Welsh - Home Matter - Spring Summer Resident Magazine 2023

Page 1

MATERI N TAI

UWCHGYLCHU A DIY AWGRYMIADAU

GWANWYN / HAF 2023 GAN LAURA MCKIBBIN EICH NEWYDDLEN PRESWYLWYR GAN CLWYDALYN AMHADAU DDIM AWGRYMIADAU GARDDIO Cyfle i hawlio hadau AM DDIM gan #DylanwadwchNi CYFLE I ENNILL Talebau Amazon gyda chystadlaethau hwyl • ARBED ARIAN • AWGRYMIADAU DIOGELWCH NEWYDDION Y PRESWYLWYR RYDYM WEDI CROESAWU 72 o breswylwyr i’w cartrefi newydd yn ddiweddar.
Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol

Cynnwys:

EICH CROESO

3 Croeso gan y Golygydd – Laura Mckibbin

3 DylanwadwchNi

EICH NEWYDDION

4 Cwrdd ag aelodau newydd eich Pwyllgor Preswylwyr (manylion cyswllt ar gyfer RC)

5-7 Straeon preswylwyr

8-9 Trefn, buddion a llyfryn y Gymdeithas Breswylwyr

10-13 Ein Hadroddiad Addewid

EICH CYMUNED

14-15 Diwrnod glanhau ac ymgyrch Cadwch Gymru’n Daclus

16-17 Cwrdd ag Andy Dunbobbin

18 Datblygu

19-21 Tai fforddiadwy

22 We Mind The Gap

EICH AWGRYMIADAU ARBENNIG

23 Cymorth ôl-ddyledion

EICH CARTREF

24-25 Awgrymiadau garddio – cyfle i hawlio hadau am ddim gan #DylanwadwchNi

26-27 Llwydni, Lleithder ac Angar

28 Awgrymiadau Uwchgylchu a DIY gan Laura (preswylydd buddugol y gystadleuaeth)

29 Rysait Preswylydd (cystadleuaeth ar y Cyfryngau Cymdeithasol a chyfle i ennill popty araf, llyfr ryseitiau a thaleb fwyd)

BWRW GOLWG AR…

30 Diwrnod ym mywyd… y Warden Elwyn Jones

EICH BARN

31 Y Bag post- Ateb eich cwestiynau

EICH CYSTADLEUAETH

32 Cyfle ichi ennill gwerth £25 o dalebau Amazon

EICH CROESO
2

Croeso gan y Golygydd

Helo bawb a Gwanwyn hapus ichi.

Dyma fy hoff adeg o’r flwyddyn, mae’r nosweithiau golau, ynghyd â’r awyr las a’r blodau yn gwneud imi wenu. Mae’r Gwanwyn a’r Haf yn adeg wych i fentro allan i’r awyr agored ac elwa o’r buddion hynny i’n llesiant.

Mae hi wedi bod yn gyfnod prysur yma yn ClwydAlyn ac rydw i’n edrych ymlaen at rannu ambell i beth gyda chi yn y rhifyn hwn. Yn y cylchgrawn Gwanwyn a’r Haf hwn, mae cystadlaethau lle bydd cyfle ichi ennill talebau siopau, awgrymiadau arbennig ar gyfer eich gardd a’ch cartref, golwg ar ein datblygiadau newydd a straeon bendigedig gan rai o’n preswylwyr. Rydw i’n gobeithio y byddwch chi’n mwynhau eu darllen!

Laura x

Oes gennych chi stori yr hoffech chi ei rhannu yn ein cylchgrawn i breswylwyr?

Hoffem glywed mwy amdanoch chi neu eich cymuned. Gallai fod yn stori bersonol, yn awgrymiadau arbennig neu weithgaredd gwych. Gallwch gyflwyno stori ar ffurf ambell i frawddeg, llun neu ddau, neu erthygl gyflawn y gallwn ni eich helpu i’w ysgrifennu. Cysylltwch gyda ni: e-bost Laura.Mckibbin@clwydalyn.co.uk neu gallwch fy ffonio / anfon neges WhatsApp ar 07880431004

#DylanwadwchNi – Dweud eich dweud!

Hoffem glywed eich barn chi am ein gwasanaethau.

Mae’r Preswylwyr wrth wraidd ein holl waith yma yn ClwydAlyn ac mae angen mwy ohonoch chi arnom ni i rannu eich syniadau ac adborth yn ôl er mwyn inni gynnig y gwasanaeth gorau posibl.

Gallwch gyflwyno adborth / syniadau inni mewn sawl ffordd:

• Drwy neges testun

• Ar E-bost

• Gyda galwad ffôn

• Drwy ddod i gyfarfodydd

£100 o dalebau siopau!

Cyfrannwch i fod â chyfle i ennill!

I wybod mwy, gallwch fy ffonio ar 07880431004 neu fy e-bostio ar InfluenceUs@clwydalyn.co.uk neu cofrestrwch ymawww.clwydalyn.co.uk/Influence-Us

EICH CROESO
Bydd cyfle i bawb sy’n cymryd rhan yn ein harolygon misol gystadlu i ennill gwobr o

Dewch i gwrdd â dau aelod newydd o’ch Pwyllgor Preswylwyr.

David Perkins a Rhiannon Griffiths

Fy enw i ydy

David Perkins, ac rydw i newydd ymuno gyda’r

Pwyllgor

Preswylwyr ar ôl 7 mlynedd yn Cadeirio Grŵp Ymbarél Tai

Gwarchod (SHUG).

Unwaith imi ymddeol o fy swydd yn y byd adeiladu, roedd angen imi ddod o hyd i rywbeth arall i fy ymddiddori. Bu imi gychwyn ymwneud gyda’r cynllun roeddwn i’n byw ynddi, gan gwblhau ambell i dasg yma ac acw yn yr awyr agored, gwneud ychydig o arddio cymunedol, tacluso’r cynllun ac ati.

Yna fe wnes i fynd i gyfarfod SHUG lle gofynnwyd imi ymuno â’r Pwyllgor SHUG. Cefais fy ethol fel Is-gadeirydd ac erbyn y Nadolig hwnnw roedd y Cadeirydd bryd hynny’n dymuno rhoi gorau iddi oherwydd ymrwymiadau eraill a gofynnodd imi gymryd yr awenau fel Cadeirydd.

Rydw i wedi cyflawni’r rôl Cadeirydd ers 7 mlynedd erbyn hyn a bu imi fwrw iddi i lunio ceisiadau am gyllid ar gyfer amryw o brosiectau ar ran y Grŵp. Doeddwn i ddim yn ffôl, hyd yn oed os ydw i’n dweud hynny fy hun. Roeddwn i hefyd ynghlwm â Phwyllgorau eraill ac fe wnes i gychwyn gweithredu fel Dylanwadwr. Unwaith ichi gychwyn arni, mae’n anodd rhoi gorau iddi ac rydw i’n dueddol o ymgymryd â chyfrifoldebau eraill. Rydw i’n rhan o’r Pwyllgor Preswylwyr erbyn hyn yn ogystal.

Fe wnes i ymuno

â’r Pwyllgor Preswylwyr ym mis Rhagfyr 2022 er mwyn cwrdd â phobl newydd, cynyddu fy ngwybodaeth a fy mhrofiad ac i fwrw golwg ar bethau o safbwynt pobl eraill.

Byddaf hefyd yn cynnal y gwasanaeth #DylanwadwchNi sy’n ffordd wych o gymryd rhan a lleisio’ch barn fel preswylydd.

Rydw i’n berson cymdeithasol ac yn mwynhau trafodaethau grŵp ac ymweld â chynlluniau. Rydw i’n rhan o gymdeithas breswylwyr yn fy nghynllun ac yn drysorydd ar ran y grŵp hwn yn ogystal. Mae’n gyfle gwych imi ennill profiad ac ymwneud gyda chymuned y cynllun.

Daw’r Pwyllgor Preswylwyr o amryw o wahanol gefndiroedd ac rwy’n teimlo y gallai’r sgiliau wnes i eu dysgu yn ystod fy nghyfnod fel athrawes fod yn fuddiol ar gyfer fy rôl.

Rydw i’n byw mewn eiddo prydles. Gallaf gynnig fy marn o safbwynt lesddeiliad Rydw i hefyd yn aelod o’r Fforwm Lesddeiliaid ac yn siarad Cymraeg.

Os hoffech chi gysylltu gydag ein Pwyllgor Preswylwyr, gallwch anfon unrhyw ymholiadau at ResidentCommittee@clwydalyn.co.uk

EICH NEWYDDION
4

HAFAN

GWYDIR YN CODI

Bu i Mr John Ross a’i wraig Marion, tenantiaid yn Hafan Gwydir, gynnal digwyddiad gwerthu celfwaith John er mwyn codi arian ar gyfer pobl Yr Wcráin.

ARIAN

Fe gawson nhw gymorth gan gyfeillion ac aelodau o’r gymdeithas tenantiaid a wnaeth agor y siop goffi am y prynhawn a gwerthu te/coffi, bisgedi a chacennau i drigolion Llanrwst a ddaeth draw i’w cefnogi

Bu iddyn nhw iwyddo i godi swm aruthrol o £800. Da iawn wir!

DA IAWN

DIWRNOD CYMUNEDOL

Roedd bws Medrwn

Môn a Heddlu Gogledd Cymru yn Llanfechell, Ynys Môn yn ddiweddar yn trafod syniadau ar sut i wella cymuned Llanfechell.

Fe aeth y plant oedd yn bresennol ati i addurno crempogau.

EICH NEWYDDION
NEWYDDION
5
BLASUS
PRESWYLWYR

GWEITHDY DIOGELWCH AR-LEIN

Yn ddiweddar bu i Breswylwyr cynllun

Gofal Ychwanegol

Llys Raddington

yn Fflint fwynhau cyflwyniad a gweithdy ar

Ddiogelwch Ar-lein

gan Arwyr Digidol o Ysgol Gynradd

Cornist Park yn Fflint.

Mae Arwyr Digidol yn ddisgyblion ysgol sydd wedi’u hyfforddi gan Gymunedau

Digidol Cymru i rannu eu gwybodaeth am dechnoleg i helpu eraill fod yn fwy hyderus yn defnyddio’r we.

Darllenwch fwy yma: www.clwydalyn.co.uk/.../ students-becometeacher

DIGWYDDIAD CODI SBWRIEL Y PASG

Bu i Elliott Davison, 11 oed o’r Rhyl dreulio peth o’i wyliau Pasg yn codi sbwriel ar ei ystâd a llwyddodd i gasglu dau fag bin mawr llawn sbwriel.

Dywedodd Mam Elliott:

“ Mae Elliott wrth ei fodd gyda byd natur ac mae wedi bod yn codi sbwriel o oedran ifanc wrth iddo fynd am dro gyda’i Dad. Gwelodd cymaint o lanast yn y cwtin felly fe benderfynodd mynd ati i wneud rhywbeth yn ei gylch.”

GWAITH GWYCH ELLIOTT!

CYSTADLEUAETH LLIWIO’R PASG

YN FFLINT

Bu i aelod o’n Pwyllgor

Preswylwyr, Carol Quinn

gynnal cystadleuaeth

lliwio yn Fflint lle roedd

cyfle i bob plentyn oedd

yn cymryd rhan dderbyn

ŵy a bu i’r ddau ennillydd

dderbyn talebau

Amazon hefyd.

DA IAWN

EICH NEWYDDION
Ella 11 Frankie 6
DA IAWN 6

KATHARINA MORRIS

Mae tenant cynllun Gofal Ychwanegol Plas

Telford, Katharina wedi rhannu ei phrofiadau

mewn llyfr newydd am ei bywyd anghyffredin yn tyfu fyny yn Yr Wcráin ac ymgartrefu yng

Ngogledd Cymru yn y pendraw gan fagu teulu gyda’i gŵr annwyl, Elfyn.

Mae’r llyfr o dan y teitl ‘Ordinary. Extraordinary’ wedi’i ysgrifennu gan nai ei chwaer, Paul Holt. Mae wedi’i ysgrifennu’n fendigedig ac yn cychwyn gyda geni Katharina ym 1925, fel plentyn Almaeneg Dieithr mewn teulu gyda 7 o frodyr a chwiorydd. Roedden nhw yn byw mewn pentref Almaeneg o’r enw Gnadenheim yn Yr Wcráin.

Fe wnaethon nhw ddychwelyd mis yn ddiweddaraf ac aeth Katharina i fyw gyda’i chwaer arall, Anna. Gadawodd yr ysgol ym 1940 pan roedd yn 15 oed ac fe gychwynnodd weithio fel morwyn nyrsio yn y pentref cyn i’r Almaen gyhoeddi rhyfel yn erbyn Rwsia ym 1941. Aeth Byddin Rwsia ati i gludo pobl i wersylloedd llafur yn Siberia, ond llwyddodd Katharina i ddianc am y tro cyntaf wrth i filwyr Rwsia ffoi pan welson nhw byddin yr Almaen yn agosáu .

Yna fe deithiodd i Berlin i weithio mewn swyddfa ffatri oedd yn creu rhannau awyrennau cyn cafodd y barics roedd yn aros ynddo gael ei ddinistrio mewn cyrch awyr ac fe’i gwnaed yn ddigartref.

Cychwynnodd danciau Rwsia gyrraedd canol Berlin ym 1945 ac fe aeth hi a dau ffrind ati i ffoi o Berlin i ganfod man diogel.

eraill o Hanover gan gyrraedd gorsaf Liverpool Street yn Llundain, lle’r oedd 100 o ddynion yn aros am eu darpar wragedd!

Fe wnaethon nhw briodi yng ngogledd Cymru ar Dachwedd y 7fed 1947 gan ymgartrefu yn Acrefair ger Wrecsam. Aethon nhw ati i sefydlu gwasanaeth bwydydd symudol ac wedi hynny fe wnaethon nhw gychwyn teulu a rhoi geni i fab, Geoffrey ym 1951 a Peter ym 1954.

Yna bu iddyn nhw agor Llety Gwely a Brecwast yn yr ardal a derbyniodd Katharina Radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn teilwriaeth a bu’n brysur yn gwnïo mewn ffatrïoedd lleol.

Fodd bynnag, roedd Katharina wrthi’n brysur yn ceisio dod o hyd i’w brodyr a chwiorydd a bu iddi aduno gyda’i chwaer, Frieda, o’r diwedd a ddaeth yma i fyw ym Mhrydain.

Roedd ei thad, Bernard, yn ffarmwr ac roedd ei Mam, Maria yn gyfrifol am ofalu am eu teulu sylweddol. Roedd yn gartref llon ac roedd ei Mam wrthi’n brysur yn creu dillad i’r plant; mae Katharina wrth ei bodd yn gwnïo ers hynny ac mae hithau wedi bod wrthi’n gwnïo drwy gydol ei hoes.

Ond bu iddyn nhw wynebu trychineb ym mis Medi 1937 pan gafodd ei thad ei arestio a’i gludo oddi yno gan y KGB. Bu farw ei Mam wrth roi geni y noson honno hefyd. Bu i chwaer Katharina, Lena, ofalu amdani hi a’i brodyr a chwiorydd, cyn i’r brodyr a chwiorydd hŷn symud i gartref plant.

Yn dilyn dihangfa arall o drwch blewyn pan saethwyd y wagen roedden nhw’n teithio ynddi gan ddwy awyren ymladd gan achosi iddi ffrwydro. (Fe gollodd Katharina ei holl eiddo a dogfennau Adnabod)

fe gyrhaeddodd nhw Bremen a oedd yn 400km i ffwrdd. Yno bu i ffrind ddod o hyd i swydd iddi yn gweithio i’r Lluoedd Arfog Prydeinig y NAAFI gan ddefnyddio papurau ffug.

Fe arhosodd yno am y 2 flynedd nesaf a dyna lle bu iddi gwrdd ei gŵr, Elfyn Morris. Pan ddychwelodd Elfyn i Brydain, fe deithiodd Katharina ynghyd â 99 o ferched

Yna daeth newyddion o’r USSR yn y 1960au bod ei holl frodyr a chwiorydd wedi goroesi yn y rhyfel ac wedi’u cludo i Siberia, gan ymgartrefu yno yn y pen draw a chychwyn teuluoedd.

Yn anffodus bu farw Elfyn ym 1986 ac fe symudodd Katharina i fflat ger cartref y teulu, a threulio cryn dipyn o amser gyda Frieda cyn symud i Plas Telford 5 mlynedd yn ôl. Wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 98 eleni a myfyrio am ei bywyd rhyfeddol, dywedodd mai’r gyfrinach i’w stori ysbrydoledig yw neges yn y llyfr i’w 5 o wyrion a 9 o’i gor-wyrion:

EICH NEWYDDION
BYDDWCH YN GLÊN, BYDDWCH YN DDA, BYDDWCH YN GRYF, PEIDIWCH BYTH Â DIGALONNI A PHEIDIWCH BYTH Â RHOI’R GORAU!
7

CANMOLIAETHAU A PHRYDERON

Helo, fy enw i ydy Lorraine Orger a fi ydy’r Rheolwr Llywodraethu a Chwynion.

Fel rhan o fy rôl, mae gofyn imi sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’ch cwynion mewn modd cyson a theg. Rydw i’n ymroi i sicrhau ein bod yn ymateb yn briodol i unrhyw bryderon neu gwynion sydd gennych chi am ein gwasanaethau. Os byddwn ni’n methu â diwallu eich anghenion mewn unrhyw ffordd, byddwn yn ymddiheuro ac yn ceisio gwneud iawn am hynny pan fo’n bosibl. Ein nod hefyd ydy dysgu o’n camgymeriadau a defnyddio’r wybodaeth rydym yn ei derbyn i wella ein gwasanaethau.

BETH YDY CWYN?

Weithiau mae hi’n anodd gwybod a ydy’r hyn rydych chi am ei godi yn gŵyn.

Cwyn yw pan fyddwch chi wedi wynebu oedi gyda derbyn ymateb i’ch ymholiadau neu pan fo gwasanaeth yn methu â chynnig cyngor neu pan nad ydy’r gwaith o safon dderbyniol. Gallai fod yn gŵyn hefyd pan fyddwch chi wedi eich trin yn wael gan gydweithiwr neu pan nad ydy gwaith atgyweirio wedi’i gyflawni ymhen y raddfa amser penodol. Peidiwch â phoeni, os nad ydych chi’n sicr, mae croeso mawr ichi gysylltu gyda ni a gallwn eich cynorthwyo gyda’r broses. Mae gennym ni Becyn Gwybodaeth Canmoliaethau a Chwynion ar ein Gwefan ac ein Porth sy’n ymdrin â’r hynny sydd yn a ddim yn gŵyn mewn mwy o fanylder.

Hoffwn bwysleisio ein bod ni wir yn gwerthfawrogi ac yn croesawu eich cwynion fel cyfle i graffu ar a gwella ein perfformiad. Erbyn hyn mae gennym ni weithdrefn newydd wrth ymdrin â chwynion, gyda’r Tîm yn cydweithio gyda’r gwahanol adrannau er mwyn sicrhau bod modd ichi leisio’ch barn. Rwy’n deall y gallai fod yn anodd cymryd y cam cyntaf i gyflwyno cwyn ond mae’n amhosibl inni fynd ati i wella ein gwasanaeth os na gawn ni wybod am unrhyw agweddau aneffeithiol.

SUT GALLWN NI HELPU….

Os ydych chi’n anfodlon gydag unrhyw agwedd o wasanaeth rydych chi’n ei dderbyn gan ClwydAlyn, rydym yma i wrando arnoch chi a’ch helpu i grybwyll hyn inni.

Gallwn eich cynorthwyo yn ystod y broses, gan sicrhau ei fod mor rhwydd â phosibl ichi. Gallwch gysylltu gyda ni mewn amryw o ffyrdd, megis:

Ffôn: 01745 536800

Post: 72 Ffordd William Morgan, Llanelwy, LL17 0JD

E-bost: complaints@clwydalyn.co.uk

Porth: myclwydalyn

Ffurflen: ynghlwm â’r Pecyn Canmoliaethau a Gwybodaeth.

Mae hefyd yn help inni wybod pan rydym yn llwyddo i gynnig gwasanaeth effeithiol. Mae ein staff wrth eu bodd yn darllen y canmoliaethau maen nhw’n eu derbyn ac rydym yn eu rhannu yn ein newyddlen wythnosol i staff. Felly os hoffech chi lonni calon rhywun drwy ddiolch iddyn nhw am eu gwasanaeth gwerth chweil, cofiwch roi gwybod inni.

EIN PANEL CWYNION

Er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio’n briodol â’r prosesau a’r camau, a bod ein llythyrau’n eglur a heb ormod o jargon, mae

gennym ni Banel Cwynion sy’n cwrdd pob

chwarter i fwrw golwg ar gwynion rydym

wedi mynd i’r afael â nhw drwy’r broses.

Ymysg aelodau’r Panel mae Aelodau’r Pwyllgor

Preswylwyr a gwirfoddolwyr DylanwadwchNi

ClwydAlyn. Mae modd i’r Panel leisio’u barn

ynghylch sut i fynd i’r afael â chwynion a chynnig

adborth gwerthfawr o safbwynt preswylydd.

Mae’r cyfarfodydd yn anffurfiol iawn ac yn ddifyr

dros ben ac maen nhw’n gyfle ichi ddysgu mwy

amdanom ni a’n gwaith.

EICH NEWYDDION
8

GWOBRAU ARFER DA TPAS CYMRU 2021

Cydnabod cyflawniadau a rhannu arfer da

TPAS CYMRU GOOD PRACTICE AWARDS 2021

Recognising achievements & sharing good practice

TYSTYSGRIF CYDNABYDDIAETH / CERTIFICATE OF RECOGNITION

Complaints Panel

ClwydAlyn

ENNILLYDD y Wobr Cynnwys Tenantiaid wrth Lunio Gwasanaethau WINNER of the Involving Tenants in Shaping Services Award

Mae ein Panel Cwynion wedi mynd o nerth i nerth a gan hynny mae’n bleser gen i ddatgan y bu i’n Panel Cwynion dderbyn Gwobr TPAS yn 2021 o dan y categori ‘Cynnwys Tenantiaid wrth Lunio Gwasanaethau’.

BYDDEM WRTH EIN BODD PE BAECH CHI’N RHAN O BROSES Y PANEL CWYNION.

ident Associations Booklet

Mae’r panel yn cynnig llwyfan i breswylwyr a gwirfoddolwyr ymysg y preswylwyr i graffu ar y broses cwynion yn uniongyrchol a dylanwadu ar drefn y broses.

Os hoffech chi fod ynghlwm â’r Panel Cwynion yn y dyfodol, mae croeso ichi gysylltu gyda naill ai Laura McKibbin (Swyddog Cynnwys Preswylwyr) ar Laura.McKibbin@clwydalyn.co.uk neu minnau ar Lorraine.orger@clwydalyn.co.uk

Association is made up of people who live within the same area, street uch as a block of flats or a supported living scheme It can improve the you live in; access funding and it is also a great way to meet neighbours ng community involvement in social activities. It can bring people aise issues of concern regarding their homes and their community sidents' Association has many other benefits too! Here are a few more

LLYFRYN CYMDEITHAS Y PRESWYLWYR

Mae Cymdeithas Preswylwyr yn grŵp o bobl sy’n byw yn yr un ardal, stryd neu adeilad megis fflatiau neu gynllun byw â chymorth. Gallai wella’r gymuned rydych yn byw ynddi; cynnig cyfle ichi fanteisio ar gyllid ac mae’n gyfle gwerth chweil ichi gwrdd â’ch cymdogion wrth annog cymunedau i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol. Gallai ddwyn pobl ynghyd i godi materion sy’n peri pryder iddyn nhw ynghylch eu cartrefi a’u cymuned.

Mae sawl mantais arall hefyd ynghlwm â ffurfio Cymdeithas Preswylwyr! Dyma ambell i enghraifft arall:

positive and supportive community by meeting and helping other doors to different sources of funding for your community organise community events and day trips ple informed of what is going on in their community

Creu cymuned gadarnhaol a chefnogol a helpu pobl eraill

Mae’n gyfle i fanteisio ar wahanol ffynonellau cyllid ar gyfer eich cymuned

ore you can read our guide to setting up a residents association here lwydalyn co uk/media/documents/resident-association-guide-2022 en pdf or aura on 07880431004, or you can email me - InfluenceUs@clawydalyn co uk

Gallwch drefnu digwyddiadau cymunedol a theithiau dydd

Hysbysu pobl am weithgareddau ac ati eu cymuned

I wybod mwy, gallwch ddarllen ein canllaw ar sefydlu cymdeithas preswylwyr yma

www.clwydalyn.co.uk/media/documents/resident-association-guide-2022_en.pdf

neu gallwch ffonio Laura ar 07880431004, neu fy e-bostio i ar - InfluenceUs@clawydalyn.co.uk

EICH NEWYDDION
9

Adroddiad Ein Haddewid am 2021/2022

Ein haddewid yw ein siarter preswylwyr.

Rydym wedi gweithio gyda gwirfoddolwyr #DylanwadwchNi a’n Pwyllgor Preswylwyr i greu a lansio ‘Ein Haddewid’ sy’n nodi beth ddylai ein preswylwyr ei ddisgwyl gan ClwydAlyn.

Rydym yn defnyddio Ein Haddewid i fesur ein perfformiad, bwrw iddi i wella ein gwasanaeth ac mae’n ein gwneud yn atebol i breswylwyr mewn modd agored a didwyll.

Credwn bod cartref yn bwysig ac y dylai cartref fod yn fwy na dim ond pedair wal a tho. Mae Ein Haddewid yn nodi ein hymrwymiad i gyflawni gwasanaethau rhagorol.

Darparu cartref diogel mewn cyflwr da

Darparu cartref diogel fforddiadwy Rhoi gwerth am arian

Rhoi gwasanaeth rhagorol

Gwrando ar adborth a gweithredu

Bod yn agored a didwyll

Creu balchder yn ein cymunedau

Ein Haddewid

@ClwydAlyn

Rheoli ein busnes yn dda

Am gymryd rhan a dweud eich dweud? Yna cysylltwch

â ni trwy anfon e-bost at influenceus@clwydalyn.co.uk neu cysylltwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol. Neu gallwch ein ffonio ni ar 0800 183 5757.

EICH NEWYDDION 10

94% o wastraff yn cael ei ddargyfeirio o dirlenwi

97% o bren

wedi ei brynu trwy ffynonellau wedi eu hardystio (FSC - Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd neu PEFC - Rhaglen ar gyfer Cefnogi Ardystio Fforestydd)

38% o ostyngiad carbon

i bob £m o werthiannau.

£3.5 Miliwn

wedi ei wario ar wella’r cartrefi sy’n bodoli.

£

£1.5 Miliwn

wedi ei wario ar wneud cartrefi’n ddiogel.

£5.7 Miliwn

wedi ei wario ar drwsio a chynnal a chadw cartrefi.

£ £ £

24,810 O dystysgrifau cydymffurfio diogelwch a gwiriadau diogelwch cartref wedi eu cwblhau.

929 o’r cartrefi presennol wedi eu gwella

142 O fwyleri nwy gradd A wedi eu gosod

136 O ystafelloedd ymolchi wedi eu diweddaru

227 O geginau wedi eu diweddaru

74 O systemau cynhesu dŵr wedi eu diweddaru

200 O gartrefi gyda ffenestri a drysau newydd

150 O systemau gwresogi trydanol wedi eu diweddaru

270 O gartrefi wedi eu haddasu i fod yn addas i anghenion ein preswylwyr.

EICH NEWYDDION 11

Fe wnaethom hefyd helpu:

38

67 O blant ar draws ein cynlluniau

75

o’n preswylwyr byw â chefnogaeth i symud i gartref parhaol

o’n preswylwyr byw â chefnogaeth i fynd ar gwrs neu gymryd prentisiaeth

31

o’n preswylwyr byw â chefnogaeth i ymuno â chyrsiau coleg a phrifysgol

39

39 o’n preswylwyr byw â chefnogaeth i fynd i swyddi amser llawn Rydym wedi cynnig

9

lleoliad profiad gwaith a mynd i 7 ysgol ar draws Gogledd Cymru i gefnogi gweithdai cyfweliadau neu ffeiriau gyrfaoedd

12 O fabanod wedi eu geni tra roeddent yn byw hefo ni

2,163 O ymweliadau cartref wedi eu cwblhau gan ein swyddogion tai

179 Wedi eu croesawu i’n gwasanaethau byw â chefnogaeth a digartrefedd

Fe wnaethom groesawu 659 o breswylwyr newydd

Fe wnaethom 93

o gartrefi’n fwy diogel trwy osod camau diogelwch ychwanegol.

Fe wnaethom weithio gyda Bwydo’n Dda i ddarparu

100,000

o brydau i bobl mewn tlodi bwyd a lansio 2 siop symudol

659 O breswylwyr newydd wedi eu croesawu

Helpu 632 o bobl i gael £858,360.62

mewn incwm ychwanegol trwy ein tim hawliau lles

485 o bobl wedi cael eu cefnogi gan ein swyddogion ymyrraeth gynnar yn cefnogi tenantiaethau cyntaf, taliadau heb eu talu ac ôl-ddyledion isel.

EICH NEWYDDION
12

90%

90% o’r preswylwyr yn fodlon yn eu cartref newydd

20,420

O swyddi gwaith trwsio arferol o ddydd i ddydd wedi eu cwblhau

537

o gartrefi gwag wedi’u hadnewyddu.

2021/22

76% o breswylwyr yn fodlon ar y ffordd y mae ClwydAlyn yn ymdrin â gwaith trwsio a chynnal a chadw

85%

85% o breswylwyr yn fodlon â’r gwasanaeth cyffredinol a ddarparwyd

4,952

o waith trwsio argyfwng wedi eu cwblhau cyn pen 24 awr

21,474

O swyddi gwaith trwsio arferol o ddydd i ddydd wedi eu derbyn

48 diwrnod oedd yr amser ar gyfartaledd i ailosod cartref.

Sut y gwariwyd yr incwm yn 2021/22

Costau Rheoli £6.4 miliwn

Costau Gwasanaeth £18.7 miliwn

Gwaith trwsio o ddydd i ddydd £7 miliwn

Gwelliannau Mawr £6.5 miliwn

Ad-daliadau Morgais £7.2 miliwn

Foids a dyledion drwg £1.9 miliwn

89% o’r swyddi wedi eu cwblhau ar yr ymweliad cyntaf.

Os hoffech ddarllen yr adroddiad llawn sganiwch y cod neu ewch draw i’n tudalen we yma: www.clwydalyn.co.uk/ourpromise/

EICH NEWYDDION
13% 39% 14% 14% 15% 4%
13

WRECSAM A SIR Y FFLINT YN

DWEUD, TIPIO ANGHYFREITHLON?

‘NID AR FY STRYD I’

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi bwrw iddi i gydweithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai ledled Cymru i lansio ‘Nid ar fy stryd i’ sef ail gam o’u hymgyrch genedlaethol i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon.

Bydd llu o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ym mhob cwr o Gymru eleni, er mwyn i denantiaid ddysgu sgiliau newydd, arbed arian a chael gwared ar eu heitemau diangen yn briodol.

Buom yn cydweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus yn ystod y gwanwyn eleni er mwyn cynnal dau ddigwyddiad glanhau blaenllaw yn Wrecsam a Sir y Fflint, gan fynd ar ofyn tenantiaid lleol i gael gwared ar eu heitemau tŷ yn briodol.

Yn ystod y deuddydd, bu i Gyfnewidfeydd Dillad Wrecsam a Sir y Fflint ymuno gyda Cadwch Gymru’n Daclus i gynnal cyfnewidfa ddillad gan annog tenantiaid i atgyweirio ac ail-ddefnyddio’u heitemau diangen. Bu i Benthyg Cymru arddangos eitemau defnyddiol gallai tenantiaid yn y gymuned eu benthyca, tra bu i fudiadau lleol megis

Abbey Upcycling a Refurbs drwy Groundwork Gogledd Cymru hyrwyddo eu gwasanaethau er mwyn atal eitemau o ansawdd rhag cyrraedd safleoedd tirlenwi.

BU DIGWYDDIADAU CODI SBWRIEL LLEOL HEFYD YN YSTOD Y DEUDDYDD AR Y CYD AG YSGOLION CYNRADD BRYNTEG A PARK CORNIST, GAN ANNOG Y TRIGOLION I GADW EU HARDALOEDD YN DACLUS A CHAEL GWARED AR UNRHYW SBWRIEL.

EICH CYMUNED
DYMA AWGRYMIADAU defnyddiol ynghylch sut i waredu gwastraff CARTREF ac EITEMAU GWASTRAFF MAWR yn gywir.
Pecyn gwybodaeth am wastraff.
Gwiriwch bob tro fod ganddynt drwydded cludo gwastraff gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.
NID AR FY STRYD I
CJ, WRecsam
Tipio anghyfreithlon?
#TipioanghyfreithlonNIDARFYSTRYDI
14

Dywedodd ein Arbenigwr Ymgysylltu gyda’r Gymuned, Annie Jackson:

“ Fe wyddom ni pa mor bwysig ydy mannau gwyrdd a thaclus i bobl ac roeddem ni’n fwy na pharod i ymuno gyda Cadwch Gymru’n Daclus a’u hymgyrch ‘Nid Ar Fy Stryd I.”

Y BROBLEM...

CHWALU MYTHAU

Mae Cymru wedi bod ar y brig ers amser hir yn y DU o ran ailgylchu ac mae wedi ei graddio’n drydedd yn y byd.1

Er gwaethaf hyn, mae tipio anghyfreithlon yn dal i ddigwydd ac mae nid yn unig yn edrych yn wael ond mae hefyd yn niweidio’r amgylchedd.

Yn ôl data 2021/22, cofnodwyd dros 41,000 o achosion yng Nghymru flwyddyn diwethaf.2

Cost tipio anghyfreithlon i’r cyhoedd yw £72 y funud

gyda thipio anghyfreithlon yn digwydd, ar gyfartaledd bob 12 eiliad rhywle yn y DU.3

Yn ôl data 2020/21, y 3 prif fath o wastraff oedd: cartref

Gall masnachwyr anghyfreithlon ymddangos fel ffordd rad a hawdd o waredu gwastraff, ond os caiff y gwastraff hwn ei dipio’n anghyfreithlon, byddwch yn rhannu’r cyfrifoldeb a gallech wynebu dirwy. Cyfrifoldeb y tenant yw sicrhau bod gan gludwr gwastraff drwydded gywir. Gallwch wirio a oes trwydded gan gludwr gwastraff trwy naturalresources.wales/permits-and-permissions/scrap-metal-dealerspublic-register

“ Rydym wedi mwynhau treulio amser gyda’r preswylwyr a’r plant o’r ysgolion lleol i’w helpu i dacluso eu strydoedd, gan gasglu dros 60 o fagiau llawn sbwriel a chynnig cyfle i bobl gwrdd â thîm ClwydAlyn yn ogystal ag ein partneriaid a dysgu am yr holl wahanol ffyrdd y gallwch chi ailgychu eich gwastraff.”

O ACHOSION O DIPIO ANGHYFREITHLON YNG NGHYMRU Y LLYNEDD

COST TIPIO ANGHYFREITHLON

‘arall’ (18,514), bagiau du cartref (11,459) a nwyddau gwyn (2,236). Roedd y rhan fwyaf o achosion o faint fan fach neu lond cist car neu lai.4

Nid biniau cyhoeddus yw’r ateb ar gyfer gwaredu eich gwastraff ychwanegol. Mae gadael eitemau gerllaw biniau cyhoeddus yn cael ei ystyried fel tipio anghyfreithlon ac efallai na fydd yr eitemau hyn yn cael eu casglu – gallech hefyd gael dirwy. Gallwch hysbysu eich cyngor lleol am finiau sydd yn gorlifo: gov.uk/find-local-council

Mae 22 miliwn o ddarnau o ddodrefn yn cael eu taflu allan yn y DU bob blwyddyn ac mae llai nag 1 mewn 10 o bobl yn cymryd camau i drwsio. Mae caffis trwsio lleol yn lleoliadau sydd yn rhoi’r offer a’r wybodaeth i’ch helpu i drwsio eitemau. Gallwch ddod o hyd i’ch caffi trwsio lleol yma: repaircafewales. org/venues

CADWCH GYMRU’N DACLUS

Fodd bynnag, mae ein hymchwil wedi canfod nad yw bob amser yn hawdd gwneud y peth iawn wrth waredu eich gwastraff a gall fod llawer o rwystrau yn y ffordd.

I’R CYHOEDD YW

PRIF WEITHREDWR - OWEN DERBYSHIRE

41,000+ £72/mUNUD

CYMORTH AC ADNODDAU

• Canfyddwch sut i waredu eitemau swmpus yma: gov.uk/collection-large-waste-items

Gellir defnyddio’r pecyn hwn fel offeryn i’ch helpu i waredu eich gwastraff yn gywir neu’n well byth – ei atal yn gyfan gwbl!

A wyddoch chi?

Mae’r ymgyrch genedlaethol hon wedi’i chynnal ar y cyd â Caru Cymru – mudiad hollgynhwysol o dan arweiniad Cadwch Gymru’n Daclus a chynghorau i ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.

Mae gadael eitemau gerllaw biniau cyhoeddus yn cael ei ystyried fel tipio anghyfreithlon ac efallai na fydd yr

Chwiliwch am gasglu gwastraff sylweddol i ganfod ffyrdd fforddiadwy o gael gwared ar eich eitemau diangen.

eitemau hyn yn cael eu casglu. Gallwch

hefyd gael dirwy.

Haws na’r disgwyl, rhatach na dirwy Cofiwch wirio eu bod yn gasglwr gwastraff trwyddedig gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. www.naturalresourceswales.gov.uk/CheckWaste

Gall awdurdodau lleol yn y DU gyhoeddi

dirwyon cosb benodedig rhwng £150 a £400 am dipio anghyfreithlon.

Dewch o hyd i’ch diwrnod casglu biniau yn: gov.uk/rubbish-collection-day

Dewch o hyd i’ch canolfan ailgylchu agosaf yn: walesrecycles.org.uk/recycling-locator

Dewch o hyd i’ch caffi trwsio lleol yn: repaircafewales.org/venues

EIN DIWRNODAU BINIAU YW:

Mwy o awgrymiadau defnyddiol ar gyfer ailgylchu yma: recyclenow.com

Mae’r siopau elusen sydd gerllaw yma: charityretail.org.uk/find-a-charity-shop

Gwastraff cartref Ailgylchu Gwastraff gardd

Ein canolfan ailgylchu leol yw:

Ein caffi atgyweirio agosaf yw:

2. https://statswales.gov.wales/Catalogue/Environment-and-Countryside/Fly-tipping/recordedflytippingincidents-by-wastetype

1. https://gov.wales/new-stats-show-wales-upholds-world-class-recycling-rates-despite-pandemic

4. https://statswales.gov.wales/Catalogue/Environment-and-Countryside/Fly-tipping/recordedflytippingincidents-by-wastetype

3. Fly-Tipping Facts & Figures (nationwidehouseclearance.co.uk)

CHWALU’R CHWEDLAU

 Gallai masnachwyr anghyfreithlon ymddangos fel ffordd rad a rhwydd o gael gwared ar wastraff, fodd bynnag os byddan nhw’n mynd ati dipio’n anghyfreithlon, byddwch chithau’n gyfrifol yn ogystal ac fe allwch chi wynebu dirwy.

 Y tenantiaid sy’n gyfrifol dros wirio bod casglwr gwastraff yn meddu ar drwydded briodol. Gallwch wirio bod casglwr gwastraff yn drwyddedig drwy naturalresources.wales/permits-andpermissions/scrap-metal-dealers-publicregister

 Ni ddylech chi roi eich gwastraff ychwanegol mewn biniau cyhoeddus. Caiff gadael eitemau ger biniau cyhoeddus ei bennu’n dipio anghyfreithlon ac mae’n bosibl na chaiff yr eitemau hyn eu casglu.

 Gallwch roi gwybod i’ch cyngor lleol am finiau sy’n orlawn: gov.uk/find-local-council

 Caiff 22 miliwn o ddarnau o ddodrefn eu taflu yn y DU pob blwyddyn ac mae llai na 1 ym mhob 10 person yn mynd ati i’w hatgyweirio. Mae caffis trwsio lleol yn ganolfannau lle gallwch chi fanteisio ar y cyfarpar a’r wybodaeth i’ch helpu i atgyweirio eitemau. Dewch o hyd i’ch caffi trwsio lleol yma: repaircafewales.org/venues

EICH CYMUNED
15

CWRDD AG ANDY DUNBOBBIN

Fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar ran Gogledd Cymru, mae’n ddyletswydd arna i i leisio barn pobl ynghylch plismona yn ein hardal. Rydw i’n sicrhau bod yr heddlu yn cyflawni eu gwaith yn effeithiol, yn dangos gwerth am arian, ac uwchlaw popeth yn lleihau trosedd. Cefais fy ethol ym mis Mai 2021 ac ers hynny rydw i wedi bod wrthi’n ceisio cyflawni fy addewidion i drigolion Gogledd Cymru. Fe es i ati i lunio Cynllun Heddlu a Throsedd gyda’r meysydd allweddol hynny yr hoffwn weld Heddlu Gogledd Cymru’n canolbwyntio arnyn nhw. Ymhlith y meysydd hyn mae sicrhau cymdogaethau mwy diogel; cefnogi dioddefwyr a chymunedau; a sicrhau System Cyfiawnder Troseddol teg ac effeithiol.

Rhan allweddol o waith fy nhîm ydy comisiynu, sef ariannu, gwasanaethau sy’n helpu pobl. Er enghraifft, mae cyllid yn mynd tuag at gynnig cymorth i ferched a genethod sydd mewn perygl o drais ac ecsbloetiaeth, cydweithio gyda phobl gallai fod â phroblemau camddefnyddio sylweddau fel nad ydyn nhw’n ail-droseddu ac ymdrechu i greu canolfan pwrpasol sy’n cefnogi degau o filoedd o ddioddefwyr pob blwyddyn.

Rhan bwysig arall o fy rôl ydy cefnogi prosiectau cymunedol drwy fentrau megis ‘Eich Cymuned, Eich Dewis’, sy’n derbyn cefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru ei hun yn ogystal.

Yn aml iawn fe gaiff y cyllid ar gyfer hyn ei adfer drwy’r Ddeddf Enillion Troseddau, gan ddefnyddio arian sydd wedi’i atafaelu gan droseddwyr. Gallai mudiadau cymunedol geisio am gyllid ar gyfer gwahanol fathau o brosiectau a gweithgareddau. Er enghraifft, ar wahân i brosiectau ymladd trosedd, gallai’r cyllid helpu i ariannu timau pêldroed lleol a grwpiau sgowtiaid, neu sicrhau bod cymdogaethau’n fannau brafiach i fyw ynddyn nhw drwy brosiectau plannu. Gallwch ddysgu mwy am sut i geisio am y cyllid hwn yn www.pactnorthwales.co.uk

EICH CYMUNED
16

Rydw i’n gwybod bod trigolion lleol yn falch o’u cymunedau ac, fel pob un ohonom, yn dymuno gweld lleihad mewn ymddygiad drwg. Felly, sut gallai’r trigolion fynd ati i ategu gwaith yr Heddlu? Gallwch ymgysylltu gyda thîm plismona lleol eich cymdogaeth, neu roi gwybod am faterion drwy alw 101 neu 999 fel sy’n briodol. Gallwch gysylltu gydag eich cynghorydd lleol a allai sicrhau bod eich Awdurdod Lleol yn ymdrechu hyd eithaf eu gallu i gydweithio’n effeithiol gyda Heddlu Gogledd Cymru. Gallwch hefyd fynegi’ch problemau i dimau’r cyngor, megis yr adran Gorfodaeth Tai am lygredd sŵn, gwasanaethau’r amgylchedd pan fo achosion o dipio anghyfreithlon, neu wasanaethau ieuenctid pan fo ymddygiad gwael gan bobl ifanc.

Heb os nac oni bai, ychydig o agweddau sy’n derbyn cymaint o sylw gan bobl leol neu sy’n effeithio cymaint ar eu bywyd o ddydd i ddydd nag ymddygiad gwrth-gymdeithasol. I sawl un, ymddygiad gwrth-gymdeithasol (ASB) ydy’r drosedd sy’n amharu ar eu cymunedau fwyaf ac rydw i’n benderfynol o fynd i’r afael â hyn.

Yn gyntaf oll, rydw i’n erfyn arnoch chi i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiad o ymddygiad gwrth-gymdeithasol er mwyn inni allu gweithredu yn eu cylch. Os byddwn ni’n ymwybodol o’r ymddygiad gwrth-gymdeithasol, bydd modd inni geisio mynd i’r afael ag o.

Gallai’r Heddlu, Awdurdodau Lleol, Landlordiaid Cymdeithasol megis ClwydAlyn ac eraill fynd i’r afael â phroblemau pan fyddan nhw’n codi er mwyn sicrhau’r deilliannau gorau posibl ar gyfer y dioddefwyr, yn enwedig pan fo’r Adolygiad Achos / Sbardun Cymunedol ar waith.

Mae’r Adolygiad Achos / Sbardun Cymunedol yn fodd i ddioddefwyr sy’n wynebu ymddygiad gwrth-gymdeithasol droeon i ofyn am adolygiad o’r camau gweithredu sydd wedi’u cymryd i fynd i’r afael â’u pryderon.

Mae cydweithio gyda mudiadau megis ClwydAlyn yn rhan arall pwysig iawn o fy swydd. Gorau po fwyaf y mae fy swyddfa i, yr heddlu a’r cymdeithasau tai yn cydweithio. Yn ddiweddar bu imi gwrdd â chymdeithasau tai a landlordiaid o bob cwr o Gymru i drafod plismona a phroblemau eraill.

Er bod y cyfarfodydd gyda’r rheolwyr yn bwysig dros ben, rydw i hefyd yn ymdrechu i deithio hyd a lled Gogledd Cymru er mwyn clywed barn y preswylwyr yn uniongyrchol am unrhyw broblemau sydd ganddyn nhw ynghylch plismona. Rydw i’n credu mewn sicrhau bod plismona mor hygyrch â phosibl i’n holl gymunedau ledled Gogledd Cymru . At hyn, mae tenantiaid a phreswylwyr ClwydAlyn a chymdeithasau tai eraill yn haeddu bod â hyder ynof fi ac yn Heddlu Gogledd Cymru yn ogystal. Rydw i’n ymrwymo i barhau i weithio’n ddiwyd, ar y cyd â Phrif Gwnstabl Amanda Blakeman a heddweision a staff eraill yng Ngogledd Cymru i sicrhau bod ein rhanbarth mor ddiogel â phosibl i bob un ohonom. Os hoffech chi imi ymweld â’ch cymuned, mae croeso ichi gysylltu gyda fy swyddfa i weld sut gallwn ni fynd ati i gydweithio.

Ewch i’n gwefan i wybod mwy: www.northwales-pcc.gov.uk

EICH CYMUNED
17

EIN DATBLYGIADAU – EIN CYNNYDD DIWEDDARAF

Nod ein rhaglen datblygu ydy cynnig 1,500 o gartrefi newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2025 drwy fuddsoddiad o £250miliwn. Bydd hyn yn golygu y byddwn ni’n berchen ar ac yn rheoli cyfanswm o dros 7,500 o dai.

DYMA’R DIWEDDARAF YNGHYLCH CYNNYDD RHAI O’N DATBLYGIADAU:

DATBLYGIAD NEWYDD AR Y SAFLE: TIR YN STAD BRYN GLAS, BRYNSIENCYN, YNYS MÔN

Datblygiad o 12 o dai fforddiadwy ac ynni effeithlon wedi’u hadeiladu gan DU Construction ar ran ClwydAlyn ac ar y cyd â Chyngor Ynys Môn a Llywodraeth Cymru.

CYNNYDD Y DATBLYGIADAU AR Y SAFLE:

Rydym yn gwneud cynnydd sylweddol gydag ein datblygiadau ar y safle. Gallwch ganfod mwy ar ein gwefan, gan fod newyddlen ynghylch cynnydd diweddaraf i gyd-fynd â phob datblygiad, www.clwydalyn.co.uk/developments

Tir ger Campws Pencraig Coleg Menai

Bydd pob un o’r 60 o gartrefi wedi’u cwblhau yn y Gwanwyn 2023

Tir yn Hen Ysgol y Bont, Llangefni

Bydd pob un o’r 52 o gartrefi wedi’u cwblhau yn yr Haf 2023

Melin / Mart y Fali,Ynys Môn

Bydd pob un o’r 52 o gartrefi wedi’u cwblhau yn yr Haf 2024

Tir gyferbyn â Lon Lwyd, Pentraeth Anglesey

Bydd pob un o’r 23 o gartrefi wedi’u cwblhau yn yr Haf 2023

Tir yng Nglasdir, Rhuthun

Datblygiad 63 o gartrefi newydd fforddiadwy effeithlon o ran ynni, yn cael eu hadeiladu gan Williams Homes ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru.

RYDYM WEDI CROESO 99

DIWEDDARIAD AM Y CYNNYDD AC EDRYCH YMLAEN Mae’r gwaith ar y safle yn mynd yn ei flaen yn dda ac ym mis Hydref ac yn fwy diweddar ym mis Chwefror, cwblhawyd cam 2 y datblygiad a symudodd 29 o breswylwyr/ teuluoedd i’w cartrefi newydd! Bydd gan y datblygiad 3 cham i’w gwblhau, gyda cham 3 yn mynd yn ei flaen yn dda. Bydd y 63 cartref i gyd wedi eu gorffen yng ngwanwyn 2023.

CYFLEOEDD GWAITH Mae dynion yng Ngharchar Ei Fawrhydi Berwyn yn Wrecsam wedi bod yn cynhyrchu paneli ffrâm bren ar gyfer ein datblygiadau yn Glasdir (Rhuthun), Hen Ysgol y Bont, Pentraeth a Melin / Mart y Fali yn Ynys Môn, gan chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y cynlluniau. Sefydlwyd uned ffatri yn y carchar, ac yn awr mae 25 o ddynion wedi cael cyfle i ddysgu sgiliau ymarferol a chymwysterau i’w paratoi gael gwaith wrth eu rhyddhau.

preswylwyr yn eu cartrefi newydd yn ddiweddar.

Bydd pob un o’r 63 o gartrefi wedi’u cwblhau yn y Gwanwyn 2023

Stryd Edward Henry, Y Rhyl

Bydd pob un o’r 13 o gartrefi wedi’u cwblhau yn y Gwanwyn 2024

Neuadd Maldwyn, Cynllun Byw’n Annibynnol ar gyfer pobl hŷn:

Bydd pob un o’r 66 o gartrefi wedi’u cwblhau yn y Gwanwyn 2024.

EICH CYMUNED
CLWYDALYN.CO.UK TIR YN GLASDIR,RHUTHUN, SIR DDINBYCH RHUTHUN GAEAF 2023
18

I’CH CARTREF NEWYDD!

PRESWYLWYR YN SYMUD

I MEWN:

Llongyfarchiadau i’n preswylwyr sydd wedi symud i mewn i’w cartrefi newydd yng Nglasdir Rhuthun, yn Sir Ddinbych, Ponc y Rhedyn, Ynys Môn a Hen Ysgol y Bont, Ynys Môn.

TIR YN NGLASDIR, RHUTHUN

Ym mis Hydref ac yn ddiweddarach ym mis Chwefror, fe gwblhawyd cam 2 y datblygiad a bu i 29 o breswylwyr a theuluoedd symud i mewn i’w cartrefi newydd! Mae Brandon wrth ei fodd gyda’i gartref newydd:

“ Rydw i’n hoffi popeth am fy nghartref newydd. Fydda i’n byw yma fy hun gyda fy mab 2 oed, a gan fod dwy ystafell wely yma mae digonedd o le i’r ddau ohonom ni. Doedden ni ddim yn disgwyl derbyn y tŷ ond fe wnaethon ni lwyddo ac rydw i ar ben fy nigon. Mae’r gegin, yr ystafelloedd eraill a’r ardd yn fendigedig a gan fod paneli solar wedi’u gosod arno, ni fydd yn rhaid inni dalu biliau trydan mor uchel sy’n uchafbwynt heb os.”

ENWI DATBLYGIAD GLASDIR!

Dyma enwau’r strydoedd, Stryd y Friallen, Llys Bedwen, Ffordd Llwyfen, Rhodfa Criafolen, Llys y Feillionnen. Mae’r rhain yn gymysgedd o goed a phlanhigion gellir dod o hyd iddyn nhw’n lleol yn Rhuthun ac roedd pob un ohonyn nhw wedi’u henwi ar yr arolwg Ecoleg a gynhaliwyd ar y safle cyn bwrw iddi gyda’r datblygiad.

PONC Y RHEDYN, YNYS MÔN

Ar ddiwedd 2022, bu i 27 o breswylwyr a theuluoedd symud i mewn i’w cartrefi newydd yn Ponc y Rhedyn, sef Pant y Briallu a Stryd Brithlys, Benllech erbyn hyn. Mae Jane wedi symud i mewn i’w ‘chartref am oes’ erbyn hyn’:

“ Rydw i uwch ben fy nigon o fod yn symud i mewn rŵan. Rydw i wedi symud 3 gwaith yn y 5 mlynedd a hanner diwethaf a dyma fydd fy nghartref am oes ac mae hynny’n wirioneddol wych. Maen nhw wedi meddwl am bopeth, a bydd yn llawer mwy fforddiadwy. Bydda i, a fy mab 27 oed sydd yn symud i fyw efo fi, yn teimlo’n llawer brafiach a ddim o dan bwysau ariannol. Mae wedi digwydd ar adeg dyngedfennol a dydw i wir ddim yn gwybod beth fyddai ein sefyllfa erbyn hyn heb y tŷ hwn.”

EICH CYMUNED
19

TIR YN HEN YSGOL Y BONT, YNYS MÔN

Ar gychwyn mis Mawrth, bu i 16 o breswylwyr / teuluoedd symud i mewn i’w cartrefi newydd yn Llangefni, sef Maes yr Ysgol / Bridge Street erbyn hyn. Bydd y cartrefi ynni effeithlon newydd hyn yn help i Nicola a’i theulu arbed arian:

Mae ein cartref newydd yn fendigedig ac rydym wedi cyffroi ac yn teimlo’n lwcus dros ben o’i dderbyn. Mae gan ein plant anghenion ychwanegol a gan fod eu hysgol ddim ond yn daith 5munud yn y car erbyn hyn, bydd modd inni arbed costau tanwydd. Bydd cynllun y tŷ a’r gawod newydd yn help iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau hunangymorth ac i fod yn fwy annibynnol.

Mae’n dra gwahanol i’n hen gartref. Roedd gennym ni nwy LPG yno ac roedd hanner tanc yn ddrud iawn – bydd byw mewn cartref ynni effeithlon yn fodd inni arbed arian a bydd yn fanteisiol iawn i’r teulu i gyd.”

Nod ClwydAlyn ydy mynd i’r afael â thlodi tanwydd a helpu lleihau effaith cartrefi sy’n llai ynni effeithlon ar iechyd a lles pobl.

Mae’r cartrefi hyn wedi’u hadeiladu gan ddefnyddio technolegau sy’n fwy ystyriol o’r amgylchedd a dyluniadau arloesol, felly maen nhw’n effeithlon dros ben o ran ynni ac yn elwa o’r canlynol:

 Pympiau gwres sy’n defnyddio aer

 Paneli trydan solar

 Batris storio trydan solar (Hen Ysgol y Bont a Glasdir)

 Cartrefi wedi’u gosod fel eu bod yn manteisio i’r eithaf ar olau’r haul a golau dydd naturiol

 Cyfleusterau gwefru ceir trydan

 ‘Dulliau Modern o Adeiladu’ gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy â phosibl

 Caffael deunyddiau gan wneuthurwyr a chyflenwyr lleol, gan sicrhau bod yr ôl-troed carbon yn isel

Rydym hefyd yn gweithio ar brosiectau cyffrous a fyddai’n sicrhau bod ein cartrefi hŷn sy’n llai effeithlon o ran ynni yn fwy ystyriol o’r amgylchedd ac yn fwy effeithlon i’w cynnal. Cadwch lygaid am y diweddaraf yn y rhifyn nesaf o Materion Tai.

www.youtube.com/watch? v=VSdsTJEi2bI

Cyflwyniad i

Bympiau Gwres

Ffynhonnell Aer

EICH CYMUNED
20

Abigail.Matthewman@clwydalyn.co.uk

CONNECTING PEOPLE WITH ddeiliadaethau gwahanol

YDYCH CHI’N GYMWYS?

Rydych yn brynwr tro cyntaf neu mae eich cartref cyfredol

diwallu anghenion eich teulu

Dydych chi methu â fforddio rhentu ar y farchnad agored

www.taiteg.org.uk

Bydd Tai Teg yn asesu eich cais

meini prawf ac os ydych chi’n

EICH CYMUNED
21

Rydym yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc sy’n haeddu gwell, gan gynnwys tair rhaglen wahanol: Darganfod Gyda’n Gilydd, Tyfu Gyda’n Gilydd a Perthyn Gyda’n Gilydd

Mae ein rhaglen Darganfod Gyda’n Gilydd rhithiol yn cynnig cyfleoedd newydd i bobl ifanc 16-25 oed yng Ngogledd Cymru ar hyn o bryd. Darllenwch mwy i wybod sut a pham ddylech chi weithredu fel ‘Gappie’ ar ran WeMindTheGap. Drwy weithredu fel Gappie ar ran WeMindTheGap, byddwch yn darganfod mwy amdanoch chi’ch hun a’r byd sydd y tu hwnt i’ch stepen drws drwy raglen ryngweithiol 10 wythnos o hyd.

BETH SYDD YNGHLWM Â’R RHAGLEN?

Sesiynau ar-lein o ddydd Llun – Iau, ymunwch gyda heriau, dadleuon a thrafodaethau grŵp a chwrdd ag eraill gan fwynhau eich hun yn ogystal.

Mentor penodol i’ch cefnogi chi i gymryd y camau priodol at ddyfodol delfrydol a dyfodol rydych chi’n ei haeddu

Modd i fanteisio ar ‘Discovery Village’ pob awr o’r dydd, sef ein llwyfan ar-lein gyda pharthau a gweithgareddau, o benderfynu pwy fyddech chi’n eu recriwtio mewn cyfweliad ffug, newid e-bost gwael i fod yn un proffesiynol neu ddylunio eich planed eich hun.

Blwch darganfod sydd dan ei sang gydag adnoddau, crefftau ac amlenni dirgelwch i’w hagor yn ystod y rhaglen. Byddwn yn darparu unrhyw beth fydd ei angen arnoch chi yn y sesiynau.

Cwrdd â siaradwyr gwadd, i glywed straeon ysbrydoledig, dysgu sgil newydd a gofyn y cwestiynau hynny rydych chi wedi bod yn ysu i’w gofyn. Ymysg y siaradwyr gwadd ar y gweill mae Sŵ Mynydd Cymru a MIND.

Bydd modd i’r rheiny sy’n mynychu 8 sesiwn yr wythnos fanteisio ar wobrau

Diwrnodau profiad pan fyddwch chi’n barod i gwrdd â Gappies eraill wyneb yn wyneb

BETH NESAF?

Gallwch ymuno gydag unrhyw un o’r rhaglenni Darganfod

Gyda’n Gilydd canlynol unrhyw bryd. Cysylltwch gyda’r tîm a bydd Mentor yn cysylltu’n ôl gyda chi ymhen 48 awr.

RHAGLENNI DARGANFOD GYDA’N

GILYDD SYDD AR Y

GWEILL:

GOGLEDD CYMRU

Ionawr – Ebrill 2023

Mai – Awst 2023

Hydref – Rhagfyr 2023

Ionawr – Ebrill 2024

Yn dilyn unrhyw raglen

WeMindTheGap, bydd modd

ichi fanteisio ar Perthyn Gyda’n

Gilydd, sef cymuned sy’n prysur

dyfu o Gappies er mwyn cadw

mewn cyswllt, dathlu eich

llwyddiannau gyda nhw a derbyn cymorth pan fo’i angen arnoch chi.

Diwrnod Dathlu Hyd – Rhag ’22

Gyda’n Gilydd

Cysylltwch gydag un o dîm WeMindTheGap ar 0333 939 8818.

Neu e-bostiwch Rebecca, Arweinydd Rhaglen Darganfod Gyda’n Gilydd ar rebecca@ wemindthegap.org.uk

@WeMindTheGapUK

@wemindthegap

@WeMindTheGapUK

CLYWED BARN POBL IFANC

AM RAGLEN DARGANFOD

GYDA’N GILYDD:

Cyn y rhaglen, roedd Sam yn trafferthu i ysgogi ei hun i adael y tŷ ac roedd yn ei chael hi’n anodd bod mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.

Dyma’i farn am Darganfod Gyda’n Gilydd…

“ Mae tîm WeMindTheGap yn gefnogol iawn ac maen nhw wedi fy helpu i i deimlo’n gyfforddus i ymuno gyda sesiynau grŵp rhithiol a hyd yn oed y diwrnodau wyneb yn wyneb. Rydw i’n teimlo’n llawer brafiach ymhlith pobl eraill yn gyffredinol a dydw i erioed wedi teimlo fel hyn o’r blaen mewn gwirionedd. Rydw i wedi sylwi ar nifer o newidiadau cadarnhaol yn fy mywyd eisoes.”

Ymunodd Sophie gyda Darganfod Gyda’n Gilydd yn 2022 a gan nad oedd ganddi unrhyw drefn arferol, roedd hi arfer aros ar ddihun tan oriau mân y bore ac yn deffro yn ystod y prynhawn canlynol. Doedd hi ddim yn siŵr o’i chamau nesaf mewn bywyd.

“ Un o’r prif fanteision imi oedd dilyn trefn arferol, roeddwn i arfer deffro heb unrhyw drefn. Erbyn hyn rydw i’n codi ar amser penodol. Mae siarad gyda gwahanol bobl wedi bod yn hwb mawr imi hefyd. Mae fy mywyd yn llawer haws erbyn hyn fod gen i fwy o strwythur a rhywbeth i’w wneud.”

Elusen symudedd cymdeithasol sydd wedi bod wrthi’n trawsnewid bywydau pobl ifanc ers 2014.
EICH
CYMUNED
Gappie Rosie yn ymuno â sesiwn ‘Paned a Sgwrs’ Darganfod Blychau Darganfod
DARGANFOD GYDA’N GILYDD
22
DARGANFOD GYDA’N GILYDD TYFU GYDA’N GILYDD PERTHYN GYDA’N GILYDD

AWGRYMIADAU ARBENNIG

YMWYBYDDIAETH O DDYLEDION

OES ANGEN CYMORTH ARIANNOL ARNOCH CHI – RYDYM YMA I’CH HELPU!

Fe wyddom fod llawer o bobl yn ei chael hi’n fwyfwy anodd talu biliau ar hyn o bryd. Gallai unrhyw un fynd i ddyled ac fe wyddom ni gall bod mewn dyled i rywun achosi straen mawr. Mae cannoedd o resymau pam fod pobl yn dewis peidio manteisio ar gyngor am ddyledion – mae rhai yn ofni y byddai pobl yn eu barnu ac mae eraill yn ceisio anwybyddu’r broblem gan obeithio y bydd pethau’n gwella, hefyd mae rhai pobl sydd ddim yn ymwybodol bod ClwydAlyn yma i gynnig cymorth a chyngor i breswylwyr.

Mae’n bwysig ichi fod yn agored gyda’ch anwyliaid neu eich rhwydwaith cymorth am eich trafferthion gyda dyledion, gan ei fod yn anodd mynd i’r afael â’r broblem ar eich pen eich hun ac mae yna gymorth ar gael. Mae pryderon gydag arian yn aml yn gysylltiedig gyda phroblemau iechyd meddwl gyda sawl un yn dweud ei fod yn arwain at iselder, straen neu orbryder.

Y cam cyntaf er mwyn mynd i’r afael â’ch problemau ydy bod yn agored. Does dim angen ichi deimlo cywilydd, gallai unrhyw un fynd i ddyled am amryw o wahanol resymau. Yr oll sy’n bwysig os ydych chi’n cael trafferth yw eich bod chi’n gofyn am gymorth.

SIARADWCH GYDA RHYWUN RYDYCH CHI’N

YMDDIRIED YNDDYN NHW.

Mae’n bosibl y gallan nhw eich helpu i bennu cyllideb neu ganfod ffyrdd i gynyddu eich incwm a lleihau eich gwariant, yn ogystal â’ch helpu i ddeall a mynd i’r afael ag unrhyw lythyrau. Gallan nhw hefyd eich cefnogi, fel nad oes angen ichi wynebu’r broblem ar eich pen eich hunain.

RHOWCH WYBOD I’CH PARTNER.

Os ydych chi mewn perthynas, a’i bod yn ddiogel, mae’n syniad da ichi roi gwybod i’ch partner am eich dyled hefyd, gan eu bod yn debygol o wybod fod rhywbeth o’i le beth bynnag. Byddai cadw eich dyled yn gyfrinach rhag eich partner yn gallu creu mwy o bwysau a straen ar eich perthynas. Ewch ati i’w calonogi eich bod yn mynd i’r afael â’r broblem, yn gwneud cynnydd a gofynnwch iddyn nhw am eich cefnogi chi yn ystod y broses gan edrych tua’r dyfodol.

GOFALWCH AMDANOCH CHI’CH HUN.

Gallai dyled achosi pwysau enfawr, felly mae’n bwysig eich bod chi’n gofalu amdanoch chi’ch hun mewn ffyrdd eraill. Gofalwch eich bod yn neilltuo amser i fynd am dro a mwynhau treulio amser gyda’r bobl sydd yno i’ch cefnogi. Cofiwch fwyta’n dda, cadw’n heini ac ymlacio – y ffordd bwysicaf i ofalu am eich iechyd meddwl.

EIN SWYDDOG CYNGOR

ARIANNOL HAWLIAU LLES, JANICE PETERSON YN RHANNU CYNGOR CEFNOGOL.

“ Rydym yma i’ch helpu chi ac mae hi’n bwysig fod pobl yn gwybod nad oes rhaid ichi ddioddef ar eich pen eich hunain. Fe wyddom pa mor sydyn gallai pethau fynd o ddrwg i waeth a gorau po gyntaf ichi gysylltu gyda ni er mwyn inni allu mynd ati ar unwaith i’ch helpu. Hyd yn oed os nad ydych chi’n awyddus i siarad gyda rhywun, mae yna nifer o adnoddau a dewisiadau ar gael i’ch helpu i gychwyn arni i fynd i’r afael â phroblem ddyled ac rydym wedi creu adnodd pwrpasol i’ch helpu i reoli eich biliau’n fwy effeithiol.”

“ Rydym yma i’ch helpu ac os ydych chi’n wynebu problemau gyda thalu am bethau megis rhent, cofiwch gysylltu gyda naill ai eich Swyddog Tai neu ffoniwch ni ar 0800 1835757 neu e-bostiwch ni ar help@clwydalyn.co.uk ac fe wnawn ni eich helpu i fyw bywyd di-ddyled.”

Mae yna hefyd sawl ffordd y gallwch chi helpu eich hunain, megis adnodau cyllidebu i gyngor arbenigol gan ffynonellau eraill, megis y Money saving expert.

ADNODDAU CLWYDALYN - Budd-daliadau a Hawliau Lles - www.clwydalyn.co.uk/welfare-reform

FFYRDD ERAILL O FANTEISIO AR GYMORTH

• Mae Step Change yn meddu ar dros 25 mlynedd o brofiad yn cynnig datrysiadau ymarferol yn ymwneud â dyledion - www.stepchange.org/how-we-help.aspx

• Mae Cyngor Ar Bopeth yn fudiad annibynnol sy’n arbenigo mewn cyngor cyfrinachol ar bynciau megis cyngor ar ddyledion neu reoli eich biliau. Mae ganddyn nhw eu hadnodd cyllidebu ar-lein eu hunain - www. citizensadvice.org.uk

• National Energy Action ydy’r elusen genedlaethol sy’n ymdrechu i roi gorau i dlodi tanwydd yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon. Gallan nhw gynnig cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf am gostau ynni cynyddolwww.nea.org.uk

• Mae gan y ‘Money saving expert’ gyngor ac adnoddau helaeth ynghyd â newyddion a gwybodaeth am ystod o bynciau gall eich helpu gyda’ch penderfyniadauwww.moneysavingexpert.com

• Mae’r Llinell Gyngor am Ddyledion yn llinell gymorth sydd wedi’i gymeradwyo gan y llywodraeth ar gyfer mynd i’r afael â’ch dyledion - www.nationaldebtline.org/

Gallwch hefyd ymweld ag ein

tudalen Costau Byw Cynyddol

i fanteisio ar ragor o awgrymiadau a chyngor. Sganiwch y cod QR https://bit.ly/3Mlkyli

EICH AWGRYMIADAU ARBENNIG 23

1. Defnyddiwch flwch neu fwced mawr, gorau po fwyaf ydy eich blwch er mwyn sicrhau bod mwy o le i’r planhigion ymestyn eu gwreiddiau a ffurfio cloron (tatws).

a. Bwcedi neu flychau mawr sydd â diamedr o oddeutu 16 modfedd ac sy’n uchder o 16 modfedd (41cm).

b. Gallwch blannu 2-3 datws hadau mewn blwch o’r maint hwn. Fe wnes i ddefnyddio hen flwch ailgylchu!

c. Gofalwch bod rhywfaint o dyllau yng ngwaelod y blwch ar gyfer draenio.

AWGRYMIADAU GARDDIO

Cyfle i hawlio hadau AM DDIM gan #DylanwadwchNi

Mae ein Pennaeth Gwasanaethau Cynnal a Chadw, Carl Taylor yn rhannu ei awgrymiadau arbennig

ynghylch …‘Tyfu tatws mewn Blychau’

Os nad oes digon o le yn eich gardd i blannu tatws neu os nad oes gennych chi ardd o gwbl, gallwch dyfu tatws mewn bwcedi neu flychau. Dyma ychydig o awgrymiadau ar gyfer tyfu tatws mewn potiau, bagiau tyfu a bwcedi.

2. Gallwch brynu tatws hadau o unrhyw ganolfan arddio, neu gallwch ddod o hyd i hen daten sy’n magu gwreiddiau yn y bag!

3. Gallwch fynd ati i’w tyfu unrhyw bryd rhwng y Gwanwyn a’r Hydref.

4. Os oes gennych chi eich compost eich hun, yna bydd hwnnw’n ddelfrydol! Os nad oes gennych chi, yna byddai compost sydd wedi’i greu’n arbennig ar gyfer blychau’n addas. I arbed arian, gallwch ychwanegu mymryn o bridd o’r ardd a chreu cymysgedd 50/50.

5. Does dim angen ichi fwydo’r planhigion, ond fe allwch chi ddefnyddio gwrtaith gronynnog organig.

6. Cofiwch eu dyfrio’n aml!! Mae angen dyfrio planhigion sy’n tyfu o’r tir ac mewn blychau yn amlach gan eu bod yn sychu’n sydyn mewn tywydd poeth. Bydd y planhigion yn stopio tyfu os fyddan nhw’n sych neu’n gorgynhesu! Bodiwch y pridd i weld os ydy’r ddwy fodfedd uchaf yn teimlo’n sych. Ewch ati i’w dyfrio’n drylwyr nes bod dŵr yn draenio allan o’r tyllau ar y gwaelod er mwyn i’r lleithder gyrraedd y gwreiddiau ar waelod y blwch.

7. Gofalwch eich bod yn gwirio am unrhyw datws newydd sydd yng ngolau’r haul a’u gorchuddio gyda phridd! Bydd tatws newydd yn datblygu croen gwyrdd mewn mannau pan fyddan nhw’n agored i olau haul uniongyrchol . Mae unrhyw rannau gwyrdd yn wenwynig ac fe ddylech chi gael gwared arnyn nhw.

8. Mae tatws yn ffynnu gydag o leiaf 6-8 awr o olau haul pob dydd. Fodd bynnag, os oes cyfnodau hir o dywydd poeth dros ben, rhowch eich blychau mewn man lle mae’r haul yn taro yn y bore yna sydd wedi’i gysgodi’n rhannol yn ystod y prynhawn.

HADAU AM DDIM
Os hoffech chi fynd ati i loywi eich gofod, cysylltwch gyda #DylanwadwchNi i dderbyn eich pecyn o hadau am ddim.
InfluenceUs@clwydAlyn.co.uk
07880431004 EICH CARTREF 24
Rhowch wybod inni os hoffech chi dderbyn hadau llysiau, ffrwythau neu blanhigion arferol, gallai hyn fod ar gyfer y tu mewn neu’r tu allan.
E-bostiwch eich cais i
neu ffoniwch

TYFU TATWS MEWNBLYCHAU

SUT I’W PLANNU!!

CAM

1

Llenwch eich blwch hyd at oddeutu hanner ffordd gydag eich compost / pridd ac ychwanegwch wrtaith os hoffech chi. Gosodwch eich tatws hadau gyda bwlch o oddeutu 6 modfedd (15cm) rhyngddyn nhw

CAM 2

Gorchuddiwch y tatws hadau gyda phridd hyd at frig y blwch a’u dyfrio’n drylwyr.

CAM 3

Cofiwch ddyfrio’r tatws yn rheolaidd a gofalwch nad ydyn nhw’n sychu!

CAM

4

Gallwch fynd ati i gynaeafu tatws newydd fel bo’u hangen ar gyfer prydau unwaith y bydd y planhigion yn blodeuo / blaguro.

Bydd tatws wedi gorffen tyfu pan fo’u blodau’n cychwyn troi’n felyn. Rhowch gorau i’w dyfrio erbyn hyn gan adael i’r blodau farw. Gwagiwch y blwch ac ewch ati i dyrchu drwy’r pridd i ddod o hyd i’r tatws.

MWYNHEWCH EICH TATWS BENDIGEDIG!!!

EICH CARTREF 25

EICH DIOGELWCH

LLWYDNI, LLEITHDER AC ANGAR

Mae gwahanol fathau o leithder a allai effeithio ar eich cartref. Rydym yn awyddus i’ch helpu

i’w hadnabod a rhannu’r camau gweithredu gyda chi os oes gennych chi broblem.

BETH SY’N EI ACHOSI YN FY NGHARTREF I?

Cylchrediad aer gwael mewn corneli ystafell

Aer wedi’i ddal y tu ôl i ddodrefn neu eitemau dodrefnu

Aer cynnes yn cyddwyso ar ffenestri neu waliau oer

Deunydd insiwleiddio’r atig wedi’i osod yn wael

Deunydd insiwleiddio’r wal geudod yn cwympo

Peipiau’n gollwng dŵr

SUT ALLWN NI FYND I’R AFAEL Â HYN?

Sut gallaf ei atal rhag digwydd?

Er mwyn atal Llwydni Du, mae’n bwysig eich bod chi’n deall y 3 agwedd allweddol hyn:

LLEITHDER, AWYRU A THYMHEREDD

Gormod o leithder ydy’r prif achos dros lwydni gan ei fod yn caniatáu i’r tyfiant ffwngaidd dyfu. Mae llawer o weithgareddau dydd i ddydd yn rhyddhau lleithder i mewn i’ch cartref, megis coginio, berwi tegell ac ymolchi a defnyddio’r gawod. Mae’n bwysig sicrhau na chaiff y lleithder hwn ei ddal yn y tŷ gan y gallai gyfrannu tuag at angar a thyfiant llwydni. Dyma pam ei bod hi’n bwysig ichi awyru eich cartref pan fo’n bosibl. Mae arwynebau a mannau oer yn atynnu lleithder. Os ydy eich cartref neu rannau penodol ohono’n oer, maen nhw’n fwy agored i lwydni.

Camau gweithredu er mwyn lleihau angar a llwydni

Gallai dilyn y camau hyn helpu lleihau’r angar a llwydni yn eich cartref.

Cynhyrchu llai o leithder .

Mae gweithgareddau dydd i ddydd yn cynhyrchu cryn dipyn o leithder, ewch ati i gyflawni’r rhain er mwyn lleihau’r lleithder:

Os oes rhaid ichi sychu eich dillad y tu mewn, defnyddiwch hors ddillad yn yr ystafell ymolchi gyda’r drws wedi cau a’r ffan echdynnu arnodd neu agorwch ffenest.

Rhowch gaeadau am ben sosbenni pan fyddwch chi’n coginio a gostwng y gwres fel eu bod yn mudferwi yn hytrach nac yn berwi. Peidiwch â gadael tegellau i ferwi! (mae hefyd yn arbed ynni)!

Rhowch y tap dŵr oer arnodd cyn y tap dŵr poeth pan fyddwch yn rhedeg bath.

Peidiwch â defnyddio gwresogyddion nwy paraffin

neu betrolewm hylif (mewn potel) gan eu bod yn

cynhyrchu llawer iawn o anwedd dŵr.

Cofiwch awyru eich peiriant sychu dillad y tu allan i’r cartref (byth i mewn i’ch cartref)

Cael gwared ar leithder ychwanegol

Cofiwch sychu’r ffenestri a’r silffoedd ffenest bob bore os oes dŵr yn hel yno. Mae hyn yn bwysig yn enwedig yn yr ystafell wely, yr ystafell ymolchi a’r gegin. Ni fyddai agor y ffenest yn ddigonol oherwydd bydd y dŵr yn anweddu ac yn ffurfio unwaith eto.

Agorwch y ffenestri a throwch y ffaniau echdynnu arnodd cyn rhedeg bath a defnyddio’r gawod. Agorwch y llenni er mwyn cynyddu’r awyriad ac i ganiatáu golau naturiol a gwres i mewn i’ch cartref. Tacluswch y silffoedd ffenest gan gael gwared ar unrhyw geriach.

Gadewch fwlch rhwng cefn unrhyw ddodrefn a waliau oer. Gosodwch eich dodrefn yn erbyn waliau mewnol yn unig os yn bosibl.

Ewch ati i awyru cypyrddau a chypyrddau dillad a cheisiwch osgoi eu gorlenwi gan fod hyn yn atal aer rhag cylchdroi.

Peidiwch â chau simneiau a chyrn simneiau yn gyfan gwbl. Gosodwch dwll aer er mwyn sicrhau awyriad cyson.

GOFALWCH EICH BOD YN ANFON CYMAINT O FANYLION Â PHOSIBL, GAN GYNNWYS SUT I GYSYLLTU GYDA CHI, ER MWYN INNI DREFNU I YMWELD Â’CH CARTREF. EICH CARTREF 26

GWEITHGAREDDAU CYFFREDIN SY’N ACHOSI LLEITHDER YN Y CARTREF

MAE EIN GWEITHGAREDDAU O DDYDD I DDYDD YN YCHWANEGU MWY O LEITHDER I’R AER YN EIN CARTREF:

Mae anadlu hyd yn oed yn ychwanegu mymryn o leithder. Mae un person sy’n cysgu’n ychwanegu hanner peint o ddŵr i’r aer dros nos ac mae person sy’n symud o amgylch y cartref yn ychwanegu dwywaith y gyfradd honno yn ystod y dydd. Gallai 2 berson yn y cartref am 16 awr ychwanegu 3 peint.

Gallai bath neu gawod ychwanegu

2 beint

Gallai coginio a defnyddio tegell ychwanegu 6 peint.

Gallai golchi llestri ychwanegu

2 beint

Gallai gwresogydd nwy potel (wedi’i ddefnyddio am 8 awr) ychwanegu 4 peint

Gallai sychu dillad yn eich cartref ychwanegu

9 peint

RHOWCH WYBOD INNI!

Mae’n bwysig ein bod ni’n cymryd y camau priodol er mwyn lleihau angar yn ein cartrefi. Os ydych chi’n sylwi ar unrhyw beth sydd angen ei atgyweirio neu os ydy angar yn achosi trafferthion ichi yn eich cartref, cofiwch roi gwybod inni cyn gynted â phosibl.

GALLWCH ROI

GWYBOD AM WAITH

ATGYWEIRIO DRWY:

E-bostio’r Tîm Gwasanaeth

Cwsmer gan roi gwybod pa fath o leithder sy’n peri pryder ichi ynghyd â lluniau (os yn bosibl), eich cyfeiriad a’ch manylion cyswllt.

Defnyddio MyClwydAlyn ein Porth Preswylwyr - www. myclwydalyn.co.uk neu ein ffurflen ar-lein - www. clwydalyn.co.uk/ formbuilder/ report-repair/ view/

Ffonio’r Tîm Gwasanaeth

Cwsmer o 8yb i 6yh o ddydd Llun i ddydd Gwener ar RHADFFON: 0800 183 5757

Gallwch drefnu galwad yn ôl yn ystod oriau agor y swyddfa a byddwn yn cysylltu’n ôl gyda chi’n rhad ac am ddim

Siarad gydag eich Swyddog Tai

EICH CARTREF 27

AMGRYMIADAU

GAN LAURA MCKIBBIN UWCHGYLCHU A DIY

Ym mhob rhifyn, byddaf yn mynd ati i rannu prosiect uwchgylchu rydw i wedi’i gwblhau adref. Yn y rhifwn hwn byddaf yn rhannu sut i greu ysgol tywel / blanced. Mae hwn yn ffordd rad ichi addurno’ch cartref.

CAM 1

Yn gyntaf bydd angen ichi benderfynu ar faint eich ysgol.

CAM 2

Torrwch yr ysgol i’ch maint

CAM 3

Fe wnes i ei osod ar y llawr i greu fy strwythur delfrydol ac yna fe wnes i ddefnyddio’r rhaff i glymu’r stepiau i ochrau’r ysgol.

Roedd yn dasg gyflym, syml a rhad gan fod popeth yn

I GWBLHAU HYN, BYDD ANGEN Y CANLYNOL ARNOCH CHI:

£2.50

2. Ffyn bambŵ (Wilkinson) £1.00

3. Offer torri, fe wnes i ddefnyddio haclif bach (Asda)

Cystadleuaeth

Os ydych chi’n hoff o uwchgylchu neu DIY, byddem wrth ein bodd yn gweld eich gwaith. Anfonwch eich lluniau cyn ac ar ôl i

InfluenceUs@clwydalyn.co.uk neu ar WhatsApp ar 078803431004

Gallai eich gwaith ymddangos yn ein cylchgrawn nesaf, a bydd cyfle ichi ennill £25 o dalebau siopau.

LLONGYFARCHIADAU

I EIN HENNILLYDD UWCHGYLCHU…

Karen Goodwin.

Fe wnes i greu’r rhain gan ddefnyddio darnau o froc môr roeddwn i wedi’u casglu o’r traeth ac ar lan yr afon. Rydw

i’n eu glanhau cyn mynd ati i’w naddu, sandio a chwistrellu farnis i’w selio, fel eu bod yn arteffactau y gellir eu defnyddio yn y cartref neu’r tu allan.”

Fe enillodd Karen gwerth £25 o dalebau siopau am rannu ei gwaith uwchgylchu.

EICH CARTREF
£2.50
Cyfanswm £6.00
TALEBAU SIOPA ENNILL
28

Rysait Preswylydd

Rysait Preswylydd – Bu inni rannu cystadleuaeth cyfryngau cymdeithasol er mwyn ichi fod â chyfle i ennill ffwrn ffrio, popty araf neu dalebau. Llongyfarchiadau i ddwy o’n preswylwyr buddugol a wnaeth rannu’r ryseitiau rhad a rhwydd hyn gyda ni… maen nhw’n edrych yn flasus dros ben!

Kirsty Edwards

Rysait iach i 4 am lai na £5. Mae’n defnyddio bwydydd tun felly mae’n ddelfrydol ar gyfer parseli banciau bwyd

1 nionyn

1 ewin garlleg

1 tun o domatos wedi’u torri

1 tun o datws newydd

2 dun o ffacbys

Powdwr cyri cymedrol neu ganolig Coriander ffres

***Gallwch ei weini gyda reis os hoffech chi i.

Mae’n cymryd 25 munud. Mae’n addas ar gyfer feganiaid a gallwch ei rewi hefyd.

DEWCH INNI GOGINIO!

1. Rhowch y nionyn a 3 llwy de o ddŵr mewn padell ffrio wrthglud y gallwch osod caead o ryw fath am ei ben. Rhowch gaead am ei ben a’i goginio ar wres isel i ganolig am 3 i 4 munud nes bod y nionod yn meddalu. Cofiwch eu cymysgu o bryd i’w gilydd.

2. Ychwanegwch y garlleg a’r powdwr cyri a’i goginio am 30 eiliad, yna cymysgwch y ffacbys, hylif y ffacbys, y tatws (wedi’u torri’n hanner) a’r tomatos. Ewch ati i’w ferwi ar dymheredd uchel cyn gostwng y gwres i wres isel a’i fudferwi am 15 munud gan ei droi bob hyn a hyn.

3. Cymysgwch rhan helaeth o’r coriander yn y cyri a’i wahanu mewn powlenni. Gwasgarwch coriander am ben y cyfan a’i fwynhau gyda reis neu ar ei ben ei hun.

Mandy Douglas

Tarten Rhiwbob yn y ffwrn ffrio. 4 tafell o darten rhiwbob… ar y gosodiad tartenni 155 am 25 munud… crwst parod wedi’i osod am ben tun pobi a rhiwbob mewn tun gan dywallt y cyfan i mewn i’r crwst ac ychwanegu caead crwst am ei ben… taenwch mymryn o gymysgedd ŵy am ei ben… gallwch wasgaru mymryn o siwgr os hoffech chi ac yna pan fydd y ffwrn ffrio yn gwneud sŵn bib bydd y darten yn barod ichi ei blasu, bendigedig

CYSTADLEUAETH

Ewch ati i gystadlu yn ein cystadleuaeth rysait gyda chyfle i ennill un o’r canlynol; Ffwrn ffrio, Popty Araf neu Dalebau Siopau. Rydym yn chwilio am rysáit rhwydd, blasus a rhad ar gyfer ein cylchgrawn Hydref Gaeaf i breswylwyr Materion Tai. Anfonwch eich rysáit a llun o’r pryd at InfluenceUs@clwydalyn.co.uk neu anfonwch ar WhatsApp i 07880431004, i fod â chyfle i ennill.

Pryd i 4
EICH CARTREF
CYFLE I ENNILL GWOBRAU 29

Cyfle i fwrw golwg ar ddiwrnod ym mywyd…

Warden

ELWYN JONES - WARDEN YN LLYS ERW.

Elwyn Jones ydy’r Warden uchel ei glod yn Llys Erw, cynllun gwarchod yn Rhuthun ar gyfer pobl dros 55. Mae’n gofalu am 38 o breswylwyr mewn 36 o fflatiau. Maen nhw’n gallu mynd ar ofyn Elwyn unrhyw bryd gydag unrhyw anghenion sydd ganddyn nhw.

Pan wnaethon ni siarad gydag Elwyn, fe ddywedodd ei fod yn treulio oriau’n sgwrsio gyda phreswylwyr gan gadw cwmni iddyn nhw a chynnig y cymorth oedd ei angen arnyn nhw. Am ben hynny mae gan Llys Erw ganolfan gymunedol, ac mae Elwyn wrth ei fodd yn ei reoli. Mae llu o weithgareddau’n cael eu cynnal yn y ganolfan megis grwpiau Dementia, dosbarthiadau celf a chrefft a mwy. At hyn, maen nhw’n cynnig bwyd yn y digwyddiadau hyn, sy’n fodd i’r preswylwyr arbed arian ar filiau bwyd, nwy a thrydan… effeithlon dros ben!

At hynny, mae gan Elwyn gynllun, cynllun amgylcheddol! Yn ddiweddar fe lwyddodd i ennill grant gan Cadwch Gymru’n Daclus i drawsnewid gardd Llys Erw i fod yn ardd fwyd. Mae hefyd wedi bwrw iddi gyda phrosiect i osod paneli solar ar y ganolfan gymunedol er mwyn lleihau’r costau gwasanaeth ymhellach.

Ond fe welwn ddawn arbennig Elwyn ar waith pan fo’n ymdrin â’r preswylwyr hynny sy’n wynebu problemau iechyd meddwl a dibyniaeth. Mae gweld pobl yn rhagori a newid eu bywydau’n gyfan gwbl yn sicrhau fod ei waith yn werth chweil. Soniodd preswylydd yn Llys Erw eu bod yn ddiolchgar dros ben gan ddweud bod Elwyn yn ddyn arbennig a’i fod wedi helpu ef ac eraill i ailgydio yn eu bywydau a dod o hyd i gartref.

Preswylydd Llys Erw.

“ Mae Elwyn yn cyflawni gwaith gwych, ac mae wedi helpu pobl fel fi ac eraill i ailgydio yn ein bywydau a chynnig cartref bendigedig inni, gofal a chariad a gwneud inni deimlo fel ein bod ni’n annwyl i ClwydAlyn. Diolch ClwydAlyn a diolch am gynnig gwasanaeth Elwyn inni. Mae’n ddyn heb ei ail! Fe wnes i frwydro yn Fiet-nam ac rydw i’n meddwl yr oedd Elwyn yn Swyddog Di-gomisiwn (NCO). Diolch Elwyn gan ffrind da a diolch am bopeth.”

GYRFA WARDEN

PROFIAD GOFYNNOL:

Tystiolaeth o ddeall anghenion y bobl hŷn a meddu ar wybodaeth am Ofal Cymdeithasol a Hawliau Lles, ac yn ddelfrydol gyda chefndir yn y maes nyrsio neu waith cymorth ond nid yw hyn yn hanfodol gan ein bod ni’n chwilio am berson sy’n gallu dangos natur ofalgar ac sy’n awyddus i gynyddu eu gwybodaeth yn y maes hwn.

PECYN BUDDION

DATBLYGIAD GYRFAOL:

Gallai ymwneud â sawl trywydd megis symud i rolau eraill yn y maes Tai, Gofal Ychwanegol, Byw gyda Chymorth a chartrefi Gofal lle bydd eich sgiliau gofalgar personol a’ch gwybodaeth o’r maes tai yn cael ei werthfawrogi.

Os hoffech chi weithio gyda ni, ewch i’n tudalen recriwtio ar ein gwefan www.clwydalyn.co.uk/work-for-us/

PECYN BUDDION CLWYDALYN

Rydym yn cynnig pecyn buddion gan gynnwys aelodaeth i gynllun pensiwn gyda chyfraniadau cyfatebol gan y cyflogwr o hyd at 8%, cynllun beicio i’r gwaith, talebau gofal llygaid, pecyn llesiant ariannol, 25 diwrnod o wyliau gan gynnwys Gwyliau Banc sy’n golygu cyfanswm o hyd at 30 diwrnod, hyblygrwydd i brynu a gwerthu gwyliau, tâl salwch uwch, pecyn mamolaeth uwch, cyfleoedd dysgu hyblyg, cymorth iechyd a lles, yswiriant bywyd, rhaglen EAP a phecyn hyfforddiant hollgynhwysol, hyn i gyd mewn mudiad sy’n seiliedig ar werthoedd gyda diwylliant gwych!

BWRW GOLWG AR...
30

Y Bag Post

Ateb eich cwestiynau

Os oes gennych chi gwestiwn hoffech inni ei ateb yn y newyddlen yna e-bostiwch ni ar communications@clwydalyn.co.uk

Cwestiwn

Preswylydd

Oes modd imi gyflawni gwaith atgyweirio fy hun?

Ateb

ClwydAlyn - Carl Taylor, Pennaeth Gwasanaethau

Cynnal a Chadw

Yr ateb syml ydy oes ond byddai hyn yn ddibynnol ar y math o waith atgyweirio a sicrhau bod y preswylydd yn ddiogel. Er enghraifft, ni fyddwn yn caniatáu i breswylydd gyflawni unrhyw dasgau sy’n ymwneud â thrydan neu nwy.

Y llynedd bu inni gynnal cynllun prawf a oedd yn fodd i aelodau #DylanwadwchNi i gyflawni eu mân atgyweiriadau eu hunain megis trwsio tyllau mewn waliau, gwresogyddion, dolenni drysau, giatiau a ffensys ac ati yn eu cartrefi eu hunain.

Fel rhan o’r cynllun prawf hwn, roedd cyfle i’r preswylwyr wnaeth ymuno yn y cynllun gyflawni tasgau sylfaenol eu hunain a bu i ClwydAlyn ddarparu’r deunyddiau pan fo’n briodol. Roedd cyfle i’r rheiny oedd yn rhan o’r cynllun prawf neidio’r ciw ac osgoi’r amseroedd aros i gwblhau’r tasgau bach hynny pan fo’n gyfleus iddyn nhw. Fe wnaethon ni dderbyn adborth gwych felly fe aethom ati i lansio’r gwasanaeth i’r holl breswylwyr.

Gemma Minards (aelod pwyllgor preswyl) oedd un o’r preswylwyr wnaeth gymryd rhan yn y cynllun prawf a bu iddi atgyweirio’i ffens a’i giât ei hun.

Dywedodd:

“ Roedd yn brofiad gwych imi ac roeddwn i wrth fy modd yn cymryd rhan yn y cynllun prawf. Roeddwn i wedi fy rhyfeddu gyda pha mor gyflym wnaeth y tîm cynnal a chadw ymateb i fy nghais hunan-atgyweirio cychwynnol. Rydw i’n falch iawn o’r hynny rydw i wedi llwyddo i’w gyflawni ar fy mhen fy hun ac rydw i wir yn meddwl y bydd hyn yn fodd o hybu hyder pobl i gyflawni rhagor o fân waith atgyweirio eu hunain yn eu cartrefi.”

Ers cychwyn y fenter hon ym mis Ebrill 2022 hyd at Fawrth 2023, bu i 159 o breswylwyr gyflawni eu gwaith atgyweirio’u hunain. Roedd cyfle i bawb aeth ati i atgyweirio gystadlu mewn cystadleuaeth pob mis. Yn ystod y 12 mis diwethaf mae 12 o breswylwyr wedi derbyn taleb o £20 yr un.

Drwy gyflawni eich mân atgyweiriadau eich hun, gallwch leihau’r amser rydych chi’n aros i’r gwaith atgyweirio gael ei gyflawni a gallwch wneud y gwaith atgyweirio ar adeg sy’n gyfleus ichi. Mewn rhai achosion, gallai hyn leihau’r angen ichi orfod cymryd amser o’r gwaith er mwyn caniatáu mynediad i’ch cartref i’r tîm cynnal a chadw.

Diolch

Os hoffech chi fynd ati i gyflawni gwaith atgyweirio eich hun, cysylltwch

gyda Chanolfan Gyswllt ClwydAlyn ar 0800 1835757 a bydd aelod o staff yn egluro’r broses ichi neu e-bostiwch help@clwydalyn.co.uk

EICH BARN 31

Eich Cystadleuaeth

Cyfle ichi ennill gwerth £25 o Dalebau siopau

Ewch ati i gystadlu yn ein cystadleuaeth Gwanwyn / Haf

Cystadlwch yn ein cystadleuaeth Gwanwyn Haf – i fod â chyfle i ennill gwerth £25 o dalebau siopau. Yr oll sydd angen ichi ei wneud ydy anfon llun o rywbeth sy’n rhoi gwên ar eich wyneb wrth i’r tymhorau newid ar ddyfodiad y Gwanwyn a’r Haf. Gallai fod yn flodau’n blodeuo, machlud neu wawrio bendigedig, awyr las, taith gyda golygfeydd godidog, diwrnod hwyl yn rywle… fe gewch chi ddewis unrhyw beth.

I gystadlu, anfonwch eich lluniau a’ch manylion at Laura McKibbin, gallwch naill ai eu hanfon dros e-bost InfluenceUs@clwydalyn.co.uk neu anfonwch nhw ar WhatsApp i 07880431004.

Sylwch ar y gwahaniaeth

Lliwio i mewn

Y dyddiad cau ar gyfer cystadlu ydy

7FED GORFFENNAF 2023

ENW

RHIF FFÔN

CYFEIRIAD E-BOST

CYFEIRIAD

I gystadlu yn ein cystadleuaeth gweld y gwahaniaeth neu ein cystadleuaeth lliwio, anfonwch eich taflenni cystadlu gyda’ch enw llawn, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad.

Anfonwch eich taflenni gan ddefnyddio un o’r dulliau canlynolCyfeiriad post: 72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych LL17 0JD

Neges Testun: 07880 431004

E-bost: InfluenceUs@clwydalyn.co.uk

ClwydAlyn.co.uk @ClwydAlyn

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.