TIR YN GLASDIR, RHUTHUN, SIR DDINBYCH
Datblygiad 63 o gartrefi newydd
fforddiadwy effeithlon o ran ynni, yn cael eu hadeiladu gan Williams Homes ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru.
CYFLEOEDD GWAITH
DIWEDDARIAD AM Y CYNNYDD
AC EDRYCH YMLAEN
Mae’r gwaith ar y safle yn mynd yn ei flaen yn dda ac ym mis Hydref ac yn fwy diweddar ym mis Chwefror, cwblhawyd cam 2 y datblygiad a symudodd 29 o breswylwyr/ teuluoedd i’w cartrefi newydd! Bydd gan y datblygiad 3 cham i’w gwblhau, gyda cham 3 yn mynd yn ei flaen yn dda. Bydd y 63 cartref i gyd wedi eu gorffen yng ngwanwyn 2023.
Mae dynion yng Ngharchar Ei Fawrhydi Berwyn yn Wrecsam wedi bod yn cynhyrchu paneli ffrâm bren ar gyfer ein datblygiadau yn Glasdir (Rhuthun), Hen Ysgol y Bont, Pentraeth a Melin / Mart y Fali yn Ynys Môn, gan chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y cynlluniau. Sefydlwyd uned ffatri yn y carchar, ac yn awr mae 25 o ddynion wedi cael cyfle i ddysgu sgiliau ymarferol a chymwysterau i’w paratoi i gael gwaith wrth eu rhyddhau.
PRESWYLWYR YN SYMUD I’W CARTREFI!
Llongyfarchiadau i’n preswylwyr sydd wedi symud i’w cartrefi newydd!
NATALIE
“ Rwyf wedi cyffroi yn fawr o gael symud ac mae fy nghartref newydd yn hollol hyfryd. Ar ôl byw hefo fy mam am 2 flynedd mae’r tŷ o faint da a bydd y 3 ystafell wely yn well i mi a’m plant. Mae eu teganau wedi bod yn cael eu storio, ond rŵan fe allwn ni eu cael allan a fe allwn ni wirioneddol fyw ein bywydau. Mae fy nghartref hefyd yn effeithlon
iawn o ran ynni – dwi erioed wedi byw yn rhywle â phaneli solar a bydd hyn yn arbed arian i mi ar fy mil trydan. Mae’r adeiladwyr wedi gwneud gwaith da a bydd yn wych cael byw yma.“
YMWELWYR Â’R DATBLYGIAD
Ymwelodd y pensaer, cyflwynydd teledu a llysgennad Ecodan, George Clarke â’r datblygiad ym mis Tachwedd i glywed y cwbl am y ffordd y gosodwyd pympiau gwres ffynhonnell aer Mitsubishi (Ecodan) yn y cartrefi i leihau tlodi tanwydd a datgarboneiddio stoc tai. Gan arddangos hyn mewn fideo a ffilmiwyd yn y Brif Swyddfa ac yn y cynllun, cyfarfu George â Stuart Hughes, Rheolwr Prosiect Datblygu a Tony Hughes, Cyfarwyddwr Masnachol Williams Homes, i drafod y bartneriaeth a pham bod gwres cynaliadwy mor bwysig. Cyfarfu Stuart hefyd â Carolyn Thomas AS a Darren Millar AS yn y cynllun i drafod pob elfen o’r prosiect a sut y bydd y dechnoleg flaengar yn cynorthwyo’r preswylwyr wrth symud i’w cartrefi newydd.
RHEOLI’R SAFLE AC ORIAU GWEITHREDU
Mae Tîm Rheoli Safle ar y safle bob amser, sydd wedi ei hyfforddi i reoli’r holl weithrediadau a gweithgareddau’r isgontractwyr yn ddiogel.
Yr oriau gweithredu nodweddiadol yw dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm a dyddiau
Sadwrn 8am hyd 1pm. Os bydd angen i waith arbenigol ddigwydd ar unrhyw adeg tu hwnt i’r oriau hyn, byddwn yn cysylltu â chi. Byddwn yn parhau i gyfathrebu yn gyson trwy gylchlythyr wrth i’r datblygiad symud yn ei flaen.
“ Rwy’n hoffi popeth am fy nghartref newydd. Dim ond fi fydd yn byw yma hefo fy mab 2 flwydd oed, a hefo 2 lofft, byddaf yn gallu gwneud be licia’i heb boeni. Doedden ni ddim yn disgwyl cael y tŷ ond fe wnaethon ni, a dwi wrth fy modd. Mae’r gegin, yr ystafelloedd eraill a’r ardd yn hardd, a gyda phaneli solar, fydd ddim rhaid i ni dalu cymaint am drydan, sy’n fantais fawr.“ BRANDON
CYSYLLTWCH Â NI
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Penny Lofts (Rheolwr Tir a Chaffael) ar 01678 521781 a fydd ar gael i ateb unrhyw ymholiadau all fod gennych. Fel arall, os byddai’n well gennych gysylltu â ni trwy e-bost, ein cyfeiriad yw: info@williams-homes.co.uk
DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL
Am y newyddion diweddaraf am y datblygiad, gan gynnwys delweddau o’r ffordd mae’r safle’n datblygu, dilynwch ClwydAlyn a Williams Homes ar y cyfryngau cymdeithasol @ClwydAlyn @WilliamsHomes_
Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol