Adroddiad Gweithgareddau Blynyddol 2014-15

Page 1

Rhoi Preswylwyr yn ganolog i bopeth a wnawn ADRODDIAD GWEITHGAREDDAU BLYNYDDOL 2014-15

Agor Drysau – Gwella Bywydau

Pennaf Annual Activities Report 2015 wel.indd 1

29/06/2015 10:14


Gwasanaethau i Bawb ... Gyda hanes trawiadol dros y 36 mlynedd diwethaf, pan wnaeth Cymdeithas Tai Clwyd Alyn gaffael ei eiddo cyntaf ym Mhen Gorllewinol y Rhyl, mae strwythur Grŵp Tai Pennaf fel mae’n sefyll heddiw wedi cael ei gynllunio i alluogi’r sefydliad i fod yn fwy ymatebol i anghenion y cymunedau y mae’n gweithredu ynddynt, i gynyddu atebolrwydd lleol, i hwyluso darparu ystod ehangach o wasanaethau o safon uchel i gwsmeriaid, i wneud y defnydd mwyaf effeithlon o’r adnoddau sydd ar gael a rhoi preswylwyr yn ganolog ym mhopeth a wnawn. Mae’r Grŵp yn gweithredu ar draws ardal saith awdurdod lleol ac ar 31 Mawrth 2015 roedd ganddo stoc dai o 5,558 uned o lety. Gyda Pennaf Cyf fel rhiant gwmni, mae saith endid y Grŵp (Pennaf, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, Cymdeithas Tai Tŷ Glas, Offa, Tir Tai, PenAlyn a PenElwy) yn cynnig gwasanaethau sy’n cyd-fynd â’i gilydd ac yn manteisio ar gael cefnogaeth ei gilydd, ac ar yr un pryd yn cadw eu hunaniaeth a’u rôl unigryw eu hunain. Darlunnir y berthynas gref sy’n bodoli rhwng y gwahanol endidau yng Nghynllun Busnes y Grŵp, sy’n dangos dyhead y sefydliad i barhau i ddatblygu mwy o lety a gwasanaethau cefnogi cysylltiedig i fodloni’r ystod eang o anghenion gan y cleientiaid y mae’n darparu ar eu cyfer.

Yn sail i holl waith y Grŵp mae ei Egwyddorion Craidd, sy’n ymrwymo Staff ac Aelodau’r Bwrdd i gyflawni eu dyletswyddau mewn fframwaith o werthoedd gwaelodol. Caiff y rhain ein crynhoi yn Saesneg dan yr acronym “I CARE”:

ÃÃ UNPLYGRWYDD gonestrwydd ac ymddiriedaeth ym mhopeth a wnawn

ÃÃ ÃÃ ÃÃ ÃÃ

Prif Ddiben y Grŵp yw Agor Drysau - Gwella Bywydau, y mae’n ei gyflawni trwy gyfres o flaenoriaethau tymor canolig sy’n cael eu gyrru gan ganlyniadau i’r gymuned. Mae’r rhain wedi eu dosbarthu dan bedwar ‘Canlyniad Thematig’:

GOFAL edrych ar eich ôl eich hun, eraill a chymunedau ATEBOL cymryd cyfrifoldeb am ein gweithredoedd PARCH parchu eich hun ac eraill CYDRADDOLDEB derbyn gwahaniaethau a thrin pawb yn deg

Mae’r Grŵp yn darparu tai yn bennaf, a phan fydd hynny’n berthnasol gwasanaethau gofal a chefnogaeth, i amrywiaeth eang o gleientiaid gan gynnwys: teuluoedd, pobl sengl, pobl hŷn, pobl ag anableddau dysgu a chorfforol a phrosiectau amrywiol i grwpiau bregus. Mae’r prosiectau yn amrywio o lety cyffredinol i deuluoedd, cynlluniau byw â chefnogaeth, cartrefi gofal, cynlluniau gofal ychwanegol, tai gyda gofal a chefnogaeth ac amrywiaeth eang o ddewisiadau perchenogaeth tai, ynghyd â Gofal a Thrwsio, gosod a rheoli eiddo ac ystod eang o waith trwsio o ddydd i ddydd a gwasanaethau cynnal a chadw.

ÃÃ Rydym yn darparu cartrefi y mae pobl eisiau byw ynddyn nhw ac Ein pobl sy’n gyrru ein gwasanaethau, sy’n cynnwys elfennau allanol ein gwaith ac yn bennaf yn canolbwyntio ar ein preswylwyr a’r gymuned ehangach.

ÃÃ Rydym yn hyfyw yn ariannol a Rydym yn cael ein rheoli’n effeithiol, sy’n ymwneud ag isadeiledd mewnol a’r peirianweithiau i reoli a chefnogi’r Grŵp.

2 Pennaf Annual Activities Report 2015 wel.indd 2

29/06/2015 10:14


Neges gan y Cadeirydd Roedd 2014-15 yn flwyddyn arall eithriadol o brysur a llwyddiannus i Grŵp Tai Pennaf, diolch i waith caled ac ymroddiad Aelodau’r Bwrdd a’r Staff, a hefyd i gefnogaeth barhaus y nifer o grwpiau rhanddeiliaid. Dyma fy nhymor cyntaf fel Cadeirydd Pennaf, ar ôl cymryd yr awenau gan fy rhagflaenydd, Roger Waters, fis Medi diwethaf. Ar ran y Bwrdd, dymunaf gofnodi fy niolch i Roger am ei ymroddiad, cefnogaeth a’i gyfraniad dros y blynyddoedd diwethaf. Hoffwn hefyd groesawu Frazer Jones, Paul Robinson, Sara Mogel, Peter Lewis, Jeremy Poole a Stephen Porter, sydd wedi ymuno â Byrddau’r Grŵp yn ddiweddar, gan ddwyn cyfoeth o sgiliau a phrofiad gyda nhw ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau. Rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i ddefnyddio fy mhrofiad a’m brwdfrydedd dros dai cymdeithasol tu hwnt i’m gwaith proffesiynol yn darparu prosiectau tai. Mae’r agwedd yma yn Pennaf yn fy ysbrydoli gan fod y staff a’r swyddogion ar bob lefel yn agored i syniadau newydd, a’r ffordd y maen nhw bob amser am gael y gorau oll i denantiaid a’r cymunedau yr ydym yn gweithredu ynddynt. Er ein bod mewn cyfnod heriol i bawb yn y sector, mae Pennaf eisoes yn arwain y ffordd ac yn codi i wynebu’r her. Mae ein dull ar sail canlyniadau o reoli perfformiad, yn unol â Fframwaith Rheoleiddiol Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio’n dda. Mae ein holl ganlyniadau cyflawni wedi cael eu pennu yn dilyn proses ymgynghorol gynhwysfawr gyda’n preswylwyr a’n rhanddeiliaid - gan danlinellu ein hymrwymiad i roi cwsmeriaid yn ganolog i bopeth a wnawn - ac mae’r dull hwn yn awr yn sail i’n gweithgareddau cynllunio busnes, gwella parhaus a hunan asesu. Diolch i gyfraniad ein preswylwyr ar ein holl Grwpiau ‘Atebolrwydd ar Sail Canlyniadau’, maen nhw wedi helpu i gael dylanwad ar welliannau i ystod gyfan o wasanaethau. Rydym yn parhau i ddatblygu prosiectau i fodloni’r anghenion tai amrywiol iawn gan ddefnyddio cyfuniad o grant gan Lywodraeth Cymru a chyllid preifat a godwyd gan y Grŵp. Yn ychwanegol, rydym yn parhau i ddatblygu prosiectau

nad ydynt yn rhai preswyl, parhau i fod yn gysylltiedig â gweithgareddau adfywio, ac mae ein gwaith datblygu ar brosiectau tai cymdeithasol prif-ffrwd a gweithgareddau cymunedol tenantiaid yn mynd o nerth i nerth. Gyda’r newidiadau i gyllid cyhoeddus yn lleol a chenedlaethol mae blaengaredd a hyblygrwydd yn ffactorau allweddol i gynnal rhaglen ddatblygu weithredol. Rydym yn parhau i gydweithio’n glos gyda’n partneriaid awdurdod lleol i osod anghenion tai gwahanol yn nhrefn blaenoriaeth a chael golwg yn y tymor hirach i ddod o hyd i atebion dyfeisgar i ddiwallu anghenion yn y dyfodol. Rwyf yn falch iawn o roi adroddiad bod cynllun ariannu newydd wedi ei drafod yn llwyddiannus yn ystod y flwyddyn, gan arwain at weld cyfleuster prydlesu a phrydlesu yn ôl yn cael eu cwblhau, sydd y cyntaf o’i fath yn y sector yng Nghymru. Mae’r Adroddiad yn tanlinellu enghreifftiau o’r modd y mae’r Grŵp wedi cyflawni ei nodau ar gyfer 2014/15, dan y thema gyffredinol o ‘Roi preswylwyr yn ganolog i bopeth a wnawn’. Fel Cadeirydd, edrychaf ymlaen at i Pennaf adeiladu ymhellach ar ei enw da am gael agwedd fywiog, flaengar a gweld mwy o bobl yn dymuno ac yn dewis bod yn rhan o’r Grŵp, naill ai fel preswylwyr, gweithwyr neu wirfoddolwyr yn y dyfodol. Mae Pennaf, yn yr un modd â chymaint o sefydliadau tai cymdeithasol ar draws Cymru, yn darparu cymaint mwy na thai, wrth iddo barhau i wneud cyfraniad sylweddol at economi Cymru - trwy helpu i sicrhau swyddi, cynnig cyfleoedd dysgu a datblygu, cadw crefftau a helpu i drawsnewid cymunedau ac amodau byw i unigolion a theuluoedd ar draws y rhanbarth.

Mike Hornsby Cadeirydd, Pennaf Cyfyngedig

Dr Sarah Horrocks Cadeirydd, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn

Mrs Judy Owen Cadeirydd, Tŷ Glas

Dr Angela Holdsworth Cadeirydd, Offa a Tir Tai

3 Pennaf Annual Activities Report 2015 wel.indd 3

Mr Glyn M. Jones Cadeirydd, PenAlyn a PenElwy

Mrs Eurwen H Edwards Llywydd Anrhydeddus, Grŵp Tai Pennaf 29/06/2015 10:14


Cynhwysedd Ariannol a Digidol Mae cyfran sylweddol o breswylwyr Clwyd Alyn, yn arbennig y rhai sy’n byw ar incwm isel, yn gweld eu hunain yn cael eu hallgau yn ariannol. Parhaodd y Gymdeithas i ymateb yn rhagweithiol i oblygiadau diwygio budd-daliadau, gan dargedu preswylwyr sy’n agored i’r Dreth Ystafelloedd Gwely yn benodol. Gyda’r Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno mewn ardaloedd gwahanol, mae llawer o faterion y gellir eu hwynebu: o breswylwyr yn cael trafferth i gyflwyno hawliadau ar-lein i ddiffyg sgiliau TG, i beidio gwybod ble i fynd i gael help, a chael trafferth i reoli a rhoi blaenoriaeth i’w taliadau misol newydd. Bu Clwyd Alyn yn gweithio’n glos gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i helpu preswylwyr trwy eu taith wrth hawlio Credyd Cynhwysol. Parhaodd y galw am gyngor ariannol a dyledion i gynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf gyda’r Swyddog Budd-daliadau Lles a Chyngor ar Ddyled yn cael dros 170 o gyfeiriadau yn ystod y flwyddyn, gan ymdrin â chyfanswm dyled o fwy na £200,000.

Rhoddwyd hyfforddiant Cynhwysiant Ariannol i 105 o staff rheng flaen i godi ymwybyddiaeth a gwybodaeth am y pwnc i’w helpu i roi’r gwasanaeth gorau posibl i breswylwyr. Cynhyrchodd gwasanaeth Hawliau Lles y Gymdeithas gyfanswm o dros £400,000 o enillion budd-dal a hyfforddiant yn 2014/15. Rhagwelir cynnydd arall mewn cyfeiriadau yn 2015/16, gyda rhagor o breswylwyr angen cefnogaeth i reoli arian a chyllidebu wrth iddynt drosglwyddo i Gredyd Cynhwysol. Mae ein Swyddog Datblygu Cymunedol hefyd wedi bod yn rhedeg nifer o brosiectau cynhwysiant digidol gyda phreswylwyr, gan eu galluogi i ddysgu sgiliau newydd a gwella eu sefyllfa ariannol.

4 Pennaf Annual Activities Report 2015 wel.indd 4

29/06/2015 10:14


u

Gweithgareddau Cynnwys Preswylwyr a Chymunedol Mae’r Grŵp yn parhau i ddatblygu gweithgareddau cymunedol yn weithredol ac mae yn ymroddedig i gryfhau cynnwys preswylwyr i helpu i siapio ein gwasanaethau. Cynhaliwyd amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a drefnwyd gyda’r nod o ddod â phobl at ei gilydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol dros y flwyddyn ddiwethaf. Dyma rai enghreifftiau o’r effaith y mae cynnwys preswylwyr wedi ei gael ar ein gwasanaethau ac ar gymunedau lleol:

Gwasanaeth cwsmeriaid: codi safonau gwasanaeth ÃÃ Parhaodd ein Llysgenhadon Gwasanaethau Cwsmeriaid Preswylwyr i weithio gyda Staff i wella gwasanaethau cwsmeriaid. Mae nhw hefyd yn rhan o’r panel o feirniaid ar gyfer ein gwobrau ‘STAR’ pan fydd cyfraniad y staff at wasanaeth cwsmeriaid ac am fynd ‘tu hwnt i ofynion y swydd’ yn cael eu cydnabod. ÃÃ Bu preswylwyr a staff yn gweithio gyda’i gilydd mewn cyfarfod grŵp ffocws i gytuno ar Bolisi Gosod Rhent newydd yn seiliedig ar bwyntiau, sydd yn haws ei ddeall ac yn fwy agored ac atebol. ÃÃ Mae ein Partneriaid Ansawdd yn breswylwyr sydd wedi eu hyfforddi i archwilio gwasanaethau Landlord. Buont yn gweithio ar archwiliadau ar wasanaethau i breswylwyr hŷn, ôl-ddyledion rhent ac effaith diwygio’r wladwriaeth les. ÃÃ Bwydodd y preswylwyr eu syniadau i’r hyn ddylai gael ei gynnwys mewn Polisi Taliadau Gwasanaeth newydd gyda golwg ar arbed arian a rhoi gwasanaeth mwy effeithlon.

Dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn gweithio ÃÃ Trwy ein Grwpiau Atebolrwydd ar Sail Canlyniadau, mae preswylwyr a staff wedi bod yn asesu pa mor dda yr ydym yn cyflawni ein gwasanaethau. Mae barn preswylwyr yn ganolog i gyflawni gwasanaethau yn effeithlon ac effeithiol ac mae eu cyfraniad wedi helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. ÃÃ Cyfrannodd y preswylwyr a fu’n helpu i lunio’r Cynllun Busnes eu syniadau o ran ar beth y dylid rhoi’r pwyslais y flwyddyn nesaf. Dywedodd y rhai oedd yno eu bod yn teimlo bod ‘eu barn yn cael ei pharchu’ a’u bod yn ‘teimlo eu bod yn cael cymryd rhan’. 5 Pennaf Annual Activities Report 2015 wel.indd 5

29/06/2015 10:14


Ei gwneud hi’n hawdd cysylltu â ni

Gwella’r amgylchedd lleol

ÃÃ O ganlyniad i adborth preswylwyr, cytunwyd ar

ÃÃ Bu’r preswylwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang

fframwaith newydd ar gyfer ymdrin â galwadau i’n Canolfan Gyswllt.

o weithgareddau i helpu i wella’r amgylchedd lleol.

ÃÃ Dywedodd preswylwyr wrthym fod eu stadau yn ‘edrych

ÃÃ Fel rhan o Strategaeth Cynhwysedd Digidol newydd,

yn well’ ar ôl dyddiau casglu ysbwriel cymunedol a dyddiau glanhau, gan eu helpu i deimlo “bod ganddynt fwy o ran yn eu cymuned” a dwyn plant at ei gilydd yn ystod gwyliau’r ysgol.

dynododd y preswylwyr ffyrdd o’u helpu i fynd ar-lein, defnyddio cyfrifiaduron a defnyddio gwasanaethau arlein.

ÃÃ Cyfarfu’r preswylwyr â Staff o’n Hadran Sustemau

ÃÃ Mae prosiectau Garddio Cymunedol wedi helpu i wella

Gwybodaeth i weld y Porth Preswylwyr newydd ar-lein, lle gallant gael mynediad at fanylion eu cyfri 24 awr y dydd. Cawsant brofi’r system newydd o safbwynt y cwsmer a rhoi adborth cyn i’r porth gael ei lansio.

iechyd a lles preswylwyr lleol. Bu’r rhandiroedd yn Garden City, Sealand yn arbennig o boblogaidd ac roedd y pabïau a heuwyd yn Llys Esgob Morgan yn Llanelwy yn deyrnged addas i gofio canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Cydnabod llwyddiannau preswylwyr Rhoddwyd nifer o staff a phreswylwyr Clwyd Alyn ar restrau byr a/neu fe wnaethant ennill Gwobrau, yn cydnabod eu cyfraniad at eu cymunedau lleol:

ÃÃ Enillodd y wirfoddolwraig o breswylwraig Anne Rothwell o Pentre Mawr yn Abergele Gwobr Ruth Radley am Lwyddiant Eithriadol wrth Gyfranogi TPAS (Cymru)

ÃÃ Enillodd Alison Pring, Warden yn Pentre Mawr, Abergele “Wobr Gymunedol Uchel Siryf Clwyd”

ÃÃ Dyfarnwyd Gwobr Rhagoriaeth Landlord Roy Parry TPAS Cymru i Glwyd Alyn

ÃÃ Cyflwynwyd ‘Gwobr Clod Arbennig’ i Carl Gannon, un o breswylwyr Oldford, Y Trallwng, i gydnabod ei “wasanaeth eithriadol i’r gymuned fel gwirfoddolwr” yng ngwobrau blynyddol TPAS (Cymru)

ÃÃ Cyhoeddwyd bod Dee Cooney, tenant yng Nghynllun Gofal Ychwanegol Gorwel Newydd yn y Rhyl, yn ‘Ddinesydd Da’r Flwyddyn’ Clwyd Alyn

6 Pennaf Annual Activities Report 2015 wel.indd 6

29/06/2015 10:14


Lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol Gwella ansawdd eich bywyd a chadw preswylwyr yn ddiogel ÃÃ Buom yn gweithio gydag Arian i Bawb, y Loteri Fawr a ÃÃ Thema’r Gynhadledd Preswylwyr eleni oedd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol: Canfod Eich Llais. Agorodd y Farwnes Helen Newlove, Comisiynydd Dioddefwyr Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Cymru a Lloegr y diwrnod gydag anerchiad cignoeth lle defnyddiodd ei phrofiad ei hun o orfod ymdrin â marwolaeth ei gŵr Gary, yn 2007, wrth iddo herio grŵp o bobl ifanc, oedd yn difrodi car y teulu, i dynnu sylw at anghenion dioddefwyr bregus ymddygiad gwrthgymdeithasol; gan sicrhau eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch. Roedd ei stori yn ysbrydoliaeth wirioneddol, gyda 70% o’r preswylwyr yn dweud eu bod yn fwy hyderus wrth roi adroddiad am ddigwyddiadau o ganlyniad i’r diwrnod.

ÃÃ Roedd y digwyddiadau eraill a fwriadwyd i atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwella diogelwch personol yn cynnwys taith i Dangerpoint yn Nhreffynnon i deuluoedd o Ffordd Helygain, Y Fflint a Lôn Celyn, Cei Conna. Dysgodd y plant sut i’w cadw eu hunain ac eraill yn ddiogel, yn arbennig o ran diogelwch ar y ffordd, ‘perygl dieithriaid’ a diogelwch yn y cartref ac o’i gwmpas.

ÃÃ Cynhaliwyd ‘Diwrnod Diogelwch ar y Ffordd’ hefyd yn Lôn Celyn yn dilyn pryderon am blant yn chwarae ar y ffordd. Gwyliodd y rhieni DVD am ddamweiniau ar y ffordd a bu’r plant mewn sesiwn yn uned symudol Traffig a Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint i ddysgu am: God y Groes Werdd, Mannau Mwy Diogel i Chwarae a sut i gadw’n ddiogel yn agos at ffyrdd. Rhannodd Swyddogion Tân hefyd awgrymiadau am sut y gall rhieni wella diogelwch tân yn eu cartrefi.

TAPE Community Music and Film, i drefnu digwyddiadau sinema dawel a gweithdai celf a chrefft yn Nant Mawr Court, Llys Eleanor, Llys Erw a Cae Glo. Dywedodd preswylwyr wrthym bod y ffilmiau tawel yn “ddifyr iawn, hwyliog ac yn codi hiraeth” ac “yn dod â chymaint o atgofion yn ôl”. Fe wnaethant hefyd fwynhau dysgu sgiliau newydd yn y sesiynau celf a chrefft, gan gynnwys “sut i ddefnyddio gwŷdd pegiau” a “thechnegau peintio newydd”.

ÃÃ Mae’r enghreifftiau cadarnhaol o waith a wnaed i ymdrin ag allgau digidol yn cynnwys gweithio gyda ‘Cymunedau 2.0’ a redodd gyrsiau hyfforddi ‘Dechrau o’r Dechrau’ ar draws nifer o’n cynlluniau, gan helpu preswylwyr i ddysgu sut i: ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, cysylltu â’u teuluoedd, gweithio ar eu diddordebau, defnyddio e-bost, lawrlwytho ffotograffau a phrynu cynnyrch ar-lein. Dywedodd un preswyliwr “Agorodd byd newydd i mi trwy ddysgu’r sgiliau newydd yma”.

ÃÃ Fe wnaeth gweithio gyda busnesau lleol hefyd wahaniaeth gwirioneddol i ansawdd bywyd rhai o’n preswylwyr mwyaf bregus. Ariannodd MoneySupermarket.com 5 gwely/matres newydd ar gyfer lloches nos Tŷ Nos a rhoi £1,000 at Tŷ Nos a Tŷ Golau i brynu eitemau fel bagiau cysgu a phebyll i’r rhai sy’n cysgu allan yn Wrecsam a’r Rhyl. Gwnaeth yr eitemau yma wahaniaeth gwirioneddol i’n preswylwyr gan sicrhau eu bod yn gallu cael cawodydd poeth, newid eu dillad ac os nad oeddynt yn gallu cael lle yn y prosiect, eu bod yn gallu cael pabell neu fag cysgu i gadw’n gynnes.

7 Pennaf Annual Activities Report 2015 wel.indd 7

29/06/2015 10:14


Cyrraedd Disgwyliadau Cwsmeriaid a Bodlonrwydd Mae’r tîm staff yn PenAlyn wedi cael blwyddyn arall eithriadol o brysur yn cynnig gwasanaethau cynnal a chadw ymatebol ac wedi eu cynllunio i’n preswylwyr. Mae hyn wedi ein helpu i wella’r modd y darperir gwasanaeth, cynyddu bodlonrwydd cwsmeriaid, gostwng costau cynnal a chadw a gwireddu arbedion trwy resymoli rheoli asedau a swyddogaethau cynnal a chadw. I fynegi diolch i Eglwys yr Holl Saint, Wrecsam am adael i PenAlyn storio deunyddiau a chaban y staff ar eu tir wrth gynnal rhaglen ddiweddaru ar gynllun lleol, fe wnaeth PenAlyn greu maes parcio newydd a diweddaru cegin yr eglwys. Rhoddodd Travis Perkins y deunyddiau a bu ICR Group yn cynorthwyo gyda’r gwasanaethau trydanol. Dywedodd Trysorydd yr Eglwys: “Roeddem yn fwy na bodlon cael tîm PenAlyn yn gweithio yma. Mae wedi bod o fudd i bawb. Mae’r tai lleol wedi cael eu gwella a bydd ein cegin newydd a’n maes parcio yn wych i’r gymuned hefyd. Fe fyddem yn hoffi diolch i bawb a gyfrannodd.”

FFEITHIAU ALLWEDDOL Cyfnewidiwyd 249 cegin, 201 ystafell ymolchi a 173 bwyler yn ystod y flwyddyn ar gost o £2.2 miliwn.

Dywedodd David Lewis, Cyfarwyddwr Corfforaethol Rheoli Asedau: “Llwyddodd ein gweithredwyr i gyflawni tua 21,000 o archebion gwaith yn llwyddiannus, diweddaru 137 o gartrefi preswylwyr gyda ffenestri newydd a drysau, ac ymweld â 1270 eiddo i gynnal arolygon cyflwr stoc ar draws ardal 6 awdurdod lleol. Mae hyn wedi helpu i wella cyflwr a chynyddu oes stoc tai Clwyd Alyn. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym hefyd wedi cyflogi 2 brentis trydanol a chreu gwaith i 7 o grefftwyr”.

8 Pennaf Annual Activities Report 2015 wel.indd 8

29/06/2015 10:14


Gofal a Thrwsio Wrecsam

ODEL – Agor Drysau - Gwella Bywydau – Menter a Hyfforddiant

Rheolir Asiantaeth Gofal a Thrwsio Wrecsam yn uniongyrchol gan Gymdeithas Tai Tŷ Glas ac mae’n helpu pobl hŷn a/neu anabl i fyw yn annibynnol a diogel yn eu cartrefi. Mae ein Hasiantaeth wedi parhau i ddarparu gwasanaeth o safon uchel yn gyson i gleientiaid, gyda chyfanswm o 2,495 o atgyfeiriadau wedi eu derbyn yn ystod 2014-15 a 1,881 o gleientiaid yn cael budd o’r gwasanaeth craidd.

Parhaodd ‘ODEL – cynllun dysgu, hyfforddi a menter gymdeithasol Clwyd Alyn – i fod yn llwyddiant mawr, gan ganolbwyntio yn bennaf ar brosiectau Byw â Chefnogaeth y Gymdeithas i bobl ifanc sydd wedi profi digartrefedd yn y gorffennol. Nod ODEL yw rhoi hyfforddiant sgiliau bywyd i breswylwyr, helpu i gynyddu hyder a hunan-barch a datblygu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i fyw’n annibynnol. Mae hefyd yn ymgorffori achrediad cenedlaethol gan Agored Cymru, y sefydliad dysgu gydol oes i Gymru gyfan sy’n goruchwylio credydau hyfforddi a chymwysterau. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, dyfarnwyd 153 o unedau wedi eu hachredu i breswylwyr, gydag 174 uned arall wedi eu cyflwyno ar gynhwysedd digidol.

Mae’r llwyddiannau allweddol eraill yn cynnwys:

ÃÃ Derbyniodd y Gwasanaeth Tasgmon sy’n cael ei weithredu gan y Swyddogion Mân Waith Trwsio 837 o gyfeiriadau, gyda chyfartaledd oed y cleientiaid yn 69 oed.

ÃÃ Cynhaliwyd gwiriadau diogelwch tân ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, gan osod synwyryddion mwg ac ati.

Mae’r llwyddiannau allweddol eraill yn cynnwys lansio Menter Lanhau ODEL, a sefydlwyd i gynnig profiad o waith cyflogedig a chyfleoedd i wirfoddoli i bobl ifanc sydd am gael sgiliau i helpu eu gyrfa yn y dyfodol. Bu cyflwyno Rhaglen Hyfforddi ODEL i gleientiaid Cymorth i Ferched CAHA hefyd yn gam cadarnhaol ymlaen, ynghyd â chael cymeradwyaeth i ddatblygu siop goffi yn yr Hen Lys yn y Fflint, gyda’r diben o allu creu cyfleoedd dysgu, hyfforddi a sicrhau gwaith ar gyfer preswylwyr a chleientiaid Clwyd Alyn.

ÃÃ Gosodwyd offer diogelwch i bobl fregus, dioddefwyr troseddau a/neu bobl oedd wedi dioddef trais domestig ar ran y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.

ÃÃ Dan y Rhaglen Addasu Ymateb Cyflym a’r cynllun Cronfa Gofal Ganolraddol cynorthwyodd yr Asiantaeth 858 o gleientiaid gyda gwaith ataliol ac mae 83 o gleientiaid wedi cael gwaith wedi ei gwblhau ar eu heiddo er mwyn iddynt gael mynd adref o’r ysbyty.

ÃÃ Fe wnaeth yr Asiantaeth barhau i wneud gwaith i PenAlyn, gan gynnig gwasanaeth trwsio i breswylwyr Clwyd Alyn, ynghyd â gwasanaeth peintio ac addurno yng nghynlluniau Byw â Chefnogaeth y Gymdeithas. Wrth edrych i’r dyfodol, trwy’r penderfyniad i uno asiantaethau Gofal a Thrwsio trwy Gymru fe welwyd asiantaeth Wrecsam yn cyfuno gyda Gofal a Thrwsio Sir y Fflint yn ystod chwarter olaf 2014/15. Wrth ymateb i hynny, penderfynodd y Grŵp sefydlu gwasanaeth annibynnol newydd yn cynnig cyngor, addasiadau a gwaith trwsio, a fydd o 1 Ebrill 2015 yn masnachu fel PenCartref. Bydd mwyafrif y staff yn cael eu cadw a bydd PenCartref yn parhau i gynnig gwasanaeth o ansawdd a chost effeithiol, gan ehangu i ardaloedd newydd a bydd ar gael i amrywiaeth ehangach o gleientiaid.

