CAL N Y CARTREF
CYLCHGRAWN CLWYDALYN I BRESWYLWYR
YN Y RHIFYN HWN
AWGRYMIADAU Da
• DIY
• Arbed arian
• Lleihau Biliau Ynni
Eich cip olwg ar ddiwrnod o ofal yn ClwydAlyn, yn tynnu sylw at rai o’r cyfleoedd gwych yr ydym yn eu cynnig i staff a phreswylwyr.
AM WEITHIO HEFO NI?
Dysgwch am rai o’r swyddi yn ClwydAlyn
CYFLE I ENNILL
Gallwch ennill talebau siopa trwy gymryd rhan yn ein cystadleuaeth hwyliog a thrwy rannu eich storïau a lluniau gyda ni.
Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol ClwydAlyn is a Charitable Registered Society
GWANWYN 2022
4 Dewch i gyfarfod Aelod o’r Pwyllgor Preswylwyr
5 Storïau preswylwyr:
5 - Ymweld â rhywle braf eleni?
6 - Ydych chi’n Effro i Sgamiau?
8 Newyddion Diweddaraf am Ddatblygiadau 9 Tai Fforddiadwy Rhentu i Brynu
Newyddion Cymunedol 12 Helpu Pobl i Gael Swyddi - Prosiect Search
14 Awgrymiadau Garddio, Tyfu eich hun 15 Uwchgylchu gyda Laura
16 Gwres neu Fwyta, Awgrymiadau da i arbed arian
17 Bag post - Ateb eich cwestiynau 17 Arbed Ynni Gartref
18 Diogelwch Cartref
Polisi Costau Taladwy
CIP OLWG AR...
Gofal yn ClwydAlyn
Ymarferwr Gofal - Llwybr Datblygu Gyrfa
Rysáit
Digwyddiadau Sy’n Dod
Chwiliwch am y gwahaniaeth ac anfonwch eich lluniau Pasg i ennill
EICH CROESO
EICH CROESO
EICH NEWYDDION
Cynnwys:
3 Croeso’r Golygydd Dylanwadwch
EICH
CYMUNED
10
EICH CARTREF
EICH
24
DIGWYDDIADAU SY’N DOD
EICH CYSTADLEUAETH
2
19
EICH
20
23
RYSÁIT
25
26
Croeso
Helo bawb a helo i’r Gwanwyn!
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr amser yma o’r flwyddyn – mae pob man yn edrych yn fwy golau; mae’r dyddiau’n hwy, ac mae natur yn dechrau dod yn fyw eto. Rwy’n gweld ei bod yn haws bod yn fwy prysur a mwynhau yn yr awyr agored. Gyda llawer o’r cyfyngiadau yn llacio rwy’n gobeithio y gallwn ni i gyd fwynhau misoedd y gwanwyn a’r haf gyda’n gilydd.
Mae ein rhifyn gwanwyn yn llawn o gefnogaeth i chi – mae gennym awgrymiadau da ar arbed arian, cadw’n ddiogel a chadw’n brysur. Fel arfer rydym wedi ychwanegu ychydig o hwyl gyda’ch cyfle i ennill talebau siopa trwy ein cystadlaethau. Wnaethoch chi fwynhau rhifyn y gaeaf? Gallwch roi gwybod i ni beth y byddech yn hoffi ei weld yn y cylchgrawn trwy gysylltu â mi yn bersonol.
Mae’r cylchgrawn hwn yn cael ei greu i chi, felly rydym angen sicrhau ei fod yn llawn o gynnwys yr ydych chi’n ei weld yn ddefnyddiol a diddorol.
Gallwch fy ffonio ar 07880431004 neu anfonwch e-bost at Laura.McKibbin@clwydalyn.co.uk
Laura x
#Dylanwadwch yw wyneb cynnwys preswylwyr a ffordd hawdd o roi gwybod i ni beth yw eich barn am ein gwasanaethau. Rydym yn chwilio am #Helpwyr ac #Adolygwyr.
Beth yw #Helpwr?
Bydd bod yn #Helpwr yn addas i chi os oes gennych lai o amser i’w roi, neu am gymryd llai o ran. Gallwch helpu trwy lenwi arolygon trwy negeseuon testun neu bost, neu trwy gyfryngau cymdeithasol.
Beth yw #Adolygwr?
Fel #Adolygwr byddwch yn chwarae mwy o ran, gall hyn fod yn fynychu cyfarfodydd / cynadleddau fideo. Rydym am i’n #Adolygwyr edrych ar beth sydd yn ei le yn awr, a yw hyn yn bodloni anghenion preswylwyr, ac i wneud argymhellion i wella pethau.
Sut gallaf ddod yn #Adolygwr neu #Helpwr?
Anfonwch e-bost: influenceus@clwydalyn.co.uk
Anfonwch neges uniongyrchol atom ar Twitter neu Facebook @ClwydAlyn Ewch i www.clwydalyn.co.uk/influence-us
Bydd enwau’r holl #Helpwyr ac #Adolygwyr sy’n cymryd rhan yn ein harolygon misol yn cael eu rhoi mewn raffl i ennill talebau siopa £100!
Rhaid i’ch enw fod i mewn i chi ennill!
EICH CROESO
3
Dewch i gyfarfod Aelod o’r Pwyllgor Preswylwyr
Gemma Minards
Mae Gemma wedi bod yn rhan o bwyllgor ClwydAlyn ers dros 2 flynedd erbyn hyn. Mae Gemma’n cynnig safbwynt gwych ac rydym yn gwerthfawrogi ei chyfraniad yn fawr.
Mae Gemma wedi rhoi cipolwg ar ei phrofiad o fod yn aelod o’r pwyllgor preswylwyr.
Beth wnaeth i chi fod eisiau ymuno â’r Pwyllgor Preswylwyr?
Roeddwn eisiau gallu cynyddu fy hyder, cael sgiliau a gwybodaeth newydd yn y sector tai a rhoi llais i’r holl breswylwyr.
A oeddech chi wedi bod ar unrhyw Fyrddau neu Bwyllgorau eraill o’r blaen?
Na, nid wyf wedi bod ar unrhyw fyrddau na phwyllgorau o’r blaen.
Pa agweddau o’r rôl ydych chi’n eu mwynhau fwyaf?
Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda’r pwyllgor ac yn codi llais i roi llais i breswylwyr ClwydAlyn i gyd.
A oedd unrhyw beth a wnaeth eich synnu?
Roedd yn rhyfeddol pa mor gefnogol oedd ClwydAlyn a’r cydymdeimlad oedd ganddynt o ran bod arnaf angen hyfforddiant, gofal plant a hyblygrwydd gan fy mod yn fam i dri o blant ifanc.
Fel preswyliwr beth yw’r peth pwysicaf i chi?
Cael cartref diogel, cynnes a fforddiadwy i’m teulu.
Beth yw eich gobeithion a’ch uchelgais ar gyfer ClwydAlyn?
Fe fyddwn wrth fy modd yn dod yn swyddog tai a pharhau i weithio gyda phreswylwyr i roi gwell gwasanaeth a chefnogaeth.
A oes unrhyw gyngor y byddech yn ei rannu hefo rhywun sy’n ystyried ymuno â’r Pwyllgor Preswylwyr yn y dyfodol?
Mae’r pwyllgor yn ffordd wych o gael hyder, sgiliau newydd, gwybodaeth a dealltwriaeth am bob agwedd o dai ac yn bwysicaf oll bod yn llais i holl breswylwyr ClwydAlyn er mwyn iddynt gael eu clywed a chael gwell gwasanaeth.
Os hoffech chi helpu i siapio’r gwasanaeth gan ClwydAlyn gallwch ymuno â #Dylanwadwch - yma cewch olwg ar ein pwyslais a’n blaenoriaethau am 12 mis. Gallwch gael dylanwad a chyfrannu at y newidiadau sy’n cael eu gwneud i wella ein gwasanaethau. Gallwch gyfrannu cymaint neu cyn lleied ag yr ydych yn dymuno. Ymunwch yma: https://forms.office.com/r/i2cv5KYwkn
EICH NEWYDDION
Ymweld
â rhywle braf eleni?
HANNA, UN O BRESWYLWYR CLWYDALYN
Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi cael effaith anferth ar y ffordd yr ydym yn hoffi treulio ein hamser rhydd. Rŵan bod y rheolau’n llacio, gobeithio y gallwn ni ddechrau mynd yn ôl at y pethau yr ydym yn mwynhau eu gwneud. Gall hyn fod yn daith yng Nghymru, aros yn y Deyrnas Unedig, diwrnod ar y traeth, gwyliau mewn dinas neu deithio ymhellach. Mae ein preswylwraig Hanna yn rhannu ychydig o wybodaeth am ei thref enedigol, ei diwylliant hardd a pham ei bod yn teimlo ei bod yn dref gwerth ymweld â hi.
Fy enw yw Hanna ac os ydych wedi darllen fy erthygl flaenorol, fe fyddwch yn gwybod fy mod o Wlad Pwyl. Hoffwn gyflwyno fy nhref enedigol i chi, Lublin, sydd â phoblogaeth o tua 340 000. Mae Lublin yn adnabyddus am ei Hen Dref drawiadol iawn - y rhan hon o’r dref sydd fwyaf hanesyddol, gyda thai o gyfnod y dadeni a chlasurol lliwgar ac addurnedig gyda nifer o fwytai, bariau a chaffis.
Mae adeiladau hanesyddol yn yr hen dref sydd yn sicr yn werth mynd i’w gweld - dyma i chi rai ohonyn nhw;
• Cadeirlan Fetropolitan o’r 17eg ganrif
• Tŵr y Drindod
• Castell Lublin
• Plac po Farze
Pan fyddwch yn ymweld â Lublin mae’n rhaid mynd i weld Gwersyll Rhyfel Majdanek. Un o wersylloedd difa’r drefn Natsiaidd oedd Majdanek. Nid yn unig roedd yn wersyll marwolaeth ond roedd hefyd yn wersyll i garcharorion rhyfel a gwersyll gwaith.
Rhywle arall i’w weld yn Lublin yw’r Amgueddfa Pentref Awyr Agored. Dyma un o’r amgueddfeydd awyr agored mwyaf yng Ngwlad Pwyl. Gallwch ddysgu am ffordd o fyw mewn pentref, gweld llawer o arddangosfeydd, darganfod pensaernïaeth hardd a thirluniau hyfryd.
Yng nghanol y ddinas fe welwch bensaernïaeth hyfryd o’r enw Canolfan i Ddiwylliannau Gyfarfod. Mae’n ganolfan ddiwylliannol gydag orielau, bariau, theatrau a sinema ar gyfer perfformiadau cerddorol. Mae adeilad yr oriel yn llawn o wydr – gallwch gerdded ar y to dros loriau gwydr i weld y dref.
I’r rhai sy’n hoffi natur, mae Gardd Saxon yn hardd iawn, yn agos at ganol y dref a’r Gerddi Botanegol. Mae’r ddau le yn berffaith i fynd iddyn nhw yn y gwanwyn/haf i fwynhau gweld y blodau yn blodeuo. Amseroedd gwych i weld bywyd gwyllt a natur.
Ac i’r rhai sy’n hoffi cwrw... mae gan Lublin ei Bragdy Perla ei hun ar Stryd Bernandynska sydd yn rhan arall hanesyddol o’r dref. Gallwch gael taith o gwmpas y bragdy i ddysgu am hanes bragu, esblygiad siâp y botel a labeli ac wrth gwrs gallwch brofi’r cwrw.
Mae Lublin yn rhanbarth pwysig ar gyfer diwylliant a gwyliau yn y ddinas ac mae wedi cael ei dewis yn Brifddinas Ieuenctid Ewrop yn 2023. Dyma fy nhref i ac rwy’n argymell ymweld â hi i ddarganfod ei hanes.
A oes gennych stori y byddech yn hoffi ei rhannu? Os felly, cysylltwch gan fod gennym awdur creadigol all lunio eich stori os nad ydych yn teimlo’n hyderus neu y byddech yn hoffi cael cefnogaeth i ysgrifennu eich erthygl.
AMSER CYSTADLU!
Rhannwch eich hoff rannau o Ogledd Cymru gyda ni, bydd yr holl gyrchfannau/luniau a ddefnyddir yn cael eu cynnwys yn ein rhifyn haf o Calon y Cartref a byddwch yn ennill taleb siopa £20.
EICH NEWYDDION
Hen Dref Lublin
Gwersyll Rhyfel Majdanek
Amgueddfa Pentref Awyr Agored
Gardd Saxon
5
STORÏAU PRESWYLWYR...
YDYCH CHI’N EFFRO I SGAMIAU?
SUSAN WILSON, AELOD O’R
PWYLLGOR PRESWYLWYR YN RHANNU EI PHROFIAD Â NI.
Ychydig cyn y Nadolig, ar 23 Rhagfyr, roedd yr aelod o’r pwyllgor preswylwyr Sue Wilson yn ddigon anlwcus i ddioddef dan law twyllwyr ar-lein ac mae’n adrodd ei hanes yma i helpu i gynyddu ymwybyddiaeth a diogelu eraill rhag profiad tebyg.
Meddai Susan, “Cefais ddiagnosis am gyflwr iechyd am 4pm y diwrnod hwnnw ac roeddwn mewn llawer o boen ac yn teimlo’n fregus. Am 7pm daeth neges trwy WhatsApp yn efelychu fy mab yn Swydd Efrog, yn gofyn i mi dalu bil i’w helpu dros gyfnod y Nadolig. Roedd popeth yn y neges yn swnio’n gredadwy, ond fe wnes i ei ffonio beth bynnag i wneud yn siŵr. Yn anffodus, gan ei fod yn gweithio yn y nos ochr yn ochr â’r heddlu aeth yr alwad trwodd i neges llais ac ni allwn siarad hefo fo. Yna fe wnes i wirio i ble’r oedd yr arian yn mynd a gweld bod y cwmni wedi cofrestru gyda’r FCA, oedd eto’n swnio’n ddigon credadwy.
Fe wnes i dalu’r arian, ond y diwrnod wedyn fe siaradais hefo’r mab a sylweddoli fy mod wedi dioddef sgam. Roeddwn yn teimlo’n bryderus iawn gan fy mod wedi gwneud popeth allwn ni i wirio pethau. Roedd y twyllwyr wedi hacio i fy nghyfrif WhatsApp ac anfon neges yn dechrau ‘Hi mum’ ac ati, oedd yn swnio mor debyg i fy mab.
Mae fy manc wedi ysgrifennu i ddweud eu bod yn ymchwilio, ond nid oes unrhyw sicrwydd y byddaf yn cael ad-daliad yn llawn neu hyd yn oed yn rhannol. Rwyf wedi gorfod gwneud addasiadau i fy helpu i leihau fy miliau oherwydd fy sefyllfa ariannol anffodus. Nid yr arian rwyf wedi ei golli yw’r unig beth, ond y ffaith bod rhywun wedi gallu bod mor greulon. Mae wedi digwydd i lawer o bobl dros y Nadolig.
Roeddwn mewn lle tywyll ar y diwrnod hwnnw ac yn anffodus yn fwy bregus nag arfer. Fe wnaethon nhw roi pwysau arnaf ac roeddwn yn anlwcus iawn fy mod wedi cael fy nhargedu.
Rwy’n meddwl, trwy wneud pobl yn ymwybodol ohono y gall helpu llawer. Ers iddo ddigwydd rwyf wedi rhoi’r hanes ar ‘Next Door’, gwefan ar gyfer fy ardal leol a’m cyngor yw o ran y math yma o sgam yw peidio â gwneud dim nes byddwch wedi siarad â’r unigolyn yr ydych yn meddwl bod y neges ganddo. Gobeithio y bydd fy stori i yn helpu i wneud mwy o bobl yn ymwybodol a gwybodus am bethau sy’n digwydd.”
Mae llawer o ffyrdd gwahanol y gallwch gael eich sgamio - rhannodd un o’n haelodau staff sut y mae wedi cael profiad o’r fath trwy lythyr gan CThEM. Cyrhaeddodd y llythyr yn yr amlen frown arferol ac roedd yn cynnwys y manylion personol oedd yn gwneud i’r llythyr ymddangos yn un dilys. Roedd y llythyr yn awgrymu bod ôl-daliad yn ddyledus am bron i £200 o 2007. Ar ôl rhannu cynnwys y llythyr gyda ffrindiau a theulu daeth yn amlwg ei fod yn sgam. Mae tudalennau llythyrau gan CThEM yn cael eu rhifo fel arfer, ond yn yr achos hwn, nid oeddynt. Roedd cod y llythyr hefyd yn mynd dros ochr y dudalen ac ar ôl rhoi’r rhif ffôn yn Google, roedd yn ymddangos ei fod wedi cael ei gofnodi o’r blaen fel rhif sgam.
Gall unrhyw un ddioddef sgam, felly plîs treuliwch amser i gadw llygad a bod yn ymwybodol o sgamiau.
RHYBUDD RHYBUDD RHYBUDD RHYBUDD RHYBUDD RHYBUDD
EICH NEWYDDION RHYBUDD RHYBUDD RHYBUDD RHYBUDD
6
AWGRYMIADAU I OCHEL RHAG SGAMIAU:
Awgrymiadau ar sgamiau e-bost a rhyngrwyd:
• Defnyddiwch gyfrineiriau a chyfrin ymadroddion cadarn i gloi eich tabled a’ch ffôn.
• Peidiwch byth â rhoi manylion personol i unrhyw un.
• Rhwygwch unrhyw ddogfennau gyda’ch cyfeiriad cartref arnyn nhw cyn eu rhoi yn y bin neu’r ailgylchu.
• Gofalwch bod unrhyw wefan y byddwch yn ei defnyddio yn ddiogel - gallwch wneud hyn trwy wirio i weld a oes clo clap yng nghornel uchaf chwith y dudalen - gofalwch bod https yn y cyfeiriad.
• Os nad ydych yn sicr a yw rhywbeth yn sgam neu beidio, yna gallwch ddefnyddio IsLegitSite neu ScamFoo i wirio.
Awgrymiadau ar osgoi negeseuon testun sgam:
• Peidiwch â dilyn unrhyw ddolenni
• Peidiwch â rhannu gwybodaeth bersonol â rywun nad ydych yn eu hadnabod neu yn ymddiried ynddyn nhw
• Cysylltwch â’r sefydliad yn uniongyrchol os nad ydych yn sicr
• Peidiwch ag ateb
• Rhowch adroddiad am y peth.
Awgrymiadau i ochel rhag sgamiau trwy’r post:
• Gofalwch eich bod yn gwirio manylion unrhyw gwmni neu weithiwr cyfreithiol proffesiynol nad ydych yn siŵr ohonynt. Peidiwch ag ymateb os byddwch chi’n meddwl bod hyn yn sgam.
• Peidiwch byth â thalu unrhyw arian iddyn nhw os nad ydych yn gwybod pam eu bod yn gofyn amdano neu oddi wrth bwy y mae.
Awgrymiadau da i atal sgamiau ar y trothwy:
• Gwiriwch fanylion y cwmni
• Peidiwch â gwneud unrhyw benderfyniadau yn y fan a’r lle
• Gofynnwch i rywun yr ydych yn ymddiried ynddo am ei farn
• Peidiwch â rhoi eich gwybodaeth bersonol i unrhyw un (fel rhif PIN/cyfrineiriau/ gwybodaeth bersonol y gellid eu defnyddio i gael mynediad i’ch cyfrifon
• Peidiwch â gadael rhywun i mewn oni bai eich bod yn eu disgwyl.
Beth i’w wneud os byddwch yn dioddef sgam:
• Siaradwch â’ch banc ar unwaith a rhoi adroddiad am unrhyw dwyll i Action Fraud ar 0300 123 2040.
• Ffoniwch Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133
• Os ydych mewn perygl ar yr eiliad honno ffoniwch 999 a gofyn am gael siarad â’r Heddlu.
RHYBUDD RHYBUDD RHYBUDD RHYBUDD
RHYBUDD RHYBUDD
EICH NEWYDDION
RHYBUDD RHYBUDD RHYBUDD RHYBUDD 7
Y Diweddaraf am
DDATBLYGIADAU
Bydd ein rhaglen ddatblygu yn darparu 1,500 o gartrefi newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2025, trwy fuddsoddi £250 miliwn, gan ddod â chyfanswm y tai sydd yn ein meddiant ac yr ydym yn eu rheoli i dros 7,500.
Dyma’r diweddaraf am sut y mae rhai o’n datblygiadau’n dod yn eu blaenau:
HEN YSGOL Y BONT, LLANGEFNI, YNYS MÔN
Mae’r gwaith yn datblygu’n dda ar ddatblygiad 52 o gartrefi yn Hen Ysgol y Bont, Llangefni gyda 12 o dai wedi eu hadeiladu yng ngham un, sydd i fod i gael ei orffen yn haf 2022!
Bydd gan y cartrefi newydd yma raddfa EPC A a byddant yn cynnwys amrywiaeth o dechnolegau cynaliadwy, gan leihau allyriadau carbon. Wedi ei ddylunio yn unol â Siarter Creu Lleoedd Llywodraeth Cymru, mae’r cynllun hwn yn cynnwys cyffyrddiadau unigryw, fel coeden Nadolig gymunedol, gardd berlysiau a choed ffrwythau.
Bydd yr holl gartrefi wedi eu cwblhau yn haf 2023.
GLASDIR, RHUTHUN, SIR DDINBYCH
Mae’r gwaith yn dod yn ei flaen yn dda ar ddatblygu 63 o gartrefi newydd yn Glasdir, Sir Ddinbych maen nhw’n edrych yn wych yn barod! Bydd yr eiddo yng ngham 1 yn cael eu gorffen yng ngwanwyn 2022!
Bydd gan y cartrefi newydd yma raddfa EPC A a byddant yn cynnwys amrywiaeth o dechnolegau cynaliadwy, gan leihau allyriadau carbon..
Cynigir y cartrefi i bobl ar yr ‘Un Llwybr Mynediad i’r Gofrestr Tai’ a Tai Teg (y Gofrestr Tai Fforddiadwy) sy’n byw a gweithio yn yr ardal.
Bydd y cartrefi i gyd wedi eu gorffen yng ngwanwyn 2023.
GLASDIR, RHUTHUN, SIR DDINBYCH
HEN YSGOL, LLANRWST, CONWY
Mae ein cartref mwyaf effeithlon o ran ynni bron yn barod, y cyntaf o’i fath i ClwydAlyn!
Bydd y cynllun, sydd yn awr ar y pedwerydd gam, a’r cam olaf ar y safle, yn cynnwys trosi hen Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst yn dri fflat, (dau ohonynt yn hygyrch i gadeiriau olwyn) ac adeiladu byngalo 3 ystafell wely addas i gadair olwyn. Dyma’r Tŷ Passivhaus Beattie cyntaf i ClwydAlyn; gan gynnig amodau iechyd a moethusrwydd rhagorol, gan ddefnyddio ychydig iawn o ynni ar gyfer gwresogi ac oeri, ac un yr ydym yn gobeithio gweld mwy ohonynt.
Am ragor o wybodaeth am ein datblygiadau, ewch i www.clwydalyn.co.uk/developments
1500 O GARTREFI NEWYDD YNGCYMRUNGOGLEDD ERBYN2025!
HEN YSGOL Y BONT
HEN YSGOL, LLANRWST, CONWY
EICH CYMUNED
8
CARTREFI FFORDDIADWY
RHENTU I BRYNU
RHENTU I BRYNU
Mae Rhentu i Brynu Cymru yn cefnogi prynu cartref i’r rhai sy’n cael trafferth i gynilo ar gyfer blaendal morgais. Mae’r cynllun yn galluogi tenantiaid i gasglu cyfandaliad at flaendal tra byddant yn rhentu eu cartref. Yna gall y cyfandaliad gael ei ddefnyddio i helpu i sicrhau morgais gan eich galluogi i brynu’r cartref.
SUT MAE’N GWEITHIO:
• Byddwch yn rhentu’r cartref i gychwyn ac yna pan fyddwch yn barod i brynu, byddwn yn rhoi 25% o’r rhent yr ydych wedi ei dalu yn ôl a 50% o’r cynnydd yng ngwerth yr eiddo (os o gwbl) i’w ddefnyddio fel blaendal tuag at brynu’r eiddo.
• Mae Cytundeb Rhentu i Brynu Cymru yn parhau am hyd at 5 mlynedd, a gallwch ymgeisio i brynu eich cartref ar unrhyw adeg rhwng diwedd yr ail flwyddyn a diwedd y cytundeb.
RHENT CANOLRADDOL
Mae’r dewis rhent canolraddol ar gyfer y rhai sy’n gweithio ond nad ydynt yn gallu fforddio pris rhent ar y farchnad am resymau fel: dim digon o flaendal neu hanes credyd gwael.
• Bwriadwyd y cynllun ar gyfer pobl sydd mewn gwaith ac nad ydynt yn hollol ddibynnol ar fudd-daliadau
• Seilir y rhent ar y Lwfans Tai Lleol neu 80% o’r rhenti ar y farchnad agored
• Rhaid i ymgeiswyr fodloni’r meini prawf a chofrestru gyda Tai Teg
CARTREFI FFORDDIADWY
A YDYCH YN GYMWYS?
• Rydych yn 18 oed neu hŷn
Yn gweithio ag incwm gros yr aelwyd yn flynyddol rhwng £16,000 a £45,000 (budd-daliadau ddim yn cael eu hystyried yn incwm)
Yn brynwr tro cyntaf neu eich cartref presennol yn anaddas ac nid yw’n bodloni anghenion eich teulu
• Nid ydych yn gallu fforddio rhentu ar y farchnad agored a / neu brynu eiddo sy’n addas i’ch anghenion
SUT I GOFRESTRU:
Cofrestrwch gyda Tai Teg trwy: Fynd i www.taiteg.org.uk
Cliciwch ar ‘cofrestru gyda Tai Teg’
• Llenwch y ffurflen gais
• Cliciwch ar ‘cyflwyno cais’
• Bydd Tai Teg yn asesu eich cais
• Os byddwch yn bodloni’r meini prawf a’ch bod yn cael eich cymeradwyo gallwch wedyn ymgeisio am eiddo
Gwefan: www.taiteg.org.uk
Ffôn: 03456 015 605
E-bost: info@taiteg.org.uk
EICH CYMUNED
9
CYMUNEDAU NEWYDDION Y
Ni fu cymuned erioed mor bwysig, felly mae’n dda amlygu rhywfaint o’r gwaith gwych y mae ein staff a’n preswylwyr yn ei wneud yn ein cymunedau. Os hoffech chi rannu stori neu ddigwyddiad, anfonwch nhw at communications@clwydalyn.co.uk
DYDD SANT FFOLANT
Wrth i ni ddathlu Dydd Sant Ffolant ar draws ClwydAlyn fe wnaethom roi cipolwg ar un o’n cyplau yn Llys Raddington a’u cyfrinach i dreulio 68 mlynedd gyda’i gilydd.
Darllenwch eu stori garu yma https://bit.ly/3Js121T
CLWB GARDDIO
Mae tenantiaid Hafan Gwydir wedi bod yn brysur yn defnyddio eu cronfa denantiaid i gael yr ardd yn barod at y gwanwyn, ac o, maen nhw wedi gwneud gwaith gwych! Edrychwch pa mor wych y mae eu blodau yn edrych.
Daeth rhai o’r tenantiaid yn y cynllun at ei gilydd i gael tynnu eu llun, gan ddangos bod byw’n annibynnol yn fwy na Gofal Ychwanegol, mae’n gymuned lle mae tenantiaid yn cyfarfod a mwynhau digwyddiadau a gweithgareddau gyda’i gilydd.
Alan a Freda Ryland
DA IAWN I BAWB EICH CYMUNED 10
Preswylwyr yn Hafan Gwydir
DYDD GŴYL DEWI
Tan y Fron - Bu’r Pen-cogydd, Stephen Owen a’i dîm yn gweithio’n galed i ddathlu diwrnod crempog a Dydd Gŵyl Dewi. Roedd gan y preswylwyr ddewisiadau anodd eu gwneud gan fod cymaint i ddewis o’u plith. Cacennau cartref, bisgedi’r ddraig, bara brith a chrempog wrth gwrs.
Merton Place yno bu dathlu yn y ffordd draddodiadol gyda bara brith, cacennau cri a phaned dda!
Bu’r preswylwyr hefyd yn rhoi cynnig ar dynnu llun cennin Pedr gyda phastels, ac roedd y canlyniadau’n eithaf da! Mae tynnu llun yn beth mor dda i dawelu’r meddwl.
SESIWN CYNHWYSIANT DIGIDOL
Mae ein tîm cymunedol wedi bod yn brysur yn darparu sesiynau cynhwysiant digidol. Mae Erin wedi bod yn defnyddio rhagor o’i hyfforddiant digidol, gan helpu preswylwyr hŷn i ddysgu sgiliau TG newydd.
Mae’r rhain wedi cael eu cynnal yn ein cynlluniau Llys Raddington a Than y Fron a byddwn yn edrych ar gynnig rhagor o hyfforddiant ar draws ein cymunedau yn y dyfodol.
Dywedodd ein preswylwyr eu bod wedi mwynhau’r sesiwn a’u bod yn edrych ymlaen at ddysgu rhagor o sgiliau digidol yn ein sesiwn hyfforddiant nesaf! Os byddai gennych chi ddiddordeb mewn hyfforddiant digidol cysylltwch â InfluenceUs@clwydalyn.co.uk
DIWRNOD RHYNGWLADOL Y MERCHED
Rydym yn falch o gefnogi Diwrnod Rhyngwladol y Merched, gan helpu i chwalu’r rhagfarn, dathlu llwyddiannau merched a hyrwyddo byd amrywiol a chynhwysol.
EICH CYMUNED 11
HELPU POBL I WAITH
MAE CLWYDALYN YN FALCH O FOD YN WESTAI I BROSIECT SEARCH
SIR Y FFLINT AM FLWYDDYN ARALL. MAE’R PROSIECT YN CYNNWYS: HFT, CLWYDALYN A CHYNGOR SIR Y FFLINT, YN GWEITHIO GYDA’I GILYDD, I
GEFNOGI OEDOLION IFANC AG ANABLEDDAU DYSGU NEU AWTISTIAETH, I WAITH.
Mae’r cynllun yn cynnig amrywiaeth o leoliadau gwaith i interniaid ifanc, sesiynau gyda chefnogaeth yn y dosbarth sy’n ymwneud â phob agwedd ar hyfforddiant at swydd, gan gynnwys ysgrifennu CV a sgiliau cyfweliad, i’w helpu i baratoi ar gyfer gwaith.
Mae ClwydAlyn yn darparu canolfan i’r prosiect yng Nghynllun Gofal Ychwanegol Llys Raddington, y Fflint, lle mae’r interniaid yn cwblhau cyfnod cynefino cychwynnol cyn cychwyn ar gylchdro gwaith, sy’n cynnwys arlwyo, gweinyddu, glanhau, gwaith llyfrgell a llawer mwy! Mae’r staff yn y gweithleoedd yma yn mentora’r interniaid, ochr yn ochr â Hyfforddwyr Swyddi HfT, gan eu cefnogi i ddysgu pob agwedd ar y swydd, fel eu bod yn datblygu sgiliau ystyrlon y gellir eu trosglwyddo.
Yn 2019 roedd gennym 7 wedi graddio yn Sir y Fflint – Rachel, Ellis, Lewis, Letitia, George, Owen, a Jess – ac maen nhw i gyd wedi cyflawni llawer iawn ers hynny, gyda 4 ohonynt hyd yn hyn yn sicrhau gwaith llawn amser cyflogedig!
Mae George wedi gweithio yn McDonald’s yn llwyddiannus am dros flwyddyn; mae Owen yn gweithio yn storfa offer Cyngor Sir y Fflint yn Queensferry;
EICH CYMUNED 12
Mae Letitia yn gweithio fel ‘Cynorthwyydd Gweithgareddau’ yn Llys Raddington, ac mae Jess yn gweithio yn cadw tŷ mewn gwesty lleol. Yn ychwanegol mae Rachael, Ellis a Lewis wedi cwblhau lleoliadau gwirfoddol, gan gyfrannu llawer at y gymuned leol, yn ogystal â chwilio am waith cyflogedig.
Yn 2020, trwy gydol y cyfnod clo, cwblhaodd grŵp newydd o interniaid yr hyfforddiant arlein; yna, wrth i’r cyfyngiadau lacio yn 2021, dychwelodd 6 o’r interniaid hyn (Ashley, Ross, Olivia, Erin, Katrina a Clara) i’r dosbarth a dechrau ar eu lleoliadau gwaith!
Mae’r interniaid hefyd wedi cydweithio, gan ddefnyddio eu profiadau personol i lunio sesiwn hyfforddi werthfawr ‘ValYou’ ar ‘niwroamrywiaeth’, y byddant yn ei chyflwyno eleni, i weithwyr ClwydAlyn a Chyngor Sir y Fflint. Mae’r dasg wedi golygu bod yr interniaid yn: dylunio disgrifiadau swyddi (e.e. ar gyfer Hyfforddwr, Gweinyddwr a Marchnata) cyn cyflawni’r swyddi hyn i greu sesiwn hyfforddi arbenigol i: gynyddu ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth a chynghori cyflogwyr lleol sut y gallant gefnogi unigolion niwrowahanol yn well, yn y gweithle.
Rydym yn falch o ddweud bod Erin, oedd ar leoliad hefo ni o Brosiect Search, wedi cael swydd gyflogedig 6 mis gan Kick Start fel ein Cynorthwyydd Cymunedol.
Mae Olivia oedd hefyd yn intern yn Llys Raddington yn y swydd o Gynorthwyydd Gweinyddol hefyd wedi cael swydd trwy Kick Start fel Cynorthwyydd Gweinyddol yn Hwb Cyfle HFT.
Da iawn i chi eich dwy ar eich swyddi newydd!
Mae hanes llwyddiant ein hinterniaid Prosiect Search yn Sir y Fflint yn siarad drostynt eu hunain ac yn dangos pa mor bell y maent wedi dod ers ymuno â’r prosiect! Dywedodd yr interniaid wrthym faint o wahaniaeth y mae eu lleoliadau gwaith wedi ei wneud iddyn nhw, gan gynnig dyfodol cyffrous a datblygu eu sgiliau a’u hyder yn y broses. LLONGYFARCHIADAU!
DA IAWN! EICH CYMUNED
13
Yma
AWGRYMIADAU GARDDIO
Tyfwch eich llysiau eich hun…
mae Ellen Wharton, Rheolwr Gofal Ychwanegol yn Llys Eleanor, yn rhannu sut y mae’n tyfu ei llysiau ei hun ar gyllideb dynn.
FE DDECHREUAIS DYFU FY LLYSIAU FY HUN OHERWYDD…
Roeddwn am dreulio mwy o amser yn yr awyr agored yn ystod Covid. Roeddwn yn teimlo y byddai prosiect yn beth da ar ôl i mi ddod adref o’r gwaith.
Hefyd, roeddwn wedi blino prynu bagiau o ddail salad oedd yn mynd yn ddu ar ôl diwrnod os nad oeddech yn eu defnyddio i gyd sydd yn wastraff arian.
Un peth nad oeddwn am ei wneud oedd gwario mwy ar botiau, compost, offer, a hadau na phrynu’r llysiau eu hunain! Mae hefyd yn fwy o hwyl herio eich hun i wario cyn lleied â phosibl ac ailgylchu eitemau nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio o gwmpas y tŷ a’r ardd.
YR HOLL LYSIAU
YR WYF WEDI EU TYFU…
Y llynedd fe dyfais domatos bach a mawr, corbwmpen gwyrdd a melyn, ciwcymerau, rhuddygl, nionod coch amrywiaeth o ddail salad a pherlysiau, y cyfan mewn cynwysyddion.
TYFU TOMATOS BACH…
Rhaid i’r rhain gael eu cychwyn dan do tua chanol Mawrth i ganol Ebrill. Heuwch yr hadau mewn potyn bach - bydd unrhyw beth yn gwneud y tro os gwnewch chi ychydig o dyllau yn y gwaelod a’i roi ar blât ar sil ffenestr heulog.
Ar ôl i’r egin gwyrdd ymddangos rhowch ddŵr bob ychydig o ddyddiau gydag ychydig o ddŵr i gadw’r pridd yn llaith. Wrth i’r planhigyn dyfu, rhowch ddŵr yn gyson a phan fydd tua 5 modfedd o daldra, trosglwyddwch i botyn parhaol mwy o faint.
Gallwch roi hwn tu allan mewn lle heulog pan fydd y tywydd yn gynhesach, neu hyd yn oed ei adael dan do i dyfu.
AWGRYMIADAU ARBED COSTAU…
Fe ddefnyddiais i botiau iogwrt a photiau margarîn y gellir eu defnyddio i gychwyn yr hadau dan do.
Rwy’n gwneud fy nghompost fy hun o bilion llysiau, danadl poethion, dail a thoriadau glaswellt, mae hyn yn creu compost llawn maetholion heb fawn.
Prynwch hadau o archfarchnadoedd rhad neu Home Bargains-maen nhw’n llawer rhatach nag o ganolfan arddio.
A chofiwch nid oes raid i chi brynu potiau drud-gallwch blannu yn unrhyw gynhwysydd os oes tyllau draenio ynddo.
HWYL AR Y PLANNU I CHI I GYD.
Cysylltwch â InfluenceUs@clwydalyn.co.uk
i gael eich pecyn o hadau am ddim.
Rhowch wybod i ni os ydych yn hoffi un o’r categorïau isod.
• Llysiau/Ffrwythau yn y tŷ • Llysiau/Ffrwythau tu allan • Hadau cyffredinol
Gall plant gymryd rhan hefyd! Felly gadewch i ni wybod os hoffech chi gael rhai i’ch plant a byddwn yn archebu pecyn arbennig iddyn nhw. Anfonwch e-bost i gael eich pecyn rŵan!
A chofiwch rannu eich lluniau.
EICH CARTREF
AMHADAU DDIM
14
UWCHGYLCHU
GYDA LAURA
Mewn rhifynnau blaenorol
rwyf wedi rhannu fy awgrymiadau uwchgylchu ar ddrych a throli diodydd y gwnaethom eu prynu
trwy Facebook Marketplace - yn y rhifyn hwn byddaf yn rhannu hefo chi sut y gwnes i uwchgylchu pot simnai yn botyn planhigion mawr.
Mae fy nghartref wedi cael ei adnewyddu yn ddiweddar ac roedd y pot simnai wedi ei adael yn yr ardd. Roeddwn wedi gweld potyn planhigion mawr yn wreiddiol ar y we am £100, felly fe feddylies y byddwn yn ceisio creu un fy hun. Edrychais ar TikTok a YouTube i gael awgrymiadau ac i greu effaith carreg fy hun.
1 Fe ddechreuais lanhau’r pot gan ei fod wedi cael ei adael yn yr ardd am fisoedd lawer.
2 Ar ôl ei lanhau a’i sychu fe baentiais y gôt gyntaf gyda phaent gwaith maen oedd wedi ei adael ar ôl ail-wneud y tŷ, (gallwch ddefnyddio unrhyw baent gwyn ond yn bersonol ni fyddwn yn defnyddio paent glos gan fod y gwead mat yn rhoi mwy o effaith cerrig).
3 Yna fe brynais botyn profi bach o baent sialc brown golau: fe ddefnyddiais sbwng i roi hwn, oedd wedi cael ei roi mewn dŵr a’i ddraenio; bwriad hyn oedd rhoi golwg wedi colli ei liw i’r paent.
4 Fe wnes i ddabio hwn yma ac acw i greu effaith cerrig. Fe welais bod y broses hon yn rhad iawn ond yn cael canlyniadau gwych.
5 Fe wnes i hefyd greu’r goeden fach allan o grŵp o goesynnau deiliog unigol. Roedd y coed yr oeddwn wedi bod eu heisio yn wreiddiol yn costio £90, felly fe brynais 2 becyn o goesynnau o TKMax oedd yn gyfanswm o £18.
6 Fe roddais y rhain at ei gilydd gan ddefnyddio gwifren gardd a’u cadw yn eu lle trwy ddefnyddio cerrig.
Rwyf mor falch o’r canlyniad, ac roeddwn yn edrych ymlaen at gael rhannu’r gwaith uwchgylchu gyda chi i gyd.
Os ydych yn mwynhau uwchgylchu cymaint â fi, fe fyddwn wrth fy modd yn gweld unrhyw rai o’ch prosiectau. Anfonwch nhw draw ataf i Laura.mckibbin@ClwydAlyn.co.uk a gallech ennill taleb siopa £30 o’ch dewis!
EICH CARTREF
DALEBAU SIOPA ENILLWCH 15
GWRES NEU FWYTA Awgrymiadau da i arbed arian…
Gan fod costau byw wedi codi’n sylweddol mae llawer yn gorfod wynebu dewis rhwng gwres neu fwyta. Gyda chostau tanwydd yn
dyblu’n ddiweddar mae’n bwysig cadw golwg ar ffyrdd i leihau eich biliau, gan arbed arian ar gyfer angenrheidiau eraill.
TRWY EIN SIANELI
CYFRYNGAU
CYMDEITHASOL,
FE WNAETHOM OFYN
AM GAEL CLYWED
EICH AWGRYMIADAU
ARBED YNNI GORAU
A’CH RYSETIAU RHAD…
Rydym wedi derbyn rhai awgrymiadau gwych y gallwch eu gweld isod. Rydym wedi rhoi taleb siopa £10 i’r holl breswylwyr fel arwydd o’n diolch am eu hawgrymiadau clyfar!
CYNNYDD YN Y COSTAU BYW
Mae costau ynni i fod i godi £700 y flwyddyn ar gyfartaledd o Ebrill 2022.
Gall hyn deimlo’n llethol, ond mae llawer o wybodaeth ar gael a mannau y gallwch droi atynt i gael help.
Rydym wedi creu tudalen we lle gallwch gael cyngor defnyddiol am eich biliau ynni, bwyd a dŵr a fydd yn gadael i chi reoli eich arian yn fwy effeithiol. Gallwch hefyd ffonio eich tîm llesiant ar 0800 1835757
y Cod QR:
Sganiwch
EICH CARTREF 16
Bag Post
Ateb eich cwestiynau
Cwestiwn
Preswyliwr.
Gyda phris ynni’n cynyddu, beth mae ClwydAlyn yn mynd i’w wneud i gefnogi ei breswylwyr?
Os oes gennych chi gwestiwn yr hoffech gael ateb iddo yn y cylchlythyr yna anfonwch e-bost atom yn communications@clwydalyn.co.uk
Ateb
ClwydAlyn
Mae ClwydAlyn a Cymru Gynnes yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni Cartrefi Pobl Bywydau a Chymunedau Iach. Gyda’i gilydd llwyddodd ClwydAlyn a Cymru Gynnes i gael cyllid Gwneud Iawn Ynni i gefnogi preswylwyr ClwydAlyn gyda chyngor ac arbenigedd ar ynni. Mae’r cyngor a’r arbenigedd yn cael eu teilwrio yn ôl amgylchiadau pobl, gan ddarparu popeth o gyngor ysgafn i gefnogaeth drylwyr, gan helpu i wella ansawdd cartrefi, bywydau a llesiant.
Os hoffech chi gael gwybod rhagor, anfonwch e-bost at hhplc@warmwales.org.uk, llenwch y Ffurflen Gyfeirio-
https://forms.gle/KTBFYYo3gCEV4gpy9
neu os hoffech chi siarad â rhywun am eich pryderon ynni cysylltwch â’ch swyddog tai neu ffoniwch 01352 711751
Diolch
ARBED YNNI GARTREF
Diffoddwch offer trydanol - peidiwch â’u gadael ymlaen pan na fyddant yn cael eu defnyddio
Peidiwch â defnyddio peiriant sychu os gallwch chi
Diffoddwch oleuadau wrth adael yr ystafell
Cyfnewidiwch eich bath am gawod, a cheisiwch dreulio llai o amser yn y gawod
Defnyddiwch eich peiriant golchi yn fwy gofalus - gallech geisio golchi ar 30 gradd a lleihau’r nifer o olchiadau mewn wythnos
Peidiwch â gorlenwi’r tegell, berwch ddigon i lenwi eich cwpan yn unig
EICH CARTREF
17
DIOGELWCH CARTREF Dyma rai awgrymiadau i sicrhau eich diogelwch yn eich cartref…
LLITHRO, BAGLU
A SYRTHIO
• Cadwch eich cyntedd ac unrhyw risiau yn glir a sicrhau bod digon o olau arnynt.
• Defnyddiwch ysgol neu stôl gadarn i newid bwlb golau.
Glanhewch unrhyw hylif neu faw sydd ar lawr yn syth.
LLOSGI A SGALDIO
• Sicrhewch bod sosbenni, dŵr berw neu hob allan o gyrraedd plant.
• Gosodwch handlenni’r sosbenni fel na ellir eu troi wrth goginio.
Cadwch ddillad a dodrefn oddi wrth wres fel canhwyllau neu danau trydan.
TANAU TRYDAN A SIOC DRYDANOL
• Peidiwch â gorlwytho socedi gyda gormod o blygiau, a pheidiwch â defnyddio plygiau sydd wedi eu difrodi, cracio neu pan fydd y gwifrau yn y golwg.
• Peidiwch byth â defnyddio offer trydanol gyda dwylo gwlyb na mynd â nhw i’r ystafell ymolchi.
• Sicrhewch bod plygiau ac offer trydanol yn cael eu cadw ddigon pell oddi wrth hylif.
AWGRYMIADAU ERAILL
• Cadwch feddyginiaethau, cynnyrch glanhau a chemegolion wedi eu cloi ac allan o gyrraedd plant.
Sicrhewch eich bod yn gadael i staff ClwydAlyn gynnal eu profion cydymffurfio gofynnol ar eich offer fel y bwyler ac offer trydanol i leihau’r risg i chi a’ch teulu oddi wrth offer hen, diffygiol neu a all fod yn beryglus.
• Cadwch ffenestri a drysau ar glo pan na fyddwch yn eich cartref.
• Peidiwch â gadael dieithriaid i mewn. Gofynnwch am gerdyn adnabod fel bod ymwelydd yn gallu profi pwy ydio cyn dod i mewn. Bydd ClwydAlyn yn barod iawn i ddilysu pwy yw eu holl staff os bydd arnynt angen mynediad i’ch cartref.
EICH CARTREF 18
Polisi Costau Taladwy
Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella ein gwasanaethau a’n polisïau. Yn ddiweddar buom yn gweithio gyda’n grŵp Dylanwadwch a fu’n ein helpu i ddiweddaru ein Polisi Costau Taladwy, ac o adborth ein preswylwyr rydym wedi gwneud rhai newidiadau ac rydym yn teimlo bod ein polisi newydd yn awr yn cyd-fynd yn well â’n gwerthoedd o obaith, ymddiriedaeth a charedigrwydd.
Rydym eisiau i’n preswylwyr gysylltu â ni am help am unrhyw waith trwsio y mae’r costau’n daladwy amdano fel ein bod yn gallu gweithio gyda’n preswylwyr i ddatrys y materion yma’n deg ac o achos i achos. Isod mae fersiwn hawdd ei ddarllen ein polisi wedi ei ddiweddaru!
Beth yw costau taladwy?
Costau taladwy yw gwaith trwsio sy’n cael ei achosi gan ddifrod i ffitiadau a gosodiadau mewnol neu allanol nad yw’n cael ei ystyried yn draul naturiol trwy gydol eich tenantiaeth.
Bwriad y polisi hwn yw sicrhau bod ein hagwedd at gostau taladwy yn ystyried ein gwerthoedd.
Ymddiriedaeth Caredigrwydd Gobaith
Byddwn yn annog ein preswylwyr i weithio’n glos gyda Swyddogion i ddynodi gwaith trwsio ar yr adeg gynharaf a thrafod unrhyw broblemau y mae arnynt angen cefnogaeth a chymorth gyda nhw. Bydd pob taliad yn cael ei esbonio yn llawn, a bydd ein preswyliwr yn cael cyfle i roi esboniad.
Rydym yn deall bod amgylchiadau ein preswylwyr yn amrywio, felly mae ein polisi yn hyblyg. Byddwn yn asesu pob cost taladwy o achos i achos.
Byddwn yn mynd ar ôl costau taladwy am esgeulustod a difrod bwriadol
Dim ond am gostau’r gwaith ei hun y byddwn yn codi tâl (dim ffioedd gweinyddol)
Byddwn yn sicrhau bod unrhyw gynlluniau ad-dalu yn fforddiadwy i breswylwyr
Byddwn yn helpu i ddynodi datrysiadau i osgoi costau taladwy pryd bynnag y bydd yn bosibl.
Mae #Dylanwadwch yn ein helpu i siapio a gwella’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu. Os hoffech chi ddod yn ddylanwadwr anfonwch e-bost at InfluenceUs@ClwydAlyn.co.uk
Ein haddewid yw darparu cartref sy’n ddiogel, yn saff ac yn cael ei gynnal a’i gadw yn dda.
EICH CARTREF 19
Eich Cip olwg ar ddiwrnod…
GOFAL YN
Mae ein cartrefi gofal a’n cynlluniau gofal ychwanegol yn cyflogi amrywiaeth o bobl i roi gwasanaeth eithriadol, a lle hwyliog a diogel i’n preswylwyr ei alw yn gartref. Rydym am dynnu sylw at rai o’n staff rhyfeddol: i rannu’r hyn sydd wrth eu bodd am ofalu ynghyd â safbwynt ein preswylwyr.
Julie Williams yw’r Cydlynydd
Gweithgareddau yng nghartref
gofal Llys y Waun a bu’n siarad â ni am ei swydd a sut y mae’n mwynhau darparu rhaglen wych o gefnogaeth i’r preswylwyr.
Mae 5 aelwyd yn y cartref; 3 aelwyd iechyd meddwl yr henoed a 2 aelwyd breswyl. Mae ei diwrnod nodweddiadol yn dechrau trwy argraffu a dosbarthu’r ‘Papur Newydd Atgofion’ y mae preswylwyr yn ei fwynhau’n fawr. Oherwydd cyfyngiadau Covid, mae
Julie wedi trefnu gweithgareddau grŵp ym mhob aelwyd. Mae’r gweithgareddau y mae’n eu trefnu yn cynnwys cyd-ganu, bingo, dominos a dyddiau ffilmiau. Mae’r staff yn cymryd rhan yn y gweithgareddau gyda hi ac yn gefnogol iawn.
Mae Ryan Kirk yn ymarferwr gofal
dydd yng nghartref gofal Llys Marchan yn Rhuthun ac mae’n cefnogi preswylwyr y mae cyflyrau iechyd meddwl wedi effeithio arnynt mewn gwasanaeth 24 awr. Cafodd ei fagu yn yr ardal leol ac ar y dechrau roedd yn gweithio yn y prosiect fel gweithiwr asiantaeth, cyn cael cynnig swydd barhaol.
Meddai:
“Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda phreswylwyr ac mae’n rhoi boddhad mawr bod yno iddyn nhw a’u helpu. Weithiau maen nhw’n cael dyddiau gwael ac angen rhywun i gael gair hefo fo, ac rydym yma fel cefnogaeth iddyn nhw pan fydd arnyn nhw ein hangen. Rydym yn cynnal gweithgareddau hefo nhw yn ôl gallu’r unigolyn ac rydym newydd brynu set tenis bwrdd! Gyda 4 o breswylwyr benywaidd
Rhan bwysig o’i diwrnod yw gweithio un i un gyda phreswylwyr. Ar gyfer hyn roedd Julie wedi cael cyllid gan y cyngor ar gyfer peiriant newydd, RITA (Therapi Rhyngweithiol Atgofion) – gellir mynd â hwn o aelwyd i aelwyd ac mae sgrin arno lle gall preswylwyr fwynhau cwisiau rhyngweithiol, cydganu a llawer mwy. Ac ar gyfer digwyddiadau arbennig, fel Dydd Sant Ffolant, Dydd Gŵyl Dewi, a’r Pasg, mae
Julie yn annog preswylwyr i wneud sesiynau crefft er mwyn gwisgo i fyny yn yr aelwydydd.
Meddai Julie:
a 4 gwrywaidd, mae’n braf treulio cyfnod sylweddol o amser hefo nhw. Mae llawer o’r hyn y byddwn yn ei wneud yn ymwneud â sut yr ydych yn creu perthynas â phobl ac mae empathi yn bwysig. Gydag ardaloedd i bobl gael heddwch a thawelwch ac ardaloedd i sgwrsio, mae awyrgylch braf yma ac rwyf wedi bod wrth fy modd yn gweithio yma bob amser.”
Un arall o’r manteision yw’r gwyliau mewn cymhariaeth â rhannau eraill o’r diwydiant, a gan fy mod yn byw yn agos at Landudno, rwy’n bwriadu defnyddio’r cynllun Beicio i’r Gwaith hefyd.
Yn bennaf oll, rwy’n hoffi cyfarfod pawb yn y Cynllun, a nawr mod i yma, rwy’n gwybod ei bod wedi bod yn syniad da iawn ymgeisio am swydd hefo ClwydAlyn.’
“Gall amser hedfan yn y swydd yma. Mae’r cyfan yn ymwneud â chefnogi annibyniaeth preswylwyr am cyn hired â phosibl. Rwy’n mwynhau bod hefo nhw – gwneud iddyn nhw wenu, gwneud iddyn nhw chwerthin. Rwy’n mwynhau clywed eu storïau yn bennaf a sut y mae’r holl breswylwyr yn bywiogi fy niwrnod – os cewch chi wên gan breswylydd, rydych wedi gwneud rhywbeth da heddiw.”
YOUR LOOK INTO...
Ryan Kirk, Ymarferwr Gofal Dydd yn Llys Marchan
20
Julie Williams, Cydlynydd Gweithgareddau yn Llys y Waun
Eleri Williams yw Dirprwy Reolwraig cartref gofal Merton Place ac mae hefyd yn Nyrs Gyffredinol Gofrestredig. Ar y dechrau roedd yn gweithio fel Nyrs yn ystod y nos, mae wedi bod gyda ClwydAlyn ers dros 10 mlynedd ac mae’r gwaith yn rhoi boddhad mawr iddi.
Meddai Eleri:
“Mae gan ein preswylwyr amrywiaeth o anghenion gofal cymhleth ac yn fy swydd fel Dirprwy Reolwr rwy’n cynorthwyo’n nyrsys gyda meddyginiaethau yn y boreau, cyn parhau gyda fy ngwaith yn rheoli’r cartref. Mae fy rheolwr Christina hefyd yn Nyrs Gyffredinol Gofrestredig, ac rydym wrth law i weithio shifftiau ac ymdrin ag unrhyw argyfyngau.
Rwyf wrth fy modd hefo’r amrywiaeth. Mae’n brysur ac yn gofyn llawer, ond rydych yn cael llawer o foddhad hefyd. O afael yn llaw rhywun a chael sgwrs i reoli anghenion cymhleth. Rwy’n teimlo bod y pandemig Covid wedi amlygu’r gwaith ffantastig y mae nyrsys a staff gofal yn ei wneud. Mae gennym dîm da iawn yma, a nyrs fydda i am byth.”
Cychwynnodd Joanne Williams ei gyrfa gyda ClwydAlyn fel cynorthwyydd cegin a domestig yn Llys y Waun, cyn symud ymlaen i fod yn Arweinydd Tîm Gweithredol yn Castell, un o’r aelwydydd preswyl yn y cartref. Bu’n siarad â ni am ei swydd yn gofalu a sut y mae’n ei galluogi i symud ymlaen a chyflawni ei dyheadau o ran gyrfa.
“Yn ystod y Pandemig, fe wnaeth fy ngwaith newid, ac fe ddechreuais weithio fel ymarferwr gofal, gan gwblhau fy hyfforddiant craidd ar lefel 2. Ers Awst llynedd, rwyf wedi cymryd uwch swydd, a’m nod yw symud i swydd barhaol fel Arweinydd Tîm pan ddaw’r cyfle.
Mae’n heriol ac mae pob diwrnod yn wahanol. Rwy’n hoffi’r ffordd y mae’n cadw fy mhen yn brysur, gan orfod meddwl o hyd a chadw trefn ar bopeth. Rwy’n hoffi arwain, ac rwyf wrth fy modd â’r ffordd yr wyf yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill a dal i ddysgu, oddi wrth fy hun ac eraill.
Mae’r gefnogaeth yn Llys y Waun wedi bod yn wych ac mae fy rheolwr, Lisa, a’r dirprwy reolwr, Dewi, wedi gwneud i mi deimlo fy mod mewn lle teilwng i fod. Maen nhw wedi fy helpu i ddangos beth allaf i ei wneud, ac rwyf yn awr yn edrych tuag at fy hyfforddiant craidd ar lefel 3.
Rwyf wrth fy modd hefo gwaith gofal ac yn teimlo y bydd yr hyn y byddaf yn ei roi iddo yn awr yn datblygu yn y dyfodol pan fydd arnaf angen gofal pan fyddaf yn hŷn. Mae’n swydd arbennig iawn, sy’n rhoi boddhad mawr, ac os ydych chi’r math hwnnw o berson, yna mae gofal yn bendant i chi.”
YOUR LOOK INTO...
21
Ali Jones, Cynorthwyydd Arlwyo yn Llys Raddington
Mae Ali yn mwynhau
gweithio yn ein Cynllun Gofal
Ychwanegol ac mae wrth ei bodd yn siarad â’r tenantiaid, cymysgu hefo nhw a chlywed holl straeon y dydd!
‘Dwi’n mwynhau gweini’r bwyd amser cinio yn arbennig gan ein bod yn gofalu bod y tenantiaid yn iawn, ac yn cael bwyd da ac yn cael gofal.’
Kerry Latham, Cynorthwyydd Domestig ac Arlwyo
Mae Kerry’n mwynhau
gweithio yn ein Cynllun Gofal
Ychwanegol gan ei bod yn mwynhau bod yn brysur, ar ei thraed ac yn rhyngweithio gyda’r preswylwyr.
‘Mae ein preswylwyr yn gymeriadau ac rwyf wedi mwynhau’n fawr iawn. Fy hoff ran o’r swydd yw gweini’n bendant, lle mae tynnu coes a chwerthin bob amser. Rwy’n dysgu mwy ganddyn nhw bob amser.’
Rachel Mann, Cynorthwyydd Arlwyo yn Llys Raddington
Mae Rachel yn mwynhau
gweithio yn ein Cynllun Gofal
Ychwanegol ac mae wrth ei bodd yn rhoi bwyd a phwdinau blasus a chartrefol i’r tenantiaid.
‘I mi’r pethau gorau am weithio ym maes gofal yw’r ffordd yr ydym yn darparu amgylchedd diogel, hapus, llawn gofal i bawb o’n preswylwyr hŷn.’
Victoria Munnerley, Cynorthwyydd Domestig yn Llys Raddington
Mae Victoria’n mwynhau gweithio yn ein Cynllun Gofal Ychwanegol gan ei bod yn meddwl ei fod yn lle gwych i weithio a’i bod yn mwynhau cadw’r cynllun yn lân i’n preswylwyr.
‘Mae’n braf gweld preswylwyr yn gwneud gweithgareddau a gwybod eu bod yn teimlo’n ddiogel. Rwyf wrth fy modd yn sgwrsio hefo nhw ac yn teimlo bod hyn yn gwneud iddyn nhw deimlo bod gofal amdanynt ac nad ydyn nhw’n teimlo’n unig.’
EICH CIP OLWG AR...
22
Mae Tera Buckley wedi bod yn breswyliwr yng Nghynllun Gofal Ychwanegol Llys Raddington yn y Fflint ers i’r cynllun agor. Yn wreiddiol o Fanceinion, mae wedi bod yn denant i ClwydAlyn ers 2002, ac mae wedi byw mewn eiddo yn ardal Bagillt cyn ymgeisio am ei fflat yn 2018.
Dywedodd…
‘Fe glywais am y cynllun ym mis Chwefror ac roeddwn yn hoffi’r syniad bod gan y fflatiau balconi, ac y gallwn fod yn agos at fy nheulu. Cynigiwyd fy fflat i mi ym mis Gorffennaf, ac roeddwn yn un o’r rhai cyntaf i symud i mewn. Dyma’r peth gorau a wnes i erioed. Mae hi mor gynnes, ac rydych yn ddiogel a saff. Rwyf wedi gwneud ffrindiau gwych yma, ac nid oes raid i fy nheulu boeni.
Mae gennym bopeth yma y gallai fod arnoch ei angen, ac mae’r cynllun yn agos iawn at y siopau a’r cyfleusterau eraill. Rwyf wrth fy modd hefo’r olygfa tu allan i fy ffenestr, a fy fflat sydd mor hawdd ei gadw’n lân ac yr wyf wedi ei addurno yn ddiweddar i roi fy marc ar fy nghartref. Mae oedran yn dod i ni i gyd, a dim ond hyn a hyn allwch chi ei wneud. Dwi’n gallu bod mor breifat ag yr wyf yn dymuno ac mae gwybod y gallwn gael help dim ond o bwyso botwm yn rhoi tawelwch meddwl i mi a’r teulu.’
YMARFERWR GOFALLLWYBR DATBLYGU GYRFA
Os ydych yn berson cynnes, caredig a chyfeillgar ac yn hoffi’n gwerthoedd o ymddiriedaeth, gobaith a charedigrwydd, byddwch yn berffaith ar gyfer gyrfa ym maes gofal!
Wrth weithio hefo ni, byddwn yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth drwyadl o rôl Ymarferwr Gofal a’ch cefnogi i gael y cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n ofynnol ar gyfer y swydd.
Fel ymarferwr gofal byddwch yn cefnogi unigolion i fyw bywyd yn llawn yn unol â’u diddordebau a’u gallu. Bydd gennych ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy’n eich galluogi i ddeall anghenion unigolion a sut i’w cefnogi gyda thasgau dyddiol yn ychwanegol at gynllunio gofal penodol i fodloni eu hanghenion unigol.
Byddwch yn gweithio’n dda fel rhan o’n tîm ac yn sicrhau bod amgylchedd diogel a gofalgar yn cael ei gynnal.
Yn dal ddim yn siŵr? ……pam na gewch chi sgwrs hefo ni - gallwn eich arwain o gwmpas ein cartref ac efallai gynnig lleoliad gwaith byr i chi i ddangos cymaint o foddhad y mae gyrfa ym maes Gofal yn gallu ei roi.
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi, cysylltwch â Lisa Ramage L&D Specialist ar 07554338180 neu anfonwch e-bost at lisa.ramage@clwydalyn.co.uk
Os hoffech chi weithio i ClwydAlyn rydym yn diweddaru ein tudalen gweithio i ni yn gyson yn www.clwydalyn.co.uk/work-for-us
Rydym yn cynnig pecyn buddion gan gynnwys aelodaeth o gynllun pensiwn gyda chyfraniadau cyfatebol gan y cyflogwr hyd at 8%, cynllun beicio i’r gwaith, talebau gofal llygaid, pecyn llesiant ariannol, 25 diwrnod o wyliau a Gwyliau Banc yn arwain at 30 diwrnod, yswiriant bywyd, rhaglen EAP, ynghyd â phecyn hyfforddi cynhwysfawr y cyfan mewn sefydliad wedi ei seilio ar werthoedd â diwylliant gwych.
EICH CIP OLWG AR...
PECYN BUDDION
23
Ym mhob rhifyn rydym yn rhannu pryd rhad a hawdd ei wneud, nid yn unig mae’r cynhwysion yn ein Fritata Ysgafn yn iach, gall yr holl gynhwysion gael eu prynu am dan £4 gyda rhai cynhwysion yn weddill i’w defnyddio mewn prydau eraill.
Fritata Haf
Digon i 4
CYNHWYSION:
4 llwy fwrdd olew olewydd
350g tatws newydd
3 shalot
Llond llaw o asbaragws
tua 5 neu 6 coesyn
4 wy
Llond llaw o gaws wedi ei gratio ‐ eich dewis chi.
OFFER:
Padell ffrïo fawr
Bwrdd torri
Bowlen gymysgu
Cyllell finiog
Gratiwr
Fforcen / Wisg
Gril
Pryd hawdd ar gyfer canol yr wythnos, gellir ei fwynhau ar ei ben ei hun fel cinio, neu gyda’n llysiau gwyrdd â mintys.
1. Tafellwch y tatws yn denau yn ddisgiau a’u rhoi o’r neilltu
2. Tywalltwch 4 llwy o olew olewydd i’ch padell ffrio fawr ac ychwanegu’r disgiau tatws. Ffrïwch ar wres isel iawn nes yn euraid - os oes gennych gaead i’ch padell ffrio bydd hyn yn cyflymu’r broses.
3. Yn y cyfamser tafellwch y shalots. Torrwch flaen yr asbaragws ac yna eu tafellu groes gornel yn ddarnau modfedd o faint.
4. Pan fydd y tatws yn euraidd, taflwch y shalots a’r haneri asbaragws i mewn a dal i ffrio am tua 5 munud.
5. Trowch eich gril ymlaen a’i osod ar wres canolig. Yn y cyfamser torrwch eich wyau i fowlen gymysgu a’u curo’n ysgafn gyda’ch fforcen neu wisg – digon i’r melynwy dorri. Rhowch halen a phupur ar yr wyau.
6. Gratiwch y caws o’ch dewis a’i gymysgu trwy’r wyau.
7. Tywalltwch yr wyau i’r badell ffrio fawr dros yr holl lysiau a pharhau i goginio ar wres isel nes bydd bron a setio o gwmpas yr ymylon - dylai’r canol fod yn dal yn hylifol ar hyn o bryd.
8. Rhowch y badell dan y gril wedi ei gynhesu’n barod a choginio am 2‐3 munud nes bydd yr wyau wedi setio
9. Gadewch am funud neu ddau i oeri ychydig yna ei weini –gallwch hefyd gratio caws dros y pryd yn awr fel ychwanegyn braf.
EICH RYSÁIT 24
DIGWYDDIADAU SY’N DOD
Dyma i chi rai digwyddiadau sydd ar y ffordd i’w nodi ar eich calendr…
MAI
DIWRNOD HWYLIOG AM DDIM
Cynhelir gŵyl ieuenctid deithiol fwyaf Ewrop
eleni ar gyrion tref Dinbych rhwng 30 Mai a 3 Mehefin.
Mae tocynnau ar gyfer yr ŵyl am ddim a gellir eu harchebu ar‐lein (www.urdd.cymru/tickets)
Mae’r ŵyl yn denu dros 65,000 o gystadleuwyr a 100,000 o ymwelwyr o bob rhan o Gymru. Mae’n ddiwrnod hwyliog i’r teulu – Chwaraeon, sioeau, cerddoriaeth, celfyddydau, bwyd a diod a llawer, llawer mwy.
Eleni bydd y digwyddiad hwn yn cynnig mwy nag erioed i chi, gyda Gŵyl Triban (gŵyl o fewn yr ŵyl) a gynhelir ar 2, 3 a 4 Mehefin i ddathlu pen‐blwydd arbennig yr Urdd yn 100 oed. Bydd yr ŵyl yn cynnwys y gorau o gerddoriaeth a diwylliant Cymru ac mae am ddim!
Mynnwch eich tocyn heddiw: urdd.cymru/tocyn
GORFF
MAE’R FFORDD YR YDYCH
YN RHENTU YN NEWID
O 15 Gorffennaf 2022 bydd Deddf Rhentu
Cartrefi (Cymru) 2016 yn newid y ffordd y bydd landlordiaid yng Nghymru yn rhentu eu heiddo.
Mae’r gyfraith newydd yn symleiddio’r cytundebau, gan roi mwy o eglurder ar hawliau a chyfrifoldebau ein preswylwyr a ninnau fel landlordiaid. Bydd y gyfraith newydd yn gwella sut yr ydym yn rhentu, rheoli a byw mewn cartrefi ar rent yng Nghymru.
Ar hyn o bryd nid oes raid i chi wneud dim, rydym yn gweithio tu ôl i’r llenni i sicrhau bod gennym bopeth yn ei le i gydymffurfio â’r gyfraith newydd. Fe fyddai o help
i ni os gallwch chi sicrhau bod gennym eich manylion cyswllt diweddaraf, gallwch wirio’r rhain ar ein porth Preswylwyr, FyClwydAlyn yma www.clwydalyn.co.uk/MyClwydAlyn neu os byddwch chi angen diweddaru eich manylion, anfonwch e-bost at help@clwydalyn.co.uk a bydd ein tîm Tai yn diweddaru hyn i chi.
Gallwch ddarllen rhagor trwy sganio’r cod qr neu trwy glicio ar y ddolen yma: gov.wales/housing-law-changing-renting-homes
Y CYSGU ALLAN MAWR
Eleni bydd 10fed pen‐blwydd y Cysgu Allan Mawr ac rydym yn gwahodd pawb i gymryd rhan.
Dros y 9 mlynedd diwethaf mae staff, preswylwyr a phartneriaid wedi codi dros £50,000 trwy gyfnewid eu gwelyau cynnes cyfforddus am sach gysgu a bocs cardfwrdd. Mae’r arian yn cael eu codi i gefnogi ein gwasanaethau digartrefedd ac Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru.
Bydd y Cysgu Allan Mawr yn digwydd ar Ddydd Sadwrn 8 Hydref 2022. Cadwch lygad, bydd mwy o fanylion am sut y gallwch ymuno yn yr hwyl a helpu i godi arian yn cael eu rhannu dros y misoedd nesaf!
DIGWYDDIADAU SY’N DOD
30
08
HYD
15
25
Eich Cystadleuaeth
Cystadleuaeth gweld y gwahaniaeth
LLONGYFARCHIADAU
ENILLWYR GWELD Y GWAHANIAETH
Ann Spikes - Wrecsam
Anne Fancett - Conwy
Valeria Eastwood - Sir y Fflint
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 25 Mai 2022
ENW
FFÔN
CYFEIRIAD E-BOST
CYFEIRIAD
LLONGYFARCHIADAU
I ENILLWYR Y GYSTADLEUAETH
LLUN NADOLIG
1af £30
Natalie Edwards
Sir Ddinbych
2il £20
Lia Mckinnon
Sir y Fflint
3ydd £10
Hilda Williams -
Preswyliwr yn Llys y Waun
Er mwyn bod â chyfle i ennill; Ysgrifennwch eich Enw llawn, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad.
Anfonwch i gyfeiriad ein Prif Swyddfa72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych LL17 0JD Ffôn: 07880 431004 neu anfonwch e-bost at InfluenceUs@clwydalyn.co.uk
ClwydAlyn.co.uk @ClwydAlyn
1. 2. 3. 4. 5. 6. 7. 8. 9. 10.
gyda’i thalebau