Adroddiad Ein Haddewid am 2021/22

Page 1

Adroddiad Ein Haddewid am 2021/2022

Sicrhau bod eich cartref yn ddiogel, yn saff ac yn cael ei gynnal a’i gadw yn dda.

Sicrhau bod ClwydAlyn yn cael ei redeg yn dda ac yn gynaliadwy yn ariannol fel ein bod yn gallu parhau i daclo tlodi.

Eich cefnogi i fyw’n dda yn eich cartref, fel eich bod yn gallu byw’r bywyd yr ydych yn ei ddewis mewn cymuned ddiogel a chysylltiedigy.

Gwario arian yn ddoeth a dweud wrthych pa mor dda yr ydym yn ei wario fel eich bod yn gallu ein gwneud yn atebol.

ClwydAlyn.co.uk/EinHaddewid

Sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed, gwrando ar eich adborth, ac ymdrin â chwynion yn gyflym a theg.

Sicrhau bod eich cartref yn fforddiadwy a’ch cefnogi chi gyda chyngor ar incwm a lles.

Sicrhau bod tâl gwasanaeth yn deg ac yn cynnig gwerth am arian.

Darparu gwasanaeth rhagorol a rhoi gwybod i chi sut yr ydym yn perfformio o ran gwaith cynnal a chadw hanfodol, gwaith trwsio a diogelwch.

Sut yr Ydym yn Gwneud Pethau Ymddiriedaeth Caredigrwydd Gobaith

Ein haddewid yw ein siarter preswylwyr.

Rydym wedi gweithio gyda gwirfoddolwyr #Dylanwadwch a’n

Pwyllgor Preswylwyr i greu a lansio ‘Ein Haddewid’ sy’n nodi beth

ddylai ein preswylwyr ei ddisgwyl gan ClwydAlyn.

Rydym yn defnyddio Ein Haddewid i fesur ein perfformiad, gyrru gwelliannau gwasanaeth ac mae’n ein gwneud yn atebol i breswylwyr mewn modd agored a didwyll.

Credwn bod cartref yn bwysig ac y dylai cartref fod yn fwy na dim ond pedair wal a tho. Mae Ein Haddewid yn nodi ein hymrwymiad i gyflawni gwasanaethau rhagorol.

Sicrhau

99.9% o gartrefi wedi eu gwirio am ddiogelwch nwy

99.9% o gartrefi sydd ag offer nwy â gwiriad diogelwch nwy cyfredol, wedi ei achredu.

100% o’r adeiladau’n cydymffurfio o ran risg tân

100% o’r adeiladau ag Asesiad Risg Tân cyfredol sy’n cydymffurfio.

100% o gartrefi yn cyrraed Safon Ansawdd Tai Cymru.

100% o gartrefi yn cyrraed Safon Ansawdd Tai Cymru.

90% o breswylwyr yn fodlon bod eu cartref yn ddiogel a saff

85% o breswylwyr yn fodlon

85% o’n preswylwyr yn fodlon ar ansawdd eu cartref.

bod eich cartref yn ddiogel, yn saff ac yn cael ei gynnal a’i gadw yn dda.

£3.5 Miliwn

wedi ei wario ar wella’r cartrefi sy’n bodoli.

£5.7 Miliwn

929 o’r cartrefi presennol wedi eu gwella

£1.5 Miliwn wedi ei wario ar wneud cartrefi’n ddiogel.

£ £ £ £

wedi ei wario ar drwsio a chynnal a chadw cartrefi.

24,810 O dystysgrifau cydymffurfio diogelwch a gwiriadau diogelwch cartref wedi eu cwblhau.

Buddsoddi yn y cartrefi presennol

£3.5 Miliwn

Wedi ei wario ar welliannau ynni i 929 o gartrefi

566 O breswylwyr yn arbed hyd at £81.01 y flwyddyn o welliannau ynni yn y cartref

279 tunnell o Ostyngiad Carbon y flwyddyn trwy wella Effeithlonrwydd Cartrefi

142 O fwyleri nwy gradd A wedi eu gosod

136 O ystafelloedd ymolchi wedi eu diweddaru

227 O geginau wedi eu diweddaru

74 O systemau cynhesu dŵr wedi eu diweddaru

200 O gartrefi gyda ffenestri a drysau newydd

150 O systemau gwresogi trydanol wedi eu diweddaru

270 O gartrefi wedi eu haddasu i fod yn addas i anghenion ein preswylwyr.

Sy’n cyfateb i’r carbon a gymerir i mewn gan

11,000 o goed yn flynyddol

89% o breswylwyr yn fodlon bod eu rhent yn rhoi gwerth am arian.

Sicrhau bod eich cartref yn fforddiadwy

a’ch cefnogi chi gyda chyngor ar incwm a lles.

2021/22

Mae ein polisi rhent fforddiadwy yn ystyried barn, amgylchiadau ac incwm ein preswylwyr.

Gan greu meincnod ar gyfer yr holl renti yn seiliedig ar fodel rhent Sefydliad Joseph Rowntree. Mae hyn yn ein galluogi i weithredu cynnydd rhent ar sail fforddiadwyedd. Yn ein cartrefi anghenion cyffredinol a chysgodol, fe wnaethom weithredu cynnydd rhent yn seiliedig ar y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) a rhewi’r rhenti i bron i 500 o breswylwyr.

Rydym yn gweithio ar draws 6 Awdurdod Lleol i’r cartrefi dan y drefn rheoleiddio rhent.

Lwfans Tai Lleol yn seiliedig ar renti ar gyfer 2021/22:

11.14% Ar gyfartaledd mae ein rhent 11.14% yn rhatach na’r Lwfans Tai Lleol.

£ £ £ £

Defnyddir cyfraddau Lwfans Tai Lleol i gyfrifo faint o fudd-dal tai (neu elfen tai y Credyd Cynhwysol) y gellir ei dalu i denantiaid yn y sector preifat ar rent.

Mae’n seiliedig ar renti y farchnad breifat sy’n cael eu talu gan denantiaid yn y farchnad rhenti preifat eang ac mae’n cael ei gyfyngu gan ddeddfwriaeth.

Rydym yn rhoi sicrwydd i’n preswylwyr, fel

eu bod yn gwybod bod ganddynt le i fyw.

Mae gan 100% o’n cartrefi anghenion cyffredinol a chysgodol denantiaeth sicr.

Awdurdod Lleol Cyfartaledd Rhent ClwydAlyn Cyfartaledd Lwfans Tai Lleol % Gwahaniaeth Conwy £100.34 £108.09 7.17% Sir Ddinbych £100.86 £112.90 10.66% Sir y Fflint £101.90 £121.10 15.86% Powys £104.64 £104.58 -0.05% Wrecsam £101.96 £112.28 9.19% Ynys Môn £103.78 £106.72 2.75% Yr Holl Stoc yn Gyffredinol £101.80 £114.56 11.14%

2,163 O ymweliadau

cartref wedi eu cwblhau gan ein swyddogion tai

179

Wedi eu croesawu i’n gwasanaethau byw â chefnogaeth a digartrefedd

659

O breswylwyr newydd wedi eu croesawu

Helpu 632 o bobl i gael

£858,360.62

mewn incwm ychwanegol trwy ein tim hawliau lles

485 o bobl wedi cael eu cefnogi

gan ein swyddogion ymyrraeth gynnar yn cefnogi

tenantiaethau cyntaf, taliadau heb eu talu ac ôl-ddyledion isel.

Dyluniwyd ein cynlluniau byw â chefnogaeth a gwasanaethau i fodloni anghenion pobl sydd angen cefnogaeth ychwanegol, fel pobl â phroblemau caethiwed i gyffuriau/sylweddau, pobl mewn perygl o ddioddef trais domestig neu rieni yn eu harddegau.

Ysgrifennodd preswyliwr atom i ddiolch i Gafyn Thomas, Swyddog Tai.

“Nid oedd gennyf drydan na nwy ar fy mesuryddion a dim bwyd ac roeddem ar fin cyrraedd penwythnos Gŵyl y Banc gyda’r gwasanaethau’n cau i lawr. Ffoniodd Gafyn Groundworks i weld a allai fy nghyfeirnod gael ei flaenoriaethu. Fe wnaethant gymryd y cyfeiriad a’i brosesu’n syth. Dyfarnwyd £42 i mi ar fy nau fesurydd. Fe wnaeth Gafyn hefyd lwyddo i gael parsel bwyd i mi gan fy mod yn ynysu oherwydd covid, felly fe drefnodd i’r bwyd gael ei anfon draw. Rwy’n eithriadol o ddiolchgar am ei help pan oeddwn yn llwglyd ac yn poeni sut yr oeddwn yn mynd i ymdopi dros y penwythnos. Diolch.”

Sicrhau bod taliadau gwasanaeth yn deg ac yn cynnig gwerth am arian.

75%

o breswylwyr yn fodlon bod eu taliadau

gwasanaeth yn rhoi gwerth am arian

Rydym yn cynnal adolygiad llawn o’r taliadau gwasanaeth ac yn gweithio gyda phreswylwyr ar ba wasanaethau y mae arnynt eu hangen neu eu heisiau a sut y mae’r rhain yn cael eu darparu.

Rydym wedi bob yn gweithio gyda phreswylwyr ar werth am arian a beth sy’n wirioneddol bwysig iddyn nhw. Wrth ymateb i adborth preswylwyr, rydym wedi gwneud newidiadau fel gostwng amlder y

gwasanaeth cynnal a chadw tiroedd i leihau taliadau gwasanaeth.

Mae ein tâl rheoli yn talu am y costau gweinyddol neu reoli sy’n gysylltiedig â chyflawni ein gwasanaethau.

Mae’n cynnwys pethau fel cost caffael a rheoli contractau, tai a chyswllt a chefnogaeth i breswylwyr, yn ogystal â chost gweinyddu anfonebau yn gysylltiedig â’ch cartref neu ardaloedd cymunedol. Mae gweddill eich tâl gwasanaeth yn talu am wir gost pob gwasanaeth ei hun.

Darparu gwasanaeth rhagorol a rhoi gwybod i chi sut yr ydym yn perfformio o ran gwaith cynnal a chadw hanfodol, gwaith trwsio a diogelwch.

85%

85% o breswylwyr yn fodlon

â’r gwasanaeth cyffredinol a ddarparwyd

90%

90% o’r preswylwyr yn fodlon yn eu cartref newydd

76%

o breswylwyr yn fodlon ar y ffordd y mae ClwydAlyn yn ymdrin â gwaith trwsio a chynnal a chadw

21,474

O swyddi gwaith trwsio arferol o ddydd i ddydd wedi eu derbyn

20,420

O swyddi gwaith trwsio arferol o ddydd i ddydd wedi eu cwblhau

4,952

o waith trwsio argyfwng wedi eu cwblhau cyn pen 24 awr

89%

o’r swyddi wedi eu cwblhau ar yr ymweliad cyntaf.

537

o gartrefi gwag wedi'u hadnewyddu.

48 diwrnod oedd yr amser ar gyfartaledd i ailosod cartref.

Fel arfer mae gennym rhwng 1,000 a 1,500 o swyddi ar agor ar y system sydd tua 2½ i 3½ wythnos o waith. Mae’n ein helpu i gynllunio ymlaen a chael cydbwysedd rhwng y flaenoriaeth i’w rhoi i wahanol swyddi a’r lefel gywir o staff.

Cwblhaodd ein Canolfan Gyswllt 2384 o alwadau bodlonrwydd ar waith cynnal a chadw’r flwyddyn ddiwethaf yn dilyn gwaith cynnal a chadw arferol, roedd y bodlonrwydd cyffredinol yn 89%

59,227 o alwadau wedi eu derbyn

90%

o’r galwadau wedi eu hateb... mae hynny’n

53,107

PAM NAD YDYM YN ATEB POB GALWAD?

Tra bydd pobl yn aros, rydym yn eu hatgoffa eu bod yn gallu defnyddio’r porth preswylwyr yn hytrach nag aros. Mae llu o resymau pam bod pobl yn rhoi’r ffôn i lawr cyn i ni ateb.

Bob hyn a hyn mae rhai pethau’n effeithio ar ein hamseroedd gwasanaeth sydd tu hwnt i’n rheolaeth.

Gwelodd Storm Arwen gynnydd anferth yn y nifer o gwsmeriaid wnaeth gysylltu ym mis Tachwedd

2021. Fe wnaeth hefyd greu cynnydd mawr yn y nifer o swyddi i’n timau cynnal a chadw. Rydym hefyd wedi rhoi mwy o bwyslais ar ein dull iawn tro cyntaf, sy’n golygu ein bod yn treulio ychydig yn hwy gyda chwsmeriaid ar y dechrau. Mae hyn wedi golygu bod ein hamseroedd aros yn hwy cyn i rai galwadau gael eu hateb.

Ysgrifennodd preswylydd atom i ddiolch i James Twisse, Trydanwr:

2.12 munud

oedd yr amser aros ar gyfartaledd i’r galwadau gael eu hateb

55% o fewn 40 eiliad!

1,645

O bobl wedi cofrestru ar ein Porth Preswylwyr FyClwydAlyn

750

O bobl yn ei ddefnyddio bob mis... Y ffordd fwyaf poblogaidd o dalu

“ Yn ystod ymweliad cynnal a chadw gan James, gofynnais iddo am gwrs cyflym ar ddefnyddio fy ngwresogyddion. Ers hynny, rwyf wedi eu gosod ar y gwres isaf posibl sy’n addas i mi, sydd yn hen ddigon, felly fe ddylai fy miliau ostwng yn wirioneddol. Roedd James yn rhagorol.”

Ysgrifennodd preswylydd atom i ddiolch i Christopher Smales ac Alexander Hall o’r tîm plymio a gwresogi:

“Y ddau berson a ddaeth yma yw fy ‘nau farchog’. Roedden nhw’n gyflym iawn, yn gwrtais iawn a’r ddau yn bobl hyfryd. Rwyf yn fythol ddiolchgar am gael fy nhoiled i fyny’r grisiau yn ôl.”

Yn ystod y

Sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed, gwrando ar eich adborth, ac ymdrin â chwynion yn gyflym a theg.

82%

o breswylwyr yn dweud eu bod yn ymddiried yn ClwydAlyn

mis diwethaf:

o gwynion wedi eu codi trwy ein proses cwynion

75%

o breswylwyr yn fodlon ein bod yn gwrando ar eich barn ac yn gweithredu arni

68%

o breswylwyr yn fodlon ar y cyfle i gymryd rhan yn ein prosesau llunio penderfyniadau

24% ddim yn fodlon nac anfodlon

Cwynion wedi eu cadarnhau gan yr

Fe wnaethom ymateb i

85%

o gwynion cam 1 a 2 yn yr amserlen a nodwyd gennym

Fe wnaethom ymateb i

100%

o gwynion cyswllt cyntaf cyn pen ein hamserlen 5 diwrnod

193
128 Wedi
ar
53 Wedi eu
ar
1 12 Wedi
ar
2 7 Wedi
yr Ombwdsmon DIM
Ombwdsmon
eu datrys
unwaith
datrys
gam
eu datrys
gam
eu hystyried gan
12

107 o breswylwyr

yn rhan o’n grŵp #Dylanwadwch ac wedi cymryd rhan mewn 5 adolygiad gwasanaeth i helpu i siapio ein gwasanaethau.

Gan gynnwys cynnal a chadw tiroedd, polisi costau taladwy, gwasanaeth trwsio DIY, panel cwynion a’r porth priodol.

Dyfarnwyd ail wobr i #Dylanwadwchyn y categori Gwneud i Ymlyniad Tenantiaid

Ar-lein Weithio yng Ngwobrau Arfer Da TPAS 2021.

GWOBRAU ARFER DA TPAS CYMRU 2021

Cydnabod cyflawniadau a rhannu arfer da

TPAS CYMRU GOOD PRACTICE AWARDS 2021

Recognising achievements & sharing good practice

TYSTYSGRIF CYDNABYDDIAETH / CERTIFICATE OF RECOGNITION

Panel Cwynion / Complaints Panel ClwydAlyn

ENNILLYDD y Wobr Cynnwys Tenantiaid wrth Lunio Gwasanaethau WINNER of the Involving Tenants in Shaping Services Award

Enillodd ein Panel

Cwynion y categori

Cynnwys Tenantiaid

wrth Siapio

Gwasanaethau yng Ngwobrau Arfer

Da TPAS 2021

2021/22

Sut y gwariwyd yr incwm yn 2021/22

Costau Rheoli £6.4 miliwn

Costau Gwasanaeth £18.7 miliwn

Gwaith trwsio o ddydd i ddydd £7m

Costau Rheoli

Yn talu am holl gostau cyffredinol

ClwydAlyn, gan gynnwys pethau fel cyllid, TG, cyfathrebu, llywodraethu, staff tai a’r costau busnes sy’n gysylltiedig â rhedeg y sefydliad.

Costau Gwasanaeth

Yn talu am gost darparu gwasanaethau yn ein cartrefi fel glanhau, glanhau ffenestri, garddio, cyfleustodau, a threth y cyngor. Mae hefyd yn talu am gynnal a chadw a chyfnewid offer cymunedol fel systemau mynediad, giatiau, lifftiau, erialau teledu, offer golchi dillad, yn ogystal ag adnewyddu ardaloedd masnachol. Mae hefyd yn cynnwys costau staff fel glanhawyr, staff arlwyo, nyrsys, ymarferwyr gofal a gweithwyr prosiect sy’n gweithio yn ein gwasanaethau i’r digartref a byw â chefnogaeth.

Gwaith trwsio o ddydd i ddydd

Yw cost ein gwaith trwsio ymatebol (trwsio pethau pan fyddant yn torri).

Gwelliannau Mawr

Yw cost gwelliannau tymor hir i’n cartrefi fel ailweirio, systemau gwresogi trydanol, camau

Gwelliannau Mawr £6.5 miliwn

Ad-daliadau Morgais £7.2 miliwn

Foids a dyledion drwg £1.9 miliwn

effeithlonrwydd ynni a chyfnewid pethau fel ceginau, ystafelloedd ymolchi, bwyleri, toeau, ffenestri a drysau.

Ad-daliadau Morgais

Yw’r llogau yr ydym yn eu talu ar y benthyciadau yr ydym wedi eu defnyddio i adeiladu a phrynu cartrefi.

Foids (cartrefi gwag)

Bydd gennym rai cartrefi yn wag bob amser, ac rydym yn eu galw yn foids. Gall hyn fod am lawer o resymau: fel y gwaith sydd yn angenrheidiol i’w troi yn gartref o safon uchel i’r preswylwyr newydd. Rydym am i bobl symud i’n cartrefi gwag yn gyflym, felly rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddod o hyd i rywun sy’n chwilio am gartref, paratoi eu tenantiaeth a sicrhau bod y cartref yn barod ac yn ddiogel iddynt symud iddo mor gyflym ag sy’n bosibl. Fe wnaethom adnewyddu 537 eiddo gwag y llynedd a chroesawu 659 o breswylwyr newydd. Ar gyfartaledd cymerodd 48 diwrnod i ailosod cartref.

Adnewyddwyd 537 eiddo gwag y llynedd a chroesawyd 659 o breswylwyr newydd.

Ar gyfartaledd cymerodd 48 diwrnod i ailosod cartref

Yn anffodus, rydym yn colli peth arian oherwydd cartrefi gwag gan na allwn gasglu rhent tra bydd y cartref yn wag.

Ein targed yw cael 30 o gartrefi gwag neu lai bob mis. Ar ddechrau 2022 roedd dros 50, ac o ganlyniad roedd ein colled foid yn 21/22 yn 2.13%, sy’n uwch na’n targed o 1.10%.

Mae rhywfaint o hyn oherwydd bod cynnydd yn y nifer o gartrefi aeth yn wag ar ôl Covid, gan fod amgylchiadau pobl yn newid.

Dyledion drwg?

Dyledion drwg yw’r swm o rent a thaliadau gwasanaeth sy’n ddyledus i ni, ond nad ydym wedi gallu eu casglu. Roedd y swm yn £376k yn ystod 21/22. Roedd y rhent a gasglwyd am y flwyddyn yn 97.15% mewn cymhariaeth â’n targed o 97%.

yn ddyledus i ni yn ystod 21/22

£376k

Gwario arian yn ddoeth a dweud wrthych sut yr ydym yn ei wario fel eich bod yn gallu ein gwneud yn atebol.
13% 39% 14% 14% 15% 4%

Nifer o gartrefi newydd yn ôl categori:

90%

90% o’r preswylwyr yn fodlon yn eu cartref newydd

Yn un o’n datblygiadau newydd (Glasdir) fel rhan o’n gwaith gwerth cymdeithasol, rydym wedi:

Creu swydd peiriannydd dan hyfforddiant: Yn awr ar yr ail flwyddyn o hyfforddiant a bydd yn cymhwyso’n llawn y flwyddyn nesaf, ac yn byw ddim ond 300m o’r safle.

Sicrhau bod 60% o weithlu’r is-gontractwr yn lleol (o fewn radiws o 20 milltir) 25% o fewn 15 milltir a 15% o fewn 35 milltir.

Sicrhau bod yr holl weithwyr a gyflogir yn uniongyrchol yn lleol i’r safle (o fewn radiws o 20 milltir).

Rydym wedi

cael £473K

gan y cynllun grant

Iawndal Ynni

i ddarparu

cefnogaeth ynni

i 3000 o aelwydydd a

chyflwyno

hyfforddiant

ynni i 300 o staff rheng flaen.

Fe wnaethom adeiladu 66 o gartrefi newydd

Fel arfer, byddwn yn cael 58% o’r arian i adeiladu cartrefi newydd trwy gyllid grant, ac rydym yn benthyca 42% o gost yr adeiladu. Rydym wedyn yn defnyddio peth o’r rhent o’r cartref newydd i dalu’r benthyciad am gyfnod maith yn union fel morgais

Yn ystod y flwyddyn fe wnaethom wario

£17,307 ar orchudd

llawr newydd i 23 o breswylwyr.

Yn dilyn llwyddiant y cynllun treialu rydym yn awr wedi ymrwymo i ddarparu gorchudd llawr i lawr grisiau ym mhob datblygiad newydd.

Gyda’n gilydd byddwn yn:

 Ei wneud yn hawdd i bobl gael cyngor ar ynni trwy broses gyfeirio un stop

 Darparu cymorth i wneud cais am ostyngiadau, sefydlu dewisiadau talu a chael mynediad at grantiau

 Cefnogi pobl i ymdrin â darparwyr ynni i gael y tariff gorau, newid tariff ac ymdrin â chwynion

 Cael yr incwm mwyaf posibl trwy wiriadau budddaliadau a chyfeirio

 Darparu bwyd, nwy a chefnogaeth trydan mewn argyfwng

 Defnyddio presgripsiynau cymdeithasol a chefnogaeth llesiant i wella deilliannau iechyd pobl

Math o Dai Nifer Fel % o stoc Anghenion Cyffredinol 3,852 61.34% Cartrefi i Bobl Hŷn 752 11.97% Rhenti Fforddiadwy 134 2.13% Cartref Gofal 159 2.53% Perchentyaeth cost isel 732 11.66% Rhentu i Berchnogi 86 1.37% Tai â Chymorth 565 9% Cyfanswm 6,280 100%

Eich cefnogi i fyw’n dda yn eich cartref, fel eich bod yn gallu byw’r bywyd yr ydych yn ei ddewis mewn cymuned ddiogel a chysylltiedig.

94% o wastraff

97% o bren

wedi ei brynu trwy ffynonellau wedi eu hardystio (FSC - Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd neu PEFC - Rhaglen ar gyfer Cefnogi Ardystio Fforestydd)

38% o

ostyngiad carbon i bob £m o werthiannau.
yn cael ei ddargyfeirio o dirlenwi
ariannu rhaglen dysgu nofio
43
Gwasanaethau
Ddinbych
Rhoddodd
o
y Nadolig 63 O deuluoedd wedi cael
y Nadolig Dim Dim Troi Allan Wedi defnyddio ein cronfa fuddsoddi gymunedol o £250,000 i ddarparu
fathau i’n
Fe wnaethom weithio gyda Bwydo'n Dda i ddarparu 100,000 o brydau i bobl mewn tlodi bwyd a lansio 2 siop symudol Rydym wedi dechrau newid ein fflyd i gerbydau trydan. Fe wnaethom groesawu 659 o breswylwyr newydd Fe wnaethom 93 o gartrefi’n fwy diogel trwy osod camau diogelwch ychwanegol.
Wedi
6 wythnos ar gyfer
o blant trwy bartneriaeth gyda
Hamdden Sir
a Sir y Fflint
y staff 70
anrhegion Nadolig i blant mewn angen dros
bwyd dros
cefnogaeth o wahanol
preswylwyr

Llwyddiannau allweddol:

Sefydlu

Canolfan Groeso i 80 o ffoaduriaid o Wcráin, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Gwynedd. Roeddem yn falch o arwain ymateb Gogledd Cymru i’r argyfwng ffoaduriaid o Wcráin.

Wedi Sefydlu gwasanaeth i’r digartref

newydd mewn partneriaeth

â Chyngor Conwy. Mae

The Bell yn rhoi cymorth i 6 o bobl ifanc ddigartref

Wedi datblygu

gwasanaeth rhiant a babi newydd yn Wrecsam i gefnogi rhieni sengl.

Wedi datblygu

ein gwasanaeth Cymorth

i Ferched yn Sir y Fflint

trwy sefydlu tŷ argyfwng

newydd sbon i ferched mewn angen. Yn ogystal ag ymestyn yr ystafelloedd ymolchi yn ein gwasanaeth presennol ar gyfer mamau a’u plant.

Sefydlu Hwb ICAN mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi

Cadwaladr. Yn y Rhyl ac yn cefnogi pobl sy’n dioddef oherwydd eu hiechyd meddwl. Hyd yn hyn, mae’r hwb wedi cefnogi dros 500 o bobl gyda dros 1,600 o ymyraethau

Mewn Partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi

Cadwaladr a Chyngor Sir Gwynedd rydym wedi sefydlu gwasanaeth gadael yr ysbyty ar gyfer 12 o gleifion nad oes arnynt angen bod yn yr ysbyty ond nad ydynt yn barod i fynd adref eto, wedi ei seilio yn ein Gofal Ychwanegol ym Mhenrhos.

Mewn partneriaeth â Shelter Cymru, rydym wedi sefydlu gwasanaeth ymyrraeth gynnar newydd a fwriadwyd i atal digartrefedd yn Sir Ddinbych.

o’n preswylwyr byw â chefnogaeth i ymuno â chyrsiau coleg a phrifysgol

wnaethom
75
38
gwrs
prentisiaeth 39
12
Fe
hefyd helpu:
o’n preswylwyr byw â chefnogaeth i symud i gartref parhaol
o’n preswylwyr byw â chefnogaeth i fynd ar
neu gymryd
39 o’n preswylwyr byw â chefnogaeth i fynd i swyddi amser llawn Rydym wedi cynnig 9 lleoliad profiad gwaith a mynd i 7 ysgol ar draws Gogledd Cymru i gefnogi gweithdai cyfweliadau neu ffeiriau gyrfaoedd. 67 O blant ar draws ein cynlluniau
O fabanod wedi eu geni tra roeddent yn byw hefo ni 31
A big thank you from one of the Ukrainian refugees

Nod ein strategaeth cyflogadwyedd yw darparu’r gwasanaethau gorau i’n preswylwyr trwy adeiladu ein gweithlu at y dyfodol. Rydym am greu cymunedau cynhwysol a chyfleoedd i breswylwyr trwy gyflogadwyedd, ac rydym am argymell y sector tai fel gyrfa wych.

Er mwyn cyflawni hyn rydym yn gweithio gyda phartneriaid allweddol sydd wedi ein helpu i:

Gefnogi 6 o bobl ifanc ac anableddau dysgu trwy Prosiect Search ac ers hynny mae 5 ohonynt wedi sicrhau gwaith cyflogedig yn llwyddiannus.

Gefnogi 6 o ferched ifanc i ymuno â’r Rhaglen We Mind The Gap, sy’n rhoi gwaith cyflogedig a hyfforddiant bywyd am un flwyddyn. Mae 3 wedi cael gwaith yn dilyn y rhaglen.

Ein dull o ymdrin â gwerth cymdeithasol

Mae cynnig gwerth am arian yn allweddol i’r hyn yr ydym yn ei wneud. Rydym am sicrhau bod pob punt yn cael ei gwario mor effeithiol â phosibl fel ein bod yn gallu cael mwy o effaith ar ein cymunedau.

Mae ein strategaeth gwerth cymdeithasol newydd yn defnyddio dull rhagweithiol o sicrhau bod gwerth

cymdeithasol wedi ei ymwreiddio yn ein proses gaffael i brynu nwyddau a gwasanaethau.

Gweithio gyda Creu Menter i gynnig

4 Lleoliad Kickstart a chefnogi

3 o bobl i waith cyflogedig.

Ein cenhadaeth Gorfforaethol yw trechu tlodi ac mae ein fframwaith gwerth cymdeithasol yn canolbwyntio ar 4 prif thema:

Ein blaenoriaethau tlodi i breswylwyr

Cynyddu gwaith, hyfforddiant, addysg a gwirfoddoli

Lleihau tlodi bwyd

Cwmpas Gwerth

Cymdeithasol

Gweithgareddau a gwasanaethau

sy’n mynd tu hwnt i’r gofyn i gyflawni deilliannau gwerth cymdeithasol sy’n cyfrannu at ein blaenoriaethau tlodi a’n cenhadaeth i drechu tlodi.

Gyda’n gilydd i drechu tlodi

Lleihau tlodi tanwydd

Cynyddu cynhwysiant digidol

Ein
Cenhadaeth

Sicrhau ein bod yn cael ein rhedeg yn dda ac yn gynaliadwy yn ariannol fel ein bod yn

gallu parhau i daclo tlodi.

Rheoleiddir ClwydAlyn gan Lywodraeth

Cymru ac mae’n ofynnol iddo gyflwyno

Hunanwerthusiad blynyddol i ddangos

sut yr ydym yn cydymffurfio â phob un o’r safonau perfformiad a nodir yn y Fframwaith Rheoleiddiol.

Yn ystod y flwyddyn, cyflwynodd Llywodraeth

Cymru fframwaith newydd ar gyfer rheoleiddio

gyda sgoriau a chategorïau diwygiedig.

ClwydAlyn oedd un o’r rhai cyntaf y gofynnwyd

iddynt fynd trwy’r fframwaith newydd ac fe

nodwyd ein bod yn ‘Wyrdd’ ar gyfer rheolaeth

ariannol a llywodraethu - y sicrwydd uchaf posibl.

Mae ClwydAlyn wedi ei ymgorffori fel Cymdeithas Fudd Cymunedol Elusennol dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Budd Cymunedol 2014 ac mae’n sefydliad Nid er Elw.

Llywodraethu Hyfywedd Ariannol

Yn cynnwys gwasanaethau tenantiaid

Mae’r gymdeithas yn bodloni’r safonau rheoleiddiol a bydd yn derbyn goruchwyliaeth reoleiddiol arferol.

Rydym yn aelod o Gartrefi Cymunedol Cymru (CHC), ac rydym yn dilyn eu Cod Llywodraethu

Yr holl asesiadau rheoleiddiol wedi bod yn gadarnhaol yn y 12 mis diwethaf.

Elw gweithredu (arian dros ben)

Er gwaethaf effaith Covid, roedd ein helw wrth weithredu ar gyfer 2021/22 ychydig dros 20%. Mae arian dros ben yn beth da...oherwydd rydym yn defnyddio hwn i ariannu, addasu ac i wneud gwaith ar ragor o gartrefi i ragor o bobl. Mae hefyd yn gwneud ein benthycwyr yn fwy hyderus ynom ac yn gadael i ni fenthyca arian ar gyfradd logau is. ��

Fe wnaethom hefyd:

Gadw cyfradd gredyd ‘A Sefydlog’ gyda Standard and Poor’s (mae hyn yn dda)

Cadw cyfradd A3 gan Moody’s (cyfradd ddigymell) (hyn hefyd yn dda)

Tynnu £10 miliwn i lawr o werthiant gohiriedig ein bond corfforaethol

Cytuno ar dynnu’r bond i lawr eto gyda £20m yn ddyledus ym Mai 2023 a £20m yn Nhachwedd 2023. Adeiladir cartrefi newydd gan ddefnyddio cymysgedd o fenthyciadau a chyllid grant y llywodraeth.

GWYRDD GWYRDD

Darparu cartref diogel mewn cyflwr da

Darparu cartref diogel fforddiadwy Rhoi gwerth am arian

Rhoi gwasanaeth rhagorol

Gwrando ar adborth a gweithredu

Bod yn agored a didwyll

Creu balchder yn ein cymunedau

Rheoli ein busnes yn dda

@ClwydAlyn Ein Haddewid Am gymryd rhan a dweud eich dweud? Yna cysylltwch â ni trwy anfon e-bost at influenceus@clwydalyn.co.uk neu cysylltwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol. Neu gallwch ein ffonio ni ar 0800 183 5757.
#Dylanwadwch... yw wyneb cynnwys preswylwyr a ffordd hawdd o roi gwybod i ni beth yw eich barn am ein gwasanaethau.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.