Chwaraeon Sir Benfro

Page 1

Rhagfyr 2012

Dathliad Chwaraeon Dathlwyd blwyddyn syfrdanol o chwaraeon yn Sir Benfro yng Ngwobrau Chwaraeon Sir Benfro dydd Gwener Tachwedd 30 2012. Cafodd llwyddiannau rhagorol ym maes chwaraeon o bob rhan o'r Sir eu cydnabod yn y digwyddiad o fri yn Folly Farm.

anrhydedd arbennig Gwobr Arbennig y Cadeirydd. Llwyddodd Jacob o Fethesda ger Arberth, sy'n ddwy ar bymtheg oed, i ennill ei le yn 16 terfynol y Gystadleuaeth Boccia Olympaidd. Cafodd pencampwr BC3 Prydain 2010 a 2011 ei guro gan y medalydd aur Grigorios Polychronidis - un o'r chwaraewyr boccia gorau yn y byd.

Cynhaliwyd y noson gan Chwaraeon Sir Benfro - tîm datblygu chwaraeon Cyngor Sir Penfro. Noddwyd hi gan Valero, y Western Telegraph, Folly Farm a Radio Sir Benfro. Dathlwyd Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 hefyd gyda phresenoldeb nifer o gludwyr y Ffagl Olympaidd o Sir Benfro.

"Mae Jacob yn ysbrydoliaeth i ni i gyd," dywedodd y Cynghorydd Elwyn Morse.

A nodwyd llwyddiannau eithriadol Jacob Thomas - aelod o garfan ddethol Boccia Prydain Fawr - gydag

"Yr haf hwn, gwelwyd ffrwyth ei waith caled a'i benderfyniad tros y blynyddoedd, pan ddaeth, yn 17 oed

yn unig, i fod y chwaraewr ifancaf yn nhîm Boccia PF yn y gemau Paralympaidd. "Nawr mae Jacob wedi dechrau paratoi ar gyfer ei ddewis i garfan PF ar gyfer Rio 2016 a bydd ei brofiadau o Lundain 2012 yn holl bwysig ar gyfer hyn. Rydym yn dymuno'r gorau oll iddo." Un arall o uchafbwyntiau'r noson Wobrwyo Chwaraeon oedd cyflwyno Gwobr Llwyddiant Oes i Paul Murphy gan Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Jamie Adams.

Parheir ar y dudalen nesaf

Yr holl enillwyr ac eraill a gyrhaeddodd y rownd derfynol gyda’i gilydd ar y llwyfan.

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


Dathliad Chwaraeon

. . . Parhad o dudalen 1

Yn ddiweddar sicrhaodd Paul ei unfed ar ddeg a'i ddeuddegfed teitl byd ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau'r Byd yn Aldershot.

Mike a Jacob Thomas gyda Chadeirydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Peter Morgan. Enillwyr Camp y Flwyddyn,Tîm Nofio Ras Gyfnewid i Fechgyn Sir Benfro gyda Jane James o Valero.

Enillodd y cyd-deitl Codi Pwysau yn y categori 40 oed a throsodd / pwysau 90 cilogram. Roedd ei gyfanswm cyfunol o 792.5 cilogram a'i godiad union o 312.5 cilogram y ddau yn recordiau byd ar gyfer y categori hwnnw. Ers 1995 mae Paul wedi bod yn bencampwr codi pwysau Cymru saith gwaith, yn bencampwr Prydain 12 o weithiau, wyth gwaith yn bencampwr Ewrop a 12 o weithiau yn bencampwr y byd. Mae wedi dal naw record Brydeinig, wyth record Ewropeaidd ac 16 syfrdanol o recordiau byd. Dywedodd Ben Field, Rheolwr Chwaraeon Sir Benfro, bod y noson wedi bod yn gyfle gwych i gydnabod amrywiaeth eang ac ansawdd y chwaraeon sy'n cael eu mwynhau dwy'r Sir gyfan.

Paul Murphy, enillydd Gwobr Llwyddiant Oes gyda chadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Peter Morgan ac Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jamie Adams.

"Mae cymaint o ymroddiad i chwaraeon yn Sir Benfro, o hyfforddwyr lleol sylfaenol lan yr holl ffordd i'n chwaraewyr gyda'r gorau yn y byd," dywedodd. "Rydym yn croesawu'r cyfle hwn i ddathlu llwyddiannau drwyddi draw." Daeth mwy na 700 o wahoddedigion i'r seremoni wobrwyo, a oedd yn cynnwys adloniant gan Dilemma, grwp ˆ dawnsio o Ysgol Syr Thomas Picton.

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


Cafodd yr enillwyr a'r terfynwyr eleni ym mhob categori eu cyhoeddi fel a ganlyn: Hyfforddwr y Flwyddyn (Wedi'i noddi gan Chwaraeon Cymru) Buddugol: Angie Nicholls Terfynwyr: Colin John a Melissa McPhee

Llwyddiant Tîm y Flwyddyn (Wedi'i noddi gan Valero) Buddugol: Tîm Cyfnewid Bechgyn Clwb Nofio Sir Benfro Terfynwyr: Tîm Hoci Hˆyn Abergwaun ac Wdig a Chlwb Criced Hendy-gwyn ar Daf

Llwyddiant Chwaraeon Merched (wedi'i noddi gan y Western Telegraph) Buddugol: Becky Harries Terfynwyr: Stefanie Dando Jones a Chloe Sinnott Llwyddiant Chwaraeon Dynion (Wedi'i noddi gan Chwaraeon Sir Benfro) Buddugol: Dan Colman Terfynwyr: Gavin Campbell a Daryl John

Gwobr Anabledd Iau (o dan 16). O’r chwith i’r dde Seren James, Robyn Fellows (enillydd), Chris Ebsworth o Folly Farm a Harry Thomas.

Llwyddiant Chwaraeon Bechgyn (o dan 16) (Wedi'i noddi gan Valero) Buddugol: Daniel Thomas Terfynwyr: Thomas Beazley a Lorcan Williams

Arwr Di-glod (Wedi'i noddi gan y Western Telegraph) Buddugol: Maurice Leyland Terfynwyr: Sue Alvey a Jenny Lewis

Llwyddiant Chwaraeon Merched (o dan 16) (Wedi'i noddi gan Radio Sir Benfro) Buddugol: Sarah Omoregie Terfynwyr: Amy Leahy, Jessica Bradley a Rebekah Gwyther

Trefnydd Clwb (Wedi'i noddi gan Radio Sir Benfro) Buddugol: Huw Bevan Terfynwyr: Brian Hawkins / Phil Devonald a Fintan Godkin

Llwyddiant Tîm y Flwyddyn Iau (O dan 16) Wedi'i noddi gan Chwaraeon Sir Benfro) Buddugol: Tîm o dan 12 Academi Sirol Hwlffordd Terfynwyr: Tîm Peldroed o dan 11 Ysgolion Sir Benfro a Thîm Criced o dan 13 Cilgeti. Gwobr Cyfraniad i Chwaraeon Ysgol (Wedi'i noddi gan Chwaraeon Cymru) Buddugol: Finola Findlay Terfynwyr: Chris Hinman a Scarlett Rushby-Smith/ Tom Darcy Gwobr Llwyddiant Oes Paul Murphy Gwobr Arbennig y Cadeirydd Jacob Thomas

Gwobr Chwaraeon Anabledd (Wedi'i noddi gan Folly Farm) Buddugol: James Tyler Terfynwyr: Ben Hopkin ac Emma Martin Gwobr Chwaraeon Anabledd (O dan 16) (Wedi'i noddi gan Folly Farm) Buddugol: Robyn Fellows Terfynwyr: Seren James a Harry Thomas Cludwyr y Ffagl Olympaidd o’r chwith i’r dde: George Barrah, Rhys Eynon, Mike Davies, James Williams, Adam Goy ac Eric Mathias.

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


LLYSGENHADON CHWARAEON AUR AR GYFER SIR BENFRO Cafodd pedwar disgybl o Sir Benfro eu recriwtio fel Llysgenhadon Ifanc Aur ar gyfer chwaraeon, yn dilyn llwyddiant Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012. Cafodd Chloe Brown o Ysgol Dewi Sant, Natasha Jiwa-Walji o Ysgol y Preseli, Scarlett Rushby-Smith a Chris Hinman, ill dau o Ysgol Greenhill, eu dewis fel Llysgenhadon Ifanc Aur oherwydd eu hymrwymiad fel Llysgenhadon Arian y llynedd a’u gallu eithriadol fel arweinwyr ifanc. Mae eu rôl yn ymwneud â chynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon ysgol ac addysg gorfforol a hyrwyddo ffyrdd o fyw iach a gweithgar trwy weithio gyda staff 5x60 yn eu

hysgolion a swyddogion eraill Chwaraeon Sir Benfro. Maen nhw eisoes wedi mynychu Cynhadledd Genedlaethol Llysgenhadon Ifanc yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, ynghyd â Llysgenhadon Aur eraill o Gymru. Bydd y pedwarawd yn ymuno â phedwar Llysgennad Aur y llynedd i gyflwyno gwobrau Chwaraeon Sir Benfro ar ddydd Gwener 30 Tachwedd. Hefyd byddan nhw’n cymryd rhan mewn digwyddiadau hyrwyddo a digwyddiadau eraill gyda Chwaraeon Sir Benfro yn y misoedd i ddod.

Mae’r llun yn dangos Chloe Brown, Natasha Jiwa-Walji a Chris Hinman gyda Joanne Williams, Chwaraeon Sir Benfro, a Mel Clarke, a enillodd Fedal Arian mewn Saethyddiaeth yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012.

Gŵyl hoci ‘4689’ ar gae Astroturf Tasker Milward Daeth dros 40 o blant o Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd ac Ysgol Gynradd Spittal at ei gilydd ar gyfer gwyl ˆ hoci i ddiweddu rhaglen hoci a ddarparwyd yn eu hysgolion trwy gyfrwng y prosiect Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion. Hon oedd yr w ˆ yl hoci ‘4689’ gyntaf yn Sir Benfro. ‘4689’ yw’r llwybr newydd i mewn i hoci ar gyfer pobl ifanc rhwng 7 a 13 mlwydd oed. Mae’r cysyniad yn broses “cam nid oedran” gyda gweithgareddau cynyddol a dysgu drwy chwarae.

chwech pob ochr. I ddilyn hyn bydd canolfan hwyl hoci ‘4689’ yn dechrau ar gae Astroturf Tasker Milward ar ddydd Iau 22 Tachwedd o 5-6pm a bydd yn parhau am bum wythnos i ddechrau.

Gosodwyd y plant mewn grwpiau o wyth a buon nhw’n cymryd rhan mewn gemau difyr gyda thimau bach, a dilynwyd hyn gan gystadleuaeth o gemau pedwar pob ochr a

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


Ysgol Portfield – Alldaith DofE Wedi nifer o deithiau cerdded ymarfer a misoedd o baratoi a chynllunio, ym mis Gorffennaf aeth dau grwp ˆ o Ysgol Portfield ar alldeithiau fel rhan o’u Gwobrau Dug Caeredin. Cerddodd y ddau grwp ˆ o’r ysgol, ar hyd lonydd Fel y dywedodd Jack, “Roedd yr un yma’n anodd! Roedd yn waith caled, ond llwyddom i’w gyflawni! gwledig, traciau, llwybrau ceffyl a llwybrau cerdded, gan ymdopi’n dda â’r amgylchiadau gwlyb Roedd yn gymaint o hwyl ac ni fyddaf fyth yn anghofio hyn!” a chorslyd ar hyd y ffordd, hyd nes cyrraedd Nolton Haven ar gyfer gwersylla dros nos. Dychwelodd y grwp ˆ Gwobr Efydd i’r ysgol y prynhawn canlynol, ar ôl gorffen eu halldaith, gan adael y grwp ˆ Gwobr Arian i barhau yn y glaw! Roedd pawb wedi mwynhau eu profiad cyntaf o wersylla yn fawr iawn, ac yn awyddus i rannu eu straeon. Dywedodd Emma, “Roedd yn wych – cerddom drwy gors a oedd yn drewi, ond helpom ein gilydd drwyddi!” Ychwanegodd Zoe, “Ffantastig! A gawn ni wneud hyn eto?” Yn ffodus, gwellodd y tywydd gan ei gwneud yn noson hyfryd ar gyfer gwersylla i’r grwp ˆ Gwobr Arian, ond ar y diwrnod olaf dychwelodd y glaw trwm! Gweithiodd y grwp ˆ yn dda fel tîm gan beidio â cholli eu synnwyr digrifwch – a chafwyd hwyl arbennig pan gollodd yr Asesydd ei hesgidiau yn y mwd! Gorffennon nhw eu halldaith yn wlyb, mwdlyd a blinedig, ond yn falch dros ben o’u cyflawniad.

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


Gwobr MarcActif Cymru Mae Sir Benfro’n falch iawn bod 10 ysgol gynradd, un ysgol uwchradd ac Ysgol Arbennig Portfield wedi ennill Gwobr MarcActif Cymru erbyn hyn. Dyfarniad ansawdd yw MarcActif Cymru (MAC) a ddatblygwyd gan Chwaraeon Cymru a’r Gymdeithas ar gyfer Addysg Gorfforol. Mae’n cael ei ddyfarnu i ysgolion i gydnabod Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol o ansawdd uchel ac mae’n dathlu llwyddiant y disgyblion yn yr ysgol a’r gymuned chwaraeon ehangach. Nid yw’r wobr yn cydnabod cyfleusterau, ond yn hytrach ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer chwaraeon a’r safonau uchel sydd ar gael. Mae MarcActif Cymru’n dathlu'r amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu o ansawdd sydd ar gael yn ystod amser cwricwlwm a dysgu y tu allan i oriau ysgol.

Mae’n cydnabod rheolaeth effeithiol o’r pwnc o fewn y cwricwlwm ysgolion ac yn tynnu sylw at ddilyniant a chynnydd yn natblygiad y disgyblion. Mae hyn, yn ei dro, yn cyfrannu at hyrwyddo agweddau cadarnhaol a ffyrdd o fyw iach a gweithgar. Gall pob ysgol wneud cais am FarcActif Cymru a gyda chefnogaeth gan Chwaraeon Sir Benfro ac Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion, llwyddodd Portfield i ennill Gwobr MarcActif Cymru eleni. Gall Ysgol Portfield arddangos y dystysgrif gyda balchder a bydd yn gallu defnyddio logo MAC ar ddogfennau a gwefannau’r ysgol am dair blynedd. Y cyfle nesaf i wneud cais am y wobr ym mlwyddyn academaidd 2012-2013: •

Rownd 2: 19 Ebrill 2013

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Daniel Field, Rheolwr Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol, yn Chwaraeon Sir Benfro, 01437 776191.

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


Gwireddu breuddwyd Gwireddwyd breuddwyd Jacob Thomas o gymryd rhan yn y Gemau Paralympaidd ym mis Medi pan fu’n cynrychioli Tîm Prydain yn y Parc Olympaidd yn Llundain.Yn y gystadleuaeth Boccia unigol, a gynhaliwyd yn arena Excel, bu Jacob yn cystadlu yn erbyn Veronica Pamies Morera o Sbaen. Aeth Jacob ymlaen i’r rownd nesaf ar ôl ennill o wyth pwynt i un. Bryd hynny, cyfarfu Jacob a’i arwr, sef Grigorioe Polychronidis o wlad Groeg sy’n 31 mlwydd oed, a oedd eisoes wedi ennill medal aur yn y gystadleuaeth parau BC3.Yn anffodus, collodd Jacob o bum pwynt i un, ond gan mai dim ond 17 oed ydyw, mae Jacob wedi cyflawni llawer iawn mewn cyfnod byr o amser. Mae’n ysbrydoliaeth i bawb ohonom.

Bu James Tyler o Aberdaugleddau, sy’n 22 mlwydd oed, yn cystadlu’n ddiweddar yn y Gemau Olympaidd Ewropeaidd Arbennig yn Rwsia.Yn dilyn perfformiadau gwefreiddiol, dychwelodd gyda dwy fedal aur ac un fedal arian. Enillodd James y ras 200m ac ef oedd angor y tîm cyfnewid a enillodd fedal aur. Hefyd enillodd fedal arian yn y ras 100m. Ef yw’r athletwr cyntaf yn y sir i gynrychioli Prydain. Mae James yn hyfforddi gyda Chlwb Athletau Harriers Sir Benfro.

‘Profiad Chwaraeon o Ansawdd Uchel drwy’r Dull Aml Sgiliau’ Mae hyd at 28 o fyfyrwyr yn Ysgol Portfield wedi bod yn mwynhau clwb 5x60 newydd ers dechrau mis Medi, wedi’i ddarparu gan Bob Nelson. Mae’r Clwb Aml Sgiliau yn canolbwyntio ar ddatblygu ystod eang o sgiliau symud sylfaenol fel blociau adeiladu ar gyfer profiadau chwaraeon yn y dyfodol. Mae ystwythder, cydbwysedd a chydsymud yn ogystal â chryfder, stamina a hyblygrwydd yn cael eu targedu i helpu datblygu cymhwysedd corfforol pob myfyriwr (yr hyn a elwir yn ‘llythrennedd corfforol’). Mae disgyblion yn gweithio mewn grwpiau bach ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n datblygu cydsymud llaw a llygad, ymwybyddiaeth o ofod a

golwg cyrion y maes ynghyd â chyflwyno cysyniadau megis perchenogaeth, ymosod ac amddiffyn. Gwahoddir myfyrwyr i ddewis o blith amrywiaeth o offer ac fe’u hanogir i feddwl yn greadigol. Mae hyn yn annog agwedd eiddgar gadarnhaol sy’n eu helpu i ddeall yr hyn y maen nhw’n ceisio ei gyflawni a’r ffordd orau o wneud hynny. Wedyn gellir defnyddio’r sgiliau generig hyn mewn gweithgareddau chwaraeon penodol yn y dyfodol. Un cyfle o’r fath yw’r gystadleuaeth Pêl-droed Anabledd sy’n cael ei chynnal yn Ninbych-y-pysgod. Dewiswyd carfan o fyfyrwyr i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn ac maen nhw wedi bod yn ymarfer gyda Bob ar yr Astroturf yn Ysgol Tasker Milward fel rhan o’i glwb Pêl-droed 5x60. Gobeithiwn y bydd gwaith caled y myfyrwyr hyn a Bob ar y cae pêldroed ac yn ystod y Clwb Aml Sgiliau yn helpu cyfrannu at eu llwyddiant a’u mwynhad yn y digwyddiad hwn.

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


Athrawon Bisi Mae deg athro o Deulu Ysgolion Sir Benfro wedi bod yn brysur yn chwarae badminton yn ddiweddar.Yn dilyn llwyddiant y Gemau Olympaidd yn Llundain, mae Chwaraeon Sir Benfro wedi derbyn cyllid i sefydlu badminton fel gweithgaredd cyfoethogi neu glwb ar ôl yr ysgol yn Nheulu Ysgolion Sir Benfro. Mae’r Fenter Badminton mewn Ysgolion (Bisi) yn becyn adnoddau sy’n cefnogi rhan o’r

gofynion ar gyfer Cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2. Mae’r pecyn adnoddau sylfaenol yn cynnwys llawlyfr, cynlluniau gwersi, cardiau symudiadau a chardiau fflach y gellir eu defnyddio mewn gwersi Addysg Gorfforol o fewn y cwricwlwm ac mewn clybiau ar ôl yr ysgol. Mae’r cyllid ar gyfer badminton wedi galluogi staff o ysgolion yn ardal Penfro i fynychu’r cwrs Bisi, ac yn dilyn hynny, bydd

rhaglen o sesiynau badminton yn cael eu darparu yn yr ysgol am bum wythnos gan hyfforddwr Clwb Badminton Penfro, Phil Gwyther. Y nod yw cefnogi athrawon a hyfforddwyr i ddatblygu symud corfforol disgyblion a darparu’r camau cyntaf ar gyfer pob chwaraewr badminton ifanc. Cynhelir sesiynau ar gyfer plant o dan 11 oed yng Nghanolfan Hamdden Penfro bob nos Wener o 7pm i 8pm.

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


Rhedeg Traws Gwlad Ysgolion Cynradd Sir Benfro 2012 Ar ddydd Iau 18 Hydref cynhaliwyd y digwyddiad hwn am yr 22ain tro. Cafodd ei drefnu gan wirfoddolwyr o glwb Harriers Sir Benfro ym Mharc Thema Oakwood. Roedd y tywydd yn braf ond roedd y ddaear yn wlyb a mwdlyd iawn ar gyfer y 905 o blant a gymerodd ran. Er hynny, gwnaeth y plant y gorau o’r achlysur a bu rhai rasys cyffrous yn yr wyth cystadleuaeth a restrwyd. Ni lwyddodd y mwd ac esgidiau coll ddigalonni’r athletwyr hyn, buon nhw’n cystadlu fel athletwyr Olympaidd dros y ddau gwrs - bu Blynyddoedd 3 a 4 yn rhedeg 800m a Blynyddoedd 5 a 6 yn rhedeg 1,300m. Dymuna’r trefnwyr ddiolch i bawb fu’n cymryd rhan yn ogystal â Rheolwyr Oakwood am eu cymorth wrth wneud y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol. Mae caniatâd gan Oakwood i ddefnyddio’r cyfleusterau ar gyfer y digwyddiad yn hollbwysig, oherwydd mae’n bosibl nad oes lleoliad arall lle gellir cynnal yr hyn sydd wedi dod yn ddigwyddiad chwaraeon mwyaf y sir ar gyfer plant o’r grwp ˆ oedran hwn. Gyda rhieni, mam-guod a thad-cuod ac athrawon yn ffurfio cynulleidfa fawr a swnllyd, mae’n rhaid y bu miloedd o bobl yn bresennol.

amgylch y cwrs, a sicrhau bod pob ras yn mynd yn ei blaen yn ddidrafferth. Hefyd i Ambiwlans Sant Ioan am ddarparu cymorth cyntaf ac i staff Chwaraeon Sir Benfro am eu cymorth drwy gydol y digwyddiad.

Mae’r canlyniadau fel a ganlyn:Merched Blwyddyn 3 1st Isla Craig – Arberth 2nd Esme Pykett – Y Garn 3rd Ella Winter – Dinbych-ypysgod Enillydd Tîm Blwyddyn Arberth Bechgyn Blwyddyn 3 1st Oliver Pailin – Dinbych-ypysgod 2nd Shay Norcross – Arberth 3rd Daniel Jones – Tavernspite Enillydd Tîm Blwyddyn Arberth

Yr enillydd tîm cyffredinol eleni oedd Tavernspite, gydag Arberth yn ail a Saundersfoot yn drydydd.Yr enillwyr ymhlith ysgolion bach oedd Hook, gyda Thredeml yn ail a Redhill yn drydydd.

Merched Blwyddyn 4 1st Menna Davies –Brynconin 2nd Kacey Arran – Ysgol Iau Aberdaugleddau 3rd Kasia Cook – Llandyfái Enillydd Tîm Blwyddyn Ysgol Iau Aberdaugleddau

Estynnir diolchiadau arbennig i’r gwirfoddolwyr ifanc o Ysgol Tasker Milward a Harriers Sir Benfro a fu’n gweithredu fel ‘ysgyfarnogod’ gan arwain y cystadleuwyr o

Bechgyn Blwyddyn 4 1st Iori Humphries – Orielton 2nd Henry White – Y Garn 3rd Dylan Morgan – Sageston Enillydd Tîm Blwyddyn Y Garn

Merched Blwyddyn 5 1st Ffion Davies – Gelli Aur 2nd Kayleigh Taylor – Ysgol Wirfoddol a Reolir Hwlffordd 3rd Molly O’Connor – Aber Llydan Enillydd Tîm Blwyddyn Gelli Aur/Golden Grove Bechgyn Blwyddyn 5 1st Harry Worh – Ysgol Wirfoddol a Reolir Hwlffordd 2nd Rowan Fair – Spittal 3rd Kieran Owen – Y Garn Enillydd Tîm Blwyddyn Ysgol Wirfoddol a Reolir Hwlffordd Merched Blwyddyn 6 1st Ella Townsend – Mair Ddihalog 2nd Leah Raymond - Brynconin 3rd Alice Evans – Mair Ddihalog Enillydd Tîm Blwyddyn Mair Ddihalog Bechgyn Blwyddyn 6 1st James Hill – Aber Llydan 2nd Callum Williams – Cilgerran 3rd Rowan Petersen – Croesgoch Enillydd Tîm Blwyddyn Saundersfoot

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


Mae Sir Benfro wedi lansio prosiect newydd ar gyfer ysgolion, sef Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro. Mae’r prosiect yn annog plant i fod yn fwy hyderus yn eu hamgylchedd lleol ac fe’i datblygwyd drwy bartneriaethau gydag Addysg, Chwaraeon Sir Benfro, Darwin Experience ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) “Mae ‘Ysgol Awyr Agored’ yn dysgu disgyblion i ymgysylltu’n llwyr a bod â hyder yn eu hamgylchedd awyr agored lleol.Trwy ymweliadau rheolaidd ag ardaloedd awyr agored lleol, mae’r plant yn datblygu ymdeimlad cryf o les a lefelau uchel o weithgarwch corfforol. Maen nhw’n dysgu gwybodaeth ddefnyddiol am ecoleg a chynaliadwyedd ac yn datblygu sgiliau cyfathrebu drwy rannu’r wybodaeth hon â phobl eraill.” Bu chwe ysgol yn cymryd rhan i gychwyn yn y cynllun peilot bron i ddwy flynedd yn ôl ac ers hynny mae’r prosiect wedi mynd o nerth i nerth. Nawr mae 16 o ysgolion newydd wedi dechrau dod i adnabod eu hardaloedd lleol drwy gael eu nodi gan APCAP ac

wedi dod yn gyfarwydd â’r gweithgarwch corfforol y gallant gymryd rhan ynddo yn yr ardaloedd hyn â’r ecoleg sydd i’w chael yno. Tynnwyd sylw at y prosiect fel arfer sy’n arwain y sector gan Estyn yn gynharach eleni yn Ysgol Tavernspite, o ran datblygu gwybodaeth, balchder, perchenogaeth a mwynhad y plant o’u hardal awyr agored leol. Am fwy o wybodaeth neu os hoffech gymryd rhan, byddwch cystal â chysylltu â Simon Thomas, Pennaeth, Ysgol Llandyfái, a Chadeirydd Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro.

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


Dinbych-y-pysgod yn arddangos Aml Sgiliau Bydd plant ifanc yn Sir Benfro a ledled Cymru’n archwilio a dysgu drwy chwaraeon, yn dilyn cwrs Aml Sgiliau a Chwaraeon y Ddraig ar gyfer athrawon yn Ninbych-ypysgod yn ddiweddar. Cynhaliwyd cynllun peilot adnoddau Aml Sgiliau’r Ddraig yn Nheulu Ysgolion Tyddewi'r hydref diwethaf, ac yn dilyn ei lwyddiant, mae’r gwaith wedi cychwyn o sefydlu’r cynllun ledled Cymru. Mae’n golygu yn hytrach na dechrau drwy ganolbwyntio ar gamp benodol, bydd y ffocws ar sgiliau hanfodol megis cydbwysedd, rhedeg neu ymwybyddiaeth o ofod - ac wedyn gellir trosglwyddo’r rhain i bêl-droed, tennis, pêl-rwyd, neu pa bynnag gamp y mae’r unigolyn eisiau cymryd rhan ynddi.

O dair blwydd oed hyd at saith mlwydd oed (oedran sylfaen) mae pobl ifanc yn datblygu sgiliau orau wrth chwarae. Mae’r adnodd Chwarae i Ddysgu yn annog hyn gydag adnoddau i helpu athrawon, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr gan gynnwys llyfrau o storïau, cardiau gweithgaredd a llawlyfr sgiliau technegol. O saith mlwydd oed i 11 mlwydd oed (CA2), dylai pobl ifanc brofi cyfleoedd i barhau i ddatblygu sgiliau corfforol cyffredinol fel y gallan nhw gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon drwy gydol eu bywydau. Ac mae adnodd Aml Sgiliau’r Ddraig yn cyflawni hyn.

Er bod yr hyfforddiant cychwynnol wedi digwydd gydag ysgolion, y nod yw targedu clybiau yn y gymuned a chanolfannau hamdden i gynnwys elfen o’r dull aml sgiliau sylfaenol i wella ystwythder, cydbwysedd a chydsymud. Cafodd staff gwasanaeth Addysg Gorfforol Peripatetig Chwaraeon Sir Benfro eu hyfforddi’r tymor hwn hefyd, ac maen nhw wedi bod yn darparu gweithgareddau i 22 o ysgolion cynradd fel rhan o’u gwersi Addysg Gorfforol ac mewn clybiau ar ôl yr ysgol.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Joanne Williams, Chwaraeon Sir Benfro, 01437 776240.

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


Cymdeithas Badminton Newydd ar gyfer y Sir Bu 40 o chwaraewyr yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth gyntaf a drefnwyd gan Gymdeithas Badminton newydd Sir Benfro sydd wedi cael ei sefydlu gyda chymorth gan Chwaraeon Sir Benfro drwy’r Cynllun Grantiau Cist Gymunedol a Badminton Cymru. Cynhaliwyd y Gystadleuaeth Parau yng Nghanolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod ar 3 Tachwedd ac roedd yn llwyddiant mawr gyda rhai parau iau rhagorol yn cymryd rhan hefyd, gan ychwanegu eu brwdfrydedd i’r digwyddiad. Yn y gystadleuaeth i fenywod, yr enillwyr oedd Fiona Baker a Linda Gwyther o glwb Penfro a daeth Jenny Juddha a Suchitra Vijay o glwb Ysbyty Llwynhelyg yn ail. Roedd mwy o gystadleuwyr yn y gystadleuaeth i ddynion, felly ar ôl chwarae’r gemau pwll cychwynnol, aeth y rhai a gafodd eu curo

ymlaen i gystadlu am y plât. Mewn rownd derfynol gystadleuol dros ben, curwyd Dan Jenkins a Wayne Davies o Glwb Dinbych-y-pysgod gan Ben Ashworth a Chris Farrow o Glwb Arberth. Ym mhrif gystadleuaeth y dynion, bu Ben Richards, Penfro, a Luke Pierce, Tyddewi, sy’n bâr iau, yn dangos pam maen nhw’n gwneud mor dda mewn cystadlaethau Cenedlaethol Iau, gan ennill Rownd Derfynol Cymru O Dan 15 Oed y tymor diwethaf. Llwyddodd y ddau gystadleuydd sy’n 14 oed guro’r holl barau dynion a osodwyd yn eu herbyn hyd at y rownd derfynol, lle roedden nhw’n wynebu Sarfaraz Malik a David Juddha o glwb Ysbyty Llwynhelyg. Mewn rownd derfynol o safon uchel, profodd profiad y dynion yn drech na’r cystadleuwyr iau.

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


YSGOL Y PRESELI AC YSGOL TASKER YN FUDDUGOL MEWN CYSTADLEUAETH PÊL-DROED CHWECH BOB OCHR 5X60 Bu cyffro mawr ynghylch pêl-droed ar gae Astroturf Ysgol Greenhill yn Ninbych-y-pysgod ddydd Sul 21 Hydref wrth i’r ysgol groesawu pumed Gystadleuaeth Pêl-droed Merched Rhwng Ysgolion Uwchradd 5x60. Bu mwy na 90 o ferched o bob cwr o’r sir yn cymryd rhan yn y digwyddiad, a noddwyd gan fenter “Partneriaid Arweiniol mewn Chwaraeon” Valero. Bu’r merched yn cystadlu yn erbyn eu cyfoedion o holl ysgolion uwchradd eraill Sir Benfro. Rhannwyd y gystadleuaeth yn ddau bwll o saith tîm gydag Ysgol y Preseli ac Ysgol Bro Gwaun, sef y pencampwyr presennol, yn cyrraedd y rownd derfynol. Cafodd y ddau dîm eu cyfleoedd mewn gêm agos, gyda sgôr terfynol o 0-0. Penderfynwyd y canlyniad mewn

brwydr saethu ciciau cosb lle enillodd y Preseli o bedair gôl i ddwy. Ym Mhwll B bu brwydr galed yn y rownd derfynol a chafwyd gêm gyffrous gyda Tasker yn ennill yn erbyn Tyddewi. Llongyfarchiadau i’r merched am eu holl waith caled. Am wybodaeth am glybiau pêldroed lleol sy’n cynnal timau merched, cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Pêl-droed, Carrie Slack, ar 07788 310406.

Roedd y tîm o ferched a enillodd fel a ganlyn (o’r chwith i’r dde) Y rhes gefn - Bethany Heald, Lauran Waters, Ella Rees, Erin Griffiths. Y rhes flaen - Ella Vaughan, Gwawr James, Lleucu George, Hawyes Davies.

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


Ysgol Dewi Sant Arforgampau – Ben Sutton – Llysgennad Aur Ar ôl gwylio pawb yn cael cymaint o hwyl, roedd yn rhaid i mi ymuno, a rhoddais gynnig arni. Roeddwn yn ofnus dros ben – ‘does gen i ddim syniad sut y llwyddodd rhai o’r plant iau i neidio! Dechreuom ein halldaith arforgampau drwy ddringo i lawr y clogwyn ger Sain Non. Mae llethr serth ar un ochr a drysni o fieri ar yr ochr arall, ond llwyddodd pawb i ddod i lawr yn ddiogel. Ar ôl oedi rhywfaint (roedd y môr yn oer ofnadwy!) roedd pawb i mewn ac yn nofio at y naid gyntaf. Fel y ffotograffydd enwebedig, gorweddais yn y môr gan aros am y neidiwr cyntaf a hedfanodd oddi ar y naid tair metr a sblasio i’r dwr ˆ yn union wrth fy ymyl.

ddim yn meddwl bod dwy awr erioed wedi mynd heibio mor gyflym!

Wedyn buom yn trawsteithio clogwyn a oedd bron yn fertigol, cyn dod ar draws pwll ymchwydd gwych lle’n cariwyd i fyny ac i lawr gan y tonnau. Gorffennom drwy ddringo’n ôl i fyny llwybr troellog a cherdded nôl i Dyddewi – ‘dwi

Chloe Brown, Llysgennad Golff, Ysgol Dewi Sant Ar ddydd Mercher 24 Hydref, bu Llysgenhadon Chwaraeon Aur Sir Benfro yn ymweld â Chaerdydd. Dyma ddechrau fy rôl fel un o bedwar cynrychiolydd o Sir Benfro yn Athrofa Chwaraeon Cymru. Roedd cynrychiolwyr Aur o bob rhan o Gymru’n edrych ymlaen at ddiwrnod o drafod sut i hyrwyddo chwaraeon o fewn eu siroedd a’u hysgolion. Rwyf wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf fel Llysgennad Chwaraeon Arian o fewn fy ysgol, sef Ysgol Dewi Sant. Nawr, fel llysgennad Aur, cefais gyfle i wrando ar straeon

Alex Danson, sy’n chwarae hoci i Brydain Fawr, a chwrdd â Mel Clarke, y saethydd Paralympaidd, yn y gynhadledd yng Nghaerdydd. Yn ystod y diwrnod cefais oleuni pellach ynghylch fy rôl newydd a’r hyn a ddisgwylir gennyf, ac erbyn i mi adael roeddwn yn frwdfrydig i ddechrau nifer o brosiectau megis Cyngor Chwaraeon, cystadlaethau bach, arolygon, a her Llwybr Arfordir Sir Benfro. Rwy’n gobeithio y bydd y syniadau a luniwyd yn y gynhadledd yn fy ngalluogi i fod yn Llysgennad Golff

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


Tasker Milward ‘Gôl Aur i Tasker Milward’ Mae tymor yr hydref wedi bod yn brysur iawn, fel arfer, i’r Adran Addysg Gorfforol ac i 5x60. Gyda hyd at 18 clwb yn cael eu cynnal bob wythnos, mae’r myfyrwyr yn ei chael yn anodd penderfynu pa glybiau i’w mynychu! Dylid llongyfarch ein tîm pêl-droed merched am eu llwyddiant diweddar yng nghystadleuaeth pêldroed chwech pob ochr Merched 5x60 a gynhaliwyd yn Ysgol Greenhill, Dinbych-y-pysgod, ar 21 Hydref. Bu carfan o 11 o ferched o Flynyddoedd 7, 8 a 9 yn cystadlu yn erbyn chwe ysgol uwchradd arall o Sir Benfro ac roedd ganddynt record ddiguro yn eu pwll. Rebecca Roberts oedd y capten, ac ni ildiwyd un gôl yn eu saith gêm.

Arweiniodd gêm derfynol dynn yn erbyn Ysgol Dewi Sant at fuddugoliaeth yn dilyn gôl aur yn yr amser ychwanegol. Dylai pob un o’r merched a fu’n cymryd rhan fod yn falch o’u cyflawniad ac rydym yn gobeithio y bydd rhai ohonynt yn cael eu harwyddo gan dimau lleol yn y dyfodol agos! Hefyd mae Adran Addysg Gorfforol Tasker Milward a’r Swyddog 5x60 wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i gryfhau cysylltiadau â’r ysgolion cynradd sy’n ein bwydo. Ar ddechrau mis Hydref, gwahoddwyd 180 o fyfyrwyr Blwyddyn 6 o chwe ysgol leol i fynychu diwrnod blasu. Bu’r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn pum gweithgaredd gwahanol yn

amrywio o zumba i godi hwyl i dennis, pêl-rwyd ac addysg awyr agored. Llawer o ddiolchiadau i’n myfyrwyr Lefel Uwch mewn Addysg Gorfforol yn y chweched dosbarth a fu’n hebrwng y grwpiau, a gwelwyd llawer ohonynt yn mwynhau’r gweithgareddau eu hunain, yn enwedig y bechgyn zumba! Yn ogystal â hyn, croesawodd ˆ yl Hwyl Hoci Tasker Milward W Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol i’r ysgol ar 23 Hydref. Bu 40 o fyfyrwyr Blynyddoedd 5 a 6 o ysgolion cynradd lleol yn cymryd rhan mewn sesiwn hoci yn dilyn y fenter ‘4689’ ddiweddaraf gan Hoci Cymru. Diolch yn fawr iawn i Angela Miles (Swyddog Datblygu Hoci) a gafodd ei chynorthwyo gan y Swyddog 5x60, Claire Butler (yr Adran Addysg Gorfforol), a’r arbenigwyr hoci Tom D’Arcy, Stephen Kendrick a Molly Brick (Llysgenad Aur Blwyddyn 12). Cawsom ein plesio’n fawr gan y sgiliau a’r brwdfrydedd a ddangosodd y grwp ˆ hwn o fyfyrwyr a gobeithiwn y byddan nhw’n cynnal eu diddordeb mewn chwaraeon yn y dyfodol.

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


Ysgol Bro Gwaun Sesiynau Pêl-fasged 5x60 Ysgol Bro Gwaun, gwyliau haf 2012 Mae 11 o ddisgyblion o Ysgol Bro Gwaun wedi bod yn mireinio eu sgiliau pêl-fasged yn ystod gwyliau’r haf. Roedd y sesiynau, yng nghampfa’r ysgol, yn canolbwyntio ar sgiliau sylfaenol, gemau difyr a gemau gyda thimau bach.

Sioe Deithiol y Gemau Codi Hwyl a Dawnsio Paralympaidd Stryd 5x60 ar gyfer Bu 20 o ddisgyblion Blwyddyn 7 o Merched yn Ysgol Bro Ysgol Bro Gwaun yn cymryd rhan mewn diwrnod o weithgareddau ar Gwaun ddydd Iau 21 Mehefin i ddathlu Gemau Paralympaidd Llundain 2012 a fyddai’n dechrau cyn bo hir. Bu’r disgyblion yn cymryd rhan mewn gemau pêl foli, boccia a phêl-fasged cadair olwyn, a hefyd buon nhw’n dysgu am werthoedd y Gemau Paralympaidd.

Trefnwyd y sesiynau i baratoi ar gyfer cyfres o gemau a chystadlaethau pêl-fasged y bydd y bechgyn yn cymryd rhan ynddynt yn ystod y flwyddyn ysgol nesaf.

Trefnwyd y digwyddiad gan Swyddog Chwaraeon Anabledd Chwaraeon Sir Benfro, Angela Miles.

Y Cyfranogwyr Isaac Davis, Dan Evans, Jordan Griffiths, Andrew Harries, Howard Harries, Thomas Hughes, Jordan James, Jordan Jones, Ieuan Lynch, Thomas O’Sullivan, Jack Phillips

Dywedodd Swyddog 5x60 yr ysgol, Dan Bellis, “Roedd hwn yn gyfle gwych i’r disgyblion roi cynnig ar nifer o chwaraeon newydd a chawsant lawer o hwyl. Wrth gymryd rhan, daethant i sylweddoli cymaint o allu, penderfyniad ac ymroddiad y mae’n eu cymryd i gyrraedd lefel uchel yn y chwaraeon hyn. Gobeithir y bydd digwyddiadau eraill tebyg yn cael eu trefnu yn y dyfodol agos.

Mae codwyr hwyl 5x60 Ysgol Bro Gwaun wedi cael haf prysur. Bu’r merched yn perfformio eu hymarferion o flaen torfeydd mawr yng Nghanolfan Phoenix ar ddydd Sul 5 Awst ac yn ystod Carnifal Abergwaun ar ddydd Sadwrn 25 Awst. Bu’r merched yn ymarfer ar gyfer y digwyddiadau yn ystod eu sesiynau Codi Hwyl 5x60 a gynhaliwyd amser cinio, ar ôl yr ysgol a hefyd yn ystod gwyliau ysgol gyda’u hyfforddwr, Finola Findlay. Roedd y digwyddiadau’n ymarfer da i’r merched, a fydd yn cymryd rhan mewn cyfres o wyliau a chystadlaethau yn y misoedd i ddod. Participants: Jasmine Williams-Meaney, Keira Morris, Joanna Thomas, Lowri Feild, Nia Antonen, Kate Griffiths, Lowri Bowen, Abbie Ladd, Livvy Williams,

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


fel hyn yn arddangos yr effaith wych y mae 5x60 yn ei chael ar ein hysgolion a’r cyfleoedd y mae’n eu darparu. Roedd yn dda i weld cymaint o ferched yn chwarae pêldroed i safon mor uchel.

Gêm Bêl-droed Merched 5x60 Ysgol Bro Gwaun yn erbyn Ysgol Aberdaugleddau mis Hydref 2012 Bu 20 o ferched o Ysgol Bro Gwaun yn cymryd rhan mewn gêm bêl-droed 5x60 ‘gyfeillgar’ yn erbyn eu cyfoedion o Ysgol Aberdaugleddau ddydd Llun 15 Hydref ar y cae Astroturf yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun. Trefnwyd y gêm fel paratoad ar gyfer cystadleuaeth Pêl-droed Merched 5x60 a gynhaliwyd ddydd Sul 21 Hydref.

gêm gystadleuol iawn, enillodd merched Bro Gwaun ddwy gêm. Enillodd Aberdaugleddau un gêm ac roedd un gêm gyfartal. Gobeithir y gellir trefnu gemau yn ôl wedi hanner tymor. Rheolwyd timau Bro Gwaun gan y Llysgenhadon Ifanc Becky Hayes ac Amy Leahy.

Roedd gan y ddwy ysgol ddau dîm chwech pob ochr, ac mewn pedair

Dywedodd Swyddog 5x60 Ysgol Bro Gwaun, Dan Bellis,’Mae gemau

Tîm Ysgol Bro Gwaun Caryl Roberts, Nia Evans, Chelsey Ladd, Chloe Craig, Buddug Lewis, Chloe Gallagher, Abbie Ladd, Grace Thomas, Nancy John, Ffion Evans, Jemma Clifford, Kelsie Jones, Kate Griffiths, Kim George, Jasmin Reynolds, Carys Williams, Lauren Wilmott, Megan Evans, Amy Campbell, Carys John, Am fwy o wybodaeth ynghylch 5x60 yn Ysgol Bro Gwaun, cysylltwch â Dan Bellis ar: 07920 702044 neu daniel.bellis@pembrokeshire.gov.uk.

Ysgol Aberdaugleddau DAWNSIO STRYD

Mae Finola Findlay wedi bod yn darparu sesiynau Dawnsio Stryd 5x60 yn yr ysgol bob nos Wener y tymor hwn, cyn Cystadleuaeth Genedlaethol rhwng Ysgolion y Sefydliad Dawns Unedig ym mis Tachwedd. Mae gan yr ysgol ddau dîm yn

cymryd rhan yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf, ac yn ystod hanner tymor cynhaliodd Finola weithdy tair awr gyda’r 12 disgybl sy’n cymryd rhan er mwyn mireinio’r ymarferiadau cyn y gystadleuaeth. Mae’r timau fel a ganlyn: Blake Wonnacott, Chloe Jenkins, Hannah Hawkins-Greene, Alannis Stewart, Bethany Roberts, Jade Roberts, Shania Roberts, Alysha Dimond, Rebecca Edwards, Robyn Briskham, Danielle Rendell, Ceryn Ling.

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


Ysgol Greenhill Llysgenhadon Ifanc Ysgol Greenhill yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012. Nid diwrnod cyffredin oedd y diwrnod cyntaf yn ôl yn yr ysgol i’r llysgenhadon ifanc ac aelodau’r cyngor chwaraeon yn Ysgol Greenhill. Ar ôl blwyddyn o waith caled, cawsant gyfle unigryw i fynychu digwyddiad chwaraeon anabledd mwyaf y byd, sef y Gemau Paralympaidd! Roedd y Stadiwm Olympaidd yn drawiadol dros ben. Cafodd pawb eu cyffroi yn ystod y paratoadau cyn y digwyddiad.Yn sydyn, roedd y stadiwm yn ferw gan gymeradwyo

iasol. Roedd seremoni’r medalau ar gyfer y ras cadair olwyn 1,500 metr T54, a enillwyd gan David Weir, yn digwydd – ac mae’r dyn hwn yn eicon Prydeinig gwirioneddol! Ond nid dyna’r cyfan oedd gan y ‘Weir Wolf’ i’w gynnig. Enillodd ei ragras 800m yn hawdd, gan wneud i bawb gymeradwyo’n uwch.

Gwelsom rai perfformiadau gwirioneddol anhygoel. Dyma ddigwyddiad unigryw go iawn.

Roedd cymaint yn digwydd: y naid hir, taflu disgen, taflu maen a’r cystadlaethau trac. Roedd yr athletwyr yn ysbrydoliaeth i bawb. Llawer o ddiolch i Wyndham Williams, Swyddog 5x60, a staff Chwaraeon Sir Benfro, sef Jo Williams ac Angela Miles, am ofalu amdanom – roeddent bob amser yn barod am hwyl a chafodd pawb amser gwych. Felly , bobl – beth am Rio yn 2016?

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


PARKOUR YN DOD I YSGOL GREENHILL Mae myfyrwyr o Ysgol Greenhill wedi rhoi croeso mawr i ddisgyblaeth a ddaw o Ffrainc yn wreiddiol, sy’n golygu llywio ffordd o gwmpas amrywiaeth o rwystrau. Diolch i lwyddiant mawr y sesiynau blasu ‘Parkour’, lle bu mwy na 100 o ddisgyblion yn cymryd rhan yn ystod gwersi addysg gorfforol yn Ysgol Greenhill, mae clwb Rhedeg Rhydd 5x60 newydd wedi cychwyn.

Newman, sy’n hyfforddwr proffesiynol gyda Kinetics Body Artist Movement (KBAM). Yr amcan yw dysgu pobl sut i lywio’u ffordd dros, o dan neu drwy unrhyw rwystr y gallent ddod ar ei draws yng nghanol dinas neu mewn maes chwarae.

yn Ysgol Greenhill. Ar ddiwedd y rhaglen, bydd pob disgybl yn cael tystysgrif a chrys T a byddan nhw hefyd yn cael cyfle i ymuno â’r clwb KBAM.

