Agor Drysau – Gwella Bywydau
Tai Anghenion Cyffredinol Rydym yn newid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau i chi. Rydym wedi edrych ar y gwasanaethau rydych yn eu derbyn gennym ac er mwyn i ni barhau i ddarparu ac adeiladu ar y gwasanaeth gwych yr ydym yn ei ddarparu, rydym wedi gwneud newidiadau yn ddiweddar i Anghenion Cyffredinol. Bydd y newidiadau yma yn dod i rym o ddydd Llun, 28 Tachwedd 2016. Gwasanaethau Tai Cyffredinol - mae hyn yn ymwneud â thai Anghenion Cyffredinol; tai, fflatiau a byngalos; ac mae’n cynnwys llety i bobl hŷn nad ydynt yn cael gwasanaeth gan Warden neu Reolwr Cynllun. Mae Timau ar gael yn awr i’ch helpu gyda’ch ymholiadau os na fydd Tîm y Ganolfan Gyswllt yn gallu eich helpu - Tîm y Dwyrain a Thîm y Gorllewin. Mae’r ddau Dîm yn cael eu rheoli gan Arweinwyr Tîm sy’n adrodd yn ôl i’r Pennaeth Gwasanaethau Preswyl – Edward Hughes, sydd newydd ei benodi ac sy’n ymuno â’r Grŵp ar dydd Llun, 9 Ionawr 2017. Yn ychwanegol at eich Swyddogion Tai, mae gennym yn awr Swyddogion Ymweld, a fydd yn ymweld â’r holl breswylwyr dros gyfnod o 12 mis i sicrhau ein bod yn eich cefnogi a’ch helpu.
Mae’r Timau fel a ganlyn -
Swyddog Tai Barry Evans Yvonne Cole Rebecca Halton Laura Stephens Swyddogion Ymweld Angharad Jones Ami Jones
Arweinydd Tîm y Gorllewin - Carol Hooper Warden Gofalwr Glanhawr Jean Brown Amh Rachel Cherrington Steve Sanders Alison Pring Anna Newman William John Roberts
Mae Tîm y Gorllewin yn gweithio yn yr ardaloedd canlynol Arweinydd Tîm- Carol Hooper Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych a rhan o Sir y Fflint Ardaloedd yn ôl Swyddog Tai Yvonne Cole Rebecca Halton Abergele Bodelwyddan Bae Colwyn Caerwys Llanddulas Dinbych Llysfaen Dyserth Hen Golwyn Gwernaffield Pensarn Coed-llai Rhyd y Foel Meliden Y Rhyl Yr Wyddgrug Towyn Mynydd Isa New Brighton Pontblyddyn Prestatyn Rhuddlan Rhuthun Llanelwy Trefnant Tremeirchion Treuddyn
Barry Evans Amlwch Benllech Brynsiencyn Conwy Caergeiliog Degannwy Glan Conwy Gaerwen Caergybi Llandudno Cyffordd Llandudno Llangefni Porthaethwy Mochdre Penmachno Penmaenmawr Bae Penrhyn Llandrillo yn Rhos Tal y Bont Y Fali Swyddog Tai Alison Douglas Lisa Jones Shelley Debono Sarah Faire
Swyddog Ymweld Sue Barret-Hill
Arweinydd Tîm y Dwyrain - Sally Tonks Warden Gofalwr Amh Geoffrey Green Amh Brynley Richards Anita Vale Kathy Davies
Laura Stephens Ffynnongroyw Maes-glas Gronant Treffynnon Bae Cinmel Mostyn Pen-y-ffordd Y Rhyl
Glanhawr
Alison Hughes
Mae Tîm y Dwyrain yn gweithio yn yr ardaloedd canlynol Arweinydd Tîm - Sally Tonks
Alison Douglas Cefn Mawr Y Waun Johnstown Marchwiel Oldford Llys yr Efail Pen y Cae Llannerch Banna Plas Madoc Rhosllannerchrugog Rhostyllen
Rhan o Sir y Fflint, Wrecsam, Powys Ardaloedd yn ôl Swyddog Tai Lisa Jones Shelley Debono Bagillt Aston Cei Conna Brychtyn Y Fflint Bwcle Helygain Drury Oakenholt Ewlo Pentre Helygain Penarlâg Mancot Queensferry Saltney Sandycroft Sealand Shotton
Sarah Faire Acton Bradley Brymbo Brynteg Coedpoeth Cefn y Bedd Gwersyllt Llangollen Llai Brychtyn Newydd Pentre Brychtyn Ponciau Pontfadog Rhosddu Yr Orsedd Rhiwabon Rhosnesni Summerhill Wrecsam
Tîm Incwm Rydym hefyd wedi newid y ffordd yr ydym yn delio â rheoli preswylwyr y mae arnynt ôl-ddyledion rhent i’r Grŵp neu sy’n ei chael hi’n anodd i dalu rhent yn gyson ac rydym wedi creu Tîm Incwm newydd. Arweinydd y Tîm - Brendan McWhinnie Bydd y Tîm Incwm yn gyfrifol am sicrhau bod preswylwyr yn talu eu rhent, gan ganolbwyntio ar reoli preswylwyr Anghenion Cyffredinol a Thai Cysgodol sydd ag ôl-ddyledion. Pan fydd angen hynny, byddant yn cymryd camau cyfreithiol i adfer dyledion neu i drin rhai sydd heb dalu. Os ydych chi yn cael anhawster yn talu eich rhent – cysylltwch â ni a byddwn yn ceisio eich helpu.
Mae’r Swyddogion Incwm fel a ganlyn: Swyddog Incwm Andrew Griffiths Cathal Hamill Helen Jones
Ardal y mae’n gyfrifol amdani Sir y Fflint Conwy/Sir Ddinbych Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r Wyddgrug
Gwneir y gwaith Casglu Incwm ym Mhowys gan Alison Douglas, Swyddog Tai. Gwneir y gwaith Casglu Incwm ar Ynys Môn gan Barry Evans, Swyddog Tai. Os ydych chi yn cael anhawster yn talu eich rhent – cysylltwch â ni a byddwn yn ceisio eich helpu. Swyddog Hawliau Lles a Chyngor Ariannol: bydd yn eich helpu ag ymholiadau am fudd-daliadau yn ymwneud â’ch hawliau neu os byddwch yn cael budd-daliadau a’u bod yn newid neu yn dod i ben.
Y Timau eraill fydd yn darparu gwasanaethau i’ch cefnogi chi fydd y canlynol:Tîm Diogelwch a Lles Cymunedol – Arweinydd Tîm Karl Roberts. Mae’r Tîm hwn yn cynnwys 3 x Swyddog Hawliau Lles a Chyngor Ariannol – a fydd yn eich cefnogi i wneud y mwyaf o’ch incwm, a lleihau dyledion, gan eich galluogi i dalu eich rhent a’ch taliadau gwasanaeth ac ati. 2 x Swyddog Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Chynorthwy-ydd – a fydd yn eich helpu i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion eraill. 1 x Swyddog Cefnogi Tenantiaeth – i helpu gyda rhai o’r materion mwyaf heriol y mae preswylwyr yn eu hwynebu o dro i dro.
Tîm y Ganolfan Gyswllt Rheolir y Ganolfan Gyswllt gan Melody Blackwell-Jones, Cydlynydd Gwasanaethau Cwsmeriaid. Rôl y Ganolfan Gyswllt yw eich helpu gyda’r ymholiadau canlynol: *Ymholiadau Cyfrif Rhent/ Cymryd Taliadau Rhent trwy Gerdyn *Rhoi Adroddiad am Gynnal a Chadw a Thrwsio *Rhoi Adroddiad am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol *Ymholiadau am Geisiadau am Lety ar Rent/Ceisiadau i Drosglwyddo *Unrhyw Ymholiadau Cyffredinol Mae’r Ganolfan Gyswllt ar agor o 8am i 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a gallwch gysylltu â ni yn y ffyrdd canlynol: Rhadffôn: 0800 183 5757 Ffôn: 01745 536800 Testun: 07786202533 ac os bydd angen gallwn eich ffonio yn ôl E-bost: enquiries@clwydalyn.co.uk Gwaith trwsio argyfwng tu allan i oriau swyddfa: 0300 123 3091 Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon am y newidiadau newydd, cysylltwch â ni ar enquiries@clwydalyn.co.uk neu ffoniwch ni ar y rhifau ffôn a roddir uchod. Diolch am eich cydweithrediad a’ch amynedd wrth i ni ddechrau gwneud newidiadau i’r gwasanaeth. Paul Seymour, Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Preswylwyr
Mae Clwyd Alyn a Tŷ Glas yn Gymdeithasau Cofrestredig elusennol