Agor Drysau – Gwella Bywydau
www.clwydalyn.co.uk www.tyglas.co.uk
Cylchlythyr Preswylwyr - Gaeaf 2016
Yn y rhifyn hwn: Pg 4 Tri Chynllun Gofal Ychwanegol Newydd Pg 6-7 Arbed arian at y Nadolig Pg 12 Cystadleuaeth! Pg 3 Rhent yn gyntaf
Pg 5 Y Cap Budd-daliadau
Ffôn: 0800 183 5757 or 01745 536800 Ebost: enquiries@clwydalyn.co.uk Mae Clwyd Alyn a Tŷ Glas yn Gymdeithasau Cofrestredig elusennol
CROESO
Chwiliwch am y newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf ar Facebook a Twitter Peidiwch ag anghofio edrych ar ein tudalennau Facebook a Twitter, lle byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd. Rhowch neges ar ein wal os byddwch am ofyn rhywbeth, darganfod rhagor am yr hyn sy’n mynd ymlaen yn eich cymdogaeth a beth yr ydym yn ei wneud yn eich cymuned. Rydym yn rhoi’r diweddaraf am wasanaethau hefyd yn ogystal â newyddion am y Grŵp, datblygiadau, swyddi gwag a digwyddiadau lleol. Hoffwch ni: facebook.com/PennafHGroup Dilynwch ni: @PennafHGroup
CYNNWYS
tudalen
ÃÃ Rhent yn gyntaf
3
ÃÃGwaith yn dechrau ar dri Chynllun Gofal Ychwanegol newydd
4
ÃÃ Y Cap Budd-daliadau – yr hyn y mae arnoch angen ei wybod
5
ÃÃArbed arian at y 6-7 Nadolig – Dyma i chi awgrymiadau gwych!
Mae’n flin gennym gofnodi marwolaeth Sheila Wilson o Oldford, Y Trallwng ddechrau Gorffennaf. Roedd Sheila yn gwirfoddoli llawer i Clwyd Alyn ac yn un o’r preswylwyr cyntaf i fod yn aelod o’n Pwyllgor Gwella Gwasanaethau. Disgrifiwyd hi hefyd fel ‘Samariad Trugarog’ oherwydd ei holl waith yn y gymuned.
ÃÃ Cymorth Prynu
8
ÃÃ Digwyddiad Cymunedol 9-10 ÃÃ Awgrymiadau i Gadw eich Cartref yn Ddiogel dros y Nadolig
11
ÃÃ Ewch Ar-lein
12
ÃÃ Gwobrau TPAS
13
ÃÃ Cystadleuaeth!
14
MANYLION CYSWLLT Rydym am gael clywed am eich newyddion lleol bob amser. Os oes gennych unrhyw erthyglau y byddech yn hoffi eu cynnwys yn y cylchlythyr nesaf, anfonwch nhw at Gareth gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod. 01745 536843
gareth.hughesroberts@clwydalyn.co.uk
Hoffwch ni: facebook.com/PennafHGroup Dilynwch ni: @PennafHGroup
www.clwydalyn.co.uk
72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy,Llanelwy, Sir Ddinbych LL17 0JD
0800 183 5757. Am alwadau rhatach o ffôn symudol ffoniwch 0300 183 5757 neu 01745 536800
Gwaith trwsio argyfwng tu allan i oriau swyddfa ffoniwch: 0300 123 30 91
2 Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2016
Rhent yn Gyntaf Gall fod yn anodd talu eich taliadau rhent mewn pryd, yn arbennig dros y Nadolig. Talu eich rhent sy’n gofalu bod gennych do dros eich pen - cysylltwch os bydd pethau’n anodd. Os ydych yn cael anhawster i dalu eich rhent, rhaid i chi siarad hefo ni. Ffoniwch 0800 183 5757, neu am alwadau rhatach o ffôn symudol ffoniwch 01745 536800.
Pwysigrwydd yswiriant cynnwys cartref Pan ddaw yn fater o gynnwys eich cartref, mae’n bwysig iawn sicrhau bod eich eiddo yn cael ei gynnwys mewn yswiriant cynnwys cartref. Mae yswiriant cynnwys cartref yn rhywbeth y dylai pawb sy’n byw yn ein cartrefi ei gael. Fel preswyliwr i Gymdeithas Dai efallai eich bod yn gyfrifol am ddifrod yr ydych wedi ei achosi i bethau yn eich cartref, fel cracio bowlen y toiled, y basn ymolchi neu fath. Petai’r gwaethaf yn digwydd, sut byddech chi’n cael teledu, cyfrifiadur, soffa a charpedi newydd?
Gall hyd yn oed ychydig o ddŵr oherwydd nam ar beiriant golchi neu bibell wedi byrstio achosi llawer o ddifrod. Cofiwch, os nad oes gennych yswiriant ar eich eiddo personol, mae perygl y byddwch yn gorfod dod o hyd i’r arian i gyd i drwsio neu brynu pethau newydd ar ôl iddynt gael eu torri neu eu dwyn. Fe all yswiriant cynnwys cartref gostio llai nag yr ydych yn meddwl a gall eich diogelu rhag y costau anferth wrth brynu pethau o’r newydd.
Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2016
3
Gwaith yn dechrau ar dri Chynllun Gofal Ychwanegol newydd
Mae Cymdeithas Tai Tŷ Glas, rhan o Grŵp Tai Pennaf, yn datblygu 3 Chynllun Gofal Ychwanegol, Hafan Cefni yn Llangefni, Llys Raddington yn y Fflint a Maes y Dderwen yn Wrecsam; gyda’i gilydd maent yn werth tua £26m ac maent yn hwb sylweddol i economi’r ardal.
Hafan Cefni – Llangefni
Llys Raddington – Y Fflint
Maes y Dderwen – Wrecsam
63 o fflatiau Gofal Ychwanegol 1 a 2 ystafell wely o safon uchel ar rent, gyda chyfleusterau cymunedol.Mae 15 o’r fflatiau wedi eu dylunio a’u haddasu yn benodol ar gyfer pobl â phroblemau cof neu sy’n byw â dementia.
73 o fflatiau Gofal Ychwanegol 1 a 2 ystafell wely o safon uchel ar rent, gyda chyfleusterau cymunedol.Mae 15 o’r fflatiau wedi eu dylunio a’u haddasu yn benodol ar gyfer pobl â phroblemau cof neu sy’n byw â dementia.
60 o fflatiau Gofal Ychwanegol 1 a 2 ystafell wely o safon uchel ar rent, gyda chyfleusterau cymunedol.
Beth yw Tai Gofal Ychwanegol? Mae Tai Gofal Ychwanegol yn cynnig y cyfle i chi fyw yn eich fflat eich hun, gan wybod petaech yn mynd yn fwy dibynnol neu fregus y bydd help a chefnogaeth ar gael ar drothwy eich drws 24 awr y dydd. Mae’r potensial yno i fyw bywyd llawer cyfoethocach, gyda nifer o gyfleusterau, cefnogaeth, gofal a thai wedi eu tynnu at ei gilydd dan yr unto.
Nodweddion allweddol Tai Gofal Ychwanegol
“Allai ddim credu’r gwahaniaeth y mae bod yma wedi ei wneud. Dwi wedi gwella cymaint”. Un o Breswylwyr Cynllun Gofal Ychwanegol Llys Eleanor, Shotton.
• Rydych yn byw yn eich cartref eich hun gyda daliadaeth gyfreithiol • Gall Gofal Cartref gael ei ddarparu ar sail angen wedi ei asesu trwy gydol y dydd a’r nos • Byddwch yn cael eich cefnogi i gadw eich annibyniaeth • Gall cyplau a ffrindiau aros gyda’i gilydd • Bydd Rheolwr Cynllun ar y safle i’ch helpu i reoli eich tenantiaeth • Chi sy’n rheoli eich arian eich hun • Byddwch yn ddiogel • Prydau maethlon ar gael bob dydd yn y bwyty ar y safle • Cyfleusterau cymunedol modern ar y safle
“Mae Tai Gofal Ychwanegol yn syniad da. Mae’n cadw eich annibyniaeth, yn gwneud i chi deimlo yn ddiogel, rydych yn cael y cyfle i gyfarfod pobl eraill, a gwneud ffrindiau newydd.” Un o Breswylwyr Cynllun Gofal Ychwanegol Plas Telford, Wrecsam
Os ydych chi’n 60 oed neu hŷn, a bod gennych anghenion o ran gofal a chefnogaeth, ac yn teimlo y byddech yn cael budd o fyw yn un o’n Cynlluniau Gofal Ychwanegol, gallwch gysylltu â ni yn y ffyrdd canlynol: Rhadffôn: 0800 183 5757 E-bost: enquiries@tyglas.co.uk www.tyglas.co.uk
4 Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2016
Y Cap Budd-daliadau - yr hyn y mae arnoch angen ei wybod Mae’r Cap Budd-daliadau yn gyfyngiad ar gyfanswm rhai budd-daliadau y gallwch eu derbyn os ydych o oedran gweithio. O 7 Tachwedd 2016 fe wnaeth swm y Cap Budd-daliadau i Gyplau a rhieni sengl sy’n byw tu allan i Lundain Fwyaf ostwng o £500 yr wythnos i £384.62 yr wythnos. I oedolion sengl sy’n byw tu allan i Lundain Fwyaf gostyngodd o £350 yr wythnos i £257.69 yr wythnos.
Y budd-daliadau a ddefnyddir i gyfrifo’r Cap Budd-daliadau yw: • • • • • • • • • • • • •
Lwfans Profedigaeth Budd-dal Plant Credyd Treth Plant Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ac eithrio pan fyddwch yn y Grŵp Cefnogi) Budd-Dal Tai (ac eithrio i aelwydydd mewn Llety â Chefnogaeth a Eithrir) Budd-dal Anallu Cymorth Incwm Lwfans Ceisio Gwaith Lwfans Mamolaeth Lwfans Gostyngiad Mewn Enillion Lwfans Anabledd Difrifol Y Credyd Cynhwysol (ac eithrio’r elfen Costau Gofal Plant) Lwfans Rhiant Gweddw, Lwfans Mam Weddw, Pensiwn Gweddw
A wyf yn cael fy eithrio?
Byddwch yn cael eich eithrio o’r Cap Budd-daliadau os: • Ydych chi neu eich partner dros oedran Credyd Pensiwn • Ydych chi yn hawlio Credyd Cynhwysol a’ch bod chi (a’ch partner) yn ennill o leiaf £430 y mis • Ydych chi yn hawlio Budd-dal Plant a’ch bod chi (a’ch partner) yn gweithio digon o oriau i fod yn gymwys am Gredyd Treth Gwaith • Ydych chi (neu eich partner) yn derbyn budd-dal anabl: - Taliad Annibyniaeth Personol - Lwfans Byw i’r Anabl - Lwfans Gweini - Elfen cymorth o’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - Elfen Gallu Cyfyngedig o ran Gweithgareddau yn
- - - - -
• • • •
Gysylltiedig â Gwaith (LCWRA) o’r Credyd Cynhwysol Taliadau Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog Budd-dal Anallu Anafiadau Diwydiannol Pensiwn Anabledd Rhyfel Pensiwn Gweddw Rhyfel
O 7 Tachwedd 2016 ymlaen byddwch yn cael eich eithrio os: Ydych chi yn hawlio Credyd Cynhwysol a’ch bod chi (a’ch partner) yn derbyn yr elfen Gofalwr Ydych chi (neu eich partner) yn derbyn Lwfans Gofalw Ydych chi (neu eich partner) yn gymwys ond nad ydych yn derbyn Lwfans Gofalwr Ydych chi (neu eich partner) yn derbyn Lwfans Gwarcheidwad
Sut mae’r Cap Budd-daliadau yn cael ei weithredu? Os yw cyfanswm eich hawl i fudd-daliadau sy’n cael eu cynnwys yn y cap yn uwch na swm y Cap Budd-daliadau, a bod y Cap Budd-daliadau yn berthnasol i chi, bydd eich budd-daliadau yn cael eu gostwng fel eich bod yn derbyn swm sydd dan y cap. Os ydych yn hawlio Budd-dal Tai, bydd swm y Budd-dal Tai y byddwch yn ei dderbyn bob wythnos yn cael ei ostwng i swm y cap. Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol, bydd swm y Credyd Cynhwysol y byddwch yn ei dderbyn bob mis yn cael ei ostwng i swm y cap (ac eithrio’r elfen Costau Gofal Plant). Os oes gennych hawl i’r elfen Costau gofal plant o Gredyd Cynhwysol, mae’r swm hwn yn cael ei ddiogelu ac ni fydd yn cael ei ostwng hyd yn oed os bydd hyn yn golygu eich bod yn derbyn mwy na swm y Cap Budd-daliadau.
Gofynnwch am Gyngor Os ydych yn bryderus am y Cap Budd-daliadau ac nad ydych yn siŵr a allwch fforddio cael dau ben llinyn ynghyd cysylltwch â Turn2us am ragor o gyngor a gwybodaeth ar 0808 802 2000 neu ewch i’w gwefan www.turn2us.org.uk.
Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2016 5
Arbed arian at y Nadolig Dyma awgrymiadau da i chi! Mae’r Nadolig yn gyfnod o lawenydd a dathlu ond fe all hefyd fod yn gyfnod o bryder mawr i lawer ohonom. Dyma i chi rai awgrymiadau i arbed arian a all fod yn ddefnyddiol y Nadolig yma.
1.
2.
Stopiwch brynu anrhegion Nadolig diangen
Santa cudd yn helpu i leihau costau
Gwnewch drefniant gyda’r teulu estynedig, ffrindiau a chydweithwyr i beidio â phrynu anrhegion i’ch gilydd yn ystod y Nadolig hwn. Wedi’r cwbl, faint o focsys o hoglau neis, sanau doniol a siwmperi Nadolig sydd arnon ni eu hangen? Mae’r mwyafrif ohonom yn cadw at brynu i’n teulu agosaf, gan ganolbwyntio ar y plant.
Os ydych chi am brynu i’r teulu estynedig neu ffrindiau, pam na wnewch chi ystyried Santa Cudd? Y syniad yw bod grŵp o bobl yn pennu pris rhesymol, yna mae pawb yn taflu ei enw i het, ac yn dewis enw allan i brynu anrheg iddo. Mae’n llawer o hwyl ac fel hyn dim ond un anrheg fydd yn rhaid i chi ei brynu i’r grŵp cyfan!
3.
Chwiliwch am y prisiau gorau ar y we Mae prisiau ar-lein yn amrywio o werthwr i werthwr, ond weithiau mae’n anodd penderfynu pwy sy’n cynnig y pris gorau ar unrhyw amser penodol. Dyna pam y mae gwefannau cymharu adwerthwyr fel pricerunner.co.uk a kelkoo.co.uk yn gwneud y gwaith caled drosoch chi. Teipiwch enw’r eitem yr ydych yn chwilio amdano, ac wele, bydd y canlyniadau yn dweud wrthoch chi pa wefan ydi’r rhataf i’w brynu arni. Hefyd mae eBay yn lle da i brynu anrhegion newydd neu bron yn newydd, os bydd yn llyfr i’r plant, consol chwarae neu rywbeth arall yr ydych yn chwilio amdano, mae nifer o werthwyr ar eBay yn nodi bod yn rhaid i’r prynwr ei gasglu ei hun. Fel arfer bydd hyn yn golygu bod llai yn rhoi cynigion, felly mae bargeinion ar gael! Chwiliwch am eitem ar eBay, cliciwch ‘refine’ ac wedyn ‘nearby’. Gallwch wedyn ddewis ‘local pickup’ i ddod o hyd i eitemau sydd o fewn cyrraedd hawdd i chi.
6 Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2016
4.
Angen arian ychwanegol at y Nadolig? Gwerthwch o! Gallwch droi’r pethau nad ydych eu hangen neu nad ydych eu heisiau yn arian ychwanegol at y gronfa Nadolig yn hawdd. Felly, meddyliwch am sêl cist car, neu gwerthwch unrhyw beth a phopeth ar eBay, Gumtree, neu trwy safleoedd gwerthu lleol.
5.
Cerdyn anrheg neu arian? Mae cardiau anrheg yn ymddangos yn syniad da, ac weithiau maen nhw, ond cofiwch nad ydyn nhw’n fêl i gyd. Yn un peth, gall hyd yn oed cwmnïau mawr fynd yn fethdalwyr a phan fydd hyn yn digwydd, maen nhw fel arfer yn stopio derbyn cardiau yn llwyr. Mae’n syndod hefyd faint o gardiau anrheg sy’n cael eu gwthio i ddrôr a’u hanghofio, sydd ddim yn cael eu defnyddio cyn y dyddiad dod i ben, neu yn syml nad ydyn nhw o siop y mae’r unigolyn yn ei defnyddio. Yn ôl gwaith ymchwil mae gwerth dros £300 miliwn o gardiau anrheg yn mynd heb eu defnyddio yn flynyddol. Mae llawer o siopau cardiau yn gwerthu waledi rhoddion sy’n gerdyn Nadolig hefyd, felly efallai y byddwch am ystyried rhoi’r arian parod yn un o’r rhain, yn lle cerdyn anrheg. Dim ond syniad!
6.
Cofiwch mai meddwl am bobl sy’n cyfrif! Efallai bod plant hŷn yn deall brands, ond nid yw rhai iau yn barnu anrheg ar sail yr enw na’r pris – yn aml iawn mae ganddyn nhw fwy o ddiddordeb yn y papur lapio. Felly peidiwch â gwario llwythi o arian yn ddiangen, treuliwch eich amser yn chwilio am roddion ystyriol a fydd yn gwneud i’w llygaid oleuo ar fore’r Nadolig.
8.
Neges gan Santa a’i ddilyn ar Noswyl Nadolig AM DDIM!
7.
Cashback? Mae’n rhodd. Mae TopCashback a QuidCo yn ddwy enghraifft dda o’r safleoedd ‘cashback’, lle byddwch chi’n ymuno am ddim, yn chwilio am yr eitem yr ydych chi ei eisiau, yna cliciwch trwy safle’r adwerthwr i brynu rhywbeth. Mae’r safle ‘cashback’ yn cael ei dalu trwy anfon prynwyr at yr adwerthwr ac yn rhoi ychydig o hyn yn ôl i chi, sy’n golygu y gallwch chi fod ar eich mantais! Awgrym da: peidiwch byth â gadael i’r safle ‘cashback’ bennu ble yr ydych yn gwario, canolbwyntiwch ar y fargen orau, yna edrychwch a oes ‘cashback’ ar gael.
9.
Mae’n braf siarad – yn arbennig am DDIM! Os na fyddwch yn gallu bod gyda’ch teulu a’ch ffrindiau dros y Nadolig, oherwydd eu bod ben arall y wlad neu ochr arall i’r byd, nid yw’n golygu na fedrwch chi siarad am ddim. Gallwch arbed arian ar gostau ffôn drud gyda dewisiadau am ddim, fel Skype, a siarad am ddim ar y we. Mae’r rhan fwyaf o’r ffonau clyfar yn gadael i chi lawrlwytho apiau i wneud hyn dros Wi-Fi, 3G neu 4G. Hefyd, yn ôl Money Saving Expert, bydd ffonio ffonau symudol a ffonau arferol dramor yn rhatach os byddwch yn defnyddio rhifau arbennig. Am ragor o wybodaeth ewch i www.moneysavingexpert.com/phones/cheap-overseas-calls.
Rhowch ychydig o hud y Nadolig i’r plant eleni trwy gael llythyr gan Santa! Anfonwch eu rhestr Nadolig ato, gan gynnwys amlen â stamp a chyfeiriad arni, a bydd Santa a’i gorachod yn ateb am ddim. Ond brysiwch, mae’r dyddiad cau ar 6 Rhagfyr. www.royalmail.com/letters-to-santa. Ar ben hynny gallwch chi a’ch plant ddilyn Santa wrth iddo rannu anrhegion ar Noswyl Nadolig – dyna gyffrous! Mewngofnodwch i www.noradsanta.org o 1 Rhagfyr a gofalwch eich bod yn barod i weld sut mae pethau’n mynd!
10.
Dechreuwch brynu yn gynnar a rhannu’r costau trwy’r flwyddyn! Yn ôl YouGov, mae teulu nodweddiadol yn gwario mwy na £820 ar y Nadolig - mae hynny yn bentwr mawr o arian i’w ganfod ar unwaith. Iawn, rydym yn gwybod ei bod hi’n fis Rhagfyr, rydym i gyd wedi gweld y negeseuon bod y Nadolig yn nesáu ar y cyfryngau cymdeithasol, ond os nad ydych wedi gwneud hynny eleni, dechreuwch brynu cyn gynted ag y gallwch y flwyddyn nesaf i rannu’r gost.
Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2016
7
DIGWYDDIADAU CYMUNEDOL Mae wedi bod yn gyfnod prysur eto, i lawer iawn o’n preswylwyr, diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan yn ein digwyddiadau cymunedol. Os hoffech ddarllen rhagor am y digwyddiadau cymunedol sy’n cael sylw yma, neu ddigwyddiadau eraill, ewch i: www.clwydalyn.co.uk/news
Preswylw yn tacluso yr yn Haf eu gardd
Preswylw y Rhuthun r Llys Erw yn yn ‘Ffilm he eu digwyddiad b fod m or Dawe l’.
Tîm o arddwyr ifanc yn plannu bylbiau yn Rosehill.
s yn Caf fi’r Hen Ly cyn dd y ei ben-blw
ic wynhau ‘Picn m n y r y lw y Presw Y Rhyl yn Y Gorlan,
Tedi Bêrs’
Cefnog ResF estaeth wych i d digwydd – Diolch iad !
CYSTADLEUAETH ARDDIO 8 Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2016
Children from Saltney, enjoying fresh air and fun at a ‘Nature and Wellbeing event’.
fan Dirion , gymunedo Y Rhyl, l!
dathlu n y Fflint yn ntaf!
campwraig n e B y , s Jade Jone wbl yn ymweld Dd Olympaidd yr Greenbank ylw â phresw flint. yF Villas yn
Preswylwyr yng Nghynllun Gofal Ychwanegol Tan y Fron, Llandudno yn mynd ar-lein
rhagor am n e ll r a d d h Os hoffec au cymunedol diad y digwyd yma, neu i: lw y s l e a ch sy’n c eraill, ew u a d ia d d s ddigwy co.uk/new . n ly a d y www.clw
n rti Cala a P y n awb y recsam Hwyl i b g ffansi yn W wis Gaeaf g
Diwrnod da a chefnogaeth wych er gwaethaf y glaw yn ein digwyddiad 999 Cymunedol yn Nhreffynnon.
Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2016 9
Datblygiad sy’n cynnwys cartrefi fforddiadwy 2 a 3 ystafell wely, ar gael i’w prynu trwy Gymorth Prynu. Mae Stryd Gronant yn ddatblygiad sy’n cynnwys cartrefi dwy a thair ystafell wely sydd ar gael i’w prynu dan y Cynllun Cymorth Prynu (a ariennir gan Lywodraeth Cymru, cynigir y tai yma i’w gwerthu ar amodau Cymorth Prynu dan eu cynllun daliadaeth niwtral). Mae’r cartrefi newydd cyfoes yn ddelfrydol ar gyfer cyplau a theuluoedd ac maen wedi eu hadeiladu i safon uchel ac mae ganddynt nodweddion amgylcheddol, gan gynnig manteision cartrefi effeithlon o ran ynni, gyda chostau rhedeg fforddiadwy i chi.
Beth yw Cymorth Prynu? Mae Cymorth Prynu yn ffordd gynyddol boblogaidd o helpu pobl i gamu i’r farchnad eiddo. Ni fwriadwyd Cymorth Prynu ar gyfer pobl sy’n medru fforddio prynu eiddo sy’n addas i’w hanghenion heb gymorth, nag i’r rhai sydd mewn cartref addas.
Gallwch gofrestru eich diddordeb yn yr eiddo newydd yma trwy gysylltu â ni ar:
0800 183 5757 neu am alwadau rhatach o ffôn symudol ffoniwch:
01745 536 800 COFRESTRWCH EICH DIDDORDEB RŴAN!
10 Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2016
I’w gorffen yn Chwefror 2017
Awgrymiadau i Gadw eich Cartref yn Ddiogel dros y Nadolig Daw’r Nadolig â phob math o weithgareddau hwyliog o oleuo canhwyllau i oleuadau crog (tu mewn a thu allan). Dyma i chi sut i gadw eich cartref a’ch teulu yn ddiogel rhag tân ac anafiadau. Pan fyddwch yn addurno eich cartref y Nadolig hwn, cadwch lygad am y camgymeriadau cyffredin yma, y peryglon tân, a phroblemau diogelwch eraill. 1. Archwiliwch oleuadau Nadolig yn ofalus bob blwyddyn a thaflu unrhyw geblau blêr, offer dal lamp sydd wedi cracio, neu gysylltiadau llac. Wrth newid bylbiau, datgysylltwch y goleuadau a gofalwch eich bod yn cyfateb y foltedd â’r watedd gyda’r bylb gwreiddiol. 2. Peidiwch byth â gorlwytho socedi trydanol. Gofalwch ddiffodd goleuadau Nadolig wrth adael y tŷ yn wag ac wrth fynd i’r gwely. 3. Peidiwch byth â chysylltu dau gêbl ymestyn gyda’i gilydd! Defnyddiwch un cêbl ymestyn sy’n ddigon hir i gyrraedd y soced heb or ymestyn, ond dim mor hir fel ei fod yn clymu yn ei gilydd. 4. Wrth hongian goleuadau allan, cadwch y cysylltwyr trydanol oddi ar y ddaear ac oddi wrth y cwteri glaw. Defnyddiwch dâp inswleiddio neu glipiau plastig yn hytrach na hoelion metel neu daciau i’w cadw yn eu lle.
5. Defnyddio ysgol neu risiau i osod goleuadau? Dewiswch yr ysgol gywir ar gyfer y gwaith a hefyd gofalwch bod rhywun wrth droed yr ysgol neu risiau pan fyddant yn cael eu defnyddio. 6. Profwch eich larymau mwg bob mis i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio. 7. Wrth oleuo canhwyllau cadwch nhw yn ddigon pell oddi wrth eitemau eraill. Peidiwch ag anghofio diffodd canhwyllau pan fyddwch yn gadael eich cartref neu yn mynd i’ch gwely. 8. Gwiriwch bod eich addurniadau trydanol yn cydymffurfio â’r Safon Prydeinig. 9. Mae’r rhan fwyaf o danau yn cychwyn yn y gegin – peidiwch â gadael bwyd sy’n coginio heb rywun i gadw llygad arno. 10. Rhowch amser i weld bod perthnasau a chymdogion mewn oed yn iawn y Nadolig hwn - gwnewch yn siŵr eu bod yn ddiogel.
Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2016 11
Ewch Ar-lein Y Porth Preswylwyr
Cyfrineiriau
Peidiwch ag anghofio cofrestru ar y Porth Preswylwyr. Bydd arnoch angen eich rhif cyfeirio tenantiaeth a rhif unigryw i gofrestru.
Un o’r argymhellion a ddaeth allan o archwiliad y Partneriaid Ansawdd o wasanaethau i bobl hŷn oedd y dylai Clwyd Alyn gyflwyno system gyfrinair i bobl hŷn.
Sylwer, ar ôl i chi gofrestru ar y porth, ni fydd arnoch angen defnyddio’r rhif hir, unigryw, achos unwaith y bydd eich cyfrif yn fyw, byddwch yn dewis eich cyfrinair eich hun i fewngofnodi bob tro. Os bydd gennych angen unrhyw help wrth gofrestru ar y Porth Preswylwyr, cysylltwch â ni ar 0800 183 5757. Chwiliwch am y newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf ar Facebook a Twitter Hoffwch ni: facebook.com/PennafHGroup Dilynwch ni: @PennafHGroup
Wel, rydym wedi mynd gam ymhellach na hynny ac rydym yn falch o gyhoeddi bod gennym gynllun cyfrinair ar gael i unrhyw denant sydd am ei ddefnyddio. Os oes gennych gyfrinair gallwn ei ddefnyddio fel cam diogelwch ychwanegol wrth drafod materion cyfrinachol hefo chi ar y ffôn. Yn yr un modd byddwn yn rhannu’r cyfrinair gyda gweithwyr PenAlyn a chontractwyr allanol fel eich bod yn gallu gwirio pwy yw unrhyw un sy’n galw yn eich cartref. Os hoffech chi fanteisio ar y cynllun cyfrinair, ffoniwch y tîm gwasanaethau cwsmeriaid ar 0800 183 5757 neu 01745 536 800 a byddwn yn diweddaru ein cofnodion gyda chyfrinair o’ch dewis.
Sut i greu cyfrinair cryf Crëwch gyfrinair unigryw nad yw’n gysylltiedig â’ch gwybodaeth bersonol sy’n defnyddio cyfuniad o lythrennau, rhifau a symbolau. Er enghraifft, gallwch ddewis gair neu frawddeg ar hap a rhoi llythrennau a rhifau ar y dechrau, canol a’r diwedd i’w gwneud yn eithriadol o anodd ei dyfalu. Felly, os mai eich ymadrodd yw “Mae Bangor drideg pum milltir o Lanelwy” y cyfrinair fyddai MB35moL. Gallwch gyfnewid llythrennau am symbolau, rhifau neu atalnodau. Er enghraifft: Mae Nadolig, wedyn yn mynd yn N4dol1g.
Gwobrau TPAS Bu preswylwyr o bob rhan o Ogledd Cymru yn dathlu llwyddiant yng ngwobrau blynyddol y Gwasanaeth Cyfranogiad Tenantiaid (TPAS) Cymru ym mis Gorffennaf. Mae’r gwobrau yn cydnabod arfer gorau ymhlith Staff a Phreswylwyr, gan anrhydeddu eu llwyddiannau. Enillodd ein Partneriaid Ansawdd (preswylwyr sydd wedi eu hyfforddi i archwilio’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu) y Wobr Gwella Gwasanaethau, gan guro timau eraill da o bob rhan o Gymru yn y broses. Dywedodd Gareth Hughes-Roberts, Swyddog Ymlyniad Cymunedol Clwyd Alyn: “Mae ein Partneriaid Ansawdd wedi bod mewn bodolaeth ers 2004 ac maent yn parhau i weithio yn glos gyda staff i archwilio’r modd y darperir gwasanaethau o safbwynt y cwsmer” gan ychwanegu, “maen nhw’n llysgenhadon rhagorol i gynnwys preswylwyr yn Clwyd Alyn. Mae eu hymroddiad diflino i archwilio’r gwasanaethau y mae’r Gymdeithas yn eu rhoi, gan wneud argymhellion dros welliant a gweithio gyda staff i wneud hyn ddigwydd, wedi bod yn wasanaeth amhrisiadwy i’n holl breswylwyr”.
Rhoddwyd cydnabyddiaeth i breswylwyr a staff o bob rhan o Ogledd Cymru am eu hymrwymiad i gynllun ‘Digidol yn Ddiofyn’ trwy ennill y wobr Ymlyniad Digidol “Datblygodd Clwyd Alyn raglen ‘Digidol yn Ddiofyn’ o sesiynau cefnogi anffurfiol, gan weithio gydag asiantaethau partner i wrando ar Breswylwyr a’u grymuso i oresgyn unrhyw rwystrau i wneud y mwyaf o dechnolegau newydd ac mae’r ymateb wedi bod yn wirioneddol rhyfeddol,” dywedodd Louise Blackwell, Swyddog Datblygu Cymunedol Clwyd Alyn. “Rydym yn hynod o falch bod TPAS Cymru wedi cydnabod ymrwymiad a brwdfrydedd ein partneriaid a’r preswylwyr eu hunain am helpu gyda’r cynllun hwn.
Enillodd y preswylwyr a’r staff o Greenbank Villas yn Sir y Fflint y wobr Cyfranogiad mewn Cefnogaeth yn Gysylltiedig â Thai. Mae’r cynllun yn cefnogi pobl sydd naill ai wedi bod yn ddigartref neu wedi bod mewn perygl o fynd yn ddigartref, gan gynnig llety diogel a chefnogaeth iddynt sy’n cael ei deilwrio yn ôl anghenion pob Preswyliwr. Llongyfarchodd Debbie Davies, Uwch Swyddog Prosiect yn Greenbank Villas bawb a gyfrannodd at weithgareddau a chynlluniau yn y cynllun. “Mae ennill y wobr hon yn cadarnhau’r modd y mae’r staff yn llunio perthynas ac yn ymwneud yn llwyddiannus â’r preswylwyr. Hoffem ddiolch hefyd i’r holl bartneriaid a busnesau lleol sy’n cefnogi cymaint o’n gweithgareddau yn ystod y flwyddyn”. Yn ogystal ag ennill y wobr “Cyfranogiad mewn Cefnogaeth yn Gysylltiedig â Thai’ roedd y staff yn Greenbank Villas hefyd yn ail am y wobr Tîm y Flwyddyn.
Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2016 13
Cystadleuaeth!
Llenwch y chwilair, chwiliwch am y gwahaniaethau ac ateb y cwestiynau, torrwch nhw allan a’u postio atom ni, ynghyd â’ch enw llawn a’ch cyfeiriad i gael cyfle i ennill: taleb siopa £25. Dewisir tri enillydd. Rhaid i’r holl ymdrechion fod i mewn erbyn dydd Gwener 5 Ionawr 2017. Cofiwch nad oes arnoch angen stamp! !
Cwis
CHWILAIR O R O G N Y C C S G L H J B S
R U Y P X A Y D T O P O R T H
R A D I O G E L W
Q D I T B I H V U N Y G Q O
C H D F L C W
Y GEIRIAU I’W CANFOD YW: CYNGOR
A A A O G I K O J T N E H R N
S I L A F O G D M I Y K A O G
C L Y D T Q X
U A D A I D D W Y K W G G N I S D L N J U Y D
N D V F I R Y W
L Y W
S E R P
A D G J G U R T L H A C A P Q
D D V P Y C H W
A N E G O L X
O U Z L E A C Y M U N E D Z Z
L B J D N Y K I A L U M H H I
I Z Y C Y F R I N E I R I A U
G T U J K D R K T U G U J L U
Atebwch y cwestiynau canlynol (fe welwch yr atebion yn y cylchlythyr) a’u hanfon gyda’ch ymgais er mwyn cael cyfle i ennill. 1. Faint o fflatiau fydd yn y Cynllun Gofal Ychwanegol Newydd, Hafan Cefni? 2. O ba ddyddiad y bydd y Cap Budd-daliadau yn cael ei ostwng i Gyplau a rhieni sengl sy’n byw tu allan i Lundain Fwyaf? 3. Beth yw cyfeiriad Facebook Grŵp Tai Pennaf? 1 ………………............................................................. 2 ………………............................................................. 3 ……………….............................................................
CAP BUDD-DALIADAU CYMUNED GOFAL DIGWYDDIADAU NADOLIG YCHWANEGOL
Gweld y Gwahaniaeth
YSWIRIANT CYFRINEIRIAU PORTH
RHENT PRESWYLWYR DIOGELWCH
Mae pum gwahaniaeth – allwch chi eu gweld? Rhowch gylch am y pum gwahaniaeth ar yr ail lun.
Enw: ………………………………………………….......................
Cyfeiriad ………………………………………………….........
…………………………………………………................................
...................................................................................
E-bost …………………………………………………....................
Rhif ffôn/ffôn symudol: ...……………………………....