Agor Drysau – Gwella Bywydau
www.clwydalyn.co.uk
Gwneud Gwahaniaeth
Gyda’n Gilydd Y Gwahaniaeth y mae eich cyfraniad wedi ei wneud trwy ein Gweithgareddau Cynnwys Preswylwyr a Datblygu Cymunedol i gyd yn 2013-2014.
Ffôn: 0800 183 5757 neu 01745 536800 E-bost: enquiries@clwydalyn.co.uk Mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn Gymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus Elusennol
Asesiad Effaith: Y Gwahaniaeth y mae eich cyfraniad wedi ei wneud trwy ein Gweithgareddau Cynnwys Preswylwyr a Datblygu Cymunedol i gyd yn 2013/14 Yn Clwyd Alyn ein nod yw rhoi eich anghenion chi yn ganolog i bopeth a wnawn.
Gan ystyried hyn, mae’r Asesiad Effaith hwn yn rhoi manylion y gwahaniaeth y mae eich cyfraniad chi at Weithgareddau Cynnwys Preswylwyr a Datblygu Cymunedol wedi ei wneud, i’n gwasanaethau a chymunedau lleol yn ystod y cyfnod Ebrill 2013 hyd Fawrth 2014. Fe welwch fod Canlyniadau yn cael eu crybwyll trwy’r ddogfen hon. Yr hyn yr ydym yn ei olygu trwy hyn yw ceisio nodi sut y mae gwasanaethau a chymunedau yn gwella o ganlyniad i gynnwys Preswylwyr. Ond rydym yn sylweddoli, mewn rhai achosion, mai dim ond yn y dyfodol y bydd y canlyniadau i’w gweld, wrth i’r wybodaeth ddod ar gael i ddangos gwerth eich cyfraniad. Sut wnaeth eich cyfraniad chi yn 2013/14 helpu i wella gwasanaethau, sut wnaeth o ddigwydd, a pha wahaniaeth y mae wedi ei wneud i’r ffordd yr ydym yn gweithio?
G
G
C
G
Cefnogi Grwpiau Preswylwyr: parhaodd sefydlu a chefnogi grwpiau i fod yn un o’n nodau trwy gydol y flwyddyn a sefydlwyd dau grŵp newydd.
C C
2
Gofynnodd ein Preswylwyr am hyfforddiant i gynnal cyfarfodydd mwy effeithiol a gwella eu sgiliau. Rhedodd y Gwasanaeth Cynghori Cyfranogiad Tenantiaid (TPAS) Cymru gwrs hyfforddi i fodloni’r angen hwn. Ar ôl y cwrs, a gafodd dderbyniad da, dywedodd un Preswyliwr “Dwi wedi dysgu llawer o bethau newydd i roi cynnig arnyn nhw a ddylai helpu i gynyddu aelodaeth ein grŵp”. Teimlai un arall fod y diwrnod wedi “helpu i mi sylweddoli pwysigrwydd bod yn aelod gweithredol o’m Cymdeithas Preswylwyr”.
Mae Atebolrwydd ar Sail Canlyniadau a Hunan Asesu wedi cynnig ffordd newydd i Breswylwyr gymryd rhan. Mae Llywodraeth Cymru yn gwirio perfformiad yr holl Gymdeithasau Tai i sicrhau bod barn Preswylwyr yn ganolog i’r modd y mae gwasanaethau yn cael eu darparu.
Ymunodd y preswylwyr mewn saith grŵp thema i’n helpu yn y broses hon. Mae un o’n Preswylwyr sy’n gwirfoddoli yn cofio agwedd “nhw a ni” yn y gorffennol ond yn awr mae’n teimlo ei bod yn “ymwneud â Swyddogion yn gyson fel pobl gyfartal”.
Mae ein Pwyllgor Gwella Gwasanaethau dan arweiniad Preswylwyr yn eistedd gam yn is na Bwrdd Rheoli Clwyd Alyn ac yn sicrhau bod barn Preswylwyr yn cael ei bwydo yn uniongyrchol i Aelodau’r Bwrdd.
Eleni mae’r pwyllgor wedi argymell polisïau i’r Bwrdd ar Ymlyniad Preswylwyr a Datblygu Cymunedol, Tenantiaethau Cychwynnol, Effaith y Diwygiadau Lles, y Polisi Anifeiliaid Anwes a Gosod Rhenti. Dywedodd un aelod “ein rôl ni yw adolygu a gwneud argymhellion ar bolisïau a strategaethau. Yn ystod yr amser hwn dwi’n gwybod bod fy marn wedi cael dylanwad ar y ffordd y mae Clwyd Alyn yn darparu gwasanaethau i ni, y Preswylwyr. Dwi wedi dysgu llawer am Clwyd Alyn a’r gwaith y maen nhw’n ei wneud a dwi’n mwynhau gweithio hefo nhw yn fawr iawn”.
Gwneud Gwahaniaeth Gyda’n Gilydd
G G
C
G
C
Cylchlythyr y Preswylwyr – Dywedodd y Preswylwyr eu bod am gael mwy o ran wrth gynhyrchu ein cylchlythyr.
Sefydlwyd panel golygyddol dan arweiniad y Preswylwyr ac mae’r aelodau wedi gweithio’n galed i gynhyrchu cylchlythyrau haf a Nadolig 2013. Mae’r panel golygyddol yn cytuno ar y cynnwys ac mae rhai aelodau wedi cyfrannu erthyglau eu hunain. Oherwydd bod aelodau’r panel yn cymryd eu rôl o ddifrif nid dim ond “Clwyd Alyn sy’n dweud mai dyma’r hyn yr ydym ni’n ei feddwl y mae’n rhaid i chi ei wybod. Mae’n rhaid i ni ar y panel ei wneud yn gytbwys, ei wneud yn ddigon diddorol i bobl fod am ei ddarllen”.
Gweithred G
C
G
C Mae ein Sesiynau Adolygu Panel Gwasanaeth yn dwyn Preswylwyr o’n holl baneli unigol at ei gilydd a’r Staff sy’n eu cefnogi.
Cynhaliwyd dau gyfarfod ym mis Ebrill a Medi 2013 a roddodd gyfle i’r Preswylwyr a’r Staff wirio cynnydd a hefyd dangos sut y mae barn y Preswylwyr yn arwain at welliannau wrth ddarparu gwasanaethau. Ffilmiwyd adborth y preswylwyr am eu cyfraniad am y tro cyntaf yng nghyfarfod adolygu Ebrill. Dywedodd un “Dwi’n hoffi’r syniad fy mod yn medru eistedd yna a dweud nad ydi hynne’n iawn”. Dywedodd un arall “rydych yn gweld fod pethau yn digwydd oherwydd eich cyfraniad. Nid dim ond siop siarad sydd yma, mae gweithredu wedyn”.
C
Canlyniad
Mae’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng Clwyd Alyn a PenAlyn ein Cwmni Cynnal a Chadw mewnol wedi cael ei gytuno gan grŵp ffocws.
Cytunodd y grŵp ffocws sy’n cynnwys Preswylwyr ar y Cytundeb Lefel Gwasanaeth sydd yn weithredol yn awr. Bydd y grŵp ffocws yn adolygu hyn yn gyson sy’n dangos ein hymrwymiad i gynnwys Preswylwyr ar bob lefel wrth wneud penderfyniadau.
Penodwyd ein Hwyluswyr Gwasanaethau Cwsmeriaid Preswylwyr ym mis Mai ac maen nhw wedi cyfarfod yn gyson ers hynny.
Mae pedwar o Hwyluswyr Gwasanaethau Cwsmeriaid Preswylwyr yn gweithio gyda Staff i wella gwasanaethau cwsmeriaid trwy’r sefydliad cyfan. Maen nhw hefyd yn rhan o’r panel o feirniaid ar gyfer ein gwobrau ‘STAR’ pan fydd cyfraniad y staff at wasanaeth cwsmeriaid tu hwnt i ofynion y swydd yn cael ei gydnabod.
3
G
G
Sefydlwyd y grŵp ffocws ‘Cyfarfod y Tîm Rheoli’ i gynnig cyfle i Breswylwyr gyfarfod Prif Weithredwr y Grŵp, y Dirprwy a’r Cyfarwyddwyr i drafod materion sydd o ddiddordeb i’r ddwy ochr.
G
C C
G
C
4
Cyfarfu’r grŵp ym Mehefin 2013, gyda mwy na 50 o Breswylwyr ac aelodau staff yn bresennol. Bu’r cyfarfod hwn o help i ni ddangos ein dymuniad i fod yn agored ac atebol. Teimlai’r Preswylwyr a’r Staff a ddaeth yno eu bod yn deall barn ei gilydd am yr ystod o wasanaethau sy’n cael eu darparu a’r ffordd y mae’r rhain yn cael eu cyflawni. Roedd un Preswyliwr yn gweld y diwrnod yn un ‘llawn gwybodaeth’ gan ychwanegu ‘Dwi wedi dysgu llawer y gallaf ei drosglwyddo ymlaen i Breswylwyr eraill’. Dywedodd Preswyliwr newydd i Clwyd Alyn bod y ‘cyfarfod yn ddiddorol iawn ac yn llawn gwybodaeth’.
Cyfarfu ein grŵp ffocws Rhestr Aros, Ffurflenni Trosglwyddo, Polisi trosglwyddo dros dro ym Mehefin 2013.
Cytunodd y cyfarfod ar ffurflenni a thaflenni cynghori newydd ar ddewisiadau tai i arwain Preswylwyr a darpar Breswylwyr trwy eu ceisiadau. Erbyn hyn mae’r ffurflenni yma ar gael yn ddwyieithog ac yn cael eu defnyddio yn ddyddiol gan Swyddogion a hefyd yn adlewyrchu barn ein Preswylwyr am y gwasanaethau penodol yma. Mae polisi Trosglwyddo Dros Dro wedi ei gyflwyno yn awr, gan newid y ffordd yr ydym yn trosglwyddo ceisiadau a’r modd yr ydym yn dyrannu eiddo yn ôl maint a chynnwys y teulu. Bydd hyn yn helpu Preswylwyr presennol a rhai’r dyfodol rhag mynd i anawsterau ariannol o ganlyniad i newidiadau i’r budd-daliadau lles. Dywedodd aelod o’r panel, “Mae’n braf gweld mewn iaith glir sut y mae Clwyd Alyn, fel y Landlord, yn gallu helpu Preswylwyr sy’n ei chael hi’n anodd. Ar yr un pryd mae’n bwysig i Breswylwyr wybod beth sy’n cael ei ddisgwyl ohonyn nhw o ran ad-dalu eu dyledion.”
G
C
Gweithred
C
Canlyniad
Thema Teithiau Stadau Haf 2013 oedd newidiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fudd-daliadau tai a lles.
Fe wnaethom lwyddo i ymweld â thua 300 o Breswylwyr ar draws y chwe sir lle’r ydym yn gweithio. Fe wnaethom waith dilynol ar bryderon trwy roi gwybodaeth a chefnogaeth i Breswylwyr, gan gynnwys cyfeirio at ein Cynghorydd Budd-daliadau Lles a Dyled pan oedd hynny’n addas, i’w helpu i ddeall y newidiadau a sut y gallan nhw effeithio arnyn nhw. Gofynnwyd cwestiynau pwysig i’r Preswylwyr am eu cartrefi a’u cymunedau. Teimlai 91% o’r Preswylwyr y gwnaethom eu cyfarfod bod digwyddiadau fel hyn, pan oeddem yn mynd allan i’r cymunedau ac yn siarad yn uniongyrchol â Phreswylwyr am y problemau a’r pryderon sydd ganddyn nhw, yn syniad da ac yn cynnig gwerth da am arian. Er enghraifft, dywedodd un Preswyliwr ei fod “yn help mawr, dwi’n teimlo fy mod yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen”.
Yn dilyn yr arolwg STAR (trwy’r eiddo i gyd) yn 2012 a’n harolwg stadau yn haf 2013, mae canfod mwy am ein cartrefi a’n cymunedau yn rhywbeth yr ydym wedi canolbwyntio mwy arno gyda’ch cefnogaeth chi.
Mae holi sut yr ydych yn teimlo am eich cartref a’ch cymuned ac a oes gan Clwyd Alyn enw da yn eich ardal yn rhoi cyfle i ni gasglu corff o dystiolaeth am y modd yr ydym yn cael ein gweld yn y gymuned ehangach. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i adeiladu darlun cynhwysfawr o’r hyn yr ydych chi’n ei feddwl am Clwyd Alyn, y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu a’r modd y gallant gael eu gwella ymhellach.
Gwneud Gwahaniaeth Gyda’n Gilydd
G
C
G
C
Mae Resfest, y gynhadledd flynyddol i bobl ifanc o’n prosiectau Byw â Chefnogaeth, yn ddigwyddiad a enillodd wobrau niferus.
Dewisodd y Preswylwyr wahaniaethu fel thema i ddigwyddiad 2013. Roedd y teitl ‘Resfest – Refused’, yn enw cyffredinol am bob math o wahaniaethu. Roedd y Preswylwyr a’r amrywiaeth o asiantaethau a ddaeth draw yn frwdfrydig iawn am effaith y digwyddiad. Er enghraifft, dywedodd un Preswyliwr ei bod yn “thema wirioneddol dda” a dywedodd un arall ei fod wedi mwynhau “cyfarfod pobl newydd”. Teimlai cynrychiolydd asiantaeth ei fod yn “ddiwrnod gwirioneddol dda” gan ychwanegu “mae’n ymddangos yn gyfle da iawn i bobl ifanc gymryd rhan, i hyrwyddo’r hyn y mae pobl ifanc yn ei wneud a dathlu eu llwyddiannau.”
Cyfarfu’r Panel Cyfathrebu ym mis Awst i geisio barn y Preswylwyr ar Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru: Rhentu Cartrefi, Ffordd Well i Gymru.
G
C
G
C
Manteisiwyd ar y cyfle i sicrhau bod barn y Preswylwyr yn cael ei gynnwys yn ymateb Clwyd Alyn i’r ymgynghoriad hwn.
G
C
Cyfarfod y Panel Cyfathrebu
Llythyrau yn ‘Contact Manager’ Cynhaliwyd cyfarfod o’r grŵp ffocws ar 10 Medi 2013 gan geisio barn Preswylwyr am yr ystod o lythyrau safonol yr ydym yn eu defnyddio yn ein cronfa ddata a elwir yn ‘Contact Manager’.
Adolygwyd a diweddarwyd amryw o’r llythyrau yn ôl y gofyn. Ar hyn o bryd mae’r adran Gwasanaethau Gwybodaeth yn adolygu’r systemau i gynnwys y newidiadau y cytunwyd arnyn nhw yn y grŵp ffocws yn ‘Contact Manager’.
Mae ein Panel Rheoli Asedau newydd yn cynnwys Preswylwyr a Swyddogion a fydd yn ystyried cael gwared ar eiddo neu eu newid i fodloni angen newydd.
Mae’r panel wedi cynnig cyfle i Breswylwyr wella eu sgiliau trwy weithio gyda Swyddogion ar lefel strategol, gan wneud penderfyniadau pwysig am eiddo. Fel y dywedodd un o’r Preswylwyr sy’n aelod, mae hwn yn “banel sy’n cymryd golwg wrthrychol ar y modd y gall asedau gael eu defnyddio yn y ffordd orau i fod o fudd i’r Gymdeithas a Phreswylwyr y dyfodol!”
Cynhaliwyd ein Cynhadledd Preswylwyr Flynyddol yn Hydref 2013 gan ganolbwyntio ar y newidiadau i fudd-daliadau lles.
Roedd y diwrnod yn cynnwys amrywiaeth o weithdai, cyflwyniadau a stondinau gan asiantaethau allanol gan gynnig gwybodaeth ddiddorol i Breswylwyr. Dywedodd 79% o’r Preswylwyr wrthym eu bod yn awr yn deall mwy am y newidiadau i’r Budd-daliadau Tai a Lles o ganlyniad i ddod i’r gynhadledd. Dywedodd un Preswyliwr bod y cynnwys yn berthnasol iawn, gyda chyflwyniadau da a “llawer o gyngor a thaflenni ar gael a gwybodaeth ble i gael rhagor o help a gwybodaeth”. 5
G
G
C
G
C
6
Mae gan ein Partneriaid Ansawdd, sy’n Breswylwyr sydd wedi cael eu hyfforddi i arolygu gwasanaethau landlord, y rhyddid i ddewis y meysydd y maent yn ymchwilio iddyn nhw, ac archwilio’r ffordd y mae Clwyd Alyn yn gweithio o ddydd i ddydd.
Eleni fe wnaethon nhw gwblhau eu harchwiliad ar ein Gwasanaeth Cynnal a Chadw Tirlun. Fe wnaethon nhw gyfarfod Rheolwyr ac mae’r rhan fwyaf o’u hargymhellion wedi eu derbyn. Un o’r prif argymhellion oedd sefydlu rôl newydd i Breswylwyr, dan yr enw Gwarchodwyr Tirlun. Bydd y Gwarchodwyr yn gweithio mewn partneriaeth â Swyddogion a’r Contractwr Tirlun i fonitro a siapio’r cytundeb Tirlun / Garddio yn yr ardaloedd lle maen nhw’n byw. Fel y dywedodd un o’n gwirfoddolwyr newydd, “rydym oll yn poeni am y lle lle’r ydym yn byw ac mae bod yn Warchodwr Tirlun yn golygu fy mod yn gallu helpu i wella golwg ein cynlluniau, trwy weithio yn glos gyda Clwyd Alyn a’r Contractwr Tirlunio, Ground Control”, gan ychwanegu “gallwn wneud gwahaniaeth os byddwn ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd”. Yr arolwg newydd y mae’r Partneriaid Ansawdd yn gweithio arno ar hyn o bryd yw gwasanaethau i Breswylwyr Hŷn.
Mae ein grŵp ffocws Cynllun Busnes yn sicrhau bod Preswylwyr yn ymwneud â’r penderfyniadau ar wasanaethau yn y dyfodol.
Ar ôl cyflwyniadau gan Swyddogion, roedd y Preswylwyr yn gallu cyfrannu eu syniadau o ran ar beth y dylai Clwyd Alyn ganolbwyntio’r flwyddyn nesaf. Dywedodd Preswyliwr ei fod wedi gweld y cyfarfod “yn un defnyddiol iawn a’r cyflwyniadau yn rhai llawn gwybodaeth. Roedd rhai o’r ystadegau yn peri syndod ond yn eu hanfod roedden nhw’n gwneud y gwaith o osod blaenoriaethau yn llawer haws. Yr hyn a danlinellwyd oedd y dasg anodd sydd gan Clwyd Alyn wrth gynllunio at y dyfodol”.
G
C
G
C
Gweithred
C
Canlyniad
Cyfarfu’r Fforwm Prydleswyr, sy’n cynnwys Prydleswyr, Rhanberchenogion a Swyddogion, yn gyson yn ystod y flwyddyn.
Yn dilyn yr arolwg bodlonrwydd Prydleswyr (STAR) datblygwyd cynllun gweithredu i ymdrin â’r holl bryderon a chodi Bodlonrwydd Preswylwyr. Roedd y pynciau eraill a drafodwyd yn cynnwys y polisi isosod, rhestr gymeradwy o gontractwyr a monitro ôl-ddyledion rhent yn gyson.
Cyfarfu’r Preswylwyr o’r Panel Cyfathrebu yn ddiweddar i adolygu’r polisi Canmoliaeth, Pryderon a Chwynion newydd.
Edrychodd y cyfarfodydd ar arddull a chynnwys taflenni newydd. Fel y nododd un o’r Preswylwyr a ddaeth yno, “mae’n agoriad llygad cael gweld sut mae’r weithdrefn gwynion yn gweithio”. Mae’r gallu i gofnodi bodlonrwydd/anfodlonrwydd am y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu yn parhau yn faes pwysig o gyfraniad Preswylwyr. Mae saith o Breswylwyr wedi cael eu recriwtio i’r panel cwynion bach a byddwn yn medru datblygu eu sgiliau ymchwiliol i sicrhau ein bod yn ymateb i gwynion ffurfiol yn y ffordd gywir.
Gwarchodwyr Tirlun
Fforwm Prydleswyr
Yn ystod 2013-2014 fe wnaethom hefyd drefnu a chefnogi ystod eang o brosiectau a fu’n help i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yng nghymunedau Gogledd Cymru, naill ai trwy:
1. Wella’r amgylchedd lleol 2. A/neu Wella ansawdd bywydau pobl Felly sut wnaeth eich cyfraniad chi at weithgareddau Datblygu Cymunedol yn 2013/14 helpu i wella’r amgylchedd lleol? Trwy: I Breswylwyr gymryd rhan mewn prosiectau amgylcheddol, er enghraifft:
G
C
Yn Garden City, Sir y Fflint, bu gwirfoddolwyr yn gweithio gyda Groundwork Gogledd Cymru i wella gofod gwyrdd cymunedol, gan gynnwys gosod gwelyau wedi eu codi a choed ffrwythau cynhenid. Fel rhan o’r cynllun hwn, bu disgyblion Ysgol Gynradd Sealand yn gweithio gydag arlunydd i greu murlun clai oedd yn cynnwys nodweddion lleol a bywyd gwyllt oedd yn golygu rhywbeth iddyn nhw.
Roedd y Preswylwyr lleol yn gallu datblygu eu sgiliau a’u hyder gan wella’r gymuned i bawb ei mwynhau. Roedd iechyd a lles y rhai a gymerodd ran yn cael ei wella, gan fod y prosiect yn helpu pobl i: gysylltu â’i gilydd, dod yn fwy symudol, rhoi sylw i’w hamgylchedd lleol, dal i ddysgu a rhoi i eraill. Daeth nifer o Breswylwyr lleol at ei gilydd trwy’r sesiynau gweithgareddau ac yn awr mae ganddyn nhw ymdeimlad gwirioneddol o berchenogaeth a balchder am yr ardal tu allan y maen nhw wedi helpu i’w datblygu. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda swyddogion lleol a Phreswylwyr i ganfod lle delfrydol i osod y murlun y mae’r plant lleol wedi bod yn gweithio arno, fe wnaethant fwynhau ei greu yn fawr iawn ac unwaith y bydd wedi ei osod, bydd yn helpu i greu balchder gwirioneddol yn y gymuned hon.
Gwirfoddolwyr Groundwork Gogledd Cymru
G
C
Bu’r Preswylwyr sy’n byw yn Stryd y Tywysog, Y Rhyl yn gweithio mewn partneriaeth â Clwyd Alyn, Heddlu Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru ar brosiect sy’n ceisio gwella eu hardal leol.
Cynhaliwyd cyfarfodydd cymunedol cyson i rannu gwybodaeth am yr hyn yr oedd mwyaf o’i angen. Mae’r gwaith hyd yn hyn wedi cynnwys: gosod teledu cylch cyfyng dros dro; glanhau’r strydoedd; gwella goleuadau; a blychau llythyrau wedi eu hatgyfnerthu yn yr ardal ac mae’r gwaith yn parhau. Mae’r gwaith yn Stryd y Tywysog wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r gymuned hon. Dengys ystadegau Heddlu Gogledd Cymru bod gostyngiad mewn troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn 2013 mewn cymhariaeth â 2011 a 2012. Hefyd mae mwy a mwy o deuluoedd â phlant yn symud i’r stryd.
7
G
C
Aeth Preswylwyr a staff rheng flaen i dair sesiwn ‘Bargen Ynni Orau’ (ariannwyd gan Cyngor ar Bopeth). Cynhaliwyd un sesiwn yng Nghynllun Byw â Chefnogaeth y Dyfodol a dwy yn y Gynhadledd Breswylwyr 2013 a gynhaliwyd yn New Brighton. Bu un o’n Preswylwyr hefyd yn ein helpu i greu DVD yn Ionawr 2014, gyda chefnogaeth CD& P Media, i hyrwyddo’r negeseuon allweddol ar gyfer yr Wythnos Arbed Ynni fawr ac fe wnaethom hefyd gael slot ar yr orsaf radio gymunedol leol, Calon FM (yn Wrecsam) i hyrwyddo’r neges bwysig ar gyfer yr ymgyrch genedlaethol hon.
Roedd presenoldeb da yn yr holl sesiynau Bargen Ynni Orau; oedd yn tanlinellu’r ystod o gefnogaeth sydd ar gael ar hyn o bryd o ran: costau tanwydd, gan gynnwys effeithlonrwydd ynni, grantiau a budd-daliadau a help gyda dyled tanwydd. Dywedodd nifer o’n Preswylwyr wrthym eu bod yn gweld y sesiynau yma yn ddefnyddiol iawn a’u bod “yn debygol o chwilio am well bargen ar eu cyflenwad ynni” a’u bod yn teimlo bod ganddynt “well gwybodaeth am grantiau perthnasol a sut i newid cyflenwr ynni” ar ôl bod yn y sesiynau. Dangosodd canfyddiadau gwerthusiad annibynnol bod 77% o bobl a fu’n bresennol yn ‘bendant neu yn debygol o wneud rhywbeth o ganlyniad i fynd i’r sesiynau’ teimlai 95% o’r gweithwyr cynghori rheng flaen “yn fwy hyderus wrth gynghori cleientiaid ar un neu fwy o bynciau a drafodwyd yn y cyflwyniad”. Bu creu DVD oedd yn hyrwyddo negeseuon allweddol yr Wythnos Arbed Ynni fawr hefyd yn help i rannu cyngor arbed ynni pwysig a gwybodaeth - ac roedd hwn ar gael i unrhyw un o’n Preswylwyr sy’n gallu cael mynediad i’n safle Facebook. Roedd hyrwyddo’r negeseuon allweddol trwy radio cymunedol hefyd yn ein galluogi i danlinellu ble gall Preswylwyr lleol fynd i gael gwybodaeth am inswleiddio, newid cyflenwyr a chael awgrymiadau eraill i arbed ynni.
G Bu’r preswylwyr yn ymwneud â nifer o ymgyrchoedd casglu ysbwriel a glanhau ar draws Gogledd Cymru. Er enghraifft, bu teuluoedd yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd hel sbwriel a/neu ddyddiau sgip yn: Lôn Yr Orsaf, Yr Wyddgrug; Parc Aberkinsey, Ffordd Helygain, Y Fflint a Cae Gruffydd yn Y Rhyl a Rosehill, Wrecsam. Ar gyfer rhai o’r digwyddiadau fe wnaethom ymuno ag archfarchnadoedd lleol (Tesco a Morrisons) i redeg cystadlaethau a dyfarnwyd gwobrau i Breswylwyr a gasglodd fwyaf o ysbwriel o stadau, oedd yn gwneud y gwaith yn hwyliog ac yn rhoi bodlonrwydd.
C
Trwy’r digwyddiadau yma, mae Preswylwyr wedi “teimlo bod ganddyn nhw fwy o ran yn eu cymuned leol” ac yn meddwl bod eu “stadau yn edrych yn well yn dilyn y digwyddiadau”. Er enghraifft, mewn un ymgyrch casglu sbwriel, fe wnaeth pobl ifanc yn Lôn yr Orsaf, Yr Wyddgrug gyda’u rhieni a Chadwch Gymru’n Daclus waith ardderchog a chasglu 7 bag o sbwriel o’u stad, oedd yn gwneud gwahaniaeth gweladwy i’w cymuned.
Preswylwyr Ifanc yn Casglu Sbwriel
Prosiectau Bioamrywiaeth Lleol 8
Gwneud Gwahaniaeth Gyda’n Gilydd G
C
G
C
Cymryd rhan yn Ymgyrch Glirio Gŵyl Wakestock. Fe wnaeth Preswylwyr a swyddogion Clwyd Alyn lenwi tryc ag eitemau yr oedd y rhai fu yn yr ŵyl wedi eu gadael ar ôl (bagiau cysgu, matiau, wellingtons ac ati) a wnaeth atal y pethau hynny rhag mynd i safle tirlenwi.
Gwnaed defnydd da o’r eitemau yma gan iddyn nhw gael eu dosbarthu i 30 o bobl leol sy’n cysgu allan. Dywedodd yr Uwch Swyddog Prosiect yn lloches nos Tŷ Nos bod y rhain “yn eitemau poblogaidd, yn arbennig os bydd y rhai sy’n cysgu allan yn methu cael lle yn y lloches yn ystod y nos”. Teimlai uwch swyddog prosiect arall bod y gweithgaredd wedi “creu gwaith tîm effeithiol i staff a Phreswylwyr” a’i fod yn dangos i’r rhai ifanc a gymerodd ran “bod pobl mewn llawer gwaeth sefyllfa na nhw ac y gall eu gweithredoedd wneud gwahaniaeth gwirioneddol”. Roedd y digwyddiad hefyd wedi annog staff a Phreswylwyr i greu perthynas gyda phobl mewn sefyllfaoedd tebyg iddyn nhw a chadarnhaodd ein Rheolwr Byw â Chefnogaeth bod “y stwff yr ydym wedi ei gael o’r ŵyl wedi bod yn help mawr i amrywiaeth eang o Breswylwyr” ac felly mae’n credu ei fod yn “ddigwyddiad da i gymryd rhan ynddo”.
Cymryd rhan mewn prosiectau bioamrywiaeth lleol. Gwnaed llawer o’r gwaith hwn mewn partneriaeth â Chadwch Gymru’n Daclus a/neu Groundwork. Er enghraifft: • Yn y Fflint, fe wnaeth pobl ifanc gymryd rhan mewn digwyddiad yn nant ‘Tyddyn’ yn haf 2013. Roedd y plant yn codi bywyd gwyllt o’r nant ac yn defnyddio siart i geisio adnabod beth yr oedden nhw wedi ei ganfod a’i roi yn ôl yn y nant. • Yn Nhreuddyn, bu’r Preswylwyr yn creu: byrddau bwyd adar, potiau planhigion a gwestai pryfed o ddeunyddiau naturiol, yn ystod hanner tymor mis Hydref. Fe wnaethon nhw fynd â’r eitemau adref wedyn i helpu i ddenu adar a phryfed i’w gerddi. • Fe wnaeth grŵp o bobl ifanc mewn gwisg ffansi yn y Rhyl gymryd rhan mewn ‘helfa chwilod’ cyn Calan Gaeaf i weld pa bryfed y byddent yn eu hadnabod yn eu hardal leol. • Gwnaeth pobl ifanc o Lôn yr Orsaf yn Yr Wyddgrug fannau bwyta i ieir bach yr haf o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu, ac fe wnaethon nhw fwynhau hyn yn fawr iawn ac a fu’n fodd i ddenu ieir bach yr haf i’w gerddi. Mae hyn yn bwysig gan fod nifer o rywogaethau cynhenid o ieir bach yr haf dan fygythiad neu eisoes wedi diflannu. • Cynhaliodd Groundwork sesiwn yn Llys David Lord yn Wrecsam yn ystod hanner tymor Chwefror 2014 oedd yn dysgu pobl ifanc sut i wneud blychau nythu adar ac offer bwydo adar. • Cymerodd preswylwyr yn Sir y Fflint a Chonwy ran mewn nifer o ddigwyddiadau ‘Penwythnos Gwyllt’; nod yr ymgyrch genedlaethol yma yw cynyddu’r nifer o wenyn ac ieir bach yr haf cynhenid yng Nghymru. Er enghraifft, roedd ein gweithgareddau yn cynnwys gwneud ‘gwestai’ gwenyn a phlannu blodau i ddenu pryfed i beillio a bywiogi eu cymunedau.
Bu’r prosiectau yma yn fodd i wella dealltwriaeth pobl ifanc o natur. Fe wnaeth y Preswylwyr ddweud eu bod wedi mwynhau dysgu am a/neu greu eitemau er budd rhywogaethau cynhenid, (gan gynnwys rhai rhywogaethau sydd mewn perygl) a’u bod wedi cael hwyl yn dod at ei gilydd i ddysgu sgiliau newydd. Dywedodd y Preswylwyr eu bod yn croesawu digwyddiadau sy’n helpu “i gael y plant allan gyda’i gilydd” ac oedd yn cynnig rhywbeth positif i’w wneud yn ystod y gwyliau. Dywedodd rhai o’r athrawon a’r mentoriaid dysgu awyr agored a gefnogodd y plant gyda’r ‘Cynlluniau Penwythnos Gwyllt’ wrthym hefyd: • “Mae hi mor braf gallu dod â’n plant ysgol i helpu i blannu yn y parc. Fe fyddan nhw’n mwynhau dod â’u teuluoedd a’u ffrindiau yma i ddangos eu gwaith” • “Dwi’n hoffi gweld y plant yn cael cyfle i ddysgu mwy am yr awyr agored gan weithio yn eu cymuned a’i helpu” Yn rhai o’r digwyddiadau yma fe wnaeth y Preswylwyr hefyd fwynhau medru mynd ag eitemau yr oedden nhw wedi eu gwneud gartref (bwydwyr adar a blychau nythu) i ddatblygu cynefinoedd bywyd gwyllt newydd yn eu gerddi eu hunain. 9
G
G
Prosiectau Tyfu Cymunedol a Garddio. Mae Preswylwyr lleol yn awr yn gweithio ar y 22 rhandir yn Garden City, Sir y Fflint. Yn ychwanegol: • Sefydlodd Hurst Newton brosiect garddio, ar ôl sicrhau cyllid gan gynllun grant ‘GwirVol’ Wrecsam i: adeiladu gwely wedi ei godi yn y cynllun i dyfu eu llysiau eu hunain; tŷ gwydr i dyfu llysiau salad a sied i gadw offer garddio ynddi. Y Preswylwyr eu hunain wnaeth adeiladu’r sied a’r tŷ gwydr, gyda help y staff. • Yn garedig iawn, datblygodd Airbus welyau wedi eu codi yn Foyer Wrecsam yn hwyr yn 2013 ac mae’r cynllun yn awr yn gobeithio datblygu ‘gardd lysiau i’r farchnad’, a fydd yn golygu bod y Preswylwyr yn tyfu eu llysiau eu hunain. Yr uchelgais yn y tymor hir yw cynhyrchu digon o lysiau fel bod y cynllun yn medru datblygu menter gymdeithasol, lle bydd y Preswylwyr lleol yn gallu prynu llysiau organig yn rhad. • Mae nifer o Grwpiau Preswylwyr a chynlluniau lleol eraill (h.y. Ochr y Bryn yn Helygain, Llys Mornant yn Ffynnongroyw a Chynllun Tai Cysgodol Nant Mawr Court ym Mwcle) hefyd wedi datblygu prosiectau garddio, i fywiogi eu cymunedau.
10
C
Gweithred
C
Canlyniad
Mae mentrau tyfu cymunedol yn gwella iechyd a lles Preswylwyr lleol oherwydd eu bod yn cynnig mynediad at ffynhonnell rad o ffrwythau a llysiau ffres a diet iachach felly; cyfle i dreulio amser yn yr awyr agored yn mwynhau natur; ymdeimlad o fod wedi cyflawni rhywbeth o dyfu eu cynnyrch a chyfle i ddianc rhag pwysedd bywyd modern, a all yn ei dro helpu i leihau straen. Mae’r cyfleoedd newydd i wirfoddolwyr sydd wedi cael eu creu o’r mentrau yma wedi bod o fudd i gymunedau lleol. Datblygodd y Preswylwyr lleol sgiliau newydd, dysgu am faethiad a thyfu eu bwyd eu hunain. Mae garddio gyda’i gilydd yn helpu i gynyddu ysbryd cymunedol ac mae’n ymarfer corff rhagorol. Fe wnaeth Swyddog Datblygu Gwirfoddoli Ieuenctid AVOW gynnig enw Preswylwyr Hurst Newton ar gyfer ‘Gwobr Dinesydd Ifanc’ y Clwb Rotari yn sgil y gwaith gwirfoddol gwych y maen nhw wedi bod yn ei wneud i wella eu cymuned dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda’u cynllun garddio, sy’n llwyddiant anhygoel.
Felly sut wnaeth eich cyfraniad chi at weithgareddau Datblygu Cymunedol yn 2013/14 helpu i wella ansawdd bywydau pobl? G
Trwy weithio gyda Chartrefi Conwy a Chymdeithas Tai Gogledd Cymru ar brosiect ‘Llais Cymunedol Conwy’, mae’r Preswylwyr wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o ddigwyddiadau hwyliog sydd wedi helpu ymgyrch gymunedol i newid a gwella gwasanaethau ar draws Conwy. Er enghraifft, hyd yn hyn, trefnodd Llais Cymunedol Conwy ddigwyddiadau ‘sinema dawel’ i Breswylwyr sy’n byw yng Nghynllun Gofal Ychwanegol Hafan Gwydir. Wedi eu cyflwyno gan TAPE Community Music & Film, mae’r rhain wedi cynnwys Preswylwyr mewn oed yn gwylio ffilmiau du a gwyn o’r 1920au, gyda chyfeiliant gan organydd byw, yn cymdeithasu dros de a chacennau ac yna yn cymryd rhan mewn ymgynghoriadau perthnasol, a hefyd yn recordio eu hatgofion am yr 1940au. Llwyddiant arall i Llais Cymunedol Conwy yw sefydlu fforwm sydd o fudd i Breswylwyr sy’n byw yn ein cynllun tai cysgodol yn Pentre Mawr.
C
Mae’r ymateb i’r digwyddiadau sinema dawel wedi bod yn wych. Rhoddodd y sesiynau gyfle i Breswylwyr hel atgofion, gwneud ffrindiau newydd a chyfarfod rhai hen ffrindiau o’r gymuned ehangach (gan y gwahoddwyd Preswylwyr lleol eraill i fod yn bresennol). Dywedodd Rheolwr Gofal Ychwanegol Hafan Gwydir bod y digwyddiadau wedi helpu i “chwalu rhwystrau fel ein bod yn cymysgu’n well â’r gymuned leol”. Hefyd mae Fforwm Preswylwyr Pentre Mawr wedi galluogi i Breswylwyr drafod nifer o bynciau dros de prynhawn ac fe ddywedodd y warden bod y Preswylwyr yn edrych ymlaen at y cyfarfodydd “gan eu bod yn gwybod eu bod yn cael gwrandawiad”. Mae hyn yn bwysig gan mai un o nodau allweddol Llais Cymunedol Conwy yw i bobl leol ddod yn fwy hyderus a chymryd mwy o ran wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu dyfodol. Bu gweithwyr datblygu Llais Cymunedol yn gweithio ar y pynciau a godwyd gan y Preswylwyr mewn digwyddiadau, gan siarad â darparwyr gwasanaeth lleol ac yna rhoi’r wybodaeth berthnasol yn ôl i’r Preswylwyr. Mae’r llwyddiannau yn cynnwys sefydlu lleoliad Cymorth Clywed ‘galw heibio’ yn Abergele ac anfonwyd gwybodaeth i Breswylwyr Pentre Mawr ar sut i wneud cais am gardiau toiled arbennig os bydd arnyn nhw eu hangen.
Sinema Dawel, Hafan Gwydir
11
G
G
12
Trwy helpu pobl i ddiogelu eu hunain rhag dod yn ddioddefwyr troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dyfodol. Er enghraifft: • Yng Ngaerwen, Ynys Môn, fe gymerodd y Preswylwyr ran mewn ‘parti cyn Calan Gaeaf’ a daeth teuluoedd at ei gilydd i ddysgu sut i gerfio pwmpenni. Tra’r oedd y plant yn cael eu rhyfeddu gan ddewin (Swyddog Hyfforddi SG Clwyd Alyn ei hun) a chymryd rhan mewn gwaith crefft hwyliog a chystadlaethau lliwio, roedd gan eu rhieni’r cyfle i fwynhau pampro, diolch i’r Sure Group, a defnodd beintio ewinedd calan gaeaf iddyn nhw. • Bu Preswylwyr Ffordd Helygain yn gweithio gyda Clwyd Alyn, Heddlu Gogledd Cymru a’n contractwyr (Sure Group, ICI Paints Akzonobel a Simmons) i drefnu parti Calan Gaeaf yn y Lleng Brydeinig, Y Fflint. Ar gyfer plant iau yr oedd y parti yma ac roedd grant o £200 gan Dîm Lleihau Llosgiadau’r Heddlu yn gymorth mawr i’w gynnal. • Yn ystod hanner tymor Chwefror 2014 fe wnaethom drefnu, mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Heddlu Gogledd Cymru, barti i rai ‘dan 12 oed’ oedd yn cael ei hyrwyddo gan Breswylwyr Garden City. Roedd y digwyddiad hwn yn cynnwys disgo, peintio wynebau a chystadleuaeth gwisg ffansi i’r plant. Roedd Wardeiniaid ardal a Swyddogion Cymorth yr Heddlu lleol hefyd yn bresennol i rannu cyngor atal troseddau gyda rhieni ac i drafod unrhyw bryderon allai fod ganddynt.
Parti Cyn Calan Gaeaf y Preswylwyr
C
Gweithred
C
Canlyniad
Fe wnaeth dau o’r digwyddiadau ar y chwith helpu i gadw plant ifanc yn ddiogel ar nosweithiau Calan Gaeaf a Thân Gwyllt gan eu bod yn ddewisiadau diogel yn hytrach na mynd allan i godi ofn ar bobl ac yn ffordd wych i deuluoedd ddod at ei gilydd i gael hwyl a dysgu. Roedd y Preswylwyr hefyd yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddod at ei gilydd gyda’r cymdogion fel y dywedodd un preswyliwr “roedd yn dda iawn i’n cymuned”. Dosbarthwyd taflenni ar y noson i godi ymwybyddiaeth am y Diwygiadau Lles presennol a sut y gall pobl ‘Gadw’n Ddiogel ar Noson Tân Gwyllt’. Pan ofynnwyd sut y gallem fod wedi gwella digwyddiad Calan Gaeaf Fflint, dywedodd un o’r preswylwyr, “Ni fyddech wedi gallu gwella dim arno roedd wedi ei drefnu’n dda ac roedd y plant wedi mwynhau”. Dywedodd un o’r preswylwyr a ddaeth i ddigwyddiad Gaerwen ei fod yn meddwl ei fod yn “berffaith”. Roedd y parti ‘dan 12 oed’ yn Garden City yn ystod Chwefror 2014 yn boblogaidd hefyd gyda phlant lleol yn cael rhywbeth hwyliog yn ystod y gwyliau a dwyn Preswylwyr lleol at ei gilydd. Gan fod Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu lleol a Wardeiniaid Ardal yn y digwyddiad, roeddent yn help i godi ymwybyddiaeth am y camau y gall Preswylwyr eu cymryd eu hunain, i leihau’r tebygolrwydd y byddant yn dioddef troseddau yn y dyfodol a hefyd pa gefnogaeth berthnasol sydd ar gael ar draws y Sir. Roedd yr adborth am y digwyddiad hwn yn gadarnhaol iawn gan fod y Preswylwyr yn dweud bod y digwyddiad wedi eu helpu i deimlo ‘yn fwy o ran o’u cymunedau lleol’. Ysgrifennodd un Preswyliwr atom ar ôl y digwyddiad i ddweud “fe wnaethom ni i gyd fwynhau’r noson ac roeddem yn meddwl ei fod yn wych. Diolch am noson dda iawn...ac rydym yn edrych ymlaen at fwy o ddigwyddiadau’r un fath...roedd pawb wrth ei fodd ac fe fyddem yn barod iawn i dalu, yn arbennig os yw’n golygu y bydd digwyddiadau eraill i’r plant. Os gallaf fod o unrhyw help yn y dyfodol yna peidiwch ag oedi cyn rhoi gwybod i mi”.
Gwneud Gwahaniaeth Gyda’n Gilydd
G
Trwy helpu i leihau ofn Preswylwyr hŷn o droseddau a chodi ymwybyddiaeth o ba wasanaethau y gall gwasanaethau argyfwng eu cynnig i Breswylwyr lleol. Er enghraifft: • Bu Grwpiau Preswylwyr Pentre Mawr a Llys Erw yn helpu i drefnu ‘Dyddiau Diogelwch Cymunedol’ yn eu cynlluniau. Roedd y digwyddiadau yma yn cynnwys cymysgedd o adloniant hwyliog, er enghraifft, trefnodd Preswylwyr Llys Erw farbeciw cymunedol a thwrnament boules i bob oed a threfnodd Pentre Mawr barti dan do a gwahodd ysgol gerllaw yno. • Trefnodd Grŵp Preswylwyr Rosehill, Wrecsam ‘Ddiwrnod Gwasanaethau Argyfwng’ hwyliog i’w cymuned yn ystod Haf 2013. Roedd hwn yn cynnwys Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, injan dân a chynrychiolwyr o’r RNLI a ddaeth yno i drafod gyda Phreswylwyr lleol, yn ogystal â digwyddiad glanhau cymunedol a gweithgareddau hwyliog i wobrwyo plant am eu holl waith caled.
C
• Bu’r Dyddiau Diogelwch Cymunedol yn ein cynlluniau tai cysgodol yn fodd i godi ymwybyddiaeth am ba gamau y gall Preswylwyr eu cymryd i amddiffyn eu hunain rhag dioddef troseddau yn y dyfodol. Yn wir, trwy’r digwyddiadau yma sy’n rhannu cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol am atal troseddau, roedd y Preswylwyr yn eu gweld yn eu grymuso a bu’n help i leihau ofn rhai Preswylwyr hŷn o droseddau. Yn wir dywedodd llawer o’r Preswylwyr eu bod yn gweld y wybodaeth a roddwyd am Ddiogelwch Cartref a Diogelwch Tân yn “ddefnyddiol iawn”. • Canmolodd Swyddog Tai Rosehill y “Diwrnod Argyfyngau (yn Wrecsam) am ... ddwyn y stad at ei gilydd...gan weld y grwpiau oedran gwahanol yn cymysgu â’i gilydd ac yn chwalu rhwystrau sydd wedi bod yn amlwg yn y gorffennol. Canlyniad defnyddiol arall oedd agwedd addysgol yr hyn yr oedd pob gwasanaeth yn ei gynnig, yn benodol y gwasanaeth badau achub, gan y bydd...nifer o’r bobl ifanc yn mynd i lan y môr ar sawl achlysur felly mae diogelwch y môr yn gallu achub bywydau”. Ystyrid hefyd bod siarad hefo plant lleol am ‘ddiogelwch tân a pheidio â chamddefnyddio 999’ o fudd mawr, gan fod hyn yn “gwneud i blant feddwl am y materion yma a all achub bywydau ac fe wnaed hynny mewn lleoliad cyfarwydd â hwyliog”.
Prosiect Darllen mewn Parau Rhwng y Cenedlaethau
13
G
G
C
G
14
Gweithred
C
Canlyniad
Trwy ddwyn y gwahanol genedlaethau at ei gilydd. Er enghraifft: • Mae Preswylwyr Pentre Mawr wedi parhau i weithio gydag Ysgol Emrys Ap Iwan ar ‘Brosiect Darllen Mewn Parau Rhwng y Cenedlaethau’ sydd wedi bod o fudd i Breswylwyr hŷn a disgyblion Cyfnod Allweddol 3. Mae’r prosiect (trwy ddefnyddio Kindles) wedi rhoi cyfle i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau darllen, gan y bydd Preswylwyr hŷn yn barod i wrando ar ddisgyblion yn darllen, gan roi cyfle delfrydol i blant ymarfer darllen mewn awyrgylch gefnogol. • Cymerodd Preswylwyr Isallt a Pentre Mawr ran mewn cwrs chwe wythnos rhwng y cenedlaethau ‘Coginio a Bwyta’ yn ystod diwedd 2013.
Mae’r prosiectau uchod wedi helpu i bontio’r bwlch rhwng cenedlaethau a chyflawni canlyniadau pwysig eraill. Er enghraifft: • Fe wnaeth y Prosiect Darllen Mewn Parau helpu Preswylwyr lleol i ddod yn fwy ymwybodol o dechnoleg newydd wrth wella sgiliau darllen y disgyblion ac fe luniwyd cyfeillgarwch gwerthfawr rhwng y gwahanol genedlaethau. Bu’r adborth gan bawb a gymerodd ran yn rhagorol a rhoddwyd y prosiect hwn ar y rhestr fer am Wobr Tai Cymru 2013! Dywedodd athro o Ysgol Emrys Ap Iawn “mae hi wedi bod mor braf gweld y ddwy genhedlaeth yn darllen ac yn siarad hefo’i gilydd...yn gyffredinol mae’r prosiect hwn wedi gwella sgiliau darllen, cyfathrebu a thechnoleg a datblygu cyfeillgarwch braf iawn rhwng y disgyblion a’r Preswylwyr ... fe fu’n bleser cymryd rhan”. Ychwanegodd warden Pentre Mawr “mae’r cyfeillgarwch sydd wedi blodeuo rhwng y cenedlaethau yn drawiadol ... roedd un breswylwraig wrth ei bod pan ddywedodd disgybl wrthi ei fod yn mwynhau darllen iddi, ychydig iawn o gyswllt oedd y Breswylwraig wedi ei gael â’r oedran hwn gan nad oedd ganddi blant ei hun ... rwyf yn teimlo ei fod (y prosiect) wedi gwneud gwahaniaeth i’r ddau oedran, nid yn unig wrth dderbyn technoleg newydd ond wrth bontio’r bwlch rhwng cenedlaethau, gan ddangos nad oes unrhyw wahaniaeth pan fydd rhywun yn canfod cariad at ddarllen (ac yn cysylltu trwyddo)”. • Roedd yr adborth o’r cwrs Coginio a Bwyta a gynhaliwyd yn Isallt hefyd yr un mor galonogol. Fel yr esboniodd gweithiwr prosiect, “mae un o’n Preswylwyr eisoes wedi dod yn ffrindiau ag un o’r Preswylwyr o Pentre Mawr. Mae hi mor braf ei bod yn bosibl cau’r bwlch rhwng cenedlaethau fel hyn, a phawb yn mwynhau cwmni ei gilydd ... roedd yr ymateb gan bawb a gymerodd ran yn gadarnhaol iawn”. Dywedodd warden Pentre Mawr wrthym fod y Preswylwyr “...wedi mwynhau eu hunain yn fawr ac maen nhw’n methu aros tan ddydd Llun nesaf i gael mynd eto. Roedd y Preswylwyr eraill i gyd yn genfigennus pan gawson nhw wybod y cwbl oedden nhw wedi ei ddysgu... yn arbennig mwynhau’r pryd a chwmni’r bobl ifanc yn yr hostel... Roedd un preswyliwr yn gallu trafod ei phroblemau diet gyda’r tiwtor ac fe lwyddodd i roi llawer iawn o help iddi. Roedd hi’n wirioneddol braf eu gweld mor hapus a brwdfrydig” felly yn gyffredinol roedd hwn yn brosiect a roddodd fwynhad mawr gyda llawer o ganlyniadau pwysig yn datblygu sgiliau, llunio cyfeillgarwch ar draws y cenedlaethau a dysgu sut i wella diet, ar gyllideb dynn.
Preswylwyr Hafan Gwydir yn cymryd rhan yng Ngŵyl Gwanwyn 2013. Nod yr ŵyl flynyddol, genedlaethol hon yw dathlu creadigrwydd ac mae’n cynnig cyfle i bobl hŷn gymryd rhan yn y Celfyddydau. Ym Mai 2013 fe wnaethom sicrhau grant gan Gwanwyn a wnaeth dalu i arlunydd lleol ddod i gynllun Gofal Ychwanegol Hafan Gwydir a chyflwyno gweithdai celf i Breswylwyr am rai dyddiau.
C
Fe wnaeth y gweithdai yma wella iechyd a lles y bobl hŷn trwy gael cyfrannu mwy at y Celfyddydau, dysgu a chymdeithasu.
Gwneud Gwahaniaeth Gyda’n Gilydd
G
Gwella cynhwysedd digidol mewn cymunedau lle’r ydym yn gweithredu trwy ddatblygu sgiliau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu. Er enghraifft: • Cyrsiau anffurfiol, dwy ran i ddechreuwyr a drefnwyd gan Gynghorau Gwirfoddol a ‘Cymunedau 2.0’ i Breswylwyr ar draws Gogledd Cymru. Anfonwyd manylion am gyrsiau lleol i breswylwyr oedd wedi mynegi diddordeb (wrth Clwyd Alyn) mewn datblygu eu sgiliau cyfrifiadurol gan y staff fel eu bod wedyn yn gallu defnyddio’r cyrsiau petaent am wneud hynny. • Yn garedig iawn fe wnaeth ‘Eco Systems’ roi nifer o liniaduron a chyfrifiaduron i rai o’n cynlluniau fel bod Preswylwyr yn medru parhau i ddatblygu eu sgiliau TGC. • Gwnaeth Cymdeithas Tenantiaid Oldford, Y Trallwng, gyda chefnogaeth Swyddogion Tai lleol, gais llwyddiannus am arian o gynllun ‘Arian i Bawb’ y Loteri; fe wnaeth hynny eu galluogi i brynu cyfrifiaduron i’w cymuned a rhedeg cyrsiau hyfforddi wedi eu teilwrio er budd y Preswylwyr lleol.
Gŵyl y Gwanwyn 2013
C
• Mae rhai Preswylwyr a fuodd mewn cyrsiau Cyfrifiadurol i Ddechreuwyr wedi rhoi gwybod am y gwahaniaeth y mae’r cyrsiau yma wedi ei wneud iddyn nhw yn bersonol. Er enghraifft, esboniodd un o Breswylwyr Wrecsam “Ar ôl derbyn gwybodaeth trwy’r post... Rwyf wedi bod ar gwrs Cyfrifiadurol i Ddechreuwyr a dwi’n teimlo ei fod wedi bod yn fuddiol iawn a’i fod yn cael ei ddysgu’n dda iawn”. • Mae gan rai o’n cynlluniau liniaduron a/neu gyfrifiaduron yn awr yn yr ardaloedd cymunedol, diolch i haelioni ‘Eco Systems’. Mae hyn wedi galluogi i Breswylwyr yn awr: chwilio am swyddi a llety symud ymlaen ac ymgeisio amdanyn nhw, gwneud hawliadau budd-daliadau arlein, diweddaru eu CV, parhau i gael hyfforddiant cyfrifiadurol (i’w paratoi ar gyfer swyddi), defnyddio safleoedd arbed arian (fel MoneySupermarket. com) i sicrhau eu bod yn cael y ‘fargen orau’ a chadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd a’u ffrindiau sy’n helpu i atal bod yn ynysig ac unig. • Esboniodd Uwch Swyddog Tai Oldford bod gan y prosiect cynnwys digidol nifer o fanteision, “galluogi Preswylwyr i gael mynediad at dechnoleg ddigidol gyfoes mewn amgylchedd dysgu ddiogel a chyfforddus, gan roi cyfle i Breswylwyr gael gwybodaeth sylfaenol am sgiliau cyfrifiadur a dealltwriaeth ehangach o dechnoleg ddigidol”. Mae’n rhagweld hefyd y bydd “yr hyn a ddysgwyd o’r profiad o gymorth mewn gwaith yn ogystal â pharatoi Preswylwyr am Gredyd Cynhwysol, y bydd yn rhaid ei hawlio ar-lein. Bydd gan bobl ifanc o’r gymuned fynediad at y rhyngrwyd i wneud eu gwaith ysgol fel ymchwil ar gyfer prosiectau a gwaith cartref”.
15
G
G
C
16
Trwy drefnu digwyddiadau sy’n dwyn cymdogion at ei gilydd mewn gweithgareddau hwyliog: Er enghraifft: • Digwyddiad ‘Cyfarfod eich Cymdogion’ a gynhaliwyd yn Llys Alarch, Y Fflint yn ystod haf 2013. Roedd hyn yn cynnwys gweld y Preswylwyr yn cyfarfod yng ngerddi’r cynllun i gael bwyd a diodydd. Trafodwyd eu hanghenion presennol fel y gallai swyddogion a’u grŵp preswylwyr lleol weithio ar y rhain. Roedd y digwyddiad hwn yn llwyddiant mawr gyda thua hanner yr holl Breswylwyr yn y cynllun yn bresennol • Mae ardaloedd eraill hefyd wedi trefnu digwyddiadau hwyliog i’w cymunedau lleol. Er enghraifft, ym Medi 2013 trefnwyd ‘diwrnod o hwyl’ yn y Trallwng, oedd yn cynnwys edrych ar ba sgiliau oedd gan breswylwyr Stad Oldford, annog Preswylwyr i gyfrannu at eu Cymdeithas Preswylwyr leol a helpu pobl i gymdeithasu yn eu cymuned eu hunain. • Yn Rhagfyr 2013, ymunodd Preswylwyr Hafan Glyd, Shotton â Phreswylwyr cynllun Gofal Ychwanegol Llys Eleanor am ddigwyddiad creu ‘Torchau Nadolig’, gyda chefnogaeth Cadwch Gymru’n Daclus yn ogystal â swyddogion Clwyd Alyn.
Mae digwyddiadau cymunedol hwyliog wedi helpu i ddwyn pobl at ei gilydd a gwella cysylltiadau yn y gymuned. Dywedodd Preswylwyr Llys Alarch bod eu digwyddiad ‘Cyfarfod y Cymdogion’ wedi bod yn ddefnyddiol iawn, gan fod pobl wedi cael hwyl a dod i adnabod eu cymdogion yn well. Yn dilyn y digwyddiad, fe wnaeth y grŵp Preswylwyr sicrhau grant i brynu BBQ, meinciau i’r ardd a sied, fel bod y Preswylwyr yn awr yn gallu trefnu eu digwyddiadau cymunedol eu hunain yn y dyfodol a dod at ei gilydd yn amlach. Fe wnaeth diwrnod hwyl Oldford hefyd gyflawni ei nodau, dod “â phobl at ei gilydd o’r gymuned leol a chael mwynhad”.
G
Gweithred
C
Canlyniad
Gweithio gyda busnesau lleol: Er enghraifft, mae MoneySupermarket.com wedi cefnogi rhai mentrau gwerth chweil yn ystod 2013-14 sydd wedi bod o fudd i’r Preswylwyr lleol, gan gynnwys: • Cynllun ‘Brenhines y Siopau’ ym Mai 2013 pan oedd pump o’r staff wedi cael £20 yr un i brynu eitemau o ‘restr o ddymuniadau’, yr oedd defnyddwyr Tŷ Nos wedi ei llunio. • Cefnogi ein digwyddiad ResFest blynyddol trwy roi £500 i ni i’w roi tuag at wobrau raffl ar gyfer y bobl ifanc a ddaeth i’r diwrnod.
Gwneud Gwahaniaeth Gyda’n Gilydd
C
Fe wnaeth y ddau gynllun wahaniaeth gwirioneddol i ansawdd bywyd Preswylwyr. Fe wnaeth staff yn Nhŷ Nos ddweud bod yr her Brenhines y Siopau wedi bod yn ddefnyddiol iawn i’r rhai sy’n cysgu allan yn lleol. Dywedodd yr Uwch Weithiwr Prosiect “diolch anferth i chi ... gan y bydd yr eitemau yn mynd ymhell iawn i helpu’r Preswylwyr am fisoedd lawer”. Fe wnaeth staff MoneySupermarket.com hefyd ddweud eu bod wedi mwynhau’r her, felly rydym yn cynnal ymgyrch debyg eto yn 2014. Roedd ResFest flynyddol Clwyd Alyn yr un mor llwyddiannus ag arfer yn 2013 pan wnaeth pobl ifanc o’n Prosiectau Byw â Chefnogaeth ddod at ei gilydd i ddysgu am wahaniaethu, trwy gymryd rhan mewn gweithdai addysgol. Cawsant y cyfle i gymdeithasu gyda phobl o Brosiectau Byw â Chefnogaeth eraill, i ddangos eu sgiliau a’u llwyddiannau trwy berfformio a/neu helpu ar y diwrnod ac wrth gwrs, cael hwyl.
Yn olaf, diolch anferth gennym ni i CHI, y Preswylwyr. Rydym yn ymwybodol mai dim ond gyda chefnogaeth a chymorth ein Preswylwyr, staff Grŵp Pennaf, partneriaid allanol a chyllid grant y mae llawer o’r digwyddiadau a gweithgareddau yn bosibl. Fydden ni ddim yn medru gwneud gwahaniaeth heb y Preswylwyr ac edrychwn ymlaen at gael parhau i weithio gyda chi yn 2014-15!
Brenhines y Siopau
17
Perfformiad / Performance Mae’r cyfrifoldeb am reoli Grŵp Tai Pennaf yn y pen draw yn aros gyda’r Byrddau Rheoli perthnasol, sy’n cynnwys Aelodau a etholir yn flynyddol. Mae gan Aelodau’r Byrddau gyfoeth o sgiliau a phrofiad a enillwyd dros nifer o flynyddoedd, ac maent yn cynnig eu gwasanaethau a’u harbenigedd i Grŵp Tai Pennaf ar sail hollol wirfoddol.
96
83
71
39
Teulu Family
Tenantiaeth Cyngor Council Tenancy
Gwely a Brecwast Bed & Breakfast
Ffeithiau a Ffigurau / Facts & Figures ÃÃ Yn ystod 2013/14, gosodwyd 478 o gartrefi Anghenion Cyffredinol a Cysgodol During 2013/14, 478 General Needs and Sheltered homes were let ÃÃ Yr amser a gymerwyd ar gyfartaledd i ail-osod tai gwag oedd 4.06 wythnos Average time taken to re-let vacant properties was 4.06 weeks ÃÃ Eiddo Gwag: mae cyfanswm yr incwm rhenti a gollwyd yn cyfateb i 1.75% o gyfanswm y rhenti y gellid eu casglu Voids: total rent income lost equated to 1.75% of total rent collectable
Atgyweiriadau Repairs: Argyfwng / Emergency Brys / Urgent Heb frys / Non-urgent
Cwblhawyd o Fewn: Completed Within: 1.11 diwrnod / 1.11 days 4.8 diwrnod / 4.8 days 20.97 diwrnod / 20.97 days
Mae Clwyd Alyn a Tŷ Glas yn Gymdeithasau elusennol Ddiwydiannol a Darbodus Clwyd Alyn and Tŷ Glas are charitable Industrial and Provident Societies
ÃÃ Y r amser a gymerwyd ar gyfartaledd i osod tai newydd a drosglwyddwyd i’w rheoli oedd 0.00 wythnos neu ar ddiwrnod eu trosglwyddo gan Datblygu Average time taken to let new properties handed over into management was 0.00 weeks or on day of handover from Development ÃÃ Gwariant cyfartalog ar Gynnal a Chadw yr uned £1,374 Average Maintenance expenditure per unit £1,374 ÃÃ Gwariodd y Gymdeithas £616.82 yr uned ar gyfartaledd ar Reolaeth Tai Average Housing Management expenditure per unit £616.82 ÃÃ Cost atgyweiriadau o ddydd-i-ddydd ar gyfartaledd £189.38 Average cost of day-to-day repairs £189.38 Nod Cyflawni: Target Completion: 1 diwrnod / 1 day 5 diwrnod / 5 days 28 diwrnod / 28 days
Cymdeithasau Tai Eraill
121
£72.24 Fflat 1 gwely/2 berson 1 bed/2 person flat
Clwyd Alyn Clwyd Alyn
£74.18 Fflat 2 wely/3 person 2 bed/3 person flat
Tenantiaeth Preifat Private Tenancy
£75.24
Daliadaeth Blaenorol Previous Tenure
Tŷ 1 gwely/2 berson 1 bed/2 person house
32 Cytundebau Rheoli Management Agreements
£77.95
39 Y Farchnad Agored Open Market
Tŷ 2 wely/3 person 2 bed/3 person house
63 DIYHO DIYHO
£85.97
80 Cynllun Daliadaeth ar gyfer Pobl Hŷn Leasehold Scheme for the Elderly
Tŷ 3 gwely/4 person 3 bed/4 person house
99 DIYSO DIYSO
£89.46
127 Cymorth Prynu Home Buy
Tŷ 3 gwely/5 person 3 bed/5 person house
249 Gofal Ychwanegol Extra Care
£108.71
397 Rhan Berchnogaeth Shared Ownership
Tŷ 4 gwely 4 bed house
718
Rhenti Wythnosol ar Gyfartaledd Average Weekly Rents
Tai a Gofal Care & Support
Anghenion Cyffredinol (yn cynnwys Tai Cysgodol) General Needs (including Sheltered Housing)
3,708
Unedau o Stoc Units of Housing Stock
Ultimate responsibility for the management of the Pennaf Housing Group and its members rests with the respective Boards of Management, which are made up of Members elected annually. Members of the Boards have a wealth of skills and experience gained over many years, and offer their services and expertise to the Pennaf Housing Group on an entirely voluntary basis.
Cyclical
Cylchaidd
4 Symud Ymlaen Move-on
Planned
14 Eraill Other
St Asaph Office Registered Office for Pennaf, Clwyd Alyn, Tŷ Glas, Offa, Tir Tai, PenAlyn and PenElwy 72 Ffordd William Morgan St Asaph Business Park St Asaph Denbighshire LL17 0JD
£499,723.72
01978 714180
01745 538300
Swyddfa Llanelwy Swyddfa Gofrestredig ar gyfer Pennaf, Clwyd Alyn, Tŷ Glas, Offa, Tir Tai, PenAlyn a PenElwy 72 Ffordd William Morgan Parc Busnes Llanelwy Llanelwy Sir Ddinbych LL17 0JD
£2,441,814.69
Wedi ei gynllunio
75 Trosglwyddo/Cyfnewid Transfers/Exchanges
Day-to-day
68 Cyd-gyfnewid Mutual Exchange
O ddydd-i-ddydd
113 Rhestr Aros Waiting List
1 Llety Caeth Tied Accommodation
£3,399,523
205
5
Gwariant ar Gynnal a Chadw Maintenance Spending
Enwebiadau gan Gynghorau Council Nominations
7
Cyd-gyfnewid Mutual Exchange
28 Hosteli Hostels
Perchennog Preswyl Owner Occupier
28
39 Bed & Breakfast
Tarddiad Ymgeiswyr Source of Applicants
Cymdeithasau Tai Eraill Other Housing Associations
orol
Gofal a Thrwsio Wrecsam Ystad Ddiwydiannol Rhosddu Rhosddu Wrecsam LL11 4YL
Wrexham Care & Repair Rhosddu Industrial Estate Rhosddu Wrexham LL11 4YL
www.pennaf.co.uk
Hoffwch ni/Like us: facebook.com/PennafHGroup
Dilynwch ni/Follow us: @PennafHGroup