9 Pennaf Annual Activities Report 2015 wel.indd 9

Roedd Tîm Asiantaeth Gofal a Thrwsio Wrecsam yn falch iawn o gael statws ‘Aur’ gan Cymru Iach ar Waith, cynllun partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn hybu iechyd a lles a chydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, gan leihau salwch ac absenoldeb mewn cwmnïau ar draws Cymru.

29/06/2015 10:15


Agoriad Swyddogol Cynllun Gofal Ychwanegol Tan y Fron Roedd y Grŵp yn falch iawn o groesawu Lesley Griffiths AC, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi i Landudno ym mis Mawrth eleni pan agorodd Llys Dyfrig, Canolfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol amlasiantaethol, a Than y Fron, ein cynllun Tai Gofal Ychwanegol newydd ar Ffordd yr Orsedd yn swyddogol. Mae’r cyfleusterau newydd blaengar o ganlyniad i bartneriaeth lwyddiannus rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chymdeithas Tai Clwyd Alyn. Dywedodd y Gweinidog: “Mae Tan y Fron a Llys Dyfrig yn cynnig ffordd annibynnol o fyw i’r preswylwyr gyda chefnogaeth 24 awr y dydd wrth law a mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Buddsoddodd Llywodraeth Cymru dros £4 miliwn i ddarparu’r cyfleusterau modern iawn yma a rhoi hwb i’r economi leol trwy swyddi a thwf”.

Symudodd Mrs Margaret Jones i Dan y Fron o gartref nyrsio a dywedodd: “Nid oedd arnaf angen gofal nyrsio, ond dwi’n ei chael hi’n anodd cerdded a doedd yna unlle arall i mi fynd. Mae’n hollol wych cael yr annibyniaeth ychwanegol sydd gennych yma. Mae gennyf fy nghartref fy hun a’r holl help y bydd arnaf ei angen wrth law. Pan symudais yma, fe wnes i baned o de i mi fy hun. Dyma’r tro cyntaf mewn pedair blynedd i mi fedru rhoi fy nhecell fy hun ymlaen a gwneud paned pan oeddwn i eisiau”. Mewn Adroddiad Ansawdd Bywyd a ddarparwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ddiweddar, eglurodd rhai o’r preswylwyr fel bod cael bwyd da, llety braf, mwy o reolaeth dros eu bywydau o ddydd i ddydd, y cyfle i wneud ffrindiau newydd ac i gymdeithasu, a teimlo’n ddiogel oll wedi helpu iddynt wella eu hansawdd bywyd. Dyma’r pumed cynllun Gofal Ychwanegol y mae’r Grŵp wedi ei ddatblygu ac mae’r cynlluniau yn symud ymlaen i adeiladu tri chynllun arall yn Wrecsam, y Fflint a Llangefni yn y dyfodol. 10 Pennaf Annual Activities Report 2015 wel.indd 10

29/06/2015 10:15


Crynodeb Datblygu Yn ystod 2014-15, diolch i gyllid Grant Tai Cymdeithasol oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru ynghyd â chyllid preifat a godwyd gan Pennaf, mae’r Grŵp wedi llwyddo i ddatblygu unedau newydd o lety y mae galw mawr amdanynt ac wedi dosbarthu cartrefi i 350 o bobl. Roedd y cynlluniau a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn yn cynnwys: ÃÃ Tai Copr, Lôn Goch, Amlwch – 6 x tŷ 3 ystafell wely a 2 x tŷ 4 ystafell wely

ÃÃ Llys Gwynfryn, Stryt y Mynydd, Rhos, Wrecsam – 6 x tŷ 3 ystafell wely a 2 x tŷ 2 ystafell wely

ÃÃ Llwyn Ddol, Ffordd Trellewelyn, Y Rhyl - 1 byngalo 3 ystafell wely wedi ei addasu’n arbennig

ÃÃ Ffordd Siarl, Llanelwy – 6 x byngalo 2 ystafell wely ÃÃ Bro Deg, Aberkinsey Park, Y Rhyl – 6 x tŷ 2 ystafell wely a 3 x tŷ 3 ystafell wely

ÃÃ 46 Crescent Road, Y Rhyl – 1 x tŷ 2 ystafell wely ÃÃ 21 Moldsdale Road, Yr Wyddgrug – 1 x byngalo 2

Helpu i Drawsnewid Canol y Rhyl Mae trawsnewid y Rhyl fel rhan o Brosiect Gwella Gorllewin y Rhyl wedi parhau i ddatblygu ac mae ymdeimlad cynyddol o falchder yn yr ardal. Trwy weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, mae Clwyd Alyn wedi parhau ei hymrwymiad tymor hir yn yr ardal, gan ddatblygu amrywiaeth o gartrefi o’r newydd ac wedi eu hadnewyddu yn llwyr yng nghanol y Rhyl, gan adeiladu ar yr ysbryd cymunedol rhagorol sydd eisoes yn bodoli yn yr ardal i greu lle gwych i fyw, i weithio ac i ymweld ag o. Dros y flwyddyn i ddod, yn ogystal â chreu cartrefi teuluol newydd ar hyd Heol Gronant ac Abbey Street, bydd y Gymdeithas yn newid cartrefi eraill ar Abbey Street ac Edward Henry Street ac yn adnewyddu chwech o dai eraill ar y ffyrdd gerllaw. Bydd y cartrefi hyn yn cynnig cymysgedd o gyfleoedd rhentu a pherchenogaeth cartref i ymateb i’r galw cynyddol am dai o safon yn yr ardal.

ystafell wely

Dywedodd Leanne Collin o Bro Deg, y Rhyl: “Mae’n fendigedig, rydym wedi cyffroi’n lân am symud yma. Mae’r cartrefi wedi eu dylunio yn dda iawn – petaem ni wedi ysgrifennu rhestr o’r holl bethau y byddem ni wedi bod eu heisiau yn ein cartref delfrydol, hwn fyddai hwnnw. Mae gennym ni hyd yn oed gasgen ddŵr a sied yn yr ardd”.

Dywed y Swyddog Datblygu, Lorraine Taylor: “Fel man lle mae pobl am fyw ynddo, ac aros yn ogystal ag ymweld ag o, bydd y cartrefi newydd yn datblygu dros y flwyddyn sydd i ddod a bydd yn hyb i gymuned fywiog a chynaliadwy o gwmpas Gerddi Heulwen.”

Yn ychwanegol mae Llys y Waun yn mynd trwy raglen ailddatblygu fawr a fydd yn gweld y Cartref Gofal yn cael ei drawsnewid dros y 12 mis nesaf yn gartref gofal 66 gwely yn cynnig canolfan ragoriaeth i bobl hŷn gydag amrywiaeth o anghenion gofal gan gynnwys gofal dementia arbenigol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, adnewyddwyd rhan gwreiddiol o’r cartref gofal yn llwyr ar gost o £900,000, i gynnig llety o safon uchel a lolfa gymuned i ddeg o’r preswylwyr presennol, a nifer o gyfleusterau gweinyddol a chefnogi.

11 Pennaf Annual Activities Report 2015 wel.indd 11

29/06/2015 10:15


Tŷ Golau – Carreg Gamu at Ddyfodol Disgleiriach

Offa – Y Partner Gosod Rydym wedi parhau i ddatblygu ein Hasiantaeth Gosod Cymdeithasol, ynghyd â gwasanaeth rheoli i landlordiaid sector preifat ar draws Gogledd Cymru, gan weithredu dan enw Offa. Yn ystod 2014-15, roedd Offa ar drydedd flwyddyn ei strategaeth dwf uchelgeisiol ac ar hyn o bryd mae’n darparu ac yn rheoli dros 233 o unedau preifat ar rent.

Mae’r gwasanaeth Tŷ Golau newydd a sefydlwyd yn y Rhyl wedi cynnig dull holistaidd o gefnogi pobl ddigartref. Mae 7 o welyau yn y prosiect ar gyfer llety argyfwng dros nos, gan gynnig pryd min nos, brecwast a chyngor a chefnogaeth proffesiynol gan y staff. Yn ychwanegol, mae 4 ystafell wely ar y llawr cyntaf yn galluogi cleientiaid i gael cynnig tenantiaethau fyr dymor gyda chefnogaeth ddwys, sy’n gweithredu fel cam i’w helpu i symud ymlaen i ffordd o fyw fwy sefydlog. Mae’r prosiect yn bosibl diolch i gyllid grant o £294,000 gan Gronfa Gweithredu Camdrin Sylweddau Llywodraeth Cymru i gwblhau gwaith adnewyddu mewnol, a Thîm Cefnogi Pobl Cyngor Sir Ddinbych. Mae Tîm Tŷ Golau yn ogystal yn gweithio yn agos iawn gyda Canolfan Dewi Sant, sy’n cynnig Canolfan Ddydd yn yr un adeilad.

Bu Offa yn gweithio’n glos gyda Pennaf, Clwyd Alyn, Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar nifer o gynlluniau i wella tai yn Ardal Adfywio Bae Colwyn sydd wedi golygu cyfanswm o fuddsoddiad o fwy na £3.8 miliwn. Mae’r prosiectau adnewyddu yma eisoes wedi creu cartrefi i deuluoedd a fflatiau y mae galw mawr amdanynt, gyda gwaith wedi ei gwblhau ar rifau 11 ac 13 Ffordd Lawson, a 28 Ffordd Belgrave. Yn fwy diweddar, trwy drawsnewid Capel Bethlehem ar Ffordd Lawson, llwyddodd un o’r preswylwyr newydd i gael ‘cartref ei breuddwydion’ “Rydym wedi gwirioni ar ein cartref newydd. Mae Tîm Offa wedi bod yn wych, roedden nhw’n barod iawn i helpu a dim byd yn ormod o drafferth ganddyn nhw”.

Dywedodd Lynda Williams, Uwch Swyddog Prosiect yn Tŷ Golau, mai un o’r cleientiaid a awgrymodd yr enw. “Dywedodd bod y gwasanaeth wedi cynnig ‘goleuni’ iddo, gan ei gadw yn ddiogel a’i helpu pan oedd arno fwyaf o angen help, felly roedd Tŷ Golau yn ymddangos yn enw perffaith ar gyfer y gwasanaeth newydd.”

Partneriaeth yn helpu i adfywio adeilad hanesyddol

Mae’r gefnogaeth hon ynghyd â buddsoddiad ariannol preifat a drefnwyd gan Pennaf wedi helpu i arbed yr hyn a gredir yw’r adeilad hynaf, heblaw’r Castell, sydd wedi goroesi yn y dref.

Parhaodd Clwyd Alyn i weithio yn agos iawn â phartneriaid ar adnewyddu’r adeilad Rhestredig Gradd Dau, Yr Hen Lys yn y Fflint. Manteisiodd y gwaith ar Gyllid Cynllun Treftadaeth Drefol y Fflint, partneriaeth a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, CADW, Cyngor Tref y Fflint a Chyngor Sir y Fflint.

Cwblhawyd y gwaith adnewyddu’r llynedd yn unol â chanllawiau cadwraeth a threftadaeth, gan fod yr adeilad eisoes yn rhan o Lwybr Treftadaeth y dref. Mae’r Grŵp yn awr yn symud ymlaen a’r syniad o osod y llawr gwaelod ar gyfer siop goffi a hyb gymunedol, gan gynnig swyddfeydd ac ystafell gyfarfod ar gyfer y gymuned ar y llawr cyntaf. Dywedodd Graham Worthington, Prif Weithredwr y Grŵp: “Hoffem ddiolch i’n partneriaid ariannu am eu cefnogaeth barhaus wrth i ni symud ymlaen a datblygu’r cynlluniau tymor hir ar gyfer yr adeilad. Mae adnewyddu’r prosiect hanesyddol hwn yn elfen bwysig yn y cynllun trosfwaol ar gyfer adfywio canol tref y Fflint. Dwi’n gobeithio y bydd y prosiect hwn yn cael effaith bositif ar fywyd y dref, gan sicrhau ei le yng nghanol y gymuned am flynyddoedd i ddod”.

12 Pennaf Annual Activities Report 2015 wel.indd 12

29/06/2015 10:15


Ein Pobl Ni yn Gwneud Gwahaniaeth Her Elusen Gorfforaethol ‘Codi’r To’

Dysgu a Datblygu

Mae ymrwymiad y Grŵp i ‘wneud gwahaniaeth’ yn cael ei adlewyrchu yn ein Her Elusen Gorfforaethol Codi’r To at Cancer Research UK. Hyd yn hyn rydym wedi codi £9,013.74 diolch i gefnogaeth a brwdfrydedd ein staff, a wynebodd nifer o sialensiau gan gynnwys Triathlon, rasys 10k (fel y Brodyr Mario!) i stondinau cacennau, rafflau, teithiau cerdded a llawer mwy! Ein nod yw codi £10,000 arall dros y flwyddyn nesaf i helpu i gefnogi’r gwaith gwych y mae Cancer Research UK yn ei wneud i ganfod ffyrdd newydd o atal, canfod a thrin canser i achub mwy o fywydau.

Arweiniodd trydedd flwyddyn ein Strategaeth Hyfforddiant a Chyflogaeth ‘Meithrin Eich Hun’ at 63 prentisiaeth, cyfleoedd hyfforddi, gwirfoddoli, profiad gwaith i fyfyrwyr ysgol a choleg, gan helpu i gynyddu sgiliau, hyder a phrofiad pobl o’n cymunedau lleol.

Ymrwymiad i’r Gymraeg Ymunodd rhai o’n dysgwyr Cymraeg a’u mentoriaid ag Aelodau’r Bwrdd yn y Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a’r Iaith Gymraeg i drafod sut y mae cefnogaeth y Grŵp i ddysgu a chefnogi yn eu helpu i gynnig gwell gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg. Mynychodd rhyw 35 o aelodau o staff o bob rhan o’r Grŵp gyrsiau ar lefelau cychwynnol, canolraddol ac uwch, a roddwyd mewn dosbarthiadau 2 awr mewnol yn wythnosol neu fel cwrs dwys 4 diwrnod.

100 Cwmni Gorau i Weithio Iddynt y Sunday Times Mae’r Grŵp yn cyflogi mwy na 600 o staff ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru ac roeddem yn falch iawn o gael ein gosod unwaith eto yn rhestr 2015 o’r “100 Cwmni Gorau i Weithio Iddynt y Sunday Times” ar gyfer cwmnïau ‘Nid er Elw’ ar draws y Deyrnas Unedig i gyd, gan adlewyrchu’r safonau uchel o ran arweinyddiaeth a rheolaeth sy’n gweithredu ar draws y sefydliad. Dywedodd Graham Worthington, Prif Weithredwr y Grŵp: “Rydym yn falch iawn o glywed bod ein staff yn teimlo mor gadarnhaol am y sefydliad ac mae’n dda o beth bod ymlyniad y gweithwyr a’u hysgogiad yn gryf. Mae darparu’r gwasanaeth gorau un i gwsmeriaid yn ganolog i bopeth a wnawn ac er mwyn hynny, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i ddenu’r aelodau gorau o staff, buddsoddi ynddynt a’u cadw. Rhaid i’r clod am ein lle ar y rhestr yn y Sunday Times fynd i bob un o’r staff sy’n gweithio ar bob lefel ar draws y sefydliad, sy’n cyfrannu at wneud Pennaf yn lle gwych i weithio”. 13 Pennaf Annual Activities Report 2015 wel.indd 13

Dywedodd Anya Thomas, Prentis Gwasanaethau Cwsmeriaid yng Nghartref Gofal Merton Place ym Mae Colwyn: “Rwyf ar hyn o bryd yn gweithio tuag at Lefel 2 NVQ mewn Gofal Cwsmeriaid fel rhan o fy Hyfforddiant Prentisiaeth, a roddodd yr hyder a’r gallu i mi lwyddo yn yr hyn yr wyf am ei wneud yn y gwaith. Rwyf yn ymwneud ag amrywiaeth eang o dasgau yn ddyddiol, ac mae’n fraint medru helpu preswylwyr a’u teuluoedd. Mae prentisiaethau yn ffordd dda iawn o gael cymwysterau a phrofiad”. Helpodd ein hymrwymiad parhaus i fuddsoddi yn addysg a datblygiad y staff, ynghyd â’n pwyslais barhaus ar Ragoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid, i sicrhau bod preswylwyr yn cael y safonau uchaf o ran gwasanaeth proffesiynol, llawn gwybodaeth ac ymatebol gan ein staff medrus iawn. Mae ein harweinwyr a rheolwyr hefyd wedi bod yn edrych ar gyfleoedd i ddatblygu timau sy’n cyflawni ar lefel uchel trwy ymwreiddio diwylliant o hyfforddi a chefnogi, sy’n sicrhau bod gan ein staff agwedd ‘mi allaf fi ei wneud’ ar draws y sefydliad.

Llwyddiant i Ennill Gwobrau Cyflwynwyd Pam Williamson, Uwch Ymarferwr Gofal yn Llys Marchan, â Gwobr Arian Ymarferwr Gofal y Flwyddyn Fforwm Gofal Cymru 2014 Fel rhan o Wobrau Hyrwyddo Annibyniaeth Cymorth Cymru 2014, sicrhaodd Plas Bod Llwyd y wobr ‘Tîm Gorau’ a chyflwynwyd y Wobr ‘Buddsoddi Mewn Staff’ i Lys y Waun Cyflwynwyd ‘Gwobr Dr Buddug Owen am Ddatblygiad Personol a Hyfforddiant 2014’ i Rebecca Bowker, Swyddog Tai dan Hyfforddiant.

29/06/2015 10:15


Y Byrddau Rheoli ar 31 Mawrth 2015

Pennaf Cyfyngedig Mr Mike Hornsby - Cadeirydd Mr Dafydd Ifans - Is-gadeirydd Dr Angela Holdsworth Mr Glyn M Jones Dr Sarah Horrocks Mr Roger Waters Mr Graham Worthington

Cymdeithas Tai T天 Glas Cyfyngedig Mrs Judy A Owen - Cadeirydd Dr Sarah Horrocks - Is-gadeirydd Mr Dafydd Ifans Mrs Louisa Diamond Mr Glyn Jones Mr Frazer Jones Mr Paul Robinson - Aelod Cyfetholedig Mr Roger Waters

Pennaf Housing Group Mrs Eurwen H Edwards Llywydd Anrhydeddus

Cymdeithas Tai Clwyd Alyn Cyfyngedig Dr Sarah Horrocks - Cadeirydd Mrs Eirwen Godden - Is-gadeirydd Mr Dafydd Ifans Mr Derek Holmes Mrs Judy Owen Mr Glyn M Jones Mrs Louisa Diamond - Aelod Cyfetholedig Mr Harold Martin Mrs Sara Mogel Mr Peter Lewis - Aelod Cyfetholedig Mr Stephen Porter - Aelod Cyfetholedig

Tir Tai Dr Angela Holdsworth - Cadeirydd Mr Dafydd Ifans - Is-gadeirydd Mr Glyn M Jones Dr Sarah Horrocks

Offa Cyfyngedig

PenAlyn Cyfyngedig

Dr Angela Holdsworth - Cadeirydd Mr Glyn Jones - Is-gadeirydd Mr Dafydd Ifans Dr Sarah Horrocks

Mr Glyn M Jones - Cadeirydd Mr Roger Waters - Is-gadeirydd Mr Trevor Henderson Mr Mike Soffe Mr Jeremy Poole Mr David Lewis

PenElwy Cyfyngedig Mr Glyn M Jones - Cadeirydd Mr Roger Waters - Is-gadeirydd Mr Trevor Henderson Mr Mike Soffe Mr David Lewis

14 Pennaf Annual Activities Report 2015 wel.indd 14

29/06/2015 10:15


Grŵp Tai Pennaf CYFRIFON BLYNYDDOL 2014 – 15 Mae’r rhain yn seiliedig ar Gyfrifon Grŵp Tai Pennaf fel y cawsant eu paratoi gan yr Archwilwyr. MANTOLEN 31 Mawrth 2015 CRYNODEB O INCWM £ Asedau £ Stoc Tai 146,479,660 Rhenti 20,629,306 Asedau Sefydlog Eraill 3,688,664 Taliadau Gwasanaeth ac ati 10,757,694 Stoc 58,434 Llogau i’w Derbyn 31,406 Dyledwyr 3,887,697 Incwm Arall 1,985,861 Arian Parod a Buddsoddiadau 5,071,623 Cyfanswm 33,404,267 Rhwymedigaethau Presennol -8,748,362 Cyfanswm 150,437,716 CRYNODEB O WARIANT £ Llogau Taladwy 5,707,881 MANTOLEN 31 Mawrth 2015 Rheoli 3,951,496 Ariennir gan: £ Taliadau Gwasanaeth 12,327,982 Benthyciadau 137,901,389 Cynnal a Chadw 6,606,453 Cronfeydd Cyffredinol 12,536,327 Arall 3,676,918 Wrth Gefn Cyfanswm 32,270,730 Cyfanswm 150,437,716

31 Mawrth 2014 £ 140,831,358 4,015,636 58,434 4,369,774 4,428,060 -7,612,863 146,090,399

31 Mawrth 2014 £ 134,677,554 11,412,845 146,090,399

Sylwer mai ffigyrau’r Grŵp yw’r rhain yn ymgorffori Cyfrifon Incwm a Gwariant a Mantolenni Pennaf, Clwyd Alyn, Tŷ Glas, Offa a Tir Tai, Pen Alyn a PenElwy. I gael dealltwriaeth lawn o sefyllfa ariannol pob aelod o’r Grŵp, dylid astudio’r Datganiadau Ariannol llawn. Mae copïau o’r Datganiadau Ariannol ar gael os gofynnir amdanynt gan Ysgrifennydd y Cwmni.

Dyfarnodd Barn Hyfywedd Ariannol Llywodraeth Cymru ar 31 Mawrth 2015, a gynlluniwyd i roi dealltwriaeth i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC), eu tenantiaid, defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid eraill o hyfywedd ariannol y LCC, ddyfarniad o ‘Llwyddo’ i Pennaf, gan ddod i’r casgliad bod gan y Grŵp adnoddau digonol i fodloni ei ymrwymiadau busnes ac ariannol presennol a’r rhai a ragwelir. 15 Pennaf Annual Activities Report 2015 wel.indd 15

29/06/2015 10:15


Perfformiad / Performance Mae’r cyfrifoldeb am reoli Grŵp Tai Pennaf yn y pen draw yn aros gyda’r Byrddau Rheoli perthnasol, sy’n cynnwys Aelodau a etholir yn flynyddol. Mae gan Aelodau’r Byrddau gyfoeth o sgiliau a phrofiad a enillwyd dros nifer o flynyddoedd, ac maent yn cynnig eu gwasanaethau a’u harbenigedd i Grŵp Tai Pennaf ar sail hollol wirfoddol.

64

74

56

34

11

Teulu Family

Tenantiaeth Cyngor Council Tenancy

Gwely a Brecwast Bed & Breakfast

Cymdeithasau Tai Eraill Other Housing Associations

Ffeithiau a Ffigurau / Facts & Figures ÃÃ Yn ystod 2014/15, gosodwyd 388 o gartrefi Anghenion Cyffredinol a Cysgodol During 2014/15, 388 General Needs and Sheltered homes were let ÃÃ Yr amser a gymerwyd ar gyfartaledd i ail-osod tai gwag oedd 6.10 wythnos Average time taken to re-let vacant properties was 6.10 weeks ÃÃ Eiddo Gwag: mae cyfanswm yr incwm rhenti a gollwyd yn cyfateb i 1.23% o gyfanswm y rhenti y gellid eu casglu Voids: total rent income lost equated to 1.23% of total rent collectable

ÃÃ Y r amser a gymerwyd ar gyfartaledd i osod tai newydd a drosglwyddwyd i’w rheoli oedd 0.00 wythnos neu ar ddiwrnod eu trosglwyddo gan Datblygu Average time taken to let new properties handed over into management was 0.00 weeks or on day of handover from Development ÃÃ Gwariant cyfartalog ar Gynnal a Chadw yr uned £1,349 Average Maintenance expenditure per unit £1,349 ÃÃ Gwariodd y Gymdeithas £618.48 yr uned ar gyfartaledd ar Reolaeth Tai Average Housing Management expenditure per unit £618.48 ÃÃ Cost atgyweiriadau o ddydd-i-ddydd ar gyfartaledd £191.11 Average cost of day-to-day repairs £191.11

Atgyweiriadau Repairs: Argyfwng / Emergency Brys / Urgent Heb frys / Non-urgent

Nod Cyflawni: Target Completion: 1 diwrnod / 1 day 5 diwrnod / 5 days 28 diwrnod / 28 days

Cwblhawyd o Fewn: Completed Within: 0.92 diwrnod / 0.92 days 5.31 diwrnod / 5.31 days 21.92 diwrnod / 21.92 days

Mae Clwyd Alyn a Tŷ Glas yn Gymdeithasau elusennol Ddiwydiannol a Darbodus Clwyd Alyn and Tŷ Glas are charitable Industrial and Provident Societies

Pennaf Annual Activities Report 2015 wel.indd 16

29/06/2015 10:15

Hosteli

110

Clwyd Alyn Clwyd Alyn

£72.24

£74.18 Fflat 2 wely 2 bed flat

Fflat 1 gwely 1 bed flat

£88.22 Fflat 3 gwely 3 bed flat

32 Cytundebau Rheoli Management Agreements

£77.06

58 Y Farchnad Agored Open Market

Tŷ 1 gwely 1 bed house

62 DIYHO DIYHO

£84.43

80 Cynllun Daliadaeth ar gyfer Pobl Hŷn Leasehold Scheme for the Elderly

Tŷ 2 wely 2 bed house

98 DIYSO DIYSO

£92.36

125 Cymorth Prynu Home Buy

Tŷ 3 gwely 3 bed house

249 Gofal Ychwanegol Extra Care

£111.96

385 Rhan Berchnogaeth Shared Ownership

Tŷ 4 gwely 4 bed house

723

Tenantiaeth Preifat Private Tenancy

Daliadaeth Blaenorol Previous Tenure

Rhenti Wythnosol ar Gyfartaledd Average Weekly Rents

Tai a Gofal Care & Support

Anghenion Cyffredinol (yn cynnwys Tai Cysgodol) General Needs (including Sheltered Housing)

3,746

Unedau o Stoc Units of Housing Stock


Ultimate responsibility for the management of the Pennaf Housing Group and its members rests with the respective Boards of Management, which are made up of Members elected annually. Members of the Boards have a wealth of skills and experience gained over many years, and offer their services and expertise to the Pennaf Housing Group on an entirely voluntary basis.

Cyclical

Cylchaidd

Planned

3 Symud Ymlaen Move-on

St Asaph Office Registered Office for Pennaf, Clwyd Alyn, Tŷ Glas, Offa, Tir Tai, PenAlyn and PenElwy 72 Ffordd William Morgan St Asaph Business Park St Asaph Denbighshire LL17 0JD

£557,367

01978 714180

01745 538300

Swyddfa Llanelwy Swyddfa Gofrestredig ar gyfer Pennaf, Clwyd Alyn, Tŷ Glas, Offa, Tir Tai, PenAlyn a PenElwy 72 Ffordd William Morgan Parc Busnes Llanelwy Llanelwy Sir Ddinbych LL17 0JD

£542,771

Wedi ei gynllunio

19 Eraill Other

Day-to-day

36 Trosglwyddo/Cyfnewid Transfers/Exchanges

O ddydd-i-ddydd

40

19 Arall Other

Cyd-gyfnewid Mutual Exchange

2 Cyd-gyfnewid Mutual Exchange

134

7 Perchennog Preswyl Owner Occupier

Rhestr Aros Waiting List

11 Hosteli Hostels

£3,726,707

156

11 Cymdeithasau Tai Eraill Other Housing Associations

Gwariant ar Gynnal a Chadw Maintenance Spending

Enwebiadau gan Gynghorau Council Nominations

34 Council Tenancy

Tarddiad Ymgeiswyr Source of Applicants

Gwely a Brecwast Bed & Breakfast

laenorol ure

Gofal a Thrwsio Wrecsam Ystad Ddiwydiannol Rhosddu Rhosddu Wrecsam LL11 4YL

Wrexham Care & Repair Rhosddu Industrial Estate Rhosddu Wrexham LL11 4YL

www.pennafgroup.co.uk

Hoffwch ni/Like us: facebook.com/PennafHGroup

Pennaf Annual Activities Report 2015 wel.indd 17

Dilynwch ni/Follow us: @PennafHGroup

29/06/2015 10:15


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.