Dywedodd Wyndham Williams, Swyddog 5x60, “Mae wedi bod yn wych, mae’r disgyblion wrth eu bodd.”

Cynhelir y AR FRIG Y DON GYDA dosbarthiadau Mae mwy nag 20 disgybl wedi 5X60 MYFYRWYR YN rhedeg rhydd ar dir cofrestru ar gyfer cwrs rhedeg DYSGU SYRFFIO! rhydd chwe wythnos, yr unig un o’i Ysgol Greenhill o dan arweiniad Mike Dros y pum mlynedd diwethaf mae mwy na fath yn Sir Benfro, a gaiff ei gynnal 600 o ddisgyblion ifanc o Ysgol Greenhill wedi cael gwersi syrffio. CLWB DAWNSIO STRYD CRISIS AR

EI FFORDD I GYSTADLEUAETH Y SEFYDLIAD DAWNS UNEDIG Mae disgyblion o Ysgol Greenhill sy’n aelodau o glwb dawnsio stryd 5x60 ‘Crisis’ wedi bod yn gweithio’n galed y tymor hwn i baratoi ar gyfer cystadleuaeth y Sefydliad Dawns Unedig sy’n cael ei chynnal yng Nghasnewydd ar 11 Tachwedd, yn ogystal â’u hyfforddwr dawnsio stryd, Finola Findlay, sydd wedi bod yn gwneud gwaith gwych wrth ddysgu pobl ifanc sut i ddawnsio. Bydd tîm o 15 disgybl a phum grwp ˆ deuawd o Crisis yn cymryd rhan ddydd Sul nesaf. Mae’r merched a’r bechgyn sy’n aelodau o glwb dawnsio stryd Crisis wedi bod yn ymarfer ddwywaith yr wythnos gyda Finola ac maen nhw’n fwy na pharod ar gyfer y gystadleuaeth.

Mae 60 disgybl arall yn cymryd rhan mewn rhaglen ‘dysgu syrffio’ chwe wythnos oddi ar arfordir Sir Benfro yn Ninbych-y-pysgod, Maenorbˆyr a Freshwater West. Trefnwyd y cwrs gan swyddog 5x60, Wyndham Williams, o Chwaraeon Sir Benfro, ac Ysgol Syrffio Outer Reef.

Yn ystod y chwe wythnos ddiwethaf mae pobl ifanc wedi cymryd rhan yn y ‘Cynllun Syrffio ar gyfer Athletwyr Ifanc Iau’ a gafodd ei gynllunio a’i ddatblygu gan Gymdeithas Syrffio Prydain. Cynhaliwyd llawer o gystadlaethau difyr yn ogystal â gweithgareddau ffitrwydd, datblygu sgiliau, diogelwch ac ymwybyddiaeth o’r môr.

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


Ysgol Penfro Mae wedi bod yn hanner tymor cyntaf prysur a phleserus iawn i bawb yn Ysgol Penfro. Mae’r holl ddisgyblion wedi cael y cyfle i gymryd rhan mewn clybiau newydd yn ogystal â’r clybiau hirsefydlog traddodiadol yn Ysgol Penfro.Y tymor hwn rydym yn anelu at wella a datblygu iechyd a lles y disgyblion. Sefydlwyd y clybiau newydd canlynol: Troelli – Sesiynau bechgyn a merched Pwmpio’r Corff – Pob blwyddyn

Yoga – Pob blwyddyn Criced i Ferched – Pob blwyddyn Mae’r clybiau hyn wedi profi i fod yn boblogaidd iawn, gyda ‘throelli’ ar ben y rhestr! Bu’n rhaid cynnwys sesiwn ychwanegol er mwyn darparu ar gyfer yr holl ddisgyblion a oedd eisiau cymryd rhan. Bu disgyblion hefyd yn mwynhau sesiynau dawnsio stryd, badminton, tennis bwrdd, pêl fasged, pêl-droed i ferched a ffitrwydd iau. Yn ystod ‘Dawnsio Stryd’ maen nhw wedi bod yn brysur yn

ymarfer ar gyfer Cystadleuaeth Genedlaethol i Ysgolion y Sefydliad Dawnsio Unedig, lle fydd Lauren Smith, Leah Willis, Rebecca-Ann Newton a Zac Coles yn cynrychioli’r ysgol. Mae’r disgyblion hyn wedi bod yn gweithio’n arbennig o galed i fireinio eu perfformiad – gan ddod i mewn am ddwy awr yn ystod hanner tymor hyd yn oed!

Ysgol y Preseli Wal Ddringo Mae gan Ganolfan Hamdden Crymych wal ddringo yn yr hen gwrt sboncen sy’n cael ei defnyddio gan y clwb dringo 5x60. Mae disgyblion Blwyddyn 7 ac 8 yn mwynhau defnyddio’r wal gyda chlybiau’n cael eu cynnal bob dydd Mawrth a dydd Iau. Cynigir nifer o gemau gwahanol i’r disgyblion eu chwarae, ac maen nhw wedi mwynhau’r heriau gwahanol a osodwyd.

YOGA 5x60 Mae Blynyddoedd 10 ac 11 yn gallu bod yn llawn straen mewn ysgolion uwchradd oherwydd y baich gwaith a straen ychwanegol oherwydd arholiadau ar ddiwedd y flwyddyn. I

helpu disgyblion i ymlacio yn ystod y cyfnod hwn, mae’r swyddog 5x60 wedi trefnu i hyfforddwr gychwyn sesiynau yoga. Mae disgyblion wedi mwynhau’r sesiynau hyn yn fawr gyda’r hyfforddwr Lisa Taylor. Mae mwy na 30 o ddisgyblion wedi mynychu’r sesiynau a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hamdden Crymych ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener.

Gwyliau’r Haf Yn ystod gwyliau’r haf bu saith disgybl o Ysgol y Preseli ar daith caiacio o Henffordd i Rosan ar Wy. Tomos Dugmore, Rheinallt George, Aaron Williams, James Bentely, Ieuan Cooke ac Antoine Simmons oedd y disgyblion.

Yn ystod tridiau’r daith, rhoddwyd tasgau i’r disgyblion gan gynnwys gosod pebyll i gysgu ynddynt, eu rhoi heibio cyn gwneud eu brecwast eu hunain yn y boreau ac wedyn cychwyn yn eu caiacau am y diwrnod. Ar ôl cwblhau’r cwrs tridiau, enillodd y disgyblion gymhwyster. Yn ddiweddarach yn yr wythnos, treuliodd y disgyblion ddiwrnod ym Mharc Hamdden Heatherton. Buon nhw’n dringo llwybr antur ar raffau uchel ‘Tree Tops’, chwarae pêl fas a golff gwallgof, cymryd rhan mewn saethyddiaeth a saethu colomennod clai a chawsant amser yn ogystal i gael tro ar y gwibgerti.

I gael copi mewn print bras, Braille, tâp sain neu iath arall, byddwch cystalâ ffonio (01437) 776613

w w w. p e mbrokes hi re . gov. uk/s por t


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.