STRYD EDWARD HENRY, Y RHYL
Datblygiad o 13 o gartrefi
fforddiadwy tair ystafell wely
yn cael eu hadeiladu gan NWPS
Construction ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir
Ddinbych a Llywodraeth Cymru.
Mae’r cartrefi newydd yn rhan
o’r Cynllun Rhaglen Buddsoddiad
Adfywio wedi’i Dargedu ar gyfer
ailddatblygu pen gorllewinol y Rhyl.
Bydd pump o’r cartrefi newydd yn yr ardal
gadwraeth a bydd eu hwyneb yn cael ei ail-adeiladu i edrych yr un fath â’r eiddo sy’n bodoli er mwyn cadw treftadaeth gyfoethog yr ardal. Y dyddiad cwblhau disgwyliedig yw gwanwyn 2024.
DIWEDDARIAD AM Y CYNNYDD AC EDRYCH YMLAEN
Mae’r gwaith ar y safle yn mynd yn ei flaen yn dda, gyda’r gwaith brics ar gyfer plotiau 11 i 17 bron ai gwblhau a’r paneli solar a llechi ar gyfer pob eiddo hefyd wedi eu cwblhau.
Mae lloriau a sylfeini plotiau 3 i 9b yn eu lle, ac mae’r sgaffaldiau wedi eu codi ar gyfer y bloc cyfan yn barod ar gyfer y fframiau pren, a disgwylir i’r gwaith gymryd 4 i 5 wythnos i’w orffen. Ar ôl hyn byddwch yn gweld sylfeini plotiau 19 i 25 yn cael eu gosod.
Yn ddiweddar mae NWPS Construction wedi cymryd saer ar brentisiaeth i’w hyfforddi ac i weithio ar y safle, mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai, a bydd mwy o gyfleoedd cyffrous am brentisiaethau yn y flwyddyn nesaf.
EIN CENHADAETH: GYDA’N GILYDD I DRECHU TLODI
Ein blaenoriaethau tlodi:
• Gwaith, hyfforddiant, addysg a gwirfoddoli (Cynyddu)
• Tlodi bwyd (lleihau)
• Tlodi tanwydd (lleihau)
• Cynhwysiant Digidol (cynyddu)
RHOI YN ÔL I’R GYMUNED
PROSIECT ADNEWYDDU MAWR YN DECHRAU GYDA SEREMONI TORRI’R
DYWARCHEN
Nodwyd dechrau’r prosiect yn swyddogol trwy seremoni torri’r dywarchen ym mis Hydref a daeth Maer Cyngor
Tref y Rhyl, y Cynghorydd Diane King ac aelodau eraill o’r Cyngor yno. Wrth i’r gwaith adfywio barhau yn y Rhyl, dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau bod y Cyngor yn falch o gefnogi’r prosiect fydd yn dod â chartrefi carbon ac ynni effeithlon i deuluoedd y mae angen mawr amdanynt mewn cyfnod o gostau tanwydd cynyddol.
DIDDORDEB
MEWN
Rhan bwysig o ymrwymiad ClwydAlyn i adeiladu tai fforddiadwy o safon uchel yw sicrhau bod yr holl bartneriaid sy’n rhan o’r cynllun yn ymrwymo i roi yn ôl i’r cymunedau lleol yr ydym yn gweithio ynddyn nhw mewn amrywiaeth eang o ffyrdd yn unol â’n blaenoriaethau tlodi. Bydd hynny yn ei dro yn helpu i gyfoethogi ein cymunedau trwy roi cefnogaeth lle mae ei angen, boed hynny yn helpu pobl yn ôl i waith, brwydro yn erbyn bod yn ynysig yn gymdeithasol, cefnogi preswylwyr sydd mewn tlodi tanwydd neu roi mynediad at fwyd maethlon.
A ydych yn gwybod am unrhyw grwpiau cymunedol, ysgolion, elusen neu sefydliad nid er elw yn yr ardal sydd angen cefnogaeth? Os felly, byddem yn falch iawn o gael clywed amdanyn nhw, anfonwch e-bost at jim.twist@nwpsconstruction.com
GYRFA YN Y MAES ADEILADU?
Mae ClwydAlyn a NWPS Construction yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi pobl sy’n byw yn y cymunedau i waith, hyfforddiant, prentisiaethau. Os oes gennych ddiddordeb mewn profiad gwaith, lleoliad hyfforddi neu waith / prentisiaeth, mewn amrywiaeth mawr o grefftau adeiladu, cysylltwch â NWPS Construction ar:
@NWPSConstruction @nwpsbuilders
RHEOLI’R SAFLE AC ORIAU GWEITHREDU
Mae Tîm Rheoli Safle ar y safle bob amser, sydd wedi ei hyfforddi i reoli’r holl weithrediadau a gweithgareddau’r isgontractwyr yn ddiogel. Yr oriau gweithredu nodweddiadol yw dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 7:30am a 4:30pm a dyddiau
Sadwrn 8am hyd 1pm (os bydd angen). Os bydd angen i waith arbenigol ddigwydd ar unrhyw adeg tu hwnt i’r oriau hyn, byddwn yn cysylltu â chi. Byddwn yn parhau i gyfathrebu yn gyson trwy gylchlythyr wrth i’r datblygiad symud yn ei flaen.
CYSYLLTWCH Â NI
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Jim Twist (Rheolwr Safle) ar 07917701926 neu anfon e-bost at: jim.twist@nwpsconstruction.com a fydd ar gael i ateb unrhyw ymholiadau all fod gennych.
DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL
Am y newyddion diweddaraf am y datblygiad, gan gynnwys delweddau o’r ffordd mae’r safle’n datblygu, dilynwch ClwydAlyn a NWPS Construction ar y cyfryngau cymdeithasol @ClwydAlyn @NWPSConstruction (Facebook), @nwpsbuilders (Twitter).
Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol