Byw: Cylchlythyr Preswylwyr Haf 2014

Page 1

Agor Drysau – Gwella Bywydau

www.clwydalyn.co.uk

Byw

Cylchlythyr Preswylwyr – Haf 2014

Help Llaw Preswylwyr o bob oed yn Nhreuddyn yn helpu i wella bioamrywiaeth eu hardal. Gweler tudalen 8-9. Yn y rhifyn hwn.... Y tu mewn hefyd.... Td 5 Y Diweddaraf am Td 13 Tan y Fron yn Croesawu Preswylwyr

Td 3 Gwefan Newydd Clwyd Alyn

Gredyd Cynhwysol

Td 7 Ymweliad â’r Senedd Td 12 Byw’n Iach A llawer llawer mwy......

Ffoniwch: 0800 183 5757 neu 01745 536800 E-bost: enquiries@clwydalyn.co.uk Mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn Gymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus Elusennol.

1


CROESO CYNNWYS

td

ÃÃ Brandio Newydd

3

ÃÃ Fforwm Prydleswyr

4

ÃÃ Y Diweddaraf am Gredyd Cynhwysol

5

ÃÃ Tlodi Bwyd 6 ÃÃ Ymweliad â San Steffan 7

Ein Panel Golygyddol Ein Panel Golygyddol dan Arweiniad Preswylwyr yw’r bobl tu ôl i’r cylchlythyr hwn. Maen nhw’n cyfrannu erthyglau, yn cytuno ar y cynnwys a dyluniad y cylchlythyr ac yn sicrhau ei fod yn adlewyrchu’r ffaith ei fod yn rhoi cymaint o bwyslais ar y Preswylwyr ag y gall. Maen nhw wedi bod yn gweithio gyda Worldspan, ein cwmni dylunio creadigol newydd i gynhyrchu’r cylchlythyr newydd hwn. Rydym yn gobeithio y byddwch yn ei hoffi.

ÃÃ Digwyddiadau 8 Cymunedol ÃÃ Arbed Ynni 10 ÃÃ Anrheg Hurst Newton

11

ÃÃ Byw’n Iach 12 ÃÃ Tan y Fron

13

ÃÃ Llifogydd Llanelwy

14

ÃÃ Cynnal a Chadw wedi ei Gynllunio

15

ÃÃ Dyddiau Cysgodi Staff Clwyd Alyn

16

ÃÃ Cystadleuaeth Arddio

16

Wrth Fynd i’r Wasg! Aelodau Newydd Bwrdd Clwyd Alyn Rydym yn falch o gyhoeddi, yn dilyn proses ymgeisio lwyddiannus fod gennym ddau Aelod Newydd o’r Bwrdd sydd hefyd yn breswylwyr a gymerodd eu lle ar y Bwrdd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Clwyd Alyn ar 8 Gorffennaf. Sef Michael Spencer o Fochdre a Harold Martin o Brestatyn. Byddwn yn rhoi mwy o wybodaeth ar yr hyn y byddant yn ei wneud yn ein cylchlythyr nesaf.

MANYLION CYSWLLT Rydym am gael clywed am eich newyddion lleol chi bob amser, felly cysylltwch â Gareth: 01745 536843

gareth.hughes-roberts@clwydalyn.co.uk

Hoffwch ni: facebook.com/PennafHGroup Dilynwch ni: @PennafHGroup

www.clwydalyn.co.uk 2

Gareth Hughes-Roberts. Cylchlythyr y Preswylwyr, 72 Ffordd William Morgan , Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JD.


BRANDIO NEWYDD

Brandio Newydd! Rydym hefyd wedi bod yn brysur yn gweithio ar frand newydd i Grŵp Tai Pennaf! Mae’r brand yn adleisio’r cwlwm Celtaidd trwy siâp hecsagon, yn arddangos pob un o frandiau’r sefydliad mewn ffordd gyfeillgar, fywiog a deinamig. Mae pob un o’r brandiau unigol hefyd yn darlunio ac yn dangos y cyswllt o fod yn rhan o Grŵp, trwy fod ar siâp hecsagon. Mae’r symbolau a’r brandio gwreiddiol yn cael eu dangos yn glir yn y canol, er enghraifft ar gyfer Clwyd Alyn, mae’r tŷ CTCA wedi ei osod yn y canol mewn ffordd lawer mwy modern.

Gwefan newydd i Clwyd Alyn

daeth Gwybo ryngau f ar y Cy ithasol Cymde

Rydym wedi ein cyffroi yn fawr o gael cyhoeddi ein bod wedi lansio ein gwefan newydd ar gyfer Clwyd Alyn. Mae’r safle newydd yn llawer haws ei ddefnyddio, yn apelio i’r llygad ac yn rhoi sylw i’r holl wasanaethau yr ydym yn eu cynnig. Byddwch yn gallu cael mynediad cyflym a rhwydd at wybodaeth hanfodol, gallwch weld pa ddigwyddiadau sy’n digwydd yn eich sir, cartrefi sy’n cael eu datblygu, gweld pwy yw eich Swyddog Tai a llawer mwy! Pam na wnewch chi gael golwg ar y safle newydd, ewch i: www.clwydalyn.co.uk

cael anghofio book a g a h c Peidiw alennau Face eth wyboda r ein tud golwg a yddwn yn rhoi’r igwydd. Rhowch d eb h, Twitter, ll f am bopeth sy’nm ofyn rhywbet a ar ha en ddiwedd wal os byddwc sy’n mynd ymla n in n y e y h r d neges a d rhagor am yr ym yn ei wneu araf am d d y fo d r n e y a darg ardal a beth rhoi’r diw n gan y Grŵp, n y n h w ic d yd ddio h yn e uned. B l â newy eich cymethau yn ogysta ag, gwybodaet wasana dau, swyddi gwdiadau lleol. datblygia eriaid a digwyd oup nnafHGr e /P m am bartn o .c ook ni: faceb Hoffwch up naf HGro n e P @ i: hn Dilynwc

Byddem yn croesawu eich adborth ar y wefan newydd, anfonwch e-bost at: communications@pennaf.co.uk 3


PRYDLESWYR

Fforwm y Prydleswyr Cynhaliwyd y Fforwm Prydleswyr ar 6 Chwefror 2014, a daeth 8 prydleswyr yno, gan drafod y materion canlynol:

Diogelwch Nwy Atgoffir yr holl brydleswyr bod pob perchennog eiddo, (gan gynnwys prydleswyr rhanberchenogaeth) yn gyfrifol yn gyfreithiol am sicrhau bod eu ffitiadau nwy a’u hoffer yn ddiogel ac yn gweithio’n dda – fe’ch cynghorir i gael gwiriad ar bopeth yn flynyddol gan osodwr sydd wedi cofrestru â Gas Safe.

ÃÃIs-osod – cytunwyd na fyddid yn dilyn mwy ar y mater hwn ac atgoffa prydleswyr nad yw eu prydles yn caniatáu i brydleswyr rentu eu heiddo i eraill

ÃÃCytunodd y Cyfarfod ar Gynllun Gweithredu i ymdrin â’r materion a godwyd yn yr arolwg bodlonrwydd diweddar (gweler yr erthygl Cynllun Gweithredu)

ÃÃFfioedd Rheoli ÃÃAdroddiad archwilio prydlesu ÃÃRhestr o gontractwyr lleol cymeradwy ÃÃCynllun Gweithredu i ymdrin â chanlyniadau’r arolwg bodlonrwydd. Cyhoeddwyd canlyniadau’r arolwg diweddar o’r holl brydleswyr yn y Cylchlythyr diwethaf. Ers hynny, mae’r Fforwm Prydleswyr wedi cytuno ar Gynllun Gweithredu sy’n cynnwys y canlynol:

ÃÃBydd y Tîm yn mynychu’r holl ddigwyddiadau yn y dyfodol sy’n rhyngweithio gyda phreswylwyr a hybu’r gwaith y mae’r Tîm yn ei wneud

ÃÃYn ystod 2014/2015 cynhelir adolygiad llawn o daliadau rheoli i geisio cael taliadau tebyg ar draws yr holl gynlluniau

ÃÃRhaid i archwiliadau misol gael cylch ehangach i gyfathrebu gyda’r rhanberchenogion mewn stoc gwasgaredig

ÃÃYn ystod 2014/2015 bydd y Tîm yn anelu i ffurfio o leiaf un Gymdeithas Breswylwyr arall sy’n cael ei chydnabod

ÃÃBydd y Tîm yn hyrwyddo’r prosesau ‘Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael’ ac yn sicrhau bod yr holl breswylwyr yn gwybod am bob ffurf ar ddewisiadau perchenogaeth cartref

ÃÃBydd Fforwm y Prydleswyr yn cynhyrchu cylchlythyr prydleswyr arbenigol yn ystod 2014/2015. 4

Un broblem fawr sy’n cael ei hachosi gan ddiffygion yw gwenwyno oherwydd carbon monocsid, a all ladd mewn llai na 2 awr. Mae’n nwy heb unrhyw arogl na blas ac mae’n hollol anweledig, gan ladd hyd at 50 o bobl y flwyddyn ac achosi cannoedd o anafiadau. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar yr holl faterion diogelwch nwy o wefan y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch: www.hse.gov.uk/gas/index

Ffenestri Newydd Trwy gydol 2013/2014 fe wnaeth y Tîm waith newid ffenestri ar yr holl gynlluniau prydlesu i’r henoed. Y cynllun diweddaraf yw Tŷ Gwylfa, Prestatyn. Mae’r preswylwyr yn rhoi adborth da am ein contractwr – Snowdonia Windows.

GWEITHDREFN GWYNION A CHANMOLIAETH Atgoffir y preswylwyr, os oes gennych unrhyw gwynion am berfformiad ein gwasanaeth prydlesu, neu yn wir unrhyw ganmoliaeth yr ydych am ei rhoi, yn y lle cyntaf cysylltwch â Rob Hopkins – Rheolwr Prydlesu a Gwerthu ar 0745 536824 neu trwy e-bost at: robert.hopkins@pennaf.co.uk.


Y Diweddaraf am Gredyd Cynhwysol

Y Diweddaraf am Gredyd Cynhwysol Credyd Cynhwysol yw’r Budd-dal newydd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei gyflwyno dros y blynyddoedd nesaf a dan eu cynigion bydd y rhan fwyaf o’r amrywiaeth o fudd-daliadau y gall Preswylwyr eu derbyn yn cael eu dwyn at ei gilydd mewn un taliad misol i’r Preswyliwr. Yng Ngogledd Cymru, cychwynnodd Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno yng Nghanolfan Waith Shotton o 7 Ebrill 2014. Ond, ar hyn o bryd, dim ond i ymgeiswyr newydd sy’n byw yn yr ardaloedd cod post CH5 1,CH5 2,CH5 3,CH5 4 a CH5 9 sy’n bodloni’r meini prawf hawlydd y bydd hyn yn berthnasol, ac ar gyfer y cam hwn mae’n eithrio cyplau, aelwydydd â phlant, a’r rhai sy’n byw mewn rhai mathau o dai â chefnogaeth. Yn ychwanegol mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal i rai o oedran gwaith ac felly ni fydd yn berthnasol i rai sydd o oedran pensiwn. Felly, os ydych yn berson sengl o oedran gwaith sy’n hawlio o’r newydd yn unrhyw un o’r ardaloedd uchod, byddwch yn awr yn derbyn Credyd Cynhwysol ac nid y budd-daliadau ar sail modd y mae’n eu disodli fel Cymorth Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (Ar Sail Incwm), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Ar Sail Incwm), Credydau Treth a Budd-dal Tai. Bydd yr hawlwyr presennol yn parhau i dderbyn eu budd-daliadau presennol fel Cymorth Incwm a Lwfans Ceisio Gwaith ac ni fyddant yn cael eu trosglwyddo i’r Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd.

