Tŷ Nos, Wrecsam - Gwanwyn

Page 1

Datblygiad 19 o fflatiau

un ystafell wely, effeithlon o ran ynni, fforddiadwy, gyda swyddfa i reoli’r cartrefi.

Yn darparu llety dros dro i bobl sydd ei angen. Wedi eu hadeiladu gan Gareth Morris Construction (GMC) ar ran ClwydAlyn mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Llywodraeth Cymru a Creu Menter.

CARTREFI YNNI EFFEITHIOL

DIWEDDARIAD

AM Y CYNNYDD AC EDRYCH YMLAEN

Mae’r gwaith o ddatblygu Tŷ Nos yn mynd yn ei flaen yn dda. Pan gychwynnodd y gwaith ar y safle, y cam cyntaf oedd cael gwared o lawer iawn o lysiau’r dail, oedd wedi tyfu dan y wal derfyn! Y dasg nesaf oedd dymchwel y lloches nos oedd yno.

Mae’r gwaith wedi mynd yn ei flaen erbyn hyn gyda’r sylfeini a’r seilwaith ar gyfer y blociau cyntaf o fflatiau, gan gychwyn yng nghefn y safle, a gweithio tuag at y fynedfa ar Ffordd Holt. Gosodwyd y draeniau a’r gwasanaethau i’r blociau cyntaf yma.

Bydd y fframiau pren cyntaf yn cyrraedd tua diwedd Mai. Ar ôl gosod y fframiau pren, bydd y wyneb allanol o waith brics yn cael ei adeiladu a’r cladin pensaernïol.

Bydd y cartrefi hyn yn cael eu hadeiladu yn ôl y safon goddefol gyda strwythur ffrâm bren a lefel uchel o inswleiddiad, gan ddarparu cartrefi carbon isel effeithlon. Bydd hyn yn sicrhau bod angen yr ynni lleiaf posibl i gadw’r tai yn gynnes, gan leihau costau ynni, gan ddarparu ffordd o fyw fwy gwyrdd a glanach.

TŶ NOS WRECSAM
CLWYDALYN.CO.UK
GWANWYN 2023

EIN CENHADAETH: GYDA’N GILYDD I DRECHU TLODI

Ein blaenoriaethau tlodi:

• Gwaith, hyfforddiant, addysg a gwirfoddoli (Cynyddu)

RHOI YN ÔL I’R GYMUNED

Rhan bwysig o ymrwymiad ClwydAlyn i adeiladu tai fforddiadwy o safon uchel yw sicrhau bod yr holl bartneriaid sy’n rhan o’r cynllun yn ymrwymo i roi yn ôl i’r cymunedau lleol yr ydym yn gweithio ynddyn nhw mewn amrywiaeth eang o ffyrdd yn unol â’n blaenoriaethau tlodi. Bydd hynny yn ei dro yn helpu i gyfoethogi ein cymunedau trwy roi cefnogaeth lle mae ei angen, boed hynny yn helpu pobl yn ôl i waith, brwydro yn erbyn bod yn ynysig yn gymdeithasol, cefnogi preswylwyr sydd mewn tlodi tanwydd neu roi mynediad at fwyd maethlon.

GYRFAOEDD ADEILADU

Bydd staff o GMC, ClwydAlyn a Creu Menter yn ymweld ag ysgolion amrywiol yn fuan yn Wrecsam, yn cynnig cip ar y mathau o swyddi a sgiliau sy’n angenrheidiol i weithio yn y diwydiant adeiladu. Bydd

GMC yn arwain y sesiwn ac yn gosod rhai tasgau syml technegol, yn gysylltiedig ag adeiladu iddynt eu cwblhau cyn iddynt gael blas o fywyd go iawn ar safle adeiladu pan fyddant yn ymweld â Tŷ Nos yn yr haf.

DIDDORDEB MEWN GYRFA YN Y MAES ADEILADU?

Mae ClwydAlyn a GMC yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi pobl sy’n byw yn y cymunedau i waith, hyfforddiant, prentisiaethau. Os oes gennych ddiddordeb mewn profiad gwaith, lleoliad hyfforddi neu waith / prentisiaeth, mewn amrywiaeth mawr o grefftau adeiladu. Cysylltwch â GMC Construction ar: neilgoode@gmc-group.com

RHEOLI’R SAFLE AC ORIAU GWEITHREDU

Mae Tîm Rheoli Safle ar y safle bob amser, sydd wedi ei hyfforddi i reoli’r holl weithrediadau a gweithgareddau’r isgontractwyr yn ddiogel. Yr oriau

gweithredu nodweddiadol fydd o ddydd Llun i ddydd

Gwener rhwng 8am a 6pm. Os bydd angen i waith arbenigol ddigwydd ar unrhyw adeg tu hwnt i’r oriau hyn, byddwn yn cysylltu â chi. Byddwn yn parhau i gyfathrebu yn gyson trwy gylchlythyr wrth i’r datblygiad symud yn ei flaen.

• Tlodi bwyd (lleihau)

• Tlodi tanwydd (lleihau)

• Cynhwysiant Digidol (cynyddu)

CEFNOGI POBL

I WAITH

Zac Ward, yn gweithio ar y safle fel Hyfforddai Gosodd Camera Cylch Cyfyng. Mae Zac yn 17 a dyma ei brofiad cyntaf o weithio ar safle adeiladu.

CYSYLLTWCH Â NI

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Neil Goode ar 07964441719 a fydd ar gael i ateb unrhyw ymholiadau all fod gennych. Fel arall, os byddai’n well gennych gysylltu â ni trwy e-bost, ein cyfeiriad yw: neilgoode@gmc-group.com

DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Am y newyddion diweddaraf am y datblygiad, gan gynnwys delweddau o’r ffordd mae’r safle’n datblygu, dilynwch @ClwydAlyn

91% oyweithwyr bywsafle’n yng Nghymru.
Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.