Y RHYL
STRYD EDWARD HENRY, Y RHYL
Mae’r prosiect £3.89m, sy’n bartneriaeth rhwng Cymdeithas Tai ClwydAlyn, Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru wedi gweld 33 o’r fflatiau oedd yn bodoli’n cael eu dymchwel a bydd 13 o gartrefi fforddiadwy i deuluoedd tair ystafell wely yn cael eu hadeiladu yn eu lle gan NWPS Construction. Mae’r cartrefi newydd yn rhan o’r Cynllun Trawsnewid Trefi wedi’i Dargedu ar gyfer ailddatblygu pen gorllewinol y Rhyl. Bydd pump o’r cartrefi newydd yn yr ardal gadwraeth a bydd eu hwyneb yn cael ei ail-adeiladu i edrych yr un fath â’r eiddo sy’n bodoli er mwyn cadw treftadaeth gyfoethog yr ardal. Y dyddiad cwblhau disgwyliedig ar gyfer y cynllun yw Gwanwyn 2024.
CLWYDALYN.CO.UK
HYDREF 2022
DIWEDDARIAD AM Y CYNNYDD AC EDRYCH YMLAEN
Mae’r gwaith ar y safle yn mynd yn ei flaen yn dda, mae’r holl adeiladau wedi eu dymchwel ac mae’r briciau ar y safle wedi eu malu i’w hailddefnyddio fel llenwad. Mae’r contractwyr gwaith daear wedi dechrau tyllu yn barod i dywallt y sylfeini. Mae’r safle wedi ei sefydlu ac yn ei le. Y cam nesaf fydd cryfhau pen gorllewinol y safle i osgoi gweld y tir yn dymchwel tra bydd y gweithwyr daear yn gweithio yn yr ardaloedd oedd yn selerydd yn wreiddiol. Dros y misoedd nesaf, fe welwch y sylfeini yn cael eu llenwi â choncrid, bydd y gwaith blociau’n cael ei adeiladu hyd at lefel y llawr a bydd lloriau concrid yn cael eu gosod. Bydd sgaffaldiau’n cael eu gosod wedyn er mwyn codi’r fframiau pren.
RHOI YN ÔL I’R GYMUNED
Rhan bwysig o ymrwymiad ClwydAlyn i adeiladu tai fforddiadwy o safon uchel yw sicrhau bod yr holl bartneriaid sy’n rhan o’r cynllun yn ymrwymo i roi yn ôl i’r cymunedau lleol yr ydym yn gweithio ynddyn nhw mewn amrywiaeth eang o ffyrdd yn unol â’n blaenoriaethau tlodi. Bydd hynny yn ei dro yn helpu i gyfoethogi ein cymunedau trwy roi cefnogaeth lle mae ei angen, boed hynny yn helpu pobl yn ôl i waith, brwydro yn erbyn bod yn ynysig yn gymdeithasol, cefnogi preswylwyr sydd mewn tlodi tanwydd neu roi mynediad at fwyd maethlon.
Ein blaenoriaethau tlodi i breswylwyr
Ein cenhadaeth
Cynyddu gwaith, hyfforddiant, addysg a gwirfoddoli
Lleihau tlodi bwyd
Gyda’n gilydd i drechu tlodi
Lleihau tlodi tanwydd
A ydych yn gwybod am unrhyw grwpiau cymunedol, ysgolion, elusen neu sefydliad nid er elw yn yr ardal sydd angen cefnogaeth? Os felly, byddem yn falch iawn o gael clywed amdanyn nhw, anfonwch e-bost at jim.twist@nwpsconstruction.com
Cynyddu cynhwysiant digidol
Cwmpas Gwerth Cymdeithasol: Gweithgareddau a gwasanaethau sy’n mynd tu hwnt i’r gofyn i gyflawni deilliannau gwerth cymdeithasol sy’n cyfrannu at ein blaenoriaethau tlodi a’n cenhadaeth i drechu tlodi.
DIDDORDEB MEWN GYRFA YN Y MAES ADEILADU?
Mae ClwydAlyn a NWPS Contractors yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi pobl sy’n byw yn y cymunedau i waith, hyfforddiant, prentisiaethau. Os oes gennych ddiddordeb mewn profiad gwaith, lleoliad hyfforddi neu waith / prentisiaeth, mewn amrywiaeth mawr o grefftau adeiladu, cysylltwch â NWPS Contractors ar: @NWPSConstruction
RHEOLI’R SAFLE AC ORIAU GWEITHREDU
@nwpsbuilders
Mae Tîm Rheoli Safle ar y safle bob amser, sydd wedi ei hyfforddi i reoli’r holl weithrediadau a gweithgareddau’r isgontractwyr yn ddiogel. Yr oriau gweithredu nodweddiadol yw dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 7:30am a 5:00pm a dyddiau Sadwrn 8am hyd 1pm (os bydd angen). Os bydd angen i waith arbenigol ddigwydd ar unrhyw adeg tu hwnt i’r oriau hyn, byddwn yn cysylltu â chi. Byddwn yn parhau i gyfathrebu yn gyson trwy gylchlythyr wrth i’r datblygiad symud yn ei flaen.
CYSYLLTWCH Â NI
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Jim Twist (Rheolwr Safle) ar 07917701926 neu anfon e-bost at: jim.twist@nwpsconstruction.com a fydd ar gael i ateb unrhyw ymholiadau all fod gennych.
DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL
Am y newyddion diweddaraf am y datblygiad, gan gynnwys delweddau o’r ffordd mae’r safle’n datblygu, dilynwch ClwydAlyn a NWPS Contractors ar y cyfryngau cymdeithasol @ClwydAlyn @NWPSConstruction (Facebook), @nwpsbuilders (Twitter).