Mae rhai elfennau allweddol o Gredyd Cynhwysol y dylai Preswylwyr fod yn ymwybodol ohonynt, gan gynnwys: ÃÃ Bydd taliadau yn cael eu gwneud yn fisol yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc ÃÃ Dim ond un taliad misol y byddwch yn ei dderbyn a fydd yn cynnwys cymorth gyda Chostau Tai (Budd-dal Tai) O ganlyniad rhaid i Breswylwyr ystyried unrhyw oblygiadau o ran cyllideb o dderbyn taliadau misol

Awgry amgy miadau lched Chwil dol iw

c

Wrth br h am y l o y chwiliw nu offer new go. y c dd; h am Saving Recom y logo ‘Energ mend y ‘Energy Saving ed’. Bydd off yn arbe R e d arian ecommende r d’ i chi ac yn help amgylc u’r hedd.

yn ofalus, yn arbennig os ydych yn arfer derbyn taliadau bob pythefnos. Hefyd, gan y bydd Credyd Cynhwysol yn cynnwys help tuag at y rhent, rhaid i Breswylwyr sicrhau eu bod wedi gwneud trefniadau i dalu eu rhent yn unol ag ymrwymiadau eu tenantiaeth. Mae gan Clwyd Alyn swyddogion a all gynorthwyo Preswylwyr gydag unrhyw anawsterau cyllidebu a phetai arnoch angen help yna cysylltwch â ni ar 0800 183 5757.

Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Haf 2014 5


TLODI BWYD

Y cynnydd pryderus mewn tlodi bwyd yn y Deyrnas Unedig Mae 13 miliwn o bobl yn byw dan y terfyn tlodi yn y Deyrnas Unedig.

Bob dydd bydd pobl yn y Deyrnas Unedig yn mynd heb fwyd am resymau yn amrywio o ddiswyddo i dderbyn bil annisgwyl ar incwm isel. Yn 2013-14 fe wnaeth banciau bwyd fwydo 913,138 o bobl trwy Brydain. O’r rhai a dderbyniodd help roedd 330,205 yn blant. Mae’r cynnydd ym mhrisiau bwyd a thanwydd, incwm ddim yn codi, diweithdra a newidiadau i fudd-daliadau yn rhai o’r rhesymau pam fod niferoedd cynyddol yn cael eu cyfeirio at fanciau bwyd i gael bwyd rhag argyfwng. Mae banciau bwyd yn helpu i atal troseddu, colli tai, teuluoedd yn chwalu a phroblemau iechyd meddwl. Mae bocs syml o fwyd yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae’r holl fwyd yn cael ei roi gan y cyhoedd a’i ddidoli gan wirfoddolwyr. Mae gweithwyr gofal proffesiynol fel meddygon a gweithwyr cymdeithasol yn dynodi pobl sydd mewn argyfwng ac yn rhoi taleb bwyd iddyn nhw. Bydd y cleientiaid yn derbyn tri diwrnod o fwyd sy’n gytbwys o ran maeth, na fydd yn pydru yn gyfnewid am eu taleb bwyd. Mae banciau bwyd hefyd yn rhoi amser i siarad ac i gyfeirio cleientiaid at wasanaethau eraill fydd o gymorth.

6

Pam fod ar bobl angen bwyd argyfwng?

Beth sydd mewn bocs bwyd?

Heddiw mae pobl ar draws y Deyrnas Unedig yn cael trafferth bwydo eu hunain a’u teuluoedd. Gall colli gwaith, salwch, oedi wrth dderbyn budd-daliadau, trais domestig, dyledion, teulu yn chwalu a thalu am gostau ychwanegol gwresogi yn ystod y gaeaf fod yn rhai o’r rhesymau pam fod pobl yn mynd heb fwyd.

Mae pob bocs bwyd yn cynnwys o leiaf dri diwrnod o fwyd cytbwys o ran maeth na fydd yn pydru. Mae banciau bwyd yn dibynnu ar gefnogaeth cymunedau lleol. Bydd parsel nodweddiadol yn cynnwys y rhan fwyaf o’r canlynol: Llaeth, siwgr, sudd ffrwythau, cawl, sawsiau pasta, pwdin sbwng (mewn tun), tomatos, grawnfwyd, pwdin reis, bagiau te/coffi, Tatws Stwnsh Powdr, reis/pasta, cig/ pysgod mewn tun, llysiau tun, ffrwythau tun, jam, bisgedi.

Rhoddwyd y wybodaeth yn yr erthygl hon gan y Trussell Trust, un o’r banciau bwyd mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Am ragor o wybodaeth am fanciau bwyd ewch i www. trusselltrust.org/foodbankprojects neu ffoniwch nhw ar 01722 580 180

Aw amggyrymiadau lched Mae m dol antelli l

ampau yn rho t defnyd i llai o olau, ywy felly diwch rai g wneud y mwy oleuach i af o’r y nni.


YSTADEGAU

mae 71 eiddo yn cael ei ailfeddiannu (ar sail tueddiadau Ch1 2014).

Rhai ystadegau dadlennol - Bob dydd yn y Deyrnas Unedig: Mae 277 o bobl yn cael eu datgan yn fethdalwyr. Mae hyn yn cyfateb i un unigolyn bob 5 munud 12 eiliad.

Mae’n costio cyfartaledd o £29.65 y dydd i fagu plentyn o’i eni hyd 21 oed.

Casglwyd y wybodaeth hon ac fe’i cyflenwyd gan themoneycharity.org.uk

Ymweliad  San Steffan Bu preswylwyr o Gynllun Byw â Chefnogaeth Llys Emlyn Williams yn Nhreffynnon, yn ymweld â San Steffan yn ddiweddar ar ôl gwneud argraff ar eu AS lleol gyda’u diddordeb mewn materion sy’n effeithio ar bobl ifanc yn yr ardal. Yn ddiweddar bu David Hanson AS Delyn mewn ‘Trafodaeth Fawr’ yn Llys Emlyn Williams. Fe wnaeth eu brwdfrydedd

a’u diddordeb mewn materion cyfoes a’r problemau sy’n effeithio arnyn nhw gymaint o argraff arno fel ei fod wedi gwahodd grŵp ohonynt i lawr i gael taith o gwmpas Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Ariannwyd y costau teithio ar gyfer y daith gan Clwyd Alyn, gyda grant o £606 o’r Gronfa Gyffredin Gorfforaethol.

Roedd y preswylwyr wrth eu bodd â’u taith, a wnaeth nid yn unig helpu i hyrwyddo eu hannibyniaeth a’u hunan hyder, ond hefyd ddangos sut y gall pobl ifanc gael llais gwirioneddol yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.

u l

yll

i Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Haf 2014

7


Digwyddiadau Cymunedol Bu’n 6 mis prysur iawn, gyda llawer o brosiectau cyffrous a digwyddiadau cymunedol yn cael eu cynnal ar draws Gogledd Cymru, o gerfio pwmpen Galan Gaeaf i wneud DVD ar gyfer yr Wythnos Arbed Ynni Fawr a gwneud blychau nythu!

l a he insey, d i ryfa n Aberk if P a Helf riel y a’r pr d w ysb hyl gy sbwriel, on y R lwyr y les, Mas ey. l gasg die Roy an Oak o Mad ns a R i Higg

Hwyl yn codi ofn gyda hud a lledrith a cherfio pwmpen yng Ngaerwen ar noson Calan Gaeaf.

euddyn r T n o li i’r Trigo hegion r n a i o l yn rh yllt lleo a w g d y ar byw dau ad d r y b a gyd fel bod d e f y r p gwesty gallu cadw’n yn af. pryfed s y gae o r d s e gynn

Awgry amgy miadau lched dol Arbed wch

Layton Burns o cystadleuaeth Gaergybi, yn ennill ein nawdd Tesco, Yliwio i rai 7-11 oed dan r Wyddgrug. D a iawn Layton!

8

in ennill e oed n y l, Rhy 11 tt o’r wio i rai 7- rug. o c S s a g Luc leuaeth li r Wydd cystad wdd Tesco, Y dan na

dymhe ynni trwy o dillad redd is. Gal lc a l thymh r 30 o C yn h golc eredd ytrach uwch tua 40 ddefn % yn ll ai o dr yd ydan


Preswylw yr ifanc g yda Kirsty Am arakoon sydd yn y llun, yn Llys D avid Lord, Wre csam, yn helpu bywyd gw yllt lleol tr wy adeiladu byrddau bwy adar a bly chau nyth d u!

Plant a phobl ifanc o gymunedau Garden City a Sealand yng Nglannau Dyfrdwy yn dathlu eu gwyliau hanner tymor gyda disgo cymunedol.

Ymweliad Ysgol Glan Gele ˆa chynllun tai cysgodol Pentre Mawr i ganu carolau Nadolig!

ig Nadol y r tymo au blodau n y l w Cych neud torch chwanego Y w r al trwy nllun Gof reswylwy Nghy gyda ph ton. g n y t leanor Glyd, Sho E s Lly fan o Ha

u l

chi ar chi h na ddio n.

Pre Gof swylw New al Yc yr o gro ydd hwan Gyn n e da fa L a go gol G llun y iawn ifogy dodd orwel siec d £ p i Fa awb d y M 350 a er a rh aer t y Rh oddw , yl. yd

sgu sut i y d n y r y Preswylw yn Tesco, iym! wneud bara Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Haf 2014 9


ARBED YNNI

Tenantiaid yn helpu eraill i arbed arian ar ynni Mae tenantiaid wedi bod yn helpu eraill i arbed arian ar eu biliau tanwydd. Bu Mandie Bassett yn gweithio gyda Louise a Gareth (Tîm Ymlyniad a Datblygu Cymunedol y Gymdeithas) i gynhyrchu DVD i rannu gwybodaeth am arbed ynni gydag eraill o bob rhan o’r ardal. Deg awgrym defnyddiol i’ch helpu i wirio, newid ac inswleiddio 1 Gwiriwch eich biliau yn ofalus a darllen eich mesurydd 6 Os byddwch yn defnyddio mesurydd talu ymlaen llaw, cofiwch y bydd taliadau sefydlog yn cael eu yn gyson. Trwy hyn gallwch wirio faint o ynni yr ydych hychwanegu bob dydd - hyd yn oed pan na fyddwch yn yn ei ddefnyddio a sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. defnyddio ynni. Gwiriwch faint fyddan nhw a gofalu bod 2 Siaradwch â’ch cyflenwr os byddwch yn meddwl fod arian yn y mesurydd yn ystod tywydd poeth hyd yn oed eich bil yn anghywir neu eich bod yn cael trafferth talu. i osgoi taliadau annisgwyl. Byddant yn gallu rhoi cyngor i chi am y gefnogaeth 7 Os byddwch yn defnyddio tanwydd gwresogi fel eich sydd ar gael neu drafod eich dewisiadau ad-dalu. prif danwydd, prynwch cyn y gaeaf ac edrychwch a oes 3 Os yw arian yn brin, cysylltwch â’ch Canolfan Cyngor ar unrhyw glybiau prynu olew lleol y gallwch ymuno â nhw. Bopeth yn lleol. Fe fyddan nhw’n gallu gwirio i weld os Os na, efallai y byddwch am ddechrau un eich hun. ydych yn cael y budd-daliadau y mae gennych hawl i’w derbyn neu os gallwch chi gael help i dalu eich biliau. 8 Gwnewch eich cartref yn effeithlon o ran ynni insiwleiddiwch y nenfydau a’r waliau, rhowch wydr dwbl 4 Sicrhewch eich bod ar y tariff rhataf. Gwiriwch gyda’ch neu defnyddiwch lenni tew i gadw’r gwres i mewn. cyflenwr a defnyddio gwefan newid cyflenwr sydd Rhowch wasanaeth i’ch bwyler neu newidiwch hi i wedi ei hachredu i weld pwy sy’n cynnig y fargen orau. sicrhau ei bod yn effeithlon o ran ynni. Mae cynlluniau Mae’r prisiau yn newid yn 2014 felly mae’n bwysig eich ar gael i’ch cynorthwyo gyda hyn. bod yn gwybod am eich cynllun presennol ac unrhyw 9 Arbedwch arian ac ynni – peidiwch â gadael offer ar y newidiadau y mae eich cyflenwr yn bwriadu botwm coch neu adael gliniaduron a ffonau symudol eu gwneud. i wefru heb angen. Trwsiwch dapiau sy’n gollwng a 5 Mae’r rhan fwyaf o gyflenwyr ynni yn cynnig tariff pris chofiwch ddiffodd y golau pan fyddwch yn gadael sefydlog, lle bydd pris uned o ynni yn aros yr un fath ystafell. ar hyd y cytundeb. Gall y rhain fod yn rhatach yn y 10 Cynhaliwch wiriad ynni cartref i gael gwybod am tymor hir a’i gwneud hi’n haws i gynllunio gwariant arbediadau o hyd at £250 y flwyddyn ar filiau ynni’r – ond efallai y bydd angen i chi dalu trwy ddebyd aelwyd. Ewch i wiriad ynni cartref uniongyrchol a bydd eich biliau yn mynd yn uwch Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn: os byddwch yn defnyddio hec.est.org.uk. mwy o ynni. Defnyddiwch hwn i wirio i gael adroddiad llawn “Mae Mandie yn un o gyda manylion nifer o’n preswylwyr sydd am ddefnydd wedi bod yn ein helpu i ynni eich cartref gyfleu’r neges ble i gael a’r arbediadau cyngor a sut i arbed arian y gallech eu ar danwydd,” dywedodd Am ragor o wybodaeth ewch i: gwneud. Louise Blackwell, Swyddog www.bigenergysavingweek.org.uk Datblygu Cymunedol.

www.facebook.com/PennafHGroup

10


Rhodd o gyfrifiadur i gynllun byw â chefnogaeth Hurst Newton Ymwelodd dau o breswylwyr Hurst Newton, Richard Davies a Jacob Grey ag Ecosystems gyda’r staff i nôl y gliniaduron a roddwyd fel anrheg. Fe wnaeth clywed am y gwahaniaeth y byddai’r rhodd yn ei wneud i’r bobl ifanc gymaint o argraff ar Ecosystems fel eu bod wedi cynnig rhoi 12 gliniadur arall i’r cynllun 12 gwely. Mae medru defnyddio cyfrifiaduron eisoes wedi cael dylanwad cadarnhaol iawn ar y preswylwyr. Mae’n eu galluogi i ddiweddaru eu CV a chael gwybodaeth am hyfforddiant, swyddi a llety ‘symud ymlaen’ ar-lein, a hefyd mae’n eu helpu wrth iddyn nhw gwblhau cyrsiau hyfforddi a gynigir trwy raglen hyfforddi ODEL Clwyd Alyn. Dywedodd Chris Littlewood Rheolwr Gyfarwyddwr Ecosystems IT: “Mae cynllun Hurst Newton yn gynllun rhagorol sy’n cynnig llety diogel a chyfforddus i bobl ifanc ddigartref rhwng 16 a 25 oed. Yn anffodus, mae’n ymddangos fod y grŵp oedran hwn o bobl ddigartref yn llithro trwy gefnogaeth llywodraeth leol a chanolog ac yn y rhan fwyaf o achosion rhaid iddyn nhw edrych ar eu holau eu hunain. Rhoi lle diogel i’r grŵp hwn yw’r cam cyntaf iddyn nhw fedru cymryd rhan bositif yn ein cymdeithas. Os ydym ni, trwy roi’r offer yr ydym wedi eu casglu a’u hadnewyddu gan gwmnïau lleol fel Moneysupemarket.com, yn gallu helpu i wella bywydau’r bobl sydd ar y cynllun, yna rydym wedi cyflawni gwir ystyr ailgylchu cynaliadwy moesegol.”

“Dywedodd ein cyfeillion yn Moneysupermarket. com wrthym am Ecosystems sy’n adnewyddu eu holl hen gyfrifiaduron a phan wnaethom gysylltu â nhw roeddem yn falch iawn eu bod wedi cytuno i roi dau gyfrifiadur, bysellfyrddau, a sgriniau,”

Am ragor o wybodaeth am Ecosystems IT gweler eu gwefan www.ecosystems-group.co.uk

Louise Blackwell, Swyddog Datblygu Cymunedol.

Twyll tai cymdeithasol Ar 5 Tachwedd, daeth Deddf Atal Twyll Tai Cymdeithasol 2013 i rym yng Nghymru. Daeth i rym yn Lloegr ym mis Hydref. Is-osod tai cymdeithasol yn anghyfreithlon yw’r categori unigol mwyaf o golledion oherwydd twyll i lywodraeth leol, yn ôl y Comisiwn Archwilio. Amcangyfrifir fod rhyw 98,000 eiddo tai cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr yn cael eu his-osod yn anghyfreithlon (i fyny o 50,000 yn 2009), ar gost o £1.8bn i’r pwrs cyhoeddus. Nod y Ddeddf yw sicrhau bod tai cymdeithasol yn parhau ar gael i’r rhai sydd â mwyaf o angen am dai.

Bwriad y Ddeddf yw ymdrin â thwyll tai cymdeithasol trwy: 1. greu trosedd newydd o isosod tai cymdeithasol; 2. rhoi pwerau i awdurdodau lleol erlyn, boed ar eu rhan eu hunain neu ar ran cymdeithasau tai; 3. darparu na fydd preswylwyr sy’n is-osod yn anghyfreithlon yn gallu cael sicrwydd daliadaeth trwy symud yn ôl i’r eiddo; a 4. rhoi hawliau i adfer unrhyw elw a wnaed o is-osod yn anghyfreithlon gan y preswylwyr trwy “orchymyn elw anghyfreithlon”, er budd y landlord.

Gellir cosbi’r drosedd â dirwy o £5,000 os bydd y tenant yn “fwriadol” wedi isosod yr eiddo – hynny yw ei fod yn gwybod ei fod yn torri amodau ei denantiaeth. Mae trosedd waeth o isosod “yn anonest” – sy’n berthnasol pan fydd tenant wedi mynd at i yn fwriadol i wneud elw ar draul y landlord. Gellir cosbi’r drosedd hon â dirwy nad oes cyfyngiad arni a hyd at ddwy flynedd o garchariad. Mae’r Ddeddf hefyd yn rhagweld y bydd mwy o bwerau yn cael eu rhoi i’r rhai sy’n ymchwilio i dwyll posibl i gael mwy o fynediad at ddata, a fydd yn cael ei ganiatáu trwy reoliadau.

Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Haf 2014 11


Byw’n iach – cael eich 5 y dydd trwy gydol y dydd Rydym yn gwybod i gyd ei bod yn bwysig i ni fwyta amrywiaeth o bum dogn o leiaf y dydd. Ond faint ohonom sy’n llwyddo i wneud hynny mewn gwirionedd? Maint dogn 5 Y DYDD – faint yw dogn o ffrwythau a llysiau? I oedolion Gall yr arweiniad bras isod eich helpu i weld a ydych yn cael eich 5 Y DYDD Mae dogn o ffrwythau (80g) yn fras yn cyfateb i:

ÃÃSleisen neu hanner ffrwyth mawr, e.e. sleisen o felon neu hanner grawnffrwyth, sleisen fawr o binafal. ÃÃ1 ffrwyth canolig e.e. afal, banana, gellygen, nectarîn ÃÃ2 ffrwyth bach e.e. 2 eirinen neu satswma, 7 mefusen. Mae dogn o ffrwythau sych (30g) yn fras yn cyfateb i:

ÃÃLlwy fwrdd lawn o ffrwythau sych e.e. sultanas, resins, ffigys. Mae dogn o lysiau (80g) yn fras yn cyfateb i:

ÃÃ3 llwy fwrdd lawn o bys, ffa neu godlysiau, e.e. ffa Ffrengig, ffacbys

ÃÃ2 sbigyn o frocoli, 4 llwy fwrdd lawn o ffa gwyrdd

ÃÃBowlen bwdin o salad.

12

I blant Mae faint y dylai plant ei fwyta yn dibynnu ar eu maint a’u hoedran. Canllaw da o ran dogn iddyn nhw fyddai faint y gallan nhw ei roi ar gledr eu llaw. Nid oes raid i hyn fod yn ddrud! Gallwch gadw costau yn isel trwy brynu ffrwythau a llysiau tun, sydd ddim yn difetha yn gyflym ond osgowch duniau gyda surop a halen. Mae ffrwythau a llysiau wedi rhewi yn para’n hirach ac mae marchnadoedd lleol yn fannau gwych i gael ffrwythau a llysiau ffres yn rhatach. Ewch i’r canllawiau a meintiau dognau 5 Y DYDD ar wefannau Change 4 Life a’r GIG: http://www.nhs.uk/Change4Life/ Pages/five-a-day.aspx

m Awgrylch amgy

c diwch fi d y n f e D d pty pry na’r po ’n gy hw Maen n efnyd d rhad i’w wym d il gyfer a ar g d nhw, on


Tan Y Fron

Tan y Fron – Agor Drysau – Gwella Bywydau Mae’r holl denantiaid yn awr wedi symud i gynllun Gofal Ychwanegol newydd Llandudno, gan nodi cyfnod newydd o fyw’n annibynnol i bobl hŷn yn yr ardal. Mae Tan y Fron yn cynnwys 46 o fflatiau unigol un a dwy ystafell wely o safon o gwmpas iard drawiadol lle gall rhai dros 60 oed fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain gan gael mynediad at wasanaethau gofal ac ystod eang o gyfleusterau cymunedol.

Mr Philip Arnold, 90 oed. Roedd Mr Arnold yn byw yn Abergele cyn symud i Dan y Fron. Datblygodd ei wraig glefyd Alzheimer a bu raid iddi symud i gartref nyrsio yn Llandrillo yn Rhos. “Roedd byw ar fy mhen fy hun yn anodd iawn. Roedd mor ynysig. Dwi erioed wedi gallu coginio felly roeddwn yn byw ar brydau parod. Mae bwyty gwych yma a bwyd gwirioneddol dda o’r radd flaenaf. Dwi’n hapus iawn yma ac mae’n rhaid i mi ddweud fod y cogydd a’i dîm yn wych!”

Fe wnaeth symud i Dan y Fron wahaniaeth anferth i fywydau’r preswylwyr:

u miadaol hedd

ach yn hytr crodon gallwch. y bynnag dd ac yn hwy yflym, r dim ond ar id ddio. N ewi y maen r d a mo a d d ffres hefyd. wy gyfer b

Mrs Beryl Ellison, 82 oed. “Cyn symud i Dan y Fron roeddwn yn byw mewn cynllun fflatiau preifat ac roedd problem fawr gyda’r cymdogion. Roeddwn yn bryderus y rhan fwyaf o’r amser ac nid oeddwn yn bwyta’n iawn. Mae symud yma wedi gwneud gwahaniaeth anferth i’m bywyd. Dwi’n fwy parod i gymysgu, dwi’n bwyta’n well, mae fy iechyd a’m lles wedi gwella’n wirioneddol. Mae cael gofal wrth law yn rhoi tawelwch meddwl mawr. Yn Nhan y Fron, mae’r preswylwyr yn byw llawer iawn ac yn chwerthin llawer iawn! Dyna’r gwahaniaeth gwirioneddol y mae wedi ei wneud”. Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Haf 2014 13


LLIFOGYDD LLANELWY

Llifogydd Llanelwy Y Preswylwyr y gwnaeth Llifogydd Llanelwy effeithio arnynt yn Trefnu Dathliad i Gymydog 100 Oed. Daeth grŵp a sefydlwyd i helpu dioddefwyr llifogydd Llanelwy at ei gilydd i ddathlu pen-blwydd un o’u cymdogion yn 100 oed. Daeth Age Connects â’r preswylwyr o Lys Esgob Morgan y gwnaeth y llif difrifol a darodd y dre yn Nhachwedd 2012 effeithio arnyn nhw at ei gilydd trwy’r prosiect Ark. Yn ddiweddar, fe ddaethant at ei gilydd i ddathlu pen-blwydd eu cymydog Rose Jennings yn 100 oed, gan brynu blodau, balŵns a threfnu i fainc gyda’i henw arni gael ei gosod. Lluniwyd y cynllun yn ystod eu cyfarfodydd coffi a grwpiau cefnogi a sefydlwyd i helpu pobl i gynyddu eu hyder ar ôl trawma’r llifogydd ac i gryfhau’r gymuned yr un pryd.

“Fydden ni ddim wedi gwneud hyn oni bai am ein cyfarfodydd wythnosol. Mae wedi helpu i greu cymuned gryfach. Felly mae rhywbeth da wedi dod o rywbeth drwg.”

P U O R G R OU rner, up the street Just round the co small group meet r ou o, tw at y da Thurs people of the flood Warm welcome for . d can only do good It helps to talk an

about the river Most of us worry e us all shiver It really does mak never happen again And Yes! It may ens come the rain? pp ha at wh s ow kn Who g lder as we go alon Some need a shou ng. perhaps sing a so – er sw an an d in f We’ll oup uch within that gr m so ed ar sh ve p! e’ W we let out a whoo ’ ts ec nn Co ge ‘A Thanks to brighter again Things are looking g – much less rain Weather’s improvin t and have a chat It’s good to mee t. – whose name is Pa dy la ly ve lo at th h Wit

Irene Gibbons, gan, Llys Esgob Mor Llanelwy. Mawrth 2014

14


Cynnal a Chadw wedi ei Gynllunio Ar ddiwedd Mawrth 2009, roedd 85% o’n heiddo yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru, ac rydym yn ymdrechu i sicrhau bod ein holl eiddo yn cyrraedd neu’n mynd tu hwnt i’r safon hwn erbyn diwedd 2015.

Awgr amgy ymiadau lched Peidiw dol ch â ga da

neu lin el eich iad cy a’r nos ur ymlaen trw frifiadur pa y’r defnyd n na fyddwch dydd dio. O yn e gadae l eich c s byddwch u yn yfrifi sylwed dol yna adur am gy fn o leiaf gofalw diffoddwch o od ch ei fo neu d yn ‘c ysgu’.

Beth ydym ni’n ei wneud i gyflawni hyn? Rydym yn gweithio’n galed i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru trwy weithio gyda chontractwyr a gweithredu rhaglenni cynnal a chadw wedi eu cynllunio i ddiweddaru rhannau o’ch cartref. Mae’r rhaglenni hyn yn cynnwys: Newid ceginau, adnewyddu ystafelloedd ymolchi yn rhannol ac yn llawn, newid ffenestri a bwyleri. Am ragor o wybodaeth am hyn a gwaith cynnal a chadw a gynlluniwyd yn eich ardal chi ewch i:

www.clwydalyn.co.uk/planned-maintenance

Noson Wobrwyo Elusennol Y Rhyl Noddodd Cymdeithas Tai Clwyd Alyn y Wobr ‘Cymydog Gorau’ yn Noson Wobrwyo Elusennol y Maer yn y Rhyl am 2014 yn Theatr y Pafiliwn. Teresa Higgins a enillodd y wobr ac fe’i henwebwyd gan Shirley Lewis.

Cyflwynwyd gwobr hefyd i denant Clwyd Alyn, Harold Martin, ar y Mae Teresa yn aelod o Eglwys y Santes noson pan dderbyniodd ‘Wobr Arbennig y Maer’ am ei waith fel Fair, a rhoddwyd y wobr iddi am, ‘y Cyfarwyddwr Gorsaf Radio Point FM caredigrwydd a’r cydymdeimlad a ddangosodd tuag at ei chymdogion, gan a gyflwynwyd i’r orsaf radio am ei sylw i’r ardal. fynd heibio a helpu cymdogion mewn oed yn ogystal â chodi arian i elusennau.’ “Rydym yn falch iawn o ennill y wobr. Mae’n cydnabod yr hyn yr ydym yn Dywedodd Teresa: “Mae ennill y wobr ceisio ei wneud dros y gymuned. hon wedi fy nghyffroi yn fawr. Nid Rydym yn ceisio rhoi rhywbeth yn ôl oeddwn yn disgwyl dim byd fel hyn. Mae’r gwobrau yma yn dangos tref mor i’r gymuned,” dywedodd Mr Martin. wych ydi’r Rhyl.” Cyflwynwyd y wobr gan Mrs Eurwen Edwards OBE, BEM Llywydd Anrhydeddus Pennaf a’r Dr Sarah Horrocks, Cadeirydd Cymdeithas Tai Clwyd Alyn.

y Wobr ‘Cymydog Gorau’ a Mrs Eurwen Edwards OBE, BEM Llywydd Anrhydeddus Pennaf.

Yn y llun o’r chwith i’r dde mae: Shirley Lewis a enwebodd Teresa am y wobr; Dr Sarah Horrocks, Cadeirydd ac Aelod o Fwrdd Cymdeithas Tai Clwyd Alyn; Tu blaen: Teresa Higgins Enillydd Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Haf 2014 15


CLWYD ALYN

Clwyd Alyn Housing Association Residents’ Newsletter - Summer 2014

1

Fy Nyddiau’n Cysgodi gyda staff Cymdeithas Tai Clwyd Alyn Gan Mike Bradshaw (Un o breswylwyr Clwyd Alyn, Partner Ansawdd, rhan o’r Pwyllgor Gwella Gwasanaethau, Llysgennad y Preswylwyr ac aelod o nifer o grwpiau eraill). Y llynedd daeth David Lewis, Pennaeth Cynnal a Chadw yn Clwyd Alyn ataf i ofyn i mi gysgodi nifer o staff. O Chwefror 2013 i Ragfyr 2013 fe dreuliais 6 diwrnod yn cysgodi gwahanol weithwyr gan gynnwys, Swyddogion Rheoli Asedau o Dîm Cynnal a Chadw Clwyd Alyn, Swyddogion Rheoli Asedau sy’n ymdrin ag eiddo gwag, diwrnod gyda Goruchwyliwr Cynnal a Chadw yn PenAlyn a phrynhawn gydag aelod o Dîm y Ganolfan Alwadau. Ar ôl pob diwrnod, ysgrifennais adroddiad ar fy nghanfyddiadau a’i gyflwyno i David Lewis.

Roedd cysgodi’r staff amrywiol yn brofiad gwych, gan roi cyfle i mi weld sut y mae staff Clwyd Alyn yn ymddwyn yn ystod eu diwrnod gwaith. Roedd y profiad yn agoriad llygad yn sicr. Rwyf yn deall yn awr sut y maen nhw’n ymdrin â gwahanol ddarnau o waith, pan fydd rhai darnau o waith yn cael eu caniatáu a rhai ddim. Rhoddodd ddealltwriaeth i mi hefyd pam fod rhai darnau o waith yn cael eu gwrthod. Wrth gysgodi’r staff Canolfan Alwadau, fe welais eu bod yn gwneud llawer mwy na dim ond ateb galwadau. Maen nhw’n cymryd taliadau rhent, prosesu ceisiadau am dai a llawer mwy. Am hyn, rwy’n eu canmol.

Hoffwn ddiolch i staff Clwyd Alyn, y bûm yn eu cysgodi, fe wnaethant i mi deimlo’n gyfforddus ac yn fwy na dim bod croeso i mi. Diolch i Gareth Williams, Stuart Williams, Andy Roberts (PenAlyn) a Karen Davies (o’r Ganolfan Alwadau). Dwi ar nifer o baneli yn Clwyd Alyn. Mae’r holl staff o’r Prif Weithredwr i lawr yn groesawus iawn ac yn gwneud i chi deimlo’n gyfforddus. I mi mae fel teulu estynedig ac mae wedi rhoi bywyd newydd i mi.

Diolch i chi.

YN GALW GARDDWYR BRWD! Sut mae pethau yn yr ardd? A oes gennych chi ddiddordeb mewn dangos eich gardd i’n panel o feirniaid? Gallwch ymgeisio fel gardd unigol neu gallwch ymgeisio fel cynllun neu stad yn y categori cynllun. Eleni rydym hefyd wedi ychwanegu adran basgedi crog/potiau yn arbennig pan na fydd gennych ardd a chlwt llysiau/rhandir gorau (ond nid ydym yn beirniadu cynnyrch unigol ar eu pen eu hunain). Bydd gwobr ariannol o £40 i’r enillydd ym mhob categori, ail wobr o £20 a £10 am ddod yn drydydd.

16

Hefyd, rydym yn annog pobl i anfon eu lluniau eu hunain i mewn, rhai digidol os yn bosibl, fel eich bod yn medru gwneud yn siŵr eich bod yn medru dangos eich ymgais ar ei gorau. Felly, y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw anfon eich llun digidol trwy e-bost at gareth.hughesroberts@clwydalyn.co.uk cyn gynted ag y gallwch, ond gyda dyddiad cau o 31 Awst 2014, gan nodi ym mha gategori yr ydych am gystadlu. Os nad ydych yn medru anfon eich llun i mewn eich hun, peidiwch â phoeni. Gallwch gysylltu â Gareth HughesRoberts ar: 01745 536843 a byddwn yn trefnu bod llun eich ymgais yn cael ei dynnu.

WELCOME


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.