Sport pembs newsletter spring 2014 welsh

Page 1

Sport Pembs Newsletter Spring 2014 Welsh_Layout 1 04/04/2014 15:07 Page 1

Ebrill 2014

Ar 28 Mai 2014, bydd taith Drosglwyddo Baton y Frenhines yn Nhyddewi cyn Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow, sy’n dechrau ar 23 Gorffennaf 2014. Bydd y Daith Drosglwyddo yn teithio o Balas yr Esgob trwy dir yr Eglwys Gadeiriol lle y caiff ei derbyn a’i bendithio gan Esgob Tyddewi, Y Gwir Barchedig Wyn Evans. Ar ôl cael ei gario trwy’r Eglwys Gadeiriol, bydd y baton yn teithio i brif sgwâr Tyddewi. Yma, caiff ei dderbyn gan bobl leol bwysig, cyn mynd ymlaen i Ysgol Dewi Sant trwy Oriel y Parc. Bydd y dathliadau’n diweddu gyda digwyddiad amlchwaraeon ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghanolfan Hamdden Tyddewi. Caiff y baton ei gario gan 17 o gludwyr, y mae 15 ohonynt yn Llysgenhadon Chwaraeon presennol neu flaenorol o deulu ysgolion Tyddewi. Mae eu hoedrannau’n amrywio rhwng 10 a 19 ac mae’n cynnwys dwy

chwaer. Cafodd y disgyblion eu dewis oherwydd eu bod wedi gweithio’n galed fel hyrwyddwyr chwaraeon a gweithgareddau corfforol o fewn eu hysgolion unigol, gan ysbrydoli eu cyfoedion i gymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd. Y ddau gludwr arall yw Roy Stephens o Aberllydan a Barry Webb Tavernspite. Fe wnaethant gario Baton y Frenhines drwy Hwlffordd ac Eglwyswrw yn ôl eu trefn, cyn Gemau’r Ymerodraeth Brydeinig a’r Gymanwlad ym1958 a gynhaliwyd yng Nghaerdydd. Cyflwynodd Gemau Caerdydd Daith Drosglwyddo Baton y Frenhines, a fu’n rhagarweiniad i bob un o Gemau’r Gymanwlad ers hynny.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Elwyn Morse, sef Aelod y Cabinet ar gyfer Diwylliant, Chwaraeon a Hamdden, fod ymweliad y daith drosglwyddo’n anrhydedd mawr i’r Sir. “Tra bydd Taith Drosglwyddo Baton y Frenhines yn Sir Benfro, bydd yn golygu y bydd y cyfryngau’n canolbwyntio ar y Sir. Rwy’n siwr y bydd ei bresenoldeb yn creu llawer o gyffro ac yn symbylu cefnogaeth ar gyfer athletwyr Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad.” Bydd cyfle i’r cyhoedd weld y baton yn Nhyddewi ar fore dydd Mercher, 28 Mai, yn ystod y rhan o’r daith sydd yn Sir Benfro.

w w w. pembrokeshire .gov.uk/spor t


Sport Pembs Newsletter Spring 2014 Welsh_Layout 1 04/04/2014 15:07 Page 2

Bywgraffiadau Cludwyr Baton yn Nhaith Ben Sutton – Bu Ben yn Llysgennad Aur dros Sir Benfro am ddwy flynedd, a chyn hynny bu’n Llysgennad Arian yn Ysgol Dewi Sant. Cyfrannodd Ben yn helaeth i chwaraeon ysgol ac addysg gorfforol yn Ysgol Dewi Sant, fel hyrwyddwr ac yn berfformiwr. Bu’n ymweld â’n hysgolion cynradd bwydo yn aml, gan arwain gwasanaethau ysgol a threfnu a chyflwyno hyfforddiant ar gyfer yr holl lysgenhadol efydd. Wrth iddo ymgymryd â’i rôl fel Llysgennad Aur, roedd hefyd yn brysur yn cynrychioli Lloegr mewn saethu clai, yn ogystal â chystadlu dros Sir Benfro, Dyfed a Gorllewin Cymru mewn athletau a rhedeg traws gwlad a nifer o ddigwyddiadau chwaraeon eraill dros ei ysgol a’i sir. Roedd hyn ochr yn ochr â chyflawni ei rôl fel prif fachgen a chyflawni rhagoriaeth academaidd yn ei bedwar cymhwyster lefel uwch. Ar hyn o bryd, mae Ben yn ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerfaddon. Steph Harris – Bu Steph yn Llysgennad Aur dros Sir Benfro am ddwy flynedd yn Ysgol Dewi Sant. Ymwelodd Steph ag ysgolion cynradd bwydo, bu’n arwain gwasanaethau ac yn trefnu ac yn cyflwyno hyfforddiant ar gyfer yr holl lysgenhadon efydd. Roedd ei brwdfrydedd a’i hesiampl yn ysbrydoli eraill, sy’n ei gwneud yn fodel rôl rhagorol. Bu Steph yn gapten ar dîm A Cymru wrth iddynt ennill medal aur yn y gystadleuaeth Rygbi 7 yr haf diwethaf yng “Ngemau Ysgolion Prydain”. Cynrychiolodd y Scarlets mewn rygbi, Gorllewin Cymru mewn pêl rwyd a Sir Benfro mewn athletau. Cafodd ei gwahodd yn ddiweddar i ymuno â sgwad uwch datblygu rygbi merched Cymru yng Nghaerdydd a hyfforddi gyda nhw; gwnaeth hyn i gyd wrth iddi astudio ar gyfer ei harholiadau lefel uwch a chyflawni llwyddiant academaidd sylweddol. Mae’n astudio ym Mhrifysgol Caerfaddon erbyn hyn, ac mae eisoes wedi’i phenodi’n Gynrychiolydd Chwaraeon ar gyfer ei grŵp blwyddyn

Rhian Perry – Roedd Rhi yn Llysgennad Arian yn Ysgol Dewi Sant, gan gymryd rhan yn helaeth mewn trefnu a chyflwyno pob digwyddiad chwaraeon ysgol, o gystadlaethau pêl rwyd a dodgeball amser cinio i ddigwyddiadau ysgol gyfan megis cystadlaethau rhwng y llysoedd mewn rasys traws gwlad a rownders a diwrnod mabolgampau. Roedd hi mor frwdfrydig yn ystod ei chyfnod yn Ysgol Dewi Sant ac er gwaethaf eu gwyleidd-dra, ysbrydolodd llawer i gymryd rhan mewn chwaraeon ysgol. Yn ogystal, roedd gan Rhian lawer o ymrwymiadau y tu allan i’r ysgol, yn chwarae hoci dros y sir ac yn cynrychioli’r Scarlets mewn rygbi. Cydbwysodd Rhian yr holl ymrwymiadau hyn ochr yn ochr â’i hastudiaethau academaidd, gan gyflawni graddau rhagorol ar y lefel uwch. Ar hyn o bryd, mae Rhi yn ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe ac mae Ysgol Dewi Sant yn gweld ei heisiau’n arw. Alys Perry – Bu Alys yn Llysgennad Arian ers dwy flynedd yn Ysgol Dewi Sant. Tuag at ddiwedd 2013 cafodd ei dewis i fod yn Llysgennad Aur dros Sir Benfro. Mae Alys yn cyfrannu’n helaeth at chwaraeon ysgol, boed yn cynrychioli’r ysgol neu’n helpu gyda’r adran Addysg Gorfforol. Mae hi wedi helpu i gydlynu’r hyfforddiant ar gyfer Llysgenhadon Efydd a bu’n helpu gyda chyflwyno yn yr ysgolion bwydo lleol. Yn ddiweddar, mae Alys wedi cydlynu gweddill y Llysgenhadon i gynnal gwasanaeth am Gemau’r Gymanwlad a thaith trosglwyddo’r baton. Mae Alys yn cynrychioli’r ysgol mewn llawer o chwaraeon ac mae hefyd yn chwarae hoci dros y sir. Y tu allan i’r ysgol mae Alys yn chwarae hoci dros Abergwaun a Rygbi dros Glwb Rygbi Merched

Emily Beacroft – Bu Emily’n Llysgennad Arian ers dwy flynedd yn Ysgol Dewi Sant. Mae hi’n cyfrannu’n helaeth at chwaraeon ysgol boed yn cynrychioli’r ysgol neu’n helpu gyda’r adran Addysg Gorfforol. Mae hi wedi helpu i gydlynu hyfforddiant i’r llysgenhadon efydd eleni a bu’n helpu gyda’r cyflwyno yn yr ysgol bwydo leol. Yn ogystal, mae hi wedi helpu Alys i gydlynu gweddill y Llysgenhadon Arian i gynnal gwasanaeth am Gemau’r Gymanwlad a thaith trosglwyddo’r baton. Mae Emily yn cynrychioli’r ysgol mewn amrywiaeth o chwaraeon ac mae hi wedi cyflawni safon perfformio ragorol fel chwaraewr gemau. Y tu allan i’r ysgol, mae hi’n chwarae rygbi dros Glwb Rygbi Merched Hwlffordd ac mae hi’n dwlu ar yr awyr agored. Chloe Brown – Mae Chloe yn Llysgennad Aur dros Sir Benfro. Mae hi wedi helpu gyda hyfforddiant i’r Llysgenhadon Efydd ar gyfer ysgolion bwydo yn ogystal â chyflwyno llawer o wasanaethau ysgol. Yn ogystal, mae hi wedi siarad yn gyhoeddus dros y ddwy flynedd diwethaf yng Ngwobrau Chwaraeon Sir Benfro, gan hyrwyddo gwaith da’r Llysgenhadon Ifanc yn Sir Benfro. Mae hi wedi cynrychioli’r ysgol mewn ystod eang o chwaraeon gan gynnwys hoci, rownders a thennis, gan gael ei dewis i chwarae pêl-rwyd dros y sir. Fodd bynnag, mae ei hangerdd gwirioneddol o ran chwaraeon tuag at yr amgylchedd naturiol ac mae’n aelod o glwb Dringo Sir Benfro ers nifer o flynyddoedd a’i phrif ddileit yw dringo clogwyni Sir Benfro gyda’i mam, Dawn.

w w w. pembrokeshire .gov.uk/spor t


Sport Pembs Newsletter Spring 2014 Welsh_Layout 1 04/04/2014 15:07 Page 3

th Drosglwyddo Baton y Frenhines 2014 Gethin Rowlands – Mae Gethin yn Llysgennad Arian yn Ysgol Dewi Sant. Mae wedi helpu i gyflwyno hyfforddiant ar gyfer y Llysgenhadon Efydd ar gyfer ysgolion bwydo yn ogystal â chyflwyno gwasanaethau ysgol. Mae’n syrffiwr ac yn chwaraewr rygbi brwd ac mae bob amser yn fodlon helpu, gan ddosbarthu negeseuon ar gyfer gweithgareddau ar ôl yr ysgol, galw cofrestrau a helpu gyda chlybiau a sesiynau ymarfer. Mae Gethin yn dwlu ar ffitrwydd! Mae wedi cynrychioli’r ysgol yn ffyddlon mewn rygbi, athletau, rhedeg traws gwlad a phêl-droed drwy gydol ei yrfa yn yr ysgol. Mae Gethin yn ddyn ifanc gwylaidd, ac mae’n well ganddo helpu y tu ôl i’r llenni. Mae hefyd yn astudio ar gyfer ei arholiadau lefel uwch, gan gynnwys Addysg Gorfforol lefel uwch. Tomas Dufton – Mae Tomas yn unarddeg mlwydd oed. Mae’n ddisgybl yn Ysgol Solfach ac yn mwynhau chwarae pêl-droed, criced a phêlrwyd. Mae Tom yn Llysgennad Efydd ac mae'n cydweithredu i gyflwyno gwasanaethau ysgol gyfan sy’n annog y plant i ddilyn ffordd actif ac iach o fyw ac yn rhoi gwybodaeth am Gemau'r Gymanwlad. Chloe Price – Mae Chloe yn unarddeg mlwydd oed ac mae’n ddisgybl yn Ysgol Solfach. Mae Chloe yn hoffi bod yn yr awyr agored ac yn mwynhau cerdded, nofio a beicio. Mae hi’n arbennig o hoff o fod yn rhan o dîm ac mae'n chwarae rygbi, pêl-droed a phêl-rwyd. Mae hi’n gweithio’n gydwybodol ac mae hi’n fodlon cymryd rôl arweiniol mewn cyflwyno gwasanaethau ysgol gyfan sy'n hyrwyddo ffordd actif ac iach o fyw ac am Gemau'r Gymanwlad. Mae Chloe yn rhagori mewn chwaraeon ac mae hi wedi cynrychioli'r ysgol mewn amrywiaeth o chwaraeon.

Luke Lewis – Mae Luke yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd y Garn. Dechreuodd nofio pan oedd yn 5 oed yn Aberdaugleddau ac mae’n breuddwydio am ennill medal aur yn y pwll yn y gemau Olympaidd. Mae wedi cystadlu mewn llawer o galâu o gwmpas y sir ac mae wedi cynrychioli’r ysgol mewn llawer o weithgareddau megis nofio, pêl-droed a chriced cyflym. Fel Llysgennad Chwaraeon, mae’n ymdrechu i wella ein hysgol a'i gwneud yn fwy brwd dros chwaraeon. Ar hyn o bryd, mae Luke yn gweithio ar ddatblygu rhagor o weithgareddau ar ôl yr ysgol sy’n canolbwyntio mwy ar chwaraeon. Kieran Owen – Mae Kieran yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd y Garn ac mae’n cymryd rhan mewn llawer o chwaraeon; criced cyflym, pêl-droed a rygbi. Fodd bynnag, ym maes rhedeg mae’n rhagori. Dechreuodd Kieran redeg gyda’r Harriers pan oedd yn 9 oed. Mae’n gweithio’n galed i wella ei redeg drwy'r amser. Ei nod yw mynd i’r Gemau Olympaidd. Fel Llysgennad Chwaraeon, mae Kieran yn annog plant eraill i wneud mwy o chwaraeon. Nid oes unrhyw dasg yn rhy fach yn achos Chwaraeon – ac mae hyn yn cynnwys bod yn gyfrifol am dacluso’r cwpwrdd chwaraeon! Holly Davies – Mae Holly yn ddisgybl yn Ysgol Bro Dewi a chafodd ei dewis i fod yn Llysgennad Efydd oherwydd ei brwdfrydedd tuag at bob agwedd ar ddysgu a’i gallu i hyrwyddo pethau mae hi’n credu ynddynt yn gadarnhaol. Mae Holly yn chwaraewr pêl-rwyd brwd ac mae hi’n mwynhau amrywiaeth eang o chwaraeon.

Cameron Thomas – Mae Cameron yn ddisgybl yn Ysgol Bro Dewi a chafodd ei ddewis i fod yn Llysgennad Efydd. Mae’n bêl-droediwr talentog ac yn fabolgampwr amryddawn brwd. Mae ganddo ddyhead cryf am hunan welliant ac agwedd benderfynol i fod y gorau posibl y gall fod. Mae Cameron yn gallu siarad yn frwdfrydig ac ysbrydoli’r rhai o’i gwmpas i wneud eu gorau Dafydd Cotton – Mae Dafydd yn Llysgennad Efydd ym Mlwyddyn 6 yn Ysgol Croesgoch. Mae’n fabolgampwr brwd ac mae wedi cynrychioli’r ysgol nifer o weithiau, yn chwarae amrywiaeth o chwaraeon. Mae’n mynychu clybiau chwaraeon ar ôl yr ysgol yn rheolaidd, ac mae’n annog disgyblion eraill i ddatblygu eu sgiliau chwaraeon. Ei hoff gamp yw rygbi ac mae’n chware dros y tîm lleol, sef Tyddewi, yn fewnwr. Mae Dafydd yn chwaraewr tîm go iawn; mae’n ysbrydoli plant eraill ac yn arwain trwy esiampl. Uchelgais Dafydd yw chwarae rygbi dros Gymru a Llewod Prydain ac Iwerddon. Mary Raymond – Mae Mary yn Llysgennad Efydd yn Ysgol Croesgoch. Mae’n fabolgampwraig frwd ac mae wedi cynrychioli’r ysgol nifer o weithau, yn chwarae amrywiaeth o chwaraeon. Mae Mary’n mynychu clybiau chwaraeon ar ôl yr ysgol yn rheolaidd ac mae’n helpu i drefnu gweithgareddau yn ystod amserau egwyl. Mae Mary’n angerddol am rygbi ac mae’n chwarae dros Dyddewi ers 3 blynedd. Mae hi’n gobeithio chwarae dros dîm rygbi i ferched ac i chwarae dros Gymru. Pan nad yw Mary yn chwarae chwaraeon, mae hi'n helpu ei thad gyda'r defaid a'r lloi ar fferm y teulu.

w w w. pembrokeshire .gov.uk/spor t


Sport Pembs Newsletter Spring 2014 Welsh_Layout 1 04/04/2014 15:07 Page 4

Dyfarnwyd achrediad MarcActif Cymru i Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast, ac i ysgolion uwchradd Syr Thomas Picton, Penfro a Greenhill ar gyfer addysg gorfforol a chwaraeon ysgol o ansawdd uchel eleni. Dyfernir MarcActif Cymru i ysgolion i gydnabod Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol o Ansawdd Uchel ac mae’n dathlu llwyddiant disgyblon yn yr ysgol a’r gymuned chwaraeon ehangach. Mae MarcActif Cymru yn ddyfarniad ansawdd a ddatblygwyd rhwng Chwaraeon Cymru a’r Gymdeithas Addysg Gorfforol. Pan fydd ysgol yn gwneud cais am ddyfarniad, mae’n ymgysylltu â’r broses hunanarfarnu ac yn adnabod cryfderau a meysydd i’w datblygu.

Mae’r dyfarniad yn cydnabod: • gwaith o ansawdd uchel yn yr ysgol ac yn y gymuned ehangach, • statws a phroffil uchel addysg gorfforol a chwaraeon ysgol yn yr ysgol ac yn y gymuned ehangach • y cyfleoedd sydd ar gael i ddisgyblion gymryd rhan mewn ystod eang o brofiadau dysgu • profiadau o ansawdd da o ran addysg gorfforol a chwaraeon ysgol • yr ymrwymiad i ffyrdd iach ac actif o fyw. Ar hyn o bryd, dim ond ysgolion cynradd cymunedol Llandyfái a Doc Penfro, ysgolion uwchradd Tasker Milward, Aberdaugleddau a Dewi Sant ac Ysgol Portfield sy’n ddeiliaid y dyfarniad hwn yn Sir Benfro.

Cyllid ar gyfer clybiau chwaraeon Yn ddiweddar, cynhaliodd Panel Grantiau Cist Gymunedol Sir Benfro gyfarfod olaf y flwyddyn ariannol. Er mis Ebrill 2013, mae’r panel wedi dyfarnu 110 o grantiau i glybiau o gwmpas y sir sydd â chyfanswm enfawr o £100,000.00 Mae’r dyfarniadau wedi mynd at amrywiaeth fawr o weithgareddau, yn ymwneud â 33 o chwaraeon gwahanol - o’r rhai mwy traddodiadol megis rygbi, pêl-droed, hoci a phêlrwyd i rwyfo, achub bywydau ym mrig y don a thennis bwrdd. Mae’r cynllun yn agored i geisiadau gan glybiau presennol ond mae’r panel hefyd yn croesawu ceisiadau gan fentrau a chlybiau newydd sydd megis dechrau arni. Wrth i Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow brysur ddynesu, byddai’r panel hefyd yn croesawu ceisiadau gan y clybiau hynny sy’n darparu cyfleoedd mewn chwaraeon dethol Gemau’r Gymanwlad. Mae panel Cist Gymunedol Sir Benfro yn cyfarfod 5 gwaith y flwyddyn i asesu ceisiadau perthnasol. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gymorth wrth gyflwyno cais, cysylltwch ag Alan Jones, y Swyddog Datblygu Chwaraeon ar 01437 776191 neu ar alan.Jones@pembrokeshire.gov.uk

w w w. pembrokeshire .gov.uk/spor t


Sport Pembs Newsletter Spring 2014 Welsh_Layout 1 04/04/2014 15:07 Page 5

Hyfforddiant Llysgennad Efydd Drwy gydol mis Ionawr a mis Chwefror, cafodd yr ysgolion cynradd o fewn yr ardal ymweliad gan y swyddog 5x60, Dan Bellis, yng nghwmni’r Llysgenhadon Ifanc Arian dros Chwaraeon o Ysgol Bro Gwaun. Gyda chymorth y llysgenhadon presennol hyn, derbyniodd disgyblion ym mlwyddyn 4 a 5 hyfforddiant i fynd yn llysgenhadon dros chwaraeon o fewn eu hysgolion eu hunain. Roedd yr ysgolion cynradd hyn yn cynnwys Ysgol Bro Ingli, Ysgol Glannau Gwaun, Ysgol Ger-y-llan, Ysgol Llanychllwydog, Ysgol Casblaidd, Ysgol Puncheston ac Ysgol Wdig. I ddechrau, gwyliodd y disgyblion fideos a oedd yn canolbwyntio ar chwaraeon yn sir Benfro a’r gemau Olympaidd a Pharalympaidd diweddar a gynhaliwyd yn Llundain, a gemau’r Gymanwlad sydd ar ddod, yn Glasgow. Ar ôl hyn, roedd y llysgenhadon newydd yn gallu adnabod rhinweddau pwysig llysgennad dros

chwaraeon ac adnabod pryd fyddai angen eu defnyddio. Gan orffen gyda chwisiau bach a gweithgareddau adeiladu tîm, llwyddodd y disgyblion i greu cynlluniau gweithredu i benderfynu beth y gallant ei wneud i gymell disgyblion eraill a gwella chwaraeon o fewn eu hysgolion unigol. Cyfrannodd pob un a gymerodd ran yn hynod o dda yn y sesiynau ac maent wedi addo hyrwyddo gwerth chwaraeon a 5x60 yn y dyfodol, ac mae Dan a gweddill y

Jasmin Reynolds

Nghanolfan Hamdden i sesiynau 5x60, a Chlwb Pêl-droed Merched Abergwaun pan gyrhaeddodd oedran ysgol Uwchradd yn Ysgol Bro Gwaun. Ym mis Medi, mynychodd Jasmin dreial yng Nghanolfan Perfformio Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin, a chafodd ei dewis. Erbyn hyn, mae’n hyfforddi gyda Gorllewin Cymru ar nos Wener, gyda Carrie Slack yn ei hyfforddi. Mae Jasmin wedi chwarae cryn dipyn o gemau dros Orllewin Cymru eisoes ac mae wedi sgorio cyfanswm trawiadol o goliau, fel y mae hi’n ei wneud bob wythnos fel saethwr gyda Chlwb Pêl-droed Merched Abergwaun.

Cymaint y mae chwaraewr pêldroed dros Glwb Pêl-droed Merched Abergwaun, sef Jasmin Reynolds, wedi datblygu, yn ddiweddar mae hi wedi cynnal trafodaethau gyda Reading FC ynglŷn â chwarae drostynt pan fydd yn ddigon hen! Mae Jasmin yn 14 oed ac mae wedi gwneud cynnydd o chwarae pêl-droed yn yr ysgol gynradd ym Mathri ac mewn sesiynau Pêl-droed Hwyl yng

llysgenhadon Arian yn edrych ymlaen at ailymweld â phob ysgol a gweld yr holl gynnydd a wnaed. Roedd ymweld â’r holl ysgolion yn unigol a gweithio gyda’r holl ddisgyblion yn wych. Rydym yn gobeithio ein bod wedi helpu i’w hysbrydoli i hyrwyddo Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol gyda’r disgyblion eraill yn eu hysgolion. Amy Leahy Llysgennad Arian Ysgol Bro Gwaun Dywedodd y Swyddog 5x60 yn Ysgol Bro Gwaun, sef Dan Bellis, ‘Mae Jasmin yn gwneud cynnydd arbennig o dda, ac mae’n glod i’w gallu, ac yn bwysicach, ei hagwedd a’i hymroddiad tuag at hyfforddi a gemau yw’r rhesymau pam y mae’n gwneud cystal. Mae’n rhaid diolch yn fawr i rieni Jasmin, sy’n gyson gefnogol, yn cludo Jasmin a merched eraill i sesiynau hyfforddi a gemau’. Mae pawb yng Nghlwb Pêldroed Merched Abergwaun ac Ysgol Bro Gwaun yn hynod o falch o gyflawniadau Jasmin.

w w w. pembrokeshire .gov.uk/spor t


Sport Pembs Newsletter Spring 2014 Welsh_Layout 1 04/04/2014 15:07 Page 6

Tîm Maeth Chwaraeon Ysgol Greenhill yn creu argraff ar Lysgennad Sky Sports, Tom Reed, sy’n athletwr judo dros Brydain Fawr Ar 6 Mawrth, roedd yn anrhydedd i Ysgol Greenhill groesawu prif athletwr judo Prydain Fawr, sef Tom Reed; daeth ar ran Sky Sports: Living for Sport. Dechreuodd y diwrnod gyda gwasanaethau blwyddyn 7 ac 8, a siaradodd â nhw am sut cychwynnodd arni â Judo a’i brofiadau ym myd chwaraeon. Dangosodd fideo i’r disgyblion o rai o’i dwrnameintiau a’i fedalau a enillodd mewn twrnameintiau ledled y byd. Dywedodd hefyd wrth y disgyblion fod rhaid i chi fod yn benderfynol a gweithio’n galed i gyflawni popeth, nid yn unig o ran chwaraeon ond hefyd yn eich gwaith ysgol. Ar ôl hynny, ymunodd Tom â’r Tîm Chwaraeon a Maeth yn yr Ysgol gyda Llysgenhadon Ifanc Aur ac

Arian a’r Swyddog Pobl Ifanc Gweithgar, Wyndham Williams, i drafod digwyddiadau chwaraeon i’w cynnal yn Ysgol Greenhill, megis wythnos Sports Relief a Ras Traeth 2 cilometr Greenhill, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o Ddigwyddiadau Chwaraeon pwysig; Gemau’r Gymanwlad, y Gemau Olympaidd ac Wythnos Iechyd a Ffitrwydd Greenhill. Fe wnaeth y timau’n hynod dda a disgwylir i’r digwyddiadau

arfaethedig fod yn llwyddiant mawr. Yn ystod awr olaf ymweliad Tom, dysgodd i’r tîm Chwaraeon a Maeth sut i wneud Judo sylfaenol, a oedd yn brofiad da iawn. Gofynnodd i ni weithio mewn parau ac esboniodd rai symudiadau a thechnegau penodol a oedd yn hwyliog iawn, ac wrth i’r amser wibio heibio, gorffennodd trwy ofyn i ni berfformio ychydig o dafliadau Judo ar ein partneriaid. Roedd y diwrnod cyfan yn hynod ysbrydoledig a gwnaeth pob un ohonom elwa’n fawr o’r profiad.

(ysgrifennwyd gan Lysgennad Ifanc Arian Hayden Gove)

w w w. pembrokeshire .gov.uk/spor t


Sport Pembs Newsletter Spring 2014 Welsh_Layout 1 04/04/2014 15:07 Page 7

Clwb Gymnasteg Greenhill 5x60 yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Gymnasteg yr Urdd Teithiodd disgyblion o’r clwb Gymnasteg 5x60 newydd ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 i Ganolfan Hamdden Hwlffordd i gystadlu yn eu cystadleuaeth Gymnasteg gyntaf gyda’r Urdd. Gyda’i gilydd, cystadlodd 20 o ddisgyblion a chynnal sioe ragorol gyda pherfformiadau gwych gan y bechgyn a'r merched a gystadlodd mewn categorïau unigol, parau a thimau. Yn gyffredinol, roedd Ysgol Greenhill wedi cymhwyso ar gyfer Rowndiau Terfynol yr Urdd yn Aberystwyth, a oedd yn gyflawniad gwych.

Isgyblion yn Ninbych-y-pysgod yn ‘SBONCIO’N HWYLIOG’ Cymerodd dros 80 o ddisgyblion o glwstwr teulu ysgolion Dinbych-y-pysgod ran yn y rhaglen Trampolinio ‘Sboncio Hwyliog’ y tymor hwn. Dangosodd canlyniadau o’r Arolwg Chwaraeon Ysgol Sir Benfro 2013 diweddar, a lenwyd gan ddisgyblion ysgol, fod galw amlwg am drampolinio. Cyflwynwyd y fenter ‘Sboncio Hwyliog’ er mwyn ymgysylltu â disgyblion a chynnig cyflwyniad cynyddol pum wythnos AM DDIM i’r gamp, yn ymwneud â phum elfen graidd trampolinio: Glanio ar y blaen, Glanio ar y cefn, Trosbennu,

Troelli, a Glanio ar y pen-ôl. Cyflwynwyd tystysgrif i bob disgybl ar ddiwedd y rhaglen a chawsant wahoddiad i barhau â’u trampolinio gyda Chlwb Trampolinio Sauterelle a ffurfiwyd yn ddiweddar yn Ninbych-y-pysgod. Cyflwynodd Charlotte Digby-North o Glwb Trampolinio Sauterelle y rhaglen ‘Sboncio Hwyliog’ dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae hi wedi gweld nifer o blant yn parhau â’u trampolinio yn y clwb yng Nghanolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod. Yn ystod gwyliau hanner tymor mis Ebrill eleni, bydd rhaglen Trampolinio ‘Sboncio Hwyliog’ arall yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Wyndham Williams, sef y Swyddog Pobl Weithgar Ifanc wyndham.williams@pembrokeshire.gov.uk

Spor Sportt P Pembrokeshire embrokeshire Chwaraeon Sir Benfr Benfro o

w w w. pembrokeshire .gov.uk/spor t


Sport Pembs Newsletter Spring 2014 Welsh_Layout 1 04/04/2014 15:07 Page 8

Cynllun peilot Pobl Weithgar (AYP) yn Ardal Aberdaugledd Prif ddiben y cynllun peilot hwn yw datblygu llwybrau at weithgarwch corfforol drwy ymagwedd clystyrau rhwng ysgolion a’r gymuned. Mae’r Swyddog AYP yn gyfrifol am ddatblygu gweithgareddau newydd, allgyrsiol mewn partneriaeth â’r ysgol uwchradd darged, ysgolion cynradd clwstwr, y gymuned leol a sefydliadau chwaraeon gwirfoddol.

mae 15 o ddisgyblion ychwanegol wedi bod yn mynychu Clwb Dawnsio cymunedol Finola sydd wedi gweld cynnydd o 50% o ran niferoedd yn ei dosbarthiadau.

Cafodd wyth ysgol eu dewis o fewn ardal y cynllun peilot yn Aberdaugleddau, gan gynnwys Aberdaugleddau, Hubberston, Sant Ffransis, Coastlands, The Meads, Hakin, Ysgol Iau Aberdaugleddau a Johnston. Mae’r Swyddog AYP eisoes wedi dechrau cryfhau’r cysylltiadau rhwng Ysgol Aberdaugleddau a’i hysgolion cynradd sy’n ei bwydo drwy gysylltu â phenaethiaid ysgolion cynradd a chydlynwyr Addysg Gorfforol.

Bydd clwb Tennis Iau ar ôl yr ysgol yn dechrau ym mis Mawrth ar gyfer disgyblion Blwyddyn 5 a 6 o Ysgolion Sant Ffransis a Hubberston a bydd yn cael ei gynnal yn Ysgol Aberdaugleddau yn y Neuadd Chwaraeon.

Bob tymor, caiff 2 ysgol gynradd eu dewis i ganolbwyntio ar unrhyw feysydd ar gyfer datblygu yn unol â thrafodaeth rhwng y Swyddog AYP, Penaethiaid a chydlynwyr Addysg Gorfforol. Y tymor hwn, mae’r Swyddog AYP wedi gweithio gydag Ysgol Sant Ffransis ac Ysgol Hubberston. Yn Ysgol Sant Ffransis, sefydlwyd clwb Amlsgiliau newydd ar ôl yr ysgol ar gyfer plant yn y blynyddoedd cynnar bob dydd Mawrth a chlwb Dawnsio Stryd ar ôl yr ysgol bob dydd Iau, a gafodd ei gyflwyno gan yr athrawes dawnsio leol, Finola Findlay. O ganlyniad i’r clwb hwn,

Yn ogystal, sefydlwyd clwb Rygbi Tag ar ôl yr ysgol ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 4-6 yn Ysgol Hubberston a chynhaliwyd hwnnw ar ddydd Iau.

Darperir cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant mewn arweinyddiaeth gan y Swyddog AYP i fyfyrwyr yn Ysgol Aberdaugleddau sydd â’r nod o wella sgiliau arweinyddiaeth, yn enwedig sgiliau trefniadaethol, cyfathrebu a rheoli amser. Cwblhaodd 52 o ddisgyblion Blwyddyn 10 Gwrs Dyfarniad Trefnwyr Arweinwyr Ifanc y tymor hwn a gafodd ei gynnal dros ddeuddydd gan y Swyddog AYP. Bydd yr arweinwyr ifanc hyn yn cael eu defnyddio yn ein teulu o ysgolion er mwyn cynorthwyo a chyflwyno ystod o sesiynau, gan gynnwys Pêl-rwyd, Hoci, Rygbi Tag, Hoci, Aml-sgiliau a Thennis, yn ogystal â chynorthwyo a chyflwyno mewn Gwyliau, Digwyddiadau Pontio a chystadlaethau. O fewn y gymuned, mae’r Swyddog AYP yn ymwneud ar hyn

o bryd â phrosiectau Cytundeb Partneriaeth yr Awdurdodau Lleol mewn Pêl-rwyd a Thennis Iau. Mae adran dan 11 newydd o glwb Pêlrwyd Iau Aberdaugleddau wedi’i sefydlu ar nos Fawrth yng Nghanolfan Hamdden Meads, gan gysylltu â’r Swyddog Datblygu Pêlrwyd, sef Jemma Scourfield, fel allanfa o glybiau pêl-rwyd o fewn eu hysgolion eu hunain. I ddechrau, roedd angen mwy o hyfforddwyr iau a chwblhaodd un myfyriwr o Aberdaugleddau ei Chymhwyster Pêl-rwyd ‘Starting Out’ ac mae dwy arall ar fin gwneud yr un peth yn fuan; mae’r tri disgybl yn gobeithio adeiladu ar hyn yn y dyfodol agos. Mae’r swyddog AYP hefyd yn gweithio ar greu clwb Tennis Iau newydd yn y gymuned, yn Aberdaugleddau, a fydd yn darparu rhagor o gyfleoedd ar gyfer y disgyblion sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau tennis yn eu hysgolion. Yn ogystal, gwnaed cysylltiadau gyda’r Swyddog Datblygu Hoci, Angela Miles, a chynhaliwyd gŵyl Hoci Ysgolion Cynradd yn Ysgol Aberdaugleddau ddydd Llun, 10 Chwefror. Cynorthwyodd naw o’r Arweinwyr Ifanc AYP i gyflwyno’r ŵyl hon a oedd yn llwyddiannus iawn.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag Barry John, Swyddog AYP, ar 07920 537 198

w w w. pembrokeshire .gov.uk/spor t


Sport Pembs Newsletter Spring 2014 Welsh_Layout 1 04/04/2014 15:07 Page 9

r Ifanc ddau

Pencampwyr Badminton

Gw ˆ yl Pêl Droed i Ferched Cymerodd tîm o 5 o ferched ran yng Ngŵyl Pêl-droed 5x60 y de yng Nghanolfan Hamdden Penfro ar 16 Chwefror. Chwaraeodd y tîm gemau cyfeillgar yn erbyn Greenhill a mwynhau pob munud. Dyma’r tîm: Angel Cooper, Kayleigh Diego, Sinead Hoadley, Lauren Boyle ac Elise Guymer. Da iawn, ferched

Cymerodd tîm o 10 chwaraewr badminton ran yn gyntaf yn Nhwrnamaint 5x60 De ym mis Tachwedd, yn cystadlu yn erbyn timau o Ysgol y Preseli ac Ysgol Greenhill. Ysgol Penfro oedd ar y brig ar ôl ennill eu holl gemau ac aethant ymlaen i gynrychioli’r De yn niwrnod Rowndiau Terfynol Badminton 5x60 a gynhaliwyd yn Ysgol Greenhill fis Chwefror. Yn ogystal, cafodd cystadleuaeth senglau ei chynnal yn ystod twrnamaint y De, a’r uchafbwynt oedd rownd derfynol yn cynnwys chwaraewyr o Benfro, sef rhwng Tom Miller a Gregg Davies. Yn ystod prynhawn y rowndiau terfynol, chwaraeodd y tîm yn erbyn Greenhill, Syr Thomas Picton a Tasker Milward ac unwaith eto buont yn fuddugol, gan golli 2 gêm yn unig allan o 15. Mae’r tîm yn cynnwys : Molly Smith, Suna Goodman, Steffan Williams, Luke Harries, Gregg Davies, Tom Miller, Adam Bowen, Charlie Garrard, Jack Blunsden, Liam Deakin a Charlie Perkins.

w w w. pembrokeshire .gov.uk/spor t


Sport Pembs Newsletter Spring 2014 Welsh_Layout 1 04/04/2014 15:07 Page 10

Pêl-droed Merched Abergwaun Dros y 18 mis diwethaf, mae pêldroed i ferched yn Abergwaun wedi mynd o nerth i nerth. Ar y dechrau, roedd un tîm ond erbyn hyn mae gan y clwb bum tîm ar draws tri grŵp oedran gwahanol. Mae nifer y merched sydd eisiau cymryd rhan a chyfranogi wedi codi’n ddramatig ers i’r clwb ddatblygu cysylltiadau gyda’r ysgol uwchradd leol, sef Ysgol Bro Gwaun. Trwy weithio ar y cyd â swyddog 5x60 Chwaraeon Sir Benfro, sef Dan Bellis, sy’n gweithio yn Ysgol Bro Gwaun a’r athrawes, Eiry Miles, mae’r clwb wedi llwyddo i ddarparu hyfforddiant ychwanegol a chyfleoedd cystadleuol. Mae’r merched yn hyfforddi ar nos Iau ar ôl yr ysgol ac yn chwarae gemau ar ddydd Sul mewn gwahanol leoliadau ledled Sir Benfro. Dywedodd Matthew Lamb o

Glwb Pêldroed Chwaraeon Abergwaun, “Mae gweithio gyda’r ysgol yn ein galluogi i ddefnyddio cyfleusterau ac offer rhagorol. Mae 73 o ferched wedi cymryd rhan gyda ni ers canol mis Medi 2013. Mae hyn yn wych i’r clwb, ac mae’r merched wedi dangos dyhead gwirioneddol i gymryd rhan, beth bynnag yw ei gallu. Rydym hefyd wedi eu gweld yn dod yn fwy hyderus ar y maes ac oddi arno. Bu cefnogaeth ffantastig gan eu rhieni ac mae’r merched yn glod i bawb sy’n cymryd rhan. Dywedodd yr athrawes o Ysgol Bro Gwaun, sef Eiry Miles, ‘Mae

Hoci Dan Ddŵr – yn cynrychioli Prydain Fawr

Dan 19 a Dan 23 yn ogystal â Thimau Elît a Meistr. Roedd 3 disgybl o ysgolion lleol yn Sir Benfro yn aelodau pwysig yn sgwad Prydain Fawr. Cymerodd Patrick Bunker, Cethin Ravenhill ac Emyr Taylor (o Ysgol Penfro ac Ysgol y Preseli yn ôl eu trefn ) ran, wedi’u noddi’n garedig gan Valero, yn yr adrannau dan 19 i fechgyn a dan 23 i fenywod.

Cynhaliwyd 18fed Pencampwriaethau’r Byd Hoci Dan Ddŵr CMAS yn Eger, Hwngari, ym Medi 2013. Aethpwyd â saith tîm a oedd yn cynrychioli Prydain Fawr i’r gystadleuaeth, yn cystadlu yng nghategorïau grwpiau oedran

O’r chwith i’r dde, Patrick, Cethin ac Emyr.

Cafodd y ddau dîm dwrnamaint hir a chaled, gan chwarae hyd at dair gêm bob dydd dros gyfnod o wythnos. Cafodd y bechgyn eu rownd gynderfynol yn erbyn Awstralia, a chafwyd gêm hynod gyffrous a aeth i amser ychwanegol a hyd yn oed gôl euraid er mwyn pennu

cael y cyfle i weithio’n ddwyieithog gyda Chlwb Pêldroed Merched Chwaraeon Abergwaun trwy’r cynllun 5 x 60 yn Ysgol Bro Gwaun yn brofiad gwerthfawr iawn i mi. Mae gweld datblygiad a mwynhad y chwaraewyr benywaidd ifanc yn y gêm o wythnos i wythnos yn ffantastig. Mae rhai chwaraewyr talentog iawn yn y timau dan 16, dan 14 a dan 12 ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hyfforddiant y tîm dan 10 a fydd yn cychwyn ar ôl gwyliau’r Pasg.’

eu lle yn y rownd derfynol. Gwnaethant orffen yn y 6ed safle yn gyffredinol, yn erbyn cystadleuaeth eithriadol o gryf. Brwydrodd tîm y merched yn galed drwy gydol yr wythnos a chawsant eu gêm derfynol ar gyfer y fedal efydd yn erbyn Twrci i orffen yn y trydydd safle ac fel y tîm Ewropeaidd a orffennodd uchaf yn eu hadran. Roedd y cymorth ariannol a ddarparwyd gan Valero yn amhrisiadwy i’r tri wrth iddynt gwblhau’r twrnamaint; maent yn dymuno diolch yn garedig i Valero am eu holl gymorth a chefnogaeth.

w w w. pembrokeshire .gov.uk/spor t


Sport Pembs Newsletter Spring 2014 Welsh_Layout 1 04/04/2014 15:07 Page 11

Criced y Ddraig Ers tro byd, bu Gwobrau Criced y Ddraig wrth wraidd criced yn Sir Benfro a daeth rhestr hir o chwaraewyr trwy’r system i chwarae dros eu clwb, eu rhanbarth a thu hwnt. Mae Cymdeithas Hyfforddwyr Criced Sir Benfro (PACC) wedi bod yn gyfrifol am drefnu’r gwobrau gallu hyn, a gall plant mor ifanc â 6 oed fynychu er mwyn dechrau dysgu eu crefft. Mae’r gwobrau hyn yn dechrau gyda Draig 1, a gall plant symud ymlaen yr holl ffordd trwodd i Ddraig 5 trwy fynychu sesiynau hyfforddi dan do yn y gaeaf. Hwn hefyd oedd y trywydd mae hyfforddwyr rhanbarthol wedi’i ddefnyddio i ddewis eu sgwadiau yn y grwpiau oedran iau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, maent wedi helpu i ddatblygu cricedwyr da iawn sydd wedi chwarae dros ysgolion yn Lloegr, sef Steven Inward ac Andrew Salter. Aeth Andrew ymlaen o fod yn Gapten Lloegr i fod yn gricedwr proffesiynol gyda Morgannwg. Dywedodd Andrew, sy’n cefnogi’r gwobrau i’r carn, “roedd cyfranogi yng Ngwobrau Criced y Ddraig yn fy nghaniatáu i brofi fy sgiliau a darganfod rhagor am y gêm. Ymdriniodd ag ystod eang o sgiliau a thechnegau, a oedd yn aml yn ddieithr i mi. Cafodd ei wneud mewn ffordd ysgogol a dymunol a’m hanogodd i barhau.”

Mae sicrhau llwyddiant y cyrsiau hyn wedi digwydd oherwydd y PACC ac un dyn yn benodol, sef Stuart Beresford. Bu Stuart yn gweinyddu’r gwobrau hyn ers amser maith, gan drefnu lleoliadau a hyfforddwyr i gynnal y sesiynau yn ogystal â mewnbynnu’r data’n electronig ar y system. Ond rwy’n sicr mai’r uchafbwynt fyddai trefnu’r noson wobrwyo pan gaiff pob Draig wahoddiad i dderbyn eu tystysgrifau. Mae hyn wedi golygu ymdrech enfawr gan Stuart i gydlynu’r prosiect hwn, ac mae’n rhaid i’r rhai a fu’n ddigon ffodus i brofi’r gamp trwy strwythur Y Ddraig ddiolch i Stuart amdano. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu’n anoddach i gynnal y cyrsiau hyn. Mae nifer y Dreigiau sy’n mynychu wedi gostwng yn sylweddol ac mae’n fwyfwy anodd dod o hyd i hyfforddwyr. Felly, o Haf 2014 bydd newidiadau o ran y ffordd y cyflwynir y gwobrau. Caiff Draig 1 a 2 eu cyflwyno trwy’r clybiau, ac mae PACC yn gyfrifol am drefnu’r cyrsiau gaeaf ar gyfer Draig 3, 4 a 5. Y gobaith yw y bydd mwy o blant yn mynd trwy’r wobr trwy ymgymryd â hi fel rhan o’u hyfforddiant wythnosol gyda’r clwb, a bydd hefyd yn rhoi rhaglen sesiynau i hyfforddwyr clybiau eu dilyn. Bydd pob clwb yn y sir yn derbyn gwybodaeth berthnasol cyn i’r tymor ddechrau. I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau’r Ddraig, cysylltwch naill ai â Rhidian Harries, Swyddog Datblygu Criced ar 07920 702570 neu Rick Walton, Hyfforddwr Cymunedol.

w w w. pembrokeshire .gov.uk/spor t


Sport Pembs Newsletter Spring 2014 Welsh_Layout 1 04/04/2014 15:07 Page 12

Gw ˆ yl Hoci 5x60 5x60 hoci Pwll Gogledd

5x60 hoci De Pwll

w w w. pembrokeshire .gov.uk/spor t


Sport Pembs Newsletter Spring 2014 Welsh_Layout 1 04/04/2014 15:07 Page 13

60 i Fechgyn Cystadlodd pum ysgol yng ngŵyl hoci 5x60 i fechgyn dan 15 oed eleni; cafodd ei chynnal dros ddwy noson. Ym mhwll y gogledd yn ysgol Syr Thomas Picton, cystadlodd Ysgol Bro Gwaun, Syr Thomas Picton ac Ysgol y Preseli mewn gornest gron gyda gemau 15 munud bob hanner. Y canlyniadau oedd Preseli 1 Bro Gwaun 1, Syr Thomas Picton 0 Bro Gwaun 2 a Syr Thomas Picton 3 Preseli 1. Ym mhwll y de, chwaraeodd Ysgol Gyfun Aberdaugleddau yn erbyn Penfro mewn gêm 4 x 15 munud a arweiniodd at sgôr gyfartal o 2-2. Ar ôl hynny, cafwyd rhediadau cic gosb, ac enillodd Penfro yn y pen draw. Bydd rownd derfynol dan 15 Sir Benfro rhwng Ysgol Bro Gwaun ac Aberdaugleddau ar 10 Ebrill.

Llysgenhadon Hoci Arian Mae Llysgenhadon Ifanc Hoci Arian , a adwaenir hefyd fel ‘Adistars’, yn gweithio’n uniongyrchol gyda’u clybiau a’u hysgolion er mwyn bod yn llais ar gyfer pobl ifanc a datblygu ymwybyddiaeth o hoci ar lefel y gymuned leol. Roedd Sir Benfro wrth ei bodd yn cael 9 o lysgenhadon hoci arian i gynrychioli Partneriaethau’n Berchen ar Ddatblygu y Gorllewin, sef Carys James, Carys Thomas, Chloe Campbell, Ffion Price, Ben Leahy ac Elliott Colley (Abergwaun a Gwdig), Ellie Codd (merched Hwlffordd), Joe Reohorn (dynion Sir Benfro) a Morgan Simpson (Caeriw), ynghyd â 2 lysgennad Aur presennol, sef Amelia Davies a Carys Owen (Abergwaun a Gwdig).

Rôl Llysgennad Hoci Ifanc yw: • Cynyddu cyfranogi a ffyrdd iach o fyw yn eu hysgolion, clwb neu gymuned • Hyrwyddo gwerthoedd positif chwaraeon mewn hoci a thrwyddo • Bod yn fodel rôl wrth hyrwyddo hoci • Bod yn llais i’r bobl ifanc yn eu hysgol, clwb, POD (Partneriaethau’n Berchen ar Ddatblygu) a’r gymuned Mae Angela Miles, sef asiant hoci Sir Benfro, wrth ei bodd gyda safon y grŵp, a bydd yn gweithio gyda chlybiau ac ysgolion i sicrhau y caiff y Llysgenhadon Hoci Ifanc hyn eu defnyddio i’w llawn botensial. Pe byddai unrhyw un yn hoffi cael rhagor o wybodaeth am y cynllun, cysylltwch ag Angela ar 01437 776379 neu 0792 0213651

w w w. pembrokeshire .gov.uk/spor t


Sport Pembs Newsletter Spring 2014 Welsh_Layout 1 04/04/2014 15:07 Page 14

Pencampwriaethau Boccia Cymru Cynhaliwyd Pencampwriaethau Boccia Cymru ar 1 Mawrth yng Nghanolfan Hamdden L2 yn Abertawe. Cystadlodd Jacob Thomas a Siân Jones, sy’n chwarae dros Bantherod Crymych, o Sir Benfro. Chwaraeodd Siân mewn digwyddiad agored; er na enillodd ei gemau, cadwodd y gwahaniaethau yn ei sgorio yn isel iawn, a oedd yn welliant mawr ar ei chystadleuaeth ddiwethaf. Cystadlodd Jacob yn y categori BC3, a chwaraeodd ei gêm olaf am 8pm y noson honno. Aeth Jacob ymlaen i ennill y digwyddiad, sy’n ei gymhwyso i gystadlu ym mhencampwriaethau Prydain ym mis Mai. Yn ogystal, cafodd Siân ei dewis ar gyfer Tîm Cymru i gystadlu ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Prydain.

Parkrun yn dod i Sir Benfro

Mae parkrun Colby yn dechrau ddydd Sadwrn 21 Mehefin. Mae’n daith rhedeg neu gerdded 5 cilometr wedi’i hamseru a gaiff ei chynnal bob bore dydd Sadwrn am 9 am yng Nghoetir Colby Lodge, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger Amroth. Mae’n rhad ac am ddim ac yn agored i bawb ymuno ynddi. Mae cofrestru gyda www.parkrun.org.uk yn eich galluogi i gael cod bar sydd angen cael ei argraffu er mwyn

dod ag ef i ddigwyddiadau parkrun. Mae dros 230 o leoliadau yn y DU lle mae parkrun, sy’n llwyddiannus iawn, yn cael ei gynnal bob dydd Sadwrn. Bydd Cyfarwyddwr Digwyddiadau parkrun, sef Mary Bowen Rees, a’i thîm o wirfoddolwyr yn trefnu ac yn amseru’r digwyddiad wythnosol. Mae’n rhaid i blant 10 oed ac yn iau fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad drwy gydol y ras. Mae Chwaraeon Cymru a noddwyr parkrun, yn hael iawn,

wedi darparu cyllid er mwyn sefydlu’r parkrun cyntaf ar gyfer Sir Benfro. Mae’r parkrun yn ddelfrydol ar gyfer y rhai a hoffai fod yn fwy actif a gwella eu ffitrwydd, ac ar yr un pryd mae’n bleserus ac yn gymdeithasol. Mae tîm parkrun yn croesawu pawb i redeg neu i gerdded trwy goetiroedd hardd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Y cyfan sydd eu hangen arnoch yw esgidiau hyfforddi, eich cod bar wedi’i argraffu a chyrraedd ychydig cyn 9 am ar fore dydd Sadwrn o 21 Mehefin ymlaen. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Mary ar marybr29@yahoo.co.uk neu ar 01834 831759

w w w. pembrokeshire .gov.uk/spor t


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.