RHUTHUN
TIR YN GLASDIR, RHUTHUN, SIR DDINBYCH
Mae datblygiad o 63 o gartrefi newydd fforddiadwy yn cael eu hadeiladu gan Williams Homes ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru. DIWEDDARIAD AM Y CYNNYDD AC EDRYCH YMLAEN
Mae’r gwaith ar y safle yn mynd yn ei flaen yn dda ac ym mis Gorffennaf cwblhawyd cam 1 y datblygiad a symudodd 18 o breswylwyr/ teuluoedd i’w cartrefi newydd! Bydd gan y datblygiad 3 cham i’w gwblhau, gyda cham 2 yn cael ei orffen o bosibl yn hydref 2022. Mae datblygu cam 3 yn mynd yn ei flaen yn dda, gyda’r holl sylfeini yn eu lle a’r fframiau pren yn cael eu gosod. Bydd y 63 cartref wedi eu gorffen yng ngwanwyn 2023.
CLWYDALYN.CO.UK
HYDREF 2022
CARTREFI YNNI EFFEITHIOL
Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:
• • • • • • •
Bympiau gwres ffynhonnell aer Paneli trydan solar Batris storio trydan solar Y cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol Cyfleusterau gwefru ceir trydan ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel
Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.
AM GAEL GWYBOD RHAGOR AM SUT MAE PYMPIAU GWRES FFYNHONNELL AER YN GWEITHIO, EDRYCHWCH AR EIN FIDEO:
ENWI DATBLYGIAD GLASDIR!
Yr enwau strydoedd newydd a gadarnhawyd gan Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer y datblygiad yw:
• • • • •
Stryd y Friallen (Primrose Street) Llys Bedwen (Birch Place) Ffordd Llwyfen (Elm Road) Rhodfa Criafolen (Rowan Road) Llys y Feillionen (Clover Place)
Mae’r enwau strydoedd yn Glasdir yn gymysgedd o goed a phlanhigion a welir yn ardal Rhuthun ac ar y safle gan iddynt gael eu henwi ar yr arolwg Ecolegol a gynhaliwyd cyn i’r datblygiad ddechrau.
Cyflwyniad i
Bympiau Gwres Ffynhonnell Aer
PRESWYLWYR YN SYMUD I’W CARTREFI!
Llongyfarchiadau i’n preswylwyr sydd wedi symud i’w cartrefi newydd! Gyda cham 1 wedi ei gwblhau, symudodd 18 o breswylwyr i’w cartrefi newydd ar ddechrau Gorffennaf. Mae’r holl gartrefi wedi cael eu hadeiladu fel cartrefi am oes, gan alluogi preswylwyr i fyw’n annibynnol am gyn hired ag sy’n bosibl. Maent wedi eu dylunio fel eu bod yn addasadwy ac ymatebol wrth i anghenion y preswylwyr newid. “ Fe wnaethom fachu ar y cyfle i symud yma gan fod y patrwm yn fwy agored, gyda mynediad rhwydd, gan ei wneud yn hawdd symud o gwmpas y tŷ. Mae’r cyntedd a’r drysau yn llydan, mae’r ardd yn fawr, mae yma ystafell wlyb i lawr grisiau ac rydym yn symud ein lifft grisiau yma heddiw. Mae fy mhlentyn dwy oed yn llawn egni felly bydd y tŷ yma’n wych. Mae cael drysau dwbl i’r ardd yn wych, rwy’n gallu mynd allan i’r ardd yn rhwydd iawn yma.“
LIZZIE
ROSE
“ Mae’n gysur gwybod bod ein cartref yn effeithlon, rwy’n ailgylchu fy ngorau ac rwy’n edrych ymlaen at gael byw mewn cartref gyda phaneli solar â system wresogi fwy gwyrdd. Wnewch chi ddim sylweddoli pa mor galed yw mynediad i wahanol rannu nes y byddwch yn ei golli, mae dyfodol fy merch gyda ffibrosis sistig yn un prin, a phob ychydig o flynyddoedd mae rhywbeth gwahanol yn digwydd. Felly mae gwybod bod y lle’n addas i gadair olwyn, ystafell wlyb i lawr grisiau ac mae gwybod y byddaf yn iawn yn y dyfodol os bydd rhywbeth yn newid o’i rhan hi mor wych. Dwi’n dal ddim wedi sylweddoli’n iawn. “
RHEOLI’R SAFLE AC ORIAU GWEITHREDU
Mae Tîm Rheoli Safle ar y safle bob amser, sydd wedi ei hyfforddi i reoli’r holl weithrediadau a gweithgareddau’r isgontractwyr yn ddiogel. Yr oriau gweithredu nodweddiadol yw dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm a dyddiau Sadwrn 8am hyd 1pm. Os bydd angen i waith arbenigol ddigwydd ar unrhyw adeg tu hwnt i’r oriau hyn, byddwn yn cysylltu â chi. Byddwn yn parhau i gyfathrebu yn gyson trwy gylchlythyr wrth i’r datblygiad symud yn ei flaen.
CYSYLLTWCH Â NI
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Penny Lofts (Rheolwr Tir a Chaffael) ar 01678 521781 a fydd ar gael i ateb unrhyw ymholiadau all fod gennych. Fel arall, os byddai’n well gennych gysylltu â ni trwy e-bost, ein cyfeiriad yw: info@williams-homes.co.uk
DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL
Am y newyddion diweddaraf am y datblygiad, gan gynnwys delweddau o’r ffordd mae’r safle’n datblygu, dilynwch ClwydAlyn a Williams Homes ar y cyfrynga cymdeithasol @ClwydAlyn @WilliamsHomes_