Y NEWYDDION DIWEDDARAF
NEUADD MALDWYN, Y TRALLWNG. BYW’N ANNIBYNNOL I BOBL HŶN
CYNNYDD AR Y SAFLE
Mae'r safle'n dal i ddatblygu'n dda, gyda'r gwaith brics a'r toi wedi eu gorffen mewn rhai blociau o fflatiau. Ar yr hen swyddfa cyngor, mae'r datblygwyr wedi bod yn brysur yn trwsio'r to llechi a chyfnewid y cafnau plwm a tho fflat.
Y tu mewn i'r hen adeilad, mae'r addasiadau strwythurol wedi eu cwblhau, y waliau allanol wedi eu hinswleiddio, y rhaniadau wedi eu gosod a'r gwasanaethau newydd i greu fflatiau newydd.
EDRYCH YMLAEN
Yn y misoedd nesaf bydd y gwaith brics ar y cam olaf i'r fflatiau yn cael ei gwblhau, a byddwn yn gosod y rhan o'r to sy'n weddill. Yn fewnol, bydd y gwaith yn parhau ar osod rhaniadau yn yr adeilad a'r gwasanaethau i'r fflatiau unigol.
Neuadd Maldwyn
Mawrth 2023
DEWCH I FYW YN ANNIBYNNOL
GYDA GOFAL A CHEFNOGAETH FEL Y BYDD ARNOCH EI ANGEN
Sganiwch y cod gyda'r camera ar eich ffôn
Cynllun byw’n annibynnol yw Neuadd Maldwyn, gan Tai ClwydAlyn, ar y cyd â Chyngor Sir Powys. Datblygiad 66 o fflatiau un a dwy ystafell wely o safon uchel ar rent, i unigolion 60 oed a hŷn sydd ag angen Gofal neu Gefnogaeth wedi ei asesu. Rhoddir blaenoriaeth i breswylwyr ardal y Trallwng sydd â chysylltiadau clos ag ardal y Trallwng. Bydd y gwasanaethau rheoli tai a’r gwasanaethau ategol yn cael eu darparu gan ClwydAlyn, tra bydd Cyngor Sir Powys yn cymryd cyfrifoldeb am ddarparu gofal cartref ar y safle.
NODWEDDION ALLWEDDOL
Fflatiau un a dwy ystafell wely ar rent yn ddibynnol ar feini prawf cymhwyster
Preifatrwydd ac annibyniaeth
Gerddi wedi eu tirlunio
Bwyty
Lolfa i’r Preswylwyr
Ystafell aml-weithgaredd
Ystafelloedd ymolchi ar wahân gyda chymorth
Ystafell olchi dillad
Ystafell i wahoddedigion
Storfa Bygis/sgwteri
GWNEWCH GAIS YN AWR I FYW YN NEUADD MALDWYN
Sut i Ymgeisio
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael eich ystyried i rentu fflat yng nghynllun byw'n annibynnol Neuadd Maldwyn i bobl hŷn, llenwch y ffurflen gais a’i dychwelyd i ni cyn gynted â phosibl trwy’r manylion cyswllt canlynol:
Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid
ClwydAlyn 72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JD.
E-bost: neuadd.maldwyn@clwydalyn.co.uk
Gallwch chi llenwch y ffurflen gais ar-lein hefyd; ond o brofiad ac o glywed adborth gan eraill, rydym yn argymell i chi lenwi copi papur.
Wrth ymgeisio ar-lein gwnewch yn siŵr bod gennych y fersiwn ddiweddaraf o Adobe neu
Ddarllenydd PDF. Llenwch y ffurflen gais ar-lein, cywirwch unrhyw gamgymeriadau neu ewch
trwyddi gydag aelod o’r teulu wrth eich ochr.
Peidiwch â phoeni am lofnodion gan y bydd angen i ni ymweld â chi cyn i chi gael lle yn Neuadd
Maldwyn. Ar ôl ei llenwi, cliciwch ar y botwm
'Anfon y Ffurflen' a byddwn yn ei derbyn yn uniongyrchol o’ch cyfeiriad e-bost.
Er mwyn llenwi'r ffurflen gais ar-lein ewch i: clwydalyn.co.uk/neuadd-maldwyn
A YDYCH ANGEN HELP GYDA’CH CAIS?
Os byddwch yn teimlo bod arnoch angen help gyda’ch cais neu i ddeall y broses, gadewch i’r Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid wybod.
Gall y tîm roi cyngor a chefnogaeth pan fydd angen. Os hoffech i rywun weithredu ar eich rhan, eich mab neu ferch er enghraifft, mae hyn yn dderbyniol, ac mae adran ar y ffurflen gais yn gofyn am eu manylion. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch ni ar 0800 183 5757
Beth sy’n digwydd nesaf?
Cais am Fyw’n Annibynnol i Bobl Hŷn
Meini prawf cymhwyster: Bydd ymgeisydd/ymgeiswyr, gan gynnwys cyplau yn cael eu hystyried sydd,
dros 60 mlwydd oed. angen help gyda gofal a chefnogaeth a/ neu ag angen cymorth yn gysylltiedig â thai. Bydd y panel sgrinio cychwynnol yn ystyried ceisiadau gan gyplau, pan fydd un neu'r ddau yn bodloni'r meini prawf. yn bodloni'r meini prawf cysylltiad lleol.
Sut fyddaf yn gwybod fy mod am gael eiddo?
Bydd y panel yn cyfarfod ac yn penderfynu pwy fydd yn cael fflatiau. Os bydd y panel yn dyrannu eiddo i chi, byddwn yn rhoi gwybod i chi a byddwch yn medru gweld yr eiddo, neu fflat arddangos. Wrth weld y fflat gallwch wedyn benderfynu a ydych am dderbyn y cynnig. Byddwch hefyd yn cael y dewis i ddewis fflat, o’r fflatiau fydd ar ôl, ond bydd hyn yn dibynnu ar unrhyw argymhellion gan y Panel Dyrannu.
I’ch helpu gymaint ag sy’n bosibl, mae arnom angen i chi roi’r wybodaeth ganlynol.
Os bydd arnoch angen cymorth gyda’r ffurflen cysylltwch â ni.
Prif Ymgeisydd
Os byddwch yn bodloni ein meini prawf cymhwyster, byddwch yn cael gwybod yn ysgrifenedig, a byddwch yn symud i’r broses ddyrannu. Bydd y rhai nad ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwyster yn cael gwybod hynny yn ysgrifenedig hefyd.
Rydym yn gobeithio derbyn eich ffurflen gais yn y dyfodol agos, ac edrychwn ymlaen at gael clywed gennych. Ond, os nad oes gennych ddiddordeb mewn cael lle bellach, ffoniwch ni ar 0800 183 5757 i roi gwybod i ni.
Cyd-ymgeisydd
Sylwer, os bydd unrhyw newid yn eich amgylchiadau rhwng y cais ac agor y cynllun, rhowch wybod i ni ar unwaith, gan y gall hynny effeithio ar eich cais.
Rhif Yswiriant Cenedlaethol
Perthynas â’r Prif Ymgeisydd
Cyfeiriad Cyfredol (Prif Ymgeisydd) Cyfeiriad Gohebu (Osynwahanoli’rprifymgeisydd) Enw Enw’r Tŷ Stryd Tref neu Bentref Dinas Cod Post Rhif ffôn cartref
Rhif ffôn symudol (Bydd raid ni gael un rhif cyswllt o leiaf) Cyfeiriad E-bost
Sut mae’r fflatiau'n cael eu dyrannu?
DYDDIADAU AGOR Y FFLAT ARDDANGOS
Cyfeiriad Cyfredol Cyfeiriad Gohebu
Ble fyddech ch’n hoffi ni anfon unrhyw lythyrau neu wybodaeth? (Rhowch dic)
Tudalen 1
Ar ôl i’ch ffurflen gais gael ei llenwi a’i derbyn bydd y wybodaeth yn cael ei phrosesu a byddwn yn asesu eich cais o’i gymharu â’n ‘Meini Prawf Cymhwyster’:
Er mwyn cadw cymuned gytbwys, bydd dyraniad y tai yn ein cynlluniau byw'n annibynnol yn cael ei bennu gan banel sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Adran Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Oedolion y Cyngor, y darparwr gofal a chefnogaeth ar y safle a ClwydAlyn. Gall gweithwyr proffesiynol eraill gael eu gwahodd ar y Panel yn ôl y gofyn ee Rheolwr Nyrsys Cymunedol, er mwyn cynorthwyo’r Panel i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.
Mae’r panel yn ceisio sicrhau bod yr eiddo yn cael ei ddyrannu i adlewyrchu’r gofal a’r gefnogaeth sydd ar gael ar unrhyw adeg. Bydd anghenion o ran tai a Gofal Cartref hefyd yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses ond nid y rhain fydd yr unig ffactorau fydd yn cael eu hystyried, rydym yn ceisio cadw cymuned gytbwys.
Bydd y drysau ar agor yn y fflat arddangos cyntaf ym Medi 2023, gan gynnig cip cyntaf i ymgeiswyr ar yr hyn y gallai bywyd yn Neuadd Maldwyn ei gynnig. Ar hyn o bryd rydym yn brysur yn gwneud trefniadau ar y dyddiau ac amseroedd ymweliadau. Anfonir llythyrau at ymgeiswyr i’w gwahodd i weld y fflat arddangos trwy apwyntiad yn unig, gyda sesiynau agored i’r cyhoedd yn dilyn yn ddiweddarach.
Bydd staff allweddol ar gael yn y fflat
arddangos i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi a’ch teulu.
Bod mor gymdeithasol ag y dymunwch
Mae ein cymunedau mewn cynlluniau byw'n annibynnol i bobl hŷn yn cynnig llawer o gyfleoedd i fod yn gymdeithasol ond nid oes unrhyw bwysau. Pan fyddwch chi'n symud i mewn, fe welwch chi bosteri yn hyrwyddo boreau coffi, grwpiau gwau, dathliadau pen-blwydd a mwy! Rydym yn siŵr bod rhywbeth i bawb ac mae byw yn ein cynlluniau yn union yr un fath ag unrhyw ffordd o fyw, chi sy'n dewis pa mor gymdeithasol yr ydych am fod, gallwch gymryd rhan neu fwynhau eich amgylchiadau a'r heddwch a'r tawelwch.
RYDYM YN DATHLU
PENBLWYDDI A
PHENBLWYDDI PRIODAS.
TAN Y FRON
Llandudno yn mwynhau eu dathliadau arbennig i'w Fawrhydi'r Brenin Charles. Mae'n edrych fel petai pawb wedi cael amser gwych!
CWESTIYNAU CYFFREDIN PARHAD…
Yn y rhifyn blaenorol o'n cylchlythyr, fe wnaethom gynnwys atebion i'ch cwestiynau cyffredin, dyma i chi ragor…
Rwy'n berchen ar fy nghartref ac mae gan fy ffrind dŷ tai cymdeithasol, a allwn ni'n dwy symud i Neuadd Maldwyn?
Gallwch, beth bynnag yw statws eich cartref ar hyn o bryd gallech chi eich dwy wneud cais.
Rwyf mewn cartref preswyl yn barod, a allaf i symud?
Gallwch, os bydd asesiad yn profi bod byw'n annibynnol yn addas i'ch anghenion gallwch drosglwyddo o ofal preswyl.
Rwyf eisoes mewn tai cysgodol, sut fyddai byw yn Neuadd Maldwyn yn wahanol?
Y prif wahaniaeth yw bod gofal a chymorth ar y safle 24 awr y dydd. Mae bwyty gwahanol hefyd sy'n darparu pryd ganol dydd, gweithgareddau cymdeithasol, a chyfleusterau eraill. Mae mathau gwahanol o lety ar gael ac mae cymysgedd o breswylwyr gydag anghenion cefnogaeth gwahanol.
Nid yw fy ngŵr yn dda, ac rydym yn cael llawer o help gan ein teulu a'n ffrindiau. A allwn ni symud i mewn gyda'n gilydd?
Gallwch, gallwch chi a'ch gŵr aros gyda'ch gilydd, a gall eich teulu a'ch ffrindiau barhau i helpu os byddant am wneud hynny, gyda chefnogaeth ychwanegol y staff gofal yn y cynllun. Efallai y byddwch yn gwneud ffrindiau newydd hefyd. Beth sy'n digwydd os bydd fy iechyd yn gwaethygu tra byddaf yn byw yn Neuadd Maldwyn?
Mae’n ddisgwyliedig i'ch anghenion iechyd newid dros amser. Gallwch fod angen llawer o ofal a chefnogaeth ar adegau, ac adegau pan na fyddwch angen unrhyw gefnogaeth neu gymysgedd o'r ddau. Mae'r staff gofal yn hyblyg a sensitif tuag at anghenion sy'n newid. Ni allant roi gofal nyrsio i chi, ond fe fyddant yn anelu at roi cymorth i chi i ddal i fyw yn yr un lle. Bydd unrhyw newidiadau yn yr oriau o gefnogaeth yn amodol ar asesiad addas. A allaf aros nes byddaf yn marw?
Nod ein cynlluniau byw'n annibynnol yw rhoi cartref am oes i chi. Efallai na fydd hyn yn bosibl bob tro, er enghraifft, os byddwch yn mynd yn risg i chi eich hun neu eraill, ond dyma yw'r nod.
Os byddwn yn gwneud cais fel cwpl, a bod rhywbeth yn digwydd i un ohonom, a fydd yr un sydd ar ôl yn cael cartref am oes?
Dyluniwyd ein cynlluniau byw'n annibynnol fel cartref am oes, ond, os bydd eich anghenion gofal yn mynd tu hwnt i'r hyn y gallwn ni ei ddarparu yn y cynllun, neu eich bod yn creu perygl i chi eich hun neu eraill yna byddem yn trafod hyn gyda chi, teulu a ffrindiau a'r Gwasanaethau Cymdeithasol i weld pa ddewisiadau fydda'n bodloni eich anghenion.
Rwy'n ymdopi ar fy mhen fy hun, ond nid yw fy iechyd yn dda iawn ac rwyf am symud. A fyddai byw’n annibynnol gyda gofal a chefnogaeth yn addas i mi?
Byddai, mae gan ein cynlluniau gymysgedd o breswylwyr annibynnol ynghyd â'r rhai sy'n llawer llai annibynnol. Bydd ar rai angen lefel uchel o ofal a chefnogaeth, tra bydd eraill yn byw'n annibynnol. Dyluniwyd y llety i fod yn hygyrch ac yn hawdd i chi ei reoli.
Sut fydd y pecyn gofal a chefnogaeth yn cael ei drefnu? A fydd ar sail angen cymdeithasol neu angen meddygol?
Bydd Gweithiwr Cymdeithasol yn trafod unrhyw anghenion gofal sydd gennych gyda chi ac yn trafod pecyn o ofal sy'n addas i fodloni eich anghenion.
BRON I 100 WEDI MYNEGI DIDDORDEB HYD YN HYN
Rydym yn falch o ddweud ein bod wedi derbyn bron i 100 mynegiant o ddiddordeb cyn belled ar gyfer Neuadd Maldwyn ac roedd yn hyfryd cyfarfod rhai ohonoch pan ddaethoch i Faes y Dderwen i'r diwrnod agored beth amser yn ôl. Roedd hwn yn gyfle gwych i chi weld y cyfleusterau sydd ar gael yn ein cynlluniau a siarad â’n Rheolwr Gofal Ychwanegol a’n preswylwyr presennol. Os nad oeddech yn gallu ymuno â ni ac y byddech yn hoffi ymweld â Maes y Dderwen, anfonwch e-bost at: neuadd.maldwyn@clwydalyn.co.uk
EIN CYNLLUNIAU
• Hafan Gwydir, Llanrwst, Conwy
• Tan y Fron, Llandudno, Conwy
• Plas Telford, Acrefair, Wrecsam
• Maes y Dderwen, Wrecsam
• Llys Eleanor, Shotton, Sir y Fflint
• Llys Raddington, Y Fflint, Sir y Fflint
• Gorwel Newydd, Y Rhyl, Sir Ddinbych
• Hafan Cefni, Llangefni, Ynys Môn
• Pentref Pwyliaid Penrhos, Pwllheli, Gwynedd.
• Neuadd Maldwyn, Y Trallwng, Powys –yn cael ei ddatblygu
Am ragor o wybodaeth am Neuadd Maldwyn neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch y rhif rhadffôn
0800 183 5757, ewch i: www.clwydalyn.co.uk/neuadd-maldwyn neu anfonwch e-bost at help@clwydalyn.co.uk.
Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol