Adroddiad Gweithgareddau Blynyddol 2016-17

Page 1

Agor Drysau – Gwella Bywydau

Symud Ymlaen Gyda’n Gilydd Adroddiad Gweithgareddau Blynyddol 2016-17


Grŵp Tai Pennaf Symud Ymlaen Gyda’n Gilydd Gyda hanes trawiadol dros y 38 mlynedd diwethaf, pan wnaeth Cymdeithas Tai Clwyd Alyn gaffael ei eiddo cyntaf ym Mhen Gorllewinol y Rhyl, mae’r Grŵp wedi datblygu yn sylweddol diolch i benderfyniad ac ymrwymiad pawb. A ninnau yn gweithredu yn awr mewn saith ardal awdurdod lleol ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru, roedd gennym 5,650 o gartrefi dan ein rheolaeth ar 31 Mawrth 2017, gan wneud cyfraniad sylweddol at ymdrin â’r galw cynyddol am gartrefi o safon uchel, fforddiadwy. Ã Byddwn yn sicrhau bod y Grŵp yn cael ei reoli yn

Gyda hanes trawiadol dros y 38 mlynedd diwethaf, pan wnaeth Cymdeithas Tai Clwyd Alyn gaffael ei eiddo cyntaf ym Mhen Gorllewinol y Rhyl, mae’r Grŵp wedi datblygu yn sylweddol diolch i benderfyniad ac ymrwymiad pawb. A ninnau yn gweithredu yn awr mewn saith ardal awdurdod lleol ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru, roedd gennym 5,650 o gartrefi dan ein rheolaeth ar 31 Mawrth 2017, gan wneud cyfraniad sylweddol at ymdrin â’r galw cynyddol am gartrefi o safon uchel, fforddiadwy.

effeithiol, effeithlon, o fewn y cyfyngiadau rheoleiddiol a’r nodau ac amcanion cytunedig. Mae ein Hegwyddorion Craidd yn sail i holl waith y Grŵp, gan ymrwymo Staff ac Aelodau’r Bwrdd i gyflawni eu dyletswyddau mewn fframwaith o werthoedd gwaelodol. Mae’r rhain yn cael eu crynhoi dan yr acronym “I CARE” yn Saesneg:

à UNPLYGRWYDD gonestrwydd ac ymddiriedaeth ym

Mae strwythur Grŵp Tai Pennaf fel mae’n sefyll heddiw wedi cael ei gynllunio i’n galluogi i fod yn fwy ymatebol i anghenion y cymunedau yr ydym yn gweithredu ynddynt; rhoi preswylwyr yn ganolog i’n gweithgareddau; cynyddu atebolrwydd lleol; cynnig dewis ehangach o wasanaethau o safon uchel i’n cwsmeriaid; a gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o’r adnoddau.

mhopeth a wnawn

à à à Ã

Gyda Pennaf Cyf fel rhiant gwmni, mae ein hendidau gweithredol yn y Grŵp ar 31 Mawrth 2017 - Pennaf, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, Cymdeithas Tai Tŷ Glas, a Thir Tai - yn cynnig gwasanaethau sy’n cyd-fynd â’i gilydd ac yn manteisio ar gael cefnogaeth ei gilydd, ac ar yr un pryd yn cadw eu hunaniaeth a’u rôl unigryw eu hunain.

GOFAL edrych ar eich ôl eich hun, eraill a chymunedau ATEBOL cymryd cyfrifoldeb am ein gweithredoedd PARCH parchu eich hun ac eraill CYDRADDOLDEB derbyn gwahaniaethau a thrin pawb yn deg.

Yr allwedd i gefnogi cyflawni’r uchod i gyd yw gweithredu’r strategaethau craidd, a pharhau i wella perfformiad busnes a’i effeithlonrwydd.

Darlunnir y berthynas gref sy’n bodoli rhwng yr endidau yn y Grŵp yn y Cynllun Busnes corfforaethol, sy’n nodi ein strategaeth ar gyfer cyflawni Prif Ddiben y Grŵp: Agor Drysau – Gwella Bywydau Cyflawnir hyn trwy gyfres o ‘Flaenoriaethau’ (a amlinellir isod), sydd yn cael eu gyrru gan gyflawni canlyniadau i’r gymuned dan ddwy ‘Thema’ allweddol: Rydym yn darparu tai a gwasanaethau y mae ar bobl eu heisiau ac y maent yn fodlon arnynt:

à Byddwn yn datblygu ac addasu cartrefi i fodloni anghenion a ddynodwyd yn y gymuned;

à Byddwn yn sicrhau bod ein preswylwyr yn fodlon bod eu cartrefi yn cael eu cynnal yn ôl safonau priodol;

à Byddwn yn sicrhau bod ein preswylwyr yn fodlon ar y gwasanaethau yr ydym yn eu cyflawni. Rydym yn hyfyw yn ariannol ac yn cael ein llywodraethu yn effeithiol:

à Byddwn yn sicrhau bod y Grŵp yn cael ei lywodraethu yn effeithiol; 2


Neges o’r Gadair Mae thema Adroddiad Gweithgareddau eleni – Symud Ymlaen Gyda’n Gilydd – yn crynhoi nodau sylfaenol y Grŵp – i gyflawni gwasanaethau allweddol yn effeithlon ac effeithiol, gan ddatblygu trefniadau gweithio mewn partneriaeth cryf, a helpu i greu dyfodol mwy diogel a chynaliadwy. Bu 2016-17 yn flwyddyn arall eithriadol o brysur a llwyddiannus i ni, diolch i waith caled ac ymroddiad Aelodau’r Bwrdd a’r Staff, ynghyd â chefnogaeth barhaus y nifer o grwpiau rhanddeiliaid. Mae mynediad at dai teilwng a’r gwasanaethau cefnogi cysylltiedig yn ofynion sylfaenol ar gyfer datblygu a chynnal cymunedau lleol ffyniannus. Er gwaethaf yr amser heriol y mae pawb yn ei wynebu yn y sector, rydym wedi parhau i arwain y ffordd wrth ddod o hyd i atebion blaengar i helpu i ymdrin â’r argyfwng tai a wynebwn heddiw.

Yn ychwanegol, dechreuodd y gwaith ar ganfod £250 miliwn o gyllid ychwanegol o’r marchnadoedd cyfalaf trwy Fond buddsoddi cyhoeddus i’n galluogi i gael mwy o sicrwydd o gostau dros y 35 mlynedd nesaf; ad-dalu y rhan fwyaf o’n dyled fanc bresennol; a sicrhau cyllid preifat ar gyfradd gystadleuol iawn. Rwyf yn arbennig o falch o ddweud ein bod wedi llwyddo yn hyn o beth ym Mehefin 2017 a bydd adroddiad mwy manwl arno yn Adroddiad Gweithgareddau’r flwyddyn nesaf. Mae Grŵp Tai Pennaf wastad wedi ceisio adeiladu ar ei lwyddiant a’i enw da am fod ag agwedd fywiog, sy’n edrych tua’r dyfodol i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel ac ymatebol i fodloni anghenion ei gwsmeriaid. Mae gan Fyrddau’r Grŵp ddyhead clir i barhau i ddatblygu rhagor o dai yn y dyfodol a bydd y buddsoddiad yr ydym wedi ei sicrhau yn y pen draw yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ni i ymateb i her Llywodraeth Cymru o ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yn ystod tymor y Cynulliad presennol.

Hwn oedd fy nhymor cyntaf yn swydd Cadeirydd Pennaf, ar ôl i mi gymryd yr awenau gan fy rhagflaenydd fis Gorffennaf diwethaf. Ar ran Byrddau’r Grŵp hoffwn gofnodi fy niolch i Dr Angela Holdsworth am ei chyfraniad a’i hymrwymiad yn ystod ei chyfnod yn y swydd. Diolch hefyd i’m His-gadeirydd, Peter Lewis, am ei gefnogaeth werthfawr, a Llywydd Anrhydeddus y Grŵp ac un o’r Aelodau cyntaf, Mrs Eurwen Edwards, am ei gwasanaeth diflino. Mae ein Haelodau yn dwyn cyfoeth o sgiliau a phrofiad hefo nhw ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau. Roeddwn yn falch iawn o groesawu Mrs Eileen Stevens a Peter LaTrobe i’n plith, a ymunodd â byrddau Tŷ Glas a Chlwyd Alyn, yn eu tro, fis Gorffennaf diwethaf; a Mrs Sandy Mewies, a benodwyd ar Fwrdd Clwyd Alyn fis Medi diwethaf. Roedd yn ddrwg gennyf weld Dr Angela Holdsworth, Mrs Judy Owen, Dafydd Ifans, Jeremy Poole a Mike Soffe yn gadael, gydag Angela a Judy yn ymddiswyddo yn unol â’r rheol uchafswm o 9 mlynedd o wasanaeth a gyflwynwyd yn y Cod Llywodraethu.

Rydym yn wirioneddol yn darparu cymaint mwy na dim ond brics a morter wrth i ni barhau i wneud cyfraniad sylweddol at economi Cymru - gan helpu i sicrhau swyddi, cynnig cyfleoedd dysgu a datblygu, cadw sgiliau, trawsnewid cymunedau a gwella amodau byw i bobl ar draws y rhanbarth. Fel Cadeirydd, rwyf yn falch iawn o’n llwyddiannau hyd yn hyn ac yn dymuno diolch i’n holl staff, Aelodau’r Bwrdd a’n partneriaid am eich cefnogaeth a’ch ymrwymiad parhaus. Mae’r adroddiad hwn yn amlygu ychydig enghreifftiau yn unig o’n llwyddiannau yn ystod 2016-17, yn gwella effeithlonrwydd ac ansawdd gwasanaeth, yn gweithio’n glos gyda llawer o grwpiau rhanddeiliaid, ac yn helpu i greu dyfodol mwy diogel a chynaliadwy.

Fel rhan o’n hagenda effeithlonrwydd, rydym wedi cysoni ein strwythur llywodraethu, a arweiniodd at weld PenAlyn Cyf ac Offa Cyf yn mynd yn gwmnïau cwsg ym mis Hydref diwethaf, a’r swyddogaethau canlynol yn cael eu trosglwyddo:

ÃÃ Daeth Gwasanaethau Cynnal a Chadw PenAlyn, Hyfforddiant ODEL a Chaffi’r Hen Lys yn y Fflint yn rhan o Clwyd Alyn

Stephen Porter Cadeirydd, Pennaf

ÃÃ Daeth Gwasanaethau Rheoli Eiddo Offa yn rhan o Pennaf

ÃÃ Trosglwyddodd PenCartref hefyd i Pennaf wrth i ni ymestyn ei ystod o wasanaethau tu hwnt i weithgareddau elusennol, a diddymwyd PenElwy. Rydym yn parhau i weithio yn glos iawn gyda Thîm Rheoleiddio Llywodraeth Cymru ac yn cael budd o’n dull sy’n rhoi pwyslais ar ganlyniadau wrth reoli perfformiad, ynghyd â’n hymrwymiad i gynllunio busnes a pharhad, rheoli risg, llywodraethu, gwelliant parhaus, gweithgareddau hunan asesu a rheolaeth ariannol. Gwelodd y flwyddyn ddiwethaf ni yn creu gwarged sylweddol oherwydd cyfuniad o gamau effeithlonrwydd a gohirio prosiectau. Sicrhawyd £25.5 miliwn o gyllid ychwanegol gan Gronfa Seilwaith Standard Life, gan ein galluogi i ddechrau gweithio ar ddatblygu tri chynllun tai gofal ychwanegol newydd gyda’n partneriaid awdurdod lleol yn Wrecsam (a ddefnyddir gyda chyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid), y Fflint a Llangefni.

Mrs Eurwen H Edwardss Llywydd Anrhydeddus, Grŵp Tai Pennaf

3

Dr Sarah Horrocks Cadeirydd, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn

Paul Robinson Cadeirydd, Cymdeithas Tai Tŷ Glas

Mike Hornsby Cadeirydd, Tir Tai


Datblygu Gwelwyd cynnydd sylweddol yn 2016-2017 ar ein Rhaglen Ddatblygu ac fe wnaethom ddechrau gweithio ar 177 o unedau newydd o lety ar draws Gogledd Cymru. Roedd hyn yn bosibl diolch i gyfuniad o ffrydiau ariannu a sicrhawyd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a’n partneriaid awdurdod lleol - gan gynnwys Grant Tai Cymdeithasol, Grant Cyllid Tai Grant Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a chyllid Ardal Adfywio Strategol - ynghyd â chyllid preifat a godwyd gan Pennaf. Gwariwyd £12.2m o grant Llywodraeth Cymru, sy’n cyfateb i 12% o Raglen Datblygu a Gynlluniwyd Cymru. Cwblhawyd pedwar cynllun newydd, gan gynnig 77 uned newydd o lety, a defnyddio cyfanswm o grant buddsoddi ac arian preifat a godwyd gan y Grŵp o bron i £11m:

Roedd y cynlluniau eraill sy’n cael eu hadeiladu yn cynnwys:

ÃÃ Clos Cwm Eirias, Bae Colwyn: 15 fflat a 4 tŷ ÃÃ Bod Alaw, Bae Colwyn: 7 fflat x 1 ystafell wely wedi ei hadnewyddu.

ÃÃ Princess Court, Bwcle: tri byngalo newydd wedi eu

ÃÃ Ffordd Lawson, Bae Colwyn: 6 Tŷ ÃÃ Stryd Gronant, Y Rhyl: 13 tŷ x 2 a 3 ystafell wely ar

dylunio yn arbennig i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint.

ÃÃ Adfywio Strategol yn y Rhyl: gan weithio mewn

gael trwy Gymorth Prynu

partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych, darparwyd 13 o gartrefi teuluol newydd a 5 fflat.

