaith neu yn Saesneg.
Penderfynir iaith neu ieithoedd pob dydd yr ysgol trwy ei chyd-destun ieithyddol. Defnyddir y ddwy iaith i gyfathrebu gyda disgyblion a gweinyddu’r ysgol. Rhoddir blaenoriaeth fawr i greu ethos Cymraeg. Mae’r ysgol yn cyfathrebu gyda rhieni un ai yn y ddwy iaith neu yn Saesneg
Iaith yr Ysgol
Gellid asesu unrhyw ddisgyblion sy’n cymryd dewisiadau cyfrwng Cymraeg trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn y pynciau hynny ar bob lefel a byddent yn gallu symud ymlaen i astudio ôl-16 trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn y pynciau hynny. Byddai’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cael eu hasesu yn Saesneg ac yn symud ymlaen i astudio ôl-16 trwy gyfrwng Saesneg
Gellid asesu disgyblion sy’n cymryd dewisiadau cyfrwng Cymraeg trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn y pynciau hynny ar bob lefel a byddent yn gallu symud ymlaen i astudio ôl-16 trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn y pynciau hynny.
Canlyniadau
Details correct as at 1st September 2016
Schools in Pembrokeshire / Ysgolion yn Sir Benfro School Address Headteacher Telephone e-mail Ysgol Cyfeiriad Pennaeth Ffôn e-bost
Cluster of Schools
Clwstwr Ysgolion
Explanatory note / Nodyn esboniadol
Language Category
Categori laith
Age Range
Oedran
1
School Capacity 2016
Number on Roll (FTE) January 2016
Admission Number 2016/17
ⱡⱡ Number of Applications for places 2016/17
Number of (Successful) Appeals for 2016/17
Admission Number 2017/18
Cynhwysedd 2016
Nifer Disgyblion (CAL) Ionawr 2016
Rhif Mynediad 2016/17
ⱡⱡ Nifer Geisiadau am Lefydd 2016/17
Nifer o Apelau (Llwyddiannus) 2016/17
Rhif Mynediad 2017/18
2
3
4
5
6
4
Community and Voluntary Controlled Schools / Ysgolion Cynradd Cymunedol a Gwirfoddol Rheoledig Angle VC School Angle Village Pembrokeshire / Sir Penfro SA71 5AT Mr C Condon (Executive Head) 01646 641393 head.angle@pembrokeshire.gov.uk
Pembroke
EM
3-11
34
23
4
1
0
**
Broad Haven Primary School Broad Haven / Aber Llydan Haverfordwest / Hwlffordd SA62 3JT Mr G Lewis 01437 781404 head.broadhaven@pembrokeshire.gov.uk
Tasker Milward (Haverfordwest)
EM
3-11
122
113
17
5
0
17
Cilgerran Church in Wales VC School / Ysgol G Rh Cilgerran Cilgerran Cardigan /Aberteifi SA43 2SB Mrs R Rogers 01239 614226 admin.cilgerran@pembrokeshire.gov.uk
Preseli
WM
3-11
133
125
19
4
0
19
Tasker Milward (Haverfordwest)
EM
3-11
210
226
30
8
0
30
Milford Haven
EM
3-11
85
80.5
10
5
0
12
Cleddau Reach VC Primary School Deerland Road Llangwm SA62 4NG Mr N Groves 01437 899419 admin.cleddaureach@pembrokeshire.gov.uk Coastlands School / Ysgol y Glannau St Ishmaels / Llanisarn-yn-Rhos Haverfordwest / Hwlffordd SA62 3SZ Mr J Evans (acting) 01646 636340 admin.coastlands@pembrokeshire.gov.uk
Details correct as at 1st September 2016 Cosheston VC School Cosheston Pembroke Dock / Doc Penfro SA72 4UN Mrs K Adams (acting) 01646 683490 head.cosheston@pembrokeshire.gov.uk
Pembroke
EM
3-11
62
53
8
2
0
8
Fenton Community Primary School Portfield Haverfordwest / Hwlffordd SA61 1BZ Mr M Harries 01437 765378 admin.fenton@pembrokehire.gov.uk
Tasker Milward (Haverfordwest)
EM
3-11
355
412.5
50
15
0
50
Hakin Community School Picton Road Waterloo Road Hakin Milford Haven / Milford Haven / Aberdaugleddau SA73 3EW SA73 3PB Mr N Dyer 01646 694852 01646 692894 admin.hakin@pembrokeshire.gov.uk
Milford Haven
EM
3-11
267
326
38
14
0
*
Hubberston Church in Wales VC Nursery and Primary School Observatory Avenue Hakin Milford Haven / Aberdaugleddau SA73 3EU 01646 692845 Mr N Dyer (acting Executive Head) admin.hubberston@pembrokeshire.gov.uk
Milford Haven
EM
3-11
121
146
17
14
0
*
New combined Hakin & Hubberston school Proposed opening during the 2017-18 academic year Name and contact details to be announced * capacity / admission number for individual schools no longer required
68
Haverfordwest Church in Wales VC School Barn Street Haverfordwest / Hwlffordd SA61 1TD Mrs C O’Brien (acting Executive Head) 01437 765480 head.haverfordwest@pembrokshire.gov.uk
Tasker Milward (Haverfordwest)
EM
7-11
156
82
39
13
0
39
Hook CP School Newtown Road Hook SA62 4ND Ms L John 01437 890343 head.hook@pembrokeshire.gov.uk
Tasker Milward (Haverfordwest)
EM
3-11
108
101
14
2
0
15
Details correct as at 1st September 2016 Johnston Community Primary School Cranham Park Johnston SA62 3PU Move due January 2017 Langford Road, Johnston, SA62 3PY Mr G Thomas 01437 890280 admin.johnston@pembrokshire.gov.uk
Tasker Milward (Haverfordwest)
EM
3-11
210
194.5
30
12
0
30
Lamphey Primary School Lamphey / Llandyfai Pembroke / Penfro SA71 5NW Mr S Thomas 01646 672249 admin.lamphey@pembrokeshire.gov.uk
Pembroke
EM
3-11
206
195.5
29
5
0
29
Manorbier Church in Wales VC School Manorbier / Maenorbyr Tenby / Dinbych-y-Pysgod SA70 7SN Mrs S Davies 01834 871228 admin.manorbier@pembrokeshire.gov.uk
Greenhill (Tenby)
EM
3-11
86
56.5
12
1
0
12
Milford Haven Junior School Prioryville Milford Haven / Aberdaugleddau SA73 2LQ Mr L Rees 01646 692705 admin.mhavenjun@pembrokeshire.gov.uk
Milford Haven
EM
7-11
375
361
93
86
0
93
Pembroke
EM
3-11
188
202.5
29
15
0
26
Tasker Milward (Haverfordwest)
EM
3-7
176
152
58
6
0
58
Greenhill (Tenby)
DS
3-11
300
322.5
42
16
0
47
Monkton Priory Community Primary School Monkton Pembroke / Penfro SA71 4LS Mrs S Morris 01646 683742 / 01646 685685 admin.priory@pembrokeshire.gov.uk Mount Airey Nursery and Infants School Augustine Way Haverfordwest / Hwlffordd SA61 1PA Mrs C O’Brien 01437 765376 head.mountairey@pembrokeshire.gov.uk Narberth Community Primary School Jesse Road Narberth / Arberth SA67 7FE Mrs N Ward 01834 860776 admin.narberth@pembrokeshire.gov.uk
Details correct as at 1st September 2016 Neyland Community School John Street Neyland SA73 1TH Mrs E Griffiths 01646 600659 admin.neylandcomm@pembrokeshire.gov.uk
Sir Thomas Picton (Haverfordwest)
EM
3-11
300
303.5
47
18
0
42
Orielton Community Primary School Hundleton Pembroke / Penfro SA71 5RD Mr C Condon (Executive Head) 01646 683531 admin.orielton@pembrokeshire.gov.uk
Pembroke
EM
3-11
74
37
10
1
0
**
Pembroke Dock Community School Bush Street Pembroke Dock / Doc Penfro SA72 6LQ Mrs M Thomas 01646 684872 admin.pdcs@pembrokeshire.gov.uk
Pembroke
EM
3-11
626
575
92
2
0
89
Pennar Community School Owen Street Pennar Pembroke Dock / Doc Penfro SA72 6SL Mr D McGarvie 01646 684402 admin.pennar@pembrokeshire.gov.uk
Pembroke
EM
3-11
270
249
38
13
0
38
Prendergast Community Primary School Stokes Avenue Prendergast Haverfordwest / Hwlffordd SA61 2RB Mrs D Davies 01437 771580 admin.prendergast@pembrokeshire.gov.uk
Sir Thomas Picton (Haverfordwest)
EM
3-11
448
481.5
64
21
0
64
Puncheston Community Primary School / Ysgol Cas-mael Puncheston / Cas-mael Haverfordwest / Hwlffordd SA62 5RL Mrs A Lawrence 01348 881321 head.puncheston@pembrokeshire.gov.uk
Bro Gwaun (Fishguard)
WM
4-11
70
70
10
1
0
10
Sir Thomas Picton (Haverfordwest) & Dewi Sant (St David’s)
EM
3-11
160
151
22
0
0
22
Roch Community School Roch / Y Garn Haverfordwest / Hwlffordd SA62 6JU Mr C Evans 01437 710517 admin.roch@pembrokeshire.gov.uk
Details correct as at 1st September 2016 Sageston Community Primary School Sageston Tenby / Dinbych-y-Pysgod SA70 8SH Mrs J Morris 01646 651471 admin.sageston@pembrokeshire.gov.uk
Greenhill (Tenby)
EM
3-11
120
121
17
5
0
17
Saundersfoot Community Primary School Francis Lane Saundersfoot SA69 9HB Mr N Allen 01834 812819 admin.saundersfoot@pembrokeshire.gov.uk
Greenhill (Tenby)
EM
3-11
280
293.5
40
19
0
40
Solva Community School Solva / Solfach Haverfordwest / Hwlffordd SA62 6TS Mrs D Smith 01437 721479 admin.solva@pembrokeshire.gov.uk
Dewi Sant (St David’s)
EW
3-11
80
74
11
6
0
11
Spittal Church in Wales VC School Spittal Haverfordwest / Hwlffordd SA62 5QR Ms S Vaughan 01437 741652 admin.spittal@pembrokeshire.gov.uk
Sir Thomas Picton (Haverfordwest)
EM
3-11
176
150.5
20
3
0
25
St Florence Church in Wales VC School St Florence Tenby / Dinbych-y-Pysgod SA70 8LY Mrs J Davies 01834 871325 admin.stflorence@pembrokeshire.gov.uk
Greenhill (Tenby)
EM
4-11
95
77
13
2
0
13
Stackpole Church in Wales VC School Stackpole / Ystagbwll Pembroke / Penfro SA71 5DB Mr C Condon (Executive Head) 01646 672234 admin.stackpole@pembrokeshire.gov.uk
Pembroke
EM
3-11
70
46
11
3
0
**
Stepaside Community Primary School Carmarthen Road Kilgetty / Cilgeti SA68 0UG Mr P Harries 01834 812764 admin.stepaside@pembrokeshire.gov.uk
Greenhill (Tenby)
EM
3-11
200
138.5
28
0
0
28
Details correct as at 1st September 2016 Tavernspite Community Primary School Tavernspite Pembrokeshire / Sir Penfro SA34 0NL Mr K Phelps 01834 831691 admin.tavernspite@pembrokeshire.gov.uk
Greenhill (Tenby)
EM
3-11
205
219.5
29
9
0
29
Templeton Community Primary School Templeton / Tredeml Narberth / Arberth SA67 8RS Mr K Phelps 01834 860657 admin.templeton@pembrokeshire.gov.uk
Greenhill (Tenby)
EM
4-11
116
86
15
2
0
16
Tenby Church in Wales VCP School Open/Agor 09/16 Heywood Lane / LĂ´n Heywood Tenby / Dinbych-y-Pysgod SA70 8BZ Mr J Palmer 01834 843241 head.tenbyvc@Pembrokeshire.gov.uk
Greenhill (Tenby)
EM
3-11
318
N/A
45
N/A
0
45
Milford Haven
EM
3-7
300
398
100
46
0
100
Wolfscastle Community Primary School / Ysgol Cas-blaidd Wolfscastle / Cas-blaidd Haverfordwest / Hwlffordd SA62 5LZ Mrs W Raymond 01437 741361 head.wolfscastle@pembrokeshire.gov.uk
