Cyngor, Addasiadau a Gwaith Trwsio Wrecsam, LL11 4YL
Rydym yn cynnig cyngor a help ymarferol i bobl am waith trwsio, gwelliannau neu addasiadau i’w cartrefi Gyda dros 10 mlynedd o brofiad mewn cynnal a chadw eiddo a gwasanaethau technegol, mae gennym hanes profedig o gynnig gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, gan weithio mewn partneriaeth â’n cwsmeriaid i ddarparu prosiectau o safon uchel yn ddiogel ac mewn pryd.
Ein hystod o wasanaethau
Sylwadau Ein Cleientiaid
Gwasanaethau Cynnal a Chadw • • • • • • •
Peintio ac addurno Gwaith coed Gwaith Trwsio Gwaith cynnal a chadw cylchynol Plymio Mân addasiadau a gwelliannau Cegin ac Ystafell Ymolchi
Gwasanaethau Technegol
Mae gennym arbenigedd eang ac mae ein holl weithwyr yn brofiadol ac wedi cymhwyso yn uchel, gan sicrhau ein bod yn medru bodloni eich anghenion. Mae eich tawelwch meddwl yn bwysig i ni; mae’r holl staff wedi eu gwirio yn annibynnol o ran diogelwch, mae ganddynt oll yswiriant llawn ac wedi eu hyfforddi i gadw at y safonau uchaf posibl.
• Cynlluniau llawr • Lluniadu CAD • Cysylltu â chontractwyr ar eich rhan • Trefnu a goruchwylio gwaith / prosiectau • Llenwi Tystysgrifau Perfformiad Ynni
Ffôn: 01978 714180 Gwefan: www.pencartref.co.uk E-bost: enquiries@pencartref.co.uk
PenCartref Stad Ddiwydiannol Rhosddu, Rhosddu, Wrecsam, LL14 4YL.
Bydd y gwasanaethau yma ar gael i bobl sy’n byw yn Wrecsam, Sir y Fflint, Sir y Ddinbych ac ar ororau Swydd Amwythig a Swydd Gaer.
Gwasanaeth Cynnal a Chadw Eiddo Gall PenCartref gynnig cyngor a help hefo’r canlynol:
“Bodlon iawn ar eich gwasanaeth – staff dymunol a pharod i helpu.”
“Rydym yn hapus iawn ar y gwasanaeth prydlon a chwrtais a gafwyd.”
“Byddwn yn hoffi dweud pa mor gyfeillgar yw eich gweithwyr. Maen nhw yn rhoi cysur i mi am unrhyw broblemau y gallaf eu cael yn y tŷ yn y dyfodol.”
• Ymweld â chi gartref i drafod pa waith trwsio neu addasiadau sydd arnoch eu hangen, yr atebion posibl a’r costau tebygol • Eich helpu i benderfynu pa waith y dylid ei wneud a chynghori ar benodi contractwyr, penseiri, peirianwyr a gweithwyr proffesiynol, yn ôl y gofyn • Gwneud gwaith rheoli prosiect nes bydd y gwaith wedi ei orffen Mae PenCartref yn gweithredu fel Menter Gymdeithasol, gan ddarparu gwasanaethu i’r gymuned am bris teg. Rheolir PenCartref gan Gymdeithas Tai Tŷ Glas. Mae Cymdeithas Tai Tŷ Glas wedi cofrestru yn Gymdeithas Elusennol ac yn Landlord Cymdeithasol Cofrestredig ac yn masnachu dan yr enw PenCartref.
Agor Drysau – Gwella Bywydau
Cymdeithas Tai Tŷ Glas Cyf sy’n masnachu fel PenCartref