MÔN
TIR GER CAMPWS PENCRAIG COLEG MENAI, LLANGEFNI GAEAF 2023
Datblygiad 60 o dai
fforddiadwy, fydd yn
cynnwys tai 2–3 ystafell
wely a fflatiau. Yn ogystal
â darparu tai fforddiadwy
ar rent, byddant yn
effeithlon o ran ynni, gyda
thechnolegau gwyrdd fel
pympiau ffynhonnell aer a phaneli solar.
Mae’r cartrefi yma’n cael eu hadeiladu gan Anwyl Partnerships ar ran
ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â
Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth
Cymru. Y dyddiad cwblhau arfaethedig ar gyfer y datblygiad cyfan yw haf 2023.
DIWEDDARIAD AM Y CYNNYDD
AC EDRYCH YMLAEN
Mae’r gwaith ar y safle yn mynd yn ei flaen yn dda, tra bod y cartrefi newydd yn cael eu datblygu, fe’u gelwir yn blotiau ac mae plotiau 1 i 18, (sy’n dai a fflatiau) wedi cael tynnu’r sgaffaldiau ac mae’r gwaith allanol yn mynd yn ei flaen. Mae’r gwaith ar hyn o bryd yn mynd yn ei flaen i gysylltu’r cyfleustodau i’r eiddo. Bydd y datblygiad yn cael ei gwblhau mewn camau ac maent ar gyfnodau gwahanol yn y broses ddatblygu. Disgwylir i’r trosglwyddiadau cyntaf ddigwydd yng ngwanwyn 2023.
RHOI YN ÔL I’R GYMUNED
Rhan bwysig o ymrwymiad ClwydAlyn i adeiladu tai fforddiadwy o safon uchel yw sicrhau bod yr holl bartneriaid sy’n rhan o’r cynllun yn ymrwymo i roi yn ôl i’r cymunedau lleol yr ydym yn gweithio ynddyn nhw mewn amrywiaeth eang o ffyrdd yn unol â’n blaenoriaethau tlodi. Bydd hynny yn ei dro yn helpu i gyfoethogi ein cymunedau trwy roi cefnogaeth lle mae ei angen, boed hynny yn helpu pobl yn ôl i waith, brwydro yn erbyn bod yn ynysig yn gymdeithasol, cefnogi preswylwyr sydd mewn tlodi tanwydd neu roi mynediad at fwyd maethlon.
EIN CENHADAETH:
GYDA’N GILYDD I DRECHU TLODI
Ein blaenoriaethau tlodi:
CEFNOGI POBL I WAITH
• Gwaith, hyfforddiant, addysg a gwirfoddoli (Cynyddu)
• Tlodi bwyd (lleihau)
• Tlodi tanwydd (lleihau)
• Cynhwysiant Digidol (cynyddu)
Mae Anwyl Partnerships wedi ymrwymo i gefnogi pobl i gael gwaith ac maen nhw wedi cael y prentisiaethau canlynol o Gampws Pencraig
Coleg Menai:
• 1 Plymiwr
• 1 Trydanwr
• 3 Saer
• 1 Gosodwr Brics
Mwynhaodd myfyrwyr adeiladu o Gampws Pencraig Coleg Menai flas ar fywyd go iawn ar safle adeiladu. Cafodd y grŵp o rai 16 – 18 mlwydd oed dreulio diwrnod a y safle, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i greu cyfleoedd hyfforddi a dysgu i fyfyrwyr lleol.
AR GYFER PWY FYDD Y CARTREFI YMA?
Cynigir y cartrefi i bobl ar yr ‘Un Llwybr Mynediad i’r Gofrestr Tai’ a Tai Teg (y Gofrestr Tai Fforddiadwy) sy’n byw a gweithio yn yr ardal. Nid yw hyn yn golygu na fydd eraill yn cael lle, gall rhywun ar y gofrestr, er enghraifft, fod â chysylltiad â’r ardal (e.e. plant wedi tyfu, symud yn ôl i’r ardal i roi cefnogaeth i’r teulu). www.taiteg.org.uk www.ynysmon.llyw.cymru
RHEOLI’R SAFLE AC
ORIAU GWEITHREDU
Mae Tîm Rheoli Safle ar y safle bob amser, sydd wedi ei hyfforddi i reoli’r holl weithrediadau a gweithgareddau’r isgontractwyr yn ddiogel. Yr oriau
gweithredu nodweddiadol fydd o ddydd Llun i ddydd
Gwener rhwng 8am a 5pm. Os bydd angen i waith arbenigol ddigwydd ar unrhyw adeg tu hwnt i’r oriau hyn, byddwn yn cysylltu â chi. Byddwn yn parhau i gyfathrebu yn gyson trwy gylchlythyr wrth i’r datblygiad symud yn ei flaen.
CYSYLLTWCH Â NI
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Dave Bradley (Rheolwr Safle) dave.bradley@anwyl.co.uk a Steve Jones (Rheolwr Contractau); stephen.jones@anwyl.co.uk fydd ar gael i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych.
DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL
Am y newyddion diweddaraf am y datblygiad, gan gynnwys delweddau o’r ffordd mae’r safle’n datblygu, dilynwch ClwydAlyn ac Anwyl Partnerships ar y cyfryngau cymdeithasol @ClwydAlyn @AnwylPartnerships
Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol