
1 minute read
Datblygiadau Newydd yn Eich Ardal
by ClwydAlyn
EICH CYMUNED DATBLYGIADAU NEWYDD

Gan weithio gydag Anwyl Partnerships, rydym yn ddiweddar wedi gorffen adeiladu 92 o gartrefi o safon uchel, fforddiadwy yn Sir y Fflint a Chonwy. Mae’r tri chynllun wedi cynnig cartrefi newydd hyfryd, o safon uchel, fforddiadwy ac mae’r preswylwyr eisoes wedi symud i mewn neu fe fyddant yn symud yn fuan iawn! YN EICH ARDAL 92 O GARTREFI NEWYDD AC MAE’R PRESWYLWYR YN SYMUD I MEWN! Dymunwn bopeth gorau i chi yn eich cartrefi newydd.
• Newidiodd tafarn y Boars Head yn Ewlo ei enw i Pen y
Baedd, gan gynnig cartrefi i bobl 55 oed a hŷn. Mae 28 o fflatiau i gyd, cymysgedd o fflatiau 1 a 2 ystafell wely a 3 tŷ fforddiadwy. Mae’r preswylwyr wedi dechrau symud i mewn. • Mae safle gwesty’r Albion a’r clwb cymdeithasol yng Nghei
Conna yn awr yn cael ei alw yn Plas Albion, gan gynnig cartrefi i bobl 55 oed a hŷn. Mae 30 o fflatiau i gyd, cymysgedd o fflatiau 1 a 2 ystafell wely. Mae’r holl breswylwyr wedi symud i mewn. • Gelwir gwesty Edelweiss ym Mae Colwyn yn awr yn Plas
Dingle. Mae Plas Dingle yn darparu 31 o dai fforddiadwy, gan gynnwys 14 o fflatiau un ystafell wely ac 17 o fflatiau dwy ystafell wely. Mae’r holl breswylwyr wedi symud i mewn.
“ Mae ein rhaglen ddatblygu uchelgeisiol ar draws Gogledd Cymru yn cynnig llawer o gartrefi newydd i bobl sydd angen amrywiaeth o wahanol fathau o gartrefi. “ Mae’r prosiectau yma yn rhan bwysig o’n strategaeth i gyflawni tai newydd, a thrwy weithio gydag Anwyl Partnerships, rydym yn falch o fod wedi darparu 92 o gartrefi newydd o ansawdd. “ Mae cwblhau’r tri chynllun hefyd wedi amlygu ein huchelgais i ddefnyddio contractwyr lleol ac is-gontractwyr, sy’n gadael i ni roi hyfforddiant a phrentisiaethau yn y sector adeiladu i bobl leol a’n preswylwyr.”
