'Byw' - Cylchlythyr Preswylwyr - Gaeaf 2017

Page 1

Agor Drysau – Gwella Bywydau

www.clwydalyn.co.uk www.tyglas.co.uk

Cylchlythyr Preswylwyr - Gaeaf 2017

Yn y rhifyn hwn: Pg 4 Credyd Cynhwysol Pg 11 Help ar gael i dalu eich bil dŵr Pg 14 Cystadlaethau! Pg 8-9 Ein digwyddiadau cymunedol

Pg 10 Rhent Yn Gyntaf

Ffôn: 0800 183 5757 or 01745 536800 Ebost: enquiries@clwydalyn.co.uk Mae Clwyd Alyn a Tŷ Glas yn Gymdeithasau Cofrestredig elusennol


CROESO

Cadwch lygad ar y newyddion a digwyddiadau diweddaraf ar Facebook a Twitter Peidiwch ag anghofio edrych ar ein tudalennau Facebook a Twitter, lle byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd. Rhowch neges ar ein wal os byddwch am ofyn rhywbeth, darganfod rhagor am yr hyn sy’n mynd ymlaen yn eich hardal a beth yr ydym yn ei wneud yn eich cymuned. Rydym yn rhoi’r diweddaraf am wasanaethau hefyd yn ogystal â newyddion am y Grŵp, datblygiadau, swyddi gwag a digwyddiadau lleol. Hoffwch ni: facebook.com/PennafHGroup Dilynwch ni: @PennafHGroup

CYNNWYS

td

Newyddion brys ꢀÃ

3

Credyd Cynhwysol ꢀÃ Gwasanaeth llawn ar ei ffordd!

4

Ffurflenni cais ar gael ar 5 ꢀÃ gyfer Cynlluniau Gofal Ychwanegol rŵan Angen gwneud mân 6 ꢀÃ addasiadau i’ch cartref? Rolau newydd ꢀÃ

7

Pyls y Tenantiaid - a ꢀÃ ydych chi yn Denant yng Nghymru?

7

Ewch Ar-lein - Porth ꢀÃ y Preswylwyr

7

ꢀÃDigwyddiad Cymunedol

8-9

Rhent yn gyntaf ꢀÃ

10

Gwasanaeth glanhau ꢀÃ ‘mewnol’ yn dod i drefn

11

Help ar gael i dalu eich ꢀÃ bil dŵr

11

O’r rheng flaen ꢀÃ

12-13

Cystadleuaeth! ꢀÃ

14

MANYLION CYSWLLT Rydym am gael clywed eich newyddion lleol bob amser. Os oes gennych unrhyw erthyglau y byddech yn hoffi eu cynnwys yn y cylchlythyr nesaf, anfonwch nhw at Gareth gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod. 01745 536843

gareth.hughesroberts@clwydalyn.co.uk

Hoffwch ni: facebook.com/PennafHGroup Dilynwch ni: @PennafHGroup

www.clwydalyn.co.uk

72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych LL17 0JD

Talu i Aelodau o’r Bwrdd Yn dilyn dadl fusnes a baratowyd yn annibynnol, cytunwyd i ddechrau talu i Aelodau’r Bwrdd am eu gwasanaeth, yn unol â’r caniatâd a roddwyd yn ddiweddar gan Ysgrifennydd Cabinet Cymunedau a Phlant Llywodraeth Cymru. Roedd hyn yn arfer cyffredin ymhlith Cymdeithasau yn Lloegr ers nifer o flynyddoedd, ond ni fydd y Gymdeithas Dai gyntaf i wneud hyn yng Nghymru, er bod disgwyl i eraill ddilyn yn gymharol fuan. Dangosodd profiad yn Lloegr bod talu yn helpu i recriwtio Aelodau o’r Bwrdd o safon uchel gyda’r arbenigedd a’r sgiliau i reoli’r busnesau hynod gymhleth y mae Cymdeithasau Tai wedi troi ynddynt a’u llywio ymlaen yn yr amgylchedd mwyaf cystadleuol y mae’n rhaid i ni weithredu ynddo. Am hynny gallwn ddisgwyl lefel well o ymrwymiad ar ran aelodau na phetaent yno yn hollol wirfoddol. Y gwir lefelau talu yw; Cadeirydd Pennaf £8,500 y flwyddyn, Cadeirydd Clwyd Alyn a Tŷ Glas £5,500 y flwyddyn: ac Aelod o’r Bwrdd £3,500 y flwyddyn. Cytunwyd ar y rhain trwy feincnodi mewn cymhariaeth â’r taliadau cyfredol mewn cymdeithasau tebyg. Byddant yn cael eu gosod am gyfnod o 3 blynedd ac ar ei ddiwedd byddant yn cael eu hadolygu yn annibynnol. Y gost gyffredinol y flwyddyn fydd tua £60,000, sy’n 0.0016% o’n trosiant blynyddol. Mae Rheoleiddiwr Llywodraeth Cymru wedi cael gwybod am y bwriad.

Ymddeoliad ein Prif Weithredwr Cyhoeddodd Graham Worthington, Prif Weithredwr Grŵp Tai Pennaf ei fod am ymddeol o’r sefydliad ym Mawrth 2018 ar ôl 22 mlynedd yn arwain y Grŵp. Bu Graham yn gweithio ym maes tai ers mwy na 30 mlynedd a daeth yn Brif Weithredwr Clwyd Alyn yn 1995. Yn dilyn lansio Pennaf fel y sefydliad tai ymbarél sy’n arwain y ffordd o ran darparu gwasanaethau tai ar draws gogledd a chanolbarth Cymru yn 2003, gwelodd y Grŵp yn ehangu i gyflogi 667 o staff ar hyn o bryd a rheoli portffolio amrywiol o 5,900 o gartrefi ar draws Powys, Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac Ynys Môn. “Mae fy nghyfnod yn Pennaf wedi bod yn un o ddefnyddio dull blaengar, gan ddod o hyd i atebion creadigol i’r amgylchedd cyfnewidiol yr ydym yn gweithredu ynddo. “Ond yn bennaf oll, rwyf yn falch o fod wedi bod yn rhan o sefydliad sydd wedi cynnig atebion tai i filoedd o bobl ar draws gogledd a chanolbarth Cymru, a hoffwn ddiolch i Staff, Aelodau’r Bwrdd a’n Preswylwyr sy’n Gwirfoddoli yn y gorffennol a’r rhai presennol am eu hymroddiad a’u cefnogaeth ar hyd y blynyddoedd.”

0800 183 5757 or 01745 536 800 Gwaith trwsio argyfwng tu allan i oriau swyddfa ffoniwch: 0300 123 30 91 2 Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2017

Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2017

3


Ffurflenni cais ALLAN RŴAN ar gyfer ein Cynlluniau Gofal Ychwanegol

Credyd Cynhwysol – Gwasanaeth llawn ar ei ffordd! Un taliad misol yw’r Credyd Cynhwysol (UC) i bobl sydd mewn gwaith neu heb waith.

Pryd fydd y cyfnod aros saith diwrnod ddim yn berthnasol

• Yn y gwasanaeth Credyd Cynhwysol llawn dim Mae’n disodli rhai o’r budd-daliadau a ond ar-lein y gallwch hawlio. chredydau treth y gallwch fod yn eu cael rŵan:

Ni fydd y cyfnod aros saith diwrnod yn berthnasol os, er enghraifft, eich bod: • Wedi hawlio Credyd Cynhwysol yn y chwe mis diwethaf

• • • • • •

Lwfans Ceisio Gwaith ar Sail Incwm Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar Sail Incwm Cymorth Incwm Credyd Treth Plant Credyd Treth Gwaith Budd-dal Tai.

Hyd yn ddiweddar dim ond mewn ardaloedd “gwasanaeth byw” yr oedd Credyd Cynhwysol ar gael. Ond, mae’r DWP wedi cyhoeddi eu bod yn cyflwyno eu “gwasanaeth digidol llawn”. Bydd pobl sydd yn hawlio Credyd Cynhwysol ar y gwasanaeth byw yn awr yn cael eu trosglwyddo i’r gwasanaeth llawn ynghyd â’r holl hawlwyr newydd.

Amserlen gwasanaeth llawn: • • • • • •

Ebrill 2017 – Sir y Fflint Hydref 2017 – Wrecsam Ebrill 2018 – Sir Ddinbych Mehefin 2018 – Conwy Mehefin 2018 – Ynys Môn Hydref 2018 – Powys

Ychydig o bethau i’w dysgu am Gredyd Cynhwysol: • Os byddwch chi yn cael help gyda’ch rhent, bydd hyn yn cael ei gynnwys yn eich taliad misol – byddwch chi’n talu’n uniongyrchol i’ch landlord wedyn. Ond, mewn rhai amgylchiadau gall rhent gael ei dalu yn uniongyrchol i’ch landlord. • Os ydych yn byw gyda rhywun fel cwpl â’ch bod chi eich dau yn gymwys i hawlio Credyd Cynhwysol, byddwch yn cael un taliad cyfun i un cyfrif banc. • Telir Credyd Cynhwysol yn fisol yn ôl ac felly gall gymryd hyd at chwe wythnos ar ôl i chi hawlio i chi gael eich taliad cyntaf. • Nid oes unrhyw gyfyngiad ar faint o oriau’r wythnos y gallwch eu gweithio os byddwch yn hawlio Credyd Cynhwysol. Yn hytrach, bydd y swm y byddwch yn ei dderbyn yn gostwng yn raddol wrth i chi ennill rhagor, felly ni fyddwch yn colli eich holl fudd-daliadau ar unwaith.

• Pan fyddwch yn derbyn Credyd Cynhwysol bydd gennych gysylltiad â hyfforddwr gwaith a all eich helpu gyda phethau fel, dod o hyd i waith, cynyddu’r oriau yr ydych yn eu gweithio, bod yn fwy parod am waith pan fyddwch yn gallu gweithio trwy ddysgu sgiliau gwaith newydd neu sgiliau bywyd. Mae eich helpu i wella eich incwm yn ganolog i’r gwasanaeth Credyd Cynhwysol. • Gwyliwch am newidiadau newydd i Gredyd Cynhwysol yn 2018, o ganlyniad i ddatganiad gyllideb hydref y Canghellor ym mis Tachwedd. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael maes o law.

Esbonio’r taliad Credyd Cynhwysol ymhellach • Os byddwch chi yn hawlio Credyd Cynhwysol o’r newydd, ni fyddwch yn cael eich talu am y saith diwrnod cyntaf. Gelwir y rhain yn ddyddiau aros. Ond, mae rhai eithriadau i’r rheol hon (gweler isod). • Peidiwch â gadael i hyn eich atal rhag hawlio a gwneud cais cyn gynted at y bydd gennych hawl i wneud hynny gan y gall gymryd hyd at chwe wythnos ar ôl eich hawliad i’ch taliad cyntaf gyrraedd eich cyfrif. • Y seithfed diwrnod ar ôl i chi gyflwyno’ch hawliad yw’r dyddiad o’r mis pan fydd eich Taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu bob mis. Gelwir hwn yn ddyddiad asesiad. • Telir Credyd Cynhwysol yn fisol fel ôl-ddyled felly bydd raid i chi aros un mis calendr o’ch dyddiad asesiad cyn i’ch taliad Credyd Cynhwysol cyntaf gael ei wneud. Gelwir hyn yn gyfnod asesiad. • Yna bydd raid i chi aros hyd at saith diwrnod i’r taliad gyrraedd eich cyfrif banc. • Mae hyn yn golygu y gall gymryd hyd at chwe wythnos cyn i chi gael eich taliad cyntaf. • Os ydych yn ei chael yn anodd ymdopi wrth aros am y taliad cyntaf gallwch ofyn am “daliad ymlaen llaw”. Bydd hwn yn cael ei ad-dalu o’r arian o hynny ymlaen.

4 Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2017

• Yn gwahanu oddi wrth rywun neu yn symud i fyw at rywun sydd eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol • Yn symud i fod ar Gredyd Cynhwysol ar ôl bod ar fudd-dal arall • Yn dioddef salwch terfynol

Mae Cymdeithas Tai Tŷ Glas, rhan o Grŵp Tai Pennaf, yn datblygu 3 Cynllun Gofal Ychwanegol, Hafan Cefni yn Llangefni, Llys Raddington yn y Fflint a Maes y Dderwen yn Wrecsam; gyda’i gilydd maent yn werth tua £26m ac maent yn hwb sylweddol i economi’r ardal. Mae ffurflenni cais ar gael rŵan ar gyfer pob un o’r Cynlluniau Gofal Ychwanegol isod, ac rydym yn argymell yn gryf y dylai ceisiadau gael eu cyflwyno cyn gynted â phosibl gan fod y broses ddyrannu wedi dechrau.

Hafan Cefni – Llangefni 63 o fflatiau Gofal Ychwanegol 1 a 2 ystafell wely o safon uchel ar rent, gyda chyfleusterau cymunedol. Mae 15 o’r fflatiau wedi eu dylunio a’u haddasu yn benodol ar gyfer pobl â phroblemau cof neu’n byw gyda dementia. Mewn partneriaeth â

• Yn fregus, er enghraifft, eich bod wedi dioddef trais domestig yn ddiweddar neu yn gadael gofal carchar

Enghraifft o hawliad • Mae Mr Jones wedi colli ei swydd ac mae’n cyflwyno hawliad ar gyfer Credyd Cynhwysol ar 15 Gorffennaf. • Rhaid iddo aros saith niwrnod cyn y gall ei hawliad gychwyn. • Ei ddyddiad asesiad felly yw 22 Gorffennaf. Bydd hyn yn golygu y bydd yn cael ei dalu ar y 22 o bob mis. • Bydd arno angen aros am un cyfnod asesu (sef mis calendr) hyd 22 Awst oherwydd mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu yn fisol fel ôl-ddyled. • Rhaid iddo hefyd adael hyd at saith niwrnod i’r arian gyrraedd ei gyfrif. • Dylai ddisgwyl ei daliad Credyd Cynhwysol cyntaf ddim hwyrach na 29 Awst. • Os yw 29 Awst yn ddydd Llun Gŵyl y Banc, dylai dderbyn taliad ar y diwrnod gwaith olaf (dydd Gwener) cyn y gwyliau.

Llys Raddington – Flint 73 o fflatiau Gofal Ychwanegol 1 a 2 ystafell wely o safon uchel ar rent, gyda chyfleusterau cymunedol. Mae 15 o’r fflatiau wedi eu dylunio a’u haddasu yn benodol ar gyfer pobl â phroblemau cof neu’n byw gyda dementia. Mewn partneriaeth â

Maes y Dderwen – Wrexham 60 o fflatiau Gofal Ychwanegol 1 a 2 ystafell wely o safon uchel ar rent, gyda chyfleusterau cymunedol. Mewn partneriaeth â

Am ragor o wybodaeth am hawlio Credyd Cynhwysol ewch i www.gov.uk/universal-credit www.citizensadvice.org.uk/benefits/ universal-credit/ neu Cysylltwch ag un o’n Swyddogion Hawliau Lles a Chyngor Ariannol ar 0800 183 5757.

