Adroddiad Gweithgareddau Blynyddol 2015-16

Page 1

Agor Drysau – Gwella Bywydau

Grymuso… Cefnogi… Datblygu…

Adroddiad Gweithgareddau Blynyddol 2015-16

Pennaf Annual Activities Report 2016 wel to print.indd 1

07/07/2016 16:47


Grŵp Tai Pennaf Datblygu … Cefnogi … Grymuso … Gyda hanes trawiadol dros y 37 mlynedd diwethaf, pan wnaeth Cymdeithas Tai Clwyd Alyn gaffael ei eiddo cyntaf ym Mhen Gorllewinol y Rhyl, mae strwythur Grŵp Tai Pennaf fel mae’n sefyll heddiw wedi cael ei gynllunio i alluogi’r sefydliad i fod yn fwy ymatebol i anghenion y cymunedau y mae’n gweithredu ynddynt, cynyddu atebolrwydd lleol, hwyluso darparu ystod ehangach o wasanaethau o safon uchel i gwsmeriaid, gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o’r adnoddau sydd ar gael a rhoi preswylwyr yn ganolog i’n gweithgareddau. Mae Grŵp Tai Pennaf yn gweithredu ar draws ardal saith awdurdod lleol ac ar 31 Mawrth 2016 roedd ganddo stoc tai o 5,669 uned dan ei reolaeth, ac eithrio Cymorth Prynu a Pherchenogaeth Cartref DIY (DIYHO). Gyda Pennaf Cyf fel rhiant gwmni, mae saith endid y Grŵp - Pennaf, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, Cymdeithas Tai Tŷ Glas, Offa, Tir Tai, PenAlyn a PenElwy - yn cynnig gwasanaethau sy’n cydfynd â’i gilydd ac yn manteisio ar gael cefnogaeth ei gilydd, ac ar yr un pryd yn cadw eu hunaniaeth a’u rôl unigryw eu hunain.

Darlunnir y berthynas gref sy’n bodoli rhwng y gwahanol endidau yn y Grŵp yng Nghynllun Busnes y Grŵp, sy’n dangos ymrwymiad y sefydliad i barhau i:

Prif Ddiben y Grŵp yw Agor Drysau - Gwella Bywydau, y mae’n ei gyflawni trwy gyfres o ‘Flaenoriaethau’ busnes sy’n cael eu gyrru gan ganlyniadau i’r gymuned. Mae’r rhain wedi eu dosbarthu dan ddwy ‘Thema’ allweddol:

 Buddsoddi yn natblygiad cynlluniau Mentrau

 Ddarparu rhaglen ddatblygu Grant Tai Cymdeithasol a heb Grant Tai Cymdeithasol weithredol, gan gynnwys defnyddio Tŷ Glas am y tro cyntaf i ddatblygu yn ei ffordd ei hun gan ddefnyddio model ariannu flaengar

 Datblygu gweithgareddau cymunedol yn weithredol a chryfhau cyfraniad preswylwyr at siapio gwasanaethau Cymdeithasol, yn ogystal â chyfleoedd Cynhwysedd Digidol.

 Ymateb i bwysau o ran effaith diwygio’r wladwriaeth les ar denantiaid a phreswylwyr

 Rydym yn darparu tai a gwasanaethau y mae ar bobl eu heisiau ac y maent yn fodlon arnynt, sy’n canolbwyntio yn bennaf ar breswylwyr a’r gymuned ehangach.

Yr allwedd i gefnogi cyflawni’r uchod i gyd yw gweithredu’r strategaethau craidd, a pharhau i wella perfformiad busnes a’i effeithlonrwydd.

 Rydym yn hyfyw yn ariannol ac yn cael ein rheoli yn effeithiol, sy’n ymwneud â’r isadeiledd mewnol, ynghyd â pheirianweithiau i reoli a chefnogi’r Grŵp. Yn sail i holl waith y Grŵp mae ei Egwyddorion Craidd, sy’n ymrwymo Staff ac Aelodau’r Bwrdd i gyflawni eu dyletswyddau mewn fframwaith o werthoedd gwaelodol. Mae’r rhain yn cael eu crynhoi dan yr acronym “I CARE” yn Saesneg:

 UNPLYGRWYDD gonestrwydd ac ymddiriedaeth ym mhopeth a wnawn

   

GOFAL edrych ar eich ôl eich hun, eraill a chymunedau ATEBOL cymryd cyfrifoldeb am ein gweithredoedd PARCH parchu eich hun ac eraill CYDRADDOLDEB derbyn gwahaniaethau a thrin pawb yn deg

2 Pennaf Annual Activities Report 2016 wel to print.indd 2

07/07/2016 16:47


Neges o’r Gadair Bu 2015-16 yn flwyddyn arall eithriadol o brysur a llwyddiannus i Grŵp Tai Pennaf, diolch i waith caled ac ymroddiad Aelodau’r Bwrdd a’r Staff, ynghyd â chefnogaeth barhaus y nifer o grwpiau rhanddeiliaid. Mae cael mynediad at gartrefi addas a’r gwasanaethau cefnogi cysylltiedig yn ofynion sylfaenol ar gyfer datblygu a chynnal cymunedau lleol sy’n ffynnu, ac mae thema Adroddiad Gweithgareddau Eleni - Datblygu ... Cefnogi... Grymuso - yn crynhoi nodau sylfaenol gwaith y Grŵp wrth gyflawni gwasanaethau allweddol i helpu i greu dyfodol mwy cynaliadwy i’r rhai sy’n troi atom ni am help. Hwn oedd fy nhymor cyntaf yn swydd Cadeirydd Pennaf, ar ôl i mi gymryd yr awenau gan fy rhagflaenydd Mike Hornsby fis Gorffennaf diwethaf. Ar ran Byrddau’r Grŵp hoffwn gofnodi fy niolch i Mike am ei ymrwymiad, ei gefnogaeth a’i gyfraniad yn ystod ei gyfnod yn ei swydd. Hoffwn hefyd groesawu Owen Watkins, Dr Ian Gardner, Lisa Lovegrove, Aaron Osborne-Taylor a Ruth Collinge, sydd i gyd wedi ymuno â Byrddau’r Grŵp yn ddiweddar, gan ddwyn cyfoeth o sgiliau a phrofiad hefo nhw ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau. Er gwaethaf yr amser heriol y mae pawb yn ei wynebu yn y sector, rwyf yn falch o gofnodi bod Pennaf yn parhau i arwain y ffordd wrth ddod o hyd i atebion blaengar i helpu i ymdrin â’r argyfwng tai yr ydym yn ei wynebu heddiw. Yn ôl ym mis Mawrth, ymunodd Dr Sarah Horrocks, Sara Mogel, Graham Worthington a minnau â mwy na 1,000 o bobl o bob rhan o Gymru yn y Rali ‘Cartrefi i Gymru’ yng Nghaerdydd, a drefnwyd gan Gartrefi Cymunedol Cymru. Daeth y digwyddiad ag arbenigwyr adeiladu, preswylwyr a darparwyr gwasanaethau tai at ei gilydd o bob ran o Gymru, ac mae’r sector yn ymroddedig i barhau â’r ymgyrch hon i ddarparu rhagor a dai yn y dyfodol. Gwnaed llawer iawn o waith dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau cynlluniau cyllido newydd i alluogi’r Grŵp fuddsoddi ymhellach mewn tai fforddiadwy. Diolch i ddull gwahanol Pennaf, gwelwyd ffrwyth y cynllun cyntaf o’r fath ym mis Ebrill 2015 pan gwblhawyd cyfleuster £9 miliwn yn gysylltiedig â’r mynegai. Mae’r strwythur a grëwyd y cyntaf o’i fath yng Nghymru, gan ganiatáu llwybr cyllido gwahanol i’r prif-ffrwd sy’n caniatáu gwaith datblygu y mae galw mawr amdano heb fod angen cymhorthdal cyhoeddus sylweddol. O ganlyniad, mae Tŷ Glas wedi dod yn Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn ei enw ei hun, gyda’r 177 eiddo cyntaf yn cael eu prynu trwy ddefnyddio’r cyfleuster hwn. Yn ychwanegol gwelwyd cynnydd rhagorol wrth sicrhau cyllid ar gyfer ein Rhaglen Ddatblygu a Gynlluniwyd bresennol, gyda’r hwb ychwanegol o weld y Grŵp yn cael ‘graddfa fuddsoddi A3’ gan yr asiantaeth raddio ryngwladol Moody’s. Rydym yn falch o fod y gymdeithas dai gyntaf yng Nghymru i gael ei graddio fel buddsoddiad. Roedd y Grŵp yn falch iawn o gael adroddiad Barn Reoleiddiol gadarnhaol iawn gan Dîm Rheoleiddio Llywodraeth Cymru, sy’n tanlinellu rhai o fanteision ein dull sy’n rhoi pwyslais ar ganlyniadau

Mrs Eurwen H Edwardss Llywydd Anrhydeddus, Grŵp Tai Pennaf

Dr Sarah Horrocks Cadeirydd, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn

Mr Dafydd Ifans Cadeirydd, Offa

Mrs Judy Owen Cadeirydd, Cymdeithas Tai Tŷ Glas

o ran rheoli perfformiad, yn unol â’r Fframwaith Rheoleiddiol, ynghyd â’n dull o gynllunio busnes, gwelliant parhaus a gweithgareddau hunan asesu: “Mae Pennaf yn parhau i fod yn gadarn yn ariannol... ein dyfarniad hyfywedd ariannol yw LLWYDDO ... gyda blaenoriaeth uchel yn cael ei roi i brofi straen a chynllunio i adfer ...” “Mae’r Llywodraethiant yn parhau yn gryf ... mae’r Bwrdd yn uchelgeisiol ac entrepreneuraidd, gyda chyflymder effeithiol yn eu gweithgareddau ... mae ymddiriedaeth ynom i werthuso effeithiolrwydd gyda’n dull cadarn o hunan werthuso ... mae gennym amgylchedd reoli gadarn ac mae’r Grŵp yn defnyddio dull cyd-reoleiddiol”. “Mae ein gwasanaethau landlord a lefelau bodlonrwydd ymhlith grwpiau o gwsmeriaid bregus wedi gwella ... mae camau effeithiol yn eu lle i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae bodlonrwydd prydleswyr yn gwella’n gyson ... ac mae’r gwasanaethau trwsio a chynnal a chadw yn gwella.” A minnau yn Gadeirydd, rwyf yn edrych ymlaen at weld Pennaf yn adeiladu eto ar ei lwyddiant a’i enw da am fod ag agwedd fywiog, sy’n edrych tua’r dyfodol i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel ac ymatebol i fodloni anghenion ei gwsmeriaid presennol a rhai’r dyfodol. Mae gan Fyrddau’r Grŵp ddymuniad clir i barhau i ddatblygu mwy o lety i fodloni’r amrywiaeth eang o anghenion yr ydym yn darparu ar eu cyfer, a bydd yr angen i sicrhau gallu’r busnes i wrthsefyll o ystyried y pwysau cynyddol ar incwm, ynghyd â chael y ‘gwerth’ gorau o’n hadnoddau, yn parhau i fod yn ffocws allweddol yn y flwyddyn sydd o’n blaenau. Mae Pennaf yn darparu cymaint mwy na dim ond tai wrth iddo barhau i wneud cyfraniad sylweddol at economi Cymru - gan helpu i sicrhau swyddi, cynnig cyfleoedd dysgu a datblygu, cadw sgiliau a chrefftau a helpu i drawsnewid cymunedau ac amodau byw i bobl ar draws y rhanbarth. Mae’r Adroddiad hwn yn tynnu sylw at rai enghreifftiau o’r modd yr ydym wedi cyflawni ein nodau ar gyfer 2015-16, trwy ddatblygu, cefnogi a grymuso ein preswylwyr, staff, gwirfoddolwyr a chymunedau lleol.

Dr Angela Holdsworth Cadeirydd, Pennaf

Mr Jeremy Poole Cadeirydd, PenAlyn a PenElwy

Mr Fraser Jones Is-gadeirydd, Tir Tai

3 Pennaf Annual Activities Report 2016 wel to print.indd 3

07/07/2016 16:48


Datblygu Yn ystod 2015-16, diolch i gyfuniad o ffrydiau ariannu a sicrhawyd mewn partneriaeth â’n partneriaid o awdurdodau lleol gan gynnwys Grant Tai Cymdeithasol, Grant Cyllid Tai a chyllid Ardal Adfywio Strategol a roddir gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â chyllid preifat a godwyd gan Pennaf, llwyddodd y Grŵp i gwblhau’r cynlluniau canlynol:  Llys y Castell, Yowley Road, Ewlo – 8 uned yn

Mae’r dull amlasiantaethol o drawsnewid canol y Rhyl wedi parhau i ddangos cynnydd da, gan adeiladu ar yr ysbryd cymunedol rhagorol a’r balchder a deimlir yn yr ardal - gan ei wneud yn lle gwych i fyw, gweithio, aros ac ymweld ag ef.

cynnwys fflatiau 1 a 2 ystafell wely

 Garden City, Sealand Avenue, (yr hen Neuadd Snwcer), Glannau Dyfrdwy – 16 uned yn cynnwys 6 thŷ a 10 fflat

Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych, mae’r Grŵp wedi ymrwymo i raglen fuddsoddi £4.5m mewn adfywio tai yn yr ardal. Yn ychwanegol at y gwaith ar nifer o eiddo gwasgaredig yn yr ardal, dros y flwyddyn nesaf bydd y Grŵp yn darparu cyfleoedd ychwanegol i fod yn berchennog ar gartref neu ei rentu o gwmpas Gerddi Heulwen, gan ymateb i’r angen am dai o safon yn yr ardal a helpu i greu canolfan i gymuned fywiog a chynaliadwy.

 6 & 8 Chestnut View, Stad Oldford, Y Trallwng – 2 fyngalo wedi’u haddasu

 Llys Santes Ann, Wrecsam – 23 uned yn cynnwys 15 tŷ ac 8 fflat

 73-75 Ffordd Wellington, Y Rhyl (Canolfan Gymunedol) – 4 fflat a swyddfeydd

 Capel Bethlehem, Ffordd Lawson, Bae Colwyn – 3 tŷ

 11 Ffordd Lawson, Bae Colwyn – 3 fflat

Llys y Castell, Yowley Road, Ewlo

Yn ogystal, mae rhan cyntaf y rhaglen ail-ddatblygu Cartref Gofal Llys y Waun yn Y Waun wedi cael ei gwblhau, yn cynnwys 28 ystafell wely ‘en suite’ gydag ardaloedd cymunedol. Capel Bethlehem, Ffordd Lawson, Bae Colwyn

Cartref Gofal Llys y Waun, Y Waun

Llys Santes Ann, Wrecsam 4 Pennaf Annual Activities Report 2016 wel to print.indd 4

07/07/2016 16:48


Iechyd a Thai 2025 Fel Grŵp rydym yn cydnabod bod iechyd a thai yn mynd law yn llaw, ac felly rydym wedi ymuno ag aelodau o’r Bwrdd Iechyd lleol, cymdeithasau tai eraill, elusennau ac Awdurdodau Lleol ar draws Gogledd Cymru i ymrwymo i ymdrin ag anghyfartaledd iechyd y gellid eu hosgoi erbyn 2025. Mae’r Gynghrair Iechyd a Thai wedi mapio ystod o gamau tymor hir a byr sy’n trafod iechyd a lles, gwasanaethau pobl hŷn, iechyd meddwl a’r gymuned, y sector preifat, addasiadau, iechyd meddwl a digartrefedd, a chynhwysiant digidol. Nod y grŵp yw creu mudiad dros newid ar draws Gogledd Cymru, gyda nifer fwy o sefydliadau yn cymryd meddiant a helpu i ddwyn anghyfartaledd iechyd i ben erbyn 2025.

Lansio SARTH Offa – Y Partner Gosod Rydym wedi parhau i ddatblygu ein Hasiantaeth Gosod Gymdeithasol, ynghyd â gwasanaeth rheoli i landlordiaid sector preifat ar draws Gogledd Cymru, gan weithredu dan enw Offa. Yn ystod 2015-16 cyrhaeddodd Offa ei phedwaredd flwyddyn mewn strategaeth dwf uchelgeisiol gyda’r llwyddiannau allweddol yn cynnwys:  Darparu a rheoli 231 o unedau sector preifat

ar rent.

Ymunodd Clwyd Alyn â’r prosiect partneriaeth Llwybr Mynediad Sengl at Dai (SARTH) rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir y Fflint a phum Landlord Cymdeithasol Cofrestredig ar draws Gogledd Cymru, diolch i gynllun gan Lywodraeth Cymru a gynlluniwyd i liflinio a symleiddio’r broses o ddyrannu tai addas. Trwy weithredu Polisi Dyrannu Tai sengl nod y cynllun yw gwella profiad y cwsmer a chreu arbediadau trwy’r dull integredig hwn, gan alluogi ymgeiswyr i gael help yn fwy cyflym ac effeithiol. Trwy gael gwybodaeth ganolog mae’n galluogi i’r dewis gorau o ran tai gael ei ddynodi, gan ganfod yr ymgeiswyr hynny â’r flaenoriaeth fwyaf diolch i broses triage a bandio newydd wrth ymgeisio am dai. Dros y flwyddyn ddiwethaf, llwyddodd y Gymdeithas i ddyrannu 70 eiddo gan ddefnyddio’r cynllun hwn.

 Parhau i weithio’n glos gyda’n partneriaid

mewn awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a landlordiaid preifat ar nifer o gynlluniau adfywio yng Nghonwy a Sir Ddinbych i gyflawni £2.8m o lety fforddiadwy y mae angen mawr amdano.  Datblygu ymhellach ein harbenigedd wrth

reoli Tai Amlfeddiannaeth ar ran landlordiaid preifat a chynorthwyo awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau statudol dan ddeddfwriaeth HMO.

5 Pennaf Annual Activities Report 2016 wel to print.indd 5

07/07/2016 16:48


Gweithgareddau Cynnwys Preswylwyr ac Ymgysylltu Cymunedol Yn ystod 2015-16, llwyddodd y Grŵp i symud ei ‘Strategaeth Cynnwys Preswylwyr a Datblygu Cymunedol’, ymlaen sy’n canolbwyntio ar:

 Wella’r cymunedau lle mae ein Preswylwyr yn byw.  Helpu i gynyddu hyder, gwybodaeth a sgiliau preswylwyr.  Gwella ein cyfathrebu â phreswylwyr. Sicrhawyd cyfanswm o £48,000 mewn grantiau allanol i alluogi Clwyd Alyn a grwpiau lleol eraill i ymgymryd â chynlluniau oedd o fudd i’n preswylwyr a/neu eu cymunedau lleol. Yn ychwanegol, mae ymarfer Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad wedi dangos bod dros £58,000 mewn gwerth ariannol ychwanegol wedi cael ei greu o ganlyniad i hybu ein gwaith datblygu cymunedol.

Gwasanaeth Cwsmeriaid: Codi Safonau Gwasanaeth  Bu ein Partneriaid Ansawdd yn gweithio ar nifer o archwiliadau, gan gynnwys y ffordd y mae Clwyd Alyn yn cyfathrebu gyda phreswylwyr, gan wneud argymhellion ar sut y gall y modd y mae’r gwasanaeth yn cael ei gyflawni gael ei wella yn y hwn. Fe wnaethant hefyd gychwyn ar archwiliad o’r ffordd yr ydym yn darparu’r ystod o daliadau gwasanaeth i breswylwyr.

maes lawn

 Derbyniodd nifer o Wirfoddolwyr o Breswylwyr hyfforddiant i’w galluogi i ffonio preswylwyr oedd wedi rhoi adroddiad ar waith trwsio i ofyn pa mor fodlon oeddynt â’r gwasanaeth a dderbyniwyd.

 Bu’r preswylwyr a’r staff yn gweithio gyda’i gilydd ar nifer o Baneli Gwasanaeth i ystyried polisïau a gweithdrefnau newydd, gan gynnwys Polisi Cam-drin Domestig newydd, Polisi Casineb/Cyfeillio ac wrth ymateb i argymhellion archwilio mewnol, wedi helpu i ddatblygu manyleb lanhau newydd arfaethedig ar gyfer ardaloedd cymunedol.

Dylanwadu ar y Ffordd yr Ydym yn Gweithio  Cymeradwyodd ein Pwyllgor Gwella Gwasanaethau dan arweiniad preswylwyr ystod o Bolisïau a ddyluniwyd i wella gwasanaethau preswylwyr. Fe wnaethant hefyd gychwyn trafodaeth ar ddatblygu eu rôl ymhellach, yn benodol rhoi mwy o bwyslais ar graffu ar berfformiad a chyllidebau.

 Sicrhaodd Grŵp Ffocws yn cynnwys preswylwyr a swyddogion bod barn preswylwyr yn cael ei bwydo i’r broses Cynllunio Busnes ar gyfer 2016/17.

Gyda chyfanswm o 119 o brosiectau cymunedol wedi eu trefnu dros y flwyddyn, dyma rai enghreifftiau o’r effaith gadarnhaol y mae’r prosiectau wedi ei gael ar ein gwasanaethau a chymunedau lleol:

Gwella Cyfathrebu Mae ein pwyslais wedi bod ar alluogi gwell mynediad at wasanaethau, atal unigrwydd a bod yn ynysig, cynyddu sgiliau a’r gallu i gael gwaith, helpu preswylwyr i gynilo arian, a hawlio budd-daliadau, fel Credyd Cynhwysol, ar-lein.

 Gweithredwyd Strategaeth Cynhwysiant Digidol y Grŵp a lansiwyd y Porth Preswylwyr, gan roi mynediad i’r preswylwyr 24 awr y dydd at wasanaethau allweddol. Ar hyn o bryd, mae gan y Porth 524 o ddefnyddwyr cofrestredig sy’n gallu gweld eu cyfrifon rhent neu roi adroddiad ar bethau fel gwaith trwsio neu broblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 Llofnododd Clwyd Alyn y ‘Siarter Cynhwysiant Digidol’ cenedlaethol, sy’n cynnwys chwe addewid wedi eu hanelu at helpu sefydliadau i gefnogi pobl sydd wedi eu hallgau yn ddigidol i fwynhau manteision y rhyngrwyd.

 Thema Cynhadledd y Preswylwyr oedd ‘Cynhwysiant Digidol’, gan roi’r cyfle i addysgu, ysgogi ac annog rhagor o unigolion i ddefnyddio’r rhyngrwyd, cyfryngau cymdeithasol a rhwydweithio, a deall y llu o fanteision sy’n dod o fod ar-lein, gan gynnwys safleoedd cymharu ariannol.

 Trefnodd Cymunedau Digidol Cymru sesiwn hyfforddi ymwybyddiaeth ‘Hwylusydd Digidol’ i Swyddogion Tai i helpu preswylwyr gyda cheisiadau Credyd Cynhwysol.

Pennaf Annual Activities Report 2016 wel to print.indd 6

6 07/07/2016 16:48


Gwella Ansawdd Bywyd

Dwyn Cenedlaethau at ei Gilydd

Gweithgareddau cymunedol a gynlluniwyd i wella lefelau ffitrwydd, annog preswylwyr lleol i ymarfer mwy a chael budd o iechyd a lles corfforol ac iechyd meddwl, atal unigrwydd, creu rhwydweithiau cymdeithasol a gwella diogelwch personol:

 Manteisiodd preswylwyr o Bentre Mawr ar y cyfle i

 Roedd y sesiynau gwaith ieuenctid ‘gemau stryd’

 Cymerodd disgyblion o Ysgol Esgob Morgan yn

gyfarfod myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Coleg Llandrillo i drafod problemau sy’n effeithio arnynt a helpu’r myfyrwyr i ddod yn ymwybodol o anghenion pobl hŷn.

wythnosol yn Y Gorlan, Y Rhyl, a defnwyd ar y cyd gyda Chyngor Sir Ddinbych a Chymunedau’n Gyntaf, yn annog pobl ifanc i symud mwy ac ystyried gyrfaoedd ym myd chwaraeon.

 Arweiniodd gwersyll haf i bobl ifanc sy’n byw ar Stad Ffordd Helygain, Y Fflint mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint at yr adborth positif canlynol gan un o’r bobl ifanc a gymerodd ran: “Mae hi wedi bod yn wych ... dwi wedi mwynhau cyfarfod pobl na fyddwn yn cael cyfle i chwarae hefo nhw fel arfer a rhoi cynnig ar chwaraeon ffantastig nad ydwi wedi rhoi tro arnyn nhw o’r blaen fel tenis, gymnasteg a zorbio.. Dwi wedi mwynhau’r dyddiau a dwi’n edrych ymlaen at gael fy nhystysgrif”.

Llanelwy ran mewn prosiect plannu cymunedol yn Llys Esgob Morgan gyda chefnogaeth Ground Control

 Bu cynllun Gofal Ychwanegol Hafan Gwydir yn Llanrwst yn rhedeg ‘prosiect darllen mewn parau’ gyda disgyblion o Ysgol Bro Gwydir. Roedd hyn o fantais i bawb gan fod y darllen yn digwydd ar offer fel iPad ac fe ddywedodd un o’r preswylwyr “Nid ydym wedi defnyddio iPad o’r blaen, ond roedd y plant yn amyneddgar iawn yn dangos i ni sut i’w ddefnyddio ac fe wnaethom ni eu helpu nhw hefo’u darllen”.

 Mae sesiynau Tai Chi wythnosol a drefnwyd yn Llys Erw wedi helpu i lunio rhwydweithiau cymdeithasol, atal unigrwydd a gwella iechyd a lles meddyliol a chorfforol.

 Daeth Parti Calan Gaeaf yn Holway, Treffynnon â theuluoedd at ei gilydd i gael hwyl a chadw plant yn ddiogel, gan gynnig dewis gwahanol dan oruchwyliaeth i’r gweithgareddau Calan Gaeaf arferol. Daeth swyddogion heddlu lleol draw i rannu cyngor ar atal troseddau a thrafod unrhyw bryderon am ddiogelwch yn yr ardal.

Cydnabod Llwyddiannau Preswylwyr Rhoddwyd nifer o staff a phreswylwyr Clwyd Alyn ar y rhestr fer ac/neu fe wnaethant ennill gwobrau, fel rhan o Wobrau Gwirfoddolwyr Sir y Fflint, oedd yn cydnabod y cyfraniad a wnaethant at eu cymunedau lleol ac yn annog ymdeimlad o falchder ac yn ysbrydoli eraill. Enillodd ein prosiect Llais Cymunedol ‘Conwy Gyda’n Gilydd’ hefyd Wobr Genedlaethol TPAS Cymru yn y categori ‘Cyfranogiad Tenantiaid’.

7 Pennaf Annual Activities Report 2016 wel to print.indd 7

07/07/2016 16:48


Gwneud Gwahaniaeth trwy Fyw â Chefnogaeth

Cynhwysiant Ariannol Mae cyfran sylweddol o breswylwyr Clwyd Alyn, yn arbennig y rhai sy’n byw ar incwm isel, yn gweld eu hunain yn cael eu hallgau yn ariannol ac mae’r Gymdeithas wedi parhau i ymateb yn rhagweithiol i oblygiadau’r diwygiadau i’r wladwriaeth les. Parhaodd y galw am gyngor ariannol a dyledion i gynyddu, gyda Swyddog Cyngor Budd-daliadau a Dyled y Tîm Gwasanaethau Preswylwyr yn derbyn 180 o atgyfeiriadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac ymdrin â chyfanswm o ddyled o tua £200,000. Mae Protocolau Cyn Gweithredu yn y Llys y Gymdeithas yn nodi’r gofyn i gefnogi tenantiaid i’w helpu i gynnal eu tenantiaeth a diolch i’r help a’r cyngor a dderbyniwyd o ran hawliadau budd-dal a gwell rheolaeth ar arian, mae’r tenantiaid wedi cael budd o dros £70,000 trwy ddefnyddio budd-daliadau.

Yn ystod 2015-16, cafodd y Grŵp fudd o dros £3m o gyllid gan awdurdodau lleol trwy ffrwd ariannu Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru gan ein galluogi i ddarparu cefnogaeth tai y mae galw mawr amdano ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys pobl ddigartref, y rhai sy’n ffoi rhag cam-drin corfforol a meddyliol, mamau a phlant ifanc, pobl ag anableddau dysgu neu salwch meddwl, y rhai sy’n cysgu allan ac yn y blaen. Gall unrhyw un fynd yn ddigartref a bod angen cefnogaeth yn ystod ei oes. Fel y cyfryw, mae ganddynt yr hawl i gael cartref, cefnogaeth, a’r cyfle i ddatblygu eu sgiliau a’u trin yn deg. Mae prosiectau Byw â Chefnogaeth Clwyd Alyn yn darparu tai diogel gyda chefnogaeth, lle gall pobl ddatblygu eu gallu i reoli llety a bodloni eu hanghenion unigol. Yn ystod y flwyddyn, mae cyfanswm o 1,938 o ddefnyddwyr gwasanaeth wedi cael budd o’r gwasanaeth hwn, gyda’n staff profiadol a chymwys yn helpu i newid cwrs bywydau unigolion a rhoi’r sgiliau bywyd a’r hyder sydd ar bobl eu hangen i gyflawni eu nodau a’u dyheadau yn y dyfodol.

Cylch gorchwyl y Swyddog Budd-daliadau Lles yn bennaf yw cefnogi tenantiaid Gofal a Chefnogaeth i wneud y mwyaf o’u hincwm a chynorthwyo i hyfforddi staff ar faterion budd-daliadau. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae 163 o breswylwyr/darpar breswylwyr wedi cael cefnogaeth i gymryd budd-daliadau gwerth tua £769,500 diolch i’r gwasanaeth allweddol hwn.

Canolfan Deulu Erw Groes Diolch i gynllun partneriaeth llwyddiannus gyda Chyngor Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sicrhaodd ein Canolfan Deulu Erw Groes yn Nhreffynnon grant £140,243 gan Gronfa Pawb a’i Le’r Loteri Fawr. Bydd y cyllid yn sicrhau canolfan unigryw i gefnogaeth broffesiynol ar y safle, gyda Gweithiwr Iechyd arbenigol rhan-amser, Gweithiwr Prosiect Cam-drin Domestig a Chynghorydd proffesiynol fydd yn galluogi preswylwyr i gael mynediad at wasanaethau iechyd a chwnsela ar y safle. Mae gan lawer o’r cleientiaid yn Erw Groes anghenion cefnogaeth cymhleth, arbenigol ac yn ogystal â gallu defnyddio’r gefnogaeth hon ar y safle, mae’r prosiect yn anelu at rymuso preswylwyr, gan roi hyder iddynt ddefnyddio gwasanaethau tebyg wrth iddynt symud ymlaen ac adeiladu bywydau newydd yn y dyfodol. Bydd budd parhaol hefyd i’r dyfodol gan y bydd yn cynnig hyfforddiant i dri o’r Tîm presennol yn Erw Groes, gan eu galluogi i gyflwyno’r ‘Rhaglen Hyfforddi Rhianta Sylfaenol cyn ysgol’ fel yr argymhellwyd gan Gydlynydd Rhianta Sir y Fflint.

8 Pennaf Annual Activities Report 2016 wel to print.indd 8

07/07/2016 16:48


Caffi’r Hen Lys

ODEL - Agor Drysau – Gwella Bywydau - Mentrau a Hyfforddiant

Yn dilyn gorffen gwaith adnewyddu ac adfer mawr, ailagorodd yr Hen Lys o’r ail ganrif ar bymtheg ar Stryd yr Eglwys yn y Fflint ei ddrysau ym Medi 2015 fel caffi modern a chanolfan gymunedol. Mae’r atyniad lleol poblogaidd hwn yn awr yn ffefryn gan y gymuned leol ac mae’n gweithredu fel menter gymdeithasol, yn creu cyfleoedd dysgu, hyfforddi a gwaith i breswylwyr Clwyd Alyn a defnyddwyr y gwasanaeth. Mae cynlluniau hefyd i sefydlu canolfan ddysgu ar gyfer gwirfoddolwyr a barista yn y dyfodol agos.

Parhaodd ‘ODEL – cynllun dysgu, hyfforddi a mentrau cymdeithasol Clwyd Alyn – i ganolbwyntio ar brosiectau Byw â Chefnogaeth y Gymdeithas i bobl ifanc sydd wedi profi digartrefedd yn y gorffennol. Nod ODEL yw cynnig hyfforddiant sgiliau bywyd i breswylwyr, gan helpu i gynyddu hyder a hunan-barch a datblygu’r sgiliau bywyd sy’n angenrheidiol i fyw’n annibynnol. Mae hefyd yn ymgorffori achrediad cenedlaethol gan Agored Cymru, y sefydliad dysgu gydol oes i Gymru gyfan, sy’n goruchwylio credydau hyfforddi a chymwysterau.

Ym mis Ionawr eleni, sicrhawyd grant o £48,200 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i greu canolfan dreftadaeth gymunedol yn yr adeilad. Mae’r datblygiad yn bartneriaeth gyda chefnogaeth Menter Tirlun y Fflint – partneriaeth sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, CADW, Cyngor Tref y Fflint a Chyngor Sir y Fflint, ac roedd yr hwb ariannol hefyd yn cynnwys cyfraniad o £7,000 gan yr Awdurdod Lleol.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Rhaglen Ddysgu a Hyfforddi ODEL wedi cyflwyno 311 o dystysgrifau am unedau wedi eu hachredu a gwblhawyd ar draws 12 pwnc gwahanol i breswylwyr mewn cynlluniau Byw â Chefnogaeth a chleientiaid a gyfeirir trwy gontractau gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau. Roedd y pynciau a gyflwynwyd yn cynnwys goresgyn rhwystrau rhag cael gwaith, paratoi ar gyfer cyfweliad, ymgeisio am waith, cymwysterau addysg yn gysylltiedig â gwaith, adnabod fy hun, cynyddu hyder, paratoi ar gyfer tenantiaeth, a thraddodiadau ac arferion Cymru. Yn ychwanegol cyflwynwyd 238 o sesiynau eraill ar gynhwysiant digidol.

Defnyddir y grant i hyfforddi staff yn agweddau hanesyddol y safle a byddant wedyn yn gweithio gyda disgyblion o Ysgol Gwynedd i greu llinell amser o hanes y dref. Bydd gwirfoddolwyr o bob oed yn cael eu recriwtio i helpu gyda’r gwaith hanfodol hwn, gan sicrhau bod yr Hen Lys yn dod yn ganolfan ganolog i ddathlu’r ardal gyfan. Bydd adrodd stori’r Hen Lys yn cynnwys pobl o bob cenhedlaeth, a bydd y grant hefyd yn galluogi i arbenigwr drama a swyddog cefnogi cymunedol weithio ar y cynllun.

9 Pennaf Annual Activities Report 2016 wel to print.indd 9

07/07/2016 16:48


Cartrefi Gofal Mae’r Grŵp yn gweithredu 3 cartref gofal a chartref nyrsio: Merton Place ym Mae Colwyn; Llys Marchan yn Rhuthun; Plas Bod Llwyd yn Newbridge ger Wrecsam; a Llys y Waun yn Y Waun. Yn ystod y flwyddyn, roedd ein holl gartrefi gofal yn agored i arolygiadau heb rybudd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGC). Cynhyrchwyd adroddiadau teg iawn yn cynnig sylwadau positif am safon y gofal a roddwyd a’r ffordd yr ydym yn rheoli gwasanaethau i grwpiau cleientiaid bregus iawn, ac ni roddwyd adroddiad am unrhyw ddiffyg o ran cydymffurfio. Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn y ffordd y mae’r staff yn ein cartrefi yn rhoi gofal i’r unigolyn ac yn falch o dderbyn yr adborth cadarnhaol gan y Rheoleiddiwr Gofal.

PenCartref

Trawsnewid Llys y Waun Wrth ymateb i’r galw cynyddol am wasanaethau gofal preswyl i gefnogi’r rhai sy’n byw gyda dementia bu Clwyd Alyn yn gweithio ar raglen ail-ddatblygu £5miliwn yng Nghartref Llys y Waun, yn Y Waun. Diolch i’r cynllun partneriaeth hwn gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mae’r cartref wedi cael ei ailddatblygu mewn dull dau gam i ddarparu cartref gofal 66 gwely modern iawn, gan gynnig canolfan ragoriaeth i bobl hŷn gydag ystod o anghenion gofal, gan gynnwys gofal dementia arbenigol.

Yn dilyn y penderfyniad i gyfuno Asiantaeth Gofal a Thrwsio Wrecsam a Gofal a Thrwsio Sir y Fflint, sefydlodd y Grŵp wasanaeth newydd annibynnol sy’n masnachu fel PenCartref yn Ebrill 2015. Gan gynnig gwasanaeth cynghori, trwsio, cynnal a chadw ac addasiadau i bobl ar draws Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a gororau Swydd Amwythig a Chaer, bu blwyddyn gyntaf PenCartref yn masnachu yn llwyddiant mawr, gan nodi:

 Cynnydd o 33% yn y cyfeiriadau gan y Gwasanaeth Mân Waith Trwsio (busnes preifat)

 £97,000 wedi ei greu yn incwm newydd o waith a wnaed i gleientiaid preifat, oedd yn 10.23% yn uwch na’r targed a osodwyd ar ddechrau’r flwyddyn

 Nododd 94% o’r cleientiaid y byddent yn argymell y gwasanaeth i eraill. Dywed y rheolwraig, Yvonne Jones “Gall cleientiaid drefnu mân wasanaethau tasgmon ar gyfer gwaith trwsio unwaith ac am byth neu gefnogaeth i reoli prosiect ar gyfer gwaith addasu mwy sylweddol. Gyda mwy na 10 mlynedd o brofiad mewn cynnal a chadw eiddo a gwasanaethau technegol, gall y Tîm helpu gyda pheintio ac addurno, gwaith coed a phlymio, gwasanaethau technegol gan ddefnyddio contractwyr a gymeradwywyd a goruchwylio prosiectau mwy”.

Seiliwyd y dyluniad ar Safonau Darparu Gofal Dementia Rhagorol Prifysgol Stirling. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod preswylwyr yn gallu symud a chysylltu yn rhwydd o gwmpas pedwar o ‘dai’ unigol, gyda’r ystafelloedd gwely a’r ardaloedd cymunedol wedi eu trefnu yn addas ac arwyddion clir i arwain atynt i leihau dryswch, gan hybu annibyniaeth a lleihau pryder i’r preswylwyr. Mae ein holl staff wedi eu hyfforddi’n broffesiynol ac yn gymwys ar gyfer eu gwaith penodol, gan gynnwys hyfforddiant arbenigol o ran gofal am bobl sy’n byw gyda dementia.

Ymwelodd Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, â PenCartref cyn y Nadolig y llynedd, a bu’n sgwrsio gyda staff a chleientiaid oedd wedi cael budd o’r gwasanaeth, gan ddweud “Mae hyd yn oed gwybod ble i fynd i gael yr help y mae arnoch ei angen yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Mae gwybod bod y gweithwyr yr ydych yn eu gwahodd i’ch cartref yn ddibynadwy ac yn rhai y gallwch ymddiried ynddynt yn gallu gwneud tasg allai godi ofn yn llawer llai o straen.”

Roeddem yn falch iawn o gael help gan Ysgol y Waun gerllaw a fu’n helpu i benderfynu ar yr enwau Myddleton, Dyffryn Ceiriog, Berwick a Castell ar gyfer pobl un o’r ‘tai’ yn y cartref. Roedd y plant yn llawn dychymyg gan ddangos gwir werthfawrogiad o hanes lleol a’u treftadaeth wrth ddewis enwau.

10 Pennaf Annual Activities Report 2016 wel to print.indd 10

07/07/2016 16:48


Cyrraedd Disgwyliadau Cwsmeriaid a Bodlonrwydd Mae’r tîm staff yn PenAlyn wedi cael blwyddyn arall eithriadol o brysur yn cynnig gwasanaethau cynnal a chadw ymatebol ac wedi eu cynllunio i’n preswylwyr. Mae hyn wedi ein helpu i wella’r modd y darperir gwasanaethau, cynyddu bodlonrwydd cwsmeriaid, gostwng costau cynnal a chadw a gwireddu arbedion trwy resymoli rheoli asedau a swyddogaethau cynnal a chadw. Mae’r llwyddiannau dros y flwyddyn ddiwethaf wedi cynnwys:

 Cyllideb £8.3 miliwn wedi ei chyflawni  257 cegin, 208 ystafell ymolchi a 160 bwyler wedi eu cyfnewid.

   

20,000 o archebion gwaith wedi eu cwblhau 6,050 o archwiliadau cynnal a chadw wedi eu cynnal 1,154 arolwg cyflwr stoc wedi eu cwblhau 2 brentis wedi eu cyflogi, 5 myfyriwr gweithle yn cael eu cefnogi a 4 lleoliad gwaith aeddfed wedi eu cefnogi trwy asiantaethau partner

 Cost gwaith trwsio ymatebol ar gyfartaledd oedd £107

yn 2015/16, mewn cymhariaeth â £133 yn y blynyddoedd blaenorol a chyfartaledd trwy Gymru o £145

 Roedd 93% o’r stoc tai yn cadw at Safonau Ansawdd Tai Cymru ar 31 Mawrth 2016

 Roedd y bodlonrwydd cyffredinol â’r gwasanaeth Cynnal a Chadw yn parhau yn gyson uchel ar tua 97% o ran safon y gwaith trwsio ac ymddygiad y contractwyr.

Mae Tîm PenAlyn yn cydnabod pwysigrwydd rhoi gwybodaeth i breswylwyr a gofyn am adborth ar y modd y mae gwasanaethau yn cael eu darparu. Trefnir digwyddiadau ymgynghori â phreswylwyr fel rhan o’n hymrwymiad i raglen barhaus o waith adnewyddu yn unol â Safonau Ansawdd Tai Cymru, lle mae gwybodaeth yn cael ei darparu ar y rhaglen adnewyddu flynyddol i osod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd yn eu cartrefi. Derbyniodd un breswylwraig yn y Rhyl anrheg ychwanegol pan osodwyd ei chegin newydd gan iddi gael llond hamper o nwyddau i ddathlu carreg filltir arbennig – hi oedd y 1,500fed preswyliwr i Dîm PenAlyn wella ei gartref. Mae PenAlyn hefyd wedi sefydlu partneriaeth gadarn gyda Crest Co-operative, menter gymdeithasol o Gyffordd Llandudno. Bu cynllun ailgylchu offer trydanol yn llwyddiant mawr, ynghyd â defnyddio gwasanaethau Crest i glirio eiddo Clwyd Alyn rhwng cyfnodau gosod. Rhoddodd Jonah Wilton a Tyler Evans o Ysgol Eirias, ynghyd â Liam Lewis o Ysgol Bryn Elian ‘fawd i fyny’ i Dîm PenAlyn pan wnaethant dreulio wythnos yn cael profiad gwaith gyda’r Peirianwyr Plymio a Gwresogi. Cawsant gyfarfod preswylwyr, dysgu am ofal cwsmeriaid a chael blas ar weithio ochr yn ochr â gweithwyr allan ac yn y swyddfa, gan roi cyfle iddynt gynyddu eu sgiliau bywyd a rhoi golwg iddynt ar y dewisiadau gyrfa posibl ar gyfer eu dyfodol. 11 Pennaf Annual Activities Report 2016 wel to print.indd 11

07/07/2016 16:48


Byw’n Annibynnol Tai Gofal Ychwanegol

Her Elusen Gorfforaethol – ‘Codi’r To’ Adlewyrchir ymrwymiad y Grŵp i ‘wneud gwahaniaeth’ yn ein Her Elusen Codi’r To er budd Cancer Research UK. Dros y flwyddyn ddiwethaf, codwyd £9,136.07 rhyfeddol diolch i gefnogaeth a brwdfrydedd ein staff, a wynebodd sawl her o bobi cacennau, Rhedeg Ras Conwy, triathlonau, arwerthiannau cist car a phartïon gardd, i gymryd rhan yn y digwyddiad ‘Troi Tesco yn Binc’ blynyddol.

Mae’r Grŵp wedi parhau gyda’i ymrwymiad i ddarparu cynlluniau tai gofal ychwanegol, gan gynnig ffordd o fyw annibynnol i breswylwyr, gyda chefnogaeth wrth law a mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Hyd yn hyn, mae’r Grŵp wedi datblygu 5 cynllun o’r fath yn Wrecsam, Shotton, Llanrwst, Y Rhyl a Llandudno, ar ôl sefydlu trefniadau partneriaeth llwyddiannus rhwng Llywodraeth Cymru a’r Awdurdodau Lleol perthnasol, gan alluogi cyfanswm o 497 o breswylwyr i gael eu hailgartrefu mewn llety gofal ychwanegol ers 2009.

Trwy hyn daeth cyfanswm yr arian a godwyd hyd yn hyn i £18,149.81 a’n nod yw parhau i godi arian y mae galw mawr amdano i helpu i gefnogi’r gwaith gwych y mae Cancer Research UK yn ei wneud i ganfod ffyrdd newydd o atal, canfod a thrin canser, ac arbed mwy o fywydau.

Dynododd adborth bodlonrwydd cwsmeriaid a dderbyniwyd gan ein preswylwyr bod cael bwyd iach a maethlon wrth law, llety braf, mwy o reolaeth dros eu bywyd o ddydd i ddydd, y gallu i wneud ffrindiau newydd a chymdeithasu, ynghyd â theimlo yn ddiogel i gyd wedi helpu i wella ansawdd eu bywydau:

 Adroddodd 89% eu bod yn ddiogel a sicr  Adroddodd 93% y byddent yn argymell Clwyd Alyn fel landlord

 Adroddodd 92% bod Clwyd Alyn yn gwrando ar eu barn

 Adroddodd 90% bod Clwyd Alyn yn gweithredu ar eu barn

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cynlluniau wedi eu symud ymlaen hefyd i ddarparu 3 chynllun arall yn Wrecsam, y Fflint a Llangefni, gyda’r cynlluniau yn y Fflint a Llangefni yn cynnig y budd ychwanegol o gefnogi pobl â dementia.

12 Pennaf Annual Activities Report 2016 wel to print.indd 12

07/07/2016 16:48


Mae Ein Pobl Ni Yn Gwneud Gwahaniaeth Gwneud Pennaf yn Lle Gwych i Weithio

Ymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a’r Iaith Gymraeg

Ar hyn o bryd mae’r Grŵp yn cyflogi rhagor na 650 o staff ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru. Mae darparu gwasanaeth o’r safon uchaf i gwsmeriaid yn ganolog i’n gwaith ac mae Pennaf yn cydnabod pwysigrwydd parhau i ddenu, buddsoddi a chadw’r staff gorau un er mwyn cyflawni hyn. Gyda safonau uchel o ran arweinyddiaeth, arferion rheoli ac ennyn ymlyniad gweithwyr yn cael eu gweithredu ar draws y sefydliad, rhaid rhoi clod i bob aelod o’r staff sy’n gweithio ar bob lefel trwy’r sefydliad cyfan am eu cyfraniad i wneud Pennaf yn lle gwych i weithio.

Mae Pennaf yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu a sicrhau cydraddoldeb cyfle i’r holl unigolion neu grwpiau y byddwn yn eu cyflogi neu y bydd yn rhoi gwasanaethau iddynt. Mae gan y Grŵp Bwyllgor penodol yn gyfrifol am ddatblygu cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a’r Iaith Gymraeg ar draws y sefydliad.

Dysgu a Datblygu Arweiniodd y bedwaredd flwyddyn o’n Strategaeth Hyfforddi a Chyflogi ‘Meithrin Eich Hun’ at 44 lleoliad prentisiaeth, hyfforddi, gwirfoddoli, profiad gwaith ysgol a choleg, gan helpu i gynyddu sgiliau, hyder a phrofiad pobl o’n cymunedau lleol. Mae ein hymrwymiad parhaus i fuddsoddi yn hyfforddiant a datblygiad y staff, ynghyd â’n pwyslais parhaus ar Ragoriaeth o ran Gwasanaeth Cwsmeriaid, wedi ein helpu i sicrhau bod preswylwyr yn derbyn y safonau uchaf o ran gwasanaeth proffesiynol, gwybodus ac ymatebol gan ein staff sydd yn fedrus iawn. Mae ein harweinwyr a’n rheolwyr hefyd wedi bod yn edrych ar gyfleoedd i ddatblygu timau sy’n cyflawni’n dda, a gefnogwyd trwy gyflwyno rhaglen ddatblygu newydd gan y Sefydliad Arwain a Rheoli. Mae’r Grŵp hefyd wedi parhau gyda’i ymrwymiad i’r rhaglen addysg noddedig, y cyfan yn gweithio i gynnal lefelau uchel o sgiliau ac arbenigedd ar draws y gweithle. Roeddem yn falch iawn pan gyhoeddwyd bod Amy Teodorescu, Gweithwraig Prosiect yng Nghanolfan Deulu Erw Groes yn Nhreffynnon, yn ‘Ddysgwr y Flwyddyn’ pan lwyddodd i gael ‘Tystysgrif Arferion Tai’ o Goleg Cambria. Dyluniwyd y cwrs yn benodol ar gyfer staff sy’n gweithio yn y sector tai ac fe’i cymeradwywyd gan y Sefydliad Tai Siartredig.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau cydraddoldeb ac amrywiaeth ymhlith ein rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y staff, Aelodau’r Bwrdd, cyfranddalwyr, contractwyr, cyflenwyr, a’n tenantiaid a phreswylwyr. Adlewyrchir ein hymrwymiad i dderbyn gwahaniaethau a thrin pawb yn deg yn Egwyddorion Craidd Pennaf ac yn y dyfodol bydd yn ofynnol cael Asesiadau Effaith Cydraddoldeb ar bob prosiect, polisi a strategaeth newydd i bennu’r effaith ar nodweddion a ddiogelir ymhlith rhanddeiliaid perthnasol. Mae Pennaf hefyd yn parchu’r angen i ddarparu ei wasanaethau yn gyfartal yn y Gymraeg a’r Saesneg. Adolygir a diweddarir Cynllun Iaith Gymraeg y Grŵp yn gyson ac mae’n cynnwys Cynllun Gweithredu a ddyluniwyd i gynyddu ein gallu i gyflawni gwasanaethau hollol ddwyieithog. Rydym hefyd yn ystyried pwysigrwydd gweithredu’r Safonau Cymraeg arfaethedig ar gyfer y sector ac rydym eisoes wedi cynhyrchu Cynllun Gweithredu i wella agweddau o ddarparu gwasanaeth cyn i’r Safonau gael eu cyflwyno yn ffurfiol trwy’r broses ddeddfwriaethol.

Llwyddiant Mewn Gwobrau Derbyniodd Alison Pring, Warden yng Nghynllun Tai Cysgodol Pentre Mawr yn Abergele, Glod Uchel Sirydd Clwyd am ‘Wasanaeth Eithriadol i’r Gymuned’. Talodd Mr David Meredith-Jones deyrnged, nid yn unig i’w chefnogaeth ysbrydoledig ym Mhentre Mawr, ond hefyd cyfraniad Alison at y gymuned ehangach, gan lunio cysylltiadau gydag ysgolion lleol ac fel gwirfoddolwr gyda Chyfeillion Parc Pentre Mawr. Enillodd Samantha Thomas, Uwch Ymarferwr Gofal yng Nghartref Plas Bod Llwyd yn Newbridge ger Wrecsam y wobr arian yn y categori ‘Ymarferwr Gofal Preswyl’ yng Ngwobrau Gofal Cymru 2015. Roedd y wobr yn cydnabod ei ‘hymrwymiad a’i hagwedd iach, yn helpu i ddarparu gofal unigol, yn rhoi pwyslais ar yr unigolyn i bob preswyliwr yn y cartref’. Enillodd Judith Richards, Rheolwraig Cartref Gofal Plas Bod Llwyd, wobr arian ar y cyd am Arweiniad a Rheoli (Gwasanaethau Preswyl) yng Ngwobrau Gofal Cymru 2015, gan gydnabod ei gwaith yn hyrwyddo gweithgareddau yn rhoi pwyslais ar y preswyliwr a sefydlu ‘polisi drws agored’ fel bod teuluoedd preswylwyr yn cael eu croesawu i ymweld ar unrhyw adeg ac aros cyn hired ag y maent yn dymuno.

13 Pennaf Annual Activities Report 2016 wel to print.indd 13

07/07/2016 16:48


Byrddau Rheoli ar 31 Mawrth 2016

Grŵp Tai Pennaf Mrs Eurwen H Edwards Llywydd Anrhydeddus

Mae’r cyfrifoldeb am reoli Grŵp Tai Pennaf a’i aelodau yn y pen draw yn nwylo’r Byrddau Rheoli perthnasol, sy’n cynnwys Aelodau sy’n cael eu hethol yn flynyddol. Mae gan aelodau’r Byrddau gyfoeth o sgiliau a phrofiad a gafwyd dros flynyddoedd lawer, ac maent yn cynnig eu gwasanaethau a’u harbenigedd i’r Grŵp yn hollol wirfoddol.

Pennaf Cyfyngedig

Cymdeithas Tai Clwyd Alyn Cyfyngedig

Cymdeithas Tai Tŷ Glas Cyfyngedig

Dr A Holdsworth - Cadeirydd Mr Peter Lewis - Is-gadeirydd Mr Mike Hornsby Dr Sarah Horrocks Mr Dafydd Ifans Mr Stephen Porter Mrs Judy Owen Mr Graham Worthington

Dr Sarah Horrocks - Cadeirydd Mr Dafydd Ifans - Is-gadeirydd Mrs Eirwen Godden Mrs Judy Owen Mr Harold Martin Mrs Sara Mogel Mr Peter Lewis Mr Stephen Porter

Mrs Judy A Owen - Cadeirydd Mr Paul Robinson - Is-gadeirydd Mrs Sara Mogel Mr Fraser Jones Mr Dafydd Ifans Dr Sarah Horrocks

Tir Tai Cyfyngedig

Offa Cyfyngedig

PenAlyn Cyfyngedig

PenElwy Cyfyngedig

Mr Fraser Jones - Is-gadeirydd Mr Peter Lewis Dr Sarah Horrocks Mr Dafydd Ifans

Mr Dafydd Ifans - Cadeirydd Mr Stephen Porter - Is-gadeirydd Dr Sarah Horrocks Mr Peter Lewis

Mr Jeremy Poole - Cadeirydd Mr Mike Soffe - Is-gadeirydd Mr Mike Hornsby Mr Trevor Henderson Mr Paul Robinson Mr David Lewis

Mr Jeremy Poole - Cadeirydd Mr Mike Soffe - Is-gadeirydd Mr Trevor Henderson Mr David Lewis

01745 538300

Swyddfa Llanelwy Swyddfa Gofrestredig ar gyfer Pennaf, Clwyd Alyn, Tŷ Glas, Offa, Tir Tai, PenAlyn a PenElwy, 72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy Sir Ddinbych LL17 0JD

01978 714180

PenCartref Ystad Ddiwydiannol Rhosddu, Rhosddu, Wrecsam LL11 4YL

www.pennafgroup.co.uk

Hoffwch ni: facebook.com/PennafHGroup

Dilynwch ni: @PennafHGroup

Mae Clwyd Alyn a Tŷ Glas yn Gymdeithasau elusennol Ddiwydiannol a Darbodus

14 Pennaf Annual Activities Report 2016 wel to print.indd 14

07/07/2016 16:48


Grŵp Tai Pennaf CYFRIFON BLYNYDDOL 2015 – 16 Mae’r rhain yn seiliedig ar Gyfrifon Grŵp Tai Pennaf fel y cawsant eu harchwilio gan yr Archwilwyr. CRYNODEB O INCWM £ MANTOLEN 31 Mawrth 2016 31 Mawrth 2015 Asedau £ £ Rhenti 21,657,224 Stoc Tai 333,954,938 321,992,835 Taliadau Gwasanaeth ac ati 11,178,202 Asedau Sefydlog Eraill 3,383,459 3,688,664 Llogau i’w Derbyn 43,604 Buddsoddiadau Asedau Sefydlog 2,549,779 2,619,079 Incwm Arall 3,390,244 Stoc 94,680 58,434 Cyfanswm 36,269,274 Dyledwyr 3,028,543 3,887,697 Arian Parod a Buddsoddiadau 9,943,975 5,071,623 Rhwymedigaethau Presennol (11,387,459) (10,303,247) Cyfanswm 341,567,915 327,015,085 CRYNODEB O £ WARIANT Llogau Taladwy 5,969,486 Rheoli 4,184,688 Taliadau Gwasanaeth 13,497,567 Cynnal a Chadw 6,291,850 Arall 4,812,548 Cyfanswm 34,756,139

MANTOLEN 31 Mawrth 2016 31 Mawrth 2015 Ariennir gan: £ £ Benthyciadau 329,989,398 316,948,833 Cronfeydd Cyfyngedig Wrth Gefn 145 953 Cronfeydd Cyffredinol 11,578,372 10,065,299 Wrth Gefn Cyfanswm 341,567,915 327,015,085

Sylwer mai ffigyrau’r Grŵp yw’r rhain yn ymgorffori Cyfrifon Incwm a Gwariant a Mantolenni Pennaf, Clwyd Alyn, Tŷ Glas, Offa a Tir Tai, Pen Alyn a PenElwy. I gael dealltwriaeth lawn o sefyllfa ariannol pob aelod o’r Grŵp, dylid astudio’r Datganiadau Ariannol llawn. Mae copïau o’r Datganiadau Ariannol ar gael os gofynnir amdanynt gan Ysgrifennydd y Cwmni.

Dyfarnodd Barn Hyfywedd Ariannol Llywodraeth Cymru ar 31 Mawrth 2016, a gynlluniwyd i roi dealltwriaeth i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC), eu tenantiaid, defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid eraill o hyfywedd ariannol y LCC, ddyfarniad o ‘Llwyddo’ i Pennaf, gan ddod i’r casgliad bod gan y Grŵp adnoddau digonol i fodloni ei ymrwymiadau busnes ac ariannol presennol a’r rhai a ragwelir. 15 Pennaf Annual Activities Report 2016 wel to print.indd 15

07/07/2016 16:48


Perfformiad - Ffeithiau a Ffigurau Dyma grynodeb o berfformiad y Grŵp yn ystod 2015-16:

CYFARTALEDD WYTHNOSAU GYMERWYD I AIL-OSOD TAI GWAG AVERAGE WEEKS TAKEN TO RE-LET VACANT PROPERTIES

386 NIFER Y TAI ANGHENION CYFFREDINOL OSODWYD NO OF GENERAL NEEDS PROPERTIES LET

35.9 CYFARTALEDD DYDDIAU AIL-OSOD TAI ANGHENSION CYFFREDINOL AVERAGE RE-LET DAYS FOR GENERAL NEEDS HOUSING

£3,387,278

£517,888

£646,368

Wedi ei gynllunio Planned

Cylchaidd Cyclical

Gwariant ar Gynnal a Chadw Maintenance Spending

O ddydd-i-ddydd Day-to-day

£76.31

£81.46 Fflat 2 wely 2 bed flat

Fflat 1 gwely 1 bed flat

£91.71 Fflat 3 gwely 3 bed flat

£87.53 Tŷ 2 wely 2 bed house

3.24

£80.61

£95.81 Tŷ 3 gwely 3 bed house

1,000

NIFER Y CARTREFI OSODWYD NO OF PROPERTIES LET

Tŷ 1 gwely 1 bed house

£115.86 Tŷ 4 gwely 4 bed house

792

249

32

80

123

60

96

377

68

Cyfartaledd Rhenti Wythnosol ar gyfer Tai Anghenion Cyffredinol a Chysgodol Average Weekly Rents for General Needs and Sheltered Housing

Anghenion Cyffredinol (yn cynnwys Tai Cysgodol) General Needs (including Sheltered Housing) Rhenti Cyfryngol Intermediate Rents Rhan Berchnogaeth Shared Ownership DIYSO DIYSO DIYHO DIYHO Cymorth Prynu Home Buy Cynllun Daliadaeth ar gyfer Pobl Hŷn Leasehold Scheme for the Elderly Cytundebau Rheoli Management Agreements Gofal Ychwanegol Extra Care Gofal a Chefnogaeth Care & Support

3,792

Unedau o Stoc Units of Housing Stock

100% GOSODWYD TAI NEWYDD AR UNWAITH WEDI’U TROSGLWYDDO O DDATBLYGU I REOLAETH NEW PROPERTIES LET IMMEDIATELY ON HANDOVER FROM DEVELOPMENT TO MANAGEMENT

2.14% EIDDO GWAG: % CYFANSWM INCWM RHENTI GOLLWYD I GYMHARU A CHYFANSWM RHENTI GELLID EU CASGLU VOIDS: % TOTAL RENT INCOME LOST COMPARED WITH TOTAL RENT COLLECTABLE

Ôl-ddyledion Gros ar gyfer y Grŵp Gross Arrears for the Group 2015 / 2016

2.23% - £563,041

Mae hyn yn dangos gwelliant o 0.31% o flwyddyn i flwyddyn, gan arbed cyfanswm o £82,817 i’r Grŵp

2014 / 2015

2.54% - £645,858

This represents a 0.31% year-onyear improvement, saving the Group a total of £82,817

Ôl-ddyledion Gros Tai Anghenion Cyffredinol Gross Arrears for General Needs Housing 2015 / 2016

2.29% - £354,749

Mae hyn yn dangos gwelliant o 0.38% o flwyddyn i flwyddyn, gan arbed cyfanswm o £66,642 i’r Grŵp

2014 / 2015

2.67% - £421,391

This represents a 0.38% year on year improvement, saving the Group a total of £66,642

Pennaf Annual Activities Report 2016 wel to print.indd 16

07/07/2016 16:48


Performance - Facts & Figures Here is a summary of the Group’s performance during 2015-16:

Atgyweiriadau / Repairs £620.00 GWARIANT Y GYMDEITHAS YR UNED AR GYFARTALEDD AR REOLAETH TAI AVERAGE HOUSING MANAGEMENT EXPENDITURE PER UNIT

£107

£1,261.00 GWARIANT CYFARTALOG AR GYNNAL A CHADW YR UNED AVERAGE MAINTENANCE EXPENDITURE PER UNIT

Atgyweiriadau

Repairs

Rhif y Diwrnodau y Cwblhawyd o Fewn No. of Days Completed Within

Nod Cyflawni’r Gwaith mewn Diwrnodau Target No. of Days for Completion of Work

Argyfwng

Emergency

0.72

1

Brys

Urgent

5.73

5

Heb-frys

Non-urgent

23.74

28

COST ATGYWEIRIADAU O DDYDD I DDYDD AR GYFARTALEDD AVERAGE COST OF DAY TO DAY REPAIRS

185 ADDASIADAU WEDI EU GWNEUD GAN PENALYN A GAN DDEFNYDDIO GRANTIAU MÂN ADDASIADAU ADAPTATIONS UNDERTAKEN BY PENALYN AND USING PHYSICAL ADAPTATIONS GRANTS

Bodlonrwydd gyda’n Gwasanaethau Satisfaction with Our Services 214 CANMOLIAETH A DDERBYNIWYD COMPLIMENTS RECEIVED

208 CWYNION A DDERBYNIWYD COMPLAINTS RECEIVED

16.67%

YN WEDDOL FODLON FAIRLY SATISIFIED

83.33% BODLON IAWN VERY SATISFIED

LEFEL BODLONRWYDD AR GARTREFI WEDI EU HADEILADU O’R NEWYDD SATISFACTION LEVELS WITH NEW BUILD HOMES

82% % PRESWYLWYR YN TEIMLO BOD CLWYD ALYN YN GWRANDO AC YN GWEITHREDU AR EU BARN % RESIDENTS FEEL CLWYD ALYN LISTENS AND ACTS ON THEIR VIEWS

Pennaf Annual Activities Report 2016 wel to print.indd 17

91% % PRESWYLWYR SYDD YN WELL GANDDYNT GAEL CLWYD ALYN YN LANDLORD % RESIDENTS WHO PREFER CLWYD ALYN AS A LANDLORD

386 RHIF YR ACHOSION O YMDDYGIAD GWRTH-GYMDEITHASOL (YGG) DDERBYNIWYD NO OF ANTI-SOCIAL BEHAVIOUR (ASB) CASES RECEIVED

43 GWELLIANNAU WEITHREDWYD O GANLYNIAD I’R CWYNION A DDERBYNIWYD IMPROVEMENTS IMPLEMENTED AS A RESULT OF THE COMPLAINTS RECEIVED

88% % PRESWYLWYR YN FODLON AR EU HARDAL A’U CYMUNED % RESIDENTS HAPPY WITH THEIR NEIGHBOURHOOD AND COMMUNITY

89% % BODLONRWYDD GYDA YMATEB CLWYD ALYN I’R ACHOSION O YGG % SATISFACTION WITH THE WAY CLWYD ALYN HANDLED THE ASB CASES

07/07/2016 16:48


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.