Celebration Guide Pembrokeshire
Arweinlyfr Dathliadau Sir Benfro
Llwyddiannus yw’r dyn sy’n ennill mwy nag y gall ei wraig wario. Llwyddiannus yw’r fenyw sy’n dod o hyd i ddyn felly. Lana Turner (b1920)
26
www.pembrokeshire.gov.uk/gettingmarried
Ffotograffau trwy garedigrwydd Owen Howells Ffotograffiaeth
Cynnwys
www.pembrokeshire.gov.uk/gettingmarried
Croeso i Ardal Gofrestru Sir Benfro
28
Eich Diwrnod Arbennig
30
Dewis Seremoni Briodas
31
Priodi Mewn Addoldy Arall
32
Priodasau a Phartneriaethau Sifil mewn Lleoliadau Cymeradwy
34
Rhagofynion Cyfreithiol – Rhoi Rhybudd
36
Dogfennau y Mae’n Rhaid i chi eu Cyflwyno
37
Gwasanaethau Dathlu
38
Seremonïau Enwi
38
Adnewyddu Addunedau
38
Y Cynllunydd Priodasau
39
Rhywbeth Newydd, Rhywbeth Hen, Rhywbeth Benthyg, Glas a Gwên
41
Grym Blodau
42
Pam mae’r Briodferch yn sefyll ar y Chwith
43
Morwynion a Hebryngyddion
43
Dathlu Pen-blwydd Priodas
43
Mangreoedd Cydnabyddedig yn Sir Benfro (2011)
44
27
Croeso i Ardal Gofrestru Sir Benfro. 28
Trowch eich cefn ar strach a helynt bywyd y dref a’r ddinas a gwelwch eich breuddwydion am ddiwrnod perffaith yn dod yn wir pan ddewiswch Sir Benfro ar gyfer eich priodas, partneriaeth sifil neu eich seremoni enwi neu ailddatgan addunedau.
www.pembrokeshire.gov.uk/gettingmarried
Un o’r traddodiadau yng Nghymru yw y bydd dyn sy’n dymuno priodi geneth benodol yn naddu llwy serch Cymreig iddi. Trwy ddefnyddio amryw symbolau fel calonnau, allweddi a chylchau bydd e’n dangos iddi ei fod yn bwriadu dyweddïo â hi ac yna ei phriodi.
Am Sir Benfro Mae Sir Benfro, Bro Hud a Lledrith, a’i Gwasanaeth Cofrestru yn eich gwahodd i ddathlu achlysuron pwysicaf eich bywyd yn y sir hudol hon. Yn Sir Benfro gellir cynnal pob seremoni sifil yn Swyddfa Gofrestru Ardal Sir Benfro yn Hwlffordd, Ystafelloedd Seremoni De Sir Benfro, Heol Argyle, Doc Penfro neu yn unrhyw un o nifer o adeiladau sydd wedi eu cymeradwyo ar hyn o bryd. Mae’r mannau hyn yn amrywio o ran maint a lleoliad - gwestai bach agosatoch, ysgubor wedi ei ailwampio’n chwaethus, neu westai mwy, plastai a thai gwledig a hyd yn oed castell neu ddau! Mae pob un yn rhai o ardaloedd harddaf Sir Benfro - ym mhellafoedd y wlad yn y gogledd, ger glannau geirwon ysgubol neu drefi glan môr yn y de. Mae rhywbeth i bawb, eich problem fwyaf fydd penderfynu lle! www.pembrokeshire.gov.uk/gettingmarried
Bydd eich seremoni chi yn cael ei llunio’n arbennig ar gyfer eich gofynion, ac mae’n gallu bod mor ffurfiol neu anffurfiol ag y dymunwch – cyn lleied â’r ddau ohonoch a dau dyst neu gynulliadau mwy yn unol â’r lleoliad y byddwch yn ei ddewis. Fe gewch seremoni draddodiadol neu anffurfiol ac yna gwledd, barbiciw neu ddim ond mynd am dro bach ar y traeth a hedfan eich barcut!
Trowch eich cefn ar hynt a helynt y byd a mwynhau profiad gwirioneddol hudolus.
29
Llongyfarchiadau mawr ar eich dyweddïad a’r seremoni sydd ar ddod. Mae cynllunio eich seremoni yn ddigwyddiad pwysig iawn, nid yn unig i chi, ond i ni yma hefyd yng Ngwasanaeth Cofrestru Sir Benfro. Rydym ni am wneud eich diwrnod arbennig yn achlysur cofiadwy a bendigedig. Bydd yr arweiniad hwn yn eich tywys drwy ofynion ffurfiol priodasau a phartneriaethau sifil mewn swyddfa gofrestru, mewn lleoliadau sydd wedi eu cymeradwyo ar gyfer priodi neu mewn addoldy cofrestredig. Mae’n cynnig nifer o gynghorion da i chi hefyd er mwyn i’ch diwrnod fod mor rhwydd ag sy’n bosibl. Beth bynnag y byddwch yn ei ddewis, boed yn seremoni fach glos gyda chi a dau dyst, cwrdd bach i’r teulu neu ddathliad mawreddog, ein pleser ni fydd eich helpu chi i fyw eich breuddwyd y diwrnod hwnnw?
Ffotograffau trwy garedigrwydd Cwtch Ffotograffiaeth
Eich Diwrnod Arbennig Cofrestrydd Arolygu Y Swyddfa Gofrestru Bryn y Tŵr Hwlffordd Sir Benfro SA61 1SS Ffôn: 01437 775176 Facs: 01437 779357 Ebost: registrars@pembrokeshire.gov.uk Boed eich Bywyd gan Gwilym Geirwerth
Boed eich bywyd gyda’ch gilydd Yn eich hamdden, yn eich gwaith Yn rhes ddi-dor o ddyddiau dedwydd O heddiw ’mlaen i ben y daith
Mae croeso mawr i chi alw arnom os byddwch chi am holi unrhyw beth sydd heb gael sylw yn y llyfryn hwn a byddwn yn fwy na bodlon i drafod eich cynlluniau gyda chi. Fe wnawn ein gorau glas bob amser i wneud eich seremoni chi mor bersonol ag sy’n bosibl. Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi. Barbara Eynon
30
Os wyt eisiau i bobl dy garu, cara a bod yn gariadus. Benjamin Franklin (1706-1790)
www.pembrokeshire.gov.uk/gettingmarried
Ffotograffau trwy garedigrwydd Cwtch Ffotograffiaeth
Dewis Seremoni Briodas Bydd rhaid i chi a’ch partner benderfynu a ydych chi’n dymuno seremoni sifil neu grefyddol. Os ydych chi’n bwriadu priodi yn yr Eglwys yng Nghymru neu Eglwys Lloegr bydd rhaid i chi siarad gyda ficer y plwyf a fydd yn trafod eich cynlluniau gyda chi. Cyfrifoldeb y ficer fydd dodi’r alwad mas a chofrestru eich priodas ac ni fydd rhaid fel arfer i’r swyddfa gofrestru leol ymwneud dim â hyn. Os ydych chi am gynnal eich priodas mewn math arall o addoldy, bydd rhaid i chi roi rhybudd i’r Cofrestrydd Arolygu yr un modd ag y byddech chi’n gwneud ar gyfer priodas/ partneriaeth sifil. (Gwelwch Priodi mewn Addoldy Arall am ragor o wybodaeth – Tud 32) Os ydych chi’n meddwl am briodi dramor dylech sicrhau eich bod yn deall ac yn dilyn pob rheoliad yn unol â chyfraith y wlad honno. Mae’n siŵr braidd y bydd rhaid i chi gyflwyno dogfennau arbennig ac mewn rhai amgylchiadau tystysgrif o ddim rhwystr, sydd ar gael gan y Swyddfa Gofrestru. Ein cyngor ni yw eich bod yn cysylltu â llysgennad y wlad yr ydych chi’n dymuno priodi ynddi.
“Weddian” – un o eiriau Hen Saesneg – yw tarddiad y gair “wedding”, sef addo, priodi neu air sy’n deillio o “wedd” sy’n golygu gwneud adduned.
www.pembrokeshire.gov.uk/gettingmarried
31
Priodi Mewn Addoldy Arall Os byddwch chi’n priodi mewn unrhyw adeilad crefyddol, heblaw eglwys sy’n perthyn i’r Eglwys yng Nghymru/Lloegr, bydd rhaid i chi roi rhybudd fel pe byddech chi’n priodi mewn swyddfa gofrestru. Fel arfer, dylai un ohonoch neu’r ddau fod yn byw yn yr ardal lle’r ydych chi’n bwriadu priodi neu dylai’r adeilad fod yn ‘addoldy arferol’ i’r naill neu’r llall. Fe gewch chi hefyd briodi mewn ardal arall os nad oes gan eich crefydd chi adeilad yn yr ardal(oedd) lle’r ydych chi’n byw.
Ffotograffau trwy garedigrwydd Cwtch Ffotograffiaeth
Mae’n rhaid i gofrestrydd o’r ardal lle mae’r adeilad fod yn bresennol yn eich seremoni oni bai fod gan yr adeilad ei ‘berson awdurdodedig’ sy’n gallu cofrestru’r briodas. Byddem yn cynghori eich bod yn holi ynglŷn â hyn i fod yn siŵr bod cofrestrydd ar gael cyn cyhoeddi eich dyddiad. Mae’n rhaid talu ffi am bresenoldeb cofrestrydd i gofrestru eich priodas.
Dylai priodferch gael gwared â phob pin pan mae hi’n diosg ei gwis a’i fêl – os na wnaiff, bydd hi’n cael anffawd.
32
www.pembrokeshire.gov.uk/gettingmarried
Rwyt ffrind, rwyt gar a phriod mwyn, a byddaf yma er dy fwyn.
www.pembrokeshire.gov.uk/gettingmarried
Ffotograffau trwy garedigrwydd Cwtch Ffotograffiaeth
Ffotograffau trwy garedigrwydd Gareth Davies Ffotograffiaeth
Ffotograffau trwy garedigrwydd Huw Thomas Ffotograffiaeth
Ffotograffau trwy garedigrwydd Cwtch Ffotograffiaeth
Glyn Armon 1951-
Yn Latfia maent yn ‘herwgipio’ priodferched, ac mae’n rhaid i’r priodfab dalu pridwerth (cân neu ddiodydd i bawb) i’w chael yn ôl.
33
Priodasau a Phartneriaethau Sifil mewn Lleoliadau Cymeradwy Gellir cynnal priodasau sifil a seremonïau partneriaethau mewn nifer o fangreoedd cydnabyddedig ledled y Sir. Yma yn Sir Benfro mae gennym amrywiaeth o leoliadau fel ein swyddfa gofrestru ein hunain, plastai, gwestai hardd gyda golygfeydd o draethau a hyd yn oed cestyll. Eich dewis chi yw e’. Mae rhestr o leoliadau cymeradwy yn Sir Benfro ar dudalen 44 Unwaith y byddwch chi wedi dewis lleoliad, holwch a yw ar gael a’i archebu am y tro. Fodd bynnag, cyn i chi gadarnhau eich archeb gyda’r
34
lleoliad, mae’n bwysig iawn eich bod yn cysylltu â’r swyddfa gofrestru leol i sicrhau bod cofrestryddion ar gael i gynnal a chofrestru eich achlysur. Mae ein gweithwyr cofrestru ymroddedig yma i’ch helpu chi i wneud diwrnod eich seremoni yn achlysur cofiadwy. Mae croeso i chi alw 01437 775176 i siarad gyda’r Cofrestrydd Arolygol i drafod ac archebu am y tro. Ni fydd yr archeb yn bendant hyd nes byddwch chi wedi cyflwyno eich rhybuddion o briodas/partneriaeth sifil. Gallwch ddewis priodi neu ffurfio partneriaeth sifil mewn unrhyw ardal gofrestru yng Nghymru
www.pembrokeshire.gov.uk/gettingmarried
Gellir rhoi eich rhybudd o briodas/partneriaeth sifil hyd at ddeuddeg mis cyn dyddiad y seremoni a dylid ei roi yn yr ardal gofrestru y mae’r ddau ohonoch yn byw ynddi. Cofiwch gysylltu â’r swyddfa berthnasol i wneud apwyntiad ac i gael cyngor ynglŷn â pha ddogfennau y bydd rhaid i chi eu cyflwyno. Pan fyddwch yn rhoi rhybudd ffurfiol mae hyn hefyd yn gadarnhad i’r ardal yr ydych chi wedi dewis cynnal eich seremoni ynddi. Os ydych chi am gynnal eich priodas/partneriaeth sifil yn Sir Benfro, dyna’r pryd y byddwn yn rhoi ‘pecyn seremoni’ i chi. Yn hwn mae cadarnhad swyddogol, manylion unrhyw ffioedd sydd i’w talu (yr awdurdodau lleol sy’n pennu’r ffioedd ac felly byddant yn wahanol ar hyd a lled y wlad) a disgrifiad o’r drefn sydd i’w dilyn pan ddaw dydd y seremoni.
Os ydych chi’n priodi ar Ddydd Sant Padrig yn Iwerddon, mae hynny’n arwydd o lwc; yn y wlad honno credir taw hwn yw’r dyddiad pen-blwydd priodas mwyaf lwcus.
www.pembrokeshire.gov.uk/gettingmarried
Ynddo hefyd mae nifer o awgrymiadau ynglŷn â chynnwys eich seremoni. Er bod rhai mannau lle mae’n rhaid defnyddio geiriau cyfreithiol, mae digon o gyfle i chi lunio’r seremoni’n arbennig at eich chwaeth chi. Fe allech chi ychwanegu barddoniaeth, darlleniadau, darnau o gerddoriaeth, unawdwyr ac/neu gorau, mae’r dewisiadau yn ddiderfyn, (ond cofiwch os gwelwch yn dda nad yw’r gyfraith yn caniatáu unrhyw elfen grefyddol mewn seremoni priodas neu bartneriaeth sifil). Os mynnwch, ar y llaw arall, gallwch gynnal y mymryn lleiaf o seremoni. Dim ond awgrymiadau sydd gennym yma. Fe allech chi hyd yn oed ddymuno ysgrifennu eich geiriau eich hunain. Eich seremoni chi yw hon ac fe ddylai fod fel yr ydych chi’n dymuno iddi fod. Mae ein gweithwyr bob amser yn fodlon trafod a chynnig cefnogaeth os bydd arnoch chi ein hangen ni.
Ffotograffau trwy garedigrwydd Creative Looks Ffotograffiaeth
neu yn Lloegr, pa un bynnag yw’r ardal yr ydych chi’n byw ynddi. Gall pob ardal roi gwybod i chi am eu lleoliadau. Mae rhestr lawn o’r adeiladau trwyddedig yn Lloegr ac yng Nghymru i’w chael gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol ar www.direct.gov.uk.
35
Rhagofynion Cyfreithiol – Rhoi Rhybudd Cyn y byddwch yn gallu priodi/ffurfio partneriaeth sifil mae gofynion cyfreithiol i roi sylw iddynt: • Bydd rhaid i’r ddau ohonoch fynd i’r swyddfa gofrestru yn yr ardal yr ydych chi’n byw ynddi i roi ‘Rhybudd o Briodas/Partneriaeth Sifil’ ffurfiol. • Mae’n rhaid i bob un wneud hyn ei hun. Nid oes modd i berthynas na chyfaill ei wneud. • Cyn i chi roi eich rhybudd fe ddylech chi fod wedi gwneud archeb am y tro gyda’r ardal gofrestru yr ydych chi’n dymuno priodi/ffurfio eich partneriaeth sifil ynddi. • Rydych chi’n gallu rhoi eich rhybudd wedi i chi fod yn byw am o leiaf saith niwrnod yn olynol mewn un cyfeiriad (cyfeiriad eich cartref fel arfer). Nid yw o bwys os byddwch yn symud i gyfeiriad arall wedi i chi roi eich rhybudd, ond dylech roi gwybod i ni er mwyn i ni wybod lle i gysylltu â chi. • Os nad ydych yn un o ddinasyddion y DU/AEE (Ardal Economaidd Ewropeaidd) efallai bydd rhaid i chi fynd i Swyddfa Gofrestru benodedig i roi eich rhybuddion. Efallai na fydd eich ardal gofrestru eich hun yn benodedig, ac efallai na fydd hi’n gallu derbyn eich rhybuddion, felly byddai o fudd i chi ofyn cyngor ynglŷn â lle i fynd. Mae gan ardal gofrestru Sir Benfro swyddfa gofrestru benodedig. • Os bydd y ddau ohonoch yn rhoi eich rhybuddion ar ddyddiau gwahanol, bydd y cyfnod o rybudd lleiaf yn cael ei gyfrif o ddyddiad yr ail rybudd. Bydd rhaid i chi aros o leiaf 16 o ddyddiau cyn y bydd modd cynnal eich priodas/partneriaeth.
Cymaint o gariad ag sydd yn y byd, cymaint a hynny o nefoedd sydd ar y ddaear. John R Jones (Alltud Glyn Maelor) 1800-1881
36
www.pembrokeshire.gov.uk/gettingmarried
Dogfennau y Mae’n Rhaid i chi eu Cyflwyno • Mae rhoi rhybudd yn ddatganiad cyfreithiol i’r Cofrestrydd Arolygu. Bydd rhaid i’r ddau ohonoch roi eich manylion personol a gwneud datganiad eich bod yn rhydd i briodi/ ffurfio partneriaeth sifil. Bydd rhaid hefyd i chi gyflwyno dogfennau i gadarnhau eich enw, oed, cenedl, statws priodasol/partneriaeth sifil, a phrawf o’ch cyfeiriad am o leiaf saith niwrnod cyn rhoi rhybudd. • Pasbort llawn cyfredol yw’r ddogfen orau i brofi eich hunaniaeth a’ch cenedligrwydd, neu thystysgrif geni neu gerdyn adnabod cenedlaethol. Os cawsoch eich geni wedi’r 31.12.1982 ac nid oes gennych basbort cyfredol, bydd rhaid i chi gyflwyno eich tystysgrif geni lawn eich hun a phasbort/tystysgrif geni un o’ch rhieni (os oeddent yn briod amser eich geni neu wedi priodi wedi hynny ac wedi ailgofrestru eich genedigaeth) - neu ddogfennau eich mam os nad oedd hi’n briod i’ch tad amser eich geni ac nad yw hi wedi ei briodi ef ers hynny nac wedi ailgofrestru eich genedigaeth. • Os yw priodas/partneriaeth sifil y naill neu’r llall ohonoch chi wedi ei therfynu, bydd rhaid i chi ddangos prawf o’r ysgariad hwn. Os terfynwyd hi yng Nghymru neu yn Lloegr bydd rhaid i chi ddangos copi wedi ei stampio gan y llys o’r archddyfarniad absoliwt (y ddogfen ysgariad derfynol). Os terfynwyd hi mewn gwlad dramor, bydd rhaid i ni weld y ddogfen wreiddiol gyda chyfieithiad i’r Saesneg, os yw hi mewn iaith nad yw’n Ewropeaidd. Mae’n bosib y bydd eisiau dangos eich tystysgrif priodas / partneriaeth sifil
www.pembrokeshire.gov.uk/gettingmarried
• Os yw un ohonoch yn weddw neu wedi colli eich partner sifil, bydd rhaid i chi ddangos copi ardystiedig o dystysgrif marwolaeth eich diweddar briod/partner sifil. Mae’n bosib y bydd eisiau dangos eich tystysgrif priodas / partneriaeth sifil • Os yw un ohonoch o dan 18 oed, bydd arnom angen caniatâd ysgrifenedig oddi wrth rhiant/rhieni neu warchodwr. Os yw eich rhieni wedi ysgaru, bydd rhaid hefyd efallai i chi gyflwyno’r gorchymyn llys sy’n rhoi gwarchodaeth i un ohonynt. Mae ffurflen ar gael o’r Swyddfa Gofrestru a dylid ei llenwi cyn rhoi’r rhybudd. Bydd y Cofrestrydd Arolygu yn rhoi cyngor i chi ynglŷn â hyn. • Os gwnaethoch chi briodi neu ffurfio partneriaeth sifil gyda’ch gilydd mewn gwlad dramor ac os ydych chi’n meddwl nad yw’r briodas/partneriaeth yn gyfreithiol, bydd rhaid i chi briodi neu ffurfio partneriaeth sifil yma. Os byddwch yn penderfynu priodi/ffurfio partneriaeth sifil yma bydd rhaid i ni weld unrhyw ddogfennau a ddosbarthwyd yn y wlad honno pan fyddwch yn rhoi rhybudd i ni o’ch priodas/partneriaeth sifil. Pan fyddwch yn ffonio i wneud apwyntiad dylech holi pa ddogfennau y mae’n rhaid i chi eu cyflwyno. Cofiwch! Dogfennau gwreiddiol yn unig os gwelwch yn dda, nid, yw llungopïau yn dderbyniol.
37
Ffotograffau trwy garedigrwydd Cwtch Ffotograffiaeth
Gwasanaethau Dathlu Mae Gwasanaeth Cofrestru Sir Benfro yn gallu cynnig gwasanaethau ychwanegol yn ogystal â’r dyletswyddau cyfreithiol fel cofrestru genedigaethau, priodasau, partneriaethau sifil a marwolaethau.
Seremonïau Enwi Mae’r seremonïau hyn yn cynnig cyfle i groesawu baban/plentyn newydd i’r teulu. Mae’r achlysur yn gallu cynnwys chwiorydd a brodyr hŷn hefyd ac mae’n gyfle i rhieni, mam-gu a thad-cu, ffrindiau ac ati wneud datganiad ffurfiol o’u bwriadau a’u hymrwymiad i fagwraeth a dyfodol y plant/plentyn. Nid oes unrhyw statws cyfreithiol i’r seremoni ac felly gellir ei phersonoleiddio a’i llunio i fod yn union fel y dymunwch chi iddi fod. Gellir cynnwys darlleniadau, barddoniaeth, cerddoriaeth, cyfnewid anrhegion os ydych chi’n dymuno hynny.
Adnewyddu Addunedau Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfle delfrydol i gwpwl gydnabod a dathlu eu perthynas. Mae gan bob cwpwl eu rhesymau eu hunain dros y seremoni, fel dathlu pen-blwydd priodas sy’n arbennig neu’n arwyddocaol neu er mwyn cynnwys teulu a ffrindiau sydd gartref pan fydd cwpwl yn priodi mewn gwlad dramor. Eich dewis chi yw hyn yn gyfan gwbl. Fel arfer, mae’r gwasanaeth yn cynnwys addunedau priodas ac ailgysegru neu roi modrwyau newydd. Nid oes unrhyw statws cyfreithiol i’r seremonïau hyn ac felly mae modd eu personoleiddio i’r eithaf er mwyn sicrhau eu bod yn unigryw ac yn arwyddocaol i bob cwpwl.
38
www.pembrokeshire.gov.uk/gettingmarried
Ffotograffau trwy garedigrwydd Cwtch Ffotograffiaeth
Y Cynllunydd Priodasau Gyda chymaint i’w drefnu, mae cynllunio eich seremoni yn hanfodol bwysig. Dilynwch ein cynllunydd o fis i fis a gallwch fod yn siŵr y bydd eich diwrnod yr un y gwnaethoch chi freuddwydio amdano.
6 i 9 mis i fynd: • Dewis gwisg briodas ac atodion • Archebu gwisgoedd y morwynion priodas • Ysgrifennu rhestr o wahoddedigion
12 i 18 mis i fynd:
• Archebu dillad y dynion
• Penderfynu pa fath o briodas rydych chi ei heisiau (sifil neu grefyddol)
• Cadarnhau’r manylion gyda gweinidog neu gofrestrydd a phenderfynu pa wasanaeth fyddech chi’n ei hoffi
• Penderfynu faint o arian rydych chi am ei wario
• Gwneud rhestr o anrhegion
• Penderfynu faint o bobl i’w gwahodd
• Dewis y modrwyau priodas
• Penderfynu sut y byddwch yn talu am y briodas a pharatoi cyllideb
• Archebu adloniant ar gyfer y wledd
• Dewis dyddiad i’r briodas, archebu’r lleoliadau ar gyfer y seremoni a’r wledd a’r cofrestrydd os bydd ei angen
• Archebu defnyddiau ysgrifennu • Archebu cacen briodas
• Archebu ceir, blodeuwyr a ffotograffydd • Dewis gosgordd briodasol - gwas priodas, hebryngyddion a morwynion priodas
3 i 4 mis i fynd:
• Ystyried yswiriant i’r briodas a threfnu polisi
• Postio’r gwahoddiadau
• Archebu lle i aros noson y briodas
• Archebu apwyntiad prawf ar gyfer gwallt a cholur
• Trefnu mis mêl
• Cadarnhau’r trefniadau ar gyfer dodi’r alwad mas os yw’n berthnasol • Trefniadau terfynol y mis mêl, pigiadau a newid arian tramor
www.pembrokeshire.gov.uk/gettingmarried
39
Ffotograffau trwy garedigrwydd Cwtch Ffotograffiaeth
1 mis i fynd: • Cadarnhau’r nifer gyda’r cwmni arlwyo • Ysgrifennu cynllun bwrdd/byrddau • Holi sut mae’r wisg briodas a gwisgoedd y morwynion yn dod ymlaen • Rhoi nifer derfynol y blodau labed i’r siop flodau • Trefnu parti’r dynion a pharti’r cywennod • Galw’r banc i drefnu newid yr enw ar y cyfrif banc 1 wythnos o flaen llaw: • Golwg olaf ar yr archebion • Prynu anrhegion i’r rhai sy’n cymryd rhan • Cwrdd â meistr seremonïau’r gwesty i fynd drwy’r manylion terfynol • Prynu dillad i fynd bant Y diwrnod cynt:
Ffotograffau trwy garedigrwydd Cwtch Ffotograffiaeth
• Ffitiad olaf i’r wisg
• Paratoi eich dillad ac atodion • Trefnu i fynd â’ch bagiau i’r gwesty • Sicrhau bod y modrwyau gyda’r gwas priodas • Bwrw golwg eilwaith ar bopeth
Yn Estonia, mae fersiwn i’r dynion o’r hen draddodiad clasurol mai’r ferch sy’n dal blodau’r briodferch fydd y briodferch nesaf. Maent yn gosod bwmbwr ar lygaid y priodfab, rhoi sawl tro o amgylch iddo - a’r llanc y mae’n dodi ei het silc ar ei ben fydd y priodfab nesaf.
• Ymlacio!!!
40
www.pembrokeshire.gov.uk/gettingmarried
Yn oes Fictoria y dechreuodd y rhigwm hwn, er bod rhai o’r arferion ynddo yn llawer hŷn. “Rhywbeth hen” Mae hyn yn cyfeirio at ffrindiau’r ddau sy’n priodi a’r gobaith y byddant yn dal i fod yn agos yn ystod y briodas. Y traddodiad oedd bod gwraig briod hapus yn rhoi gardys i’r briodferch gyda’r gobaith y byddai’n trosglwyddo ei hapusrwydd priodasol hithau i’r briodferch newydd. “Rhywbeth newydd” Ystyr hyn yw dyfodol hapus a llewyrchus i’r ddau sy’n priodi. “Rhywbeth benthyg” Yn aml mae hyn yn rhywbeth gwerthfawr iawn i deulu’r briodferch sy’n cael ei fenthyg. Mae’n rhaid i’r briodferch roi hwn yn ôl er mwyn sicrhau lwc dda. Ffotograffau trwy garedigrwydd Cwtch Ffotograffiaeth
Ffotograffau trwy garedigrwydd Cwtch Ffotograffiaeth
Rhywbeth Newydd, Rhywbeth Hen, Rhywbeth Benthyg, Glas a Gwên
Yn Israel ers llawer dydd y dechreuodd yr hen arfer bod y briodferch yn gwisgo “rhywbeth glas”. Byddai’r briodferch yn gwisgo rhuban glas yn ei gwallt i ddangos ei bod yn ffyddlon. Pwrpas yr arfer o ddodi pisyn chwe cheiniog arian yn esgid y briodferch oedd sicrhau cyfoeth i’r ddau yn eu bywyd priodasol. Heddiw mae rhai priodferched yn rhoi ceiniog yn lle hyn yn ystod y seremoni oherwydd bod yr hen chwe cheiniog yn brin erbyn hyn.
Dewch yn hyn gyda fi, mae’r gorau eto i ddod Robert Browning (1812-1889)
www.pembrokeshire.gov.uk/gettingmarried
41
Grym Blodau
Yn Iwerddon mae merched yn plethu lafant yn eu gwallt er mwyn cael lwc.
Dyma restr o’r blodau mwyaf poblogaidd a’u hystyron. • Blodau Afalau - Daw haul ar fryn eto
• Blodau Lemon - Ffyddlondeb mewn serch
• Tlws yr Eira - Gobaith
• Camelia - Diolchgarwch
• Lelog (gwyn) - Diniweidrwydd yr Ifanc
• Pysen Bêr - Pleserau llednais
• Penigan y Gerddi - Cyfaredd a chariad
• Lili - Urddas
• Tiwlip - Serch
• Ffarwel Haf (Coch)– Rwy’n dy garu di
• Lili’r Dyffrynnoedd - Hapusrwydd yn dychwelyd
• Llysiau Llywelyn - Teyrngarwch
• Ffarwel Haf (Gwyn) - Gwirionedd • Syclamen - Gwyleidd-dra a Swildod
• Magnolia - Dyfalbarhad
• Cenhinen Bedr - Parch
• Gwallt y Forwyn - Bod yn ochelgar
• Llygad y Dydd - Diniweidrwydd
• Mimosa - Sensitifrwydd
• Rhedyn - Cyfaredd a didwylledd
• Blodau Orennau - Purdeb a Gwyryfdod
• Almon Flodeuol - Gobaith
• Blodau’r Eirin Gwlanog - Caeth
• Nad fi’n Angof - Gwir gariad a Choffâd
• Rhosyn (coch) - Serch
• Blodyn Heuldro - Ymroddiad a ffyddlondeb
• Rhosyn (melyn) - Cyfeillgarwch
• Gwyddfid - Haelioni
• Rhosyn (lliw cwrel) - Chwant
• Hiasinth - Prydferthwch
• Rhosyn (melynbinc) - Gwyleidd-dra
• Blodyn Seithliw - Brolgarwch
• Rhosyn (pinc tywyll) - Diolchgarwch
• Gellesgen - Gwresogrwydd neu hoffter
• Rhosyn (pinc golau) - Gosgeiddrwydd
• Eiddew - Teyrngarwch tragwyddol
• Rhosyn (oren) - Cyfaredd
• Japonica - Prydferthwch
• Rhosyn (gwyn) - Diniweidrwydd
• (Jasmine) - Hynawsedd
• Rhosmari - Coffâd
• Fioled - Ffyddlondeb
Ond cariad pur sydd fel y dur, yn para tra bo dau. Traddodiadol 42
www.pembrokeshire.gov.uk/gettingmarried
Pam mae’r Briodferch yn sefyll ar y Chwith Yn ystod seremoni’r briodas mae’r briodferch yn sefyll ar y chwith a’r priodfab ar y dde. Dechreuodd yr arfer hwn yn yr hen ddyddiau pan fyddai’r priodfab yn cipio ei briodferch trwy ei herwgipio. Pe byddai’n rhaid i’r priodfab ymladd yn erbyn dynion eraill a oedd am ei chael hi’n wraig, byddai’n dal ei ddarpar wraig gyda’i law chwith er mwyn i’w law dde fod yn rhydd i drin y cledd.
Morwynion a Hebryngyddion Daw’r arfer o gael morwynion a hebryngyddion o’r gyfraith Rufeinig a fynnai bod deg o dystion yn bresennol mewn priodas er mwyn twyllo’r ysbrydion drwg a oedd, yn ôl y gred, yn dod i briodasau i wneud drygau ac anrhefn. Roedd y morwynion a’r hebryngyddion i gyd yn gwisgo’n gymwys fel y briodferch a’r priodfab er mwyn cafflo’r ysbrydion i beidio â gwybod pwy oedd yn priodi. Mae’r esboniad hwn yn cyd-fynd â’r syniad mai dyfais i rwystro ysbrydion drwg yw gorchudd y briodferch!
Dathlu Pen-blwydd Priodas 1af
Papur
9fed
2 3ydd
Crochenwaith, Helyg
25ain Arian
Cotwm
fed
10
Tun
Lledr
11eg
Dur
Ffrwythau, Blodau
12 Sidan, Lliain
40fed Rhuddem
Pren
13eg
Lasin
45fed Saffir
6
Siwgr
14
Ifori
50fed Aur
7fed
Gwlân, Copr
15fed Crisial
55fed Emrallt
Efydd, Crochenwaith
20 Llestri
60ain Diamwnt
il
4
ydd
5ed ed
8
fed
fed
eg
www.pembrokeshire.gov.uk/gettingmarried
fed
30ain Perl 35ain Cwrel
43
Mangreoedd Cydnabyddedig ar gyfer Seremonïau Mangreoedd Cydnabyddedig yn Sir Benfro (Awst 2011) Priodasau Sifil, Partneriaethau Sifil, Dinasyddiaeth
Mangreoedd Cydnabyddedig ar gyfer Seremonïau Priodasau Sifil, Partneriaethau Sifil, Brydeinig, Enwi ac Ailgadarnhau Addunedau yn Sir Benfro Dinasyddiaeth Brydeinig, Enwi ac Ailgadarnhau Addunedau yn Sir Benfro 1
Allt-yr-afon, Wolfscastle Country Hotel, Cas-blaidd SA62 5LZ
01437 741225
2
Llys Meddyg, East Street, Trefdraeth, SA42 0SY
01239 820008
3
Beggars Reach Hotel, Burton, Aberdaugleddau SA73 1PD
01646 600700
4
Canolfan Pentre Ifan , Felindre Farchog, Crymych SA41 3XE
01239 820317
5
Gwesty Castell Malgwyn, Llechryd, Aberteifi SA43 2QA
01239 682382
6
Celtic Haven Village, Lydstep, Dinbych-y-pysgod SA70 7SG
01834 870000
7
Cleddau Bridge Hotel, Essex Road, Doc Penfro SA72 6EG
01646 685961
8
Court Hotel, Llandyfái, Penfro SA71 5NT
01646 672273
9
Cwm Deri Vineyard, Martletwy, SA67 8AP
01834 891274
10 The Grove, Molleston, Arberth, SA67 8BX
01834 860915
11 Pafiliwn De Valence, Upper Frog Street, Dinbych-y-pysgod SA70 7JD
01834 843568
12 Druidstone Hotel, Druidstone Haven, Hwlffordd SA62 3NE
01437 781221
13 Fishguard Bay Hotel, Wdig SA64 0BT
01348 873571
14 Fourcroft Hotel, Traeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod SA70 8AP
01834 842886
15 Gelli Fawr Country Hotel, Pontfaen, Abergwaun SA65 9TX
01239 820343
16 Giltar Hotel, Yr Esplanâd, Dinbych-y-pysgod SA70 7DU
01834 842507
17 Heywood Mount Hotel, Dinbych-y-pysgod SA70 8DA
01834 842087
18 Lord Nelson Hotel, Hamilton Terrace, Aberdaugleddau SA73 3AW
01646 695341
19 Castell Maenorbŷr, Maenorbŷr, Dinbych-y-pysgod
07967 291348
20 Nantyffin Motel, Llandysilio, Clunderwen SA66 7SU
01437 563423
21 Park Hotel, Clogwyn y Gogledd, Dinbych-y-pysgod SA70 8AT
01834 842352
22 Abaty Penalun, Penalun, Dinbych-y-pysgod SA70 7PY
01834 843033
23 Castell Pictwn, Y Rhos, Hwlffordd SA62 4AS
01437 751326
24 Gwesty Gwledig Plas Hyfryd, Moorfield Road, Arberth SA67 7AB
01834 869006
25 Plasty Rhos-y-Gilwen, Rhoshill, Cilgerran, Aberteifi SA43 2TW
01239 841387
26 Parc Slebets, Hwlffordd, SA62 4AX
01437 752000
27 Trefloyne Golf Club, Penalun, Dinbych-y-pysgod SA70 7RG
01834 842165
28 St.Brides Hotel, St Brides Hill, Saundersfoot SA69 9NE
01834 812304
29 Warpool Court Hotel, Tyddewi SA62 6BN
01437 720300
30 Yr Hostel Ieuenctid, Pwll Deri, Castell Mawr, Trefaser, Wdig SA64 0LR
0870 7705996
31 Longhouse, Freshwater East, Penfro SA71 5LW
01646 672727
34
5
33 30
25
2
13
4 15
1 29
CARMARTHENSHIRE
20 12 24
26
23
35
10
9
32
3
18
28
7 8 31
27 19
6
17 22
21 14 11 16
32 Neuadd y Dre Aberdaugleddau, Hamilton Terrace, Aberdaugleddau SA73 3JW 01646 692505 33 Clwb Golff Newport Links, Golf Course Road, Trefdraeth SA42 0NR
01239 820244
34 Tan-y-Rhiw, Fforest Farm, Cilgerran SA43 2TB
01239 623633
35 Boulston Manor, Boulston, Hwlffordd SA62 4AQ
01437 764600 Awst 2011
44
www.pembrokeshire.gov.uk/gettingmarried
www.pembrokeshire.gov.uk/gettingmarried
45