Sport pembs newsletter spring 2013 welsh

Page 1

Gwanwyn 2013

LLWYDDIANT YM MAES BOCCIA I RACHEL Cafodd y clwb gyllid gan Gynllun Grantiau'r Gist Gymunedol yn ddiweddar i gyflwyno rhaglen hyfforddi yn ystod y gaeaf. Caniataodd y grant i’r clwb brynu rhai ‘hyfforddwyr tyrbo’ ychwanegol, yn ogystal â sicrhau cymorth hyfforddwr beicio lleol, Nick Brown. Mae nifer aelodau’r clwb wedi codi o 5 yn 2012 i 27 aelod craidd sydd bellach yn mynychu’r sesiynau ‘tyrbo’ ar nos Fawrth, yng Nghanolfan Bloomfield yn Arberth.

I gael mwy o wybodaeth am Gynllun Grantiau'r Gist Gymunedol, cysylltwch ag Alan Jones ar 01437 776191 neu Alan.Jones@pembrokeshire.gov.uk

Mae’r Dynamos yn y broses o roi rhai aelodau trwy gwrs hyfforddi beicio lefel 2, er mwyn i sesiynau yn y dyfodol gael eu cyflwyno ‘yn fewnol’.

I gael mwy o wybodaeth am Glwb Beicio Dynamos Arberth, ac amserau hyfforddi, cysylltwch ag info@narberthdynamos.co.uk neu ewch www.narberthdynamos.co.uk

Teithiodd Rachel Bailey o Arberth i Sheffield ynghyd ag athletwyr adnabyddedig eraill, 24 i gyd, i gymryd rhan yng ngham 2 Rhaglen Llwybr Carlam Boccia Prydain Fawr, sydd wedi cael ei chynllunio i chwilio am chwaraewyr a fydd yn barod i frwydro’n erbyn y byd yn Rio 2016. Gwnaeth Rachel yn hynod dda, a chafodd ei dewis i ddychwelyd i Sheffield fel rhan o’r 16 chwaraewr olaf, a bydd 8 ohonynt yn cael eu dewis ar gyfer y camau olaf. Mae Sir Benfro gyfan yn dymuno pob llwyddiant i Rachel. Mae Angela Miles, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Sir Benfro, yn falch iawn o gynnydd Rachel, ac yn gyffrous ynglŷn â’r ffaith y gall fod gan Sir Benfro athletwr Boccia Prydain Fawr arall.

w w w. pe mbrokeshire .gov.uk/spor t


Chwaraeon y Ddraig ....

Bisi yn Ysgolion Cynradd Sir Benfro!

Yn dilyn llwyddiant y Gemau Olympaidd yn Llundain, mae Chwaraeon Sir Benfro a Hamdden Sir Benfro wedi cael cyllid i gyflwyno badminton fel gweithgaredd cyfoethogi neu glwb ar ôl ysgol yn Nheulu o Ysgolion Penfro.

Mae’r Swyddog Datblygu Badminton, Phil Gwyther, wedi bod yn cyflwyno’r fenter yn Ysgol

Mae prosiect Badminton Cymru, Bisi (badminton mewn ysgolion) yn becyn adnodd sy’n ategu rhan o ofynion Cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2.

Gynradd Llandyfái, sef un o bedair ysgol gynradd yn Sir Benfro lle mae Badminton Cymru, Chwaraeon Sir Benfro a Hamdden Sir Benfro, wedi uno i gyflwyno badminton i blant naw a deg oed mewn rhai “arenâu” chwaraeon rhyfeddol o fach.

Mae’r pecyn adnodd cynradd yn cynnwys llawlyfr, cynlluniau gwersi, cardiau symud a chardiau fflach y gellir eu defnyddio mewn gwersi ymarfer corff sydd ar y cwricwlwm, ac mewn clybiau ar ôl ysgol.

yn dysgu’r sgiliau raced sydd eu hangen i chwarae. Mae Hamdden Sir Benfro hefyd wedi rhoi rhwydi, racedi a gwenoliaid badminton i Ysgol Ystangbwll,Ysgol Golden Grove ac Ysgol Gymunedol Doc Penfro.

Ysgol Ystangbwll,Ysgol Gymunedol Doc Penfro ac Ysgol Golden Grove, Penfro, yw’r ysgolion eraill lle mae disgyblion

Mae’r disgyblion wedi cael cyfle i symud ymlaen i amgylchedd clwb gwirfoddol ac ymuno â Chlwb Badminton Iau Penfro, sy’n hyfforddi yng Nghanolfan Hamdden Penfro ar nos Wener. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag Wyndham Williams ar 07920700759 wyndham.williams@pembrokeshire.gov.uk

w ww. p e m brokeshire .gov.uk/spor t


Hoci ....

Hoci 4689

Enillwyr: Brynconin

4689 yw’r llwybr newydd i hoci ar gyfer pobl ifanc 7-13 oed. Mae’r fformat yn seiliedig ar gam cynyddol nid oedran, ac mae maint y cae chwarae a’r nifer mewn tîm yn cynyddu’n raddol wrth i allu’r plant wella. Mae dros 230 o ddisgyblion wedi mwynhau cymryd rhan mewn gwyliau hoci 4689 ledled Sir Benfro ar gaeau Tasker Milward, Greenhill, Bro Gwaun a Phenfro. Cymerodd rhai chwaraewyr ran mewn fformat cystadleuol, a chyflwynwyd rhai eraill i weithgareddau hwyliog, hyblyg a hygyrch, dan arweiniad arweinwyr ifanc o’r pedair ysgol uwchradd. Dywedodd Mr Peter Lloyd, cydlynydd ymarfer

corff Ysgol Gymunedol Hakin: “Creodd yr ŵyl argraff fawr arnaf, gyda dros 80 o blant yn cymryd rhan ar y cae, a neb yn sefyll o

Ysgol Wdig

gwmpas yn yr oerfel.” Cymhwysodd pedair ysgol, sef Ysgol Wdig, Ysgol Brynconin, Ysgol Gymunedol Doc Penfro ac Ysgol Gatholig y Fair Ddihalog, ar gyfer rownd derfynol Pembrokeshire 8’s yn Ysgol Syr Thomas Picton. Chwaraeodd y pedair ysgol gystadleuaeth gornest gron, a phencampwyr Sir Benfro ar gyfer 2013 oedd Ysgol Brynconin. Bydd Brynconin yn teithio i’r Drenewydd i gynrychioli Sir Benfro yn rowndiau terfynol cenedlaethol cyntaf 4689 8.

Ysgol Gymunedol Doc Penfro Ysgol Gatholig y Fair Ddihalog

Cystadleuaeth Hoci 5x60

Am y tro cyntaf, cymerodd yr 8 ysgol ran yn y gystadleuaeth hoci 5x60 i fechgyn o dan 15 oed eleni, gyda 4 tîm, sef Penfro, Greenhill,Tasker Milward a Phreseli yn cystadlu yng ngrŵp 1 ym Mhenfro a Bro Gwaun, a Dewi Sant, Syr Thomas Picton ac Aberdaugleddau yn chwarae yng ngrŵp 2 yn Syr Thomas Picton. Y timau buddugol o’r grwpiau oedd Tasker Milward a Dewi Sant, a fydd yn chwarae yn y rowndiau terfynol ar 18 Ebrill. Roedd Angela Miles, asiant hoci Sir Benfro, yn falch iawn gweld cymaint o fechgyn yn cymryd rhan eleni, ac yn gobeithio y bydd mwy o fechgyn yn ymuno â chlybiau hoci lleol.

w ww. p e m brokeshire .gov.uk/spor t


Pêl-droed .... ROWNDIAU TERFYNOL UEFA Bydd Rowndiau Terfynol UEFA yn cael eu chwarae yng Nghymru am y tro cyntaf yn hanes pêl-droed yng Nghymru! Bydd Cymru yn cynnal Rowndiau Terfynol Twrnamaint UEFA am y tro cyntaf erioed pan fydd Pencampwriaethau Menywod o Dan 19 oed yn cael eu cynnal yng Ngorllewin Cymru ym mis Awst 2013. Bydd 7 o brif dimau cenedlaethol menywod o dan 19 oed Ewrop yn

Bydd yn ddigwyddiad hanesyddol i bêl-droed yng Nghymru, ac rydym eisiau i chi fod yn rhan ohono! Dewch yr haf hwn i gefnogi merched Cymru, a dangos eich cefnogaeth i’r timau eraill. Gadewch i ni greu awyrgylch gwych y bydd UEFA eisiau dychwelyd iddo. Dewch ymlaen Cymru ... Cefnogwch ein Gwlad!

I gael mwy o wybodaeth am Dwrnamaint UEFA, cysylltwch â Carrie.slack@welshfootballtrust.org.uk I gael gwybodaeth am weithgareddau pêl-droed a gynhelir yn agos atoch chi a Chyrsiau Addysg Hyfforddi FAW, cysylltwch â Debbie.wise@welshfootballtrust.org.uk neu ewch i www.welshfootballtrust.org.uk

TROI I FYNY A CHWARAE CYCHWYN AR BÊL-DROED YN SIR BENFRO Gwnaeth dros 1,000 o blant ysgolion cynradd fwynhau menter pêl-droed ‘Troi i Fyny a Chwarae’ yn Sir Benfro, diolch i Chwaraeon Sir Benfro a Hamdden Sir Benfro.

ymuno â Chymru, sy’n symud ymlaen yn uniongyrchol i rowndiau terfynol y twrnamaint gan mai dyma lle cynhelir y twrnamaint. Cynhelir y twrnamaint terfynol o wyth tîm rhwng 19 a 31 Awst 2013. Cynhelir y twrnamaint yn seiliedig ar ddwy gynghrair, a’r rowndiau cynderfynol a’r rownd derfynol i ddilyn. Bydd y rownd derfynol yn cael ei chwarae i gynulleidfa ar y teledu o filiynau o bobl ledled Ewrop.

Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i blant rhwng pump ac wyth oed, nad ydynt fel arfer yn chwarae, i chwarae. Mae hefyd yn eu hannog i ymuno â chlybiau neu sesiynau pêl-droed y tu allan i’r ysgol. Dywedodd Ben Field, Rheolwr Datblygu Chwaraeon, rhoddodd ‘Troi i Fyny a Chwarae’ gyfle i nifer o ddisgyblion chwarae pêldroed am y tro cyntaf. Y nod tymor hir yw cyfeirio’r chwaraewyr ifanc at strwythurau clybiau a chynorthwyo Cynghrair Pêl-droed Iau Cymdeithas Sir Benfro a Chynghrair Merched Sir Benfro. I gael mwy o wybodaeth am ‘Troi i Fyny a Chwarae’, cysylltwch â’ch Canolfan Hamdden leol.

Bydd y gemau’n cael eu chwarae yn y lleoliadau canlynol: Stadiwm Conygar Bridge Meadow, Hwlffordd. Parc Waun Dew, Caerfyrddin. Parc Stebonheath, Llanelli. Parc y Scarlets, Llanelli.

w ww. p e m brokeshire .gov.uk/spor t


Clwb Pêl-fasged mewn Cadair Olwyn Ddydd Sadwrn 9 Mawrth, cafodd Pembrokeshire Hurricanes sesiwn hyfforddi lem gan Lee Coulson, sef prif hyfforddwr Clwb Pêl-fasged Aberystwyth. Cymerodd y chwaraewyr ran mewn driliau a sesiynau sgiliau, a’u gêm gystadleuol gyntaf erioed i ddilyn. Dysgodd chwaraewyr a hyfforddwyr y clwb amrywiaeth fawr o symudiadau a sgiliau gan Lee. Mae Lee hefyd yn gweithio gyda chlybiau yn Abertawe a Phowys, ac mae’n gobeithio cyflwyno pêl-fasged mewn cadair olwyn i Gynghrair Pêl-fasged bresennol Gorllewin Cymru.

w ww. p e m brokeshire .gov.uk/spor t


Criced .... Gyda Chwpan Criced y Byd i Fenywod yn cael ei gynnal yn India ym mis Chwefror, sefydlwyd Clwb Criced 5x60 i Ferched yn yr ysgol y tymor hwn i adlewyrchu’r twrnamaint hwn, gyda’r nod o ysbrydoli’r merched i roi cynnig ar griced.

Ar 13 Mawrth, teithiodd y sgwad, sef Chloe Hood (Capten), Sophie Howell, Nia Jenkins, Casey Briskham, Jasmine John, Katie Griffiths, Ella John ac Ellie Parks, i Ganolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod i gystadlu yn y rowndiau terfynol. Curodd y merched Ysgol Bro Gwaun yn y rownd gynderfynol a symud ymlaen i guro Ysgol Syr Thomas Picton yn y rownd derfynol ac ennill y gystadleuaeth. Llwyddodd Chloe Hood i gael 9 wiced ar y diwrnod.

Mae’r hyfforddwr, Eleri Williams, wedi bod yn cynnal clwb amser cinio wythnosol, gyda 18 o ferched yn mynychu’n rheolaidd.

Bydd y merched nawr yn cynrychioli Sir Benfro yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Chwaraeodd y merched eu gêm gyntaf yn ddiweddar, yn rownd gyntaf cystadleuaeth criced 5x60 i ferched, gan guro Ysgol Tasker Milward a chymhwyso ar gyfer y rowndiau terfynol yng Nghanolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod.

Yn dilyn y llwyddiant hwn, bydd y merched yn chwarae gemau'n rheolaidd yn yr ysgol, ar ôl yr ysgol y tymor nesaf, a byddant yn cael cyfle i chwarae a chymryd rhan yn y gamp y tu allan i’r ysgol gyda chlwb cymunedol lleol.

w ww. p e m brokeshire .gov.uk/spor t


Golff ....

Golff 5x60

Cynhaliwyd sesiynau dan do yn y Gromen yn Ysgol Tasker Milward, yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth. Mae disgyblion wedi gallu rhoi cynnig ar golff mewn sesiynau ‘galw heibio’ amser cinio gyda Matthew Rees o Glwb Golff Hwlffordd. Ar ôl dysgu’r nodweddion sylfaenol, bydd y disgyblion yn cael cyfle i ymweld â’r clwb golff i gael mwy o sesiynau yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Golff ym mis Ebrill.

Ysgol Aberdaugleddau Mae pedwar Llysgennad Ifanc Arian wedi cael eu dewis o’r ysgol eleni. Bydd Matthew Coles, Sam Davies,Taylor Hull a Louise Blockwell yn ymuno ag Aimee John a Danielle Pitcher Schofield fel Llysgenhadon Ifanc yr Ysgol, a byddant yn gweithio’n agos â’r Swyddog 5x60, Barry John, ar brosiectau a fydd yn cadw momentwm Gemau Olympaidd Llundain 2012 yn fyw a chynnal diddordeb a chyfranogiad mewn chwaraeon yn ein hysgolion a chymunedau lleol.

w ww. p e m brokeshire .gov.uk/spor t


Ysgol Bro Gwaun Pêl-droed a Phêl-fasged Teithiodd 26 o ddisgyblion o Ysgol Bro Gwaun i Ysgol Aberdaugleddau ddydd Mercher 6 Mawrth, i gymryd rhan mewn gemau 5x60 pêl-droed i ferched a phêl-fasged i fechgyn. Cymerodd 11 o fechgyn ran yn y gemau pêl-fasged, a chawsant eu rhannu’n ddau dîm i frwydro yn erbyn Aberdaugleddau A ac Aberdaugleddau B. Ar ôl chwe gêm gystadleuol,Ysgol Bro Gwaun oedd yn fuddugol. Rheolwyd y timau gan yr athrawes, Eiry Miles, a’r disgyblion chweched dosbarth, Sam Harries a Danielle Davies. Cymerodd 15 o ferched ran mewn gêm bêl-droed chwe bob ochr, ac eto, ar ôl gornest agos, tîm Ysgol Bro Gwaun oedd yn fuddugol. Rheolwyd y tîm gan Hyfforddwr Clwb Pêl-droed Merched Abergwaun, Matthew Lamb, a dyfarnwr y gêm oedd Llysgennad Ifanc Ysgol Bro Gwaun, Becky Hayes. Tîm Pêl-fasged Bechgyn Ysgol Bro Gwaun Bruno Janota, Adam George, Jack Phillips, David Wilmott, Isaac Davis, Finn Ahern, Thomas Hughes, Ashley Roche, Jordan Griffiths, Connor Aston, Andrew Harries

Tîm Pêl-droed y Merched Celyn Thomas, Molly Griffiths, Kelsie Jones, Nia Colella, Ffion Price, Carys John, Kate Griffiths, Chloe Craig, Carys Williams, Hannah Myers, Nia Antonen, Jasmin Reynolds, Jasmine WilliamsMeaney, Isabelle Richards, Lowri Feild.

5x60 Gêm Bêl-droed Cymerodd 15 o fechgyn o Ysgol Bro Gwaun ran mewn gêm bêl-droed 5x60 yn erbyn eu cyfatebwyr yn Ysgol y Preseli, ddydd Mawrth 26 Chwefror. Cynhaliwyd y gêm ar yr astro turf yn Abergwaun, ac ar ôl brwydr agos, gorffennodd yn gêm gyfartal â sgôr o 3-3. Sgoriodd Sion Colella, Mark Jones a Sion O’Sullivan dros Ysgol Bro Gwaun a sgoriodd Joe Thomas ac Alex Varney dros Ysgol y Preseli. Rheolwyd y tîm gan Lysgenhadon Ifanc Ysgol Bro Gwaun, Becky Hayes ac Amy Leahy, a oedd wedi gwneud gwaith gwych, a gwnaeth Adam Bowen ac Adam Butler waith gwych fel llumanwyr.

Sgwad Ysgol Bro Gwaun - Jake Thomson, Ben Leahy, Mark Jones, Zac Davies, Kieran O’Connor, Sion Colella, Morgan Beynon, Sion O’Sullivan, Jordan White, Craig Barnett, Rhys James, Elliott Colley, James Lewis, Kieran Jones, Callum Clark Sgwad Ysgol y Preseli - Nick Jones, Ilan Phillips, Rhys James, Curtis Hicks, Hedd James, Daniel Llewellyn, Rhodri George, Joe Thomas, Jac Davies, Gethin Davies, Steffan Rees, Guto Edwards, Rowan Nicholas and Alex Varney.

w ww. p e m brokeshire .gov.uk/spor t


Ysgol Greenhill Myfyrwyr dawns 5x60 yn helpu Ysgol Gynradd leol i gymryd rhan mewn Cystadleuaeth Ddawns yn yr Urdd

Diolch i Jade, Sarah ac Emily, sef Dawnswyr Stryd 5x60 o Ysgol Greenhill, cymerodd Ysgol Gynradd Dinbych-ypysgod ran am y tro cyntaf erioed, yng nghystadleuaeth Dawnsio Stryd yr Urdd yn Abergwaun ym mis Mawrth 2013. Perfformiodd grŵp o 10 bachgen a naw merch ddwy ddawns wych, ar nos Lun yn Abergwaun. Roedd yn gystadleuaeth galed, ond, dylai’r disgyblion fod yn falch o’u perfformiad, ac er gwaethaf y ffaith na wnaethant gyrraedd y brig, cawsant rai sylwadau hyfryd gan y beirniaid. Y bechgyn: “Hyfryd gweld grŵp o fechgyn ifanc, symudiadau dwylo clir ac effeithiol, strwythur clir a thriciau da iawn.”

Y merched: “Patrymau da a defnydd da o le, digon o amrywiaeth yn y symudiadau.” Mae’r plant wedi mwynhau’r profiad newydd ac yn ddiolchgar iawn i’r merched am weithio mor galed gyda nhw. Mae’r merched nawr yn gobeithio dechrau Clwb Dawnsio Stryd yn yr ysgol yn ystod tymor yr haf.

Grŵp Dawns 5x60 Ysgol Greenhill yn cystadlu yn yr Urdd Ddydd Llun, 4 Mawrth, teithiodd disgyblion o flynyddoedd 7, 8 a 9 i Ysgol Bro Gwaun i gystadlu yng nghystadleuaeth Dawnsio Stryd yr Urdd. Perfformiodd y merched, sy’n aelodau o grŵp dawns 5x60 Ysgol Greenhill, sioe ardderchog, a gwnaethant ennill yr ail safle. Da iawn ferched. Daliwch ati.

w ww. p e m brokeshire .gov.uk/spor t


Ysgol Tasker Milward Clwb Dringo Creigiau BWRDD ARWEINWYR 5x60 yng Nghanolfan Antur TASKER MILWARD cynllun cymhelliant yn Ysgol Tasker Sir Benfro Mae Milward yn gwobrwyo myfyrwyr â Mae 15 myfyriwr o Ysgol Tasker Milward wedi dechrau bloc 10 wythnos o ddringo creigiau y tymor hwn. Mae’r bloc hwn o sesiynau yn galluogi myfyrwyr i gyflawni cymhwyster National Indoor Climbing Achievement Scheme (NICAS). Mae hwn yn gynllun dyfarnu a gydnabyddir yn genedlaethol i gynnig cyflwyniad diogel, addysgol a hwyliog i ddringo wal artiffisial. I nifer o’r myfyrwyr o flynyddoedd 7 i 10, dyma eu profiad cyntaf o ddringo creigiau, felly roedd rhai wynebau pryderus ar ddechrau’r wythnos gyntaf! Fodd bynnag, gellir gweld bod eu lefelau hyder wedi tyfu wythnos ar ôl wythnos, wrth i bob myfyriwr herio ei hun i fynd ychydig yn uwch, neu i roi cynnig ar un o’r bargodion ar y waliau anoddach. Mae myfyrwyr wedi dysgu sut i wisgo eu harnais dringo eu hunain, technegau belai, y defnydd gwahanol o gynlluniau karabiner a chlymu clymau ffigur 8 ddwbl. Mae’r hyfforddwyr, dan arweiniad Phil Sadler, wedi sicrhau bod myfyrwyr yn gallu dysgu a datblygu ar eu cyflymder eu hunain, â phawb yn gallu gweithio ar eu lefel eu hunain.

phwyntiau bob tro y maent yn mynychu clwb 5x60. Bydd y myfyrwyr â’r rhan fwyaf o bwyntiau, yn cael gwobr ar ddiwedd y tymor. Ar ddiwedd y flwyddyn, bydd un myfyriwr ffodus yn ennill beic mynydd, a roddwyd yn garedig gan Mikes Bikes o Prendergast. Ar ddiwedd tymor y gaeaf, cyflwynwyd gwobrau – 6 taleb diwrnod llawn ar gyfer TYF Outdoor Adventure yn Nhyddewi. Mae’r talebau hyn, sydd werth hyd at £100 yr un, yn rhoi hawl i’r enillydd ymgymryd â diwrnod llawn o weithgaredd o’u dewis nhw, fel: arforgampau, caiacio, syrffio neu ddringo. Y tymor nesaf, bydd chwe set o docynnau teulu ar gyfer y Blue Lagoon yn Bluestone ar gael i’w hennill. Y myfyrwyr sydd ar hyn o bryd ar frig y bwrdd arweinwyr, ac sydd wedi derbyn talebau addysg awyr agored TYF, yw Charmaine Walters (Blwyddyn 7), Daniel Evans (Blwyddyn 7), James Thomas (Blwyddyn 8), Victoria Hodgeson (Blwyddyn 8), Morgan Jones (Blwyddyn 9).

Diolch yn fawr i Suzanne Moses o’r Gwasanaeth Ieuenctid, sydd wedi bod gyda ni yn ystod y sesiynau hyn, ac i Ysgol Tasker Milward am sybsideiddio’r gost, i wneud y cyfle hwn yn hygyrch i bob myfyriwr.

w ww. p e m brokeshire .gov.uk/spor t


Ysgol Dewi Sant o’r bore. Roedd eu gweithdy cyntaf yn ffordd ryngweithiol o ddysgu beth sy’n gwneud llysgennad ifanc da a gwael, wrth gymryd rhan mewn amgylchedd gweithgar (rasys relái hwyliog).

Dodgeball

Cynhaliodd Ysgol Dewi Sant ei hail gystadleuaeth dodgeball 5x60 dan arweiniad Llysgennad Aur yr ysgol, Ben Sutton, gyda chymorth llysgenhadon eraill a chynorthwywyr o’r 6ed dosbarth. Gwnaeth Ben waith gwych yn rhedeg yr holl beth, felly diolch yn fawr iawn i Ben a phawb a fu’n ei helpu. Dyma ddisgrifiad Ben o sut aeth y gystadleuaeth… Gan adeiladu ar lwyddiant twrnamaint y llynedd, dechreuom gystadleuaeth dodgeball 2013 yn ystod tymor y gwanwyn, gyda chyfranogiad gwych gan flwyddyn 7. Gwnaeth 66 o ddisgyblion mewn 8 tîm osgoi, dowcio, gogwyddo a deifio mewn rownd ‘gorau o 3’, a’r enillwyr yn y pendraw oedd ‘YDS All-stars’.

Gweithdy Llysgenhadon Ifanc Efydd Ar ddechrau’r diwrnod, daeth cynrychiolwyr o ysgolion cynradd Croes-goch, Roch, Solfach a Bro Dewi â’u llysgenhadon ifanc efydd i Ysgol Dewi Sant. Pan gyrhaeddon nhw, cyflwynom ein hunain, ac aethom â nhw am daith o gwmpas ein hysgol, gan ddangos ein hysbysfyrddau ysgol a chyfleusterau a.y.b.b. (roedd llawer ohonynt yn awyddus i ddefnyddio hysbysfwrdd chwaraeon yn eu hysgolion eu hunain). Aethom â nhw i’n hystafell ddosbarth addysg gorfforol, lle treuliom y rhan fwyaf

Ar ôl egwyl a thipyn o luniaeth (bisgedi), roeddent yn barod i gymryd rhan yng ngweithdy Ben a Steph. Gwnaeth hyn eu helpu i gynllunio eu gweithgareddau chwaraeon eu hunain yn eu hysgolion cynradd, i helpu i gael mwy o blant i gymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon rheolaidd. Cafodd y llysgenhadon ifanc efydd ddiwrnod allan hyfryd, a mynd â sgiliau a syniadau gwerthfawr yn ôl gyda nhw. Cynhaliwyd y gweithdai gan Seph Harris, Ben Sutton, Rhi Perry, Chloe Brown, Gethin Rowlands,Alys Perry, Emily Beacroft, Josh Wellan, Carys Churchill a’n Swyddog 5x60. Ysgrifennwyd gan lysgenhadon arian Ysgol Dewi Sant, Gethin Rowlands, Josh Wellan, Emily Beacroft ac Alys Perry.

Mae’r llun yn cynnwys cynrychiolwyr o Ysgol Dewi Sant ac Ysgol Tasker Milward, sydd wedi derbyn gwobr MarcActif Cymru yn ddiweddar. Mae’r wobr yn cydnabod ysgolion sy’n rhoi dechreuad gwych i blant mewn addysg gorfforol a chwaraeon.

Ers hynny, mae bob blwyddyn wedi cymryd rhan gyda chymaint o frwdfrydedd a sbortsmanaeth. Bob amser cinio ar ddydd Mercher, mae fy llais yn gryg, ond mae pawb yn mwynhau, yn bendant, mae’n werth chweil!

w ww. p e m brokeshire .gov.uk/spor t


Wembley yn Dathlu Llysgenhadon Ifanc gan Steph Harris, llysgennad aur, Ysgol Dewi Sant

Ar 6 Mawrth, es i i Wembley yn Llundain, lle mynychais ddiwrnod dathlu ar gyfer ‘Llysgenhadon Ifanc’ o Brydain Fawr gyfan. Cefais fy enwebu gan fy athrawes ymarfer corff, Mrs Thomas, a’r swyddog 5x60, Amanda John, ar gyfer y digwyddiad, am fy ngwaith fel Llysgennad Ifanc yn Sir Benfro, ac wedyn, cefais fy nethol i fynychu’r diwrnod. Dechreuodd y diwrnod gydag araith y seremoni agoriadol a fideos ysbrydoliaethus o’r gemau Olympaidd a Pharalympaidd, â thair araith i ddilyn.Y cyntaf oedd Sarah Stevenson,Taekwondo, a siaradodd am ei phrofiad yn y 3 o Gemau Olympaidd blaenorol a Gemau Olympaidd Llundain 2012. Soniodd fod ei rhieni wedi marw cyn 2012, a oedd yn wefreiddiol ac ysbrydoliaethus.Wedyn, clywsom gan Rhys Jones, cystadleuydd Paralympaidd o Gymru a oedd yn cystadlu mewn athletau; siaradodd am ei gariad am y gamp a’i brofiad cyntaf o’r gemau. Wedyn, dechreuodd y diwrnod, ac fe rannom yn dimau. Roeddwn i yn nhîm Brownlee. Rhoddwyd y timau mewn gweithdai.Ar ôl cinio, cawsom gyfle i gyfarfod â’r pum athletwr, a thynnu ein lluniau. Roedd ein hail weithdy’n ymwneud â mathau o bersonoliaeth. Roedd Sarah Stevenson gyda mi yn y gweithdy hwn, a oedd yn gyfeillgar a brwdfrydig iawn. Daeth y dydd i ben gyda seremoni cau ac araith gan y neidiwr triphlyg Olympaidd, Jonathan Edwards, a siaradodd am ein camau nesaf fel llysgenhadon ifanc, a’r cynllun ‘Arwain eich Cenhedlaeth’. Roedd y diwrnod yn galonogol a hwyliog iawn, ac roedd yn ffordd wych i gyfarfod â llysgenhadon ifanc eraill o’r DU, a chael diolch am y gwaith rydym ni’n ei wneud.

Ysgol y Preseli Twrnamaint Pêl-fasged Bl. 8 a 9 5x60

Cynhaliwyd twrnamaint pêl-fasged blwyddyn 8 amser cinio yng nghampfa’r ysgol. Roedd saith tîm yn cymryd rhan a byddai pob tîm yn chwarae yn erbyn ei gilydd unwaith.Y tîm buddugol, gyda 18 pwynt, oedd Lads on tour. Roedd y tim Lads on tour yn cynnwys: Curtis Hicks, Matthew Roch, Daniel Llewellyn, James Davies ac Alex Varney. Cymerodd pum tîm ran yn nhwrnamaint pêl-fasged blwyddyn 9 a’r tîm buddugol â 10 pwynt oedd Swots, a thîm Lee yn yr ail safle ag 8 pwynt. Roedd y tîm Swots yn cynnwys Tom Crees, Liam Harries, Declan Harries, Matthew Freebury a Dafydd Vaughan.

w ww. p e m brokeshire .gov.uk/spor t


Ysgol Syr Thomas Picton Disgyblion Syr Thomas Picton yn Addysgu Dawns

Mae disgyblion blwyddyn 12, Kim Tiglao a Robyn Bergson wedi bod yn gwella eu sgiliau hyfforddi trwy weithio gyda grŵp o ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 yn Ysgol Prendergast, a choreograffi dawns stryd ar eu cyfer. Mae’r merched wedi bod yn gweithio gyda disgyblion Ysgol Prendergast i’w helpu nhw i baratoi ar gyfer cystadleuaeth Dawnsio Stryd yr Urdd.

Gêm Pêl-fasgedYsgol Syr Thomas Picton yn erbynYsgol Bro Gwaun Cymerodd 14 disgybl o Ysgol Syr Thomas Picton ran mewn gêm pêl-fasged yn erbyn eu cyfatebwyr o Ysgol Bro Gwaun ddydd Gwener 1 Chwefror. Roedd yn gystadleuaeth agos, ond bechgyn Bro Gwaun oedd yn fuddugol, gyda sgôr o 34 pwynt i 32. Roedd perfformiadau gwych gan chwaraewyr Ysgol Syr Thomas Picton, yn enwedig Luke Mainwaring, a arweiniodd y ffordd o ran sgorio. Cynhesodd y bechgyn ar gyfer y gêm yn ystod eu sesiynau pêl-fasged 5x60, a gynhaliwyd gyda’r hyfforddwr, Dave Edwards. Tîm Ysgol Syr Thomas Picton: Luke Mainwaring, Declan Coles, Callum Power, Cameron Kilminster, Josh Roberts, Ieuan Walker, Joe Trickett,Thomas Sims, Zak Lowther, James Johnson, Cieran Edwards, Doman Thapa, Luke Williams, Robin Jones.

w ww. p e m brokeshire .gov.uk/spor t

Sefydlwyd y clwb dawnsio stryd ar ôl i Ysgol Prendergast amlygu’r ffaith bod angen gwella’r ddarpariaeth ar ôl ysgol i ferched. Dywedodd Dan Bellis, Swyddog 5x60 yn Ysgol Syr Thomas Picton, “Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i Kim a Robyn ddatblygu eu sgiliau hyfforddi a’u sgiliau â phobl, wrth gael hwyl ar yr un pryd. Mae hefyd yn wych sefydlu cyswllt ag ysgol gynradd gyfagos. Gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli’r disgyblion i ymuno â’n Clwb Dawnsio Stryd 5x60 llwyddiannus pan fyddant yn dod i Ysgol Syr Thomas Picton.”


Ysgol Penfro

YSGOL PENFRO – PENCAMPWRIAETHAU BADMINTON

Cymerodd tîm o 8 chwaraewr ran yn Nhwrnamaint Badminton a gynhaliwyd ym Mhenfro. Chwaraeodd yr holl chwaraewyr yn hynod dda, a chawsant eu gwobrwyo trwy gael eu coroni’n bencampwyr 5x60 Sir Benfro. Roedd y tîm buddugol yn cynnwys: Ashley Boyle, Molly Smith, Rachel Smith, Steffan Williams, Nathan Honeysett, Gregg Davies a Tom Miller.

Aml-sgiliau a Chwaraeon y Ddraig ar waith yn Ysgolion Cynradd Sir Benfro

Mae cyflwyno Aml-sgiliau a Chwaraeon y Ddraig yng Nghymru wedi dechrau. Bydd plant ifanc yn Sir Benfro a ledled Cymru yn archwilio a dysgu trwy chwaraeon, yn dilyn cyrsiau Aml-sgiliau a Chwaraeon y Ddraig y tymor hwn ar gyfer athrawon teulu o ysgolion cynradd Tyddewi, Dinbych-y-pysgod, Aberdaugleddau, Penfro a Hwlffordd. Mae’n golygu, yn hytrach na dechrau trwy ganolbwyntio ar gamp benodol, bydd yn canolbwyntio ar sgiliau hanfodol fel cydbwysedd, rhedeg ac ymwybyddiaeth ofodol – yna bydd yn cael ei drosglwyddo i bêl-droed, tennis, pêl-rwyd, neu pa bynnag gamp y mae’r unigolyn eisiau cymryd rhan ynddo.

adnoddau i gynorthwyo athrawon, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr, gan gynnwys llyfrau straeon, cardiau gweithgarwch, a llawlyfr sgiliau technegol. O saith i un ar ddeg oed (CA2), dylai pobl ifanc gael cyfleoedd i barhau i ddatblygu sgiliau corfforol cyffredinol, er mwyn iddyn nhw allu cymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon trwy gydol eu bywydau.

Er bod yr hyfforddiant cychwynnol wedi bod gydag ysgolion, mae gwaith wedi dechrau i hyfforddi clybiau yn y gymuned a Chanolfannau Hamdden, i gynnwys elfen o’r dull aml-sgiliau sylfaenol. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â naill ai Joanne Williams neu Wyndham Williams, Chwaraeon Sir Benfro 01437 776240.

O dair i saith oed (y cyfnod sylfaen), mae pobl ifanc yn cael y profiad gorau i ddatblygu sgiliau trwy chwarae. Mae’r adnodd Chwarae i Ddysgu yn annog hyn gydag

w ww. p e m brokeshire .gov.uk/spor t


wedi’i noddi gan

Cymerodd disgyblion o chwe ysgol uwchradd ran mewn cystadleuaeth dawnsio stryd 5x60 a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hamdden Hwlffordd, ddydd Sul 3 Mawrth. Cymerodd disgyblion o Ysgol Bro Gwaun,Ysgol Syr Thomas Picton,Ysgol Tasker Milward,Ysgol Aberdaugleddau,Ysgol Penfro ac Ysgol Greenhill, ran mewn cystadlaethau dawns i ddeuawd neu dîm. Perfformiodd Kim a Kamille Tiglao fel ‘Clique’ o Ysgol Syr Thomas Picton ac Ysgol Ddawns FF. Yr enillwyr oedd: Dawns i Ddeuawd – Tom a Jaz – Ysgol Greenhill Dawns i Dîm – ‘Disobey’ – Ysgol Syr Thomas Picton Y Wisg Orau – ‘Devious Dolls’ – Ysgol Bro Gwaun Dawnsiwr y Dydd – Blake Wonnacott – Ysgol Aberdaugleddau Y beirniaid oedd Rheolwr Chwaraeon Sir Benfro, Ben Field a’r Hyfforddwyr Dawns, Finola Findlay a Kelly Williams. Cyflwynwyd y tlysau gan Jess Holmes o Valero.

w ww. p e m brokeshire .gov.uk/spor t


YSGOL GREENHILL YN ENNILL TWRNAMAINT PÊL-FASGED 5x60 I BOBL IFANC O DAN 15 OED YN YSGOL PENFRO 2012

Yn ystod tymor y gwanwyn, cymerodd Ysgol Bro Gwaun,Ysgol Syr Thomas Picton,Ysgol y Preseli ac Ysgol Tasker Milward ran yn Nhwrnamaint Tennis Bwrdd 5x60 cyntaf erioed Chwaraeon Sir Benfro. Brwydrodd timau o chwe chwaraewr mewn twrnamaint senglau yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun, a’r tîm buddugol oedd Ysgol y Preseli. Llysgennad Ifanc Ysgol Bro Gwaun, Becky Hayes, oedd yn gyfrifol am gadw sgôr y gemau a choladu canlyniadau, a gwnaeth waith gwych.

Ddydd Gwener, 20 Ionawr, cynhaliwyd twrnamaint pêl-fasged 5x60 cyntaf tymor yr ysgol. Gan ystyried ei fod yn gamp leiafrifol yn y DU, roedd y gynulleidfa yn rhagorol, gyda thimau o Ysgol Greenhill, Ysgol Bro Gwaun, Ysgol Dewi Sant, Ysgol y Preseli, Ysgol Syr Thomas Picton ac Ysgol Penfro. Ar ôl i’r gemau orffen, roedd dau dîm Ysgol Greenhill sydd yn y llun, ar frig y tabl grŵp cyffredinol.

PÊL-FASGED I BOBL IFANC O DAN 13 OED Cynhaliwyd twrnamaint pêl-fasged 5x60 i bobl ifanc o dan 13 oed yn Ysgol Dewi Sant. Cymerodd 10 tîm ran, o Ysgol Dewi Sant, Ysgol Abergwaun, Ysgol Syr Thomas Picton, Ysgol y Preseli, Ysgol Greenhill ac Ysgol Tasker Milward. Rhannwyd yr ysgolion yn ddau grŵp. Roedd Ysgol Tasker Milward ar frig un grŵp, ac Ysgol Dewi Sant ar frig y llall. Yn y pen draw, Ysgol Dewi Sant oedd yn fuddugol, gan ennill 8-4, ac atal Ysgol Tasker Milward rhag ennill pob gêm. Roedd yr hyfforddwyr sy’n cymryd rhan yn y clybiau 5x60 yn chwarae rhan fawr ar y diwrnodau, felly diolch yn fawr iawn iddyn nhw a disgyblion blwyddyn 10 Ysgol Dewi Sant, a helpodd i gadw sgôr, cadw amser a dyfarnu yn y twrnamaint.

w ww. p e m brokeshire .gov.uk/spor t


Arolwg Chwaraeon Ysgolion

....

SÊR FFILM SIR BENFRO YN ARWAIN Y FFORDD I ROI LLAIS I DDISGYBLION MEWN CHWARAEON Mae disgyblion a staff addysgu o Sir Benfro yn arwain y ffordd yn annog disgyblion ysgol eraill ledled y wlad i leisio eu barn yn ail Arolwg Chwaraeon Ysgolion Chwaraeon Cymru. Mae Ysgol Gynradd Dinbych-ypysgod ac Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast yn ymddangos mewn ffilm fer newydd gan Chwaraeon Cymru, i annog pob ysgol yng Nghymru i gymryd rhan yn arolwg 2013. Yn 2011, yr Arolwg Chwaraeon Ysgolion cyntaf oedd y mwyaf erioed i gipio barn plant a phobl ifanc o ran chwaraeon, gyda dros 40,000 o ieuenctid yn cymryd rhan yn genedlaethol. Roedd Sir Benfro yn un o’r ardaloedd â’r nifer uchaf o bobl ifanc yn cymryd rhan, gyda miloedd o bobl ifanc ledled y sir yn lleisio eu barn. Mae disgyblion, athrawon a swyddogion y Cyngor wedi uno â’i gilydd i annog ardaloedd eraill i wneud yr un peth ar gyfer arolwg 2013. O ganlyniad i’r arolwg diwethaf, mae Ysgol Gynradd Dinbych-y-pysgod wedi sefydlu cyngor chwaraeon newydd, ac maent nawr yn ystyried cynnal sesiynau chwaraeon ar gyfer y teulu cyfan. Mae Ysgol Prendergast wedi addasu’r sesiynau y maent yn eu cynnal ar gyfer eu disgyblion, gan gynnwys sesiynau penodol a gynhelir ar gyfer merched yn unig. Dywedodd Pennaeth Ysgol Prendergast, Paul Hughes,“Mae’n hynod bwysig ein bod ni’n darganfod

beth yr hoffai ein disgyblion ei wneud. Mae llais disgyblion yn dod llawer yn fwy cyffredin ac mae bod yn ymwybodol o ba ddewisiadau o ran chwaraeon yr hoffent eu gwneud, yn hanfodol bwysig i ni deilwra’r hyn rydym yn ei ddarparu.” Dywedodd Rheolwr Rhanbarthol Chwaraeon Cymru, James Owens, “Mae’n galonogol gweld bod arolwg 2011 wedi rhoi gwybodaeth fanwl i ysgolion ac awdurdodau, fel y rheiny yn Sir Benfro, i ddylanwadu’n gadarnhaol ar eu darpariaeth chwaraeon mewn modd mor llwyddiannus. Mae hyn yn amlygu ymhellach bwysigrwydd a’r angen i fwy o ysgolion lenwi’r arolwg yn 2013. “Bydd lefel y data a gesglir trwy Arolwg Chwaraeon Ysgolion 2013 yn caniatáu i ni wneud cryn gynnydd o ran deall yr hyn sy’n digwydd ‘ar y llawr’, a deall agweddau disgyblion tuag at chwaraeon a hamdden gorfforol.

“Bydd hefyd yn llywio penderfyniadau rydym yn eu gwneud o ran cynllunio, a dyna pam y mae mor bwysig i’n partneriaid – yn enwedig mewn awdurdodau lleol – wrth i ni geisio adeiladu ar y digwyddiadau mawr yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012, a Gemau’r Gymanwlad yng Nglasgow yn 2014.” Bydd yr arolwg llawn ar gael o 8 Ebrill tan ddiwedd tymor yr haf. I ddarganfod mwy, ewch i www.schoolsportsurvey.org.uk neu cysylltwch ag Alan Jones yn Chwaraeon Sir Benfro ar 01437 776191 (alan.jones@pembrokeshire.gov.uk)

w ww. p e m brokeshire .gov.uk/spor t


Llysgenhadon Ifanc ....

Ddydd Llun, 25 Mawrth, cyrhaeddodd grŵp newydd o dros 40 o lysgenhadon ifanc efydd, yng Nghanolfan Hamdden Penfro, o deulu o ysgolion Dinbych-y-pysgod a Phenfro. Roeddent yno i ddarganfod mwy am eu rôl newydd o fewn chwaraeon ysgol. Rôl llysgennad ifanc yw bod yn llais pobl ifanc am addysg gorfforol a chwaraeon ysgol yn eu hysgolion a chymunedau.

nhw gyfarfod â phobl o ysgolion eraill. Uchafbwynt y dydd oedd cyfarfod ag un o chwaraewyr Paralympaidd Gemau Llundain 2012, sef Jacob Thomas o Sir Benfro. Mae Jacob yn safle 10 yn y byd.

Dechreuodd y diwrnod gyda chasgliad o fideos ysbrydoliaethus. Yna, rhannwyd y llysgenhadon ifanc efydd yn grwpiau, a chaniataodd hyn iddyn

Amlygodd y sgwrs a roddodd yr ymroddiad sydd ei angen i fod yn llwyddiannus ar lefel fyd-eang. Dymunwn bob hwyl i Jacob yn y dyfodol.

Cynhaliodd y llysgenhadon efydd eu sesiwn holi ac ateb eu hunain gyda Jacob. Mae’n gymaint o ysbrydoliaeth i bobl o bob oed.

w ww. p e m brokeshire .gov.uk/spor t


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.