Adroddiad Gweithgareddau Blynyddol 2017-18

Page 1

Agor Drysau – Gwella Bywydau

Tai o Ansawdd – Cymunedau Iach Adroddiad Gweithgareddau Blynyddol 2017-18


Grŵp Tai Pennaf Tai o Ansawdd – Cymunedau Iach Gyda hanes trawiadol dros y 39 mlynedd diwethaf, pan wnaeth Cymdeithas Tai Clwyd Alyn gaffael ei eiddo cyntaf ym Mhen Gorllewinol y Rhyl, mae’r Grŵp wedi datblygu yn sylweddol diolch i benderfyniad ac ymrwymiad pawb. A ninnau yn gweithredu yn awr mewn saith ardal awdurdod lleol ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru, roedd gennym 5,729 o gartrefi dan ein rheolaeth ar 31 Mawrth 2018, gan wneud cyfraniad sylweddol at ymdrin â’r galw cynyddol am gartrefi o safon uchel, fforddiadwy ar draws y rhanbarth. Gyda hanes trawiadol dros y 39 mlynedd diwethaf, pan wnaeth Cymdeithas Tai Clwyd Alyn gaffael ei eiddo cyntaf ym Mhen Gorllewinol y Rhyl, mae’r Grŵp wedi datblygu yn sylweddol diolch i benderfyniad ac ymrwymiad pawb. A ninnau yn gweithredu yn awr mewn saith ardal awdurdod lleol ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru, roedd gennym 5,729 o gartrefi dan ein rheolaeth ar 31 Mawrth 2018, gan wneud cyfraniad sylweddol at ymdrin â’r galw cynyddol am gartrefi o safon uchel, fforddiadwy ar draws y rhanbarth.

Mae ein ‘Egwyddorion Craidd’ yn sail i holl waith y Grŵp, gan ymrwymo ein staff ac Aelodau’r Bwrdd i gyflawni eu dyletswyddau mewn fframwaith o werthoedd gwaelodol sy’n cael eu crynhoi yn Saesneg gan y byrfodd ‘I CARE’: ÃÃ Unplygrwydd - gonestrwydd ac ymddiriedaeth ym mhopeth a wnawn. ÃÃ Gofal - edrych ar eich ôl eich hun, eraill a chymunedau. ÃÃ Atebol - cymryd cyfrifoldeb am ein gweithredoedd.

Mae strwythur Grŵp Tai Pennaf fel mae’n sefyll heddiw wedi cael ei gynllunio i’n galluogi i fod yn fwy ymatebol i anghenion y cymunedau yr ydym yn gweithredu ynddynt; rhoi preswylwyr yn ganolog i’n gweithgareddau; cynyddu atebolrwydd lleol; cynnig dewis eang o wasanaethau o safon uchel i’n cwsmeriaid; a gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o’r adnoddau. Gyda Pennaf Cyf fel rhiant gwmni, mae ein hendidau gweithredol yn y Grŵp ar 31 Mawrth 2018 - Pennaf, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, Cymdeithas Tai Tŷ Glas, Tir Tai a Cyllid Tai PenArian plc - yn cynnig gwasanaethau sy’n cyd-fynd â’i gilydd ac yn manteisio ar gael cefnogaeth ei gilydd, ac ar yr un pryd yn cadw eu hunaniaeth a’u rôl unigryw eu hunain. Darlunnir y berthynas gref sy’n bodoli rhwng yr endidau yn y Grŵp yn y Cynllun Busnes corfforaethol, sy’n nodi ein strategaeth ar gyfer cyflawni ein Prif Ddiben: Agor Drysau – Gwella Bywydau Cyflawnir hyn trwy gyfres o ‘Amcanion Corfforaethol’ tymor hir: ÃÃ Rydym yn buddsoddi mewn cartrefi yn y gymuned ac yn eu haddasu. ÃÃ Preswylwyr yn fodlon ar ein gwasanaethau. ÃÃ Rydym yn wydn yn ariannol ac yn cynnig gwerth am arian. ÃÃ Rydym yn cael ein rheoli’n effeithiol. ÃÃ Rydym yn gwneud y mwyaf o botensial ein pobl, eu heffeithlonrwydd a’u hymrwymiad.

2

ÃÃ Parch - Parchu eich hun ac eraill. ÃÃ Cydraddoldeb - derbyn gwahaniaethau a thrin pawb yn deg. Yr allwedd i gefnogi cyflawni’r uchod i gyd yw gweithredu’r strategaethau craidd, ynghyd â pharhau i wella perfformiad ac effeithlonrwydd y busnes.


Neges o’r Gadair O brosiectau arloesol i storïau sy’n ysbrydoli, mae 2017-18 wedi bod yn flwyddyn arall brysur a llwyddiannus, gyda llawer o ddigwyddiadau cofiadwy ar hyd y ffordd. Rydym wedi parhau i ddarparu tai o ansawdd a’r gwasanaethau allweddol yn effeithlon ac effeithiol; wedi rhoi preswylwyr yn ganolog i’n gweithgareddau; wedi datblygu trefniadau gweithio mewn partneriaeth cryf; ac wedi helpu i greu dyfodol mwy diogel a chynaliadwy i’n preswylwyr a staff. Mae mynediad at dai teilwng a’r gwasanaethau cefnogi cysylltiedig yn ofynion sylfaenol ar gyfer datblygu a chynnal cymunedau lleol ffyniannus. Er gwaethaf y llu o sialensiau yr ydym oll yn eu hwynebu yn y sector, mae’r Grŵp wedi parhau i arwain y ffordd wrth ddod o hyd i atebion blaengar i helpu i ymdrin â’r argyfwng tai sy’n gwaethygu a wynebwn heddiw. Roeddem yn falch iawn pan ddaethom yn ddarparwr tai cyntaf yng Nghymru i sicrhau Bond marchnadoedd cyfalaf sector cyhoeddus ym Mehefin y llynedd. Fe wnaethom weithio’n glos gydag ymgynghorwyr ariannol arbenigol i sefydlu is-gwmni newydd - Cyllid Tai PenArian plc - sydd wedi denu buddsoddiad o £250 miliwn o’r marchnadoedd cyfalaf trwy gynnig Bond cyhoeddus. Mae’r llwyddiant mawr hwn wedi rhoi mwy o eglurder i ni am ein costau dros y 35 mlynedd nesaf; wedi ein galluogi i leihau ein costau gweithredu ac ad-dalu’r rhan fwyaf o’n dyled yn y banc ar hyn o bryd; cael mynediad at gyllid preifat ar gyfradd gystadleuol iawn; yn ogystal â sicrhau swyddi a bod tai fforddiadwy o safon uchel yn cael eu darparu yn y tymor hir ar gyfer y dyfodol. Ni oedd y darparwr tai cyntaf yng Nghymru hefyd i gael ein rhestru gan Moody’s a S&P Global, yr asiantaethau cyfraddau credyd.

Ar ddiwedd Mawrth, nodwyd ymddeoliad Graham Worthington, a oedd wedi gwasanaethu fel Prif Weithredwr y Grŵp ers dros 22 mlynedd. Roedd Graham yn eiriolwr gwych dros dai cymdeithasol a rhoi cefnogaeth i bobl fregus a’r rhai sydd ag angen tai. Dan ei arweinyddiaeth ysbrydoledig mae Pennaf wedi dod yn brif ddarparwr tai yng Ngogledd Cymru. Ar ran Byrddau’r Grŵp hoffwn gofnodi fy niolch i Graham am ei gyfraniad a’i ymrwymiad, yn ogystal â’n dymuniadau gorau un at y dyfodol. Wrth i un bennod gau, mae un arall yn agor, ac fe fu’n fraint i mi groesawu Clare Budden yn Brif Weithredwraig newydd i’r Grŵp. Gyda’i chyfoeth o brofiad, ei hangerdd dros gyflawni gwasanaethau o safon uchel a sicrhau bod preswylwyr yn cael rhan lawn wrth siapio’r gwasanaethau sy’n effeithio arnynt, rydym yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â Clare i adeiladu ymhellach ar ein cryfderau a’n llwyddiannau yn y dyfodol. Fel Cadeirydd rwyf yn falch iawn o’n llwyddiannau hyd yn hyn, llawer ohonynt yn cael sylw yn yr Adroddiad hwn. Mae ein llwyddiant yn dyst i waith caled ac ymroddiad parhaus ein staff, preswylwyr ac Aelodau’r Bwrdd, ynghyd â chefnogaeth ein llu o bartneriaid a grwpiau rhanddeiliaid - diolch i chi i gyd am eich cefnogaeth a’ch ymroddiad parhaus. Er mwyn helpu i ddathlu ein 39 mlynedd yn helpu i ddiwallu anghenion miloedd lawer o bobl sydd wedi troi atom am help a chefnogaeth, rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen am rai o’n llwyddiannau diweddaraf.

Stephen Porter Cadeirydd, Grŵp Tai Pennaf

Mrs Eurwen H Edwards OBE, BEM, Llywydd Anrhydeddus, Grŵp Tai Pennaf

Dr Sarah Horrocks Cadeirydd, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn

Paul Robinson Cadeirydd, Cymdeithas Tai Tŷ Glas

Peter Lewis Cadeirydd, PenArian Mike Hornsby Cadeirydd, Tir Tai 3


Buddsoddi a Datblygu ar gyfer y Dyfodol Gwelwyd cynnydd sylweddol yn 2017-18 ar ein Rhaglen Ddatblygu, gyda chyfanswm o 135 o gartrefi newydd yn cael eu darparu ar gyfanswm cost o £18m ar draws Gogledd Cymru. Roedd hyn yn bosibl diolch i gyfuniad o ffrydiau ariannu a sicrhawyd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a’n partneriaid awdurdod lleol - gan gynnwys Grant Tai Cymdeithasol, Grant Cyllid Tai, Grant Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a chyllid Ardal Adfywio Strategol - ynghyd â chyllid preifat a godwyd gan Pennaf.

Dyma grynodeb o’r cynlluniau yr ydym wedi eu hychwanegu at ein portffolio tai dros y flwyddyn ddiwethaf:

Fel rhan o Ddewis Cymorth Prynu newydd Llywodraeth Cymru i helpu i greu rhagor o gyfleoedd i brynu cartref ar gost isel, fe wnaethom ddarparu 13 o gartrefi dwy a thair ystafell wely ar Stryd Gronant, ger Gerddi Heulwen yn y Rhyl. Dyma’r cynllun cyntaf o’i fath yng Ngogledd Cymru, gan alluogi pobl leol i brynu eu cartref cyntaf trwy ddefnyddio benthyciad 50% di-log, heb unrhyw daliadau misol yn daladwy, gan godi morgais am 50%. Mae’r benthyciad Cymorth Prynu yn syml yn cael ei dalu yn ôl ar unrhyw werthiant yn y dyfodol, ynghyd â 50% o unrhyw ecwiti a all fod wedi ffurfio, gan ei gwneud yn rhatach i brynu na rhentu.

ÃÃ Bwlch Alltran, Caergybi – 3 x tŷ dwy ystafell wely; 4 x fflat un ystafell wely; a 1 x byngalo dwy ystafell wely.

ÃÃ Clos Cwm Eirias, Bae Colwyn: 12 x tŷ un a dwy ystafell wely; 7 x fflat dwy ystafell wely. ÃÃ Bod Alaw, Bae Colwyn: 7 x fflat un ystafell wely. ÃÃ Ffordd Lawson, Bae Colwyn – 6 x tŷ dwy a thair ystafell wely. ÃÃ Llansadwrn a Llandegfan ar Ynys Môn: 4 x tŷ dwy ystafell wely; a 2 x fflat dwy ystafell wely a 3 x tŷ dwy ystafell wely.

ÃÃ Stryd Gronant / Stryd yr Abaty, Y Rhyl – 9 x tŷ tair ystafell wely ac 11 x tŷ dwy ystafell wely.

Llandegfan

Stryd Gronant

Clos Cwm Eirias Llansadwrn

4


ÃÃ Llys Gary Speed, Penarlâg – 2 x tŷ pedair ystafell wely; 12 x tŷ teras dwy ystafell wely; 2 x tŷ pâr tair ystafell wely ac 1 x byngalo tair ystafell wely wedi ei addasu yn arbennig. ÃÃ Tyddyn Bach, Caergybi – 7 x tŷ dwy ystafell wely ac 13 x tŷ tair ystafell wely i deulu; a 4 x tŷ ‘Rhentu i Brynu’. ÃÃ Maes Helyg, Garden City, Sealand – 21 x fflat un a dwy ystafell wely.

Parhaodd y gwaith ar nifer o gynlluniau a gychwynnwyd y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad o £30 miliwn mewn datblygu tri chynllun Gofal Ychwanegol newydd - Llys Raddington yn y Fflint, Hafan Cefni yn Llangefni, a Maes y Dderwen yn Wrecsam -a fydd yn cynnig 196 o fflatiau i bobl hŷn gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chefnogaeth. Mae’r gwaith yn parhau hefyd ar adnewyddu safle’r hen Ysgol Ramadeg yn Llanrwst yn Ganolfan Iechyd a Llesiant Wledig a 4 o fflatiau gofal ychwanegol gerllaw Hafan Gwydir. Fe wnaethom hefyd ddechrau ar y gwaith o ddatblygu 46 o gartrefi newydd, sy’n cyfateb i gyfanswm cost cynllun o £6.4m, ar Ffordd South Stack, Caergybi; Westbourne Avenue, Marine Lake, y Rhyl a Niwbwrch ar Ynys Môn.

Maes y Dderwen, Wrecsam

Bydd y Bond buddsoddi cyhoeddus a sicrhawyd yn ein galluogi i barhau i drawsnewid cymunedau ac amodau byw pobl ar draws y rhanbarth. Rydym ar y llwybr cywir i ddatblygu 1,365 o gartrefi o safon uchel, cynaliadwy erbyn 2022, mae ein contractwyr yn gweithio’n glos gyda chymunedau lleol - yn codi arian ar gyfer elusennau, yn cynnig profiad gwaith a lleoliadau i raddedigion, gweithio gydag ysgolion lleol i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa yn y diwydiant adeiladu, a helpu preswylwyr gyda llu o ddigwyddiadau cymunedol.

Hafan Cefni, Llangefni

Llys Raddington, Y Fflint

Maes Helyg

5


Gwasanaethau Rheoli Eiddo Offa

Rheoli Eiddo

Property Management

Mae Rheoli Eiddo Offa yn rhan o Pennaf ac wedi ei drwyddedu’n llawn dan gynllun Rhentu Doeth Cymru. O fuddsoddwr newydd a pherchennog un eiddo, i landlordiaid proffesiynol sefydledig gyda phortffolio mawr, rydym yn parhau i gynnig pob agwedd ar wasanaethau gosod a rheoli eiddo.

Roedd Tîm Offa yn falch iawn o gynyddu eu portffolio eiddo dros y flwyddyn ddiwethaf trwy brynu 20 o dai newydd dwy a thair ystafell wely yn Tyddyn Bach, Caergybi, i gynnig cyfleoedd rhent canolradd i bobl leol. Mae’r tai fforddiadwy yma mewn lleoliad gwych mewn datblygiad preifat ac yn berffaith i deuluoedd sy’n gweithio neu gyplau lleol.

Mae Rheoli Eiddo Offa yn rhan o Pennaf ac wedi ei drwyddedu’n llawn dan gynllun Rhentu Doeth Cymru. O fuddsoddwr newydd a pherchennog un eiddo, i landlordiaid proffesiynol sefydledig gyda phortffolio mawr, rydym yn parhau i gynnig pob agwedd ar wasanaethau gosod a rheoli eiddo.

Prynwyd 5 o gartrefi tair ystafell wely ychwanegol ar Ffordd Aberkinsey yn y Rhyl, i brynwyr am y tro cyntaf lleol fel rhan o’r cynllun ‘Rhentu i Brynu’. Mae Offa wedi cael rhan mewn rheoli’r cynllun newydd hwn gan Lywodraeth Cymru. Anelwyd y cynllun ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf i rentu eiddo newydd, gyda chyfran fawr o’r rhent y maent yn ei dalu yn mynd tuag at flaendal i’r eiddo ddod yn berchen iddynt hwy yn y pen draw. Prynwyd pum eiddo arall yn Nhyddyn Bach fel rhan o’r un cynllun.

Ar hyn o bryd rydym yn rheoli 255 eiddo trwy Ogledd Cymru ar ran 43 o landlordiaid ac yn bwriadu ehangu’r busnes ymhellach dros y flwyddyn i ddod. Mae Offa yn darparu pecyn cynhwysfawr o osodiadau a gwasanaethau rheoli eiddo gan gynnwys casglu rhent, cynnal a chadw a chefnogaeth gyffredinol yn gysylltiedig â thai. Yn ychwanegol, rydym yn rheoli portffolio sylweddol o adeiladau masnachol, gan gynnwys swyddfeydd i’r Bwrdd Iechyd ac awdurdodau lleol, Meddygfa ac amrywiol gyfleusterau cymunedol.

Mae Offa yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i ddarparu contractau ar gyfer gorchmynion rheoli dros dro ar Dai Amlfeddiannaeth dan Ddeddf Tai 2004.

6


Ymgysylltu â Phreswylwyr Gwneud Gwahaniaeth Ein Preswylwyr sy’n Gwirfoddoli Mae ymrwymiad ac ymroddiad ein preswylwyr sy’n gwirfoddoli yn amhrisiadwy. Diolch i’w cefnogaeth a’u cyfraniad gweithredol, rydym wedi gallu addasu ac ail siapio llawer o’n gwasanaethau a chynnig gwasanaeth gwell i’n poblogaeth ehangach o breswylwyr. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf: ÃÃ Crynhodd ein Pwyllgor Gwella Gwasanaethau a arweinir gan breswylwyr gyfanswm o £4,181.25 o oriau o wirfoddoli gan helpu i wella ein gwasanaethau; ÃÃ Cyfrannodd ein Grŵp Craffu Partneriaid Ansawdd gyfanswm o £4,252.75 o’u hamser i arolygu gwasanaethau landlord; ÃÃ Parhaodd ein Panel Prydleswyr i ffynnu, gan gytuno ar lu o bolisïau a gweithdrefnau newydd. ÃÃ Mae preswylwyr sy’n gwirfoddoli wedi dod yn Hyrwyddwyr Gwasanaethau Cwsmeriaid, gan helpu staff i sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaeth cwsmeriaid gorau posibl. ÃÃ Esbonia un o’n preswylwyr “rydym wedi bod yn edrych ar ddetholiad o gwynion sydd wedi eu datrys i weld a allai’r dull a’r fethodoleg fod wedi bod yn well ac a allwn wneud gwelliannau at y dyfodol”. ÃÃ Ymunodd Aelod y Preswylwyr o’r Bwrdd newydd, Peter Smith-Hughes, â Bwrdd Clwyd Alyn ym mis Rhagfyr ac mae Peter wedi disgrifio’r profiad fel “y peth gorau yr wyf wedi ei wneud erioed. Rwy’n gweld y rôl yn ddiddorol, yn heriol ac yn rhoi boddhad mawr.”

Cydweithio gyda’n Preswylwyr i Wella Gwasanaethau Wrth barhau ein hymrwymiad i gynnwys ein preswylwyr yn y broses o lunio penderfyniadau, gwelwyd llu o welliannau gwasanaeth, gan ein galluogi i gryfhau ein polisïau a gwasanaethau at y dyfodol. Bu eu cyfraniad yn amhrisiadwy ar faterion allweddol fel: ÃÃ Cytuno ar Bolisi Ôl-ddyledion Rhent newydd ÃÃ Diweddariadau diogelwch tân yn dilyn trychineb Tŵr Grenfell ÃÃ Polisi Defnyddio Sgwteri Symud ÃÃ Y Prosiect Teleofal a Larwm Cymunedol ÃÃ Archwiliad o’r Gwasanaeth Gwaith Trwsio a Gynlluniwyd ÃÃ Rhaglen i gyfnewid systemau gwresogi trydan ÃÃ Archwiliad o’r broses ar gyfer ymdrin â chartrefi gwag ÃÃ Ein Cynllun Recriwtio Gwirfoddolwyr ÃÃ Sefydlu Cymorthfeydd Prydleswyr ÃÃ Cymryd rhan mewn paneli cyfweld i benodi staff newydd ÃÃ Gwneud galwadau dilynol i breswylwyr gael adborth am ein gwasanaeth trwsio.

7


Ymgysylltu â’n Cymunedau Yn ystod 2017-18, fe wnaethom barhau i adeiladu ar ein hymrwymiad i weithgareddau ymgysylltu cymunedol ar draws yr ardal yr ydym yn gweithredu ynddi. Trwy weithio’n glos gyda’n preswylwyr a chymunedau lleol, rydym wedi llwyddo i:

ÃÃ Ddatblygu, cefnogi a/neu weithredu dros 111 o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol. ÃÃ Sicrhau £59,000 yn ychwanegol mewn grantiau allanol i helpu i ddatblygu a chefnogi prosiectau yn y gymuned oedd o fudd i breswylwyr ar draws Gogledd Cymru.

ÃÃ Ddangos, o ran gwerth cymdeithasol, bod ein gweithgareddau datblygu wedi cyfrannu £1,103,905 ychwanegol mewn effaith cymdeithasol cyffredinol i’r cymunedau yr ydym yn eu cefnogi. Dyma rai o’r digwyddiadau cymunedol a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf:

ÃÃ Bu preswylwyr ifanc sy’n byw ar Lôn yr Orsaf yn yr

ÃÃ Roedd celf, ymarfer corff a chwis yn rhan o ŵyl

Wyddgrug yn brysur yn glanhau eu stad dros y Pasg gydag ymgyrch gasglu ysbwriel. Diolch i Cadwch Gymru’n Daclus am eu cefnogaeth ac i siop Tesco yn yr Wyddgrug am noddi’r digwyddiad.

ÃÃ Mae preswylwyr Y Gorlan, Y Rhyl wedi bod yn brysur yn llenwi gwelyau blodau newydd yn eu gardd gymunedol. Bu’r preswylwyr iau yn potio eu blodau haul eu hunain i’w cludo adref i’w meithrin – gan greu cystadleuaeth dyfu blodau haul hwyliog.

ÃÃ Mae Cymdeithas Preswylwyr Llys Ednyfed ym

ddysgu a barhaodd am wythnos yng nghynllun Gofal Ychwanegol Tan y Fron yn Llandudno. Cymerodd y preswylwyr ran mewn Tai Chi, digwyddiad ymwybyddiaeth Alzheimer a gweithgareddau eraill, diolch i Grant £500 Gŵyl Dysg.

ÃÃ Mwynhaodd preswylwyr Ochr y Bryn yn Helygain de prynhawn a dysgu llu o awgrymiadau defnyddiol gan OWL Cymru, y gwasanaeth atal troseddau ar-lein, a NEWCIS, y gwasanaeth gwybodaeth i ofalwyr.

ÃÃ Ymwelodd y Tîm ‘Museum in a Box’ â chynllun Gofal

Mochdre wedi sicrhau Grant Arian i Bawb o £1,108 gan y Gronfa Loteri Fawr. Maent wedi creu gardd bywyd gwyllt, wedi plannu blodau i ddenu peillwyr ac maent wedi prynu byrddau adar ar gyfer eu gardd gymunedol hefyd.

Ychwanegol Plas Telford yn Wrecsam. Daethant â bocs yn llawn o femorabilia gan gynnwys hen luniau o olygfeydd lleol, hen bapurau newydd ac offer domestig retro, a mwynhaodd y preswylwyr rannu eu hatgofion eu hunain ac adrodd storïau doniol.

Ochr y Bryn

Llys Ednyfed

Lon yr Orsaf

Y Gorlan 8

Tan y Fron


ÃÃ Roedd helfa bryfed ac adeiladu gwesty pryfed ymhlith y gweithgareddau amgylcheddol y bu preswylwyr ifanc yn eu mwynhau ar Ffordd Helygain y Fflint. Cefnogwyd y digwyddiad gan Gyngor Sir y Fflint, Heddlu Gogledd Cymru a nifer o asiantaethau eraill.

ÃÃ Trefnodd staff a phreswylwyr o Brosiect y Cei ym Maes-glas ddiwrnod plannu cymunedol yn ddiweddar i dacluso’r ardd a llenwi potiau blodau. Roedd Tîm y Cei hefyd yn helpu’n gyson i gynnal y gwelyau yn Garden City, Sealand, lle maent yn tyfu eu llysiau eu hunain ac yn helpu i gadw’r ardal yn daclus.

ÃÃ Roedd digwyddiad cymunedol a gynhaliwyd yn

ÃÃ Mwynhaodd preswylwyr ein cynllun tai cysgodol ym Mro Trehinon yn Amlwch y cyfle i fywiogi’r ardal trwy lenwi basgedi crog a thybiau blodau.

ÃÃ Bu Gweithwyr Cefnogi yn Sir y Fflint mewn diwrnod hyfforddi a drefnwyd gan Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru i ddysgu rhagor am helpu i frwydro yn erbyn benthyca arian anghyfreithlon yn yr ardal.

ÃÃ Ymunodd Louise Blackwell, Swyddog Datblygu Cymunedol, â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i drefnu Dyddiau Gwybodaeth lle’r oedd y preswylwyr yn gallu cael awgrymiadau am atal tân a chadw’n ddiogel yn eu cartrefi.

Llys Santes Anne yn Wrecsam, gyda chefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn annog preswylwyr i ymuno yn yr hwyl, yn ogystal â dysgu llawer o awgrymiadau defnyddiol am ailgylchu a diogelwch cymunedol.

Llys Santes Anne

Ffordd Halkyn

Hyfforddiant Benthyg Arian Anghyfreithlon Prosiect y Cei

Plas Telford

9


Gwneud Gwahaniaeth Trwy Fyw â Chefnogaeth Rydym wedi parhau i fanteisio ar y cyllid yr ydym yn ei dderbyn gan ein partneriaid o awdurdodau lleol trwy ffrwd ariannu Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru. Trwy ein portffolio o gynlluniau Byw â Chefnogaeth, mae ein staff profiadol a chymwys wedi parhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n defnyddwyr gwasanaeth, sy’n cynnwys pobl ddigartref, y rhai sy’n ffoi rhag camdriniaeth gorfforol a meddyliol, mamau a phlant bach, pobl ag anableddau dysgu neu salwch meddwl, y rhai sy’n cysgu allan ac ati. Trwy ddarparu llety diogel, gwasanaethau cefnogi a chynnig gweithgareddau sy’n helpu i ddatblygu sgiliau bywyd sylfaenol, mae’r unigolion dan sylw mewn gwell sefyllfa gyda’r sgiliau bywyd a’r hyder y maent eu hangen i ddod yn annibynnol a’u nodau a’u dyheadau at y dyfodol. Mae rhai o’n llwyddiannau allweddol dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys: ÃÃ Staff cymwys wedi bod yn rhoi hyfforddiant ‘Parod i Rentu’ i breswylwyr i helpu i esbonio beth sydd ynghlwm â rhentu cartref. ÃÃ Parhau i roi pwyslais ar atal digartrefedd a chefnogi’r rhai sy’n ddigartref ar ein strydoedd trwy weithredu Llochesi Nos yn y Rhyl a Wrecsam. Mae ein timau yn cynnig lloches ddiogel dros nos, bwyd a chefnogaeth i helpu i ymdrin â’r cynnydd dramatig mewn cysgu ar y stryd. ÃÃ Bu preswylwyr yr Hafan yn Wrecsam yn ymwneud â’r asiantaeth Cymunedau dros Waith. Trwy ddilyn cyrsiau byr, hyfforddiaethau a phrentisiaethau, bu rhai preswylwyr yn llwyddiannus yn cael swyddi llawn amser.

ÃÃ Mae’r preswylwyr wedi bod yn ymwneud ag amrywiaeth fawr o weithgareddau fel gwirfoddoli i brosiectau garddio lleol, sesiynau ffitrwydd, digwyddiadau ‘coginio a bwyta’, sesiynau ysgrifennu creadigol a gwaith celf, ynghyd â helpu mewn siop elusen ‘pop-up’ yn Nhreffynnon, y cyfan wedi helpu i ddatblygu sgiliau tîm a rhoi hwb i’w hyder. ÃÃ Fe wnaethom gymryd y cyfrifoldeb am reoli gwasanaethau yn Norfolk House, gwasanaeth sy’n helpu pobl ddigartref i ymdrin â phroblemau yn gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol a chyffuriau a’u goresgyn. ÃÃ Roedd ein digwyddiad blynyddol ‘ResFest’ a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam fis Awst diwethaf yn llwyddiant mawr eto. Trefnir y digwyddiad hwn gan ac i breswylwyr ein cynlluniau Byw â Chefnogaeth ar draws Gogledd Cymru, gan gefnogi pobl ifanc oedd yn y gorffennol wedi profi digartrefedd i ddod at ei gilydd i arddangos eu talentau a’u llwyddiannau. Cafodd ein preswylwyr y cyfle i arddangos enghreifftiau o’r gwaith celf blaengar yr oedden nhw wedi ei greu fel rhan o weithdai celf a gynhaliwyd ar draws ein cynlluniau. Dangosodd y bobl ifanc a gymerodd ran ymrwymiad mawr, gwaith caled a digonedd o dalent artistig, gan helpu’r preswylwyr i ennill hyder mewn ffyrdd newydd o fynegi eu hunain a dathlu eu talentau. Diolch arbennig i holl noddwyr y digwyddiad, y cefnogwyr, preswylwyr a’r staff a drefnodd nifer o ddigwyddiadau codi arian i gynorthwyo gyda chostau trefnu’r digwyddiad.

10


Ein Gwasanaeth Cynnwys ODEL Yn ystod 2017-18, mae ein gwasanaeth Cynnwys ODEL, sy’n cael ei ariannu yn allanol gan Gyngor Sir y Fflint, wedi parhau i helpu pobl yn Sir y Fflint sy’n derbyn, neu sydd wedi derbyn, gwasanaethau Cefnogi Pobl, gan gynnwys preswylwyr o’n cynlluniau Byw â Chefnogaeth. Mae Cynnwys ODEL yn cynnig cyngor, cyfleoedd hyfforddi a chefnogaeth, ac mae’n cyfeirio pobl at asiantaethau eraill a all helpu i fodloni eu hanghenion unigol. Mae’r llwyddiannau dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys: ÃÃ Fe wnaeth y gweithdai ailgylchu dodrefn a chanfas wella iechyd, lles a rhwydweithiau cymdeithasol defnyddwyr y gwasanaeth, gan eu helpu i gael mwy o ymdeimlad o bwrpas a’u hysgogi. Roedd gweithio ar rywbeth creadigol a gweld y cynnyrch gorffenedig yn helpu i roi hwb i’w balchder a’u hunan barch, gan roi sgiliau newydd a throsglwyddadwy iddynt at y dyfodol.

ÃÃ Rhoddodd ‘Gweithdai Parod am Waith’, a drefnwyd ar y cyd gydag uwch reolwyr o Anwyl Construction a Calbee International, awgrymiadau ymarferol i ddefnyddwyr gwasanaeth am chwilio am waith, technegau cyfweliad, helpu gyda CV a thrafod rhwystrau penodol sy’n eu hatal rhag cael gwaith. ÃÃ Trwy weithio mewn partneriaeth â Chymunedau yn Gyntaf a Groundwork Gogledd Cymru, fe wnaethom lwyddo i ddarparu cyrsiau hyfforddi wedi eu hachredu am ddim i ddefnyddwyr gwasanaeth yn trafod Diogelwch Bwyd (Lefel 2) a Chymorth Cyntaf Argyfwng yn y Gwaith. ÃÃ Gan weithio yn glos gyda’r gymuned leol, rhoddir anogaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth gysylltu â grwpiau a gwasanaethau lleol, gan roi cyfle iddynt gymdeithasu a dod i adnabod ffrindiau newydd. ÃÃ Cyfeiriwyd pedwar gwirfoddolwyr o Cynnwys ODEL a’n cynlluniau Byw â Chefnogaeth lleol i weithio yng Nghaffi’r Hen Lys yn y Fflint, gan roi cyfle iddynt ddysgu sgiliau a chael profiad newydd, gan ddod yn fwy ‘parod am waith’ a gwella eu cyflogadwyedd. Mae’n newyddion gwych bod o leiaf ddau o’r unigolion yma wedi mynd ymlaen i sicrhau swyddi mwy parhaol yn lleol. Dyma flas ar yr adborth positif a gafwyd gan ddefnyddwyr y gwasanaeth: ÃÃ “Fe wnaeth helpu fy iselder.” ÃÃ “Fe wnes i ddysgu sut i gymryd hen ddarn o ddodrefn a’i droi yn rhywbeth newydd!” ÃÃ “Roedd yn wych cael mynd allan â chyfathrebu gyda phobl. Rwyf wedi dod i adnabod ffrind newydd.” ÃÃ “Dwi’n teimlo bod gennyf hyder yn yr hyn y gallaf ei gyflawni rŵan.”

11


Ein Cartrefi Gofal Rydym yn gweithredu pedwar o gartrefi gofal, y cyfan yn cael eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC): ÃÃ Llys Marchan yn Rhuthun: sydd wedi ei gofrestru i roi gofal i hyd at 10 o bobl gyda salwch meddyliol. ÃÃ Plas Bod Llwyd yn Newbridge, ger Wrecsam: wedi ei gofrestru i roi gofal personol i uchafswm o 29 o bobl dros 65 oed. ÃÃ Llys y Waun yn y Waun: wedi ei gofrestru i roi gofal personol i uchafswm o 66 o bobl dros 60 oed, 56 ohonynt yn bobl sy’n byw gyda dementia. ÃÃ Merton Place ym Mae Colwyn: sydd wedi ei gofrestru i roi gofal nyrsio i hyd at 54 o bobl. Credwn y dylai ein preswylwyr gael cefnogaeth i fyw bywyd mor llawn ag annibynnol ag y gallant, mewn amgylchedd diogel. Rydym yn ymfalchio’n fawr yn y ffordd mae’r staff yn rhoi gofal i’r unigolyn mewn modd sy’n parchu nhw fel unigolion a’u hanghenion personol nhw. Mae ein staff sydd wedi eu hyfforddi’n llawn, yn cefnogi ein preswylwyr mewn amgylchedd gofalgar, tawel a chartrefol, gyda chydymdeimlad, empathi a digon o hiwmor pob amser. Mae ein preswylwyr yn cael y cyfle i ymuno mewn llu eang o ddiddordebau a digwyddiadau, gyda rhai esiamplau wedi eu cynnwys isod:

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein holl gartrefi gofal wedi derbyn adroddiadau arolygu positif a chydymffurfiol gan Arolygiaeth Gofal Cymru, gyda adborth cadarnhaol am safon y gofal a roddwyd a’r ffordd yr ydym yn rheoli gwasanaethau gan nodi: ÃÃ Mae’r bobl yn profi cynhesrwydd ac ymdeimlad o berthyn. ÃÃ Mae’r bobl yn cael gofal mewn modd parchus a chyfeillgar. ÃÃ Systemau recriwtio staff yn gadarn. Mae’r staff yn cael hyfforddiant cyson, sy’n eu galluogi i gefnogi pobl yn briodol. ÃÃ Pobl yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau. ÃÃ Pobl yn hapus yn byw yn y cartref.

Merton Place

Llys y Waun

Llys Marchan

Plas Bod Llwyd 12


Llwyddiant Mewn Gwobrau Rhoddwyd nifer o’n staff a phreswylwyr ar restrau byrion ac/neu ennill gwobrau dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gydnabod y cyfraniad a wnaethant at eu cymunedau lleol ac yn annog ymdeimlad o falchder ac yn ysbrydoli eraill.

Rebecca Barnes

Llongyfarchiadau i’r canlynol: ÃÃ Rebecca Barnes, Uwch Ymarferwr Gofal yn ein Cartref Gofal ym Merton Place, Bae Colwyn, a sicrhaodd y wobr ‘Ymarferwr Gofal y Flwyddyn - Gwobr Arian’, i gydnabod ei hymroddiad a’i hymrwymiad personol i breswylwyr, fel rhan o Wobrau Fforwm Gofal Cymru.

ÃÃ Enillodd ein Canolfan Deulu Erw Groes yn Nhreffynnon y ‘Wobr Blaengaredd Gwasanaeth’ fel rhan o ‘Wobrau Hyrwyddo Annibyniaeth’ Cymorth Cymru. Roedd y wobr genedlaethol yn cydnabod y gwasanaethau blaengar a gynigir gan y Tîm. Diolch i Gronfa Fawr y Loteri maent wedi gallu helpu i gefnogi teuluoedd sydd wedi bod yn ddigartref neu mewn perygl o hynny, i gael mynediad ar unwaith at amrywiaeth eang o gefnogaeth iechyd a lles.

ÃÃ Canmolwyd ein gwasanaeth Cynnwys ODEL yng Nghaffi a Chanolfan Dreftadaeth yr Hen Lys yn y Fflint fel rhan o Wobrau Cyfranogiad TPAS (Cymru) 2017, gan gydnabod eu llwyddiannau yn grymuso preswylwyr i gael llais yn y gwasanaethau sy’n effeithio arnynt. Canmolwyd eu cyfraniad hefyd yn y categori ‘Ymgysylltu a Chynnwys’ o ‘Wobrau Hyrwyddo Annibyniaeth’ Cymorth Cymru.

ÃÃ Enillodd y Tîm yn Greenbank Villas yn y Fflint Dystysgrif Teilyngdod i gydnabod eu cyfraniad at y cynllun ‘Cyfeillion Nant Swinchiard’. Cyhoeddwyd hefyd mai nhw oedd enillwyr y Wobr ‘Gardd Fywyd Gwyllt Gymunedol Orau’ fel rhan o ‘Wobrau Cymunedau Taclusaf’ Sir y Fflint.

Canolfan Deulu Erw Groes

Gwobr Nant Swinchiard

Cydnabyddiaeth TPAS (Cymru)

13


Cyrraedd Disgwyliadau Cwsmeriaid a Bodlonrwydd Mae ein tîm staff Cynnal a Chadw wedi cael blwyddyn arall brysur a chynhyrchiol yn cynnig gwasanaethau cynnal a chadw ymatebol ac wedi eu cynllunio i’n preswylwyr. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cynnal ein hymrwymiad i wella cyflawni gwasanaeth a chynyddu cynhyrchiant a bodlonrwydd cwsmeriaid a gwireddu effeithlonrwydd wrth i gyfartaledd y costau leihau o flwyddyn i flwyddyn. Mae ein llwyddiannau wedi cynnwys: ÃÃ Arbediad o fwy na £93,000 yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o gaffael contractau a deunyddiau. ÃÃ 131 cegin a 339 ystafell ymolchi wedi eu newid. ÃÃ 159 bwyler cyfradd ‘A’ effeithlon o ran ynni wedi eu gosod. ÃÃ 25 eiddo wedi cael ffenestri newydd a 180 wedi cael drysau newydd yn ôl ein cynlluniau. ÃÃ 21,561 o archebion gwaith wedi eu cwblhau. ÃÃ 5,971 arolygiad rheoli asedau wedi eu cynnal, gan gynnwys arolygon cyflwr stoc. ÃÃ Roedd 100% o’r stoc tai yn cadw at Safonau Ansawdd Tai Cymru ar 31 Mawrth 2018, gan gynnwys methiannau derbyniol. ÃÃ Roedd y bodlonrwydd cyffredinol â’r gwasanaeth cynnal a chadw yn parhau yn gyson uchel ar 95% o ran safon y gwaith trwsio ac ymddygiad y contractwyr.

14

Er mwyn gwella profiad y cwsmeriaid cyflwynwyd system apwyntiadau ar gyfer gwaith trwsio. O ganlyniad rydym wedi gallu gwella cyfathrebu a rhoi mwy o hyblygrwydd i breswylwyr, ynghyd â chreu mwy o effeithlonrwydd a chynyddu cynhyrchiant. Arweiniodd ein dull newydd o gadw darnau newydd ar ein faniau cynnal a chadw cyn iddynt ymateb i alwadau at gynnydd yn y nifer o swyddi sy’n cael eu cwblhau bob dydd, llai o amser pan na fydd y staff yn gynhyrchiol ac mae’r cyfraddau trwsio tro cyntaf wedi cynyddu o 10%, ac rydym hefyd wedi gallu gostwng cyfartaledd cost gwaith. Roedd preswylwyr Ffordd Melin Dulas yn Llanddulas yn falch iawn o ddeall bod Travis Perkins wedi rhoi £1,080 o’u Cronfa Etifeddol i alluogi Ground Control i glirio coetir oedd wedi tyfu’n wyllt yn agos at y cynllun. Roedd yr ardal wedi mynd yn fan lle’r oedd pobl yn gadael ysbwriel a diolch i’r gwaith clirio, mae’r preswylwyr lleol wedi cael help i ddatblygu ardal chwarae ddiogel i blant. Rhoddir 1.5% o’n gwariant blynyddol ar ddeunyddiau cynnal a chadw, sy’n cyfateb i £20,000, yn cael ei roi i gronfa dreftadaeth sydd yn cael ei defnyddio gan ein tîm Datblygu Cymunedol i wneud gwahaniaeth sylweddol i’n cymunedau lleol.


Byrddau Rheoli ar 31 Mawrth 2018

Grŵp Tai Pennaf Mrs Eurwen H Edwards, OBE, BEM - Llywydd Anrhydeddus

Mae’r cyfrifoldeb am reoli Grŵp Tai Pennaf a’i aelodau yn y pen draw yn nwylo’r Bwrdd Rheoli perthnasol, sy’n cynnwys Aelodau sy’n cael eu hethol yn flynyddol. Mae gan aelodau’r Byrddau gyfoeth o sgiliau a phrofiad a gafwyd dros flynyddoedd lawer. Mae’r holl aelodau yn cael arfarniad blynyddol ac mae’r Bwrdd yn adolygu ei anghenion hyfforddiant yn gyson i sicrhau effeithiolrwydd.

Pennaf Cyfyngedig

Cymdeithas Tai Clwyd Alyn Cyfyngedig

Mr Stephen Porter - Cadeirydd Mr Peter Lewis - Is-gadeirydd Mrs Sara Mogel Dr Sarah Horrocks Mr Paul Robinson Mr Mike Hornsby

Dr Sarah Horrocks - Cadeirydd Mrs Eirwen Godden - Is-gadeirydd Mr Peter LaTrobe Mr Paul Robinson Mrs Sandy Mewies Mr Aaron Osborne-Taylor Mrs Sara Mogel Mr Peter Smith-Hughes Mrs Eileen Stevens

Tir Tai Cyfyngedig Mr Mike Hornsby - Cadeirydd Mr Paul Robinson - Is-gadeirydd Mr Peter Lewis Mr Stephen Porter Dr Sarah Horrocks

Cymdeithas Tai Tŷ Glas Cyfyngedig Mr Paul Robinson - Cadeirydd Mr Frazer Jones - Is-gadeirydd Mrs Sara Mogel Mrs Eileen Stevens Mr Owen Watkins Mrs Ruth Collinge Mr Peter Smith-Hughes Mr Peter LaTrobe Dr Sarah Horrocks

Cyllid Tai PenArian plc

PenArian Housing Finance plc

Cyllid Tai PenArian plc Mr Peter Lewis - Cadeirydd Mr Stephen Porter- Is-gadeirydd

01745 538300

Swyddfa Llanelwy Swyddfa Gofrestredig Pennaf, Clwyd Alyn, Tŷ Glas, Offa, Tir Tai a PenArian 72 Ffordd William Morgan Parc Busnes Llanelwy Llanelwy Sir Ddinbych, LL17 0JD

Mae gan y Grŵp broses Rheoli Risg gynhwysfawr yn ei lle yn trafod Risgiau Strategol, Llywodraethu, Cyllid, Cydymffurfio a Gweithredol. Cedwir y Gofrestr ac mae’n cael ei hadolygu yn chwarterol gan y Pwyllgor Sicrwydd, gyda risgiau strategol yn cael eu hadrodd yn chwarterol i’r Bwrdd Rheoli.

www.pennafgroup.co.uk Hoffwch ni: facebook.com/PennafHGroup Dilynwch ni: @PennafHGroup youtube.com/user/PennafHGroup pennafhousinggroup Mae Clwyd Alyn a Tŷ Glas yn rhan o Grŵp Tai Pennaf ac yn Gymdeithasau Cofrestredig elusennol.

15


Grŵp Tai Pennaf CYFRIFON BLYNYDDOL 2017–18 Mae’r rhain yn seiliedig ar Gyfrifon Grŵp Tai Pennaf fel y cawsant eu harchwilio gan yr Archwilwyr. CRYNODEB O INCWM £ MANTOLEN 31 Mawrth 2018 Asedau £ Rhenti 23,291,281 Stoc Tai 368,144,220 Taliadau Gwasanaeth 13,108,718 Asedau Sefydlog Eraill 3,284,379 Llogau i’w Derbyn 74,546 Buddsoddiadau Asedau Sefydlog 3,230,989 Incwm Arall 3,014,729 Stoc 166,666 Cyfanswm 39,489,274 Dyledwyr 4,666,750 Arian Parod a Buddsoddiadau 33,925,436 Rhwymedigaethau Presennol (12,264,308) Cyfanswm 401,154,132

31 Mawrth 2017 £ 349,800,934 3,374,143 2,593,189 125,322 3,157,143 31,082,912 (15,832,608) 374,301,035

CRYNODEB O £ MANTOLEN 31 Mawrth 2018 31 Mawrth 2017 WARIANT Ariennir gan: £ £ Llogau Taladwy 7,000,751 Benthyciadau a Grantiau 397,826,079 358,832,074 Rheoli 3,943,899 Cronfa Cyffredinol Wrth Gefn 3,293,729 15,444,471 Taliadau Gwasanaeth 13,931,115 Cronfa Cyfyngedig Wrth Gefn 34,324 24,490 Cynnal a Chadw 6,276,982 Cyfanswm 401,154,132 374,301,035 Arall 4,454,694 Costau Torri Benthyciad* 15,903,536 Cyfanswm 51,510,977 *Mae’r £15.9m o ffi torri benthyciad yn cynrychioli’r gost i’r Grŵp o ad-dalu ei holl fenthyciadau banc gwreiddiol a bydd y Bond newydd yn cymryd eu lle. Bydd y dull hwn yn rhoi mwy o hyblygrwydd a chryfder ariannol yn y dyfodol i’r Grŵp.

Sylwer mai ffigyrau’r Grŵp yw’r rhain yn ymgorffori Cyfrifon Incwm a Gwariant a Mantolenni Pennaf, Clwyd Alyn, Tŷ Glas, Offa, Tir Tai a PenArian. I gael dealltwriaeth lawn o sefyllfa ariannol pob aelod o’r Grŵp, dylid astudio’r Datganiadau Ariannol llawn. Mae copïau o’r Datganiadau Ariannol ar gael os gofynnir amdanynt gan Ysgrifennydd y Cwmni.

16


Mae Ein Pobl yn Gwneud Gwahaniaeth Lle Gwych i Weithio

Adroddiad Cyflog yn ôl Rhyw

Mae’r Grŵp yn dal i dyfu ac ar 31 Mawrth 2018 roedd yn cyflogi dros 740 o staff ar sail llawn amser, rhan-amser, dros dro a rhyddhau mewn amrywiaeth eang o swyddi ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru. Mae parhau i ddarparu’r gwasanaeth gorau un i’n cwsmeriaid ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau yn parhau yn un o’n prif flaenoriaethau. Aiff y clod i’n holl staff ymroddedig a medrus iawn ar bob lefel trwy’r sefydliad i gyd am eu cyfraniad i wneud Pennaf yn lle gwych i weithio.

Mae’n ofynnol i bob sefydliad sy’n cyflogi mwy na 250 o bobl gyhoeddi eu ffigyrau Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau o 5 Ebrill 2017 a rhoi’r wybodaeth ar wefan y Llywodraeth. Mae’r Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau yn edrych ar y gwahaniaeth yn y cyflog cyfartalog rhwng dynion a merched mewn sefydliad. Mae hyn yn wahanol i Gyflog Cyfartal, sef pan fydd dynion a merched yn cael yr un cyflog am yr un gwaith. Mae Adroddiad Cyflog yn ôl Rhyw cynhwysfawr, yn cynnwys gwybodaeth am Clwyd Alyn a Grŵp Tai Pennaf yn ei gyfanrwydd, ar gael ar ein gwefan: www.pennaf.co.uk.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd parhau i ddenu, buddsoddi a chadw’r staff gorau un ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cychwyn ar ymgyrch recriwtio sylweddol i’n cynlluniau Gofal Ychwanegol newydd yn Llangefni, y Fflint a Wrecsam.

Dysgu a Datblygu Fel rhan o’n Strategaeth Pobl gynhwysfawr, mae’r Grŵp wedi cynyddu ei ymrwymiad a’i fuddsoddiad mewn dysgu a datblygu staff. Trwy gyflwyno system reoli dysgu i’r diben dros y flwyddyn nesaf, rydym hefyd yn edrych ar ymestyn y cyfleoedd hyn i’n preswylwyr.

Mae hon yn flaenoriaeth rydym wedi ei chynnwys o fewn ein Strategaeth Pobl.

Datganiad Caethwasiaeth Fodern Yn unol â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015, mae gan y Grŵp Ddatganiad Caethwasiaeth Fodern sy’n esbonio’r dull y mae’n ei ddefnyddio i atal caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl rhag digwydd yn ei wasanaethau, weithlu a chadwyni cyflenwi. Mae copi o’n Datganiad ar gael ar wefan y Grŵp: www.pennaf.co.uk.

