Agor Drysau – Gwella Bywydau
www.clwydalyn.co.uk www.tyglas.co.uk
Cylchlythyr y Preswylwyr – Haf 2017
Yn y rhifyn hwn: Td 3 Cynllun Gofal Ychwanegol – Ffurflenni cais ar gael rŵan
Td 4 Credyd Cynhwysol – Gwasanaeth llawn ar ei ffordd!
Td 6 a 7 – Arolwg STAR – ‘Chi’n deud, ni’n gwneud’ | Td 8 – Ein digwyddiadau cymunedol | Td 12 – Cystadlaethau
Rhadffôn: 0800 183 5757 neu 01745 536800 E-bost: enquiries@clwydalyn.co.uk Mae Clwyd Alyn a Tŷ Glas yn rhan o Grŵp Tai Pennaf ac yn Gymdeithasau Cofrestredig elusennol
Chwiliwch am y newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf ar Facebook a Twitter
CYNNWYS tudalen
Peidiwch ag anghofio edrych ar ein tudalennau Facebook a Twitter, lle byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd. Rhowch neges ar ein wal os byddwch am ofyn rhywbeth, darganfod rhagor am yr hyn sy’n mynd ymlaen yn eich cymdogaeth a beth yr ydym yn ei wneud yn eich cymuned. Rydym yn rhoi’r diweddaraf am wasanaethau hefyd yn ogystal â newyddion am y Grŵp, datblygiadau, swyddi gwag a digwyddiadau lleol. Hoffwch ni: facebook.com/PennafHGroup Dilynwch ni: @PennafHGroup
Gwaith trwsio argyfwng tu allan i oriau swyddfa ffoniwch: 0300 123 30 91
ÃÃ Ffurflenni cais ALLAN RŴAN ar gyfer ein Cynlluniau Gofal Ychwanegol
3
ÃÃCredyd Cynhwysol - Gwasanaeth llawn ar ei ffordd!
4-5
ÃÃ Arolwg STAR: ‘Chi’n deud, ni’n gwneud’
6-7
ÃÃ Digwyddiadau Cymunedol
8-9
ÃÃ Preswylwyr yn helpu i ddewis staff i Gymdeithas Dai
10
ÃÃ Ewch Ar-lein 10 ÃÃ Hysbysiad Ymlaen Llaw: 11 Diddymu’r Hawl i Brynu ÃÃ Cystadleuaeth
MANYLION CYSWLLT Rydym am gael clywed am eich newyddion lleol bob amser. Os oes gennych unrhyw erthyglau y byddech yn hoffi eu cynnwys yn y cylchlythyr nesaf, anfonwch nhw at Gareth gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.
01745 536843
gareth.hughesroberts@clwydalyn.co.uk
Hoffwch ni: facebook.com/PennafHGroup Dilynwch ni: @PennafHGroup
www.clwydalyn.co.uk
72 Ffordd William Morgan Parc Busnes Llanelwy Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JD
0800 183 5757 neu 01745 536800
2 Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Tŷ Glas – Haf 2017
12
Ffurflenni cais ALLAN RŴAN ar gyfer ein Cynlluniau Gofal Ychwanegol Mae Cymdeithas Tai Tŷ Glas, rhan o Grŵp Tai Pennaf, yn datblygu 3 Chynllun Gofal Ychwanegol, Hafan Cefni yn Llangefni, Llys Raddington yn y Fflint a Maes y Dderwen yn Wrecsam; gyda’i gilydd maent yn werth tua £26m ac maent yn hwb sylweddol i economi’r rhanbarth.
Mewn partneriaeth â
Hafan Cefni – Llangefni 63 o fflatiau Gofal Ychwanegol 1 a 2 ystafell wely o safon uchel ar rent, gyda chyfleusterau cymunedol. Mae 15 o’r fflatiau wedi eu dylunio a’u haddasu yn benodol ar gyfer pobl â phroblemau cof neu’n byw gyda dementia. www.hafancefni.co.uk
Mewn partneriaeth â
Llys Raddington – Y Fflint 73 o fflatiau Gofal Ychwanegol 1 a 2 ystafell wely o safon uchel ar rent, gyda chyfleusterau cymunedol. Mae 15 o’r fflatiau wedi eu dylunio a’u haddasu yn benodol ar gyfer pobl â phroblemau cof neu’n byw gyda dementia. www.llysraddington.co.uk
Mewn partneriaeth â
Maes y Dderwen – Wrecsam 60 o fflatiau Gofal Ychwanegol 1 a 2 ystafell wely o safon uchel ar rent, gyda chyfleusterau cymunedol. www.maesdderwen.co.uk
Os ydych chi’n 60 oed neu hŷn, a bod gennych anghenion o ran gofal a chefnogaeth, ac yn teimlo y byddech yn cael budd o fyw yn un o’n Cynlluniau Gofal Ychwanegol, gallwch gysylltu â ni yn y ffyrdd canlynol:
Ffurflen n cais ar g i ael rŵan.
Rhadffôn: 0800 183 5757 E-bost: enquiries@tyglas.co.uk www.tyglas.co.uk Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Tŷ Glas – Haf 2017
3
Credyd Cynhwysol Gwasanaeth llawn ar ei ffordd! Un taliad misol yw’r Credyd Cynhwysol (UC) i bobl sydd mewn gwaith neu heb waith.
Mae’n disodli rhai o’r budd-daliadau a chredydau treth y gallech fod yn eu cael yn awr: • • • • • •
Lwfans Ceisio Gwaith ar Sail Incwm Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar Sail Incwm Cymorth Incwm Credyd Treth Plant Credyd Treth Gwaith Budd-dal Tai
Hyd yn hyn mae Credyd Cynhwysol wedi bod ar gael mewn ardaloedd “gwasanaeth byw”, sy’n cynnwys y rhan fwyaf o ardaloedd lle mae gennym gartrefi, ar gyfer hawliadau gan geiswyr gwaith sengl, heb blant. Ond, mae rhai ardaloedd gwasanaeth byw yn awr yn cymryd hawliadau gan gyplau a theuluoedd â phlant hefyd. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyhoeddi, dros y 18 mis nesaf, y bydd eu “gwasanaeth digidol llawn” yn cael ei gyflwyno. Bydd pobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol ar y gwasanaeth byw ar hyn o bryd yn cael eu trosglwyddo i’r gwasanaeth llawn ynghyd â’r holl hawlwyr newydd.
Amserlen gwasanaeth llawn: • • • • • •
Ebrill 2017 – Sir y Fflint Hydref 2017 - Wrecsam Chwefror 2018 – Conwy Chwefror 2018 – Sir Ddinbych Mawrth 2018 – Ynys Môn Mehefin 2018 – Powys
Awyr Sioe ennau ’r Rhy 26/27 Awst l – Pethau
4 Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Tŷ Glas – Haf 2017
Am D dim
i’w gw neu
d yng
Rhai pethau y dylech chi eu gwybod am Gredyd Cynhwysol • Os byddwch chi yn cael help gyda’ch rhent, bydd hyn yn cael ei gynnwys yn eich taliad misol – byddwch chi’n talu’n uniongyrchol i’ch landlord wedyn. Ond, mewn rhai amgylchiadau gall rhent gael ei dalu yn uniongyrchol i’ch landlord. • Os ydych yn byw gyda rhywun fel cwpl â’ch bod chi eich dau yn gymwys i hawlio Credyd Cynhwysol, byddwch yn cael un taliad cyfun i un cyfrif banc. • Telir Credyd Cynhwysol yn fisol yn ôl ac felly gall gymryd hyd at chwe wythnos ar ôl i chi hawlio i chi gael eich taliad cyntaf. • Nid oes unrhyw gyfyngiad ar faint o oriau’r wythnos y gallwch eu gweithio os byddwch yn hawlio Credyd Cynhwysol. Yn hytrach, bydd y swm y byddwch yn ei dderbyn yn gostwng yn raddol wrth i chi ennill rhagor, felly ni fyddwch yn colli eich holl fudd-daliadau ar unwaith. • Yn y rhan fwyaf o achosion, rhaid i chi hawlio ar-lein. • Pan fyddwch yn derbyn Credyd Cynhwysol bydd gennych gysylltiad â hyfforddwr gwaith a all eich helpu gyda phethau fel, dod o hyd i waith, cynyddu’r oriau yr ydych yn eu gweithio, bod yn fwy parod ar gyfer gwaith trwy ddysgu sgiliau gwaith newydd neu sgiliau bywyd. Mae eich helpu i wella eich incwm yn ganolog i’r gwasanaeth Credyd Cynhwysol.
Esbonio’r taliad Credyd Cynhwysol ymhellach • Os byddwch chi yn hawlio Credyd Cynhwysol o’r newydd, ni fyddwch yn cael eich talu am y saith niwrnod cyntaf. Gelwir y rhain yn ddyddiau aros. • Peidiwch â gadael i hyn eich atal rhag hawlio a gwneud cais cyn gynted at y bydd gennych hawl i wneud hynny gan y gall gymryd hyd at chwe wythnos ar ôl eich hawliad i’ch taliad cyntaf gyrraedd eich cyfrif. • Y seithfed diwrnod ar ôl i chi gyflwyno’ch hawliad yw’r dyddiad o’r mis pan fydd eich Taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu bob mis. Gelwir hyn yn eich dyddiad asesiad.
• Telir Credyd Cynhwysol yn fisol fel ôl-ddyled felly bydd raid i chi aros un mis calendr o’ch dyddiad asesiad cyn i’ch taliad Credyd Cynhwysol cyntaf gael ei wneud. Gelwir hyn yn gyfnod asesiad. • Yna bydd raid i chi aros hyd at saith niwrnod i’r taliad gyrraedd eich cyfrif banc. • Mae hyn yn golygu y gall gymryd hyd at chwe mis cyn i chi gael eich taliad cyntaf.
Enghraifft: Mr Jones • Roedd Mr Jones wedi colli ei swydd ac mae’n cyflwyno hawliad am Gredyd Cynhwysol ar 15 Gorffennaf. • Rhaid iddo aros saith niwrnod cyn y gall ei hawliad gychwyn. • Ei ddyddiad asesiad felly yw 22 Gorffennaf. Bydd hyn yn golygu y bydd yn cael ei dalu ar y 22 o bob mis. • Bydd arno angen aros am un cyfnod asesu (sef mis calendr) hyd 22 Awst oherwydd mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu yn fisol fel ôl-ddyled. • Rhaid iddo hefyd adael hyd at saith niwrnod i’r arian gyrraedd ei gyfrif. • Dylai ddisgwyl ei daliad cyntaf o Gredyd Cynhwysol ddim hwyrach na 29 Awst. • Os yw 29 Awst yn ddydd Llun Gŵyl y Banc, dylai dderbyn taliad ar y diwrnod gwaith olaf (dydd Gwener) cyn y gwyliau.
Pryd fydd y cyfnod aros saith niwrnod yn berthnasol Ni fydd y cyfnod aros saith niwrnod yn berthnasol os, er enghraifft y byddwch: • Wedi hawlio Credyd Cynhwysol yn y chwe mis diwethaf • Yn gwahanu oddi wrth rywun neu yn symud i fyw at rywun sydd eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol • Yn symud i fod ar Gredyd Cynhwysol ar ôl bod ar fudd-dal arall • Yn dioddef salwch terfynol • Yn fregus, er enghraifft, eich bod wedi dioddef trais domestig yn ddiweddar neu yn gadael gofal carchar
Dylai eich taliad cyntaf fynd i’ch cyfrif ddim hwyrach na phum wythnos ar ôl i chi hawlio. Am ragor o wybodaeth am hawlio Credyd Cynhwysol ewch i:
https://www.gov.uk/universal-credit https://www.citizensadvice.org.uk/benefits/universal-credit/ neu Cysylltwch ag un o’n Swyddogion Hawliau Lles a Chyngor Ariannol ar 0800 183 5757. Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Tŷ Glas – Haf 2017
5
Arolwg STAR: ‘Chi’n deud, ni’n gwneud’ Efallai eich bod yn cofio, yn ystod misoedd yr haf y llynedd, bod arolwg bodlonrwydd trwy’r landlord cyfan i’r Preswylwyr wedi ei gynnal ar y gwasanaeth yr ydych yn ei dderbyn (a elwir yn STAR). Ers hynny rydym wedi bod yn gweithio ar ein cynlluniau gweithredu i ymdrin â’r materion a godwyd gan Breswylwyr.
bych n i D Sioea Fflint im dd wst 17 A
– Am
d yng
u gwne w ’ i u Petha
PenAlyn – System Apwyntiadau Newydd! 6 Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Tŷ Glas – Haf 2017
Yn y cyntaf mewn cyfres o adroddiadau am yr hyn yr ydym yn ei wneud i wella’r gwasanaethau yr ydych wedi mynegi pryder amdanynt, rydym yn edrych ar gynnal a chadw, o ddydd i ddydd a gwelliannau a gynlluniwyd. Ni fydd yn syndod i chi mai dyma’r maes gwasanaeth sydd o fwyaf o ddiddordeb i Breswylwyr a’r un yr ydym yn derbyn mwyaf o alwadau amdano, er enghraifft pan fyddwch yn rhoi adroddiad am waith trwsio.
S Hane afleoedd syddo l Cadw Pl ant a
Pethau
m dd
im
i’w gw neud yng
Felly, beth ydyn ni’n ei wneud yn y maes hwn? Isod rydym yn nodi rhai o’r problemau mawr sy’n cael eu trin ar hyn o bryd sy’n deillio o’r arolwg STAR:
Treialu System Apwyntiadau Dywedodd preswylwyr wrthym y byddent yn hoffi gweld gwelliant mewn cyfathrebu a dull mwy hyblyg o ymdrin â gwaith trwsio a chynnal a chadw. Ar hyn o bryd rydym yn gweithredu system gyda blaenoriaethau o 24awr, 5 a 28 diwrnod, yn aml heb i Breswylwyr fod ag apwyntiad wedi ei drefnu. Ar hyn o bryd mae PenAlyn yn gweithio ar system apwyntiadau newydd, i bob swydd newydd gael ei dyrannu ar y cyswllt cyntaf ac i’r Preswyliwr gael gwybod am y dyddiad pan fydd y gwaith hwn yn cael sylw/ei archwilio.
Cynlluniau Gwella Cartrefi Dywedodd preswylwyr wrthym hefyd bod angen i ni gyfathrebu yn well pan fydd gwaith mawr fel cegin ac ystafelloedd ymolchi newydd neu waith peintio cylchynol yn cael eu cynnal ar eu cartrefi. Bydd y Cynllun Gwella Cartrefi newydd (HIP) yn gallu dynodi pa welliannau sydd angen eu gwneud a’r flwyddyn y byddant yn cael eu cyfnewid fel y bydd yn effeithio ar eich cartref, fel eich bod yn gallu bod yn sicr bod y gwaith buddsoddi wedi ei drefnu. Rydym yn rhagweld y byddwn yn cyflwyno HIP i’n Preswylwyr o 2018 ymlaen.
Arolygon Trafodion STAR: Olrhain Sut y Mae Bodlonrwydd yn Gwella Mae cyfathrebu yn allweddol i’n llwyddiant wrth godi lefelau bodlonrwydd. Er mwyn gwella hyn, rydym yn cynnal arolygon ar ôl i chi dderbyn gwasanaeth gennym ni (a elwir yn arolygon trafodion) i ddod o hyd i unrhyw broblemau neu bryderon sydd gennych yn syth a’u datrys. Mae’r canlyniadau hyn wedyn yn cysylltu yn ôl â’n harolwg STAR fel ein bod yn gallu olrhain unrhyw welliannau o ran bodlonrwydd.
Gwasanaeth glanhau ‘mewnol’ newydd Roedd y bodlonrwydd ar y gwerth am arian am y taliadau gwasanaeth yr ydych yn eu talu yn isel ar ddim ond 71%, felly rydym wedi edrych ar ddwyn agweddau ohono ‘yn fewnol’ i sicrhau bod gennym fwy o reolaeth ar y modd y mae gwasanaethau yn cael eu cyflawni. Felly, o’r 1 Mai 2017, mae PenAlyn wedi cymryd drosodd glanhau ardaloedd cymunedol yn ogystal â glanhau ffenestri, y telir amdanynt o’r tâl gwasanaeth. Dywed PenAlyn eu bod wrth eu boddau yn cael y cyfle i roi gwasanaethau ychwanegol i Breswylwyr ac i gyflawni gwasanaeth eithriadol gyda’r pwyslais ar y cwsmer. Cyn belled ag y mae glanhau ffenestri dan sylw, bydd y system polyn newydd yn cael ei gweithredu o’r ddaear heb fod angen ysgolion ac offer i gael mynediad, sy’n golygu y gall y system gael ei defnyddio bron ym mhob man ac ar unrhyw arwyneb. Gosodwyd tanciau dŵr ar eu cerbydau sy’n golygu nad oes raid i’r system gael ei chysylltu â chyflenwad trydan na dŵr gan ei gwneud yn gyfeillgar i’r amgylchedd, gan ddefnyddio dŵr yn unig a dim cemegolion. Bydd PenAlyn hefyd yn cyflawni tasgau glanhau a drefnwyd i gadw ardaloedd cymunedol yn lân, diogel ac yn bleser i fyw ynddynt. Byddwn yn monitro perfformiad yn barhaus i wneud gwelliannau a chynnwys Preswylwyr cyn i newidiadau gael eu gweithredu i sicrhau eu bod yn parhau i gael eu cynnwys ar bob cam wrth ddatblygu’r gwasanaeth hwn.
Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Tŷ Glas – Haf 2017
7
Digwyddiadau Cymunedol
Mae wedi bod yn gyfnod prysur eto, i lawer iawn o’n preswylwyr, diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan yn ein digwyddiadau cymunedol. Os hoffech ddarllen rhagor am y digwyddiadau cymunedol sy’n cael sylw ar yr hysbysfwrdd neu ddigwyddiadau eraill ewch i: www.clwydalyn.co.uk/news
Preswylw y dod at e r Helygain yn ig Bargen ilydd am sesiwn Yn Cymru. ni Orau gyda T PAS
Sesiwn cyn Gorlan yn nal a cha mynd yn
DA IAW N
!
Preswylwyr Cae glo yn m eu dodrefn a gafwyd trw Loteri Fawr
Sesiwn
ft yn Nant celf a chref
Mawr Court
CYSTADLEUAETH
ARDDIO
Gwledd i adar gwyllt
yn Llys y Wau n
Sut mae pethau yn yr ardd? A oes gennych chi ddiddordeb mewn dangos eich gardd i’n panel o feirniaid? Gallwch ymgeisio fel gardd unigol neu gallwch ymgeisio fel cynllun neu stad yn y categori cynllun. Eleni rydym hefyd wedi ychwanegu adran basgedi crog/ potiau a chlwt llysiau/rhandir gorau (ond nid ydym yn beirniadu cynnyrch unigol ar eu pen eu hunain).
8 Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Tŷ Glas – Haf 2017
Children from Saltney, enjoying fresh air and fun at a ‘Nature and Wellbeing event’.
adw beicia u yn Y n dda
byddiaeth y w m Y n Sesiw i Aelodau Dementia Gwella or ein Pwyllg u tha Gwasanae
niwrnod n y u lp e ol yn h Plant lle ehill Brynteg Ros tacluso
GW
YCH
!
mwynhau wy gyllid
iwr MaeD s Prenod statyn 18 Aw st
Pethau dio brosiect gard Cefnogaeth i Preswylwyr
– Am
Parti cymunedol i Breswylwyr Holways
Ddim
i’w gw neud yng
Bydd gwobr ariannol o £40 i’r enillydd ym mhob categori, ail wobr o £20 a £10 am ddod yn drydydd.
1 Medi 2017, gan roi gwybod i ni pa gategori yr ydych am ymgeisio ynddi.
Hefyd rydym yn annog pobl i anfon eu lluniau eu hunain i mewn, rhai digidol os yn bosibl, fel eich bod yn medru gwneud yn siŵr eich bod yn medru dangos eich ymgais ar ei gorau.
Os nad ydych yn gallu anfon eich lluniau i mewn, peidiwch â phoeni. Gallwch gysylltu â Gareth Hughes-Roberts ar: 01745 536843 a byddwn yn trefnu bod llun eich ymgais yn cael ei dynnu
Felly, y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw anfon eich llun digidol at: gareth.hughesroberts@clwydalyn.co.uk cyn gynted ag y byddwch yn gallu, gyda dyddiad cau o
Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Tŷ Glas – Haf 2017
9
Preswylwyr yn helpu i ddewis staff i Gymdeithas Dai Mewn cynllun newydd, gofynnwyd i wirfoddolwyr o blith y preswylwyr ymuno â phaneli cyfweld pan fydd Cynghorwyr Gwasanaethau Cwsmeriaid yn cael eu penodi fel bod y Gymdeithas yn gallu sicrhau bod cwsmeriaid wirioneddol yn ganolog i’r gwasanaethau a ddarperir. Un o’r gwirfoddolwyr sydd wedi helpu gyda’r cyfweliadau yw Mike Bradshaw o Fwcle, Sir y Fflint. Meddai “Rwyf wedi bod yn un o breswylwyr Clwyd Alyn ers 25 mlynedd ac roedd yn rhagorol bod yn rhan o’r broses o gyfweld ymgeiswyr am swyddi yng Nghanolfan Gyswllt y Gymdeithas. Mae Cynghorwyr Gwasanaethau Cwsmeriaid ar y rheng flaen o ddifrif, yn aml iawn hwy yw’r unigolyn cyntaf yr ydym ni fel Preswylwyr yn cael cyswllt â nhw, felly roedd yn braf bod yn rhan o ddewis y bobl iawn ar gyfer y swyddi gwag,” Ychwanegodd Mike “Ar y dechrau, cyn y cyfweliadau, mae’n debyg fy mod yn fwy nerfus na’r ymgeiswyr ond fe wnaeth Cydlynydd y Ganolfan Gyswllt, Melody Blackwell-Jones a’r Cynghorydd Gwasanaethau Cwsmeriaid profiadol, Nicola Hall, fy ngwneud yn hollol gyfforddus. “Gyda’n gilydd fe aethom trwy’r cwestiynau yr oedd angen i ni eu trafod yn ogystal â sefyllfa brawf. Roedd yr holl ymgeiswyr o safon uchel ac felly roedd yn rhagorol gweld y modd trylwyr a theg yr oedd pob un yn cael sgôr yn y system pwyntiau, fel ein bod yn gallu sicrhau bod y bobl gywir yn cael eu dewis.” Cadarnhaodd Mel “Mae mor bwysig i’n cwsmeriaid gael mewnbwn wrth ddewis pwy sy’n cyflawni eu gwasanaethau ac mae hyn wedi bod mor llwyddiannus fel fy mod yn siŵr y gallwn barhau i wahodd ein gwirfoddolwyr i fod yn rhan o’r weithdrefn apwyntiadau yn y dyfodol.”
Yn y llun gwelir Mike Bradshaw, gyda, o’r chwith i’r dde: Mel Blackwell-Jones, Ann Cahill a Hayley Nicholson (yn eistedd yn y tu blaen), sef yr ymgeiswyr llwyddiannus a fydd yn ymuno â Thîm y Ganolfan Gyswllt.
Ewch Ar-lein Y Porth Preswylwyr Peidiwch ag anghofio cofrestru ar y Porth Preswylwyr. Bydd arnoch angen eich rhif cyfeirio tenantiaeth a rhif unigryw i gofrestru. Sylwer, ar ôl i chi gofrestru ar y porth, ni fydd arnoch angen defnyddio’r rhif hir, unigryw, achos unwaith y bydd eich cyfrif yn fyw, byddwch yn dewis eich cyfrinair eich hun i fewngofnodi bob tro. Os bydd gennych angen unrhyw help wrth gofrestru ar y Porth Preswylwyr cysylltwch â ni ar 0800 183 5757. Cadwch lygad ar y newyddion a digwyddiadau diweddaraf ar Facebook a Twitter Hoffwch ni: facebook.com/PennafHGroup Dilynwch ni: @PennafHGroup 10 Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Tŷ Glas – Haf 2017
Hysbysiad Ymlaen Llaw :
Parc BodaFferm fon Myn edia d Am
Ddim u i’w gwne ud yn g
Petha
Diddymu’r Hawl i Brynu Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu diddymu’r Hawl i Brynu, yr Hawl i Brynu a Gadwyd a’r Hawl i Gaffael i Denantiaid Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, (gan gynnwys preswylwyr Clwyd Alyn), ar ôl cyfnod o flwyddyn o leiaf yn dilyn y Cydsyniad Brenhinol i’r Mesur. Nid yw’r Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael yn weithredol ar Ynys Môn, yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych ar ôl i’r Awdurdodau Lleol ofyn am ei ohirio am 5 mlynedd. Mae hyn yn effeithio ar holl Breswylwyr Clwyd Alyn yn yr ardaloedd hynny yn awr. Wrth gyflwyno’r Mesur, nod Llywodraeth Cymru yw diogelu stoc Cymru o dai cymdeithasol rhag gostwng rhagor, gan sicrhau eu bod ar gael i ddarparu tai diogel, sicr a fforddiadwy i bobl nad ydynt yn gallu manteisio ar y farchnad dai i brynu neu rentu cartref. Er mwyn annog datblygu tai cymdeithasol newydd, bydd y Mesur, os caiff ei basio gan y Cynulliad, yn darparu y bydd yr Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael yn dod i ben ar gyfer cartrefi a adeiladir o’r newydd ddau fis ar ôl y Cydsyniad Brenhinol. Bydd hyn o help i annog landlordiaid cymdeithasol i adeiladu cartrefi newydd gan wybod na fyddant mewn perygl o gael eu gwerthu ar ôl cyfnod cymharol fyr o amser. Dylai’r holl Breswylwyr ddeall sut y mae Clwyd Alyn yn ymdrin â cheisiadau ar hyn o bryd ac yn ymwybodol o’r dyddiad pan ddaw’r Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael i ben.
Gallwn helpu trwy roi “Canllaw i Denantiaid” ffurfiol neu ateb unrhyw gwestiynau a anfonir trwy e-bost sales@clwydalyn.co.uk.
Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Tŷ Glas – Haf 2017 11
Cystadleuaeth Liwio’r Haf! Rieni! Ar ôl i’ch plentyn liwio’r llun, anfonwch y llun atom ni erbyn 1 Medi 2017, dychwelwch at Louise Blackwell, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, 72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, LL17 0JD. Cofiwch roi eich enw a’ch cyfeiriad a manylion cyswllt. Dim ond un ymgais gan bob plentyn, ond os oes gennych fwy nag un plentyn yn y teulu, naill ai defnyddiwch y fersiwn Gymraeg neu lungopi o’r gwreiddiol. Derbynnir llungopïau o’r delweddau gwreiddiol wedi eu lliwio. Bydd y gwobrau yn cynnwys talebau £10 a roddwyd gan Tesco. Mae un wobr i blant hyd at 6 oed ac un i blant rhwng 7 ac 11 oed. Bydd y gystadleuaeth yn cael ei beirniadu gan Claire Parry, Hyrwyddwraig Gymunedol Tesco’r Wyddgrug a Louise Blackwell, Swyddog Datblygu Cymunedol Clwyd Alyn.
Enw …………………………………………………..............
Cyfeiriad …………………………………………………..........
…………………………………………………....................................................
....................................................................................
E-bost …………………………………………………....................
Ffôn/Symudol................ ……………………………….....
12 Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Tŷ Glas – Haf 2017