ÃÃ Stryd yr Abaty, Y Rhyl: 7 tŷ x 2 a 3 ystafell wely ÃÃ Llys Gary Speed, Penarlâg: 20 tŷ ac 1 byngalo ÃÃ Maes Helyg, Garden City, Sealand: 21 fflat x

Yn ychwanegol, cwblhawyd y rhaglen ail-ddatblygu £6.3 miliwn yng Nghartref Gofal Llys y Waun, yn Y Waun, Wrecsam. Mae’r cartref gofal modern iawn yn cynnwys 10 ystafell en-suite i breswylwyr gydag anghenion gofal preswyl, ac uned wedi ei hadeiladu i’r diben i fodloni anghenion 56 o breswylwyr sy’n byw â dementia. Seiliwyd y dyluniad ar Safonau ac Egwyddorion Darparu Gofal Dementia Rhagorol Prifysgol Stirling.

2 a 3 ystafell wely

ÃÃ Rivulet Road, Wrecsam: 50 fflat x 1 a 2 ystafell wely. ÃÃ Bwlch Alltran, Caergybi: 8 uned yn cynnwys fflatiau, tai a byngalo

ÃÃ Adnewyddu’r hen Ysgol Ramadeg yn Llanrwst yn Ganolfan Iechyd a Llesiant Gwledig a 4 o fflatiau gofal ychwanegol.

Ar 31 Mawrth 2017, roedd gan y Grŵp 362 uned yn cael eu hadeiladu, gan gynnwys 196 o fflatiau Gofal Ychwanegol o safon uchel i bobl hŷn gydag ystod o anghenion gofal a chefnogaeth:

ÃÃ Llansadwrn, Ynys Môn: 4 tŷ ÃÃ Llandegfan, Ynys Môn: 3 tŷ a 2 fflat Mae’r prosiectau hyn yn cyfateb i fuddsoddiad o fwy na £53m a byddant yn cael eu gorffen dros y ddwy flynedd nesaf. Yn ychwanegol, bydd y Bond buddsoddi cyhoeddus a sicrhawyd ym Mehefin 2017 yn ein galluogi i barhau i drawsnewid cymunedau ac amodau byw pobl ar draws y rhanbarth.

ÃÃ Hafan Cefni, Llangefni – 63 fflat x 1 a 2 ystafell wely; 15 ohonynt wedi eu dylunio yn arbennig ar gyfer pobl sy’n byw â dementia

ÃÃ Llys Raddington, Y Fflint – 73 fflat x 1 a 2 ystafell wely; 15 ohonynt wedi eu dylunio yn arbennig ar gyfer pobl sy’n byw â dementia

ÃÃ Maes y Dderwen, Wrecsam – 60 fflat x 1 a 2 ystafell wely Llys Raddington, Y Fflint Hafan Cefni, Llangefni

Princess Court, Bwcle

4

Maes y Dderwen, Wrecsam


Gwasanaethau Rheoli Eiddo Offa

Cydweithio gyda’n Preswylwyr

Fel rhan o benderfyniad y Grŵp i resymoli ei strwythur llywodraethu, aeth Offa Cyf yn gwmni cwsg fis Hydref diwethaf a daeth Gwasanaethau Rheoli Eiddo Offa yn rhan o Pennaf. Ar hyn o bryd rydym yn rheoli 255 o gartrefi ar ran landlordiaid ar draws Gogledd Cymru ac mae gennym drwydded lawn dan Gynllun Rhentu Doeth Cymru. O fuddsoddwyr newydd a pherchnogion un eiddo, i berchnogion eiddo proffesiynol gyda phortffolio anferth, mae Offa yn parhau i gynnig pob agwedd ar wasanaethau gosod a rheoli eiddo.

Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i gyflawni rhagoriaeth o ran gwasanaeth cwsmeriaid, codi safonau gwasanaeth a chyflawni gwerth am arian, ailstrwythurwyd ein Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Preswylwyr ym mis Hydref 2016, gan ein galluogi i fodloni anghenion newydd yr amgylchedd yr ydym yn gweithredu ynddi; cynnig gwasanaeth mwy effeithlon ac ymatebol i’n preswylwyr; ac ymdrin â’r sialensiau presennol a’r rhai sy’n ein hwynebu o ran diwygio’r wladwriaeth les. Mae’r enghreifftiau o’r manteision sy’n cael eu gwireddu yn barod yn cynnwys:

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Grŵp wedi adnewyddu ac aildrefnu chwe eiddo yng nghanol y Rhyl i ddarparu naw cartref, fel rhan o’r gwaith gwella tai sy’n parhau yn y dref. Rheolir y tai yma gan Offa ac maent yn cynnwys pedwar tŷ tair ystafell wely yn Princes Street, Crescent Road, a Stryd Gorllewin Kinmel; yn ogystal â phump fflat un a dwy ystafell wely ar Ffordd Wellington. Mae Offa hefyd yn parhau i weithio mewn partneriaeth â dau awdurdod lleol i ddarparu contract ar gyfer gorchmynion rheoli dros dro ar Dai Amlfeddiannaeth dan Ddeddf Tai 2004.

à Cyflawni gwasanaethau mwy cost effeithiol à Creu Tîm Incwm penodol i gefnogi preswylwyr, a à Cynnydd mewn staff yn ein Timau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Hawliau Lles a Chyngor Ariannol.

Cydweithio gyda’n Preswylwyr i Wella Gwasanaethau Wrth barhau ein hymrwymiad i gynnwys ein preswylwyr yn y broses o lunio penderfyniadau, gwelwyd llu o welliannau gwasanaeth. Ã Cymerodd ein preswylwyr ran weithredol ar y Pwyllgor Gwella Gwasanaethau a’r Grŵp Craffu Partneriaid Ansawdd. Ã Mae Gwirfoddolwyr o blith y Preswylwyr wedi cael effaith trwy gymryd rhan yn ein Paneli Gwasanaeth a Grwpiau Atebolrwydd ar Sail Canlyniadau. Ã Ymunodd y gwirfoddolwyr o breswylwyr â phaneli cyfweld wrth benodi staff newydd i’r Ganolfan Gyswllt ac maent wedi bod yn ffonio preswylwyr ar ôl iddynt gael gwasanaeth trwsio i gael eu barn. Ã Mae’r preswylwyr a’r staff wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i gytuno ar y cwestiynau ar gyfer yr arolwg bodlonrwydd STAR ac maent wedi gweithio yn glos ar yr adolygiad i’r ffurflen broffilio preswylwyr ‘Dod i’ch adnabod chi’. Ã Parhaodd Panel Golygyddol y Preswylwyr i gymryd rôl weithredol hefo’r Cylchlythyr Preswylwyr, gan sicrhau ei fod yn cynrychioli llais ein preswylwyr yn ehangach.

Rheoli Eiddo

Property Management

5


Adborth Preswylwyr yn Helpu i Siapio Gwasanaethau yn y Dyfodol Cynhaliwyd yr arolwg bodlonrwydd STAR annibynnol yn ystod haf 2016, gyda phreswylwyr o bob rhan o’r rhanbarth yn rhoi adborth dros y ffôn ac ar-lein ar y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu. Mae’r canlyniadau wedi cynnig cipolwg gwerthfawr ar sut yr ydym yn perfformio ac mae’r adborth yn awr yn helpu i siapio gwasanaethau at y dyfodol. Adroddodd y preswylwyr sydd wedi cael gwaith trwsio bod lefel y bodlonrwydd am y gwasanaeth trwsio a chynnal a chadw wedi cynyddu a gyda PenAlyn yn awr yn ei bedwaredd flwyddyn weithredol, mae’r effaith gadarnhaol y mae’r Tîm yn ei gael yn amlwg. Er ein bod yn ymwybodol bod lefelau bodlonrwydd wedi gostwng mewn rhai meysydd, rydym yn falch o ddweud bod y bodlonrwydd yn gyffredinol yn uchel, sy’n glod i waith caled ac ymroddiad ein staff. Fel rhan o’n hymrwymiad tymor hir i wella’r modd y darperir gwasanaethau, rydym hefyd wedi cysylltu â phreswylwyr a fynegodd anfodlonrwydd i helpu i greu gwasanaethau gwell eto at y dyfodol.

Cynnwys ein Preswylwyr ac Ymgysylltu â Chymunedau Yn ystod 2016-17, fe wnaethom barhau i adeiladu ar ein hymrwymiad i weithgareddau cynnwys preswylwyr ac ymgysylltu cymunedol ar draws yr ardal yr ydym yn gweithredu ynddi. Trwy weithio’n glos gyda’n preswylwyr a chymunedau lleol, rydym wedi llwyddo i:

à Ddatblygu, cefnogi a/neu weithredu dros 124 o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol;

à Sicrhau cyfanswm o £161,000 mewn grantiau allanol i alluogi Clwyd Alyn a grwpiau lleol eraill i ymgymryd â chynlluniau oedd o fudd i’n preswylwyr a/neu eu cymunedau lleol;

à Sicrhau cyfraniadau ‘mewn da’ gan bartneriaid amrywiol, gan helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau llawer o’n preswylwyr;

à Dangos trwy ymarfer Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad bod dros £54,000 o werth ariannol ychwanegol wedi ei greu trwy hybu ein gwaith datblygu cymunedol.

Gwella’r Amgylchedd Lleol Gyda chefnogaeth llawer o’n contractwyr ac asiantaethau allanol fel AVOW, Cadwch Gymru’n Daclus a Ground Control, mae preswylwyr wedi bod yn ymwneud yn weithredol â llawer o weithgareddau a fwriadwyd i helpu i wella’r amgylchedd lleol, yn ogystal â gwella iechyd a lles pawb dan sylw:

à Mae nifer o brosiectau plannu cymunedol yn y Rhyl, Wrecsam, Bwcle a Shotton, wedi galluogi preswylwyr i fywiogi eu cymunedau, gan helpu i greu gerddi bywyd gwyllt, a denu peillwyr pwysig fel gwenyn cynhenid a gloÿnnod byw.

à Ymunodd preswylwyr o gynllun Byw â Chefnogaeth y Cei â thîm dan arweiniad Cadwch Gymru’n Daclus i lanhau ysbwriel o Draeth Talacre – gan helpu i ddangos y gwahaniaeth y gall pobl leol ei wneud i helpu i ddiogelu ein harfordir a’n bywyd gwyllt rhag llygredd y gellir ei osgoi.

à Trwy weithio mewn partneriaeth â Crest, Refurbs, CAD Recycling a gwerthwyr sgrap lleol, cymerodd preswylwyr yn byw yn Y Gorlan, Y Rhyl a Melin-y-Dre, Maes-glas, ran yn y dyddiau Glanhau Cymunedol ac Ailgylchu - gan weithio i wella eu hardal leol a lleihau gwastraff diangen sy’n mynd i safleoedd tirlenwi.

6


Gwella Cymunedau Lleol

Gwella Ansawdd Bywyd

à Bu preswylwyr o Hafan Dirion, Y Rhyl, yn gweithio gyda

Diolch i gefnogaeth llawer o fusnesau lleol, staff, ffrindiau, Aelodau’r Bwrdd ac asiantaethau sy’n bartneriaid, rydym wedi gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd bywyd llawer o’n preswylwyr.

Chadwch Gymru’n Daclus a gwirfoddolwyr ifanc o’n cynllun Byw â Chefnogaeth yn Y Dyfodol i wella eu gerddi cymunedol a llenwi basgedi crog o gwmpas y cynllun.

à Helpodd digwyddiad cysgu allan a drefnwyd gan staff

à Cymerodd preswylwyr a staff ym mhrosiect Byw â Chefnogaeth y Cei ran yn y prosiect gwella gerddi a ariannwyd gan GwirVol. Fe wnaethant osod patio a chreu barbeciw newydd ac ardal eistedd, lle gallant ddod at ei gilydd i gael prydau, ymlacio a chymdeithasu.

o’n llety argyfwng a chynlluniau cefnogi i ddynion a merched digartref - Tŷ Golau yn y Rhyl a Thŷ Nos yn Wrecsam - i godi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd gan godi £3,039.37 i’w rannu rhwng Tŷ Golau, Tŷ Nos a gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru.

à Diolch i brosiectau gwirfoddoli yn cynnwys preswylwyr,

à Rhoddodd Lucion 50 o ‘becynnau goroesi’, sy’n

staff a busnesau lleol fel Airbus, Akzonobel a Simmons, mae preswylwyr yn Greenbank Villas, y Fflint, a Llys Emlyn Williams, Treffynnon, wedi gwerthfawrogi’r gwahaniaeth y mae’r prosiectau yma wedi ei wneud, gan ddweud: “...mae’r ystafell yn edrych yn llawer goleuach, bywiocach a mwy cartrefol ... dwi’n teimlo fy mod wedi setlo yn well ar ôl i’r holl graffiti fynd ... mae’r cynllun yn lanach yn awr ac yn teimlo’n braf”.

cynnwys llond bag o eitemau hanfodol i helpu pobl oedd yn cysgu allan. Bu Galliford Try a Moneysupermarket.com hefyd yn helpu trwy roi eitemau hanfodol fel sannau, dillad isaf, eitemau ymolchi, bwyd a dillad cynnes.

à Dywedodd Adroddiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGC) ar y gwasanaethau gofal nyrsio sy’n cael eu darparu yn ein cartref nyrsio ym Merton Place ym Mae Colwyn bod y “Bobl sy’n byw ym Merton Place yn hapus ac yn cael eu trin gydag urddas a chynhesrwydd gan y staff sy’n gweithio yno. Gall pobl wneud yr hyn sydd o bwys iddyn nhw ac mae gweithgareddau cynhwysfawr ar gael, gyda phwyslais ar gynnwys teulu a ffrindiau mewn dathliadau a chael hwyl.”

à Rydym hefyd yn berchen ar ac yn gweithredu tri chartref gofal sydd oll yn cydymffurfio ag amodau AGGCC – Llys Marchan yn Rhuthun; Plas Bod Llwyd yn Newbridge ger Wrecsam; a Llys y Waun yn Y Waun. Rydym yn ymfalchïo yn y gofal o safon uchel, sy’n rhoi pwyslais ar yr unigolyn y mae ein staff yn ei roi, gan helpu i wella bywydau ein preswylwyr.

7


Cynhwysiant Digidol a Thaclo Tlodi Tanwydd

Iechyd a Lles

Rydym wedi parhau i gydnabod y llu o fanteision o gynhwysiant digidol, gan helpu ein preswylwyr i gael gwell mynediad at wasanaethau, lleihau unigrwydd, cynyddu sgiliau a’r gallu i gael gwaith, arbed arian a galluogi preswylwyr i hawlio Credyd Cynhwysol ar-lein.

Diolch i gynllun partneriaeth llwyddiannus gyda Chyngor Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sicrhaodd ein Canolfan Deulu Erw Groes yn Nhreffynnon grant £140,243 gan Gronfa Pawb a’i Le y Loteri Fawr yn 2016 i redeg prosiect oedd yn parhau am ddwy flynedd. Mae’r cyllid wedi eu galluogi i sefydlu canolfan unigryw o gefnogaeth broffesiynol ar y safle, sy’n cynnwys mynediad at wasanaethau iechyd a chynghori trwy Weithiwr Iechyd arbenigol rhan amser, Gweithiwr Prosiect Cam-drin Domestig a Chynghorydd proffesiynol. Bu’r adborth hyd yn hyn yn gadarnhaol iawn, gan ddangos bod y prosiect yn helpu i wella iechyd a lles teuluoedd sy’n byw yn Erw Groes trwy:

à Llofnododd Clwyd Alyn y ‘Siarter Cynhwysiant Digidol’ cenedlaethol, sy’n cynnwys chwe addewid wedi eu hanelu at helpu sefydliadau i gefnogi pobl sydd wedi eu hallgau yn ddigidol i fwynhau manteision y rhyngrwyd. à Rydym wedi parhau i ddarparu hyfforddiant, ysgogi ac annog preswylwyr i ddefnyddio’r rhyngrwyd, cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau rhwydweithio - ynghyd â’n Porth Preswylwyr, sy’n rhoi mynediad iddynt 24/7 at wasanaethau fel rhoi adroddiad am waith trwsio, talu rhent, gweld cyfrifon rhent, rhoi adroddiad am ymddygiad gwrthgymdeithasol a llawer mwy ar-lein.

à Wella mynediad at gefnogaeth hanfodol, wedi ei theilwrio i’w anghenion penodol à Helpu preswylwyr i deimlo’n llai ynysig ac yn fwy o ran o’u cymuned à Gwella sgiliau rhianta, sy’n arwain at berthynas well mewn teuluoedd.

à Rydym wedi cyflwyno ‘Wi-fi’ i fwy na 40 o’n safleoedd, gan alluogi dros 800 o breswylwyr a staff i gael mynediad at y rhyngrwyd yn rhad ac am ddim. à Bu Cymunedau Digidol Cymru yn helpu i wella mynediad i’r rhyngrwyd i nifer o’n preswylwyr hŷn trwy roi llechi, dyfeisiadau Wi-Fi symudol a gliniaduron i’n cynlluniau tai cysgodol, gan gynnwys Llys Erw, Rhuthun a Pentre Mawr, Abergele. à Gan gysylltu gyda phrosiect ‘RNIB Ar-lein Heddiw’ yr RNIB, mae preswylwyr yng nghartref cysgodol Llys Erw yn Rhuthun a Chynllun Gofal Ychwanegol Llys Eleanor yn Shotton wedi bod yn datblygu eu sgiliau TG i’w galluogi i arbed arian, siopa ar-lein a defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd a’u ffrindiau. à Mae TPAS (Cymru) wedi rhoi sesiynau Bargen Ynni Orau, yn rhoi cyngor ymarferol ar sut i helpu i arbed arian ar filiau ynni a defnyddio llai o ynni yn y cartref.

8


Datblygu Sgiliau a Chyflogadwyedd Roeddem yn falch iawn pan dreuliodd yr Enillydd Dwy Fedal Aur a Hwylusydd Ymgysylltiad Cymunedol Calbee UK, Jade Jones, MBE, amser gyda staff a phreswylwyr yn ein prosiect Byw â Chefnogaeth Greenbank Villas yn y Fflint pan ddaeth i ‘Ddiwrnod Agored Gwirfoddolwyr’ yng Nghaffi’r Hen Lys yn y Fflint. Cyflwynodd Jade dystysgrifau i lawer o’n gwirfoddolwyr o blith y preswylwyr a diolch iddynt am eu cyfraniad i’r gymuned leol. Yn ogystal â rhannu stori ei llwyddiant ei hun, gan ysbrydoli preswylwyr gyda’i hymrwymiad ac ymroddiad, treuliodd Jade, y Bencampwraig Taekwondo, amser yn gwrando ar obeithion a breuddwydion y preswylwyr eu hunain at y dyfodol, gan eu hannog i anelu’n uchel a ffynnu wrth adeiladu bywydau newydd iddynt eu hunain.

Yn ystod 2016-17, mae ein gwasanaeth Cynnwys ODEL, sy’n cael ei ariannu yn allanol gan Gyngor Sir y Fflint, wedi helpu 32 o bobl yn Sir y Fflint sy’n derbyn, neu sydd wedi derbyn, gwasanaethau Cefnogi Pobl, gan gynnwys preswylwyr o’n cynlluniau Byw â Chefnogaeth. Mae Cynnwys ODEL yn cynnig cyngor, cyfleoedd hyfforddi a chefnogaeth, ac mae’n cyfeirio pobl at asiantaethau eraill a all helpu i fodloni eu hanghenion unigol. Galluogodd Rhaglen Gwirfoddolwyr Cynnwys ODEL 12 wythnos i’r rhai a gymerodd ran gael cymhwyster achrededig mewn gwasanaeth cwsmeriaid a helpu i gynyddu eu hymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch a therfynau yn y gweithle. Cynigiwyd profiad gwaith ymarferol hefyd, a arweiniodd yn y pen draw at weld nifer o’r rhai a gymerodd ran yn cael gwaith, gan gynnwys un o staff Tîm Cynnwys ODEL ei hun.

Gan weithio gyda’n contractwyr Anwyl a Keepmoat, trefnwyd sesiynau ‘Parod am Waith’ i breswylwyr sy’n byw yn ein cynlluniau Byw â Chefnogaeth, gan roi cyngor ymarferol a chyfarwyddyd iddynt ar ysgrifennu eu CV, ac awgrymiadau wrth ymgeisio am swyddi a mynd i gyfweliadau.

9


Cydnabod Llwyddiannau Llwyddodd nifer o’n staff a phreswylwyr i gyrraedd rhestrau byrion a/neu ennill gwobrau dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gydnabod y cyfraniad a wnaethant at eu cymunedau lleol ac annog ymdeimlad o falchder ac ysbrydoli eraill. Llongyfarchiadau i’r canlynol:

à Fel rhan o Seremoni Gwobrau Cenedlaethol TPAS (Cymru) 2016, sy’n cydnabod rhagoriaeth mewn gwasanaethau tai:

à Enillodd ein Partneriaid Ansawdd y ‘Wobr Gwella Gwasanaethau’ gyda’n tîm yn cael ei ddisgrifio fel “llysgenhadon rhagorol dros gynnwys preswylwyr yn Clwyd Alyn”.

à Derbyniodd ein rhaglen o weithgareddau a gweithdai ‘Digidol yn Ddiofyn’, a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Julie Ferns, o Keepmoat, y wobr ‘Cynhwysiant Digidol ’.

à Enillodd Greenbank Villas, ein cynllun Byw â Chefnogaeth yn y Fflint y wobr gyffredinol am ‘Gyfranogiad mewn Cefnogaeth yn Gysylltiedig â thai’, a dod yn ail am y categori ‘Tîm Staff y Flwyddyn’.

à Cydnabuwyd ein gwaith i gefnogi a chynorthwyo pobl â dementia hefyd gan i ni gael Statws Cyfeillgar i Ddementia trwy ein gwaith yng Nghaffi’r Hen Lys a’n cynllun tai gofal ychwanegol sydd i’w gwblhau yn fuan, Llys Raddington yn y Fflint. Trefnwyd nifer o ddigwyddiadau Cyfeillgar i Ddementia gan y Gymdeithas Alzheimer i breswylwyr a staff yn Nhan y Fron yn Llandudno; Plas Telford yn Wrecsam; a Chaffi’r Hen Lys yn y Fflint. Dywedodd y rhai a fu yno bod y digwyddiadau yn rhagorol – yn y cynyddu ymwybyddiaeth o dementia ac yn helpu i newid y ffordd y mae pobl yn meddwl, siarad ac ymddwyn, sy’n bwysig o ystyried bod rhyw 45,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi ein cefnogi ni a chymryd rhan yn ein gweithgareddau dros y flwyddyn ddiwethaf – edrychwn ymlaen at weithio gyda chi i gyd eto yn ystod y blynyddoedd i ddod.

10


Cyrraedd Disgwyliadau a Bodlonrwydd Cwsmeriaid Mae’r tîm staff yn PenAlyn wedi cael blwyddyn arall brysur a chynhyrchiol yn cynnig gwasanaethau cynnal a chadw ymatebol ac wedi eu cynllunio i’n preswylwyr. Fel rhan o benderfyniad y Grŵp i resymoli ei strwythur llywodraethu, aeth PenAlyn Cyf yn gwmni cwsg fis Hydref diwethaf a throsglwyddwyd Gwasanaethau Cynnal a Chadw PenAlyn i Clwyd Alyn. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cynnal ein hymrwymiad i wella cyflawni gwasanaeth a chynyddu cynhyrchiant, gan gynyddu bodlonrwydd cwsmeriaid a gwireddu effeithlonrwydd wrth i gyfartaledd y costau leihau o flwyddyn i flwyddyn. Mae ein llwyddiannau wedi cynnwys:

à Cyllideb £8.3 miliwn wedi ei chyflawni à Arbediad o fwy na £105,000 yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o gaffael contractau a deunyddiau

à 283 cegin a 184 ystafell ymolchi wedi eu newid à 186 bwyler cyfradd ‘A’ effeithlon o ran ynni wedi eu gosod à 49 eiddo wedi cael ffenestri newydd ac 111 wedi cael drysau newydd à 20,220 o archebion gwaith wedi eu cwblhau à 6,362 arolygiad rheoli asedau wedi eu cynnal, gan gynnwys arolygon cyflwr stoc

à Roedd 100% o’r stoc tai yn cadw at Safonau Ansawdd Tai Cymru ar 31 Mawrth 2017, gan gynnwys methiannau derbyniol.

à 2 swydd Peiriannydd Trydanol wedi eu creu à 2 Brentis, Cynorthwyydd Cydymffurfio Data a 7 Glanhawr Cynllun newydd wedi eu penodi

à Roedd y bodlonrwydd cyffredinol â’r gwasanaeth cynnal a chadw yn parhau yn gyson uchel ar tua 98% o ran safon y gwaith trwsio ac ymddygiad y contractwyr. Mae’r Tîm hefyd wedi gwneud arbedion sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf trwy symud oddi wrth drefniadau llogi fflyd a buddsoddi mewn 30 fan ar gyfer y tîm cynnal a chadw a thrwsio mewnol. Yn dilyn adolygiad hyfywedd manwl, fe wnaethom hefyd gytuno i ddwyn y Gwasanaethau Glanhau yn fewnol i roi mwy o reolaeth dros ansawdd y gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu a lleihau ein costau gweithredu, sydd yn eu tro yn ein helpu i godi taliadau gwasanaeth is ar ein preswylwyr. Wrth gydnabod pwysigrwydd cefnogi’r gymuned leol, roedd Tîm PenAlyn yn falch iawn o greu cysylltiad rhwng Tîm Pêl-fasged Cadair Olwyn Conwy Thunder, â’n partneriaid cyflenwi, Travis Perkins, fel rhan o’r Bartneriaeth Legacy gyda Grŵp Tai Pennaf. Yn ogystal â chael budd o rodd o £2,500 gan Travis Perkins, heriodd Conwy Thunder Dîm PenAlyn i ymuno yn eu sesiwn hyfforddi. 11


Mae ein Pobl yn Gwneud Gwahaniaeth Lle Gwych i Weithio

Datblygu Ein Pobl

Mae’r Grŵp yn dal i dyfu ac ar hyn o bryd mae’n cyflogi dros 700 o staff ar sail llawn amser, rhan-amser, dros dro a rhyddhau mewn amrywiaeth eang o swyddi ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru. Mae dal ati i ddarparu’r gwasanaeth gorau un i’n cwsmeriaid ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau yn parhau yn un o’n prif flaenoriaethau ac mae tystiolaeth o’n llwyddiant yng nghanlyniadau arolwg bodlonrwydd STAR, lle’r oedd:

Mae ein hymrwymiad parhaus i fuddsoddi yn hyfforddiant a datblygiad y staff, ynghyd â’n pwyslais parhaus ar Ragoriaeth o ran Gwasanaethau Cwsmeriaid, yn ein helpu i sicrhau effaith cadarnhaol ar gyflawni gwasanaethau ymatebol ac o ansawdd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae nifer o ddarpar Reolwyr a rheolwyr cyfredol wedi cwblhau un o’n Rhaglenni Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheoli (ILM) sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol, sy’n cael ei redeg ar y cyd â Choleg Cambria a Grŵp Llandrillo Menai. Mae hyn wedi helpu i ddatblygu sgiliau, hyder, profiad ac arbenigedd ein staff ymhellach wrth iddynt gael gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd arwain timau effeithiol sydd wedi eu hysgogi, a rheoli perfformiad i wasanaethu ein cwsmeriaid yn well.

à 90% o’r ymatebwyr yn teimlo bod ein staff yn barod i helpu

à 93% o’r ymatebwyr yn teimlo bod ein staff yn gyfeillgar a hawdd mynd atynt Mae hyn yn tystio i ymrwymiad a chefnogaeth ein staff sgilgar iawn, ac mae clod yn ddyledus i’n holl staff sy’n gweithio ar bob lefel trwy’r sefydliad cyfan am eu cyfraniad i wneud Pennaf yn lle gwych i weithio.

12

Arweiniodd pumed flwyddyn ein Strategaeth Hyfforddi a Chyflogi ‘Meithrin Eich Hun’ at 24 lleoliad profiad gwaith, 11 o gyfleoedd prentisiaeth a sefydlu 2 swydd hyfforddai, gan helpu i gefnogi unigolion i ddatblygu eu gwybodaeth, sgiliau a hyder. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran, gan gynnwys Yvonne Cole, ar gael Gradd Sylfaen mewn Tai a Chymunedau Cynaliadwy.


Ein Hymrwymiad i Gynhwysiant

Her Elusen Gorfforaethol – ‘Codi’r To’

Mae’r Grŵp wedi ymrwymo i ddileu gwahaniaethu a sicrhau cydraddoldeb cyfle ym mhob agwedd ar ein rhyngweithio gyda rhanddeiliaid. Adlewyrchir ein hymrwymiad i dderbyn gwahaniaethau a thrin pawb yn deg yn ein Hegwyddorion Craidd, ac mae gennym Bwyllgor penodedig sydd â chyfrifoldeb am ddatblygu cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a’r Gymraeg ar draws y sefydliad. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae swyddogion wedi bod yn gweithio ar ddatblygu Strategaeth Gynhwysiant i’r Grŵp, a fydd yn canolbwyntio ar chwe ffrwd gwaith allweddol - nodweddion a ddiogelir, darparu gwasanaeth dwyieithog, cynhwysiant ariannol, cynhwysiant digidol, iechyd a lles, a bod heb waith - a bydd yn cwmpasu ein tenantiaid, preswylwyr, staff, Aelodau’r Bwrdd a gwirfoddolwyr.

Adlewyrchir ymrwymiad y Grŵp i wneud gwahaniaeth yn ein Her Elusen Codi’r To er budd Cancer Research UK. Dros y flwyddyn ddiwethaf, codwyd £9,704.60 ychwanegol diolch i gefnogaeth a brwdfrydedd ein staff, a wynebodd sawl her o bobi cacennau, dyddiau gwisgo’n anffurfiol; rafflau i ddigwyddiadau chwaraeon; ac ymuno yn y digwyddiad ‘Troi Tesco yn Binc’ blynyddol.

13

Erbyn hyn mae’r staff wedi codi cyfanswm rhyfeddol o £20,094.92 ers i ni lansio’r Her yn 2013. Diolch i haelioni pawb sydd wedi cefnogi ein holl ddigwyddiadau a gweithgareddau ar draws y rhanbarth, rydym yn helpu Cancer Research UK i barhau i ddarganfod ffyrdd newydd o atal, canfod a thrin canser yn y dyfodol.


Byrddau Rheoli ar 31 Mawrth 2017

Grŵp Tai Pennaf Mrs Eurwen H Edwards Llywydd Anrhydeddus

Mae’r cyfrifoldeb am reoli Grŵp Tai Pennaf a’i aelodau yn y pen draw yn nwylo’r Byrddau Rheoli perthnasol, sy’n cynnwys Aelodau sy’n cael eu hethol yn flynyddol. Mae gan aelodau’r Byrddau gyfoeth o sgiliau a phrofiad a gafwyd dros flynyddoedd lawer, ac maent yn cynnig eu gwasanaethau a’u harbenigedd i’r Grŵp yn hollol wirfoddol.

Pennaf Cyfyngedig

Cymdeithas Tai Clwyd Alyn Cyfyngedig

Mr Stephen Porter - Cadeirydd Mr Peter Lewis - Is-gadeirydd Mrs Sara Mogel Dr Sarah Horrocks Mr Paul Robinson Mr Mike Hornsby Mr Graham Worthington

Dr Sarah Horrocks - Cadeirydd Mrs Eirwen Godden - Is-gadeirydd Mr Peter LaTrobe Mr Harold Martin Mr Peter Lewis Mrs Ruth Collinge Mrs Sandy Mewies Mr Aaron Osborne-Taylor Mrs Sara Mogel

Tir Tai Cyfyngedig

Cymdeithas Tai Tŷ Glas Cyfyngedig

Mr Mike Hornsby - Cadeirydd Mr Paul Robinson Mr Peter Lewis Dr Sarah Horrocks Mrs Sara Mogel

Mr Paul Robinson - Cadeirydd Mr Frazer Jones - Is-gadeirydd Mrs Sara Mogel Mrs Eileen Stevens Mr Owen Watkins Dr Ian Gardner Mrs Lisa Lovegrove

01978 714180

01745 538300

Swyddfa Llanelwy Swyddfa Gofrestredig ar gyfer Pennaf, Clwyd Alyn, Tŷ Glas, Offa, Tir Tai, PenAlyn a PenElwy, 72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy Sir Ddinbych LL17 0JD

PenCartref Ystad Ddiwydiannol Rhosddu, Rhosddu, Wrecsam LL11 4YL

www.pennafgroup.co.uk

Hoffwch ni: facebook.com/PennafHGroup youtube.com/user/PennafHGroup

Dilynwch ni: @PennafHGroup pennafhousinggroup

Mae Clwyd Alyn a Tŷ Glas yn rhan o Grwp Tai Pennaf ac yn Gymdeithasau Cofrestredig elusennol

14


Grŵp Tai Pennaf CYFRIFON BLYNYDDOL 2016 – 17 Mae’r rhain yn seiliedig ar Gyfrifon Grŵp Tai Pennaf fel y cawsant eu harchwilio gan yr Archwilwyr. CRYNODEB O INCWM £ MANTOLEN 31 Mawrth 2017 Asedau £ Rhenti 22,494,804 Stoc Tai 349,800,934 Taliadau Gwasanaeth 12,083,644 Asedau Sefydlog Eraill 3,374,144 Llogau i’w Derbyn 24,390 Buddsoddiadau Asedau Sefydlog 2,593,189 Incwm Arall 3,486,419 Stoc 125,322 Cyfanswm 38,089,257 Dyledwyr 3,157,143 Arian Parod a Buddsoddiadau 31,082,912 Rhwymedigaethau Presennol (15,815,154) Cyfanswm 374,318,490

31 Mawrth 2016 £ 333,954,938 3,383,459 2,549,779 94,680 3,028,543 9,943,975 (11,387,459) 341,567,915

CRYNODEB O £ MANTOLEN 31 Mawrth 2017 31 Mawrth 2016 WARIANT Ariennir gan: £ £ Llogau Taladwy 6,581,050 Benthyciadau a Grantiau 358,918,075 329,989,398 Rheoli 3,847,196 Cronfa Cyffredinol Wrth Gefn 15,375,925 145 Taliadau Gwasanaeth 12,812,817 Cronfa Cyfyngedig Wrth Gefn 24,490 11,578,372 Cynnal a Chadw 6,433,359 Cyfanswm 374,318,490 341,567,915 Arall 4,617,285 Cyfanswm 34,291,707

Sylwer mai ffigyrau’r Grŵp yw’r rhain yn ymgorffori Cyfrifon Incwm a Gwariant a Mantolenni Pennaf, Clwyd Alyn, Tŷ Glas, Offa a Tir Tai, Pen Alyn a PenElwy. I gael dealltwriaeth lawn o sefyllfa ariannol pob aelod o’r Grŵp, dylid astudio’r Datganiadau Ariannol llawn. Mae copïau o’r Datganiadau Ariannol ar gael os gofynnir amdanynt gan Ysgrifennydd y Cwmni.

Roedd yr adroddiad Barn Reoleiddiol ddiwethaf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2016 yn mynegi bod ‘Grŵp Tai Pennaf yn parhau i fod yn gadarn yn ariannol. Ein dyfarniad hyfywedd ariannol yw LLWYDDO. Mae’r Grwp wedi cryfhau ei hydwythedd yn sylweddol dros y 12 mis diwethaf. Mae pwyslais uchel wedi cael ei roi ar brofi straen manwl a chynllunio adfeddiant gyda camau sylweddol yn cael eu gwneud at gyflawni Cofrestr o Asedau ac Atebolrwydd.’ 15


Perfformiad - Ffeithiau a Ffigurau Dyma grynodeb o berfformiad y Grŵp yn ystod 2016-17:

990

NIFER Y CARTREFI OSODWYD NO OF PROPERTIES LET

2.20 CYFARTALEDD WYTHNOSAU GYMERWYD I AIL-OSOD TAI GWAG AVERAGE WEEKS TAKEN TO RE-LET VACANT PROPERTIES

346 NIFER Y TAI ANGHENION CYFFREDINOL A CHYSGODOL OSODWYD NUMBER OF GENERAL NEEDS AND SHELTERED PROPERTIES LET

1.80% EIDDO GWAG: % CYFANSWM INCWM RHENTI GOLLWYD I GYMHARU A CHYFANSWM RHENTI GELLID EU CASGLU VOIDS: % TOTAL RENT INCOME LOST COMPARED WITH TOTAL RENT COLLECTABLE

Ôl-ddyledion Gros ar gyfer y Grŵp Gross Arrears for the Group 2016 / 2017

2.48% - £649,531

2015 / 2016

2.23% - £563,041

Ôl-ddyledion Gros Tai Anghenion Cyffredinol Gross Arrears for General Needs Housing 2016 / 2017

2.60% - £463,048

2015 / 2016

2.29% - £354,749

£4,256,150

£639,343

£612,294

Wedi ei gynllunio Planned

Cylchaidd Cyclical

Gwariant ar Gynnal a Chadw Maintenance Spending

O ddydd-i-ddydd Day-to-day

£78.82

£85.32 Fflat 2 wely 2 bed flat

Fflat 1 gwely 1 bed flat

£94.69 Fflat 3 gwely 3 bed flat

£89.59 Tŷ 2 wely 2 bed house

£81.18

£99.58 Tŷ 3 gwely 3 bed house

Tŷ 1 gwely 1 bed house

£119.81 Tŷ 4 gwely 4 bed house

772

249

32

80

123

59

92

372

83

Cyfartaledd Rhenti Wythnosol ar gyfer Tai Anghenion Cyffredinol a Chysgodol Average Weekly Rents for General Needs and Sheltered Housing

Anghenion Cyffredinol (yn cynnwys Tai Cysgodol) General Needs (including Sheltered Housing) Rhenti Cyfryngol Intermediate Rents Rhan Berchnogaeth Shared Ownership DIYSO DIYSO DIYHO DIYHO Cymorth Prynu Home Buy Cynllun Daliadaeth ar gyfer Pobl Hŷn Leasehold Scheme for the Elderly Cytundebau Rheoli Management Agreements Gofal Ychwanegol Extra Care Gofal a Chefnogaeth Care & Support

3,788

Unedau o Stoc Units of Housing Stock

100% GOSODWYD TAI NEWYDD AR UNWAITH WEDI’U TROSGLWYDDO O DDATBLYGU I REOLAETH NEW PROPERTIES LET IMMEDIATELY ON HANDOVER FROM DEVELOPMENT TO MANAGEMENT


Performance - Facts & Figures Here is summary of the Group’s performance during 2016-2017:

Atgyweiriadau / Repairs £545 GWARIANT Y GYMDEITHAS YR UNED AR GYFARTALEDD AR REOLAETH TAI AVERAGE HOUSING MANAGEMENT EXPENDITURE PER UNIT

£1,311 GWARIANT CYFARTALOG AR GYNNAL A CHADW YR UNED AVERAGE MAINTENANCE EXPENDITURE PER UNIT

Atgyweiriadau

Repairs

Rhif y Diwrnodau y Cwblhawyd o Fewn No. of Days Completed Within

Nod Cyflawni’r Gwaith mewn Diwrnodau Target No. of Days for Completion of Work

Argyfwng

Emergency

0.77

1

Brys

Urgent

5.27

5

Heb-frys

Non-urgent

24.58

28

Bodlonrwydd gyda’n Gwasanaethau Satisfaction with Our Services 232 CANMOLIAETH A DDERBYNIWYD COMPLIMENTS RECEIVED

100% LEFEL BODLONRWYDD AR GARTREFI WEDI EU HADEILADU O’R NEWYDD SATISFACTION LEVELS WITH NEW BUILD HOMES

64% % PRESWYLWYR YN TEIMLO BOD CLWYD ALYN YN GWRANDO AC YN GWEITHREDU AR EU BARN % RESIDENTS FEEL CLWYD ALYN LISTENS AND ACTS ON THEIR VIEWS

111 CWYNION A DDERBYNIWYD COMPLAINTS RECEIVED

86.21% % PRESWYLWYR SYDD YN WELL GANDDYNT GAEL CLWYD ALYN YN LANDLORD % RESIDENTS WHO WOULD RECOMMEND CLWYD ALYN AS A LANDLORD

435 RHIF YR ACHOSION O YMDDYGIAD GWRTH-GYMDEITHASOL (YGG) DDERBYNIWYD NO OF ANTI-SOCIAL BEHAVIOUR (ASB) CASES RECEIVED

£104.66 COST ATGYWEIRIADAU O DDYDD I DDYDD AR GYFARTALEDD AVERAGE COST OF DAY TO DAY REPAIRS

146 ADDASIADAU WEDI EU GWNEUD GAN PENALYN A GAN DDEFNYDDIO GRANTIAU MÂN ADDASIADAU ADAPTATIONS UNDERTAKEN BY PENALYN AND USING PHYSICAL ADAPTATIONS GRANTS

96.92% SATISFACTION WITH THE REPAIRS SERVICE SATISFACTION WITH THE REPAIRS SERVICE

41 GWELLIANNAU WEITHREDWYD O GANLYNIAD I’R CWYNION A DDERBYNIWYD IMPROVEMENTS IMPLEMENTED AS A RESULT OF THE COMPLAINTS RECEIVED

84% % PRESWYLWYR YN FODLON AR EU HARDAL A’U CYMUNED % RESIDENTS HAPPY WITH THEIR NEIGHBOURHOOD AND COMMUNITY

69% % BODLONRWYDD GYDA YMATEB CLWYD ALYN I’R ACHOSION O YGG % SATISFACTION WITH THE WAY CLWYD ALYN HANDLED THE ASB CASES


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.