Rydym wedi parhau ein Strategaeth ‘Meithrin eich hun’ o ran Hyfforddiant a Gwaith, gydag ymrwymiad i gefnogi 108 o leoliadau yn y dyfodol, a fydd yn cynnwys prentisiaethau, interniaethau, hyfforddiaethau, lleoliadau ysgol a phrofiad gwaith di-dâl.

Gwobrau Pennaf Roeddem yn falch iawn o gyflwyno rhaglen Wobrau Pennaf arbennig, sy’n rhoi cyfle i staff fanteisio ar lu o gynlluniau arbed arian a buddion sy’n deillio o fod yn gyflogedig gan y Grŵp. Gydag amrywiaeth o ddulliau arbed arian ar gael ar-lein ac ar y stryd fawr, gall staff fanteisio ar filoedd o gynigion ar siopa bwyd, gwyliau, bwyta allan, DIY, offer trydanol, yswiriant, gyrru a llawer mwy.

17


Perfformiad Ffeithiau a Ffigurau

Performance Facts & Figures

Dyma grynodeb o berfformiad y Grŵp yn ystod 2017-18:

Here is a summary of the Group’s performance during 2017-18:

Unedau o Stoc Units of Housing Stock

Cyfartaledd Rhenti Wythnosol ar gyfer Tai Anghenion Cyffredinol a Chysgodol Average Weekly Rents for General Needs and Sheltered Housing

Tai Anghenion Cyffredinol a Chysgodol General Needs and Sheltered Housing Rhenti Cyfryngol Intermediate Rents Rhan Berchnogaeth Shared Ownership DIYSO DIYSO DIYHO DIYHO Cymorth Prynu Home Buy Cynllun Prydlesu i’r Henoed Leasehold Scheme for the Elderly Cytundebau Rheoli Management Agreements Gofal Ychwanegol Extra Care Gofal a Chefnogaeth Care & Support

3,870 105 357 90

£127.78

Tŷ 3 ystafell wely 3 bed house

£103.47

Tŷ 2 ystafell wely 2 bed house

£94.48

Tŷ 1 ystafell wely 1 bed house

£84.90

Fflat 3 ystafell wely 3 bed flat

£98.48

Fflat 2 ystafell wely 2 bed flat

£89.27

Fflat 1 ystafell wely 1 bed flat

£80.58

57 118 80 32 249 771

85%

78%

of our residents are getting the service they expect from us, an increase of 2% since 2016

of our residents feel that we listen to their views and act on them, an increase of 12% since 2016

o’n preswylwyr yn cael y gwasanaeth y maent yn ei ddisgwyl gennym, cynnydd o 2% ers 2016

o’n preswylwyr yn teimlo ein bod yn gwrando ar eu barn ac yn gweithredu arni cynnydd o 12% ers 2016

84% 88% o’n preswylwyr yn teimlo ein bod yn eu trin yn deg sydd wedi aros yr un fath ers 2016

o breswylwyr yn fodlon bod eu rhent yn rhoi gwerth am arian, cynnydd o 3% ers 2016

of our residents feel we treat them fairly which has remained the same since 2016

of residents are satisfied that their rent provides value for money, an increase of 3% since 2016

90%

91%

80%

o breswylwyr yn fodlon ar y gwasanaeth a ddarperir gan Clwyd Alyn, cynnydd o 4.5% ers 2016

o breswylwyr yn fodlon ar yr Ardal y maent yn byw ynddi, cynnydd o 6% ers 2016

of residents are satisfied with the service provided by Clwyd Alyn an increase of since 2016

of residents are satisfied with the Neighbourhood they live in, an increase of since 2016

o breswylwyr yn fodlon ar y gwasanaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a ddarperir gan Clwyd Alyn, cynnydd o 6% ers 2016

4.5%

18

Tŷ 4+ ystafell wely 4 bed+ house

6%

of residents are satisfied with the Anti-Social Behaviour service provided, an increase of since 2016

6%


yn fodlon ar y ffordd yr ydym yn ymdrin â chwynion Satisfaction with the way we deal with complaints

78%

990

Cynorthwyodd ein Swyddogion Hawliau Lles a Chyngor Ariannol o breswylwyr a sicrhau mewn budd-daliadau ychwanegol i’r preswylwyr

£508,000

990

During 2017/18 our Welfare Rights and Money Advice Officers assisted residents and secured a further in additional benefits for the residents

£508,000

Rhoddodd gwirfoddolwyr o blith y preswylwyr gyfanswm o 3081 awr sy’n dangos yr ymrwymiad y mae ein gwirfoddolwyr yn ei roi

Fe wnaeth y preswylwyr sy’n gwirfoddoli 600 o alwadau ffôn i breswylwyr eraill i asesu eu bodlonrwydd ar y gwasanaeth y gwnaethant ei dderbyn

Resident volunteers have given a total of 3081 hours which demonstrates the commitment our volunteers make

Resident volunteers made 600 outbound calls to other residents to assess satisfaction with a service they received yn ystod 2017/18 135 eiddo o bobl gyda chyfanswm y 318 We have built 135 properties during 2017/18 which has provided homes for 318 people with a total investment of £18 million

445

Rydym wedi adeiladu sydd wedi rhoi cartref i buddsoddiad yn £18 miliwn

o breswylwyr wedi sicrhau cartrefi hefo ni a’r cyfartaledd amser i ail-osod eiddo anghenion cyffredinol oedd diwrnod, i lawr o 9.6 diwrnod yn 2016/17

6.7

1365

Rydym yn adeiladu o dai o safon uchel, cynaliadwy ac ychydig o waith cynnal a chadw erbyn 2022

Residents have secured a home with us and the average time to relet general needs properties was days, down from 9.6 days in 2016/17

1365

We are building a further high quality, sustainable and low maintenance homes by 2022

6.7

100% 182 19,964

o’n preswylwyr yn hapus ar eu Cartrefi Newydd of our residents are happy with their newly Built Homes

88%

o breswylwyr yn cyfrannu at helpu Clwyd Alyn i siapio’r gwasanaethau a ddarperir i chi residents are involved with helping Clwyd Alyn shape the services delivered to you

gwaith trwsio wedi ei gwblhau gan Clwyd Alyn gan gymryd cyfartaledd o 16 diwrnod i bob darn o waith repairs were completed by Clwyd Alyn taking an average of 16 days per repair

Cyfartaledd cost gwaith trwsio ac mae gweithwyr Clwyd Alyn yn cwblhau cyfartaledd o 4.42 swydd y dydd

of our residents are satisfied with the way we deal with repairs and maintenance, representing a 5% improvement since 2016

£114

The average cost of a repair was and Clwyd Alyn operatives complete an average of 4.42 jobs per day

£114

o breswylwyr yn fodlon ar y ffordd yr ydym yn ymdrin â gwaith trwsio a chynnal a chadw, gwelliant o 5% ers 2016

£

95% o breswylwyr yn fodlon ar ansawdd cyffredinol y gwaith trwsio of residents are satisfied with the overall quality of the repair

£1 sy’n cael ei gwario ar ddatblygu eiddo mae 80c yn cael ei ail-fuddsoddi yn Economi Cymru For every £1 spent in developing properties 80p is reinvested in the Welsh Economy Am bob

19


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.