TIR YN GLASDIR, RHUTHUN, SIR DDINBYCH
Datblygiad 63 o gartrefi newydd fforddiadwy effeithlon o ran ynni, gan Williams
Homes ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â
Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru.
Y DIWEDDARAF AM Y CYNNYDD
AC EDRYCH YMLAEN
Rydym yn falch o ddweud bod y datblygiad yn Glasdir wedi ei gwblhau erbyn hyn, ac mae 63 o breswylwyr / teuluoedd wedi symud i’w cartrefi newydd. Mae’r cartrefi fforddiadwy newydd yma, sydd yn awr yn cael eu galw yn Stryd y Friallen, Llys Bedwen, Ffordd Llwyfen, Rhodfa Criafolen a Llys y Meillionen yn hynod o effeithlon o ran ynni ac yn rhai y gellir eu haddasu ac ymateb i anghenion y preswylwyr fel y maent yn newid, gan eu galluogi i fyw’n annibynnol am cyn hired â phosibl.
CLWYDALYN.CO.UK HAF 2023
RHUTHUN
UN O’N DATBLYGIADAU TAI MWYAF ARLOESOL ETO!
Gwelir y cartrefi yma fel rhai o’n datblygiadau tai mwyaf arloesol eto, yn costio £15.05m (costau tir, adeiladu a chostau eraill) gyda £10.6m o arian grant gan Lywodraeth Cymru.
Mae Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffyrdd newydd o gyflawni tai fforddiadwy, yn canolbwyntio ar gartrefi carbon isel, effeithlon o ran ynni, gan helpu i daclo tlodi tanwydd. Ymrwymodd ClwydAlyn i archwilio syniadau ar gyfer cartrefi carbon isel a dyluniadau arloesol ac nid yw datblygiad Glasdir yn eithriad, gyda chynaliadwyedd a chymuned yn ganolog i’r cynllunio.
Dewch i weld drosoch eich hun sut mae’r tai newydd anhygoel yma’n edrych:
Cyn i’r preswylwyr olaf symud i mewn, fe wnaethom wahodd rhanddeiliaid allweddol o Gyngor Sir Ddinbych, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill oedd yn gysylltiedig â’r cynllun i gael golwg o gwmpas ein cartrefi carbon isel mwyaf newydd a siarad â’r preswylwyr! Roedd pawb yn gadarnhaol iawn am y cynllun ac yn falch o weld y cartrefi ecogyfeillgar y mae galw mawr amdanynt i bobl Sir Ddinbych.
PRESWYLWYR YN SYMUD I’W CARTREFI!
Llongyfarchiadau i’n holl breswylwyr sydd wedi symud i’w cartrefi newydd, rhai yn fwy diweddar nag eraill! Ar eu diwrnod symud, gofynnwyd i breswylwyr amrywiol beth oedden nhw’n ei feddwl o’u cartrefi newydd, a dyma oedd gan Mark a Paula i’w ddweud…
MARK – SYMUD I MEWN YM MIS TACHWEDD 2022
“ Roedd arnaf angen newid ac mae’n braf iawn cael symud i fy fflat newydd. Mae’n berffaith i mi ac rwy’n teimlo’n gyfforddus yma yn barod. Mae bob man yn lân a newydd, ac mae’n lle braf ac yn olau a digon o le. Ar ôl edrych ar fflatiau eraill, roeddwn yn teimlo’n gartrefol ar unwaith yma, a dwi’n gwenu, a fedrai ddim stopio siarad am y peth. Mae’n wych byw yn rhywle mor fodern, a bydd fy miliau gwres yn gostwng ac ni fydd y fflat yn mynd yn damp chwaith. Hwn fydd fy nghartref rŵan, a dwi am wneud iddo deimlo fel fy fflat i fy hun, a gyda fy nheulu a fy ffrindiau yn ymweld, creu fy atgofion fy hun hefyd.”
BRANDON – SYMUD I MEWN YM MIS TACHWEDD 2022
“ Rwy’n hoffi popeth am fy nghartref newydd. Dim ond fi fydd yn byw yma hefo fy mab 2 flwydd oed, a hefo 2 lofft, byddaf yn gallu gwneud be licia’i heb boeni. Doedden ni ddim yn disgwyl cael y tŷ ond fe wnaethon ni, a dwi wrth fy modd. Mae’r gegin, yr ystafelloedd eraill a’r ardd yn hardd, a gyda phaneli solar, fydd ddim rhaid i ni dalu cymaint am drydan, sy’n fantais fawr.“
PAULA – SYMUD I MEWN YM MIS CHWEFROR 2023
“ Mae fy nghartref newydd yn ffantastig ac yn ddelfrydol i’m gŵr sydd wedi ei barlysu. Mae wedi ei addasu ar gyfer ei anghenion, a gan ei fod yn fyngalo, yn hollol wahanol i’n cartref blaenorol. Fe fydd gymaint gwell iddo gan ei fod wedi bod yn gaeth i’r tŷ ers 2 flynedd, ac mi fydd yn gallu symud o gwmpas y tŷ rŵan ac allan hefyd. Am ei fod yn dŷ llai hefyd bydd yn rhatach i’w redeg, a gan ei fod yn teimlo’r oerfel, mae’r ffaith ei fod wedi ei inswleiddio mor dda yn golygu y bydd yn gynhesach iddo fo hefyd. Bydd symud yma yn cael effaith ar ein bywydau i gyd, a dwi mor falch o gael symud i mewn.”
CANLYNIADAU’R AROLWG
HYD YN HYN!
Er mwyn sicrhau ein bod yn datblygu’r cartrefi gorau i’n preswylwyr, eu bod yn hapus gyda nhw, ac sy’n gwneud gwahaniaeth i’w bywydau, rydym yn gofyn iddyn nhw lenwi arolwg 6 wythnos ar ôl symud i mewn a 9 mis ar ôl symud i mewn. Gallwn wedyn adolygu a dysgu o’r canlyniadau. Dyma gipolwg ar rai o’r cwestiynau / canlyniadau.
Dros 90% o’r preswylwyr yn fodlon ar safon a gorffeniad eu cartref newydd.
Arolwg 6 wythnos…
Cwestiynau y gwnaethom eu gofyn i breswylwyr a symudodd i’r cartrefi newydd yn Glasdir gyntaf…
A ydych chi’n fodlon ar batrwm eich cartref newydd, a oes digon o fannau storio, os na, pa ystafelloedd yn benodol?
Dros 90%
o’r preswylwyr yn fodlon ar batrwm eu cartref newydd.
Rydym eisiau dysgu a gwella dyluniad ein cartrefi newydd bob amser. A oes rhywbeth y dylem ei ystyried ar gyfer cartrefi yn y dyfodol?
Fe wnaeth rhai preswylwyr nodi y byddent yn hoffi defnyddio’r mannau storio yn y nenfwd ond am fod offer yn cael ei gadw yno ni allant ei ddefnyddio oherwydd problemau mynediad. Er enghraifft, mae offer fel: Tanciau chwistrellwyr, trosglwyddydd PV, systemau awyru.
Dywedodd dros
90%
NEWYDD
o breswylwyr a holwyd nad oedd unrhyw beth y dylem ei ystyried ar gyfer cartrefi yn y dyfodol.
A ddangoswyd i chi sut i wneud y defnydd gorau o’r systemau technoleg yn eich cartref newydd (fel y System Wresogi, y Paneli Solar, y Batri), a esboniwyd hyn yn glir ac a oedd yn ddefnyddiol, neu a ellir gwella hyn?
Dywedodd dros
90%
o’r preswylwyr a holwyd eu bod wedi cael gweld sut i ddefnyddio’r systemau technoleg newydd.
??
TACLO TLODI TANWYDD
Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl.
Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:
• Pympiau gwres ffynhonnell aer
• Paneli trydan solar
• Batris storio trydan solar
• Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol
• Cyfleusterau gwefru ceir trydan
• ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl
• Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel.
Am y tro cyntaf yng Nghymru defnyddiwyd Tarmac MacRebur. Mae’n cyfnewid arwyneb ar sail bitwmen â chynnyrch newydd o boteli plastig untro wedi’u hailgylchu.
Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw hefyd.
A“Mae’r cartrefi newydd yn wych. Rydym wedi cael ein bil cyntaf (am 2 fis) ac roedd yn cyfateb I £10 yr wythnos. Mewn cymhariaeth â’m cartref arall mae hyn yn wych!”
PRESWYLIWR
RHIF 20
RHOI YN ÔL I’R GYMUNED
Rhan bwysig o ymrwymiad ClwydAlyn i adeiladu tai fforddiadwy o safon uchel yw sicrhau bod yr holl bartneriaid sy’n rhan o’r cynllun yn ymrwymo i roi yn ôl i’r cymunedau lleol yr ydym yn gweithio ynddyn nhw mewn amrywiaeth eang o ffyrdd yn unol â’n blaenoriaethau tlodi. Bydd hynny yn ei dro yn helpu i gyfoethogi ein cymunedau trwy roi cefnogaeth lle mae ei angen, boed hynny yn helpu pobl yn ôl i waith, brwydro yn erbyn bod yn ynysig yn gymdeithasol, cefnogi preswylwyr sydd mewn tlodi tanwydd neu roi mynediad at fwyd maethlon.
Wrth ddatblygu Glasdir, dyma rai o’r ffyrdd y gwnaeth ClwydAlyn a Williams Homes gefnogi’r gymuned leol:
6 Prentisiaeth wedi eu cefnogi gan gynnwys cefnogaeth barhaus a hyfforddiant/mentora.
593 o wythnosau prentisiaeth wedi eu cwblhau.
Noddi cit pêl droed Ieuenctid Rhuthun
Rhoi cit pêl-droed i Ysgol Pen Barras
97%
Gwariwyd 97% o werth y cynllun ar nwyddau / gwasanaethau yng Nghymru.
98%
Dargyfeiriwyd 98% o’r gwastraff o safleoedd tirlenwi.
CYSYLLTWCH Â NI
Cyfrannu bwyd i Fanc Bwyd Haf ClwydAlyn
Rhoi pyst gôl i Ysgol Pen Barras a Stryd y Rhos
Sefydlu ffatri yng Ngharchar y Berwyn, lle mae 25 o ddynion wedi bod yn gwneud paneli pren ar gyfer y cartrefi ffrâm bren, yn ein datblygiadau, gan gynnwys Glasdir. Gan roi cyfle iddyn nhw ddysgu sgiliau ymarferol a chymwysterau i’w paratoi i gael gwaith wrth eu rhyddhau.
Rydym wedi rhoi dros erw o dir i Gyngor Sir Ddinbych. Defnyddir rhannau o’r tir fel coedwig fach, man agored fydd yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion cynradd lleol a lleoliadau gofal plant.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni ar 0800 183 5757 neu e-bostiwch help@clwydalyn.co.uk
DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL
Am y newyddion diweddaraf am y datblygiad, gan gynnwys delweddau o’r ffordd mae’r safle’n datblygu, dilynwch ClwydAlyn a Williams Homes ar y cyfryngau cymdeithasol @ClwydAlyn
Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol