Byw - Cylchlythyr y Preswylwyr - Haf 2016

Page 1

Agor Drysau – Gwella Bywydau

www.clwydalyn.co.uk

Byw

Cylchlythyr Preswylwyr - Haf 2016

Yn y rhifyn hwn: Td 7 Gwaith yn dechrau ar gartrefi newydd fforddiadwy yn y Rhyl Td 3 Caffi’r Hen Lys

Td 4 Rhybudd Diogelwch

Td 11 Ap Newydd Clwyd Alyn Td 12 Cystadleuaeth

Ffôn: 0800 183 5757 neu 01745 536800 E-bost: enquiries@clwydalyn.co.uk Mae Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn Gymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus Elusennol

clwyd_alyn_newsletter Summer 2016 Welsh to print.indd 1

23/06/2016 10:12


CROESO

Cadwch lygad ar y newyddion a digwyddiadau diweddaraf ar Facebook a Twitter

TUDALEN

Peidiwch ag anghofio edrych ar ein tudalennau Facebook a Twitter, lle byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd. Rhowch neges ar ein wal os byddwch am ofyn rhywbeth, darganfod rhagor am yr hyn sy’n mynd ymlaen yn eich cymdogaeth a beth yr ydym yn ei wneud yn eich cymuned. Rydym yn rhoi’r diweddaraf am wasanaethau hefyd yn ogystal â newyddion am y Grŵp, datblygiadau, swyddi gwag a digwyddiadau lleol.

Gynnwys

ÃÃ Ydych chi wedi bod yng 3 Nghaffi’r Hen Lys yn y Fflint? ÃÃ Rhybudd Diogelwch

Hoffwch ni: facebook.com/PennafHGroup Dilynwch ni: @PennafHGroup

4

ÃÃ Newidiadau i Fudd-dal Tai

5

ÃÃ Gwirfoddoli i wella Gwasanaethau Clwyd Alyn

6

ÃÃ Cartrefi newydd

7

CYNHADLEDD Y PRESWYLWYR 2016

ÃÃ Digwyddiadau 8-9 cymunedol

Trefnwyd y bydd Cynhadledd y Preswylwyr eleni yn cael ei chynnal ar 26 Hydref 2016 yng Ngwesty Beaufort Park ger yr Wyddgrug. Y thema fydd: ‘Rhedwch Clwyd Alyn am Ddiwrnod’. Bydd rhagor o wybodaeth am y gynhadledd yn dilyn i’r holl Breswylwyr yn hwyrach yn y flwyddyn.

ÃÃ Pencartref - Cyngor, Addasiadau a Gwaith Trwsio

10

ÃÃ Gwybodaeth Bwysign am Fylbiau Golau

10

ÃÃ Eich cyfrif 11 ÃÃ Cystadleuaeth 12

MANYLION CYSWLLT Rydym am gael clywed am eich newyddion lleol bob amser. Os oes gennych unrhyw erthyglau y byddech yn hoffi eu cynnwys yn y cylchlythyr nesaf, anfonwch nhw at Gareth gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod. 01745 536843

gareth.hughesroberts@clwydalyn.co.uk

Hoffwch ni: facebook.com/PennafHGroup Dilynwch ni: @PennafHGroup

www.clwydalyn.co.uk

72 Ffordd William Morgan, St Asaph Business Park, St Asaph, Denbighshire, LL17 0JD.

0800 183 5757. Am alwadau rhatach o ffôn symudol 0300 183 5757 neu 01745 536800

2 Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Haf 2016 clwyd_alyn_newsletter Summer 2016 Welsh to print.indd 2

23/06/2016 10:12


CAFFI’R HEN LYS

Ydych chi wedi bod yng Nghaffi’r Hen Lys yn y Fflint? Os byddwch chi awydd cappuccino, americano neu siocled poeth, mae Caffi’r Hen Lys yn gweini amrywiaeth o goffis a the i’ch adfywio gan Dwyfor un o brif gyflenwyr coffi Cymru. Mae’r Caffi ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac mae’n ddelfrydol ar gyfer coffi cyflym, os byddwch ar frys ac am fynd â choffi hefo chi, neu am fwynhau diod hamddenol yn sgwrsio hefo ffrindiau. Os bydd arnoch chi eisiau bwyd hefyd, mae amrywiaeth eang ar gael; mae brecwast, cinio a chacennau ar gael i fodloni pawb! Gallwch fwynhau te prynhawn, bargen am £4.99 yr un! Gyda llaw, mae Wi-Fi am ddim yno hefyd! Yr Hen Lys o’r unfed ganrif ar bymtheg ar Stryd yr Eglwys yw’r ail adeilad hynaf yn y dref ac mae wedi ei adnewyddu a’i adfer yn gaffi modern a chanolfan gymunedol. Trawsnewidiwyd yr Hen Lys gan Grŵp Tai Pennaf, sy’n cynnwys Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, diolch i gefnogaeth Cynllun Treftadaeth Drefol y Fflint – partneriaeth a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, CADW, Cyngor Tref y Fflint a Chyngor Sir y Fflint a’r Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd. Yn hollol groes i’r caffi cyfoes mae’r Hen Lys hefyd yn ganolfan i bob math o weithgareddau sy’n rhoi sylw i orffennol hanesyddol yr adeilad. Cynhaliwyd diwrnod ‘Hel Atgofion’ yn barod, pan fu trigolion y Fflint yn helpu i ddwyn hanes yn fyw trwy rannu atgofion o’r dyddiau gynt yn y dref. Mae llawer mwy o weithgareddau wedi eu cynllunio gyda: Gweithgareddau teuluol wythnosol dros wyliau’r haf Gwyliwch am y Daith Gerdded Ysbrydion Calan Gaeaf ar 31 Hydref! Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri grant o £48,200 i greu canolfan dreftadaeth gymunedol yn yr adeilad. Mae’r grant yn cynnwys cyfraniad o £7,000 gan Gyngor Sir y Fflint. Pam na wnewch chi alw draw yn yr Hen Lys i weld pa mor dda y mae’n edrych ac i flasu’r coffi, wrth gwrs! Cofiwch eich cerdyn teyrngarwch am ddim hefyd! Gwyliwch am gynigion arbennig a manylion gweithgareddau ar Facebook a Twitter:

https://www.facebook.com/theoldcourthousecafe/ https://twitter.com/courthousecafe1 3 clwyd_alyn_newsletter Summer 2016 Welsh to print.indd 3

23/06/2016 10:12


RHYBUDD DIOGELWCH

Rhybudd Diogelwch Sychwyr Dillad sy’n achosi perygl o dân Mae’r rhybudd diogelwch yn ymwneud â sychwyr dillad Hotpoint, Indesit a Creda a weithgynhyrchwyd rhwng Ebrill 2004 a Hydref 2015. Canfuwyd nam yn y peiriannau a allai greu perygl o dân pan fydd gormod o fflwff yn cyffwrdd yr elfen wresogi. Ar ôl derbyn adroddiadau am danau ac anafiadau, daeth y gweithgynhyrchwyr i wybod am y risg posibl – a gyhoeddwyd yn ffurfiol ym mis Tachwedd 2015.

A yw eich sychwr dillad Hotpoint, Indesit neu Creda yn ddiogel? PEIDIWCH BYTH Â GADAEL EICH SYCHWR DILLAD NEU BEIRIANT GOLCHI YN RHEDEG PAN NAD YDYCH YN Y TŶ NEU PAN FYDDWCH YN CYSGU

Chwiliwch am ddot gwyrdd. Os oes gan eich peiriant sticer “dot” gwyrdd ar y drws neu ar blât ar y cefn, nid oes angen i chi wneud dim. Os nad oes gennych y dot gwyrdd, bydd raid i chi ganfod a yw’r nam yn effeithio ar eich sychwr trwy fynd i: https://safety.hotpoint.eu/?lang Bydd raid i chi roi rhif y model yn llawn a’r rhif cyfres ar y we i wirio eich model. Os yw’ch peiriant yn un o’r rhai dan sylw, byddant yn trefnu i beiriannydd ymweld â chi, am ddim, i addasu eich peiriant. Mae’r gwelliannau yn angenrheidiol i wella diogelwch ac ansawdd eich sychwr.

4 clwyd_alyn_newsletter Summer 2016 Welsh to print.indd 4

23/06/2016 10:12


BUDD-DAL TAI

Newidiadau i Fudd-dal Tai Os ydych chi wedi llofnodi tenantiaeth newydd neu wedi ei hadnewyddu o 01 Ebrill 2016 (01 Ebrill 2017 ar gyfer tenantiaethau byw â chefnogaeth) ymlaen, gall y swm o Fudd-dal Tai (neu’r elfen costau tai o Gredyd Cynhwysol) y byddwch yn ei dderbyn o 01 Ebrill 2018 gael ei gyfyngu. Mae hyn yn wir oherwydd os ydych yn rhentu gan awdurdod lleol, cymdeithas dai gofrestredig neu landlord cymdeithasol cofrestredig arall bydd y swm o Fudd-dal Tai (neu elfen costau tai’r Credyd Cynhwysol) y byddwch yn ei gael yn cael ei gapio i gyfradd y Lwfans Tai Lleol ar gyfer eich aelwyd sy’n berthnasol ar hyn o bryd i denantiaid sector preifat. Gellir gweld y cyfraddau Lwfans Tai Lleol ar gyfer eich ardal yn: http://lha-direct.voa.gov.uk/Search.aspx Os ydych chi dan 35 oed ac nad oes gennych blant dibynnol yn byw hefo chi, bydd eich rhent cymwys yn cael ei gapio ar gyfradd llety a rennir, hyd yn oed os nad ydych yn rhannu eich cartref ag unrhyw un arall. Gellir gweld y gyfradd ar gyfer eich ardal chi yn: http://lha-direct.voa.gov.uk/Search.aspx

A fydd raid i mi dalu am unrhyw ystafelloedd sbâr? Os ydych chi o oedran gwaith a bod gennych un ystafell wely ychwanegol neu fwy, mae eich rhent ac unrhyw daliadau gwasanaeth a ddefnyddir i asesu eich Budd-dal Tai (neu elfen costau tai’r Credyd Cynhwysol) eisoes wedi ei gapio.

Os yw’r gwahaniaeth rhwng eich rhent a’r gyfradd Lwfans Tai Lleol ar gyfer eich aelwyd yn uwch na’r gostyngiad ar gyfer ystafelloedd gwely heb fod yn llawn, dim ond y cap fydd yn berthnasol. Yn yr un modd, os yw’r gostyngiad ar gyfer ystafelloedd gwely heb fod yn llawn yn uwch na’r gyfradd Lwfans Tai Lleol ar gyfer eich aelwyd, dim ond gostyngiad am ystafelloedd gwely heb fod yn llawn fydd yn berthnasol. Os ydych o oedran pensiwn, ni fyddwch yn cael gostyngiad yn y rhent a ddefnyddir i asesu eich Budddal Tai am unrhyw ystafelloedd gwely heb fod yn llawn, ond bydd eich rhent yn cael ei gapio ar gyfradd y Lwfans Tai Lleol ar gyfer eich aelwyd. Sylwer – ym mhob achos, dim ond un gostyngiad fyddwch chi’n ei gael.

Beth sydd angen i mi ei wneud rŵan? Os byddwch yn llofnodi tenantiaeth newydd, neu yn adnewyddu ar ôl 1 Ebrill 2016 (01 Ebrill 2017 i denantiaethau llety â chefnogaeth), bydd raid i chi feddwl a yw’r rhent y byddwch yn ei dalu yn y sector cymdeithasol yn uwch na’r hyn a ganiateir i denantiaid y sector rhent preifat. Yn benodol, os ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018, bydd angen i chi ystyried sut y byddwch yn gallu fforddio unrhyw ddiffyg yn eich rhent. Bydd y dolenni gwefan uchod yn eich helpu i weld a yw eich rhent yn uwch na’r cyfraddau Lwfans Tai Lleol ar gyfer eich ardal.

Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Haf 2016 5 clwyd_alyn_newsletter Summer 2016 Welsh to print.indd 5

23/06/2016 10:12


GWIRFODDOLI

GWIRFODDOLI I WELLA GWASANAETHAU CLWYD ALYN Yn rhifyn Nadolig 2015 o’r cylchlythyr hwn fe fuom yn sôn am gyfleoedd i Breswylwyr gyfrannu mwy at y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau i chi. Roeddem yn meddwl y byddech yn hoffi cael rhagor o wybodaeth am hyn. Mae arnom angen rhagor o wirfoddolwyr o blith y Preswylwyr o hyd, felly dyma i chi rai enghreifftiau o’r hyn y mae Preswylwyr yn ei wneud ar hyn o bryd:

Mae Partneriaid Ansawdd yn cynnwys Preswylwyr. Maent yn ymchwilio i wasanaethau a ddarperir gan y Gymdeithas a’r gwelliannau a argymhellir

Gwella Gwasanaethau trwy Clwyd Alyn i gyd. Fe allech chi ymuno ag un neu ragor o’n Paneli Gwasanaeth. Mae’r rhain yn cynnwys Fforwm Prydleswyr, Panel Gwasanaethau Cynnal a Chadw / Technegol, Rheoli Tai a Stadau, Rhenti a Gwasanaethau a Chyfathrebu.

Dewch yn aelod o’n Pwyllgor Gwella Gwasanaethau dan arweiniad Preswylwyr sy’n eistedd un gris dan y Bwrdd. Maent yn craffu, yn adolygu ac yn gwneud argymhellion o ran polisïau a gweithdrefnau.

Dewch yn gyfranddaliwr i’r Gymdeithas am £1. Bydd hyn yn rhoi hawl i chi bleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Gwnewch gais i ddod yn Aelod o’r Bwrdd. Byddwch yn defnyddio eich profiad fel un o gwsmeriaid y Gymdeithas i wneud penderfyniadau ar y lefel uchaf.

Dewch draw i’n Cynhadledd Preswylwyr i gyfarfod y Staff, Aelodau’r Bwrdd a chydbreswylwyr i drafod, yn fanwl, y problemau presennol sy’n effeithio ar fywydau a chymunedau pobl.

Mynd i gyfarfodydd ‘grwpiau ffocws’ unwaith ac am byth sy’n trafod pynciau amrywiol.

Sefydlu Cymdeithas Preswylwyr neu ymuno ag un sy’n bodoli lle gallwch chi weithio hefo ni i wella gwasanaethau, neu ymgyrchu dros welliannau i’ch cymuned.

Rydym am i chi deimlo yn gyfforddus fel gwirfoddolwr gyda’r lefel o gyfraniad y byddwch yn ei ddewis. Ond, ar ba bynnag lefel y bydd hynny, byddwch yn cael y gefnogaeth a’r hyfforddiant y gall fod arnoch eu hangen. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am hyn, cysylltwch â Gareth Hughes-Roberts, Swyddog Ymlyniad Cymunedol ar y ffôn ar 01745 536843 neu trwy e-bost at gareth.hughesroberts@clwydalyn.co.uk

Am wneud rhagor? Gallwch: •

Ymuno ag un o’n paneli bach neu grwpiau ‘tasg a gorffen’ unwaith ac am byth. Mae’r rhain yn golygu grŵp o Breswylwyr, yn edrych, er enghraifft, ar gynnal a chadw’r tiroedd a chwynion.

Ymunwch â’r Tîm Hwyluswyr Gwasanaeth Cwsmeriaid, gan weithio gyda Staff i wella arfer da.

Ymunwch ag un o’n Timau Gwella, sy’n cynnwys Preswylwyr a Staff. Mae’r Timau yma yn edrych ar wasanaethau amrywiol i’n holl Breswylwyr ac yn awgrymu gwelliannau. Mae eu cyfraniad yn rhan o Hunanasesiad blynyddol y Gymdeithas, sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru.

6 clwyd_alyn_newsletter Summer 2016 Welsh to print.indd 6

23/06/2016 10:12


CARTREFI NEWYDD

Gwaith yn dechrau ar gartrefi newydd fforddiadwy yn y Rhyl Mae’r gwaith wedi dechrau ar ddatblygu 20 o dai newydd fforddiadwy ar Stryd yr Abaty a Stryd Gronant, y Rhyl o gwmpas Gerddi Heulwen. Mae’r cartrefi newydd yn ddelfrydol ar gyfer cyplau a theuluoedd hefo dwy a thair ystafell wely a byddant yn cael eu hadeiladu i safon uchel ac mae ganddynt nodweddion amgylcheddol, gan gynnig manteision cartrefi effeithlon o ran ynni, gyda chostau rhedeg fforddiadwy. Nodweddion allweddol Gronant Street – 13 tai fforddiadwy i’w prynu dan gynllun deiliadaeth niwtral

Cartrefi i weddu i bob cyllideb

Gallwch gofrestru eich diddordeb yn yr eiddo newydd yma trwy gysylltu â ni ar

Effeithlon o ran ynni a chostau rhedeg fforddiadwy

0800 183 5757

Abbey Street – 7 tai fforddiadwy i’w rhentu dan gynllun deiliadaeth niwtral

Ystafell ymolchi: suite wen yn cynnwys toiled, basn ymolchi a baddon gydag atodiad cawod

Dyfyniad: Caru’r Rhyl

Cegin: unedau wedi eu gosod Ffenestri gwydr dwbl Llefydd parcio ar gael Gardd breifat

COFRESTRWCH EICH DIDDORDEB RŴAN!

I’w gwblhau erbyn Gwanwyn 2017

Tai Heulwen – Gronant Street Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Haf 2016 clwyd_alyn_newsletter Summer 2016 Welsh to print.indd 7

7

23/06/2016 10:12


DIGWYDDIADAU CYMUNEDOL

Mae’r gwanwyn wedi bod, mae’r haf wedi cyrraedd ac mae ein cymunedau wedi bod yn fywiog a phrysur!

Mae presw wedi bod ylwyr ym Mro diweddarayn cael y cyngor f.

GRE^ T! Y sêr ca sg gymerod lu sbwriel a d lanhau g ran mewn ymgy ym rc ardal Ge unedol o gwmp h as rddi Heu lwen yn Rhyl. y

iach hau’r awyr n y w m n y , ey ’. Plant o Saltn Natur a Lles d ia d d y w ig n ‘D a hwyl mew

CYSTADLEUAETH

ARDDIO

Brooke 5 oed o Gwr y Coed, Llangefni, enillydd ein cystadleuaeth liwio Nadolig, (categori 0-6 oed).

rw Groes yn Preswylwyr Ecynllun gyda’r garddio yn y redig gan G roddwyd yn ga

E lisha, enillydd 10 oed o Gwr (cat ego ein cystadleu t yr Ysgol, y F a ri 7-11 fl oed). eth liwio Nado int, lig, Sut mae pethau yn yr ardd? A oes gennych chi ddiddordeb mewn dangos eich gardd i’n panel o feirniaid? Gallwch ymgeisio fel gardd unigol neu gallwch ymgeisio fel cynllun neu stad yn y categori cynllun. Eleni rydym hefyd wedi ychwanegu adran basgedi crog/ potiau a chlwt llysiau/rhandir gorau (ond nid ydym yn beirniadu cynnyrch unigol ar eu pen eu hunain).

8 clwyd_alyn_newsletter Summer 2016 Welsh to print.indd 8

23/06/2016 10:12


Children from Saltney, enjoying fresh air and fun at a ‘Nature and Wellbeing event’.

lwyr ym M cael y cyn ro Trehinon gor arbed yn

ni

yn mwynhau r Erw Groes ’r hadau a y cynllun gydaGrow Wild. n garedig gan

eisio

rog/ n

Nghynllun g n y r y lw Preswy Y fnogaeth iau e h C â w By rac creu eu t n y l o d o f Dy unain. sain eu h

Pobl a fu’n ddigartref yn Sir y Fflint yn helpu eraill heb gartrefi, yn gwirfoddoli yn y Ganolfan ‘Share Aid’.

r Court, w a M t yr Nan ft! Preswylw dangos eu cref n Bwcle y

y rhagor am l n e ll r a d d h ae Os hoffec dol sy’n c e n u m y c dau digwyddia eu ddigwyddiadau ,n sylw yma i: ch eraill, ew lyn.co.uk/news yda www.clw

Bydd gwobr ariannol o £40 i’r enillydd ym mhob categori, ail wobr o £20 a £10 am ddod yn drydydd. Hefyd rydym yn annog pobl i anfon eu lluniau eu hunain i mewn, rhai digidol os yn bosibl, fel eich bod yn medru gwneud yn siŵr eich bod yn medru dangos eich ymgais ar ei gorau. Felly, y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw anfon eich llun digidol trwy e-bost at: gareth.hughesroberts@clwydalyn.co.uk

Cynllun Byw â Chefnogaeth Greenbank Villas yn tacluso Garden City - ac am wahaniaeth a wnaed!

DA ! N W A I

cyn gynted ag y gallwch, ond gyda dyddiad cau o 26 Awst 2016, gan roi gwybod i ni pa gategori’r ydych am ymgeisio ynddi. Os nad ydych yn medru anfon eich llun i mewn eich hun, peidiwch â phoeni. Gallwch gysylltu â Gareth Hughes-Roberts ar: 01745 536843 a byddwn yn trefnu bod llun eich ymgais yn cael ei dynnu.

Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Haf 2016 9 clwyd_alyn_newsletter Summer 2016 Welsh to print.indd 9

23/06/2016 10:12


PENCARTREF

PenCartref Cyngor, Addasiadau a Gwaith Trwsio Rydym yn rhoi cyngor a help ymarferol i bobl hŷn am waith trwsio, gwelliannau neu addasiadau i’w cartrefi. Gwasanaethau ar gael i breswylwyr sy’n byw yn Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Phowys. Gallwn helpu gyda swyddi fel: Peintio ac addurno Gwaith coed* Plymio* *Ddim yn cynnwys gwaith nad yw’n cael ei gynnwys yng nghyllideb cynnal a chadw o ddydd i ddydd Clwyd Alyn.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’n cwsmeriaid i ddarparu prosiectau o safon yn ddiogel, yn gystadleuol ac mewn pryd. Mae gennym arbenigedd eang ac mae ein holl weithwyr yn grefftus ac yn weithwyr proffesiynol cymwys iawn.

Am ragor o wybodaeth neu i drefnu apwyntiad, ffoniwch ni ar: 01978 714180 www.pencartref.co.uk

Gwybodaeth Bwysig am Fylbiau Golau Gofynnodd PenAlyn i ni egluro pwy sy’n gyfrifol am newid bylbiau golau yng nghartrefi preswylwyr. Y rheol gyffredinol yw nad yw PenAlyn yn gyfrifol am newid bylbiau golau, hyd yn oed pan fydd y rhain mewn unedau wedi eu selio. Bydd angen i breswylwyr brynu a gosod bylbiau newydd eu hunain, gan gynnwys dadsgriwio’r uned wedi’i selio i gychwyn, pan fydd yno. Dim ond am newid bylbiau mewn ardaloedd cymunedol y mae PenAlyn yn gyfrifol. Mewn cynlluniau Cysgodol/Dan reolaeth Warden, dim ond newid bylbiau mewn unedau wedi’u selio neu sy’n amhosibl eu cyrraedd y bydd Pen Alyn, er enghraifft cynlluniau gyda nenfydau uchel iawn. Os ydych chi’n byw mewn cynllun Gofal Ychwanegol, mae PenAlyn yn gallu newid unrhyw fylbiau. Mae’r un cyngor yn wir os byddwch yn un o’r cynlluniau Byw â Chefnogaeth. 10 clwyd_alyn_newsletter Summer 2016 Welsh to print.indd 10

23/06/2016 10:12


EICH CYFRIF

Mae llu o ffyrdd gwahanol i chi weled eich cyfrif erbyn hyn! Gallwch yn awr wirio eich rhent, gofnodi gwaith trwsio, roi adroddiad am ymddygiad gwrthgymdeithasol a llawer mwy ar y porth preswylwyr ac yn fuan byddwch yn gallu gweld hyn trwy ap newydd Clwyd Alyn!

Ap Newydd Clwyd Alyn ar y ffordd yn fuan! Byddwch yn gallu defnyddio eich ffôn i gael mynediad at ap Clwyd Alyn yn fuan. Gyda’r ap byddwch yn gallu talu, gweld gwaith trwsio a rhoi adroddiad am broblemau a chyflwyno ceisiadau. Gallwch weld y rhent dyledus yn gyflym, gan ei gwneud yn hawdd iawn i chi gadw golwg ar eich arian ac os byddwch am roi adroddiad am ymddygiad gwrthgymdeithasol gallwch wneud hynny hefyd. Byddwch yn gallu lawrlwytho’r ap cwsmeriaid newydd trwy Google Play a’r App Store, gan ei gwneud yn hawdd iawn i chi ddefnyddio ein gwasanaethau pan fyddwch oddi cartref.

Y Porth Preswylwyr Peidiwch ag anghofio cofrestru ar y Porth Preswylwyr, ffordd arall o gael mynediad at fanylion eich cyfrif 24 awr y dydd! Bydd arnoch angen rhif cyfeirio’r denantiaeth a rhif unigryw i gofrestru. Os nad yw’r manylion yma gennych, cysylltwch â ni ar 0800 183 5757. Os nad ydych yn hyderus ar y cyfrifiadur/Rhyngrwyd a bod arnoch angen help i gofrestru ar y Porth, neu os ydych yn cael unrhyw anawsterau, anfonwch e-bost at: enquiries@clwydalyn.co.uk. Cofiwch fod llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar y wefan i chi ei defnyddio, gan gynnwys: Cartrefi sy’n cael eu datblygu Y llawlyfrau, cylchlythyrau ac adroddiadau diweddaraf Cynnal a chadw a gynlluniwyd Cyngor ar arian a dyledion Y newyddion diweddaraf

Wyddech chi fod gennym dros 1,200 o ddilynwyr ar Twitter?

Wyddech chi bod gennym fwy na 360 wedi ein hoffi ar Facebook?

Sut i gymryd rhan

Ewch i www.clwydalyn.co.uk i gael popeth sydd arnoch ei angen! Cylchlythyr Preswylwyr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Haf 2016 11 clwyd_alyn_newsletter Summer 2016 Welsh to print.indd 11

23/06/2016 10:12


Cystadleuaeth! Llenwch y grid chwilio, chwilio am y gwahaniaeth ac ateb y cwestiynau, eu torri allan a’u postio atom, gyda’chenw a chyfeiriad llawn, i roi mewn raffl i ennill taleb siopa £25. Dewisir tri enillydd. Anfonwch eich ymdrechion trwy’r post at: Gareth Hughes-Roberts, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn 72 Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 OJD Rhaid i’r holl ymdrechion fod i mewn erbyn dydd Gwener 2il Medi.

Cwis

Chwilair C N C I P S C S T P G

W Y L U A B R A R C W

C O M P R W O E A Y I

A E M U W R P FF W S R

G W I S N I I E I T F

N U S A T E A N A A O

I R H R O L D E D D DD

O O A D I G I D O L O

R S F I A T DD B L U L

D A I G Y L B T A D I

G W A N W Y N I FF A C

Y GEIRIAU I’W CANFOD YW:

CYMUNED TAI DATBLYGIAD HAF SBWRIEL

DIGIDOL CAFFI GWIRFODDOLI GWANWYN CYSTADLU

Gweld y Gwahaniaeth

Atebwch y cwestiynau canlynol (fe welwch yr atebion yn y cylchlythyr) a’u hanfon gyda’ch enw a’ch cyfeiriad er mwyn cael cyfle i ennill y raffl. 1. Faint o gartrefi newydd fydd ar gael ar Stryd yr Abaty a Stryd Gronant? 2. Faint mae te prynhawn yn ei gostio, yr un yng Nghaffi’r Hen Lys? 3. Pa 3 gwasanaeth y mae PenCartref yn ei gynnig, Cyngor, Addasiadau a ………? 1 ………………............................................................. 2 ………………............................................................. 3 ……………….............................................................

Mae pum gwahaniaeth – allwch chi eu gweld? Rhowch gylch am y pum gwahaniaeth ar yr ail lun.

Enw …………………………………………………......................

Cyfeiriad ……………………………………………….…..........

…………………………………………………....................................................

...................................................................................

E-bost …………………………………………………....................

Ffôn/Ffôn Symudol..........…………………………………....

clwyd_alyn_newsletter Summer 2016 Welsh to print.indd 12

23/06/2016 10:12


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.