Cynllun Integredig Sengl Sir Benfro

Page 1

Cynllun IntegredIg Sengl Sir Benfro 2013 - 2018


Cynllun Integredig Sengl Sir Benfro 2013-2018

I gael copi o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille, tâp sain neu iaith arall ffoniwch Jackie Meskimmon ar (01437) 776613. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Marc Forster Rheolwr Cefnogi Partneriaethau a Chraffu Cyngor Sir Penfro Neuadd y Sir Hwlffordd Sir Benfro SA61 1TP Ffôn: (01437) 776300 LSB@pembrokeshire.gov.uk www.pembrokeshirelocalserviceboard.co.uk 5


Cynnwys

1

Cwestiynau Cyffredin

02

Rhagair

04

1.

Cywyniad

05

2.

Gweledigaeth a fframwaith

06

3.

Plant a Theuluoedd

08

4.

Economi

17

5.

Yr Amgylchedd

26

6.

Iechyd, Gofal a Lles

36

7.

Diogelu

45

8.

Diogelwch

51

9.

Monitro ac adolygu'r cynllun hwn

61


Cwestiynau cyffredin Beth yw'r Cynllun Integredig Sengl?

Pwy sydd wedi paratoi'r Cynllun Integredig Sengl?

Y Cynllun Integredig Sengl yw'r ddogfen a fydd yn amlinellu gweithgarwch y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn Sir Benfro dros y cyfnod 2013-2018. Mae'n disgrifio'r materion sydd o bwys i Sir Benfro ac yn adnabod yr ymagwedd y bydd ystod o fudiadau yn ei mabwysiadu wrth geisio ymdrin â nhw. Mae Llywodraeth Cymru'n mynnu bod pob Awdurdod Lleol yn arwain ar ddatblygu Cynllun Integredig Sengl.

Paratowyd y ddogfen hon gan Fwrdd Gwasanaethau Lleol (BGLl) Sir Benfro a'i bartneriaethau cysylltiedig. Sefydlwyd BGLl ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru, a'u diben yw darparu arweinyddiaeth ar y cyd ac adnabod cyfleoedd i ddarparwyr gwasanaethau gydweithio'n agosach. Mae BGLl Sir Benfro'n cynnwys uwch gynrychiolwyr Cyngor Sir Penfro, Heddlu Dyfed Powys, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro a Llywodraeth Cymru. Mae ystod o fudiadau eraill yn cefnogi gwaith y BGLl.

Ar gyfer pwy y mae'r Cynllun Integredig Sengl? Mae'r Cynllun Integredig Sengl ar gyfer pawb sy'n byw yn Sir Benfro, yn ymweld â'r sir neu sydd â diddordeb ynddi. Mae wedi cael ei baratoi ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd: pobl Sir Benfro, y mudiadau sy'n gwasanaethu Sir Benfro ac fel modd o gyfathrebu ein blaenoriaethau i asiantaethau allanol a Llywodraeth Cymru.

Mae Cyngor Sir Penfro'n gyfrifol am gefnogi'r partneriaethau sydd wedi paratoi'r Cynllun hwn, ond mae'n bwysig pwysleisio nad cynllun gan Gyngor Sir Penfro'n unig yw hwn.

2


Sut mae'r Cynllun Integredig Sengl wedi cael ei baratoi? Wrth baratoi'r ddogfen hon rydym wedi dadansoddi data o ystod helaeth o ffynonellau a chyfuno'r wybodaeth honno mewn "Asesiad Anghenion Sengl". Rydym hefyd wedi adolygu'r cynlluniau a strategaethau eraill sydd o bwys i Sir Benfro. Cytunwyd ar gynnwys terfynol y Cynllun yn dilyn ystyriaeth o’r sylwadau helaeth a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori o dri mis ar y Cynllun drafft cychwynnol. Mae'r cynllun yn adeiladu ar y gwaith ar y cyd a ddatblygwyd yn flaenorol trwy'r Cynllun Cymunedol a gyflwynwyd gennym ym mis Mai 2010, yn ogystal â chynlluniau'r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol, Plant a Phobl Ifanc ac Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles a gyhoeddwyd yn 2011, ac yn dod â'r cyfan ynghyd mewn un ddogfen.

Sut caiff y Cynllun Integredig Sengl ei roi ar waith?

Sut byddwch chi'n gwybod p'un a fu'r Cynllun Integredig Sengl yn llwyddiant ai peidio? Mae'n bwysig y bydd modd i ni werthuso p'un a yw'r Cynllun hwn wedi gwneud gwahaniaeth ai peidio. Rydym wedi pennu ystod o ddangosyddion pennawd yn gysylltiedig â'r canlyniadau a nodir yn y Cynllun hwn ym mhob un o'i benodau â thema. Bydd y BGLl yn monitro'r rhain ar sail barhaus.

A allaf roi fy sylwadau ar y Cynllun Integredig Sengl? Gallwch, rydym bob amser â diddordeb mewn cywain eich barn. Mae'n bwysig eich bod yn dweud eich dweud ar y Cynllun Integredig Sengl. Beth yw eich barn chi am y Cynllun? Ydym ni wedi adnabod y materion cywir? Beth yw eich barn chi am ein cynigion i fynd i'r afael â nhw? Disgwyliwn y bydd modd i ni gyhoeddi diwygiadau i'r Cynllun ar sail barhaus. Darperir manylion cyswllt ar dudalen dau.

Caiff y Cynllun Integredig Sengl ei roi ar waith yn effeithiol dim ond os bydd y mudiadau sydd wedi cyfrannu at ei ddatblygiad yn dewis adlewyrchu ei flaenoriaethau yn eu cynlluniau, eu strategaethau a'u gweithredoedd eu hunain. Yn wir, mae'n ddyletswydd gyfreithiol ar lawer o'r mudiadau dan sylw i weithredu yn unol â'r Cynllun Integredig Sengl. Bydd gan bartneriaethau cysylltiedig BGLl Sir Benfro, sy'n canolbwyntio ar bob un o'r meysydd canlyniadau, rôl arwyddocaol wrth roi'r Cynllun hwn ar waith. 3


mae'r perthnasoedd hyn yn ased sylweddol. Nawr yn fwy nag erioed, mae angen i ni gydweithio ar draws ffiniau mudiadau a daearyddol traddodiadol i sicrhau ein bod yn cael y budd pennaf allan o bob punt sy'n cael ei gwario i wella bywydau yn Sir Benfro.

rhagair Mae'n bleser gennyf gyflwyno Cynllun Integredig Sengl Sir Benfro ar gyfer 2013-2018. Mae'r Cynllun hwn yn disodli Cynllun Cymunedol Sir Benfro 2010 - 2025. Mae'n adlewyrchu'r cynnydd a wnaed ers dechrau'r broses Cynllunio Cymunedol ar ddechrau 2000. Mae'r perthnasoedd rhwng y mudiadau partner sy'n gwasanaethu Sir Benfro bob amser wedi bod yn rhai cadarnhaol, ond mae'n bwysig ein bod yn parhau i herio a chadw ein gilydd yn atebol. Roedd ein Bwrdd Gwasanaethau Lleol - y corff sy'n dod ag arweinwyr y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol lleol ynghyd i weithredu ar y cyd gyda'r nod o wella ansawdd bywydau yn Sir Benfro - yn ddatblygiad cymharol newydd pan gyhoeddwyd y Cynllun Cymunedol diwethaf. Mae Bwrdd Gwasanaethau Lleol Sir Benfro'n canolbwyntio ar gael ei symbylu gan ganlyniadau. Mae'n gallu cytuno ar flaenoriaethau a rennir a dileu rhwystrau posib i gynnydd gan ei fod yn dibynnu ar grŵp craidd o aelodau. Er hynny, mae hefyd yn galw ar fudiadau eraill ag arbenigedd mewn meysydd penodol pan fydd angen.

Y Cyng. Jamie Adams Cadeirydd, Bwrdd Gwasanaethau Lleol Sir Benfro

Wynebwn heriau sylweddol o hyd yn Sir Benfro, y maent oll wedi'u hesbonio'n fanwl yn y Cynllun hwn. Mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio, ac mae hyn yn parhau i roi pwysau sylweddol ar ein gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gwirfoddol. Er bod ein heconomi wedi parhau i berfformio'n rhesymol dda dros y blynyddoedd diwethaf, mae effaith y dirwasgiad yn amlwg yn ein trefi a'u dalgylchoedd. Mae ansawdd yr amgylchedd lleol a rhai o'r lefelau isaf o drosedd ac anhrefn yn y wlad yn parhau'n gryfderau sylweddol, ond bydd angen i ni weithio'n galed i sicrhau ein bod yn cynnal y sefyllfa hon.

Mae'r cyfuniad hwn o faterion yn rhoi cyfle i ni ddangos gwerth gwirioneddol gwaith partneriaeth. Trwy weithio ar y cyd gallwn adeiladu ar ein llwyddiannau a pharhau i weithio tuag at wella ansawdd bywydau pawb yn Sir Benfro. Mae'r holl bartneriaid sydd wedi cefnogi datblygiad y Cynllun hwn yn ymrwymedig i'r amcan hwn ac i sefydlu egwyddorion datblygiad cynaliadwy yn ein gwaith.

Er bod y perthnasoedd rhwng mudiadau'n gryfach nag erioed, mae'r her a wynebwn wrth geisio sicrhau bywyd gwell i bawb yn Sir Benfro hefyd yn fwy nad erioed. Mae gostyngiadau mewn gwariant cyhoeddus ar lefel genedlaethol yn rhoi pwysau sylweddol ar ein gallu i gyflwyno agenda a rennir, ac weithiau bydd hyn yn achosi straen yn y perthnasoedd sy'n bodoli rhwng mudiadau. Fodd bynnag,

Cafodd y cynllun terfynol ei lunio gan ystod o asiantaethau a grwpiau a chanddynt ddiddordeb yn dilyn ystyriaeth fanwl o ystod eang o sylwadau a gafwyd yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus o dri mis. Ar ran y partneriaid a fu’n cymryd rhan yn natblygu’r Cynllun hwn, dymunaf ddiolch i’r rheini a roddodd o’u hamser i astudio a rhoi sylwadau ar y cynllun drafft. 4


Cyflwyniad

1.1 Diben y Cynllun Integredig Sengl yw cyflwyno darlun clir o sut gall y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol gydweithio i wella ansawdd bywydau pawb yn Sir Benfro. 1.2 Mae'r Cynllun Integredig Sengl yn amlinellu gweledigaeth hir dymor ar gyfer y Sir, yn seiliedig ar uchelgeisiau a rennir gan drigolion, grwpiau cymunedol, arweinwyr lleol ac ymwelwyr. Bydd y weledigaeth hon yn symbylu'r gwaith partneriaeth dros y 5 mlynedd nesaf. Y Cynllun Integredig Sengl yw'r cynllun trosgynnol ar gyfer Sir Benfro. 1.3 Mae'r Cynllun yn disgrifio cyfres o ganlyniadau, blaenoriaethau a gweithredoedd pennawd. Bydd cyflawni'r canlyniadau hyn yn mynnu bod partneriaid yn cydweithio i adnabod y ffordd orau o wneud gwahaniaeth mesuradwy ar gyfer pobl Sir Benfro. 1.4 Mae'n bwysig i gydnabod y pwysau ar gyllidebau y bydd pob darparwr gwasanaethau yn eu hwynebu yn ystod cyfnod y Cynllun Integredig Sengl. Bydd hyn yn gofyn am syniadau arloesol ac, o bosib, penderfyniadau anodd ynglŷn â dyrannu adnoddau. 1.5 Wrth ddatblygu'r Cynllun Integredig Sengl rydym wedi archwilio'r ystod lawn o broblemau y mae'r Sir yn eu hwynebu. Er enghraifft, rydym wedi: • dadansoddi gwybodaeth ac adnabod y tueddiadau sy'n bwysig i'r ardal leol,, •cymryd yr amser i ddeall pryderon trigolion, fel y maen nhw wedi'u mynegi mewn cynlluniau a 5

baratowyd gan gynghorau cymuned a grwpiau buddiant lleol, ac • adolygu'r cynlluniau a strategaethau eraill sydd o bwys i Sir Benfro. 1.6 Er bod cyhoeddi'r Cynllun Integredig Sengl hwn yn arwyddocaol, mae'n bwysig i gydnabod y gwelir gwir werth cynllunio cymunedol o fewn natur ddeinamig y broses - wrth gadw'r Cynllun yn berthnasol i Sir Benfro a'i phobl. Gobeithiwn y bydd y materion a nodir yn y ddogfen hon yn ysgogi trafodaeth bellach ac y bydd modd i ni ddechrau ar ddeialog gyda'r gymuned ynglŷn â pha welliannau yr hoffai eu gweld yn cael eu rhoi ar waith. Byddwn yn diweddaru cynnwys y Cynllun hwn yn rheolaidd ac yn cyhoeddi adroddiadau diweddaru. 1.7 Yn ogystal ag ymateb i anghenion lleol sy’n dod i’r amlwg, bydd hefyd yn ofynnol i’r partneriaid adolygu cynnwys y Cynllun hwn i sicrhau ei fod yn gallu mynd i’r afael â newidiadau i ddeddfwriaeth Genedlaethol. Er enghraifft, bydd yn hanfodol i bartneriaid gynnwys y manylion sy’n dod i’r amlwg o’r Bil Datblygu Cynaliadwy yn eu cynlluniau gweithredu ar y cyd yn ystod y blynyddoedd nesaf. 1.8 Bydd y blaenoriaethau a'r gweithredoedd pennawd sydd wedi'u hadnabod yn y Cynllun hwn yn cael eu datblygu gan y mudiadau unigol sydd wedi cefnogi ei ddatblygiad, a chan y BGLl ac ystod o bartneriaethau cysylltiedig eraill. Nid ydym yn bwriadu sefydlu mecanweithiau cyflwyno ychwanegol os yw grwpiau eisoes yn bodoli.


2.1 Yn syml, ein nod cyffredinol ar gyfer Sir Benfro yw:

2. gweledigaeth a fframwaith

Sicrhau bod Sir Benfro'n ffyniannus a'i bod yn parhau'n egnïol ac yn arbennig 2.2 I gyflawni'r weledigaeth hon rydym wedi datblygu'r Cynllun Integredig Sengl hwn fel datganiad pennaf o'r amcan cynllunio strategol ar gyfer Sir Benfro. Mae'r cynllun hwn yn disodli'r cynlluniau partneriaeth a ganlyn: • Cynllun Cymunedol Sir Benfro 2010-2025 • Y Cynllun Plant a Phobl Ifanc • Y Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles • Strategaeth Diogelwch Cymunedol Sir Benfro Ddiogelach 2.3 I ddatblygu'r cynllun hwn rydym wedi dadansoddi data o ystod helaeth o ffynonellau a dod â'r wybodaeth honno ynghyd ar ffurf Asesiad Anghenion Sengl1. Rydym hefyd wedi adolygu'r cynlluniau a strategaethau eraill sydd o bwys i Sir Benfro. 2.4 Mae ein dadansoddiad o'r data a'r wybodaeth yn yr Asesiad Anghenion wedi'n galluogi ni i adnabod y chwe chanlyniad a ganlyn y mae partneriaid wedi cytuno i weithio tuag atynt dros y pum mlynedd nesaf: • Mae plant, pobl ifanc a theuluoedd yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial dysgu a byw bywydau iach a hapus • Mae economi Sir Benfro yn gystadleuol, yn gynhyrchiol ac yn gynaliadwy • Mae pobl Sir Benfro'n mwynhau amgylchedd dymunol, cynaliadwy ac amrywiol • Mae pobl Sir Benfro yn fwy iach • Mae plant ac oedolion wedi'u diogelu • Mae cymunedau Sir Benfro yn teimlo'n ddiogel Gallwch weld ein Hasesiad Anghenion Sengl yn www.pembrokeshire.gov.uk. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion a roddwyd ar dudalen 2. 1

6


2.5 Mae'r penodau a ganlyn yn disgrifio pob canlyniad yn ei dro. Maent yn dechrau trwy gyflwyno pob canlyniad, yn crynhoi'r data allweddol a'r heriau sy'n bodoli heddiw er mwyn sefydlu ble yr ydym ni nawr ac adnabod yr heriau sy'n debygol o fod o bwys yn Sir Benfro erbyn 2018. 2.6 Ar ôl crynhoi'r heriau y bydd angen i bartneriaid fynd i'r afael â nhw er mwyn cyflwyno pob canlyniad a rennir, mae pob pennod yn rhestru'r blaenoriaethau strategol allweddol a gweithredoedd pennawd y mae'r partneriaid wedi cytuno i ganolbwyntio arnynt dros y pum mlynedd nesaf. Mae’r cynnwys yn canolbwyntio ar weithredoedd lefel uchel, strategol sy’n cael eu rhannu. Bydd rhagor o fanylder am yr hyn y mae'r partneriaid yn bwriadu ei wneud yn cael ei ddatblygu mewn cynlluniau partneriaeth ar y cyd ac mewn cynlluniau gwasanaeth unigol a fydd yn cefnogi cyflwyniad y strategaeth drosgynnol hon.

fydd yn dangos effaith y mentrau ar y cyd. Gan ddefnyddio egwyddorion "Atebolrwydd Seiliedig ar Ganlyniadau"2, rydym wedi cynnwys siart ar gyfer pob dangosydd yn amlinellu'r data dros flynyddoedd diweddar ynghyd ag arwydd o'r hyn y bydd yn digwydd yn ein tyb ni dros y blynyddoedd nesaf os na wnawn unrhyw beth. Mae'r siartiau hefyd yn dangos y gwahaniaeth a ddaw trwy gyflwyno'r cynllun. 2.9 Mae manylion pellach sut rydym yn bwriadu monitro ac adolygu cynnydd y cynllun hwn wedi'u cynnwys ar ddiwedd y ddogfen.

2.7 Er ein bod wedi adnabod blaenoriaethau allweddol ar gyfer pob canlyniad, mae'n glir y bydd rhai gweithredoedd yn cyfrannu at fwy nag un canlyniad. Bydd materion traws-bynciol megis datblygiad cynaliadwy, trafnidiaeth, cydraddoldebau a thlodi yn golygu bod partneriaethau cysylltiol y BGLl yn gweithio gyda’i gilydd. Wrth gydnabod yr effaith ehangach a ddaw yn sgil rhai o'n gweithredoedd, rydym wedi cynnwys cynrychioliadau graffigol sy'n dangos i ba raddau y bydd ein blaenoriaethau'n cyfrannu at gyflwyniad pob canlyniad.

Mae Atebolrwydd Seiliedig ar Ganlyniadau (RBA) yn ddull disgybledig o gynllunio, cyflwyno ac atebolrwydd y gellir ei ddefnyddio i wella ansawdd bywydau mewn cymunedau yn ogystal â gwella perfformiad partneriaethau a gwasanaethau. Mae RBA yn ymagwedd syml at fesur sy'n defnyddio iaith glir ac yn canolbwyntio ar y canlyniadau a'r effaith ar gymunedau a defnyddwyr gwasanaethau. 2

2.8 Trwy ganolbwyntio ar ymagwedd seiliedig ar ganlyniadau, mae partneriaid yn Sir Benfro yn dangos eu hymrwymiad i gyflawni newid ystyrlon. Mae medru adnabod sut rydym yn gwybod bod ein gweithredoedd yn gweithio yn hollbwysig o ran ein galluogi i ddangos llwyddiant. Mae pob pennod yn cynnwys cyfres o ddangosyddion pennawd a 7


3. Plant a theuluoedd

3.1 Cyflwyniad 3.1.1 Fel partneriaid, mae creu cyfleoedd i blant, pobl ifanc a theuluoedd gael bywydau iach, hapus a llawn boddhad yn rhan annatod o'r gwaith a wnawn. Mae ein Cynllun Integredig Sengl yn darparu fframwaith strategol i alluogi ein partneriaid i lunio, targedu a chyflwyno gwasanaethau sydd wedi'u dylunio i sicrhau bod hawliau'r holl blant, pobl ifanc a theuluoedd wedi'u hamddiffyn a'u hyrwyddo, a'u bod yn cael y cyfle i fanteisio ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Mae plant, pobl ifanc a theuluoedd yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial dysgu a byw bywydau iach a hapus

3.1.2 Cyfeirbwynt allweddol i ni wrth ddatblygu a chyflwyno ein blaenoriaethau yw dogfen arweiniad Llywodraeth Cymru Plant a Phobl Ifanc: Gweithredu'r Hawliau, sy'n disgrifio saith Nod Craidd a ddylunnir o gwmpas Hawliau a sefydlwyd gan Gyfamod y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae'r Nodau Craidd hyn wedi cael eu hymgorffori yn ein cynlluniau cyflwyno i sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiad i’r egwyddorion hyn. 3.1.3 Er mai ein nod yw gwella canlyniadau ar gyfer yr holl blant a phobl ifanc, byddwn yn canolbwyntio'n benodol ar blant a phobl ifanc sy'n byw mewn tlodi. Yn hyn o beth, rydym wedi'n symbylu gan yr hinsawdd economaidd gyfredol sy'n gwneud bywyd yn anodd i lawer o deuluoedd, a chan ein cyfrifoldebau statudol o dan y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru); deddfwriaeth allweddol Llywodraeth Cymru sydd wedi'i dylunio i fynd i'r afael â thlodi ymysg plant yng Nghymru. Yn unol â’r ddeddfwriaeth hon, bydd y Cynllun Integredig Sengl hwn hefyd yn strategaeth tlodi plant ar gyfer Sir Benfro. 3.1.4 Mae ein hymagwedd yn seiliedig ar wybod nad yw'n bosib creu newidiadau ystyrlon a chyflwyno canlyniadau sy'n creu buddion 8


ar gyfer poblogaethau cyfan, megis plant a phobl ifanc, os bydd mudiadau neu asiantaethau'n gweithio ar eu pennau eu hunain. Nid oes yr un mudiad unigol sy'n gyfrifol am sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial dysgu a byw bywydau iach a hapus ar ei ben ei hun. Yn hytrach, cydnabyddwn y gallwn weithio tuag at wireddu'r canlyniad hwn dim ond os byddwn yn cydlynu ac yn cyflwyno gwasanaethau gyda'n gilydd.

• Mae canran y babanod sy'n bwydo ar y fron ar ôl cael eu geni wedi codi o 57% yn 2006 i tua 60% yn 2010. Er bod hyn uwchben y ffigur ar gyfer Cymru (53%) mae'n cymharu'n anffafriol â chyfraddau yng Ngheredigion a Sir Gâr. • Mae cyfraddau imiwneiddio'n cynyddu'n gyffredinol, ond mae ail frechiadau/brechiadau atgyfnerthu yn parhau'n sylweddol is na brechiadau sylfaenol. Yn gyffredinol mae cyfraddau defnyddio'n is mewn ardaloedd gwledig nag ardaloedd trefol a gallai hyn fod yn arwydd o fwy o anhawster wrth hygyrchu gwasanaethau. • Nododd yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant diweddaraf fod nifer y lleoedd gofal plant yn dirywio (14.7 i bob 100 o blant, gostyngiad o 18% ers mis Tachwedd 2010). Testun pryder pellach yw dosbarthiad anwastad y ddarpariaeth, sy'n golygu diffyg dewis ac argaeledd, yn benodol yn rhannau gogleddol y Sir a rhai ardaloedd yn y de. Ceir bylchau penodol mewn darpariaeth gwasanaethau Cymraeg ac argaeledd yn ystod cyfnodau gwyliau.

3.2 Ble ydym ni nawr? 3.2.1 Mae profiadau plentyn yn y blynyddoedd cynnar (0-7 oed) yn hollbwysig o ran cynnydd a datblygiad cyffredinol yr unigolyn. Rydym wedi rhoi pwyslais penodol ar iechyd plant yn y blynyddoedd cynnar ac iechyd eu teuluoedd. Fel y mae’r dystiolaeth yn awgrymu, mae hyn yn cael effaith sylweddol ar ddatblygiad corfforol ac emosiynol, lefelau cyrhaeddiad, dewisiadau ffordd o fyw ac iechyd a lles yn y dyfodol. Mae iechyd gwael hefyd yn llawer mwy tebygol o fod yn broblem gyda phlant a phobl ifanc sy'n byw mewn tlodi.

3.2.2 Mae mynediad i gyfleoedd dysgu a hyfforddiant o safon yn hollbwysig er mwyn i blant gyrraedd eu potensial llawn. Byddwn yn ymdrechu i gyflwyno gwasanaethau sy'n galluogi dysgwyr o bob cefndir i hygyrchu cyfleoedd dysgu safonol mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol.

• Mae cyfran y babanod y mae eu pwysau geni'n isel (genedigaethau unigol o dan 2.5 kg) yn rhoi arwydd o iechyd cyffredinol mamau. Mae pwysau geni isel babanod yn gysylltiedig â chyfraddau marwolaeth babanod a hefyd â risg ychydig yn uwch o gymhlethdodau datblygiadol. Roedd cyfradd Sir Benfro yn 6.5% yn 2010, llai na chyfradd Cymru o 7% ond yn uwch na'r cyfraddau yn yr ardaloedd cyfagos, Ceredigion (4.9%) a Sir Gâr (5.5%).

• Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau addysg yr Awdurdod Lleol ar gyfer plant a phobl ifanc - yn ogystal â’i allu i wella - yn cael eu hystyried yn anfoddhaol gan Estyn. • Yn 2012, nid oedd perfformiad ysgolion cynradd yn Sir Benfro yn cymharu’n dda ag ysgolion tebyg mewn awdurdodau eraill. Roedd canran y dysgwyr a oedd wedi cyflawni dangosydd y Cyfnod Sylfaen yn is na chyfartaledd Cymru. Yng Nghyfnod Allweddol 2, roedd y ganran a oedd yn cyflawni’r dangosydd pwnc craidd yn debyg i gyfartaledd Cymru, ar ôl bod 9


uwchlaw’r cyfartaledd hwn yn ystod y blynyddoedd blaenorol. Roedd perfformiad ysgolion uwchradd Sir Benfro wedi gwella ar raddfa gyflymach yn 2012 na chyfartaledd Cymru. Yng Nghyfnod Allweddol 3 a Chyfnod Allweddol 4, roedd perfformiad yn cymharu’n dda ag ysgolion mewn awdurdodau eraill ledled Cymru o ran y dangosyddion a oedd yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf a Mathemateg. Ym mhob cyfnod allweddol, nid oedd y disgyblion mwyaf galluog wedi gwneud mor dda â’r disgwyl ar lefelau uwch y cwricwlwm cenedlaethol a graddau TGAU. Wrth gymharu â lefelau perfformiad ysgolion tebyg ar feincnodau prydau ysgol am ddim, roedd perfformiad ysgolion cynradd Sir Benfro yn is na’r cyfartaledd yn y Cyfnod Sylfaen ac ymhell islaw cyfartaledd Cyfnod Allweddol 2. Yn y cyfnodau allweddol hyn, roedd gormod o ysgolion yn y chwarter gwaelod, ac mae’n ymddangos fel pe bai perfformiad yn gwaethygu. Yn 2011, canran dysgwyr Sir Benfro a oedd yn gadael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau cydnabyddedig oedd yr ail ffigur gwaethaf yng Nghymru. Roedd perfformiad wedi gwaethygu ers y flwyddyn flaenorol. Yn 2011, er bod presenoldeb mewn ysgolion cynradd yn unol â chyfartaledd Cymru o’i gymharu ag ysgolion tebyg ar y meincnodau prydau ysgol am ddim, roedd tua dwy allan o dair o’r ysgolion cynradd yn yr hanner isaf. Roedd presenoldeb mewn ysgolion uwchradd

wedi gwella dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac roedd yn uwch na chyfartaledd Cymru yn 2012. Fodd bynnag, yn 2011 dim ond un ysgol oedd yn y chwarter uchaf, ac roedd pedair yn y chwarter isaf o’u cymharu ag ysgolion tebyg. • Roedd 10.1% o boblogaeth Sir Benfro'n ymwneud â dysgu ôl-16 oed yn 2009/10. Roedd hyn yn uwch na ffigur cyfartalog Cymru o 9.1%, a'r ail berfformiad gorau ymysg yr holl ardaloedd awdurdod lleol. 3.2.3 Rydym am i'r holl blant a phobl ifanc yn Sir Benfro fod yn ddiogel, gwneud dewisiadau ffordd o fyw iach a phrofi lefelau uchel o les emosiynol a chorfforol. Hefyd, rydym am weld plant a phobl ifanc sy'n hapus ac yn cymryd rhan, sy'n awyddus i wneud cyfraniad cadarnhaol at eu cymunedau a chymryd rhan yn weithredol yn y materion a'r penderfyniadau sydd o bwys iddynt. Fel partneriaid, byddwn yn parhau i gyflwyno gwasanaethau sy'n cefnogi'r nodau hyn. • Datgelodd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ar gyfer Plant (2011) fod gan Sir Benfro ardaloedd ymysg y rhai mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru o ran iechyd. Mae pob un o ysgolion yn

10


cofrestredig, ac mae 18,707 o ddefnyddwyr yn yr ystod oedran 0-15. Dyma'r 5ed cyfradd cymryd rhan uchaf yng Nghymru (fesul 1,000 o boblogaeth). Mae cyfraddau cymryd rhan mewn clybiau chwaraeon allgyrsiol mewn ysgolion ac yn y gymuned tua'r un â ffigur cyfartalog Cymru.

• •

Sir Benfro, ynghyd â llawer o bartneriaid mewn lleoliadau cyn-ysgol, wedi ymrwymo i'r cynllun Ysgolion Hybu Iechyd. Mae pob bwydlen ysgol gynradd yn cydymffurfio â'r fenter Blas am Oes. Mae troseddau wedi'u cofnodi yn isel yn Sir Benfro o'i gymharu â Chymru'n gyffredinol, ac mae achosion o droseddau gyda phlentyn fel dioddefwr wedi parhau'n gymharol sefydlog ers 2008. Mae cam-drin domestig yn cael effaith sylweddol ar blant a phobl ifanc. Mae ffigurau cenedlaethol yn awgrymu y bydd 1 o bob 4 o fenywod yn cael eu heffeithio gan gam-drin domestig rhywbryd yn eu bywydau. Fel y cydnabyddir mewn rhan arall o'r ddogfen hon, mae cam-drin domestig yn fwy o broblem yn Sir Benfro nac yng ngweddill ardal Heddlu Dyfed Powys. Cefnogodd y Gwasanaeth Profedigaeth a Cholled Sandy Bear 197 o blant a phobl ifanc a brofodd anawsterau emosiynol yn 2011-12. Yn 2011 cafwyd 147 o ddamweiniau traffig ar y ffordd yn ymwneud â gyrwyr ifanc yn Sir Benfro. Yn Sir Benfro mae 80% o’r grŵp oedran 0-25 yn ddefnyddwyr Gwasanaethau Hamdden 11

3.2.4 Mae byw mewn tlodi yn effeithio'n sylweddol ar gyfleoedd bywyd plentyn, yn benodol mewn perthynas â’u dyheadau, cymwysterau cyfleoedd cyflogaeth ac iechyd. Mae'r hinsawdd economaidd gyfredol yn gwneud bywyd hyd yn oed yn fwy anodd ar gyfer llawer o deuluoedd, ac mae'r effeithiau dilynol ar ddatblygiad plant a phobl ifanc yn sylweddol ar sawl lefel wahanol. Byddwn yn cymryd camau i ymdrin â'r cylch tlodi3. • Datgelodd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ar gyfer Plant (2011) fod gan Sir Benfro ardaloedd ymysg y rhai mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru o ran cyflogaeth ac incwm. Mae canran y plant a phobl ifanc sydd wedi'u diffinio fel "byw mewn tlodi" tua 20%, ychydig yn is na ffigur cyfartalog Cymru. • Yn 2010, roedd 12.7% o bobl 16-64 oed yn Sir Benfro nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau. • Mae cyfraddau cyflogaeth yn Sir Benfro'n cyfateb yn fras i'r ffigurau Cymru gyfan, ond mae natur dymhorol rhai sectorau cyflogaeth yn golygu eu bod yn destun cryn dipyn o amrywiad. Ar ddiwedd 2011, roedd 15.4% o blant a phobl ifanc yn Sir Pan fydd plant a phobl ifanc sy'n tyfu i fyny mewn tlodi'n fwy tebygol o fyw mewn tlodi fel oedolion. 3


3.3 Sir Benfro 2018

3.3.1 Yn ogystal â'r problemau sy'n bodoli heddiw, mae'r Cynllun hwn hefyd yn anelu at adnabod a mynd i'r afael â'r heriau sy'n debygol o ddod i'r amlwg yn ystod oes y cynllun.

Benfro'n byw mewn aelwydydd heb waith o'i gymharu â chyfradd Cymru gyfan o 18.6%. • Mae'r gyfradd hawlwyr y Lwfans Ceiswyr Gwaith ar gyfer pobl 18-24 oed yn symud yn unol â'r amrywiad tymhorol a amlygwyd uchod (rhwng 7.5% a 11.5% dros y 12 mis diwethaf) a chafwyd cynnydd sylweddol mewn hawlwyr ers dechrau'r dirwasgiad (er hynny mae'r cyfanswm yn parhau'n is na chyfartaledd Cymru a'r DU). Fodd bynnag, mae cyfran y teuluoedd sy'n hygyrchu budddaliadau i bobl mewn gwaith (e.e. credydau treth) llawer yn uwch na ffigur cyfartalog Cymru. • Mae ardal glwstwr Sir Benfro (sy’n cynnwys rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Hwlffordd, Penfro a Doc Penfro), wedi cael arian trwy gyfrwng rhaglen Cymunedau’n Gyntaf. Mae’r cynllun hwn yn cefnogi’r bobl fwyaf difreintiedig yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig, gyda’r nod o gyfrannu tuag at liniaru tlodi parhaol. Mae’r rhaglen wedi’i thargedu’n benodol at leihau’r bylchau mewn addysg /sgiliau, bylchau economaidd ac iechyd rhwng ein hardaloedd mwyaf difreintiedig a’n hardaloedd mwy cefnog. 12

3.3.2 Hyd y gellir rhagweld, bydd ein gallu i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc yn cael ei effeithio a'i siapio gan yr hinsawdd economaidd anodd, a'r pwysau parhaus canlyniadol ar gyllidebau sector cyhoeddus. Ffactor sylweddol arall yw nifer cynyddol y bobl oedrannus. Mae'n anochel y bydd galw cynyddol am ddarpariaeth gofal cymdeithasol i oedolion yn cael effaith ar wasanaethau eraill - gan gynnwys y rhai a ddarperir i blant a phobl ifanc. 3.3.3 Oni bai bod partneriaid yn datblygu ymagwedd mwy cydweithiol, cydlynol ac arloesol at gyflwyno gwasanaethau wrth ymateb i'r amgylchiadau heriol hyn, gallai'r effeithiau niweidiol ehangach ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yn gyffredinol gynnwys: • cynnydd yn nifer y teuluoedd sy'n byw mewn tlodi, • risg gynyddol o blant a phobl ifanc yn tyfu i fyny gyda lefelau isel o les yn gyffredinol, risg gynyddol o iechyd gwael, gyda chyrhaeddiad is a dyheadau isel, • amharu ar effaith newidiadau arfaethedig mewn Diwygio Lles


3.3.4

Rhan allweddol o'n hymateb i'r heriau hyn fydd datblygiad parhaus o ran gwasanaethau integredig a dargedir at wella canlyniadau ar gyfer y teulu cyfan, yn benodol y rhai sy'n canolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar.

3.4 Beth ydym ni'n mynd i'w wneud?

• plant a phobl ifanc sy'n fwy agored i effeithiau troseddu, a hynny fel cyflawnwyr ac fel dioddefwyr, • risg gynyddol o argyfyngau teuluol e.e. camddefnyddio alcohol / sylweddau, cam-drin / trais domestig, tlodi bwyd, tlodi tanwydd, • anghydraddoldebau yng ngallu pobl ifanc i gael mynediad i ddarpariaeth gwasanaethau yn cynyddu, • gostyngiad mewn cyfleoedd cyflogaeth a lefelau incwm is, a • bygythiad cynyddol i gydlyniad cymunedol.

3.4.1 Ar sail yr wybodaeth sydd ar gael i ni, rydym wedi cytuno i ffocysu ein gwaith ar bedair blaenoriaeth allweddol: • Mae plant, pobl ifanc a theuluoedd Sir Benfro yn cael y cyfle i gyflawni'u potensial llawn • Mae diogelwch a lles plant, pobl ifanc a theuluoedd Sir Benfro yn cael eu diogelu a'u hyrwyddo • Mae hawliau plant, pobl ifanc a theuluoedd Sir Benfro yn cael eu diogelu a'u cefnogi • Nid yw plant, pobl ifanc a theuluoedd Sir Benfro o dan anfantais oherwydd tlodi

13


Mae plant, pobl ifanc a theuluoedd Sir Benfro yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial dysgu a byw bywydau iach a hapus

Diogelwch

Diogelu

BLAENORIAETH

Iechyd

Yr Amgylchedd

Economi

Plant a Theuluoedd

Cyfraniad at y Canlyniad

Beth rydym eisiau ei gyflawni:

GWEITHRED BENNAWD

Byddwn yn: Darparu gwasanaethau sy'n briodol ar gyfer anghenion teuluoedd Gwella iechyd plant yn y blynyddoedd cynnar ac iechyd eu teuluoedd

Mae plant, pobl ifanc a theuluoedd Sir Benfro yn cael y cyfle i gyflawni'u potensial llawn

Paratoi plant ar gyfer dysgu gydol oes Cefnogi plant a phobl ifanc trwy gydol eu dysgu i uchafu cyrhaeddiad Cefnogi plant a phobl ifanc i hygyrchu eu hawl gyffredinol i ddarpariaeth trwy gydol eu dysgu Sicrhau gwaith cydlynol ac aml-asiantaeth gyda phlant a phobl ifanc mewn grwpiau agored i niwed penodol Amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed Gwella iechyd corfforol ac emosiynol i blant a phobl ifanc

Mae diogelwch a lles plant, pobl ifanc a theuluoedd Sir Benfro yn cael eu diogelu a'u hyrwyddo

Adnabod a lleihau anghydraddoldebau iechyd lleol Hyrwyddo diogelwch plant a phobl ifanc yn yr aelwyd Hyrwyddo diogelwch plant a phobl ifanc yn y gymuned Amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed ac effaith camddefnyddio sylweddau Darparu cyfleoedd tai i ddiwallu anghenion pobl ifanc

14


Mae plant, pobl ifanc a theuluoedd Sir Benfro yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial dysgu a byw bywydau iach a hapus

Diogelwch

Diogelu

BLAENORIAETH

Iechyd

Yr Amgylchedd

Economi

Plant a Theuluoedd

Cyfraniad at y Canlyniad

Beth rydym eisiau ei gyflawni:

GWEITHRED BENNAWD

Byddwn yn:

Cyflwyno gweithredu cydlynol ac aml-asiantaeth i sicrhau bod nodau bras Strategaeth Tlodi Plant Cymru'n cael eu croesawu a'u rhoi ar waith Nid yw plant, pobl ifanc a theuluoedd Sir Benfro o dan anfantais oherwydd tlodi

Cefnogi rhieni plant a phobl ifanc mewn grwpiau agored i niwed i fanteisio ar gyfleoedd i gynyddu a chadw incwm yr aelwyd Cefnogi plant, pobl ifanc a'u rhieni i fwyafu cyfleoedd cyflogaeth 창 th창l

Mae hawliau plant, pobl ifanc a theuluoedd Sir Benfro yn cael eu diogelu a'u cefnogi

Sicrhau bod cyflwyniad ein gwasanaethau'n seiliedig ar ymrwymiad a rennir i barchu, gwerthfawrogi ac ymgysylltu 창 phlant a phobl ifanc Darparu gwybodaeth ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd trwy ystod o gyfryngau Annog a chefnogi plant a phobl ifanc i ymwneud 창 phenderfyniadau sy'n effeithio arnynt Darparu gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc Cefnogi datblygiad cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer plant a phobl ifanc Hyrwyddo chwaraeon, chwarae a ffordd actif o fyw Cynyddu lefel y gweithgarwch diwylliannol a chymdeithasol ar gyfer plant a phobl ifanc

15


3.5 Sut byddwn yn gwybod bod hyn yn gweithio? 3.5.1 Byddwn yn mesur ein cynnydd yn erbyn yr ystod o ddangosyddion pennawd a ddangosir isod. Dewiswyd y dangosyddion hyn oherwydd eu bod, ar y cyd, yn darparu darlun cytbwys o ansawdd bywyd yn Sir Benfro. Trwy gydweithio ein nod yw ‘troi'r gromlin’ a gwella perfformiad Sir Benfro. Mae'r llinell doredig ddu'n cynrychioli'r gwahaniaeth y bwriadwn ei gyflawni trwy gyflwyno'r Cynllun hwn. Nifer y lleoedd gofal plant yn Sir Benfro

Genedigaethau byw gyda phwysau geni isel 3500

9.00% 3250

8.50%

8.00%

3000

7.50% 2750

7.00% 6.50%

2500

6.00% 2250

5.50% 5.00%

2000

4.50% 1750

4.00% 2001

2002

2003

2004

2005

2006

Cymru

2007

2008

Ceredigion

2009

2010

Sir Benfro

2011

2012

2013

2014 1500

Sir Gâr

2006

2007

2008

Lefel 2 CA4 yn cynnwys Saesneg/Cymraeg + Mathemateg

2009

2010

2011

2012

2013

2014

2015

% y bobl ifanc NEET newydd

60%

6.5% 6.0%

55% 5.5% 5.0%

50%

4.5% 45%

4.0% 3.5%

40%

3.0% 35%

2.5% 2007/08

2008/09

2009/10

2010/11 Sir Benfro

2011/12

2012/13

2013/14

2006

Cymru

2007

2008

2009 Blwyddyn 11

2010

2011

2012

2013

2014

Blwyddyn 13

% o blant mewn teuluoedd di-waith 19 18 17 16 15 14

Agenda Datblygu Data: Datblygu mesurau i asesu effaith tlodi plant

13 12

11 10

Sir Benfro

Chwefror-15

Chwefror-14

Chwefror-13

Chwefror-12

Chwefror-11

Chwefror-10

Chwefror-09

Chwefror-08

9

Cymru

16


4. economi

4.1 Cyflwyniad

Mae economi Sir Benfro yn gystadleuol, yn gynhyrchiol ac yn gynaliadwy

4.1.1 Mae'r Cynllun Integredig Sengl wedi cael ei ddatblygu ar adeg o ansicrwydd economaidd byd-eang parhaus. Rhagwelir y bydd economi'r DU yn tyfu'n sylweddol arafach na dros y deng mlynedd diwethaf. 4.1.2 Mae'r newidiadau yn yr economi fyd-eang yn cyflwyni heriau newydd. Mae'r boblogaeth yn heneiddio ac mae'r oedran ymddeol yn codi, gan newid nodweddion y farchnad lafur. Mae marchnadoedd datblygol newydd yn darparu cyfleoedd allforio ond maen nhw hefyd yn ffynhonnell gystadleuaeth. Mae defnyddwyr yn disgwyl amserau ymateb cyflymach a theilwra cynyddol. Mae diwydiannau traddodiadol megis cynhyrchu ac adeiladu wedi gorfod datblygu dulliau newydd sy'n fwy effeithlon a chreadigol, gan ystyried effaith "bywyd cyfan" cynhyrchu a gwaredu. 4.1.3 Mae economi Sir Benfro'n adlewyrchu ei daearyddiaeth ymylol, sydd yn gyfle ac yn rhwystr. Mae'r Sir yn elwa o amgylchedd naturiol eithriadol, cyfraddau diweithdra cymharol isel, cyfraddau cyflogaeth cymharol uchel (yn enwedig hunangyflogaeth) a mynediad dŵr dwfn da ar gyfer llongau, sydd wedi denu'r datblygiadau yn y sector ynni. 4.1.4 Mae llawer o lwyddiannau Sir Benfro yn ddiweddar yn deillio o ddatblygiadau yn y sector ynni a'r effaith ddilynol ar y gadwyn gyflenwi. Mae'n debygol y bydd datblygiadau pellach yn y sector hwn dros y 10 mlynedd nesaf gan gynnwys cynhyrchu gwres a phŵer cyfunedig, datblygiadau gwynt, tonnau a llanw. 17


4.1.5 Mae'r blaenoriaethau ar gyfer datblygu'r economi yn Sir Benfro wedi'u gosod yng nghyd-destun polisïau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae'n rhaid i gynhyrchedd cynyddol, cyfleoedd cyflogaeth cryf a gweithlu deinamig a hynod o fedrus fod yn ffocws ar gyfer y partneriaid er mwyn i ni gyflawni safonau bywyd gwell ar gyfer pobl Sir Benfro yn y cyd-destun Cenedlaethol hwn.

4.2 Ble ydym ni nawr? 4.2.1 I ddatblygu'r economi yn Sir Benfro, byddwn yn canolbwyntio ar helpu pobl i gyflawni’r dysgu, y sgiliau a'r hyder i wella'u cyfleoedd cyflogaeth. Mae angen cefnogaeth ar y boblogaeth oedran gwaith yn Sir Benfro, yn y lle cyntaf i gael mynediad i gyflogaeth ac yna i symud ymlaen at gyflogaeth â gwerth uwch. • Yn hanesyddol mae Sir Benfro wedi profi cyfraddau diweithdra uchel, yn enwedig mewn aneddiadau megis Doc Penfro ac Aberdaugleddau. Erbyn mis Mehefin 2007, roedd y gyfradd wedi gostwng i 1.3% yn Sir Benfro, pan oedd cyfartaledd Cymru'n 2.1% a chyfartaledd DU yn 2.2%. Mae diweithdra wedi cynyddu ers y dyddiad hwnnw i 3.6% yn Ionawr 2013 o’i gymharu â 4.2% yng Nghymru a 3.8% yn y DU, ond mae wedi aros yn is na chyfartaledd Cymru. Er hynny mae cyfradd y cynnydd yn Sir Benfro wedi bod yn gyflymach na'r cyfartaledd. O’r rheini mewn cyflogaeth, mae gan Sir Benfro

gyfradd uwch o weithwyr rhan amser, 31.2% o’i gymharu â ffigur cyfartalog yng Nghymru o 27.8% a chyfartaledd yn y DU o 27.1%. Pryder arall i’r farchnad lafur yw lefel diweithdra ymhlith pobl ifanc. Y lefel yn Sir Benfro yw 8.1%, sy’n is na ffigur cyfartalog Cymru o 8.2% ond ymhell ar y blaen i gyfartaledd y DU ar 7.0%. Mae proffil diweithdra yn adlewyrchu’r cyfnodau brig mewn adeiladu a chau purfeydd sy’n gwaethygu’r ffactorau lleol. • Nid yw sgiliau ar gyfer cyflogaeth yr un peth â chymwysterau. Mae tair gwaith yn fwy o fusnesau yn Sir Benfro wedi nodi eu bod yn ystyried diffyg sgiliau yn fwy o her i recriwtio na'r rhai a nododd ddiffyg cymwysterau. Mae angen diweddaru sgiliau’r gweithlu ac mae angen iddynt adlewyrchu gofynion newidiol yr economi. Nododd arolwg busnes diweddar yn Sir Benfro nad oes gan bedwar allan o bob pump o fusnesau brosesau ffurfiol ar gyfer hyfforddi a datblygu eu gweithlu, a bod ychydig iawn o'r busnesau hyn yn bwriadu newid eu hymagwedd yn ystod y flwyddyn i ddod.

18


• Gallai cyfraddau hunangyflogaeth cymharol uchel Sir Benfro arwain at gasgliadau efallai fod cymwysterau ffurfiol yn llai pwysig na symbyliad entrepreneuraidd. Er hynny, gallai fod yn wir hefyd nad yw Sir Benfro'n manteisio ar y meysydd twf allweddol sy'n dibynnu ar lefelau uchel o gymwysterau. 4.2.2 Mae Sir Benfro'n dibynnu ar fentrau bach a chanolig i symbylu'r economi. Rydym yn ymrwymedig i helpu sicrhau fod busnesau llwyddiannus yn tyfu, yn ffynnu ac yn cyflogi. • Mae gan Sir Benfro dros 12,375 o fusnesau cofrestredig. O'r rhain, mae 11,650 neu 94.1% yn cyflogi llai na 10 o bobl. O'r gweithlu, mae 12% yn hunangyflogedig. Ar hyn o bryd mae gan Sir Benfro y 3ydd dwysedd busnes uchaf (nifer o gwmnïau fesul 10,000 o boblogaeth oedran gwaith) yng Nghymru (650); y cyfartaledd yng Nghymru yw 464. O ran maint busnesau, mae hefyd yn amlwg yn Sir Benfro mai micro yw'r peth arferol, fel y mae mewn llawer o ardaloedd gwledig. Roedd gan y busnes cyfartalog yn Sir Benfro 3.3 o gyflogeion yn 2011, sef traean yn llai na'r busnes cyfartalog yng Nghymru. 19

• Mae nifer y busnesau newydd yn arwydd o ddiwylliant entrepreneuraidd yr ardal a'i photensial i dyfu. Fe'i rhoddir yn aml fel ystadegyn pwysig wrth asesu perfformiad yr economi a'r tebygolrwydd y bydd y perfformiad hwn yn cael ei gynnal. Asesir busnesau newydd yn aml ar sail cymhariaeth â phoblogaeth oedolion yr ardal. Yn 2005 roedd gan Sir Benfro y gyfradd uchaf o fusnesau newydd fesul 10,000 o'r boblogaeth oedran gwaith (81) o unrhyw Awdurdod Lleol yng Nghymru. Yn 2010 cwympodd y ffigur yn sylweddol i 39 fesul 10,000 o'r boblogaeth oedran gwaith. Dros yr un cyfnod cododd y gyfradd busnesau sy'n cau fesul 10,000 o'r boblogaeth oedran gwaith o 66 i 72. • Mae'r sectorau amaeth, bwyd a thwristiaeth yn gyflogwyr arwyddocaol yn y Sir ac mae ganddynt gadwynau cyflenwi lleol cryno. Mae twristiaeth ar ei phen ei hun yn darparu tua 14,180 o swyddi uniongyrchol amser llawn. Mae’r diwydiannau hyn yn dibynnu’n helaeth ar safon yr amgylchedd naturiol i ddatblygu’u cynhyrchion a’u gwasanaethau. Mae swyddi yn y sectorau hyn yn tueddu i fod â thâl isel, yn rhan amser ac yn dymhorol. • Mae Canolfan Arloesedd y Bont yn Noc Penfro'n dangos ein hymrwymiad i ddatblygu busnesau â lefel uchel o sgiliau a arweinir gan wybodaeth. Mae'r ffocws a'r buddsoddiad ar ddatblygu'r economi gwybodaeth yn seiliedig ar yr angen i amrywiaethu o swyddi gwerth ychwanegol isel. Mae ein cefnogaeth ar gyfer busnes seiliedig ar wybodaeth wedi'i gosod yn erbyn diffyg sefydliad addysg uwch arwyddocaol yn y Sir.


• Mae cwtogiadau ar wariant yn y sector cyhoeddus wedi cael effaith ar y trydydd sector. Er mwyn mynd i'r afael â'r gostyngiadau mewn incwm a gweithgareddau, mae angen cefnogaeth ar y trydydd sector a mentrau cymdeithasol i amrywiaethu eu cyfleoedd incwm. Mae gan Sir Benfro nifer o fentrau cymdeithasol llwyddiannus. 4.2.3 I helpu'r economi i hygyrchu cyfleoedd marchnad newydd, anelwn at ddarparu isadeiledd a buddsoddiad i gefnogi economi deinamig a ffyniannus. • Mae arian Ewropeaidd yn darparu cymorth hanfodol bwysig ar gyfer ymdrechion datblygu economaidd yn Sir Benfro. Rhwng 2007 a 2012, roedd buddsoddiad o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd yn gyfanswm o dros £76m i’r Sir. Yn ogystal, mae Sir Benfro hefyd yn elwa o arian Cynllun Datblygu Gwledig Cymru a Chronfa Pysgodfeydd Ewrop. Mae’r cronfeydd hyn yn cael eu defnyddio i ariannu’n rhannol brosiectau a chynlluniau i hyrwyddo ysfa gystadleuol 20

busnesau, datblygu sgiliau, darparu gwasanaethau i gymunedau gwledig a mynd i’r afael â diweithdra a thlodi. • Mae canolfannau manwerthu'r Sir yn elfen bwysig o’n hisadeiledd economaidd ond mae'r rhagolwg yn gymysg ar gyfer canol ein trefi. Mae arferion siopa newidiol, yn ogystal â chyfyngiadau lleol ar gynllun diriaethol ein trefi, yn cyflwyno heriau sylweddol. Mae data ar eiddo masnachol gwag yn rhoi darlun rhannol, gan mai ansawdd y cynnig manwerthu sydd o bwys i bobl leol ac ymwelwyr yn gymaint â nifer yr unedau gwag. Ar draws y Sir mae'r gyfradd unedau gwag yng nghanol y trefi'n 14.5% ar gyfartaledd, mae hyn yn cymharu â chyfradd unedau gwag gyfartalog o 15% ar draws y DU. Yn lleol, mae cyfraddau'n amrywio o lai na 4% yn Arberth i bron 20% yn Aberdaugleddau. Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein prif aneddiadau yn gweddu i'w gilydd yn fwy effeithiol. • Cafwyd cyfnod o fuddsoddiad cyson yn y sector ynni dros y pum mlynedd diwethaf. Mae hyn yn debygol o barhau, gyda chynnig i osod gwaith gwres a phŵer cyfunedig ar safle LNG South Hook. Mae cryn dipyn o ddiddordeb mewn prosiectau ynni adnewyddadwy hefyd, gan gynnwys gosodiadau ynni'r haul ar raddfa caeau, ynni ton a llanw a thyrbinau gwynt alltraeth. • Dros flynyddoedd diweddar mae'r sector ynni wedi buddsoddi dros £3 biliwn yn Sir Benfro. Mae hyn wedi arwain at welliant mewn lefelau cyflogau cyfartalog a chyfraddau cyflogaeth yn y sir. Mae'r sector yn darparu 2500 o swyddi'n uniongyrchol ac mae busnesau cadwyn gyflenwi


a gwasanaeth yn elwa ohono. Mae cyfleusterau Sir Benfro'n darparu 25% o gyflenwad nwy ac olew y DU ac yn cyfrannu dros £2 biliwn y flwyddyn mewn trethi. Cydnabuwyd pwysigrwydd y cyfraniad hwn ym mis Ebrill 2012 pan ddyfarnwyd statws Parth Menter i Aberdaugleddau gan Lywodraeth Cymru. • Mae datblygiadau marina a harbwr arfaethedig yn Noc Penfro, Aberdaugleddau ac Abergwaun yn cynrychioli buddsoddiad mewn darpariaeth hamdden uchel ei gwerth. Mae hyn yn darparu cyfleoedd ar gyfer twristiaeth uwch ei gwerth, yn ogystal ag ystod o gyfleoedd cadwyn gyflenwi ehangach megis peirianneg forol, datblygu porthladdoedd a rheilffyrdd a thai. Mae safon isadeiledd y porthladdoedd yn darparu cyfleoedd i gefnogi rhoi prosiectau ynni ton a llanw a gwynt alltraeth ar waith. Marchnad ychwanegol ar gyfer y porthladdoedd yw'r sector llongau mordaith cynyddol. Fodd bynnag, bydd angen i isadeiledd y porthladdoedd wella ymhellach er mwyn i ni fanteisio ar y duedd hon. • Ystyrir o hyd bod buddsoddi yn y rhwydwaith ffyrdd yn flaenoriaeth i economi Sir Benfro.

Gwelwyd rhai gwelliannau i'r A40 yn Llangwathen, gyda gwelliannau pellach wedi'u cynllunio ar gyfer Llanddewi Felffre a'r A477. Mae'r gwaith ar y “Llwybr Deheuol Strategol” a Heol Bulford newydd ym mynd rhagddo. • Mae Llywodraeth Cymru a BT wedi cytuno'n ddiweddar ar raglen fuddsoddi i gyflwyno band eang 'Cenhedlaeth Nesaf'4 i 96% o aelwydydd a busnesau yng Nghymru erbyn 2015. Bydd Parthau Menter ymysg yr ardaloedd cyntaf i elwa o'r buddsoddiad hwn. O ystyried natur wledig llawer o Sir Benfro, mae’n debygol y bydd llawer o aelwydydd a busnesau'n parhau yn y 4% na fyddant yn elwa o'r prosiect hwn. Mae Cynllun Cefnogi Band Eang Llywodraeth Cymru'n ymgais i ymdrin â hyn trwy ariannu prosiectau lleol, megis prosiect Band Eang Cymunedol Treleddyd Fawr. Mae Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn cyflawni datrysiadau band eang cymunedol trwy uwchraddio’r isadeiledd TGCh i fynd i’r afael â mannau araf a’r rhai heb wasanaeth. Cyfeirir at fand eang cenhedlaeth nesaf hefyd fel band eang 'goruwch gyflymder' neu fand eang 'cyflymder uchel'. Gall band eang cenhedlaeth nesaf gynnig llawer mwy o led band, yn gyffredinol hyd at dair gwaith yn gyflymach na band eang sylfaenol, gan olygu lawrlwytho o wefannau'n gyflymach.

4

21


4.3 Sir Benfro 2018 • niferoedd cymharol isel o bobl a chanddynt sgiliau lefel 3 ac uwch, • darparu datblygu sgiliau yn y fformat cywir ar gyfer cyflogwyr, • yn defnyddio lefelau gostyngol o arian Ewropeaidd yn gatalydd i gryfhau’r economi, • cefnogi ein dinasyddion yn sgil cyflwyno’r Ddeddf Diwygio Lles, • rôl newidiol ein canol trefi, • datblygu diwylliant o arloesedd, menter a chyflogaeth, ac • uchafu cyfleoedd statws Ardal Menter.

4.3.1 Yn ogystal â'r problemau sy'n bodoli heddiw, mae'r Cynllun hwn hefyd yn anelu at adnabod a mynd i'r afael â'r heriau sy'n debygol o ddod i'r amlwg yn ystod bywyd y cynllun. 4.3.2 Hyd y gellir rhagweld, bydd ein gallu i sicrhau bod gan Sir Benfro economi gystadleuol, cynhyrchiol a chynaliadwy yn cael ei effeithio gan yr hinsawdd economaidd anodd, a'r pwysau parhaus canlyniadol ar gyllidebau sector cyhoeddus. Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cynllunio at yr hir dymor, gan ymateb ar yr un pryd i heriau'r hinsawdd economaidd bresennol.

4.4 Beth ydym ni'n mynd i'w wneud?

4.3.3 Mae’r heriau allweddol ychwanegol i fynd i'r afael â nhw dros y blynyddoedd nesaf yn cynnwys:

4.4.1 Ar sail yr wybodaeth sydd ar gael i ni, rydym wedi cytuno i ffocysu ein gwaith ar dair blaenoriaeth allweddol:

• cyfraddau isel o dwf Gwerth Ychwanegol Crynswth/Cynnyrch Mewnwladol Crynswth a thwf diweithdra, • dibyniaeth ar nifer cyfyngedig o sectorau i greu swyddi a dewis cymharol gyfyngedig o swyddi neu gyfleoedd i symud ymlaen, • cyfran gymharol fawr o aelwydydd gyda phobl â thâl isel ac yn gweithio’n rhan amser, • llai o swyddi medrus yn y categorïau proffesiynol / proffesiynol cyswllt,

• Pobl sydd â'r dysgu, y sgiliau a'r hyder i wella'u cyfleoedd cyflogaeth • Busnesau llwyddiannus sy'n tyfu, yn ffynnu ac yn cyflogi • Isadeiledd a buddsoddiad i gefnogi economi deinamig a ffyniannus 22


Mae economi Sir Benfro yn ffyniannus ac yn llewyrchus

Diogelwch

Diogelu

Iechyd

Yr Amgylchedd

BLAENORIAETH

Economi

Plant a Theuluoedd

Cyfraniad at y Canlyniad

Beth rydym eisiau ei gyflawni:

GWEITHRED BENNAWD

Byddwn yn:

Datblygu a chyflwyno mentrau cyflogaeth Datblygu mentrau i gefnogi deallusrwydd yn y farchnad lafur a sgiliau'r dyfodol Pobl sydd 창'r dysgu, y sgiliau a'r hyder i wella'u cyfleoedd cyflogaeth

Lleihau rhwystrau i weithio Cefnogi datblygu sgiliau sector allweddol Targedu datblygiad mentrau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg Cyflwyno sgiliau arweinyddiaeth a rheoli Hyrwyddo a chefnogi mentrau bach a chanolig cychwynnol Hyrwyddo gweithgarwch entrepreneuraidd mewn ysgolion a cholegau Datblygu'r defnydd o gymalau budd cymunedol mewn contractau sector cyhoeddus

Busnesau llwyddiannus sy'n tyfu, yn ffynnu ac yn cyflogi

Hyrwyddo Sir Benfro fel canolbwynt ynni'r DU Darparu cefnogaeth i'r sectorau bwyd, twristiaeth ac amaeth Cynyddu ansawdd ac amrywiaeth y cynnig twristiaeth trwy'r Bartneriaeth Gyrchfannau Cefnogi mentrau cymdeithasol newydd a phresennol

23


Mae economi Sir Benfro yn ffyniannus ac yn llewyrchus

Diogelwch

Diogelu

Iechyd

Yr Amgylchedd

BLAENORIAETH

Economi

Plant a Theuluoedd

Cyfraniad at y Canlyniad

Beth rydym eisiau ei gyflawni:

GWEITHRED BENNAWD

Byddwn yn:

Gwella mynediad, cyflymder a chysylltedd cyfathrebu symudol a band eang Hyrwyddo datblygiad canol ein trefi a'n pentrefi Isadeiledd a buddsoddiad i gefnogi economi deinamig a ffyniannus

Cefnogi datblygiadau porthladd, marina a mordaith Datblygu Canolfan Arloesedd y Bont fel both arloesedd mewn busnes Cefnogi cyflwyniad y Parth Menter Mynd ati i ddatblygu ein safleoedd cyflogaeth strategol

24


4.5 Sut byddwn yn gwybod bod hyn yn gweithio? 4.5.1 Byddwn yn mesur ein cynnydd yn erbyn yr ystod o ddangosyddion pennawd a ddangosir isod. Dewiswyd y dangosyddion hyn oherwydd eu bod, ar y cyd, yn darparu darlun cytbwys o ansawdd bywyd yn Sir Benfro. Trwy gydweithio ein nod yw ‘troi'r gromlin’ a gwella perfformiad Sir Benfro. Mae'r llinell doredig ddu'n cynrychioli'r gwahaniaeth y bwriadwn ei gyflawni trwy gyflwyno'r Cynllun hwn. Nifer o fusnesau gweithredol

Cyflogaeth yn Sir Benfro

6500 6000

80

5500

70 60

5000

50 4500 40

4000

30

3500

20

3000

10 0

Maw 2006 Jun 2006 Medi 2006 Dec 2006 Maw 2007 Jun 2007 Medi 2007 Dec 2007 Maw 2008 Jun 2008 Medi 2008 Dec 2008 Maw 2009 Jun 2009 Medi 2009 Dec 2009 Maw 2010 Jun 2010 Medi 2010 Dec 2010 Maw 2011 Jun 2011 Medi 2011 Dec 2011 Maw 2012 Medi 2012 Maw 2013 Medi 2013 Maw 2014 Medi 2014 Maw 2015 Medi 2015 Maw 2016 Medi 2016 Maw 2017 Medi 2017

2500 2000 2008

2009

2010

2011

2012

Ceredigion

2013

Sir Penfro

2014

2015

2016

Sir Gâr

% 16-64 oed mewn cyflogaeth

Pennawd y pen ar brisiau sylfaenol cyfredol

% 16-ϲϰ ŽĞĚ ƐLJ͛Ŷ ŐLJĨůŽŐĞŝŽŶ

% 16-ϲϰ ŽĞĚ ƐLJ͛Ŷ ŚƵŶĂŶŐLJĨůŽŐĞĚŝŐ

LJĨƌŝĨ ,ĂǁůǁLJƌ >ǁĨĂŶƐ ĞŝƐŝŽ 'ǁĂŝƚŚ ĨĞů й Ž͛ƌ ďŽďůŽŐĂĞƚŚ ϭϲ-64 oed

5 7.0

25 000

6.0

20 000

5.0 4.0

15 000

3.0 10 000

2.0 1.0

5 000 0.0 0 1997

1998

1999

De-orllewin Cymru

5

2000

2001

2002

2003

2004

'ŽƌůůĞǁŝŶ LJŵƌƵ Ă͛ƌ LJŵŽĞĚĚ

2005

2006

Cymru

2007

2008

2009

Sir Gâr

Y DERYNAS UNEDIG

Nid oes unrhyw ddata ar gyfer Sir Benfro ar gael ar hyn o bryd.

25

Ceredigion

Sir Benfro

Cymru


5. yr Amgylchedd

5.1 Cyflwyniad

Mae pobl Sir Benfro'n mwynhau amgylchedd dymunol, cynaliadwy ac amrywiol

5.1.1 Mae dysgu byw'n gynaliadwy a diogelu ein hamgylchedd yn hollbwysig i iechyd a ffyniant Sir Benfro a'i phobl yn y dyfodol. Cydnabyddir yn gyffredinol bod amgylchedd naturiol iach ac amrywiol yn bwysig wrth gyfrannu i ansawdd bywyd a'i fod hefyd yn ffactor allweddol wrth gynnal twf economaidd. 5.1.2 Er bod pwysigrwydd ein hamgylchedd yn cael ei gydnabod, mae'n amlwg nad yw'r ffordd yr ydym yn manteisio ar y byd naturiol a defnyddio ei adnoddau ar hyn o bryd yn gynaliadwy. Ni allwn barhau i ddefnyddio deunyddiau mor gyflym ag yr ydym ar hyn o bryd, fel arall bydd cenedlaethau'r dyfodol yn wynebu problemau difrifol a diffyg adnoddau naturiol. Yn lle mae'n rhaid i ni barchu ein cyfyngiadau amgylcheddol a byw y tu mewn iddynt. 5.1.3 Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru'n ymgynghori ar ei Mesur Datblygu Cynaliadwy, y mae ei fwriad yw rhoi datblygu cynaliadwy wrth wraidd gwneud penderfyniadau ar yr holl wasanaethau cyhoeddus a'u cyflwyno. Byddwn yn gweithio y tu mewn i'r fframwaith datblygol hwn i sicrhau bod ein gwaith yn cefnogi lles amgylcheddol ein dinasyddion. Mae cynigion ar gyfer Bil Cynllunio, Bil Amgylcheddol a Bil Treftadaeth oll yn debygol o ddwyn ffrwyth yn ystod cyfnod y Cynllun hwn ac mae gan y cyfan y potensial i gyfrannu tuag at ei ganlyniadau. 26


• Yn y dyfodol bydd angen dull ecosystem holistig tuag at reoli tir sy’n cydbwyso’r defnydd o adnoddau naturiol gyda gofynion cadwraeth. Bydd angen i’r dull hwn ystyried materion megis newid hinsawdd, trwy gynnal system gysylltiedig o lefydd agored i roi bob cyfle i gynefinoedd a rhywogaethau addasu i’r effaith. • Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a Chyngor Sir Penfro wedi bodloni’r targedau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru’n gyson i leihau CO2. Mae pob sefydliad yn ymroddedig i fodloni neu ragori ar holl dargedau’r dyfodol. • Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ill dau wedi ennill achrediad y Ddraig Werdd ar gyfer rheolaeth amgylcheddol effeithiol ac maent yn ystyried yr opsiynau i ddilyn ISO 14001 a BS8555. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi cyflawni achrediad EMAS. Mae pob sefydliad wedi rhoi ar waith nifer o gynlluniau cynaliadwyedd gan gynnwys uwchraddio inswleiddio tai, gosod rheolyddion ynni effeithlon, gwneud rhagor o ddefnydd o ynni adnewyddadwy, lleihau teithiau mewn ceir, newid i fiodanwydd a phrynu’n lleol. • Mae nifer y paneli solar sydd wedi’u gosod ar dai preifat ac ymddangosiad twrbeini gwynt ledled y Sir yn arwydd clir fod unigolion a’r sector preifat yn buddsoddi mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy. Bydd gosodiadau ynni adnewyddadwy ar y tir ac ar y môr hefyd yn ymddangos fwy fwy ar dirlun Sir Benfro. • Mae mudiadau yn Sir Benfro wedi cydweithio i sicrhau cwrdd â thargedau ailgylchu Llywodraeth Cymru trwy ddarparu gwasanaethau casglu ymyl y ffordd, a thrwy greu pwyntiau ailgylchu diogel a dymunol. Ar hyn o bryd, mae 54% o wastraff wedi’i ddargyfeirio i gael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio.

5.2 Ble ydym ni nawr? 5.2.1 Ni ellir mynd i'r afael yn effeithiol â newid hinsawdd trwy weithio ar ein pennau ein hunain - mae'n dylanwadu arnom ni i gyd, ac ar draws ffiniau daearyddol a threfniadaethol. Mae'n rhaid i ni gydweithio i ddyfeisio strategaethau a fydd yn helpu i liniaru ei effaith. Bydd ein hymateb yn parhau i gynnwys gwella cyfleusterau gwastraff ac ailgylchu, lleihau allyriadau carbon a hyrwyddo atebion arloesol i’r heriau a wynebwn. • Mae ystadegau Swyddfa’r Tywydd yn dangos bod hinsawdd y DU yn cynhesu’n raddol ers 1960 ac mae modelu hinsawdd yn rhagweld bydd y duedd hon yn parhau. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi mai newid hinsawdd yw un o’r bygythiadau mwyaf difrifol sy’n wynebu’r byd ac yn rhagweld y gall tymheredd cyfartalog y byd godi rhwng 1.1°C a 6.4°C uwchben lefelau 1990 erbyn diwedd y ganrif hon. • Mae dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru ‘Cymru Fyw: Fframwaith Amgylchedd Naturiol’ yn nodi’r cynigion i sicrhau fod gan Gymru ecosystemau fwyfwy gwydn ac amrywiol sy’n cynnig manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol. Maent yn cynnwys ystyried yr amgylchedd yn system gyfan a rhoi ar waith broses gynllunio gofodol sengl a seiliwyd ar risg.

27


• Mae mudiadau lleol yn ailddefnyddio neu'n ailgylchu sypiau mawr o ddodrefn, dillad ac eitemau eraill. Er enghraifft yn 2011/12 ailddefnyddiodd ac ailgylchodd Pembrokeshire FRAME Ltd 430 tunnell o ddodrefn, dillad ac eitemau cartref eraill, gan gynrychioli 2.43% o'r cyfanswm ailgylchu a recordiwyd gan y Cyngor Sir. Mae siopau elusennau hefyd yn gwneud cyfraniad arwyddocaol, ond nid yw'r wybodaeth hon yn cael ei chofnodi. Yn seiliedig ar ystadegau cenedlaethol, amcangyfrifir y gallai siopau elusennau fod yn cyfrannu 4.3% pellach o ailgylchu 'cuddiedig'. • Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol a'r Cyngor Sir wedi cydnabod yr angen am ddatblygu tai fforddiadwy o safon ac wedi cefnogi safonau dylunio adeiladu priodol a chynaliadwy. • Mae'r partneriaid yn gweithio i gynyddu ymwybyddiaeth ar ystod o faterion amgylcheddol gyda'r sector preifat a chyda'r cyhoedd. Mae’r dulliau ymgysylltu’n cynnwys rhaglenni addysg wedi'u teilwra a anelir at bob grŵp oedran, darparu cyngor i fusnesau ar ddefnyddio adnoddau a mentrau carbon isel, neu drefnu digwyddiadau sy'n canolbwyntio ar yr amgylchedd naturiol neu hanesyddol. • Mae partneriaeth sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, y Cyngor Sir, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Network Rail, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad a PCNPA wedi datblygu Cynllun Rheoli'r Draethlin, sy'n adnabod risgiau i gymunedau, busnesau, isadeiledd a chynefinoedd o ganlyniad i newid hinsawdd a chynnydd yn lefel y môr. Mae'r cynllun hefyd yn cynnig gweithredu i

liniaru'r bygythiadau trwy weithio’n effeithiol mewn partneriaeth. 5.2.2 Mae amgylchedd naturiol eithriadol Sir Benfro'n un o'n hasedau mwyaf. Mae traean o'r Sir wedi'i diogelu gan statws Parc Cenedlaethol ac mae nifer a maint y dynodiadau cadwraeth yn gydnabyddiaeth glir o’i phwysigrwydd o ran bioamrywiaeth a daeareg. • Mae asedau naturiol Sir Benfro yn golygu ei bod yn lleoliad gwyliau pwysig. Mae twristiaeth yn ddiwydiant allweddol yr amcangyfrifir ei bod yn cyfrannu bron i £570 miliwn i’r economi leol ac yn cefnogi mwy na 16,000 o swyddi’n uniongyrchol ac anuniongyrchol. • Mae ystod eang o sefydliadau ac unigolion yn cyfrannu tuag at reoli’r amgylchedd naturiol trwy weithio mewn partneriaeth. Mae’n cynnwys cynlluniau amaethyddol amgylcheddol, rheoli safleoedd dynodedig, gweithio ar brosiectau rheoli tir mawr, rheoli gwarchodfeydd natur cenedlaethol, gweithio gyda pherchnogion tir, rheoli afonydd, a gweithio mewn partneriaeth â diwydiant (e.e. grŵp Gwyliadwriaeth Amgylcheddol Dyfrffyrdd Aberdaugleddau).

28


• Yn bartneriaid cynllunio, mae Cyngor Sir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro wedi cynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol yr un sy’n sefydlu’r strategaethau a’r polisïau i arwain y defnydd a’r datblygiad o dir yn Sir Benfro hyd at 2021. Mae pob cynllun yn cydnabod pwysigrwydd yr amgylchedd naturiol a hanesyddol ac yn cynnwys polisïau clir gyda’r nod o ddiogelu a chynnal cymeriad nodedig y Sir. • Rydym yn cydnabod gwerth ein hamgylchedd hanesyddol a’i phwysigrwydd i’n helpu i ddeall ein cefndir a chadw ein treftadaeth ddiwylliannol unigryw. Yn ogystal, rydym yn cydnabod bod gan yr amgylchedd adeiledig effaith uniongyrchol ar ansawdd bywydau pobl. Mae ystod eang o sefydliadau ac unigolion yn gweithio gyda’i gilydd i ddehongli a chadw nodweddion arbennig a chymeriad nodedig Sir Benfro, a’i gwneud yn hygyrch i gynulleidfa ehangach. • Mae PLANED, partneriaeth sy’n cael ei harwain gan y gymuned, yn gweithio ledled Sir Benfro i gyflawni prosiectau sydd â manteision 29

diwylliannol, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar gyfer pobl leol a ffocws penodol ar gynaliadwyedd. • Mae Partneriaeth Fioamrywiaeth Sir Benfro yn gyfrifol am gyflwyno’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol. Mae'r cynllun yn nodi strategaethau i ymdrin ag ystod o heriau amgylcheddol gan gynnwys gwella amgylcheddau dŵr croyw, arfordirol a mewndirol, adfer ac ail-greu cynefinoedd a diogelu rhywogaethau. • Ymfalchïwn yn ansawdd ein hamgylchedd. Mae asesiad annibynnol o Sir Benfro wedi barnu bod 98.8% o gefnffyrdd a thir perthnasol wedi’u cynnal a chadw at safon uchel neu dderbyniol o lendid. Mae gan Sir Benfro 12 traeth Baner Las (mwy nag unrhyw ran arall o'r DU), 1 parc gwledig Baner Werdd a mwy na 50 o Wobrau Arfordir a Glan Môr y mwyaf yng Nghymru. 5.2.3

Mae mynediad dibynadwy i asedau isadeiledd megis ffyrdd, trydan, TGCh, dŵr a charthffosiaeth yn anghenraid ar gyfer y gymdeithas fodern. Gan fod Sir Benfro'n sir wledig, mae'n rhaid i ni barhau i gynnal a gwella’r gwella’r isadeiledd ac adnoddau cyfathrebu angenrheidiol sy'n galluogi pobl i hygyrchu gwasanaethau lleol. Wrth wneud hyn rydym hefyd yn cefnogi bywiogrwydd hir dymor ein cymunedau trwy greu cyfleoedd cyflogaeth lleol. Mae cludiant yn fater arbennig o bwysig i bobl a’n her yw ceisio lleihau dibyniaeth ar berson unigol yn teithio mewn car. • Mae’r Cynlluniau Datblygu Lleol ar gyfer Sir Benfro wedi adnabod cynaladwyedd fel blaenoriaeth


allweddol. Dylanwadir yn gryf ar y strategaeth ar gyfer datblygu yn y dyfodol gan argaeledd gwasanaethau presennol, cyfleoedd cyflogaeth a galluoedd yr isadeiledd cludiant presennol. • Mae awdurdodau lleol yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i hysbysebu a rhoi cyngor ar fynediad i'r llwybrau a llwybrau ceffyl o dan eu gofal nhw, ac yn cynnal safleoedd a meysydd parcio niferus sy'n darparu mynediad i lwybrau cerdded a thraethau poblogaidd. Yn ogystal â darparu cyfleoedd ar gyfer cludiant cynaliadwy ar droed ac ar feic, mae gan ein rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus arwyddocâd economaidd ar gyfer y diwydiant twristiaeth. Mae hawliau tramwy cyhoeddus hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer hamdden ac ymarfer corff iach. • Mae’r Cynlluniau Datblygu Lleol yn cefnogi cerdded a beicio fel dewisiadau cynaliadwy amgen o deithio yn Sir Benfro, a hynny fel gweithgareddau hamdden ac yn ddulliau cyfleus o deithio sy'n llesol i'r amgylchedd ar gyfer teithiau byrrach. Ers 2001, buddsoddwyd 30

£5,306,000 mewn 26 o gynlluniau gwella ar draws y Sir i ddarparu llwybrau diogel mewn cymunedau, yn enwedig i ysgolion. Mae hyfforddiant diogelwch ffyrdd at safonau cenedlaethol ar gael i'r holl blant ysgol gynradd (ac i oedolion ar gais). • Mae darpariaeth cludiant mewn sir wledig fel Sir Benfro yn fater cymhleth trawsbynciol sy’n dylanwadu ar holl ganlyniadau’r Cynllun Integredig Sengl ond yn enwedig y rheini sy’n berthnasol i’r Economi ac Iechyd. Mae hygyrchedd a fforddiadwyedd cludiant cyhoeddus, preifat a chymunedol yn effeithio’n ddifrifol ar y dewisiadau sydd ar gael i nifer o drigolion o ran mynediad i wasanaethau, cyfleoedd cyflogaeth a hamdden. Mae dwysedd poblogaeth isel a chyfyngiadau ar adnoddau’n golygu bod arloesedd a hyblygrwydd o ran darpariaeth cludiant yn anghenraid, yn enwedig ar gyfer y rheini a chanddynt incwm isel ac sy’n chwilio am waith, neu ar gyfer y rheini a chanddynt broblemau iechyd a symudedd ac angen cael mynediad i wasanaethau. • Mae'r defnydd o gludiant cyhoeddus yn cael ei hyrwyddo’n eang ac mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol a'r Cyngor Sir yn cefnogi Gwasanaeth Bws yr Arfordir sy'n darparu mynediad i bob rhan o'r arfordir gan ddefnyddio cerbydau addas i gadeiriau olwyn. • Mae'r tair llinell reilffordd yn Sir Benfro'n darparu cysylltiad â'r rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol ynghyd â rhai cyfleoedd cymudo lleol. Er hynny, bysiau yw'r brif ffurf ar gludiant cyhoeddus a


ddefnyddir, er bod gwasanaethau rheolaidd a mynych wedi'u cyfyngu i'r prif rwydwaith ffyrdd. Mae'r defnydd o gludiant cyhoeddus i deithio i'r gwaith yn gyfyngedig (3.01% ar fysiau ac 0.38% ar y rheilffordd) o'i gymharu â 65% o bobl sy'n teithio i'r gwaith yn y car. Ceir preifat yw’r brif ffurf ar gludiant o hyd ac isadeiledd y priffyrdd yw’r ffactor unigol pwysicaf sy’n effeithio ar deithio i'r gwaith. • Mae'r defnydd o wasanaethau cludiant cymunedol gwirfoddol yn helpu'r rhai nad oes ganddynt fynediad i'w cludiant eu hunain ac nad oes ganddynt neu na allant ddefnyddio gwasanaethau cludiant cyhoeddus confensiynol. Yn ogystal, mae darpariaeth symudol yn cynnig gwasanaethau gwerthfawr i bobl yn eu cartrefi eu hunain, gan helpu i gefnogi byw’n annibynnol a brwydro yn erbyn unigedd gwledig. • Ers 2010, mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda a’r Cyngor Sir wedi cyflogi swyddog cludiant amser llawn i ddatblygu opsiynau cludiant nad ydynt yn frys ar gyfer cleifion. Yn Sir Benfro, yn ystod y flwyddyn ariannol 2011/12 gwnaed 1,584 o

deithiau gan gleifion ym mysiau mini'r Cyngor Sir, ar gost gyfartalog o £26.68. Y gost gyfartalog ar gyfer y teithiau hyn mewn ambiwlans fyddai £41.99. Yn ystod yr un cyfnod, gwnaed 674 o deithiau gan gleifion mewn cerbydau cludiant cymunedol, am gost gyfartalog o £6.00 y daith. Gyda’i gilydd mae’r mentrau hyn wedi arbed mwy na £51,000. • Mae Sir Benfro'n bell o brif glymdrefi De Cymru ac mae cysylltiadau ffordd i Sir Benfro ac oddi mewn iddi'n gyfyngedig, heb unrhyw draffyrdd neu ffyrdd deuol, er mai hon yw un o’r prif ffyrdd trafnidiaeth i Weriniaeth Iwerddon. Er hynny, mae isadeiledd y priffyrdd yn gynhwysfawr, gan gynnwys 175 milltir o gefnffyrdd a phrif heolydd dosbarth A a mwy na 1,400 o filltiroedd o ffyrdd eraill ar draws poblogaeth fach y cefn gwlad. Gellir cymharu cyflwr cefnffyrdd Sir Benfro ag awdurdodau eraill, gyda 6.3% o ffyrdd-A yn cael eu hasesu yn rhai mewn cyflwr gwael, sy'n agos at y ffigur cyfartalog o 6% ar gyfer Cymru.

31


5.3.4 Bydd prisiau ynni, tanwydd a bwyd yn cynyddu a fydd yn: • cael effaith negyddol anghymesur ar ardal wledig anghysbell fel Sir Benfro, • rhoi rhagor o straen ariannol ar aelwydydd gan beri caledi i’r rheini ar incwm isel neu incwm sefydlog, • ei wneud yn anoddach i fusnesau gwledig gystadlu, a • gwneud rhagor o wasanaethau bws yn anghynaladwy.

5.3 Sir Benfro 2018 5.3.1 Yn ogystal â'r problemau sy'n bodoli heddiw, mae'r Cynllun hwn hefyd yn anelu at adnabod a mynd i'r afael â'r heriau sy'n debygol o ddod i'r amlwg yn ystod oes y cynllun hwn. 5.3.2 Mae’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd wedi adnabod nifer o effeithiau tebygol sy'n deillio o newid hinsawdd gan gynnwys:

5.4 Beth ydym ni'n mynd i'w wneud?

• rhagor o ddigwyddiadau tywydd eithafol yn arwain at lifogydd a sychder, • effeithiau niweidiol ar iechyd planhigion ac anifeiliaid, • cynnydd yn y prinder o fwyd a dŵr, • cynnydd hir dymor na ellir ei gywiro yn lefel y môr; a • bygythiad cynyddol i isadeiledd a allai: o ddadleoli pobl ac amharu ar wasanaethau a chyfathrebu, a o niweidio neu ddinistrio asedau megis ffyrdd, rheilffyrdd, cyflenwadau trydan

5.4.1 Ar sail yr wybodaeth sydd ar gael i ni, rydym wedi cytuno i ffocysu ein gwaith ar dair blaenoriaeth allweddol: • Bydd Sir Benfro yn mynd i'r afael â her newid yn yr hinsawdd • Bydd ansawdd amgylchedd Sir Benfro'n cael ei ddiogelu a'i wella • Bydd gan Sir Benfro gysylltiadau cyfathrebu da i'r Sir ac o fewn y Sir.

5.3.3 Bydd bodloni gofynion deddfwriaeth yr UE, Llywodraeth Prydain a Chymru yn golygu: • cynyddu cyfanswm y gwastraff sy’n rhaid ei ailgylchu a’i gompostio, a • lleihau ôl troed carbon sefydliadau a gweithgareddau.

32


Mae pobl Sir Benfro'n mwynhau amgylchedd dymunol, cynaliadwy ac amrywiol

Diogelwch

Diogelu

Iechyd

Yr Amgylchedd

BLAENORIAETH

Economi

Plant a Theuluoedd

Cyfraniad at y Canlyniad

Beth rydym eisiau ei gyflawni:

GWEITHRED BENNAWD

Byddwn yn:

Cwrdd â thargedau ailgylchu/compostio Llywodraeth Cymru Cwrdd â thargedau gostwng carbon Llywodraeth Cymru Bydd Sir Benfro yn mynd i'r afael â her newid yn yr hinsawdd

Hyrwyddo cynaladwyedd trwy raglen addysg gynhwysfawr Creu cymunedau gwydn sy'n gallu ymdopi â newid hinsawdd Defnyddio'r CDLl i hyrwyddo datblygu cynaliadwy Hyrwyddo gweithgarwch economaidd isel ei effaith mewn cymunedau lleol Cynnal ansawdd traethau Sir Benfro a dDŽr ymdrochi Diogelu bioamrywiaeth Sir Benfro

Bydd ansawdd amgylchedd Sir Benfro'n cael ei ddiogelu a'i wella

Gweithio i ddifodi chwyn ymledol anfrodorol Gwella ansawdd aer a sicrhau statws ecolegol da ardaloedd o ddDŽr Diogelu amgylchedd hanesyddol a naturiol Sir Benfro

33


Mae pobl Sir Benfro'n mwynhau amgylchedd dymunol, cynaliadwy ac amrywiol

Diogelwch

Diogelu

Iechyd

Yr Amgylchedd

BLAENORIAETH

Economi

Plant a Theuluoedd

Cyfraniad at y Canlyniad

Beth rydym eisiau ei gyflawni:

GWEITHRED BENNAWD

Byddwn yn:

Lob誰o dros a hyrwyddo'r defnydd o systemau TGCh gwell Cynnal a chadw llwybrau troed a cheffyl at safon dda Bydd gan Sir Benfro gysylltiadau cyfathrebu da i'r Sir ac o fewn y Sir

Hyrwyddo cerdded a beicio fel ffyrdd cynaliadwy o deithio Integreiddio gwasanaethau ac isadeiledd bws, rheilffordd, beicio a cherdded Hyrwyddo a chefnogi cludiant cyhoeddus fforddiadwy a hygyrch Hyrwyddo a chefnogi mentrau cludiant cymunedol Cynnal a chadw ffyrdd at safon dda

34


5.5 Sut byddwn yn gwybod bod hyn yn gweithio? 5.5.1 Byddwn yn mesur ein cynnydd yn erbyn yr ystod o ddangosyddion pennawd a ddangosir isod. Dewiswyd y dangosyddion hyn oherwydd eu bod, ar y cyd, yn darparu darlun cytbwys o ansawdd bywyd yn Sir Benfro. Trwy gydweithio ein nod yw ‘troi'r gromlin’ a gwella perfformiad Sir Benfro. Mae'r llinell doredig ddu'n cynrychioli'r gwahaniaeth y bwriadwn ei gyflawni trwy gyflwyno'r Cynllun hwn. % gostyngiad mewn carbon

,ĂǁůŝĂƵ dƌĂŵǁLJ LJŚŽĞĚĚƵƐ ƐLJ͛Ŷ ,ĂǁĚĚ ŝ͛ǁ ĞĨŶLJĚĚŝŽ

45%

100%

40%

90%

35%

80%

30%

70% 60%

25%

50%

20%

40%

15%

30%

10%

20%

5%

10%

0%

0%

2005/06 2006/07 2007/08 2008/09 2009/10 2010/11 2011/12 2012/13 2013/14 2014/15 2015/16 2016/17

Gostyngiad Targed

Sir Benfro

Gostyngiad Gwirioneddol

Ffyrdd dosbarth A mewn cyflwr gwael

Sir Gâr

Ceredigion

Cymru

Strydoedd wedi'u glanhau at safon uchel neu dderbyniol

9.00% 8.00%

100% 7.00% 99% 6.00%

98%

5.00%

97%

4.00%

96%

3.00%

95%

2.00%

94%

1.00%

93% 92%

0.00% 2007-08

2008-09 Cymru

2009-10 Sir Benfro

Sir Gâr

2010-11

2005/06

2011-12

Ceredigion

2006/07

2007/08

Sir Benfro

Sir Gâr

2008/09

2009/10

2010/11

Ceredigion

Gwaredu Gw astraff 60,000

50,000

40,000

Agenda Datblygu Data: Datblygu mesurau i asesu cyflwr bioamrywiaeth yn Sir Benfro

30,000

20,000

10,000

0

Tirlenwi

Ailgylchedig

Compostio

lwfansau tirlenwi

35


6. Iechyd, gofal a lles

6.1 Cyflwyniad

Mae pobl Sir Benfro yn fwy iach 6.1.1 Cydnabyddir yn gyffredinol bod llawer o ffactorau'n effeithio ar iechyd. Ar lefel unigol mae ffactorau biolegol sefydlog, megis oedran, rhyw a chyfansoddiad genetig, a ffactorau ffordd o fyw y gellir eu newid fel ysmygu, deiet ac ymarfer corff. Ar lefel uwch yw'r penderfynyddion ehangach sy'n dylanwadu ar iechyd, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, gan gynnwys ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. 6.1.2 Cydnabuwyd ers tro nad yw gwella iechyd a lles yn rhywbeth y gall un mudiad unigol ei wneud ar ei ben ei hun. Gall mudiadau sy'n gweithio mewn partneriaeth gyflwyno gwell canlyniadau na'r rhai sy'n gweithio ar wahân. Dyna pam mae Cyngor Sir Penfro a Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi gweithio ar y cyd gyda phartneriaid yn y sector gwirfoddol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r gymuned ehangach i ganolbwyntio ar y canlyniad hwn. Mae gennym gyfrifoldeb i gydweithio i ymdrin ag ystod y cydrannau sy'n gwneud iechyd da a sicrhau bod pawb mor iach ag y gallant fod. 6.1.3 Mae gennym rôl i'w chwarae fel unigolion hefyd; mae'n rhaid i ni gymryd mwy o gyfrifoldeb dros ein hiechyd ein hunain. Mae angen annog yr ymdeimlad hwn o gyfrifoldeb yn y gymuned ehangach - fodd bynnag gallai annog unigolion i fabwysiadu ffyrdd mwy iach o fyw brofi i fod yn her sylweddol. 36


cymdeithasol, oherwydd bydd y grŵp oedran hwn yn fwy tebygol o fod angen y gwasanaethau hyn.

6.2 Ble ydym ni nawr?

• Yn 2001, roedd ychydig o dan 9% o’r boblogaeth dros 75 oed. Yn 2011, cynyddodd hyn i 10% ac erbyn 2021 rhagwelir y bydd yn 13%. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o dros 50% yn nifer y bobl dros 75 oed rhwng 2011 a 2021. • Mae nifer y bobl yn Sir Benfro sy’n derbyn gwasanaethau cymdeithasol i oedolion wedi cynyddu’n sylweddol (o tua 30%) ers 2007. Mae’r mwyafrif o’r cynnydd hwn ymhlith y rheini dros 65 oed. Mae’r cynnydd yn y galw ar adnoddau cyfyngedig yn golygu y bydd rhaid adolygu pa wasanaethau yr ydym yn eu darparu, sut yr ydym yn eu darparu ac i bwy y gallwn eu darparu • Mae nifer y cwsmeriaid dros 18 oed sy’n derbyn gwasanaethau wedi cynyddu o 36% ers 2009/10. Mae cwsmeriaid hefyd yn dewis derbyn gofal yn y cartref wrth i ofal cartref gael ei ystyried yn gynyddol yn lle darpariaeth cartref gofal. • Mae’r cynnydd yn nifer y bobl hŷn yn debygol o gael ei gysylltu â chynnydd mewn cyflyrau cronig sy’n berthnasol i oedran, megis afiechydon cylchrediad ac anadlol a chanserau. Yn 2010, yr achosion marwolaeth mwyaf niferus yng Nghymru oedd afiechydon y system gylchrediad (33%), canser (28%) ac afiechydon y system anadlol (14%). • Mae anghenion iechyd pobl wedi newid ers i’r gwasanaethau cymunedol presennol gael eu llunio 10 i 15 mlynedd yn ôl. Yr her bellach yw datblygu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ymatebol 24 awr sy’n cefnogi grwpiau sy’n agored i niwed a chadw pobl allan o ofal sefydliadol amhriodol. Trwy ddatblygu ymyraethau wedi’u targedu, bellach mae gwasanaethau’n cael eu darparu i gefnogi pobl yn y gymuned yn hirach. Dengys ffigurau ar hyn o bryd, bod 94.8% o gwsmeriaid gofal cymdeithasol dros 18 oed a

6.2.1 Mae disgwyliad hyd oes yn y Sir yn cynyddu. Mae disgwyliad hyd oes ymysg dynion yn Sir Benfro yn agos at y ffigur cyfartalog ar gyfer Cymru ac wedi cynyddu'n gyson yn unol â'r ffigur Cymru gyfan (cynnydd o 4% ar gyfer disgwyliad hyd oes o enedigaeth dros ddeng mlynedd). Mae disgwyliad hyd oes ar gyfer menywod ychydig uwchben y ffigur cyfartalog ar gyfer Cymru ac wedi cynyddu'n unol â ffigur cyfartalog Cymru (2.9% dros ddeng mlynedd). Wrth i ddisgwyliad oes barhau i gynyddu, mae’n bwysig nodi y gallai nifer o’r blynyddoedd ychwanegol hyn o fywyd olygu iechyd llai ffafriol neu gyfnodau hir o iechyd gwael a dibyniaeth. 6.2.2 Gyda chynnydd mewn disgwyliad oes bu newid yn y boblogaeth, â phobl hŷn bellach yn fwy o’r gyfran boblogaeth. Y newidiadau demograffig mwyaf sylweddol a welwyd hyd yn hyn, a rhagwelir y bydd hyn yn parhau, yw’r cynnydd yn nifer y bobl hŷn yn y Sir. Yn 2001, roedd tua 19% o’r boblogaeth yn 65 oed a hŷn. Erbyn 2011, roedd hyn wedi cynyddu i 22%. Mae cyfran y bobl hŷn yn y grŵp oedran 65 oed a hŷn hefyd yn cynyddu, sy’n berthnasol iawn i ddarpariaeth gwasanaethau iechyd a gofal

37


90.45% o gwsmeriaid dros 65 oed yn cael eu cefnogi yn y gymuned. • Yn ôl canlyniadau Arolwg Iechyd Cymru 2010/11, mae 9% o’r boblogaeth sy’n oedolion ar hyn o bryd yn cael eu trin am salwch meddwl. Amcangyfrifir bod gan 1,846 o bobl dros 65 oed ddementia cynnar. • Rydym yn cydnabod y bydd angen ar bobl fynediad i wahanol fathau o wasanaethau ar wahanol gyfnodau yn eu bywyd. Bydd y gwasanaethau hyn yn gwahaniaethu mewn natur a bydd angen iddynt ymateb i’r newid mewn anghenion, o gritigol a sylweddol, i gymedrol neu isel. Bydd darparwr y gwasanaethau hefyd yn newid yn unol â hynny. 6.2.3

Gwyddys bod ymddygiad iechyd pobl yn effeithio ar eu hiechyd a risg marwolaeth, gyda deiet iach a chytbwys a gweithgaredd corfforol rheolaidd yn rhannau hanfodol o fyw'n iach. Mae ysmygu, deiet gwael a defnydd gormodol o alcohol i gyd yn cael effaith fawr ar iechyd, gan arwain yn aml at bobl yn dioddef o salwch tymor hir a marwolaeth gynnar. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod unigolion yn ymwneud yn gynyddol â'r ymddygiadau negyddol hyn, gan arwain at ganlyniadau iechyd gwael.

• Mae data Arolwg Iechyd Cymru 2011 yn cadarnhau bod 39% o oedolion Sir Benfro wedi adrodd am yfed alcohol uwchben y terfyn dyddiol argymelledig o leiaf un diwrnod yn ystod yr wythnos ddiwethaf, gan gynnwys 22% a adroddodd am yfed yn wyllt. Roedd y ffigurau Cymru gyfan yn 44% a 27% yr un. • Mae cyfraddau gordewdra'n cynyddu'n gyflym, gyda chynnydd o tua 20% mewn deng mlynedd a chyfraddau ar gyfer y Sir yn agos at neu uwchben cyfartaledd Cymru. Mae ffigurau diweddar Arolwg Iechyd Cymru'n awgrymu bod tua 22% o oedolion yn Sir Benfro yn ordew. Mae gordewdra yn cynyddu'r risg o ddatblygu ystod helaeth o glefydau cronig, gan gynnwys clefyd y siwgr math 2, pwysau gwaed uchel a chlefyd cardiofasgwlaidd gan gynnwys strôc. Gall hefyd amharu ar les ac ansawdd bywyd yr unigolyn. • Parhaodd lefelau gweithgarwch corfforol yn gymharol sefydlog gyda thua 3 o bob 10 o oedolion yn adrodd am 5 neu fwy o ddiwrnodau

• Gostyngodd cyfraddau ysmygu cyffredinol ymysg oedolion yn Sir Benfro o 26% yn 2003/04 i 24% (ychydig yn uwch na'r ffigur Cymru gyfan o 23%). Fodd bynnag, erys ysmygu fel yr achos unigol mwyaf o farwolaeth y gellid ei hosgoi yng Nghymru. 38


actif yr wythnos yn 2011. Fodd bynnag, adroddodd tua 3 o bob 10 o oedolion nad oeddent wedi gwneud unrhyw weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos flaenorol. 6.2.4

Mae anghydraddoldebau iechyd yn fwy na mater technegol neu academaidd; gwahaniaethau ydyn nhw a all effeithio'n fawr ar fywyd yr unigolyn. Mae anghydraddoldebau'n deillio o sawl ffactor megis tlodi, lleoliad daearyddol, diwylliant a ffordd o fyw. Er bod rhai o'r rhain yn bethau na allwn eu newid, gellir osgoi llawer o'r gwahaniaethau mewn iechyd rhwng rhannau gwahanol o'n cymdeithas. • Mae'r cyswllt rhwng amddifadedd economaiddcymdeithasol a chanlyniadau iechyd gwael wedi'i sefydlu ers tro. Mae gan hwn y potensial i gael effaith negyddol ar gydlyniad cymunedol. Mae'n amlwg o adroddiad cryno Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) nad yw amddifadedd yn 39

Sir Benfro mor gyffredin o'i gymharu â gweddill Cymru, a bod yr achosion sydd gennym wedi'u crynhoi bron yn gyfan gwbl yn rhannau trefol y Sir. Mae gan Sir Benfro nifer cymharol fach o ardaloedd difreintiedig. Mae llai na 5% o drigolion yn byw mewn cymunedau sy'n dod o dan y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. • Cydnabuwyd ers tro bod gofalwyr (perthnasoedd, cyfeillion a chymdogion nad ydynt yn derbyn tâl) yn darparu cyfran sylweddol a chynyddol o ofal, gan helpu pobl i barhau i fyw yn eu cartrefi. Cydnabyddir hefyd y gall gofalu am eraill gael effaith andwyol ar iechyd a lles. Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd cyfanswm o 15,195 o ofalwyr yn Sir Benfro, gan gynrychioli 12% o'r boblogaeth. • Mae ein cymunedau’n aml yn agored i gostau cludiant costus ac argaeledd. Mae darparu rhwydwaith cludiant sydd wedi’i gydlynu’n dda ac opsiynau i fodloni anghenion pobl mewn ardaloedd gwledig yn hanfodol. Mae pobl heb gludiant yn parhau’n unig yn ddaearyddol, yn methu â chael mynediad i wasanaethau, gweithgareddau a chyfleoedd gwaith. Nid yw un ar ddeg y cant o aelwydydd yng nghefn gwlad Cymru yn berchen ar nac â mynediad i gerbyd modur. Mae pobl ar incwm isel a phobl dros 65 oed yn ffurfio canran uchel o’r categori hwn. • Yn ogystal â wynebu anawsterau wrth hygyrchu gwasanaethau iechyd, mae unigolion na allant hygyrchu cludiant yn hwylus yn aml yn colli allan ar fynd i weithgareddau cymdeithasol a hamdden. Mae hyn yn ynysu'r unigolyn o gymdeithas, sy’n gallu cael effaith andwyol ar ei iechyd a lles.


• Ceir ymwybyddiaeth gynyddol yn y modd mae iechyd a thai yn cyd-fynd a'r pwysigrwydd o sut y gall tai dal ddylanwadu ar les corfforol, meddyliol a chymdeithasol unigolion a chymunedau. Cydnabyddir hefyd bod amgylchedd sefydlog yn y cartref yn gallu arwain at well cyfleoedd addysgol a chyflogaeth. Mae’n bwysig darparu tai priodol, fforddiadwy i fodloni anghenion tai pobl sy’n agored i niwed a darparu’r dewis a’r cymorth iddynt allu byw yn eu cymunedau lleol lle bynnag bo’n bosibl. • Ceir prinder o dai fforddiadwy yn Sir Benfro. Mae'r cynnydd mewn prisiau tai ers 2001 yn golygu bod prynu tŷ y tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf o aelwydydd nad ydynt yn berchen ar eu cartref ar hyn o bryd. Yn 2011 roedd y pris tŷ canolrif yn Sir Benfro yn £152,500 a'r pris tŷ yn y chwartel isaf oedd £117,000. Yn ystod yr un flwyddyn, yr incwm aelwyd canolrif oedd £23,430, cymhareb fforddadwyedd tai o 5:1. 40

6.3

Sir Benfro 2018

6.3.1

Yn ogystal â'r problemau sy'n bodoli heddiw, mae'r Cynllun hwn hefyd yn anelu at adnabod a mynd i'r afael â'r heriau sy'n debygol o ddod i'r amlwg yn ystod oes y cynllun hwn.

6.3.2

Bydd Sir Benfro yn gweld cynnydd sylweddol yn ei phoblogaeth hŷn yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Mae’r bwlch mewn disgwyliad oes rhwng yr ardaloedd lleiaf a mwyaf difreintiedig yn Sir Benfro yn sylweddol a rhaid mynd i’r afael â hyn er mwyn osgoi rhagor o annhegwch. Rydym eisoes yn gweld llawer mwy o bobl hŷn yn mewnfudo na’r mwyafrif o siroedd, oherwydd ystyrir Sir Benfro yn lle deniadol i fyw, yn enwedig yn hwyrach mewn bywyd. Rydym eisoes yn gweld galw sylweddol ar gyfer ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a bydd hyn yn parhau. Mae’n amlwg na allwn gynnal ein gwasanaethau yn eu fformat presennol a bydd rhaid i ni weithio gyda’n cymunedau a’n hunigolion i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw ac annog unigolion i barhau mor iach ac annibynnol â phosibl gydag ychydig iawn o gefnogaeth.

6.3.3

Dros y blynyddoedd nesaf, bydd partneriaid yn parhau i brofi pwysau difrifol ar gyllidebau. Bydd y cynnydd a ragwelir yn y galw am adnoddau cyfyngedig yn gofyn am adolygiad o'r gwasanaethau a ddarparwn, sut rydym yn eu darparu a phwy dylai fod yn gymwys i'w derbyn.


Bellach yr her yw ystyried ad-drefnu sylweddol yn y modd y cyflawnir y gwasanaethau i fodloni’r cynnydd yn y galw a ddisgwylir. 6.3.4

Yr heriau sylweddol sy'n wynebu Sir Benfro yw:

6.4

Beth ydym ni'n mynd i'w wneud?

6.4.1

Ar sail yr wybodaeth sydd ar gael i ni, rydym wedi cytuno i ffocysu ein gwaith ar dair blaenoriaeth allweddol. • Helpu a chefnogi pobl i gymryd cyfrifoldeb dros wella'u hiechyd a'u lles trwy gydol eu bywydau • Lleihau anghydraddoldebau trwy weithio ar draws sectorau • Darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol priodol a chynaliadwy ar gyfer pobl Sir Benfro

• yr hinsawdd economaidd y byddwn yn ei hwynebu ynghyd â’r galw cynyddol am wasanaethau, y rhagwelir y bydd yn dyblu erbyn 2033, • cynnydd yn y cymorth sydd ei angen ar gwsmeriaid a chanddynt anghenion cymhleth cynyddol er mwyn eu galluogi i aros yn eu cartrefi; • y twf a ragwelir ym mhoblogaeth trigolion y Sir (amcangyfrifir y bydd yn cynyddu i 124,587 o drigolion erbyn 2021) â phobl 65+ oed yn cynyddu o 21.1% i 26.6% o'r boblogaeth, a'r • cynnydd a ragwelir yn nifer yr unigolion sy’n cymryd rhan mewn ymddygiadau sy’n niweidiol i iechyd. 6.3.5

Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn bydd angen i ni ddatblygu ymatebion aml-asiantaeth i wella canlyniadau ar gyfer y boblogaeth gyfan, gan ganolbwyntio'n benodol ar hybu iechyd ac ymyrraeth gynnar. 41


Mae pobl Sir Benfro yn fwy iach

Diogelwch

Diogelu

BLAENORIAETH

Iechyd

Yr Amgylchedd

Economi

Plant a Theuluoedd

Cyfraniad at y Canlyniad

Beth rydym eisiau ei gyflawni:

GWEITHRED BENNAWD

Byddwn yn: Gweithio tuag at roi dogfen y fframwaith strategol dros Iechyd Cyhoeddus 'Ein Dyfodol Iach' ar waith, i wella ansawdd a hyd bywyd a darparu canlyniadau tecach i bawb

Bydd pobl yn cael eu helpu a'u cefnogi i gymryd cyfrifoldeb dros wella'u hiechyd a'u lles trwy gydol eu bywydau

Cefnogi pobl i gael iechyd meddwl da a herio stigma a gwahaniaethu Datblygu gwasanaethau sy'n symud y ffocws tuag at atal ac ymyrraeth gynnar, lleihau unigedd ac eithrio a hyrwyddo annibyniaeth Gostwng lefelau gordewdra trwy hyrǁLJĚĚŽ ďLJǁLJĚ ŝĂĐŚ ĂĐ ĂĐƚŝĨ Ăƌ ĚƌĂǁƐ ƉŽď ŐƌDŽƉ oedran Cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol a gostwng ymddygiad eisteddog Darparu tai fforddiadwy a phriodol

Byddwn yn lleihau anghydraddoldebau trwy weithio ar draws sectorau

Darparu cyngor a chefnogaeth er mwyn i ofalwyr wella'u lles a lles y bobl y maen nhw'n gofalu amdanynt

Darparu gwasanaethau cludiant cymunedol sy'n diwallu ystod eang o anghenion i alluogi mynediad priodol i weithgareddau iechyd a chymdeithasol (siopa, llyfrgell, etc.)

42


Mae pobl Sir Benfro yn fwy iach

Diogelwch

Diogelu

BLAENORIAETH

Iechyd

Yr Amgylchedd

Economi

Plant a Theuluoedd

Cyfraniad at y Canlyniad

Beth rydym eisiau ei gyflawni:

Bydd pobl yn Sir Benfro yn derbyn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol priodol a chynaliadwy

GWEITHRED BENNAWD

Byddwn yn: Darparu gwasanaethau gofal sylfaenol, cymunedol a chymdeithasol priodol a fydd yn galluogi'r unigolyn iawn i hygyrchu'r gwasanaeth cywir ar yr amser cywir yn y lle cywir

Gweithio mewn partneriaeth 창'r sector gwirfoddol i gyflwyno gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gwella iechyd a lles pobl Sir Benfro

43


6.5 Sut byddwn yn gwybod bod hyn yn gweithio? 6.5.1 Byddwn yn mesur ein cynnydd yn erbyn yr ystod o ddangosyddion pennawd a ddangosir isod. Dewiswyd y dangosyddion hyn oherwydd eu bod, ar y cyd, yn darparu darlun cytbwys o ansawdd bywyd yn Sir Benfro. Trwy gydweithio ein nod yw ‘troi'r gromlin’ a gwella perfformiad Sir Benfro. Mae'r llinell doredig ddu'n cynrychioli'r gwahaniaeth y bwriadwn ei gyflawni trwy gyflwyno'r Cynllun hwn. Disgwyliad Hyd Oes

% Gordewdra a gweithgarwch corfforol ymysg oedolion

79

70%

78

60% 50%

77

40%

76 30%

75 20%

74

10% 0%

73 2002

2003

2004

2005

2006

2007

2008

2009

2010

2011

2012

2013

2014

2015

2004

2016

2005

2006

2007

2008

2009

2010

% Gordewdra Ymysg Oedolion

й LJƌ KĞĚŽůŝŽŶ ƐLJ͛Ŷ LJƐŵLJŐƵ

2011

2012

2013

2014

2015

2016

2017

% Gweithgarwch Corfforol Ymysg Oedolion

dƌŽƐŐůǁLJĚĚŝĂĚĂƵ ŐŽĨĂů ŐŽŚŝƌŝĞĚŝŐ Ž͛ƌ LJƐďLJƚLJ ŝ ůĞŽůŝĂĚ ŐŽĨĂů ƉƌŝŽĚŽů 4.5

30%

4

3.5 3

20%

2.5 2

1.5

10%

1 0.5 0

0% 2004

2005

2006

2007

2008

2009

2010

2011

2012

2013

2014

2015

2016

2007/08

2017

2008/09

2009/10

2010/11

2011/12

2012/13

2013/14

2014/15

2015/16

2016/17

EŝĨĞƌ ĨĞƐƵů ϭϬϬϬ Ž͛ƌ ďŽďůŽŐĂĞƚŚ ϳϱн ŽĞĚ

% o ofalwyr y cynigiwyd asesiad neu adolygiad iddynt

60%

50%

Agenda Datblygu Data: Datblygu mesurau i asesu'r achosion o dderbyniadau annisgwyl i'r ysbyty a hefyd iechyd meddwl

40%

30%

20%

10%

0% 2008/09

2009/10

2010/11

2011/12

2012/13

2013/14

2014/15

2015/16

2016/17

44


7. diogelu

7.1 Cyflwyniad

Mae plant ac oedolion wedi'u diogelu 7.1.1 Mae diogelu oedolion a phlant yn fater i bawb. Mae Bwrdd Diogelu Plant Sir Benfro (BDPSB) a'r Pwyllgor Amddiffyn Oedolion yn arwain ein gwaith yn y maes hwn. 7.1.2 Mynnodd Deddf Plant 2004 fod pob awdurdod lleol yng Nghymru'n sefydlu Bwrdd Diogelu Plant Lleol (BDPLl) i gydlynu'r hyn sy'n cael ei wneud gan fudiadau lleol allweddol i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. 7.1.3 Gweledigaeth BDPSB yw y gall pob plentyn yn Sir Benfro dyfu i fyny mewn amgylchedd diogel a llawn cariad, heb gamdriniaeth esgeulustod a throsedd, sy'n eu galluogi i fwynhau iechyd da a chyflawni eu potensial. 7.1.4 Yn 2000, cyhoeddwyd arweiniad strategol o'r enw 'Mewn Dwylo Diogel' ar gyfer awdurdodau yng Nghymru. Fe sefydlodd y fframwaith cenedlaethol ar gyfer datblygu polisïau, gweithdrefnau ac arweiniad ar gyfer amddiffyn oedolion agored i niwed. 7.1.5 Mae materion Amddiffyn Oedolion yn cael eu trin yn unol â Pholisïau a Gweithdrefnau Dros Dro Cymru Gyfan (2010). Mae Pwyllgor Amddiffyn Oedolion Sir Benfro'n cydweithio'n agos â Fforwm Amddiffyn Oedolion Dyfed Powys i gynyddu ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau Amddiffyn Oedolion ac yn sicrhau bod pob un o'u mudiadau'n glynu wrth Bolisïau a Gweithdrefnau Dros Dro Cymru Gyfan 2010. 45


7.2 Ble ydym ni nawr? 7.2.1 Mae Sir Benfro wedi bod yn destun craffu a heriau arwyddocaol mewn perthynas â diogelu plant dros y 18 mis blaenorol. Cynhaliwyd y lefel hon o graffu trwy nifer o archwiliadau allweddol ac wedi arwain at lefel o her a chefnogaeth allanol yn cael eu darparu i Gyngor Sir Penfro. Mae adroddiadau archwilio gan Estyn ac Arolygaeth Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Cymru wedi adnabod diffygion clir mewn safonau arfer. • Mae rhai o'r meysydd allweddol ar gyfer gwelliant a adnabuwyd yn ystod yr archwiliadau'n cynnwys: o yr angen am gadw cofnodion clir a chywir, o yr angen am newid diwylliannol mewn Addysg ac ysgolion, o gwella arfer mewn Adnoddau Dynol, o datblygu systemau sicrhau ansawdd effeithiol ar gyfer prosesau a gweithdrefnau diogelu, o ffurfioli mecanweithiau adrodd gydag Aelodau, o her broffesiynol a dal asiantaethau'n atebol, o defnyddio technegau ataliaeth a rheoli ymddygiad, o uwch Aelodau a swyddogion yn dangos arweinyddiaeth trwy sefydlu trefniadau monitro ac atebolrwydd effeithiol, o y berthynas rhwng gweithwyr proffesiynol addysg a gwasanaethau cymdeithasol, a o gwella arfer camdriniaeth proffesiynol. • Mae nifer y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant wedi gweld cynnydd cyson. Cafwyd cynnydd mwy dramatig yn ddiweddar, ac yn ail chwarter

2012/13 roedd 130 o blant ar y Gofrestr (46 oedd y ffigur yn 2007/08). Mae'n debygol bod ymwybyddiaeth gynyddol o faterion diogelu wedi arwain at gynnydd yn nifer y cyfeiriadau a gwelliant wrth adnabod plant mewn perygl. • O'r plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ar ddiwedd mis Medi 2012, cofrestrwyd dros 41% o dan y categori niwed emosiynol. Yn y mwyafrif o achosion dyma ble mae cam-drin domestig wedi cael ei adnabod fel ffactor risg. Y ffactorau risg sylweddol eraill yw rhieni sy'n camddefnyddio sylweddau a salwch meddwl. • Yn ystod 2011/12 derbyniodd 126 o blant o grwpiau agored i niwed penodol yn Sir Benfro gefnogaeth eiriolaeth gan wasanaeth annibynnol a gomisiynwyd ar y cyd gyda phartneriaid yng Ngheredigion. Cynllunnir gweithredoedd pellach i sicrhau bod argymhellion o "Lleisiau Coll", adolygiad o wasanaethau eiriolaeth proffesiynol yng Nghymru gan y Comisiynydd Plant, yn cael eu rhoi ar waith.

46


7.2.2

Mae cyfeiriadau ar gyfer diogelu oedolion hefyd wedi cynyddu yn unol ag ymwybyddiaeth gynyddol dros flynyddoedd diweddar. Er hynny, cafwyd gostyngiad cyffredinol yn nifer y bobl sy'n cael eu rheoli gan y tîm amddiffyn oedolion. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffocws ar hyfforddiant a datblygiad a gyflawnwyd trwy gydol y flwyddyn, nid yn unig gyda swyddogion ond hefyd gydag Aelodau a grwpiau agored i niwed. • Rhwng 2009/10 a 2011/12 cynyddodd nifer y cyfeiriadau a wnaed o 669 i 825. Fodd bynnag, cododd nifer yr unigolion a gyrhaeddodd y trothwy ar gyfer eu trin o dan y gweithdrefnau o 139 i 142 dros yr un cyfnod. Roedd hyn o ganlyniad i sgrinio pryderon yr adroddwyd amdanynt, nad oeddynt yn bodloni’r trothwyon ar gyfer cynnal ymchwiliad, yn well. • Dros amser ar draws Cymru, mae’r tueddiadau mewn perthynas â'r mathau o gamdriniaeth, 47

proffil dioddefwyr, pwy sy'n cam-drin, sut a ble wedi aros yn gyson. Mae camdriniaeth ac esgeulustra corfforol yn parhau fel y ffurfiau mwyaf cyffredin ar gamdriniaeth, er bod dioddefwyr yn aml yn dioddef o fwy nag un ffurf. Mae pobl yr un mor debygol o gael eu cam-drin yn eu cartrefi eu hunain ag mewn lleoliad gofal, ac mae'r sawl sy'n cyflawni'r camdriniaeth yr un mor debygol o fod y aelod o staff ag yn aelod o deulu’r dioddefwr, neu rywun y maen nhw'n ei adnabod. Nid yw camdriniaeth gan ddieithriaid yn dod o dan gylch gwaith y broses amddiffyn oedolion, sy'n canolbwyntio ar sefyllfaoedd pan geir tor-ymddiriedaeth mewn perthynas sydd eisoes yn bodoli. • O ran sut yr ymchwilir i honiadau o gam-drin oedolion sy'n agored i niwed, ymchwilir i 12% o achosion yr adroddir amdanynt o dan y broses ymchwilio anhroseddol, sydd wedi'i nodi ym Mholisïau a Gweithdrefnau Cymru Gyfan Dros Dro. Mae'r cyfryw ymchwiliadau, sydd yn aml yn ymwneud â dadansoddiad o leoliadau gofal, yn ddarnau hir a chymhleth o waith. Yn ystod 2011/12, cynhaliwyd naw ymchwiliad ar y cyd gyda AGGCC. Mae ymchwiliadau gan ddarparwyr i ymddygiad eu staff eu hunain, gan ddefnyddio prosesau disgyblu mewnol, hefyd yn cael eu cyflawni mewn rhai amgylchiadau. Roedd y rhain yn cyfrif am 17% o'r achosion yr adroddwyd amdanynt y ystod 2011/12. • Cafwyd cynnydd sydyn yng nghanran yr achosion o gam-drin honedig sy'n digwydd yn aelwyd yr unigolyn. Gallai hyn fod o ganlyniad i


ymwybyddiaeth gynyddol ond gallai hefyd fod o ganlyniad i'r nifer cynyddol o bobl â chyflyrau ac anghenion cymhleth sy'n cael eu cefnogi i aros yn eu cartrefi. Cafwyd cynnydd sylweddol hefyd yn nifer yr achosion lle honnir mai perthynas sy'n gyfrifol am y gamdriniaeth. • Mae ystod o wasanaethau eiriolaeth statudol ac anstatudol sy'n gallu cynnig cefnogaeth i oedolion agored i niwed yn Sir Benfro. Yn 2011/12 adroddwyd bod y defnydd o wasanaethau eiriolaeth yn is na'r hyn a ddisgwyliwyd. • Mae'n ddyletswydd ar weithwyr proffesiynol i ystyried cyfeirio i'r gwasanaeth Eirioli Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol (IMCA) er mwyn cefnogi a chynrychioli oedolion agored i niwed trwy weithdrefnau amddiffyn oedolion. Yn ystod 2011/12 derbyniodd y gwasanaeth IMCA dri chyfeiriad ffurfiol a thri ymholiad na symudodd ymlaen at gamau ffurfiol. Er bod hyn yn debyg i Sir Gâr a Cheredigion, roedd yn rhif llawer yn is na'r hyn y gellir ei ddisgwyl o'i gymharu â ffigurau â dderbynnir o ddarparwyr IMCA eraill mewn rhannau eraill o Gymru. 48

7.3

Sir Benfro 2018

7.3.1

Yn ogystal â'r problemau a adnabuwyd sy'n bodoli heddiw, mae'r Cynllun hwn hefyd yn anelu at adnabod a mynd i'r afael â'r heriau sy'n debygol o ddod i'r amlwg yn ystod oes y cynllun hwn.

7.3.2

Dylanwadir ar ein gallu i sicrhau bod plant ac oedolion yn cael eu diogelu gan yr hinsawdd economaidd anodd, a'r pwysau parhaus canlyniadol ar gyllidebau sector cyhoeddus. Mae newidiadau demograffig megis pobl yn byw yn hirach, mwy o achosion o glefydau megis dementia a mwy o blant yn cael diagnosis anabledd hefyd yn debygol o gynyddu pwysau ar wasanaethau. Dylanwadir hefyd ar y ffordd y mae gwasanaethau'n cydweithio i ddiogelu plant ac oedolion gan ddeddfwriaeth newydd ar amddiffyn a diogelu plant ac oedolion a hefyd gan gynigion i gydlynu cefnogaeth ar sail ranbarthol.

7.3.3

Mae'r heriau allweddol ychwanegol sy'n debygol o ddod i'r amlwg dros y pum mlynedd nesaf yn cynnwys: • cynnydd yn nifer y plant ar y gofrestr amddiffyn plant, • cynnydd yn nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal a Phlant mewn Angen, • cynnydd yn nifer y cyfeiriadau amddiffyn oedolion, • mwy o bwysau ar wasanaethau aml-asiantaeth, a • methu ag adnabod plant ac oedolion mewn perygl o gael eu cam-drin os bydd gwasanaethau'n cael eu gostwng neu eu colli oherwydd cyfyngiadau ar gyllidebau.


7.4 Beth ydym ni'n mynd i'w wneud? 7.4.1

5.2

Ar sail yr wybodaeth sydd ar gael i ni, rydym wedi cytuno i ffocysu ein gwaith ar un flaenoriaeth allweddol: • Bydd Sir Benfro yn sicrhau diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Where are we now?

Mae plant ac oedolion yn cael eu diogelu

Diogelwch

Diogelu

Iechyd

Yr Amgylchedd

BLAENORIAETH

Economi

Plant a Theuluoedd

Cyfraniad at y Canlyniad

Beth rydym eisiau ei gyflawni:

GWEITHRED BENNAWD

Byddwn yn: Adolygu gwasanaethau eiriolaeth a chymryd rhan yn Sir Benfro i sicrhau bod lleisiau plant ac oedolion agored i niwed yn cael eu clywed ledled y sir.

Bydd Sir Benfro yn sicrhau diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed

Gweithio i sicrhau bod y diwylliant o fewn Addysg yn hyrwyddo diogelu ym mhob un o'i lleoliadau. Sicrhau adnoddau digonol i fodloni'r galw mewn gwaith rheng flaen. Sicrhau bod arfer Adnoddau Dynol diogel yn cael ei ymgorffori ym mhob lleoliad.

49


7.5 Sut byddwn yn gwybod bod hyn yn gweithio? 7.5.1 Byddwn yn mesur ein cynnydd yn erbyn yr ystod o ddangosyddion pennawd a ddangosir isod. Dewiswyd y dangosyddion hyn oherwydd eu bod, ar y cyd, yn darparu darlun cytbwys o ansawdd bywyd yn Sir Benfro. Trwy gydweithio ein nod yw gwella perfformiad Sir Benfro. Nid yw'n briodol cynnwys rhagfynegiadau perfformiad ar gyfer y dyfodol gyda'r dangosyddion penodol hyn. Nifer y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant

EŝĨĞƌ LJ WůĂŶƚ ƐLJ͛Ŷ ĞƌďLJŶ 'ŽĨĂů 300

140 120

250

100

200

80

150

60 100

40 50

20 0

0 2007/08

2008/09

2009/10

Sir Penfro

2010/11

2009/10

2011/12

2010/11

Cyfartaledd Cymru

Sir Benfro

Testunau pryder yr adroddwyd amdanynt i Dîm Amddiffyn Oedolion Sir Benfro

2011/12

Cyfartaledd Cymru

Nifer y cyfeiriadau oedolion lle rheolwyd y risg 100%

900 800

98%

700

96%

600

94%

500 92%

400

90%

300 200

88%

100

86%

0 2006/07

2007/08

2008/09

2009/10

2010/11

2011/12

84% 2010/11

Nifer y cyfeiriadau

EŝĨĞƌ ƐLJ͛Ŷ ĐLJƌƌĂĞĚĚ LJ ƚƌŽƚŚǁLJ

Agenda Datblygu Data: Datblygu cerdyn sgorio cytbwys i asesu diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed

50

2011/12


8. diogelwch

8.1 Cyflwyniad

Mae cymunedau Sir Benfro yn teimlo'n ddiogel

8.1.1 Mae Sir Benfro yn un o'r lleoedd mwyaf diogel i fyw yng Nghymru a Lloegr, gyda lefelau isel iawn o drosedd ac anhrefn o'i gymharu ag ardaloedd eraill. Er hynny, rydym yn ymwybodol iawn bod rhai problemau lleol yn bodoli, a pharhawn yn ymrwymedig i wneud popeth y gallwn i wneud Sir Benfro hyd yn oed yn fwy diogel. Er gwaetha'r lefelau isel iawn o drosedd ac anhrefn, cydnabyddwn hefyd fod ofn o droseddu’n bryder sylweddol o hyd ar gyfer llawer o'n trigolion ac felly mae rhoi sicrhad i'r cyhoedd yn elfen bwysig o'n gwaith. Mae trosedd a’r pryder am drosedd yn cael effaith negyddol ar gydlyniad cymunedol. 8.1.2 Er i ni wynebu heriau sylweddol yn yr hinsawdd ariannol ac economaidd bresennol, trwy gydweithio mewn ffyrdd newydd a mwy effeithiol byddwn yn parhau i lwyddo wrth leihau trosedd ac anhrefn a'i broblemau cysylltiedig yn Sir Benfro. 8.1.3 Dim ond trwy gydweithio â'r gymuned ehangach y gallwn gyflawni gwir welliannau. Ein nod yw sicrhau bod y cyhoedd yn cymryd rhan yn y cynlluniau a phrosiectau hyn.

8.2 Ble ydym ni nawr? 8.2.1 Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fater uchel ei broffil ar hyn o bryd. Mae'r mwyafrif o achosion yr adroddir amdanynt yn Sir Benfro yn ymddygiad sy'n achosi twrw a niwsans, yn aml gan gymdogion. Gall yr ymddygiad hwn gael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd a chydlyniad ein cymunedau. 51


8.2.2

Gweithiwn yn galed i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar sail aml-asiantaeth, gan ymateb mewn ffordd effeithiol a chydlynol yn seiliedig ar atal ac ymyrraeth gynnar. Gall y canfyddiad cyffredinol o bobl ifanc yn benodol fod yn negyddol iawn. Mae addysg a gwaith atal yn helpu i ymdrin â'r canfyddiadau hyn. • Ymddygiad gwrthgymdeithasol yw'r flaenoriaeth uchaf sy'n dod allan o’r cyfarfodydd Partneriaid a Chymunedau Gyda'i Gilydd (PACT) diweddaraf, gan gynrychioli 66% o’r blaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg. Datgelodd y Panel Dinasyddion diweddaraf mai ymddygiad gwrthgymdeithasol oedd yr ail flaenoriaeth uchaf ar gyfer trigolion Sir Benfro, gyda mynediad i / gweladwyedd yr heddlu fel y flaenoriaeth uchaf. • Yn ystod 2012, gostyngodd achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol 9.6% o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2011. Gostyngodd difrod troseddol hefyd, gyda lefelau cyfredol 23.8% yn llai na'r flwyddyn flaenorol. • Mae Sir Benfro wedi gweld gostyngiad cyson dros flynyddoedd diweddar yn nifer y plant a phobl ifanc sy'n ymwneud â'r system cyfiawnder troseddol am y tro cyntaf. Hanerodd y nifer o 255 yn 2007/8 i 121 yn 2011/12. Yn 2009/10 a 2010/11 cyflawnodd Sir Benfro ostyngiad a oedd yn fwy na'r hyn a gyflawnwyd naill ai'n rhanbarthol neu'n genedlaethol. • Mae'r defnydd o Gontractau Ymddygiad Derbyniol gyda phobl ifanc yn ymyrraeth effeithiol, gyda'r mwyafrif o bobl ifanc yn eu cwblhau'n llwyddiannus a rhieni'n dewis parhau i hyrwyddo'r ymddygiad a amlinellir yn y cytundebau.

• Mae Gwersyll Gwyllt wedi bod yn rhedeg yn llwyddiannus ers tair blynedd. Dyma gynllun dargyfeirio aml-asiantaeth ar gyfer pobl ifanc mewn perygl o droseddu. Bwriedir i'r gweithgareddau addysgu a herio'r bobl ifanc, gan eu helpu i gynyddu eu hymwybyddiaeth o sut mae eu hymddygiad yn effeithio ar eraill a'u hannog rhag ymwneud â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. • Mae'r wythnos Cymdogaethau ar Waith yn parhau i fod yn wythnos gadarnhaol iawn o weithredu sy'n canolbwyntio ar y gymuned, gan alluogi trigolion ac asiantaethau lleol i gydweithio i ddod o hyd i atebion i broblemau lleol er mwyn gwella ansawdd bywyd yn y gymuned a lleihau'r risg o drosedd ac anhrefn. 8.2.3

Mae lleihau effeithiau niweidiol camddefnyddio sylweddau yn hollbwysig; mae'r effeithiau'n helaeth ac yn taro ergyd i blant, pobl ifanc, oedolion, teuluoedd a chymunedau cyfan. Er bod troseddau cyffuriau'n cyfrif am 9.4% yn unig o droseddau a gofnodir ar draws Sir Benfro, gwyddwn fod defnyddwyr cyffuriau'n cyflawni cryn dipyn o droseddau caffaelgar (lladrad) i ddiwallu eu hangen am gyffuriau. Mae'r niwed a achosir gan

52


• Yn ardal Hywel Dda, mae tua 6,300 o dderbyniadau i'r ysbyty bob blwyddyn a achosir gan broblemau gysylltiedig ag alcohol ac mae tua 200 o gleifion bob blwyddyn yn cael eu derbyn i'r ysbyty o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau. Dengys yr ystadegau diweddaraf ar gyfer ardal Heddlu Dyfed Powys y cyfeiriwyd 2,690 o unigolion i wasanaethau trin alcohol a 1,492 i wasanaethau trin cyffuriau. Mae deuddeg y cant o gyfeiriadau alcohol a 4.8% o gyfeiriadau cyffuriau’n adrodd bod o leiaf un plentyn yn byw yn yr aelwyd. • Mae'r heddlu a thimau trwyddedu a safonau masnach yn cydweithio i gyflawni nifer o ymgyrchoedd profion prynu trwy'r flwyddyn, gan sicrhau nad yw busnesau lleol yn gwerthu alcohol i gwsmeriaid dan oed. • Mae SUDDS (y Gwasanaeth Alcohol a Chyffuriau Dan 18 Oed Arbenigol) yn darparu cyngor parhaus i bobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl ifanc i gynyddu ymwybyddiaeth o beryglon camddefnyddio sylweddau.

gamddefnyddio alcohol yn helaeth; mae troseddau treisgar ar draws y Sir yn parhau i fod yn gysylltiedig â'r economi nos, gydag alcohol fel ffactor arwyddocaol. • Dangosodd arolwg diweddar y Swyddfa Gartref o aresteion fod 55% o bobl a arestiwyd ar gyfer troseddau caffaelgar wedi adrodd am gymryd heroin, crac neu gocên yn ystod y 12 mis blaenorol. Mae 58% o droseddau treisgar yn Sir Benfro'n ymwneud â throseddwr neu ddioddefwr o dan ddylanwad alcohol. • Mae'r ffigurau cyfredol ar gyfer cyfanswm y troseddu cyffuriau yn Sir Benfro'n dangos cynnydd o 6.6% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn adlewyrchu gweithredu'r heddlu, sydd wedi bod yn rhagweithiol iawn yn y maes hwn gyda nifer o ymgyrchoedd diweddar yn arwain at euogfarnau uchel eu proffil. Mae hyn yn cael effaith glir ar lefelau troseddu a gofnodir. • Canolbwyntiodd Ymgyrch Poker ar aflonyddu ar rwydweithiau camddefnyddio heroin o fewn y Sir, gan gyflawni rhai canlyniadau hynod o gadarnhaol. Mae nifer sylweddol o ddefnyddwyr heroin bellach yn ymwneud â gwasanaethau trin camddefnyddio sylweddau o ganlyniad i'r ymgyrch. 53

8.2.4

Mae cam-drin domestig yn flaenoriaeth uchel iawn ar gyfer yr holl asiantaethau partner sy'n gweithio i gefnogi dioddefwyr a delio â chyflawnwyr. Mae cam-drin domestig yn digwydd ar draws cymdeithas beth bynnag yw'r oedran, rhyw, hil, rhywioldeb, statws economaidd a daearyddiaeth. Rydym hefyd yn ymrwymo i weithio gyda’n gilydd i wella diogelwch ffyrdd a lleihau nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu’u


hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru. Mewn cydnabyddiaeth o’r materion uchod anelwn at amddiffyn “Hawl i fod yn Ddiogel” pob unigolyn. • Bydd cynifer ag 1 o bob 4 o fenywod ac 1 o bob 6 o ddynion yn cael eu heffeithio gan gam-drin domestig rhyw bryd yn eu bywydau. Dengys y ffigurau diweddaraf mai’r gyfradd ddatrys ar gyfer troseddau cam-drin domestig yn ardal Heddlu Dyfed Powys oedd 51.6%. • Mae Sir Benfro'n profi'r ail faint uchaf o droseddau domestig yn ardal Heddlu Dyfed Powys, gyda'r ffigurau presennol yn dangos cynnydd o 7.5% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, mae gweithgareddau gorfodi a dargedir wedi'u canolbwyntio ar y mater hwn a, chydag ymgyrchoedd i gynyddu ymwybyddiaeth ac annog adrodd am y cyfryw droseddau, bydd hyn yn cael effaith ar lefelau'r troseddau a gofnodir. • Mae gan Sir Benfro y nifer isaf o droseddau domestig gyda dioddefwyr sy'n adrodd am droseddu mwy nag unwaith yn ardal Heddlu Dyfed Powys (9.5%), ond mae ganddi y nifer uchaf o achosion sy’n digwydd mwy nag unwaith (19.4%). 54

• Yn 2012 trafodwyd 167 o deuluoedd mewn Cynadleddau Asesu Risg Aml-asiantaeth. Roedd cyfanswm o 238 o blant o fewn yr aelwydydd hyn. Mae cipolwg o blant ar y gofrestr amddiffyn plant yn dangos y cafodd cam-drin domestig ei adnabod mewn 43.6% o achosion. • Mae pryderon ynglŷn â chamdriniaeth mewn perthnasoedd pobl ifanc yn eu harddegau wedi cynyddu dros flynyddoedd diweddar ac mae Sir Benfro wedi ymateb i hyn trwy beilota pecyn offer perthnasoedd yn yr arddegau mewn nifer o ysgolion. Mae staff sy'n gweithio gyda phobl ifanc yn cael eu hyfforddi er mwyn i'r pecyn offer gael ei gyflwyno ar draws y Sir. • Mae rôl yr Ymgynghorydd Trais Domestig Annibynnol yn hollbwysig wrth gynyddu diogelwch dioddefwyr cam-drin domestig; parhawn i sicrhau darpariaeth y gwasanaeth hwn ar draws rhannau mwy gwledig y Sir. • Mae pobl ifanc mewn perygl anghymesur o gael eu lladd neu’u hanafu’n ddifrifol ar y ffyrdd a nhw yw’r grŵp oedran sydd mewn mwyaf o berygl. Dim ond 11% ohonynt sy’n ddeiliaid trwyddedau gyrru ond anafwyd 23% ohonynt yn genedlaethol yn 2011. • Darperir ymyraethau addysgiadol ym mhob un o’r wyth ysgol uwchradd ar hyn o bryd yn Sir Benfro, gan gynnwys cyflwyniad drama a gweithdai amlasiantaeth. • Mae marwolaethau plant ar y ffyrdd yn Sir Benfro yn brin iawn diolch byth, gyda chyfartaledd o 1.1 y flwyddyn rhwng 1995 a 2005. Mae’r Fforwm Diogelwch ar y Ffyrdd yn rhoi ar waith raglen gytbwys o addysg diogelwch plant, gwelliannau


amgylcheddol, lleihau cyflymder cerbydau a diogelwch yn y car i fynd i’r afael ag anafiadau i blant. 8.2.5

• Mae tai'n parhau'n fater sylweddol i droseddwyr, gyda 58% o garfan Prosiect Cleddau yn y gymuned heb lety priodol ar hyn o bryd. Mae Prosiect Cleddau'n gweithio i sicrhau y cynigir triniaeth briodol i droseddwyr ag anghenion camddefnyddio sylweddau a adnabyddir; ar hyn o bryd mae 60% o'r rhai ag angen a adnabyddir yn ymwneud â gwasanaethau triniaeth. • Mae’r cynllun Bobi Fan yn darparu cyngor a chyfarpar diogelwch ar gyfer dioddefwyr byrgleriaeth mynych ac ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed ac mewn perygl yn y gymuned.

Yn 2010, ymgymerodd Partneriaethau Diogelwch Cymunedol â chyfrifoldeb dros ostwng aildroseddu o fewn eu hardaloedd. Trwy leihau lefel aildroseddu anelwn at ddiogelu'r cyhoedd, lleiafu'r niwed a achosir i ddioddefwyr a lleihau effaith aildroseddu o fewn ein cymunedau. • Mae cyfanswm y troseddau a gofnodir wedi dangos gostyngiad cyson, gyda ffigurau cyfredol 9.1% i lawr o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae cyfraddau datgelu wedi cynyddu gyda'r gyfradd bresennol ar 48.6%, cynnydd o 4.5% o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd. • Dengys ffigurau diweddar ostyngiad o 41% mewn troseddu o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol yn achos Troseddwyr Cyson a Throseddwyr â Blaenoriaeth Sir Benfro; roedd hyn yn uwch na'r gostyngiad cenedlaethol o 29%. • Rhoddwyd Prosiect Cleddau ar waith yn y Sir yn ddiweddar; mae hyn yn anelu at ostwng nifer y troseddau a gyflawnir yn Sir Benfro trwy dargedu'r troseddwyr hynny sy'n cyflawni nifer uchel o droseddau ac yn achosi'r niwsans mwyaf o fewn ein cymunedau. Ers dechrau 2012, mae wyth unigolyn wedi gadael Prosiect Cleddau; roedd chwech o'r rhain yn ymadawiadau llwyddiannus yn dilyn cyfnod parhaus o sefydlogrwydd a gostyngiad sylweddol mewn troseddu. Gadawodd dau gan iddynt symud allan o'r ardal.

8.2.6

Yn 2006 cyhoeddodd y Llywodraeth CONTEST6, y strategaeth hir dymor ar gyfer mynd i'r afael â therfysgaeth. Mae pedwar llinyn i hwn: Atal Ymlid Protect Pharatoi

8.2.7

pobl rhag mynd yn derfysgwyr neu gefnogi eithafiaeth dreisgar atal ymosodiadau terfysgaeth cryfhau ein hamddiffyniad cyffredinol yn erbyn ymosodiadau terfysgaeth, a pan na allwn atal ymosodiad, lliniaru ei effaith

Er bod y cyfryw ddigwyddiadau'n digwydd yn anaml, mae asiantaethau partner yn Sir Benfro'n canolbwyntio ar sicrhau bod swyddogaethau CONTEST yn cael eu prif-ffrydio yn y busnes bob

CONTEST yw strategaeth wrthderfysgaeth y Deyrnas Unedig. Mae'r strategaeth yn adlewyrchu'r bygythiad terfysgaeth newidiol ac yn anelu at ostwng y risg o derfysgaeth i'r DU a'i buddiannau tramor, er mwyn i bobl fyw eu bywydau'n rhydd ac yn hyderus. 6

55


dydd. Dylai adnabod unigolion a allai fod yn agored i gael eu hecsbloetio gan unrhyw nifer o grwpiau eithafwyr fod yn fusnes craidd yn yr un modd yr ydym yn adnabod y rhai sy'n agored i drais na'r rhai sydd â phroblemau gysylltiedig ag iechyd. Mae cydlyniad cymunedol yn helpu cymunedau i ddatblygu a chynnal gwydnwch i derfysgaeth. • Mae gweithgarwch a gwybodaeth weithredol yn Sir Benfro yn dangos bod bygythiadau o unrhyw ffurf ar eithafiaeth yn parhau'n isel. • Cyflwynwyd deg sesiwn hyfforddi yn 2011/12 i gynyddu ymwybyddiaeth am linyn Atal yr agenda CONTEST. Ymysg y rhai'n bresennol oedd staff a llywodraethwyr ysgolion, cydlynwyr gwarchod y gymdogaeth a gweithwyr proffesiynol allweddol sy'n gweithio gydag unigolion agored i niwed yn y Sir. • Mae partneriaid yn cydweithio'n agos iawn â sefydliadau addysg yn y Sir i sicrhau mecanweithiau adrodd a chyfeirio priodol ar gyfer ymdrin ag unrhyw bryderon sy'n gysylltiedig ag Atal. • Dilynir amserlen barhaus o ymarferion cynllunio brys amlasiantaeth mewn partneriaeth â'n prif ddarparwyr diwydiannol i sicrhau cynlluniau ar gyfer darparu'r ymateb mwyaf effeithiol i unrhyw beth a allai ddigwydd.

8.3

Sir Benfro 2018

8.3.1

Yn ogystal â'r problemau sy'n bodoli heddiw, mae'r Cynllun hwn hefyd yn anelu at adnabod a mynd i'r afael â'r heriau sy'n debygol o ddod i'r amlwg yn ystod oes y cynllun hwn.

8.3.2

Bydd cyflwyno Diogelwch Cymunedol yn Sir Benfro'n wynebu nifer o heriau dros y blynyddoedd i ddod. Rydym yn gwneud popeth y gallwn i liniaru'r rhain, ond cydnabyddwn eu bod yn bryderon hynod o real ac arwyddocaol, maen nhw'n cynnwys: • y gallu i ddarparu gwasanaethau cyson a gwell gydag adnoddau a chyllid gostyngol, • cynnydd yn y boblogaeth sy'n heneiddio, a allai arwain at ofn cynyddol o droseddu a rhan helaethaf o'r gymuned sy'n agored i droseddau megis byrgleriaeth trwy dynnu sylw, • gostyngiad mewn incwm gwario aelwydydd a allai annog lefelau uwch o yfed gartref, gan arwain at gynnydd mewn anghydfod domestig a chyda chymdogion, camddefnyddio sylweddau a phroblemau teuluol, • anterthau cyfreithlon newydd yn dod i'r amlwg yn barhaus, • yr hinsawdd economaidd gyfredol, a allai achosi problemau ariannol difrifol ac felly cynnydd mewn troseddau caffaelgar, • darparu gwasanaethau hygyrch a theg mewn cymunedau gwledig nad ydynt yn cael eu gwasanaethau'n dda gan gysylltiadau cludiant cyhoeddus, • argaeledd llety priodol a chefnogaeth gysylltiedig ar gyfer cymunedau, gan gynnwys dioddefwyr a throseddwyr, a • cydbwyso'r canfyddiad a'r realiti o Sir ddiogel sydd â chyfradd droseddu isel iawn yn erbyn pryder anghymesur o uchel o droseddu.

56


8.4

Beth ydym ni'n mynd i'w wneud?

8.4.1

Ar sail yr wybodaeth sydd ar gael i ni, rydym wedi cytuno i ffocysu ein gwaith ar bum blaenoriaeth allweddol:

• Darparu ymateb effeithiol a chydlynol i ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar • Lleihau'r niwed a achosir gan gamddefnyddio sylweddau • Amddiffyn hawl pob unigolyn i fod yn ddiogel • Lleihau effaith aildroseddu yn ein cymunedau • Atal eithafiaeth dreisgar

Mae cymunedau Sir Benfro yn teimlo'n ddiogel

Diogelwch

Diogelu

Iechyd

Yr Amgylchedd

BLAENORIAETH

Economi

Plant a Theuluoedd

Cyfraniad at y Canlyniad

Beth rydym eisiau ei gyflawni:

GWEITHRED BENNAWD

Byddwn yn:

Mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gynnar Darparu ymateb effeithiol a chydlynol i ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar

Darparu ymyrraeth gynnar ar gyfer pobl ifanc i leiafu'r tebygolrwydd y byddant yn gorfod ymwneud â'r system cyfiawnder troseddol Sicrhau bod dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol mynych ac agored i niwed yn cael eu hadnabod a'u hamddiffyn Monitro gweithgarwch sy'n ymwneud â chyswllt cymunedau gydag asiantaethau Sicrhau bod asiantaethau partner yn ymwybodol o ystod lawn yr offer a'r pwerau sydd ar gael i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol a'u bod yn eu defnyddio'n effeithiol Aflonyddu ar rwydweithiau cyffuriau presennol a datblygol trwy orfodi a thriniaeth

Lleihau'r niwed a achosir gan gamddefnyddio sylweddau

Cyflawni gwaith atal ac ymyrraeth gynnar gyda phobl ifanc gan gynnwys ffocws ar gyffuriau newydd a datblygol Lleihau'r niwed a achosir i bobl ifanc gan rieni sy'n camddefnyddio sylweddau Darparu system driniaeth gynhwysfawr sy'n ymdrin â phob sylwedd problemus Diwallu anghenion teuluoedd a gofalwyr y rhai sy'n camddefnyddio cyffuriau ac alcohol Hyrwyddo economi nos mwy diogel, gan gynnwys lleihau effaith troseddau treisgar sy'n gysylltiedig ag alcohol

57


Mae cymunedau Sir Benfro yn teimlo'n ddiogel

Diogelwch

Diogelu

Iechyd

Yr Amgylchedd

BLAENORIAETH

Economi

Plant a Theuluoedd

Cyfraniad at y Canlyniad

Beth rydym eisiau ei gyflawni:

GWEITHRED BENNAWD

Byddwn yn:

Parhau i gynyddu ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a hyrwyddo gwasanaethau

Amddiffyn hawl pob unigolyn i fod yn ddiogel

Sicrhafcu bod pobl ifanc yn ymwybodol o berthnasoedd iach ac afiach a'u bod yn gallu adnabod ymddygiad camdriniol Parhau i ddatblygu gwasanaethau i ddarparu cyngor a chefnogaeth effeithiol i'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig Gweithio gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol i wella'r ymateb i gam-drin domestig Rheoli cyflawnwyr yn effeithiol i leihau risg Gweithio gyda phartneriaid i wella diogelwch ar y ffyrdd a thargedu defnyddwyr ffyrdd risg uchel trwy addysg a gorfodaeth Darparu fframwaith rheoli troseddwyr integredig effeithiol, gan gynnwys gwasanaethau pontio ar gyfer troseddwyr ifanc Gostwng lefelau aildroseddu ymysg y garfan rheoli troseddwyr integredig

Lleihau effaith aildroseddu yn ein cymunedau

^ŝĐƌŚĂƵ LJ ĚĂƌƉĞƌŝƌ ĐĞĨŶŽŐĂĞƚŚ ďƌŝŽĚŽů ŝ͛ƌ ƌŚĂŝ ƐLJ͛Ŷ ĚŝŽĚĚĞĨ ŽŚĞƌǁLJĚĚ ƚƌŽƐĞĚĚǁLJƌ ĐLJƐŽŶ Gwella gwaith aml-asiantaeth ymhellach i sicrhau bod ystod o wasanaethau cofleidiol ar gael i ailintegreiddio troseddwyr i'n cymunedau Gweithio gyda phartneriaid trwy fframweithiau aml-asiantaeth i leiafu effaith aildroseddu ar gymunedau lleol

58


Mae cymunedau Sir Benfro yn teimlo'n ddiogel

Diogelwch

Diogelu

Iechyd

Yr Amgylchedd

BLAENORIAETH

Economi

Plant a Theuluoedd

Cyfraniad at y Canlyniad

Beth rydym eisiau ei gyflawni:

GWEITHRED BENNAWD

Byddwn yn:

Adnabod unigolion a allai fod yn agored i gael eu hecsbloetio gan grwpiau eithafwyr

Atal eithafiaeth dreisgar

Parhau i ddarparu hyfforddiant ac ymwybyddiaeth i bartneriaid allweddol sydd 창 chyswllt rheolaidd 창 grwpiau a allai fod yn agored i niwed Monitro trefniadau cynllunio brys aml-asiantaeth i gryfhau ein hamddiffyniad cyffredinol yn erbyn ymosodiadau terfysgaeth

59


8.5

Sut byddwn yn gwybod bod hyn yn gweithio?

8.5.1 Byddwn yn mesur ein cynnydd yn erbyn yr ystod o ddangosyddion pennawd a ddangosir isod. Dewiswyd y dangosyddion hyn oherwydd eu bod, ar y cyd, yn darparu darlun cytbwys o ansawdd bywyd yn Sir Benfro. Trwy gydweithio ein nod yw ‘troi'r gromlin’ a gwella perfformiad Sir Benfro. Mae'r llinell doredig ddu'n cynrychioli'r gwahaniaeth y bwriadwn ei gyflawni trwy gyflwyno'r Cynllun hwn. dƌŽƐĞĚĚĂƵ ĨĞƐƵů ƉŽď ϭϬϬϬ Ž͛ƌ ďŽďůŽŐĂĞƚŚ

z ƌŚĂŝ ƐLJ͛Ŷ LJŵǁŶĞƵĚ ą͛ƌ ^LJƐƚĞŵ LJĨŝĂǁŶĚĞƌ /ĞƵĞŶĐƚŝĚ Ăŵ LJ ƚƌŽ ĐLJŶƚĂĨ

60

300 50

250 40

200 30

150

100

20

50

10

0 2007/08

2008/09

2009/10

2010/11

2011/12

2013/14

2014/15

2015/16

2016/17

0 2007/08

2008/09

2009/10

2010/11

2011/12

2012/13

2013/14

LJĨƌĂĚĚ ĂŶĨŽĚ dƌŽƐĞĚĚĂƵ ƐLJ͛Ŷ zŵǁŶĞƵĚ ą ŚĂŵ-drin Domestig

ĐŚŽƐŝŽŶ Ž zŵĚĚLJŐŝĂĚ 'ǁƌƚŚŐLJŵĚĞŝƚŚĂƐŽů ĨĞƐƵů ƉŽď ϭϬϬϬ Ž͛ƌ ďŽďůŽŐĂĞƚŚ 75

100

90

70

80 70

65 60 50

60

40

55

30 20

50

10 0 2007/08

2008/09

2009/10

2010/11

2011/12

2012/13

45

2013/14

2007/08

Cyfanswm y bobl a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol mewn gwrthdrawiadau traffig ffyrdd 70 68 66 64 62 60 58 56 54 2010

2010

2011

2011

2012

2012

* Y targed hirdymor ar gyfer y dangosydd hwn yw 58 erbyn 2020

2013

2013

2014

2014

60

2008/09

2009/10

2010/11

2011/12

2012/13

2013/14


9.1

Bydd cynnydd mewn perthynas â'r Cynllun hwn yn cael ei fonitro ar lefel strategol gan BGLl Sir Benfro a'i bartneriaethau cysylltiedig fel y nodir yn y siart strwythur ar y dudalen nesaf. Bydd Pwyllgorau Llywodraethu Integredig Hywel Dda ac Aelodau etholedig ar Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cyngor Sir Penfro hefyd yn adolygu ac yn herio cynnydd y partneriaid wrth gyflawni’r deilliannau a nodwyd yn y Cynllun hwn.

9.2

Bydd y grwpiau partneriaeth yn dibynnu ar gefnogaeth rheoli perfformiad a ddarperir gan Gyngor Sir Penfro. Mae'r Cyngor yn defnyddio system electronig o'r enw Ffynnon i dracio ei gynnydd mewn ystod o feysydd gwasanaeth. Gellir teilwra'r system i fonitro p'un a yw prosiectau a rhaglenni'n cael eu rhoi ar waith yn effeithiol ai beidio, a gellir ei defnyddio i gysylltu'r wybodaeth hon â'r dangosyddion pennawd perthnasol.

9. Monitro ac adolygu'r Cynllun hwn

9.3

Er ei fod yn bwysig y gallwn ddangos bod prosiectau'n cael eu cyflwyno, mae'n bwysicach ein bod yn gwybod pa effaith y mae'r prosiectau hyn yn ei chael mewn gwirionedd. Gan hynny rydym wedi adnabod cyfres o ddangosyddion pennawd sydd, gyda'i 61

gilydd (ac wrth edrych arnynt ochr yn ochr â'r wybodaeth a gasglwn mewn perthynas â chyflwyno prosiectau), yn darparu darlun cyffredinol o ansawdd bywyd yn Sir Benfro. Nid yw'r dangosyddion hyn yn berffaith weithiau mae'n anodd creu cysylltiadau manwl gywir rhwng y cyfryw ddangosyddion a'r prosiectau a roddwyd ar waith - ond maen nhw'n darparu lefel fwy soffistigedig o fewnwelediad na fyddem yn elwa ohono petawn yn dibynnu ar wybodaeth o'r prosiect yn unig. 9.4

Bydd y BGLl a'i bartneriaethau cysylltiedig hefyd yn monitro ystod eang o ddangosyddion eraill er mwyn dod i ddealltwriaeth gynhwysfawr o'r cynnydd rydym yn ei wneud wrth gyflawni ein canlyniadau ar y cyd.

9.5

Mae'n arfer da i adolygu anghenion, gweithredoedd a dangosyddion o bryd i'w gilydd a bydd y BGLl yn cynnal adolygiadau rheolaidd o'r Cynllun. Bydd aelodau o'r cyhoedd a grwpiau cymunedol yn cymryd rhan yn yr adolygiadau hyn - yn wir, un o fuddion y broses gynllunio integredig fydd datblygu deialog mwy cyson rhwng darparwyr gwasanaethau a'u cwsmeriaid.


Bwrdd Gwasanaethau Lleol

Cynllun Integredig Sengl

Plant a Theuluoedd

Economi

Amgylchedd

Iechyd, Gofal a Lles

Diogelwch

Diogelu

'ƌDŽƉ Gweithredol PPPI

'ƌDŽƉ Economi

Fforwm Amgylchedd Sir Benfro

Bwrdd Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles

Partneriaeth Diogelwch Cymunedol

Bwrdd Lleol Diogelu Plant

62

Pwyllgor Diogelu Oedolion



Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.