1 minute read

Ymgeisio am Dai - Dysgwch am y dewisiadau gwahanol i wneud cais am gartref yn ClwydAlyn.

NEWYDD

CROESO MAWR I CLWYDALYN…

fe fyddem wrth ein bodd yn clywed sut yr ydych yn setlo?

Anfonwch eich hanes at communications@clwydalyn.co.uk

Rydym wedi ymrwymo i adeiladu llawer o gartrefi newydd, fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni, i fodloni amrywiaeth o anghenion a’n cynllun yw cwblhau dros 1,500 o gartrefi erbyn 2025.

GWNEUD CAIS AM DAI

Awydd newid eich cartref?

Fyddech chi’n hoffi newid eich ardal, neu a oes arnoch angen dod o hyd i dŷ llai/mwy? Efallai y gallwch symud trwy gyfnewid eich cartref gyda phreswyliwr arall gan ddefnyddio’r gwasanaeth cyfenwid cenedlaethol. Os hoffech gael gyfnewid, ewch i’r wefan Cyfnewid Tai am ragor o wybodaeth: homeswapper.co.uk

Rhestr aros am lety ar rent i breswylwyr newydd

Mae’r broses gofrestru yn ddibynnol ar pa leoliad y mae gennych ddiddordeb ynddo ac mae’n newid rhwng awdurdodau lleol. Os hoffech chi symud i ardal Wrecsam, yna byddai angen i chi ein ffonio ni ar 0800 183 5757 a gallwn anfon pecyn ymgeisio atoch.

Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw ardaloedd eraill, yna ewch yn syth at y Cyngor Sir perthnasol. Mae rhifau cyswllt y Cynghorau Sir amrywiol fel a ganlyn: Cyngor Sir Ynys Môn: 01248 752200 Cyngor Sir Conwy: 0300 124 0050 Cyngor Sir Ddinbych: 01824 712911 Cyngor Sir y Fflint: 01352 703777 Cyngor Sir Gwynedd: 01286 685100 Cyngor Sir Powys: 01597 827464

Mae gennym gyfarwyddyd safonol ar gyfer y broses ymgeisio yma clwydalyn.co.uk/media/documents/guideapplicants-rented-accommodation_cy.pdf

Tai Fforddiadwy

Os oes gennych ymholiadau am dai fforddiadwy gallwch ymweld â taiteg.org.uk/cy/ am wybodaeth am gofrestru a’r meini prawf cymhwyster.

Gofal Ychwanegol

Er mwyn ymgeisio am un o’n cynlluniau gofal ychwanegol, ewch i’n gwefan yma clwydalyn.co.uk/extra-care-information/

Er mwyn gofyn am alwad neu i weld ein taflenni ewch i’n gwefan yma; clwydalyn.co.uk/care-homes-information/

This article is from: