Dinbych-Y-Pysgod i Gerddwyr

Page 1

Tenby Park n Ride 2011_gm_rescued:Layout 1

08/07/2011

11:15

Page 8

Bws am ddim

s e o o i r C Gwybodaeth am gynllun pedestreiddio a Pharcio a Theithio Dinbych-y-pysgod

Y dull cyflym, gl창n, am ddim o weld tref hanesyddol Dinbych-y-pysgod

16 Gorffennaf - 4 Medi 2011


Tenby Park n Ride 2011_gm_rescued:Layout 1

08/07/2011

11:15

Page 7

Pedestreiddio Bu’r cynllun pedestreiddio, y tu mewn i’r dref gaerog, yn gweithredu ers nifer o flynyddoedd bellach yn ystod misoedd yr haf. Un o brif amcanion rhoi cychwyn ar y cynllun oedd gwella’r profiad drwyddo draw i’r ymwelwyr a meithrin ‘caffi-feddylfryd’ yn Ninbych-y-pysgod. Y prif fanteision yw: gwell diogelwch i gerddwyr sy’n crwydro’r strydoedd cyfle i fwynhau cymeriad hanesyddol y dref mewn heddwch

cyfle i agor caffis ar y palmant heb sŵn a mygdarthau cerbydau. O 16 Gorffennaf tan 4 Medi bydd parth i gerddwyr yn unig yn gweithredu yn y Dref Gaerog rhwng 11.00am a 5.00pm bob dydd. Bydd y ddau wasanaeth Parcio a Theithio arobryn yn gweithredu bob dydd o 10am tan 6.00pm. Am ragor o wybodaeth byddwch cystal â ffonio Cyngor Sir Penfro ar 01437 764551.

Llan-Fair

Atgynhyrchwyd y mapiau hyn o fapiau’r Arolwg Ordnans â chaniatâd Llyfrfa ei Mawrhydi. © Hawlfraint y Goron. Mae atgynhyrchu heb awdurdod yn troseddu yn erbyn Hawlfraint y Goron, a gall hyn arwain at erlyniad neu weithredoedd sifil. Cyngor Sir Penfro - Rhif Trwydded LA 09015L99

Parcio a Theithio Traeth y Gogledd

Faes Parcio'r Salterns

Toiledau

w w w. p e m b ro k e s h i re . g o v. u k


Tenby Park n Ride 2011_gm_rescued:Layout 1

Parcio a Theithio 1

08/07/2011

11:15

Page 6

Llwybr Teithio Oren

Parcio a Theithio o: Faes Parcio’r Salterns (ger yr A4139 Ffordd Penfro Dilynwch yr arwyddion ) Bydd y gwasanaeth bws am ddim hwn ar fynd:bob chwarter awr 10.00am tan 6.00pm - bob diwrnod o’r wythnos 16 Gorffennaf - 4 Medi 2011 Bydd y bws yn stopio ym: 1. Maes Parcio’r Salterns 2. Maes Parcio 'The Green' 3. Rhodfa’r De (ar gyfer mynd i ganol y dref)

Bydd bws llawr isel sy’n gallu cludo cadeiriau olwyn, yn cael ei ddefnyddio i ddarparu’r gwasanaeth hwn. Bydd y gwasanaeth hwn yn dangos y logo canlynol:

Park & Ride

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Parcio a Theithio

Pembrokeshire Coast National Park

Caiff y gwasanaeth ei ddarparu gan: Silcox Coaches (ffôn 01646 683143)

Caiff y gwasanaeth Parcio a Theithio hwn ei gyllido gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro

Parcio a Theithio 2 Llwybr Teithio Glas Parcio a Theithio o: Faes Parcio Traeth y Gogledd (ger ffordd yr A478 Dilynwch yr arwyddion ) Bydd y gwasanaeth bws am ddim hwn ar fynd:bob 10 munud 10.00am tan 6.00pm - bob diwrnod o’r wythnos 16 Gorffennaf - 4 Medi 2011 Bydd y bws yn stopio ym: 1. Maes Parcio Traeth y Gogledd 2. Stryd Fawr 3. Harbwr Dinbych-y-pysgod 4. Stryd Fawr

Bydd dau fws mini yn darparu’r gwasanaeth hwn; bydd un ohonynt yn gallu cludo cadeiriau olwyn. Bydd y gwasanaeth hwn yn dangos y logo canlynol: PARK & RIDE INCLUDING HARBOUR PARCIO A THEITHIO GAN GYNNWYS Y PORTHLADD

Caiff y gwasanaeth ei ddarparu gan: Silcox Coaches (ffôn 01646 683143)

Caiff y gwasanaeth Parcio a Theithio hwn ei gyllido gan Gyngor Sir Penfro

Symudiadau’r bysiau Parcio a Theithio yn y Dref Gaerog o 10.00am tan 11.00am ac o 5.00pm tan 6.00pm hefyd.

Symudiadau’r bysiau Parcio a Theithio yn y Dref Gaerog o 11.00am tan 5.00pm.

SYLWER: CAIFF YR UN SAFLEOEDD BYSIAU EU DEFNYDDIO


Tenby Park n Ride 2011_gm_rescued:Layout 1

08/07/2011

11:15

Page 5

Croeso i

Mae yma bedwar traeth, gwyliau rheolaidd, digonedd i’w wneud gyda’r nos, ogofâu a beddau o Oes y Cerrig, ceyrydd o Oes yr Haearn, cestyll Normanaidd a llawer rhagor – fe allai gymryd oes i weld popeth yn Ninbych-y-pysgod. Ac o ran ble i fynd i gael bwyd a diod, mae gan ymwelwyr ddewis aruthrol, ynghyd â gwestai a lletyau i fodloni pob chwaeth, waled ac oedran. Yr harbwr yw un o’r golygfeydd sy’n cael ei ffotograffio fwyaf ym Mhrydain ac o’i gei hyfryd gallwch fynd ar deithiau cychod i Ynys Byˆr gerllaw lle mae Mynachlog y Mynaich Gwynion. Mae gan Ddinbych-y-pysgod gymaint i’w gynnig ni waeth sut dywydd ydy hi, a dyma un neu ddau ohonynt! Canolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod - mae yno bwll nofio dan do, man chwarae meddal i blantos bach, ystafell iechyd, sawna, heulfa, ystafell ffitrwydd a chyrtiau badminton. Amgueddfa ac Oriel Gelfyddyd Dinbych-ypysgod - yw un o’r amgueddfeydd annibynnol gorau a mwyaf diddorol yn y wlad. Bryn y Castell - ceir golygfeydd bendigedig ar draws Bae Caerfyrddin a gallwch weld cyn belled â Phenrhyn Gwˆyr. Tyˆ’r Marsiandwr Tuduraidd - yma fe gewch gipolwg diddorol ar fywyd yng nghyfnod y Tuduriaid.

Gorsaf Bad Achub Dinbych-ypysgod - mae’n werth mynd i weld y tyˆ cwch newydd a’r bad achub diweddaraf, yr Haydn Miller. Golff - Mae dau faes bendigedig ar gynnig ichi – i’r gorllewin o’r dref mae’r maes golff (twyni) pencampwriaeth sy’n dipyn o her ac yn Nhreflwyn mae maes hyfryd mewn parcdir. Maes 18 twll yw’r ddau ohonynt. Ymysg yr atyniadau poblogaidd eraill yn yr ardal leol mae ‘Silent World’ yn Ninbych-y-pysgod, ‘The Dinosaur Experience’ yn Great Wedlock, Parc Chwaraeon Gwledig Heatherton a Pharc Bywyd Gwyllt y Maenordy – bob un ohonynt wedi’u lleoli oddeutu dwy filltir a hanner o’r dref ar ffordd y B4318. Pentref bychan godidog ar ben bryn i’r gorllewin o’r dref yw Penalun. Oddi yno cewch olygfeydd bendigedig o faes golff Dinbych-y-pysgod a Thraeth y De.

I gael rhagor o wybodaeth am Ddinbych-ypysgod, pethau i’w gwneud neu ble i aros, beth am ffonio neu ddod draw i: Canolfan Wybodaeth Cyngor Sir Benfro Uned 2, Upper Park Road, Dinbych-y-pysgod SA70 7LT Ffôn: (01834) 842402 E-bost: tenby.tic@pembrokeshire.gov.uk neu: Canolfan Croeso Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Tŷ Rhiwabon, Rhodfa'r De, Dinbych-y-pysgod, SA70 7DL Ffôn: (01834) 845040 E-bost: tenbycentre@pembrokeshirecoast.org.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.