Gwneud Gwahaniaeth Gyda'n Gilydd

Page 1

Agor Drysau – Gwella Bywydau

Gwneud Gwahaniaeth Gyda’n Gilydd Y newidiadau a wnaed gan eich cyfraniad yn 2015-2016

Mae Clwyd Alyn a Tŷ Glas yn Gymdeithasau Cofrestredig elusennol.

Pennaf Impact Assessment 2016 Wel single page.indd 1

15/12/2016 15:15


Gwneud Gwelliannau Gyda’n Gilydd: Gwnewch wahaniaeth yn eich cymuned yn 2015-2016 “Os nad ydych yn pleidleisio yna ni allwch gwyno pwy sy’n mynd i mewn – cymrwch ran”. Trwy eich cyfraniad chi, at ein gwasanaethau a chymunedau lleol cynhaliwyd 119 o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn 2015-2016 a chafwyd hyd at £48,000 mewn grantiau allanol i alluogi Clwyd Alyn a grwpiau lleol eraill i ymgymryd â chynlluniau oedd o fudd i’n preswylwyr a/neu eu cymunedau lleol. Eleni, trwy weithio gyda’n gilydd rydym wedi cyflawni’r canlynol: • Gwella’r amgylchedd (h.y. gwella Bioamrywiaeth) • Cynhwysiant Digidol • Iechyd a Lles • Datblygu Sgiliau a Chyflogadwyedd • Cydlyniad Cymunedol • Diogelwch Cymunedol • Gwella hyder a chydnabod llwyddiant • Uno cenedlaethau • Cydnabod Llwyddiannau Preswylwyr

Gwella’r amgylchedd lleol Mae contractwyr yr ydym yn gweithio gyda nhw (h.y. Keepmoat a Ground Control) wedi ein cefnogi wrth redeg digwyddiadau Garddio Cymunedol sydd wedi helpu i wella iechyd a lles preswylwyr lleol – gan annog ymarfer corff a lleihau straen. Hefyd cafodd y preswylwyr hwyl, datblygu sgiliau hanfodol, (gan gynnwys gweithio mewn tîm a chyfathrebu) a gwella bioamrywiaeth:

mae’r arbenigwyr yn dweud y byddai traean o’n diet arferol yn cael ei effeithio, byddai cnydau yn methu i raddau helaeth ac anifeiliaid – gwyllt a fferm – heb y bwyd y maent yn dibynnu arno. • Gweithio ar randiroedd yn Garden City, Sir y Fflint - yn tyfu cynnyrch ffres ac iach. • Yn Nolanog, Pensarn, daeth tîm at ei gilydd i wella’r gerddi cymunedol yn eu cynllun, gan glirio 11 bag o chwyn a pheintio ffensys. • Yn Hydref 2015, daeth tîm o wirfoddolwyr o blith staff Clwyd Alyn a PenAlyn at ei gilydd i drawsnewid yr hyn oedd wedi bod yn swyddfa gofalwr wag yn Hafan Dirion, yn ystafell fyw gyfforddus i breswylwyr, y maen nhw yn awr yn ei defnyddio yn gyson. • Cynhaliwyd diwrnod peintio cymunedol (gyda chefnogaeth Tesco yr Wyddgrug a Travis Perkins yn ogystal â gwirfoddolwyr o blith y preswylwyr) yn Nant Mawr Court, Bwcle i harddu rhannau o’r cynllun. • Diolch i arian gan Travis Perkins; mae cyfleusterau yn Erw Groes yn awr yn hygyrch am fod PenAlyn wedi gallu gosod toiled hollol hygyrch a chyfleusterau newid babis.

• Mae preswylwyr ym Mwcle, Y Fflint a Garden City, Sir y Fflint; Hafan Dirion a Sŵn y Môr yn Sir Ddinbych ac Elm Court, Wrecsam wedi plannu blodau i harddu eu cymunedau a denu pryfed sy’n peillio, gan gynnwys rhywogaethau sy’n cael eu gwarchod a rhai mewn perygl fel gwenyn cynhenid a gloÿnnod byw. Heb wenyn,

Gwneud Gwahaniaeth Gyda’n Gilydd Y newidiadau a wnaed gan eich cyfraniad yn 2015-2016 2 Pennaf Impact Assessment 2016 Wel single page.indd 2

15/12/2016 15:15


• Cynhaliwyd sesiwn ‘Bargen Orau Ynni’ ym Mro Trehinon, Cynllun Tai Cysgodol yn Ynys Môn i ddysgu preswylwyr sut i leihau biliau tanwydd; pa gefnogaeth sydd ar gael i bobl sy’n ei chael yn anodd talu eu biliau ynni a sut i arbed arian trwy ddefnyddio llai o ynni a bod yn fwy effeithlon o ran ynni. • Cynhaliwyd o leiaf 6 o ddyddiau casglu ysbwriel cymunedol a 4 o ddyddiau glanhau amlasiantaethol (sgip) (h.y. yn yr Wyddgrug, y Fflint a Holway, yn Sir y Fflint ac yn y Rhyl). Dywedodd preswylwyr wrthym fod eu stadau yn ‘edrych yn well’ wedyn a bod y digwyddiadau yn eu helpu i deimlo “yn fwy o ran o’u cymuned” ac yn eu helpu i “gael ein plant at ei gilydd”, i wneud rhywbeth cadarnhaol dros y gwyliau. Byddai’r plant yn cael eu gwobrwyo am eu gwaith trwy weithgareddau hwyliog.

Gwella’r cyfathrebu gyda’n preswylwyr • Trwy ddefnyddio’r safleoedd rhwydweithio ar gyfryngau cymdeithasol ar Facebook a Twitter, rydym wedi gallu rhannu’r gweithgareddau cynnwys preswylwyr a datblygu cymunedol sydd wedi digwydd gyda chi. • Mae o leiaf 8 sesiwn Porth Preswylwyr wedi eu cynnal i’ch helpu i gofrestru ar Borth Preswylwyr newydd Clwyd Alyn a’i ddefnyddio. Mae’r porth ar-lein hwn yn cynnig ffordd newydd i breswylwyr wirio datganiadau rhent, cofnodi gwaith trwsio, rhoi adroddiad am ymddygiad gwrthgymdeithasol a llawer mwy ar-lein.

Cynhwysiant Digidol Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn awgrymu bod bron i hanner y tenantiaid tai cymdeithasol yn dal heb fynediad i’r rhyngrwyd ac mae 37% rhyfeddol o’r bobl nad ydynt ar-lein yn denantiaid tai cymdeithasol. Gall allgauedd digidol gael effaith negyddol ar iechyd, addysg, sgiliau a chyfleoedd gwaith pobl. O ganlyniad rydym wedi bod yn helpu preswylwyr i fynd ar-lein i: • • • •

Wella’r cyfathrebu gyda’n preswylwyr Alluogi mynediad at wasanaethau Atal unigrwydd a bod yn ynysig Cynyddu sgiliau a chyflogadwyedd

• Arbed arian

• Dosbarthwyd ymgyrchoedd e-bost i breswylwyr sy’n dewis cyfathrebu trwy e-bost, gan alluogi Clwyd Alyn i gyfathrebu yn gyflymach a chael budd o arbediadau effeithlonrwydd. • Ein thema yn 2015 ar gyfer Cynhadledd Flynyddol y Preswylwyr oedd ‘Cynhwysiant Digidol’ lle buodd arbenigwyr cynhwysiant digidol yn addysgu, ysgogi ac annog preswylwyr i ddefnyddio’r rhyngrwyd, trwy hybu’r manteision niferus o fod ar-lein.

3 Pennaf Impact Assessment 2016 Wel single page.indd 3

15/12/2016 15:15


Galluogi mynediad at wasanaethau • Buom yn gweithio mewn partneriaeth ag ymgyrch ‘RNIB Ar-lein Heddiw’ ‘Vision Support’ sy’n cynnig cefnogaeth i breswylwyr sydd â nam ar y golwg. Er enghraifft: Derbyniodd cynllun Tai Cysgodol Llys Erw sesiynau TGC i wella mynediad ar-lein. • Bu Cymunedau Digidol Cymru yn gwella mynediad i’r rhyngrwyd i nifer o’n preswylwyr trwy rannu offer (h.y. llechi, dyfeisiadau Wi-Fi symudol a gliniaduron) i gynlluniau gwahanol, er enghraifft: Bro Trehinon ar Ynys Môn.

Atal unigrwydd a bod yn ynysig • Sicrhawyd cyllid ar gyfer caledwedd a meddalwedd arbenigol sydd o fudd i breswylwyr â nam ar y synhwyrau neu’r golwg. Er enghraifft: Mae gan Gynllun Tai Cysgodol Pentre Mawr yn Abergele yn awr fysellfwrdd arbenigol i’r rhai â nam ar eu golwg a system adnabod llais. O ganlyniad, mae preswylwyr yn awr yn gallu cadw cysylltiad â theulu a ffrindiau ar-lein.

• Trefnodd TAPE Community Music and Film ddigwyddiadau ‘Sinema Dawel’ mewn nifer o gynlluniau Gofal Ychwanegol a Thai Cysgodol, er enghraifft: Yng Nghynllun Gofal Ychwanegol Hafan Gwydir, Llanrwst a Chynllun Tai Cysgodol Pentre Mawr. Mae’r digwyddiadau Sinema Dawel

hwyliog yma yn dwyn preswylwyr hŷn at ei gilydd, gan roi cyfle iddynt hel atgofion trwy wylio hen ffilmiau du a gwyn, gyda cherddoriaeth bleserus gan organydd byw! Daeth preswylwyr o’r gymuned yn ehangach hefyd yno, gan gryfhau eu rhwydweithiau cymdeithasol.

Cynyddu sgiliau • Fe wnaethom gyflwyno sesiynau ‘Cynhwysiant Digidol’ a chyrsiau ‘Cyfrifiaduron i Ddechreuwyr’ gyda chefnogaeth sefydliadau partner, mewn ardaloedd lle mae preswylwyr wedi dweud eu bod am/angen datblygu eu sgiliau TGC. Er enghraifft: Cynigiodd Cymunedau yn Gyntaf Sir Ddinbych gwrs Cyfrifiaduron i Ddechreuwyr yn Hafan Dirion y Rhyl ym Mawrth 2016. • “Diolch i’r sesiynau cynhwysiant digidol, rwyf wedi prynu fy iPad fy hun ac yn ei ddefnyddio bob dydd... dwi’n darllen y papurau newydd tabloid am ddim ac yn edrych ar fy nhudalen Facebook i gadw mewn cysylltiad hefo’r teulu”. Preswyliwr yng Nghynllun Tai Cysgodol Pentre Mawr. • Cyflwynodd Cymunedau Digidol Cymru sesiynau hyfforddi ‘Hwyluswyr Digidol’ i breswylwyr a staff, gan roi’r hyder iddynt i helpu eraill fynd ar-lein ac i ddatblygu sgiliau digidol sylfaenol. Ar ôl mynychu’r hyfforddiant ‘Hwyluswyr Digidol’, gwirfoddolodd nifer o breswylwyr i gefnogi ein sesiwn Porth Preswylwyr yn Hydref 2015 – gan helpu preswylwyr eraill i fynd ar-lein.

Gwneud Gwahaniaeth Gyda’n Gilydd Y newidiadau a wnaed gan eich cyfraniad yn 2015-2016 4 Pennaf Impact Assessment 2016 Wel single page.indd 4

15/12/2016 15:15


Cymerodd preswylwyr o gynlluniau Byw â Chefnogaeth Isallt a’r Dyfodol ran mewn prosiect cerddoriaeth diolch i TAPE Community Music and Film. Nod y prosiect hwn oedd creu trac sain cyfoes (trwy ddysgu sut i ysgrifennu geiriau, golygu a rapio) a fydd wedyn yn cael ei chwarae ochr yn ochr â digwyddiadau ‘Sinema Dawel’ yn y dyfodol.

Arbed arian •

Dyfarnwyd grant gan Gronfa Gymunedol Sainsbury i Gynllun Tai Cysgodol Llys Erw, yn Rhuthun sydd wedi eu galluogi i brynu cyfrifiadur i’r lolfa gymunedol. Ers hynny mae’r preswylwyr wedi gallu arbed arian trwy siopa ar-lein a lleihau eu biliau ffôn trwy archebu Apwyntiadau Meddyg ar-lein.

Gallwch arbed rhwng £500 - £700 pan fyddwch yn ddeallus yn ddigidol.

Trefnwyd gwersyll haf 3 diwrnod yn Ysgol Uwchradd y Fflint, gan Chwaraeon Sir y Fflint, rhan o Gyngor Sir y Fflint i bobl ifanc sy’n byw ar Ffordd Helygain

“Mae hi wedi bod yn wych...dwi wedi mwynhau cyfarfod pobl na fyddwn yn cael cyfle i chwarae hefo nhw fel arfer a rhoi cynnig ar chwaraeon ffantastig nad ydw’i wedi rhoi tro arnyn nhw o’r blaen”.

Trwy arian grant mwynhaodd preswylwyr o Gynllun Tai Cysgodol Llys Erw, a’r gymuned yn Rhuthun sesiynau Tai Chi wythnosol a chlwb cinio wythnosol. Mae hyn wedi helpu i lunio rhwydweithiau cymdeithasol, atal unigrwydd a gwella iechyd a lles meddyliol a chorfforol.

Cynhaliwyd sesiynau ymwybyddiaeth o HIV, gan Body Positive, mewn cynlluniau Byw â Chefnogaeth i wella dealltwriaeth gweithwyr prosiect am iechyd rhywiol a’r gwasanaethau cefnogi lleol sydd ar gael.

Cyfarfu preswylwyr o Gynllun Tai Cysgodol Pentre Mawr, sy’n mynd i gyfarfodydd fforwm Llais Cymunedol Conwy fyfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Coleg Llandrillo, i drafod materion iechyd a gofal cymdeithasol sy’n effeithio arnynt gan alluogi’r myfyrwyr i ddysgu o’u profiadau.

Iechyd a Lles •

Buom yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych a rhedeg ‘gemau stryd’ wythnosol yn Y Gorlan, Y Rhyl, am gyfnod o chwe mis.

5 Pennaf Impact Assessment 2016 Wel single page.indd 5

15/12/2016 15:15


Gwnaeth gweithio gyda busnesau lleol wahaniaeth gwirioneddol i breswylwyr bregus. • Rhoddodd Airbus a Keepmoat eitemau y mae ar y rhai sy’n cysgu allan eu hangen i Loches Tŷ Nos a Chanolfan Dewi Sant (e.e. dillad gwely, pethau ymolchi, bwyd a dillad cynnes), gan eu helpu i oroesi ar y strydoedd mewn tywydd oer yn y gaeaf.

• Mwynhaodd preswylwyr hŷn yng Nghynllun Tai Cysgodol Nant Mawr Court gymryd rhan mewn gweithdai celf a chrefft. • Rhoddodd Kingspan esgidiau gwaith i breswylwyr Byw â Chefnogaeth oedd o fudd i’r rhai oedd yn dechrau gweithio neu ar brentisiaethau yn y diwydiant adeiladu.

• Rhoddodd MoneySupermarket.com £1,000 yr un i Tŷ Nos a Chanolfan Dewi Sant. Dywedodd Rheolwr Tŷ Golau wrthym “trwy gael y rhoddion hyn rydym yn sicrhau bod ein defnyddwyr gwasanaeth yn teimlo eu bod o werth ac yn cael hyder ac mae’n helpu i wella eu bywydau”. • Fe wnaeth rhoddion helpu i sicrhau bod ResFest 2015 yn llwyddiant rhyfeddol! Daeth y gynhadledd hon â phobl ifanc o’n Cynlluniau Byw â Chefnogaeth at ei gilydd i: ddysgu camau adeiladol y gallant eu cymryd i wella eu hiechyd meddwl, lles a hapusrwydd.

Datblygu Sgiliau a Chyflogadwyedd • Cyflwynodd Airbus sesiynau cyflogadwyedd yng nghynllun Byw â Chefnogaeth Erw Groes, yn Sir y Fflint, i helpu i gynyddu eu sgiliau a’u hyder, er enghraifft: Sgiliau ysgrifennu CV a chyfweliad. • Rhedodd Keepmoat sesiynau hyfforddi Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) a rhoi adnoddau hyfforddi i breswylwyr Byw â Chefnogaeth Sir y Fflint a fu’n eu helpu i weithio yn y diwydiant adeiladu. O ganlyniad, mae un o breswylwyr Greenbank Villas, trwy gefnogaeth ariannol gan Keepmoat, wedi cwblhau’r prawf CSCS.

Cydlyniad Cymunedol Parhaodd ein prosiect ‘Llais Cymunedol Conwy’ i weithio gyda phreswylwyr lleol i yrru newid a gwella gwasanaethau ar draws Conwy. Cynhaliwyd cyfarfodydd fforwm cyson gan roi cyfle i breswylwyr gael llais gwirioneddol am faterion a gwasanaethau sy’n effeithio arnynt. O ganlyniad fe wnaed gwelliannau fel: • Cododd preswylwyr Pentre Mawr yr angen am arosfa bws ac o ganlyniad uniongyrchol mae’r gwasanaeth bws lleol yn awr yn stopio yn Pentre Mawr ac yn mynd i Tesco Abergele a’r Stryd Fawr gan alluogi’r preswylwyr hŷn i fynd i’r siopau lleol.

Gwneud Gwahaniaeth Gyda’n Gilydd Y newidiadau a wnaed gan eich cyfraniad yn 2015-2016 6 Pennaf Impact Assessment 2016 Wel single page.indd 6

15/12/2016 15:15


• Ar ôl mynd i’r cwrs ‘Dinasyddiaeth Weithredol’ roedd un o breswylwyr Cynllun Byw â Chefnogaeth Isallt yn teimlo ei bod wedi ei grymuso i gysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ei hun i drafod problemau ailgylchu oedd yn llwyddiant mawr iddi hi. • Llwyddodd digwyddiadau a gweithgareddau amrywiol, hwyliog i ddwyn cymunedau at ei gilydd gan alluogi preswylwyr i drafod eu hanghenion presennol a helpu i wella’r cysylltiadau cymunedol.

• Rhoddodd Specsavers yr Wyddgrug; MoneySupermarket.com; Kingspan a Radio City deganau i blant a phobl ifanc sy’n byw yn ein Prosiectau Byw â Chefnogaeth, iddynt gael eu hagor ar ddydd Nadolig 2014. Dywedodd un o’r preswylwyr, “Dyma’r unig anrheg gefais i i’w agor yn y prosiect ac roedd yn golygu llawer, roedd y rhoddion bwyd yn golygu nad oedd rhaid i mi boeni am fwyd ac fe gawsom bryd cymunedol fel bod yr holl breswylwyr yn dod at ei gilydd i ddathlu”.

• Trefnwyd taith i Sw Bae Colwyn i breswylwyr Ynys Môn a ddywedodd wrthym “fe wnaeth helpu i mi ddod yn fwy cyfeillgar â rhai cymdogion” a’u bod wedi mwynhau’r “ysbryd cymunedol” ar y diwrnod yn fawr iawn. • Trefnwyd digwyddiadau Nadolig amlasiantaethol yn Garden City, Sir y Fflint a Stryd y Tywysog, Y Rhyl, yn ychwanegol at wahanol weithgareddau, rhoddwyd gwybodaeth am ddiogelwch tân yn y cartref ac effeithlonrwydd ynni i’r rhieni. Dywedodd un o’r preswylwyr, “fe wnaeth y digwyddiad hwn ddwyn y gymuned at ei gilydd a helpu’r plant i gael hwyl ar stryd lle nad ydynt yn gallu chwarae allan”. • Yn Abergele, Rhuthun, yr Wyddgrug a Chyffordd Llandudno gwahoddwyd preswylwyr i’w siopau Tesco lleol i fwynhau pryd Nadolig, 3 chwrs am ddim a raffl! Roedd y rhan fwyaf o’r preswylwyr a aeth yno mewn oed a/neu yn mynd i fod ar eu pennau eu hunain dros y Nadolig. Dywedodd y preswylwyr eu bod wedi mwynhau “y cwmni” a “mynd allan a chymysgu gyda phobl”.

• Rhoddodd Moneysupermarket.com gant o Wyau Pasg i ni eu rhannu i gynlluniau Byw â Chefnogaeth Sir y Fflint, Cymorth i Ferched Clwyd Alyn yn ogystal â threfnu helfa wyau yn Garden City, Sir y Fflint a’r Rhyl.

7 Pennaf Impact Assessment 2016 Wel single page.indd 7

15/12/2016 15:15


Diogelwch Cymunedol Mae digwyddiadau wedi cael eu cynnal i atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwella diogelwch personol: • Cynhaliwyd Parti Calan Gaeaf yn Holway, Treffynnon a ddaeth â theuluoedd at ei gilydd i gael hwyl a chadw plant yn ddiogel (gan fod y parti yn cynnig dewis gwahanol dan oruchwyliaeth i’r gweithgareddau Calan Gaeaf arferol). Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i’r swyddogion heddlu lleol roi cyngor atal troseddau a diogelwch. • Yn dilyn digwyddiad casglu ysbwriel cymunedol cynhaliwyd digwyddiad ‘Diogelwch ar y Ffyrdd a Chyngor Ynni’ ar Ffordd Helygain, Y Fflint i ymdrin â phryderon y preswylwyr am blant yn chwarae ar y ffordd. Aeth Tîm Traffig a Diogelwch ar y Ffordd Sir y Fflint ati i ddysgu’r plant am y Groes Werdd; Mannau Mwy Diogel i Chwarae a sut i gadw’n ddiogel yn agos at ffyrdd. Daeth Groundwork yno hefyd i rannu awgrymiadau ar sut i arbed arian ar filiau ynni.

Uno cenedlaethau • Cynhaliwyd prosiect plannu cymunedol yn Llys Esgob Morgan gyda chefnogaeth Ground Control a phlant ysgol o Ysgol Esgob Morgan. Cyflwynodd y disgyblion botiau a photiau mawr i’r preswylwyr i helpu i harddu eu gerddi. • Cafodd disgyblion o Ysgol Bro Gwydir a phreswylwyr cynllun Gofal Ychwanegol Hafan Gwydir fudd o ‘brosiect darllen mewn parau’. Datblygodd y disgyblion eu sgiliau darllen a dysgodd y preswylwyr sut i ddefnyddio technoleg i ddarllen. ‘Nid ydym wedi defnyddio iPad o’r blaen, ond roedd y plant yn amyneddgar iawn yn dangos i ni sut i’w ddefnyddio ac fe wnaethom ni eu helpu nhw hefo’u darllen.’ • Cynhaliwyd digwyddiad ‘Pobi bara’ i wahanol genedlaethau yn Tesco yr Wyddgrug ac fe wnaeth preswylwyr Sir y Fflint fwynhau dysgu sut i wneud bara a mynd ar daith o gwmpas y popty yno a gweld eu bara arbenigol.

• Trefnwyd digwyddiadau gosod sglodion micro gyda’r Ymddiriedolaeth Cŵn i annog perchenogaeth gyfrifol ar gŵn a lles anifeiliaid ac i sicrhau bod preswylwyr lleol yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth newydd.

Gwneud Gwahaniaeth Gyda’n Gilydd Y newidiadau a wnaed gan eich cyfraniad yn 2015-2016 8 Pennaf Impact Assessment 2016 Wel single page.indd 8

15/12/2016 15:15


Cydnabod Llwyddiannau Preswylwyr Rhoddwyd staff a phreswylwyr Clwyd Alyn ar restrau byr a/neu fe wnaethant ennill Gwobrau, oedd yn cydnabod y cyfraniad allweddol y maent yn ei wneud i’n cymunedau lleol: Gwobrau Gwirfoddolwyr Sir y Fflint (2016): •

Enillodd Greenbank Villas y wobr am ‘Brosiect Amgylcheddol Gorau’ am eu gwaith gyda Chyfeillion Nant Swinchiard yn y Fflint.

Enillodd y Gweithiwr Prosiect Inez Hickie y categori ‘Gwobr Gwirfoddoli Staff Cyflogedig’

Enillodd y preswyliwr o Sir y Fflint, James Hayden y wobr ‘Pencampwr Cymunedol’.

Enillodd ein prosiect Llais Cymunedol ‘Conwy Gyda’i Gilydd’ Wobr Genedlaethol TPAS Cymru yn y categori ‘Cyfranogiad Tenantiaid’.

Dangosodd ymarfer Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad bod dros £58,000 mewn gwerth ariannol ychwanegol wedi cael ei greu o ganlyniad i hybu ein gwaith datblygu cymunedol.

Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd ac rydym yn edrych ymlaen at weithio hefo chi eto dros y flwyddyn nesaf!

9 Pennaf Impact Assessment 2016 Wel single page.indd 9

15/12/2016 15:15


Y newidiadau a wnaed gan eich cyfraniad yn 2015-2016 i’n gwasanaethau ac i gymunedau lleol. Codi Safonau Gwasanaethau Cwsmeriaid • Mae ein Pwyllgor Gwella Gwasanaethau dan arweiniad preswylwyr yn sicrhau bod preswylwyr yn cymeradwyo polisïau sy’n gwella eich gwasanaethau. Yn ystod y flwyddyn, dechreuodd y pwyllgor edrych sut y gallai ddiweddaru ei rôl i ddwyn mwy o sicrwydd i fanylion polisïau a chyllidebau. • Cynhaliwyd Sesiwn Adolygu Panel Gwasanaethau ym Medi 2015 a ddaeth â phreswylwyr a staff o’n paneli unigol at ei gilydd. Mae’r modd y mae gwasanaethau yn cael eu darparu yn cael ei arwain gan y cwsmeriaid yn awr. Nododd y preswylwyr bod “adborth yn cael ei glywed a bod gweithredu arno” trwy waith y paneli. • Parhaodd ein tri Cennad Gwasanaethau Cwsmeriaid Preswylwyr i weithio gyda’r staff i wella gwasanaethau cwsmeriaid. Roeddent hefyd yn rhan o’r panel o feirniaid yn ein gwobrau ‘STAR’ lle mae cyfraniad staff at wasanaethau cwsmeriaid sydd tu hwnt i’w dyletswyddau yn cael ei gydnabod. • Cyfarfu ein Panel Cynnal a Chadw a Gwasanaeth Technegol ddwywaith yn y flwyddyn ac adolygu’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng Clwyd Alyn a PenAlyn. Edrychodd y cyfarfodydd hefyd ar flaenoriaethau Cynnal a Chadw a’r rhaglen Welliannau a Gynlluniwyd, gan wneud awgrymiadau o ran gwella’r gwasanaeth i Swyddogion. • Preswylwyr yw ein Partneriaid Ansawdd sydd wedi eu hyfforddi i archwilio gwasanaethau Landlord. Yn ystod y flwyddyn buont yn gweithio ar archwiliad o’r ffordd y mae Clwyd Alyn yn cyfathrebu â phreswylwyr a hefyd dechreuwyd archwiliad newydd ar sut y byddwn yn darparu taliadau gwasanaeth.

• Parhaodd nifer o breswylwyr yn eu rôl fel Hwyluswyr Tirlun i helpu i fonitro’r contract Garddio yn lleol. Mae preswylwyr, staff a’r Contractwr tirlunio wedi parhau i weithio gyda’i gilydd i wneud gwelliannau i’r gwasanaeth hwn. • Mae Cynnwys Preswylwyr sy’n Brydleswyr yn parhau i ffynnu gyda’r Panel yn cyfarfod bum gwaith yn 2015/16. Dan gadeiryddiaeth un o’r preswylwyr, cytunodd y preswylwyr a’r staff ar ystod o bolisïau a gweithdrefnau newydd. Yn dilyn arolwg bodlonrwydd yn ddiweddar, dywedodd 98% o breswylwyr Cynlluniau Prydlesu i’r Henoed eu bod yn fodlon ar y gwasanaeth a dderbyniwyd, gwelliant o dros 17%. • Mae panel cwynion bach wedi cyfarfod ar nifer o achlysuron i weithio gyda Swyddogion i ddadansoddi cwynion ffurfiol i sicrhau ein bod yn dilyn y gweithdrefnau priodol. Mae’r aelodau wedi gwneud y sylw eu bod wedi dysgu dod yn “drefnus iawn wrth archwilio’r broses” yn y cwynion dienw yr oeddent yn edrych arnynt. • Ymgynghorwyd â’r preswylwyr am newidiadau i’n Polisi Trosglwyddo ym mis Tachwedd 2015, gan gytuno ar y cynnig i leihau’r amser y mae’n ei gymryd i Breswyliwr symud tŷ o saith diwrnod i un diwrnod. Cytunwyd ar hyn erbyn hyn. • Cynhaliwyd cyfarfod Grŵp Ffocws Manyleb Glanhau Cymunedol yn Rhagfyr 2015 a chafodd y rhai a gymerodd ran gyfle i adolygu’r fanyleb ddrafft i lanhawyr i’w defnyddio yn ardaloedd cymunedol ein fflatiau, sydd yn awr wedi ei gytuno.

Gwneud Gwahaniaeth Gyda’n Gilydd Y newidiadau a wnaed gan eich cyfraniad yn 2015-2016 1010 Pennaf Impact Assessment 2016 Wel single page.indd 10

15/12/2016 15:15


Dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn gweithio •

Yn ein Grwpiau Atebolrwydd ar Sail Canlyniadau, mae’r preswylwyr wedi ein helpu i asesu sut y mae gwasanaethau yn gwella a rhoi adroddiad ar hyn i Lywodraeth Cymru, gan eu sicrhau felly bod eich barn yn ganolog i ddarparu gwasanaethau. Yn ystod y flwyddyn cawsant eu hail-lansio fel Timau Gwella, gan eu gwneud yn fwy lliflin a pherthnasol i’r gwasanaethau sydd bwysicaf i chi.

Gwirfoddolodd preswylwyr i wneud galwadau dilynol yn ein Canolfan Gyswllt i gael gwybod beth yr ydych yn ei feddwl am waith trwsio sydd newydd ei wneud. O ganlyniad mae gennym lwyth o adborth ar waith trwsio yr ydym yn ei ddefnyddio i wella’r gwasanaeth. Roedd un o’n gwirfoddolwyr yn teimlo ei fod yn “syniad rhagorol i breswylwyr gyfrannu” gan ychwanegu “mae ein cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth i’r gwasanaethau yr ydym yn eu cael gan Clwyd Alyn”.

Ymunodd preswylwyr sy’n cyfrannu at siapio Cynllun Busnes Clwyd Alyn at y flwyddyn ariannol 2015/16 â’r staff yn Ionawr ar gyfer y cyfarfod hwn. Roedd y preswylwyr yn cael ‘gwario punt Clwyd Alyn’. Nododd un o’r rhai a gymerodd ran ei bod “yn braf cael arian i’w wario, roedd yn gwneud i mi feddwl o ddifrif beth ddylai’r blaenoriaethau fod”.

Yn ystod y flwyddyn fe wnaethom dreialu ffordd newydd o recriwtio Aelodau’r Preswylwyr o’r Bwrdd trwy roi cyngor a gwybodaeth mewn sesiwn anffurfiol gyda Swyddogion ac Aelodau’r Bwrdd wrth law i ateb unrhyw gwestiynau. Daeth un ar ddeg o breswylwyr i’r digwyddiad hwn yn Ionawr 2016 a sesiwn ddilynol ym mis Mawrth.

Gwella Cyfathrebu •

Beth sydd arnom ni angen ei wneud i fod yn Gynhwysol yn Ddigidol? Dyna’r cwestiwn y bu preswylwyr yn ein helpu i’w ateb yn ein Cynhadledd Preswylwyr ym mis Hydref 2015. Soniodd y rhai a gymerodd ran bod y digwyddiad wedi ei drefnu yn dda ac yn ddiddorol, gydag un yn dweud “gweithdai, siaradwyr rhagorol, staff yn barod i helpu a gwybodaeth i fynd â hi oddi yno hefo ni. Dywedodd un arall ei fod yn “ddigwyddiad ymarferol i’r nifer a ddaeth yno”. Cadarnhaodd 91% o’r preswylwyr a lenwodd y ffurflen werthuso bod mynd i’r gynhadledd wedi gwneud iddynt deimlo eu bod yn gallu cyfrannu llawer neu ychydig at Clwyd Alyn.

Darllenwch yr hanes! Mae ein Panel golygyddol o breswylwyr yn gweithio’n galed i gynhyrchu ein cylchlythyrau. Maent yn goruchwylio’r cynnwys ac yn ysgrifennu erthyglau ac yn cytuno ar olwg y cylchlythyr. Dywedodd yr aelodau bod “y grŵp golygyddol wedi gwneud gwahaniaeth yn bendant” i’r ffordd y mae’r cylchlythyr yn edrych.

Mae’r cylchlythyr Gwneud Gwelliannau Gyda’n Gilydd hwn hefyd yn awr dan oruchwyliaeth y panel golygyddol. Cyfarfu aelodau’r panel ym Mai 2015 i edrych ar y dyluniad ac i olygu’r cynnwys i’w wneud yn haws ei ddilyn. Dywedodd aelodau’r panel bod “y fformat a’r teitl wedi newid ac mae’r llyfryn Asesiad Effaith yn awr yn haws ei ddefnyddio”.

11 Pennaf Impact Assessment 2016 Wel single page.indd 11

15/12/2016 15:16


Gwella ansawdd bywyd • Mae grwpiau preswylwyr wedi parhau i fod yn weithredol yn y flwyddyn, gan weithio ar ran eu cymunedau a gyda Clwyd Alyn i wella gwasanaethau i breswylwyr. Trwy weithio gyda Swyddogion, llwyddodd preswylwyr Ochr y Bryn i ail drafod y system bwyntiau a ddefnyddir i gytuno ar eu rhenti o ganlyniad i’r wybodaeth leol oedd ganddynt am gyfleusterau lle maent yn byw. Arweiniodd hyn at renti is i’r cynllun. • Mae’r Grŵp Ymbarél Tai Cysgodol yn cynrychioli preswylwyr tai cysgodol ar draws yr ardaloedd lle’r ydym yn gweithio, gan eu hannog i gael llais yn y gwasanaethau sy’n effeithio arnynt. Mae hefyd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan sicrhau grantiau ar gyfer nifer o weithgareddau a chyfleusterau ychwanegol yn ein cynlluniau.

Lleihau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol • Cytunwyd ar Bolisi Cam-drin Domestig yn cael ei arwain gan y dioddefwr gan y preswylwyr ym mis Gorffennaf 2015. Gwrandawyd ar sylwadau, fel newid y teitl o drais domestig i gam-drin domestig, a chytunwyd ar y polisi newydd erbyn hyn. • Roedd pwnc Troseddau Casineb a Chyfeillion yn bwnc llosg mewn cyfarfod ym mis Hydref 2015 lle daeth Swyddogion, preswylwyr ac asiantaethau allanol at ei gilydd i gytuno ar bolisi newydd. Dywedodd preswyliwr a ddaeth yno ei fod yn “ysgogi rhywun i feddwl ac yn llawn gwybodaeth”. Gan ddisgrifio’r sesiwn fel “y grŵp ffocws gorau i mi fynd iddo fel gwirfoddolwr o blith y preswylwyr”.

• Mae Resfest, y gynhadledd flynyddol i bobl ifanc o’n prosiectau Byw â Chefnogaeth yn ddigwyddiad a enillodd wobrau niferus lle mae’r preswylwyr eu hunain yn sêr y sioe. Mae’n ddigwyddiad lle maent yn dysgu, yn cael hwyl, yn rhyngweithio â’i gilydd, yn dathlu eu llwyddiannau a’u sgiliau a byddant yn cael atgofion a brwdfrydedd yno, sydd yn cael effaith ar eu hyder a’u lles. Y thema ar gyfer digwyddiad 2015 a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf oedd ‘hapusrwydd’ a chymerodd mwy na 90 o breswylwyr ran ar y diwrnod.

Gwneud Gwahaniaeth Gyda’n Gilydd Y newidiadau a wnaed gan eich cyfraniad yn 2015-2016 12 Pennaf Impact Assessment 2016 Wel single page.indd 12

15/12/2016 15:16


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.