Os ydych chi’n 60 oed neu hŷn, a bod gennych anghenion o ran gofal a chefnogaeth, ac yn teimlo y byddech yn cael budd o fyw yn un o’n Cynlluniau Gofal Ychwanegol, gallwch gysylltu â ni yn y ffyrdd canlynol:

Rhadffôn: 0800 183 5757 E-bost: enquiries@tyglas.co.uk www.tyglas.co.uk

Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2017 5


Angen gwneud Mân Addasiadau i’ch cartref? Os bydd arnoch angen gwneud newidiadau i’ch cartref oherwydd bod eich anghenion wedi newid neu eich bod yn Breswyliwr newydd, efallai y byddwch yn medru cael grant trwom ni neu Lywodraeth Cymru. Dim ond Grantiau Mân Addasiadau, a elwir hefyd yn Grantiau Addasiadau Ffisegol y gellir eu gwneud ar ein heiddo. Os bydd arnoch angen gwneud newidiadau i’ch cartref oherwydd bod eich anghenion wedi newid neu eich bod yn Breswyliwr newydd, efallai y byddwch yn medru cael grant trwom ni neu Lywodraeth Cymru. Dim ond Grantiau Mân Addasiadau, a elwir hefyd yn Grantiau Addasiadau Ffisegol y gellir eu gwneud ar ein heiddo.

Am beth fydd y grant yn talu? Er mwyn i ni wneud cais am grant rhaid i chi gyflwyno adroddiad gan Therapydd Galwedigaethol i ni sy’n nodi pa newidiadau sydd eu hangen. Gall y gwaith nodweddiadol all ddod dan y cynllun gynnwys:

addasiadau i ystafell ymolchi tynnu bath a gosod cawod mynediad gwastad yn ei le

lifft grisiau / lifft darparu lifft grisiau neu lifft trwy’r llawr

Pyls y Tenantiaid Am i’ch barn ar amrywiaeth eang o bynciau gael ei chlywed gan:

Eich landlord?

Eich Cyngor lleol?

Llywodraeth Cymru?

Llunwyr penderfyniadau cymunedol allweddol?

A ydych chi yn Denant yng Nghymru? Bob tro yr ydych yn rhoi eich barn gallech ennill talebau Stryd Fawr. Rydym yn annog tenantiaid o bob math o dai.

Sut i ymuno â Phyls y Tenantiaid? 1. Ewch i: www.tpas.cymru/pulse

offer codi darparu offer codi a gwaith cysylltiedig i gynorthwyo tenantiaid a’u gofalwyr i symud y tenant yn ddiogel a chyfleus o gwmpas ei gartref

Gofynnir i chi lenwi arolygon byr am faterion pwysig o dro i dro e.e. Diwygio lles, deddfwriaeth tai newydd ac ati.

2. Llenwch ein ffurflen gofrestru bapur trwy rad bost Mae copïau papur ar gael trwy ffonio

02920 237303 neu 01492 593046 Cynnig wrth Ymuno: Bydd enw pawb sy’n ymuno â Phyls y Tenantiaid yn cael ei roi mewn het bob mis i ennill £20 o dalebau Stryd Fawr.

addasiadau cegin darparu unedau o uchder cymorth i gael mynediad rampiau, newidiadau i ffyrdd at dai neu lwybrau, rheiliau llaw neu reiliau gafael

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Preswylwyr ar y Pwyllgor Gwella Gwasanaethau ac ar y Partneriaid Ansawdd wedi treulio llawer o amser yn datblygu eu rolau yng nghanol ein gweithgareddau Cynnwys Preswylwyr. Ar ôl ei ail enwi yn awr yn Grŵp Craffu Partneriaid Ansawdd, bydd gan yr aelodau rôl gryfach, yn craffu ar feysydd gwasanaeth ac argymell gwelliannau i’r Byrddau Rheoli a’r Pwyllgor Gwella Gwasanaethau. Yn ei dro bydd y Pwyllgor Gwella Gwasanaethau yn rhoi sicrwydd bod ansawdd y gwasanaeth, gwerth am arian a’ch disgwyliadau chi, ein cwsmeriaid, yn bodloni gofynion y Bwrdd.

Os ydych, pam na ymunwch chi â Phyls y Tenantiaid.

amrywiol

Rolau newydd i’r Pwyllgor Gwella Gwasanaethau a’r Grŵp Craffu Partneriaid Ansawdd

addasiadau eraill amrywiol to uwch car, cyfyngwyr drysau, systemau agor drysau. Mewn rhai achosion, gall gwaith mawr gael ei ariannu, os bydd yn ofynnol. Gall y rhain gynnwys newidiadau strwythurol i’r eiddo fel estyniadau ar gyfer ystafelloedd gwely neu ystafelloedd ymolchi ar y llawr gwaelod

Os ydych chi’n meddwl y gall Grant Addasiadau Ffisegol eich helpu chi, cysylltwch â’ch Adran Gwasanaethau Cymdeithasol leol yn gyntaf. 6 Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2017

Ewch Ar-lein Porth y Preswylwyr Peidiwch ag anghofio cofrestru ar y Porth Preswylwyr. Bydd arnoch angen eich rhif cyfeirio tenantiaeth a rhif unigryw i gofrestru. Sylwer, ar ôl i chi gofrestru ar y porth, ni fydd arnoch angen defnyddio’r rhif hir, unigryw, achos unwaith y bydd eich cyfrif yn fyw, byddwch yn dewis eich cyfrinair eich hun i fewngofnodi bob tro. Os bydd gennych angen unrhyw help wrth gofrestru ar y Porth Preswylwyr, cysylltwch â ni ar 0800 183 5757.

Hoffwch ni: facebook.com/PennafHGroup Dilynwch ni: @PennafHGroup

Cadwch lygad ar y newyddion a digwyddiadau diweddaraf ar Facebook a Twitter Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2017

7


DIGWYDDIADAU CYMUNEDOL Mae wedi bod yn gyfnod prysur eto, i lawer iawn o’n preswylwyr, diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan yn ein digwyddiadau cymunedol. Os hoffech ddarllen rhagor am y digwyddiadau cymunedol sy’n cael sylw ar yr hysbysfwrdd neu ddigwyddiadau eraill, www.clwydalyn.co.uk/newyddion.

Children from Saltney, enjoying fresh air and fun at a ‘Nature and Wellbeing event’.

Preswylwyr Llys Eglwys yn cyfarfod Swyddogion i drafod gwasanaethau a mwynhau te hufen

Taith Preswylwyr Rosehill i Dangerpoint

Gyrfa fel Dyn Tân yn y dyfodol

CYSTADLEUAETH

ARDDIO 8 Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2017

Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2017 9


Dŵr Cymru – Help ar gael i dalu eich bil dŵr Cysylltwch â ni heddiw i gael gwybod am yr ystod o gynlluniau yr ydym yn eu cynnig a all helpu i leihau eich bil dŵr. Mae’r rhain yn cynnwys:

Rhent yn Gyntaf

HelpU

Beth sy’n digwydd os byddaf yn ei chael yn anodd talu fy rhent? Gall fod yn anodd talu eich taliadau rhent mewn pryd, yn arbennig dros y Nadolig ond talu eich rhent sy’n gofalu bod gennych do dros eich pen, mae hefyd yn ein galluogi ni i ddarparu’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu, fel cynnal eich cartref. Rhaid i’ch rhent gael blaenoriaeth bob amser. Byddwn yn eich cefnogi i aros yn eich cartref a thalu eich rhent mewn pryd. Byddwn yn ceisio eich helpu gyda chyngor a chefnogaeth ariannol. Mae gennych Swyddogion Incwm penodol i siarad â nhw. Rydym am ddeall eich sefyllfa, felly mae’n bwysig i chi gadw mewn cysylltiad â’ch Swyddog Incwm os byddwch yn teimlo y byddwch yn ei chael yn anodd talu’r hyn yr ydych wedi ei gytuno. Bydd cytundeb talu y gellir ymdopi ag o yn cael sylw bob amser. Os byddwch yn anwybyddu ein hymdrechion i’ch helpu ac na fyddwch yn talu’r hyn yr ydych wedi cytuno i’w wneud, efallai na fydd gennym ddewis heblaw cymryd camau cyfreithiol a all olygu bod eich achos yn mynd i’r Llys Sirol ac fel cam olaf gallwch fod mewn perygl o golli eich cartref.

Cofiwch: rydym yma i’ch helpu. Mae’n bwysig i chi dalu taliadau dyledus gan y gall dyledion atal landlordiaid cymdeithasol eraill rhag rhoi cartref i chi yn y dyfodol. Byddwn yn mynd ar ôl pob dyled yn rhagweithiol a gallwn ystyried cael Gorchymyn Barn Arian yn eich erbyn. Gall hyn arwain at gostau ychwanegol ac effeithio ar eich gallu i gael credyd yn y dyfodol.

Bydd ein cynllun HelpU yn capio eich bil dŵr a charthffosiaeth ar £190 ac mae ar gael i gwsmeriaid pan fydd cyfanswm incwm yr aelwyd yn £15,000 y flwyddyn neu lai.

WaterSure Cymru

Gwasanaeth Glanhau Mewnol yn Dod i Drefn Yn 2016 penderfynodd Pennaf y byddai’n dod â’r gwasanaeth glanhau yn fewnol i wella’r gwasanaeth, chwilio am arbedion a sicrhau gwerth am arian. Mae tîm glanhau PenAlyn yn cynnwys naw o weithwyr newydd, rhagweithiol, ymroddedig ac maent wedi bod yn weithredol ers pum mis yn cynnig gwasanaeth glanhau a glanhau cymunedol i eiddo Clwyd Alyn i breswylwyr Clwyd Alyn. Gwneir y gwaith glanhau ar draws stoc Clwyd Alyn i gyd ym mhob ardal o Gaergybi i’r Trallwng, mae’r gwaith yn cael ei wneud ar rota glanhau parhaus i ymdrin â gofynion glanhau penodol yr adeiladau.

10 Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2017

Mae ein cynllun WaterSure Cymru ar gael i’n cwsmeriaid sydd â mesurydd dŵr wedi ei osod. Mae’n helpu aelwydydd ar incwm isel sydd â theulu mawr neu aelod o’r teulu â chyflwr meddygol penodol. Bydd eich taliadau blynyddol yn cael eu capio ar £308.

Water Direct Mae ein cynllun Water Direct yn cael gwared ar y drafferth o dalu eich biliau. Mae’n gadael i’r cwsmeriaid hynny sy’n cael rhai buddion ac sydd ag ôl-ddyledion ar hyn o bryd dalu yn uniongyrchol trwy eu budd-daliadau. Os byddwch yn ymuno, fe fyddwn hyd yn oed yn lleihau eich bil o £25!

Cronfa Cymorth i Gwsmeriaid Os bydd gennych ôl-ddyledion i ni, efallai y bydd ein Cronfa Cymorth i Gwsmeriaid yn gallu helpu. Nid yn unig mae’r cynllun hwn yn eich helpu i dalu eich taliadau presennol, ond mae hefyd yn helpu i dalu unrhyw ôl-ddyledion ar yr un pryd. Os byddwch yn ymrwymo i gynllun talu am 6 mis fe fyddwn yn talu hanner eich ôl-ddyled, os byddwch wedyn yn talu 6 mis arall byddwn yn talu’r balans sy’n weddill o’ch ôlddyledion. Cysylltwch â ni yn awr a gallwch ddechrau manteisio ar yr help y gallwn ei roi i chi. Ffoniwch: 0800 0520145 Oriau agor: 8am -8pm (Dydd Llun – i ddydd Gwener) a 8.30am – 1.30pm ar ddydd Sadwrn E-bost: water.enquiries@dwrcymru.com Online: dwrcymru.com/arian

Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2017 11


O’r rheng flaen Croeso i’n cyfres newydd lle bydd Preswylwyr a Staff yn cael eu gwahodd i ddweud wrthym am eu rôl a beth sy’n eu hysgogi yn eu gwaith. Yn y rhifyn hwn rydym yn holi David Hughes ac Yvonne Cole

David Hughes, Is-gadeirydd y Gwasanaeth Pwyllgor Gwella Gwasanaethau.

ond gallwch ddewis peidio ar unrhyw adeg. Cofiwch, nid oes unrhyw orfodaeth na phwysau arnoch.

Beth yw’r peth gorau am wirfoddoli i Clwyd Alyn?

Sut ddaethoch chi mewn i faes Tai?

Yvonne Cole, Swyddog Tai

Fe ddechreuais i drwy ddamwain yn llwyr yn 41 oed. Nid oedd gennyf unrhyw wybodaeth am dai cymdeithasol ac nid oeddwn wedi gweithio gyda chyfrifiaduron. Dysgais am y ddau faes yn gyflym iawn ar ôl dechrau gweithio yn y Ganolfan Gyswllt ddeng mlynedd yn ôl. Roeddwn wedi gweithio yn y gorffennol yn yr hyn oedd yn Adran Iechyd a Lles Cymdeithasol a gadewais yn 1993, gan fynd yn ôl i’r gwaith yn 2002 yn gweithio rhan-amser ym maes adwerthu. Yn y pendraw fe wnes gais am swydd ran-amser yn y Ganolfan Gyswllt fel Cynghorydd Gwasanaethau Cwsmeriaid i Clwyd Alyn a dwi ddim wedi edrych yn ôl ers hynny.

Rydych yn creu cyfeillgarwch newydd, yn creu perthynas waith â’r staff ac Aelodau’r Bwrdd. Rydych yn cael cyfle i gael hyfforddiant ar sawl agwedd o faterion tai a materion cysylltiedig, ac rydych yn teimlo eich bod yn rhan o’r tîm a’ch bod yn cael effaith uniongyrchol ar bolisïau’r gymdeithas.

Beth sydd fwyaf heriol. Dywedwch wrthym am eich ymwneud â Clwyd Alyn? Rwy’n cyfrannu fel un o Breswylwyr Clwyd Alyn ar lefelau amrywiol, o’m rôl yn y Pwyllgor Gwella Gwasanaethau pan fydd Preswylwyr yn chwilio am sicrwydd bod y Gwasanaethau y mae’r Gymdeithas yn eu darparu yn gweithio er budd yr holl Breswylwyr. Rwy’n ymwneud â nifer o grwpiau eraill a Phaneli Gwasanaeth sy’n rhoi saf wynt y Preswylwyr. Un o’r pethau sy’n rhoi mwyaf o foddhad i mi yw ffonio Preswylwyr sydd newydd gael gwaith trwsio ar eu heiddo i holi am eu bodlonrwydd ac ansawdd y gwaith. Yn ddiweddar, hefyd, rwyf wedi bod yn ymwneud â chyfweliadau ar gyfer Staff newydd, yn ymdrin â glanhau a gwasanaethau casglu incwm.

Beth yw’r peth gorau am eich gwaith?

Cofio bod yn rhaid i chi gael golwg gyffredinol ar holl faterion Preswylwyr ac nid eich amgylchiadau unigol chi neu’ch cynllun. Gallu i wrando, cael y darlun mawr, cofio beth sy’n mynd ymlaen o ran diwygio’r wladwriaeth les a deddfwriaeth tai ar hyn o bryd. Rydych yn cael gweld y gwaith papur perthnasol sy’n ymwneud â’r newidiadau hyn.

IPetaech yn gallu newid unrhyw beth yn y byd ar hyn o bryd, beth fyddai hynny? Fel cyn-aelod o’r lluoedd arfog rwyf wedi gweld dinistr, tlodi a phobl wedi eu hanafu. Petawn i’n gallu mi fyddwn yn pwysleisio ar y rhai sy’n llywodraethu pob gwlad bod siarad yn dda, ond bod cydymdeimlad yn well!

Sut wnaethoch chi ddechrau gwirfoddoli i ni?

A oes unrhyw beth y gall Clwyd Alyn ei wneud i gael mwy o Breswylwyri gymryd rhan?

Rwy’n rhoi’r bai ar y Swyddog Ymlyniad Cymunedol Gareth Hughes Roberts! Y cyfan wnes i oedd mynd i sesiwn ar gadwraeth ynni yng Nghanolfan Hamdden y Fflint a chael fy nhynnu i mewn, na wir yr gallwch gymryd rhan trwy ddod i ddim ond un cyfarfod y flwyddyn i roi eich barn, i fynd i’r nifer yr ydw i yn mynd iddynt,

Cyfathrebu yw’r allwedd, dwi ddim yn meddwl bod Clwyd Alyn yn gwneud pethau’n iawn yn y cyfeiriad hwnnw. Mae’n gwella, ond gallai wella mwy eto, yn arbennig o ran y cyfryngau cymdeithasol a’r wefan, gan gynnwys Porth y Preswylwyr.

12 Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2017

Dywedwch wrthym am eich gwaith? Rwy’n Swyddog Tai yn rheoli eiddo ar rent yn Sir Ddinbych a Chonwy. Mae hyn yn golygu helpu Tenantiaid i gynnal eu tenantiaethau. Mae’r rôl yn amrywiol ac yn rhoi mwynhad mawr. Rwyf yn ymdrin â materion ymddygiad gwrthgymdeithasol ar lefel isel, foids a dyraniadau a phob math o ymholiadau a disgwyliadau. Weithiau mae’n fater o wybod i ble i gyfeirio rhywun i gael y gefnogaeth gywir, gan weithio gydag asiantaethau sy’n bartneriaid. Mae’r newidiadau trwy Ddiwygio’r Gyfundrefn Les yn cael effaith mawr ar ein Tenantiaid a bydd y dyfodol yn heriol. Rwyf hefyd yn gweithio gyda’r Swyddog Datblygu Cymunedol ac yn cynnal amrywiol ddigwyddiadau cymunedol i lunio cymunedau cynaliadwy a gwella bywydau ein tenantiaid.

Y peth gorau yw fy mod yn mwynhau dod i’r gwaith. Rwy’n mwynhau’r amrywiaeth sydd yn y gwaith, rwy’n hoffi dod o hyd i atebion i broblemau ac rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda phob math o bobl wahanol o wahanol safleoedd cymdeithasol. Rwyf yn cael boddhad mawr o’m gwaith wrth deimlo fy mod yn rhan o dîm sy’n gwella bywydau pobl trwy roi cartref iddynt neu ddatrys problem sy’n effeithio ar eu bywydau.

Beth sydd fwyaf heriol am eich gwaith? Yr agwedd fwyaf heriol o’m gwaith yw parhau i reoli disgwyliadau a gofynion pobl mewn byd lle mae toriadau i gyllidebau a diwygiadau i’r gyfundrefn les.

Petaech yn gallu newid unrhyw beth yn y byd ar hyn o bryd, beth fyddai hynny? Petawn yn gallu newid rhywbeth yn y byd ar hyn o bryd (heblaw am wybod beth fydd rhifau loteri’r wythnos nesaf) fe fyddwn yn sicrhau bod gennym fyd lle mae plant yn ddiogel rhag ofn a thrais ac na fyddent yn byw mewn tlodi.

Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2017 13


Eich diogelu chi a’ch aelwyd: Y ffordd hawsaf i’ch diogelu chi a’ch cartref a’ch teulu rhag tân yw trwy ddefnyddio larwm mwg sy’n gweithio. Gall larwm mwg roi rhybudd cynnar o dân a rhoi cyfle i chi ddianc – ond dim ond os yw’n gweithio. Rydych fwy na dwywaith yn fwy tebygol o farw mewn tân os nad oes gennych larwm mwg sy’n gweithio.

• Larymau mwg yn eich fflat • Profwch eich larymau mwg yn gyson • Peidiwch byth â datgysylltu eich larwm mwg

PEIDIWCH â chreu risg i chi eich hun COFIWCH: • Profwch eich larwm mwg unwaith yr wythnos. • Cadwch y llwybr allan o’ch fflat yn glir fel eich bod yn gallu ffoi mewn argyfwng.

I FFONIO’R GWASANAETH TÂN:

Gallwch atal tân trwy gymryd rhai camau syml

CADWCH YN DDIOGEL a chynllunio eich llwybr dianc

• Caewch y drysau yn ystod y nos, yn arbennig y drysau i’r lolfa a’r gegin i atal y tân rhag lledaenu.

• Peidiwch â gadael pethau sy’n coginio heb rywun yn eu gwylio, ac osgoi gadael plant yn y gegin ar eu pennau eu hunain â phethau yn coginio ar yr hob.

Gadewch y fflat bob amser os bydd mwg neu wres yn effeithio arno neu os dywed y gwasanaeth tân wrthych am wneud hynny.

• Cynlluniwch eich llwybr ffoi RŴAN. Byddwch yn barod a pheidiwch ag aros nes bydd yn digwydd.

• Pan fydd y derbynnydd yn ateb, rhowch eich rhif ffôn a gofyn am y gwasanaeth TÂN.

CAMAU GWEITHREDU os bydd tân yn torri allan yn eich cartref:

• Pan fydd y gwasanaeth tân yn ateb rhowch y cyfeiriad lle mae’r tân.

• Byddwch yn arbennig o ofalus wrth goginio gydag olew. • Peidiwch â gorlenwi sosbenni sglodion a pheidiwch BYTH â thaflu dŵr ar dân sosban sglodion. • Gofalwch bod sigaréts yn cael eu diffodd yn iawn, defnyddiwch flwch llwch a pheidiwch ag ysmygu yn eich gwely. • Peidiwch byth â gorlwytho socedi trydanol. • Diffoddwch offer trydanol pan na fyddant yn cael eu defnyddio. Peidiwch â’u gadael yng nghwsg hyd yn oed. • Cadwch fatsis a thanwyr o olwg a chyrraedd plant. • Gwnewch yn siŵr bod canhwyllau mewn daliwr addas ac ymhell o ddeunyddiau a allai fynd ar dân – fel llenni. Ni ddylid gadael plant ar eu pennau eu hunain gyda chanhwyllau wedi eu tanio.

Mae eich grisiau wedi eu dylunio i fod yn ddiogel i ddianc trwy gydol tân. Defnyddiwch y grisiau i fynd i lawr i’r llawr gwaelod os byddwch yn dianc.

PEIDIWCH â gadael eich eiddo neu ysbwriel yn y cyntedd, lobi’r lifft neu’r grisiau. Gallai hyn effeithio arnoch chi a’ch cymdogion petai tân yn digwydd. Os ydych mewn cyntedd, lobi lifft neu ar risiau a’ch bod yn sylwi ar dân, os nad yw’r larwm wedi canu yn barod, pwyswch ar y blwch coch torri’r gwydr ar eich ffordd allan, gadael yr adeilad ar unwaith ac, os yw’n ddiogel i wneud hynny, rhowch rybudd i breswylwyr eraill yn yr ardal gyfagos ar eich ffordd allan (cnociwch ar eu drysau).

14 Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2017

• Gadewch yr ystafell lle mae’r tân ar unwaith, yna caewch y drws.

• Deialwch 999 neu 112.

• Peidiwch â dod â’r alwad i ben nes bydd y gwasanaeth tân wedi ailadrodd y cyfeiriad yn gywir

• Dywedwch wrth bawb yn eich cartref a gadael iddynt adael. Caewch ddrws ffrynt eich fflat ar eich hôl. • Peidiwch ag aros i ddiffodd y tân. • Rhowch rybudd i bawb arall trwy ddefnyddio man ‘torri gwydr’. • Ffoniwch y gwasanaeth tân. • Arhoswch y tu allan, ymhell oddi wrth yr adeilad. • Mae’r cynllun gwagu ar gyfer yr adeilad hwn yn gofyn i’r holl breswylwyr fynd i’r man ymgynnull pan fydd y system ganfod tân a’r larwm yn canu.

Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2017 15


Cystadleuaeth!

Llenwch y chwilair, chwiliwch am y gwahaniaethau ac ateb y cwestiynau, torrwch nhw allan a’u postio atom ni, ynghyd â’ch enw llawn a’ch cyfeiriad i gael cyfle i ennill: taleb siopa £25. Dewisir tri enillydd. Rhaid i’r holl ymdrechion fod i mewn erbyn dydd Gwener 6 Ionawr 2018. Edrychwch am y dudalen gynnwys i gael y cyfeiriad llawn i anfon eich ymdrechion.

Chwilair L B A K P G O R I K S A G K N

Q O L U N Q J R U W N H O W P

C T G Y A Y K A A N P C F M B

Y E I E W I I P I J K W A D K

T T F G N D T B B W N L L I M

J S J N N A Y A E G S E C K K

S M R I O N W O

L M U G A E S

U V R U I G M H T F J O R H Q

D F G A H N A A C F F I T M K

F V E J H K P E Y Y A D R F X

Q T T O C H J M T L L I E C T

H W V B F P C U X H J A F S Z

D D Y W R T A F I E R P F S I

F F O R D D O F Y W I V R O P

F E R T R A C L M K H Z Q F G

Y GEIRIAU I’W CANFOD YW: CEFNOGAETH PREIFATRWYDD FFLATIAU ANNIBYNIAETH CARTREF GOFAL YCHWANEGOL FFRINDIAU DIOGELWCH GOFAL CARTREF FFORDD O FYW

Gweld y Gwahaniaeth

Mae pum gwahaniaeth – allwch chi eu gweld? Rhowch gylch am y pum gwahaniaeth ar yr ail lun.

Enw …………………………………………………..............

Cyfeiriad …………………………………………………..........

…………………………………………………....................................................

...................................................................................

E-bost …………………………………………………....................

Ffôn/Symudol ................………………………………….


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.