TIR YNG NGHAE SWCH, GWYNEDD
Datblygiad o 16 o gartrefi newydd fforddiadwy i’w rhentu, effeithlon o ran ynni, sy’n cael eu hadeiladu gan Wales Timber Solutions (W.T.S). Mae’r datblygiad hwn yn rhan o bartneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd a ClwydAlyn fel rhan o Raglen
Datblygu Tai Fforddiadwy Gwynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Tai Cymdeithasol Cyngor Gwynedd. Mae’n cyfrannu at nod y Cyngor o adeiladu 700 o dai cymdeithasol ar draws y sir o fewn oes ei Gynllun Gweithred Tai.
DIWEDDARIAD AM Y GWAITH AC EDRYCH I’R
DYFODOL
Bydd datblygiad Cae Swch yn gymysgedd o 16 o gartrefi dwy, tair a phedair llofft a’i nod yw cyfuno dylunio arloesol â nodweddion ecogyfeillgar. Bydd yr holl dai yn cael eu hadeiladu i safon EPC A, ac wedi’u hinswleiddio’n dda. Mae gwaith ar y safle yn mynd rhagddo yn dda. Tra bod y cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu, fe’u gelwir yn blotiau. Mae gwaith mewnol bron â gorffen ar Blotiau 7-8. Mae’r gweithwyr tir yn gweithio ar sylfeini a slabiau concrit Plotiau 1-6, yn barod ar gyfer codi Fframiau Pren. Mae’r gweithwyr tir hefyd yn gweithio ar Blotiau 9-16. Bydd yr holl waith ar y tai wedi’i orffen erbyn yr haf 2025.
RHOI RHYWBETH NÔL I’R GYMUNED
Rhan bwysig o ymrwymiad ClwydAlyn i adeiladu tai fforddiadwy o ansawdd yw sicrhau bod yr holl bartneriaid sy’n rhan o’r cynllun yn rhoi rhywbeth nôl i’r cymunedau lle rydym yn gweithio, a hynny mewn gwahanol ffyrdd ac yn unol â’n blaenoriaethau tlodi. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i gyfoethogi ein cymunedau drwy roi cymorth lle mae ei angen, boed hynny’n golygu helpu pobl i ddychwelyd i fyd gwaith, trechu unigrwydd cymdeithasol, rhoi cymorth i breswylwyr sy’n wynebu tlodi tanwydd, neu sicrhau eu bod yn cael bwyd maethlon.
Ein cenhadaeth: Gweithio gyda’n gilydd i drechu tlodi
Ein blaenoriaethau tlodi:
• Cyflogaeth, hyfforddiant, addysg a gwirfoddoli (cynyddu)
• Tlodi bwyd (lleihau)
• Tlodi tanwydd (lleihau)
• Cynhwysiant digidol (cynyddu)
Ydych chi’n gwybod am unrhyw grwpiau cymunedol, ysgolion, elusennau, neu fudiadau dielw yn yr ardal fyddai’n elwa ar gael cymorth? Os felly, cysylltwch â ni drwy e-bostio: info@walestimbersolutions.co.uk
LEON YN CAEL BLAS AR WAITH AR SAFLE ADEILADU
Mae Leon, disgybl yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, wedi ymuno â W.T.S Ltd yng Nghae Swch, Ffestiniog i gael profiad gwaith ar safle adeiladu. Roedd yno am wythnos ac fe wnaeth fwynhau’r profiad yn fawr a’r cyfle i ddysgu.
“Cefais wythnos o gwaith gyda Wales Timber Solutions ym mis Rhagfyr, roedd yn agoriad llygad i mi i’r byd gwaith. Dysgais am amrywiaeth o sgiliau. Diolch am y cyfle i gael profiad gwaith a’r holl staff anhygoel a wnaeth yr wythnos yn werth chweil i mi.”
CARTREFI EFFEITHLON O RAN YNNI
Nod ClwydAlyn yw trechu tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith gall cartrefi sy’n llai effeithlon o ran ynni ei chael ar iechyd a lles pobl. Defnyddiwyd technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar i adeiladu’r cartrefi newydd hyn, a byddant yn effeithiol iawn o ran ynni ac yn elwa ar:
• Pympiau gwres ffynhonnell aer
• Paneli trydan solar
• Cartrefi wedi’u lleoli i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol
• Cyfleusterau gwefru cerbyd trydan
• ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddefnyddiau naturiol a chynaliadwy â phosibl
• Canfod defnyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl-troed carbon yn isel
Gall y cartrefi hyn wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu’r preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd, yn arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y tymor hir hefyd.
Eisiau gwybod sut mae pwmp gwres ffynhonnell aer yn gweithio? Gwyliwch ein fideo:
CARTREFI AM OES
Rydym yn adeiladu ein holl gartrefi fel cartrefi am oes ac maent wedi’u dylunio fel bod modd eu haddasu’n hawdd wrth i anghenion y preswylwyr newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol am gyfnod hirach.
DIDDORDEB MEWN GYRFA YN Y MAES
ADEILADU?
Mae W.T.S Ltd a ClwydAlyn yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi pobl sy’n byw yn y gymuned i gael gwaith, hyfforddiant a phrentisiaethau.
Os oes gennych ddiddordeb mewn profiad gwaith, lleoliadau hyfforddi neu waith/prentisiaethau, mewn amrywiaeth eang o swyddi adeiladu, cysylltwch â W.T.S Ltd yw info@walestimbersolutions.co.uk
RHEOLI’R SAFLE AC ORIAU GWEITHREDU
Mae Rheolwr Safle ar y safle bob amser, sydd wedi’i hyfforddi i reoli’r holl weithrediadau a gweithgareddau’r is-gontractwyr yn ddiogel. Yr oriau gwaith arferol yw dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a 6pm, a dydd Sadwrn, 8am tan 1pm. Os bydd angen gwneud gwaith arbenigol ar unrhyw adeg y tu hwnt i’r oriau hyn, byddwn yn cysylltu â chi. Byddwn yn parhau i gyfathrebu’n rheolaidd drwy ein cylchlythyr wrth i’r gwaith ar y datblygiad fynd yn ei flaen.
CYSYLLTWCH Â NI
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu ag Osian Jones ar 01766 762770 a fydd ar gael i ateb unrhyw gwestiynau. Neu, os yw’n well gennych gysylltu trwy e-bost, ein cyfeiriad yw: info@walestimbersolutions.co.uk
Mae’r cynllun hwn yn rhan o raglen ddatblygu ClwydAlyn i ddarparu 1500 o gartrefi yng Ngogledd Cymru erbyn 2025 gyda buddsoddiad o £250 miliwn.
DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL
I gael y newyddion diweddaraf am y datblygiad, gan gynnwys lluniau o’r datblygiadau ar y safle, dilynwch ClwydAlyn a Wales Timber Solutions ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol