Eich cartref eco

Page 1

@ClwydAlyn
Cyflwyniad i Pympiau Gwresogi Ffynhonell Aer EICH CARTREF ECO ClwydAlyn.co.uk

Croeso i’ch cartref ynni-effeithlon newydd!

Gan eich bod chi wedi ymgartrefu yn eich cartref erbyn hyn, fe hoffem eich cynorthwyo i ddilyn ffordd o fyw sy’n fwy gwyrdd ac ynni-effeithlon. Cymrwch gipolwg ar ein hawgrymiadau, gan gynnwys ‘manteisio i’r eithaf ar eich pwmp gwres sy’n defnyddio aer a beth i’w ddisgwyl’.

Gallai newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr. Bydd y newidiadau yn fodd ichi ofalu am yr amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allwch chi hefyd arbed arian yn y pen draw hefyd. Mae eich cartref newydd yn le braf i fyw ynddo ond at hyn, mae’n ystyriol o’r amgylchedd ac yn fuddiol i genedlaethau’r dyfodol hefyd. SYSTEM WRESOGI

Defnyddio pwmp gwres sy’n defnyddio aer ar gyfer gwresogi – Beth i’w ddisgwyl

• Bydd rheoli eich pwmp gwres drwy ddewis tymheredd rydych yn gyfforddus ag o a’i adael ar y tymheredd hwnnw drwy’r dydd yn sicrhau bod y pwmp gwres yn gweithio’n fwy effeithlon. Bydd yn diffodd yn awtomatig unwaith y bydd yn cyrraedd y tymheredd hwnnw ac yn troi arnodd unwaith eto pan fydd tymheredd eich tŷ yn gostwng i fod yn is na’ch tymheredd dewisol. Bydd hyn hefyd yn sicrhau caiff y system ei gynnal yn fwy effeithiol.

• Os ydych chi’n defnyddio’r pwmp gwres felly, ni ddylai gymryd hir i gyrraedd eich tymheredd ystafell dewisol. Os byddwch chi’n ei ddiffodd yn gyfan gwbl ac yn gadael i’r holl wres dreiddio allan o’ch tŷ, yna fe allai gymryd ychydig oriau i ail-gynhesu eich tŷ ar ddiwrnodau oer.

• Mae’n bosibl y bydd y gwres yn ymateb yn arafach pan fyddwch yn newid y tymheredd sydd wedi’i osod.

• Os nad oes angen y gwres arnoch, e.e. yn ystod misoedd yr haf, ewch ati i droi eich thermostat mor isel â phosibl. Bydd hyn yn diffodd y gwres. Does dim rhaid ichi ddefnyddio’r switsh i’w ddiffodd.

• Yn y gaeaf, bydd rhew yn hel ar yr uned sydd y tu allan a bydd yn cynnal cylched dadmer yn awtomatig er mwyn toddi’r rhew. Bydd hyn yn creu stêm sy’n gwbl normal.

• Bydd gofyn ichi ganiatáu mynediad i’n tîm cynnal a chadw i’ch eiddo pob blwyddyn er mwyn iddyn nhw allu cynnal a chadw’r pwmp gwres sy’n defnyddio aer a sicrhau ei fod yn gweithio’n ddigonol, yn unol â manyleb y gwneuthurwr.

Manteisio i’r eithaf ar eich pwmp gwres sy’n gwresogi’ch cartref

Os nad ydych chi’n cyflawni safonau tymheredd digonol neu os ydy’r pwmp gwres yn ddrytach i’w gynnal nag yr oeddech chi’n ei ddisgwyl, gwiriwch y canlynol:

• Caewch y ffenestri a’r drysau er mwyn i’ch gwres allu cynyddu’n raddol.

• Gosodwch eich pwmp gwres fel ei fod yn cynhesu’ch cartref yn araf dros gyfnod hirach ac ar dymheredd is.

• Gyda’r nos mae’n bosibl y byddwch chi’n dewis cysgu mewn tŷ sydd ychydig yn oerach. Y ffordd fwyaf effeithlon o sicrhau hyn ydy gostwng gwres y thermostat oddeutu 3 neu 4 gradd. Peidiwch â’i ddiffodd yn gyfan gwbl er mwyn sicrhau y bydd y thermostat yn gweithio’n gyflymach ac yn fwy effeithlon i gyrraedd eich tymheredd dewisol.

Defnyddio pwmp gwres sy’n defnyddio aer ar gyfer dŵr poeth

• Unwaith caiff y dŵr ei gynhesu gan y system pwmp gwres sy’n defnyddio aer, fe gaiff ei gadw mewn silindr dŵr yn barod i’w ddefnyddio. Mae’r tanc wedi’i insiwleiddio’n dda er mwyn atal colli unrhyw wres.

• Mae silindr dŵr poeth yn fodd i’r pwmp gwres gynhesu’r dŵr yn raddol yn barod at pan fydd ei angen arnoch chi. Unwaith ichi ddefnyddio dŵr poeth, bydd y pwmp gwres yn gweithio’n awtomatig er mwyn ail-gyflenwi’r dŵr poeth ichi.

• Bydd y pwmp gwres sy’n defnyddio aer yn cynhesu’r dŵr i dymheredd yr ydych chi wedi arfer gydag o.

• Mae’n debyg y bydd tymheredd yr ystafell yn gostwng rhyw fymryn pan fo’r silindr dŵr yn cynhesu. Rydym yn awgrymu eich bod yn trefnu bod y dŵr yn cynhesu dros nos neu yn ystod adeg lle na fyddai neb gartref.

DIOGEL,
DIBYNADWY, AC SY’N YSTYRIOL O’R AMGYLCHEDD

Mae eich paneli solar a’ch pwmp gwres sy’n defnyddio aer yn cydweithio’n effeithiol gyda’i gilydd, oherwydd fe allai paneli solar helpu i gynnal pwmp gwres.

Mae system storio batri paneli solar yn rhai o’n heiddo, sy’n fodd ichi gadw trydan i’w ddefnyddio adeg arall. Er enghraifft, gallwch gadw’r trydan mae eich paneli solar yn ei gynhyrchu’n ystod y dydd a’i ddefnyddio gyda’r nos.

Paneli Solar – Beth i’w ddisgwyl

Mae paneli trydan solar, caiff eu galw’n ffotofoltäig (PV), yn dal ynni’r haul ac yn ei drosi’n drydan y gallwch chi ei ddefnyddio yn eich cartref.

Does dim angen golau haul uniongyrchol arnyn nhw i weithio ac fe allan nhw hefyd weithio ar ddiwrnod cymylog. Fodd bynnag, y cryfaf ydy’r heulwen, y mwyaf o drydan gaiff ei gynhyrchu.

Os ydych chi’n defnyddio mwy o ynni yn eich cartref na mae eich paneli yn ei gynhyrchu, neu’n defnyddio mwy o ynni yn ystod y nos pan nad ydy’ch paneli yn cynhyrchu trydan, bydd eich trydan yn treiddio o’r rhwydwaith.

Ystyriwch ddefnyddio eitemau

trydanol sy’n defnyddio llawer o drydan yn ystod y dydd

Mae gofalu bod ein cartrefi’n fwy ynni-effeithlon yn rhan

hollbwysig o’n hymdrechion cyffredinol i leihau ein heffaith ar newid mewn hinsawdd a bwrw iddi gydag ein hamcan o fod yn fudiad carbon sero-net.

Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol SERO-NET

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.