NEUADD MALDWYN, BYW’N ANNIBYNNOL I BOBL HŶN
66 o fflatiau un a dwy ystafell wely o safon uchel, i unigolion 60 oed a hŷn sydd ag angen
gofal neu gefnogaeth wedi ei asesu. Mae
Neuadd Maldwyn yn
cael ei adeiladu gan
Anwyl Partnerships ar ran ClwydAlyn ac mewn
partneriaeth â Chyngor
Sir Powys, Bwrdd Iechyd
Powys a Llywodraeth
Cymru. Bwriedir gorffen y datblygiad yng
ngwanwyn 2024.
DIWEDDARIAD AM Y CYNNYDD AC EDRYCH YMLAEN
Mae’r safle’n dal i ddatblygu’n dda, gyda’r gwaith brics a’r toi wedi eu gorffen mewn rhai blociau o fflatiau. Yn hen swyddfa’r cyngor, mae’r datblygwyr wedi bod yn brysur yn trwsio’r to llechi a chyfnewid y cafnau plwm a tho fflat. Y tu mewn i’r hen adeilad, mae’r addasiadau strwythurol wedi eu cwblhau, y waliau allanol wedi eu hinswleiddio, y rhaniadau wedi eu gosod a’r gwasanaethau newydd i greu fflatiau newydd.
Yn y misoedd nesaf bydd y gwaith brics ar y cam olaf i’r fflatiau yn cael ei gwblhau, a’r nod fydd gosod y rhan o’r to sy’n weddill. Yn fewnol, bydd y gwaith yn parhau ar osod rhaniadau yn yr adeilad a’r gwasanaethau i’r fflatiau unigol. Bydd y llif cyson o ddeunyddiau yn parhau... Edrychwch sut mae’r datblygiad yn dod yn ei flaen yn ein ffilm drôn diweddaraf:
www.youtube.com/ watch?v=DWNU6VdOR_k
CLYWCH GAN Y PRESWYLWYR EU HUNAIN!
Rydym wedi creu ffilm yn ddiweddar ar gyfer ein cynlluniau byw’n annibynnol, yma fe gewch chi glywed gan y preswylwyr eu hunain am y profiad o fyw mewn cynllun byw’n annibynnol.
CEFNOGI POBL I WAITH
Mae Anwyl Partnerships wedi ymrwymo i gefnogi pobl i gael gwaith ac maen nhw wedi cael y prentisiaid canlynol:
RHEOLI’R SAFLE AC ORIAU GWEITHREDU
Mae Tîm Rheoli Safle ar y safle bob amser, sydd wedi ei hyfforddi i reoli’r holl weithrediadau a gweithgareddau’r isgontractwyr yn ddiogel.
Yr oriau gweithredu nodweddiadol fydd o ddydd
Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 5pm. Os bydd
angen i waith arbenigol ddigwydd ar unrhyw adeg tu hwnt i’r oriau hyn, byddwn yn cysylltu â chi.
Byddwn yn parhau i gyfathrebu yn gyson trwy gylchlythyr wrth i’r datblygiad symud yn ei flaen.
MAE BRON I 100 O BOBL
WEDI MYNEGI DIDDORDEB
YN NEUADD MALDWYN.
YMWELIAD Â’R SAFLE!
Roedd yn braf iawn mynd â’r Cynghorydd
Graham Breeze, Y Cynghorydd Carol Robinson, y Cynghorydd Julie Arnold ac Elaine Hiatt a Ros
Murphy o Gyngor Sir Powys a Heather Wenban o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys o gwmpas y safle
datblygu yn Chwefror. Galwodd y Cynghorydd
Sir Graham Breeze y datblygiad yn “gynllun
ffantastig”, tra dywedodd y Cynghorydd Tref
Julie Arnold ei fod “yn union beth sydd ar y Trallwng ei angen”
PRENTISIAID
CYSYLLTWCH Â NI
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Bryn Davies (Rheolwr Safle) Daniel Berth-Jones (Site Manager); daniel.berth-jones@anwyl.co.uk a Daren Edwards (Rheolwr Prosiect); daren.edwards@anwyl.co.uk fydd ar gael i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych.
DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL
Am y newyddion diweddaraf am y datblygiad, gan gynnwys delweddau o’r ffordd mae’r safle’n datblygu, dilynwch @ClwydAlyn @AnwylPartnerships
• 3 Prentis Trydanwr • 1 Prentis Briciwr Joel Marshall Trydanwr Luke Marshall Trydanwr Will Quayle Trydanwr Rory Williams Briciwr Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol