Gwirfoddolwch Hefo Ni!
Volunteer With Us!
A ydych yn un o denantiaid Clwyd Alyn?
Are you a Clwyd Alyn Tenant?
Mae gennym gyfle gwych i chi gymryd rhan a’n helpu ni i helpu ein Tenantiaid. Rydym yn chwilio am Wirfoddolwyr a fyddai’n hoffi bod yn rhan o’n Hadran Gwasanaethau Cwsmeriaid i weithio yn ein Prif Swyddfa.
We have a fantastic opportunity for you to get involved and help us help our Tenants. We are looking for Volunteers who would like to be a part of our Customer Service Department to work in our Head Office.
Dyma’r hyn y bydd arnoch angen ei wybod: Byddwch yn chwilio am adborth gan ein tenantiaid ac yn rhan allweddol o’r hyn yr ydym yn ymdrechu i’w gynnig.
Here’s what you need to know: You will be seeking feedback from our tenants and playing a vital part of what we are striving to deliver.
Bydd yr unigolion fydd yn cyflawni’r rôl hon yn cysylltu â’n Tenantiaid o un i un dros y ffôn gan ofyn cwestiynau am eu bodlonrwydd ar waith trwsio.
The individuals fulfilling this role will be contacting our Tenants on a one to one basis over the phone asking questions about the satisfaction regarding their repair.
Byddwch yn ymuno â thîm sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau ein Tenantiaid ac i bobl ein cymunedau.
You will be joining a team that makes a difference to our Tenants lives and to the people of our communities.
Byddwch yn cael cyfle i weld beth allwn ni ei wneud a chlywed sut yr ydym yn gweithio. Os gallwch chi roi’r amser a’r ymrwymiad angenrheidiol i gasglu’r wybodaeth werthfawr yma a allai yrru’r Gymdeithas yn ei blaen i wella ein gwasanaethau byddem yn hoffi clywed gennych.
You will be given an opportunity to see what we do and to hear of how we work.
Os gallwch chi roi 1 awr, 3 awr neu ddiwrnod cyfan byddem yn hoffi clywed gennych. Os byddwch yn penderfynu eich bod am wirfoddoli, cysylltwch â Ceri Hughes ar 01745 536107 neu anfonwch e-bost at ceri.hughes@penalyn.co.uk Bydd yr holl wirfoddolwyr yn cael eu had-dalu am eu costau teithio.
If you are able to make the time and commitment needed to collate this valuable information which could drive the Association forward to improve our services we would like to hear from you. If you can give 1 hour, 3 hours or whole day we would like to hear from you. If you decide that volunteering is for you please get in touch with Ceri Hughes on 01745 536107 or e-mail ceri.hughes@penalyn.co.uk All volunteers will be reimbursed of travel expense.