Bro Gwan (Fishguard)
WM
3-11
32
39
4
1
0
4
Ysgol Bro Ingli Long Street / Heol Hir Newport / Trefdraeth SA42 0TS Mrs E Howells 01239 820682 head.broingli@pemborkeshire.gov.uk
Bro Gwaun (Fishguard)
WM
3-11
110
108.5
15
3
0
15
Ysgol Clydau Tegryn Llanfyrnach SA35 0BE Mr S Jones 01239 698236 head.clydau@pembrokeshire.gov.uk
Preseli
WM
4-11
71
63
10
1
0
10
The Meads Infant and Nursery School Priory Road Milford Haven / Aberdaugleddau SA73 2EE Mrs S Groves (acting) 01646 693861 head.meads@pembrokeshire.gov.uk
Details correct as at 1st September 2016 Ysgol Gelli Aur/Golden Grove Community School Orange Way Pembroke / Penfro SA71 4DP Mr A Williams 01646 682605 admin.golden-grove@pembrokeshire.gov.uk
Pembroke
DS
3-11
348
345
E35, W14
15
0
E35, W14
Ysgol Ger-y-Llan Letterston / Treletert Haverfordwest / Hwlffordd SA62 5SL Miss E Evans 01348 840248 head.Letterston@pembrokeshire.gov.uk
Bro Gwaun (Fishguard)
TR
3-11
150
146
21
7
0
21
Ysgol Glannau Gwaun Clive Road Fishguard / Abergwaun SA65 9DB Mr G Williams (acting) 01348 872505 head.Glannaugwaun@pembrokeshire.gov.uk
Bro Gwaun (Fishguard)
DS
3-11
240
258
E12, W21
8
0
E12, W21
Ysgol Gymraeg Glan Cleddau Off Portfield / Ger Portfield Haverfordwest / Hwlffordd SA61 1BS Mr A Davies 01437 769859 admin.glancleddau@pembrokeshire.gov.uk
Preseli
WM
3-11
315
255
37
14
0
45
Ysgol Gymunedol Brynconin Llandissilio / Llandysilio Clynderwen / Clunderwen SA66 7TF Mrs S Clarke (acting Executive Head) 01437 563555 head.brynconin@pembrokeshire.gov.uk
Preseli
WM
3-11
89
83
12
6
0
12
Ysgol Gymunedol Croesgoch Croesgoch / Croes-goch Haverfordwest / Hwlffordd SA62 5JT Mrs J Evans 01348 831461 head.croesgoch@pembrokeshire.gov.uk
Dewi Sant (St David’s)
EW
3-11
119
116
17
6
0
17
Preseli
WM
3-11
116
90
16
0
0
16
Ysgol Gymunedol Maenclochog Maenclochog Clynderwen / Clunderwen SA66 7LB Mrs S Clarke 01437 532452 head.maenclochog@pembrokeshire.gov.uk
Details correct as at 1st September 2016 Ysgol Gymunedol Wdig / Goodwick Community School Hill Street Goodwick / Wdig SA64 0ET Mr J Jones 01348 872503 admin.goodwick@pembrokeshire.gov.uk
Bro Gwaun (Fishguard)
TR
3-11
137
121
19
6
0
19
Ysgol Gynradd Gymunedol Eglwyswrw Eglwyswrw Crymych SA41 3SN Mr E Eynon 01239 891267 head.eglwyswrw@pembrokeshire.gov.uk
Preseli
WM
4-11
142
116
20
0
0
20
Ysgol Hafan y Môr
Preseli
WM
3-11
210
N/A
30
N/A
0
30
Preseli
WM
3-11
128
120
18
2
0
18
Bro Gwaun (Fishguard)
WM
3-11
31
26.5
4
0
0
4
Preseli
WM
3-11
210
201.5
25
6
0
30
Open/Agor 09/16 Heywood Lane / Lôn Heywood Tenby / Dinbych-y-Pysgod SA70 8BZ Mrs Hart-Griffiths 01834 843248 head.ysgolhafanymor@Pembrokeshire.gov.uk Ysgol Llandudoch St Dogmael’s / Llandudoch Cardigan / Aberteifi SA43 3ET Miss E Thomas 01239 613596 admin.stdogmaels@pembrokeshire.gov.uk Ysgol Llanychllwydog Pontfaen / Pont-faen Fishguard / Abergawaun SA65 9SE Ms M Francis (acting) 01348 881307 admin.llanychllwydog@pembrokeshire.gov.uk Ysgol y Frenni Crymych SA41 3QH Mrs J Higginson 01239 831427 head.yfrenni@pembrokeshire.gov.uk New school Angle / Orielton / Stackpole proposed opening Sept 2017 Name to be confirmed ** capacity / admissions number for individual schools no longer required
17
Details correct as at 1st September 2016
Voluntary Aided Schools – Catholic / Ysgolion a Gynorthwyir Gwirfoddol - Catholig Holy Name Catholic School Vergam Terrace Fishguard / Abergwaun SA65 9DF Ms A Davies 01348 872506 admin.holyname@pembrokeshire.gov.uk
Bro Gwaun (Fishguard)
EW
4-11
129
121
18
17
0
18
Tasker Milward (Haverfordwest)
EM
3-11
205
217.5
29
25
0
29
St Francis Catholic School Priory Road Milford Haven / Aberdaugleddau SA73 2EE Mrs S Roberts 01646 694830 admin.stfrancis@pembrokeshire.gov.uk
Milford Haven
EM
4-11
139
107
19
11
0
19
St Mary’s Catholic School Bufferland Pembroke Dock / Doc Penfro Mrs J Frazer 01646 682879 admin.stmarys@pembrokeshire.gov.uk
Pembroke
EM
3-11
115
106.5
16
7
0
16
St Teilo’s Catholic School Greenhill Road Tenby / Dinbych-y-Pysgod SA70 7LI Ms A Nicholls 01834 843995 admin.stteilos@pembrokeshire.gov.uk
Greenhill (Tenby)
EM
3-11
102
86.5
15
5
0
14
Mary Immaculate Catholic School Merlins Terrace Haverfordwest / Hwlffordd SA61 1PH Mr D Flood 01437 762324 admin.maryimmaculate@pembrokeshire.gov.uk
Voluntary Aided Schools - Church in Wales /Ysgolion a Gynorthwyir Gwirfoddol - Eglwys yng Nghymru Ysgol Bro Dewi Church in Wales VAP School Nun Street / Heol Non St Davids / Tyddewi SA62 6NU Mrs M Jones (acting) 01437 720565 head.brodewi@pembrokeshire.gov.uk St Aidan’s Church in Wales VA School Wiston / Cas-wis Haverfordwest / Hwlffordd SA62 4PS Mrs M Brown (acting Executive Head) 01437 731449 admin.staidans@pembrokeshire.gov.uk
Dewi Sant (St David’s)
EW
3-11
119
101.5
17
10
0
17
Sir Thomas Picton (Haverfordwest)
EM
4-11
122
83
17
2
0
17
Details correct as at 1st September 2016 St Mark’s Church in Wales VAP School Merlins Bridge / Pont Myrddin Haverfordwest / Hwlffordd SA61 1JU Mrs H Cale 01437 767623 admin.stmarks@pembrokeshire.gov.uk
Tasker Milward (Haverfordwest)
EM
3-11
141
132.5
20
23
0
20
St Oswald’s Church in Wales VA School Jeffreyston Kilgetty / Cilgeti SA68 0SG Mrs M Brown 01646 651409 head.stoswalds@pembrokeshire.gov.uk
Greenhill (Tenby)
EM
3-11
120
113
17
13
0
17
Greenhill (Tenby)
EM
11-18+
1287
980
209
150
0
209
Milford Haven
EM
11-18+
1178
869
203
133
0
202
Pembroke
EM
11-18+
1529
1244
261
160
0
256
Sir Thomas Picton School Queensway Haverfordwest / Hwlffordd SA61 2NX Mrs T Edwards (acting) 01437 765394 admin@stp.pembrokeshire.sch.uk
Sir Thomas Picton (Haverfordwest)
EM
11-18+
1303
1230
221
218
0
220
Tasker Milward VC School Lower / Isaf Upper / Uchaf Scarrowscant Portfield Avenue Haverfordwest Hwlffordd SA61 1EP SA61 1EQ Mrs H Lewis (acting) 01437 764147 enquiries@taskermilward.org.uk
Tasker Milward (Haverfordwest)
EM
11-18+
1072
670
182
89
0
152
Secondary Schools / Ysgolion Uwchradd The Greenhill School Heywood Lane / Lon Heywood Tenby / Dinbych-y-Pysgod SA70 8BN Mrs J Kingston 01834 840100 admin@greenhill.pembrokeshire.sch.uk Milford Haven School Steynton Road Milford Haven / Aberdaugleddau SA73 3AE Mr R Francis 01646 690021 admin@milfordhavenschool.co.uk Pembroke School Bush Pembroke / Penfro SA71 4RL Mr F Ciccotti 01646 682461 admin@pembrokeschool.org
Details correct as at 1st September 2016 Ysgol Bro Gwaun Heol Dyfed Fishguard / Abergwaun SA65 9DT Mrs N Nicholas 01348 872268 swyddfa@brogwaun.pembrokeshire.sch.uk
Bro Gwaun (Fishguard)
EW
11-18+
820
549
134
71
0
86
Ysgol Dewi Sant St David’s / Tyddewi Haverfordwest / Hwlffordd SA62 6QH Mr D Haynes 01437 725000 general@dewisant.pembroke.sch.uk
Dewi Sant (St David’s)
EM
11-18+
459
396
76
47
0
78
Preseli
AB(2A)
11-18+
1018
902
162
145
0
164
EM
4-18+
148
146
EM
4-18+
N/A
N/A
Ysgol y Preseli Crymych SA41 3QH Mr M Davies 01239 831406 swyddfa@ysgolypreseli.com
Special School / Ysgol Arbennig Portfield School Off Portfield / Ger Portfield Haverfordwest / Hwlffordd SA61 1BS Mrs S Painter 01437 762701 admin.portfield@pembrokeshire.gov.uk
Pupil Referral Unit / Uned Cyfeirio Disgyblion Pembrokeshire Learning Centre St Clements Road Neyland SA73 1SH Mrs T Thomas 01646 602473 admin.behavioursupport@pembrokeshire.gov.uk Explanatory Notes
Nodiadau Esboniadol
1. An explanation of language categories can be found on page 60 2. For primary school the capacity is the number of pupils that can be accommodated from Reception to Year 6; it does not include Nursery pupils For secondary schools the capacity is the number of pupils that can be accommodated across all year groups, including 6th form 3. Full Time Equivalent (FTE) for primary schools this includes nursery pupils where applicable; for secondary schools this includes 6th form pupils 4. The maximum number of pupils that can be admitted to the school in a particular year group 5. The number of full-time applications received during the normal admission round ⱡⱡ Note: Full Time application for Sept-Dec 2016 only; due to the transition year for new procedures for Reception Place Application 6. The number of appeals registered via the statutory independent process; the figure in brackets is the number that were successful.
1. Mae esboniad o'r categori iaith i'w gweld ar dudalen 60 2. Am ysgolion cynradd, y cynhwysedd yw’r nifer o ddisgyblion all eu darparu ar eu cyfer o Derbyn hyd at Blwyddyn 6; nid yw;n cynnwys disgyblion meithrin Am ysgolion uwchradd, y cynhwysedd yw’r nifer o ddisgyblion all eu darparu ar eu cyfer ar draws pop grwp blwyddyn, yn cynnwys y chweched 3. Cyfwerth ag Amser Llawn (CAL) am ysgolion cynradd mae hwn yn cynnwys disgyblion meithrin rhan amser; am ysgolion uwchradd hwn yn cynnwys disgyblion 6ed dosbarth 4. Uchafswm nifer y disgyblion sydd i’w derbyn i'r ysgol mewn grŵp blwyddyn arbennig 5. Y nifer o geisiadau a dderbyniwyd yn ystod y rownd derbyn arferol ar gyfer llefydd llawn amser # Nodir: Ceisiadau llawn amser am Medi-Rhagfyr 2016 yn unig; oherwydd dyma’r flwyddyn pontio ar gyfer gweithdrefnau newydd ynglyn a ceisiadau am llefydd Derbyn 6. Y nifer o apelau sydd wedi eu cofrestri trwy'r broses annibynnol statudol annibynnol; maer ffigwr mewn cromfachau yn dynodi’r rhai oedd yn llwyddiannus