Agor Drysau – Gwella Bywydau
www.clwydalyn.co.uk
Byw
Cylchlythyr y Preswylwyr – Gaeaf 2014
Gan ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi
Yn y rhifyn hwn: Td 3 Perchenogion cŵn yn croesawu ID digidol Td 6 Cynhadledd Preswylwyr 2014 Td 8 Preswylwyr yn plannu pabïau i nodi’r Td 3 Gofalu eich bod yn talu eich rhent
Td 5 Paratoi at y Gaeaf
Rhyfel Byd Cyntaf
Ffôn: 0800 183 5757 neu 01745 536800 E-bost: enquiries@clwydalyn.co.uk Mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn Gymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus Elusennol
CROESO Residents Approved
Residents Approved
CYNNWYS
td
EIN ÃÃ Cyngor ar 3 PANEL Residents Approved Fudd-daliadau Lles GOLYGYDDOL
Residents Approved
Residents Approved D CYNHADLED
ÃÃ Perchenogion Cŵn
3
ÃÃ Preswylwyr yn Mynd Ar-lein
4
ÃÃ Paratoi at y Gaeaf
5
Residents Approved ÃÃCynhadledd Flynyddol 6 y Preswylwyr
PRESWYLWYR 2015
ÃÃ Byw’n Iach 7
A oes gennych chi unrhyw syniadau ar gyfer Cynhadledd Preswylwyr 2015? A oes unrhyw bynciau mawr yr ydych chi’n meddwl y dylem eu trafod? Cysylltwch Resident Approved Residents â Gareth Hughes-Roberts gan Approved ddefnyddio’r manylion cyswllt isod erbyn 16 Ionawr 2015 gyda’ch syniadau.
ÃÃ Digwyddiadau Cymunedol
8-9
ÃÃ Gwobrau TPAS
10
Resident Approved
ÃÃ Beth yw Eich Adroddiad 11 Credyd?
g wyd an y P y w
MANYLION CYSWLLT Rydym yn awyddus i glywed eich newyddion lleol bob amser - os oes gennych unrhyw erthyglau y byddech yn hoffi eu cynnwys yn y cylchlythyr nesaf, anfonwch nhw at Gareth gyda’r manylion cyswllt isod erbyn dydd Llun 20 Ebrill 2015.
01745 536843
gareth.hughes-roberts@clwydalyn.co.uk
Hoffwch ni: facebook.com/PennafHGroup Dilynwch ni: @PennafHGroup
www.clwydalyn.co.uk
Gareth Hughes-Roberts. Cylchlythyr y Preswylwyr, 72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JD.
2 Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2014
12
wylwyr res
Cymerad
ÃÃ Cystadleuaeth Liwio’r Nadolig
Cyngor Budd daliadau Lles ac Ariannol Mae talu eich rhent yn cadw’r to uwch eich pen – cysylltwch os ydych yn cael trafferthion
Mae rhent yn bwysig ac rydym ni yma i helpu. Os ydych yn cael anhawster talu eich rhent, bydd angen i chi siarad â ni.
Siaradwch â’ch Swyddog Tai neu gallwch gysylltu â ni ar Rhadffôn:
0800 183 5757
am alwadau rhatach Gall fod yn anodd gofalu eich bod yn talu eich rhent, yn o ffôn symudol ffoniwch: arbennig ar amser y Nadolig. Rydym yn gwybod bod rhai 01745 536800 ohonoch yn ei chael yn anodd eleni yn dilyn y newidiadau i fudd-daliadau. Ond cofiwch, mae’n hanfodol i chi dalu eich rhent, os na fyddwch yn talu eich rhent gallech golli eich cartref.
Perchenogion cŵn yn croesawu ID digidol Mae perchenogion cŵn cyfrifol trwy Ogledd Cymru yn croesawu’r cyfle i osod sglodion micro yn eu cŵn am ddim diolch i Clwyd Alyn, Tai Wales and West a’r Ymddiriedolaeth Cŵn. Yn ystod yr ail ddigwyddiad gosod micro sglodion yn Wrecsam, gosodwyd y microsglodion unigryw mewn 78 o gŵn.
Mae deddfwriaeth newydd yn golygu y bydd yn rhaid i bob ci yng Nghymru gael ID microsglodyn dilys gyda’u manylion cyfredol o 1 Mawrth 2015. 3
YR OES DDIGIDOL
Preswylwyr yn mynd ar-lein
nadolig llawen
nadolig llawen
Cwblhaodd y preswylwyr yn Llys Erw gwrs ‘Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu 4 Beginners’ oedd yn cael ei redeg gan Wasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych dros yr haf. Roedd y cwrs yn llwyddiant mawr ac yn awr mae gan rai o’r preswylwyr eu gliniaduron eu hunain ac mae gan un wraig ei Llechen Android ei hun. Trwy ddysgu mwy am fynd ar-lein mae’r Preswylwyr yn awr yn gallu cadw cysylltiad gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau yn well. Diolch i Communities 2.0 a Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy, mae ein Preswylwyr ym Mhenmaenmawr hefyd wedi cwblhau cwrs TGC, cwrs 4 wythnos ‘First Click’ y tro hwn. Mae’r preswylwyr wedi bod yn gwella eu sgiliau TGC ac yn dysgu sut i gadw cysylltiad â theulu a ffrindiau ar Facebook a defnyddio Facebook yn ddiogel. Bu’r cwrs mor llwyddiannus, trefnwyd cwrs First Click arall i grŵp arall o Breswylwyr yn yr ardal. Os ydych chi am ddysgu sut i fynd ar-lein neu i ddatblygu eich sgiliau ar-lein ewch i: http://www.communities2point0.org.uk/ computer-courses-in-wales
4
Gall unrhyw un fod yn ddioddefwr troseddau ar-lein. Peidiwch chi â dioddef. Byddwch yn ddiogel ar-lein: www.getsafeonline.org
nadolig llawen
Paratoi at y
Gaeaf
Mae’r haf yn ymddangos fel atgof pell gan fod y gaeaf yma erbyn hyn. Mae hynny’n golygu ei bod yn bryd i chi baratoi at y tywydd gwaethaf! Curwch y ffliw cyn Trafferthion gyda’ch cartref
Cadw’n iach
Os bydd eich pibelli wedi byrstio, gollyngiadau difrifol, neu os byddwch heb ddŵr poeth neu wres mewn tywydd drwg, gallwch gysylltu â ni 8.00am - 6.00pm: Dydd Llun i ddydd Gwener ar 0800 970 7272 mae’r galwadau tu allan i’r amseroedd yma yn cael eu trin gan ein partner Galw Gofal ar 0845 6050553.
Mae pethau y gallwch chi eu gwneud i dorri’r risg o fynd yn wael a’ch amddiffyn rhag yr annwyd. Os ydych dros 65 oed, yn feichiog neu â chyflwr meddygol tymor hir rydych yn gymwys i gael pigiad ffliw a niwmonia am ddim. Gallwch siarad â’ch meddyg teulu am y ddau frechiad.
Awgrymiadau amgylcheddol
ydau a’u dadrewi Cynlluniwch eich pr wch yn arbed ynni ymlaen llaw - Bydd ewi yn y popty neu dr da eu i go os y trw dros nos yn yr ficrodon. Dadrëwch el io’r aer oer sy’n ca oergell i ddefnydd . ch ’r oergell yn oera ei ryddhau i gadw
iddi hi eich curo chi. Ewch i: www.beatflu.org
Cadw’n Gynnes - Dyma rai awgrymiadau i gadw’n gynnes 1
Bwytwch yn dda. Mae bwyd yn ffynhonnell ynni hanfodol sy’n eich helpu i gadw’n gynnes
5
Gwiriwch dapiau sy’n diferu a dŵr sy’n gorlifo i atal pibelli gwastraff rewi a dŵr i orlifo
2
Gwisgwch sawl haen o ddillad
6
3
Yfwch ddiod boeth yn gyson
Gofalwch am gymdogion hŷn neu berthnasau i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel ac iach
4
Caewch y llenni ar y twllnos a chadw drysau ar gau i gadw drafftiau allan
7
Ceisiwch gadw eich cartref yn gynnes. Cadwch eich prif ystafell fyw ar tua 18-21o C (65-70o F)
Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2014 5
CYNHADLEDD Y PRESWYLWYR
Ein Cynhadledd Breswylwyr Flynyddol: yr Orau Erioed! Yn ddiweddar cynhaliwyd ein Cynhadledd Preswylwyr Flynyddol yng Ngwesty Beaufort Park ger yr Wyddgrug ar 16 Hydref 2014. Mae’r gynhadledd sydd wedi bod yn mynd ers 1997, yn gyfle gwych i Breswylwyr o’r chwe sir lle’r ydym yn gweithredu i ddod at ei gilydd a chyfarfod a siarad â staff Clwyd Alyn. Thema’r diwrnod oedd: Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a sut y gall Preswylwyr ‘ddod o hyd i’w llais’. Y neges o’r gynhadledd oedd, ‘gyda gwybodaeth a chefnogaeth, a thrwy weithio gyda’n gilydd gallwn weithredu’n effeithiol i atal ymddygiad gwael ac atal sefyllfaoedd rhag mynd allan o reolaeth’. Cychwynnodd y diwrnod gydag agoriad dadlennol gan y Farwnes Newlove, Comisiynydd Dioddefwyr Llywodraeth y
Deyrnas Unedig dros Gymru a Lloegr. Defnyddiodd ei phrofiad ei hun o orfod ymdrin â marwolaeth ei gŵr Gary, yn 2007, wrth iddo herio grŵp o bobl ifanc, oedd yn difrodi car y teulu, i dynnu sylw at anghenion dioddefwyr bregus ymddygiad gwrthgymdeithasol; gan sicrhau eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch. Er bod yr amgylchiadau mor drasig, fe osododd yr araith nodyn ac awyrgylch cadarnhaol a barhaodd yn y gweithdai a chyfrannodd hyn yn helaeth at lwyddiant y diwrnod.
Cafodd y gweithdai eu hunain hefyd groeso cynnes gan gynnwys: Atal Troseddau – Rhoddwyd cyngor i’r preswylwyr ar y camau y dylent eu cymryd i gadw’n ddiogel, ynghyd â gwybodaeth ar sut i wneud cartrefi a chymunedau yn fannau mwy diogel i fyw ynddyn nhw. “Dwi’n gallu chware cerddoriaeth hyd at 11 o’r gloch y nos!” – yn seiliedig ar gymdogion swnllyd, gan ofyn y cwestiwn ydych chi’n gwybod beth mae’r ddeddf yn ei ddweud a beth allith gael ei wneud i helpu? Roedd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn chwalu’r chwedlau am yr hyn sydd yn niwsans sŵn a’r hyn sydd ddim. Yn ôl o Ymyl y Dibyn – Ochr arall y stori - gofyn y cwestiynau, a wnaethoch chi gamgymeriad erioed? Ydych chi’n meddwl y dylai troseddwyr gael ail gyfle? Llais Grymus – rhoddodd y Grŵp Tai Together, cymdeithas dai fawr o Loegr wybodaeth i Breswylwyr am y modd y gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael ei droi ar ei ben. Cefnogi’r Dioddefwr – Esboniodd Cymorth i Ddioddefwyr, yr elusen annibynnol i ddioddefwyr a thystion troseddau yng Nghymru a Lloegr y gwaith gwych y maen nhw’n ei wneud i unigolion a chymunedau a sut y gallan nhw helpu i gefnogi dioddefwyr troseddau.
6
BYW’N IACH
nadolig llawen
Byw’n Iach – Gwyliwch y siwgr!
nadolig llawen
nadolig llawen
Fe fyddech yn synnu faint o siwgr sydd mewn bwyd a diodydd. Gall siwgr wneud mwy o niwed nag y mae pobl yn sylweddoli! Gall gormod o siwgr olygu gormod o egni sydd yn ei dro yn arwain at storio braster yn y corff ac afiechydon fel afiechyd y galon a diabetes math 2.
Ffeithiau am siwgr:
Siwgrau:
• 1 Mae unigolyn arferol ym Mhrydain yn bwyta tua 700g o siwgr yr wythnos – mae hynny’n 140 llond llwy de*
• Uchel: mwy na 22.5g o gyfanswm y siwgrau i bob 100g
• 2 Oeddech chi’n gwybod fod 500ml o cola yn cynnwys yr hyn fyddai’n cyfateb i 17 clap o siwgr 3 Mae llond llaw o fferins wedi eu gorchuddio â • siwgr yn cynnwys 4 llwy de o siwgr
• Isel: 5g o gyfanswm y siwgrau neu lai na 100g • Ewch i www.nhs.change4life/pages/ sugar-swaps-ideas.aspx i gael mwy o syniadau am gyfnewid siwgr
Dyma rai awgrymiadau ar sut i dorri siwgr i lawr: 1 Newidiwch o brydau siwgraidd fel bisgedi a chacennau i ffrwythau, ffres, mewn tun, sych neu ddiodydd • ffrwythau ffres. 2 •
Mae ffrwythau yn llawn o fitaminau, mwynau a ffibr
3 •
Yn hytrach na hufen iâ, defnyddiwch iogwrt braster isel a jeli heb siwgr
4 •
Newidiwch o rawnfwyd siwgraidd i rawnfwyd grawn cyfan neu uwd
5 •
Newidiwch o ddiodydd siwgraidd i ddŵr, llaeth braster is, diodydd diet, heb siwgr neu heb siwgr ychwanegol
6 •
Edrychwch ar labeli bwyd wrth siopa, newidiwch i fwydydd sy’n dweud ‘dim siwgr ychwanegol’ neu ‘heb siwgr’. Chwiliwch am y coch, melyn a gwyrdd ar labeli bwyd. Dewiswch fwy o rai gwyrdd a melyn a llai o rai coch. Mae coch yn golygu uchel, melyn yn golygu canolig a gwyrdd yn golygu isel
* (Ffynhonnell: Arolwg Diet a Maethiad Cenedlaethol 2008/2009-2011/2012).
Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2014
7
DIGWYDDIADAU CYMUNEDOL Mae ein Preswylwyr wedi bod yn brysur iawn dros y misoedd diwethaf, gyda llawer o brosiectau cyffrous a digwyddiadau cymunedol, o gymryd rhan mewn digwyddiadau glanhau cymunedol, fel casglu sbwriel lleol, i blannu hadau pabi i gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf a dysgu o ble y mae bwyd yn dod! Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran.
orc’, wel d f F r m i’ yn ym od r e f ‘F O’r ylwyr arganf sut a w d Pres sco i d ethiad el ei a e â T am fa yn c d mwy ae bwy n. w y m u i me n bry o Ffordd r y w l y d Presw n gwneu n y n y l e Llew hunai u e d e ng eu teyr yfel Byd Rh i nodi’r mainc a d y g , Cyntaf l a thrwy do gymune dau pabïau. ha blannu
Y Gystadleuaeth Arddio Dyma ddetholiad o blith y rhai a wnaeth ymgeisio yng nghystadleuaeth Arddio Haf 2014
8
Gwirfoddolwyr y torchi eu llewys ddod yn ‘beintw pwerus’ i fywiog paneli ffens yn yr Wyddgrug.
yl - y ub Ŵ r ’ i d We n ach u y r y casglw i o nwydda lor h llond doriaet d r e G o Ŵyl Leeds.
yn si wyr gi n
u a d a i m Awgry eddol h ormod o c l y g m a ch â defnyddio rgi goginio,
Gorwel N ewydd y n dylunio a gwneud eu clustoga u eu hun ain fel rhan o brosiect ce cymuned ol sy’n rh lf ed ar draws Sir Ddinb eg ych.
Peidiw rth ferwi dŵ ddŵr i w ddŵr – iwch ddigon o rhowch le d defnyd wyd yn unig a i yn fwy esu lla dio’r b orchud i – mae cynh rbed amser. a rw iddo fe a byddwch yn n effeithlo
Hyf forddiant Cymorth Cyntaf yn Llys Erw, a ddarparwyd gan y Groes Goch.
E SENS i n ria rt. odi a wr Cou c n ly Ma Hwy n Nant y
hadwch wod gyda C vy’ ar y y t i n y w t u iv th ‘b Glanha clus a wnae ilgylchu! Gymru’n Da ’r eit emau wedi eu ha traeth gyda
Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2014 9
TPAS
Gwobrau TPAS Yn flynyddol mae TPAS Cymru (Gwasanaeth Cynghori Cyfranogiad Tenantiaid) yn cynnal ‘Y Gwobrau Cyfranogiad’ – gan roi cyfle i gydnabod a dathlu’r holl waith y mae pawb yn ei wneud. Eleni roedd Clwyd Alyn a’i Phreswylwyr yn amlwg iawn yn y seremoni wobrwyo:
Clwyd Alyn yn ennill Gwobr Landlord Cenedlaethol Dyfarnwyd ‘Gwobr Rhagoriaeth Landlord Roy Parry’ i Glwyd Alyn. Dywedodd Neil Moffatt, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Tai Clwyd Alyn “Rydym yn wirioneddol falch o fod wedi cael y wobr bwysig hon sy’n deyrnged wirioneddol nid yn unig i staff y Gymdeithas ond hefyd ein Preswylwyr sy’n cymryd rhan uniongyrchol mewn helpu i siapio’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu”.
Anne yn ysbrydoli eraill Cyflwynwyd ‘Gwobr Ruth Radley am Lwyddiant Eithriadol wrth Gyfranogi’ i Anne Rothwell o Gynllun Tai Cysgodol Pentre Mawr. Enwebwyd Ms Rothwell am y wobr i gydnabod y rhan a gymerodd yn y ‘Cynllun Darllen Mewn Parau’ pan oedd preswylwyr Pentre Mawr yn ymuno ag eraill o’r gymuned leol i weithio gyda disgyblion Ysgol Emrys ap Iwan gan rannu eu cariad at ddarllen gyda’r myfyrwyr a oedd, yn eu tro, yn eu helpu gyda dyfeisiadau e-ddarllen. Fe’i henwebwyd hefyd am y digwyddiadau codi arian niferus y mae wedi eu trefnu, gan gynnwys nifer at Ymchwil Canser Macmillan, a hefyd am ei gwaith yn gwella’r amgylchedd lleol fel gwirfoddolwraig ym Mharc Pentre Mawr ac fel un sy’n codi sbwriel yn gyson.
Cynllun darllen yn agos i’r brig am wobr genedlaethol Roedd y ‘Cynllun Darllen mewn Parau’ gyda Phreswylwyr cynllun tai cysgodol Pentre Mawr a disgyblion Ysgol Emrys ap Iwan hefyd yn agos i’r brig, gan ddod yn drydydd yn y categori ‘Prosiect Cyfranogiad Tenantiaid’.
10
Awgry miada amgyl u chedd Cynhe s o l ddefny wch y gegin ddio’ – wr
gadew r popty th ch ôl ei d ddrws y pop yn y gaeaf, diff ty yn a g gynhe odd) er mw su ych yn i’r a ored (ar ydig m er cyn ne wy ar e ich car s tref.
ADRODDIAD CREDYD
Beth yw eich Adroddiad Credyd? Mae eich adroddiad credyd - a elwir hefyd yn ffeil credyd - yn cynnwys gwybodaeth am eich ymddygiad ariannol yn y gorffennol. Bob tro y byddwch yn gwneud cais am fenthyciad, cerdyn credyd neu forgais, bydd eich adroddiad credyd yn cael ei ddefnyddio i helpu benthycwyr i benderfynu a ddylai eich cais gael ei gymeradwyo neu ei wrthod. Os caiff ei dderbyn, bydd y wybodaeth yn eich adroddiad credyd hefyd yn pennu’r gyfradd log y byddwch yn ei thalu.
Adroddiadau credyd: pa wybodaeth sy’n cael ei chynnwys? 1•
Eich enw a’ch cyfeiriad
2•
A ydych ar y gofrestr etholwyr yn eich cyfeiriad presennol
3•
Faint sydd arnoch chi i fenthycwyr ar hyn o bryd
4•
Manylion unrhyw gynhyrchion ariannol ar y cyd sydd gennych (e.e. cyfrif cyfredol)
5 •
Unrhyw daliadau hwyr ar gardiau credyd presennol neu rai yn y gorffennol neu gyfrifon benthyca
9
• 6
Unrhyw daliadau hwyr ar gyfrifon presennol neu rai yn y gorffennol
7•
Unrhyw Ddyfarniadau Llys Sirol (CCJs) yn eich erbyn
Yn benodol, bydd eich adroddiad credyd yn cynnwys manylion pryd y gwnaethoch fenthyca arian ac a ydych wedi ei ad-dalu mewn pryd.
• 8
A yw eich cartref wedi ei adfeddiannu neu a ydych wedi symud i ffwrdd â dyledion gennych
•
A oes arnoch eisiau mynediad i adroddiad credyd am ddim am eich oes? Mae www.noddle.co.uk yn cynnig mynediad i’ch adroddiad credyd am ddim am eich oes – nid dim ond am 30 diwrnod. Bydd Noddle yn eich helpu i ganfod y cardiau credyd gorau a’r cynnyrch benthyca i chi ar sail eich sgôr credyd, yn ogystal â’ch helpu i wneud mwy o’ch arian trwy gael cynigion arbed arian a thalebau.
A ydych wedi cael eich datgan yn fethdalwr neu fynd i Drefniant Gwirfoddol Unigol (IVA)
Am ragor o wybodaeth am adroddiadau credyd ewch i http://www.which.co.uk/ money/credit-cards-andloans/guides/your-creditreport-explained/whatis-a-credit-report-/
Fel arall gallwch gael mynediad at gopi o’ch adroddiad credyd o naill ai www.experian. co.uk neu www.equifax.co.uk. Ond, cofiwch, gyda’r ddau ar ôl y cyfnod profi am ddim am 30 diwrnod, mae ffi fisol i’w thalu.
*Cafwyd y wybodaeth yn yr erthygl hon o www.which.co.uk a www.noddle.co.uk.
Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Gaeaf 2014 11
Cystadleuaeth Liwio’r Nadolig Rieni! Ar ôl i’ch plentyn liwio’r llun, anfonwch y llun atom ni erbyn 5 Ionawr 2015 yn yr amlen a roddwyd. Cofiwch roi eich enw a’ch cyfeiriad a manylion cyswllt. Dim ond un ymgais i bob plentyn, ond os oes gennych fwy nag un plentyn yn y teulu, defnyddiwch y fersiwn Saesneg neu gwnewch lungopi o’r gwreiddiol. Bydd llungopïau o’r delweddau gwreiddiol wedi eu lliwio yn cael eu derbyn. Bydd y gwobrau yn cynnwys dwy daleb £10 a roddwyd gan Tesco. Mae un wobr i blant hyd at chwech oed ac un i blant rhwng saith ag un ar ddeg oed. Bydd y gystadleuaeth yn cael ei beirniadu gan Clare Parry, Hyrwyddwraig Gymunedol yr Wyddgrug a Louise Blackwell, Swyddog Datblygu Cymunedol Clwyd Alyn.
Enw’r Rhiant …………………………………………………..................
Cyfeiriad …………………………………………………..........
Enw’r Plentyn …………………………………………………................
...................................................................................
Oedran y Plentyn ………………………………………………….........
Rhif Cyswllt ………………………………………….............