AILDDATBLYGU PENTREF PWYLIAID PENRHOS
CLWYDALYN.CO.UK
CEFNDIR Saif Pentref Pwyliaid Penrhos ar 20 erw o diroedd hardd ar Benrhyn Llŷn yng Ngwynedd, Gogledd Cymru ac roedd yn safle i’r Awyrlu yn wreiddiol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl i’r rhyfel orffen, defnyddiwyd y safle fel gwersyll dadfyddino ar gyfer aelodau o’r lluoedd o Wlad Pwyl ac yna yn 1949 Cymdeithas Dai’r Pwyliaid. Dros y blynyddoedd daeth llety wedi ei adeiladu i’r diben yn lle’r barics pren ar gyfer pobl hŷn oedd angen tai gwarchod, a gofal preswyl a nyrsio. Yn anffodus, dros y blynyddoedd wynebodd Cymdeithas Dai’r Pwyliaid nifer o heriau, gan gynnwys newid yn yr amgylchedd rheoleiddiol a chyfnod hir o ansicrwydd ariannol, oedd yn golygu bod angen gweithredu ar frys i atal y cartref gofal rhag mynd yn fethdalwr. Ar ôl archwilio’r dewisiadau i gyd, gwnaeth Cymdeithas Dai’r Pwyliaid y penderfyniad anodd i gau’r cartref er mwyn sicrhau dyfodol tymor hir Pentref Pwyliaid Penrhos. Ym Medi 2020 trosglwyddodd Cymdeithas Dai’r Pwyliaid i Tai ClwydAlyn fel rhan o drefniant cyfuno. Roedd y safle, ar y pryd, yn cynnwys y cartref gofal 42 gwely, 90 o dai gwarchod, eglwys, ardal fwyta, lolfeydd cymunedol, a siop fechan.
Trwy gydweithio rhwng Cyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a ClwydAlyn caewyd y cartref gofal bob yn gam, gan weithio’n glos gyda’r preswylwyr a’u teuluoedd i edrych ar y dewisiadau gorau ar gyfer eu gofal yn y dyfodol. Bu ClwydAlyn a Chyngor Gwynedd yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi unrhyw staff yr oedd eu swyddi’n dod i ben a phan oedd hynny’n bosibl yn eu helpu i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith eraill. Rhoddwyd yr offer yn y cartref gofal i naill ai ddarparwr gofal newydd y preswyliwr neu i gartrefi gofal eraill yn y gymuned. Gorffennwyd y gwaith o sicrhau bod y tai gwarchod presennol yn cyrraedd safon ddiogel a chefnogwyd y preswylwyr i drosglwyddo i denantiaeth rhent fforddiadwy newydd gyda ClwydAlyn, tra bydd y cynlluniau ar gyfer y safle yn cael eu datblygu.
Y CARTREFI PRESENNOL A CHYNLLUNIAU AT Y DYFODOL Mae’r tai gwarchod presennol ym Mhentref Pwyliaid Penrhos ar gyfer pobl 55 oed a hŷn, ac yn gartref i breswylwyr o’r gymuned o Bwyliaid yn ogystal â phobl o’r ardal leol. Mae’r preswylwyr yn byw mor annibynnol â phosibl, yn dawel eu meddwl bod staff ar y safle i roi cefnogaeth a chyngor petai arnyn nhw angen ychydig o help ychwanegol wrth i’w hanghenion newid. Y nod yw adeiladu ar y dreftadaeth gyfoethog a’r gymuned fywiog sy’n bodoli ym Mhenrhos i sicrhau ei fod yn parhau yn lle diogel a hapus i breswylwyr ymddeol iddo am flynyddoedd lawer i ddod. Oherwydd oedran ac adeiladwaith y cartrefi presennol, mae llawer ohonyn nhw angen buddsoddiad sylweddol iddynt gyrraedd y safon, gan gynnwys gwelliannau i effeithlonrwydd ynni’r adeiladau. Y dewis gorau yw chwalu’r strwythurau presennol ac adeiladu cartrefi newydd effeithlon o ran ynni. Mae’r holl bartneriaid wedi ymrwymo i archwilio model blaengar a newydd o ofal, sy’n cynnwys adeiladu cartref gofal newydd ar y safle (yn amodol ar gael cytundeb y partneriaid allweddol ar y cynllunio a sicrhau’r cyllid)
Y nod ar gyfer safle Penrhos yw cynnig y sbectrwm cyfan o ofal o gefnogaeth anghenion isel i ofal dwys / diwedd oes, a fyddai’n cynnwys gofal cymdeithasol a gofal iechyd. Bydd hyn yn ein galluogi i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer gofal pobl hŷn sydd yn ymwneud â darparu gwasanaethau o ansawdd sy’n effeithiol, cynaliadwy ac yn agos at gartref. Yn ogystal â darparu cartref gofal bydd hyn yn canolbwyntio ar alluogi a chefnogi annibyniaeth am gyn hired â phosibl, gan alluogi pobl i fyw eu bywydau yn y ffordd y maent yn dymuno. Mae ClwydAlyn wedi ymrwymo i ddathlu hanes a threftadaeth Bwylaidd a Chymreig y safle yn y datblygiad newydd, gan gryfhau’r ymdeimlad gwirioneddol o gymuned sydd wedi cael ei adeiladu dros y blynyddoedd.
GWEITHIO MEWN PARTNERIAETH Sefydlwyd Bwrdd Prosiect ar gyfer Pentref Pwyliaid Penrhos i arwain a goruchwylio’r ailddatblygiad a chyflenwi tai a’r gwasanaethau cysylltiedig.
Ar y Bwrdd mae cynrychiolwyr o Gyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a ClwydAlyn.
BWRDD Y PROSIECT
Grŵp Dylunio’r Ailddatblygiad
Grŵp Comisiynu a Gwasanaeth yr Ailddatblygiad
Grŵp Ymgysylltu â rhanddeiliaid, Cyfathrebu a Marchnata
PWYLLGOR TROSGLWYDDO Y PWYLIAID Sefydlwyd Pwyllgor Trosglwyddo Cymdeithas Dai’r Pwyliaid hefyd i roi adborth a chymorth am: Newid a gwella’r gwasanaeth yn dilyn y Trosglwyddiad; Ymgysylltu â phreswylwyr a chynnwys preswylwyr yn unrhyw newidiadau
Mae aelodau’r pwyllgor yn cynnwys dau aelod o fwrdd Cymdeithas Dai’r Pwyliaid, un aelod o Fwrdd ClwydAlyn sy’n gweithredu fel Cadeirydd, dau yn cynrychioli’r preswylwyr ac un aelod o staff a drosglwyddodd i ClwydAlyn o Gymdeithas Dai’r Pwyliaid.
Y weledigaeth dymor hir a’r cynlluniau ar gyfer ailddatblygu safle Penrhos Cynlluniau i greu a chyflawni etifeddiaeth barhaus i’r gymuned o Bwyliaid ym Mhenrhos Gwasanaethir a chefnogir y pwyllgor gan dîm Llywodraethu ClwydAlyn, a gyda’r Prif Swyddog Gweithredol, y tîm Gweithredol a staff eraill ClwydAlyn wrth law.
GWEITHIO GYDA PHRESWYLWYR Mae ClwydAlyn wedi bod yn gweithio’n glos gyda’r preswylwyr presennol a’u teuluoedd, gan roi’r cyfle iddynt ein helpu i ffurfio ein cynlluniau ar gyfer y safle mewn amrywiaeth o ffyrdd; o gyfarfodydd preswylwyr, cylchlythyrau, ac arolygon, i drefnu cyfleoedd cyson i ofyn cwestiynau, rhannu eu syniadau ac adborth ar ein cynlluniau. Mae’r cynlluniau datblygu yn dal mewn cyfnod cynnar oherwydd pwysigrwydd y safle a’r nifer o bartneriaid sy’n rhan o’r datblygiad blaengar hwn, ond wrth i ni symud ymlaen, byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf yn gyson a chyfleoedd i breswylwyr ddweud eu dweud.
ADRODD HANES PENTREF PWYLIAID PENRHOS Mae’n bwysig i ni gadw treftadaeth falch Bwylaidd a Chymreig Penrhos a rhoi bywyd iddi yn y datblygiad newydd, a dyna pam y mae ClwydAlyn wedi bod yn treulio amser yn siarad hefo’r preswylwyr ac eraill i ddysgu rhagor am hanes y safle a storïau’r teuluoedd sydd wedi ei alw’n gartref dros y blynyddoedd. Y nod yw cofnodi’r hanesion yma mewn ffilm fer, yn ogystal â chreu llinell amser hanesyddol ar gyfer Pentref Pwyliaid Penrhos, gan ddynodi cerrig milltir arwyddocaol yn ei hanes, a chadw dogfennau pwysig a’r dogfennau gwreiddiol y byddwn yn eu cynnig i’r Sefydliad Sikorski a’r Llyfrgell Pwylaidd yn Llundain.
Y WELEDIGAETH AR GYFER PENTREF PWYLIAID PENRHOS Cred ClwydAlyn y dylai pawb gael mynediad at gartref da y gallant ei gynhesu yn iawn, fforddio’r bwyd y mae arnyn nhw ei angen i gadw’n iach a byw mewn cymuned lle gallan nhw gyflawni eu dyheadau. Rydym am wneud hyn yn ffaith i’r preswylwyr sy’n byw ym Mhentref Pwyliaid Penrhos a bodloni anghenion pobl Gwynedd. Mae ClwydAlyn wedi bod yn gweithio’n glos gyda staff a phreswylwyr ers y cyfuno i’n helpu i ddeall anghenion preswylwyr a’r gymuned ehangach fel ein bod yn gallu siapio gwasanaethau gofal a chefnogi yn y dyfodol a datblygu cartrefi newydd o ansawdd a fydd yn cadw treftadaeth Bwylaidd a Chymreig Penrhos.
BYDD CLWYDALYN YN: • Rhoi preswylwyr yn ganolog i bopeth a wnawn ac yn datblygu ‘Tai am Oes’, gan alluogi preswylwyr i fyw’n annibynnol am gyn hired ag sy’n bosibl.
• Disodli’r holl lety ar y safle, dros gyfnod o
3-5 mlynedd, a fydd yn cael ei gwblhau mewn 3 cham; cadw’r amharu ar y preswylwyr presennol cyn lleied â phosibl a bodloni anghenion tai’r gymuned leol.
• Bydd y cartrefi newydd yn bodloni ac yn mynd
tu hwnt i’r safonau rheoleiddiol presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a safonau Tai a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru
• Creu pentref newydd, effeithlon o ran ynni a
chynaliadwy, gyda’r holl gartrefi yn cyrraedd cyfradd ‘A’ EPS gan alluogi biliau ynni isel i’r preswylwyr.
• Dod â hanes y safle’n fyw yn y datblygiad
newydd yn unol â Safonau Cartrefi a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru gan gefnogi Siarter Creu Lleoedd Cymru. Diogelu’r eglwys fel canolfan i’r gymuned a gwella’r ardd goffa furiog.
SIARTER CREU LLEOEDD CYMRU Mae ClwydAlyn wedi cadarnhau Addewid Siarter Creu Lleoedd Cymru sy’n cynrychioli ein hymrwymiad i gefnogi creu lleoedd ym mhob maes perthnasol yn ein gwaith a hyrwyddo ei egwyddorion yn y broses o gynllunio, dylunio, a rheoli lleoedd newydd a’r rhai sy’n bodoli. Gan roi ansawdd, cynaliadwyedd a chymuned yn ganolog i gynllunio. www.dcfw.org/placemaking/ placemaking-charter/
Y DIWEDDARAF AM Y DATBLYGIAD Mae 55 o bobl yn byw ym Mhentref Pwyliaid Penrhos ar hyn o bryd ac mae’n dal i groesawu preswylwyr newydd wrth i gartrefi ddod ar gael. Penodwyd pensaer tua diwedd 2020 i gyflawni ymarfer cynllun meistr ar gyfer y datblygiad ar gyfer y safle a ffurfiwyd tîm dylunio, sy’n cynnwys yr arbenigwyr canlynol: • Pensaer
Mae’r cartrefi a’r adeiladau nad oedd yn bodloni’r safonau ac na ellid byw ynddynt wedi cael eu gwagu a’u gwneud yn ddiogel cyn i’r gwaith datblygu ddechrau, ac rydym yn creu cynllun datblygu bob yn gam ar gyfer y safle cyfan. Mae adeiladau eraill ar y safle wedi cael eu gwella ac mae’r profion diogelwch wedi cael eu cwblhau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio yn y tymor byr.
• Pensaer Tir • Peiriannydd • Ecolegydd • Tyfwr Coed • Ymgynghorydd Cynllunio • Ymgynghorydd Costau
Track
73
74
255 m²
275 m²
329 m²
320 m²
309 m²
294 m²
78
77
76
75
79
329 m²
80
82
81
338 m²
341 m²
343 m²
Open Spa
ce Possible
VP
location
Lev els in
SLA are
vey info Tree sur
Open Spa
VP Open Spa
38
37
36
252 m²
254 m²
405 m²
ce
39
252 m²
40
252 m²
41
252 m²
n to cantee Access d maintaine
n to cantee Access d maintaine
69
320 m² Existing
canteen
70
321 m²
ce
72
71
321 m²
321 m²
68
retained
61
244 m²
62 63
236 m² 185
67
64
233 m²185 m²
m²
194 m²
66
169 m²
35
328 m² Open Spa
34
ce
270 m²
46 47 m² 44 45 42 43 146 m²146 m²146 m²170
33
Sub Sta
tion
51
50 48 49 146 m² 193 m²
170 m²146
m²
193
65
55 53 54 170 m²
52
213 m²
146 m² m² 146 m²
58
m² 170 m²146
270 m²
32
254 m²
VP
57
270 m² Open Spa
31
27
270 m²
263 m²
26
272 m²
25
24
272 m²
272 m²
23
272 m²
ndary SiteBou Penrhos_ e ar ct 8.66 he res 21.41 ac
VP
248 m²
ce
60
254 m²
59
254 m²
56
241 m²
22
Open Spa
266 m²
30
Memorial
270 m²
Open Spa
ce
ce
te Approxima ing of spr location
29
270 m²
Garden
Chapel
28
Cross
239 m² VP VP Open Spa
VP
ce
21
247 m²
20
260 m²
19
256 m²
ts Apartmen ed x 1b 30 units 12
286 m²
11
286 m²
10
286 m²
9
18
286 m²
215 m²
17
184 m²
16
8
192 m²
286 m²
15
192 m²
14
7
184 m²
286 m²
13
215 m²
6
286 m²
5
286 m²
4
286 m²
3
1
238 m²
426 m²
2
378 m²
Open Spa
ce
Open Spa
for allotme
ce
a are app
rmation
nts
roximate
ed not gather
GWELEDIGAETH AMGYLCHEDDOL A CHYNALIADWYEDD
Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl, gan leihau’r effaith ehangach ar wasanaethau gofal iechyd a’n cymunedau. Mae ClwydAlyn yn gweithio ar ymatebion effeithiol i newid hinsawdd ac yn archwilio syniadau ar gyfer cartrefi carbon isel, dyluniadau blaengar a defnyddio cadwyni cyflenwi lleol fel bod gan y cartrefi a adeiladir gostau rhedeg eithriadol o isel gan roi arbedion uniongyrchol i breswylwyr ar eu biliau ynni. Rhai o’r dulliau effeithlon o ran ynni sy’n cael eu harchwilio yw:
• Systemau gwresogi carbon isel blaengar fel pympiau gwres ffynhonnell Aer a Thir
• Dull ffabrig yn gyntaf gan ddefnyddio ‘Dulliau
Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl
• Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon cysylltiedig yn isel
Mae ClwydAlyn yn arwain ar gynlluniau carbon isel arloesol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio technoleg newydd i adeiladu cartrefi blaengar, carbon isel newydd, yn ogystal ag arwain ar sefydlu Hwb Perfformiad Tai Sero Carbon yng Nghymru, a fydd yn gweithio gyda chymdeithasau tai eraill, awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector i rannu gwybodaeth ac arfer gorau i gyflymu’r dysgu a’r blaengaredd. Bydd yr hwb yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi’r sector tai yng Nghymru i gyrraedd y targedau carbon isel a di-garbon ar gyfer cartrefi erbyn 2050.
• Gosod cartrefi i wneud y mwyaf o’r haul a lefelau
golau naturiol, gyda’r potensial ar gyfer paneli solar a storio mewn batris i wneud y mwyaf o ynni’r haul
• Systemau awyru goddefol sy’n mesur ansawdd yr
aer yn awtomatig ac addasu cyfradd gyfnewid yr aer, gan leihau allyriadau carbon gweithredol yn sylweddol
• Cyfleusterau gwefru trydan • Gwneud y mwyaf o fannau gwyrdd i gynyddu bioamrywiaeth
Niwtral
CYFLOGAETH
Yn 2020 cwblhaodd ClwydAlyn 38 o dai ffrâm bren yn Llanbedr, a ariannwyd trwy Raglen Tai Blaengar Llywodraeth Cymru. Adeiladir y cartrefi sy’n garbon sero am oes trwy ddefnyddio dulliau adeiladu modern, gan ddefnyddio coed o Gymru a chadwyni cyflenwi lleol i gefnogi’r adferiad gwyrdd. Aeth y prosiect tu hwnt i’r targed carbon a osodwyd gan RIBA yn eu hymgyrch Her Hinsawdd 2030, gan ei guro o 16% anferth.
”
Rydym yn ymroddedig i adeiladu rhagor o dai o safon uchel mewn ffatrïoedd yma yng Nghymru. Yn Llanbedr Dyffryn Clwyd, dangosodd ClwydAlyn beth allwn ni ei gyflawni gyda’n gilydd. Gyda chyflenwyr lleol maent wedi adeiladu 38 o gartrefi ffrâm bren, carbon isel gyda chostau rhedeg isel iawn a fydd yn rhoi mwy o arian ym mhocedi’r tenantiaid.
J U L I E J A M E S AS , Y GWEINIDOG N E W I D H I N S AW D D
”
Bydd y datblygiad yn creu nifer sylweddol o gyfleoedd gwaith yn yr ardal. Mae’r partneriaid yn ymroddedig i weithio gyda chontractwyr a phartneriaid i greu cyfleoedd gwaith i bobl leol. Mae ClwydAlyn hefyd yn gweithio gydag Academi Gyflogaeth Cyfleoedd Creu Menter (y Fenter Gymdeithasol sy’n rhan o Gartrefi Conwy) i ddatblygu rhaglen gyflogadwyedd i gefnogi preswylwyr i gael gwaith. Bydd y rhaglen yn rhoi cyfuniad o ddatblygu sgiliau gwaith a chymorth i gefnogi preswyliwr i oresgyn yr hyn sy’n cael eu hatal rhag cael gwaith.
MANTEISION Trwy’r buddsoddiad yn y safle, bydd yn helpu i gryfhau’r economi leol; trwy roi swyddi a chefnogi cadwyni cyflenwi lleo Bydd ClwydAlyn yn buddsoddi’n lleol. Gan ddefnyddio ei brosesau caffael i gefnogi busnesau lleol, creu swyddi, cynnig hyfforddiant a chanolbwyntio ar y gwerth sy’n cael ei greu gan yr hyn y bydd yn ei wario, ac nid dim ond y gost i gyflawni: Manteision economaidd sylweddol Cartrefi fforddiadwy, o safon uchel ac effeithlon o ran ynni Cefnogaeth sylweddol gan Lywodraeth Cymru Creu cyfleoedd gwaith Cyfrannu at ostwng allyriadau carbon
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF
Bydd Bwrdd y Prosiect a’r is-gwmnïau yn parhau i weithio gyda phartneriaid ac arbenigwyr y diwydiant i ddatblygu’r cynlluniau blaengar ar gyfer y pentref a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd. Os ydych chi neu unrhyw un o’ch cydweithwyr yn dymuno bod yn rhan o’n cynlluniau ymgysylltu â rhanddeiliaid yna rhowch wybod i ni trwy anfon e-bost at communications@clwydalyn.co.uk
Rhadffon: 0800 183 5757 E-bost: help@clwydalyn.co.uk
@ClwydAlyn
ClwydAlyn.co.uk
72 Ffordd William Morgan Parc Busnes Llanelwy Llanelwy Sir Ddinbych LL17 0JD Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol