Sport pembs newsletter summer 2013 cym 1724kb

Page 1

Awst 2013

CL W

B A CH U B B Y W Y D S Y R F F I O F F R E S

Mae clwb achub bywyd syrffio newydd wedi ei sefydlu ar draeth Freshwater West ym Mhenfro, diolch i riant rhagweithiol. Roedd y syrffiwr lleol, Graham da Gama Howells, wedi sylwi bod mwy a

mwy o ymwelwyr â’r traeth yn mynd i’r môr. Ei weledigaeth oedd rhoi cyfle i blant lleol ddysgu sgiliau newydd a datblygu technegau achub bywyd.

Mae grant Cist Gymunedol gwerth £1,500 wedi helpu’r clwb i brynu byrddau hyfforddi, tiwbiau achub ac offer hyfforddi Cymorth Cyntaf.

Noson Wobrwyo Cleddau Warriors

Ar ddiwedd tymor prysur iawn yng Nghynghrair Pêl-droed Anabledd De-orllewin Cymru, cynhaliwyd noson wobrwyo flynyddol y Cleddau Warriors yn Phoenix Bowl, Aberdaugleddau. Dechreuodd y noson gyda chystadleuaeth fowlio a phryd o fwyd pleserus.

Cyflwynwyd y gwobrau gan Mr Steve Brown, Cadeirydd Clwb Pêl-droed Clarbeston Road. Enillwyr y gwobrau oedd: Chwaraewr y Flwyddyn o dan 12 oed: Troy Bevan Chwaraewr y Flwyddyn o dan 16 oed: Joel McKweeny Y chwaraewr sydd wedi gwella fwyaf o dan 16 oed: Daniel Norton Nofydd y flwyddyn: Emma Martin Y nofydd sydd wedi gwella fwyaf: Ryan Walters

Chwaraewr y Flwyddyn dros 16 oed: Stevie Sullivan Y chwaraewr sydd wedi gwella fwyaf dros 16 oed: Dean Powell Daeth y noson i ben gyda Mr Bill Carne yn cyflwyno tlws Coffa Matthew Price i chwaraewr clwb y flwyddyn, sef Jack Surtees.

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


PWY YW EICH ARWR CHWARAEON SIR BENFRO? Mae’r amser wedi dod i enwebu pobl ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro 2013 – eich cyfle chi i ddathlu a chydnabod llwyddiant ym maes chwaraeon yn y sir. Gall pobl o bob oed gael eu henwebu, yn ogystal â hyfforddwyr, athrawon a threfnwyr. “Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi rhagori mewn chwaraeon dros y flwyddyn ddiwethaf, neu sydd wedi rhoi yn hael o’i amser er mwyn hyfforddi a threfnu chwaraeon ar lawr gwlad, pam na wnewch chi ei enwebu am wobr?” meddai’r Cynghorydd Elwyn Morse, Aelod y Cabinet dros Chwaraeon a Hamdden. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener 1 Tachwedd ac mae’r categorïau fel a ganlyn: • Hyfforddwr y Flwyddyn • Cyflawniad Chwaraeon Benywaidd • Cyflawniad Chwaraeon Gwrywaidd

• Cyflawniad Chwaraeon Bechgyn (o dan 16 oed) • Cyflawniad Chwaraeon Merched (o dan 16 oed) • Gwobr Chwaraeon Anabledd • Gwobr Chwaraeon Anabledd Iau (o dan 16 oed) • Arwr Anhysbys • Trefnwr Clwb y Flwyddyn • Cyflawniad Tîm y Flwyddyn • Cyflawniad Tîm Iau (o dan 16 oed) y Flwyddyn • Gwobr Cyfraniad at Chwaraeon Ysgol Bydd pawb sy’n cael eu henwebu, a’u gwesteion, yn cael eu gwahodd i seremoni flynyddol Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro ar ddydd Gwener 29 Tachwedd yn Fferm Folly, Begeli. Noddir y gwobrau gan Chwaraeon Sir Benfro, Fferm Folly,Valero, Radio Sir Benfro a’r Western Telegraph. “Mae’r gwobrau hyn yn rhoi cyfle i ni ddathlu llwyddiant ym maes chwaraeon yn y sir,” dywedodd Ben Field, Rheolwr Datblygu Chwaraeon gyda Chwaraeon Sir Benfro.

“Dyma ein cyfle i longyfarch perfformwyr gorau’r sir a chydnabod cyfraniad a holl waith caled yr hyfforddwyr, yr athrawon, y trefnwyr a’r gwirfoddolwyr sy’n gwneud hyn i gyd yn bosibl – a pheidiwch ag anghofio bod croeso i’r rhai a enwebwyd y llynedd fynychu’r seremoni eto eleni!”

Er mwyn cyflwyno enwebiad: Llenwch ffurflen enwebu ar-lein yn: www.pembrokeshire.gov.uk/sport Gallwch lawrlwytho ffurflenni o wefan Chwaraeon Sir Benfro: www.pembrokeshire.gov.uk/sport Gallwch gasglu ffurflen o swyddfa Chwaraeon Sir Benfro yn Neuadd y Sir, Hwlffordd neu ffonio 01437 776191 er mwyn derbyn ffurflen yn y post neu ar ffurf neges ebost.

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


Golff

Harry Thomas

Trwy gydol tymor yr haf, roedd yna ddigon o gyfleoedd i blant Sir Benfro ddarganfod golff, boed law neu hindda. Mewn amryw o leoliadau o amgylch y sir, o ysgolion cynradd yn Arberth a Dinbych-y-pysgod i faes Eisteddfod yr Urdd ym Moncath, yn ogystal â safleoedd ysgolion uwchradd, anogwyd plant i fynd i’r afael â’r gamp.

Am y trydydd tro, mae Harry Thomas, sy’n ddisgybl 13 oed yn Ysgol Bro Gwaun ac yn dod o Dreletert, wedi cael ei ddewis i gynrychioli tîm Cymru o dan 15 oed ym Mhencampwriaeth Pêl Fasged Cadair Olwyn Ranbarthol Iau elusen Lord’s Taverners, yn Stadiwm Stoke Mandeville yn Swydd Buckingham. Mae Harry yn aelod o Glwb Pêl Fasged Cadair Olwyn Hurricanes Sir Benfro, sy’n cwrdd yng Nghanolfan Hamdden Syr Thomas Picton bob yn ail ddydd Gwener rhwng 3.30 a 5pm.

Ychwanegwyd at y sesiynau trwy ddefnyddio offer GOLF PARC wedi’i noddi gan SVITZER, a alluogodd y plant i brofi chwarae

twll golff byr heb orfod mynd i glwb golff.Yn ogystal, cafodd rhai o’r plant gyfle i ddylunio’u twll golff eu hunain, gan ychwanegu coed, tir garw, pyllau tywod bach a baner er mwyn gosod amrywiaeth o wahanol heriau i’w hunain. Mae cyfleoedd ar gael i blant ddechrau chwarae golff ym mhob un o glybiau Sir Benfro. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Alan Jones, y Swyddog Datblygu Golff, ar 01437 776191 neu Alan.Jones@pembrokeshire.gov.uk.

Mae’r clwb yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu neu hyfforddi. Mae hyfforddiant ar gael. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Angela Miles, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Sir Benfro, ar 01437 776379 neu 07929213651.

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


CRICED

brwdfrydig i’w clybiau lleol.

Fy enw i yw Rick Walton a fi yw Hyfforddwr Criced Cymunedol Sir Benfro yn ogystal ag un o’r Hyfforddwyr Rhanbarthol – yn gyfrifol eleni am y grŵp oedran o dan 11 oed.

Fel arfer, mae hyn yn golygu fy mod yn ymweld â theulu penodol o ysgolion dros gyfnod o wythnosau er mwyn gwneud cysylltiad â gweithgaredd criced mewn clybiau lleol. Felly, er enghraifft, yn ystod y gwanwyn a’r haf hwn rwyf wedi bod yn gweithio yn Ysgol Spittal yng Yn rhinwedd fy swydd fel nghanol y sir er mwyn a) ysgogi a Hyfforddwr Cymunedol, rwy’n hyfforddi plant i chwarae criced, a ymweld ag ysgolion cynradd ac yn b) oherwydd y bydd tîm newydd cynnal sesiynau gemau criced o dan 9 oed yn dechrau'r gyda’r nod o ysgogi, adlonni a flwyddyn nesaf yng Nghlwb herio’r plant. Rwy’n ymwybodol Criced Camrose a Spittal.Yn o’r manteision addysgol ehangach ddiweddarach, cyflwynais sesiynau sy’n gysylltiedig ag astudiaethau’r mewn amryw ysgolion ym cwricwlwm, ond nid dyma’r lle Mhenfro a Doc Penfro oherwydd i’ch diflasu chi â damcaniaethau bod Clwb Criced Doc Penfro yn mawreddog. Er bod y sesiynau yn dechrau tîm dan 11 oed i ferched seiliedig ar hwyl a chwarae gemau, a bod Clwb Criced Penfro’n nid profi sgiliau cydsymud yw fy sefydlu tîm cymysg i blant o dan unig amcan – rhaid i ddisgyblion 11 oed. wrando a gwylio heb sôn am Rwy’n gweithio i Griced Cymru gyfrif er mwyn gwybod beth sy’n a’r elusen griced Chance to Shine. digwydd! Yn ddiweddar, gofynnodd Criced Hanfod yr hyn rwy’n ei wneud yw Cymru i mi ysgrifennu astudiaeth cynnig ffordd i blant ysgol gadw’n achos am fy ngwaith yn Sir Benfro iach.Yn bersonol, rwyf wedi a chan fy mod newydd gwblhau mwynhau manteision go iawn cyfnod hynod lwyddiannus o cymryd rhan mewn chwaraeon sesiynau yn Ysgol Spittal, tîm ac rwy’n gwybod yn sicr bod penderfynais ysgrifennu am sut yr gemau fel criced yn gallu rhoi hwb oedd hynny’n teimlo. Amgaeaf yr i bobl – hen ac ifanc – mewn astudiaeth achos isod yn y gobaith ffordd wahanol i bynciau y bydd yn rhoi rhywfaint o academaidd. wybodaeth yn ogystal â chyfleu’r Y tu hwnt i hynny, rwy’n gyfrifol fraint rwyf wir yn ei theimlo o am sicrhau bod y posibilrwydd gael y cyfle hwn i gyflwyno hwnnw ar gyfer chwaraeon yn rhywbeth mor ardderchog gynaliadwy – gan ei droi’n arfer chwaraeon, criced! - i fywydau ein gydol oes ardderchog – trwy plant lleol. gyflwyno chwaraewyr ifanc

Sut mae’n teimlo. Un o’r pethau gorau am fod yn Hyfforddwr Criced Cymunedol yw mynd i rywle newydd. Waeth pa mor dda rydym yn meddwl ein bod yn adnabod ein cynefin, bydd amser yn dod pan fydd yn rhaid cymryd cam i’r tywyllwch – boed hynny’n ysgol unigol neu’n ardal gyfan nad ydym yn gyfarwydd â hi. Digwyddodd hynny i mi eleni yn Ysgol Spittal. Nid oeddwn yn gyfarwydd â’r pentref; nid oeddwn yn gwybod ble roedd yr ysgol ac yn sicr nid oeddwn yn ymwybodol o ba mor newydd ydoedd. A hithau wedi’i lleoli mewn pentref gwledig iawn, cefais fy synnu y tro cyntaf i mi ymweld â’r ysgol a gweld adeilad a oedd ymhell o fod yn hen ysgol bentref draddodiadol. Ond dyna lle’r oedd hi - yn newydd ac yn sgleinio. Un o’r pethau cyntaf a ddaeth i’m meddwl wrth baratoi ar gyfer y sesiwn gyntaf hollbwysig ac ysbrydoledig oedd y byddai gan yr ysgol adnoddau da i fi a fy offer criced. Cofrestrais mewn hwyliau da iawn a chwrdd â’r Pennaeth yn gyntaf, ac wedyn y Cyd-drefnydd Chwaraeon. Syndod arall (o ran fy mhrofiadau hyd yn hyn) oedd bod y ddau ohonynt yn gefnogwyr criced. Roedd hynny’n golygu bod gennyf gynghreiriaid; bod ganddynt offer ac yn bwysicach fyth, bod yna ddiwylliant o chwaraeon yn yr ysgol. Arweiniais sesiynau i ddisgyblion Blynyddoedd 3, 4, 5 a 6; yn rhannol oherwydd mai’r amcan

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


oedd cyflwyno chwaraewyr i dîm criced o dan 9 oed Clwb Criced Camrose a Spittal, ac yn rhannol oherwydd bod y Pennaeth yn awyddus i gynifer o blant â phosibl elwa. Gan fod mor frwdfrydig â phosibl wrth gyflwyno’r gemau a’r hwyl, fe lwyddais i sicrhau bod pawb wedi elwa’n fawr – gan gynnwys fi fy hun! Yn gyntaf, yr hyn rwy’n ei olygu gan hynny yw fy mod i nawr yn gwybod bod llawer o blant yn yr ysgol honno yn gweld criced fel dewis go iawn – a’i fod yn rhan o eirfa’u bywydau. Nawr fy mod i wedi gadael, pan fydd rhywun yn gofyn “Beth allwn ni ei wneud yn ystod amser egwyl?” mae’n ddigon posibl y bydd rhai yn ateb trwy ddweud y geiriau hud “Chwarae criced!” Maen nhw bellach yn gwybod bod criced ar gael ac er fy mod yn hollol ymwybodol o’r hyn sy’n ein gyrru ni fel Hyfforddwyr Cymunedol – sef cyflwyno plant i glybiau – mae’r

gydnabyddiaeth hon gan blant gweddol ifanc fod chwarae criced yn beth da i’w wneud yn BWYSIG IAWN.Yn syml, roedd plant Ysgol Spittal yn deall y gêm ac rwy’n gweld hynny fel rhan hanfodol a gwobrwyol o’r pecyn rydym ni fel Hyfforddwyr Cymunedol yn gweithio tuag ato. Ysgol wledig, weddol fach yw Ysgol Spittal a, heb fod yn rhy rhadybiol, roeddwn yn disgwyl iddi fod yn ‘lle hawdd’ i rannu ein neges chwaraeon iach a hapus. Ac felly yr oedd hi. Ond cadwais i weithio’n galed ac i geisio darparu sesiynau deinamig a difyr, yn ystod a’r tu allan i oriau’r ysgol.Yn ogystal â gwneud fy ngwaith ac addysgu criced, roeddwn hefyd yn gwneud fy ngorau i fod yn gyfeillgar ac ychydig yn wirion. Roeddwn yn gwneud pob ymdrech i osgoi rôl plismona athrawon. Mae’n bosibl fy mod wedi gadael i rai o’r plant golli

diddordeb fan hyn a fan draw cyn eu denu nhw nôl at y gêm o ddifrif. Rwy’n atgoffa fy hun o bryd i’w gilydd nad oes angen i chi wneud llawer er mwyn a) difyrru pobl ifanc a, b) eu gwneud nhw i deimlo’n dda amdanynt eu hunain ac am yr hyn maen nhw’n ei wneud.Y cyfan sydd angen ei wneud yw dangos rhywbeth sy’n hwyl iddynt a’u hannog – fel unigolion os yn bosibl – i roi cynnig arno. Bydd y gêm yn gwneud y gweddill.Yn Ysgol Spittal, roeddwn yn gwybod bron ar unwaith bod y plant yn mwynhau’r gêm. Gwnaeth hynny i fi deimlo’n dda hefyd.

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


Menter newydd sydd â’r bwriad o annog merched a menywod i gadw’n heini yw Back2Hockey sy’n canolbwyntio ar hwyl, ffitrwydd a chyfeillgarwch heb unrhyw bwysau i berfformio. Os ymunwch â Back2Hockey, byddwch yn cael eich cefnogi dros gyfnod o 8 wythnos i gymryd rhan ar eich cyflymder eich hun, a byddwch yn cael hyfforddiant a digon o gyfleoedd i chwarae a chael hwyl. Does dim ots pa mor heini ydych chi neu faint o allu sydd gennych, bydd Ysgogydd Back2Hockey gyda chi bob cam o’r ffordd. Ar hyn o bryd, cynhelir sesiynau yn ATP Abergwaun a bydd sesiynau yn dechrau yng Nghanolfan Hamdden Tyddewi ar ddydd Iau 25 Gorffennaf. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Angela Miles, yr Asiant Hoci, ar 01437 776379 neu 07920213651

Canolfan Hwyl Hoci Cynhaliwyd tair canolfan hoci ‘4689’ yn Ninbych-y-pysgod, Hwlffordd ac Abergwaun dros y 9 mis diwethaf. Llwybr newydd at y gamp i bobl ifanc rhwng 7 ac 13 oed yw ‘4689’. Mae’r fformat yn seiliedig ar allu yn hytrach nag oed, gyda maint y maes chwarae a nifer y bobl mewn tîm yn cynyddu’n raddol wrth i’r plant wella. Uchafbwynt y rhaglen oedd gweld

30 o bobl ifanc o’r tair canolfan yn mynychu Gŵyl 4689 ar ddydd Sadwrn 15 Mehefin. Rhoddwyd tystysgrif i bob un a gymerodd ran a derbyniodd pedwar person ifanc - Jessica George a Griff Williams (Abergwaun), Pheobe Swales (Dinbych-y-pysgod) a Teo Krel

(Hwlffordd) - fedalau am arddangos gwerthoedd y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, sef Cyfeillgarwch, Dewrder, Cydraddoldeb, Ysbrydoliaeth, Parch, Penderfyniad a Rhagoriaeth. Bydd y Ganolfan Hwyl Hoci’n ailddechrau ym mis Medi yn Abergwaun a Hwlffordd. Am fwy o fanylion, cysylltwch ag Angela Miles, yr Asiant Hoci, ar 01437 776379 neu 07920213651

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


CYNLLUN GWOBRWYO Bob tro mae myfyriwr o Ysgol Tasker Milward yn mynychu clwb neu ŵyl 5x60 maen nhw’n ennill pwynt. Caiff y pwyntiau hyn eu cofnodi gan y Swyddog 5x60 ac yna mae myfyrwyr yn ennill gwobrau bob tymor. Ar ddiwedd y flwyddyn, mae’r prif enillydd yn cael ei gyhoeddi. Tasker Milward yw’r unig ysgol yn Sir Benfro sy’n cynnig cymhellion mor hael. Mae clybiau 5x60 eleni wedi cynnwys golff, dawnsio stryd, pêl foli, tenis, cerdded bryniau, boccia, seiclo, dringo a llawer mwy. Ar ddiwedd tymor yr hydref, cafodd y chwe myfyriwr ar frig y gynghrair dalebau TYF gwerth hyd at £100 i’w gwario ar ddiwrnod llawn o gaiacio, dringo neu arforgampau. Ar ddiwedd tymor y gwanwyn, rhoddwyd talebau a thocynnau teulu i

TASKER MILWARD

fyfyrwyr ymweld â’r Blue Lagoon yn Bluestone. Mark o Mike’s Bikes, Prendergast a noddodd y brif wobr - sef beic mynydd newydd sbon - ar ddiwedd y flwyddyn. Mae’r myfyrwyr wedi bod yn gwirio’u safleoedd ar frig y gynghrair yn gyffrous yn ystod y flwyddyn. Mae rhai o’r bechgyn hyd yn oed wedi ceisio mynychu rhai o glybiau’r merched er mwyn cynyddu eu sgôr! James Thomas o flwyddyn 8 oedd yr enillydd yn y pen draw ar ôl iddo fynychu dros 80 o sesiynau yn ystod y flwyddyn ysgol hon. Mae James wedi bod yn frwdfrydig iawn trwy gydol y flwyddyn ac yn barod i roi cynnig ar unrhyw glwb newydd.Yn ogystal, mae James wedi cynrychioli’r ysgol mewn pêl

fasged (gan gyrraedd rownd derfynol Sir Benfro) a thenis bwrdd 5x60. Victoria Hodgeson, disgybl arall o flwyddyn 8, a ddaeth yn ail, gan fynychu 79 o sesiynau. Mae Victoria wedi bod yn esiampl ardderchog i’w chyfoedion – Llysgennad Ifanc ar gyfer y dyfodol o bosibl. Cynrychiolodd Victoria’r ysgol mewn nifer o wyliau/cystadlaethau 5x60, gan gynnwys y tîm criced i ferched. Hi oedd capten y tîm pêl-droed i ferched hefyd. Enillodd Victoria daleb gwerth £50 oddi wrth County Sports, Hwlffordd. Diolch yn fawr i’n noddwyr, Mike’s Bikes a County Sports, yn ogystal â’r holl fyfyrwyr sydd wedi cymryd rhan mewn clybiau a digwyddiadau 5x60 eleni!

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


Wythnos Bwyd a Ffitrwydd yn Ysgol Greenhill yn cynnal etifeddiaeth y Gemau Olympaidd Trefnwyd yr amserlen wythnos o hyd o weithgareddau a digwyddiadau ar gyfer holl ddisgyblion Blynyddoedd 7, 8, 9 a 10 gan Mr Wyndham Williams, y Swyddog 5X60, gyda chefnogaeth tîm Chwaraeon Sir Benfro, Mr Matthew Davies a Mr Roy Osborn. Dechreuodd yr wythnos gydag ymweliad gwn Vernon Samuels, y neidiwr triphlyg Olympaidd, a Thinus Delport, y cyn-chwaraewr rygbi enwog o Dde Affrica sydd bellach yn gweithio fel darlledwr gyda Sky Sports. Uchafbwynt y diwrnod oedd gweld disgyblion Ysgol Wirfoddol a Reolir Hwlffordd yn cyflwyno’r batwn Cyfeillgarwch Olympaidd sydd ar ei ffordd i Rio De Janeiro ar gyfer 2016. Cymerodd bawb ran mewn gweithdai o dan oruchwyliaeth arbenigwyr lleol ar ystod o bynciau yn canolbwyntio ar elfennau bwyd a ffitrwydd. Trefnodd athrawon wersi yn gysylltiedig â’r thema – trodd gwersi Ffrangeg yn gystadlaethau boules a gwersi Cymraeg yn sesiynau ioga!

Cymerodd y disgyblion ran mewn amrywiaeth fawr o ddigwyddiadau, 140 i gyd, gyda’u hathrawon dosbarth. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys fforio, goroesi yn y gwyllt, gwneud smwddis ar feic, hirbêl Danaidd, pêl foli traeth, pêl fasged cadair olwyn, golff, tenis cardio, pêl fâs, footsol, rasys rhwystrau hwyliog, tag atomig, parkour, golff ffrisbi, ffrisbi eithafol, osgoi’r bêl, gweithdai maeth, gweithdai byw bywyd cyfannol, bwydlenni iach a blasu dall a ddarparwyd gan Goleg Sir Benfro. Uchafbwynt yr wythnos oedd diwrnod mabolgampau ysgol gyfan a drefnwyd gan Mr Roberts tra aeth Mr Williams â Blwyddyn 10 i’r traeth i chwarae campau traeth.

Lauren James Mae Lauren James, disgybl blwyddyn 12 yn Ysgol Bro Gwaun, yn ddawnswraig dalentog sydd wedi cael ei derbyn ar fenter dawns Cynllun Hyfforddi Ieuenctid Gofal Celf. Mae Lauren wedi bod yn dawnsio ers iddi fod yn chwech oed ac mae wedi ennill dros 100 o dlysau am ei hymdrechion yn ystod y cyfnod hwnnw. Ar ôl dechrau dawnsio gyda Zoe McClelland a Dynamics Dance School, mae Lauren bellach yn hyfforddi ac yn cystadlu mewn Dawnsio Disgo Dull Rhydd a Dawnsio Araf gydag academi Heaven Dance, sydd wedi’i lleoli yn Abertawe ond sydd hefyd yn gwneud peth gwaith yn Aberdaugleddau. Mae Lauren hefyd yn addysgu dawnsio i grŵp o ddisgyblion yn Ysgol Bro Gwaun fel rhan o fenter 5x60 yr ysgol. Mae Lauren yn dweud ei bod yn gobeithio parhau i ddawnsio ac addysgu am gyn hired â phosibl: “Rwy’n frwd iawn am ddawnsio ac wrth fy modd yn perfformio ac addysgu dawnsio i eraill sy’n rhannu’r un brwdfrydedd â fi.” Dywedodd Dan Bellis, Swyddog 5x60 Ysgol Bro Gwaun: “Mae Lauren yn esiampl arbennig o dda i’r disgyblion y mae hi’n gweithio gyda nhw. Rwy’n falch iawn iddi gael ei derbyn ar fenter dawns Cynllun Hyfforddi Ieuenctid Gofal Celf oherwydd bod hynny’n cydnabod ei hymroddiad a’i holl waith caled. Mae Lauren hefyd yn enghraifft wych o’r effaith y mae 5x60 yn ei chael mewn ysgolion – dechreuodd hi drwy gymryd rhan mewn sesiynau dawnsio 5x60 fel disgybl iau a nawr mae hi’n addysgu dawnsio i’r genhedlaeth nesaf o ddisgyblion.”

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.