
1 minute read
Ein Strategaeth Amgylcheddol
by ClwydAlyn
EICH CARTREF
Taith at Sero Carbon Ein
Taith at
Sero Carbon
Rhan fawr o’n cenhadaeth i daclo tlodi yw edrych sut y gallwn leihau tlodi tanwydd i’n preswylwyr. Rhan allweddol o hyn yw helpu i leihau’r effaith y mae ein cartrefi llai effeithlon o ran ynni yn gallu ei gael ar iechyd a llesiant pobl.
Rydym ar ein Taith at Sero Carbon, ac er mwyn cyrraedd yno byddwn yn canolbwyntio ar gynyddu effeithlonrwydd ynni ein cartrefi dros y blynyddoedd nesaf. Bydd arnom angen eich cefnogaeth os ydych yn byw yn un o’n cartrefi llai effeithlon.
Rydym wedi cyffroi o gychwyn ar ein cenhadaeth i ddod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar a chynaliadwy ac rydym yn eich croesawu chi i ymuno â ni ar ein taith.
Edrychwch ar Ein Strategaeth Amgylcheddol yma:



Rydym wedi bod yn brysur yn gweithio ar fideo i lansio ein gweledigaeth amgylcheddol.
Cawsom ychydig o help gan blant o Brynteg ac Ysgol Maes y Mynydd, a fu’n cyfweld ein Cyfarwyddwr Cynnal a Chadw, Dave Lewis. Fe wnaethant ofyn pa gamau y mae ClwydAlyn yn bwriadu eu cymryd i helpu’r amgylchedd... cadwch olwg am y fideo i gael gwybod beth ddywedodd o!
Fe fyddem yn hoffi diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran gan ei fod wedi bod yn llawer o hwyl a bu’r ffilmio yn llwyddiant anferth.